<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:37, 18 Hydref 2016

Rwy’n galw yn awr am gwestiynau gan arweinwyr y pleidiau i’r Prif Weinidog, ac, yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, Cymru sydd â'r nifer isaf o feddygon teulu fesul pob 1,000 o gleifion mewn unrhyw ran o'r DU—a'r nifer oedd 0.6 o feddygon teulu i bob 1,000 yn 2014. Bydd yn gwybod hefyd nad yw lleoedd hyfforddi yn cael eu llenwi ar hyn o bryd, bod nifer gynyddol o feddygon teulu yn ymddeol yn gynnar, a bod argyfwng cynyddol o ran recriwtio a chadw staff. A all ef ddweud wrth y Cynulliad pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth, gydag amserlen bendant, i hyfforddi cyfran fwy o feddygon y DU yng Nghymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw'n realistig meddwl y byddwn ni’n gallu hyfforddi pob meddyg sy'n ymarfer yng Nghymru. Meddygon a hyfforddwyd mewn mannau eraill yn yr UE yw pump y cant o'n staff meddygol; mae nifer sylweddol yn feddygon a hyfforddwyd yn rhywle arall. Mae hynny'n wir am bob gwasanaeth iechyd, ym mhobman yn y byd datblygedig. Wedi dweud hynny, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n hyfforddi mwy o feddygon—mae cymaint â hynny’n wir. Nid wyf yn derbyn yr hyn y mae’n ei ddweud, bod argyfwng o ran recriwtio meddygon teulu; mae heriau, mae hynny'n gywir, ond nid yw’r heriau hynny wedi’u cyfyngu i Gymru. Gofynnodd beth yr ydym ni’n ei wneud am y peth. Ar 20 Hydref, byddwn, wrth gwrs, yn lansio ein hymgyrch recriwtio meddygon teulu er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n denu mwy o fyfyrwyr ac, yn wir, ymarferwyr i Gymru.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Wel, diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Fel y bydd yn gwybod, er 2004, mae canran cyllid y GIG yng Nghymru a wariwyd ar feddygon teulu wedi gostwng o fwy na 10 y cant i ychydig dros 7.5 y cant. Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfraddau ymgynghori wedi cynyddu mwy nag 20 y cant, felly mae meddygon teulu o dan fwy o bwysau yn eu gwaith beunyddiol. A yw'n cytuno â mi mai’r model contractwyr annibynnol ar gyfer meddygon teulu yw'r un sy'n cynnig y gwerth gorau am arian i'r GIG yn gyffredinol? Ac a yw'n sylweddoli, ar gyfer pob hanner awr o gyswllt y mae meddygon teulu yn ei gael â chleifion, bod ganddyn nhw hanner awr arall mewn gwaith sy'n canolbwyntio ar y claf, a hanner awr arall eto ar ben hynny ar gyfer gweinyddu, a, phe byddent yn gwneud hynny fel unigolion cyflogedig—wedi’u cyflogi gan fyrddau iechyd lleol—byddai’n debygol y byddem yn cael llai o werth o bob ceiniog yr ydym ni’n ei gwario?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, ceir dau bwynt yn y fan yna. Yn gyntaf oll, mae mwy o feddygon teulu nawr nag yr oedd ddegawd yn ôl—mae'n werth pwysleisio hynny. A, hefyd, dylem fod yn wyliadwrus o gyfeirio pobl yn gyson neu wthio pobl i gyfeiriad meddygon teulu yn gyson. Ein nod, trwy ein hymgyrch Dewis Doeth, yw cynghori pobl, ar gyfer llawer o gyflyrau, y dylen nhw fynd at fferyllydd yn gyntaf, nyrs practis yn gyntaf, yn hytrach na mynd yn syth at feddyg teulu, yn ddiofyn, a chynyddu llwyth gwaith y meddyg teulu hwnnw. Mater i feddygon teulu yw’r ffordd y maen nhw’n trefnu eu hunain. Mae'n wir, fodd bynnag, bod mwy a mwy o feddygon teulu sydd newydd gymhwyso nad ydynt yn cael eu denu gan y model contractwr annibynnol. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y dewis o ba un a ydyn nhw eisiau bod yn feddygon teulu cyflogedig neu’n gontractwyr annibynnol. Mater i'r proffesiwn yw sut y mae'n trefnu ei hun, ond nid wyf i o'r farn mai’r model contractwr annibynnol o reidrwydd yw’r unig fodel y gellir ei ddilyn yn y dyfodol. Bydd y model yn amrywio yn ôl dymuniadau’r rhai sy'n darparu'r gwasanaeth.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:40, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno â rhywfaint o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, ond hoffwn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed eisoes gan holwyr eraill heddiw o ran y Bil awtistiaeth. A yw'n deall y dicter eang ac, yn wir, annealltwriaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol bod ACau Llafur wedi cael eu chwipio yr wythnos diwethaf i bleidleisio yn erbyn y cynnig ar gyfer Bil awtistiaeth, nad oedd yn gynnig deddfwriaethol ynddo'i hun mewn gwirionedd, ond yn fynegiant o farn y Cynulliad hwn ar fater sy'n mynd at galon dioddefaint degau a degau o filoedd o bobl yng Nghymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Gofynnwyd y cwestiwn hwn i mi gan aelodau o'r cyhoedd yn Hwlffordd ddydd Iau, ac rwy’n deall eu safbwynt. Rwy’n deall y pwysau mawr y mae awtistiaeth yn ei roi ar deuluoedd. Rwyf wedi ymdrin ag awtistiaeth trwy waith achos dros lawer iawn o flynyddoedd ac wedi gweld rhai achosion anodd iawn yn wir. Yr hyn a ofynnais iddyn nhw, fodd bynnag, oedd beth fyddai cyfraith yn ei gyflawni iddyn nhw, ac nid oeddent yn eglur ynghylch hynny. Efallai ei fod yn gwestiwn annheg i’w ofyn i aelodau o'r cyhoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni’n gweithio gyda'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol er mwyn nodi gyda nhw pa agweddau ar y Bil drafft y gellir eu cyflwyno mewn ffyrdd eraill. Pam aros blynyddoedd am Fil os oes ffyrdd gwell o ddarparu gwasanaeth gwell nawr. O'n safbwynt ni, deddf yw'r hyn sydd ei angen pan ddangoswyd nad yw pob dull arall o gyflwyno gwasanaeth yn effeithiol. Felly, bydd y Gweinidog yn gweithio gyda'r gymdeithas er mwyn gwneud yn siŵr y gallwn ni gyflawni'r hyn a allwn gyda'r hyn sydd gennym ni eisoes a hefyd archwilio a oes angen deddfwriaeth yn y dyfodol.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae pedwar o gynigwyr wedi mynegi diddordeb mewn rhedeg masnachfraint Cymru a'r gororau a'r system fetro gysylltiedig. Un maes y mae angen craffu arno ymhellach yw'r map masnachfraint neu’r llwybrau gwirioneddol a fydd yn cael eu gweithredu. Rydym ni’n gwybod bod Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU eisiau cael gwared ar lwybrau penodol o'r fasnachfraint ac yn arbennig y llwybrau hynny sy'n gwasanaethu cyrchfannau yn Lloegr. Mae eich Ysgrifennydd y Cabinet chi wedi nodi bod Llywodraeth y DU eisiau i’r map aros yr un fath mwy neu lai. A yw'r pedwar cynigydd yn gwybod pa lwybrau y maen nhw’n gwneud cais amdanynt ac a allwch chi ddweud wrthym ni pryd y bydd teithwyr ledled Cymru yn cael gweld y map masnachfraint nesaf?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae nifer o faterion sy'n codi o ganlyniad i’r fasnachfraint. Yn gyntaf oll, ar hyn yn bryd, mae Llywodraeth Cymru, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, yn cael ei hatal rhag rhedeg masnachfraint a chael y fasnachfraint honno wedi ei rhedeg gan gorff cyhoeddus neu asiantaeth gyhoeddus am resymau nad ydynt yn ddealladwy yn rhesymegol, ond dyna mae'r Bil Cymru presennol yn ei ddweud mewn gwirionedd. Rydym ni wedi gwneud sylwadau cryf i Lywodraeth y DU yn dweud os yw'n iawn i’r Alban, yna mae hefyd yn iawn i Gymru. Cyn belled ag y mae’r fasnachfraint yn y cwestiwn o ran y cyrchfannau, ein barn ni yw y dylai'r map masnachfraint aros fel ag y mae. Fel arall, wrth gwrs, ni fydd unrhyw wasanaeth rhwng Merthyr Tudful a rheilffordd dyffryn Conwy sy'n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru neu drwy fasnachfraint Cymru. Bydd pob gwasanaeth ar hyd prif reilffordd y gogledd yn cael ei redeg o Loegr, ond ni fyddai rheilffordd Dyffryn Conwy. Bydd rheilffordd canolbarth Cymru—rheilffordd Calon Cymru—a rheilffordd arfordir y Cambrian i gyd yn cael eu rhedeg y tu allan i fasnachfraint Cymru. Mae honno'n sefyllfa hurt, i fod yn blaen, ac yn rhywbeth yr ydym ni’n parhau i’w ddweud wrth Lywodraeth y DU yn yr union eiriau hynny.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:43, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae adnewyddu’r fasnachfraint yn rhoi cyfle i ni roi sylw i'r mater o gapasiti, ac mae problem sylweddol gyda chapasiti ar reilffyrdd y Cymoedd. Fel y byddwch yn gwybod, mae cymudwyr yn wynebu problemau gorlenwi ac oedi bob dydd. Mae amlder yn broblem hefyd. Ar reilffordd Treherbert, er enghraifft—un yr wyf yn arbennig o gyfarwydd â hi—dim ond dau bwynt pasio sydd ar y rheilffordd honno, ac mae angen i ni fynd o reilffordd sengl i reilffordd ddeuol. Caiff rheilffordd Treherbert ei chrybwyll yn y gyllideb heddiw. A allwch chi ddweud mwy am y rheilffordd honno ac, yn benodol, a allwch chi ddweud wrthym pryd y gallwn ni ddisgwyl gweld cynllun ar gyfer ailddeuoli rheilffordd Treherbert os gwelwch yn dda?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae'n hollol iawn ein bod ni eisiau gweld gwell amlder gan y gwasanaethau, gwell ansawdd o gerbydau ar holl reilffyrdd y Cymoedd—nid oes yr un o’r meini prawf hynny yn cael eu bodloni ar hyn o bryd—a signalau priodol, wrth gwrs, ar y rheilffyrdd i wneud yn siŵr y gall mwy o drenau redeg ar hyd y rheilffyrdd hynny a mwy o ddolenni pasio o bosib. Mae'r cwestiwn ynghylch pa un a ddylai'r rheilffordd gyfan gael ei hailddeuoli ac a fyddai hynny’n ychwanegu unrhyw beth y tu hwnt i welliannau llai na hynny yn gwestiwn agored. Yr un peth y gallaf ei ddweud wrth arweinydd Plaid Cymru yw ein bod ni’n gwbl ymrwymedig, drwy'r system fetro, i ddarparu amlder gwell a threnau gwell i bobl y Rhondda Fawr ar holl reilffyrdd y Cymoedd.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:45, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n croesawu'r datganiad yna, Brif Weinidog, oherwydd pan ddyfarnwyd y fasnachfraint ddiwethaf, nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer twf i nifer y teithwyr, ac nid oedd unrhyw gapasiti o fewn y fasnachfraint honno i gynyddu'r stoc cerbydau. Felly, tybed a allech chi esbonio i ni sut y byddwch chi’n sicrhau bod y pwynt hwnnw yn cael sylw yn y fasnachfraint nesaf. Mae pobl sy'n teithio ar reilffyrdd y Cymoedd hynny wedi cael llond bol ar deithio ar gerbydau ail law degawdau oed. Ceir trenau rhagorol pan fyddwch chi’n teithio mewn mannau eraill. Ydych chi'n meddwl bod teithwyr trên yng Nghymru yn haeddu'r gwasanaeth y mae'n rhaid i ni ei ddioddef ar hyn o bryd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Nac ydw, dylai fod yn llawer gwell. Rydym ni wedi gweld rhai gwelliannau o amgylch Heol y Frenhines a'r pwyntiau mynediad i mewn i orsaf Heol y Frenhines, ond rwy’n gwybod yn iawn bod ansawdd y trenau’n wael. Nid oes aerdymheru arnynt, nid ydyn nhw’n drenau braf i deithio arnynt, nid yw’r amlder yn dda, nid yw’r capasiti’n dda, ac yn aml mae’n rhaid i bobl ddioddef gorlenwi i'r graddau lle mae’n rhaid i rai trenau basio trwy rai gorsafoedd er mwyn osgoi’r gorlenwi. Bydd y rhain yn cael sylw o ganlyniad i'r trafodaethau masnachfraint. Bydd y fasnachfraint yn trosglwyddo yn ystod yr hydref y flwyddyn nesaf, ond rydym ni’n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr bod capasiti gwell, trenau gwell ac amlder gwell ar holl wasanaethau rheilffyrdd y Cymoedd. Mae'n rhan annatod ​​o'r metro i wneud yn siŵr bod pobl yn mwynhau gwasanaeth llawer gwell nag y maen nhw’n ei fwynhau ar hyn o bryd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:46, 18 Hydref 2016

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddwyd adroddiad yr wythnos diwethaf yn tynnu sylw at y gost ychwanegol y gallai eich polisi gofal plant ei gostio yn y pen draw o bosibl i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd y Cynulliad pum mlynedd—diffyg posibl o tua £120 miliwn dros yr hyn a gostiwyd gennych ar gyfer eich maniffesto. A ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, ac os ydych chi’n cydnabod y ffigurau yn yr adroddiad hwnnw, sut ydych chi’n gwneud y paratoadau i allu bodloni’r galw cynyddol hwnnw? Rydym ni i gyd yn cydnabod bod gofal plant yn rhan bwysig o'r cydbwysedd y mae llawer o deuluoedd yn ei wynebu o ddydd i ddydd.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:47, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Roedd rhai rhagdybiaethau yn yr adroddiad hwnnw ynghylch sut y byddem ni’n gweithredu'r polisi gofal plant, ond roedd y ffigurau a gyhoeddwyd gennym yn seiliedig ar ddarparu gofal plant i’r rhai a oedd yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy, ac roeddent yn ffigurau a ddarparwyd i ni gan arolwg annibynnol, ac nid gennym ni ein hunain—gan gorff annibynnol.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cymryd o’ch ateb eich bod yn derbyn bod potensial ar gyfer y gorwariant enfawr hwn, yn enwedig os bydd y cynllun, gobeithio, yn llwyddiant ysgubol, er tegwch, Brif Weinidog, oherwydd fel y dywedais, cydnabuwyd gan bob plaid bod gofal plant yn fater enfawr wrth fynd i mewn i'r etholiad. Eich cynnig chi yw’r cynnig a fydd yn cael ei weithredu gan mai chi sydd mewn Llywodraeth, a cheir y gorwariant posibl hwn o £110 miliwn. Nid yw hynny'n arian mân o ran y cyllid sydd gennych chi ar gael fel Llywodraeth. Pa baratoadau ydych chi'n eu gwneud i sicrhau bod adnoddau ar gael fel y gall y cynllun gael ei weithredu ac y gellir gwireddu ei gapasiti a’i botensial llawn ar ddiwedd y Cynulliad hwn?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Nid ydym yn derbyn bod y ffigurau hynny’n gywir. Rydym ni’n hyderus yn y ffigurau sydd gennym ni; credwn eu bod yn gadarn. Roedden nhw’n ffigurau a roddwyd i ni o ganlyniad i'r gwaith a gomisiynwyd gennym, ac rydym ni’n credu bod y ffigurau hynny’n gywir o ran yr arian y bydd ei angen i weithredu'r polisi.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Felly, rydych chi yn derbyn, felly, nad yw'r ffigurau hynny’n gywir ac mai eich ffigurau chi o £90 miliwn yw costau’r cynllun hwnnw. Ond, os edrychwch chi ar eich ymrwymiadau ehangach yn ystod pum mis cyntaf y Cynulliad hwn, mae gennych chi’r gefnogaeth i’r llwybr du, sef y dewis lliniaru drytaf ar gyfer yr M4, mae gennych chi’r premiwm disgyblion a gytunwyd gyda'r Ysgrifennydd addysg, ac mae gennych chi’r potensial o orwariant yn eich polisi gofal plant. Rydym ni’n gwybod o'r adroddiad yr wythnos diwethaf bod diffyg yn datblygu yng nghyllid y GIG a allai ddod i gyfanswm o £700 miliwn. Er tegwch i chi, pan oeddech chi’n ymgyrchu, dywedasoch y byddai’n rhaid cael toriad ar gyfer pob ymrwymiad. Ble fydd y toriadau’n digwydd yn eich rhaglen i gyflawni'r ymrwymiadau hynny yr wyf i newydd eu hamlinellu?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd hynny'n dod yn amlwg yn ystod y datganiad ar y gyllideb ddrafft. O ran ffordd liniaru'r M4, bydd honno, wrth gwrs, yn cael ei hariannu trwy fenthyg ac nid trwy ein cyllidebau cyfalaf ein hunain. Rydym ni’n fwy na bodlon ar y ffigurau a ddarparwyd gennym yn ôl ym mis Mai ac y byddant yn ein helpu i gyflawni'r addewidion maniffesto a wnaethom. Yn wir, dyna'n union yr hyn a wnaethom yn 2011—fe wnaethom gadw ein haddewidion bryd hynny a byddwn yn cadw’r addewidion hynny yn 2016.