– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 18 Hydref 2016.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar ddyfodol gwasanaethau bysus yng Nghymru, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Ar 20 Medi, cyhoeddodd y Prif Weinidog ein rhaglen lywodraethu ar gyfer y pum mlynedd nesaf, gan roi ein hymrwymiad i barhau i adeiladu cymdeithas unedig a chysylltiedig. Er mwyn helpu i wireddu'r uchelgais hwn, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno system drafnidiaeth integredig amlfoddol ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys metro y de a’r gogledd, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer systemau integredig ar draws Cymru. Bydd cyflwyno rhwydwaith mwy effeithiol o wasanaethau bws yn sylfaenol i'n huchelgais. Gwasanaethau bysus rheolaidd lleol yw sylfaen ein system trafnidiaeth gyhoeddus, a bydd hynny’n parhau.
Mae'n ffaith bod mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus cyhoeddus fel dewis amgen i'r cerbyd modur preifat fel dull teithio dyddiol i'r gwaith ac ar gyfer hamdden. Ac er ein bod wedi gweld tuedd ar i lawr yn nifer y teithiau gan deithwyr ar wasanaethau bws lleol dros y degawd diwethaf, mae bysus yn parhau i gyfrif am fwy na 101 miliwn o deithiau bob blwyddyn. Mae hyn yn fwy o lawer na nifer y siwrneiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, rydym wedi ymrwymo’n llwyr yn y tymor hir i ddarparu rhwydwaith bysus mwy effeithiol, yn ogystal ag ymrwymo i gefnogi'r diwydiant bysus yn y tymor byr.
Y mis diwethaf, cyhoeddais gynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysus yng Nghymru. Heddiw, rwyf am roi cyfle i'r Aelodau drafod y cynllun ac ystyried sut y gallem ddatblygu gwasanaethau bws lleol yn rhan o'r system drafnidiaeth gyhoeddus integredig sy'n addas ar gyfer Cymru fodern a chysylltiedig. Fel nifer o Aelodau yn y Siambr hon, rwyf wedi cael fy synnu a fy nhristáu gan dranc diweddar a sydyn dri chwmni bysus lleol oedd yn gwasanaethu rhai o'n cymunedau mwy gwledig, nid yn unig oherwydd yr effaith y mae hyn wedi’i chael ar y bobl sy'n gweithio i’r cwmnïau bysus, ond yr effaith ar y bobl sy'n byw yn y cymunedau a wasanaethir ganddynt. Mae colli’r gwasanaethau hanfodol hyn, a oedd yn galluogi pobl i fynd i'r gwaith, i fynd i apwyntiadau ysbyty ac i gael eu haddysg, yn dangos yn glir pa mor fregus y mae ein rhwydwaith bysus mewn gwirionedd.
Dan y cynllun pum pwynt a gyhoeddais y mis diwethaf, byddaf yn cynnig cymorth proffesiynol ymroddedig i bob cwmni bysus yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Chyllid Cymru, a byddaf yn galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu eu cyllid ar gyfer gwasanaethau bysus yn yr hinsawdd economaidd heriol bresennol. Mae timau o ymgynghorwyr busnes a staff cymwysedig iawn gan gwmnïau bysus mwy o faint, ond gall nifer o’r cwmnïau llai o faint fod yn fusnesau teuluol sy'n cael eu rhedeg heb y manteision hynny. Rwyf am sicrhau bod y cwmnïau bysus llai yn cael y cyngor a'r cymorth a fydd yn eu helpu i ddod yn fusnesau gwell a chryfach. Byddwn yn mynd ati i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi, cyn gynted ag y bo modd, y gwasanaethau bysus sydd o bosibl mewn sefyllfa fregus. Lle bydd y rhain yn cael eu nodi, byddwn yn rhoi strategaeth leol ar waith i ymateb i unrhyw gynlluniau i ddileu gwasanaethau a ystyrir yn hanfodol i gynaliadwyedd a lles y gymuned leol.
Byddaf yn cwrdd ag arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ynghyd â chyfarwyddwyr rheoli eu cwmnïau bysus trefol, i gasglu gwybodaeth am sut y gellir gweithredu rhwydweithiau bysus cynaliadwy, gan gynnal y difidend cymdeithasol, drwy fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau. Byddaf hefyd yn gweithio gyda’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i gyfuno nodweddion gorau'r sector masnachol preifat â chyfrifoldeb cymdeithasol y gweithredwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwyf wedi cytuno i ariannu'r swyddi cydlynwyr bysus newydd, un yn y gogledd ac un yn y de, er mwyn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau polisi a buddsoddiad i ddatblygu'r model partneriaeth ansawdd bysus statudol. Rwy’n awyddus i weld mwy o gytundebau ffurfiol rhwng awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus, o ddewis drwy'r cynlluniau partneriaeth ansawdd bysus statudol hyn.
Yn olaf, fel rhan o'r cynllun hwn, rwyf wedi cytuno i gynnal uwchgynhadledd ar wasanaethau bysus yn gynnar yn 2017. Bydd yr uwchgynhadledd yn dod ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysus, grwpiau sy'n cynrychioli teithwyr a phobl anabl ynghyd â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol a phartneriaid eraill at ei gilydd i ystyried y ffordd orau o gyflwyno gwasanaethau bws sy'n hyfyw yn ariannol ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd angen y cynllun gweithredu er mwyn ymdrin â'r bygythiadau go iawn i’n gwasanaethau bysus lleol yn y tymor byr, a bydd yr uwchgynhadledd hon yn gyfle i ganolbwyntio ar y dyfodol, yn hytrach na’r gorffennol. Rwy’n argyhoeddedig bod gwir angen dull cydweithredol a chreadigol o sicrhau rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n gwasanaethu cymunedau ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Gyda'n gilydd, mae angen inni ddiffinio'r hyn yr ydym yn dymuno i'n gwasanaethau bysus ei gyflawni fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig, ac yna ddylunio fframwaith a all ddarparu’r gwasanaethau hyn o safon uchel. Felly, ni allai amseriad yr uwchgynhadledd fod yn well, gan ei bod yn dod ar adeg pan fydd y setliad datganoledig gwell a gynigir drwy Fil Cymru yn dod i rym. Bydd y setliad newydd yn ein galluogi ni i roi fframwaith ar waith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn gallu darparu’r gwelliant o ran ansawdd, rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb y mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn dymuno ei weld.
Mae cyhoeddi'r safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru ym mis Mawrth eleni yn fan cychwyn da. Maent yn nodi’n glir, am y tro cyntaf, y safonau ansawdd yr ydym yn dymuno eu gweld ar waith o ran y gwasanaethau bysus lleol. Mae'n bwysig y gall teithwyr fod yn hyderus y bydd ansawdd y gwasanaethau bysus lleol yn gymwys yn gyffredinol i wasanaethau bysus rheolaidd lleol ar draws Cymru gyfan. Ni ddylai ansawdd y gwasanaeth a ddarperir yn rhannau mwy gwledig Cymru fod yn llai ffafriol na'r rhai a ddarperir o fewn y metro neu’r ardaloedd mwy trefol.
Rwyf hefyd yn croesawu cynigion yr Adran Drafnidiaeth, fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Bws, i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i'w gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysus ledled Prydain Fawr ddarparu gwybodaeth hygyrch ar gerbydau i deithwyr anabl. Ers 2013, rydym wedi rhoi cefnogaeth i gyflwyno systemau clyweledol i gyhoeddi’r stop nesaf ar fysus i wneud y gwasanaethau bysus yn fwy hygyrch i’r deillion a phobl rhannol ddall. Rydym wedi annog gweithredwyr bysus i osod y systemau hyn ar eu cerbydau fel rhan o safonau ansawdd bysus Cymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr gweinidogol yn Lloegr a'r Alban i sicrhau bod gwybodaeth o ansawdd ar gael i deithwyr yn gyffredinol ar draws Prydain Fawr. Drwy gyflwyno’r systemau hyn, ynghyd â gwella ansawdd y gwasanaethau, megis datblygiad parhaus gwasanaeth bws TrawsCymru, sy’n darparu gwell cysylltedd teithiau pellter hir lle mae’r gwasanaethau rheilffordd yn brin neu ddim yn bodoli o gwbl, mae modd gwyrdroi’r dirywiad mewn nawddogaeth gwasanaethau bysus, gan gynnig dewis arall go iawn i bobl ddiwallu eu hanghenion cludiant.
Felly, wrth edrych i'r dyfodol, rhaid inni fod yn realistig. Efallai na fydd darparu gwasanaethau bysus lleol rheolaidd sydd yn ariannol hyfyw ac yn gynaliadwy yn y tymor hwy i bob cymuned yng Nghymru yn realistig, yn gyraeddadwy neu'n fforddiadwy. Ond nid wyf yn barod i adael cymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur preifat. Nid yw hynny'n dderbyniol. Felly, yn yr uwchgynhadledd, byddaf yn galw ar ein partneriaid, y diwydiant bysus a'n partneriaid awdurdod lleol, i ystyried atebion i ddiwallu anghenion cludiant ein holl gymunedau. Mae angen cael system drafnidiaeth a thocynnau integredig sy'n cynnwys cymysgedd o wasanaethau cludiant o ansawdd sy'n ymateb i'r galw ac yn cydgysylltu’n llawer mwy effeithiol â gwasanaethau bysus rheolaidd lleol a gwasanaethau pellter hir a ddarperir gan ein rhwydwaith TrawsCymru a’n masnachfraint rheilffyrdd.
Mae hon yn her y mae’n rhaid i ni yn Llywodraeth Cymru, ynghyd ag awdurdodau lleol a'r sectorau bysus a thrafnidiaeth gymunedol, fynd i'r afael â hi. Gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn ddarparu rhwydwaith bysus teg a chynaliadwy o safon uchel sy'n rhoi i gymunedau ac unigolion ledled Cymru y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu.
Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edmygu’r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw.
Mae gen i nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r cyllid sydd ynghlwm wrth yr ymrwymiadau a wnaed heddiw, ac a ydych wedi ystyried cytundeb ariannu amlflwyddyn a fydd yn rhoi sicrwydd i weithredwyr allu cynllunio a buddsoddi yn eu gwasanaethau, yn hytrach na chytundeb fesul blwyddyn?
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi dweud bod llawer mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysus o’i gymharu â theithiau a wneir ar ein rhwydwaith rheilffyrdd. Felly, gyda hynny mewn golwg, mae diffyg cydbwysedd rhwng yr arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith rheilffyrdd a’r arian sy’n cael ei wario ar y rhwydwaith bysus. Felly, tybed os oes gennych farn ar y cydbwysedd hwnnw, ac a ydych chi’n credu bod angen mynd i'r afael â hynny.
Rhaid i mi ddweud, rwy’n edmygu’n fawr y pwynt a wnaethoch nad ydych yn barod i ganiatáu i gymunedau mwy ynysig orfod byw bywyd sy'n dibynnu'n gyfan gwbl ar y car modur, a bod hyn yn gwbl annerbyniol. Wrth gwrs, mae hynny'n arbennig o berthnasol i gymunedau gwledig ledled Cymru. Mae toriadau i grant gweithredwyr gwasanaethau bysus wedi golygu bod rhai teithiau wedi dod i ben. Yn sicr, fy marn i yw bod y grant gweithredwyr bysus yn hanfodol i sicrhau gwasanaethau bysus rheolaidd i gymunedau, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig ynysig hynny y soniasoch chi amdanynt. Felly, a gaf i ofyn a ydych chi wedi ystyried adfer y cyllid llawn ar gyfer y grant hwn i roi’r hyder i awdurdodau lleol a gweithredwyr bysus gynnal ac adfer teithiau bysus a oedd yn anymarferol yn flaenorol?
Mae canfyddiad diwylliannol hefyd yn dal i fod nad yw bysus yn ddulliau ymarferol o gludiant i bawb. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu i annog newid yn y canfyddiad hwn, ac yn blaenoriaethu mesurau a fydd yn cymell mwy o bobl i newid o ddefnyddio trafnidiaeth breifat i ddefnyddio bysus, drwy fesurau megis tocynnau smart, sydd, wrth gwrs, yn gwneud teithio yn fwy cyfleus a hyblyg.
Nid yw’r diwydiant bysus yng Nghymru wedi celu’r ffaith, yn sicr nid i mi pan gyfarfûm â chynrychiolwyr dros yr haf, bod gwir bartneriaeth rhwng gweithredwyr, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn angenrheidiol. Felly, a gaf i ofyn pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth weithredu argymhellion gan eich grŵp cynghori polisi bysus, sydd wedi argymell yn flaenorol y dylid sefydlu partneriaethau rhwydwaith?
Yn ychwanegol at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi cynnig Bil bysus, a’r nod yw cadarnhau'r trefniadau ar gyfer gwaith partneriaeth yn y sector. Nododd eich rhagflaenydd yn flaenorol bod nifer o gyfyngiadau sylweddol i bwerau presennol y Cynulliad i gyflwyno deddfwriaeth debyg yng Nghymru. A fyddech yn gallu ehangu ar hyn? A gaf i ofyn hefyd pa fwriadau sydd gan y Llywodraeth i ymestyn y cynllun tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau sy'n cyflawni rôl bwysig yn y gymdeithas yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn colli allan ar gysylltiadau trafnidiaeth hanfodol i addysg bellach?
Ac yn olaf, roeddwn yn falch eich clywed yn crybwyll 'integredig' sawl gwaith yn ystod eich datganiad. Mae'r diffyg integreiddio rhwng amserlenni bysus a threnau wedi bod yn broblem sy’n gofyn am welliannau mawr. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi sôn wrthych am broblem yn fy etholaeth i fy hun, yng Nghaersws, lle mae'r bws yn cyrraedd un funud ar ôl y trên, neu i'r gwrthwyneb. Felly, byddwn yn ddiolchgar i gael mwy o wybodaeth am yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud i sicrhau system drafnidiaeth integredig, ac osgoi’r problemau hyn gyda’r amserlenni.
Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am groesawu'r cynllun pum pwynt. Mae hwn yn gynllun sydd wedi ei ddyfeisio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol ac o fewn y diwydiant ei hun. Mae'n cynnwys nifer o gamau a fydd yn ategu’r diwydiant yn y tymor byr wrth i ni edrych ar y cyfleoedd yn y tymor hir a gyflwynir drwy drosglwyddo pwerau ym Mil Cymru.
O ran cyllid, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y grant cymorth gwasanaethau bysus ers nifer o flynyddoedd bellach, ac rydym yn falch o fod yn gallu ei gynnal ar £25 miliwn eto'r flwyddyn nesaf. Yr her i lywodraeth leol yw sicrhau nad ydynt yn cwtogi’r adnoddau sydd ar gael yn eu hawdurdodau eu hunain i gefnogi, yn benodol, lwybrau gwledig nad ydynt yn fasnachol hyfyw.
Rydym hefyd yn darparu cyllid cyfalaf sy'n dod i tua £15 miliwn. O ran teithio rhatach, wrth gwrs, rydym yn rhoi cyfle i gannoedd o filoedd o bobl deithio’n ddi-dâl. Heb os nac oni bai, mae angen defnyddio tocynnau integredig—nes y bydd gennym y pwerau a fydd yn dod drwy Fil Cymru— i sbarduno trafnidiaeth integredig. Gwyddom, o brofiadau ar draws Cymru hyd yn hyn, y gall tocynnau integredig fod yn her i lawer o weithredwyr gwasanaethau bysus, ond nid yw'n her anorchfygol. O ran cyfleoedd, yn y dyfodol, ar gyfer tocynnau integredig, ysgrifennodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd at bob awdurdod lleol ynglŷn â chystadleuaeth, cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth mewn marchnadoedd bysus lleol, ac ailbwysleisiodd ei gefnogaeth i gynlluniau tocynnau amlweithredol da.
Mae'r Bil Gwasanaethau Bysus, yr wyf yn credu i’r Aelod ei grybwyll hefyd, yn berthnasol yn bennaf i Loegr yn unig. Ond mae'n cynnwys darpariaeth ddiddorol a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol ofyn i weithredwyr bysus farchnata a hysbysebu tocynnau amlweithredol yn glir ac yn gyson. Fy marn i yw y byddwn yn gweld, gyda thocynnau amlweithredwr yn cael eu cynnig, ddull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau bws. Wedi dweud hynny, mae Bil Cymru yn golygu y bydd rheoleiddio gwasanaethau bysus lleol yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol. Ynghyd â'n cymhwysedd deddfwriaethol presennol, byddwn yn gallu cyflwyno fframwaith ar gyfer gwasanaethau bysus a fydd yn galluogi rhwydwaith gwasanaeth gwell o lawer, ansawdd gwell, mwy o wasanaethau bysus rheolaidd a mwy o ddibynadwyedd a phrydlondeb. Wedi dweud hynny, hyd nes y bydd y pwerau hynny gyda ni a’n bod yn gallu dylunio’r fframwaith, mae gennym hefyd y safonau gwirfoddol o ran ansawdd bysus, y gellir eu defnyddio yn benodol i herio canfyddiadau.
Rwy’n gwybod bod yr hyn gododd yr Aelod ynghylch safbwyntiau eang ar gludiant bws yn cael eu dal gan lawer, ac maent yn rhwystr i nifer rhag defnyddio gwasanaethau bysus. O safbwynt y safon wirfoddol o ran ansawdd bysus Cymru, mae nifer o bwyntiau sydd angen eu cyflawni yn y safon er mwyn i gwmnïau bysus gymhwyso’n foddhaol. Maent yn cynnwys gweithredu cerbydau sy'n cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, a sicrhau bod gan gerbydau fleindiau cyrchfan gweithredol sydd yn hawdd eu gweld ac yn rhoi gwybod i’r teithwyr am y cyrchfan a’r prif fannau aros ar hyd y daith. Mae angen i fysus fod yn lân y tu mewn a'r tu allan, ac yn barod ar gyfer y gwasanaeth cyntaf bob dydd. Mae'n rhaid i yrwyr wisgo iwnifform—mae'n ymddangos yn rhywbeth sylfaenol, ond dyma’r math o ddarpariaeth sy'n sicrhau bod pobl mewn gwirionedd yn parchu'r gwasanaeth bws ac yn ei ystyried o ansawdd uchel. Rhaid iddynt hefyd gael polisi o gyhoeddi cwynion gan deithwyr, a bydd disgwyl i gwmnïau bysus mwy o faint weithredu cyhoeddiadau gweledol am yr arosfan bws nesaf gydol y flwyddyn ar fysus mwy newydd.
Rwy’n meddwl bod y darpariaethau o fewn y safonau gwirfoddol hyn yn herio canfyddiadau, ond yn fy marn i mae angen i’r diwydiant wneud mwy gyda'i gilydd, yn benodol, i apelio at deithwyr iau. Cododd yr Aelod y cwestiwn a ellid cynnig tocynnau teithio rhatach i ofalwyr iau. Os yw gofalwr ifanc yn disgyn drwy fwlch y system deithio rhatach ar hyn o bryd, byddwn i'n fwy na pharod i ystyried cynnig cyfleoedd iddynt deithio ar gyfradd ostyngol neu am ddim. Wrth gwrs, byddai angen sicrhau bod y system yn gweithredu'n deg, yn rhannol oherwydd yr achosion cyfreithiol yn ymwneud â thwyll yn y gogledd sydd wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y teithiau ar y rhwydwaith bysus. Ond ni fyddwn yn amharod i ystyried unrhyw gyfleoedd y mae angen eu cyflwyno i ofalwyr allu cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth, addysg, neu yn wir iddynt deithio yn ôl ac ymlaen rhwng y mannau gofal.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei adroddiad cynhwysfawr—cynhwysfawr yn yr atebion a chynhwysfawr yn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn eisoes, felly af i ddim i ailadrodd beth sydd wedi ei grybwyll eisoes, dim ond i bwysleisio, yn y bôn, fod gwasanaeth bws yn hollol allweddol, yn enwedig i’r gyfran o’n poblogaeth ni sydd yn gynyddol yn mynd yn hen rŵan ond yn dal yn ffit ac yn iach ond ddim yn teimlo’n ddigon hyderus i yrru car. Dyma’r ffordd maen nhw’n mynd o gwmpas y lle. Mae'n dibynnu ar lwybrau bysus sydd yna yn digwydd yn brydlon—gallwch chi ddibynnu arnyn nhw i droi i fyny ar amser a phethau tebyg i hynny.
I ddechrau, awn ni ar ôl yr ochr leol. Wrth gwrs, cafodd y gwasanaeth bysus ei ddadreoleiddio flynyddoedd lawer yn ôl nawr, efallai cyn, hyd yn oed, i’r Ysgrifennydd Cabinet gael ei eni. Ond roedd y busnes o gael gwasanaethau preifat i fod i wella safonau’r gwasanaeth a gwella darpariaeth gwasanaeth bysus. Efallai bod hynny’n wir mewn rhai enghreifftiau, ond nid oedd yn wir ym mhob man, fel rydym ni wedi clywed eisoes. O’m dyddiau fel cynghorydd sir yn Abertawe, roeddwn i’n ymwybodol, fel awdurdod lleol, roedd y cwmnïau bysus preifat yn cael lot o arian, ond eto pan oedd pobl eisiau gwasanaeth i barhau mewn rhyw ardal, elfennau’r busnes oedd yn cael y flaenoriaeth, nid yr elfennau a’r ffaith bod y cwmnïau bysus yna’n cael peth wmbredd o arian cyhoeddus i ddarparau’r gwasanaeth, ac eto roedden nhw’n gallu stopio’r gwasanaeth yna pan oedd e’n eu siwtio nhw. Rwy’n credu bod yna’n dal elfen o hynny. Roeddech chi’n sôn lot am rôl awdurdodau lleol yn y fan hyn. Mae ganddyn nhw arian, mae rhai awdurdodau lleol yn darparu arian. Mae yna ambell i un sydd ddim yn darparu dim arian o gwbl i wasanaethau bysus—rydych wedi eu crybwyll eisoes.
Roedd gennyf fi ddiddordeb yn y datblygiadau yma pan fyddwch chi’n mynd i gyfarfod â Chaerdydd a Chasnewydd ynglŷn â rhwydweithiau bysus cynaliadwy, hynny yw, i fynd i’r afael â’r busnes yma bod yna rai gwasanaethau, hyd yn oed yng nghanol ein dinasoedd mwyaf grymus ni, sydd ddim yn talu pres ac mewn perygl o gael eu hatal. Felly, rwyf eisiau gwybod mwy ynglŷn â’r rhwydweithiau bysus cynaliadwy yma ac efallai eu datblygu nhw i lefydd megis Abertawe.
Yr ail bwynt, ac rwy’n ymwybodol o’r amser, Lywydd, rydym ni wedi siarad lot yn nhermau’r angen i wella cysylltiadau de-gogledd yn ein gwlad, fel rheol yng nghyd-destun ffyrdd a hefyd rheilffyrdd. Mae’r un peth yn wir ynglŷn â chysylltiadau bysus achos fel rwyf i wedi crybwyll eisoes mae yna nifer fawr o bobl sydd yn licio rhedeg eu bywyd yn gyfan gwbl ddibynnol ar y bws. Mae hynny’n bosib, yn enwedig gyda’r tocyn bws am ddim, sydd yn gynyddol ar gael i’r rhan fwyaf o bobl sydd, ie, yn mynd yn hen, ond yn dal yn ffit ac eisiau mynd o gwmpas y lle ac o gwmpas Cymru.
I’r perwyl yna, mae yna ddiddordeb wedi cael ei grybwyll yn y gwasanaeth bws rhwng Aberystwyth a Chaerdydd a gollwyd yn ddiweddar achos daeth cwmni Lloyds Coaches i ben—dim cysylltiad teuluol yn y fan yna, er yr enw poblogaidd. Wrth gwrs, rwy’n ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cadarnhau efo Elin Jones AC, yr Aelod lleol, ynglŷn ag a fyddai yna wasanaeth newydd yn dod i rym erbyn diwedd mis Hydref. Yn naturiol, rydym ni’n sôn am gysylltiadau de-gogledd, gogledd-de yn y fan hyn sy’n allweddol bwysig i uno ein cenedl. Nawr, yn nhermau’r gwasanaeth penodol yna o Aberystwyth i Gaerdydd, a oes yna ddiweddariad ar bryd ydym ni’n disgwyl gweld bysus rhagorol unwaith eto’n rhedeg ac yn gallu cysylltu ein gwlad—gwasanaeth sydd mor allweddol bwysig i ni fel cenedl? Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a hefyd am wneud ymholiadau ynglŷn â'r gwasanaeth pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill, gan gynnwys y Llywydd? Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ac mae ei golli yn drueni mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod trefniadau eraill ar gyfer y gwasanaeth bws penodol hwn bellach yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i wneud cyhoeddiad ar fanylion y gwasanaeth hwn o fewn y dyddiau nesaf.
Mae'n gwbl hanfodol bod pobl mewn rhannau gwledig o Gymru yn gallu mwynhau gwasanaethau bysus, yn rhannol oherwydd eu bod yn fannau cymdeithasol. Yn wahanol i ddulliau eraill o deithio, i bobl sydd yn aml yn cael eu hynysu maent yn cynnig ffordd o ryngweithio gyda phobl yn gymdeithasol. Pan fydd y gwasanaethau'n cael eu colli, mae’r cyfle hwnnw’n cael ei golli hefyd. Rwy’n gwybod, o fy mhrofiad fy hun o gynrychioli etholaeth lle mae gweithredwr bysus wedi mynd i’r wal yn ddiweddar—GHA Coaches—pan ddigwyddodd hynny, yr henoed, sy'n dibynnu ar y gwasanaeth hwnnw, yr effeithiwyd arnynt fwyaf, a phobl ifanc, yn aml y bobl ifanc sy’n gymdeithasol ynysig ac sy'n dibynnu’n fawr ar wasanaethau bws er mwyn cyrraedd man cyflogaeth neu ddysgu. Felly, mae gwasanaethau gwledig, fel y nododd yr Aelod, yn gwbl hanfodol.
Byddwn yn cytuno, mewn sawl ffordd, bod dadreoleiddio yng nghanol yr 1980au wedi methu. Ond rwyf i hefyd, fel yr Aelod, yn dymuno gwybod rhagor am sut yr ymddengys bod rhai gwasanaethau yng Nghymru yn llawer mwy cynaliadwy nag eraill. Mae enghreifftiau—ac rwyf wedi eu nodi yn fy natganiad—yn y de-ddwyrain, lle mae gwasanaethau arbennig o gynaliadwy y gallwn edrych arnynt a dysgu oddi wrthynt. Byddaf yn cwrdd â chynrychiolwyr y cyngor a chynrychiolwyr gweithredwyr bysus i ganfod yn union beth y maent yn ei wneud yn wahanol sy'n eu galluogi i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy. Byddaf yn hapus i rannu unrhyw brofiad a gaf o hynny, ac unrhyw oleuni a gaf ar y mater gydag Aelodau eraill. Wrth gwrs, byddaf hefyd yn rhannu'r wybodaeth honno gyda gweithredwyr bysus ac awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae'n ymddangos i mi fod gwahaniaeth sylweddol rhwng rhai awdurdodau lleol o ran y ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau bysus nad ydynt yn fasnachol hyfyw, a soniodd yr Aelod ei fod yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd yn syml wedi rhoi'r gorau i ariannu’r teithiau hynny nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Rwyf innau hefyd yn ymwybodol o rai awdurdodau lleol sydd wedi gwneud hynny. Mae eraill wedi bod yn fwy cyfrifol ac wedi sicrhau bod cefnogaeth ar gael. Unwaith eto, yn achos GHA Coaches, yr hyn a amlygwyd gan hynny oedd bod un awdurdod lleol—Cyngor Sir y Fflint—wedi cael cymorth o oddeutu £1.3 miliwn ar gyfer gwasanaethau anfasnachol ac, mewn cyferbyniad, yn Wrecsam drws nesaf rwy'n credu bod y gyllideb wedi cael ei gostwng i sero. Mae hynny wedyn yn rhoi pwysau ar y gwasanaethau hynny sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol oherwydd bod gennych un awdurdod lleol sydd ag adnoddau ar gael, er yn gyfyngedig iawn, ond awdurdod lleol arall heb adnoddau o gwbl. Felly, mae'n bwysig iawn bod awdurdodau lleol yn yr uwchgynhadledd ar fysus yn y flwyddyn newydd yn gallu dysgu a chyfrannu cymaint â’r gweithredwyr gwasanaethau bysus eu hunain.
Credaf fod hynny’n ymdrin â’r holl gwestiynau a ofynnodd yr Aelod.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad—fel arfer, yn gryno a goleuedig—ond onid yw'n cytuno â mi mai’r elfen hollbwysig yng ngweithrediad ac effeithiolrwydd y gwasanaethau bysiau, wrth gwrs, yw’r cysylltedd â'r seilwaith rheilffyrdd? Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gydamseru amserlenni bysus a rheilffyrdd? Ysgogwyd y cwestiwn pan dynnodd un o etholwyr fy nghydweithwr sylw at y ffaith bod y gwasanaeth bws i Aberteifi yn gadael 10 munud cyn i'r trên Great Western gyrraedd Caerfyrddin, gan arwain yn aml at deithwyr yn gorfod aros dwy awr cyn gallu teithio ymlaen. Yn sicr, mae’n ddyletswydd ar gwmnïau bysus i drefnu gwasanaethau i wasanaethu eu cwsmeriaid yn y ffordd orau, gan hwyluso system drafnidiaeth fwy integredig. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet sylwadau ar hyn, os gwelwch yn dda?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig a’i gwestiynau? Yn y pedwerydd Cynulliad, rwy’n cofio, pan oeddwn ar y meinciau cefn ac yn aelod o'r pwyllgor menter, fe wnaeth mater tocynnau integredig a theithio integredig gymryd cryn dipyn o'n hamser. Gwn ei fod wedi creu cryn rwystredigaeth ymysg Aelodau. Mae llawer o'r rhwystredigaeth yn dal i fodoli, ond yr ydym bellach mewn cyfnod lle mae cyfle enfawr, o ran gwasanaethau bysus a rheilffyrdd, i'w hintegreiddio yn llawnach drwy fasnachfraint newydd Cymru a’r gororau ac, wrth gwrs, y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys ym Mil Cymru. Byddwn yn gobeithio, rhwng y ddwy broses hynny, ynghyd ag anogaeth a datblygiad tocynnau mwy integredig a all, yn ei dro, sbarduno gweithredwyr bysus i weithredu mewn ffordd fwy integredig o ran amserlenni, na fydd y rhwystredigaeth a fynegwyd gan Aelodau'r meinciau cefn yn flaenorol yn bodoli erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Rwy’n croesawu'r pum pwynt a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet, a chroesawaf y pwysigrwydd y mae’n ei roi ar fysus, sydd yn amlwg yn rhan hanfodol o'n system drafnidiaeth. Y pwynt cyntaf yr oeddwn am ei wneud, mewn gwirionedd, oedd am bwysigrwydd bysus i bobl ifanc. Mae hyn eisoes wedi cael ei grybwyll yn y ddadl, ond rwy’n meddwl ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn ystyried barn pobl ifanc pan fyddwn yn cynllunio trafnidiaeth. Rwyf wrth fy modd ei fod yn mynd i gael uwchgynhadledd yn gynnar yn y flwyddyn newydd. A all ef sicrhau bod pobl ifanc yn bresennol yn yr uwchgynhadledd? Nid oes gennym senedd ieuenctid eto, ond rhaid bod ffyrdd o gael pobl ifanc—grwpiau cynrychioliadol o bobl ifanc—fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth a dweud sut mae cludiant yn bwysig iddynt hwy. Rwy’n credu ei bod yn ffaith hollbwysig nad oes gan 64 y cant o’r bobl sy'n chwilio am waith gerbyd at eu defnydd neu nid ydynt yn gallu gyrru. Felly, mae'n gwbl hanfodol i bobl ifanc—ac wrth gwrs, nid pobl ifanc yw’r unig bobl sy'n chwilio am waith, ond mae nifer fawr ohonynt yn chwilio am waith—eu bod yn gallu cael mynediad i gerbyd ac yn gallu, mewn gwirionedd, cyrraedd cyfweliadau am swyddi. Felly, rwy’n meddwl mai swyddogaeth i bobl ifanc yw'r peth cyntaf yr wyf am ei grybwyll.
Yr ail beth yw tagfeydd. Rwy'n siŵr bod pobl yn penderfynu peidio â theithio ar fysus oherwydd y tagfeydd a'r arafwch, weithiau, o deithio ar fysus. Yn sicr, mae fy etholaeth i yn un gwbl drefol bron, lle mae tagfeydd llwyr ar draffig yn aml. Felly, a fyddai'n canmol Cyngor Caerdydd ar ei ymdrechion i gyflwyno lonydd bysus ac, yn benodol, gyflwyno'r lôn fysus ar Heol Caerffili? Mae hon wedi bod yn hynod ddadleuol ac wedi achosi amharu difrifol i'r holl gymdogion, ond rwy’n meddwl, yn y tymor hir, y bydd yn sicr yn symud pethau ymlaen. Yna soniwyd am gyfnewid a chysylltedd, ac mae'n hollol wych bod gorsaf fysus Caerdydd, a grybwyllwyd gan fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn gynharach y prynhawn yma, mewn gwirionedd yn awr yn dechrau cael ei hailadeiladu. Ond os oes unrhyw beth y gall ei wneud i annog Network Rail i gadw at eu rhan nhw o'r fargen a gwneud yn siŵr o leiaf y bydd pobl sy’n teithio o'r orsaf fysus i'r orsaf drenau yn gallu gwneud hynny dan do, rwy’n meddwl y byddai’n werth chweil gwneud hynny.
Mae wedi cyfeirio at bobl anabl. Rwyf wir yn croesawu'r hyn a ddywedodd am bobl anabl a gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu cynnwys yn yr holl drafodaethau ac mewn unrhyw ddadl yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy ddiolch i Bus Users Cymru, sy’n gwneud gwaith ardderchog yn fy marn i. Gwn fod derbyniad yfory, rwy’n meddwl, sy'n cael ei gynnal gan Jane Hutt yma. Ond rwy'n credu bod y pwyntiau y maent yn eu gwneud—y ffaith bod 41 y cant o’r bobl sydd wedi cysylltu â nhw wedi dweud eu bod yn pryderu am lefel y gwasanaeth—yn dangos yr angen a'r galw sydd yng Nghymru am y conglfaen hwn o’r gwasanaeth .
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac rwy’n ategu’n fawr iawn yr hyn a ddywedodd hi, yn rhannol am bwysigrwydd Bus Users Cymru ac am yr angen i Network Rail sicrhau bod y gwaith uwchraddio, sydd yn hir-ddisgwyliedig, i orsaf reilffordd Caerdydd yn briodol a sicrhau bod y daith rhwng yr orsaf rheilffordd a'r orsaf fysus yn un ddidrafferth a diogel.
O ran tagfeydd ar ffyrdd, byddwn yn croesawu'n fawr iawn y datblygiadau sydd wedi digwydd yng Nghaerdydd. Gallem eu hystyried, mewn sawl ffordd, yn arfer gorau. Rwy’n cydnabod, mewn sawl rhan o Gymru, oherwydd culni’r ffyrdd a strydoedd trefol, y gall fod yn anodd ymgorffori llwybrau bws mewn ardaloedd adeiledig. Fodd bynnag, lle maent yn bosibl, rwy’n credu ei fod yn gwbl hanfodol. O ran y datblygiad metro yn y de, wrth gwrs gall fod yna swyddogaeth i drafnidiaeth bysus cyflym, a fyddai hefyd yn gweld gweithrediadau llyfn o fysus cyflym mewn ardaloedd preswyl a masnachol.
Rwy'n awyddus iawn i ddenu pobl ifanc a phobl anabl hefyd i'r uwchgynhadledd yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn agored iawn i unrhyw awgrymiadau sydd gan Aelodau ynghylch o ble y dylem ddod o hyd i’r bobl briodol. A hefyd, o ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Russell George, byddwn hefyd yn awyddus i wahodd, o bosibl, ofalwyr ifanc i allu rhoi eu profiad eu hunain o ddefnyddio’r gwasanaethau bysus a rhai o'r rhwystredigaethau a all godi â'r rhwydwaith presennol. Credaf, ar gyfer pobl ifanc yn benodol,—a soniais am hyn yn gynharach—bod angen marchnata’r rhwydwaith bysus yn well fel math priodol o gludiant. Rydym yn gwybod bod oddeutu 113,000 o bobl ifanc sy'n gymwys i gael mytravelpass, sef yr enw brand ar gyfer y cynllun teithiau bws am bris gostyngol—113,000 o bobl ifanc 16, 17 ac 18 oed. Eto i gyd, hyd yn hyn, dim ond 8,000 sydd wedi gwneud cais am y tocyn bws gwerthfawr hwn. Dylem gymryd pob cyfle—ac rwy’n meddwl unrhyw gyfle—a gawn i dynnu sylw at fodolaeth y tocyn hwn. Ond hefyd rwy'n awyddus iawn y dylai'r sector ei hun ddod at ei gilydd yn fwy er mwyn marchnata cyfleoedd teithio rhatach ar gyfer teithio didrafferth ac i sicrhau hefyd bod teithio integredig ar gael i bawb, nid i bobl ifanc yn unig.
Ar gyfer pobl ifanc yn arbennig, mae angen gwasanaethau bws rheolaidd o ansawdd da, oherwydd, wrth gwrs, nid oes gan lawer ohonynt y dewis i allu gyrru, o ystyried cost yswirio cerbyd preifat, ond hefyd ar gyfer llawer o bobl hŷn yn ogystal â llawer o bobl ifanc—ond rwy’n gwybod, yn sicr cyn belled ag y mae fy rhieni i yn y cwestiwn, rwy’n meddwl bod gennych ddiffyg hyder ar y ffyrdd fel gyrrwr wrth gyrraedd oedran penodol. Rwy’n credu ei fod yn hollol hanfodol, felly, ein bod yn cynnal gwasanaethau gwledig lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, yn ogystal â gwasanaethau trefol, ac yn eu gwneud, unwaith eto, mor integredig ag y bo modd a sicrhau bod y gwasanaeth o'r ansawdd gorau posibl.
Ysgrifennydd y Cabinet, soniasoch yn gynharach bod angen i fysus fod yn lân, a’r rhan bwysicaf o’u glanweithdra yw’r allyriadau glân. Felly, rwy’n meddwl tybed pa gynnydd yr ydym yn ei wneud ar hynny, oherwydd rwy’n sylwi bod Llywodraeth y DU wedi dyrannu grantiau o £30 miliwn i 13 o awdurdodau lleol—ac nid oedd un o’r rheini Nghymru, cyn belled ag yr wyf i'n ymwybodol—i fuddsoddi mewn bysus trydan neu hybrid. Ym Mryste, mae gwasanaeth bws sydd â thechnoleg hybrid sy’n newid yn awtomatig i fodd trydan cyn gynted ag y mae’r bws yn cyrraedd yr ardal rheoli ansawdd aer. I le fel Caerdydd byddai hynny’n hanfodol iawn er mwyn ceisio brwydro yn erbyn y llygredd ofnadwy sydd yn yr aer. Byddwn yn meddwl y byddai hyn yn gyfraniad mawr i leihau 40 y cant ar ein nwyon tŷ gwydr erbyn 2020. Felly, rwy’n meddwl tybed a fyddech yn barod i ddweud ychydig am hynny ac a yw unrhyw un o'r cwmnïau mwy o faint sydd gennym yng Nghymru hyd yma wedi buddsoddi mewn teithio trydan.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rwy’n credu bod ymchwil a datblygu o ran bysus gwyrdd nid yn unig yn gyfle i ni ostwng neu leihau ein hôl troed carbon—mae ymchwil a datblygu hefyd yn gyfle economaidd enfawr i ni, gan ei fod yn dal yn ddiwydiant sydd yn ei ddyddiau cynnar. Nid ydym eto’n gweld ar draws rhan helaeth o orllewin Ewrop y niferoedd o fysus trydan a hybrid y byddwn yn debygol o’u gweld yn y degawd nesaf. Felly mae cyfleoedd i gwmnïau o Gymru gael mwy o ran yn y gwaith o ddatblygu mathau newydd o drafnidiaeth sy’n cyfrannu llai o’n hôl troed carbon.
Roedd y gronfa bws gwyrdd, sef y gronfa y cyfeiriodd yr Aelod ati, wrth gwrs, yn agored i ddarparwyr bysus a gweithredwyr yng Nghymru. Yn anffodus, ni fu unrhyw gwmni o Gymru yn llwyddiannus wrth wneud cais, ac ni fu unrhyw awdurdod lleol yn llwyddiannus wrth wneud cais. Rwyf i yn bersonol yn barod i ystyried, serch hynny, achos dros sefydlu cronfa bysus gwyrdd yng Nghymru, ond wrth gwrs, rhaid i mi ddweud, o fewn cyd-destun awdurdodau sy’n cystadlu â’i gilydd a chyfyngiadau cyllidebol. Ond rwy’n cydnabod bod angen lleihau ein hôl troed carbon a swyddogaeth trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus wyrddach—wrth gyflawni hyn. Felly, rwy’n barod i roi ystyriaeth i achos dros gael cronfa bysus gwyrdd yng Nghymru.
Rwy’n credu bod ein grŵp cynghori ar bolisi bysus, serch hynny, wedi awgrymu mai’r hyn y maent yn ei alw yn 'gronfa bysus gwell', yn hytrach na chronfa gul bysus gwyrdd, fyddai fwyaf priodol. Felly, i ryw raddau mae gwrthdaro o ran beth fyddai ffordd well, neu’r math o gronfa a'r meini prawf ar gyfer bod yn gymwys am adnoddau cyfalaf fyddai orau ar gyfer yr economi ac ar gyfer defnyddwyr sy’n deithwyr. Ond mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn bwriadu siarad â chwmnïau yn ei gylch yn yr uwchgynhadledd yn 2017.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.