1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Tachwedd 2016.
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystod y Pumed Cynulliad? OAQ(5)0232(FM)
Wel, mae ynni adnewyddadwy yn rhan bwysig o'r gymysgedd ynni sydd ei hangen arnom ni i gefnogi Cymru ffyniannus a charbon isel diogel. Mae ein cefnogaeth barhaus wedi sicrhau manteision i Gymru hyd yn hyn, a bydd fy nghyd-Aelod Cabinet Lesley Griffiths yn gwneud datganiad ar ein blaenoriaethau ynni y mis nesaf.
Brif Weinidog, yng ngoleuni'r trafferthion ariannol diweddar a wynebwyd gan Tidal Energy Ltd yn y gorllewin, cwmni y mae’n ymddangos sy’n arwain y ffordd o ran echdynnu ynni’r môr, pa sicrwydd allwch chi ei roi bod prosiectau ynni’r môr eraill a gefnogir gan arian cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion, a pha gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth ar waith i sicrhau nad yw'r sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd gan Gymru yn ei chyfanrwydd a chan y Llywodraeth yn benodol o ran ynni adnewyddadwy yn cael eu colli o'r ardal hon?
Mae'n anffodus yr hyn a ddigwyddodd i Tidal Lagoon Power Ltd. Rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud bod yr hyn yr oedden nhw’n ei wneud yn debycach i brosiect ymchwil a datblygu yn hytrach na phrosiect busnes fel y cyfryw. Mae ganddo botensial, nid oes amheuaeth am hynny, ac rydym ni’n awyddus i sicrhau nad yw’r sgiliau hynny’n cael eu colli. Mae’n rhaid i mi ddweud y byddai'n hynod ddefnyddiol, wrth gwrs, pe byddem ni’n gweld cynnydd nawr ar forlyn llanw Bae Abertawe fel y gellid bwrw ymlaen â’r gwaith sy'n cael ei wneud yn Stinan, er enghraifft—gwelais yr hyn a oedd yn digwydd yno drosof fy hun—yn rhan o'r gyfres o sgiliau y bydd ei angen ar gyfer y morlyn llanw.
Yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod storio a dosbarthu cynaliadwy yn hanfodol i'n dyfodol ynni cynaliadwy, ac a yw’n croesawu'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud i storio a dosbarthu ynni arloesol gan brifysgolion Caerdydd, Abertawe a de Cymru, trwy brosiect FLEXIS, sydd â’r nod o ddatblygu safle arddangos yng Nghastell-nedd Port Talbot?
Ydw. Mae'n enghraifft ragorol o’n prifysgolion yn gweithio gyda'i gilydd, yn ogystal ag enghraifft o gydweithio rhwng diwydiant a sefydliadau ymchwil ledled Cymru a gweddill Ewrop. Mae'n brosiect a ariennir gan yr UE, felly mae’r hyn a fydd yn digwydd iddo y tu hwnt i 2020, wrth gwrs, bob amser yn anodd ei ragweld. Serch hynny, mae ganddo botensial mawr, ac mae'r ffaith bod cymaint o'n prifysgolion wedi dod at ei gilydd i fod yn rhan ohono yn dangos pa mor bwysig yw’r prosiect hwn iddyn nhw.
A gaf i ofyn i’r Prif Weinidog beth mae’n ei wneud i ehangu dealltwriaeth pobl o ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac yn arbennig o ran dosbarthu ynni adnewyddadwy yn lleol at bobl leol er mwyn cynyddu’r gefnogaeth iddo? Pe bai Sian Gwenllian yn gallu bod yma heddiw, rwy’n siŵr y byddai hi am i fi sôn am Ynni Ogwen, cynllun cydweithredol i ddosbarthu ynni’n lleol. Mae yna gwmnïau ynni yn cael eu sefydlu gan awdurdodau lleol yn Lloegr, fel Ynni Robin Hood yn Nottinghamshire. Onid yw’n bryd i’r Llywodraeth ystyried sefydlu cwmni ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru a dosbarthu ynni yn lleol?
Well, there is a local energy distribution service available, and that gives communities and SMEs support so that they can develop their own projects. Through the portal, which they run, interested groups get together to see in which way they can collaborate and co-operate in order to progress projects. There’s one example in Bethesda, of course, which is the Energy Local project. That’s a pilot to see whether it’s possible to ensure people receive support to use less of the energy that’s available now, and, of course, to ensure that they also pay less.
Er bod swyddogaeth i ynni adnewyddadwy ar yr ymylon, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r unig beth y mae hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar ynni adnewyddadwy nag sydd gennym ni ar hyn o bryd yn debygol o’i wneud yw gorfodi costau afresymol ar bobl? Rhwng 2014 a 2020 amcangyfrifir eisoes bod cost gyfartalog cymorthdaliadau gwyrdd a threthi carbon yn £3,500 fesul cartref, ac er efallai fod gan gynlluniau ynni dŵr, a chynlluniau llanw hyd yn oed, le yn y gymysgedd ynni, gan fod gwynt yn ysbeidiol, mae'n ddrud iawn, gan fod rhaid i chi gael gorsafoedd pŵer wrth gefn i ymdopi pan nad yw'n chwythu neu ei bod yn chwythu’n rhy gryf, ac felly byddai'n llawer mwy synhwyrol dibynnu mwy ar adnoddau confensiynol, fel glo, er enghraifft, y mae Simon Thomas newydd sôn amdano. Rydym ni’n eistedd ar rai o'r meysydd glo carreg gorau yn y byd. Lle gellir cloddio hwn yn fasnachol, onid yw'n synhwyrol rhoi hwnnw yn y gymysgedd ynni hefyd?
Mae'r awyrgylch yn llawn eironi. Pan rwy’n clywed y sylw yna, mae’n rhaid i mi atgoffa'r Aelod ei fod yn rhan o blaid a gaeodd pyllau glo yn fwriadol—hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw. [Torri ar draws.] Hyd yn oed y rhai a oedd yn gwneud elw, caewyd y rheini. Ar y pryd, roedd glo, yn ei dyb ef, wedi darfod. Y gwir nad yw cloddio dwfn yn realiti i'r rhan fwyaf o Gymru mwyach—adeiladwyd dros fwyafrif y pyllau a gaeodd; llenwyd eu siafftiau. Mae'n sôn am gloddio’n economaidd—mae’n sôn am lo brig. Nawr, os yw eisiau dadl, rwy’n awgrymu ei fod yn siarad â phobl sy'n byw wrth ochr safleoedd glo brig am y ffordd y maen nhw’n teimlo am y peth. Felly, yr hyn y mae'n ei argymell yw glo brig neu fwy o fewnforion. Mae'n rhaid i ni gofio nad oes unrhyw ffordd y gallwn ni gynhyrchu’r glo y byddai ei angen arnom ni i bweru ein gorsafoedd pŵer. Nid oes unrhyw ffordd y gallwn ni ddisodli’r nwy naturiol hylif—mae 25 y cant ohono sy'n dod i mewn i'r DU yn dod trwy Aberdaugleddau. A cheir dau gwestiwn yn y fan yna—yn gyntaf, mae'n ddrytach oherwydd y gostyngiad yng ngwerth y bunt, ac, yn ail, diogelwch ynni. Nid ydym ni eisiau bod yn rhy ddibynnol ar fewnforio ynni o rywle arall, ond y gwir amdani yw bod y diwydiant glo wedi ei ddyrnu yn y 1980au, cafwyd gwared arno’n gwbl fwriadol, ac ni all ddweud nawr, 'A dweud y gwir, yr hyn yr ydym ni ei eisiau yw mwy o lo', pan wnaeth ef fwy na neb arall i sicrhau nad oedd unrhyw lo yno yn y lle cyntaf.