– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 1 Tachwedd 2016.
Rydym yn symud ymlaen at y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant—y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy—a galwaf ar Carl Sargeant i gynnig y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wrth fy modd i roi trosolwg i'r Aelodau o'r dull y bydd y Llywodraeth yn ei ddefnyddio i gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.
Mae hwn yn ymrwymiad allweddol yn y rhaglen lywodraethu ac mae wrth wraidd ein hagenda tai gynhwysfawr. Bydd cyflawni yn unol â hyn hefyd yn cefnogi themâu allweddol eraill ar draws fy mhortffolio: gwella llesiant yn ein cymunedau a hybu adfywiad economaidd.
Rwyf am ddechrau drwy gydnabod cyflawniad y sector yn ystod tymor olaf y Llywodraeth. Mae ystadegau a ryddhawyd fis diwethaf yn cadarnhau ein bod wedi rhagori ar ein targed o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn y Cynulliad diwethaf. Mae hyn yn dangos yr hyn y gall gweithio'n effeithiol mewn partneriaeth ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at hyn.
Fodd bynnag, rydym ni’r Llywodraeth yn awyddus i gyflawni hyd yn oed mwy, a dyna pam y mae gennym darged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer y tymor hwn. Mae adeiladu cartrefi yn arwain at fanteision pwysig, sydd y tu hwnt i ddim ond rhoi to uwch bennau pobl. Ochr yn ochr â'r manteision iechyd ac addysg tra chyfarwydd y mae tai o ansawdd da yn eu cynnig i blant a theuluoedd, mae adeiladu cartrefi o bob daliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar economi Cymru ac ar ein cymunedau. Mae adeiladu tai yn creu miloedd o brentisiaethau bob blwyddyn, gan ddarparu adfywio ehangach mewn ardaloedd difreintiedig, a gall trawsnewid cymunedau.
Mae gennym hanes cadarn o gefnogaeth i dai cymdeithasol a bydd hyn yn parhau i fod yn hanfodol. Mae'r targed yn un uchelgeisiol, ac nid yw 'busnes fel arfer' yn ddigon, ond bydd cynlluniau profedig yn cynnwys y rhaglen grant tai cymdeithasol a'r grant cyllid tai yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu tai fforddiadwy a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed.
Ochr yn ochr â'r angen i adeiladu cartrefi newydd, mae'n bwysig ein bod yn cadw ein stoc bresennol o dai cymdeithasol. Rydym yn cynnig diddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael ac mae gwaith eisoes ar y gweill i baratoi'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. Bydd hyn yn ein galluogi i gadw tai cymdeithasol saff, diogel a fforddiadwy ledled Cymru. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn galluogi cymdeithasau tai a chynghorau i fuddsoddi yn hyderus wrth adeiladu cartrefi newydd. Mae ein cynlluniau ar gyfer gwella'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn cynnwys mesurau a luniwyd i gynnig cymorth ychwanegol i’r rhai sy'n dyheu am fod yn berchen ar gartref. Bydd hyn yn dod yn bosibilrwydd mwy realistig ar gyfer mwy o bobl os gallwn ni ddarparu'r math iawn o gymhelliant neu gymorth.
Byddwn yn cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau tai er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion tai. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ei gwneud yn glir bod ein targed o 20,000 o gartrefi ychwanegol yn cynnwys 6,000 fydd yn cael eu darparu drwy gynllun Cymorth i Brynu - Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu llwyddiant y cynllun wrth ddarparu llwybr i berchnogaeth cartref fwy fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf. Mae wedi chwarae rhan enfawr wrth ennyn hyder yn y sector tai a chefnogi datblygiad tai preifat. Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi sêl bendith i gontractau ar gyfer cam 2 y cynllun, a fydd yn golygu bod £290 miliwn yn cael ei fuddsoddi hyd at 2021. Wrth gymryd golwg eang ar yr angen i Lywodraeth Cymru weithredu i hyrwyddo fforddiadwyedd ehangach o ran tai, mae'n bwysig pwysleisio bod diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy at ddibenion cynllunio yn aros yn ddigyfnewid yn sgil y cynigion hyn.
Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cynllun rhentu i berchenogi. Mae hwn wedi'i gynllunio i gefnogi'r rhai sy'n dyheu i brynu eu cartrefi eu hunain, ond yn ei chael hi’n anodd cynilo blaendal sylweddol. Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio amrywiaeth o ddewisiadau ar gyfer y cynllun hwn a bydd y manylion yn dilyn yn y flwyddyn newydd. Ein nod ehangach fydd hybu amrywiaeth o lwybrau i berchnogaeth cartref am gost fforddiadwy, yn enwedig ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf mewn ardaloedd lle maent yn aml yn methu â phrynu cartref oherwydd gwerth eiddo lleol uchel. Os ydym i adeiladu cymunedau llwyddiannus a chynaliadwy, mae angen rhaglen adeiladu tai arnom sy’n uchelgeisiol o ran dyluniad, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi yr ydym yn eu cyflenwi. Byddwn yn herio'r sector i gynyddu ei ymdrechion ac i ddarparu nifer sylweddol o gartrefi ar ddyluniad newydd. Byddwn hefyd yn hyrwyddo gweithio ar y cyd, gyda'r nod o ddarparu cynlluniau tai sy'n gallu darparu manteision hirdymor i'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
At ei gilydd, rydym wedi dyrannu £1.3 biliwn ar gyfer tymor y Cynulliad hwn i gefnogi tai fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi cyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy a chwblhau'r dasg o fodloni safonau ansawdd tai Cymru. Mae graddfa'r gyllideb hon yn arwydd clir o lefel ein huchelgais yn y maes hwn. Dim ond un o'r cynhwysion sy'n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yw’r ymrwymiad ariannol hwn, fodd bynnag. Nid yw Llywodraeth Cymru ei hun yn adeiladu tai; rydym yn dibynnu ar y berthynas gref sydd gennym â chymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai preifat. Byddwn yn cynnal a chryfhau’r perthnasau hynny.
Yn y Cynulliad diwethaf, roedd y cytundeb â Chartrefi Cymunedol Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth gyrraedd y targed i adeiladu dros 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym yn trafod cytundeb tridarn yn awr â Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed newydd. Rwy’n falch iawn â’r cynnydd a wnaed gennym hyd yn hyn ac yn croesawu cyfranogiad CLlLC. Mae hyn yn arbennig o dderbyniol gan fod awdurdodau lleol bellach yn dechrau ystyried eu rhaglenni adeiladu eu hunain unwaith eto. Byddaf yn darparu cymorth ychwanegol i gefnogi’r gweithgareddau datblygu hyn. Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau hyn i nodi’r ffordd orau y gallwn gefnogi eu hymdrechion. O'u cymryd gyda'i gilydd, rydym yn disgwyl iddynt gyflawni dros 500 o gartrefi yn nhymor y Llywodraeth hon.
Mae adeiladwyr preifat yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddarparu tai fforddiadwy. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda datblygwyr drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lle deniadol ar gyfer datblygwyr mawr ac, wrth gwrs, busnesau bach a chanolig i adeiladu cartrefi. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd adeiladu mwy o dai ar werth ar draws yr ystod pris cyfan. Mae'n bwysig peidio â drysu ein targed tai fforddiadwy gyda'r ymdrechion ehangach sydd eu hangen i ddiwallu angen cyffredinol y wlad am dai.
Byddwn yn parhau i weithredu i gefnogi’r gwaith o adeiladu tai. Bydd y system gynllunio yn parhau i fod yn alluogwr hanfodol i sicrhau bod y cartrefi iawn yn cael eu hadeiladu yn y mannau iawn i ddiwallu’r angen am dai. Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod ein polisïau tai a chynllunio yn cael eu halinio i annog y gwaith o adeiladu tai newydd. Mae sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer datblygu yn bwysig hefyd. Rydym eisoes wedi cyflwyno nifer sylweddol o safleoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai. Rydym yn parhau i archwilio beth arall y gallwn ei wneud i nodi mwy o dir sector cyhoeddus sy’n addas ar gyfer tai.
Lywydd, mae ein rhaglen uchelgeisiol ar dai yn ymwneud â darparu tai fforddiadwy, saff, cynnes a diogel i bobl mewn cymunedau cynaliadwy. Mae darparu cartrefi newydd i Gymru yn ymrwymiad allweddol ar gyfer tymor y Cynulliad hwn. Nid wyf yn rhoi amcangyfrif rhy isel o’r heriau wrth gyflawni'r targed hwn. Fodd bynnag, rydym yn adeiladu ar ein perthnasau, sydd eisoes yn gryf, gan sicrhau bod adnoddau sylweddol ar gael a cheisio hwyluso datblygiad tai ar draws Cymru gyfan. Gyda'n gilydd, rwy'n hyderus, gyda’r camau hyn i helpu, y byddwn yn llwyddo.
Rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, mai grual braidd yn denau oedd hynny, â minnau’n disgwyl gwledd gyfoethocach o lawer. Erbyn hyn mae gennym eglurhad am yr hyn y mae 20,000 ychwanegol yn ei olygu. Eich targed yn y pedwerydd Cynulliad oedd 10,000 o gartrefi cymdeithasol; mewn gwirionedd gwnaethoch ychydig yn well na hynny. Eich targed ar gyfer y pumed Cynulliad yw 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Yn awr, yn ôl eich mathemateg chi, mae hynny’n 20,000 ychwanegol, sydd yn fy marn i, mae’n rhaid i mi ddweud, yn chwyddo’r ystadegau braidd yn ormod.
Fodd bynnag, nid dyna'r pwynt pwysicaf, a'r rheswm go iawn pam fy mod i mor siomedig. Mae'r Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod yr amcangyfrifon newydd o angen am dai a gyflwynwyd yn adroddiad yr Athro Holmans ‘Future Need and Demand for Housing in Wales’. Dyma’r adroddiad a noddir gennych chi’r Llywodraeth i wirio eich amcangyfrifon blaenorol. Gwnaed yr amcangyfrifon y gofynnwyd i'r Athro Holmans eu hadolygu yn 2010, ac roeddent yn seiliedig ar ddata 2006. Roedd yr amcangyfrifon hynny yn darparu amcanestyniad ar gyfer yr angen am dai a oedd yn is na'r duedd hirdymor. Dywedodd yr Athro Holmans y dylai’r newid sydyn hwn mewn polisi gael ei gwestiynu fel sail ar gyfer yr angen am dai yn y dyfodol, a dyna’r cwestiwn yr wyf unwaith eto yn ei ofyn i chi.
Polisi Llywodraeth Cymru yn y pedwerydd Cynulliad, fel y dywedais, oedd darparu 10,000 o gartrefi cymdeithasol. I fod yn deg, cafodd 11,500 eu cyflwyno mewn gwirionedd, felly rhagorwyd ar y targed. Fodd bynnag, roedd y cyflawniad hwnnw yn is nag amcanestyniad Llywodraeth Cymru o’r angen, a oedd yn 3,500 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn neu 17,500 dros y tymor o bum mlynedd. Felly, roedd hyd yn oed yr 11,500 yn fyr iawn o'ch amcanestyniadau, sydd eu hunain erbyn hyn wedi eu herio’n sylfaenol gan yr Athro Holmans.
Mae datganiad heddiw yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn awyddus yn awr i gyflawni ar yr hen amcangyfrifon hynny o oddeutu 3,500 o unedau cymdeithasol y flwyddyn—mewn gwirionedd, ychydig yn fwy, rwy’n meddwl, pan fyddwch yn gwneud y fathemateg. Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Cynulliad nad yw'r ystadegau diweddaraf yn galonogol iawn. Rydym yn disgwyl cael 2,792 ychwanegol o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn hon a 3,351 y flwyddyn nesaf—sy’n dal i fod islaw'r math o darged a fyddai’n fwy na 3,500 y flwyddyn er mwyn cyrraedd y 20,000 o dai yr ymrwymwyd iddynt erbyn hyn.
Wrth gwrs, y ffaith fwyaf arwyddocaol yn yr amcanestyniad a gyflwynwyd gan yr Athro Holmans oedd bod angen i ni ddarparu rhywbeth tebyg i 5,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn i geisio diwallu’r math o angen y gallwn ei ddisgwyl yn awr. Ac rwy'n ofni nad yw'n gam uchelgeisiol pan fyddwch chi’n gwrthod eich adolygiad eich hun, ac yna yn creu targed sy'n is o lawer na'r hyn y gallwn ei gymryd yn ganiataol sydd ei angen yn y sector tai. Ac rwy’n ofni bod y methiant hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn y nifer o gartrefi preifat y rhagwelir y byddant yn cael eu hadeiladu yn y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Yn syml, Weinidog, mae hyn yn golygu bod degau o filoedd o ddinasyddion Cymru—dros 60,000 ohonynt—yn ôl fy nghyfrifiadau i, y gwahaniaeth rhwng yr hen amcanestyniad a'r amcanestyniad newydd yr ydych chi newydd ei wrthod dros y cyfnod hyd at 2030 yw 66,000. Dyna'r nifer o bobl a fydd o bosibl heb gartref y gellid bod wedi ei ddarparu iddynt gan darged tai mwy uchelgeisiol. Ac ar ran y perchnogion a’r deiliaid tai posibl hynny, rwy’n gofyn: pam nad ydych chi’n bod yn wirioneddol uchelgeisiol ac, yn syml, pam yr ydych chi wedi gwrthod yr adroddiad rhagorol hwn?
Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod ac fel bob amser mae’n huawdl yn ei amcanestyniad o'r ffigurau y mae’n eu defnyddio. A gaf i awgrymu ei fod yn cymryd golwg arall ar y ddogfen sydd ganddo? Yn wir, nid ydym wedi gwrthod y ddogfen mewn unrhyw ffordd. Gadewch inni roi rhai ffeithiau i'r Aelod sydd newydd wneud cyfraniad.
Darparodd adroddiad y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, ‘Future Need and Demand for Housing in Wales', amcangyfrifon yn ddiweddar o anghenion tai a'r galw ar hyn o bryd a’r galw a ragwelir ar gyfer Cymru rhwng 2011 ac 2031. Yn seiliedig ar amcanestyniadau swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer y twf yn nifer yr aelwydydd—y prif amcanestyniad—roedd yr adroddiad yn amcangyfrif bod angen tua 174,000 o eiddo ychwanegol yng Nghymru rhwng 2011 a 2031, ac y byddai 100,000 yn sector y farchnad a tua 70,000 yn y sector cymdeithasol. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn gallu gwneud y fathemateg yn hynny o beth, ond mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o tua 8,700 o anheddau y flwyddyn yn ystod y cyfnod, a byddai 3,500 yn dai sector cymdeithasol. Mae ein hymrwymiad i 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn gwbl gywir ac nid dyma'r unig ffigur—nid dyma’r unig ffigur y byddwn yn ei ddefnyddio. Y ffigur o 20,000 yw ein hymrwymiad, ac mae yn uchelgeisiol. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gydnabod, er ein bod yn meddwl bod 10,000 yn uchelgeisiol yng nghyfnod olaf y Llywodraeth, bod cyflawni 11,500 mewn gwirionedd yn beth cadarnhaol iawn, ac roedd hynny dim ond oherwydd y gwaith a wnaethom gyda'n partneriaid. Rwy’n cymryd rhan o’r clod, ond rhan yn unig, oherwydd mewn gwirionedd pobl fel Cartrefi Cymunedol Cymru a'r awdurdodau lleol sydd eisoes yn dechrau datblygu eiddo yw'r bobl ar lawr gwlad sy’n cyflawni atebion o ran cartrefi yn ein cymunedau ledled Cymru.
Rwy'n siŵr bod yr Aelod, yn y bôn, yn croesawu'r ffaith ein bod yn dyblu'r targed o ran ein hamcanestyniadau tai fforddiadwy. Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon ar y dryswch ffigurau y mae’n ei ragamcanu yn parhau dros fisoedd lawer, rwy’n disgwyl—ni fyddwn yn disgwyl ddim llai gan yr Aelod—ond ni chymeraf unrhyw bregeth am adeiladu tai neu amddiffyn tai cymdeithasol yn unrhyw le yn y DU gan y Blaid Geidwadol, gyda'r parch mwyaf. Mae’r ffaith ein bod ni ar fin deddfu ar gyfer diddymu’r hawl i brynu yn brawf o’r ffaith ein bod ni’n gwerthfawrogi ein stoc yng Nghymru. Rydym yn gwerthfawrogi diogelu tai yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn gofyn i'r Aelod fyfyrio arno o safbwynt ei blaid ei hun. Y ffaith yw, lle'r ydym yn adeiladu cartrefi, byddwn yn eu diogelu—ac nid adeiladu un, fel yn Lloegr, a gwerthu saith i'r sector preifat. Nid y hynny’n gynaliadwy, ac mae’r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru yn rhywbeth gwahanol iawn. Dylem fod yn falch iawn o'n camau gweithredu wrth adeiladu tai yma.
Diolch yn fawr iawn a diolch ichi am y datganiad yma heddiw. Ni fyddem, yn amlwg, yn dadlau â’r ffaith bod targed o’r natur yr ydych wedi cyrraedd i'w groesawu, ond byddwn yn adleisio rhai o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â pha un a oes problem o ran y ffigur fel ag y mae. Rwy'n dweud hyn nid ar ran fy hunan yn unig—rwy’n ei ddweud oherwydd bos y sector wedi cyfleu hynny i mi. Wrth gwrs, bydd 6,000 o’r cartrefi hynny yn gartrefi Cymorth i Brynu ac yn amlwg, mae hynny er mwyn helpu pobl i brynu tŷ hyd at £300,000. Er y gall hynny fod yn arwyddocaol yn ne-ddwyrain Lloegr, nid yw hynny’n cymharu â fforddiadwyedd yma yng Nghymru, a byddwn yn awyddus i gael gwybod—gan fy mod yn newydd i’r briff hwn—a wnaeth unrhyw un o'ch gweision sifil ychydig o ymchwil i weld a fyddai ffyrdd o addasu’r sefyllfa Cymorth i Brynu yma yng Nghymru. Wrth gwrs, nid wyf yn gwybod am eich ardal chi, ond yn yr ardal lle’r wyf i’n byw, mae tŷ o £300,000 yn dŷ eithaf sylweddol o’i gymharu ag eraill sydd ar gael yng Nghymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n eithaf sylfaenol ar gyfer y ddadl sydd gennym o ran fforddiadwyedd.
Hoffwn hefyd rywfaint o eglurder i’r diffiniad hwnnw, unwaith eto ar ôl siarad â phobl yn y sector. Eich diffiniad chi o fforddiadwyedd yw:
Y rhai hynny nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored.
Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw syniadau fel Gweinidog—fel Ysgrifennydd y Cabinet—am amrywio'r diffiniad hwn mewn gwahanol rannau o Gymru. Er enghraifft, yng Nghastell-nedd, byddai fforddiadwyedd tŷ yn wahanol iawn i'r hyn sy’n fforddiadwy ym Mhenarth. Ac felly, mae cael y diffiniad eithaf eang hwnnw weithiau'n drysu trigolion pan fyddant yn cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori, oherwydd eu bod yn gwybod na fydd eu teuluoedd yn gallu fforddio'r diffiniad o dŷ fel y'i diffinnir gan Barratt Homes, dyweder, neu gwmni arall yn eu hardal hwy.
Byddwn yn chwilfrydig i ddarganfod mwy am y ffaith eich bod wedi dweud y byddech yn rhyddhau mwy o dir sector cyhoeddus a thir y Llywodraeth ar gyfer tai. Rwy'n credu y byddai'n ddiddorol i ni gael gwybod mwy o fanylion am hynny, oherwydd, wrth gwrs, weithiau mae dadleuon ynghylch ble y mae’r tir hwnnw, a sut wedyn y mae tai yn cael eu dosbarthu yn lleol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai o ddiddordeb imi gael gwybod mwy amdano, a hefyd ynghylch y cytundeb tridarn sydd gennych yn awr gyda Chartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi’r targed tai y byddwch yn ei gyflawni. Yn amlwg, roedd gennych y cytundeb hwn gyda Chartrefi Cymunedol Cymru o’r blaen, ond a allech ddweud wrthyf sut y maent yn dal i gadw eu statws fel 'cyfaill beirniadol y Llywodraeth' pan fyddant yn gweithio gyda chi ar y mater penodol hwn, oherwydd, wrth gwrs, mae angen i ni barhau i gael yr elfen graffu honno gan Gartrefi Cymunedol Cymru hefyd?
Rydych hefyd yn sôn yn eich datganiad bod cael tai o ansawdd da yn cynnig manteision i blant o ran iechyd ac addysg, ac ni fyddwn yn dymuno amau hynny, ond felly, hefyd, y mae sefydlogrwydd a pheidio cael eich troi allan a’ch symud. Felly, pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau bod yr elfen tai cymdeithasol o'r 20,000 o gartrefi hyn yn cael ei rhedeg gan sefydliadau nad ydynt yn defnyddio troi allan fel y dewis cyntaf, fel y gwelwyd mewn ymchwil diweddar gan Shelter Cymru.
A fy nghwestiwn arall fyddai hyn: efallai bod tai yn fforddiadwy ar adeg eu hadeiladu, ond os byddant yn glanio yn nwylo landlordiaid prynu i osod yn y pen draw, ni fyddant yn fforddiadwy am yn hir iawn. Felly, sut ydych chi'n sicrhau hirhoedledd y tai fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu, nid gan eich Llywodraeth, gan nad ydych chi’n adeiladu tai, fel y dywedasoch, ond gan bartneriaid yn y sector?
A maddeuwch i mi os nad wyf wedi darllen eich datganiad yn gywir, ond a allwch chi ddweud wrthym, drwy geisio diddymu'r hawl i brynu, yr ydym, wrth gwrs, yn ei gefnogi, pa elfen—? Sut mae hynny'n dod i mewn i'r ffigurau, oherwydd, wrth gwrs, bydd y Ceidwadwyr yn dweud, 'Wel, nid ydych yn adeiladu digon'? Ond, yn sicr, trwy ddiddymu'r hawl i brynu, byddai hynny'n bwydo i mewn i'r ystadegau tai cymdeithasol. A allwn ni gael deall sut y byddai hynny yn chwarae rhan yn hynny?
Mae fy nghwestiwn olaf yn rhywbeth, unwaith eto, yr oedd gennym mewn cyfarfod ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru a drefnwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Roeddent yn chwilfrydig i ddarganfod, gyda'r comisiwn seilwaith newydd, a fyddai tai yn rhan allweddol yn hynny o beth, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn meddu ar sgiliau yma yng Nghymru, mae gennym bobl sydd eisiau adeiladu mwy o dai. Sut y byddant yn chwarae rhan yn y comisiwn seilwaith, oherwydd rwy’n credu eu bod nhw’n ei weld yn fwy fel rhyw fath o brosiect seilwaith trafnidiaeth, yn hytrach na phrosiect seilwaith tai? Ac maent yn awyddus i fod yn rhan o'r sgwrs, mewn gwirionedd. Felly, pe gallech ateb y cwestiynau hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn am gwestiynau'r Aelod. Roedd llawer iawn ohonyn nhw, felly rwyf wedi ceisio eu taro nhw ar bapur fel yr oeddech chi’n eu codi. Y diffiniad o dai fforddiadwy: wrth gwrs, rwy’n cydnabod y mater lle bynnag yr ydych yng Nghymru, mae gwahanol elfennau a fydd yn cael effaith yno—mae cost atebion tai a marchnadoedd yn gyrru gwahanol brisiau a gwahanol anghenion, ond mae yna ddiffiniad o fforddiadwyedd yr ydym yn ei ddefnyddio. Soniais yn ystod fy natganiad, o ran cynllunio, y ceir diffiniad penodol iawn y byddem yn ystyried ei ddefnyddio o ran datblygiadau. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol o hynny, ond rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod mewn cysylltiad â’r diffiniad, a fyddai'n ddefnyddiol iddi yn ei phenodiad fel Gweinidog tai cysgodol.
Cartrefi Cymunedol Cymru—mae hi’n codi pwynt dilys iawn ynghylch sefyllfa cyfaill beirniadol Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n wirioneddol ddefnyddiol, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu o brofiad y cytundeb, a hefyd y ffordd y mae fy nhîm yn gweithio gyda'r sefydliad, yw bod llawer o atebion ganddynt i hyn hefyd. Felly, mae’n ymwneud, bron, â chydnabod bod gan Lywodraethau lawer o sgiliau, ond nid pob un ohonynt. Lle mae gennych arbenigwyr yn y sector, dylem ddefnyddio eu prosesau meddwl. A dyna pam y mae Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC, sy'n datblygu’r tai hyn, yn gallu rhoi cyngor pellach i ni, ac, ydynt, maen nhw yn feirniadol iawn lle mae angen iddynt fod, ond, mewn gwirionedd, mae gennym berthynas dda iawn ac rydym yn buddsoddi £1.3 biliwn o arian cyhoeddus mewn tai. Ac rwy’n meddwl ei fod yn ddefnyddiol iawn bod gennym drydydd parti yn edrych ar sut yr ydym yn gallu gwneud hynny mewn ffordd fwy ymarferol.
Rwy’n cytuno â’r Aelod yn llwyr ar y mater o warchod eiddo pan fyddwn yn eu cael mewn stoc, ac nid eu symud i'r farchnad prynu i osod. A dyna pam y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu’r hawl i brynu.
O ran manylion ar gyfer y 20,000 o gartrefi, nid yw mewn gwirionedd yn ychwanegu gwerth o ran ychwanegedd o fewn y nifer hwnnw, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw amddiffyn y stoc sydd gennym eisoes, a stoc y dyfodol a fydd yn fuddsoddiad. Felly, mae'n offeryn gwarchod o ran ein buddsoddiad tymor hir.
Mae Cymorth i Brynu yn bwynt pwysig a godwyd gan yr Aelod. Mae angen i mi edrych ar y ffigurau, ond rwy'n eithaf siŵr, pan gyflwynwyd y cynllun gennym, bod y cynllun, o ran Cymru a Lloegr—bod y trothwyon yn wahanol iawn. Rwy’n meddwl mai ein terfyn uchaf yw tua £300,000, ac rwy'n credu mai trothwy’r DU yw £0.5 miliwn. Ond byddaf yn edrych eto ar hynny—ac os ydw i'n anghywir, rwy’n ymddiheuro i gydweithwyr, ond byddaf yn edrych eto a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ar y broses honno. Rydym yn cydnabod hefyd fod yna wahaniaeth o ran y marchnadoedd, ac argaeledd eiddo yma.
Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yma yw cynnig cymysgedd o ddaliadaethau. Mae llawer o bobl yn ceisio cael mynediad at y farchnad dai, ar lefelau gwahanol iawn, boed yn dai cymdeithasol neu'r farchnad sector preifat. Ac mae rhwystrau ym mhob un o'r meysydd hynny, ac rydym yn ceisio creu sefyllfa lle y gallwn helpu pobl i symud i fod yn berchen ar dŷ—yn ffisegol neu mewn marchnad rentu, drwy dai cymdeithasol—beth sy'n iawn i’r bobl hynny.
O ran y Ddeddf Tai a gododd yr Aelod mewn cysylltiad â barn Shelter Cymru—byddaf yn ystyried hynny ymhellach. Byddai'n gas gennyf feddwl bod unrhyw un o'n sefydliadau yr ydym yn eu hariannu yn uniongyrchol yn y farchnad i droi pobl allan, fel cam cyntaf. Nid wyf yn credu ei bod yn iawn, yn foesol, ac felly byddaf yn ystyried hynny ymhellach wrth inni symud ymlaen.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Amcangyfrifir bod tua 20,000 o gartrefi yn sefyll yn wag yng Nghymru. Pe byddech yn dod â’r rhain yn ôl i ddefnydd, byddech yn cyrraedd eich targed ar gyfer y tymor. Rwy’n cydnabod yr addewid o ran gwariant, ond faint o'r £1.3 biliwn hwn mewn gwirionedd fydd yn cael ei wario ar gartrefi, a faint fydd yn cael ei wario ar weinyddu a faint fydd yn mynd i mewn i bocedi datblygwyr fel elw?
Mae cynlluniau adfywio ac adnewyddu yn cynnig gwell gwerth am arian, ac yn creu llawer mwy o gartrefi fesul punt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i adfywio ac adnewyddu cartrefi gwag, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu perchnogion ddod â’r eiddo hynny yn ôl i ddefnydd?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Cynllun cartrefi gwag—mae gennym gynllun cartrefi gwag cadarnhaol iawn, gyda dros 6,000 o unedau eisoes wedi eu dwyn yn ôl i ddefnydd. Mae anhawster—ac rwy’n cytuno â llawer o Aelodau yma—weithiau gall tai gwag fod yn falltod ar y gymuned ac maen nhw'n asedau gwerthfawr iawn, iawn os gallwn ni ddod â hwy yn ôl i fyny i’r safon. Yn aml, mae'n ffordd ratach o ddarparu ateb tai. Felly, rydym yn ymwybodol iawn o hynny. Rydym wedi ymrwymo i barhau’r cynllun cymorth i awdurdodau lleol i adeiladu ac i adnewyddu tai gwag, ond yn aml mae llawer o rwystrau cyfreithiol sy'n cael eu priodoli i symud i dai gwag. Ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny ac maent yn cynnig ateb gwych mewn llawer o ardaloedd, nid yn unig ym maes adfywio, ond o ran darparu tai. Felly, mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono, ac yn parhau i ddarparu cefnogaeth ar ei gyfer.
Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r cynnig ar gyfer y 20,000 o gartrefi fforddiadwy i bobl fyw ynddynt. Bydd diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael yn rhoi terfyn ar golli tai cyhoeddus i'w rhentu. Mae adeiladu cartrefi nid yn unig yn dda ar gyfer y bobl a fydd yn byw yn y cartrefi hyn, ond yn dda i economi Cymru a chael pobl i mewn i waith.
Mae gennyf dri chwestiwn i'r Gweinidog. Yn ogystal â datblygiadau preifat a datblygiadau gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae hefyd tai cyngor a thai cydweithredol i’w hadeiladu. Pa swyddogaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gweld ar gyfer tai cydweithredol? Gwelaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl adeiladu 500 o dai cyngor yn ystod y cyfnod. Mae hynny’n llai nag yr oedd cyngor Abertawe yn arfer ei adeiladu bob blwyddyn rhwng 1945 a 1979. Felly, rwy’n credu bod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol wrth adeiladu tai cyngor. Mae cyngor Abertawe wedi dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto, gyda'r rhai yn Milford Way eisoes yn cael eu hadeiladu a chais wedi’i wneud am ganiatâd cynllunio ar gyfer Rhyd-yr-Helyg. A fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar y datblygiad hwn? Gadewch i ni obeithio y gellir adeiladu llawer mwy o dai cyngor. Hefyd yn Abertawe, mae Cartrefi Hygrove yn datblygu 200 a mwy o dai fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol ar safle tir llwyd. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cefnogi'r defnydd o safleoedd tir llwyd ar gyfer y math hwn o ddatblygiad tai? A yw Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn meddwl ei fod yn syniad da i gael cymysgedd o dai cymdeithasau tai a thai cost isel yn hytrach na dim ond ei sefydlu mewn rhai ardaloedd?
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a'i gwestiynau. Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd. Mae'r mater o gwmpas tai cyngor a thai cydweithredol yn rhywbeth y byddwn yn mynd ar ei drywydd fel rhan o'n targed o 20,000. Yn wir, does dim ond ychydig wythnosau ers i mi fod yn etholaeth Mick Antoniw yn lansio cynllun tai cydweithredol llwyddiannus iawn, lle mae'r gymuned yn croesawu'r cyfle i fod yn berchen ar eu heiddo a datblygu'r cynlluniau o gwmpas hynny. Wrth gwrs, rwy’n talu teyrnged i Abertawe a chynghorau eraill fel fy etholaeth fy hun yn Sir y Fflint, lle maent eisoes yn dechrau adeiladu tai cyngor eto. Rwyf wedi ei gwneud yn glir drwy ddweud, lle mae gennym Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o ansawdd da, y dylem barhau i fuddsoddi yn y cynlluniau hynny, ond nid wyf yn gweld ddim rheswm, pam na ddylem fod yn buddsoddi mewn cynlluniau cyngor chwaith, ac rwyf wedi gofyn i fy nhîm edrych ar y cynnig hwnnw.
Mae’r mater safle tir llwyd a gododd yr Aelod gyda mi yn un pwysig—ynglŷn â deiliadaeth gymysg ar y rhain. Wrth gwrs, rwy’n cytuno â hynny. Ond dylwn ddweud hefyd—roeddwn ar fai i beidio ag ateb cwestiwn gan gyfraniad cynharach ynghylch materion tir y sector cyhoeddus. Rydym yn cyflwyno—rwy’n gweithio gyda'r Gweinidog seilwaith ar dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth a thir y sector cyhoeddus i weld sut y gallwn ddod ag arian at y bwrdd, a hynny heb fod yn gyfle ariannol bob amser, ond yn gyfle yn seiliedig ar y tir. Mae'n rhoi cyfle i ni i wneud yn iawn am rai o'r costau yn ogystal. Ond, fel arfer, gyda phob un o'r cynlluniau hyn, byddai'n rhaid iddynt fynd drwy'r broses gynllunio briodol, er mwyn rhoi cysur i'r Aelodau a ofynnodd gwestiynau yn gynharach.
Diolch yn fawr iawn. Suzy Davies, os gallwch fod yn gryno.
Diolch, Lywydd. Dau gwestiwn, un ohonynt nad yw’n anghyfarwydd i chi. Soniais yn y Cynulliad diwethaf am y posibilrwydd i chi siarad â landlordiaid mewn ardaloedd o orgyflenwad o HMOs er mwyn iddynt allu ystyried eu trosi i mewn i gartrefi mwy parhaol ar gyfer teuluoedd un a dwy ystafell wely, os gallaf eu galw yn hynny. Tybed pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ar y cynnydd ar hynny. Yn ail, Cymorth i Brynu: a ydych chi wedi ystyried ymestyn hyn i eiddo sy'n cael ei ddwyn yn ôl i ddefnydd, yn hytrach nag adeiladu o'r newydd? Oherwydd, yn amlwg, mae gennym nifer fawr o adeiladwyr bach yng Nghymru, a gallai rhai o'r rheiny gael eu hannog i gymryd prentisiaid pe byddai ganddynt y math o waith rheolaidd y gallai Cymorth i Brynu ei ddarparu, o ran adfer adeiladau yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau byr iawn hynny. HMOs: nid wyf wedi diystyru unrhyw beth o ran y cyfle i ddod â mwy o stoc yn ôl i'r farchnad. Y cyfle yw sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian a'r gwerth gorau ar gyfer ein cleientiaid. Felly, mae’r fargen gyda HMOs, neu drosglwyddo o HMOs i gymdeithasau tai, yn rhywbeth y gallem yn wir ei thrafod, ond mae'n rhaid iddo fod o werth i ni—i’r Llywodraeth ac i bwrs y wlad. O ran Cymorth i Brynu, nid problem gyda galw yw’r broblem gyda Chymorth i Brynu. Y broblem gyda Chymorth i Brynu yw rheoli'r cyfrifoldeb ariannol ynghylch hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, gallem agor y pot hwnnw. Rwy’n meddwl bod Aelod blaenorol a oedd yn eistedd ar eich meinciau yn arfer gofyn i mi yn rheolaidd pe gallem ddefnyddio Cymorth i Brynu ar gartrefi nad ydynt yn newydd. Roedd yn fater cyllidol yn ymwneud â rheoli’r cyllidebau sydd ar gael i ni ar gyfer y cynllun hwn, ac ar hyn o bryd tanysgrifir yn dda iddynt—y sefyllfa Cymorth i Brynu—o ran yr hyn yr ydym yn ei gyflenwi yn barod. Felly, nid ydym yn credu bod angen mwy o gynlluniau i ychwanegu at hynny i allu gwario'r arian ar Cymorth i Brynu fel ag y mae.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.