– Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef dadl gan Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ar ganser yr ysgyfaint, a galwaf ar Caroline Jones i gynnig y cynnig. Caroline Jones.
Cynnig NDM6128 Neil Hamilton, Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mis Tachwedd yn fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint.
2. Yn gresynu mai dim ond 6.6 y cant o gleifion Cymru a gaiff ddiagnosis o ganser yr ysgyfaint sydd yn dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis a bod Cymru yn llusgo y tu ôl i weddill y DU ac Ewrop o ran cyfraddau goroesi canser.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) gweithredu i wella cyfraddau pum mlynedd goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru;
(b) gwella gwasanaethau diagnostig a chyflymu mynediad at brofion diagnostig;
(c) sicrhau gwelliannau i ofal diwedd oes;
(d) sicrhau y caiff anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigol pobl ar gyfer gofal diwedd oes eu canfod, eu cofnodi, eu hadolygu, eu parchu a’u gweithredu; ac
(e) gwarantu y gall pawb sydd angen gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol gael gafael arnynt.
Rwy’n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint, a hoffwn i’r cynnig gael ei gynnig yn ffurfiol.
Yn ffurfiol? Nid ydych yn dymuno siarad?
Mae’n ddrwg gennyf, ydw, rwy’n dymuno siarad.
Iawn; mae’n ddrwg gennyf. Parhewch felly.
Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, nid wyf erioed wedi’i wneud o’r blaen. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi cyflwyno’r cynnig ger eich bron heddiw i nodi ei bod hi’n Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac i gydnabod, er bod cynnydd wedi’i wneud, fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn parhau i fod ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Canser yr ysgyfaint yw’r canser sy’n lladd fwyaf ledled y byd. Bob blwyddyn, mae mwy na 1.5 miliwn o bobl yn marw o ganser yr ysgyfaint. Yn y DU, mae un person yn marw bob 15 munud, ac erbyn y bydd y ddadl hon ar ben, bydd canser yr ysgyfaint wedi hawlio pedwar bywyd arall.
Yma yng Nghymru, mae canser yr ysgyfaint yn hawlio bywydau tua 2,000 o bobl bob blwyddyn, sef chwarter yr holl farwolaethau canser. Diolch i’r drefn, mae datblygiadau mewn diagnosteg a thriniaethau canser yn golygu nad yw cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint bellach yn ddedfryd farwolaeth awtomatig. Mae mwy a mwy o bobl yn goroesi, ond yn anffodus, nid oes digon.
Yn ddiweddar, lansiodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU ymgyrch, 25 erbyn 25, sy’n ceisio codi cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn y DU i 25 y cant erbyn 2025. Caiff yr ymgyrch ei chefnogi gan Cymorth Canser Macmillan, sy’n aelodau sefydlol, a chaiff ei chefnogi’n llawn gan grŵp UKIP yn y Cynulliad.
Mae ein cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd ymysg y gwaethaf yn Ewrop. Yn wir, yn yr astudiaeth ddiweddaraf ar draws Ewrop, roedd Cymru ar safle 28 o 29. Dim ond 6.6 y cant o gleifion canser yr ysgyfaint yng Nghymru sy’n dal yn fyw bum mlynedd ar ôl y diagnosis, o gymharu ag 16 y cant yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau ac wedi buddsoddi mewn gofal canser yng Nghymru. Mae cyfraddau goroesi canser yn gyffredinol wedi gwella, ac mae cynnydd wedi bod yn y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn ar gyfer canser yr ysgyfaint, ond mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn dal i lusgo ar ôl gwledydd eraill y DU a’n cymheiriaid Ewropeaidd.
Yn syml, nid ydym yn gwneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint yn ddigon cynnar. Yng Nghymru, 12 y cant yn unig o gleifion canser yr ysgyfaint sy’n cael diagnosis yn ystod camau cynnar y clefyd. Mae’r mwyafrif llethol o gleifion yn cael diagnosis yn ystod cam 3 neu gam 4, sy’n lleihau eu gobaith hirdymor o oroesi yn sylweddol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU arolwg, a gwelwyd mai mynediad at brofion ymchwiliol ac atgyfeirio sy’n peri fwyaf o oedi o hyd rhag cael diagnosis cyflym, gyda 36 y cant o’r cleifion a holwyd yn aros dros fis i gael diagnosis pendant ar ôl amheuaeth gychwynnol o ganser, ac 17 y cant yn aros dros ddau fis. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella mynediad at brofion diagnostig, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy.
Cynhaliodd Cancer Research UK astudiaeth o wasanaethau canser yng Nghymru, a gwelsant fod problemau gyda chapasiti diagnostig yn peri oedi cyn bod rhai cleifion yn cael diagnosis pendant, ac felly cyn dechrau triniaeth. Gwelsant hefyd fod amrywio ym mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion diagnostig. Yn ôl Cancer Research UK, mae angen ymchwilio ymhellach i ddeall y capasiti sydd ei angen o ran gweithlu a chyfarpar i ateb y galw. Bydd y cynnydd yn nifer yr achosion o ganser, yn ogystal â phenderfyniad y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ostwng y trothwy atgyfeirio pan fo amheuaeth o ganser, yn cynyddu’r galw am brofion diagnostig yn y blynyddoedd i ddod.
Argymhellodd Cancer Research UK y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o gyflwr mynediad uniongyrchol at brofion diagnostig ar gyfer meddygon teulu. Fodd bynnag, un o’r rhwystrau mwyaf i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint o hyd yw diffyg ymwybyddiaeth ymysg cleifion. Mewn arolwg diweddar o gleifion canser yr ysgyfaint, 27 y cant yn unig o gleifion a aeth i weld eu meddyg oherwydd eu bod wedi sylwi eu bod yn profi arwyddion a symptomau o ganser yr ysgyfaint. Nid oedd dros 40 y cant o’r cleifion yn gwybod fod poen yn y frest, colli pwysau a blinder yn symptomau posibl o ganser yr ysgyfaint. Dyma pam fod dadleuon fel yr un rydym yn ei chael heddiw a digwyddiadau fel Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint mor hanfodol. Mae’n rhaid i ni wneud popeth a allwn i gynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau canser yr ysgyfaint ymhlith cleifion.
Yr haf hwn, am y tro cyntaf, cynhaliodd y GIG yng Nghymru ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint. Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am gymryd y cam hwn. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gynnal yr ymgyrch hon bob blwyddyn. Mae Lloegr wedi bod yn cynnal yr ymgyrch ers 2010 ac wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer y cleifion sy’n cael diagnosis ar gam 1. Efallai mai dyma pam y mae Lloegr wedi bod mor llwyddiannus yn cynyddu ei chyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd, sydd wedi dyblu bron ers 2004 i ychydig dros 16 y cant.
Mae diagnosis cynnar yn un o’r pethau y mae’n rhaid i ni eu gwella yma yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod cleifion, ar ôl cael diagnosis, yn cael y lefel orau posibl o ofal. Dangosodd arolwg profiad cleifion canser Cymru yn ddiweddar fod pobl sydd â chanser yr ysgyfaint wedi cael profiadau gwaeth na phobl sydd â mathau eraill o ganser. Nid oes gan un o bob 10 o gleifion Cymru fynediad at nyrs glinigol arbenigol. Mae Macmillan Cymru wedi galw am well cymorth pan fydd pobl yn cael diagnosis ac yn aros am driniaeth ar gyfer canser yr ysgyfaint. Maent hefyd wedi gofyn i ni sicrhau bod pawb sy’n cael diagnosis yn cael eu hanghenion wedi’u hasesu a’u cynnwys mewn cynllun gofal ysgrifenedig, fel yr amlinellir yn y cynllun canser cyfredol.
Mae adroddiad Cynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y safonau canser cenedlaethol presennol ar gyfer Cymru, y dylid eu diweddaru wedyn ar sail yr argymhellion a ddarperir; adolygu gwasanaethau diagnostig ar gyfer canser yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ganser yr ysgyfaint; sicrhau bod gan bob claf fynediad at nyrs profion clinigol canser yr ysgyfaint ym mhob agwedd ar eu gofal; a gweithio gyda chyrff eraill i asesu a mynd i’r afael ag amrywiadau lleol mewn triniaeth canser yr ysgyfaint. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen â’r argymhellion hyn. Hyd yn oed pe baem yn cyflawni 25 erbyn 25, mae’r rhan fwyaf o gleifion canser yr ysgyfaint yn marw o’r clefyd o hyd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y cleifion nad ydynt yn goroesi yn marw gydag urddas. Mae’n ffaith drist mai 46 y cant yn unig o’r rhai a fu farw o ganser a gafodd ofal lliniarol arbenigol.
Canfu arolwg Marie Curie diweddar nad yw saith o bob 10 o bobl sydd â salwch terfynol yn cael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt. Os yw’r tueddiadau presennol yn parhau, bydd 7 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gyda chanser erbyn 2030 a bydd nifer y bobl sy’n marw yng Nghymru yn cynyddu 9 y cant. Rydym yn gwybod nad yw oddeutu 6,200 o bobl sy’n marw bob blwyddyn yn cael y gofal lliniarol sydd ei angen arnynt, ond ffigurau Marie Curie yw’r rhain—nid ffigurau’r GIG ac felly nid ydynt yn bwydo i mewn i gynllunio’r gweithlu.
Yn Lloegr, mae’r GIG yn cynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth, o’r enw ‘VOICES’, sy’n dangos lefel y gofal a’r gefnogaeth a roddir i deuluoedd ar ddiwedd bywydau eu hanwyliaid. Nid ydym yn cynnal yr arolwg hwn yng Nghymru. Os ydym am sicrhau y gall pawb sydd angen gofal lliniarol arbenigol ei gael a’n bod am sicrhau y gellir nodi, dogfennu, adolygu, parchu a gweithredu ar anghenion, blaenoriaethau a dewisiadau unigolion ar gyfer gofal diwedd oes, yna mae’n rhaid i ni gynnal arolwg o’r bobl sydd wedi cael profedigaeth yma yng Nghymru.
Yn olaf, hoffwn fynd i’r afael â’r gwelliannau. Byddwn yn cefnogi dau welliant y Ceidwadwyr Cymreig. Mae’n destun gofid fod cynnydd amlwg wedi bod yn nifer y menywod sydd â chanser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau achosion mewn dynion un rhan o dair yn uwch na menywod bellach, o gymharu â dwbl 10 mlynedd ynghynt. Fodd bynnag, rwy’n eich annog i wrthod gwelliannau Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Nid ydym yn beirniadu Llywodraeth Cymru na’r diffyg buddsoddiad. Oes, mae cynnydd wedi’i wneud, yn enwedig mewn cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn, ond mae llawer iawn mwy y gallwn ei wneud. Y prif reswm dros gynnal y ddadl hon heddiw yw codi ymwybyddiaeth o’r materion a gweithio gyda’n gilydd i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint.
Ni ddylai Cymru fod yn safle 28; dylem fod yn arwain y ffordd. Mae gennym wasanaeth iechyd gwych gyda staff hynod o ymroddedig; gadewch i ni roi’r adnoddau iddynt wella gofal canser. Gadewch i ni sicrhau fod pawb sydd â chanser yr ysgyfaint yn cael diagnosis cynnar a thriniaeth briodol. Gadewch i ni sicrhau hefyd fod gan bawb sydd ei angen fynediad at ofal lliniarol arbenigol a sicrhau y gall pawb farw gydag urddas pe bai’r amser yn dod. Rwy’n eich annog i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod y gwelliant sylweddol yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint am flwyddyn yng Nghymru a’r fenter canser yr ysgyfaint sy’n cael ei darparu fel rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.
Yn croesawu’r £240m o fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft ddiweddar, gan gynnwys £15m ychwanegol ar gyfer cyfarpar diagnostig a £1m ar gyfer gofal diwedd oes.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ymhellach a’r bwriad i wneud y canlynol:
a) cyhoeddi diweddariad o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser erbyn diwedd mis Tachwedd 2016 a pharhau i ganolbwyntio ar wella canlyniadau canser yr ysgyfaint;
b) cyhoeddi diweddariad o’r cynllun Gofal Diwedd Oes erbyn diwedd mis Ionawr 2017;
c) parhau i weithio’n agos gyda Chynghrair Canser Cymru i ddatblygu gwasanaethau canser yng Nghymru a gyda hosbisau ar ofal diwedd oes.
Yn ffurfiol, Gadeirydd.
Diolch. Galwaf ar Angela Burns i gynnig gwelliannau 2 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gymryd rhan yn y ddadl hon a gyflwynwyd gan UKIP heddiw. Hoffwn gynnig gwelliant 1 a gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Mae gwelliant 2 yn gresynu at y ffaith fod nifer cleifion benywaidd canser yr ysgyfaint wedi cynyddu dros draean yn ystod y degawd diwethaf. Yn wir, mae’r gyfradd ar gyfer menywod yng Nghymru ymhlith yr uchaf yn Ewrop ac wedi dringo o 54.8 y cant o achosion ym mhob 100,000 i 69.2 y cant, sydd, yn ôl safonau unrhyw un, yn naid eithaf sylweddol. Rydym hefyd yn cynnig gwelliant 4, sy’n gofyn i Lywodraeth Cymru wella mynediad at sgrinio, addysg ac ymwybyddiaeth.
Nawr, yng ngwelliant Llywodraeth Cymru i’r cynnig hwn, nodaf, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi crybwyll bod yna £1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes. A gaf fi ofyn i chi egluro a yw hwnnw’n unig ar gyfer canser yr ysgyfaint, ar gyfer gwasanaethau canser, neu ar gyfer gofal diwedd oes yn gyffredinol ac a fyddai’n cynnwys oedolion a phlant, oherwydd, wrth gwrs, byddai hynny’n dangos faint o arian y byddem yn meddwl ei fod yn dod i bobl sy’n dioddef â chanser yr ysgyfaint? Yn y gwelliant, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych hefyd yn sôn am y cynllun cyflawni ar gyfer canser a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn egluro pa bwyslais, yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser ar ei newydd wedd, fydd yn cael ei roi ar ganlyniadau canser yr ysgyfaint, oherwydd, fel y dywedodd Caroline Jones mor fedrus, mae mwy o farwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i ganser yr ysgyfaint na chanser y fron a chanser y coluddyn gyda’i gilydd, ac eto mae’n achos llawer llai adnabyddus o ran codi arian ar gyfer ymchwil.
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn dadlau y dylid rhoi triniaeth arbennig i ganser yr ysgyfaint—dim o gwbl. Fodd bynnag, gan ei fod yn achos salwch mor enfawr, yn enwedig mewn pobl o ardaloedd llai cyfoethog, mae’n haeddu cael ei drin yn deg. Mae angen i ni gael gwared ar y stigma mai clefyd ysmygwyr yw canser yr ysgyfaint. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd ac yn y proffesiwn meddygol i sicrhau diagnosis cynnar gwell a fyddai’n sicrhau gwell cyfraddau goroesi. Fel y dywedodd Caroline eisoes, mae cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yng Nghymru ymysg yr isaf yn Ewrop, ac eto gellir goroesi cam 1 canser yr ysgyfaint os ceir diagnosis yn ddigon cynnar.
Yn anffodus, mae loteri cod post yn bodoli gyda diagnosis o ganser yr ysgyfaint. Mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint cam 1 y gellid ei drin yn 90 y cant yn ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru ac mae hynny’n rhywbeth i’w gymeradwyo ac yn rhywbeth i fod yn ddiolchgar iawn amdano. Eto i gyd, os ydych yn berson tlawd, os ydych yn byw yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, mae eich gobaith o oroesi canser yr ysgyfaint yn gostwng i 74 y cant yn unig. Mae hwnnw’n fwlch anferth—yn rhaniad anferth—rhwng y rhai sy’n fwy cefnog a’r rhai sy’n llawer mwy difreintiedig. Y cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yw’r rhai isaf yn y DU a’r ail isaf yn Ewrop.
Gall diagnosis cynnar sicrhau canlyniad hynod o wahanol. Rwyf am ddweud stori fach wrthych am rywun sydd wedi bod yn gohebu â mi. Roedd ei wraig yn ddigon ffodus i gael diagnosis cynnar oherwydd, fel y dywedodd, roedd y meddyg teulu’n meddwl y tu allan i’r bocs ac felly cafodd driniaeth yn gyflym. I gychwyn, cafodd ei wraig ddiagnosis terfynol—peth ofnadwy, o ystyried nad oedd hi ond yn 43 mlwydd oed. Ond ymatebodd yn wych i radiotherapi, cafodd oncolegydd rhagweithiol a ddaeth o hyd i lawfeddyg gwych a daeth yr hyn nad oedd yn llawdriniadwy yn llawdriniadwy. Ar hyn o bryd, mae’r sganiau, 18 mis yn ddiweddarach, yn glir. Rwy’n rhannu’r stori hon, am ei fod yn dweud, ‘Rwy’n fedrus am ddefnyddio’r rhyngrwyd; gwthiais i gael triniaeth; telais am sganiau yn Lloegr a threuliais lawer o amser yn dilyn cadwyni papur y GIG i ddod o hyd i’r driniaeth gywir neu’r arbenigwr cywir, a chefais gefnogaeth ragorol gan Sefydliad Canser yr Ysgyfaint Roy Castle’. Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes llawer o bobl sydd mor lwcus â’r dyn hwn a’i wraig.
Y trydydd pwynt rwy’n awyddus iawn i sôn amdano—. Rydym wedi siarad am gael gwared ar y stigma, rydym wedi siarad am bwysigrwydd diagnosis cynnar yn arwain at gyfraddau goroesi gwell, ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr, mae angen i ni weld cyfran fwy o gyllid ymchwil yn mynd tuag at ganser yr ysgyfaint. Mae canser yr ysgyfaint yn cyfrannu at 22 y cant o’r holl farwolaethau canser, ond 7 y cant yn unig o gyfanswm yr arian ymchwil canser y mae’n ei gael. Yn sicr, dyma anghydraddoldeb arall eto y mae angen i ni geisio ei unioni i atal pobl mewn ardaloedd tlotach rhag bod yn fwy tebygol o farw ohono, a rhoi mwy o arian ymchwil tuag at yr achos llai ffasiynol hwn, achos ysmygwyr, gyda’r stigma hwnnw ynghlwm wrtho, ac eto, achos sy’n lladd mwy o bobl yng Nghymru na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda’i gilydd.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 3 a gyflwynwyd yn ei enw ei hun.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu, heb os, yng Nghymru o ran triniaeth canser. Mae yna bobl yn goroesi heddiw na fyddai wedi gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwil blaengar yn digwydd yn ein prifysgolion ni, ond mae yna gymaint o le i wella. Mae amseroedd aros afresymol o hir am brofion diagnostig yn broblem sydd wedi bodoli ers blynyddoedd. Mae hynny wedi cyfrannu at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Rydym ni’n gwybod hefyd mai darlun cymysg iawn ar y gorau sydd yna o ran gofal diwedd bywyd, ac rydym ni’n nodi’r ddau faes yna fel meysydd blaenoriaeth yn ein gwelliant byr ni heddiw.
Er fy mod i’n cytuno efo llawer o’r hyn sydd yn y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno gan y Llywodraeth Lafur, allwn ni ddim gefnogi y geiriad fel ag y mae o. Efo Cymru yn rhif 28 mewn tabl o 29 gwlad Ewropeaidd, fel rydym ni wedi’i glywed, o ran cyfraddau goroesi, nid ydw i’n credu y gall y Llywodraeth fod yn sôn mewn gwirionedd am welliant sylweddol. Mae cyfraddau goroesi yn gwella yn gyffredinol ar gyfer canser. Mae hynny’n adlewyrchu gwelliannau mewn triniaeth, ac mae’n adlewyrchu gwaith caled gan feddygon a gan nyrsys, a hynny ar draws Ewrop i gyd. Y gwir amdani yma yng Nghymru ydy bod diagnosis yn dal i ddigwydd yn rhy hwyr mewn gormod o achosion, a bod cyfraddau goroesi yn is yma na mewn gwledydd sydd â chyfraddau llawer iawn uwch o bobl sydd yn ysmygu.
Wrth gwrs, allwn ni ddim sôn am ganser yr ysgyfaint heb sôn am ysmygu. Mae’n werth nodi yn fan hyn, rwy’n meddwl, bod arweinydd interim y blaid sydd wedi cyflwyno’r cynnig yma heddiw wedi gwadu, mae’n debyg, y cysylltiad yma rhwng ysmygu a chanser, ac wedi dweud ‘doctors have got it wrong’. Mi allwn ni ddewis, os ydym ni’n dymuno, anwybyddu y sylwadau hynny a’u gweld nhw fel ymgais i ddenu sylw a dim byd arall, ond mae yna bwynt difrifol iawn iawn yn fan hyn. Mi wnaeth y diwydiant tybaco dreulio degawdau a gwario miliynau lawer yn gwadu bod eu cynnyrch nhw yn lladd pobl, mewn modd tebyg i beth welwn ni efo gwadwyr newid hinsawdd heddiw, fel rydym ni wedi cael enghraifft arall ohono eto gan y blaid gyferbyn yma yn y Cynulliad. O ganlyniad, mi gymerodd y neges am ysmygu a chanser lawer hirach i dreiddio i feddyliau y cyhoedd. Mi oedd yna oedi llawer gormod cyn i lywodraethau weithredu, a’r canlyniad oedd bod miliynau o bobl wedi colli eu bywydau yn y cyfamser. Mae’n dal i ddigwydd mewn rhai gwledydd lle mae’r lobi tybaco yn dal i allu prynu dylanwad. Felly, pan fo gwleidydd amlwg yn dweud pethau fel hyn, mae’n tanseilio yr ymdrechion i atal canser ac yn peryglu bywydau, ac mi ddylai’r blaid gyferbyn ystyried hynny, ynghyd â’u hagweddau tuag at wyddoniaeth ac at arbenigwyr yn gyffredinol.
Mae’r niferoedd sy’n ysmygu wedi gostwng, wrth gwrs, ac yn debyg iawn, gobeithio, o ostwng ymhellach, ond mae wedi cymryd degawdau i gyrraedd at y pwynt yma, ac os gwnewch chi faddau i fi am eiliad i fynd ar ychydig bach o ‘tangent’, mae yna wers, rydw i’n meddwl, y gallwn ni ei dysgu o hynny ar gyfer gordewdra a phroblemau eraill sy’n cael eu gweld yn aml fel problemau sy’n deillio o ffordd o fyw. Y wers ydy allwn ni ddim dim ond dweud wrth bobl i newid eu ffordd o fyw; mae’n rhaid i ni eu helpu nhw i wneud hynny. Nid yw pŵer ewyllys yn aml yn ddigon yn ei hun i alluogi rhywun i roi’r gorau i ysmygu. Mae angen help patsys neu, ie, e-sigarennau i roi’r gorau iddi, a chamau fel trethiant uwch, gwaharddiadau ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus er mwyn dad-normaleiddio ac yn y blaen. Efallai y dylem fod yn meddwl am ordewdra yn yr un ffordd. Nid yw ewyllys a phŵer ewyllys ddim yn ddigon i daclo gordewdra ym mhob achos—mae angen help. Mae angen i Lywodraethau weithredu.
Yn ôl at yr hyn rydym ni’n ei drafod heddiw, mi ddylem ni hefyd, wrth gwrs, gofio bod canser yr ysgyfaint yn taro pobl sydd ddim yn ysmygu ac erioed wedi ysmygu. Mae’r Ceidwadwyr wedyn yn tynnu sylw at ferched yn benodol yn eu gwelliant nhw, gwelliant 2. Yn sicr, mi wnawn ni gefnogi’r gwelliant hwnnw ac mi gefnogwn ni welliant 4 hefyd. Mae codi ymwybyddiaeth a brwydro’r stigma y cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr ato fo yn bethau mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw. Beth bynnag ydy achos yr afiechyd, pwy bynnag sydd yn dioddef, mae pob un ohonom ni, rydw i’n gobeithio, yn gytûn mai cynnig y gofal gorau posib ydy’r nod ac anelu at y diwrnod lle byddwn ni mewn gonestrwydd yn gallu dweud ein bod ni wedi ennill tir sylweddol yn y frwydr yma.
Mae’r ffaith fod gwelliant wedi bod mewn cyfraddau goroesi ar ôl blwyddyn yn amlwg yn rhywbeth i’w groesawu, ond mae ystadegau cyfraddau goroesi cleifion canser yr ysgyfaint ar ôl pum mlynedd yn tynnu oddi ar y llwyddiant hwnnw i raddau helaeth. Mae’n syfrdanol fod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yng Nghymru yn llusgo mor bell ar ôl y cyfraddau yng ngweddill y DU. Mae diagnosis cynnar yn allweddol. Mae angen torri amseroedd aros i weld ymgynghorwyr i gael profion a chael asesiadau ar gyfer triniaeth a hynny ar frys. Rwy’n cydnabod y cyllid ychwanegol i’r GIG yng Nghymru a gynigiwyd yn y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, ni ddaw’r cronfeydd hyn â budd go iawn i gleifion canser oni bai eu bod yn cael eu gwario ar staff rheng flaen ychwanegol yn hytrach na mentrau ffansi, siopau siarad a staff ystafell gefn anfeddygol.
Er bod gofal diwedd oes yn hynod o bwysig i unrhyw glaf sydd â salwch terfynol, y nod yn amlwg yw cadw cleifion canser yn fyw yn y lle cyntaf fel nad oes arnynt angen y math hwnnw o ofal diwedd oes. Ni all cynigion y Llywodraeth yn hyn o beth, ni waeth pa mor dosturiol ydynt, fynd i’r afael â chyfraddau goroesi gwael cleifion canser.
Edrychwn ymlaen at weld manylion cynllun cyflawni’r Llywodraeth ar gyfer canser ar ei newydd wedd, ac edrychwn ymlaen yn arbennig at weld a yw’r cynllun hwnnw’n cynnwys meddwl arloesol neu a fydd yn ailwampiad o bethau y rhoddwyd cynnig arnynt eisoes. Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y seilwaith yn ei le i gefnogi gweithwyr proffesiynol meddygol yn eu hymdrechion i gynyddu cyfraddau goroesi yng Nghymru. Nid wyf am un eiliad yn meddwl bod y canlyniadau gwael hyn wedi’u hachosi gan ddiffyg tosturi ar ran Llywodraeth Cymru nag unrhyw un yn y Siambr hon na thrwy esgeulustod ar ran ein staff meddygol. Fodd bynnag, mae’n amlwg nad yw ein strategaeth hyd at yn awr yn gweithio. Mae’n bryd cael syniadau newydd, dychmygus a phragmatig ar ran Llywodraeth Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed ei chynigion newydd maes o law.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae canser yr ysgyfaint yn her enfawr i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fel y mae ar draws y DU a ledled y byd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cofio y gellir gwneud cynnydd a bod cynnydd yn cael ei gyflawni. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych yn ôl ar y cyfraddau goroesi ar gyfer mathau eraill o ganser. A ydych yn cofio sut roedd hi ar ganser y fron heb fod cymaint â hynny’n ôl? Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer canser y fron wedi gwella’n ddramatig. Mae pob cam bach sy’n cael ei gymryd gyda chanser yr ysgyfaint yn mynd â ni gam yn agosach at gael cyfraddau goroesi llawer gwell. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol fod llawer o ganserau bellach wedi datblygu i fod yn glefydau cronig, fod llawer o bobl yn byw gyda chanser, a dyna’r sefyllfa rwy’n credu y dylem symud tuag ati, ac rydym yn symud tuag ati, gyda chanser yr ysgyfaint.
Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan ganser Felindre yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth, ac maent wedi tynnu fy sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gyda’r triniaethau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint a’r gwelliannau a ddaeth yn sgil ymchwil a thrwy gael mynediad at brofion clinigol cenedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig cofio hefyd, pan fyddwn yn sôn am ganser yr ysgyfaint, fod yna wahanol fathau o ganser yr ysgyfaint. Ond mae enghreifftiau o’r triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint, a fydd ar gael yng Nghymru dros yr ychydig fisoedd nesaf ar gyfer y gwahanol fathau o ganser yr ysgyfaint, yn cynnwys crizotinib, a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Medi 2016, a chymeradwywyd osimertinib gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru ym mis Hydref. Fis diwethaf yn unig oedd hynny; mae’r rhain yn gymeradwyaethau diweddar iawn. Mae triniaeth gynnal pemetrexed bellach wedi cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Awst, a bydd hwnnw ar gael gennym yn fuan. Felly, mae’n gyffrous iawn fod gennym y datblygiadau newydd hyn ar gyfer triniaeth.
Mae cleifion yn Felindre hefyd yn elwa o gael mynediad at brofion clinigol a mwy o gyfleoedd i gael triniaethau megis y prawf clinigol Matrix, sy’n ymwneud â chyflwyno meddyginiaeth bersonol wedi’i thargedu, yn seiliedig ar gynnal profion genetig ar eu canser. Mae’r rhain i gyd yn ddatblygiadau sy’n digwydd yn gyflym iawn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu manteisio arnynt, fel y gwn ein bod, a chyda’r gronfa driniaeth newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi, bydd mynediad at gyffuriau newydd yn sicr yn haws.
Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig dweud ein bod yn gwneud gwaith ymchwil eithriadol yng Nghymru. Roeddwn am dynnu sylw at rywbeth sydd wedi digwydd yn Felindre yn fy etholaeth. Mae myfyrwyr PhD o Felindre wedi cyflawni ymchwil sydd wedi arwain at brofion DNA di-gell ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint, sy’n defnyddio profion gwaed yn lle biopsïau. Cynhelir profion ar gleifion o Loegr yn ogystal â chleifion o Gymru yng Nghaerdydd, yn y ganolfan eneteg ranbarthol. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig; nid ydym am fychanu ein hunain. Mae’r pethau gwirioneddol arloesol hyn yn digwydd yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny.
Felly, ceir datblygiadau calonogol, ond rydym i gyd yn gwybod mai’r mater allweddol yw atal a diagnosis cynnar, a rhoddwyd sylw da i hynny yma heddiw. Rwy’n credu ein bod yn derbyn bod cysylltiad rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint, ac rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei gwaith i leihau ysmygu ac i atal pobl ifanc rhag dechrau yn y lle cyntaf, oherwydd credaf fod hynny’n hanfodol—ac i’w hamddiffyn rhag mwg ail-law. Rwy’n credu bod y ddeddfwriaeth a gyflawnwyd yn y meysydd penodol hyn wedi bod yn hollol arloesol. Mae wedi trawsnewid y gwasanaeth iechyd yn fawr. Rwy’n arbennig o falch ei bod yn anghyfreithlon, ers 1 Hydref 2015, i ysmygu mewn cerbydau preifat os oes rhywun o dan 18 oed yn bresennol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Fil iechyd y cyhoedd, pan fydd ysmygu sigaréts, fel y gwyddom, yn cael ei gyfyngu ymhellach mewn parciau, ar dir ysbytai a mannau eraill. Mae hyn i gyd wedi digwydd gyda chytundeb a chefnogaeth y cyhoedd.
Felly, rydym wedi bod yn gweithio ar atal. Mae angen i ni gael diagnosis cynnar, ac rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi gweld lansio ymgyrch Bod yn Glir am Ganser i helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint drwy wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt. Felly, mae llawer o waith ar y gweill, ac fe hoffwn ddirwyn i ben, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad mawr i ddatblygu’r ganolfan driniaeth canser newydd yn Felindre, lle y mae llawer iawn o gyfalaf yn mynd i mewn i sicrhau y bydd y math o wasanaethau y byddwn yn gallu eu cynnig i bob claf canser, gan gynnwys cleifion canser yr ysgyfaint sy’n gorfod mynd i’r ysbyty fel cleifion mewnol, yn driniaeth o’r radd flaenaf.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i gyfrannu. Vaughan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am gyflwyno’r ddadl hon ac am helpu i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at fis ymwybyddiaeth canser yr ysgyfaint. Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr effaith y mae canser yr ysgyfaint yn ei gael ar unigolion a’u teuluoedd. Fel sydd wedi cael ei gydnabod heddiw, mae canser yr ysgyfaint yn lladd mwy o bobl na chanser y coluddyn a chanser y fron gyda’i gilydd. Dyma’r canser sydd â’r gyfradd farwolaethau uchaf wedi’i safoni yn ôl oedran o bob math o ganser, ac mae’r bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r ardaloedd lleiaf difreintiedig wedi ehangu mewn gwirionedd. Fodd bynnag, nid yw’r cynnig yn ystyried y data diweddaraf, sy’n dangos bod cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl blwyddyn wedi cynyddu draean mewn menywod a bron i chwarter mewn dynion. O ystyried cyfradd marwolaethau uchel a chyflym canser yr ysgyfaint, a’r anhawster i wneud diagnosis, sydd wedi cael ei gydnabod mewn rhai cyfraniadau heddiw, yn ystod ei gamau cynharaf a mwyaf triniadwy, mae hwn mewn gwirionedd yn llwyddiant go iawn i’w gydnabod, ac i adeiladu ar y cyfraddau goroesi uwch hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn wir, wrth ymdrin â heriau gwneud diagnosis yn ystod y camau cynharach a thriniadwy, rhan o’r her yw ei fod yn anodd ei ganfod. Rhan o’r her fawr wrth wella cyfraddau goroesi mewn gwirionedd yw cael diagnosis a’i ganfod yn gynharach. Dyna pam ein bod wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd y trydydd sector i godi ymwybyddiaeth o hyn ac yn arbennig, gyda phartneriaid mewn gofal sylfaenol. Gall y symptomau cynnar gynnwys peswch parhaus, peswch gwaed, diffyg anadl parhaus, blinder a cholli pwysau anesboniadwy a dolur neu boen wrth anadlu neu besychu. Felly, mae ymwybyddiaeth o’r symptomau hyn a cheisio cymorth os ydynt yn digwydd yn rhan allweddol o godi ymwybyddiaeth a gwella diagnosis cynharach.
Ar bwynt o eglurder, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n sylweddoli bod y cyfraddau goroesi mewn menywod wedi cynyddu os ydynt wedi cael diagnosis yn ddigon cynnar, ond yn gyffredinol, oni fyddech yn cytuno bod mwy o fenywod bellach yn dioddef ac yn cael canser yr ysgyfaint nag yn y gorffennol?
Yn wir. Rydym yn cydnabod bod mwy o bobl yn cael eu trin a bod mwy o bobl yn cael diagnosis o ganser, a dyna’r realiti. Mae’n rhywbeth am y boblogaeth sydd gennym, ac mae hefyd yn ymwneud â bod mwy o gydnabyddiaeth i’r ffaith fod pobl yn cael diagnosis yn ddiweddarach mewn bywyd nag y byddent fel arall. Rydym yn cydnabod nad ni yw’r unig wlad ôl-ddiwydiannol gyda phoblogaeth sy’n heneiddio i fod â phroblem gyda chanser yr ysgyfaint. Fodd bynnag, mae cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint yn gymharol wael o gymharu â llawer o ganserau eraill yn y rhan fwyaf o wledydd, ond ein huchelgais, fel y nodir yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser, yw cau’r bwlch rhyngom ni a’r gorau yn Ewrop. Rydym yn cydnabod nad ydym yno ar hyn o bryd.
Mae cynllun canser 2013 yn cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gan rwydwaith canser Cymru, a byddaf yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi cynllun newydd erbyn diwedd y mis. Mae gwelliant y Llywodraeth a chyfraniad Rhun ap Iorwerth yn cydnabod y byddwn yn darparu £15 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2016-17 ar gyfer diagnosteg, a bydd hwn yn cefnogi gwaith i wella diagnosis canser yn ychwanegol at y £10 miliwn rydym eisoes wedi’i fuddsoddi ar ailosod cyflymyddion llinellol a’n hymrwymiad i’r Ganolfan Ganser newydd gwerth £200 miliwn yn Felindre a grybwyllwyd gan Julie Morgan yn ei chyfraniad. Wrth gwrs, cytunwyd ar y £15 miliwn o arian cyfalaf yn rhan o gytundeb y gyllideb gyda Phlaid Cymru, gan gydnabod ein blaenoriaethau ar y cyd i wella gwasanaethau diagnostig.
Mae’r grŵp gweithredu canser cenedlaethol eisoes wedi bwrw ymlaen â menter ganser yr ysgyfaint dros y flwyddyn ddiwethaf, ac roeddwn yn falch o glywed hyn yn cael ei grybwyll yn y cyfraniad agoriadol gan Caroline Jones. Mae’n cynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau a gynhaliwyd dros yr haf, a rhaglen i helpu i wella canlyniadau llawdriniaethau canser yr ysgyfaint, sy’n rhan bwysig iawn o wella cyfraddau goroesi. Rydym hefyd am helpu pobl i fod yn barod ar gyfer llawdriniaeth, felly ymarferion cryfhau cyn llawdriniaeth, ac i ddarparu adferiad gwell.
Drwy gyfranogiad GIG Cymru yn archwiliad canser yr ysgyfaint Prydain, rydym eisoes wedi gweld gwelliannau yn safon gwasanaethau, gan gynnwys cynnydd yn ein cyfraddau echdorri’r ysgyfaint. Mae mwy i’w wneud o hyd, ond mae rhai o’n gwasanaethau’n perfformio’n anhygoel o dda yn erbyn nifer o elfennau’r safonau cenedlaethol hynny. Er enghraifft, mae 88 y cant yn cael triniaeth gan nyrs arbenigol yng Nghymru, o gymharu â chyfartaledd o 78 y cant ym Mhrydain, ac mae tîm amlddisgyblaethol canser yr ysgyfaint yn trafod rheolaeth y cyflwr yn yr unigolyn mewn 99.6 y cant o achosion yng Nghymru o gymharu â chyfartaledd Prydain o 94 y cant. Felly, nid yw popeth yn wael. Mae yna rai meysydd lle rydym yn perfformio’n dda iawn o gymharu â’n cymheiriaid yn y DU.
Mae’r pwyllgor gwasanaethau arbenigol yng Nghymru hefyd yn adolygu gwasanaethau llawdriniaeth thorasig yma yn ne Cymru gyda golwg ar wella’r model sydd ar gael. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi sefydlu partneriaeth â Novartis i ailddylunio a byrhau llwybr canser yr ysgyfaint, ac roedd gwella’r llwybr yn rhan bwysig iawn o wella canlyniadau i gleifion yn gyffredinol. Mae’r cytundeb meddygon teulu’n cynnwys maes blaenoriaeth cenedlaethol ar gyfer atal a chanfod canser, ond mae hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r holl achosion o ganser yr ysgyfaint yn 2015 i lywio datblygiad practisau a chynlluniau gweithredu clystyrau. Gobeithiaf y bydd hynny’n ymdrin ag un o’r pwyntiau a wnaed yn yr araith agoriadol.
Wrth gwrs, rydym wedi sefydlu partneriaeth gyda Macmillan i gefnogi gwelliant yn y broses o nodi amheuaeth o ganser mewn gofal sylfaenol, yn ogystal â chymorth a thriniaeth ar ôl cael diagnosis. Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i weithredu rheoliadau mewn perthynas â pheryglon amgylcheddol megis asbestos a llygredd aer, ond fel sydd wedi’i gydnabod mewn nifer o gyfraniadau heddiw, ysmygu yw’r ffactor risg uchaf o hyd ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gyda chyfraddau ysmygu o hyd at 29 y cant yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, gallwn weld pa mor bwysig yw parhau i ganolbwyntio ar reoli tybaco a rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn mynd i’r afael â phrif achos canser yr ysgyfaint y gellir ei atal a’r anghydraddoldebau yn nifer achosion a chanlyniadau canser.
Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y Deyrnas Unedig ym mis Hydref yn dweud bod camau sylweddol wedi’u cymryd yng Nghymru i wella canlyniadau i bobl sy’n cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint.
Rwy’n hapus i ddweud fy mod wedi cyfarfod â chynrychiolwyr y gynghrair ym mis Chwefror a chyfarfu fy swyddogion â hwy eto ym mis Mehefin. Mae gwaith yn bwrw ymlaen eisoes ar lawer o’u hargymhellion. Mae hwn yn faes lle rydym yn cydnabod bod angen mwy o welliant, ond rydym yn parhau i fuddsoddi dros £6.4 miliwn bob blwyddyn mewn gwasanaethau gofal lliniarol arbenigol, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl sy’n nesáu at ddiwedd eu bywydau yma yng Nghymru fynediad at ofal lliniarol arbenigol o safon uchel. Dyna pam ein bod yn canolbwyntio ar gefnogi gwasanaethau hosbis yn y cartref, gan ddatblygu ymagwedd gyson tuag at gynlluniau gofal uwch, a chyflwyno’r ddogfen penderfyniadau gofal ar gyfer y dyddiau olaf. Hefyd, rydym yn sicrhau bod trefniadau gofal lliniarol pediatrig cynhwysfawr ar waith.
Rwy’n hapus i ddweud fy mod, yr wythnos hon, wedi cael sgyrsiau â rhanddeiliaid ynglŷn â sut y gallwn wella gwasanaethau gofal diwedd oes pediatrig ac i oedolion. Mae £1 filiwn o gyllid eisoes ar gael i’r grŵp gweithredu ar gyfer canser a’r grŵp gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes. Mae’r bwrdd gweithredu ar gyfer gofal diwedd oes yn ariannu cymorth ar gyfer gwasanaethau hosbis yn y cartref i alluogi pobl i farw’n gyfforddus yn y lle y maent yn dymuno marw. Rydym yn cydnabod bod llawer gormod o bobl yn dal i farw mewn gwely ysbyty, er nad dyna ble y dewisant dreulio’u dyddiau olaf, ac yn yr un modd, nid dyna’r lle mwyaf priodol i hynny ddigwydd. Mae £159,000 wedi’i ddyrannu hefyd i gefnogi staff â sgiliau cyfathrebu uwch sy’n darparu gofal diwedd oes.
Mae’r cynllun gofal diwedd oes hefyd yn cael ei ddiweddaru ac rwy’n disgwyl cyhoeddi’r cynllun newydd ym mis Ionawr. Gan weithio gyda phleidiau eraill yn y Cynulliad, yn enwedig gyda Phlaid Cymru yn dilyn ein trafodaethau ar y gyllideb, rydym wedi cynnwys £1 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gofal diwedd oes yn y gyllideb ddrafft. Mae hwn ar gyfer yr holl wasanaethau gofal diwedd oes, yn hytrach nag adran benodol neu gyfres benodol o gyflyrau. Ni chredaf y byddai modd rheoli hynny, ac a dweud y gwir, ni fyddai’n ddymunol yn foesegol chwaith.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys ehangu gwasanaethau hosbis yn y cartref ymhellach ac ymestyn cyrhaeddiad trafodaethau salwch difrifol, ond rwy’n credu y dylem gydnabod ein bod, yma yng Nghymru, mewn gwell sefyllfa na’n cymheiriaid yn y DU o ran gofal diwedd oes. Fodd bynnag, mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud wrth gwrs. Mae gwelliant y Llywodraeth yn cadarnhau gwelliannau diweddar yng nghyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint ar ôl blwyddyn a’r dull o weithredu a nodir yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser a’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal diwedd oes. Rydym hefyd yn tynnu sylw at y trefniadau partneriaeth pwysig sydd gennym gyda’r trydydd sector, yn enwedig Cynghrair Canser Cymru a’r sector hosbisau, a’r £240 miliwn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn y gyllideb ddrafft.
Dylem gydnabod a dathlu’r cynnydd sydd wedi’i wneud, ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r trydydd sector ac yn croesawu ei her adeiladol, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n clinigwyr ar draws y GIG. Felly, mae’r Llywodraeth hon yn ailymrwymo i’r gwelliant pellach y byddai pob un ohonom yn dymuno ei weld.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n gobeithio y bydd pawb yn cytuno bod y ddadl hon wedi cael ei chynnal yn y modd mwyaf amhleidiol posibl. Dyna oedd yr ysbryd y cyflwynodd UKIP y cynnig hwn ar y papur trefn heddiw a’r modd yr agorodd fy nghyfaill anrhydeddus, Caroline Jones, y ddadl gyda’i haraith. Rwy’n gresynnu at y ffaith fod y Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant sy’n ceisio dileu’r rhan fwyaf o’n cynnig a’i ddisodli gyda’i geiriad ei hun. Byddem wedi bod yn eithaf hapus i dderbyn y rhan fwyaf o eiriad gwelliant y Llywodraeth oni bai am eu dymuniad i ddileu ein gwelliant yn y lle cyntaf.
Mae’n amlwg iawn bod yr Ysgrifennydd iechyd yn ei araith, wrth gwrs, yn canolbwyntio ar y meysydd lle y gallai dynnu sylw at welliannau, ond nid ydych yn llwyddo mewn gwirionedd i wneud cymaint o welliannau ag y gallwch drwy anwybyddu neu geisio cuddio’r meysydd lle rydych yn methu. Ydy, mae’n iawn siarad am y gwelliannau yn y cyfraddau goroesi canser ar ôl blwyddyn, ond beth am y ffigurau ar gyfer y cyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd y cyfeirir atynt yn ein cynnig?
Yn y ddogfen strategaeth 10 mlynedd ‘25 erbyn 25’ a gynhyrchwyd gan Gynghrair Canser yr Ysgyfaint y DU, rhoddir ffigurau sy’n dangos mai’r gyfradd oroesi ar ôl pum mlynedd yn Lloegr yw 16 y cant, cyfradd yr Alban yw 10 y cant, cyfradd Gogledd Iwerddon yw 11 y cant a chyfradd Chymru yw 6.6 y cant. Mae lle i welliannau anferth yn y ffigur hwnnw. Credaf fod y Cynulliad hwn yn iawn i dynnu sylw at y sefyllfa bresennol gyda chyfraddau goroesi ar ôl pum mlynedd ac mae’n anghywir i’r Llywodraeth geisio cael gwared ar hynny o’r cynnig ar y papur trefn heddiw.
Rydym yn derbyn gwelliannau’r grŵp Ceidwadol. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei araith. Wrth gwrs, mae llawer y gallwn ei gymeradwyo yn ei gynnig ef hefyd, ond oherwydd ei fod wedi cyfeirio at gyflawniad Plaid Cymru yn ei thrafodaethau yng nghyllideb 2017-18, credaf fod hynny’n mynd yn erbyn y math o ysbryd amhleidiol rydym wedi cyflwyno’r ddadl hon ynddo heddiw. Felly, byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliant hwnnw.
Soniodd am Nigel Farage yn ei araith fel rhywun sydd, rywsut, yn sgeptig ysmygu. Nid oes gennyf syniad a yw hynny’n wir ai peidio. Fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, nid ydym yn siarad â’n gilydd. [Chwerthin.] Ond nid yw Nigel Farage yn gywir am bopeth. [Aelodau’r Cynulliad: ‘O.’]. Yn un peth, nid oedd am i mi ddod i’r lle hwn. Felly, os yw’r Aelodau anrhydeddus yn credu ei fod yn anghywir am bopeth, yna mae hynny’n awgrymu bod croeso i mi fel Aelod o’r tŷ hwn, a diolchaf iddynt am hynny. Ond mae wedi bod yn ddadl ddiddorol a defnyddiol, gan fod ein cynnig yn seiliedig, wrth gwrs, ar bwynt 1, sy’n nodi bod mis Tachwedd yn Fis Ymwybyddiaeth Canser yr Ysgyfaint ac mae’r ddadl hon, rwy’n gobeithio, wedi helpu i wella ymwybyddiaeth.
Mae pawb, bron, wedi crybwyll heddiw pa mor bwysig yw diagnosis cynnar wrth drin canser yn llwyddiannus, a gwnaeth Julie Morgan bwynt pwysig iawn, rwy’n credu, nad yw diagnosis o ganser heddiw o reidrwydd yn ddedfryd farwolaeth nac yn wir, yn ddedfryd o farwolaeth gynnar, ac roedd yn ddiddorol iawn gwrando ar yr hyn roedd ganddi i’w ddweud am y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud yn Felindre a’r llwyddiannau y maent wedi’u cael gyda’r gwaith ymchwil sy’n cael ei wneud yno. Ac rwy’n talu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd hefyd, oherwydd mae ef yn sicr wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at y gwelliannau yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac rwy’n cymeradwyo ei uchelgais i gau’r bwlch rhwng cyfraddau goroesi ar gyfer canser o bob math yng Nghymru a gweddill Ewrop. Wrth gwrs, rydym yn cymeradwyo ac yn croesawu’r holl fuddsoddiad ychwanegol a’r gwelliannau eraill a grybwyllodd yn ystod ei araith.
Fe wnaeth Angela Burns rai pwyntiau pwysig iawn yn ei haraith hefyd, ynglŷn â’r angen am sgrinio cynharach, mwy o ymwybyddiaeth drwy addysg ac yn y blaen, ac yn bwysig iawn fe wnaeth y pwynt am y loteri cod post sy’n dal i fodoli, yn anffodus, o ran gwneud diagnosis o ganser cam 1. Felly, er ein bod yn canmol y Llywodraeth am eu llwyddiannau a’u cyflawniadau hyd yn hyn, mae llawer mwy i’w wneud eto, ond oherwydd nad ydynt yn barod i gyfaddef eu methiannau yn y gorffennol, rwy’n gobeithio, yn ystod y bleidlais y prynhawn yma, y bydd ein cynnig yn cael ei dderbyn, ac y bydd gwelliant y Llywodraeth yn cael ei wrthod.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr iawn. Felly, gohiriwn y pleidleisio dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Felly, oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu’r gloch, symudaf yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.