1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Cwestiynau llefarwyr y pleidiau yn awr. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, bûm yn siarad yng nghynhadledd Newid Ystyrlon yn Llanrwst yng ngogledd Cymru a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac a oedd yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar ddysgu am enghreifftiau ysbrydoledig lle y cafodd cydgynhyrchu ei fabwysiadu’n effeithiol, a thrafod ffyrdd y gallwn gynnwys pobl fwyfwy yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol â nodau llesiant Cymru. O ystyried ffigurau’r Gynghrair Dileu Tlodi Plant yr wythnos diwethaf fod 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae hynny’n parhau i fod yn uwch na gwledydd eraill y DU—sut rydych yn teimlo neu ba ystyriaeth a roesoch i roi egwyddorion cydgynhyrchu ar waith er mwyn helpu i fynd i’r afael â hynny, wrth i chi ddatblygu modelau newydd ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru?
Credaf fod yr Aelod yn gofyn cwestiwn teg; credaf mai ymwneud y mae â’r defnydd o iaith yn unig. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i wneud mewn gwirionedd yn y Llywodraeth yw deddfu ar gyfer hyn ar ffurf y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae 44 corff cyhoeddus yn awr wedi’u galluogi i gyflawni pum egwyddor y Ddeddf, lle y mae ymyrraeth ac ymgysylltiad yn rhan o’r broses honno. Felly, defnyddia’r Aelod y term ‘cydgynhyrchu’, ond nid wyf yn credu ei fod yn wahanol iawn i egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, y deddfwyd ar eu cyfer y llynedd.
Gobeithiaf y byddwch yn cytuno â mi nid yn unig nad yw’n wahanol iawn, ond ei fod yn greiddiol iddo, gan fod adroddiad ‘Siarad Cenedlaethau’r Dyfodol’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yr wythnos diwethaf wedi rhoi llawer o enghreifftiau o gyfarfodydd grwpiau rhanddeiliaid ledled gogledd Cymru, gan gynnwys y gogledd-ddwyrain, lle mae’r ddau ohonom yn byw, a dywedodd fod
‘Angen newid dulliau cyrff cyhoeddus o feddwl, gan wneud newidiadau’n rhai gwirioneddol... gan alluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn lleol, dangos arweinyddiaeth ac archwaeth at gyflawni, gan oresgyn syrthni sefydliadol’, cyn dweud yn benodol
‘mae angen iddo gael ei gyd-gynhyrchu, gan gymryd i ystyriaeth ymgysylltiad cymunedol, rhannu pŵer, gwrando. Mae gan bawb arbenigedd.’
A ydych yn cytuno â’r comisiynydd?
Nid wyf yn anghytuno â’r comisiynydd; credaf ei fod yn ymwneud â’r defnydd o iaith. Fel yr eglurais yn gynharach, credaf fod rôl y comisiynydd fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodweddiadol o’r ffordd rydym wedi gwneud datblygu polisi yn rhan annatod o’r sefydliad hwn a’r cyrff cyhoeddus eraill y mae’n eu dwyn i gyfrif hefyd.
Diolch. Yn amlwg, mae’n ymwneud ag ieithwedd, ond mae hwn yn fudiad byd-eang ag iddo derm byd-eang, ac mae cannoedd o sefydliadau ledled Cymru bellach wedi ymuno ag ef. Felly, yn olaf, efallai y byddwch wedi fy nghlywed—credaf eich bod wedi ddoe—yn cyfeirio at adroddiad a anfonwyd ataf gan Ganolfan Menywod Gogledd Cymru, ‘Leading change: the role of local authorities in supporting women with multiple needs’, ac er ei fod yn adroddiad ar gyfer Lloegr, roeddent yn cyfeirio at y wybodaeth fel rhywbeth sy’n berthnasol i’n nodau a chydweithio yng Nghymru. Mae hyn, unwaith eto, yn nodi y dylai’r broses o ddiwallu anghenion menywod gael ei hategu drwy weithio gyda hwy i ddatblygu eu cryfderau eu hunain ac i adeiladu cydnerthedd—ymagwedd y cyfeirir ati weithiau fel ymagwedd sy’n ‘seiliedig ar asedau’... sy’n rhoi pwyslais ar gryfderau unigolyn yn hytrach nag ar eu ‘diffygion’.
Hynny yw, yr egwyddor wrth wraidd cydgynhyrchu. Sut rydych yn ymateb i hynny felly, ac i’w datganiad y byddai ceisio nodi a mynd i’r afael ag anghenion heb eu diwallu mewn menywod ifanc, mewn modd priodol, yn arwain at faint yn llai o fenywod a allai fod mewn perthynas gamdriniol pe bai menywod ifanc yn datblygu cydnerthedd a hunan-barch drwy brosiectau fel hyn; a faint yn llai o blant a fyddai’n gysylltiedig ag achosion amddiffyn plant neu yng ngofal awdurdodau lleol pe bai menywod ifanc yn cael eu cynorthwyo yn eu hawl eu hunain yn hytrach na mewn perthynas â galluoedd/medrusrwydd rhianta yn unig?
Hynny yw, ei droi wyneb i waered a rhoi egwyddorion cydgynhyrchu ar waith.
Cytunaf ag egwyddor y sefydliad a’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, ond mae gennyf ddyletswydd i sicrhau cysondeb ledled Cymru. Dyna pam ein bod, yn ddiweddar, wedi cyhoeddi’r mater ynglŷn â chymunedau cryf a sut bethau ydynt. Mae ymgysylltu’n rhan allweddol o hynny, gan sicrhau ein bod yn cael deall gan randdeiliaid a defnyddwyr y gwasanaethau am eu profiadau go iawn. Dyna pam y byddaf yn ceisio buddsoddi mewn ffocws profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a fydd yn dechrau deall sut y byddwn yn cyflawni ymyriadau cynnar ac atal mewn perthynas â’r union faterion y tynnodd yr Aelod fy sylw atynt yn y Siambr heddiw.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar Rhentu Doeth Cymru a’r cyhoeddusrwydd parhaus wrth i’r cyfnod cofrestru ddod i ben. Rydym wedi gweld un hwb olaf o gyhoeddusrwydd, a allai achosi problemau gyda’r prosesau gweinyddol wrth ymdrin â llwyth mawr o geisiadau, gan gynnwys y rhai sy’n dewis cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. A fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n ceisio cofrestru cyn y dyddiad cau ac yna’n peidio â chwblhau’r broses tan yn ddiweddarach?
Ni fydd unrhyw un sydd wedi mynd ati i ymgysylltu i geisio cofrestru ar frig y rhestr o ran wynebu unrhyw gamau gorfodi.
Diolch am hynny. Nododd achos llys diweddar ynglŷn â’r ddeddfwriaeth mai naw swyddog gorfodi yn unig a gyflogir gan Rhentu Doeth Cymru. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi manylion ar unwaith ynglŷn â sut y byddwch yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd, ac a fyddech yn cytuno y dylid rhoi adnoddau ychwanegol i Rhentu Doeth orfodi’r gyfraith, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar landlordiaid diegwyddor?
Credaf fod yr Aelod yn iawn i dynnu sylw at y mater—nid yn benodol ynglŷn â Rhentu Doeth Cymru a’r broses, ond ynglŷn â’r rheswm pam y cyflwynasom hyn yn y lle cyntaf, ac mae’r Aelod yn iawn i grybwyll mater landlordiaid diegwyddor. Gwyddom fod llawer o landlordiaid da yn y system, ond mae llawer gormod o landlordiaid diegwyddor. Mae’n siomedig, ond nid yw’n annisgwyl. Mae’r dyddiad cau wedi cyrraedd o ran Rhentu Doeth Cymru, ac mae yna ruthr i gofrestru. Rwy’n deall hynny, ond cafwyd cyfnod arweiniol hir iawn i bobl gofrestru yn rhan o’r broses honno. Dywedais yn gynharach na fyddwn yn chwilio am unrhyw un sy’n mynd ati’n rhagweithiol i geisio cofrestru neu sydd, heb fod unrhyw fai arnynt hwy, wedi methu cofrestru ac yn gallu dangos tystiolaeth o hynny, ond rydym yn awyddus i sicrhau, pan fydd y proffil cofrestru yn ei le gennym, ein bod yn edrych ar y bobl nad ydynt wedi cymryd rhan yn y broses er mwyn sicrhau y gallwn ddechrau gorfodi’r ddeddf. Rwy’n hyderus fod yr awdurdodau lleol mewn sefyllfa i allu gwneud hynny, ond mae’n ddyddiau cynnar ar y system.
Diolch, a byddaf yn amlwg yn awyddus i olrhain cynnydd ar y mater penodol hwnnw.
Fy nhrydydd cwestiwn a’r cwestiwn olaf yw hwn: yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyfarfod â’ch swyddogion yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chynhwysiant ariannol. Dengys adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yr wythnos hon na all dwy ran o dair o bobl 16 i 17 mlwydd oed ddarllen slip talu, a bod traean erioed wedi rhoi arian i mewn i gyfrif banc. Nawr, mae’r adroddiad hwn yn peri cryn bryder, yn enwedig ar oedran pan fo plant o bosibl yn gadael eu cartrefi i chwilio am addysg uwch mewn mannau eraill. A yw Llywodraeth Cymru wedi cymharu cost darparu cynhwysiant ariannol i oedolion yn y gymuned â chost ei ddarparu i bobl ifanc mewn ysgolion, ac a yw’r ymagwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei mabwysiadu tuag at addysg ariannol yn ddigonol i roi’r sgiliau y byddant eu hangen fel oedolion iddynt? Yn ddiweddar, ysgrifennais at y Gweinidog addysg ynglŷn â’r ffrwd waith mewn perthynas ag addysg ariannol, ond credaf fod angen cynnydd ar frys yn awr er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda’r sgiliau bywyd allweddol hynny.
Credaf fod yr Aelod wedi parhau â’i hadduned i sicrhau’r canlyniad gorau ar gyfer pobl ifanc o ran llythrennedd ariannol. Rwy’n ddiolchgar ei bod yn sgwrs y gall ei chael gyda fy swyddogion. Gwelais gofnodion y cyfarfod a gafodd yr wythnos hon, a byddwn yn ei hannog i barhau â’r trafodaethau hynny gyda fy nhîm a thîm y Gweinidog addysg i weld sut y gallwn sicrhau gwell cynnig i bobl ifanc, ac yn wir, i oedolion sydd angen llythrennedd ariannol, a bod hynny’n dod yn norm, yn hytrach nag atodiad.
Lefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Lywydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yng ngogledd Cymru, os gwelwch yn dda?
Rydym yn parhau i gefnogi darpariaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Mae cyfleuster gwych yn etholaeth Darren Millar, ac rydym yn cydnabod bod pwysau ar y system, ond mae’n bwysig ac mae’n rhaid i ni barhau i’w helpu.
Iawn, diolch. Eleni, cynhaliwyd ymchwiliad dilynol gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Er bod cynnydd wedi bod mewn perthynas â sefydlu gwasanaeth mabwysiadu cenedlaethol yng Nghymru, nododd tystiolaeth o’r gwaith achos fod mynediad at gymorth ôl-fabwysiadu a chofnodi profiadau bywyd yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â chefnogaeth i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru a sut rydych yn mynd i wella’r ddarpariaeth, os gwelwch yn dda?
Wel, credaf ein bod wedi gwneud—gwnaed gwaith gwych gan y Llywodraeth flaenorol a’r Gweinidogion a fu’n rhan o’r broses o greu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, a chredaf ein bod yn dysgu’n barhaus ynglŷn â ble mae pwysau yn system nad ydym wedi ei nodi, neu bwysau sy’n newydd i’r system. Byddaf yn ystyried ei chwestiwn, a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynglŷn â sefyllfa’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn y dyfodol agos.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Fy nghwestiwn olaf yw hwn: a allwch wneud datganiad ynglŷn â threfniadau cludiant i’r ysgol yng Nghymru, gan roi sylw arbennig i gau Ysgol Uwchradd John Summers yng Nglannau Dyfrdwy?
Dylid cyfeirio hynny at sylw Ken Skates, er mwyn—. Ef yw’r Gweinidog trafnidiaeth, ac efallai yr hoffai’r Aelod ysgrifennu at yr Aelod.