3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin

– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:23, 29 Tachwedd 2016

Rwy’n galw nawr ar Simon Thomas i ofyn yr ail gwestiwn brys.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 29 Tachwedd 2016

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynlluniau i sefydlu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin? EAQ(5)0081(EI)[W]

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:23, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Bu swyddogion yn trafod gwahanol agweddau ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf wedi gofyn bod trafodaethau yn parhau i benderfynu a ellir cyflwyno achos busnes boddhaol, sy’n dangos hyfywedd ariannol a manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac sy’n egluro’r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch i’r Gweinidog am y datganiad a diolch iddo fe am gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen ers dwy flynedd a rhagor am y cynllun hwn. Bu peth dryswch dros y Sul bod y cynllun hwn yn ymwneud ag adleoli S4C i Gaerfyrddin. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nad oes sôn o gwbl am arian Llywodraeth Cymru yn mynd at adleoli S4C—mae hynny’n benderfyniad i gorfforaeth S4C ei hunan? Ond, wrth gwrs, mae Yr Egin yn ymgais gan y brifysgol a phartneriaid i greu clwstwr ar gyfer diwydiannau creadigol yn y gorllewin ac yng Nghaerfyrddin, ac a fydd yn gartref i S4C a nifer eraill o gyrff a diwydiannau creadigol yn ogystal, gan greu hyd at 100 o swyddi o ansawdd da yn y gorllewin.

Wrth fynd ymlaen, a wnaiff y Gweinidog hefyd gadarnhau bod y cynllun—nid oes penderfyniad eto, wrth gwrs, i fuddsoddi ai peidio yn y cynllun—yn gydnaws â strategaeth ddiwydiannau creadigol y Llywodraeth ac yn gydnaws hefyd â strategaethau adeiladu’r economi iaith y Llywodraeth? Yn olaf, pryd y cawn ni ddisgwyl penderfyniad gan y Llywodraeth ynglŷn â sefydlogrwydd y cynllun hwn er mwyn tawelu meddyliau pobl sydd, efallai, wedi camgymryd bod hwn yn rhywbeth i wneud â S4C?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:25, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod i’n gobeithio y deuir i gasgliad yn fuan iawn ar y mater hwn. Mae’r Aelod hefyd yn gywir bod angen i ni wahaniaethu rhwng S4C yn symud a chyfanrwydd prosiect Yr Egin, sy'n ganolbwynt uchelgeisiol i ddiwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin. O ran cyllid S4C ar gyfer ei chyfran o'r prosiect, mae S4C eisoes wedi nodi ei bod yn credu ei bod yn ariannu ei chyfran hi o'r datblygiad yn llawn. O ran y cyllid ychwanegol hefyd, y bwriad gwreiddiol oedd bod y Drindod Dewi Sant yn darparu cronfeydd strwythurol i ddiwallu yr hyn sydd erbyn hyn yn ddiffyg, ond mae’r symiau sylweddol is a ddyrannwyd i'r flaenoriaeth seilwaith rhanbarthol ar gyfer cronfeydd strwythurol yn golygu nad yw’r arian hwn yn ddewis bellach, felly mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ystyried a phenderfynu a fyddem ni’n gallu rhoi cymorth grant i'r datblygiad i ateb y diffyg a nodwyd. Cymeradwyaf y brifysgol am ei huchelgais i hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol, ac, yn wir, economaidd, yn yr ardal, a chredaf ei bod yn werth nodi bod SA1 a cham 2 Yr Egin wedi cael cefnogaeth bwrdd y ddinas-ranbarth ar gyfer y datblygu.

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Shadow Spokesperson (Wales) 2:26, 29 Tachwedd 2016

Mae S4C yn gwneud cyfraniad, nid jest yn ddiwylliannol i Gymru ond yn economaidd trwy chwistrelliad o dros £81 miliwn, ac mae llawer o’r arian yma yn mynd tuag at dalu nifer o fusnesau cyfryngau bychan i fwydo’r sianel, fel y digwyddodd yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd. Beth yr ydym ni wedi ei weld yw diwydiant llewyrchus yn datblygu. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod potensial economaidd lleol y mudo o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn mynd i gael ei wireddu os nad yw canolfan Yr Egin yn mynd i gael ei datblygu a’i hariannu gan y Llywodraeth yng Nghymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:27, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn. Yn union fel y nododd Simon Thomas, mae’r diwydiannau creadigol o fudd enfawr i economi Cymru. Maen nhw’n tyfu'n gynt yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac eithrio Llundain, a'n bwriad yw sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn mynd o nerth i nerth. Mae gan y Llywodraeth hanes balch, yn fy marn i, o gefnogi'r diwydiannau creadigol, ac, yn benodol, teledu a ffilm cyfrwng Cymraeg. Mae'r prosiect yn sicr yn addo buddiannau economaidd sylweddol, ymhell y tu hwnt i S4C yn symud, ac uchelgais y Drindod yw manteisio ar benderfyniad S4C i symud i Gaerfyrddin. Er enghraifft, gallai fod prif denantiaid eraill yn Yr Egin, gan gynnwys Boom, Gorilla a'r BBC. Mae’n werth ystyried hefyd y ffaith fod y bartneriaeth SA1 eisoes wedi gallu troi £300,000 o gymorth refeniw gan Lywodraeth Cymru yn £5 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf, yn 50 o swyddi newydd ac yn bum busnes newydd. Felly, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae swyddogion wedi bod yn trafod â’r Drindod ers peth amser. Rwy'n gobeithio y gall y trafodaethau hynny ddod i ddiweddglo, ond mae'n rhaid cyflawni buddsoddiad ar y sail o ychwanegu gwerth, a dyna’r hyn y byddwn yn penderfynu arno trwy archwilio'r achos busnes.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:28, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod y lleoliad yng Nghaerfyrddin yn debygol o ysgogi’r defnydd o’r Gymraeg yn yr economi, fel y byddai'n ei wneud lle bynnag y’i lleolir yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bu rhywfaint o freuder yn y sir benodol hon o ran cadernid twf y Gymraeg ac mae wedi cael rhai anawsterau yn ei chynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg yn y gorffennol. Felly, mae lleoli Yr Egin yn y rhan benodol hon o Gymru, yn fy marn i, efallai yn ychwanegu’r gwerth ychwanegol yr oeddech chi’n sôn amdano yn eich sylwadau wrth gloi yn y gan yna. Rwyf hefyd yn sylweddoli eich bod wedi crybwyll y fargen ddinas, ac er, efallai, wrth sôn am Wylfa B, bod y Gymraeg yn y gogledd-ddwyrain yn llawer mwy amlwg, mae arnaf ofn, nag y mae yn y fargen ddinas, er gwaethaf y sylwadau yr ydych newydd eu gwneud. Felly, a fyddech chi’n cytuno â mi, mewn gwirionedd, bod cael y cyfleuster penodol hwn yn y rhan hon o Gymru yn rhoi gwerth ychwanegol i'r fargen ddinas, gan y bydd wedi ei leoli mewn rhan o Gymru lle mae twf y Gymraeg yn rhywbeth y dylem fod yn chwilio amdano—twf newydd, yn hytrach na gwarchod y defnydd presennol o'r iaith mewn bywyd bob dydd? Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:29, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud y byddwn i'n awyddus i edrych ar dwf newydd yn y Gymraeg a busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg mewn unrhyw le yng Nghymru, boed hynny yn y gogledd-orllewin, y de-orllewin, y de-ddwyrain neu’r canolbarth a’r gorllewin, mewn unrhyw le ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a all gyflawni manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol i'r cymunedau y mae wedi’i leoli ynddyn nhw, ond mae’n rhaid iddo fod yn hyfyw ac yn gyflawnadwy.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:30, 29 Tachwedd 2016

Rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno efo fi fod angen i ni fod yn gwbl eglur, ac yn gwbl dryloyw, ynglŷn â’r achos yma. Mae yna dipyn o ddiddordeb ynddo fo. Roeddech yn sôn bod diffyg ariannol ar gyfer y cynllun yma. Pryd ddaeth hynny i’r amlwg, ac ydy hynny yn wahanol i’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd ers dwy flynedd? A ydym ni’n sôn am rywbeth newydd, mwy diweddar ynglŷn â’r diffyg ariannol roeddech chi’n sôn amdano? Ac ydy’r cynllun i adleoli pencadlys S4C yn ddibynnol ar yr arian sy’n cael ei geisio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n siomedig mai dim ond ar ôl i'r prosiect gael ei gyhoeddi y sylwyd bod bwlch yn y cyllid, ond swyddogaeth S4C yw ychwanegu rhywbeth o bwys at Yr Egin a gweithredu fel y prif denant a all ddenu rhagor o fusnesau i gychwyn ac i ffynnu yno. Ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae S4C wedi gallu dangos, drwy daliad rhent gwerth £3 miliwn ymlaen llaw, bod eu buddsoddiad yn y prosiect yn ddiogel, a’u bod yn dal yn bwriadu symud i Gaerfyrddin.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:31, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cyn belled ag y gallaf i weld, bydd Yr Egin yn cefnogi nod Llafur Cymru a nod Llywodraeth Cymru o gael canolfannau technegol newydd mewn ardaloedd gwledig, ac felly rwy'n cefnogi hyn 100 y cant. Y cwestiwn yr hoffwn ei ofyn i chi—. Rwy'n ymwybodol iawn y bu’r cyllid ar gael. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y gwn eich bod chithau, bod S4C wedi ymarfer diwydrwydd dyledus, wedi edrych ar nifer o wahanol leoliadau o amgylch Cymru, ac yn y pen draw wedi penderfynu ar Gaerfyrddin. Rwy'n ymwybodol iawn mai'r bwriad yw adeiladu a chreu diwydiant gwasanaethau o'i gwmpas, a chefnogi gwaith y diwydiant ffilm yn Abertawe, ac, wrth gwrs, ein diwydiant ein hunain yma yng Nghaerdydd hefyd, fel bod gennym ddiwydiant gwasanaethau creadigol amlwg ar hyd ein harfordir deheuol.

Wrth gwrs, mae bod yn gysylltiedig â phrifysgol yn gwbl ardderchog ar gyfer hyn. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi hefyd efallai roi syniad cyflym i ni o'r pecynnau cymorth eraill y gallai Llywodraeth Cymru fod yn eu hystyried i helpu i hyrwyddo canolfan gwasanaethau creadigol yn yr Yr Egin, yn seiliedig yn Sir Gaerfyrddin, yn seiliedig ar y prif gwmnïau sef S4C, ac efallai rhai o'r cwmnïau eraill yr ydych eisoes wedi sôn amdanyn nhw y gwn eu bod yn ystyried symud i’r adeilad hwnnw ar hyn o bryd, gan feddwl yn arbennig am brentisiaethau, ac am gadw graddedigion ifanc â chanddynt lawer o dalent yn y gorllewin, i barhau i ddatblygu ein cronfa ddata diwylliannol ac ieithyddol, a’r hanfod hwnnw sy'n gwneud Cymru yr hyn ydyw.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:32, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwestiwn diddorol iawn, ac rwy’n credu bod gwerth ystyried, nid yn unig y model hwn, ond hefyd modelau sy'n dod i'r amlwg mewn mannau eraill yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaethom dorri tywarchen yn ddiweddar ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn y gogledd-orllewin, a chredaf fod hynny yn cynnig dull tebyg lle y gellid cael systemau fertigol integredig sy'n hybu twf prif denant, boed hynny yn y gogledd-orllewin, Wylfa Newydd, neu yn y gogledd-ddwyrain, lle y gwnaethom gyhoeddi sefydliad ymchwil gweithgynhyrchu uwch tebyg—Airbus. Gallwch gael systemau fertigol integredig sy'n efelychu, i ryw raddau, hen fodelau o'r gorffennol, lle'r oedd gennych o fewn un cwmni, bopeth wedi’i adeiladu, popeth wedi’i ddarparu, ond newidiodd hynny wedyn. Yn yr unfed ganrif ar hugain, yr hyn a fydd yn allweddol fydd cysylltu mannau prifysgol, integreiddio mannau prifysgol, a all gynnig mannau agored, creadigol, gyda busnesau mawr a bach, a fydd wedyn yn cael eu seilio nid yn unig ar gyflenwi gofynion y prif gwmnïau, y prif denantiaid, ond a fydd hefyd yn hybu arloesedd ar draws y rhwydwaith.

Felly, rwy’n credu bod y model hwn yn un diddorol iawn y gallem ei ystyried ar gyfer rhywle arall yng Nghymru, ond y pwynt arall yr hoffwn ei wneud yw nad wyf i’n credu y gallwn ni fabwysiadu un model i bob man yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol i ni gymryd y sgiliau a'r cyfleoedd unigryw sydd ar gael ym mhob cymuned, ac wedyn seilio’r math hwn o fodel twf canolfan ar yr elfennau unigryw hynny ar gymunedau Cymru.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

Wrth gwrs, rwyf yn annog yr Ysgrifennydd Cabinet i fuddsoddi yn y de-orllewin, yn y diwydiannau creadigol. Rydym wedi gweld buddsoddiad fan hyn yng Nghaerdydd yn Gloworks—Gloworks 2 efallai ar y gorwel—a Pontio ym Mangor. Mae eisiau buddsoddi yn y diwydiannau creadigol ym mhob rhan o Gymru, ac mae eisiau gweld hynny yn y de-orllewin. A gaf ofyn iddo fe—? Rwyf eisiau gweld pob rhan o Gymru yn llwyddo, felly a gaf ofyn iddo fe i edrych, wrth iddo fe asesu y strategaeth economaidd newydd i Gymru, ar y rôl bositif y mae ad-leoliadau yn gallu cyflawni? Mae e wedi mynegi y bwriad, wrth gwrs, i gael pencadlys y banc datblygu yng ngogledd Cymru, ac rwy’n cefnogi hynny o beth. Pam na allwn ni gael yr awdurdod refeniw Cymreig newydd yn y gogledd-orllewin, wrth gwrs, i wneud yn iawn am y swyddi sydd wedi cael eu colli yno drwy Gyllid y Wlad? Ac, a ydym ni’n gallu cael cynllun cenedlaethol i Gymru gyfan? Roedd yna seiliau iddo fe yn y cynllun gofodol—y ‘spatial plan’—ac, yn anffodus, mae hynny wedi mynd off yr agenda. A allwn ni gael hynny nôl yn greiddiol, fel rhan o’n strategaeth economaidd, fel ein bod ni’n gallu gweld buddsoddiadau ym mhob rhan o Gymru a’r sector cyhoeddus, lle mae’n gallu, yn chwarae ei ran yn hynny?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:35, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud fy mod i’n credu ei fod yn hollol iawn. Yn gyntaf, credaf fod temtasiwn i lawer—wel, i bob un ohonom—siarad fel aelodau'r meinciau cefn ar ran ein rhanbarthau a’n hetholaethau priodol. Ond mae'n hanfodol i gydnabod y ceir cyfleoedd i hybu’r broses o greu cyfoeth ledled Cymru. Er ein bod yn sôn yn bennaf heddiw am Gaerfyrddin, rwyf yn credu bod y diwydiannau creadigol yn cynnig cyfleoedd ar hyd a lled y wlad, fel y mae sectorau allweddol eraill. Rwyf yn cytuno ag Adam Price fod adleoli a diganoli, yn arbennig sefydliadau'r sector cyhoeddus, i ardaloedd lle y gall twf economaidd wedyn gael ei sbarduno gan eu presenoldeb, yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu y bydd hyn yn elfen ddiddorol o waith swyddogion ar hyn o bryd, sy’n ymwneud â'r strategaeth economaidd, o ran sut yr ydym yn defnyddio arian cyhoeddus a'r sector cyhoeddus i sbarduno twf yn y sector preifat, lle y ceir potensial, ond nad oes yr ysgogiad angenrheidiol hwnnw eto i sbarduno’r twf yn y sectoraidd mewn gwirionedd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:37, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ac, yn olaf, yn olaf, Julie Morgan.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Mae S4C ar hyn o bryd wedi'i lleoli yn fy etholaeth i, ar ystâd fasnachu Llanisien yng Ngogledd Caerdydd. Mae'n rhaid i mi fod yn hollol onest, yr wyf yn gresynu ei bod yn gadael ac rwyf wedi dweud hynny yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n credu bod y penderfyniad yn gamgymeriad. Un o'r pethau sy’n fy mhoeni yw na fydd unrhyw grant a roddir i'r Drindod Dewi Sant yn golygu cymhorthdal i ​​S4C, gan nad yw darlledu wedi'i ddatganoli. Rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i’r Llywodraeth hon ddefnyddio arian grant pan mai Llywodraeth San Steffan ddylai fod yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Felly, tybed a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro hynny. Ac a wnaiff egluro pa mor ddibynnol yw’r datblygiad yn y Drindod Dewi Sant ar S4C yn symud yno?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:38, 29 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Ac efallai y byddai'n briodol ar y pwynt hwn i ddweud mai lle S4C yw ateb unrhyw gwestiynau ynghylch penderfyniad S4C, ar sail eu cystadleuaeth i adleoli, boed hynny i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Yn yr un modd, mae’r mater o adleoli o Gaerdydd yn fater i S4C ymdrin ag ef yn hytrach na Llywodraeth Cymru, o ran y cwestiynau ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad. Ni fyddem yn rhoi cymhorthdal i S4C symud pe byddem yn cefnogi'r prosiect hwn. Mae’n rhaid i’r prosiect hwn ddangos chwanegedd. Gweledigaeth Yr Egin yw bod yn ganolfan greadigol—yn ganolfan greadigol o bwys—ac, wrth graffu ar y cynllun busnes, mae angen i ni fod yn hyderus y byddai'r cymorth a allai fod ar gael, mewn gwirionedd, yn arwain at greu swyddi na fyddai’n cael eu creu fel arall ond trwy fod S4C yn symud i Gaerfyrddin.