– Senedd Cymru am 2:33 pm ar 10 Ionawr 2017.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar Jane Hutt.
Mae gennyf lawer o newidiadau i adrodd amdanynt i fusnes yr wythnos hon, Lywydd. Rwyf wedi ymestyn i 45 munud yr amser a ddyrennir i'r datganiad llafar ar yr ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu strategol drafft ar ddementia i Gymru. Rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar ffliw adar, a datganiad llafar ar y gronfa driniaeth newydd. Ac, yn olaf, gan nad oes unrhyw gwestiynau wedi'u cyflwyno i'w hateb gan Gomisiwn y Cynulliad yr wythnos hon, mae'r Pwyllgor Busnes wedi addasu amserlen yfory yn unol â hynny. Ac mae’r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, a gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau ar ffurf electronig.
A gaf i alw am ddau ddatganiad Ysgrifennydd Cabinet—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru? Bydd yr Aelodau wedi sylwi bod rhai pryderon wedi’u codi gan Clifford Jones Timber, sefydliad sydd wedi'i leoli yn Rhuthun yn fy etholaeth i, am fethiant tir coedwigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau trefn blannu ehangach, cynnydd yn y drefn blannu, er mwyn sicrhau cnwd digonol ar gyfer y dyfodol. Rydych yn gwybod bod y busnes penodol hwnnw yn cyflogi 80 o bobl, ac yn wir, ceir miloedd lawer o swyddi yn y diwydiant gweithgynhyrchu coed yng Nghymru sy'n dibynnu ar gynhyrchu pren. Tybed, Weinidog, a allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet, ddim ond ynghylch yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud er mwyn manteisio i’r eithaf ar allbwn y diwydiant hwnnw, a'i gyfraniad economaidd i Gymru yn y dyfodol?
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, ynghylch y cynllun, Cyflymu Cymru, a'r ffordd y caiff ei farchnata yma yng Nghymru? Rwyf wedi derbyn nifer o gyfathrebiadau gan etholwyr sy’n bryderus iawn ynghylch y wybodaeth anghywir sy'n ymddangos ar wefan Cyflymu Cymru am argaeledd band eang cyflym iawn, yn eu hardaloedd penodol. A hyd yn oed yn fwy o achos pryder yw adborth uniongyrchol gan BT Openreach i etholwyr y mae’n ymddangos ei fod yn awgrymu, oherwydd bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cymryd y cyfrifoldeb dros farchnata Cyflymu Cymru, fod angen iddyn nhw nawr ailgofrestru eu diddordeb mewn cael mynediad ato. Dyma’r adborth a roddwyd. Gallaf weld y Gweinidog yn ysgwyd ei phen, ond dyna yw’r adborth a gawson nhw—mae gennyf gopi o'r e-bost yn y fan hyn. Felly, mae’n amlwg bod rhywfaint o gyfathrebu digyswllt yno y mae angen rhoi sylw iddo, ac rwyf wir o’r farn y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad pellach gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth er mwyn rhoi sylw i hynny.
Diolchaf i Darren Millar am ei gwestiynau. Tynnaf sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig at eich cwestiynau a phryderon ynghylch dyfodol y diwydiant coed yng Nghymru. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr, os oes problem benodol yn eich ardal, yn eich etholaeth, y byddech eisiau ei godi â hi, beth bynnag. Ac, wrth gwrs, mae’r Gweinidog Sgiliau ar ei thraed mor aml yn y Siambr hon yn gwneud datganiadau am ein swyddogaeth, os swyddogaeth hefyd, o ran ein pwerau a'n cyfrifoldebau, o ran band eang, ac nid yn unig y marchnata, ond wrth gwrs, y cyflenwad y mae pob un ohonom yn cymryd rhan ynddo, o ran nid yn unig y rhagolygon, ond hefyd y llwyddiant o ran band eang yng Nghymru a band eang cyflym iawn.
Roeddwn yn meddwl tybed a allem gael datganiad ar ymchwiliad eich Llywodraeth i Sandfields Newydd Aberafan ac Afan (NSA Afan). Dim ond cael ar ddeall oddi wrth brif weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot—gwelais e-bost a anfonwyd at arweinydd ein grŵp—fod ymchwiliad parhaus wrthi’n cael ei gynnal i achosion o afreoleidd-dra ariannol a bod arian cyllido wedi ei atal ar hyn o bryd. Mae’r Llywodraeth—eich swyddfa archwilio chi yn y Llywodraeth—yn ymchwilio i'r sefyllfa.
Roeddwn yn meddwl tybed a allech chi ddarparu datganiad yn ystod amser y Llywodraeth ar yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn difrif, beth mae hynny'n ei olygu, a sut y gellir cyfathrebu â phobl yn y gymuned, efallai, i geisio lleddfu rhai o'r pryderon a allai fod ganddynt, oherwydd, efallai na fydd rhai o'r gwasanaethau hynny yn gallu cael eu cyflenwi gan y sefydliad penodol hwn—Cymunedau yn Gyntaf, os yw'r ymchwiliad yn un hirsefydlog. Ac rwyf o’r farn ei fod yn rhywbeth y dylai fod pob Aelod Cynulliad wedi cael gwybod amdano, ac nid y cynghorwyr yn unig. Felly, hoffwn i ddeall pam na chyfathrebodd y Llywodraeth hefyd â ni, o ystyried bod hwn yn fater eithaf pwysig. Rydym wedi cael problemau o’r blaen, ac nid wyf yn dweud—. Ar hyn o bryd, mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ond rydym yn gwybod yn y Siambr hon fod problemau wedi bod yn y gorffennol gyda gwahanol sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf ledled Cymru. Gobeithio nad dyna yw’r sefyllfa yn yr achos hwn, ond os dyna ydyw, mae angen i ni gael gwybod, ac mae angen rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad beth sy’n digwydd.
Wel, diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol i honiadau ynghylch camddefnydd posibl o arian cyhoeddus yn NSA Afan, rydym wedi atal arian cyllido tra cynhelir mwy o ymchwiliadau. Rydym yn archwilio ffyrdd o ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych chi’n ei godi. Ond mae'n bwysig inni gyflawni ein dyletswydd i amddiffyn arian trethdalwyr rhag cael ei ddefnyddio, o bosibl, mewn modd amhriodol. Hefyd, mae hyn yn destun ymchwiliad, ac felly, byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar y mater hwn.
Bydd arweinydd y tŷ wedi gweld pryderon yn y wasg ar y penwythnos fod ysgolion awdurdodau lleol yn cael eu trin yn llai ffafriol nag academïau yn Lloegr o ran cyfrifo’r ardoll prentisiaethau. Gallai cyflogres ysgol awdurdod lleol ddenu’r ardoll, tra ei bod yn bosibl na allai cyflogres academi o faint tebyg yn Lloegr wneud hynny. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad, gan nodi pa sylwadau y gallai fod yn eu gwneud i Lywodraeth y DU, er mwyn sicrhau nad yw ysgolion yr awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael eu trin yn annheg, gan fod y system yn Lloegr wedi dod yn un dameidiog a rhad ac am ddim i bawb?
Diolch i Jeremy Miles am dynnu ein sylw at hyn. Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd yr ardoll prentisiaethau yn cael ei thalu gan unrhyw sefydliad sydd â chyflogres o dros £3 miliwn y flwyddyn. Treth gyflogaeth yw’r ardoll. Fe’i cyflwynwyd gan Senedd San Steffan; mae'n berthnasol i'r DU gyfan. Yng Nghymru, cynhelir yr ysgolion gan awdurdodau lleol, wrth gwrs, ac felly, bydd cyflwyno’r ardoll yn effeithio ar eu cyllidebau, waeth beth yw eu maint. Wrth gwrs, nid oes gennym system academïau Lloegr yma yng Nghymru, ond y mae’n amlwg y bydd effaith. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dynnu ein sylw at hyn.
Yn gyntaf oll, a gaf i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Llywodraeth am wrando, i ryw raddau, beth bynnag, ar fy etholwyr a rhai Aelodau eraill o’r Cynulliad ynghylch y mater o ryddhad ardrethi busnes? Yn amlwg, dyw hi ddim cyn belled ag y byddem ni wedi mynd, ond fe’i croesewir, cyn belled ag y mae'n mynd. Fodd bynnag, rwyf o’r farn fod arnom angen datganiad brys ar sut y bydd y £10 miliwn ychwanegol hyn yn cael ei wario. Rydym yn siarad am fusnesau cymwys sydd eisoes yn bodoli yn cael mwy o arian neu yr un faint o arian am gyfnod hwy. A yw busnesau newydd yn mynd i fod yn gymwys? A fydd meini prawf newydd? Os yw'n mynd i gael ei weithredu drwy awdurdodau lleol, sut y bydd angen gwneud y ceisiadau hynny? A fyddwch yn gosod cyfyngiadau amser ar awdurdodau lleol, er enghraifft, ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn ymdrin â cheisiadau mewn modd amserol? A fydd unrhyw faint o'r £10 miliwn hynny yn cael ei frigdorri i dalu am y gwaith gweinyddol ychwanegol dan sylw? Rwyf o’r farn fod y manylyn hwn bellach yn fater o frys os ydych yn dymuno tawelu meddwl busnesau bach yn y modd yr wyf yn siŵr eich bod yn bwriadu ei wneud.
Yn yr hydref—ail ddatganiad yr wyf i’n chwilio amdano yma—cadarnhaodd y Llywodraeth ei hymrwymiad i'r rhaglen Esgyn a ‘Cymunedau am Waith’. Ym mis Rhagfyr, gwahoddodd Mark Isherwood Ysgrifennydd y Cabinet i egluro pam yr oedd y rhaglenni penodol hyn wedi eu diogelu pan oedd y canlyniadau a ragwelwyd yn cymharu'n anffafriol o ran gwerth am arian a dechrau mewn swydd, mewn gwirionedd, yn ôl y diffiniad, â Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Roedd ymdrechion i gael data cyfamserol wedi bod yn aflwyddiannus yr adeg honno ac ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd. Mae hynny'n awgrymu i mi nad oedd wedi edrych arnynt yn iawn cyn cytuno, mewn gwirionedd, i barhau â'r rhaglenni, sydd, wrth gwrs, yn costio degau o filiynau o bunnoedd. Gan fod y Cynulliad, fel Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi, mae'n rhaid i ni fod yn siŵr mai’r rhaglenni ymyriadau hyn yw’r rhaglenni gorau, ac rwyf o’r farn fod angen inni weld y ffigurau hynny a thystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy cyn gynted ag y bo modd erbyn hyn. Mae angen i ni dawelu meddwl ein hetholwyr ein bod i gyd yn gwneud y peth iawn yma, ac nad dim ond rhyw weithgarwch sy’n cuddio diffyg effeithiolrwydd ydyw. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech gael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cymunedau gydag atodiadau yn cynnwys data cyfamserol ar y ffigurau perthnasol yno.
Yn olaf, rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith ei bod yn ddyddiau cynnar i hwn, ond dydw i ddim eisiau iddo ddiflannu o'n golwg: a allem ni gael datganiad yn weddol fuan ar y cynnydd ynghylch newidiadau sy'n cael eu hystyried i'r fframwaith rheoleiddio, a’r fframwaith cynllunio, a dweud y gwir, a godwyd gan ACau o fy rhanbarth i o ganlyniad i'r tanau sglodion pren a welsom yn ystod yr haf ac yn ddiweddarach? Fe ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai’n edrych ar y newidiadau, ac rwy'n credu y byddai'n galonogol inni i gyd weld pa gynnydd sydd wedi’i wneud ynglŷn â hynny. Diolch.
Diolch yn fawr, Suzy Davies, am y tri chwestiwn yna, a diolch i chi am groesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn wir wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig newydd, ychwanegol hwnnw ar gyfer y stryd fawr—rhan o gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru a osodwyd ar 20 Rhagfyr. Rwy’n gwybod ei fod wedi cael croeso mawr. Mae hyn yn mynd i gael ei gyflawni, mae’n amlwg. Cynllun rhyddhad wedi'i dargedu ydyw, a bydd wedi ei sefydlu erbyn 1 Ebrill eleni, pan fydd yr ardrethi diwygiedig yn dod i rym. Mae'n bwysig hefyd dweud bod hyn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn, hefyd o 1 Ebrill ymlaen, ynghyd â’r £100 miliwn o doriad treth i fusnesau bach yng Nghymru a ddarperir gan y cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Felly, mae bellach yn fater o gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ac, yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awr yn bwrw ymlaen â hynny. Mae cyfle y prynhawn yma yn y gyllideb derfynol eto i groesawu hyn, ac rwy'n siŵr y bydd Suzy Davies yn gwneud hynny.
O ran eich ail bwynt ar faterion ynghylch Cymunedau yn Gyntaf sy’n ymwneud â Rhaglen Esgyn a'r ffordd ymlaen, byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod proses ymgysylltu yn dal i fodoli ar y ffordd ymlaen o ran cymunedau cryf, ac mae llawer iawn o ymateb wedi bod i hynny drwy arolwg ar-lein, grwpiau ffocws a digwyddiadau ymgysylltu. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn cael eu hystyried o ran beth yw’r ymateb, ac yn enwedig yr agweddau hynny ar ‘Cymunedau yn Gyntaf’ ac Esgyn, fel yr ydych wedi eu disgrifio. Wrth gwrs, eich trydydd pwynt, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cymryd sylw ohono o ran diweddariadau ar y fframweithiau rheoleiddio hynny.
Diolch yn fawr, Lywydd. A allaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros fusnes am ei datganiad? Ym mhellach i hynny, fe wnaeth Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, gyhoeddi datganiad ysgrifenedig ddoe, ‘Expert Review of Local Museum Provision in Wales 2015 report—Update on progress’. Yn dilyn y datganiad yna, mae nifer o gwestiynau yn codi, yn enwedig yn nhermau y posibilrwydd o greu tri chorff rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau i amgueddfeydd yn y dyfodol, a’r cwestiynau ariannol sy’n codi o hynny. Mae hefyd yn bwysig ein bod ni’n deall y gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu siartr amgueddfeydd, a’r trafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda chynghorau lleol ar y mater. Mae’n sôn am hynny i gyd yn y datganiad ysgrifenedig yna, ond oherwydd y cwestiynau yma sydd yn codi o’r datganiad ysgrifenedig yma a gyhoeddwyd ddoe, a allaf i yn garedig ofyn am ddatganiad ar lafar yn y Siambr ar y mater yma, os gwelwch yn dda?
Rwy'n falch o wybod eich bod chi’n croesawu datganiad ysgrifenedig Ysgrifennydd y Cabinet, sy’n egluro nifer o bwyntiau yr ydych wedi'u codi gydag ef. Gwn y bydd cyfleoedd a chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ac yn wir, rwy'n siŵr, mewn ymddangosiadau yn y pwyllgor, yn ogystal, ar y mater hwn.
Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny.
Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at lwyddiant ralio cam coedwigoedd yng Nghymru, sy'n werth £15 miliwn y flwyddyn i economi Cymru. Nawr, fe gawsom ni ymateb calonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf, a oedd yn awgrymu bod Adnoddau Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Chwaraeon Modur wedi dod i gytundeb ar daliadau ar gyfer atgyweiriadau a chynnal a chadw ffyrdd, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn am hynny. Mae'n ymddangos bellach fod camau’r canolbarth ar gyfer pencampwriaeth rali Prydain wedi eu canslo oherwydd ansicrwydd ynghylch y taliadau mewn ralïau yng nghoedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, rwyf o’r farn fod hyn yn ymwneud â gorfod codi TAW. Canlyniad uniongyrchol hyn, wrth gwrs, yw y bydd y canslo yn cael effaith ganlyniadol enfawr ar economi’r canolbarth ac y bydd yr ardal leol yn colli miloedd ar filoedd o bunnoedd. Byddwch yn gwerthfawrogi’r ffaith fod ralio a chwaraeon moduro yn dod â llawer o ymwelwyr ac incwm hanfodol i’r canolbarth. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r Ysgrifennydd Cabinet priodol ymchwilio i hyn a chyflwyno datganiad i'r Siambr.
Diolch i chi, Russell George. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gallu ymateb yn gadarnhaol i’ch cwestiwn cyntaf. O ran eich ail gwestiwn, rwyf o’r farn ei fod yn fater o egluro beth yw'r rhesymau dros yr achos hwnnw o ganslo, oherwydd, yn amlwg, fel y dywedasoch, ceir ymateb cadarnhaol iawn i'r defnydd o'n coedwigoedd ar gyfer y pencampwriaethau hyn, sydd yn cael eu croesawu. Ond, mae rhesymau dros achosion o ganslo, ac rwyf o’r farn ei bod yn bwysig ein bod ni’n egluro, ac rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y tynnir eich sylw chi, a sylw’r Aelodau yn ogystal, at hyn.
A wnaiff y Gweinidog osod yn ffurfiol ar y cofnod fy niolch i swyddogion, i'r heddlu ac i aelodau o'r cyhoedd am gymorth yn dilyn y lladrad yn fy swyddfa etholaeth? Gallai fod o ddiddordeb i’r Aelodau wybod nad oes unrhyw fynedfa gefn mewn gwirionedd; roedd yn rhaid i’r lladron fynd saith drws i lawr, mynd drwy ddrws, mynd i lawr at ddiwedd lôn, troi i'r chwith, fod yn gwybod bod yn rhaid mynd drwy'r strwythur sy’n debyg i sied drwy ddrws arall; cyrhaeddon nhw’r ffenestr, dadsgriwio gorchudd pren, torri trwy PVC a llifio drwy fariau dur. Efallai y dylem fod wedi bod â dur Cymru. Efallai mai dyna beth y dylem ei wneud y tro nesaf. Ond, o ddifrif, hoffwn ddiolch i’r swyddogion sydd wedi mynd i drafferth fawr i ofalu amdanaf i, fy staff a fy nheulu. Diolch yn fawr iawn i chi. Thank you very much.
Diolch.
Nodwyd. Diolch i chi, Neil McEvoy. Diolch, Weinidog.