– Senedd Cymru am 4:47 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar leihau maint dosbarthiadau babanod a chodi safonau, ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
Diolch i chi, Lywydd. Ers fy mhenodi’n Ysgrifennydd y Cabinet, mae wedi bod yn fraint ymweld ag ysgolion a chwrdd ag athrawon, disgyblion a rhieni ar draws y wlad. Un uchafbwynt penodol oedd agor yr ysgol newydd yn Llandysul. Yn debyg i’m cydweithwyr yn y Siambr hon, rwyf bob amser yn edmygu ymroddiad, brwdfrydedd ac uchelgais y mwyafrif helaeth o'r proffesiwn addysgu, nid yn unig ar gyfer eu hysgol a’u disgyblion eu hunain, ond ar gyfer pobl ifanc ym mhob rhan o’n system addysg. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, rwy’n cydnabod na all unrhyw ysgol na system addysg fod yn gryfach na'u hathrawon a'u haddysgu nhw. Dyna pam y mae angen i ni roi'r offer sydd eu hangen ar athrawon a phenaethiaid ysgolion ar gyfer y swydd. Mae hyn yn cynnwys trawsnewid addysg gychwynnol ar gyfer hyfforddi athrawon, lansio safonau proffesiynol newydd, dull cenedlaethol o ddysgu a datblygu proffesiynol, a chymell graddedigion newydd ac aeddfed i fod yn rhan o'r proffesiwn.
Dro ar ôl tro, mae rhieni ac athrawon yn dweud wrthyf eu bod yn pryderu am faint dosbarthiadau. Rydym wedi gwrando ar y pryderon hyn, wedi ystyried y dystiolaeth ryngwladol, a heddiw rydym yn cyhoeddi manylion am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Bydd y buddsoddiad hwn, yn gysylltiedig â’n diwygiadau eraill, yn gwella cyrhaeddiad y blynyddoedd cynnar, yn cael effaith sylweddol ar gyfer disgyblion tlotach a difreintiedig, yn cefnogi athrawon i fod yn arloesol ac yn cynyddu ymgysylltiad â disgyblion.
Nawr, yn rhy aml, mae trafodaeth sy’n ymwneud â maint dosbarthiadau yn arwain at ddewis ffug rhwng dosbarthiadau llai a pholisïau eraill ar gyfer gwella addysg. Nid wyf yn derbyn bod y farn gul hon ynglŷn â maint dosbarthiadau yn ffactor amherthnasol o ran perfformiad a lles ein pobl ifanc. Ond, Ddirprwy Lywydd, nid wyf ychwaith yn ei chynnig fel ateb sicr i’n system addysg. Nid yw'n bolisi a gaiff ei gyflwyno ar ei ben ei hun. Ar ôl adolygu gwaith ymchwil a thystiolaeth ryngwladol, mae'n dangos bod lleihau maint dosbarthiadau yn cael yr effaith fwyaf ar y grŵp oedran ieuengaf. Rydym hefyd yn gwybod bod yr effaith yn gryfach ar gyfer disgyblion o gefndiroedd tlotach a/neu sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol. Ac mae lleihau yn cael yr effaith fwyaf pan gyfunir hynny â newidiadau a diwygiadau i addysgu ac addysgeg.
Felly, yn seiliedig ar y dystiolaeth, bydd ein buddsoddiad mewn refeniw a chyllid cyfalaf yn targedu’r ysgolion sydd â’r dosbarthiadau mwyaf o ran maint, lle mae angen gwella addysgu a dysgu, lle mae lefelau uchel o amddifadedd a lle nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn ieithoedd cyntaf.
Cynhaliwyd y gwaith ymchwil mwyaf arwyddocaol yn y DU i faint dosbarthiadau, gan y Sefydliad Addysg mwyaf blaenllaw y byd yng Ngholeg y Brifysgol Llundain. Gan olrhain dros 20,000 o ddisgyblion mewn dros 500 o ddosbarthiadau ar draws 300 o ysgolion, daeth y gwaith ymchwil i'r casgliad bod maint dosbarthiadau yn cael effaith glir iawn ar gyflawniad academaidd yn ystod y blynyddoedd cynnar, a bod disgyblion o grwpiau cyrhaeddiad isel mewn addysg yn benodol wedi elwa ar ddosbarthiadau llai. Mae'r canlyniadau hyn yn debyg i brosiectau ac ymyriadau polisi cyffelyb a gynhaliwyd yng Ngogledd America.
Yn 2003, adroddodd Estyn fod buddion i’w cael o addysgu grwpiau penodol o blant yn rhan o grŵp bach—yn benodol, y plant ieuengaf, y plant hynny ag anghenion arbennig, y rhai sy'n cael eu haddysgu mewn iaith heblaw eu hiaith gyntaf, a'r rhai hynny sy'n byw mewn ardaloedd lle mae pobl dan anfantais gymdeithasol a diwylliannol. Yna, argymhellodd Estyn y dylid targedu’r grwpiau hyn o blant os penderfynwyd dilyn polisi o leihau mwy ar faint dosbarthiadau.
Rydym yn ystyried yn strategol yr hyn y gellir ei gyflawni drwy’r buddsoddiad hwn. Wrth wneud cais am arian, er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y rheng flaen a lle y mae ei angen fwyaf, bydd y meini prawf yn cynnwys: ysgolion â dosbarthiadau o 29 neu fwy; lefelau uchel o brydau ysgol am ddim; canlyniadau sy’n is na’r cyfartaledd, a lle y bernir bod ysgol yn goch neu'n oren yn ôl ein system gategoreiddio genedlaethol; lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol; lefelau uchel o ddisgyblion nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt; ac o bosibl, gydleoli a darpariaeth integredig y cyfnod sylfaen gyda chynnig gofal plant ein Llywodraeth.
Bydd awdurdodau lleol, drwy gonsortia, yn gwneud cais am gyllid i gefnogi ysgolion yn erbyn y meini prawf hyn. Wrth wneud hynny, byddai angen iddynt gyflwyno achos busnes ar gyfer pob cynnig, a fyddai hefyd yn cynnwys manylion am ba gymorth ychwanegol a ddarperir i'r ysgolion hynny a phwyslais presennol y grant amddifadedd disgyblion a’r grant gwella addysg. Byddai'n rhaid i bob achos busnes hefyd gynnwys canlyniadau penodol yn ymwneud â gwelliannau o ran perfformiad, presenoldeb, cymarebau disgybl athro a chynaliadwyedd. Bydd angen i geisiadau ystyried amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys capasiti ysgolion, cymarebau disgybl athro, presenoldeb, perfformiad—gan gynnwys perfformiad y plant sy’n cael prydau ysgol am ddim—categoreiddio, gweithredu gan yr ysgol a nifer y disgyblion sydd wedi cael datganiad o AAA.
Byddai athrawon ychwanegol a sicrheir drwy leihau maint dosbarthiadau yn cefnogi cydymffurfiad â chymarebau sylfaen ac, yn bwysig iawn, byddai hefyd yn darparu mwy o amser yng nghwmni athro cymwysedig, sy'n hanfodol ar gyfer gweithredu’n effeithiol addysgeg y cyfnod sylfaen. Ceir cysylltiad clir rhwng fy nghyhoeddiad i a datblygu ein cynnig gofal plant. Byddaf yn disgwyl i geisiadau ystyried gweithio ar y cyd ac arbedion effeithlonrwydd ar brosiectau cyfalaf lle mae angen cyfleusterau gofal plant ychwanegol, yn ogystal â dosbarthiadau babanod ychwanegol i gyflwyno cyfnod sylfaen.
Ddirprwy Lywydd, i grynhoi, mae ein diwygiadau addysg yn ceisio codi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder cenedlaethol. Heddiw, rydym yn ymateb i bryderon rhieni ac athrawon, gan gyflwyno polisi 'gwnaed yng Nghymru' wedi’i siapio gan dystiolaeth ryngwladol ac yn gwarantu £36 miliwn o fuddsoddiad a fydd yn lleihau maint dosbarthiadau babanod fel ein bod yn codi safonau i bawb.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Gwn fod ganddi farn gadarn ar y mater hwn, ac mae'n debyg mai dyna’r arf y gwnaeth hi ei ddefnyddio i gornelu Carwyn i fod yn rhan o’i Gabinet—yn sicr roedd hyn wedi helpu i drefnu eu bargen. Ond pan ddaw at lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth, ni allaf ddeall mewn gwirionedd pam mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd ar drywydd y mater penodol hwn.
Clywsom dystiolaeth, fel Cynulliad, dim ond chwe mis yn ôl, gan yr Athro David Reynolds, arbenigwr addysg enwog a chynghorydd i Lywodraeth Cymru. Awgrymodd y dystiolaeth nad canolbwyntio ar leihau maint dosbarthiadau i 25 oedd y ffordd i wella safonau, ac o ran sicrhau canlyniadau ar fuddsoddiadau, roedd ffyrdd llawer mwy cynhyrchiol o wario arian mewn addysg gynradd. Nid David Reynolds yw’r unig un sydd â’r farn hon—mae prif arolygydd ysgolion Ei Mawrhydi yn Estyn hefyd yn dweud, ac rwy'n dyfynnu, nad yw maint dosbarth yn ymddangos i fod yn ffactor mawr yn ein canlyniadau arolygu.
Yn wir, dywed mai dim ond ychydig bach o wahaniaeth y bydd lleihau dosbarthiadau i 25 yn ei wneud.
Ac mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sydd wedi bod yn destun llawer o ddadlau yn y Siambr hon yn ddiweddar, yn enwedig ers cyhoeddi canlyniadau’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, hefyd wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu, bod maint y dosbarth yn amherthnasol i berfformiad cyffredinol y system ysgol.
Felly, mae gennych lawer o bobl—côr o leisiau—sy’n dweud, 'Edrychwch, os ydych chi am gael y gwrth gorau am eich arian, er mor ddeniadol yw gwario arian ar leihau meintiau dosbarth ac y byddai heb amheuaeth yn gwneud rheoli dosbarthiadau’n haws, nid hynny yw’r ffordd orau o fuddsoddi’r arian hwnnw.’ Yn wir, mae Ymddiriedolaeth Sutton, elusen addysg ffurfiannol, sy'n ymroddedig i wella symudedd cymdeithasol—nod yr ydym ni i gyd yn ei rhannu yn y Siambr hon—drwy addysg, wedi dweud bod hynny yn un o'r ffyrdd lleiaf effeithiol o wella perfformiad yr ysgol.
Wrth gwrs, mae llawer ar feinciau cefn y Llywodraeth wedi mynegi pryderon am y polisi hwn. Nid oes yr un ohonyn nhw yma heddiw—tybed ai dyma pam mae rhai o’r Siambr wedi gadael meinciau cefn y Llywodraeth yn ystod eich datganiad.
Felly, tybed, Weinidog, pa gyngor ydych chi wedi’i geisio a pha gyngor a roddwyd gan swyddogion y Llywodraeth yn natblygiad y polisi penodol hwn, neu a oedd hyn yn rhywbeth yr oeddech chi’n benderfynol o’i gyflwyno, yn anad dim, heb ystyried y cyngor efallai a roddir i chi gan swyddogion? A gaf i hefyd ofyn, gan na wnaethoch chi unrhyw gyfeiriad ato yn eich datganiad, pa gyngor a geisiwyd gan y consortia addysg rhanbarthol yn natblygiad y polisi? Rwy'n siŵr y byddai ganddo lawer o feysydd blaenoriaeth eraill y bydd o bosibl yn dymuno gwario £36 miliwn arnyn nhw pe byddai’r dewis ganddo.
Rwyf hefyd yn cwestiynu’r rhifyddeg a sut yr ydych chi wedi cyfrifo mai £36 miliwn sydd ei angen i gyflawni amcanion eich polisi. Gwyddom eich bod wedi rhannu’r arian hwn yn awr dros gyfnod o bedair blynedd, a’ch bod wedi’i rannu’n ddau rhwng gwariant cyfalaf a buddsoddi mewn refeniw. Ond, yn sicr, os ydych am fuddsoddi mewn refeniw, mae costau parhaus am fod y tu hwnt i'r cyfnod pedair blynedd, y mae’n ymddangos eich bod chi wedi ymrwymo iddo. A wnewch chi ddweud wrthym sut yr ydych chi’n disgwyl i'r ysgolion hynny—? A ydych chi eisiau diddymu unrhyw gostau refeniw ychwanegol ac unrhyw aelodau ychwanegol o staff y mae nhw wedi’u darparu er mwyn cyflawni’r polisi hwn ar ôl y cyfnod pedair blynedd? Hynny yw, sut yr ydych chi’n disgwyl y gallant ymdopi?
A beth yw eich rhesymeg ar gyfer y £20 miliwn? Mae'n ymddangos i mi fel pe baech chi wedi rhoi bys i fyny yn yr awyr a dweud, 'rwy'n credu mai tua £20 miliwn fydd ei angen arnom i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion.' Ni welais unrhyw dystiolaeth yn unrhyw le yng Nghymru mai dyna'r swm o arian y byddai angen ei ddyrannu a’i fuddsoddi yn ein system ysgolion er mwyn cyflawni’r polisi penodol hwn. Ac ni allaf weld unrhyw dystiolaeth ychwaith mai £16 miliwn y byddai ei angen i leihau maint dosbarthiadau ledled Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw i gyd â llai na 25 o blant. Felly, byddwn i’n gwerthfawrogi’n fawr cael gweld mwy o dystiolaeth gennych chi ynglŷn â hynny.
Yn ogystal â hyn, tybed a wnewch chi ddweud wrthym am y rhesymeg y tu ôl galw am fwy o athrawon, a rhoi pwysau ychwanegol ar recriwtio athrawon, ar adeg pan fo argyfwng ar fin digwydd o ran recriwtio athrawon yma yng Nghymru. Gwyddom fod problemau gyda rhai pynciau mewn ysgolion uwchradd, ond ceir hefyd broblemau yng nghyd-destun ysgolion cynradd, yn enwedig yn y sector cyfrwng Cymraeg. Gwelwyd tystiolaeth sydd newydd gael ei chyhoeddi yn ddiweddar iawn sy'n dangos bod cwymp wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n cwblhau hyfforddiant athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg—yn wir, mae wedi haneru bron yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae hynny'n bryder mawr i mi, ac ni wn sut yr ydych chi'n mynd i ddarparu’r athrawon ychwanegol hyn, y mae angen iddyn nhw fod yn rhan o’r system beth bynnag er mwyn cymryd lle’r rhai hynny sy'n gadael—sy’n gadael weithiau oherwydd y cânt eu digalonni ac weithiau am ei bod yn swydd nad ydyn nhw’n teimlo ei bod yn dymuno ei chyflawni mwyach, neu oherwydd eu bod yn ymddeol. Sut ydych chi'n mynd i recriwtio’r aelodau ychwanegol hyn o staff er mwyn llenwi'r bylchau hyn a gwireddu’r polisi penodol hwn?
Ni wn ychwaith ba asesiad yr ydych chi wedi’i wneud o allu awdurdodau lleol i adeiladu ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar safleoedd ysgolion arbennig. Nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth— dim tystiolaeth o gwbl—mai hon yw'r ffordd gywir ymlaen.
A wnewch chi ddweud wrthyf hefyd, o ystyried cyhoeddiad yr adroddiad Estyn heddiw, a oedd yn nodi mai ansawdd yr addysgu ac arweinyddiaeth oedd y ddau fater mawr y canfuwyd drwy ei brosesau arolygu fel y problemau a'r heriau yng Nghymru, pa gyfran o'r arian hwn, os o gwbl, sydd am gael ei buddsoddi mewn arweinyddiaeth a’i buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol parhaus? Rwy’n sylwi yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at rai o'r camau eraill y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd, ond nid ydych wedi sôn am yr academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth, nid ydych chi wedi sôn am rai o'r cymhellion eraill efallai y byddwch chi’n dymuno eu cynnig i ddenu pobl i’r proffesiwn addysgu, ond y mae’r rheini’n bethau sy’n bwysicach, yn fy marn i, ac sydd angen mynd i’r afael â nhw. Felly, tybed beth ydych chi’n ei wneud i ymdrin â'r problemau hynny hefyd, oherwydd eu bod nhw, i mi, yn ymddangos yn llawer pwysicach na cheisio lleihau maint dosbarthiadau i 25 pan na cheir tystiolaeth i gefnogi eich honiadau fod hyn yn mynd i fod y chwyldro sydd ei angen. Mae'n rhaid i mi hefyd ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet—
A wnewch chi ddod i gasgliad ar hyn, os gwelwch yn dda?
Dyma fy mhwynt olaf un. Mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn Aelod o'r Cynulliad ers 10 mlynedd bellach, ac nid oes neb erioed, ar garreg y drws, ac nid oes yr un athro, ychwaith, erioed wedi siarad â mi i ddweud mai maint dosbarth yw'r mater pwysig y mae angen inni fynd i’r afael ag ef yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy’n cytuno â Julie Morgan ar y canlynol: nid oes unrhyw un wedi siarad â hi, ychwaith, yn y blynyddoedd y mae hi wedi bod yn AS neu’n AC. Felly, tybed lle mae’r mater pwysig hwn yn eich bag post, oherwydd nid oes tystiolaeth ohono yn fy un i.
Diolch yn fawr iawn, a gaf i ddiolch i Darren am ei gwestiynau y prynhawn yma? Os caf roi tro ar ateb pob un, dechreuodd drwy ddyfynnu tystiolaeth yr Athro David Reynolds, a byddwn yn nodi bod yr Athro Reynolds wedi gwneud y sylwadau hynny heb unrhyw wybodaeth fanwl am y cyhoeddiad polisi. Yn wir, byddai’r rhai hynny ohonoch a wyliodd newyddion ITV neithiwr wedi gweld yr Athro David Reynolds yn llwyr gefnogi’r polisi a'r dull a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth. Felly, mae’r Athro Reynolds yn llawn gymeradwyo'r dull yr wyf yn ei gymryd.
Yna, aethoch chi ymlaen i grybwyll y mater ynglŷn ag Estyn, ac es i’r afael â hynny yn fy sylwadau agoriadol. Dywedodd Estyn yn 2003, pe bai polisi o leihau maint dosbarthiadau yn cael ei weithredu, y byddai’n rhaid iddo dargedu dysgwyr penodol lle’r oedd y mwyaf o fudd yn ôl cydnabyddiaeth Estyn. Y rhai hynny yw ein plant ieuengaf, ein plant tlotaf, a’r plant sydd yn ein hysgolion nad yw’r Gymraeg neu'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Rwy’n dilyn y cyngor y darparodd Estyn yn 2003 ac rwy’n targedu'r adnoddau yn y fath fodd.
Nawr, yn dilyn hynny, gwnaethoch chi ddyfynnu’r Ymddiriedolaeth Sutton hefyd. Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Sutton nad defnyddio’r premiwm disgyblion yn Lloegr na'r grant amddifadedd disgyblion yng Nghymru i leihau maint dosbarthiadau oedd y ffordd orau i ddefnyddio'r adnodd hwnnw. Ac nid wyf yn defnyddio arian y Grant Amddifadedd Disgyblion i leihau maint dosbarthiadau. Felly, eto, rwyf yn llwyr ddilyn y cyngor a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Sutton. Ac yna aeth Darren ymlaen i sôn am y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. A gaf i ddweud wrthych yr hyn a ddywedodd y Sefydliad hwn y mis diwethaf am faint dosbarthiadau? Dywedodd hyn yn ei adroddiad llawn:
Ar gyfartaledd ar draws gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gwnaeth disgyblion mewn dosbarthiadau llai adrodd yn amlach na myfyrwyr mewn dosbarthiadau mwy o faint, bod eu hathrawon yn addasu eu cyfarwyddyd i anghenion, gwybodaeth a lefel dealltwriaeth y disgyblion.
Dim ond heddiw, yn adroddiad Estyn, agorwyd ein llygaid at y ffaith nad ydym yn gwneud digon ar gyfer ein plant mwy galluog a thalentog. Mae gallu athro i wahaniaethu yn y dosbarth er mwyn diwallu anghenion pob disgybl—yr holl ddisgyblion: y rhai hynny sydd ar ei hôl hi, y rhai hynny ag anghenion dysgu ychwanegol neu’r rhai sy'n fwy galluog a thalentog, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i ni ddod o hyd i ffordd well o gyfeirio at y grŵp penodol hwnnw o blant—. Gallwn wneud hynny’n well os oes gan athrawon lai o blant yn yr ystafell ddosbarth. Nid yw addysgu’n bodoli, nid yw addysgu’n digwydd mewn gwagle. Caiff ansawdd yr addysgu, Darren, ei ddylanwadu gan ei gyd-destun—bydd unrhyw athro yn dweud hynny wrthych chi—fel maint y dosbarthiadau, y cyfle i arloesi yn yr ystafell ddosbarth, i weithredu gwahanol ffyrdd o addysgu gan fod gennych lai o ddisgyblion yn eich ystafell ddosbarth, yn ogystal â rhyngweithio rhwng disgyblion ac ymddygiad yn y dosbarth. Nid yw'n gweithredu mewn gwagle. Ac nid wyf yn gwybod pa athrawon yr ydych chi'n siarad â nhw, ac nid wyf yn gwybod pa undebau athrawon yr ydych chi'n siarad â nhw, ond a gaf i eich atgoffa, heb fod mor bell â hynny yn ôl, roedd athrawon yn Lloegr ar streic a'u prif reswm dros wneud hynny oedd pryder ynghylch maint dosbarthiadau. Felly, nid wyf yn gwybod pa ysgolion yr ydych chi’n ymweld â nhw, nid wyf yn gwybod pa athrawon ysgol yr ydych chi'n siarad â nhw, ond, credwch chi fi, mae hyn yn broblem i’n proffesiwn addysgu.
Rydych chi’n dweud, 'O ble y daw’r athrawon hyn?' Wel, eto, mae tystiolaeth yn dangos bod lleihau maint dosbarthiadau yn elfen hanfodol wrth recriwtio a chadw athrawon. Efallai na fyddwn yn colli rhai o'n hathrawon os ydym yn ymdrin â'r pryderon hyn. Efallai y gallwn ddenu mwy o bobl i'r proffesiwn oherwydd y byddan nhw’n gwybod y byddan nhw’n arfer eu crefft a'u medrau mewn amgylchedd sy'n caniatáu iddyn nhw wneud hynny, nid mewn amgylchedd sy'n cyfyngu ar eu gallu fel y gweithwyr proffesiynol y maen nhw’n dymuno bod.
Soniasoch am bwy yr ydym wedi trafod hyn gyda nhw. Nawr, credwch chi fi, Darren, byddai wedi bod yn well gennyf i weithredu’r polisi hwn ar y diwrnod cyntaf, ond y rheswm dros gymryd yr holl amser hwn yw oherwydd inni drafod yn helaeth gydag awdurdodau lleol a chyda'r consortia rhanbarthol ynglŷn â’r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater hwn. Rydym wedi bod yn astudio'r dystiolaeth. Rydym wedi bod yn mireinio ein gallu i ddylanwadu ar yr agenda hon ac yn gweithio gyda'n partneriaid—gan nad ni fydd yn ei chyflwyno hyn, caiff ei chyflwyno gan y sector—ar y ffordd orau i wneud hynny. Felly, mae ein dull ni o weithredu wedi’i hysbysu'n llawn, ac mae'r ffigurau yr ydym wedi gallu eu rhoi at ei gilydd wedi’u hysbysu'n llawn gan adborth a gafodd fy swyddogion drwy siarad â’r consortia rhanbarthol a siarad ag awdurdodau lleol unigol.
Nawr, rydych chi yn llygad eich lle, a dywedais hynny yn fy natganiad i, hynny ar ei ben ei hun, nid dyma’r ateb sicr i fynd i'r afael â'r materion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw o fewn y system addysg yng Nghymru, ac nid wyf yn lleihau’r problemau hynny, Darren; rydych chi’n gwybod hynny. Rwy’n gwbl ymwybodol o'r heriau sy'n ein hwynebu, ond fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, nid y polisi hwn yw'r unig bolisi yr ydym yn ei ddilyn. O ran gwella safonau dysgu ac addysgu, rydym eisoes wedi cyhoeddi, ac rydym eisoes yn rhan o, raglen ddiwygio enfawr ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon. Dim ond ddoe, roeddwn yn cwrdd â’r Drindod Dewi Sant i glywed am y newidiadau y maen nhw’n eu gwneud yn awr, a'r newidiadau y byddan nhw’n parhau i’w gwneud er mwyn sicrhau bod hyfforddiant athrawon yn well nag y mae wedi bod.
Rydym yn gweithio yn awr gyda’r Athro Mick Waters i ddatblygu set newydd o safonau addysgu proffesiynol a safonau ar gyfer penaethiaid a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn. Gwyddoch fy mod i’n sefydlu fy academïau arweinyddiaeth er mwyn i ni sicrhau arweinyddiaeth gadarn. Drwy ddweud mai dyma’r unig beth rydym yn ei wneud, rydych chi’n camddeall yn llwyr y drefn ddiwygio yr ydym yn ei datblygu, ei gweithredu a’i gyrru ymlaen ar hyn o bryd, ac y bydd hyn yn rhan ohono.
Diolch. Llyr Gruffydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am gyfle i ofyn cwestiwn neu ddau, efallai, os oes amser ar ôl i wneud hynny.
Rwyf innau hefyd yn cychwyn gyda’r mater yma o dystiolaeth, oherwydd mae dyfyniadau wedi cael eu rhoi—rhai yr oeddwn i’n bwriadu eu rhoi—ond, yn amlwg, rydych chi’n cyfaddef mai nid ‘magic bullet’ yw hwn, ac rwy’n deall hynny. Ond, wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa lle mae adnoddau yn brin ac felly mae’n rhaid blaenoriaethu adnoddau lle rŷm ni’n hyderus y byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf gwerthfawr. Felly, mae pwysau’r dystiolaeth, yn fy marn i, yn awgrymu bod yna fwledi llawer mwy ‘magic’ y gallech chi fod yn eu saethu gyda £36 miliwn.
Nawr, roeddwn i’n mynd i ddyfynnu Estyn, ac mae’n amserol iawn o gofio, wrth gwrs, yr adroddiad rŷm ni wedi ei weld heddiw yn ymddangos, gyda’r pwyslais ar wella safonau fel mater strategol pwysig iawn, wrth gwrs. Rwyf wedi cael fy mrawychu braidd eich bod chi’n gorfod dibynnu ar adroddiad gan Estyn o 2003. Mae hynny bron iawn mewn oes arall. Roeddwn i’n dal i ddefnyddio peiriant ffacs yn y dyddiau yna. Mae’r byd wedi newid ac, yn sicr, nid oedd yr adroddiad ar sail y cynnig sydd gerbron heddiw. Os rwy’n cofio’n iawn, yn 2003, y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Cymru, felly os oedd yn gymaint o ‘issue’ adeg hynny, mae’n resyn na wnaethant benderfynu mynd i’r afael ag ef bryd hynny. Yn sicr, roeddent yn rhan o’r Llywodraeth, beth bynnag, yn 2003. [Torri ar draws.] Wel, nid fy nadl i yw hi; fe gewch chi ymateb pan fydd lle i ymateb.
Mi oedd maniffesto Llafur, wrth gwrs, yn ymrwymo i wario £100 miliwn ar wella safonau. A allwch chi gadarnhau unwaith ac am byth fod y £36 miliwn yma y gwnaethoch chi ei gyhoeddi ddoe, ond rydych yn dod a dweud wrthym ni amdano heddiw, yn dod o’r swm yna? Rwy’n gofyn oherwydd rŷm ni’n gwybod beth yw barn rhai o Aelodau Cynulliad Llafur am y ‘prospect’ o ddefnyddio’r arian yna i’r diben yma. Mae’n rhywbeth sydd wedi cael ei geryddu gan nifer ohonyn nhw hefyd yn hallt llynedd.
Nawr, mae yna rywfaint o dystiolaeth yn dweud os cewch chi faint dosbarth lawr i 20 a llai, yna wedyn rŷch chi o bosib yn gweld ychydig o effaith mewn gwirionedd. Nawr, yn ôl eich maniffesto chi, wrth gwrs, fel Democratiaid Rhyddfrydol, mi oeddech chi’n gosod targed o 25 ar gyfer maint dosbarth. Nid yw e’n ‘explicit’, mae’n rhaid i mi ddweud, yn y datganiad yma—a allwch chi gadarnhau mai dyna yw’r targed o hyd? A allwch chi gadarnhau na fyddwch chi, er enghraifft, yn cefnogi ceisiadau oni bai eu bod nhw’n arwain at ganlyniad o ddosbarth llai na 25? A allwch chi hefyd ddweud mai’ch bwriad chi yw rholio hyn allan yn y pen draw ar draws Cymru gyfan ac erbyn pryd y byddech chi’n gobeithio gwireddu hynny?
Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad fod y dystiolaeth yn awgrymu—y dystiolaeth yn eich ôl chi—fod buddsoddiad fel hyn yn cael yr effaith fwyaf ar wella cyflawniad yn y blynyddoedd cynnar. Nid ydw’n i’n gweld y datganiad yma yn uniongyrchol eto i fod yn ‘explicit’ bod yr arian sydd ar gael yn benodol ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn sicr, nid yw e yn un o’r elfennau yn y criteria. Rwy’n tybio y byddech chi’n licio cadarnhau a ydych chi yn benodol yn targedu’r blynyddoedd cynnar yn unig; neu fel arall, wrth gwrs, rŷch chi’n cyfaddef nad ŷch chi’n defnyddio’r arian i’w bwrpas mwyaf effeithiol o bosibl.
Mae yna ffigur moel o £36 miliwn yn y datganiad. Mae’n debyg bod yna adroddiadau yn y wasg wedi bod ynglŷn â beth yw proffil y gwariant yna. Yn sicr, nid yw e yn y datganiad ac nid yw e mewn unrhyw wybodaeth rydw i wedi’i derbyn fel Aelod Cynulliad ar y mater yma. Rwy’n deall bod yna sblit cyfalaf a refeniw; mae cyfeiriad wedi bod ato fe cyn nawr ac rwy’n meddwl eich bod chi wedi cael eich cwestiynu ar ba sail y mae hynny wedi cael ei wneud, ond nid ydw i’n siŵr a ydw i wedi clywed yr ateb. Ac mae’r cwestiwn yma ynglŷn â chynaliadwyedd y buddsoddiad hefyd yn un arall y mae angen clywed mwy ynglŷn ag ef. Mae’r gair ‘cynaliadwyedd’ yn ymddangos yn y datganiad. Wel, onid dweud mai disgwyl i’r ysgolion dalu yn y pen draw ŷch chi? Oni ddylech chi ddweud hynny’n blwmp ac yn blaen? Achos mae’n ymddangos i mi fod yr ariannu yma am gyfnod penodol ac ar ôl hynny bydd y buddsoddiad yna, yn y pen draw, yn troi mewn i doriad ac fe fyddwn ni’n colli gwerth y buddsoddiad os nad yw’r awdurdod lleol neu’r ysgol yn mynd i gadw i dalu’r buddsoddiad eu hunain.
Yn olaf gen i—ac rwyf wedi codi hyn gyda chi’n flaenorol yn y pwyllgor—a oes yna beryg y gwelwn ni nid dosbarthiadau llai, ond mwy o gynorthwywyr dosbarth? Rwy’n gwybod am enghreifftiau, ac rwy’n gwybod bod yna elfen o bres cyfalaf fan hyn, ond rwy’n gwybod bod yna nifer fawr o ysgolion lle nad oes y gwagle dysgu ar gyfer darpariaeth y tu hwnt i nifer y dosbarthiadau sydd yna nawr. Nid ydw i’n credu bod y swm cyfalaf sydd gerbron fan hyn yn ddigonol i gwrdd â’r angen—efallai y byddech chi’n cytuno â hynny—a liciwn i wybod a oes yna gysylltiad neu berthynas strategol rhwng yr arian cyfalaf rŷch chi’n cyfeirio ato fan hyn â’r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, oherwydd yn y mwyafrif o ysgolion, rwy’n meddwl, lle y mae yna gyfyngiadau fel hyn, problemau cyfalaf sydd i gyfrif am y broblem yn aml iawn.
Diolch yn fawr iawn i Llyr. Llyr, y cyfan y gallaf ei ddweud yw os ydych chi’n dymuno dadlau dros ddosbarthiadau mwy o faint, ochr yn ochr â'r Ceidwadwyr Cymreig, dyna eich rhagorfraint chi; nid dyna beth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gynrychioli. Rydych chi’n gofyn, 'Pam ydych chi’n cyfeirio at adroddiad Estyn yn 2003?' Dyna'r tro olaf y gwnaeth Estyn waith sylweddol ar y mater hwn. Ond a gaf i ddweud wrthych chi, bu nifer o astudiaethau rhyngwladol a gynhaliwyd dros gyfnod hir o amser hyd yn hyn—byddaf yn anfon manylion atoch am yr union astudiaethau—a dim ond tri o dros 100 o astudiaethau mewn gwirionedd a lwyddodd i ddod o hyd i’r dystiolaeth? Felly, y dystiolaeth bendant lethol o’r astudiaethau rhyngwladol yw bod hyn yn gwneud gwahaniaeth. Byddwn yn dweud wrth yr Aelod, mae enghreifftiau o systemau addysg sydd wedi lleihau maint dosbarthiadau a pholisïau dosbarthiadau llai yn ystod y blynyddoedd diweddar yn cynnwys Denmarc, y Ffindir, Israel, yr Iseldiroedd, Seland Newydd, Sweden, Tennessee yn yr Unol Daleithiau, Wisconsin yn yr Unol Daleithiau, California, talaith Ontario yng Nghanada, yn ogystal â rhannau eraill. Mae enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi cynhyrchu gwaith ymchwil cadarnhaol yn cynnwys prifysgolion ar draws y byd.
Dywedodd yr Aelod mai’r Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn gyfrifol am addysg pan oeddem yn y glymblaid. Rwy’n ceisio cofio, ond os wy’n cofio’n iawn, nid oeddem ni erioed yn gyfrifol. Y celfyddydau, diwylliant, llyfrgelloedd—ie. Datblygiad economaidd a materion gwledig—ie. Mewn gwirionedd, os caf atgoffa'r Aelod—a gallwch wirio hyn—yn wir, yn rhan o'r glymblaid, roedd polisi lleihau maint dosbarthiadau babanod a gafodd ei ddilyn gan y Llywodraeth ac roedd cyllid pwrpasol ar gael gan y Llywodraeth glymblaid i weithredu'r polisi hwnnw. Yr hyn sydd efallai'n rhyfeddach, Llyr, yw’r hyn a ddigwyddodd i'r ymrwymiad yn Llywodraeth Cymru'n Un, yr un oedd Simon Thomas yn gynghorydd arbennig iddi—a gallwch bori drwy’r ddogfen ar y rhyngrwyd—a oedd yn dweud y byddai’r Llywodraeth yn lleihau maint dosbarthiadau? Byddai cryn ddiddordeb gennyf wybod pa gamau a gymerwyd mewn gwirionedd yn Llywodraeth Cymru'n Un. Hmm—efallai nid cymaint.
Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddyfynnu ymrwymiad maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol i mi, ac, os byddai’n ei ddyfynnu’n llawn, byddai’n gwybod ei fod yn dweud y byddem yn dechrau â'r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf. Byddwn wrth fy modd yn lleihau maint dosbarthiadau i’n plant i gyd, ond mae’n rhaid i mi wneud hynny yng nghyd-destun y cyllidebau sydd ar gael i mi. Ac mae'r Aelod yn dweud bod angen i mi sicrhau’r gwerth gorau am arian a dyna pam y byddwn ni’n targedu’r dosbarthiadau hynny y mae’r dystiolaeth yn dweud a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Felly, byddwn ni’n dechrau â'r dosbarthiadau mwyaf yn gyntaf, a byddaf yn dweud yn eithaf clir eto, os na ddywedais yn ddigon clir: bydd yr arian hwn ar gael ar gyfer maint dosbarthiadau babanod, oherwydd dyna lle mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym, os ydym ni am sicrhau’r gwerth gorau am arian, yna dyna lle mae angen i ni dargedu ein cefnogaeth.
Mae'r Aelod yn hollol iawn i siarad am gynaliadwyedd; dyna pam y caiff ei grybwyll yn y datganiad. Nid wyf eisiau creu problemau ar gyfer cyllidebau ysgolion, ac mae'n ddrwg gennyf nad atebais gwestiwn Darren Millar am yr hyn sy'n digwydd ar ôl pedair blynedd. Ni wn beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y cyfnod hwn o Lywodraeth, ymhen pedair blynedd. Gallaf ond siarad am yr hyn y bydd y Llywodraeth hon yn ei wneud ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Bydd yr hyn sy'n digwydd ar ôl hynny yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth wahanol, Gweinidog Addysg gwahanol—pwy a ŵyr? Y cyfan y gallaf i ei wneud yw siarad am yr hyn y byddaf i’n ei wneud a beth fydd y Llywodraeth hon yn ei wneud tra’r ydym yma. Dyna pam ei bod am bedair blynedd. Ni allaf ymrwymo y tu hwnt i hynny, oherwydd bydd etholiad a phwy a ŵyr beth fydd yn digwydd ar ôl hynny?
Mae'r Aelod wedi holi am y £100 miliwn; bydd £6 miliwn o’r polisi hwn yn dod o'r £100 miliwn ychwanegol sydd ar gael ar gyfer safonau ysgolion a bydd gweddill y gyllideb—y £30 miliwn—yn dod o'r gyllideb addysg yr wyf i’n gyfrifol amdani.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru am y gronfa newydd gwerth £36 miliwn i fynd i'r afael â maint dosbarthiadau babanod. Ni all neb ddadlau o ddifrif—ar wahân i un neu ddau o Aelodau sy’n bresennol—ei fod yn beth da bod 7.6 y cant o ddisgyblion ysgol babanod yng Nghymru mewn dosbarthiadau o fwy na 30. Hynny yw, 8196 o blant ifanc yn cystadlu am sylw a chefnogaeth eu hathrawon a chynorthwywyr dysgu mewn ystafell ddosbarth lawn. Bu Estyn yn bendant fod hwn yn bolisi sydd o’r budd mwyaf i’r disgyblion mwyaf difreintiedig a’r disgyblion hynny nad yw’r Saesneg neu’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt.
Mae Llywodraeth Cymru i'w chanmol ar y dystiolaeth ganlynol i sicrhau y caiff yr arian hwn ei dargedu'n briodol i godi safonau ar gyfer pob un o'n disgyblion. Mae’r ffaith y bydd targedu ysgolion lle ceir lefelau uchel o amddifadedd wrth wraidd y gronfa newydd hon yn galonogol. Ar gyfer etholaeth fel fy un i, mae'n hanfodol ein bod ni’n ceisio mynd i'r afael â'r cylch tlodi sy'n cyfyngu ar gyfleoedd addysgol a bywyd plant ifanc, yn enwedig o fewn cymunedau Islwyn.
Byddwn yn gofyn am eglurhad, er hynny, ar y broses ymgeisio sy’n ofynnol er mwyn cael gafael ar y cyllid hwn. Mae eich datganiad yn cyfeirio at y ffaith y bydd awdurdodau lleol, drwy gonsortia, yn gwneud cais am arian i gefnogi ysgolion yn erbyn y meini prawf a ragnodwyd. Mae’r meini prawf hynny yn cynnwys achosion busnes yn cael eu gwneud sy'n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth eang o ddata, gan gynnwys capasiti ysgolion, cymhareb disgybl athro, perfformiad o ran presenoldeb, gan gynnwys perfformiad o ran prydau ysgol am ddim, categoreiddio, gweithredu gan yr ysgol a nifer y disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig â datganiad. Pa sicrwydd, felly, y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i mi, ac y gallwch chi ei roi, hefyd, i addysgwyr, ymarferwyr ac awdurdodau lleol sydd wedi mynegi pryder ynglŷn â haen ychwanegol bosibl o fiwrocratiaeth yn gweithredu fel rhwystr rhwng cael yr arian gan Lywodraeth Cymru i’r ystafell ddosbarth? Diolch.
A gaf i ddiolch i Rhiannon am iddi groesawu’r fenter? Rwy’n credu os edrychwch chi ar yr ystadegau yn ymwneud â lle mae gennym ni feintiau dosbarth arbennig o fawr yn y sector babanod yng Nghymru, mewn etholaethau fel eich un chi, ond hefyd yma yn y brifddinas, mae gennym rai o'r cyfrannau uchaf o blant ifanc sy'n cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau sydd dros 30.
Roedd y dystiolaeth ryngwladol, ac un o'r astudiaethau a gynhaliwyd yn Ontario, a’r brifysgol yn Ontario, yn cydnabod bod y polisi hwn, ochr yn ochr â pholisïau eraill, yn arbennig o fuddiol i blant mwy difreintiedig. Mae’n rhaid inni gydnabod nad oes gan y plant sy’n rhan o’r system addysg yr un manteision i gyd. Felly, rwy’n credu bod gan y Llywodraeth swyddogaeth ddilys yn ei system addysg i geisio mynd i'r afael â'r gwahaniaethau, a mynd i'r afael â’r anfantais honno. Rwy’n credu mai swyddogaeth ddilys y wladwriaeth yw honno, ac, fel rhyddfrydwr nad yw’n hoffi’r wladwriaeth yn ymyrryd gormod mewn pethau, i mi, mae hon yn swyddogaeth ddilys o ymyrraeth y wladwriaeth i geisio unioni'r cydbwysedd ar gyfer y plant hynny. Oherwydd weithiau, heb fod unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, nid oes gan y plant hynny unrhyw un arall i frwydro drostyn nhw, a dyna yw ein gwaith ni yma.
Nawr, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau bod arian ar gael, ond hefyd i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr adnoddau cywir. Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr arian ar gael cyn gynted ag y bo modd drwy, fel y dywedais, weithio gyda phartneriaid ein hawdurdodau lleol a’n consortia rhanbarthol. Os ydyn nhw’n canfod bod y broses bresennol sydd gennym ar waith ar gyfer y rownd gyntaf yn rhy fiwrocrataidd, yna rwyf bob amser yn barod i ystyried mireinio hynny wrth inni fynd â'r grant yn ei flaen. Felly, os oes pryderon am lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â'r grant, yna rwyf bob amser yn hapus iawn i ystyried hynny. Ond mae’n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng bodloni eich hun ei fod yn cael ei ddefnyddio at y dibenion priodol, a sicrhau bod ganddom ni’r dystiolaeth i fwrw ymlaen â’r polisi. Oherwydd byddwn yn chwilio am ganlyniadau a gwahaniaethau y bydd y buddsoddiad hwn yn eu gwneud, ac mae’n rhaid i ni brofi ein hunain yn gyson fod y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud yn arwain at ganlyniadau y byddem yn dymuno eu gweld. Felly, mae angen i ni werthuso ein perfformiad ein hunain wrth wneud y penderfyniadau polisi hyn.
I ateb cwestiwn Llyr Griffiths am gyfalaf, ceir rhaniad rhwng refeniw a chyfalaf, oherwydd rwy’n cydnabod yn fawr iawn yr hyn a ddywedodd Llyr, y ceir problem o bryd i’w gilydd o ran gofod sy'n achosi trafferthion. Yr hyn y mae gennyf i ddiddordeb arbennig i’w wneud yw ystyried hynny yng nghyd-destun y cynnig gofal plant hefyd. Gwyddom y bydd y cynnig gofal plant yn cael ei gyflwyno yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac mae cyfle gwych i sicrhau synergedd yma rhwng ein cynnig cyfnod sylfaen yn ogystal â'n cynnig gofal plant. Os gallwn wneud hynny ar yr un safle, mae’n rhaid i hynny fod o fudd i rieni hefyd os gallan nhw gael gafael ar yr holl ymyriadau a chymorth ar gyfer eu plant mewn un ardal benodol.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi’n llygad eich lle bod maint y dosbarth yn ffactor perthnasol ar gyfer cyrhaeddiad addysgol plant, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gywir wrth iddi gyfaddef nad maint y dosbarth yw'r unig ffactor y mae angen ymdrin ag ef. Tybed pam mae’r fenter hon ond yn ceisio ymdrin â'r mater ynglŷn â maint dosbarthiadau er mwyn gwella addysg babanod. Beth fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i leihau maint dosbarthiadau ar lefel ysgolion cynradd?
Rydych chi wedi dweud wrthym y bydd camau eraill yn cael eu cymryd, ond ni cheir manylion am unrhyw un ohonyn nhw, a hyd yn hyn nid oes cyllid arfaethedig ar eu cyfer. A wnewch chi hefyd roi mwy o fanylion am beth yn union a olygir gan lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol, ac yn arbennig yr hyn yr ydych yn ei olygu wrth 'lefelau uchel'? Pa bryd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried bod gan ysgol lefelau uchel o anghenion dysgu ychwanegol, neu brydau ysgol am ddim, ac ati?
Yn olaf, rydych chi’n sôn am awdurdodau lleol yn gorfod gwneud cais am yr arian a gwneud achos busnes. Nid wyf yn credu y bydd rhiant unrhyw blentyn mewn ysgol sy'n methu, nad yw'n cael arian o'r cronfeydd newydd, yn fodlon â'r esboniad pam mae ysgol eu plentyn, ac felly eu hanghenion drwy hynny, wedi methu â chyrraedd trothwy achos busnes yr aelod Cabinet. Mae'r rhain yn blant, nid rhwymedigaethau neu asedau busnes, ac rwy'n siŵr y byddwch chi’n cytuno â mi bod gan bob plentyn yr hawl i gael addysg o safon, pa bynnag ysgol y maen nhw’n ei mynychu, ni waeth beth yw amgylchiadau neu statws yr ysgol. Sut ydych chi'n mynd i wella perfformiad mewn ysgol sy'n methu nad yw'n cyflwyno achos busnes digon da i leihau maint dosbarthiadau? O ystyried y pryderon hynny, a fyddwch chi’n cyflwyno unrhyw gynigion ynghylch sut y bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu i'r Siambr hon i'w cadarnhau gan yr Aelodau Cynulliad cyn y caiff y meini prawf eu gweithredu? Diolch.
Diolch i Michelle Brown am ei chwestiynau a'i chydnabyddiaeth fod hwn yn bwnc llosg i rieni ac athrawon, ac rwy’n cytuno â hi. Gofynnodd Michelle pam mai dim ond ar gyfer babanod y defnyddir hyn. Fel yr eglurais, byddwn i wrth fy modd yn lleihau maint dosbarthiadau ar draws y sector addysg i gyd, ond mae’n rhaid i mi wneud hynny mewn ffordd sy'n ymwybodol o'r cyllidebau sydd ar gael i mi, yn ymwybodol o'r ffaith bod yna raglenni eraill y mae angen i ni eu hariannu i wella addysg yng Nghymru, a dilyn y dystiolaeth. Dyma lle mae'r dystiolaeth hon yn dweud y bydd yr arian hwn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Holodd Michelle am ddosbarthiadau gyda niferoedd mawr o anghenion dysgu ychwanegol. Gwyddom fod gan rai ysgolion gyfran uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn y dosbarth, ac mae hynny, eto, yn faes lle’r ydym yn gwybod y bydd yr arian hwn yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly byddwn yn ystyried a yw rhai dosbarthiadau, sydd â nifer fawr o ddisgyblion ynddyn nhw, ond hefyd sydd â chyfran sylweddol neu nifer uwch na'r cyfartaledd o blant ag anghenion dysgu ychwanegol—yn ystyried a fyddan nhw’n gallu elwa ar hyn.
Mae'r Aelod yn hollol iawn fod pethau eraill y mae angen i ni eu gwneud, ac rwy’n berffaith ymwybodol o hynny. Unwaith eto, os caf ddyfynnu gwaith a wnaed gan Brifysgol Toronto, a byddaf yn dyfynnu yn uniongyrchol o hwn:
Ni ellir cyflawni manteision llawn y broses o leihau maint dosbarthiadau os caiff ei rhoi ar waith heb dalu sylw i ffactorau eraill sy'n cefnogi arferion arloesol. Mae rhai o'r ffactorau pwysicaf yn cynnwys y ffyrdd y mae athrawon a disgyblion yn gweithio gyda'i gilydd; y cwricwlwm a ddefnyddir; a chyfleoedd i athrawon ddysgu strategaethau addysgu newydd.
Wrth gwrs, dyna'n union beth yr ydym yn ei wneud. Pan fyddwch chi’n dweud eich bod eisiau manylion eraill, rydych chi yn ymwybodol—ac mi wn, oherwydd eich bod wedi cwrdd â'r Athro Donaldson eich hun, rwy’n deall—o’n newidiadau ar gyfer diwygio'r cwricwlwm. Rwyf eisoes wedi amlinellu yn fy natganiad ein bod ni’n ymgymryd â gwaith diwygio radical o hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Byddwn ni’n cyhoeddi safonau addysgu newydd yn nes ymlaen eleni. Felly, ni wneir hyn ar ei ben ei hun. Mae hyn, eto, yn dilyn y cyngor rhyngwladol gorau, fod y polisi hwn yn cael ei ddarparu ar y cyd â'r holl gamau a diwygiadau eraill yr ydym yn gwybod fydd yn sicrhau bod y polisi hwn yn rhan lwyddiannus o'n rhaglen ddiwygio. Ac mae cyllidebau yn gysylltiedig â phob un o’r rhaglenni hynny. Gwn eich bod yn gwybod hynny gan eich bod wedi gofyn cwestiynau anodd iawn am hynny pan ddeuthum i i'r pwyllgor—ynglŷn â sut roeddwn i’n gwario arian ar y cwricwlwm. Felly, gwn eich bod yn gwybod beth yw’r dyraniadau cyllideb, gan ein bod wedi ateb cwestiynau ar hynny yn y pwyllgor. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad yma heddiw. Fel cyn athro fy hun, yn union fel fy nghyd-Aelod Rhiannon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, rwy’n gwybod o brofiad personol bod hwn yn fater allweddol i fy nghydweithwyr i mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Rwyf hefyd yn gwybod bod maint dosbarthiadau yn fater pwysig iawn ar stepen drws fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr mewn etholaethau ledled y wlad hefyd. Croesawaf yn arbennig y manylion ychwanegol yr ydych wedi’u rhoi yma yn y Siambr y prynhawn yma hefyd ynglŷn â sut y gallai'r polisi weithio gyda'n cynnig gofal plant ledled Cymru. Roedd hwnnw’n fater a godwyd mewn gwirionedd gyda mi ar ymweliad ag Ysgol Craig yr Hesg, sy'n ysgol fraenaru dda iawn yn fy etholaeth i sydd mewn gwirionedd yn hyfforddi ysgolion eraill gan ddefnyddio arferion rhagorol.
Mae fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn yr un trywydd â chwestiwn fy nghydweithiwr Llyr Gruffydd, ac mae'n ymwneud â’r ffordd ymarferol y gellid rhoi’r polisi ar waith. Roeddwn i, hefyd, yn bryderus am broblemau posibl ynghylch y gofod ffisegol y byddai ei angen i rannu dosbarthiadau er mwyn cyflawni'r polisi, a tybed a ydych chi wedi ystyried sut y gellid datrys hynny o bosibl drwy weithio gyda'r rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain y mae'r Llywodraeth yn ei chynnig ar hyn o bryd?
Diolch i chi am hynny. Rwyf i o hyd yn ymwybodol iawn, Ddirprwy Lywydd, wrth ateb cwestiynau gan naill ai Rhiannon neu Vikki, fod ganddyn nhw arbenigedd a phrofiad proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth. Nid wyf i erioed wedi cael y profiad hwnnw ac rwyf bob amser mewn perygl o ddysgu pader i berson, ac ni fyddwn i eisiau gwneud hynny. Ond, fel y dywed Vikki, mae hon yn broblem i nifer o athrawon, oherwydd gwyddom, os yw maint dosbarthiadau yn llai, bod hynny’n galluogi athrawon i gyflwyno dulliau addysgeg newydd o addysgu dosbarth efallai na fyddan nhw ar gael os yw eu dosbarth o faint penodol. Felly, dyna’r sail, a dyna’r rhesymau pam yr ydym wedi penderfynu bwrw ymlaen â hyn.
Byddwn i wrth fy modd yn ymweld â'r ysgol y mae’r Aelod wedi ei chrybwyll. Nid wyf yn credu fy mod i wedi cael cyfle i ymweld ag ysgol yn eich etholaeth chi ers dechrau’r cynnig hwn, ac rwyf i bob amser yn arbennig o awyddus i gwrdd ag ysgolion sy'n fodlon mynd gam ymhellach er lles y disgyblion yn eu hysgol eu hunain. Mae angen system ysgol sy’n gwella ei hunan arnom, lle gall pobl weithio ar draws ysgolion i roi hwb i safonau. Rwy'n croesawu'n fawr iawn ymrwymiad athrawon yn yr ysgolion sy'n fodlon gwneud hynny. Yr hyn sy’n fy nharo i yw eu bod yn cydnabod bod ganddynt gyfrifoldeb i'w plant ond hefyd bod ganddynt gyfrifoldeb i system addysg Cymru. Pe byddai'r Aelod gystal â threfnu cyfle i ymweld â’r ysgol, byddwn i’n falch iawn o fynd gyda hi i edrych ar yr arferion da sydd ar waith yno.
Rydych chi'n hollol iawn; fel y crybwyllodd Llyr Huws Gruffydd, weithiau mae’r mater ynghylch maint dosbarthiadau wedi codi oherwydd cyfyngiadau ffisegol yr adeilad. Mae'r bobl yno yn gwybod nad yw'n ddelfrydol, ond nid ydyn nhw’n gwybod beth arall y gallant ei wneud. Dyna pam rydym wedi gwrando ar hynny. Mae gan y gyllideb hon linell refeniw, yn ogystal â llinell gyfalaf. Bydd yn gweithio ar y cyd â rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydym hefyd yn cydnabod efallai y bydd yn rhaid i rai o'r prosiectau hynny fod ychydig ar y tu allan, ond byddwn yn edrych unwaith eto i sicrhau bod cynaliadwyedd yn rhan o hynny. Nid ydym eisiau ychwanegu ystafelloedd dosbarth os bydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu yn ei lle yn fuan wedyn. Yn bwysicach fyth, rydym yn datblygu hyn ar y cyd â'r cynnig gofal plant. Rydym yn gwybod bod hynny ar fin digwydd. Nid yw’n syndod i unrhyw un; ac felly mae angen i ni ddefnyddio'r adnoddau i adeiladu cyfleusterau a fydd yn ein helpu i gyflawni amcanion y polisi mewn ffordd sy’n ddefnyddiol, sy’n atgyfnerthu'r safonau addysgeg da sydd gennym yn y cyfnod sylfaen, y gellir eu hefelychu a’u datblygu yn y cynnig gofal plant, yn ogystal â darparu safleoedd lle mae mynediad rhwydd i rieni fel y gallan nhw fanteisio ar y cyfnod sylfaen a gofal plant.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu bod y feirniadaeth ynglŷn â diffyg tystiolaeth gan Plaid Cymru braidd yn eironig gan eu bod wedi defnyddio proses y gyllideb i fynnu £50 miliwn ar gyfer cynllun ffordd â budd isel iawn i gymarebau cost er mwyn cynnal ei sylfaen wleidyddol. Lleddfwyd unrhyw bryderon a oedd gennyf ynglŷn â’r polisi hwn gan y newidiadau a wnaethoch chi. Rwy’n croesawu'n fawr y targedau ychwanegol y byddwch yn eu rhoi ar waith, ac rwy’n croesawu'n wresog y cyllid ychwanegol i ysgolion. Yn fy etholaeth i, mae ysgolion wedi gorfod diswyddo staff y llynedd, ac unwaith eto eleni; toriad o £3.7 miliwn gan gyngor Plaid Cymru, a’r posibilrwydd y bydd 135 o aelodau staff yn colli eu swyddi. Felly, pa fesurau diogelu allwch chi eu rhoi ar waith i sicrhau na fydd yr arian a gaiff ei dargedu i leihau maint dosbarthiadau yn cael ei lyncu drwy leddfu ergyd toriadau Plaid yn Llanelli?
Diolch i chi, Lee, am hynny. Rwy'n ddiolchgar i chi, oherwydd bod yr her adeiladol y cyfeiriwyd ati mewn ffordd negyddol gan rai pobl yn y Siambr hon ynghylch agwedd pobl fel chi a Jenny Rathbone wedi gwneud i mi fynd yn ôl a phrofi'r dystiolaeth ar gyfer hyn yn drylwyr. Mae hyn wedi arwain at fireinio’r polisi, gan ein bod yn dymuno sicrhau ein bod yn ei wneud yn gywir. Fel y dywedais, byddwn i wedi dwlu ar allu gwneud cyhoeddiad mawr ysgubol o'r diwrnod cyntaf, ond rydym wedi cymryd amser i fyfyrio ar bryderon pobl ac i ymchwilio yn ddwfn er mwyn i ni allu darganfod ble bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth. Rwy'n ddiolchgar; rwy'n hollol ddiolchgar. Ni all llywodraeth ond bod cystal â'r her y mae'n ei derbyn, ac nid gwaith y gwrthbleidiau yn unig yw herio'r Llywodraeth. Mae traddodiad anrhydeddus mewn gwleidyddiaeth o aelodau mainc gefn y blaid lywodraethol yn darparu’r her honno, ac rwy’n croesawu hynny. Nid wyf i’n ystyried bod hynny yn rhywbeth y dylid ei watwar gan bobl eraill o gwmpas y Siambr hon. Rwy'n credu ei fod yn beth da i’r broses wleidyddol yng Nghymru ein bod yn datblygu’r diwylliant hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd wedi bod ar goll o'r Siambr hon. Nid wyf yn ei ystyried yn beth drwg. Rwy’n ei ystyried yn beth da, ac mae'n helpu i ddatblygu polisi gwell. Rwy’n dymuno rhoi hynny ar gofnod, Ddirprwy Lywydd.
O ran yr hyn sy'n digwydd mewn awdurdodau lleol unigol, mae'r mwyafrif helaeth o’r arian ar gyfer addysg yn cael ei ddarparu drwy'r grant cynnal refeniw yn yr awdurdodau lleol. Roedd gan weinyddiaethau blaenorol—y Llywodraeth Cymru flaenorol—darged o geisio diogelu 1 y cant o gyllidebau ysgolion. Rydym ni, yn y cylch cyllideb hwn, wedi ceisio amddiffyn llywodraeth leol. Mae llywodraeth leol ei hun wedi cyfaddef ei bod wedi cael setliad gwell na’r disgwyl. Rwyf i’n disgwyl y byddan nhw’n ymdrin yn deg ag ysgolion yn eu hardal awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod pethau'n anodd i awdurdodau lleol—nid wyf yn esgus fel arall—ond mae’n rhaid i addysg fod yn flaenoriaeth iddyn nhw, ac mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin yn deg â'u hysgolion. Byddwn i’n disgwyl gweld tystiolaeth bod awdurdodau lleol yn gwneud hynny. Ni ddylid defnyddio hyn i lenwi unrhyw fylchau. Ychwanegedd yw hyn, ac ni ddylid ei ddefnyddio i lenwi unrhyw fylchau—bod awdurdodau lleol yn credu y gallan nhw daflu llwch i lygaid drwy ddefnyddio'r arian hwn ac yna wneud toriadau mewn lle arall. Dyna pam y bydd gennym broses lem iawn wrth edrych ar sut mae'r arian yn cael ei ddyrannu.
Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet.