– Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2017.
Rydw i’n galw ar Dawn Bowden i ofyn yr ail gwestiwn brys. Dawn Bowden.
Yn dilyn cyhoeddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwahardd gwladolion o nifer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid, rhag teithio i'r Unol Daleithiau am 90 niwrnod, pa asesiad y mae Prif Weinidog Cymru wedi'i wneud o effaith hyn ar Fwslemiaid yng Nghymru sydd â chenedligrwydd deuol? EAQ(5)0424(FM)
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Er gwaethaf y sicrwydd a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Tramor ddoe, ceir cryn ansicrwydd am effaith y gwaharddiad teithio. Byddwn yn pwyso am sicrwydd, ac yr wyf wedi ei gwneud yn glir i'r Prif Weinidog ddoe bod y polisi gwaharddiad teithio y tu hwnt i bob amddiffyniad rhesymol.
Diolch i chi am eich ymateb ar hynna, Brif Weinidog, ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am eich condemniad parod o'r camau cywilyddus a gymerwyd gan Arlywydd yr Unol Daleithiau—camau sydd yn groes i gonfensiwn Genefa, cyfraith ryngwladol, ac yn ôl pob tebyg, cyfansoddiad yr Unol Daleithiau? Mewn cyferbyniad eglur, mae condemniad Prif Weinidog Prydain wedi bod yn araf i ddod, a chrintachlyd oedd hwnnw ar y gorau. Er gwaethaf yr effaith y gall y gorchymyn gweithredol ei gael ar ddinasyddion Prydain, ei hymateb cyntaf hi oedd mai mater i UDA ac i Lywodraeth yr Unol Daleithiau yw ei pholisi mewnfudo. Mae'n amlwg nad arweiniodd ei pherthynas arbennig gyda'r Arlywydd at unrhyw ragrybudd arbennig ganddo ef am yr hyn a oedd i ddod.
Mae Donald Trump yn ddyn sy'n teimlo ei bod yn iawn iddo watwar y rhai hynny sydd ag anableddau, mae’n un sy’n casáu menywod yn y modd gwaethaf un ac mae’n dadlau dros artaith, ac mae wedi methu â chyfiawnhau ei hun ym mhob achos. Mae ei ymgais i gyfiawnhau’r polisi hwn hefyd wedi bod yr un mor chwerthinllyd, pan ddywedodd,
Er mwyn eglurder, nid gwahardd Mwslimiaid yw hyn ... Nid yw hyn yn ymwneud â chrefydd—mae’n ymwneud â therfysgaeth a chadw ein gwlad yn ddiogel.
Wel, os yw Donald Trump yn awyddus i gadw ei wlad yn ddiogel, efallai y dylai wneud rhywbeth am reoli gynnau, oherwydd, a dweud y gwir, mae Americanwyr mewn mwy o berygl oddi wrth ei gilydd nag oddi wrth unrhyw un o blith unrhyw un o'r saith gwlad y mae eu dinasyddion wedi eu heffeithio gan y gwaharddiad hwn. Ni ellir enwi yr un dinesydd o America sydd wedi ei ladd mewn ymosodiad terfysgol gan neb o unrhyw un o'r gwledydd hyn.
Ond, fel y nodwyd gennych, Brif Weinidog, nid mater yn unig o fod yn achos pryder a gofid i gymunedau Mwslimaidd gan y gwaharddiad teithio 90 diwrnod yw hyn, mae'r gorchymyn gweithredol hefyd yn gosod gwaharddiad ar raglen ffoaduriaid yr Unol Daleithiau am 120 diwrnod ac yn gosod gwaharddiad amhenodol ar ffoaduriaid o Syria. Mae gorchymyn gweithredol Trump, a ddaeth ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, o bob diwrnod, yn ddigyfiawnhad, yn ddilornus o’r ddyletswydd foesol sydd arnom i gyd i helpu ffoaduriaid, ac, fel yr ydym wedi ei weld eisoes yr wythnos hon, dim ond gwaethygu anoddefgarwch crefyddol a hiliol a wnaiff. Mae ef wedi ceisio pardduo crefydd gyfan, a chaf fy atgoffa am sut y gall gweithredoedd o’r fath arwain at erchyllterau a hil-laddiad hyd yn oed. Nid dechrau gyda’r siambrau nwy a wnaeth yr holocost. Fe ddechreuodd gyda phardduo crefyddwyr ac anoddefgarwch—
Mae angen i chi ddod at gwestiwn yn awr.
Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ailddatgan ei safbwynt, ac ychwanegu ei lais at y rhai hynny sy'n galw am amddifadu Donald Trump o’r anrhydedd o gael ymweliad gwladol â’r DU ar hyn o bryd, ac a fydd yn galw ar y Prif Weinidog i ddangos yr un asgwrn cefn ag arweinyddion eraill y byd gan gondemnio gweithredoedd Trump yn ddiamwys a chymryd pa gamau bynnag sydd eu hangen i’w ddarbwyllo i wrthdroi'r penderfyniad hwn?
Rwyf eisoes wedi mynegi fy marn am yr ymweliad. Yr hyn a fu'n amlwg dros y dyddiau diwethaf yw bod gwaharddiad wedi ei osod heb unrhyw sail resymegol iddo. O’r ymosodiadau terfysgol sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau dros y blynyddoedd, nid oes unrhyw ymosodwr wedi dod o’r saith gwlad hynny—ni ddaeth yr ymosodwyr ar y ddau dwr oddi yno. Yr Aifft, Saudi Arabia, dwy wlad o ble y daeth terfysgwyr, nid oes gwaharddiad arnyn nhw, sy'n codi amheuaeth fod hynny oherwydd buddiannau busnes yn y gwledydd hynny sydd gan fusnesau penodol yn yr Unol Daleithiau. Felly, nid oes unrhyw resymeg i'r polisi hwn. Yn ail, wrth gwrs, fe gafodd ei weithredu mewn modd mor wael fel nad oedd gan swyddogion y tollbyrth,—swyddogion CBP fel y’u gelwir yn America —unrhyw glem sut i'w weithredu. Mae'n amlwg bod y gorchymyn yn ei le heb dderbyn cyngor gan arbenigwyr. Un cyngor y byddwn yn ei roi i Arlywydd yr Unol Daleithiau yw hwn: nid yw derbyn cyngor yn arwydd o wendid; arwydd o gryfder ydyw. Nid oes neb sy’n gwybod popeth, ac rydym yn gweld canlyniadau hynny.
Rydym yn gwybod nad oedd rhai dinasyddion o Brydain wedi gallu teithio i America na theithio drwy’r wlad o ganlyniad i'r hyn a ddigwyddodd. Mae achos y milfeddyg o Iran a oedd wedi ei ddal yn Costa Rica yn hysbys iawn. Ac nid yw’r sefyllfa yn wirioneddol glir i ni o hyd. Nid oedd Syr Mo Farah—rhywun sydd wedi gwneud cymaint i hybu athletau ym Mhrydain, rhywun sydd wedi bod yn esiampl mor dda i gymaint o fechgyn a merched ifanc, yn siŵr a fyddai’n cael ailymuno â'i deulu a'i blant yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i’r gorchymyn hwn. Er gwaethaf y ffaith i hynny ddod i’r amlwg yn gyhoeddus, cymerodd rai oriau i Lywodraeth y DU gyflwyno achos, nid yn unig ar ei ran ef, ond ar ran nifer mawr o bobl eraill sy'n cael eu dal yn rhywle oherwydd y gwaharddiad hwn. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw reswm. Nid oes unrhyw gyfiawnhad iddo. Fy mhrofiad i o bobl America, fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes yn gyhoeddus, yw eu bod yn bobl gynnes a chwrtais; maen nhw’n bobl groesawgar. Nid dyma yw America. Efallai y bydd pobl yn dweud, 'Wel, pam y dylid cael safonau mor uchel wrth farnu America?' Yr egwyddorion cadarn y mae'r weriniaeth wedi ei hadeiladu arni yw’r rheswm am hyn. America yw arweinydd y byd rhydd, a’r ddemocratiaeth fwyaf yn economaidd, er nad o ran poblogaeth, yn y byd, ac mae hi'n cael ei barnu yn ôl safonau uwch nag eraill, a byddai hi ei hun yn disgwyl mai felly y dylai hi fod. Pa werth sydd yn awr i’r geiriau sydd ar y Cerflun Rhyddid? Felly, dyma fy erfyniad syml, dylai’r polisi diogelwch hwnnw—ac mae hi'n anodd, wrth gwrs, yn y byd modern, i reoli diogelwch—fod yn seiliedig ar benderfyniadau rhesymol, yn seiliedig ar gyngor arbenigwyr, yn hytrach na gwneud penderfyniad sy'n ymddangos i fod yn hawdd, ond sy’n hynod gymhleth ac annheg wrth ei weithredu.
Mewn cyfarfod ym Mangor neithiwr mi ges i’r fraint o ddweud bod Cymru yn wlad sydd yn croesawu y rhai sydd yn ffoi rhag rhyfel a newyn ac erledigaeth. A ydych chi’n cytuno mai un ffordd o ymateb i ffieidd-dra Trump yw trwy gyhoeddi’n glir iawn ein bod ni yng Nghymru yn genedl oddefol ac chroesawgar, ac mai drwy weithredoedd o estyn dwylo y mae profi hynny? Mae yna waith da yn digwydd gan y Llywodraeth o dan raglen ffoaduriaid Syria, ond, ar 19 Ionawr, fe glywodd y pwyllgor cydraddoldeb mai dim ond 27 o blant oedd yn ceisio lloches ar eu pennau eu hunain oedd yn byw yng Nghymru. Roedd y pwyllgor yn synnu bod y nifer mor isel, ac mae’r pwyllgor yn ceisio deall pam mai dyna ydy’r sefyllfa. A fedrwch chi fy sicrhau i y bydd eich Llywodraeth chi yn gwneud popeth i symud unrhyw rwystrau sydd yn digwydd, fel ein bod ni yn gallu bod yn genedl wir groesawgar mewn gweithred yn ogystal â mewn gair?
Nid oes rhwystr ynglŷn â hynny. Rŷm ni’n dibynnu, wrth gwrs, ar beth mae swyddogion yn Whitehall yn ei wneud ac yn ei ddweud. Rŷm ni wedi bod yn hollol agored, a dweud, fel y gwnaethom ni yn 2015, fod Cymru yn wlad agored i ffoaduriaid. A sefydlais i bwyllgor ar y pryd er mwyn gweithio gyda llywodraeth leol ac eraill i sicrhau bod yna groeso ar gael i bobl pan fyddan nhw’n dod i Gymru. Ac mae hynny yn dal i fod yn iawn nawr, ac, wrth gwrs, er taw cyn lleied o bobl sydd wedi dod i Gymru, mae’r egwyddorion hynny yn dal i’n harwain ni fel Llywodraeth.
Rwyf yn cytuno â’m cydweithwyr bod y gwaharddiad hwn yn gwbl gynhennus, annerbyniol ac annynol. Y cyfan y bydd yn llwyddo ei wneud yw ennyn casineb a gwneud i bobl ofni Mwslimiaid a gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn beryglus yn y byd. Ni ellir amddiffyn gwaradwyddo pobl oherwydd eu cenedligrwydd, a sylwaf fod nifer o farnwyr ffederal wedi atal alltudio rhai sy’n ddeiliaid fisa, gan dybio bod y gwaharddiad yn anghyfansoddiadol.
A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod y gwaharddiad yn berthnasol dim ond i unigolion sy'n teithio i'r Unol Daleithiau o un o'r saith gwlad a enwyd? Nid yw'r gwaharddiad yn berthnasol i ddinasyddion y DU sy’n teithio o un o'r gwledydd hynny i'r Unol Daleithiau, hyd yn oed os yw ef neu hi wedi ei eni yn un o'r gwledydd hynny. O ran cenedligrwydd deuol, a all y Prif Weinidog gadarnhau hefyd bod rhywun a chanddo genedligrwydd deuol gydag un o'r gwledydd a restrir sy’n teithio i'r Unol Daleithiau o’r tu allan i’r gwledydd hynny hefyd yn cael ei effeithio gan y gorchymyn hwn? Fodd bynnag, gallai dinesydd y DU a chanddo genedligrwydd deuol gydag un o'r gwladwriaethau a restrir sy’n teithio i'r Unol Daleithiau o wlad a restrir wynebu gwiriadau ychwanegol.
A hefyd, Brif Weinidog, maes arall sy’n achos pryder mawr i wledydd Mwslimaidd, a gweddill y byd—ac mae meddylfryd talu’r pwyth yn ôl yn creu problem fyd-eang nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi fod holl ddinasyddion y DU, pa un a oes ganddyn nhw genedligrwydd deuol ai peidio, yn haeddu cael eu derbyn i mewn i'r Unol Daleithiau mewn modd cyflym, effeithiol a chwrtais, oherwydd mae’r wlad honno yn esiampl nodedig o hawliau dynol, fel yr ydym i gyd yn ei ddeall? Diolch.
Wel, dim ond yr hyn a glywais Boris Johnson yn ei ddweud yn y Senedd yr wyf i’n ei wybod. Rwyf hefyd yn gwybod nad yw Llywodraeth yr Almaen yn argyhoeddedig mai dyna'r dehongliad sy'n gwbl gywir. Mae'n rhaid i ni aros i gael gweld beth sydd wedi ei roi ar bapur, mewn gwirionedd, nid yn unig yr hyn a ddywedir ar lafar gan unrhyw Weinidog yn Llywodraeth Prydain, ac nid ydym wedi gweld unrhyw gadarnhad ysgrifenedig o hynny. Fy mhryder i yw bod y sefyllfa ar lawr gwlad yn yr Unol Daleithiau yn newid trwy’r amser. Mae adroddiadau am swyddogion ar lawr gwlad yn cael cyngor anghyson o fewn cyfnod byr o amser. Felly, mae'n hynod anodd deall beth fydd y sefyllfa, ac mae angen iddi setlo, wrth gwrs, cyn gynted ag y bo modd.
Ond wrth wraidd hyn, mae’r camddealltwriaeth sylfaenol am o ble y mae natur y bygythiad yn dod. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef terfysgaeth Islamaidd yn Fwslimiaid eu hunain, fel y byddai pobl Twrci yn ei ddweud wrthych, fel y byddai pobl Syria yn ei ddweud wrthych. Y broblem gyda gorchymyn o’r fath yw ei fod yn creu'r argraff, rywsut, fod pob Mwslim fel ei gilydd. Nawr, mae ef yn gwybod nad felly y mae hi; Rwyf innau'n gwybod nad felly y mae hi. Lleiafrif bychan iawn o ddilynwyr Islam sy’n derfysgwyr Islamaidd. Nid oedd y bobl a gyflawnodd yr hil-laddiad yn Srebrenica yn cynrychioli Cristnogaeth er eu bod nhw yn eu galw eu hunain yn Gristnogion. Grŵp bychan iawn o bobl ragfarnllyd oedden nhw ynddynt eu hunain. Mae’r un peth yn wir gyda therfysgaeth Islamaidd.
Yr hyn a oedd yn fy nharo i oedd, o ystyried yr ymatebion gwahanol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Iran, pa mor rhesymol oedd Llywodraeth Iran yn ymddangos. Nawr, rydym yn gwybod bod Iran, dros y blynyddoedd, wedi bod â hanes o gefnogi mudiadau terfysgol ledled y byd. Iran sydd ar y trywydd iawn yn awr, yn fy marn i; mae cryn ffordd eto o ran y modd y gwelwn Iran, ond mae Iran wedi dod gryn ffordd o'r man lle yr oedd o’r blaen. Ond mae’r Unol Daleithiau yn wlad sydd wedi ei hadeiladu ar dderbyn ffoaduriaid. Oes, wrth gwrs, mae ganddi broblemau diogelwch, ac mae’n rhaid ymdrin â’r problemau hynny mewn modd priodol. Ond i gyhoeddi gwaharddiad ar saith gwlad, yn ôl pob golwg ar hap, ac yna ei weithredu yn y fath fodd fel nad oes unrhyw un yn gwybod yn iawn beth sy'n digwydd— wyddoch chi, nid yw hynny'n gwneud unrhyw les i ddelwedd yr Unol Daleithiau. Ac rydym angen i'r Unol Daleithiau fod mewn sefyllfa sefydlog er lles pob democratiaeth yn y byd. Yn anffodus, yr argraff a geir ar hyn o bryd yw ei bod yn gwneud pethau yn ddifeddwl yn ôl pob golwg, heb unrhyw fath o esboniad rhesymol, ac rydym i gyd yn gweld wrth gwrs yr helyntion mawr ymddangosiadol mewn rhai dinasoedd yn yr Unol Daleithiau. Nid yw hynny er budd neb, ac rwyf yn gobeithio y bydd lleisiau doeth yn cario’r dydd yn fuan.
Wel, mae’r Prif Weinidog yn gwneud rhai pwyntiau teg, ond bydd yn derbyn mai cyfyngiadau dros dro yw’r rhai sydd wedi eu cyflwyno yn ddiweddar, tan y bydd gwell gweithdrefnau fetio wedi’u cyflwyno, ac mae’n rhaid i'r polisïau mewnfudo a diogelwch a fabwysiadwyd gan weinyddiaeth America fod yn fater iddyn nhw ac i bobl America? Ni fyddem ni eisiau iddyn nhw ymyrryd yn ein polisïau mewnfudo a diogelwch ni yn y wlad hon. Pan fu’r Arlywydd Obama yn ddigon ffôl â cheisio ymyrryd yn nadl Brexit, mi ffrwydrodd y peth yn ei wyneb, os nad yw hynny'n drosiad amhriodol yng nghyd-destun y cwestiwn hwn. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn y lle hwn, fel yn wir yn Senedd y DU, cyn mynegi barn hunangyfiawn a allai fod yn wrthgynhyrchiol o ran newid polisi Llywodraeth yr Unol Daleithiau.
A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod y gorchymyn gweithredol yn seiliedig mewn gwirionedd ar ddeddfwriaeth a lofnodwyd gan Arlywydd Obama ynglŷn â’r rhaglen hawlildio fisa ym mis Rhagfyr y llynedd, ac mai’r saith gwlad sydd ar y rhestr yw’r saith gwlad a gafodd eu tynnu oddi ar raglen hawlildio fisa y Llywodraeth yr Unol Daleithiau, a bod Arlywydd Obama, yn 2011, wedi gwneud yr union yr hyn y mae Arlywydd Trump wedi ei wneud yn awr ynglŷn ag Irac, pan ohiriodd yr holl geisiadau am fynediad i'r Unol Daleithiau gan ddinasyddion Irac? Ni fu unrhyw brotest bryd hynny, cyn belled ag yr wyf yn cofio, yn y Cynulliad hwn. Rwyf yn meddwl tybed pam mae protest yn awr.
Daeth dyn i America, dyn o Irac oedd hwn, roedd wedi helpu lluoedd yr Unol Daleithiau, cyfieithydd oedd ef— cafodd ei wrthod. Yn y diwedd, fe ddaeth a gwrthodwyd mynediad iddo. Pa fath o neges mae hynny’n ei chyflwyno, pan fo pobl sy’n helpu lluoedd arfog yr Unol Daleithiau yn y frwydr yn erbyn terfysgaeth Islamaidd, yn cael eu hanwybyddu o ganlyniad i'r cymorth y maen nhw yn ei roi? ’Does bosib y gall ef amddiffyn hynny. ’Does bosib ei fod ef yn gallu amddiffyn polisi lle mae pobl sy'n breswylwyr parhaol yr Unol Daleithiau, ac yn ddeiliaid cerdyn gwyrdd, hefyd yn cael eu gwrthod oherwydd nad oes neb yn deall yr hyn y mae'r rheoliadau yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid yw’n gwestiwn o fod dros dro neu beidio—yn y pen draw, be sy’n iawn sy’n iawn ac i’r gwrthwyneb. Cafodd pobl eu gwrthod, ni chawsant— Ni chaniatawyd i filfeddyg o Iran deithio drwy'r UDA ar ei ffordd adref i Glasgow o San José yn Costa Rica. Sut mae ef—? Ydy hi yn derfysgwraig? Sut y bydd ef yn amddiffyn hynny?
Y gwirionedd yw ei bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio â chreu'r argraff, sy'n chwarae i ddwylo ISIL, mai gwrthdaro rhwng crefyddau yw hyn. 'Beth ydych chi'n disgwyl i'r Unol Daleithiau ei wneud yn wahanol i hyn?' Yna dywedodd—nid oedd i’w glywed ar y meicroffon, ond fe glywais i ef—dywedodd, ‘Beth am y ddau dwr?', meddai. A gaf i ei atgoffa nad oedd unrhyw un o'r rhai a oedd yn gyfrifol am erchylltra’r ddau dwr, a, yn dod o'r gwledydd hynny? Fe ddaethon nhw o wledydd eraill nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar y rhestr hon. Pam? Pam hynny? Nid oes unrhyw esboniad rhesymol wedi ei roi am hynny.
Mae'n rhaid i ni gofio dau beth arall hefyd. Un o'n cynghreiriaid pwysicaf yw Twrci, sydd ei hun yn wlad Islamaidd. Yn ail, er mwyn ennill y frwydr yn erbyn ISIL, mae angen i filwyr Iran wneud hynny ar faes y gad. Y peth olaf y dylech fod yn ei wneud yw creu problem gyda'r union wlad— efallai na fyddwch yn cytuno â llawer o'r pethau sy'n digwydd yno—yr ydych yn dibynnu arni i drechu mudiad dieflig fel ISIL.
Rwyf yn meddwl, mai camddealltwriaeth hollol ynglŷn ag Islam sydd wrth wraidd y cyfan. Mae Mwslimiaid Shia a Sunni wedi bod yn lladd ei gilydd mewn llawer o wledydd ers blynyddoedd lawer. Yr argraff sydd wedi ei chreu yw fod yna rai pobl sy'n ymddangos eu bod nhw o’r farn rywsut mai un grefydd yw Islam i gyd. [Toriad ar draws.] Wel, gallaf ddweud wrtho. Gallaf ddweud hyn wrtho: nid oes cymaint o amser â hynny ers pan mai’r Catholigion oedd y prif fygythiad i ddiogelwch y DU. Felly, a yw hynny'n golygu y dylai Catholigion gael eu gwirio wrth iddynt gyrraedd y DU? A gaf i ei atgoffa bod Cristnogion wedi lladd ei gilydd yng Ngogledd Iwerddon am 25 mlynedd? A gaf i ei atgoffa bod pobl a oedd yn galw eu hunain yn Gristnogion yn dienyddio menywod a phlant ar bontydd dros afonydd yn Bosnia a Herzegovina, bod yna laddfeydd wedi digwydd mewn mannau fel Srebrenica?
Ni allwn ddweud bod gan unrhyw grefydd fonopoli ar y drwg, ond yr hyn yr wyf yn ei obeithio yw y bydd yr Unol Daleithiau yn adennill ei gallu i weld rheswm.
Diolch i’r Prif Weinidog.