2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru ar 1 Chwefror 2017.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleoedd ar gyfer chwarae hygyrch ledled Cymru? OAQ(5)0096(CC)
Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn. Ni yw’r wlad gyntaf i roi chwarae ar sylfaen statudol. Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n hawdurdodau lleol, gan weithio gyda phartneriaid, i sicrhau, lle y bo’n ymarferol, cyfleoedd chwarae sy’n diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardaloedd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i gefnogi’r nod hwn.
Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer rhai sydd â nam ar y synhwyrau, wedi darganfod bod 92 y cant o rieni sydd â phlant anabl yn teimlo nad yw eu plant yn cael yr un cyfleoedd i chwarae â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae canllawiau cyfredol, fel yr ydych yn ei ddweud yn hollol gywir, yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw priodol i wneud chwarae’n hygyrch. Rwyf wedi gweld tystiolaeth dda o hyn yn fy ardal fy hun gan gyngor Rhondda Cynon Taf, ond sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr mannau chwarae eraill, megis datblygiadau tai preifat neu gynghorau cymuned, er mwyn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gwneud mannau chwarae mor hygyrch â phosibl?
Rwy’n credu bod yr Aelod yn hollol gywir i grybwyll y mater hwn ac mae’n manteisio ar bob cyfle a gaiff i hyrwyddo achos plant anabl. Mae fy swyddogion yn gweithio ar draws meysydd polisi i sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn cael eu hystyried yn briodol ac yn gadarnhaol wrth ddatblygu a chyflwyno polisi. Ar gefn yr asesiadau digonolrwydd chwarae, mae swyddogion yn archwilio sut y mae meysydd polisi yn gweithio gyda’u partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, ac yn wir sut rydym ni’n gweithredu. Anogir cynllunwyr gwlad a thref i wneud defnydd da o gytundebau adran 106 i ffurfio cysylltiadau rhwng rhanddeiliaid a phartneriaid. Byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, hefyd i gael golwg ar hyn mewn perthynas â chynigion cynllunio a sut y maent yn gweithredu, yn enwedig gyda datblygwyr preifat. Mae’n iawn dweud y byddwn yn creu parc, ond mae parc sy’n hygyrch yn barc gwahanol iawn.
Mae chwarae hygyrch yn bwysig iawn wrth gwrs, ond mae cyfraniad mawr i’w wneud gan y defnydd o chwarae fel therapi hefyd, yn enwedig o ran y rhai sydd wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Mae’n rhywbeth y credaf nad ydym yn ei ddefnyddio’n ddigonol, neu’n sicr, nid yng ngogledd Cymru yn fy mhrofiad i. Felly, a allech ddweud wrthyf pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu gwasanaethau therapi chwarae yng Nghymru, a hefyd a fuasech yn cytuno i gyfarfod â grŵp o ymarferwyr yng ngogledd Cymru a fuasai am drafod eu syniadau ynglŷn â sut y gallent chwarae rhan gryfach yn cyflawni rhai o’r canlyniadau cadarnhaol yr ydym i gyd am eu gweld i blant a phobl ifanc yng Nghymru?
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn wir, cyn y cwestiynau heddiw, cyfarfûm â StreetGames, a ddywedodd wrthyf am y gwaith sy’n digwydd mewn llawer o gymunedau ledled Cymru lle y mae chwarae’n ffactor pwysig, nid yn unig o ran manteision iechyd, ond hefyd o ran hyder ac agweddau eraill ar y ddarpariaeth iechyd meddwl ac yn y blaen. Mae budd mawr i’w gael o chwarae. Rydym yn awyddus i ddefnyddio chwarae fel therapi amgen—a rhagnodi cymdeithasol. Mae gennyf ddiddordeb yng nghysylltiadau lleol yr Aelod o ran y grŵp y mae’n sôn amdano. Os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion, byddaf yn ystyried hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedir yn aml mai chwarae yw gwaith plant, ond mewn ardaloedd difreintiedig, mae llawer o blant heb fynediad at fannau chwarae diogel. Genhedlaeth neu fwy yn ôl, yn aml buasent wedi chwarae ar y stryd. Nid yw hynny hyd yn oed yn opsiwn bellach. Ac rydych yn iawn—mae gan Lywodraeth Cymru hanes da iawn yn y maes hwn. Ond rwy’n credu mai un gwendid, efallai, yw nad yw wedi cyrraedd y cam cynllunio lle byddwn yn edrych ar ddarparu mannau chwarae, ac yn arbennig yn yr ardaloedd difreintiedig hynny, a lle nad oes rhai ar gael, ein bod yn cynllunio ar eu cyfer. Mae yna ffyrdd o wneud hyn, ond mae gofyn cael arloesedd a phenderfyniad.
Rwy’n cytuno â’r Aelod, ac fel y dywedais wrth Vikki Howells, byddaf yn cael trafodaeth gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gynllunio i weld sut y gallwn gael ymagwedd gyfannol tuag at ddatblygu a’r ystad ac edrych ar hynny ar gyfer y dyfodol.
Croesewir ffocws y Llywodraeth ar chwarae. Erbyn hyn mae gennym ddogfen Lywodraeth weddol swmpus ar hyn. Mae’r ddogfen hon wedi’i llunio ar gyfer ysgolion, meithrinfeydd, gweithwyr cymdeithasol ac awdurdodau lleol. Problem fawr, fodd bynnag, yw bod cymaint o rieni yn eisteddog neu hyd yn oed yn ordew fel bod rhaid eu perswadio i fynd allan o’r tŷ i’r parc lleol i chwarae gyda’u plant. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth y gallwn ei wneud i annog hyn.
Wel, mae’n waith i bawb ohonom. Gall llywodraethau wneud llawer o bethau, ond nid yw dweud wrth bobl am fynd allan ar eu beiciau’n rhywbeth rwyf am ei wneud yn sicr. Un o’r pethau newydd a ddigwyddodd y llynedd—ac roedd rhai pobl yn feirniadol iawn ohono—oedd yr ap Pokémon Go a ddefnyddiwyd ar lawer o ffonau. Rwy’n gwybod bod llawer o blant nad oeddent yn codi eu pennau o’u ffonau ac yn taro i mewn i waliau ac yn y blaen, ond llwyddodd i dynnu pobl allan o’u tai. Roedd honno’n ffordd glyfar iawn o gael pobl yn ôl i mewn i’w cymunedau. Felly, mae yna raglenni yr ydym yn ceisio eu gwneud. Mae Ken Skates yn hyrwyddo’r argymhellion hyn, ac rwy’n cael trafodaethau rheolaidd gydag ef ynglŷn â sut y gallwn gael mwy o bobl i wneud gweithgarwch corfforol yn ein cymunedau.