– Senedd Cymru am 3:48 pm ar 7 Chwefror 2017.
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yw Eitem 5: gweithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel. Galwaf ar Carl Sargeant i siarad am y datganiad hwnnw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae diogelwch a diogeledd ein cymunedau wedi bod yn flaenoriaeth bob amser. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau yn fwy diogel fyth yn y dyfodol, ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer diogelwch cymunedol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn benodol, byddwn yn datblygu ein gwaith i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a byddwn yn gweithio gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu, Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill ar faterion yn cynnwys seiberdroseddu, diogelwch a mynd i'r afael ag eithafiaeth. Byddwn yn parhau i annog gweithio agosach rhwng y gwasanaethau brys.
Ddirprwy Lywydd, mae gwneud ein cymunedau yn fwy diogel yn gofyn am weithredu ar draws y Llywodraeth, a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft—mae hyn yn cael ei arwain gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Ac mae gan ymyrraethau fel y rhain, yn aml gyda rhai o'r dinasyddion mwyaf agored i niwed, oblygiadau pellgyrhaeddol ar gyfer diogelwch ein cymunedau. Yn wir, rwy’n sicr na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un gwasanaeth Llywodraeth—boed yn Llywodraeth y DU neu’n Llywodraeth Cymru—neu gymuned. Mae hon yn agenda a rennir.
O fewn fy mhortffolio i, mae llawer eisoes wedi ei gyflawni ledled Cymru drwy weithio gyda'n partneriaid. Ynghyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, rydym wedi sefydlu panel ymgynghorol cyfiawnder ieuenctid Cymru. Mae hyn yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o lywodraeth leol, iechyd, y gwasanaeth prawf, y trydydd sector a'r heddlu, ac mae'n darparu arweinyddiaeth gydlynol a chyfeiriad strategol ar draws meysydd polisi, a sefydlwyd gan Lywodraethau Cymru a Llywodraeth y DU yn gysylltiedig â'n strategaeth Rhoi Plant yn Gyntaf Cymru. Mae effaith y gwaith ar y cyd a arweiniwyd gan y panel dros y pum mlynedd diwethaf wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf, lleihad yn nifer y bobl ifanc yn yr ystâd ddiogel ac ymagwedd effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth at ymyrraeth gynnar—canlyniadau sy'n dangos perfformiad gwell nag yn Lloegr.
Ac o ganlyniad i'r cydweithio agos gyda'r heddluoedd yng Nghymru, rydym wedi recriwtio a defnyddio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol ledled Cymru. Hefyd, ynghyd â'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr - Cymru, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a mwy o integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau. Yn y modd hwn, ein nod yw targedu’r adnoddau gwasanaeth cyhoeddus cyfyngedig yn fwy effeithiol.
Ac, wrth gwrs, rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arloesol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rydym wedi penodi cynghorydd cenedlaethol, wedi cyhoeddi ein strategaeth genedlaethol gyntaf ac wedi cyhoeddi canllawiau ac adnoddau hyfforddiant. Rydym wedi creu sawl ymgyrch proffil uchel, gan gynnwys yr ymgyrch Croesi’r Llinell a enillodd wobrau, sy'n ymdrin â cham-drin emosiynol. Rwyf hefyd yn cadeirio’r grŵp ymgynghorol VAWDA amlasiantaeth, sy'n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector statudol a'r trydydd sector, ynghyd ag academyddion blaenllaw. Mae'n rhoi arweiniad strategol ar weithrediad y Ddeddf a'r fframwaith hyfforddi cenedlaethol. Bydd y grŵp yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni'r strategaeth genedlaethol newydd. Yn hollbwysig, mae'r dull hwn yn sicrhau ein bod yn gwrando ar leisiau goroeswyr.
Gyda'n partneriaid, rydym ni, mewn llawer agwedd ar ein gwaith, yn arwain y ffordd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern, gan ddenu sylw y DU a sylw rhyngwladol. Trwy waith partneriaeth Cymru, rydym ni’n codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth i wella adrodd a helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod y troseddwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell.
Ond nid yw cadw cymunedau'n ddiogel yn golyygu atal neu fynd i'r afael â throseddu yn unig. Er enghraifft, mae tân a pheryglon eraill yn peri risg sylweddol. Mae ein gwasanaethau tân wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Ers i’r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli yn 2005, mae tanau ac anafiadau oherwydd tân wedi haneru bron. O ganlyniad, mae gan ein diffoddwyr tân y gallu cynyddol i fynd i’r afael â bygythiadau eraill, hefyd, ac maent yn ymateb yn rheolaidd i achosion o lifogydd, sefyllfa yr wyf yn gobeithio ei ffurfioli mewn dyletswydd gyfreithiol newydd yn fuan. Mae llawer erbyn hyn yn cefnogi ein gwasanaeth ambiwlans wrth ymdrin ag argyfyngau meddygol pan fyddant mewn sefyllfa well i wneud hynny hefyd. Ac mae eu gwaith ataliol, sy'n cael effaith mor fawr wrth leihau tanau, yn cael ei ymestyn i gynnwys peryglon domestig eraill. Rydym yn falch o barhau i gefnogi ein gwasanaethau tân yn y gwaith hollbwysig hwn.
Wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n ein hwynebu oherwydd peryglon naturiol a pheryglon o waith dyn a bygythiadau terfysgaeth. Dyna pam yr ydym yn cefnogi ein gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill i ddatblygu a chryfhau eu gallu i’n hamddiffyn rhag y risgiau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn arfer swyddogaeth arweinyddiaeth wrth gynnal a gwella strwythur i gydlynu cynllunio, ymateb ac adfer brys ledled Cymru, sydd, yn y pen draw, yn diogelu’r cyhoedd. Byddwn ni’n cryfhau’r swyddogaeth hon ac yn ceisio mwy o bwerau i'n helpu i gyflawni ein cyfrifoldebau yn fwy effeithiol.
Ond, Lywydd, mae’r agenda, oherwydd ei natur, yn gymhleth. Nid oes unrhyw ddiffiniad y cytunwyd arno yn gyffredinol o ddiogelwch cymunedol ac rydym yn gweithio mewn cyd-destunau sy'n newid yn gyson. Mae deddfwriaeth a pholisïau yn berthnasol i gyfrifoldebau sydd wedi eu datganoli a heb eu datganoli. Mae dwy flynedd ar bymtheg o ddatganoli wedi arwain, o reidrwydd, at wahaniaethu rhwng ein dull polisi ni a gwaith Llywodraeth y DU. Rydym ni wedi gweld comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu cyflwyno. Bu gan y Cynulliad bwerau deddfu sylfaenol ers 2011 ac mae'r manteision wedi cynnwys sefydlu byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Felly, mae'r newidiadau hyn wedi dod â chyfleoedd newydd, ond nid yw pob un ohonynt wedi symleiddio cyd-destun y gwaith a wnawn.
Y llynedd, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu cymhlethdodau'r agenda ac yn amlygu peth o'r gwaith cadarnhaol yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn codi nifer o faterion, ac er y byddwn yn amrywio ar y materion penodol ar safbwyntiau, rwy’n credu bod yr adroddiad yn rhoi cyfle gwerthfawr i bob un ohonom bwyso a mesur.
Gyda chytundeb, ac ochr yn ochr â’r partneriaid allweddol hynny a grybwyllwyd gennyf yn gynharach sydd mewn sefyllfa i ysgogi newid, rwy'n sefydlu grŵp goruchwylio i adolygu'r trefniadau presennol. Bydd yn helpu i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer cymunedau mwy diogel yng Nghymru sy'n datblygu’r gwaith rhagorol a wnaed eisoes neu sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn ystyried argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru. Rwyf eisiau i'r adolygiad fod yn uchelgeisiol o ran ei feddylfryd a datblygu gweledigaeth glir ar gyfer diogelwch cymunedol sy'n gadarn, yn berthnasol ac yn ymatebol—gweledigaeth ar gyfer y tymor hir. Diolchaf i'r Llywydd.
Diolch yn fawr iawn. Mark Isherwood.
Diolch, a diolch am y datganiad. Wrth gwrs, rydym ni’n rhannu gyda chi y gydnabyddiaeth na ellir cyflawni cymunedau mwy diogel gan un llywodraeth, gwasanaeth neu gymuned. Agenda a rennir yw hon. Gwnaethoch gyfeirio at y gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy’n mynd i’r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf. Fel y gwyddoch, y broblem yw’r aildroseddwyr sy’n aildroseddu’n barhaus sydd, yn gynyddol, yn mynd i’r ddalfa yn y pen draw, ond pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i adolygiad annibynnol Taylor o gyfiawnder ieuenctid, yn enwedig ei gynigion i sefydlu cynlluniau hyfforddi yn y gwaith i gynorthwyo i ddiwygio a helpu troseddwyr i ddod o hyd i waith ar ôl eu rhyddhau.
Gwnaethoch chi gyfeirio at gydweithio agos gyda heddluoedd yng Nghymru a recriwtio 500 o swyddogion cymorth cymunedol ledled Cymru. Pa ymgysylltiad neu gyfranogiad ydych chi wedi’i gael, yn fwy cyffredinol, oherwydd cawsom wybod, yn y cyfarfod briffio hwnnw gan Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad ac Aelodau Seneddol ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru fis diwethaf—nad oeddech, yn anffodus, yn gallu bod yn bresennol ynddo, ond roedd rhai o'ch cydweithwyr yno—y bu, yn y gogledd, er enghraifft, gynnydd yn nifer y cwnstabliaid arbennig i 192, gwirfoddolwyr arbennig yr heddlu i 110, a bod rhaglen cadetiaid gwirfoddol yr heddlu wedi’i dechrau a bod y niferoedd wedi cyrraedd 60, rwy’n credu, erbyn yr adeg honno.
Gwnaethoch chi gyfeirio at y gwasanaethau tân ac achub—yn amserol, o ystyried y sylw yn y wasg ddoe i gynnydd yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru, a gwasanaethau yn cael eu dargyfeirio o alwadau 999 eraill a chriwiau tân yn cael eu galw i fwy na 7,100 o danau bwriadol yn ystod 2015-16—cynnydd o bron i 11 y cant o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Nawr, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chi a Gweinidogion neu Ysgrifenyddion Cabinet eraill yn gyfrifol am y portffolio perthnasol. Tybed a allech chi ddweud wrthym eto, neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgysylltu hyn yr ydych chi'n ei wneud gyda'r gwasanaethau tân, ac asiantaethau eraill—gan gynnwys y trydydd sector, gobeithio—ynglŷn â mynd i'r afael â hynny.
Gwnaethoch chi gyfeirio at wasanaethau ambiwlans. Unwaith eto, yn y cyfarfod briffio gan Heddlu Gogledd Cymru, clywsom am swyddogion yr heddlu yn cael ei galw i ategu’r gwasanaeth ambiwlans ar alwadau. Roeddent yn dweud eu bod yn cynorthwyo i reoli effaith pwysau ar ysbytai i wella prosesau gwneud penderfyniadau o ran pryd y dylai'r gwasanaeth ambiwlans alw'r heddlu er mwyn lleihau presenoldeb diangen yr heddlu mewn digwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r heddlu. Unwaith eto, nid wyf yn gwybod pa un ai chi neu gydweithwyr eraill yn y Cabinet sy’n gyfrifol, ond efallai y gallech ddweud pa swyddogaeth, os o gwbl, y gallai fod gan Lywodraeth Cymru yn hynny.
Fe wnaethoch chi gyfeirio yn briodol at Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Deddf (Cymru). Pan wnaethoch chi ddatganiad ar hyn fis Tachwedd diwethaf fe wnaethoch chi gyfeirio at ganllawiau statudol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i arwain ym maes trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a lleoliadau eraill. Nodais fod y Gweinidog ar adeg y ddeddfwriaeth wedi dweud y byddai canllawiau ysgogi ymagwedd ysgol gyfan drwy benodi aelod o staff, disgybl a llywodraethwr i’r swyddogaethau hynny. Fe wnaethoch ymateb yn gadarnhaol. Tybed a allwch chi nodi pa gynnydd sydd wedi ei gyflawni, o bosibl, hyd yn hyn.
Ar yr un pryd, cyfeiriais at yr alwad gan yr NSPCC am strategaeth gynhwysfawr ar gyfer Cymru i atal cam-drin plant yn rhywiol, yn dilyn yr adroddiad ‘Pa mor ddiogel yw ein plant ni? 2016’ a oedd yn nodi y bu cynnydd o 26 y cant yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan 16 oed yng Nghymru. Cyfeiriais hefyd at raglenni cyn carchar ar gyfer dynion sy’n cyflawni troseddau trais yn y cartref a chynllun y gwnaethoch chi ei gydnabod, Atal y Fro, sydd hefyd yn datblygu rhaglenni i fenywod a throseddwyr glasoed, yn ogystal â'r rhai hynny ar gyfer dynion. Efallai y byddwch yn cofio imi weithio’n galed, ochr yn ochr â chydweithwyr, i geisio cynnwys hyn yn y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth y Gweinidog, yn y diwedd, er nad oedd yn derbyn hynny, ymrwymo Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hyn ac edrych ar y dystiolaeth yn unol â hynny. Pa gamau y mae eich cydweithwyr wedi’u cymryd i edrych ar yr unig raglen achrededig yng Nghymru i weld sut y gallai hyn gael ei gynnwys yn well a llenwi'r bylchau sy'n bodoli?
Fel y gwyddoch efallai, daeth Erin Pizzey, yr ymgyrchydd yn erbyn trais yn y cartref a agorodd y lloches gyntaf yn y byd yn Chiswick yn 1971, i’r Cynulliad yn ddiweddar. Dywedodd hi fod trais yn y cartref yn ymwneud â thrais teuluol rhwng y cenedlaethau, bod angen inni edrych ar rianta, ac os nad ydym yn ymyrryd, bydd y bobl hyn yn llenwi ein carchardai a’n hysbytai. Sut ydych chi’n ymateb i'w datganiad, felly, bod angen i fenywod a dynion fod yn rhan o'r ddeialog i fynd i'r afael â hynny? Rwy’n gwybod eich bod yn sicr wedi cysylltu eich hun â'r ddeialog honno.
Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw ddiffiniad y cytunwyd arno yn gyffredinol o ddiogelwch cymunedol ac i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus. Nid ydych chi’n cyfeirio at bartneriaethau diogelwch cymunedol, hyd y gwelaf i, er mai’r rhain yw'r cyrff sy'n targedu'r prif broblemau trosedd ac anhrefn yn ein siroedd. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder dro ar ôl tro nad oes gan raglenni trydydd sector megis, er enghraifft, Cymdeithas Gwarchod y Gymdogaeth Sir y Fflint a Wrecsam sy’n darparu’r rhaglen OWL, lais strategol cyfartal ar y lefel honno, ac y gallem, o bosibl, gyflawni mwy pe byddai ganddynt y llais hwnnw?
Wrth gwrs, rydym ni wedi clywed cyfeiriadau heddiw at Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel a gwell i bawb, yn enwedig plant a phobl ifanc. Mae eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi cyhoeddi datganiad ynghylch cadw plant a phobl ifanc—dysgwyr—yn ddiogel ar-lein. Ond, o ystyried bod hyn hefyd yn ymestyn i mewn i'n cymunedau, tybed pa ymgysylltu y mae hi, o bosibl, wedi’i wneud gyda chi ynghylch sut y dylid cyflawni hyn, nid yn unig yn y lleoliad addysg, ond yn ehangach.
O ran camddefnyddio sylweddau, rydych chi’n cyfeirio at fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Rydym ni’n gwybod y bu cynnydd o 153 y cant yn nifer y marwolaethau o bob achos o wenwyno gan gyffuriau yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion, a bod marwolaethau yn sgil alcohol yn cynnwys bron i 5 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru. Sut ydych chi’n ymateb i'r pryder bod byrddau cynllunio ardal yn esblygu mewn gwahanol ffyrdd—ond nid o reidrwydd mewn gwell ffyrdd—sy'n arwain at amrywiadau sydd, mewn rhai achosion, wedi gweld rhai yn diflannu bron yn llwyr a chael eu disodli gan asiantaeth statudol arweiniol, a'r trydydd sector, drwy ei hepgor, yn aml yn absennol o'r cynllunio strategol? Mae'n debyg i'r pwynt blaenorol. O ran cynllun cyflawni camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru, rydych chi’n sôn am weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â bylchau yn y gwasanaethau haen 4—gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu preswyl. Wrth gwrs, mae naw mlynedd wedi mynd heibio ers i adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nodi’r bylchau, ac ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fodel adsefydlu dadwenwyno cyffuriau ac alcohol tair canolfan, uned atgyfeirio ganolog ar gyfer Cymru, a chynnydd sylweddol mewn capasiti.
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben, os gwelwch yn dda?
Tybed a wnewch chi nodi pa gynnydd yr ydych chi wedi'i gyflawni â hynny. Yn olaf, os caf, pwnc y byddech yn disgwyl imi dynnu sylw ato, o ystyried, y bu cynhadledd, yr wythnos diwethaf, ar gymunedau cynaliadwy a datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd: sut ydych chi’n ymateb i alwad y gynhadledd honno am ymagwedd sy'n hybu camau gweithredu a arweinir gan ddinasyddion i ddechrau, ac sydd yna’n ysgogi cefnogaeth o’r tu allan i gyfateb asedau cymunedol pan fo angen, gan ddatblygu’r cryfder cymunedol presennol i gefnogi cymunedau cryfach, mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiynau pellgyrhaeddol. [Chwerthin.] Roeddwn i’n prysur redeg allan o le ar fy nhudalen, ond byddaf yn ceisio ymdrin â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. A gaf i ddechrau gyda’i bwynt cyntaf, ac adolygiad Charlie Taylor o ran gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid? Rwyf i wedi gwneud barn Llywodraeth Cymru yn glir iawn i Lywodraeth y DU ar adroddiad Charlie Taylor. Nid wyf yn credu ei fod yn adlewyrchu'n gywir y materion gwirioneddol o ran yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae'r ffordd yr ydym wedi gallu ymdrin â chyfiawnder ieuenctid yn wahanol iawn, ac mae'r gwasanaethau a’r swyddogaethau datganoledig sy'n dilyn o’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn dangos yn glir ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn arbennig o dda yng Nghymru yn y lle hwn. Byddwn i’n gofyn i'r Aelod edrych ar y cynlluniau arbrofol lle’r ydym wedi cyflwyno gwell system ar gyfer rheoli achosion troseddwyr ifanc. Yn wir, mae cynllun treialu yn Sir y Fflint, lle y cafwyd canlyniadau gwych yn sgil ymyrraeth ar y pen anodd iawn o aildroseddwyr, lle nad ydyn nhw’n aildroseddu bellach oherwydd y dulliau cefnogi sydd gennym ar waith gyda'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid. Rwy'n gobeithio y gallwn ni gyflwyno hyn ledled Cymru gyfan, ac ar y cyd â’r Gweinidogion yn San Steffan. Rwyf wedi cael sgwrs hir ag ef. Cyfarfûm â Dr Phillip Lee, yr AS, ychydig cyn y Nadolig a thrafod sut y gallwn ni edrych ar Gymru fel achos penodol iawn, yn sgil y natur ddatganoledig, ac yr oedd yn fodlon trafod hynny ymellach.
Rwy’n credu, o ran y materion sy'n ymwneud â'r gwasanaethau brys a gododd yr Aelod o ran yr heddlu a'r gwasanaeth tân, fy mod am dalu teyrnged i’r ddau sefydliad hynny, un wedi’i ddatganoli ac un heb ei ddatganoli, ond, mewn gwirionedd, maen nhw’n gweithio yng nghyd-destun Cymru, ac maen nhw’n gwneud gwaith gwych ar y rheng flaen. Talaf deyrnged i aelodau staff gweithredol ar lawr gwlad a phobl sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni, sydd yn aml yn arwyr di-glod, hefyd. Mae’r cadetiaid heddlu gwirfoddol a'r prosiect Phoenix y mae’r gwasanaeth tân yn ei weithredu yn ddau gynllun rhagweithiol iawn lle, unwaith eto, maen nhw’n meddwl mewn ffordd wahanol—mae’n nhw’n gweithredu agenda gwasanaeth tân a mwy neu wasanaeth heddlu a mwy, sydd wirioneddol yn mynd i galon ein cymunedau.
Ac ar y mater a godwyd ynglŷn â’r gwasanaeth tân a thanau bwriadol, cafodd y Gweinidog blaenorol gyfarfod ar y cyd ag awdurdodau lleol, awdurdodau tân a'r heddlu, ar y mater hwn i weld sut y gallen nhw roi terfyn ar danau glaswellt anghyfreithlon. Rydym ni wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn hynny o beth, ond, yn y pen draw, mae tanau bwriadol yn drosedd a dylid hysbysu amdanynt, a byddwn yn mynd i'r afael â’r materion hynny. Ac mae’r mater o danau bwriadol mewn cartrefi neu ddiwydiant yn aml yn ffordd o guddio trosedd ychwanegol hefyd, ac mae'r gwasanaeth tân yn awyddus iawn i wneud yn siwr ein bod yn gweithredu ar hyn.
Rwy'n credu fy mod i’n iawn yn dweud, ond o ran mater yr heddlu ac ymateb i alwadau iechyd neu bryderon iechyd, rwy’n credu fy mod i'n iawn yn dweud bod gweithiwr iechyd proffesiynol wedi’i leoli mewn rhai o'r ystafelloedd rheoli erbyn hyn, lle gallan nhw roi gwell cyngor. Os wyf i'n anghywir, maddeuwch i mi, ond rwy’n credu fy mod i’n iawn, mewn rhai o'r heddluoedd, ond nid ym mhob un, mae rhywun yn y man hwnnw, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn dymuno parhau i weithio arno gyda'n cydweithwyr iechyd.
Y broses VAWDA: mae ein hyfforddiant 'gofyn a gweithredu' yn cael ei gyflwyno ar draws llawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Rydym ni hefyd yn cynnwys y rhaglen hyfforddi ar gyfer sefydliadau nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Ddeddf, ac mae llawer o gymdeithasau tai sydd eisoes wedi dechrau’r hyfforddiant hwnnw hefyd. Rwy’n cytuno â'r Aelod am y dull ysgol gyfan hwnnw, ac mae'n rhywbeth y byddaf i’n rhoi diweddariad i'r Aelodau amdano pan fydd gennyf ragor o fanylion, ac rwyf i wedi trafod yr union fater hwnnw gyda fy nhîm.
Rhaglenni troseddwyr: mae'n rhaid i ni wneud mwy o waith ar hyn. Mae cynllun arall sy'n gweithredu yn y de, mewn gwirionedd, ar sail cyfnod prawf. Heddlu Essex sydd wedi’i ddatblygu, ac enw’r prosiect yw Drive, sydd, unwaith eto, yn rhaglen arall sy’n canolbwyntio ar y troseddwr. Mae Atal y Fro yn sefydliad arall yr wyf yn gyfarwydd iawn ag ef. Mae’n rhaid i ni fynd i'r afael â hyn o’r ddau ben: sicrhau y gallwn gefnogi unigolion sy'n dioddef trais yn y cartref, ond hefyd mynd i'r afael â'r mater o ran troseddwyr hefyd.
Y pwynt olaf yr wyf am ei godi yw dull egwyddor cyffredinol o ymgysylltu â'r trydydd sector, a pha un a fyddai hynny drwy'r prosiect OWL, a gododd yr Aelod, neu beidio. Mae'r grŵp goruchwylio yn rheswm pam yr wyf wedi dechrau dull newydd o edrych ar sut y mae diogelwch cymunedol yn edrych a sut y mae’r partneriaid hynny yn rhyngweithio. Roedd adroddiad yr archwilydd cyffredinol mewn rhai mannau yn—. Roedd rhai pwyntiau hollbwysig ynddo, ond, mewn gwirionedd, rwy’n credu ei fod yn rhoi cyfle i ni edrych mewn ffordd gwbl newydd ar y ffordd yr ydym yn ymdrin â diogelwch cymunedol gyda'n sefydliadau partner, gan gynnwys y trydydd sector a gododd yr Aelod.
Diolch yn fawr am y datganiad, ac mae o’n cynnwys nifer o faterion. Byddwch chi’n falch o glywed fy mod i’n mynd i siarad am bedwar maes. Rwy’n nodi eich bod chi yn gweithio efo comisiynwyr yr heddlu wrth daclo eithafiaeth. Buaswn i’n licio gwybod a ydy hyn yn cynnwys eithafiaeth gan grwpiau asgell dde gwyn, sef un o’r bygythiadau pennaf sy’n ein hwynebu ni yn y Gymru gyfoes. Ac a oes gennych chi raglen waith i weithio efo pobl ifanc bregus sydd ar gyrion y dde eithafol ac yn cael eu hudo atyn nhw, yn anffodus, ar hyn o bryd?
Diolch am y diweddariad am y gwaith sydd wedi’i wneud ers pasio’r Ddeddf trais yn erbyn merched, ond hyd y gwelaf i, nid oes yna ddim yn y datganiad am ddatblygu perthnasoedd iach yn ein hysgolion. Fel y gwyddoch chi, roedd yn bwnc trafod allweddol yn ystod y cyfnod pan oedd y Ddeddf yn mynd trwyddo. Felly, pryd gawn ni weld addysg perthnasoedd iach safonol yn ein hysgolion ni? Mae hyn yn rhan bwysig o’r newid mawr cymdeithasol sydd ei angen a’r parch yr ydym ni angen ei feithrin at ein gilydd boed yn ddynion neu’n ferched.
Rydw i’n croesawu’r diweddariad am rôl ehangach y gwasanaeth tân yn sgil y lleihad mewn tanau, ac rydw i’n nodi hefyd eich bod chi’n ystyried dyletswydd gyfreithiol newydd ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau llifogydd— rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn galw amdano ers tro. Mae’r llwyddiant efo lleihau’r tanau yn cynnig cyfle i edrych ar ddyletswyddau ehangach ar gyfer y gwasanaeth tân. Hoffwn i wybod a ydych chi yn barod i ystyried hynny—hynny yw, i ehangu allan rôl y gwasanaeth tân.
Mae’r datganiad yn sôn eithaf tipyn am y cydweithio rhwng sefydliadau datganoledig a’r rhai sydd heb eu datganoli. Ond, yn amlwg, mae yna ben draw i hynny ac rydw i’n siŵr bod yna wrthdaro yn codi hefyd ar brydiau. A ydy hynny yn ffaith sydd yn mynd yn fwyfwy rhwystredig i chi, ac a fyddai, er enghraifft, datganoli’r heddlu yn eich helpu chi i gyrraedd rhai o’ch amcanion yn y maes yma? A fyddech chi’n gallu gwneud mwy o gynnydd, hynny yw, petai rhai o’r pwerau yma yn gorwedd yng Nghymru er mwyn symud y maes ymlaen?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau cryno. Yn wir, ynglŷn â mater y comisiynwyr heddlu a throseddu, rwy’n cyfarfod â nhw yn rheolaidd, ac rwy’n cwrdd â'r prif swyddogion hefyd. Rydych chi'n iawn i godi mater y casineb a ddangosir gan lawer o unigolion yr asgell dde. Mae’r heddlu yn awyddus iawn i weithredu ar hyn. Hefyd, rydym ni’n buddsoddi mewn CONTEST a bwrdd eithafiaeth Cymru i wneud yn siŵr bod gennym ddealltwriaeth o’r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau. Ond mae faint o adrodd a wneir wedi cynyddu, ac ers Brexit cyrhaeddwyd brig o ran troseddau casineb, ac mae'n rhywbeth y mae'r comisiynwyr yn pryderu yn ei gylch, ac rwyf i wedi codi hynny gyda nhw o ran rheoli'r sefyllfa honno.
O ran perthnasoedd iach a thrais yn y cartref, rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod am y camau cadarnhaol yr ydym yn parhau i’w cymryd fel Llywodraeth, ond yr ydych yn gwthio drws agored yn hyn o beth gyda mi o ran perthnasoedd iach a sut yr ydym yn datblygu hynny. Mae'r adolygiad Diamond yn rhan hollbwysig o edrych ar y cwricwlwm ar gyfer y dyfodol, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg—rydym ni wedi cael sgyrsiau am sut y mae perthnasoedd iach yn edrych o ran symud hynny ymlaen.
Mae'r gwasanaeth tân wedi gwneud gwaith gwych o ran lleihau nifer y tanau. Fel y dywedais yn gynharach, bu gostyngiad o oddeutu 50 y cant yng ngweithgarwch tân yr awdurdodau, ond rwy’n siarad â'r prif swyddogion tân a'r byrddau am hyn. Siaradais â nhw yr wythnos hon, mewn gwirionedd, ynglŷn â’r pwyllgor materion cenedlaethol, lle'r ydym yn edrych ar gydweithredu a chydweithio i gyflawni dyletswyddau newydd neu gyfleoedd newydd. Mae'n broses bwysig ein bod yn siarad â'r undebau llafur a rheolwyr y timau i sicrhau y gallwn symud ymlaen gyda'n gilydd mewn modd cadarnhaol, pryd y gallan nhw symud i swyddogaeth newydd sy'n diogelu’r gorsafoedd tân a’r personél tân yn ein cymunedau, y mae pob ohonom yn eu gwerthfawrogi’n fawr iawn.
O ran datganoli’r heddlu, nid ydym yn profi gormod o densiwn ar hyn o bryd o ran gweithgareddau, ond roedd ein safbwynt ar ddatganoli'r heddlu yn glir iawn o ran Bil Cymru. Rydym ni mewn cyfnod penodol ar hyn o bryd, ond pwy a ŵyr yn y dyfodol? Gallai datganoli ein cynorthwyo i reoli diogelwch cymunedol yn well ar ein cyfer.
Tanlinellodd yr adroddiad 'Diogelwch cymunedol yng Nghymru', a luniwyd gan yr archwilydd cyffredinol, y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gwella diogelwch cymunedol yng Nghymru. Felly, rwy’n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw, ac yn croesawu sefydliad grŵp goruchwylio i adolygu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad yr archwilydd cyffredinol. Er nad oes diffiniad yn bodoli o ddiogelwch cymunedol y cytunwyd arno yn gyffredinol, rwy’n credu bod dangosyddion clir o ran sut mae ymagwedd gyfannol Llywodraeth Cymru yn parhau i wella diogelwch y cyhoedd a lles pobl.
Mae cynnydd sylweddol wedi ei wneud ac, ym maes cyfiawnder ieuenctid, mae sefydlu panel ymgynghorol ar gyfer cyfiawnder ieuenctid Cymru yn enghraifft wych o fanteision dull cydweithredol rhwng llywodraeth genedlaethol a lleol, gweithwyr proffesiynol iechyd a'r heddlu. Fel y crybwyllwyd, mae’r gwaith a’r ddeddfwriaeth ynglŷn â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi torri tir newydd yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i Ysgrifennydd y Cabinet, Carl Sargeant, am ei benderfyniad a’i gymhelliant yn y mater hollbwysig hwn. Fel cyn aelod o'r bwrdd prawf cenedlaethol, croesawaf ddull cydweithredol ac integredig o ymdrin â throseddwyr sy'n oedolion—a gyfiawnhawyd yng ngwaith Llywodraeth Cymru gyda'r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, NOMS.
Yn yr un modd, mae cryfhau partneriaethau rhwng cyrff perthnasol wrth wraidd ein dull radical o fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru, ac rydym ni’n falch iawn o'n hanes ar y mater hwn. Fis nesaf, byddaf yn mynd i’r seminar gwrth-gaethwasiaeth yng Ngwent, wedi’i drefnu gan gomisiynydd yr heddlu a throseddau Gwent, Jeff Cuthbert. Mae hon yn enghraifft berthnasol o ddigwyddiadau i randdeiliaid sy'n hwyluso trafodaeth gynhyrchiol rhwng y rhai hynny o'r sectorau cyfreithiol, gwleidyddol, a’r trydydd sector.
Rwy’n croesawu hefyd y sylwadau ar gydweithio yn y gwasanaeth tân. Yn wir, mae gwell cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau brys wedi hwyluso cynnydd calonogol o ran recriwtio swyddogion cymorth cymunedol. Gwn fod swyddogion cymorth cymunedol, fel Susan yn fy etholaeth i, yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ymgysylltiad â'r gymuned leol. Fel y cyfryw, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae addewid maniffesto Llafur Cymru i gynyddu nifer y swyddogion cymorth cymunedol yn fuddiol i les pobl yn y modd pwysig hwn? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae Cymru yn arwain y ffordd yn llwyr yn ein modd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid. Fel y dywedais wrth Mark Isherwood yn gynharach, nid yw adolygiad Charlie Taylor yn ddefnyddiol ar gyfer sefydlu cyfle gwahanol i’r DU ei symud ymlaen, ac rwy’n credu, mewn gwirionedd—. Dywedodd y Gweinidog wrthyf yn Llundain, A dweud y gwir, gallem ni ddysgu rhywbeth gan Gymru yn hyn o beth, ac roedd hynny yn galonogol iawn. Rwyf yn gobeithio y bydd yn ymweld â ni cyn bo hir i weld y gwaith sy'n cael ei wneud am y dull cyflawni aml-asiantaeth. Rydym ni’n gweld y manylion gwirioneddol am leihau troseddu mewn llawer o'r camau gweithredu yr ydym yn gallu eu cyflawni.
Ni yw'r unig ran o'r DU sydd â chydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, a benodwyd ddwy Lywodraeth yn ôl. Y mae wedi gwneud gwaith anhygoel wrth fynd i'r afael â’r agenda caethwasiaeth cudd hwn. Mae pobl yn ymweld o wledydd ledled y byd, ac yn dod i Gymru i edrych ar y gwaith yr ydym yn ei wneud yma, felly mae’r ffordd yr ydym yn ymdrin â hyn yn enghraifft dda. Byddwn i’n annog rhannau eraill o'r DU i ystyried dod â grŵp o bobl—cydlynwyr gwrth-gaethwasiaeth yn eu hawdurdodaeth eu hunain—at ei gilydd er mwyn mynd i'r afael â hyn fel ynys. Mae angen i ni reoli hyn yn well o lawer, ond rydym ni’n bendant yn ymdrin â hyn yma yng Nghymru.
Mae'r swyddogion cymorth cymunedol yn addewid poblogaidd iawn yr ydym wedi’i gyflawni. Mae 500 ohonyn nhw ledled Cymru, gan gynnwys—mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain rai o'r swyddogion cymorth cymunedol. Gallai pob un ohonoch chi adrodd stori am sut y maen nhw’n agos iawn at y gymuned ac yn gwneud cymaint o waith da yn ein cymunedau. Rwyf i wedi bod allan gyda rhai o'r swyddogion cymorth cymunedol wrth eu gwaith, sydd bob amser yn ddiddorol. Mae ganddyn nhw nifer fawr o gysylltiadau a hir y pery hynny. Mae'n bolisi gennym i barhau â hyn yn y tymor hwy a gwn fod yr Ysgrifennydd cyllid yn awyddus i sicrhau bod gennym y cyllid i'w cefnogi hefyd.
Diolch. Y siaradwr olaf yn y datganiad hwn—Michelle Brown.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i’n croesawu'r swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi a sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae'n drueni, yn sicr yn y gogledd, bod gormod o orsafoedd heddlu yn anhygyrch erbyn hyn a’r safleoedd wedi’u gwerthu. Mae’r sicrwydd o gael gorsaf heddlu weladwy a hawdd ei chyrraedd wedi ei dynnu oddi ar lawer o bobl. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion i ni am y sylwadau y mae wedi’u gwneud i gomisiynwyr heddlu a heddluoedd Cymru o ran cau neu leihau gorsafoedd heddlu?
Rwy’n croesawu unrhyw ymdrechion a wnaed i leihau, ac yn y pen draw, dileu trais yn erbyn menywod, trais rhywiol a cham-drin domestig. Fel yr wyf wedi nodi o'r blaen, mae gan athrawon gwrywaidd a dynion mewn bywyd cyhoeddus—er enghraifft, sêr pop a sêr chwaraeon—i gyd ran bwysig i’w chwarae wrth roi terfyn ar drais yn erbyn merched. Sut ydych chi'n gweithio i annog sefydliadau dynion a dynion adnabyddus i’r cyhoedd gymryd rhan yn eich gwaith i ddileu trais yn y cartref a thrais rhywiol, ac yn eu helpu i ddeall eu bod yn gallu chwarae rhan allweddol wrth sicrhau diwylliant hapusach a mwy diogel ar gyfer cenedlaethau o fenywod a dynion yn y dyfodol?
Rwy’n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet nad atal troseddau yw diwedd y gân o ran diogelwch cymunedol. Gall damweiniau yn y cartref ac mewn lleoedd eraill newid bywydau y dioddefwyr a'r rhai o'u cwmpas am byth, ac mae atal, fel y maen nhw'n ei ddweud, yn well na gwella. Yn aml, ceir cyfres o gyfleoedd ar hyd llinell amser damwain, pob un ohonynt yn cynnig cyfle i atal y ddamwain, ond addysg ac ymwybyddiaeth yw’r man cychwyn. Mae PentrePeryglon, yn fy etholaeth i, yn gyfleuster addysgol sy'n dileu damweiniau ac anafiadau yn y dyfodol yn y cartref ac mewn mannau eraill ar hyn o bryd, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o'u cyfrifoldebau cymdeithasol a chyfreithiol, gan eu helpu i osgoi mynd i drwbl â’r awdurdodau. Elusen annibynnol yw PentrePeryglon dyma'r unig gyfleuster o'i fath yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r cyfleuster hwn fod yn derbyn cyllid cynaliadwy gan Lywodraeth Cymru, ac y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi cyfleusterau eraill o'r fath a sicrhau eu bod ar gael i blant a phobl ifanc yng ngweddill Cymru? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei holl gwestiynau. Rwy'n ymwybodol o PentrePeryglon ac es i yno sawl blwyddyn yn ôl gyda'r Dirprwy Lywydd, Ann Jones, yn ei hetholaeth hi—rhaglen wych, ac, unwaith eto, wedi’i hariannu gan nifer o elusennau a busnesau yn yr ardal honno. Mae'n gweithio'n effeithiol iawn a thalaf deyrnged iddyn nhw. Cododd yr Aelod lawer o faterion yn ymwneud â materion gweithredol yr heddlu a gorsafoedd. Materion gweithredol yw’r rhain ac nid ydyn nhw wedi eu datganoli i ni; mater i'r Swyddfa Gartref yw hwn ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod wedi rhoi sylwadau i'r corff perthnasol.
Mae hyrwyddwyr gwrywaidd yn rhan wirioneddol bwysig o ran ymdrin â thrais yn y cartref ac mae llawer o gydweithwyr yn y Siambr hon sy'n hyrwyddo’r union fater hwn. Rwyf i, unwaith eto, yn eu hannog i wneud safiad fel y dylem ei wneud i gefnogi'r broses bwysig iawn hon. Mae'r heddlu yn ymdrin â llawer o faterion, gan gynnwys swyddogion cyswllt ysgolion a siarad â'n pobl ifanc am gyfleoedd lles. Yn wir, maen nhw hefyd yn gweithredu i reoli sylweddau anghyfreithlon. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n wirioneddol bwysig yn y fan yma yw ein bod yn gallu gweithio ar y cyd i sicrhau ein bod, gyda'n gilydd, fel Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, sefydliadau trydydd sector, ac awdurdodau lleol, yn llunio pecyn o gyfleoedd a fydd yn helpu ein cymunedau i fod yn fwy cydnerth, yn gryfach, ac yn fwy diogel wrth inni symud ymlaen.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.