– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 14 Chwefror 2017.
Mae eitem 5 yn ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar sefydlu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Galwaf ar Kirsty Williams i wneud y datganiad.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n credu y dylai pob person ifanc, waeth beth yw ei gefndir, gael y cyfle i ddatblygu ei ddoniau a'i sgiliau drwy gerddoriaeth. Rwy'n falch, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ein bod yn cyhoeddi gwerth £1 miliwn o fuddsoddiad i gefnogi sefydlu gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Bydd cyfraniad cychwynnol yn cael ei ddarparu i Gyngor Celfyddydau Cymru i dalu am y costau sefydlu. Yna bydd cyfraniad pellach yn cael ei wneud i gronfa gychwynnol y gwaddol unwaith y bydd wedi’i sefydlu, gan gymryd y cyfanswm i £1 filiwn.
Mae'r gwaith hwn yn cynrychioli’r dull cydgysylltiedig yr ydym yn ei gymryd i sicrhau bod cyfleoedd cerddoriaeth yn dal i fod ar gael i bob person ifanc, ac yn cael eu gwella yn y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, bydd cyngor y celfyddydau yn dechrau'r broses o sefydlu'r gwaddol, gan gynnwys ymgynnull grŵp llywio i lywio’r cwmpas, y defnydd a’r amseriadau ar gyfer gweithredu’r gronfa hon yn y pen draw. Bydd adeiladu’r gronfa i lefel lle bydd y llog blynyddol yn ddigonol i wneud grantiau, wrth gwrs, yn cymryd peth amser. Bydd yn dibynnu ar ddenu cyfraniadau gan amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Mae hon, felly, yn fenter ar gyfer y tymor canolig a'r tymor hir.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn genedl sydd â threftadaeth gerddorol gyfoethog. Pe baech yn gofyn i bobl ar draws y byd i enwi’r pethau y maent yn eu cysylltu â Chymru, byddai eu rhestr yn ddi-os yn cynnwys cerddoriaeth. O'n corau traddodiadol i gerddorion sy'n perfformio ar draws y byd, mae Cymru yn wirioneddol yn gwneud yn well na'r disgwyl. Er hynny, wrth gwrs, rhaid inni ochel rhag edrych ar ein treftadaeth gerddorol fel ystrydeb; mae ein hetifeddiaeth, i atseinio i lawr y cenedlaethau, yn un o amrywiaeth a bywiogrwydd: cerddoriaeth arbrofol John Cale; gwreiddioldeb y Super Furry Animals; hygyrchedd Ivor Novello; neu foderniaeth Kizzy Crawford a Marina and the Diamonds.
Ond eto i gyd, nid yw hyfforddiant cerddoriaeth yn ymwneud â pherfformiad yn unig. Mae'n hyrwyddo ystod o ganlyniadau cadarnhaol sy'n cefnogi'r pedwar diben wrth graidd ein cwricwlwm newydd a fydd yn codi safonau yn ein hysgolion. Rydym yn awyddus i'n pobl ifanc dyfu'n unigolion iach, hyderus, yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog ac yn ddinasyddion moesegol, gwybodus. Mae dysgu i ganu neu chwarae offeryn cerdd yn helpu ein plant i feithrin disgyblaeth a dyfalbarhad. Mae'n dysgu mai arfer yn wir yw’r unig athro ac mae'n helpu plant i fagu hyder a darganfod beth sy'n eu hysbrydoli.
Rydym i gyd am gael system addysg sy'n rhoi cyfle i ddysgwyr gymryd rhan yn y profiadau gwerthfawr hyn. Drwy ehangu ac ymestyn y grant amddifadedd disgyblion, mae ysgolion yn cael eu paratoi'n well i ddarparu profiadau cerddorol i'w dysgwyr, sy'n arbennig o bwysig i lawer o’r plant hynny na fyddent o bosibl yn gallu fforddio cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
Mae hyn yn ategu amcanion y cynllun 'Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau', rhaglen ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chyngor y celfyddydau sy’n buddsoddi £20 miliwn mewn ysgolion i hyrwyddo a chefnogi addysgu a dysgu creadigol. Mae'r rhaglen hon hefyd yn cefnogi ysgolion i ddatblygu arfer a fydd yn cyfrannu at y cwricwlwm newydd, gan helpu ein pobl ifanc i ddatblygu i fod yn gyfranwyr mentrus, creadigol.
Felly beth yw diben hyn oll? Mae cerddoriaeth yn weithgaredd cyfoethogi sy'n ein galluogi ni i fynegi ein hunain yn bersonol ac i rannu yn ein diwylliant cyfunol. Fel y dywedodd Longfellow,
Cerddoriaeth yw iaith gyffredinol dynolryw.
Y gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yw ein dull tymor hir a chynaliadwy o’i chyllido. Yn hytrach na disodli gwasanaethau cerddoriaeth presennol, fe’i cynlluniwyd i’w gwella. Er y bydd yn cymryd amser i adeiladu’r gronfa fel ei bod yn waddol cadarn a chynhyrchiol y mae Cymru ei angen ac yn ei haeddu, rwy’n awyddus ein bod yn gwthio ymlaen fel y gall hyn ddigwydd cyn gynted â phosibl. Mae'r gwaddol cenedlaethol ar gyfer cerddoriaeth yn un o argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen gwasanaethau cerddoriaeth, a hoffwn ddiolch i aelodau'r grŵp hwnnw am eu gwaith caled ac am ddarparu a chynhyrchu adroddiad mor werthfawr. Bydd y gwaddol yn fenter wirioneddol arloesol, wedi’i gwneud yng Nghymru, sy’n torri tir newydd ac felly rwy’n galw ar yr Aelodau yma i'n cefnogi wrth inni edrych yn fanwl ar sut orau i dargedu’r gronfa hon, er mwyn nodi meysydd o angen ac i’n helpu i adeiladu gwaddol llwyddiannus a all ddarparu ar gyfer pobl ifanc am flynyddoedd i ddod.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn amlwg, mae e’n rhywbeth rŷm ni yn barod iawn i’w gefnogi o safbwynt creu y gronfa neu’r gwaddol cenedlaethol yma. Fel rŷch chi’n ei ddweud, mae cerddoriaeth yn gallu rhoi profiadau mynegiadol i bobl ifanc. Mae’n gallu rhoi profiad o ymbweru iddyn nhw hefyd. Mae e yn sicr yn cryfhau hyder a hunan-barch unigolion, ac mae yna fudd, fel rŷch chi wedi ei gydnabod, nid yn unig yn addysgiadol ond o safbwynt lles ac, wrth gwrs, mae’n elfen bwysig hefyd, yn fy marn i, pan fydd hi’n dod i gryfhau iechyd meddwl, ac yn y blaen ac yn y blaen. Felly, rydw i’n croesawu’n fawr y ffaith bod y symudiad yma yn digwydd a bod y datganiad yma—er ei fod wedi cael ei wneud yn gyhoeddus cyn heddiw, wrth gwrs—yn cael ei wneud y prynhawn yma.
Jest ychydig o gwestiynau, efallai, ynglŷn â’r trefniadau ymarferol. Rydych chi’n dweud bod hon yn fenter ar y cyd gydag Ysgrifennydd yr economi. Rydych chi’n sôn am £1 filiwn. A oes yna gyfraniad ariannol yn dod o adran Ysgrifennydd yr economi, ac os oes, beth yw hwnnw? Ac o ba gyllideb o fewn eich adran chi mae’r cyfraniad yma yn dod hefyd? A ydych chi yn rhagweld y byddwch chi yn cyfrannu yn flynyddol tuag at y gwaddol, neu a ydych chi ddim yn edrych ymhellach na’r £1 miliwn ac yn disgwyl y bydd y gweddill—rydych chi’n sôn am darged o ryw £20 miliwn—yn cael ei gyfrannu gan eraill yn unig? Ac erbyn pryd ydych chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le? Yn amlwg, rydych chi’n disgwyl y bydd hyn yn talu allan erbyn 2020. A fyddwch chi’n disgwyl y bydd yr £20 miliwn yn ei le erbyn hynny?
Nawr, yn amlwg, mae’ch rhagolygon chi ar y tymor canol a’r tymor hir o safbwynt gweld y gwaddol yma yn llawn weithredol, beth bynnag, ond mae yna bwysau, wrth gwrs, heddiw ar nifer o’r gwasanaethau yma. Mi fyddai’n resyn colli llawer o’r ddarpariaeth sydd ar hyn o bryd yn y maes yma tra’n aros i gyrraedd y pwynt lle bydd y gwaddol yma’n weithredol. Felly liciwn i glywed gennych chi beth yw eich bwriadau chi i sicrhau bod y gwasanaethau presennol yn aros yn gynaliadwy yn y cyfamser. Oherwydd o golli yr isadeiledd neu’r seilwaith yna, bydd y dasg o gryfhau gwasanaethau gymaint â hynny yn anoddach.
Nid wyf yn gwybod a ydych chi’n ymwybodol o fenter Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, lle mae nifer o’r darparwyr, yn wyneb y toriadau sydd wedi cael eu gwneud, wedi dod at ei gilydd i greu menter gydweithredol a fydd yn sicrhau darparu gwasanaethau i ysgolion. Rwy’n meddwl y byddai hwnnw yn fodel y byddai’n dda i chi a’r rhai sy’n ymwneud â’r gwaddol yma i edrych arno, ac efallai y byddwch chi’n gallu dweud wrthym ni ai hynny yw'r math o beth y byddech chi yn awyddus i weld yn cael ei gefnogi gan y gwaddol yma.
Hefyd, mi gyfeirioch chi, tuag at ddiwedd y datganiad, at y tasglu gwasanaethau cerddoriaeth, a bod yna 15 argymhelliad—ac mae hwn yn un ohonyn nhw, sydd bellach yn cael ei weithredu nawr, wrth gwrs. Efallai, nid o reidrwydd fan hyn nawr, y gallwch chi roi diweddariad ysgrifenedig inni ar ryw bwynt o le mae gweddill yr argymhellion arni o safbwynt cynnydd, er mwyn cael bod yn glir ynglŷn â’r gwaith ehangach sy’n digwydd i fynd â’r agenda hon yn ei blaen.
Rwy’n diolch i chi, Llŷr, am eich sylwadau a'ch cwestiynau'r prynhawn yma ac am eich croeso i sefydlu’r gwaddol. Mae hon, yn wir, yn fenter ar y cyd rhyngof fi a fy nghydweithiwr, ac mae'r rhaniad yn 50-50: 50 y cant, neu £500,000, gennyf i, a’r un peth gan fy nghydweithiwr. Mae'n rhaid i mi ddweud, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ychwanegu yn ychwanegol. Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen, fel y gwyddoch, yn argymell y dylid cael astudiaeth ddichonoldeb i'r posibilrwydd o sefydlu gwaddol. Cafodd gwaith ei wneud yn flaenorol mewn cysylltiad â hynny, ac roeddwn yn awyddus iawn, fel yr oedd fy nghydweithiwr Ken Skates, i allu gwneud cynnydd ar yr argymhelliad hwnnw cyn gynted ag y bo modd. Diben cyllid y Llywodraeth yw: (1) galluogi cyngor y celfyddydau i sefydlu'r gronfa—felly, mae angen rhywun i ddod o hyd i’r adnodd hwnnw fel y gellid sefydlu’r gronfa yn y lle cyntaf—ac yna mae'r arian ychwanegol yno fel cymhelliant a chyfraniad at gael y buddsoddiad cychwynnol i mewn i'r gronfa, ac yn dangos i eraill bod y gronfa yn bodoli. Gobeithio y byddwn yn gallu denu buddsoddiad arall o ffynonellau sector cyhoeddus a phreifat wrth inni symud ymlaen.
Bydd ein gallu i wneud taliadau o'r gwaddol yn amodol mewn gwirionedd ar ba mor gyflym y gallwn godi'r cyfalaf sydd ei angen. Byddwn wrth fy modd i fod mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau gwneud grantiau o 2020, ond mae'n dibynnu ar ba mor gyflym y gallwn dyfu’r gronfa yn gyfandaliad sylweddol a fydd wedyn yn caniatáu i'r llog gael ei wneud. Mae'n rhy gynnar ar hyn o bryd, Llŷr, i ddweud a fyddai'r fenter gydweithredol yr ydych yn sôn amdani yn amodol ar gyllid. Mae hynny yn fater ar gyfer y grŵp llywio y rhagwelwn y bydd cyngor y celfyddydau yn ei sefydlu. Felly, nid yw’n ymwneud â mecanwaith sefydlu'r gronfa yn unig ond sefydlu grŵp llywio a fydd yn edrych ar yr holl faterion hyn—yn adnabod yr angen a'r math o brosiectau yr ydym yn teimlo a fyddai'n deilwng o gael eu hariannu. Mae’r math hwnnw o ddull cydweithredol, yn fy marn i, wedi dangos ymrwymiad pobl ar lawr gwlad i geisio goresgyn—ac nid wyf am osgoi hyn o gwbl—rhai o’r heriau gwirioneddol y mae gwasanaethau cerddoriaeth mewn ysgolion wedi eu hwynebu. Bu grwpiau fel yr un y soniasoch chi amdano—ac rwy’n gyfarwydd yn fy etholaeth fy hun â sefydliad Cerddoriaeth Ieuenctid De Powys—sydd wedi gweithio'n galed iawn, iawn i fynd i'r afael â'r bylchau ac i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi â sefyllfa ariannol anodd iawn a pharhau i ddarparu’r cyfleoedd hynny ar gyfer pobl ifanc. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ganmol grwpiau, fel yr un a grybwyllwyd gennych chi ac eraill, sydd yn gweithio mor greadigol i greu’r cyfleoedd hyn ar gyfer pobl.
O ran y grŵp gorchwyl a gorffen, fel y dywedais yn fy natganiad, roedd hwn yn argymhelliad gan y grŵp. Roedd y rhan fwyaf o'r argymhellion o'r grŵp hwnnw yn rhai i lywodraeth leol fwrw ymlaen â nhw. Mae gweision sifil yma yn fy adran i ac yn adran Ken Skates yn parhau i weithio'n agos iawn â CLlLC ac awdurdodau lleol i symud yr argymhellion hynny ymlaen. Byddwn yn fwy na hapus i fy nghydweithiwr—rwy'n siŵr y byddai'n fwy na pharod i roi diweddariad ysgrifenedig ar hynny oherwydd mae hynny’n dod dan ei bortffolio ef. Rwy'n siŵr na fyddai hynny'n broblem o gwbl.
A gaf i hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hi? Rwy'n credu ei bod yn siomedig, wrth gwrs, fod y cyhoeddiad wedi ei wneud i'r cyfryngau ddoe yn hytrach nag yn y Siambr hon. Ond rydym yn cael datganiad heddiw, ac o leiaf mae hynny’n gyfle i ofyn rhai cwestiynau i chi am y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi. Rwy’n dymuno croesawu sefydlu’r gwaddol. Mae'n argymhelliad allweddol sydd wedi cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi ar gofnod heddiw y ffaith ein bod, yn aml iawn, yn sôn llawer am y pynciau STEM—rydym yn siarad am fathemateg, rydym yn siarad am Saesneg, rydym yn siarad am wyddoniaeth, rydym yn siarad am y Gymraeg—ond gwae ni os ydym yn anwybyddu'r celfyddydau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud mwy ar gyfer y celfyddydau yma yng Nghymru, a dyna pam yr wyf yn awyddus i’r gronfa waddol hon fod yn llwyddiant a’i bod yn tyfu. Tybed pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda ffynonellau dyngarol posibl i ehangu'r gronfa hon yn gyflym, fel y gall ddechrau cael rhywfaint o arian allan o'r drws ac i mewn i bocedi pobl, er mwyn eu cynorthwyo yn natblygiad y celfyddydau yn eu bywydau eu hunain.
Rwy’n meddwl, hefyd, fy mod braidd yn siomedig, neu’n ddryslyd o bosibl, ynghylch amseriad y cyhoeddiad, oherwydd gwaith parhaus y pwyllgor, sy'n edrych ar rai o’r agweddau ar ddarpariaeth cerddoriaeth ar hyn o bryd. Ac rwy’n meddwl, os ydym yn mynd i weld rhyw fath o weithio cydgysylltiedig yn y Cynulliad hwn rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth, mae'n bwysig, weithiau, bod Gweinidogion yn dal yn ôl rhag gwneud cyhoeddiadau pan fo trafodaethau defnyddiol o ddifrif eisoes yn digwydd. Nodais, dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yn y pwyllgor diwylliant, bod y Dr Owain Arwel Hughes yn sôn am gerddoriaeth, ac roedd yn dweud ein bod yn wynebu argyfwng ar hyn o bryd yma yng Nghymru, a bod angen buddsoddiad os ydym yn mynd i gyflwyno'r math o lwyddiant y crybwyllwyd gennych yr ydym wedi’i gael yn hanesyddol. Ydych chi'n cytuno â dadansoddiad Owain Arwel Hughes ein bod mewn tipyn o argyfwng pan ddaw at addysg gerddorol yng Nghymru? Nodais fod y nifer o fyfyrwyr sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU a Safon Uwch, er enghraifft, yn awgrymu bod llai yn eistedd arholiadau cerddoriaeth. Rydym wedi gweld gostyngiad o 25 y cant yn y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth at lefel TGAU, a gostyngiad o 35 cant yn cymryd cerddoriaeth at Safon Uwch. A yw hynny’n bryder i Ysgrifennydd y Cabinet, a pha gamau penodol y byddwch yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r dirywiad yr ydym wedi’i weld yn nifer y rhai sy'n cymryd cerddoriaeth ar lefel TGAU ac i Safon Uwch?
A wnewch chi ddweud wrthym hefyd, o ran bwrw ymlaen â’r argymhellion hynny gan y grŵp gorchwyl a gorffen, y soniasoch amdanynt yn eich ymateb i Llŷr bod llawer o'r argymhellion hynny yn gyfrifoldeb llywodraeth leol. Rwy’n gwerthfawrogi ac yn deall mai dyna oedd y sefyllfa, ond, fel sydd wedi digwydd cynifer o weithiau yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn aml mae'n cymryd arweiniad gan Lywodraeth Cymru i wireddu’r pethau hynny, hyd yn oed pan wneir argymhellion i 22 o awdurdodau lleol gwahanol, a phob un ohonynt, yn aml iawn, gyda gwahanol ddulliau o wneud pethau. Felly, tybed, a ydych yn mynd i ddangos rhywfaint o arweiniad ar hyn, nid yn unig o ran sefydlu’r gronfa hon, ond o ran datblygu eich swyddogaeth fel arweinydd ar addysg ar draws Cymru i wneud yn siŵr nad yw cerddoriaeth yn cael ei hesgeuluso yn y dyfodol? A pha drafodaeth a gawsoch gyda’r Athro Donaldson i sicrhau bod cerddoriaeth yn rhan o’r cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatblygu? Nid yw gwaith yr ysgolion arloesol wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi clywed llawer amdano, er enghraifft, ond rwy'n siŵr bod gwaith yn mynd yn ei flaen ac efallai y gallwch ddweud ychydig am hynny wrthym.
Byddwch yn gwybod hefyd bod ymchwiliad y pwyllgor diwylliant wedi bod yn edrych ar enghreifftiau o ddarpariaeth addysg cerddoriaeth yn yr Alban a Lloegr. Yn y ddwy wlad hyn, bu elfen o neilltuo’r cyllid sydd ar gael i awdurdodau addysg lleol, a bu rhywfaint o arloesedd yn y ffordd y mae offerynnau cerdd wedi'u caffael a bod gwasanaethau eraill wedi eu darparu trwy ganolfannau yn dod at ei gilydd. Tybed pa drafodaeth yr ydych wedi'i chael gyda chydweithwyr, neu efallai y mae eich swyddogion wedi'i chael gyda chydweithwyr, dros y ffin yn Lloegr ac yn yr Alban, am y trefniadau hynny a'r hyn a allai fod yn ddefnyddiol i Gymru ddysgu ganddynt. A allwch chi ddweud wrthym hefyd beth fyddai swyddogaeth y consortia rhanbarthol wrth gyflwyno gwelliannau mewn addysg cerddoriaeth a mynediad at addysg cerddoriaeth yn y dyfodol? Ni chlywais unrhyw gyfeiriad at y consortia rhanbarthol o gwbl yn eich datganiad, ac rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn deall beth allai eu swyddogaeth fod mewn trefniadau yn y dyfodol. Felly, efallai y gallwch rannu ychydig o’ch syniadau am hynny. Diolch.
Diolch i chi, Darren, am y gyfres o gwestiynau a'ch croeso i’r egwyddor o sefydlu’r gwaddol. Ni fwriedir bod amseru'r cyhoeddiad hwn mewn unrhyw ffordd yn amharchus o waith y pwyllgor. Deallaf fod y gwaith wedi dod i ben ar 4 Chwefror, ond, gyda phob parch i'r pwyllgor, rydym eisoes wedi cael adroddiad sydd wedi argymell sefydlu’r gwaddol hwn. Does dim angen adroddiad arall i ddweud wrthyf fod angen i mi sefydlu'r gwaddol; yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw bwrw ymlaen â sefydlu'r gwaddol, sef yr hyn yr wyf yn ei wneud heddiw. Ond, wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb enfawr i glywed am argymhellion a chanfyddiadau’r pwyllgor, a bydd cydweithwyr yn y Cabinet a minnau yn ystyried y rheini yn y ffordd yr ydym yn symud yr agenda hon yn ei blaen. Ond, fel y dywedais, rydym eisoes wedi cael argymhelliad bod angen i hyn ddigwydd, a dyna pam yr ydym yn gwneud hynny.
O ran TGAU cerddoriaeth, mae hefyd yn ddiddorol nodi gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy'n dilyn TGAU drama hefyd. Felly mae’n sicr yn broblem bod plant, am ba reswm bynnag, yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y pynciau y maent yn dewis eu dilyn. Ond rydych chi'n hollol iawn—ydy, mae addysg gytbwys yn un sy’n rhoi sylw dyledus i fathemateg a Saesneg a gwyddoniaeth, ond hefyd yn un sydd, fel hanesydd, rwy’n gwybod fy hun yn rhoi sylw i’r dyniaethau yn ogystal ag ymdrechion creadigol. Un o'r pethau yr ydym wedi ei wneud o ran dewisiadau TGAU yw bod ysgolion wedi dweud wrthyf i fod y pwyslais ar y capio naw yn gwneud iddynt gulhau eu cwricwlwm, ac mewn gwirionedd roedd yn fwyfwy rhagweladwy bod plant yn dewis y pynciau hyn. Fel y gwyddoch, ni fyddwn yn defnyddio’r capio naw fel yr unig fesurau atebolrwydd arbenigol mewn ysgolion, gan eu galluogi i symud oddi wrth hynny felly. Felly, dyna un o'r pethau ymarferol yr ydym yn ceisio ei wneud i sicrhau nad yw ein cwricwlwm yn gul mewn ffordd sy'n ei gwneud yn fwy anodd i blant gymryd naill ai TGAU cerddoriaeth neu TGAU drama. Rwy’n awyddus i'n plant gael yr amrywiaeth fwyaf a'r ystod fwyaf eang o brofiadau addysg â phosibl. Wrth gwrs, dyna'r athroniaeth lwyr y tu ôl i ddiwygiadau cwricwlwm Donaldson.
O ran hynny, byddwch yn ymwybodol, Darren, fy mod wedi crybwyll swyddogaeth yr ysgolion creadigol yn fy natganiad. Felly, mae gennym rwydwaith o ysgolion creadigol sy'n ein cefnogi ni i ddatblygu dulliau newydd o addysg greadigol. Maent hefyd wedyn yn ffurfio rhan o faes grwpiau profiad dysgu sy’n edrych ar y fframweithiau ar gyfer meysydd unigol o brofiad dysgu ar gyfer y cwricwlwm. Ac fel y soniais yn fy natganiad, mae gennym gronfa gwerth miliynau o bunnoedd, ar y cyd â chyngor y celfyddydau, er mwyn gallu defnyddio gwahanol ffyrdd, a chreadigrwydd, i ymgysylltu o fewn y cwricwlwm. Felly, er enghraifft, gall llythrennedd fod yn broblem arbennig i fechgyn, a gall fod yn her cael bechgyn ifanc i ymgysylltu â gwaith llythrennedd ac ysgrifennu. Drwy ein gwaith gyda chyngor y celfyddydau, mae ysgolion yn gallu dod ag ymarferwyr arweiniol i mewn, ac mewn rhai ysgolion maent wedi cyflogi artist rap, ac mewn gwirionedd drwy ddefnyddio cerddoriaeth rap, ac ysgrifennu geiriau a cherddoriaeth o'r math hwnnw, mae wedi ysgogi dynion ifanc i feddwl am ysgrifennu yn ogystal â pherfformio. Dyna ffordd o ennyn diddordeb plant mewn llythrennedd mewn ffordd efallai na fydden nhw wedi meddwl amdani.
Felly, rydym yn edrych ar ddysgu creadigol yn ei ystyr ehangaf posibl. Rwy’n ymwybodol iawn o'r hyn a ddywedwyd wrth y pwyllgor am gyflwr yr addysg cerddoriaeth sy’n bodoli. Ni fyddwn yn ei ddisgrifio fel argyfwng, ond byddwn hefyd yn cydnabod tystiolaeth Karl Napieralla ynghylch yr anawsterau o ddadansoddi sefyllfa lle’r ydym wedi gweld llawer iawn o arian yn cael ei ddirprwyo i ysgolion ac ysgolion unigol yn dewis sut i ddefnyddio’r adnoddau hynny mewn ffordd sy'n diwallu anghenion eu plant. Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands—mae honno yng Nghwmbrân, mewn rhan ddifreintiedig o Gwmbran—lle’r oeddent yn defnyddio’r adnodd hwnnw i ddod â cherddorion proffesiynol i'r ysgol i weithio gyda phlant. Ar y diwrnod hwnnw, roedd y plant yn digwydd bod yn gwrando ar gerddoriaeth samba, ac yn cymryd rhan ynddo, ac yn ei fwynhau hefyd. Mae'r ysgol wedi gwneud y penderfyniad hwnnw, gan ddadansoddi’r adnodd hwnnw yn ôl allan o'r ysgol. Ond byddwn yn disgwyl i ysgolion ac awdurdodau lleol weithio'n greadigol gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghenion o fewn eu cymuned.
Rwyf hefyd wedi cael fy nghalonogi’n fawr gan y defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion. Felly, mae Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed yn Abertawe yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i dalu am aelodaeth o’r gerddorfa ieuenctid leol. I rai o'r plant hynny, gall aelodaeth o'r gerddorfa ieuenctid fod y tu hwnt iddynt. Felly, caiff rhywfaint o’r adnoddau hynny eu defnyddio i sicrhau bod y plant yn cael bod yn rhan o'r gerddorfa ieuenctid, yn ogystal â'r grŵp drama lleol. Felly, mae'n ddefnydd creadigol o'r arian hwnnw i sicrhau bod y plant hynny yn cael mynediad at y gweithgareddau hynny na fyddai ar gael iddynt mewn unrhyw ffordd arall. Ond rydym yn disgwyl i’r awdurdodau lleol fod yn gydweithredol i fynd i'r afael â'r pwyntiau hyn.
Rydym yn sicrhau arweinyddiaeth trwy sefydlu’r gronfa hon, ond, Darren, ar ryw adeg rydym yn byw mewn system sydd â llywodraeth leol, a rhaid i lywodraeth leol gymryd ei chyfrifoldeb o ddifrif. Os yw Llywodraeth Cymru yn dal i wneud pethau oherwydd nad yw llywodraeth leol yn eu gwneud nhw, rhaid gofyn y cwestiwn: pam mae llywodraeth leol yn bodoli? Mae'n eithaf clir fod ganddynt gyfrifoldeb yn y maes hwn, ac fel y dywedais yn gynharach, mae fy swyddogion i yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn bwrw ymlaen ag argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch heddiw ar y gronfa waddol ar gyfer cerddoriaeth. Dwi'n gefnogol iawn i unrhyw ffyrdd adeiladol o wella hyfforddiant cerddoriaeth mewn ysgolion a chael mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau, caru, chwarae a chymryd rhan mewn cerddoriaeth. Hoffwn ofyn i chi am rywfaint o fanylion, serch hynny.
Faint o amser, yn eich barn chi, y bydd yn ei gymryd cyn y bydd y gronfa yn ddigon o faint ar gyfer cefnogi dyfarnu grantiau? Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu’r arian i’w sefydlu, ond sut y byddwch chi’n gweithio i’w hyrwyddo ymhlith sefydliadau cyhoeddus a phreifat i'w hannog nhw i gyfrannu at y gronfa? Mae ymestyn y grant amddifadedd disgyblion yn iawn. Ond mae’n bosibl na fydd gan berson ifanc yr hawl i gael prydau ysgol am ddim, ond eto i gyd byddai prynu offeryn a thalu am hyfforddiant fod ymhell allan o gyrraedd ei rieni. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu helpu pobl ifanc o'r fath?
Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn brolio bod £20 miliwn yn cael ei wario ar ddysgu creadigol Llywodraeth Cymru drwy’r cynllun celfyddydau. Fodd bynnag, ymddengys bod y cynllun hwn yn cwmpasu mwy na cherddoriaeth. Felly, faint o'r £20 miliwn hwnnw sy’n cael ei wario ar gerddoriaeth ac yn talu am ddarpariaeth cerddoriaeth mewn gwirionedd? Pa gamau fyddwch chi’n eu cyflwyno i sicrhau bod y cyllid a fwriadwyd i gefnogi cerddoriaeth mewn ysgolion yn cael ei wario mewn gwirionedd ar gerddoriaeth mewn ysgolion?
Dylai pobl ifanc allu parhau â'u hastudiaethau cerddoriaeth os ydynt yn dymuno ar ôl ysgol, yn enwedig y bobl ifanc hynny sy’n dangos dawn gerddorol. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cerddoriaeth yn y gymuned fel y gall pobl barhau â'u cerddoriaeth ar ôl iddynt adael yr ysgol? Mae'n wych addysgu pobl ifanc i chwarae offeryn a charu cerddoriaeth, ond nid ydym wir eisiau gweld y sgiliau hynny yn dod i ben yn llwyr ar ddiwedd oedran ysgol. Rydym eisiau gallu annog pobl i barhau â hynny a dod â'u cerddoriaeth i mewn i'r gymuned. Felly, sut ydych chi'n mynd i fod yn cefnogi cerddoriaeth yn y gymuned fel y gall pobl barhau â'u cerddoriaeth ar ôl iddynt adael yr ysgol?
Gwnaeth y grŵp gorchwyl a gorffen nifer o argymhellion ynghylch telerau ac amodau darpariaeth gwasanaeth, cost darpariaeth cerddoriaeth, cyfathrebu model cyflwyno a ffefrir gan awdurdodau lleol, ac yn y blaen. Sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i'r afael â'r problemau a'r materion a amlinellwyd yn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen?
Ac yna, yn olaf, rwy’n llwyr gefnogi eich amcan i wella mynediad at gerddoriaeth mewn ysgolion. Bydd y gronfa hon, gobeithio, yn mynd rhywfaint o’r ffordd i gefnogi hynny. Ond, nid oes dim i gymryd lle hyfforddiant cerddoriaeth cymwysedig ac angerddol yr ysgolion eu hunain mewn gwirionedd. Felly, pa gamau yr ydych yn mynd i’w cymryd i annog athrawon dan hyfforddiant i astudio addysg cerddoriaeth ar lefel hyfforddiant athrawon ac i annog pobl â dawn gerddorol i'r proffesiwn addysgu yn y lle cyntaf? Diolch.
Diolch i chi, Michelle, am eich cwestiynau. O ran dyngarwch—ac rwy’n meddwl mai Darren a gododd hyn hefyd, ac mae bai arna i am beidio â mynd i'r afael â hynny—mae llawer iawn o waith wedi ei wneud, ar y cyd â chyngor y celfyddydau, yn edrych ar gyfleoedd. Mae'n rhaid i ni wella o ran dyngarwch. Mae llawer o sefydliadau ac unigolion y gallwn fod yn edrych arnynt i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'n rhaid i ni wella fel cenedl. Gobeithio, drwy greu’r cyfle hwn, y bydd yn gyfle hawdd i bobl wneud hynny. Ond bydd sefydlu grŵp llywio gan gyngor y celfyddydau yn golygu y bydd pobl sydd â chymwysterau arbennig yn y maes arbennig hwn ar gael i roi cyngor am sut y gallwn wneud y gorau o'r cyfleoedd hyn. Ni fyddwn yn honni bod yn arbenigwr yn y maes hwn, a holl bwynt cael grŵp llywio yw y gallwn ddibynnu ar bobl sydd yn gwybod sut i wneud hyn i fod yn rhan o'r grŵp hwnnw i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd y gronfa i fod yn llwyddiannus. Po gyflymaf y gallwn ddod o hyd iddynt, y cyflymaf y gallwn gael arian allan trwy’r drws i gefnogi’r gwaith yr ydych chi a minnau yn awyddus i’w weld yn ein cymunedau.
Mae dysgu creadigol trwy'r celfyddydau, fel y dywedasoch, yn rhaglen sy’n werth £20 miliwn. Nid ydym yn pennu bod yn rhaid ei wario ar gerddoriaeth. Mae'n rhaglen gelfyddydol gyffredinol ac mae'n cael ei harwain i raddau helaeth gan yr ysgolion unigol. Felly, er enghraifft, mae gan y rhaglen nifer o themâu gwahanol. Rydym wedi siarad am ymarferwyr arweiniol yn ymweld ag ysgolion. Unwaith eto, mae hynny'n ddewis i’r ysgol unigol, nid yn fater i mi ei bennu. Mae yma hefyd elfen o ewch a gweld. Felly, os yw pobl mewn gwirionedd yn awyddus i fynd i weld cynhyrchiad byw, boed hynny'n ddrama, yn gerddoriaeth, neu os ydynt yn dymuno mynd â’u plant i oriel gelf, mae elfen o ewch a gweld yn perthyn i hyn. Felly, gall ysgolion unigol, yr athrawon, ddod o hyd i’r hyn y maent yn teimlo sydd o fudd mwyaf i'w disgyblion, a gallant wneud cais i gyngor y celfyddydau am grant fel y gall pobl mewn gwirionedd fynd i weld rhywbeth eu hunain a chael eu hysbrydoli, gobeithio, gan yr hyn y maent yn ei weld a mynd â hynny yn ôl i'r ystafell ddosbarth.
Mae cerddoriaeth yn y gymuned mewn gwirionedd yn dod dan nawdd fy nghydweithiwr Ken Skates, Ond rydych yn llygad eich lle. Mae angen inni roi i’r plant yr hyder a’r cariad at gerddoriaeth fel nad yw’n rhywbeth y maent yn ei wneud yn ystod amser ysgol yn unig, ond yn rhywbeth y maent yn ei wneud y tu allan i'r ysgol hefyd. Dyna pam mae sefydliadau fel y rhai a ddisgrifiwyd gan Llŷr, Cerddoriaeth Ieuenctid De Powys, yn cynnal cyngherddau gwych, sy’n cynnwys y disgyblion ieuengaf oll a’r rheini sydd ar fin mynd i'r brifysgol—. Ond hefyd rydych yn ei weld yn digwydd mewn ffyrdd annisgwyl. Yr wythnos ddiwethaf cynhaliwyd gŵyl ddrama flynyddol Ffederasiwn Brycheiniog o Glybiau Ffermwyr Ifanc, bob nos am wythnos—a’r wythnos hon mae'n ŵyl ddrama Maesyfed—bob nos, yr wythnos ddiwethaf ar lwyfan yn Aberhonddu a'r wythnos hon ar lwyfan yn Llandrindod, bydd gennym bobl ifanc yn canu, dawnsio, chwarae offerynnau cerdd ac yn falch iawn o hynny, ac rwy'n credu bod honno'n un o'r heriau mawr.
Bydd wastad carfan o blant sy'n angerddol iawn am eu cerddoriaeth ac eisiau perfformio ar lwyfan. Ond beth ydym ni’n ei wneud mewn gwirionedd gyda phobl ifanc sydd ychydig yn swil ac yn cyrraedd yr oedran hwnnw pan fyddant am roi’r gorau i’w cerddoriaeth am nad yw'n cael ei ystyried yn rhywbeth cŵl bellach? Ac rwy’n gwybod, oherwydd mae gen i un yn fy nheulu fy hun. Y rhwystredigaeth o gyrraedd gradd 5 gyda’r ffliwt a’r ffidil ac yna, yn sydyn, 'Dyw e ddim yn cŵl, dwi ddim am gael fy ngweld yn gwneud hynny mwyach.' Felly mae gwaith i'w wneud i ennyn brwdfrydedd y plant , a dyna pam mae angen i'r gronfa hon ac addysg cerddoriaeth fod yn addysg cerddoriaeth gyffredinol, ac nid ymwneud â cherddoriaeth glasurol yn unig, ond mynd i'r afael mewn gwirionedd â cherddoriaeth mewn ffordd sy'n berthnasol i blant a’u gwneud yn awyddus i gymryd rhan.
O ran addysgu, rydych chi'n iawn, rydym yn darparu cyrsiau ar TAR, a byddwch yn gwybod ein bod yn adolygu ein holl gymhellion a'r modd yr ydym yn recriwtio i'r cwrs hwnnw. Nid yw’r ffigurau ar gyfer cerddoriaeth gen i o fy mlaen, ond gallaf ddweud wrthych fod ceisiadau am gyrsiau TAR yn uwch eleni nag oeddent y llynedd—yn gyffredinol ac yn y rhan fwyaf o bynciau, ac mae hynny'n galonogol.
Yn gyntaf, mae'n debyg y dylwn ddatgan buddiant yn y pwnc hwn, fel cerddor. Cefais fy ngeni ar stad cyngor ac euthum at fyd cerddoriaeth broffesiynol drwy ddarpariaeth y wladwriaeth a'i cherddorfeydd ieuenctid a chenedlaethol teilwng. Roeddwn yn un a dderbyniodd wasanaeth cefnogi cerddoriaeth ffyniannus a oedd yn cynnig hyfforddiant offerynnol, nid yn unig i mi fel clarinetydd, ond i aelodau fy nheulu a aeth ymlaen i chwarae i gerddorfeydd enwog gorau’r byd. Ac fe ddeuthum i’n athro cerdd ac yn ddarlithydd gwadd, ac rwy'n dal i fod yn ddyledus am y cyfleoedd hynny; ni fyddwn wedi eu cael fel arall. Rwy'n rhoi gwerth mawr yn bersonol ar y sefydliadau, y mudiadau a’r strwythurau hyfforddiant hynny—y peiriannau a roddodd y sgiliau a oedd eu hangen arna i, yn blentyn dosbarth gweithiol, i lwyddo yn fy llwybr gyrfa dewisol.
Hoffwn i dalu teyrnged hefyd i waith caled aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen ar y cyrff gwasanaethau cerdd ac adolygu celfyddydau ieuenctid. Hoffwn groesawu yn fawr iawn y potensial ar gyfer y dull cydweithredol a gafodd ei grybwyll yn gynharach, ac rwyf hefyd yn croesawu'r diwygiadau a’r mentrau arloesol y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi’u cyflwyno i gryfhau'r celfyddydau yng Nghymru: diwygiadau adeiladol ac uchelgeisiol, megis cwricwlwm creadigol 'Dyfodol Llwyddiannus' Donaldson, sydd wedi cael ei grybwyll, i gyfoethogi mynediad ystafell ddosbarth ac unigol i'r cwricwlwm celfyddydau; y cydlynwyr ac ymarferwyr arweiniol ysgolion a llwybrau creadigol arloesol; yr artistiaid uchelgeisiol mewn prosiectau ysgolion; y mentrau ariannu a gyd-adeiladwyd, megis y cynllun gweithredu 'Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau', sydd yn arloesi yn gydweithredol, ac yn gydweithrediad pellgyrhaeddol rhwng Llywodraeth Cymru a chyngor celfyddydau Cymru, fel y nodwyd, o £20 miliwn i ehangu mynediad at y celfyddydau; a hefyd y cynnydd sylweddol yn y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer y disgyblion blynyddoedd cynnar mwyaf agored i niwed, sy'n gallu cael mynediad gwell at gyfleoedd drwy gwricwlwm cyfoethog sy’n seiliedig ar y celfyddydau. Felly, rwy’n dymuno diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, seilwaith a sgiliau am eu cydweithrediad gyda’r mater pwysig hwn.
Rwyf i, yn wir, yn croesawu cyhoeddiad heddiw o gronfa gerddoriaeth ar gyfer Cymru. Yn wir, mae’n ddarpariaeth unigryw ac arloesol, ac mae'n adnodd i Gymru mewn cyfnod o galedi mawr,wedi’i chyfeirio i Gymru o doriadau digynsail i grant bloc Cymru a'r amseroedd anodd dilynol ar gyfer llywodraeth leol. Mae'n iawn ein bod yn cadw, yn cynnal ac yn tyfu ein cenedl fel gwlad y gân a'n bod yn uchelgeisiol am ein lle yn y byd celfyddydau byd-eang ac fel gwlad o ddiwylliant, ac fel pwerdy creadigol, diwydiannol, economaidd.
Yn dilyn fy natganiad barn trawsbleidiol, sef OPIN-2016-0026, a lofnodwyd gan bob plaid, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai hi'n cytuno â mi a sefydliadau celfyddydol a cherddorion Cymreig uchel eu parch eraill fod y gronfa waddol hon, yn gyntaf, mewn sefyllfa dda i ehangu mynediad cyfartal i bawb, ac, yn ail, yn adain dderbyniol yn yr olwyn tuag at ddatblygiad strategaeth perfformio cerddoriaeth genedlaethol, cynllun perfformio cerdd cenedlaethol i Gymru, ac yn cynnig craidd dilynol. Diolch.
Lywydd, a gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau a’i chwestiynau ac am fy mhlagio yn barhaus ar y pwnc hwn ers ei hethol i'r lle hwn? Rwyf bob amser yn rhyfeddu at bobl sydd â dawn yn y maes hwn. Rwy'n datgan nad oes gen i ddim o gwbl. Felly, efallai y gallai pobl fel Rhianon sy'n gallu chwarae’r clarinét ymuno â Bethan a'i fiola a Mick yma a’i fandolin a'i chwiban dun—gall chwythu’r chwiban dun hefyd. Ac mae’r Llywydd, rwy’n meddwl, o bryd i'w gilydd, yn canu. Felly, efallai y gallem achub ar y cyfle i dynnu sylw at y talentau sydd gennym yma ac efallai y gallem gynnal cyngerdd i godi arian sy'n cynnwys cyfraniadau gan Aelodau'r Cynulliad, a gallai’r elw fynd i mewn i'r gwaddol, gan ei bod yn amlwg bod gennym bobl dalentog iawn yn y Siambr.
Rhianon, rwy’n awyddus i blant gael y profiadau a'r cyfleoedd a gawsoch chi, ac mae hynny’n profi i fod yn fwyfwy anodd. Ond dyna pam rydym yn annog ysgolion i ddefnyddio eu Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y plant hynny o gefndir mwy difreintiedig, yn greadigol, i wneud yn siŵr eu bod yn cael cyfleoedd offerynnol efallai y byddai eu cymheiriaid mwy cefnog yn eu mwynhau, oherwydd nid ydym am i dalentau pobl gael eu mygu gan ddiffyg cyfle yn y modd hwn. Rydych chi'n hollol iawn: a dim ond adain yn yr olwyn yn unig yw hon. Nid hyn yw’r ateb. Mae'r rhaglen hon a'r adnoddau a fydd, gobeithio, yn dod oddi wrth y gwaddol yno i wella, yn hytrach na disodli, beth ddylai fod yn digwydd. Ni all fod yn fwled arian, ond mae'n ffordd o sicrhau y gellir gwneud mwy dros blant a phobl ifanc nag y gellid ei wneud yn flaenorol ac rwy’n diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad i'r agenda hon.
Rwy’n ymateb fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yng nghyd-destun—fel y crybwyllwyd gan Darren Miller yn gynharach—yr ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal i gerddoriaeth mewn addysg, nid am ein bod ni fel ACau yn awyddus i wneud hynny, ond oherwydd bod y cyhoedd, drwy bôl piniwn a sefydlwyd gennym, wedi penderfynu ar ein rhan y dylem edrych ar y mater hwn oherwydd, er gwaethaf y nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen, mae llawer o'r penderfyniadau wedi cael eu gohirio ac mae llawer o'r camau gweithredu ar y materion hyn heb ddwyn ffrwyth. Byddaf yn dweud ein bod yn croesawu’r buddsoddiad hwn, ond rwy’n meddwl, fel y soniwyd yn gynharach, nad oes modd ichi edrych ar y gronfa waddol hon ar ei phen ei hun fel ateb i wasanaethau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdod lleol. Rwy’n credu mai dyna lle, o bosibl, yr oedd angen i ni weld datganiad mwy cyfannol yma heddiw. Heb ddiystyru’r ffaith bod hyn yn angenrheidiol, ond, o ystyried y dystiolaeth yr ydym yn ei derbyn yn y pwyllgor ar hyn o bryd, rwy’n credu bod hyn yn bryder i mi ar hyn o bryd oherwydd bod rhai yn y sector eisoes wedi dweud wrthyf heddiw, a’u geiriau nhw yw’r rhain, nid fy, rhai i, mai ‘ddiferyn yn y môr' yw hyn, ac i fod yn gydradd â Lloegr o ran cynnig disgyblion dylai’r gronfa hon fod rhwng £4 miliwn a £5 miliwn yng Nghymru. Mae gan yr Alban gronfa o £10 miliwn eisoes ac mae hynny yn ychwanegol at eu gwasanaethau cerdd cyffredinol. Mae'n dda cael cynllun gwaddol cenedlaethol, ond tra bod ardaloedd ledled Cymru yn colli tiwtoriaid cerdd a chymorth peripatetig wrth i ni siarad, ar lawr gwlad, oni fyddech yn cytuno nad yw'n ateb hyfyw cael offerynnau heb edrych ar y darlun ehangach a cholli tiwtoriaid cerddoriaeth lleol?
Hoffwn hefyd ddeall pwy fydd yn cael y cyllid. Does dim manylion, o'r hyn a ddeallaf, ynghylch a fyddant yn ddisgyblion o ardaloedd mwy difreintiedig neu a fydd yn fater i bawb yn gyffredinol i wneud cais am y gronfa hon. Hoffwn i gael rhywfaint o syniad ynghylch faint o’r £1 filiwn fydd yn gostau sefydlu a faint fydd mewn gwirionedd yn gallu mynd i mewn i gaffael offerynnau newydd mewn gwirionedd. Pa arian sy’n mynd i gael ei roi i mewn i bontio'r bwlch cyllido rhwng gweithgareddau lleol a'r ensembles cenedlaethol? Efallai y byddwch yn canfod na fydd pobl yn gwneud cais am y gronfa hon gan na fydd pobl ifanc yn dod drwy'r system yn y lle cyntaf. A fyddwch yn ceisio sefydlu peirianwaith ariannu gwarchodedig yn ganolog ar gyfer darparu cerddoriaeth mewn addysg yn genedlaethol?
A allwch ddweud wrthyf a fydd y gronfa yn cefnogi'r ensembles cenedlaethol, a sut bydd yn gwneud hynny? Mae grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei grybwyll lawer gwaith yma heddiw, wedi awgrymu y dylai Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fod yn fuddiolwr allweddol o unrhyw gronfa waddol ac mae ei fwrdd interim yn y broses o sefydlu ei gynllun gwaith wrth i ni siarad. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa sgyrsiau yr ydych wedi'u cael gyda nhw am y cynllun gwaddol newydd penodol hwn? Soniasoch am sefydlu grŵp llywio drwy gyngor y celfyddydau ar hyn. A fyddech yn gallu dweud wrthyf sut y galla i ddeall ychydig mwy ynghylch pam na allai'r corff celfyddydau ieuenctid newydd fod wedi gwneud y gwaith hwn, yn hytrach na sefydlu rhywbeth drwy gyngor y celfyddydau?
Roedd erthygl y BBC ar y mater hwn yn awgrymu y dylai'r gronfa ddechrau gwneud taliadau yn 2020. A fydd unrhyw gymorth yn y cyfamser? Fel yr wyf wedi crybwyll o'r blaen, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ailadrodd eto, ni fydd llawer o'r gwasanaethau sy’n weithredol ar hyn o bryd, yn weithredol yn 2020, a dywedir hyn wrthyf gan bobl ar lawr gwlad, ac, unwaith eto, nid gennyf fi fy hun. Bydd llai o ddisgyblion i gael mynediad at y gronfa waddol. Sut y bydd hyn yn cael ei dargedu gennych chi? Dywedodd y datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru fod y gronfa newydd yn wahoddiad i roddwyr preifat a chorfforaethol ymuno â Llywodraeth Cymru wrth feithrin talentau cerddorol ifanc. Pa dystiolaeth a gafwyd y bydd rhoddwyr preifat a chorfforaethol yn barod i gyfrannu at y maes penodol hwn o fuddsoddiad? A oes gennych chi enwau busnesau, er enghraifft, sy'n barod i gamu i’r adwy a chefnogi cerddoriaeth yn hytrach na, dyweder, wyddoniaeth, peirianneg, neu feysydd eraill o ddiddordeb ar gyfer y busnesau hynny yng Nghymru?
Fy nghwestiwn olaf i yw ein bod wedi cael tystiolaeth i'n pwyllgor, ac mae hynny ar gofnod, nad oes cyswllt ar hyn o bryd rhwng cynllun dysgu creadigol drwy'r celfyddydau—y £20 miliwn sydd wedi'i ddyfynnu cryn dipyn yma heddiw—a cherddoriaeth ac addysg. Mae hynny, unwaith eto, yn dod oddi wrth bobl yn y maes. Felly, rydych yn dweud heddiw ei fod yn mynd i gyd-fynd â'r gwaith hwnnw. Mae angen immi ddeall sut y bydd hynny yn ategu gwaith y gronfa £20 miliwn, gan ystyried bod pobl yn dweud wrthyf nad oes ganddo ddim i'w wneud â chyflenwi peripatetig yn lleol. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylech chi fod yn ymwybodol ohono pan fyddwch o bosibl yn datblygu polisïau newydd.
Rwy’n meddwl, yn gyffredinol, nad oes neb—nid wyf yn credu y byddai unrhyw un sy’n ymwneud â cherddoriaeth yn gwadu’r ffaith bod y cynllun gwaddol hwn yn rhywbeth sydd yn gadarnhaol, ond ni all, yn fy marn i, weithio ar wahân i’r problemau a’r ffaith bod llawer o ysgolion—rydych yn gwybod, mae llawer o ysgolion yr ydych wedi ymweld â nhw yn gwneud pethau da, ond mae llawer o ysgolion nad ydynt yn buddsoddi mewn cerddoriaeth o gwbl, ac maent yn rhoi eu harian mewn mannau eraill. Mae tiwtoriaid yn gorfod gadael cerddoriaeth yn gyfan gwbl i fynd a gweithio mewn proffesiynau eraill oherwydd ni allant gael y lefel honno o fuddsoddiad gan ysgolion unigol. Felly, byddwn yn eich annog i edrych ar hynny, oherwydd gall rhai ysgolion fod yn anhygoel, ond os yw’r ysgolion hynny i lawr y ffordd yn gwneud dim, sut ydym ni wedyn yn mynd i fod yn annog pobl i ddringo pyramid datblygiad cerddorol, fel eu bod wedyn yn gallu ymuno â'r corau a’r cerddorfeydd ieuenctid cenedlaethol yr wyf i ac eraill yn y Siambr hon wedi elwa cymaint arnynt yma yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn, Bethan, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Dywedasoch ar y dechrau nad oeddech eisiau rhagor o adroddiadau, adolygiadau a diweddariadau gorchwyl a gorffen—roeddech yn awyddus i weld camau gweithredu. Wel, mae hwn yn gam gweithredu. Dywedodd y grŵp gorchwyl a gorffen y dylid cael cronfa waddol, ac rwy’n cyhoeddi ein bod yn ei sefydlu heddiw. Mae hyn yn enghraifft o sut yr ydym mewn gwirionedd yn ceisio symud pethau ymlaen mewn ffordd gadarnhaol, yn hytrach na dim ond ysgrifennu adroddiad arall.
Nawr, pam cyngor y celfyddydau? Rydym yn teimlo mai cyngor y celfyddydau sy’n gallu bod yn y sefyllfa orau i gael yr arbenigedd, y profiad a'r gallu i ddod â’r bobl iawn ynghyd a fydd yn sefydlu grŵp llywio. Pwy fydd yn cael yr arian? Nid yw hynny'n fater i mi benderfynu arno. Bydd yn fater i'r bwrdd a fydd yn gyfrifol am y gronfa i benderfynu pwy sy'n cael eu hariannu o dan hyn, ac mae hynny'n gwbl briodol. Gorchwyl Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r gwaddol hwn yw ei gychwyn—rhoi hwb iddo, rhoi arwydd ein bod yn meddwl bod hyn yn bwysig, a darparu'r costau sefydlu cychwynnol a'r cyllid sbarduno cychwynnol i wneud hyn yn realiti. Byddwn yn disgwyl dim mwy na £250,000 i fod yn rhan o'r costau sefydlu a chostau sefydlu'r bwrdd, a gweddill y buddsoddiad i fynd i mewn i'r gronfa. Rwy’n gobeithio y gallwn ddechrau gwneud taliadau cyn gynted â phosibl, ond mae hynny'n dibynnu ar ein llwyddiant i ddenu arian ychwanegol. Ac, unwaith eto, y cyngor gan gyngor y celfyddydau yw—nid fy mod i wedi siarad yn uniongyrchol ag unrhyw ariannwr posibl—yw bod yna bobl, unigolion, sefydliadau, sy’n dymuno gallu cyfrannu at hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhai sefydliadau eisoes yn cyfrannu’n aruthrol at gerddoriaeth yng Nghymru—sefydliadau preifat, unigolion a chwmnïau sy’n gwneud hynny.
Heb ganiatâd y cwmni dan sylw, ac nid wyf am eu henwi nhw yma heddiw, ond rwy’n ymwybodol o gwmni sy’n darparu arian i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru sydd yn sylweddol—yn sylweddol—yn lleihau'r ffioedd dysgu fel y gall plant fynychu gwersi offerynnau'r Coleg Brenhinol Cerdd Drama ar ddydd Sadwrn. Mae hefyd yn darparu'r cyllid ar gyfer allgymorth yn y gorllewin, fel bod y plant hynny sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, nad ydynt yn gallu teithio i Gaerdydd i gael yr hyfforddiant arbenigol, yn cael eu hariannu gan gwmni preifat. Nid wyf yn mynd i enwi’r cwmni, oherwydd nid oes gennyf ganiatâd i wneud hynny. Ond rwyf wedi ysgrifennu atynt yn bersonol i ddiolch iddynt am yr hyn y maent yn ei wneud fel cwmni unigol i gefnogi addysg cerddoriaeth yn ein gwlad. Ac maen nhw'n gwneud hyn heb ffanffer ac yn ddiffwdan—mae’n nhw’n ei wneud oherwydd eu bod yn credu mai dyma'r peth iawn i'w wneud i'r plant hynny, ac rwy’n ddiolchgar i'r cwmni hwnnw.
Os ydynt yn fodlon i mi ei basio ymlaen, ac yr hoffech rywfaint o dystiolaeth o hynny, rwy'n fwy na hapus. Rwy’n gwerthfawrogi bod gwaith eich pwyllgor wedi dod i ben, ond rwy'n siŵr nad yw'n rhy hwyr i allu rhoi gwybod i chi, a byddwn yn eich annog i siarad â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae mwyafrif helaeth y plant sy'n cael mynediad at eu darpariaeth ar ddydd Sadwrn, lle ceir cerddoriaeth, a drama ar y Sul, ar ffioedd sy’n cael cymhorthdal uchel lle mae pobl yn gwneud cyfraniad ar gyfer y plant hynny—plant na fyddant byth yn cwrdd â nhw, plant na fyddant byth yn eu hadnabod, ond maent yn barod i wneud hynny.
A wyf yn dymuno y gallwn i wneud mwy, Bethan? Wrth gwrs. Ond os ydych yn dweud wrthyf eich bod eisiau cronfa o £4 miliwn neu £5 miliwn, rhaid i chi ddangos i mi yn fy nghyllideb lle’r ydych yn barod i dorri arni. Oherwydd mae rhoi mwy o arian ar gyfer hyn yn fy ngorfodi i beidio ag ariannu rhywbeth arall, ac, os hoffech chi ddweud wrthyf beth yr ydych am roi’r gorau i fuddsoddi ynddo, yna byddaf yn barod i wneud hyn. Efallai y gallech drafod â'ch cydweithwyr erbyn iddynt negodi’r gyllideb nesaf—efallai y byddai hyn yn un o'u blaenoriaethau, gan nad wyf yn ymwybodol ei fod wedi cael ei godi yn y trafodaethau ar y gyllideb eleni.
Rwyf ychydig yn llai— [Torri ar draws.] Rwyf ychydig yn llai pesimistaidd nag y mae Bethan wedi bod, oherwydd gallaf enwi unigolion sy'n noddi’r celfyddydau: y cyn-löwr David Brace a'i wraig Dawn Brace, sy'n rhoi £20,000 y flwyddyn o'u harian—Dunraven Windows yw eu cwmni, y ffenestri gwydr dwbl. Maent yn ariannu canwr ifanc y flwyddyn Pen-y-bont yn gyfan gwbl, sy’n gystadleuaeth ar gyfer Cymru gyfan ac yn cynnig y dalent a’r gwobrau ariannol gorau posibl, yng nghanolfan gelfyddydau’r mileniwm ar draws y ffordd, ac mae’n cael ei gynnal ymhen pythefnos os hoffech ddod draw.
Ond byddwn yn dweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet, byddwch yn uchelgeisiol, oherwydd, os edrychwch ar gyllid Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, sydd yn rheolaidd yn gorfod mynd i ddigwyddiadau codi arian mawr yn Llundain yn ogystal ag yma—. Ac mae'n ymwneud ag ansawdd y ffordd y maent yn mynd o’i gwmpas, y bobl sy’n ymhél â chodi’r arian. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod unigolion, noddwyr, cymwynaswyr, a sefydliadau arwyddocaol yng Nghymru a fydd yn awyddus i gymryd rhan yn hyn, os caiff ei wneud yn dda. Ond fy nghwestiwn i, o gofio bod yr wythnos nesaf yn benblwydd hanner cant a dwy ar Bapur Gwyn Jennie Lee White—y Papur Gwyn enwog ar y celfyddydau dan Lywodraeth 1964 Harold Wilson, y syniad hwn o gerddoriaeth a'r celfyddydau i bawb, yn eu hamrywiaeth eang, y gelfyddyd elît, ie, yn hollol, ond hefyd y gelfyddyd y byddai unrhyw un am ei mwynhau, o'r band iwcalili yn y sied dynion yn Nhondu, i'r côr plant ym Maesteg, i’r cerddorfeydd o safon uchel iawn sy'n perfformio yn fy ysgolion i o Bencoed, Archesgob McGrath, y Dderwen, Maesteg ac yn y blaen, sy'n dibynnu ar ymroddiad athrawon ac athrawon peripatetig hefyd, Band Arian Cwm Ogwr a mwy—fy nghwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet fyddai hyn: wrth wneud hyn yn llwyddiant yn y blynyddoedd i ddod, a fydd pob un o'r rhain yn gallu elwa ohono fel ein bod mewn gwirionedd yn gwneud—? Mae'n rhaid i ni ymladd y frwydr hon flwyddyn ar ôl blwyddyn, genhedlaeth ar ôl cenhedlaeth, ond mae'r syniad bod cerddoriaeth ar gyfer pawb, y celfyddydau ar gyfer pawb, ni ddylai fod yn un math yn unig, yn un sefydliad, yn un math o ysgol, yn un math o gorff, dylai fod i bawb—a fydd pob un o'r bobl hynny sy'n rhoi cymaint o ymdrech nawr i greu cerddoriaeth, ac yn rhoi’r cyfleoedd hynny, fel y dywedodd Jennie Lee, nid dim ond i bobl ifanc, ond dylai’r celfyddydau feddiannu lle canolog ym mywyd Prydain, ac ym mywyd Cymru, fel y byddem yn ei ddweud, a bod yn rhan o fywyd bob dydd plant ac oedolion, y gallwn wireddu hynny ar gyfer yr holl gerddoriaeth yn ei holl amrywiaeth yn fy holl gymunedau—?
Diolch i chi, Huw, am y sylwadau a'r cwestiynau. Rydych yn llygad eich lle. Mae'n rhaid i ni ddechrau ar y sail bod y celfyddydau a diwylliant yn ei ystyr ehangach, ar gyfer pawb. Mae gwrthod mynediad i bobl at eu diwylliant a'u treftadaeth gerddorol a’r hyn sy’n rhan ohonynt yn gynhenid, yn eu hamddifadu o rywbeth pwysig iawn ac arbennig iawn yn wir. Rydych chi'n iawn hefyd i nodi, er gwaethaf y cyfnod heriol iawn sy'n wynebu cerddoriaeth ysgolion—ac nid wyf mewn unrhyw ffordd yn dymuno bychanu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth yn ein hysgolion—mae pethau rhyfeddol yn digwydd yn yr ysgolion hefyd ac mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny oherwydd brwdfrydedd ac ymroddiad gwirfoddolwyr, athrawon a thiwtoriaid, sydd am rannu eu hangerdd gyda phobl ifanc.
Dydw i ddim mewn sefyllfa i ddweud, ar hyn o bryd, pwy fydd yn fuddiolwr y budd sy'n deillio o'r gwaddol. Mae hynny'n swydd ar gyfer y grŵp llywio a'r bwrdd a fydd yn y pen draw yn rhedeg hyn. Yr egwyddor bwysig arall ynghylch y celfyddydau yw na ddylai'r Llywodraeth fod yn ymwneud â hyn, yn yr ystyr hwnnw. Ni ddylai fod yn fater i Lywodraethau fod yn gallu comisiynu a dweud, ‘Mae hwnna’n cael ei ariannu' neu 'Mae hwnna’n cael ei ariannu' neu 'Mae hwnna’n cael ei ariannu', oherwydd mae perygl wedyn o ran troi. Mae rhywfaint o'r her artistig fwyaf i wleidyddion yn dod o’r sector penodol hwnnw, felly mae’n rhaid cadw egwyddor hyd braich yma, a bwrdd y gwaddol fydd yn gwneud penderfyniadau ar yr hyn a ariennir, nid gwleidyddion.
Ac, yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hefyd? Nid wyf i’n mynd i gwyno am unrhyw arian sy’n mynd tuag at y celfyddydau, ond rwy'n credu bod rhai cwestiynau pwysig y mae angen eu hateb, er gwaethaf eich atebion i nifer o unigolion sydd wedi eu gofyn heddiw.
Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr bod y penderfyniadau ynghylch sut y dylid gwario'r arian hwn yn faterion i gyngor y celfyddydau. Fodd bynnag, mae cyngor y celfyddydau yn mynd i fod angen rhyw fath o arweiniad gan Lywodraeth Cymru am yr hyn y mae’r gronfa waddol hon yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Rwyf wedi darllen eich datganiad ac wedi gwrando ar yr hyn yr ydych wedi'i ddweud. Rydych yn dweud bod cerddoriaeth yn weithgaredd sy’n cyfoethogi. Pwy sy'n mynd i anghytuno â hynny? Rydych yn siarad am ategu, cefnogi, gwella, ond beth mae cyngor celfyddydau Cymru yn mynd i feddwl yr ydych yn ei olygu wrth 'ategu, cefnogi a gwella'? Rwy’n ceisio cael syniad o'r hyn yr ydych yn disgwyl i’r gronfa hon ei ddarparu yn y—. Beth mae’n ei ddarparu mewn gwirionedd?
Y rheswm yr wyf yn gofyn hyn yw, os na allwch roi ateb o ran i ble y credwch y gallai hyn fynd â cherddoriaeth, nid oes gennym unrhyw syniad a yw £1 filiwn yn mynd i fod yn ddigon. Nid oes gennym syniad beth allai eich cynnig fod i'r arianwyr cyhoeddus a phreifat yr ydych yn gobeithio y byddant yn cyfrannu at hyn. Mewn gwirionedd, gall fod ffordd well o wario’r £1 filiwn hon os nad ydym 100 y cant yn siŵr beth yr ydych yn disgwyl ohono. Serch hynny, efallai y gallwch ddweud wrthyf y bu rhywfaint o arweiniad gan y pwyllgor a argymhellodd ein bod yn cael cronfa waddol, oherwydd yn sicr nid wyf yn dweud na ddylem gael un; yn syml, rwyf eisiau bod yn glir mai dyma'r ffordd orau o gyrraedd y nod nad yw, i mi, yn arbennig o benodol ar hyn o bryd.
Yn ail, mae gwasanaethau cerddoriaeth eisoes yn wynebu perygl o dwll mawr du mewn cyllid ar ôl y £300,000 i beth bynnag fydd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn edrych yn debyg iddo ar ddiwedd y flwyddyn hon. Os ydym yn gofyn am help dyngarwyr a chyrff cyhoeddus i gefnogi’r gwaddol, ac rwy’n sicr yn gobeithio y byddant yn gwneud hynny—gwnaeth Huw Irranca-Davies achos da iawn pam y byddent yn gwneud hynny—a ydym yn mynd i fod yn dargyfeirio ffynonellau o gefnogaeth oddi wrth wasanaethau cerddoriaeth craidd yr ydym yn ceisio eu cadw i fynd yma yng Nghymru ar hyn o bryd? Mae'n bosibl y bydd digon o arian ar gael ar gyfer y gwaddol a chyflenwi arian i wasanaethau craidd, ond mae'r dystiolaeth yr ydym wedi’i chymryd yn y pwyllgor hyd yn hyn—ac rwy’n gwybod nad yw'r Prif Weinidog yn awyddus i ni gyfeirio at dystiolaeth, ond, mewn gwirionedd, dwi'n Aelod o'r Cynulliad ac rwy'n mynd i ddefnyddio ein tystiolaeth. Dydyn nhw ddim yn hyderus eu bod yn mynd i gael yr arian hwn ar gyfer gwaith craidd yn y blynyddoedd i ddod, felly rwy'n meddwl tybed—rydych eisoes wedi clywed ein pryderon am y gwaith Celfyddydau a Busnes a’r hyn y maent yn ei wneud. Felly, rwy’n meddwl bod cwestiwn dilys ynghylch a ydym o bosibl yn gofyn am ychydig yn ormod o ddyngarwch yma.
Yna, yn olaf, rwy’n sicr yn credu eich bod, yn eich datganiad, wedi gwneud cysylltiadau ag amcanion y cwricwlwm cenedlaethol, ac roedd hynny yn gwneud rhywfaint o synnwyr i mi. Ond dwi'n meddwl tybed a allwch chi egluro a oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y gwaddol hwn ar gael i unrhyw un y tu hwnt i oedran ysgol. A yw hyn yn unig ar gyfer cefnogi gwasanaethau cerdd oedran ysgol neu a yw oedolion yn mynd i fod yn gallu—pan fyddwch yn rhoi eich llythyr cylch gwaith i gyngor y celfyddydau, a fyddwch yn dweud y dylai’r arian hwn fod ar gael i oedolion barhau i ddatblygu eu helitaeth, os mynnwch, i fod y gorau y gallant fod, a’i fod yn ymwneud â safonau ac amrywiaeth, yn ogystal â mynediad i bawb? Diolch.
A gaf i egluro’r materion ymarferol. Felly, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn creu grŵp llywio i arwain y gwaith o sefydlu’r gwaddol ar gyfer Cymru. Bydd cyngor y celfyddydau yn gallu defnyddio ei sefyllfa unigryw fel elusen celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru gyfan i ddod o hyd i’r aelodau sydd yn y sefyllfa orau i gyfrannu o’u sectorau perthnasol. Eu swydd fydd creu bwrdd annibynnol, a fydd yn y pen draw yn rheoli’r gwaith o redeg y gwaddol ar ôl iddo gael ei sefydlu. Bydd y bwrdd hwnnw a'r tîm sy’n ei gefnogi yn gwneud y penderfyniadau ynghylch rhoddion, buddiolwyr a dyfarnu grantiau. I’r bwrdd hwnnw y byddwn yn gwneud ein cyfraniad cychwynnol. Fel y dywedais o'r cychwyn cyntaf, mewn ymateb i Llŷr Gruffydd, nid yw'n fwriad gan y Llywodraeth i ychwanegu dim mwy. Bwriad y Llywodraeth yw creu cyfle i'r gwaddol fodoli a rhoi arwydd i bobl fod cyfle i gyfrannu yn y ffordd hon.
Bu llawer iawn o drafodaethau ers argymhelliad y grŵp gorchwyl a gorffen gyda chyngor y celfyddydau a'r rhai sy'n ymwneud â’r sector hwn sy’n credu y bydd y cyfrwng hwn yn gyfrwng deniadol i sefydliadau yn y sector preifat—y byddant yn dymuno cyfrannu ato. Rwy'n ymwybodol o'r ffaith y gallai hynny olygu gwyriad, a bydd yn rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny ac yn ystyriol o hynny wrth inni symud ymlaen.
Prif fwriad y gronfa yw cefnogi pobl ifanc yn benodol. Fy mwriad i yw y bydd gwaelod a phen uchaf y pyramid addysg cerddoriaeth, y cyfeiriodd Bethan ato, yn elwa o'r gwaddol. Felly, rwy’n awyddus i’r gwaddol sicrhau, ar bob cam, nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei atal rhag symud ymlaen oherwydd nad yw’n gallu fforddio gwneud hynny. Felly, dyna fyddwn i’n ei bwysleisio yn bennaf o ran gwaith y gwaddol.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.