– Senedd Cymru am 4:15 pm ar 15 Chwefror 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef y ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Hannah Blythyn i gynnig y cynnig ar Fis Hanes LHDT.
Cynnig NDM6204 Hannah Blythyn, Jeremy Miles, Suzy Davies, Adam Price
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mis Chwefror yn Fis Hanes LGBT, ac yn gyfle blynyddol i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ledled Cymru.
2. Yn nodi ymhellach gyfraniad pobl LGBT a mwy i’n cymunedau a’n gwlad.
3. Yn cydnabod y rôl a chwaraeir gan eiconau a chyfeillion LGBT yng Nghymru, fel y dangosir gan yr arddangosfa eiconau a chyfeillion LGBT yn y Senedd y mis hwn.
4. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf o ran derbyn LGBT ac o ran eu hawliau.
5. Yn credu bod angen bod yn effro i sicrhau bod hawliau LGBT a mwy yn cael eu diogelu.
6. Yn cymryd yr awenau o ran parhau i hybu cydraddoldeb a herio gwahaniaethu ac anghydfod, gan sicrhau bod Cymru yn genedl groesawgar i bobl LGBT a mwy.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i gyd-Aelodau am gefnogi’r ddadl hon gan Aelodau unigol, sy’n ein galluogi i gael cyfle i ddathlu Mis Hanes LHDT am y tro cyntaf ar y lawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mis Hanes LHDT yn cael ei ddathlu ym mis Chwefror ar draws y DU ac yn ddigwyddiad blynyddol bellach sy’n rhoi cyfle i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Cymru a chydnabod y cyfraniad y mae pobl LHDT wedi’i wneud i’n cymunedau a’n gwlad. Yn wir, rydym wedi dod yn bell dros yr ychydig ddegawdau diwethaf yn unig o ran hawliau LHDT. Os wyf yn meddwl yn ôl fy hun, yn tyfu i fyny yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn mynd i’r ysgol yn yr etholaeth rwy’n ei gwasanaethau bellach, pe baech wedi dweud wrthyf y buaswn yn sefyll yma heddiw yn agor dadl ar gydraddoldeb LHDT, wedi’i harwain gan Aelodau Cynulliad agored lesbiaidd a hoyw am y tro cyntaf yn hanes y Cynulliad, wel, i ddechrau, nid oedd y Cynulliad yn bodoli pan oeddwn yn fy arddegau, ond yn gwbl onest ni fuaswn byth wedi dychmygu y buasai gennyf ddigon o ddewrder a hyder i fod yn rhan o hyn fel un o’r Aelodau Cynulliad cyntaf i ddod allan.
Er bod mwy y gallwn ei wneud ar hawliau LHDT, ni allwn ac ni ddylem byth fod yn hunanfodlon, ond mae’n iawn heddiw i ni roi amser i ddathlu ein hamrywiaeth a’n cynnydd fel cymdeithas. Gobeithiaf y bydd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i gyflwyno’r cadarnhaol a chynnig neges hollbwysig o obaith i bobl LHDT yng Nghymru, yn enwedig pobl LHDT iau, ac ar yr un pryd, i amlinellu’r heriau sy’n parhau a’r camau nesaf sydd eu hangen.
Themâu’r Mis Hanes LHDT eleni yw dinasyddiaeth, addysg bersonol, gymdeithasol ac iechyd, a’r gyfraith, a chynhelir dros 1,000 o ddigwyddiadau ar draws y DU. Mae ysgolion sy’n dathlu gwahaniaeth ac yn meddu ar ymagwedd gadarnhaol tuag at gynnwys materion LHDT yn eu haddysgu ar draws y cwricwlwm yn gweld cyfraddau is o fwlio a chyflawniadau uchel ymhlith disgyblion LHDT. Mae cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru yn rhoi cyfle i ddangos y gall pob ysgol ymgorffori agwedd gadarnhaol tuag at gynhwysiant LHDT yn eu haddysgu a chyflwyno addysg rhyw a chydberthynas sy’n gynhwysol o ran LHDT.
Mae angen inni weld canllawiau statudol yn cael eu cyhoeddi i bob awdurdod, ysgol a chonsortiwm addysg lleol ar addysg rhyw a chydberthynas addas i’r oedran. Mewn ysgolion uwchradd, dylent sicrhau bod materion sy’n wynebu pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yn cael eu cynnwys mewn pynciau megis cydsyniad a diogelwch ar-lein. Mewn ysgolion cynradd, dylai hyn gynnwys siarad am wahanol fathau o deuluoedd, gan gynnwys rhieni o’r un rhyw, gan wneud pobl ifanc yn ymwybodol o’r amrywiaeth o fywyd teuluol a mathau o berthynas cyn dechrau yn yr ysgol uwchradd, a gweithio i fynd i’r afael â stereoteipiau rhyw mewn gwersi a gweithgareddau. Yn ogystal, mae angen ymrwymiad clir i hyfforddi athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol ynglŷn â threchu bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o staff ysgolion yn awyddus i fynd i’r afael â bwlio o’r fath, ond yn aml yn teimlo nad oes ganddynt yr offer, yr hyder neu’r adnoddau cywir i wneud hynny. Ar y nodyn hwnnw, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am roi amser i gyfarfod â Jeremy Miles a minnau ac am ei hymrwymiad i fynd i’r afael â’r materion pwysig hyn.
Amser cinio heddiw, cynhaliais lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT Pride Cymru yma yn y Senedd. Mae’r arddangosfa’n cynnwys 20 o fodelau rôl a chynghreiriaid o hanes LHDT a heddiw. Cefnogir yr arddangosfa gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ac mae’n dathlu ffigyrau artistig, llenyddol, byd busnes, milwrol ac elusennol yn ogystal ag ymgyrchwyr. Efallai na fydd yn syndod i gyd-Aelodau yma fod yr arddangosfa yn cynnwys nifer o weithredwyr gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder ac ymrwymiad y bobl a fu’n ymgyrchu ac yn ymladd dros nifer o flynyddoedd er mwyn i ni symud y ddadl wleidyddol a deddfu ar gydraddoldeb.
Gofynnir i mi’n aml pan fyddaf yn mynd i ddigwyddiadau Pride, ‘Pam y mae gennych wleidyddiaeth yn Pride? Hwyl yw hyn i fod.’ Wel, ar ei gorau, mae gan wleidyddiaeth botensial i newid bywydau, ac rwy’n falch heddiw o gynrychioli’r blaid a arweiniodd y ffordd ar ddeddfu ar hawliau cyfartal, ar hawliau LHDT, gan alluogi pobl fel fi i sefyll yma, i fyw ein bywydau drwy fod yn pwy ydym a sut rydym. Ar bwnc digwyddiadau Pride, roeddwn eisiau cynnwys un hyrwyddiad digywilydd. Byddai’n esgeulus ohonof i beidio â sôn y bydd y digwyddiad Pride Sir y Fflint cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 27 Mai eleni yng nghlwb rygbi yr Wyddgrug yn fy etholaeth. Yn amlwg, fe fyddaf yn ei fynychu. [Chwerthin.]
Mae ymdeimlad o hanes yn bwysig i gydlyniant cymunedol, yn ogystal â darparu modelau rôl sy’n ysbrydoli pobl ifanc a dangos yn gadarnhaol rôl pobl LHDT fel rhan o’n cymdeithas. Rwy’n hynod ac yn dragwyddol ddiolchgar i’r rheini a oedd yn barod i fod yn arloeswyr ar adegau llawer mwy anodd a chythryblus, y bobl a baratodd y ffordd a alluogodd bobl fel fi i fod yn fwy tebygol o godi ein pennau uwchben y parapet heddiw.
Pan ofynnwyd i mi yn gyntaf i noddi lansiad arddangosfa Eiconau a Chyfeillion LHDT, cefais fy synnu mewn gwirionedd wrth sylweddoli cyn lleied a wyddwn yn bersonol am y rhai a oedd yn rhan o’r arddangosfa. Gwnaeth i mi feddwl cymaint y brwydrais yn fy arddegau, wrth dyfu i fyny, i ddod o hyd i bobl y gallwn uniaethu â hwy neu fodelau rôl LHDT amlwg. Rwy’n falch o fod yn un o’r Aelodau cyntaf i ddod allan yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac i mi, mewn gwirionedd, roeddwn eisiau bod yn agored ac yn onest yn fy ymagwedd tuag at wleidyddiaeth. I mi, roedd hi’n bwysig fy mod yn agored ac yn onest ynglŷn â phwy wyf fi. Oherwydd gwyddom fod cael ein gweld yn bwysig. Mae yna ddywediad na allwch fod yr hyn na allwch ei weld. Daeth hyn yn amlwg i mi ychydig fisoedd yn unig ar ôl i mi gael fy ethol, pan oeddwn yn mynychu digwyddiad lleol, a daeth rhywun ataf i ddweud wrthyf am ddau yn eu harddegau a oedd yn hoyw ac a oedd wedi dweud wrthynt eu bod newydd ddarganfod ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar fy mod innau hefyd, a’i fod wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddynt. Yr hyn a’m trawodd oedd nid yr hyn yr oeddent yn ei ddweud amdanaf fi, ond y ffaith ein bod wedi symud ymlaen cymaint fel cymdeithas mewn gwirionedd ers 20 mlynedd yn ôl, pan oeddwn innau tua’r un oed, a bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn gallu bod yn agored am eu rhywioldeb.
Ond ni ddylem anghofio bod y penderfyniad i ddod allan yn wahanol i bob unigolyn a bron bob amser yn llawn o bryder. Rydym wedi dod yn bell iawn, ond mae dod allan, boed yn bersonol, yn gyhoeddus a/neu’n wleidyddol, yn dal i fod yn foment hynod o bersonol ac unigryw i’r rhan fwyaf o bobl LHDT. Daw ein dewis i ddatgelu’r rhan hon o’n hunaniaeth law yn llaw ag ofn ynglŷn â sut y bydd pobl eraill yn ymateb, sut y bydd yn effeithio arnom, ar ein bywydau neu fywydau’r rhai o’n cwmpas, a chredaf mai ein neges heddiw i bob person LHDT yng Nghymru o reidrwydd yw: rydych yn anhygoel, rydych yn bwysig ac mae gennych gyfraniad i’w wneud i’ch cymuned ac i’n gwlad fel yr ydych. Gobeithio, un diwrnod, y byddwn yn byw mewn byd lle y gall pob person LHDT ddod o hyd i rwydwaith o gyfeillgarwch a chefnogaeth sy’n eu galluogi i fod yn hwy eu hunain ac yn eu tro, i herio unigrwydd a chasineb.
Wrth ddod i ben, hoffwn ailadrodd stori. Yn ddiweddar, euthum yn ôl i fy hen ysgol i noson wobrwyo flynyddol. Gallwch godi sawl gwaith yn y Siambr hon, gallwch roi cyfweliadau yn y cyfryngau, ond gwn pan fyddaf yn cerdded drwy ddrysau fy hen ysgol fy mod yn berson 15 oed nerfus a swil unwaith eto. Un o’r cwestiynau o ofynnwyd i mi yn y sesiwn hawl i holi—y cwestiwn olaf—oedd, ‘Pa gyngor y byddech yn ei roi i fyfyrwyr yma heddiw?’ Y cyngor a roddais oedd, ‘Byddwch yn chi’ch hun a chredwch ynoch eich hun.’ Oherwydd gall ymddangos weithiau fel y peth gwaethaf yn y byd i fod yn wahanol, yn enwedig pan fyddwch yn berson ifanc lletchwith yn eich arddegau, ond mae’n gwella, credwch fi—ac rwy’n gwybod bod hynny’n beth braidd yn eironig i’w ddweud fel gwleidydd. [Chwerthin.] Credwch fi; o ddifrif, mae’n gwella.
Yn union cyn i mi gael fy ethol cymerais ran yn rhaglen Modelau Rôl Stonewall mewn bywyd blaenorol fel cynrychiolydd undeb. Mae’r dyfyniad a gymerwyd o hynny, na chefais unrhyw—. Nid oeddwn yn sylweddoli ar y pryd pa mor broffwydol y byddai. Dywedais fy mod eisiau bod yn rhan o’r gwaith o greu Cymru sy’n fwy cynrychioliadol. Rwy’n meddwl heddiw, ac wrth symud ymlaen, fod gennym gyfle diffiniol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i arwain ar gydraddoldeb LHDT, ac mae’n rhaid i ni arwain. Diolch yn fawr. [Aelodau’r Cynulliad: ‘Clywch, clywch’.]
Mae’n bleser gwirioneddol dilyn Hannah Blythyn ac i siarad yn y cyfle cyntaf y mae’r Cynulliad hwn yn ei gael i ddathlu hanes LHDT yng Nghymru. Unwaith, mewn digwyddiad Pride yng Nghaerdydd, fe honnais mai’r Cymry a ddyfeisiodd gyfunrhywiaeth mewn gwirionedd. Rwy’n rhoi’r bai ar ddrama Emlyn Williams yn 1937, ‘He was Born Gay’, a sioe gerdd Ivor Novello yn wir—ei sioe gerdd olaf—’Gay’s the Word’ yn 1950. Wrth gwrs, roedd y ddau yn aelodau o’r gymuned LHDT. Yn wir, ysgrifennodd Emlyn Williams hunangofiant dewr iawn yn fy marn i, ymhell o flaen ei amser mewn gwirionedd, yn cyflwyno’r gwrthdaro enbyd ar y pryd i rywun a oedd yn hannu o bentref chwarelyddol yng ngogledd Cymru o orfod ceisio cysoni gwahanol elfennau ei hunaniaeth—brithwaith ei hunaniaeth.
Mewn rhai ffyrdd, roedd cael gair am bwy rydym yn gam cyntaf—enwi pethau. Roedd pŵer yn y gair hwnnw mewn gwirionedd: ‘hoyw a lesbiaidd’, ‘LHDT’. Dyna oedd y cam cyntaf. Ond mewn gwirionedd, gwybod ein hanes yw’r cam angenrheidiol nesaf oherwydd, mewn rhai ffyrdd, rydym ni yng Nghymru wedi profi hyn mewn dimensiwn gwahanol: fel pobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru, rydym wedi cael ein hepgor o’n hanes ein hunain—o hanes Cymru. Rydym yn anweledig drwy gyfnodau mawr o amser. Aiff canrifoedd heibio. Fe welwch y gair ‘hoyw’ ym marddoniaeth yr oesoedd canol, ond nid yn yr ystyr sydd iddo yn y cyfnod modern wrth gwrs. Rhaid i chi fynd yr holl ffordd yn ôl, mewn gwirionedd, i’r cyfnod cynnar—neu gyfnod y chwedlau cynnar—a pheth o’r gwatwar a luchiwyd atom, oherwydd eu homoffobia eu hunain mae’n debyg. A dweud y gwir, dywedir wrthym mai cyfunrhywiaeth oedd y pechod cenedlaethol. Mae Gildas yn dweud wrthym fod Maelgwn Gwynedd yn euog ohono. Caiff ei ailadrodd, wrth gwrs, yng ngwaith Sieffre o Fynwy a Gerallt Gymro. Yn wir, am gyfeiriadau at y Celtiaid, gallwch fynd yn ôl mor bell ag Aristotle. Fe’i defnyddiwyd fel difrïad ymerodrol, ac rwy’n meddwl tybed a yw hynny, mewn gwirionedd, wedi taflu cysgod dros ein perthynas gyda’n cymuned LHDT. Yn eironig, wrth gwrs, fel y clywn am y Synod ar hyn o bryd, un o’r cyhuddiadau sarhaus y mae hyd yn oed John Peckham, a oedd yn Archesgob Caergaint, yn ei gyfres o lythyrau at Lywelyn ein Llyw Olaf, yn eu cyfeirio at Lywelyn yw’r syniad ailadroddus hwn fod y Cymry’n gyfunrhywiol. Mae yno, ar ddechrau ein hanes, y sarhad hwn. Yn eironig, wrth gwrs, roedd cariad Edward II, Tywysog Cymru a gafodd ei ddal yn 1284, yn un o’r eiconau sydd y tu allan fan hyn. Cawsant eu dal gyda’i gilydd, wrth gwrs, yn ffoi o abaty Nedd i Lantrisant. Cafodd Hugh Despenser yr Ieuaf ei ddienyddio ar unwaith; ac Edward II yn ddiweddarach. Merthyron—nid y rhai cyntaf ac nid yr olaf yn hanes y gymuned LHDT ar draws y byd, nac yma yng Nghymru. Yn anweledig, felly, am gyfnodau helaeth o’n hamser.
Fe ddowch felly i’r ugeinfed ganrif, a rhai o’n llenorion, fel y dywedais: Prosser Rhys yn ennill y goron yn 1924 gyda cherdd amdano’i hun yn ymgiprys â’i hunaniaeth rywiol. Mae’r Bywgraffiadur Cymreig yn ei gofnodi fel hyn:
‘Yn 1924, yn eisteddfod genedlaethol Pont-y-pŵl, enillodd y goron ar ei bryddest ‘Atgof’, pryddest anghyffredin o ran ffurf a chynnwys a phryddest a greodd dipyn o gynnwrf.’
Tanddatganiad clasurol Gymreig. [Chwerthin.] Bu’n rhaid i feirdd a llenorion Cymru adrodd y straeon anweledig hynny: y Dave Llewellyns, y Mihangel Morgans, y Dafydd Jamesys, Sarah Waters, Peter Gills, Roger Williams, Paul Burston, Jan Morris ac eraill. Rhaid iddynt hwy adrodd y straeon anysgrifenedig. Fe wyddom ein bod yno. Os ewch yn ôl i’r chweched ganrif, ymhlith y penydau sy’n cael eu cynnig, unwaith eto, mae un am bechod sodomiaeth. O’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, fe wyddom fod pobl yng Nghymru wedi’u cael yn euog ar gam am fod yn neb ond pwy oeddent. Felly, rydym bob amser wedi bod yma. Rydym yn rhan o’r genedl hon. Rydym yn rhan o’i hanes. Ac rydym yn rhan o’i dyfodol hefyd.
Mae Stonewall Cymru wedi datgan bod 55 y cant o ddisgyblion LHD wedi dioddef bwlio ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol; fod 83 y cant o bobl ifanc trawsrywiol wedi dioddef cam-drin geiriol a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Pan euthum ar drywydd achos bachgen ysgol yn Sir y Fflint a oedd wedi dioddef bwlio homoffobig, dywedwyd wrthyf gan brif swyddog addysg fod yr ysgolion uwchradd yn y sir wedi elwa o hyfforddiant helaeth mewn ysgolion iach a dulliau gwrth-fwlio, ond dywedodd y fam wrthyf wedyn, ‘Rwy’n teimlo’n gwbl rwystredig ynglŷn â chyn lleied o ddiddordeb sydd wedi’i ddangos gan yr unigolion a bennwyd i ymdrin ag achos fy mab, mae fy nghwestiynau’n dal i fod heb eu hateb, ac felly, mae’r mater yn dal i fod heb ei ddatrys’. Mae hyn yn ymwneud â deall a derbyniad.
Mae pobl LHDT yng Nghymru yn parhau i wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, a dim ond un o bob 20 o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi cael hyfforddiant ar anghenion iechyd pobl LHDT, yn ôl Stonewall. Ar gyfer y ddadl hon, anfonodd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins wybodaeth ataf a nodai fod cyfraddau HIV a heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi, a bod dynion hoyw a deurywiol a phobl ifanc yn parhau i ddioddef ar draws Cymru, ac eto mae mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru, gan gynnwys ar gyfer y gymuned LHDT, yn parhau i ddirywio. Roeddent yn dweud nad oes unrhyw wasanaeth iechyd rhywiol statudol yn cael ei ddarparu ym Mhowys ar hyn o bryd, a bod gwasanaethau atal a hybu iechyd rhywiol wedi cael eu datgomisiynu ym myrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf a Hywel Dda, er gwaethaf y ffaith eu bod yn dweud mai dyma’r ardaloedd sydd fwyaf o’u hangen.
Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru, o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Terrence Higgins yn datgan bod yn rhaid ei wneud mewn partneriaeth â chymunedau yr effeithir arnynt gan HIV ac afiechyd rhywiol ac ateb anghenion y grwpiau hyn yn llawn, gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol. Mae cynllun gweithredu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar iechyd rhywiol a lles wedi dod i ben, heb unrhyw strategaeth newydd ar waith. Maent yn dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio canfyddiadau ei hadolygiad presennol o HIV a gwasanaethau iechyd rhywiol, yn ogystal â thystiolaeth o’r angen am addysg rhyw a chydberthynas, i ddiweddaru ei chynllun gweithredu sydd wedi dod i ben a nodi sut y bydd yn mynd i’r afael â chyfraddau cynyddol o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, cynorthwyo pobl sy’n byw gyda HIV i reoli eu hiechyd a’u lles, a sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn cael yr addysg rhyw a chydberthynas y maent ei heisiau a’i hangen. Dylai’r cynllun gweithredu newydd fynd i’r afael â’r materion presennol a’r materion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas â HIV ac iechyd rhywiol, gan gynnwys defnydd rhywioledig o gyffuriau ac argaeledd cyffur proffylactig cyn-gysylltiol HIV, a ddisgrifir fel rhywbeth sy’n newid pethau’n sylfaenol yn y frwydr yn erbyn HIV, gan amddiffyn pobl HIV negyddol rhag cael HIV drwy gymryd cyffuriau gwrth-HIV pan fyddant mewn perygl o ddod i gysylltiad â HIV.
Mae adroddiad newydd gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, ‘Unchartered Territory’, yn taflu goleuni ar anghenion a phrofiadau pobl dros 50 oed sy’n byw gyda HIV, gan gynnwys anghenion dynion hoyw a deurywiol sy’n byw gyda HIV. Mae effeithiolrwydd triniaeth fodern yn golygu y gall pobl sy’n byw gyda’r cyflwr ddisgwyl byw bywyd llawn. Mae hyn i’w ddathlu. Fodd bynnag, daw’r llwyddiant hwn â set o heriau newydd yn ei sgil. Disgrifiwyd 58 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn fel rhai a oedd yn byw ar, neu islaw’r llinell dlodi—dwbl y lefelau tlodi a welir yn y boblogaeth yn gyffredinol. Roedd 84 y cant o’r bobl sy’n byw gyda’r cyflwr yn 50 oed a hŷn yn pryderu ynglŷn â sut y byddant yn rheoli cyflyrau iechyd lluosog yn y dyfodol. Mae pobl 50 oed a hŷn wedi wynebu gwahaniaethu gan weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol oherwydd eu statws HIV, ac roedd traean yn profi arwahanrwydd cymdeithasol, ac 82 y cant yn profi lefelau cymedrol i uchel o unigrwydd. Er nad yw arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd wedi eu cyfyngu i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, roedd y rhai dros 50 sy’n byw gyda HIV yn gweld arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd fel pryderon sylweddol, yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Felly, mae’n hanfodol fod sefydliadau HIV, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, yn ystyried sut y gellir lleddfu arwahanrwydd ac unigrwydd mewn pobl hŷn.
Mae rhagfarn a gwahaniaethu ar ddiwedd oes yn effeithio’n ddinistriol ar bobl LHDT. Ar ei waethaf, mae’n golygu y bydd rhywun yn treulio eu dyddiau olaf yn teimlo’n ynysig, yn unig, yn ofidus ac nad oes croeso iddynt. I rai sy’n colli rhywun annwyl, mae methu ffarwelio mewn amgylchedd parchus a thawel yn gallu gwneud galar a phrofedigaeth yn llawer anos i’w oddef. Felly, gadewch i ni fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth ar draws Cymru gyda’n gilydd.
Rwy’n falch iawn o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, yn rhannol er mwyn dathlu Mis Hanes LHDT, ac rwy’n siarad heddiw fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb ac amrywiaeth. Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw, sydd wedi’i chefnogi hefyd gan Jeremy Miles, Adam Price a Suzy Davies. Mae’n hynod bwysig ein bod, fel prif sefydliad democrataidd Cymru, yn dathlu amrywiaeth ac yn darparu llwyfan mewn arena gyhoeddus i wyntyllu a rhannu ein barn yng ngoleuni’r cynnydd mewn adroddiadau am droseddau casineb. Mae’r Cynulliad wedi cael cydnabyddiaeth allanol am fod yn gyflogwr cynhwysol ar draws ystod o nodweddion gwarchodedig—er enghraifft, Gwobr Autism Access, hyrwyddwr Age Positive, un o’r cyflogwyr mwyaf cyfeillgar i deuluoedd sy’n gweithio, gwobr aur Buddsoddwr mewn Pobl, a gwobr gan Action on Hearing Loss, ac mae wedi cael ei gydnabod yn ‘The Times Top 50 Employers for Women’.
Fodd bynnag, heddiw hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar lwyddiannau’r Cynulliad fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth sy’n gynhwysol o ran LHDT. Fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb, mae’n bwysig i mi ein bod yn gosod esiampl i sefydliadau eraill yng Nghymru a thu hwnt, ein bod yn darparu amgylchedd diogel ac amgylchedd cynhwysol ar gyfer staff ac ymwelwyr. Caiff y teimlad hwn ei rannu gan uwch-reolwyr y Cynulliad a’i staff drwy ystod o bolisïau a dulliau gweithredu a helpodd i lunio diwylliant sydd wedi cael ei gydnabod ymhlith y gorau. Y mis diwethaf, cafodd y Cynulliad ei gydnabod ym mynegai cydraddoldeb yn y gweithle Stonewall fel y pumed cyflogwr gorau yn y DU. Cawsom ein gosod yn y pump uchaf dros y tair blynedd diwethaf, ac am y bedwaredd flwyddyn yn olynol cawsom ein dyfarnu’n gyflogwr sector cyhoeddus gorau yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Ross Davies, un o reolwyr amrywiaeth y Cynulliad, a dderbyniodd wobr Cynghreiriad y Flwyddyn Cymru yng ngwobrau Stonewall Cymru i gydnabod y gwaith y mae’n ei wneud ar hyrwyddo cydraddoldeb LHDT.
Cafodd y rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer staff LHDT, OUT-NAW, ei sefydlu yn 2008 ac mae wedi gweithio’n galed i wneud ein Cynulliad yn fwy cyfeillgar i bobl LHDT dros y blynyddoedd. Bob blwyddyn, mae’n cynllunio cyfraniad y Cynulliad i Fis Hanes LHDT a’r Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Biffobia a Thrawsffobia. Mae’n mynd â bws allgymorth y Cynulliad i ddigwyddiadau fel Pride Cymru, gydag aelodau OUT-NAW yn gwirfoddoli i’w staffio drwy gydol y dydd. Gorymdeithiodd y Cynulliad yng ngorymdaith Pride Cymru am y tro cyntaf yn 2016 ac ymunodd y prif weithredwr ac aelodau o’r bwrdd rheoli, sydd oll yn gynghreiriaid y rhwydwaith staff. Mae presenoldeb yn Sparkle Abertawe, digwyddiad traws-gynhwysol, bellach yn nodwedd reolaidd ar y calendr blynyddol o ddigwyddiadau. Datblygodd OUT-NAW achos busnes sydd wedi gweld cyfleusterau toiled niwtral o ran y rhywiau ar draws tri adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd. Mae ei gyd-gadeirydd wedi cyflwyno cynllun hyfforddi a mentora ar gyfer staff LHDT, yn ogystal â chyfle i bobl LHDT ifanc gael profiad gwaith, sydd bellach yn digwydd yn flynyddol.
Rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod cydraddoldeb LHDT wedi dod yn nodwedd brif ffrwd o’r Cynulliad o ystyried ymroddiad y rhwydwaith OUT-NAW, strategaeth amrywiaeth y Comisiwn, ac ymrwymiad y bobl sy’n gweithio yma i’w wneud yn lleoliad lle y mae amrywiaeth yn ffynnu. Yn olaf, hoffwn ychwanegu, er ei bod yn bleser cael cydnabyddiaeth allanol i’r cynnydd a’n cyflawniadau wrth greu sefydliad sy’n gynhwysol o ran LHDT, yr hyn sy’n ei wneud yn fwy arbennig byth yw bod y staff yn gwneud amser i rannu eu profiad a’u hegni gydag eraill. Mae’r weledigaeth felly yn mynd y tu hwnt i’r Cynulliad ei hun ac yn bwysicaf oll yn estyn allan at sefydliadau eraill i’w helpu i greu amgylcheddau gweithio cynhwysol er budd defnyddwyr gwasanaethau a’u gweithwyr. Fel y mae Stonewall yn dweud:
Mae pobl yn perfformio’n well pan allant fod yn hwy eu hunain.
Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn cytuno â mi ein bod am i bawb fod yn hwy eu hunain, ac i wneud hynny mewn amgylchedd diogel, cefnogol ac ysgogol. Mae’r cyflawniadau y siaradais amdanynt heddiw yn rhoi ymdeimlad mawr o falchder i mi ac rwy’n falch iawn o allu eu cofnodi wrth i ni drafod a dathlu yn ystod Mis Hanes LHDT.
Hoffwn longyfarch yr Aelodau unigol sydd wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw, a bûm yn astudio gydag un ohonynt yn y brifysgol. Hoffwn bwysleisio cefnogaeth fy mhlaid i’r cynnig hwn yn ei gyfanrwydd. Rwy’n bwriadu canolbwyntio fy sylwadau ar bwynt 4, i groesawu’r cynnydd a wnaed yn y degawdau diwethaf ar hawliau a derbyniad o LHDT, am fod llai na thri degawd ers i’r mater achosi i mi ymgyrchu am y tro cyntaf ar y mater hwn—pan basiodd y Senedd yn San Steffan gymal 28, a oedd yn deddfu yn erbyn addysgu derbynioldeb cyfunrhywiaeth fel perthynas deuluol ffug.
Yn ystod y 1980au, roeddwn yn teimlo bod cyfunrhywiaeth yn cael ei gydnabod a’i dderbyn yn fwy eang ac roedd yn ddadl a oedd o leiaf yn dechrau tawelu yn ein gwlad. Credaf fod y broses honno wedi cael ei dal yn ôl, os nad ei hatal, am hyd at ddegawd, gan y darn bach hwnnw o ddeddfwriaeth.
Ymgyrchais am y tro cyntaf ar y mater pan oeddwn yn ymgeisydd seneddol ac roedd yna bâr hoyw yn yr etholaeth yr oeddwn yn ceisio’i chynrychioli a aeth ar streic newyn. Fe wnaethant hynny am y rhan orau o wythnos a chael cryn dipyn o sylw ar y cyfryngau, ac roeddent yn protestio am yr hawl i gofrestru eu perthynas gyda’r cyngor lleol. Roedd Ken Livingstone, yn Llundain, newydd gyflwyno cofrestr i ganiatáu i gyplau hoyw wneud hynny a gallu ymweld â’u partner yn yr ysbyty efallai a chael rhywfaint o hawliau eraill y byddai rhai cyrff cyhoeddus o leiaf yn eu cydnabod. Roeddwn yn falch pan lwyddodd y pâr hwnnw ac mewn gwirionedd, rwy’n credu mai Cyngor Medway yng Nghaint a ddaeth yn ail gyngor yn y Deyrnas Unedig i gael cofrestr o’r fath.
Ond roedd yn fuddugoliaeth ymgyrchu ag iddi ddwy ochr, oherwydd bod y cwpl dan sylw, o ganlyniad i ymateb rhai pobl o leiaf ar eu hystad leol, a bwlio homoffobig a ddeilliodd o hynny, yn teimlo bod yn rhaid iddynt adael eu cartref a’r peth nesaf oedd ceisio eu helpu i gael eu hailgartrefu gyda’r cyngor. Ar y pryd, yn 2001 rwy’n meddwl, roedd cymal 28 yn dal ar y llyfr statud. Yn yr Alban, ar ddechrau Senedd yr Alban, un o’u gweithredoedd deddfwriaethol cyntaf oedd cael ei wared. Yng Nghymru, nid oedd gennym y pŵer yn y Cynulliad hwn i wneud hynny ac am resymau rwy’n dal ychydig yn gymysglyd yn eu cylch, cymerodd tan 2003 i Lywodraeth San Steffan ddeddfu i gael gwared ar gymal 28 o’r llyfr statud.
Efallai mai un o fy eiliadau balchaf, a’r fwyaf ystyrlon, fe deimlwn, fel AS yn San Steffan oedd pleidleisio ar 5 Chwefror 2013 dros briodas gyfartal. Roedd y blaid rwy’n ei chefnogi yn awr yn gwrthwynebu’r ddeddfwriaeth honno, ond rydym yn ei chefnogi yn awr, ac rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o’r aelodau yn UKIP, fel yn y pleidiau eraill, yn cefnogi hynny. Ar y pryd, pleidleisiodd y mwyafrif—neu fwy, o leiaf, o ASau o’r blaid yr oeddwn yn aelod ohoni bryd hynny yn erbyn y ddeddfwriaeth honno nag a bleidleisiodd o’i phlaid. Ond rwy’n credu mai ychydig iawn ohonynt a fyddai’n gwneud hynny heddiw.
Rwy’n gobeithio, hyd yn oed wrth i ni ddathlu’r cynnydd a gawsom mewn cyfnod mor hynod o fyr, o leiaf yn rhychwant hanes dyn, na fyddwn yn rhy feirniadol neu’n condemnio pobl sydd wedi cymryd ychydig o flynyddoedd yn hwy na ni efallai i newid eu barn. Mae llawer o feirniadaeth o Donald Trump, ac rwy’n cytuno â llawer ohoni, ond ar y mater hwn, mewn confensiwn Gweriniaethol, fe gynhwysodd bethau yn ei araith a barodd i’r gynulleidfa godi a chymeradwyo hawliau hoyw ac i gydnabod y gymuned hoyw mewn modd nad oedd y blaid Weriniaethol yn yr Unol Daleithiau erioed wedi’i wneud o’r blaen. Ac yn 2008, yn bendant nid oedd Barack Obama yn ymgyrchu dros briodas gyfartal yn y modd y’i deallwn heddiw.
Nodaf hefyd, yn y bleidlais pan gawsom briodas gyfartal, fod pedwar o ASau y Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn hynny ac rwy’n meddwl bod o leiaf un neu ddau ddwsin o Aelodau Seneddol Llafur wedi gwneud hynny. Rwy’n gobeithio ei bod yn bosibl i bobl bleidio crefydd, o leiaf yn breifat, ac roedd llawer o bobl ac Aelodau Seneddol yn teimlo bod y bleidlais honno’n anhygoel o anodd oherwydd naill ai eu safbwyntiau crefyddol a’u cydwybod neu oherwydd y pwysau a deimlent o du rhai o’u hetholwyr a’r rhai a siaradodd allan gryfaf â hwy ynglŷn â hynny. Rwy’n credu ein bod wedi gweld gydag arweinydd newydd y Democratiaid Rhyddfrydol y llynedd, ei fod wedi dod o dan bwysau mawr, pan ofynnwyd iddo a oedd yn ystyried bod rhyw hoyw yn bechod, ac roedd yn gwestiwn nad oedd am ei ateb ac rwy’n meddwl y dylai hynny gael ei barchu. Nid wyf yn meddwl bod neb yn credu mewn gwirionedd nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ddigon ymrwymedig i hawliau LHDT. Ac yn yr un modd, pan ddywedodd Jeremy Corbyn, ychydig wythnosau’n ôl, rwy’n credu, fod pobl yn dewis bod yn hoyw, credaf fod hynny’n anffodus ac rwy’n credu ei fod wedi gwneud camgymeriad a’i fod o genhedlaeth sydd â barn ynglŷn â beth yw pethau. Nid wyf am eiliad yn meddwl nad yw’n ddigon ymrwymedig i hawliau LHDT ac ni fuaswn am ei feirniadu mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy’n gobeithio na fyddwn yn edrych yn ôl i’r gorffennol wrth i ni geisio gwneud fel y dywed Adam Price a dathlu pobl LHDT a’r hyn y maent wedi ei gyfrannu yn y gorffennol heb allu bod yn agored am eu rhywioldeb—rwy’n gobeithio na fyddwn yn mynd ati i feirniadu gormod ar genedlaethau blaenorol, a oedd â phersbectif gwahanol i ni ar y mater hwn, ac yn lle hynny, ein bod yn dathlu pa mor gyflym y mae pethau wedi newid a chroesawu’r cynnig hwn. Dylem gael Cymru fel lle sy’n croesawu’r gymuned LHDT a gwneud fel y dywedodd Hannah Blythyn—yn enwedig yr hyn a ddywedoch am waith mewn ysgolion—o’i gymharu â sut y dechreuais fy nghyfraniad, gyda’r hyn a wnaed 29 mlynedd yn ôl. Rydym wedi dod mor bell.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn falch iawn o allu i siarad yn y ddadl hon, a diolch i Hannah am gyflwyno’r cynnig—a’r gefnogaeth gan Aelodau eraill? Yn y ddadl flaenorol, siaradodd nifer o’r Aelodau am bwysigrwydd addysg i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc ar fater trais ar sail rhywedd. Wel, mae rôl addysg wrth fynd i’r afael â rhagfarn a bwlio mewn perthynas â materion LHDT yr un mor arwyddocaol, ac roedd hynny’n rhywbeth y cyfeiriodd Hanna ato wrth iddi gynnig y cynnig hwn. Ond cyn i mi fynd ymlaen at y prif bwyntiau yr oeddwn am siarad amdanynt, a gaf fi sôn am yr arddangosfa Eiconau a Chyfeillion yr ymwelsom â hi yn ystod amser cinio? Roedd yn ddiddorol iawn gweld Illtyd Harrington yno, un a oedd yn ddirprwy arweinydd Llafur Cyngor Llundain Fwyaf, ac a hannai o Ferthyr Tudful mewn gwirionedd. Roedd wedi byw bywyd agored fel dyn hoyw gyda’i bartner yn Llundain ymhell bell yn ôl yn y 1980au, ac fe wnes i drydar am hynny, ac roedd yn hyfryd cael ymateb gan ffrind hoyw da iawn i mi o Ferthyr Tudful a ddywedodd, ‘Mae’n dda gweld bod pethau wedi symud ymlaen ac nad oes raid i bobl adael eu hardal bellach er mwyn bod yn hwy eu hunain.’ A gwnaeth hynny i mi wenu a gwneud i mi sylweddoli cymaint y mae pethau wedi symud ymlaen.
Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar ddau faes penodol sy’n ymwneud ag addysg, sef rôl staff ysgol a rôl llywodraethwyr ysgol. Ar y cyfan, nid wyf yn hoffi rhestru ystadegau, ond nododd adroddiad ar ysgolion gan Stonewall yn 2012 fod 55 y cant o ddisgyblion lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi profi rhyw fath o fwlio’n seiliedig ar eu cyfeiriadedd rhywiol, ac 83 y cant o bobl ifanc drawsrywiol wedi profi cam-drin geiriol, a 35 y cant wedi dioddef ymosodiad corfforol. Ac mae’r mwyafrif helaeth o staff mewn ysgolion, rwy’n meddwl, eisiau gallu ymdrin â bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig yn eu hysgol, ond yn rhy aml nid ydynt yn teimlo bod ganddynt yr adnoddau na’r hyder i allu gwneud hynny. Fel y crybwyllodd Mark Reckless, mae dros 13 mlynedd bellach ers i ni gael gwared ar gymal 28, ond mae yna lawer o staff sy’n dal i weithio yn ein hysgolion heddiw a oedd yn gorfod cyflwyno gwasanaethau addysg o dan fygythiad ac ofn erlyniad oherwydd y ddeddfwriaeth niweidiol honno, ac i rai, mae gweithio mewn amgylchedd newydd agored mewn perthynas â materion LHDT—maent yn dal i fod yn her gan fod hynny’n gwrthdaro â’r rhai sy’n fwy cyfforddus yn mynd ati i fynd i’r afael â bwlio homoffobig, a deuffobig a thrawsrywiol.
Nid yw’n syndod fod tystiolaeth glir o gyfraddau is o fwlio a chyfraddau uwch o gyflawniad ymhlith disgyblion LHDT yn yr ysgolion sydd wedi gwneud camau cadarnhaol tuag at gynnwys materion LHDT yn eu haddysgu, ond os yw staff ysgol yn teimlo bod angen mwy o gymorth arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn, yna’n sicr rhaid bod gan lywodraethwyr ysgol rôl i’w chwarae. Cafwyd adroddiad Stonewall arall yn 2014, a nodai mai dim ond un o bob pump o athrawon ysgolion uwchradd ac un o bob chwech o athrawon ysgol gynradd yng Nghymru a ddywedodd fod gan eu llywodraethwyr rôl arweiniol gyfeiriedig eglur o ran mynd i’r afael â bwlio disgyblion LHDT. Rwy’n tybio mai’r cam cyntaf wrth fynd i’r afael â’r broblem hon yn ôl pob tebyg yw sicrhau, cyn belled ag y bo modd, fod cyfansoddiad ein llywodraethwyr ysgol yn adlewyrchu’r gymuned leol ac y dylai pob corff llywodraethu ysgol geisio recriwtio mwy o aelodau LHDT sy’n gallu gwneud cyfraniad sylweddol i leihau bwlio gan y byddai eu profiadau bywyd eu hunain yn eu paratoi’n well i wneud hynny. Ond beth bynnag am hynny, dylai fod yn ddyletswydd glir i bob llywodraethwr ysgol, boed yn LHDT neu beidio, fynd i’r afael â phob math o fwlio yn eu hysgolion. Mae yna nifer o gamau y gellir eu cymryd i sicrhau nad yw disgyblion LHDT yn cael eu bwlio, ac mae hynny’n cynnwys: sicrhau bod polisïau gwrth-fwlio ysgolion yn cynnwys cyfeiriad penodol at fwlio sy’n gysylltiedig â LHDT; sicrhau bod cyrff llywodraethu yn cael ffigurau rheolaidd ar fwlio a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â LHDT; datgan pa hyfforddiant a ddarparwyd i staff ysgolion ynglŷn â sut i atal neu ymdrin â bwlio LHDT a chymorth i ddioddefwyr; sicrhau hyfforddiant i’r holl lywodraethwyr yn yr ysgol ar faterion LHDT; a chael yr ysgol i gofrestru ar raglen hyrwyddwyr ysgol Stonewall.
Cyfeiriais hefyd yn y ddadl ddiwethaf at ddatblygiad y cwricwlwm newydd ac fe ychwanegaf apêl arall. Mae yna gyfle euraidd i gynnwys addysg rhyw a chydberthynas sy’n gynhwysol o ran LHDT i fod yn rhan o’r cwricwlwm newydd. Byddai’n ei gwneud yn orfodol i gyrff llywodraethu roi ystyriaeth lawn i faterion LHDT a byddai unrhyw ymrwymiad i symud i’r cyfeiriad hwn yn rhoi mwy o gymhelliant i lywodraethwyr ysgol groesawu’r math o fentrau a amlinellais.
Felly, fel rhywun a fu’n ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb yn ei holl ffrydiau, rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r cynnig hwn sy’n dathlu mis hanes LHDT ac yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud. Ond mae angen cadw llygad yn barhaus hefyd ac i Gymru barhau i arwain yn y maes hwn.
Mae Russ George a minnau wedi cael bet fach ar bwy oedd yn y brifysgol gyda Mark Reckless. Fe baroch i ni feddwl yn gynharach. Gallwn weld Hannah Blythyn ysgwyd ei phen yn wyllt pan ddywedodd hynny. Ond dyna ni. A gaf fi ddiolch i Hannah Blythyn hefyd am gyflwyno’r mater pwysig hwn gerbron y Cynulliad heddiw? Rwyf hefyd yn cytuno â syniadau Joyce Watson fel comisiynydd. Ni allai Suzy Davies fod yma ar gyfer y ddadl heddiw, ond roedd hi’n awyddus i chi wybod ei bod yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn.
Er ein bod yn cefnogi’r cynnig hwn, buaswn yn dweud fy mod yn credu ein bod yn aml yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Cymru bob dydd yn hytrach na’i ddathlu’n iawn. Mae yna wahaniaeth: ychydig fel yr hen wahaniaeth rhwng goddefgarwch a derbyniad. Rwy’n meddwl y dylem ymhyfrydu mewn amrywiaeth a rhoi gwerth ar ein llwythau niferus heb chwerwder llwythol. Rydym yn fwy na chyfanswm ein rhannau. Mae wedi dod yn hawdd i ni yma hybu hawliau LHDT. Dyma ni yn y Cynulliad hwn, sefydliad blaengar iawn a sefydliad sydd, yn ddigon teg, yn cael ei gydnabod am ei waith a’i lwyddiant o ran hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rwy’n gynghreiriad; mae gennyf fy ngherdyn bach ar fy nesg, a gwn fod gan Aelodau Cynulliad eraill un hefyd. Nid yw’r sefydliad byth yn sefyll yn llonydd ac ni ddylai wneud hynny. Dylem fod yn falch fod ein deddfwrfa yn arwain y ffordd.
Crybwyllodd Hannah Blythyn yr arddangosfa yn y Senedd i fyny’r grisiau yn gynharach. Credaf ei bod yn wirioneddol ysbrydoledig, waeth beth yw eich rhywioldeb neu eich rhyw. Mae’n hygyrch iawn i ni fel Aelodau’r Cynulliad. Gallwn gysylltu’n hawdd â phobl yn ein cymuned sy’n awyddus i ddweud wrthym am eu bywydau, eu llwyddiannau yn erbyn rhagfarn, eu buddugoliaeth yn erbyn gwahaniaethu, eu dymuniad i addysgu yn erbyn bwlio a’u brwdfrydedd i ddadlau dros y rhai sy’n byw gyda phoen cudd oherwydd gwahaniaeth. Mae’n hawdd i ni fel gwleidyddion gredu’r peth iawn, a dweud y peth iawn, ac efallai ychydig yn llai hawdd, i wneud y peth iawn. Deddfu ar oed cydsynio, priodas, magu plant a mabwysiadu—roeddwn yn croesawu cefnogaeth Mark Reckless i briodasau hoyw pan ddaeth hynny drwy’r Senedd—ar bensiynau, ar eiddo, cyflogaeth a hyd yn oed troseddau er mwyn osgoi gwahaniaethu ar sail LHDT: mae’n hawdd oherwydd mae gennym y pŵer yma. Rwy’n credu ei bod yn iawn fod y cynnig yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar hawliau a derbyniad o LHDT. Mae hawliau a derbyniad yn bethau gwahanol, fodd bynnag, fel y dywedais o’r blaen. Mae’n dal yn bosibl cael y naill heb y llall ac efallai mai dyma fel y bydd hi bob amser lle y mae hawliau’n gwrthdaro â’i gilydd mewn cymdeithas seciwlar neu amlgrefyddol. Ni all hawliau arferadwy a derbyniad gyrraedd hyd oni cheir dealltwriaeth a hyd yn oed yn awr, yn y swigen o gyfeillgarwch tuag at bobl LHDT yr ydym yn ffodus i fod o’i mewn, rydym yn baglu ar draws ein hanwybodaeth lariaidd ein hunain.
Mae’n 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden; 60 mlynedd ers y câi’r geiriau ‘homosexual’ a ‘prostitute’ eu hystyried mor aflednais fel bod yn rhaid defnyddio’r geiriau ‘Huntley’ a ‘Palmer’ yn eu lle yn ystod yr ymchwiliad, gan roi gwawr o anlladrwydd i fisgedi ‘custard cream’ byth wedyn. [Chwerthin.] Rwy’n falch eich bod wedi deall y jôc. Cymerodd 10 mlynedd er hynny i gyflwyno’r ddeddfwriaeth i ddad-droseddoli ymddygiad cyfunrhywiol cydsyniol rhwng dynion mewn oed, ac mae wedi cymryd 60 mlynedd i sicrhau pardwn i Alan Turing yr oedd ei achos yn un o’r rhai a ysgogodd yr ymchwiliad. Dyma pam y mae’r angen i fod yn effro y mae’r cynnig yn galw amdano yr un mor bwysig â’r hybu, y dathliad a’r cynnydd—ac nid yr hawliau’n unig, ond dyfnder y derbyniad.
Bydd unrhyw un a edrychodd ar adroddiad Marie Curie, ‘Hiding who I am’, yn synnu cymaint o dyllau sydd yn ein derbyniad, neu o leiaf yn ein dealltwriaeth o’r profiad o fod yn berson LHDT, yn enwedig mewn henaint—yr anwybodaeth lariaidd honno y soniais amdani’n gynharach. Nid oedd adroddiad Wolfenden yn ffon hud. Roedd ein poblogaeth hŷn yn dal i dyfu i fyny mewn cyfnod pan oedd stigma mawr yn perthyn i fod yn berson LHDT, a gallai arwain at wahardd, trais a chael eich arestio hyd yn oed. Nid yw dod allan i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yn beth hawdd o hyd. Gall y rhai sydd yng nghyfnodau diweddarach dementia ddechrau ailbrofi’r teimladau o gywilydd ac ofn a deimlent yn eu hieuenctid. Gallant hyd yn oed ddangos dicter a ffieidd-dod tuag at gyfunrhywiaeth, gan adlewyrchu’r hyn a oedd yn ofynnol yn gymdeithasol pan oeddent yn ifanc.
Felly, i gloi, Lywydd, nid yw dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth mor hawdd ag y meddyliwn. Nid yw’n ymwneud yn unig â rhai o’r straeon arswyd y clywn amdanynt mewn rhannau eraill o’r byd. Mae teyrngarwch diwylliannol ac anwybodaeth yn parhau i esgor ar wahaniaethu a rhagfarn achlysurol mewn llawer o’n cymunedau ein hunain. Ychwanegwch at hynny ailstigmateiddio tawel y rhai a ymladdodd ac a drechodd stigma ar ôl Wolfenden a gallaf weld pam y mae’r cynnig hwn yn ymwneud â hybu, nid dathlu. Rwy’n teimlo, fodd bynnag, ei fod yn gynnig gwych i gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad, ac rwy’n meddwl ei fod yn dangos yr hyn y gall y Cynulliad hwn fod ar ei orau, a phan fo’r Aelodau’n meddwl am les gorau’r sefydliad hwn a Chymru.
Mae mis hanes LHDT yn rhoi cyfle i edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd a wnaed yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT+. Fel y nododd siaradwyr eraill, mae 2017 yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden, a 50 mlynedd ers pasio Deddf Troseddau rhywiol 1967 yn dad-droseddoli gweithredoedd rhywiol yn breifat rhwng dau ddyn. Ac wrth gofio’r ddau ddigwyddiad, gallwn dystio i bwysigrwydd thema eleni o eiconau a chyfeillion, gan nodi’r rôl a chwaraewyd gan John Wolfenden, Leo Abse a’r Arglwydd Arran. Wrth gwrs, roedd Deddf Troseddau Rhywiol 1967 yn rhan o’r trawsnewid agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd yn ystod Llywodraeth gyntaf Wilson, ac rwy’n falch o allu sefyll yma heddiw fel AC Llafur pan fo cymaint o’r datblygiadau ym maes cydraddoldeb LHDT wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraethau Llafur.
Mae record llywodraethau Blair a Brown yn arbennig o drawiadol, gyda llwyddiannau’n cynnwys: oedran cydsynio cyfartal; partneriaethau sifil; hawliau mabwysiadu; gwahardd gwahaniaethu yn y gweithle a mynediad at nwyddau a gwasanaethau; rhoi diwedd ar y gwaharddiad ar bobl LHDT rhag gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chymal 28; hawliau ffrwythlondeb i bobl lesbiaidd; hawliau i bobl drawsrywiol gael eu rhywedd wedi’i gydnabod yn y gyfraith; gweithredu yn erbyn troseddau casineb; ac yn hollbwysig, Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rwyf yr un mor falch o’r rôl a chwaraewyd yn symud agenda hawliau LHDT yn ei blaen gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr a’i aelodau yn ne Cymru. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom yma wedi gweld y ffilm ‘Pride’—ac os nad ydych, rwy’n eich annog i’w gwylio—sy’n dangos y ffordd ryfeddol y gwnaeth dwy gymuned, a ddieithriwyd ac a ymyleiddiwyd gan Lywodraeth Thatcher, gefnogi ei gilydd. Mae’r olygfa derfynol honno, gyda glowyr o Aberdâr, y ffatri phurnacite ac Aberpennar i gyd yn fy etholaeth fy hun yn ymuno â gorymdaith Gay Pride Llundain, yn cyfleu’r ffordd yr oedd y ddau grŵp wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd.
Rwyf hefyd yn awyddus i sôn heddiw am fy mhrofiadau fel athrawes ysgol uwchradd. Roedd elfen fugeiliol sylweddol i fy rôl, a gallai hyn ar adegau gynnwys ymdrin â myfyrwyr a’u cynorthwyo i ddod i delerau â’u rhywioldeb, ac wynebu’r cyfyng-gyngor a ddylent ddod allan ai peidio yn yr hyn a allai fod yn amgylchedd ysgol anodd a heriol iawn. Gallai heriau ddod gan gyfoedion, gan rieni ac aelodau eraill o’r teulu, ond gall myfyrwyr a phobl ifanc gael trafferth hefyd i dderbyn eu hunaniaeth rywiol eu hunain, heb sôn am wynebu gorfod sicrhau cefnogaeth a derbyniad y bobl o’u cwmpas.
Gwnaeth Stonewall Cymru beth gwaith ychydig flynyddoedd yn ôl yn tynnu sylw at ystadegau pryderus yn ymwneud â digwyddiadau homoffobaidd yr oedd pobl ifanc LHDT wedi’u profi, ac er fy mod yn falch o ddweud nad oeddwn yn dyst i unrhyw fwlio homoffobig yn bersonol yn ystod fy ngyrfa addysgu, mae Stonewall yn cyfeirio hefyd at yr ymdeimlad o arwahanrwydd y gallai pobl ifanc LHDT ei deimlo.
Felly, sut y gallwn fynd i’r afael â hyn? Mae’n bwysig iawn fod ysgolion yn addysgu derbyniad o rywioldeb drwy eu rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol, a chefnogaf yn llwyr yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden yn gynharach am athrawon sydd angen mwy o gymorth a hyfforddiant er mwyn cyflawni’r mathau hynny o wersi yn briodol. Mae hefyd yn bwysig i ysgolion sicrhau bod ganddynt bolisïau gwrth-fwlio llym ar waith, a bod digon o gefnogaeth yn cael ei rhoi i athrawon a staff eraill yr ysgol fel eu bod yn gallu cefnogi pobl ifanc yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod anodd iawn. Efallai hefyd y bydd cyfleoedd yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr ar hyfforddi athrawon a Dyfodol Llwyddiannus, ac rwy’n gobeithio y gellir ymchwilio i hynny’n llawn.
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cynnig modelau rôl LHDT cadarnhaol i’n pobl ifanc, ac rwy’n gobeithio na fydd ots gan yr Aelodau dros Delyn, Castell-nedd a Dwyrain Caerfyrddin fy mod yn croesawu eu rôl bwysig yn hyn o beth, er ei bod yn drueni ei bod wedi cymryd 17 mlynedd i’r Cynulliad Cenedlaethol ethol ei ACau LHDT agored cyntaf, a hefyd yn drist ein bod yn dal i lusgo ar ôl Seneddau’r Alban a San Steffan o ran y gynrychiolaeth honno. Gellir gweld modelau rôl LHDT eraill ar draws pob math o yrfa, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn elfen eiconau’r arddangosfa heddiw a llawer ohonynt yn enghreifftiau o’r newid agwedd a welsom yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf.
Mae data o’r astudiaeth o etholiad Cymru 2016 yn dangos bod rhywfaint o elyniaeth annerbyniol yn dal i fodoli tuag at bobl LHDT, ond roedd gan nifer lawer iawn yn fwy o bobl agweddau ffafriol. Roedd gwaith pwysig a wnaed gan gyn-fyfyriwr i mi, Jac Larner, yn awr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dangos bod pobl iau yn arddangos agweddau lawer iawn yn fwy ffafriol tuag at bobl LHDT na’u cohortau hŷn. Rhaid bod hyn yn galondid mawr i ni ar gyfer dyfodol ein cenedl, ond fel y dywedodd Ivor Novello, un o’r eiconau a ddethlir heddiw:
Anaml y bydd pethau nad ydynt yn galw am ymdrech o ryw fath yn werth eu cael.
Mae gwella cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu yn galw am ymdrech yn wir, ac maent yn bendant iawn yn werth eu cael.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, a llongyfarchiadau i’r Aelodau a’i cyflwynodd. Rwy’n credu bod hyn yn rhoi cyfle i ddathlu’r datblygiadau sy’n cael eu gwneud tuag at gydraddoldeb ac i ddathlu’r unigolion a wnaeth hyn yn bosibl.
Yn gyntaf oll, rwyf am ddweud fy mod yn credu ei bod mor bwysig fod gennym Aelodau Cynulliad hoyw a lesbiaidd yn arwain y ddadl heddiw. Dywedodd Hannah yn ei chyflwyniad, ‘Ni allwch fod yr hyn na allwch ei weld’ a chredaf fod honno’n neges mor bwysig. Rwy’n meddwl ein bod yn fwy credadwy fel Cynulliad yn awr gyda’r ddadl hon yn cael ei harwain yn y ffordd y mae’n cael ei arwain.
Roeddwn eisiau defnyddio’r amser a oedd gennyf i sôn am ddwy fenyw rwy’n eu hadnabod yn dda iawn, sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at wneud bywyd Cymru’n fwy goddefgar ac eangfrydig. Y gyntaf yw un o fy etholwyr, Janet Jeffries, a sefydlodd FFLAG—teuluoedd a ffrindiau pobl LHDT—ar ôl i’w mab ddod allan, ac mae wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros gydraddoldeb. Dywedodd wrthyf mai ei nod yn yr holl waith a wnaeth yw helpu rhieni a theuluoedd i ymwneud â’u plant gyda chariad a balchder. Ar yr adeg y sefydlodd Janet FFLAG yn 2001—un ar bymtheg o flynyddoedd yn ôl—roedd yn fyd gwahanol iawn, ac mae llawer o’r Aelodau sydd wedi siarad heddiw wedi cyfeirio at hynny. Dywedodd bryd hynny mai agwedd rhieni oedd ofn y gwahaniaethu y gallai eu plant eu hwynebu, ofn AIDS, ofn na fyddent yn gallu cael swydd, a phob dydd roeddent yn poeni am yr hyn y buasai’n rhaid iddynt ei wynebu: câi cyplau hoyw eu troi ymaith o westai, ac nid oedd yr un o’r deddfau y clywsom amdanynt heddiw’n bodoli.
Rwyf hefyd yn falch iawn fod Llafur wedi arwain y ffordd drwy basio llawer o’r deddfau arloesol, gan fod gwleidyddiaeth yn gwneud i bethau ddigwydd, ac yn sicr fe arweiniodd Llafur y ffordd. Roeddwn yn falch iawn o fod yn Nhŷ’r Cyffredin i bleidleisio dros oedran cydsynio cyfartal, i bleidleisio dros ddiddymu adran 28, y darn mwyaf niweidiol o ddeddfwriaeth y gallwn feddwl amdano, fel y mae llawer o bobl wedi dweud yma heddiw, a hefyd roeddwn yn falch iawn i bleidleisio dros y Ddeddf Partneriaethau Sifil yn 2004 a’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn 2004, ac wrth gwrs, y Ddeddf mabwysiadu.
Ar yr adeg roedd Janet yn gweithio, dywedodd ei fod yn ddigwyddiad cyffredin i lenyddiaeth a gynhyrchwyd ganddynt gael ei hanfon yn ôl gan yr argraffwyr. Dywedodd eu bod wedi anfon baner at yr argraffwyr ar gyfer y sefydliad, a’i bod wedi cael ei hanfon yn ôl am fod y gair ‘gay’ arni. Rydych yn dal i glywed am ddigwyddiadau fel hynny, megis y pobyddion yng Ngogledd Iwerddon a wrthododd bobi cacen gyda negeseuon o blaid priodasau hoyw arni. Ond credaf fod hynny’n digwydd yn llawer llai aml—mae’n llawer prinnach yn awr. Fel y dywedodd Janet wrthyf, mae’r byd wedi newid erbyn hyn, ond wrth gwrs, mae yna ffordd bell i fynd, fel y clywsom o’r trafodaethau sydd wedi bod yn digwydd yn yr eglwys yn ystod y dyddiau diwethaf. Dyfarnwyd medal yr ymerodraeth Brydeinig i Janet yn rhestr anrhydeddau’r flwyddyn newydd am ei gwaith ymgyrchu, ac rwy’n falch iawn o’i chael yn fy etholaeth, ac yn dymuno adferiad iechyd buan iddi o’i salwch.
Y fenyw arall rwyf am sôn amdani yw Gloria Jenkins, sydd i’w gweld yn yr arddangosfa Eiconau a Chyfeillion. Hi, gyda Janet, a sefydlodd FFLAG, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchydd grymus yn ne Cymru ers blynyddoedd lawer. Hi oedd cyd-gadeirydd Stonewall Cymru ac un o’r bobl allweddol a’i sefydlodd yn gadarn fel mudiad yng Nghymru. Rwy’n adnabod Gloria ers nifer o flynyddoedd, a bu fy ngŵr, Rhodri Morgan, a oedd yn AS Gorllewin Caerdydd ar y pryd, gyda Kevin Brennan, ei gynorthwyydd ar y pryd, yn ymgyrchu gyda Gloria a’i theulu a’i ffrindiau i sicrhau bod partner merch Gloria a oedd yn dod o Ganada, Tammy, yn gallu aros yn y DU. Roedd hon yn ymgyrch ag iddi broffil uchel ac roedd yn llwyddiannus, a Tammy oedd un o’r lesbiaid cyntaf i gael caniatâd amhenodol i aros yn y DU o ganlyniad i berthynas ystyrlon rhwng pobl o’r un rhyw. Felly, dyna y dechreuodd Gloria ymgyrchu yn ei gylch, ac mae hi wedi bod yn ymgyrchu byth ers hynny. Roedd yn wych ei gweld yn y derbyniad yn y Senedd heddiw, ac rwyf am ei llongyfarch am y cyfan y mae hi wedi’i wneud. Felly, roeddwn eisiau defnyddio’r cyfle i sôn am ddwy fenyw sydd wedi bod yn gynghreiriaid gwych ac wedi gweithio’n wirioneddol galed, a gwneud cyfraniad aruthrol.
Hoffwn orffen, yn olaf, ar lefel polisi, gan adleisio’r hyn y mae llawer o bobl wedi dweud yn y ddadl hon ac yn y ddadl flaenorol. Rwyf am apelio dros gynnwys addysg rhyw a chydberthynas ystyrlon mewn ysgolion. Fel y dywed Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, dylai addysg ryw o ansawdd da, sy’n addas i’r oedran, ac sy’n gynhwysol o ran LHDT, fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Lywydd, mae’n bleser ymateb i’r ddadl y prynhawn yma, ar ôl gwrando ar yr holl gyfraniadau ar draws y Siambr. Nid y ddadl heddiw ar Fis Hanes LHDT yw’r tro cyntaf i ni gael trafodaeth ar gydraddoldeb LHDT yn y Senedd, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y ddadl, am y tro cyntaf yn ein hanes, wedi cael ei harwain gan Aelodau Cynulliad sy’n lesbiaid a hoywon agored yn y Cynulliad: Hannah Blythyn, Adam Price a chyn hir, Jeremy Miles. Rwy’n ddiolchgar i bob un ohonynt, a Suzy Davies, yn wir, am gyflwyno’r cynnig heddiw, a hefyd am gyfraniadau nifer o’r Aelodau eraill hefyd. Rydym wedi clywed straeon personol, rydym wedi clywed am y gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb LHDT ac rydym wedi clywed am yr hyn sy’n dal i fod angen ei wneud.
Ni all pobl nad ydynt yn LHDT wybod yn iawn faint o bwysau sy’n wynebu ein cyfeillion wrth ddarganfod, derbyn a dod o hyd i’r rhyddid i fod yn pwy ydynt, ond gall pob un ohonom, rwy’n gobeithio, fod yn gynghreiriaid da drwy ddangos empathi gyda’r profiad a’r ofn o beidio â chael eu derbyn neu’n waeth, o wynebu gwahaniaethu uniongyrchol. Ffrindiau, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i wella bywydau a chyfleoedd pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ledled Cymru a thrwy ein grant cydraddoldeb a chynhwysiant, rydym wedi cefnogi prosiectau i herio bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion. Rydym yn gweithio ar draws asiantaethau ar gynyddu lefelau adrodd am ddigwyddiadau casineb gwrth-LHDT, ac rydym wedi cefnogi sefydlu grwpiau fel Trans*form Cymru ar gyfer pobl ifanc trawsrywiol.
Yn y Cynulliad diwethaf, cyflwynodd fy rhagflaenydd, Lesley Griffiths, gynllun gweithredu trawsryweddol. Un o’r blaenoriaethau yn y cynllun yw gweithrediad strategaeth drawsryweddol GIG Cymru, a fydd yn cynnwys llwybr gofal a chanllawiau ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd i gefnogi’r llwybr gofal; dyrannwyd £0.5 miliwn yn 2017-18 i wella gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2011 i gynnwys dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus ychwanegol a phenodol yng Nghymru hefyd wedi sicrhau newid diwylliannol pwysig yn y ffordd y mae ein cyrff cyhoeddus yn gwasanaethu anghenion pobl ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig.
Lywydd, o ganlyniad, bu gwelliant amlwg yn y modd y mae cyrff yn ceisio cefnogi pobl LHDT, o ran darparu gwasanaethau ac fel cyflogwyr. Bythefnos yn ôl yn unig—llongyfarchiadau i’r Cynulliad hwn ar gael gwobr am fod y cyflogwr sector cyhoeddus gorau a’r pumed cyflogwr gorau ym Mhrydain i bobl LHDT. Er gwaethaf llwyddiant o’r fath, mae llawer mwy i’w wneud, ac rydym wedi clywed hynny gan yr Aelodau heddiw. Mae’r Aelodau yma yn gwneud yn siŵr fod camau gweithredu yn gadarn ar yr agenda. Gwn fod Jeremy wedi trafod gofal iechyd trawsryweddol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ynghyd â Hannah, sydd wedi cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i drafod materion LHDT yn ein hysgolion, ac addysg rhyw, addysg ar berthynas, y siaradodd Julie Morgan amdani.
Ni allwn gymryd cynnydd yn ganiataol, fodd bynnag. Mewn gwledydd o gwmpas y byd mae yna bobl sy’n ymrwymedig i gyfyngu ar hawliau LHDT. Rydym wedi ymrwymo i’w hyrwyddo, yn union fel y gwnaethom yn 2002, pan ryddhaodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ganllawiau i ysgolion a roddodd ddiwedd i bob pwrpas ar y cymal 28 homoffobaidd flwyddyn cyn ei ddiddymu’n llawn yn San Steffan. Soniais am gymal 28 am fy mod yn credu ei fod yn dal i daro wrth wraidd y ddadl hon, a gyflwynwyd gan yr Aelodau yn y Siambr. Yn ymarferol, yr hyn a olygai oedd na fyddai neb byth yn dweud wrth ddisgyblion hoyw, ‘Mae’n iawn i chi fod yn pwy ydych.’ Ni chawsant erioed ddysgu am wahanol syniadau a hunaniaethau. Ni ddywedwyd wrthynt erioed neu ni chawsant erioed fodelau rôl fel Gareth Thomas, Nigel Owens, Jeremy Miles, Hannah Blythyn neu’n wir, Adam Price. Yn hytrach, fe wnaethant ddysgu bod ar wahân, bod ynghudd, bod yn ddistaw. Cafodd cenhedlaeth o bobl ifanc LHDT eu gwneud yn agored i fwlio wedi’i sancsiynu gan y wladwriaeth. Dywedwyd wrth y genhedlaeth a ddaeth o’u blaenau fod bod yn LHDT yn anghyfreithlon ac yn anghywir. Mae effaith hanes yn dal i’w theimlo heddiw. Er ein bod yn byw bellach mewn gwlad sy’n dathlu hawliau cyfartal, priodas un rhyw ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu, rhaid i ni beidio ag anghofio’r miloedd o fywydau a guddiwyd ac a gollwyd mewn gorffennol a oedd yn trin pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn llai na chyfartal. Y Mis Hanes LHDT hwn, cofiwn eu hanes, Lywydd, a dathlwn y cariad a’r dyngarwch yr ydym i gyd yn ei rannu yma heddiw. Diolch.
Galwaf ar Jeremy Miles i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd, a diolch i bob cyfrannwr y prynhawn yma, ac am yr ystod eang o gyfraniadau sydd, os caf ddweud, wedi bod yn feddylgar iawn. Petasech chi wedi dweud wrth y fersiwn 10 mlwydd oed ohonof i y byddwn i’n sefyll yma fel dyn hoyw balch ar lawr Senedd Cymru, fe fyddai fe wedi synnu ac wedi’i arswydo. Arswydo am y cywilydd, hynny yw, y byddai’r fersiwn 10 mlwydd oed wedi ei deimlo. Mae hynny sbel fawr yn ôl erbyn hyn.
Roedd darganfod fy mod yn grwtyn hoyw mewn cymuned glos, Gymreig, Gymraeg ar ddechrau’r 1980au ddim yn brofiad dymunol iawn: dim modelau rôl hoyw, dim esiamplau; dim trafodaeth, dim ymwybyddiaeth, dim cefnogaeth, dim ond synnwyr o fod wedi ynysu. Felly, pan mae pobl yn dweud, ‘Hei, nid yw’n newyddion, bellach, bod gennym wleidyddion hoyw’—na, digon teg, ond fe ddylem ni i gyd cymryd y cyfle, pan allwn ni, i gynnig rhyw lygedyn o olau i’r rhai sydd yn dal i frwydro, ac mae rhai yn dal i wneud hynny o hyd, a, gyda llaw, gynnig rhyw lygedyn o oleuni i deulu, rhieni, cymdogion a chyfeillion sydd yn chwilio am gysur, neu’n chwilio am yr eirfa iawn, neu chwilio jest am gyfle i godi’r testun. Felly, da yw cael cyfle i siarad yma ac i gydnabod heddiw rôl y gymuned LHDT yn ein hanes ac yng Nghymru heddiw.
This debate today goes to the fundamental value of a civilised society, which is equality. Equality is indivisible. My fight for equality is your fight for equality. We might be the first openly gay Assembly Members in Wales but I often look back at the first openly gay politician that many of us will remember: Harvey Milk, who was an assembly man in San Francisco in the late 1980s. He gave an important speech about the value of hope:
The only thing they have to look forward to is hope. And you have to give them hope. Hope for a better world, hope for a better tomorrow, hope for a better place to come to if the pressures at home are too great. Hope that all will be all right. Without hope, not only are the gays,’ but the black people, the seniors, the disabled, the ‘us-es’.
The “us-es” will give up.’
Equality is indivisible. This is not just for those who’ve had very public struggles for their equality: black people, the seniors, the disabled that Harvey Milk spoke about. It’s also the ‘us-es’—every one of us. We are here to celebrate difference today, and in many ways, we are all different. Sometimes, that difference is better understood. Sometimes, that difference is harder to bear than at other times. There was a time when being divorced, being a single mother, having a mixed-race grandchild were causes of shame and discrimination. Still today, there is great stigma and discrimination, say, about open conversations about mental health. Where progress has been achieved, it has only happened because people of courage, people of commitment, have fought. They have refused to sit at the back of the bus. Jonathan Sachs, who was the former chief rabbi, spoke about the dignity of difference—that we value one another not just because of what we have in common, but because we recognise in each other something that we don’t have. That dignity of difference is under threat in the world today.
Politics is about what you choose to care about—the questions you choose to ask, not whether you give the right answer to the question when you are asked it. There is a good measure of support in this Chamber for LGBT+ equality. There is a good measure of support in Westminster. But, since this is LGBT History Month, maybe you’ll forgive me a bit of a recollection. I lived in London in the early 1990s when Pride marches were marches against the Government for oppressing the LGBT community. It was not just a Government that wasn’t funding the right programmes or saying the right things. It was a Government, when I was a teenager, that not only tolerated discrimination, but actively devised novel and innovative ways to make the lives of gay people less tolerable. So, today, I want to thank all those people who fought for the rights that we enjoy today and who have led by example. Many of them we remembered today in the Senedd.
I am proud to be the Assembly Member for Onllwyn, which is where the film ‘Pride’ was based. We heard today about Dai Donovan, who worked with the Neath, Dulais and Swansea Valleys Miners Support Group to bring the LGSM—Lesbians and Gays Support the Miners—to the Dulais valley. I want to acknowledge, as Vikki did, the work of the NUM in putting LGBT equality on the public agenda in the 1980s. I want to acknowledge the work of the 1997 Labour Government, supported by other progressive parties, which swept away a raft of discrimination laws and brought in many of our equal rights. In the course of doing so, they created the political climate for many Conservatives to express their support for LGBT rights as well.
But, a country without discrimination in its laws is not the end point of a civilised society. It is the starting point. We have a lot left to do in terms of changing attitudes. Today, I feel that we have a long way to go, for example, in our attitudes towards the trans community. We are a long way from fair and healthy attitudes there. I want to acknowledge the work of the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport, who has been mentioned already today, for the work going on to move forward the health agenda for trans people, and the agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru was the basis for that.
There are people today watching this debate who are still waiting for equality—in practice, if not in law. They will be waiting and watching for encouragement, and for political commitment. Our job, as the courageous politician instructed us, is to give them hope.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.