6. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16

– Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 yn enw Paul Davies, a gwelliant 4 yn enw Rhun ap Iorwerth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:25, 7 Mawrth 2017

Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad blynyddol Estyn ac rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6246 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:25, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Meilyr Rowlands am ei ail adroddiad blynyddol fel y prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Yn ogystal â darparu tystiolaeth ar berfformiad a safonau, bydd adroddiad y prif arolygydd yn llywio datblygiad polisi ac yn ein helpu i ysgogi gwelliannau yn ein system addysg. Mae'r adroddiad yn glir ein bod yn gwneud cynnydd mewn rhai meysydd, ond mae llawer o heriau yn dal i fodoli.

Fel y mae Estyn yn adrodd, mae angen rhagor o welliant. Rwy'n croesawu canfyddiadau'r arolygydd sy'n dangos y bu cynnydd parhaus yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar, mewn llythrennedd a rhifedd, ymddygiad a phresenoldeb plant a bod perfformiad dysgwyr difreintiedig yn gwella hefyd. Mae'r adroddiad yn iawn i dynnu sylw at y ffaith mai ansawdd yr addysgu yw’r dylanwad mwyaf ar ba mor dda y mae dysgwyr yn dysgu ac mae’n trafod beth sydd ei angen er mwyn gwella addysgu sef dysgu proffesiynol a datblygiad staff gwell, ac rwy’n cytuno’n llwyr â'r prif arolygydd. Mae athrawon ac arweinyddion yng Nghymru yn rhannu cenhadaeth unigol, broffesiynol a chenedlaethol i helpu pob un o'n plant i lwyddo.

Rwyf wedi bod yn glir fy mod yn credu y dylai athrawon fod yn fyfyrwyr gydol oes eu hunain, gydag ymrwymiad parhaus i’w twf proffesiynol, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd, gwella’n barhaus ac astudio a gweithredu arferion gorau. I gefnogi hyn, rydym yn gweithio tuag at sicrhau dull Cymru gyfan cyson at ddysgu proffesiynol, a ddarperir ar sail ranbarthol. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl ymarferwyr, gan gynnwys staff cymorth ac ymarferwyr addysg bellach, yn gallu datblygu sgiliau mewn addysgeg ac arweinyddiaeth i wireddu gofynion ein cwricwlwm newydd.

Mae cyflwyno safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer athrawon ac arweinyddion yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw. Mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r proffesiwn a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu a phrofi safonau proffesiynol newydd a fydd yn ysbrydoli, herio a chefnogi pob ymarferydd o’r hyfforddiant cychwynnol hyd at arweinyddiaeth ysgol. Mae llawer o ysgolion eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran cefnogi dysgu gan gymheiriaid. Bydd y safonau proffesiynol diwygiedig yn adlewyrchu'r ymrwymiad hwnnw i welliant parhaus a chydweithio drwy gefnogi ymarferwyr i ymgyrraedd tuag at arferion rhagorol parhaus ar bob lefel a phob cam o'u gyrfa.

Mae’n rhaid i safonau proffesiynol hefyd gyd-fynd â’n gwaith o ddiwygio addysg gychwynnol athrawon a'r cwricwlwm newydd. Hwy fydd yn pennu’r safon ar gyfer mynd i mewn i'r proffesiwn a chefnogi ymarferwyr i sicrhau bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiad angenrheidiol i fodloni heriau’r cwricwlwm diwygiedig a datblygu’r gallu i arwain ar bob lefel.

Mae'r adroddiad yn crynhoi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 ar gyfer Cymru. Wrth gwrs, roedd yn siom fawr i mi bod canlyniadau Cymru unwaith eto yn is na rhai tair cenedl arall y DU a chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Fodd bynnag, rhywbeth sy’n rhoi mwy o foddhad o’i ddarllen yw adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gyhoeddwyd dim ond y mis diwethaf a drafodwyd yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf. Fel y gwyddoch chi, Lywydd, ar ôl dod yn Ysgrifennydd y Cabinet, gwahoddais y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ddod i Gymru i herio a phrofi ein diwygiadau ac maen nhw wedi dod i'r casgliad ein bod yn gwneud cynnydd a bod gennym y weledigaeth hirdymor gywir ar waith er mwyn parhau i wella. Felly, fy ngwaith i yw cadw'r momentwm hwnnw i fynd a’i gyflymu lle bo angen. Byddaf yn parhau i gael fy arwain gan arferion gorau rhyngwladol a thystiolaeth gadarn. Bydd gan adroddiad Estyn swyddogaeth allweddol o ran tynnu sylw at feysydd y mae angen eu gwella a chefnogi gweithrediad ein diwygiadau pellgyrhaeddol. Mae’n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar wneud yn siŵr ein bod yn gweithredu ein cenhadaeth genedlaethol yn briodol i ddiwygio addysg i wella safonau a helpu pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, i gyflawni ei wir botensial a’i botensial llawn. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:30, 7 Mawrth 2017

Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Rwy’n galw ar Darren Millar i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.

Gwelliant 1—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.

Gwelliant 2—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

Gwelliant 3—Paul Davies

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2 a 3.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:30, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf eisiau cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw Paul Davies yn ffurfiol. Rwy'n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, ac rwyf eisiau cofnodi fy niolch i Estyn, hefyd, am y gwaith y mae’n ei wneud ledled Cymru. Mae ei arolygiadau, wrth gwrs, yn rhoi cipolwg gwerthfawr iawn i ni ar yr hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion ledled y wlad, ac, yn wir, mewn lleoliadau addysg bellach a’r blynyddoedd cynnar. Mae'r adroddiad hwnnw y mae’n ei gyhoeddi yn flynyddol yn rhoi cyfle i ni edrych—ar y darlun mawr, os mynnwch chi—ar y system addysg gyfan, mewn trosolwg.

Rwy'n falch iawn, mewn gwirionedd, bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd safbwynt realistig o'r hyn a oedd gan yr adroddiad i'w ddweud. Nid oedd hi’n arbennig o hapus heddiw—mae hi'n aml felly y tu allan i'r Siambr hon—ond fe wnaeth hi dynnu sylw at ran o’r newyddion da a oedd yn yr adroddiad, ac mae yno newyddion da y gallwn ei ddathlu, yn enwedig o ran arweinyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar, ac arweinyddiaeth, yn wir, yn y sector addysg bellach, hefyd.

Ond yr hyn a oedd yn achosi pryder i mi yn yr adroddiad hwn gan Estyn oedd bod adleisiau o broblemau a ddylai fod wedi eu datrys erbyn hyn—pethau sydd wedi cael eu hamlygu gan Estyn o'r blaen ac, yn wir, gan asiantaethau eraill cyn hynny, sy’n dal i godi, dro ar ôl tro yn yr adroddiadau hyn. Mae ein gwelliant ni yn ceisio tynnu rhywfaint o sylw at y rhain. Rydych chi wedi cyfeirio at rai o'r rhain eisoes, wrth gwrs, yn eich araith agoriadol. Mae ein gwelliant cyntaf yn canolbwyntio ar ansawdd ac amrywioldeb yr addysgu. Rydym ni’n gwybod bod Estyn wedi dod i'r casgliad mai dyna’r agwedd wannaf ar y ddarpariaeth ar draws sectorau yn y system addysg yng Nghymru, a dyna sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ddeilliannau dysgwyr. Felly, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r mater hwn, unwaith ac am byth, ac rwy’n gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, i fod yn deg i chi, eich bod wedi cymryd rhai camau cychwynnol i sicrhau rhywfaint o welliant. Rwy'n falch iawn bod gennym ni rai safonau proffesiynol newydd, sydd wedi'u datblygu, er nad wyf yn deall o hyd pam nad y Cyngor Gweithlu Addysg sy'n pennu’r safonau hynny, a pham yr ydych yn dal i deimlo ei bod yn angenrheidiol, fel Llywodraeth, i wneud hynny, er gwaethaf y ffaith nad dyna yw’r arfer yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau eraill. Nodaf hefyd eich bod yn cymryd camau i wella hyfforddiant cychwynnol athrawon a byddaf yn edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am eich cynigion penodol ar hynny yn y dyfodol.

Wrth gwrs, roedd hi’n ddigalon—yn ddigalon iawn—gweld bod Cymru ar waelod tablau cynghrair PISA y DU ac, yn wir, yn hanner isaf y tablau cynghrair byd-eang, ac mewn sefyllfa a oedd yn waeth y tro hwn na’r sefyllfa yr oeddem ni ynddi 10 mlynedd yn ôl. Mae'n rhaid i ni gyflymu’r newid er mwyn dringo i fyny’r tabl cynghrair a dysgu oddi wrth y gorau. Felly, rwy'n falch o’ch clywed chi’n cyfeirio hefyd at ddysgu oddi wrth ganolfannau rhagoriaeth rhyngwladol mewn gwledydd eraill er mwyn cael ein sefyllfa ni yn iawn.

Mae yna bethau y gall ysgolion, wrth gwrs, eu gwneud i wella'r cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a chymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol parhaus. Byddant yn gallu gwneud llawer o hynny os cânt eu rhyddhau o rywfaint o'r fiwrocratiaeth y mae’n rhaid iddyn nhw ei hwynebu ar hyn o bryd a dyna pam yr ydym ni’n rhoi cryn groeso i'r argymhelliad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd bod angen i ni wneud defnydd o fwy o reolwyr busnes yn ein hysgolion. Gwn fod honno'n farn yr ydych chithau’n ei rhannu hefyd.

Ond, wrth gwrs, dywedodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd bod angen arweiniad llawer cryfach gan y Llywodraeth o ran yr eglurder ynghylch y weledigaeth ar gyfer y dyfodol a sut yn union yr ydych chi’n mynd i gyrraedd yno. Gwn eich bod yn ceisio mynd i'r afael â'r argymhelliad penodol hwnnw ac fe wnaethoch gynnal cynhadledd yr wythnos ddiwethaf yn edrych ar rai o'r pethau penodol hyn a cheisio tynnu sylw at y swyddogaeth sydd gan ysgolion, penaethiaid, y consortia rhanbarthol ac eraill i’w cyflawni mewn gwirionedd.

Soniasoch am geisio cael athrawon i mewn i'r proffesiwn hefyd, a tybed pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i’w gwneud yn haws i bobl drosglwyddo o yrfaoedd eraill i'r sector dysgu, os oes ganddynt y tueddfryd i fod yn athrawon da, a’r potensial i fod yn athrawon da. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gennych ynghylch hynny.

O ran arweinyddiaeth, cefais fy nharo yn benodol gan y rhagoriaeth yr ydym wedi’i weld mewn arweinyddiaeth, yn enwedig yn y sector addysg bellach, yn yr adroddiad. Ac, wrth gwrs, rhoddwyd gwobr i David Jones o Goleg Cambria yr wythnos diwethaf, a oedd hefyd yn cydnabod ei sgiliau arweinyddiaeth. Tybed a oes cyfle, mewn gwirionedd, i’r gwahanol rannau o'r sector addysg gydweithio i wella sgiliau ein harweinyddion a manteisio ar ran o'r arbenigedd hwnnw, yn enwedig yn y sefydliadau mwy hynny, yr ysgolion mwy lle y gellir gwneud rhywbeth efallai i ymestyn pobl ychydig bach yn fwy a datblygu'r sgiliau hynny.

Rwy’n credu hefyd, o ran galluoedd y disgyblion mwy abl a thalentog, ein bod ni’n gwybod bod hyn hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni ganolbwyntio arno. Dyna un o'r rhesymau pam nad oedd ein sgoriau PISA cystal ag y dylent fod ac mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth sydd wedi ei ailadrodd yn adroddiad Estyn. Rwy’n gwerthfawrogi hefyd bod Llyr yn mynd i fod yn siarad am ddisgyblion eraill ac unedau cyfeirio disgyblion, er enghraifft, ond mae’n amlwg bod angen i ni wneud yn siŵr bod pob un o'n disgyblion yn cyrraedd ei botensial llawn. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am eich cynlluniau ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, nid dim ond y rhaglen Seren, ond beth arall y gellir ei wneud er mwyn cael y bobl hynny, y bobl iau hynny yn benodol, i fyny yna, yn cyrraedd eu llawn botensial, a gwneud yn siŵr ein bod yn dringo i fyny’r tablau cynghrair hynny yn y dyfodol. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:36, 7 Mawrth 2017

Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.

Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:36, 7 Mawrth 2017

Diolch, Lywydd. A gaf innau hefyd ategu’r diolch sydd wedi ei fynegi i’r prif arolygwr a’i dîm yn Estyn am y gwaith maen nhw’n ei wneud, a hefyd am y modd y maen nhw yn ymgysylltu â’r pwyllgor plant a phobl ifanc yma yn y Cynulliad drwy gynnig tystiolaeth a bod mor barod—yn y cyd-destun yma beth bynnag—i ddod â’u adroddiad blynyddol ger ein bron ni?

Rydw innau hefyd am ffocysu ar amrywioldeb, a rydw i’n ddiolchgar bod y cynnig wedi cael ei osod gan y Ceidwadwyr. Yn sicr, mi fyddai’n rhywbeth y byddem ni wedi gwneud oni bai eich bod chi wedi gwneud o’n blaenau ni. Mi godais i hyn yn uniongyrchol gyda’r prif arolygydd pan ddaethon nhw i roi tystiolaeth i ni, ac mi roedd ef hefyd yn poeni nad oes digon wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i fynd i’r afael â hyn. Wrth gwrs, mae modd gweithredu ar lefel ysgolion—mae angen gweithredu ar lefel ysgolion, ar lefel awdurdodau addysg a chonsortia, ac ar lefel genedlaethol i’w daclo. Mae yna sawl haen o weithgarwch sydd angen eu gweld i fynd i’r afael â hyn, ac mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth, wrth gwrs, i fynd i’r afael ag ansawdd y dysgu a’r addysgu, ac mae’n ymwneud â gwella datblygiad staff hefyd. Yn yr ysgolion, yn sicr, mae angen gwneud mwy i greu’r diwylliant, i greu’r amodau lle mae athrawon yn gallu rhannu a thrafod eu hymarfer a’u harfer gyda’u cydweithwyr mewn ffordd agored er mwyn dysgu oddi wrth ei gilydd o fewn sefydliad, yn ogystal â rhwng sefydliadau gwahanol hefyd.

Yn fwy hirdymor, ar lefel genedlaethol, wrth gwrs, fel rŷm ni’n gweld, mae yna waith nawr yn digwydd i edrych ar wella ansawdd hyfforddiant cychwynnol i athrawon a gwella ansawdd yr arweinyddiaeth drwy’r academi ac yn y blaen. Felly, amrywiaeth rhwng ysgolion ac amrywiaeth o fewn ysgolion hefyd, a dyna oedd un o’r negeseuon gan y prif arolygydd—hynny yw, yr un yw’r broblem yn ei hanfod. Pan fydd Estyn yn dweud bod ysgol yn dda, beth maen nhw’n ei ddweud yw bod yr ysgol yn gyson yn dda. Ond, wrth gwrs, pan fydd ysgol efallai yn ddigonol, wel, nid yw’r cysondeb yna; mae yna bocedi o arfer da, ond i’r gwrthwyneb hefyd, a dyna le rŷm ni’n cael yr amrywioldeb, mewn gwirionedd.

Fe arolygwyd y consortia llynedd, wrth gwrs, ac fe ddywedodd Estyn bryd hynny nad oedd digon wedi ei wneud i fynd i’r afael ag amrywioldeb, yn enwedig ar lefel uwchradd. Mae’r neges yna, wrth gwrs, yn cael ei hategu yn yr adroddiad blynyddol. Mae yn nodwedd, wrth gwrs, o’r ysgolion gorau eu bod nhw’n creu rhwydweithiau eang, eu bod nhw’n rhagweithiol iawn yn mynd o gwmpas yn dysgu oddi wrth eraill, sydd hefyd, wrth gwrs, yn cael profiad positif o wneud hynny—mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Nodwedd gyson o’r darparwyr salaf, wrth gwrs, yw eu bod nhw’n ynysig, yn edrych i fewn ar eu hunain, ac efallai nid allan ar eraill. Mae hynny yn rhywbeth y gallwn ni ei newid. Rydw i’n credu bod modd taclo hynny yn gymharol—wel, mae ‘hawdd’ efallai yn air rhy gryf, ond yn sicr un o’r materion fan hyn yw gallu rhyddhau staff i fod yn gallu gadael y dosbarth i fynd i rannu profiadau, ond mae gwerth hynny, rydw i’n meddwl, mor gryf nes ei fod yn rhywbeth y mae’n rhaid i ni bwysleisio mwy ohono.

Agwedd arall o amrywioldeb, wrth gwrs—ac mae hyn yn cyffwrdd, efallai, ar yr angen i ddiwallu anghenion pob dysgwr, fel sy’n cael ei amlinellu yn yr ail welliant—yw’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched, a disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a disgyblion eraill. Mae’r bwlch hwnnw yn dueddol o dyfu wrth iddyn nhw symud drwy eu gyfra ysgol, ac rydw i’n gwybod yn sicr o safbwynt difreintedd, ac rydw i’n siŵr hefyd o safbwynt bechgyn a merched, fod yr Ysgrifennydd Cabinet yn awyddus i fynd i’r afael â hyn. Ond, gan fod y bwlch yna’n dueddol o dyfu, wrth gwrs, beth mae hynny yn ei ddweud wrthym ni ynglŷn â’n llwyddiant ni i daclo yr amrywioldeb yma sydd o fewn y gyfundrefn? Efallai ei bod hi’n her i gymdeithas ehangach, ond mae yna rôl ganolog i ysgolion, a dyna, rydw i’n meddwl, ydy un o’r heriau yn symud ymlaen.

O safbwynt gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs, ni chafodd un o’r unedau cyfeirio disgyblion eu barnu yn rhagorol gan Estyn yn y flwyddyn dan sylw. Fe nodwyd gwendidau sylweddol o ran darpariaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ym mhob un o’r pedwar a gafodd eu harolygu. Mae perfformiad yr unedau wedi bod yn destun pryder, wrth gwrs, ers sawl blwyddyn. Mi godwyd eu perfformiad cymharol wael fel testun gwelliannau i’r dadleuon ar adroddiadau Estyn yn 2012-13 gan y Democratiaid Rhyddfrydol, eto yn 2013-14 gan y Ceidwadwyr, ac felly, am wn i, ein tro ni yw hi y tro yma, ysywaeth. Felly, wrth gwrs, mae hwn yn rhywbeth y dylid wedi gwneud mwy i fynd i’r afael ag e dros y blynyddoedd. Mae’r adroddiad diweddar, yn ogystal ag adroddiadau blynyddol, yn cynnwys yr adroddiadau thematig hefyd, wedi profi bod mawr angen gweithredu ar fyrder yn y maes yma.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet, wrth gwrs, wedi sôn am ei bwriad i wella profiad disgyblion yr unedau cyfeirio disgyblion yma, gan nodi y byddai’n defnyddio peth o’r adnoddau ychwanegol sydd ar gael iddi yn dilyn y gyllideb i’r perwyl yma. Rydw i hefyd yn cydnabod ei bod hi’n cydweithio â’r cyn-brif arolygydd i edrych ar y sefyllfa yma, ond mae’r broblem yn hen, hen hanes erbyn hyn. Mi oedd yna gyfeiriad yng Ngorffennaf y llynedd at gymeradwyo argymhellion y grŵp tasg a gorffen ar addysg heblaw yn yr ysgol, a bod hynny’n ffurfio rhan o’r fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n dod i’r amlwg—yr ‘emerging framework for action’. Dyna’r cyfeiriad yn ôl ym mis Gorffennaf, ac nid wyf i wedi gallu ffeindio llawer mwy o fanylion ynglŷn â hynny, ac mi fyddwn i’n falch, wrth ymateb i’r ddadl, petai’r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu rhoi gwell syniad inni o beth yw’r cynlluniau sydd ar waith, beth yw’r amserlenni a lle’n union yr ydym ni’n mynd ar y maes yma. Diolch.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:41, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hoffwn—nid am y tro cyntaf—godi mater yr ysgolion bro, yr wyf yn dal i gredu eu bod yn bwysig iawn i berfformiad ein system addysg yng Nghymru. Rwy'n credu mai un mater y mae Estyn wedi’i godi yn ei adroddiad, ac mae’n ei godi’n gyson, yw amrywioldeb yn y system addysg yng Nghymru. Mae'r amrywioldeb hwnnw yn berthnasol i ysgolion bro. Mae rhai ysgolion yn dda iawn am ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned ehangach, nid yw eraill cystal. Rwy’n credu bod hyn yn wirioneddol bwysig. Mae llawer o bobl, rwy’n credu, yn ddig, ac yn briodol felly, o weld bod ysgolion wedi’u cau i’r gymuned gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae'n wastraff adnoddau ar adeg o straen mawr ar gyllid cyhoeddus, ac nid yw'n gwneud y gwaith hwnnw o ymgysylltu â theuluoedd a'r gymuned a ddylai fod yn digwydd yn gyson ledled Cymru.

Mae hyn wedi ei godi gyda mi, Lywydd, sawl gwaith yn fy etholaeth fy hun—ac rwy'n siŵr bod hyn yn wir ledled Cymru—nad oes yn aml, mewn rhai teuluoedd a rhai cymunedau, digon o werthfawrogiad o addysg a dim digon o ymrwymiad i addysg, y byddem ni i gyd yn hoffi ei weld. Felly, mae hynny'n adlewyrchu ei hun mewn presenoldeb yn yr ysgol. Rwy'n aml yn clywed pobl yn dweud, er enghraifft, bod eu plant wedi llwyddo i gael presenoldeb o 95 y cant, fel bod hynny’n rhywbeth neu’n gyfradd i fod yn falch ohoni, er bod hynny, wrth gwrs, yn golygu colli llawer gormod o ysgol. Yn wir, ceir cyfraddau presenoldeb llawer gwaeth na hynny. Mae'n amlygu ei hun, rwy’n credu, mewn diffyg cefnogaeth weithiau i blant wneud eu gwaith cartref, adolygu’n briodol ar gyfer arholiadau, ac mae'n gostwng uchelgais o ran addysg uwch. Felly, un peth yr wyf yn aml yn ei glywed—yn rhy aml—yw y gallwch fynd i'r brifysgol ac efallai y byddwch yn y pen draw yn dal i fod heb swydd, neu heb swydd sy’n rhoi mwy o foddhad o gwbl na swydd y byddech chi efallai wedi ei chael pe na byddech wedi mynd i’r brifysgol. Felly, nid wyf yn credu y gallwn ni gyffredinoli, ond mae rhai teuluoedd a phobl mewn rhai o'n cymunedau lle y mae’r mathau hyn o agweddau yn rhy gyffredin. Un ffordd o’u cyrraedd yw ymgysylltu o ddifrif ac yn gyson â'r teuluoedd hynny a'r cymunedau hynny, hyd yn oed o gofio bod rhai teuluoedd wedi cael profiad gwael o addysg eu hunain ac efallai eu bod yn gweld ysgolion fel sefydliadau dosbarth canol iawn, yn llawn i raddau helaeth o bobl broffesiynol dosbarth canol nad ydynt yn teimlo’n arbennig o hyderus yn ymgysylltu â nhw, neu efallai nad ydynt yn dymuno ymgysylltu â nhw, hyd yn oed. Felly, ceir rhwystrau gwirioneddol—rhwystrau anodd—y mae'n rhaid eu chwalu. Ond, Lywydd, yr unig ffordd y bydd hynny'n digwydd, gyda chysondeb, yw os bydd ymgyrch gref, byddwn i’n dweud, ac arweinyddiaeth gan Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion, gweithwyr addysg proffesiynol ac eraill i gyflawni'r cysondeb y mae angen inni ei weld. Rwy’n credu ei bod yn angenrheidiol sefydlu mecanwaith, beth bynnag y bo, i sicrhau bod cysondeb a diffyg amrywioldeb ledled Cymru gyfan.

Rwy'n aml yn clywed gan lywodraethwyr a phenaethiaid ysgolion ei bod yn bosibl y byddai'r gofalwr eisiau rhywfaint o arian ychwanegol i agor yr ysgol—nid yw byth yn llawer o arian, ond gwelir hynny fel problem—ac mae yna faterion diogelwch o ran y safle os yw'r ysgol yn agored i'r gymuned. Unwaith eto, nid yw hwnnw'n fater na ellir ei oresgyn gyda’r math iawn o ewyllys ac ymrwymiad. Yn wir, rwy’n credu bod llawer o ysgolion yn gweld bod agor y safle, mewn gwirionedd, yn cynorthwyo diogelwch, oherwydd bod pobl o gwmpas yn amlach pan fo’r ysgol ar gau i sicrhau nad yw pobl yn gallu gwneud pethau heb gael eu gweld, a bod tystion i weithredoedd.

Nid yw hyn ychwaith yn ymwneud ag ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn unig, Lywydd. Mae'n ymwneud â'r stoc presennol o ysgolion. Felly, os ydym ni’n mynd i gael y cysondeb sydd ei angen arnom ledled Cymru, mae'n rhaid iddo fod yn ddull sy'n sicrhau cynnydd yn y stoc presennol o ysgolion, nid yn unig yn yr ysgolion unfed ganrif ar hugain. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywbeth yn ei chyfraniad i'r ddadl hon a fyddai'n rhoi rhywfaint o gysur i mi y byddwn o bosibl yn gweld y cysondeb hwnnw’n cael ei gyflawni a bod dull ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:46, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Mae Llafur Cymru wedi bod yn rheoli addysg ar ryw ffurf neu'i gilydd ers sefydlu'r Cynulliad. Weithiau maen nhw wedi cael cymorth drwy glymblaid â Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae elfennau ar adroddiad Estyn heddiw yn dangos yn glir i bobl Cymru yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r rheolaeth dros bolisi addysg i un o'r partïon hyn a elwir yn flaengar.

Yn gyntaf, mae Estyn yn cyfaddef mai dim ond lleiafrif o'r disgyblion sydd â sgiliau rhesymu cadarn ac sy’n gallu datrys problemau yn rhesymegol. Mae'r cyfaddefiad hwn yn gwbl syfrdanol. Mae ein hysgolion i fod i baratoi pobl ifanc ar gyfer busnes, entrepreneuriaeth, gwyddoniaeth ac ymchwil o'r safon uchaf, ond nid oes gan y mwyafrif ohonynt, yn ôl Estyn, yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, sgiliau rhesymu a datrys problemau cadarn, na chrap ar resymeg. Os mai dyma yw canlyniad polisi clymblaid flaengar, mae'n rhaid i gyhoedd Cymru feddwl tybed beth y mae Llywodraeth Cymru, trwy ei chwricwlwm, yn cyfarwyddo athrawon a myfyrwyr i dreulio eu hamser yn ei wneud. Mae'r adroddiadau yn sôn am amser yn cael ei dreulio ar eco-bwyllgorau—

(Cyfieithwyd)

Member of the Senedd:

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Na wnaf. [Yn parhau]—cynghorau disgyblion, datrys gwrthdaro, gweithgareddau cymunedol a chodi arian i elusennau a phethau o’r fath, ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau rhesymu, datrys problemau, a rhesymeg drwy bynciau traddodiadol.

Yn ail, rwyf eisiau siarad am gadw athrawon, ac effaith hyn ar y meysydd y mae Estyn yn eu monitro. Mae Estyn yn sôn am ddatblygu'r proffesiwn. Mae'n amlinellu datblygu'r diwylliant cywir, perthynas gefnogol, ymgysylltu â thystiolaeth ymchwil, defnyddio data a thechnoleg newydd, ac arweinyddiaeth. Mae’n pwysleisio bod sefydliadau elusennol na chawsant eu hethol—a dywedaf eto, na chawsant eu hethol—y trydydd sector megis y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, Ymddiriedolaeth Sutton, The Education Endowment Foundation, a’r Joseph Rowntree Foundation, yn chwarae rhyw ran mewn casglu tystiolaeth i effeithio ar y diweddariadau hyn. Ni ddylai’r pynciau hyn, ni waeth pa mor dda eu bwriad, guddio neu fod yn fwy o flaenoriaeth na chadw athrawon. Nid yw mor syml â chymryd unigolyn sydd newydd raddio a lawrlwytho’r diweddariadau a’r ymchwil diweddaraf, mwyaf gwleidyddol gywir i mewn iddynt. Mae addysgu yn rhywbeth sy'n datblygu gydag ymarfer a phrofiad. Mae athrawon profiadol yn ased hanfodol i ysgolion Cymru, ond mae ysgolion Cymru yn eu colli’n gyflym. Dywed StatsCymru wrthym bod ysgolion Cymru wedi colli 334 o athrawon â chwe blynedd neu fwy o brofiad yn y flwyddyn 2014-15 yn unig. Mae'r ystadegau yn cyflwyno ffigurau tebyg ar gyfer pob blwyddyn academaidd o 2007 i 2015. Pam nad yw athrawon profiadol yn cael eu cadw? A yw’n bosibl mai’r holl amser a dreulir ar ddiweddariadau, hyfforddiant, monitro data, a phethau o’r fath, yn hytrach nag addysgu ymarferol, wyneb yn wyneb, yw’r rheswm mewn gwirionedd pam y maen nhw’n cael eu dadrithio ac yn gadael? Mae UKIP yn pwysleisio bod athrawon yn cyflawni orau pan eu bod yn cael cymaint o brofiad â phosibl drwy addysgu wyneb yn wyneb. Rydym ni hefyd yn pwysleisio mai cadw’r athrawon hynny yw’r ffordd ymlaen.

Yn drydydd, hoffwn siarad am yr ysgolion yng Nghymru sydd wedi methu, yn benodol, disgyblion NEET—y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae Estyn yn dweud, ar ddiwedd 2015, bod ychydig dros 10 y cant o bobl 16 i 18 mlwydd oed yn y categori NEET—mae hyn yn 11,500 o bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n adrodd yn 2015 bod 19 y cant o'r grŵp oedran 19 i 24 oed yn y categori NEET—sef 42,200 o bobl ifanc.

Nid pa un a yw’r ystadegau hyn yn rhyw fath o welliant ar flynyddoedd blaenorol ai peidio yw’r pwynt. Mae'r ffigurau hyn yn llawer, llawer, llawer rhy uchel. Maen nhw unwaith eto yn dystiolaeth bod y clymbleidiau blaengar sydd wedi rheoli addysg cyhyd yn siomi niferoedd mawr o bobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru drwy beidio â rhoi'r sgiliau iddynt fyw bywyd cyflawn a chynhyrchiol.

I gloi, hoffwn i am y tro olaf fyfyrio ar bartïon clymblaid Cymru sy'n gyfrifol am addysg. Maen nhw’n hoffi disgrifio eu hunain fel blaengar neu’r chwith blaengar, ond nid yw ysgolion Cymru wedi symud ymlaen, o leiaf nid yn y meysydd yr wyf i wedi tynnu sylw atynt. Ni allaf ond dyfalu mai cyfrinair yw 'blaengar' ar gyfer dinistrio’r holl arfer gorau, rhesymeg a phrofiad blaenorol yn llwyr, a rhoi diweddariadau a hyfforddiant gwleidyddol gywir yn eu lle gan sefydliadau ac elusennau arbenigol trydydd sector na chawsant eu hethol. Diolch.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:51, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Hyd at ryw 10 mlynedd yn ôl, roeddwn i'n arfer cael fy nhalu i sefyll ar y stryd a stopio pobl a gofyn eu barn ar faterion y dydd. Byddai rhai pobl yn stopio, byddai rhai yn gweiddi sarhad. Yn wir, wrth feddwl am y peth, nid yw fy mywyd wedi newid cymaint â hynny o gwbl. Rwy'n eithaf ffyddiog, pe byddwn i’n gofyn barn pobl ar y stryd heddiw ac yn gofyn am beth yr oedden nhw’n pryderu fwyaf, yr adroddiad PISA neu'r adroddiad Estyn, y bydden nhw’n edrych yn syn arnaf. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn poeni’n ormodol am y pethau hyn, ond mae ganddyn nhw farn ar eu hysgol leol, ac mae fel arfer yn farn gadarnhaol.

Wrth gwrs, i’r rhan fwyaf o bobl, mae ysgolion yn ymwneud â llawer mwy na data; maen nhw’n ganolbwynt ar gyfer eu cymunedau. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, treuliais 10 mlynedd fel llywodraethwr ysgol gynradd, a saith ohonyn nhw fel cadeirydd gweithredol ysgol lwyddiannus, ysgol lle nad oedd y tîm arwain yn cymryd amddifadedd eu cymuned fel esgus dros berfformiad ond yn hytrach fel sbardun ar gyfer rhagoriaeth. Un o'r pethau a ddysgais oedd gwerth data wedi eu defnyddio'n briodol i gyfeirio dysgu ac addysgu er mwyn ceisio sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni ei botensial.

Pe byddwn i’n cael fy stopio yn rhan o ymarfer gofyn barn y bobl, byddwn i’n dweud fy mod i’n pryderu llawer mwy am adroddiad Estyn nag yr wyf i am rancio PISA. Nid wyf i’n diystyru pwysigrwydd PISA; rwy'n credu ei fod yn iawn ein bod ni’n cymryd sylw ohono. Ond, yn fy marn i, mae adroddiad blynyddol y prif arolygydd ysgolion yn cynnwys casgliadau sy’n peri llawer mwy o bryder am berfformiad ein hysgolion o ddydd i ddydd. Y materion hyn sy'n penderfynu pa un a allwn ni greu system ysgolion llwyddiannus, sef, yn y pen draw, yr hyn y mae PISA yn ei fesur.

Rwyf eisiau canolbwyntio ar rai o’r pwyntiau o'r adroddiad am ysgolion sydd yn amlwg iawn i mi. Yn amlwg, mae gennym ni broblem o ran ansawdd yr addysgu. Mae Estyn yn ystyried bod addysgu yn un o'r agweddau gwannaf ar y system addysg. Dylem ni fod yn glir: mae addysgu o safon byd-eang yn digwydd yn ysgolion Cymru—safon byd-eang—ond mae llawer gormod o amrywiaeth; mae’r bwlch rhwng darparwyr sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn dal i fod yn rhy fawr, meddai’r prif arolygydd ysgolion yn ei adroddiad blynyddol. Ac, fel y noda'r adroddiad, bydd diwygiadau cwricwlwm Donaldson yn mynnu rhagor gan ein hathrawon, yn enwedig ym maes dysgu digidol, maes y mae'r adroddiad yn dweud wrthym mai dim ond 'ychydig iawn o ysgolion' sy’n rhagori a bod llawer yn methu yn llwyr â rhoi’r sgiliau hyn i bobl ifanc, sy’n hanfodol ar gyfer y byd cyfoes.

Yn ogystal â mynd i'r afael â recriwtio a hyfforddiant cychwynnol i athrawon, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae Estyn yn dadlau bod angen i ni fynd i'r afael â dysgu a datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon presennol, maes yr ydym wedi ei esgeuluso—a, byddwn i’n ychwanegu, nid dim ond ar gyfer athrawon. Mae bron iawn i hanner ein staff ysgol yn gweithio mewn swyddi cymorth. Maen nhw’n hollbwysig i lwyddiant ein system addysg, ond nid ydym yn eu gwerthfawrogi, nid ydym yn eu hyfforddi yn dda, ac nid ydym yn eu talu yn ddigon da.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dechrau gweithio ar wella arweinyddiaeth yn ein hysgolion, ac rwy’n cefnogi hynny'n fawr. Mae bod yn bennaeth yn swydd hynod heriol. Gallwch chi weld un gwych filltir i ffwrdd, ac rwy’n rhyfeddu atynt. Rwyf i bob amser yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o sgiliau sydd eu hangen i fod yn bennaeth rhagorol, yn feistr ar bopeth o'r plymio i addysgeg. Mae’r goreuon, fel y canfu Estyn, yn gwybod cryfderau a gwendidau yr addysgu yn eu sefydliadau. Ond, ymhlith darparwyr lle ceir diffygion yn yr addysgu, dywed Estyn, nid oes syniad clir gan arweinyddion o’r hyn sydd angen ei wella, ac yn aml mae adroddiadau hunanwerthuso yn brin o fanylion ynglŷn â’r addysgu.’

Arweinyddiaeth yw'r allwedd i fynd i'r afael â'r diffygion hyn. Mae’n bryder mawr i mi bod 23 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd, heb bennaeth parhaol. Rwyf i wedi fy nghalonogi bod saith o bob 10 ysgol gynradd a arolygwyd eleni yn dda neu'n well, sydd ychydig yn well na'r llynedd, ond mae’n peri pryder mawr mai dim ond pedair o bob deg o'n hysgolion uwchradd y bernir eu bod yn dda neu’n well—yr un fath â’r llynedd—a dim ond chwarter â rhywfaint o ragoriaeth, i lawr o 38 y cant y llynedd.

Nawr, yn yr un modd ag y dylem ni ddathlu rhagoriaeth, ni ddylem oddef cyffredinedd—mae pob un ohonom yn gwybod pan fyddwn yn gweld hynny, hefyd, ond nid yw'r system yn tynnu sylw ato. Nid yw llywodraethwyr yn herio’n ddigonol ac mae penaethiaid gweddol yn aml yn amgylchynu eu hunain â llywodraethwyr gweddol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu herio. Nid yw awdurdodau addysg lleol yn gwneud digon i fynd i’r afael â phenaethiaid sy’n tanberfformio. Un o fy siomedigaethau o ran diweddu’r prosiect Her Ysgolion Cymru yw ei fod yn dod i ben cyn bod rhai o'r diffygion arweinyddiaeth yn cael eu datrys yn llawn yn ein hysgolion sy’n perfformio waethaf.

Roeddwn i’n bryderus iawn o glywed y prif arolygydd ysgolion yn dweud wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus rai misoedd yn ôl nad oedd yn bwriadu arolygu awdurdodau addysg lleol yn y cylch arolygu nesaf, ond y byddai, yn hytrach, yn canolbwyntio ar y consortia rhanbarthol. Yn amlwg, mae ganddynt rywfaint o waith egluro o ran yr amrywiaeth mewn perfformiad ar draws ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ond byddwn i’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fyfyrio ar ba un a allwn ni fforddio tynnu ein sylw oddi ar awdurdodau addysg lleol.

Does bosib nad gwers yr 20 mlynedd diwethaf o ddatganoli’r polisi addysg yw y gallwn ni arloesi ac y gallwn ni gyflawni rhagoriaeth, ond dim ond wrth fod yn gwbl onest â ni ein hunain am sut y mae'r system gyfan yn perfformio. Mae adroddiad blynyddol Estyn eleni yn amhrisiadwy i’n hatgoffa na allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:56, 7 Mawrth 2017

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ymateb i’r ddadl—Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau i’r ddadl y prynhawn yma, sydd, ar y cyfan, wedi bod yn hynod o gadarnhaol a chefnogol ac sy’n ychwanegu at y ddadl ar sut y gallwn ni fwrw ymlaen â’n taith diwygio addysg? Os caf ddechrau trwy fynd i'r afael â rhai o'r materion yn ymwneud â'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi gwelliant 3 a gwelliant 4.

Gan ddechrau gyda gwelliant Plaid Cymru, rwy’n derbyn yn llwyr, Llyr, fod angen gwella o ran unedau cyfeirio disgyblion. Roeddwn i'n poeni amdanyn nhw pan oeddwn i’n eistedd draw yn y fan yna ac rwy’n parhau i boeni amdanyn nhw nawr fy mod i’n eistedd yn y fan yma, ac rwy'n hapus iawn i dderbyn y gwelliant hwnnw. Fel y dywedasoch, Llyr, ni nodwyd bod gan yr un o'r pedair uned a arolygwyd eleni arferion rhagorol, a gosodwyd pob un o’r pedair yn y categori statudol 'gwaith dilynol', ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae'n rhaid i ni gael nod uwch ar gyfer y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed hyn.

Un o gryfderau mwyaf ein system addysg heblaw yn yr ysgol—EOTAS—yw’r gallu i ddarparu cymorth pwrpasol ac unigryw i fodloni anghenion annodweddiadol ei dysgwyr heriol. Er ein bod yn cydnabod bod angen diwygio yn y sector, rwyf hefyd yn awyddus iawn i gynnal cymaint o hyblygrwydd ag y bo modd. Gwyddom fod arferion da yn bodoli mewn UCDau. Yr her yw prif ffrydio’r arferion da hynny fel bod yr holl bobl ifanc sy'n defnyddio'r ddarpariaeth yn cael safon uchel o addysg, gan eu galluogi i gyrraedd eu llawn botensial.

Fel y cyfeiriodd Llyr, Lywydd, sefydlodd Llywodraeth Cymru y grŵp gorchwyl a gorffen EOTAS yn 2015 gyda'r bwriad o ddatblygu mesurau ymarferol gyda'r nod o wella deilliannau ar gyfer dysgwyr sy'n defnyddio'r ddarpariaeth. Mae'r grŵp yn dal i fod wrthi’n cwblhau ei fframwaith ar gyfer gweithredu, yr wyf yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno i mi ei ystyried yn ddiweddarach eleni, ac yna byddaf yn rhoi gwybod i'r Siambr sut yr ydym ni’n bwriadu gweithredu'r fframwaith ar gyfer gweithredu ac ysgogi newid yn y maes hwnnw.

Os caf droi at y gwelliant gan y Ceidwadwyr, byddwn ni hefyd yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr ar arweinyddiaeth. Bydd y Siambr hon yn ymwybodol bod hybu a chefnogi arweinyddiaeth yn ganolog i’m hagenda ddiwygio. Fel yr amlinellwyd yn y lle cyntaf, byddwn yn gobeithio cael pobl i ymuno â’r system newydd cyn gynted â phosibl. Dylwn ddatgan yn glir nad yr academi ei hun fydd y darparwr gwasanaethau—hi fydd y brocer, gan gydgysylltu gwasanaethau, a sicrhau ansawdd yr amrywiaeth o raglenni arweinyddiaeth a fydd ar gael.

Er y byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant, byddaf, wrth gwrs, yn ailadrodd bod pethau’n cymryd amser, ond mae angen i ni weithredu’n gyflymach. Er fy mod wedi nodi rhai o'r egwyddorion cyffredinol ar gyfer y sefydliad newydd, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y bwrdd cysgodol ar ddatblygiad yr egwyddorion sylfaenol cyffredinol. I ddechrau, bydd y bwrdd cysgodol yn ystyried arweinyddiaeth gan benaethiaid, sy'n cysylltu â’r pwynt a wnaed mor huawdl gan Lee Waters: mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ansawdd yr arweinyddion sydd gennym yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried y rhan y gall yr academi ei chwarae wrth gefnogi darpar benaethiaid, y genhedlaeth nesaf o arweinyddion ein hysgolion.

Ond, yn y tymor hwy, rwyf eisiau i’r academi gynnwys datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y sector addysg cyfan. Gwnaeth Darren Millar bwynt da iawn, iawn am arweinyddiaeth AB: unwaith eto, mae ansawdd AB yn disgleirio yn adroddiad yr arolygydd, a hoffwn longyfarch David Jones ar ei wobr ddiweddar. Mae'r rhaglen arweinyddiaeth AB wedi bod ar waith ers nifer o flynyddoedd. Mae gennym ni hefyd raglen arweinyddiaeth debyg ar waith ar gyfer AU—sydd wedi bod ar gael am nifer o flynyddoedd, ac yn amlwg mae yna wersi i ni eu dysgu oddi wrth y sector AB a'r sector AU wrth ddatblygu'r rhaglen arweinyddiaeth ar gyfer ein hysgolion. Mae'n drueni nad ydym wedi cael rhaglen debyg, ond mae'n rhaid i ni ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio mor dda o ran AB ac AU, a throsglwyddo’r syniadau hynny i gael yr effaith yr ydym yn dymuno ei chael. Felly, mae datblygu’r academi arweinyddiaeth yn gam pwysig ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon a'n gwaith diwygio i addysg gychwynnol athrawon wrth ddatblygu a mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â safonau addysgu anghyson sydd wedi’u hamlygu yma.

Y pwyntiau eraill a wnaethpwyd, Darren—rwy’n falch eich bod yn cydnabod amrywiaeth a chwmpas gwaith Estyn; nid yw’n ymwneud ag ysgolion yn unig. Rwy'n pryderu llai ynghylch pwy sy'n gosod y safonau addysgu nag yr ydw i am eu deilliannau. Rwy'n siŵr y bydd y ddau ohonom ni’n hapus iawn os byddwn ni’n gweld gwelliant mewn ansawdd yn yr adroddiadau blynyddol ar addysgu yn y dyfodol, o ganlyniad i'r safonau addysgu newydd.

Rydym yn gweithio ar fersiwn newydd o 'Cymwys am Oes', a fydd yn cynnwys yr eglurder o ran ein cenhadaeth genedlaethol o wella addysg, fel yr awgrymwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac rydym yn archwilio amrywiaeth o ffyrdd newydd i ddenu pobl sydd wedi treulio rhan o’u gyrfa mewn proffesiwn gwahanol, i ddod i'r proffesiwn addysgu, oherwydd y gallent ddod â chyfoeth o brofiad yn eu sgil. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn edrych ar bobl sydd wedi gweithio yn y diwydiant, yn y gwyddorau, a dod â nhw i’n hysgolion. [Torri ar draws.] Yn sicr.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:01, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych chi’n cytuno â mi felly, bod yn rhaid i ni hefyd ystyried y system bwrsariaethau, er mwyn defnyddio hynny efallai i ddenu pobl, yn enwedig yn y meysydd hynny y cyfeiriasoch chi atyn nhw lle y ceir prinder?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:02, 7 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ydw, ac rwy’n credu bod yn rhaid i ni fod yn greadigol. Mae'n rhaid i ni gydnabod bod system Lloegr yn rhagori ar ein system ni ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni fod yn greadigol yn yr hyn y gallwn ei gynnig i bobl. Nid yw'n ymwneud ag arian bob amser. Nid yw pobl yn hyfforddi i fod yn athrawon er mwyn gwneud llawer iawn o arian, felly mae'n rhaid i ni fod yn greadigol o ran sut y gallwn ni ddefnyddio ein system fwrsariaeth i ddenu pobl yma.

Y rhai mwy abl a thalentog—mae’n destun pryder mawr i mi. Rydym yn cydnabod adroddiad Nesta ynglŷn â’n plant mwy abl a thalentog yn y sector cynradd, nad ydyn nhw’n gwneud cymaint o gynnydd ag y byddem ni’n hoffi ei weld, ac yna rydym yn gweld hynny wrth iddo barhau drwy'r system. Byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi cynlluniau newydd yn ddiweddar mewn cysylltiad â fframwaith rhagoriaeth ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth, er mwyn ceisio codi safonau—mae'n canolbwyntio'n bennaf ar wella profiad addysgu y mae pobl yn ei gael yn yr ystafell ddosbarth.

Llyr, rydych chi’n hollol iawn; ein hysgolion mwyaf llwyddiannus yw’r ysgolion hynny sy'n edrych tuag at allan. Maen nhw’n ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas, maen nhw’n ystyried ac yn cydnabod arferion gorau, maen nhw’n myfyrio ar waith ymchwil, yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer plant, ac maen nhw’n gweithredu hynny ac yn ei wneud yn eu hymarfer unigol eu hunain. Mae ein hymrwymiad i ddysgu proffesiynol yn ymwneud yn llwyr â hynny. Dyna pam yr ydym ni’n newid y ffordd yr ydym ni’n mynd i hyfforddi ein hathrawon, a'r cyfleoedd dysgu proffesiynol y bydd gennym ar gyfer athrawon presennol. Soniasoch am y bylchau sy'n bodoli rhwng y gwahanol garfannau o ddisgyblion. Yr hyn sydd wirioneddol yn braf yw bod arolygiad Estyn yn nodi bod y bwlch rhwng bechgyn a merched, a'r bwlch rhwng y rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim a'r rhai sy'n well eu byd, yn cau yn y sector cynradd. Felly, rydym ni’n gwneud rhywbeth yn iawn yn y sector cynradd, ond bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny'n parhau. Ond gadewch i ni fod yn glir; rydym ni wedi gweld y bwlch yn cau gan 4 y cant ar lefel 2 ac uwch ar gyfer plant sy’n gwneud eu TGAU, dros gyfnod o 3 blynedd. Mae hynny oherwydd gwaith caled ysgolion a sefydliadau unigol, a gefnogir gan grant amddifadedd disgyblion hael, sy'n ysgogi rhywfaint o’r newid hwnnw.

John, ynglŷn â’ch ymrwymiad i ysgolion bro, rwy’n credu bod gan ysgolion y potensial i ysgogi newid gwirioneddol ar gyfer eu cymuned gyfan, ac mae gennym eisoes rai enghreifftiau gwirioneddol wych o hynny yng Nghymru, ac mae angen inni sicrhau y gellir addasu’r egwyddorion hynny. Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda fy nghydweithiwr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r rhaglenni y mae’r ddau ohonom yn gyfrifol amdanynt ac ysgolion fel canolbwynt i ysgogi’r newid hwnnw. Mae ymgysylltu â’r teulu yn gwbl hanfodol. Yn ddiweddar, cawsom gyflwyniad gan Joe Cudd. Mae e'n gweithio yn y Morfa, yn Llanelli, fy nhref enedigol. Mae'r rhai hynny ohonoch sy’n gyfarwydd â’r ardal yn gwybod ei fod yn lle eithaf anodd i dyfu i fyny ynddo. Mae yna rai pethau eithaf annymunol yn digwydd heb fod ymhell iawn o giatiau ei ysgol. Ond mae’r dyn hwnnw—mae’r dyn hwnnw yn hollol wych. Mae'n gweld ei ysgol, a'i ymrwymiad i’w blant, yn mynd y tu hwnt i’r plant unigol hynny. Mae'n gweithio'n galed iawn gyda mamau a thadau i fynd i'r afael â'r amgylchedd dysgu sydd gan blant gartref a mynd i'r afael â’r rhwystrau sy’n atal plant rhag dysgu yn y cartref. Mae'n gwahodd mamau i’r ysgol ac maen nhw wedyn yn mynd ymlaen i gwblhau cymwysterau pellach eu hunain ac yn mynd allan i weithio eu hunain—ac yn gwneud gwaith anhygoel. Mae hynny’n digwydd yn y Morfa. Mae'n digwydd yn ysgol gynradd Woodlands yng Nghwmbrân; eto, rhyngweithio anhygoel gyda'r teulu sy'n arwain at ganlyniadau gwirioneddol i'r plant hynny. Felly, mae'n rhaid i ni weithio'n llawer caletach i roi neges gyson gan Lywodraeth Cymru ar sut y gall ysgolion fod yn ganolbwynt ar gyfer newid gwirioneddol, nid dim ond ar gyfer plant unigol, ond cymunedau cyfan. Mae Joe Cudd yn mynd i gynhadledd yn America y flwyddyn nesaf i siarad am ei waith yn y Morfa. Pa mor wych yw hynny? Mae’r hyn mae’n ei wneud wedi creu cymaint o argraff arnyn nhw fel eu bod nhw eisiau clywed am ysgol fach iawn yn Llanelli draw yno yn yr Unol Daleithiau a dylem ni ganmol pobl fel Joe a’r hyn yr ydym ni’n ei wneud. Ond wyddoch chi, bydd gennym ni glybiau bwyd a hwyl yn defnyddio ysgolion yn ystod haf eleni i ddarparu’r cyfleoedd hynny.

A gaf i ddweud, Michelle—? Efallai nad ydych chi’n credu bod y gostyngiad yr ydym ni wedi’i weld yn nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn un sylweddol, ond rwy'n dweud wrthych chi, i bob un o'r plant hynny, mae hwnnw'n welliant aruthrol. Yn ddiweddar, roedd Dawn a minnau yng ngholeg Merthyr, sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y plant nad ydyn nhw’n mynd ymlaen i astudio ôl-16. Mae'n wych ac mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r plant hynny. Wn i ddim amdanoch chi—efallai eich bod chi’n credu bod Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Sutton a phobl felly â’r bwriad o wneud pethau da, ond rwy’n eu hystyried yn gymhorthion hanfodol wrth ysgogi’r newid yn ein system, oherwydd nid pedlera’r peth diweddaraf y maen nhw’n ei wneud; yr hyn y maen nhw’n ei wneud yw pedlera tystiolaeth—tystiolaeth am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sy'n gwneud gwahaniaeth i blant. Byddaf yn cael fy ysgogi a byddaf yn dilyn y dystiolaeth honno ac rwy’n credu bod angen i chi fyfyrio ar yr hyn a ddywedasoch am y sefydliadau uchel eu parch hynny yn y Siambr hon heddiw.

I gloi, Lywydd, rwy’n falch iawn, wrth gwrs, fod Estyn o’r farn bod llawer o'n hysgolion yn gwneud defnydd da o ymchwil ac yn manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddylanwadu ar eu gwaith gyda'r dysgwyr mwyaf difreintiedig. Mae llawer i'w wneud yn y system addysg yng Nghymru ac ni fyddaf yn gorffwys a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr bod pob un o'n plant—pob un o'n plant—yn cael y cyfleoedd y maen nhw’n eu haeddu.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:07, 7 Mawrth 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.]

Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.