1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 29 Mawrth 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Llywydd. A allai Ysgrifennydd y Cabinet esbonio’r penderfyniad i beidio â thrydaneiddio rheilffordd Glynebwy?
Wrth symud ymlaen gyda masnachfraint y metro, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar reilffordd Glynebwy. Ar hyn o bryd, Network Rail sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, ac rydym wedi mynegi ein siom dro ar ôl tro ein bod ond wedi cael 1 y cant o’r buddsoddiad yn ystod y cyfnod rheoli presennol, er bod 6 y cant o’r rheilffyrdd yn ardal masnachfraint Cymru a’r gororau.
Credaf y dylid nodi ein bod ni, fel Llywodraeth Cymru, wedi gwario mwy yn y cyfnod presennol ar y seilwaith rheilffyrdd na’r rhai sy’n gyfrifol amdano.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond onid yw’n cytuno bod rhanbarth Dwyrain De Cymru yn ei chael hi’n wael o ran gwelliannau i’r seilwaith o dan y prosiect metro, o gymharu â rhannau eraill o Gymru?
Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, credaf ei bod yn hanfodol, fel rhan o’n hymagwedd newydd—ac unwaith eto, yn fy araith yr wythnos diwethaf, nodais sut y byddaf yn ailstrwythuro fy adran—ein bod yn rhoi mwy o sylw i’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd wedi gwneud yn wael mewn cyfnod o dwf economaidd. Holodd yr Aelod ynglŷn â seilwaith, a chysylltedd yn benodol. Credaf fod hynny’n gwbl hanfodol, ac roedd datblygu estyniad £11.5 miliwn i’r rheilffordd rhwng Parcffordd Glynebwy a safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy, a gwblhawyd ym mis Mai 2015 gan ddarparu mynediad rheilffordd uniongyrchol i’r ardal fenter, yn enghraifft wych o sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau a’i dulliau’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o dwf economaidd.
Rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar yr estyniad hwnnw i mewn i Lynebwy. Mae’n sicr yn arloesol iawn ac mae’n wych gweld rheilffyrdd yn cael eu gosod unwaith eto.
Dywed Trenau Arriva Cymru wrthym nad ydynt yn gallu cynnig gwasanaeth i mewn i Gasnewydd gan fod y capasiti’n llawn ar gyfer y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd. ‘Does bosib na all trydaneiddio, a’r gwasanaeth gwell y mae hyn ei addo, helpu i hwyluso gweithrediad y rheilffordd i mewn i Gasnewydd, sy’n gyswllt y mae ei angen yn daer.
Wrth gwrs, mae trydaneiddio’r brif reilffordd a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn llawer i’w ofyn, ac rydym wedi gwneud hynny dro ar ôl tro. O ran capasiti, nid oes unrhyw amheuaeth y gallai trydaneiddio fod o gymorth o ran gallu rhedeg mwy o gerbydau yn fwy rheolaidd, ond i’r un graddau, mae angen mwy o gerbydau ar y seilwaith rheilffyrdd presennol. Rwyf wedi siarad gyda Trenau Arriva Cymru a gweithredwyr eraill ynglŷn â’r broblem gapasiti sy’n effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd Prydain. Gobeithiaf y bydd Trenau Arriva Cymru mewn sefyllfa, o fewn y dyddiau nesaf, i allu gwneud cyhoeddiad ynglŷn â rheilffyrdd y Cymoedd.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cefais y cyfle i ymweld â Gweriniaeth Iwerddon gyda fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, i gyfarfod â swyddogion, llunwyr polisi a gwleidyddion o Lywodraeth Iwerddon i drafod effaith y DU yn gadael yr UE ar Iwerddon a Chymru. Mae’n deg dweud eu bod yn teimlo mor anesmwyth â ninnau. Ond fel yn achos argyfwng economaidd 2008, mae ganddynt offeryn at eu defnydd nad oes gennym ni—annibyniaeth—ac nid wyf yn golygu gwladwriaeth annibynnol yn unig, ond llu o gyrff gweithredol pwerus, a sefydlwyd gan y wladwriaeth, ac sy’n annibynnol o beiriant canolog y Llywodraeth, ond sy’n gweithio’n agos gyda hwy i lywio’r strategaeth economaidd: yr IDA, asiantaeth mewnfuddsoddi Iwerddon; y corff datblygu busnes, Enterprise Ireland; a Bord Bia, bwrdd bwyd Iwerddon, i enwi ond rhai ohonynt.
Nawr, mae’r model hwn wedi darparu cryn elw i Iwerddon, fel y gwyddom—mae eu cynnyrch domestig gros y pen wedi mwy na threblu ers y 1980au, wrth i ninnau, yn anffodus, sefyll yn ein hunfan mewn cymhariaeth. Felly, a gaf fi ymbil ar Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, yng nghyd-destun ei adolygiad presennol o fyrddau cynghori economaidd Llywodraeth Cymru, i ystyried yr achos dros gael asiantaeth annibynnol hyd braich i Gymru ar gyfer hyrwyddo masnach a buddsoddi? Mae gan y Weriniaeth un, a Gogledd Iwerddon hefyd; yn ogystal â’r Alban, a Lloegr drwy Masnach a Buddsoddi y DU. Mae gan Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel un, hyd yn oed. A allwn fforddio gadael Cymru i wynebu’r storm hon yn noeth?
Credaf fod sawl pwynt i’w gwneud. Yn gyntaf, mae economi Iwerddon wedi gwneud yn dda yn rhannol am fod cymaint o boblogaeth Iwerddon yn byw mewn dinas, a gwyddom fod dinasoedd wedi tyfu’n gyflymach nag ardaloedd gwledig o ran yr economi. Felly, mae’n anodd cymharu gwlad lle y mae cyfran fawr o’r boblogaeth yn byw mewn ardal drefol sydd wedi tyfu’n gyflymach oherwydd ei natur drefol, a Chymru, lle’r ydym yn wlad lawer mwy gwledig. Wedi dweud hynny, gellir dysgu gwersi yn sicr, nid yn unig gan Iwerddon, ond gan wledydd eraill hefyd, ac fel ein marchnad allforio fwyaf ond tair, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i ymgysylltu ag Iwerddon.
Efallai fod yr Aelod wedi gweld fy nghynigion yn fy araith yr wythnos diwethaf i greu unedau economaidd rhanbarthol a fydd yn gallu ysgogi twf economaidd a hybu gweithgareddau economaidd yn eu hardaloedd. Credaf fod hwn yn gyfle gwych, gan fod y strwythurau hynny eisoes yn dod i’r amlwg ar sail ranbarthol, gyda’r dinas-ranbarthau a rhanbarth y cytundeb twf, i sicrhau nad oes cystadleuaeth, nad oes dyblygu, ond yn hytrach, fod yna ymagwedd gyson ar lefel llywodraeth leol, ar lefel busnes, ac ar lefel Llywodraeth Cymru hefyd.
Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei ddweud, mae Iwerddon yn farchnad allforio hollbwysig yn strategol i economi Cymru, ac yn werth dros £800 miliwn y flwyddyn. Nawr, ar yr ochr negyddol, yn ystod ein hymweliad, dywedwyd wrthym fod symudiadau eisoes ar y gweill i ddechrau cyfeirio cludiant nwyddau i dir mawr Ewrop i ffwrdd o borthladdoedd Cymru a thrwy Roscoff. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o hyn, a beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud mewn ymateb? Ar yr ochr gadarnhaol, dywedwyd wrthym fod busnesau Iwerddon yn ystyried buddsoddi yn y DU ac yng Nghymru er mwyn cynyddu eu presenoldeb ym marchnad y DU ar ôl Brexit. Nawr, mae hwn yn gyfle penodol i economi Cymru, gan fod llawer o gwmnïau Gwyddelig sefydledig yma eisoes, megis Dawn Meats yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft. A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw ei swyddogion eisoes wedi llunio rhestr o gwmnïau Gwyddelig sy’n ystyried buddsoddi neu ehangu eu gweithrediadau presennol? Ac yn olaf, o ystyried y berthynas bwysig rhwng ein dwy economi, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried buddsoddi mewn cynrychiolaeth barhaol yn Nulyn, ac annog ei gymheiriaid Gwyddelig i ailagor eu prif gonswl yma yng Nghymru, er mwyn inni allu cryfhau’r bartneriaeth economaidd rhwng ein dwy wlad?
Credaf fod y bartneriaeth rhwng ein dwy wlad hefyd yn ymestyn y tu hwnt i werthoedd economaidd, wrth gwrs. Mae cysylltiadau diwylliannol anhygoel o gryf rhwng Iwerddon a Chymru, a gallant hwythau sicrhau cryn fanteision economaidd yn ogystal. Rwy’n cofio siarad ag Arlywydd Iwerddon rai blynyddoedd yn ôl ynglŷn â sut y gallem ddefnyddio Blwyddyn y Môr, o bosibl, i greu pont ddiwylliannol, nid yn unig er mwyn hyrwyddo ein diwylliannau, ond hefyd i annog ymwelwyr i ac o Iwerddon a Chymru. Credaf fod cyfleoedd enfawr o bosibl—y gellir eu sicrhau er ein bod yn gadael yr UE—i dyfu a datblygu ein heconomïau, sy’n aml yn seiliedig ar ddiddordebau cyffredin. Credaf fod cyfleoedd i fuddsoddwyr o Iwerddon fuddsoddi ymhellach yng Nghymru, yn arbennig mewn meysydd gweithgaredd economaidd o ansawdd uwch ac o werth ychwanegol gros uwch—er enghraifft, yn y sector gwyddorau bywyd.
O ran porthladdoedd, bydd y gronfa ddatblygu a fydd ar gael i borthladdoedd Cymru yn bwysig, yn ogystal ag ymgysylltu uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, a’r porthladdoedd eu hunain. Yn ddiweddar, bûm yn rhan o drafodaeth banel gyda chynrychiolwyr o borthladdoedd Cymru, ac nid oes amheuaeth, er bod anesmwythder mewn perthynas â Brexit, fod cyfleoedd i’w cael hefyd. Mae angen i ni sicrhau cymaint o’r cyfleoedd hynny â phosibl, a sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i oresgyn y rhwystrau a’r heriau y bydd Brexit yn eu hwynebu. O ran ein gallu i ddenu rhagor o fuddsoddiad tramor uniongyrchol, wrth gwrs, bydd Brexit yn her; rydym yn gwybod hynny. Ond dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld y lefelau uchaf erioed—neu’n agos at y lefelau uchaf erioed—o fuddsoddiad tramor uniongyrchol. Gobeithiwn allu cynnal cryn ddiddordeb ymhlith buddsoddwyr tramor yn economi Cymru, ond rwyf hefyd yn bwriadu rhoi ffocws cliriach ar dwf posibl ein heconomi, yn seiliedig ar fewnfuddsoddiad o Loegr a’r Alban, Gogledd Iwerddon, a hefyd, wrth gwrs, twf y cwmnïau sydd gennym eisoes, er mwyn sicrhau y gellir cael gwared ar y peryglon i dwf ac er mwyn iddynt allu gwneud y gorau o’u potensial.
Mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymgysylltu â gwleidyddion Iwerddon. A gaf fi ei annog, mewn trafodaethau pellach, i ddysgu o’r offer a’r tactegau y mae’r Gwyddelod eu hunain wedi eu mabwysiadu? Yn ddiweddar, er enghraifft, mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi strategaeth fasnach ddynodedig. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru strategaeth fasnach benodol. Mae’n nodi dulliau rhanbarthol wedi’u targedu ar gyfer Asia, ar gyfer y dwyrain canol, ac Affrica—sectorau allweddol lle y nodwyd cyfleoedd penodol. Mae’n ddull Llywodraeth gyfan, sydd hefyd yn cynnwys cysylltiadau dwyochrog eraill, gan gynnwys cymorth addysg, diwylliant a datblygu, ac ati.
Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod yr ystadegau allforio mwyaf diweddar yn dangos, er bod gan Gymru ddylanwad cryf o ran gwarged masnach gyda’r UE, fod gennym ddiffyg o £3.7 biliwn gyda gweddill y byd, a bydd honno’n farchnad allweddol, yn amlwg, ar ôl Brexit. Mae arnom angen ymagwedd strategol gan y Llywodraeth, ond mae angen ymdeimlad o frys hefyd. Mae Llywodraeth Iwerddon eisoes, drwy Bord Bia, wedi creu baromedr Brexit i roi cymorth i fusnesau asesu pa mor barod ydynt ar gyfer y bygythiadau a’r cyfleoedd a fydd yn deillio o Brexit. Yn ogystal â chynnig baromedr tebyg ar gyfer busnesau Cymru, efallai y byddai’r Llywodraeth yn awyddus i sefyll y prawf eu hunain, oherwydd, o gymharu â’r Gwyddelod, rwy’n ofni ein bod ar ôl ar hyn o bryd o ran lefel cynllunio a pharodrwydd ar gyfer yr her economaidd fwyaf i neb ohonom ei hwynebu erioed.
Rwy’n cytuno ein bod yn wynebu cryn her, ac yn y dyfodol, ond credaf hefyd fod y bobl gywir gennym yn y Llywodraeth, ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, i sicrhau y down drwy’r hyn a fydd yn gyfnod cythryblus. O ran ein gweithgarwch tramor, credaf mai un o’r camgymeriadau mwyaf a wnaed yn ddiweddar yw colli llawer o weithgarwch tramor Cymru. Wrth gwrs, rydym bellach wedi eu hadfer, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn drawiadol. Erbyn hyn, mae gennym swyddogion mewn tiriogaethau strategol allweddol, mewn dinasoedd strategol allweddol, yn ymgysylltu’n uniongyrchol â darpar fuddsoddwyr, ond hefyd yn sicrhau y gallwn hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau o Gymru i’r marchnadoedd hynny lle y gwyddom y ceir y potensial mwyaf ar gyfer twf. Felly, er enghraifft, boed hynny yn Tsieina—yn Shanghai, Chongqing a Beijing—neu yn yr Unol Daleithiau, drwy Atlanta, San Francisco ac Efrog Newydd, rydym eisoes yn targedu’r tiriogaethau, y rhanbarthau a’r dinasoedd y bydd y twf yn deillio ohonynt. Ond o ran strategaeth fasnach a buddsoddi, mae hyn yn rhan o’r gwaith a wnaed rhwng fy swyddfa a swyddfa’r Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru’n cael ei hyrwyddo’n well dramor, fod brand clir gennym dramor, a’n bod yn cael ein hystyried yn fan lle y gall pobl gael gafael ar nwyddau a gwasanaethau o’r safon uchaf, a lle y mae gennym werthoedd arbennig mewn perthynas â chynaliadwyedd a thegwch ein heconomi.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar adroddiad diweddar Demos, sy’n tynnu sylw at effaith Brexit ar ranbarthau’r DU fel Cymru. Nawr, wrth edrych ar yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, mae sawl pwynt perthnasol yn cael ei nodi, gan gynnwys y potensial i fargeinion dinesig a gweinyddiaethau datganoledig edrych y tu hwnt i’r DU a’r UE er mwyn denu buddsoddiad tramor. Yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu’n helaeth iawn ar allforion i’r UE, wrth gwrs. Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod 67 y cant o’n hallforion yn mynd i’r Gymuned Ewropeaidd, o gymharu â 44 y cant yn unig yn 2012. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau a gymerwyd gennych i sicrhau bod awdurdodau lleol sy’n rhan o’r bargeinion dinesig yn defnyddio eu dylanwad i helpu busnesau Cymru i edrych y tu hwnt i Ewrop a pharatoi ar gyfer marchnadoedd allforio newydd?
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn yn yr ystyr fod gan awdurdodau lleol rôl arwyddocaol yn y gwaith o hybu twf economaidd yn eu hardaloedd. Un o fy mhryderon yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon yw diffyg capasiti ac adnoddau mewn rhai rhannau o Gymru i wneud hynny ar lefel yr awdurdodau lleol, a dyna pam rwy’n cymeradwyo’r dull a fabwysiadir ar lefel ranbarthol, drwy ardaloedd y dinas-ranbarthau a rhanbarthau cytundeb twf, i ddod â’r rhai sy’n llwyddo i sbarduno twf lleol a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd. Nawr, yr hyn a wnaethom yn ne Cymru ac yng ngogledd Cymru—ac rydym yn ystyried gwneud yr un peth yn y canolbarth—yw dod â’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd ar lefel yr awdurdodau lleol, ac estyn allan at yr holl allforwyr posibl ym mhob rhanbarth er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen i fanteisio ar allforion yn y dyfodol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfleoedd buddsoddi, wrth gwrs, yn bodoli y tu hwnt i Ewrop, fel y nodir yn adroddiad Demos, gan gynnwys Tsieina. Nawr, i Tsieina yr aiff 2 y cant o farchnad allforio Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r allforion wedi lleihau 3.5 y cant ers 2013. Diben pennaf y daith fasnach ddiweddar i Tsieina oedd cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau o Gymru, ond ychydig o lwyddiant a gafwyd yn hynny o beth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal pum taith fasnach i Tsieina ers 2012, ond nid yw’r allforion wedi cynyddu’n sylweddol ers yr ymweliadau hynny. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu eich cynlluniau i ailgydbwyso allforion Cymru o blaid marchnadoedd mawr fel Tsieina?
Nid sicrhau rhagor o gyfleoedd allforio oedd unig ddiben y daith fasnach. Roedd yn ymwneud hefyd â sicrhau cyfleoedd buddsoddi, ac yn hynny o beth, roedd y daith yn amlwg yn llwyddiant, oherwydd, yn ystod y daith, sicrheais ddau gytundeb ar gyfer buddsoddi yng Nghymru, gan greu nifer o swyddi. Ond mae’r Aelod yn iawn fod yna gyfleoedd enfawr ar gyfer allforio, yn enwedig, yn fy marn i, yn y sector bwyd a diod yn Tsieina. O ran allforion yn unig, mae’r sector wedi tyfu 95 y cant dros y 10 mlynedd diwethaf, ac o ran newid chwaeth ac agweddau a thueddiadau cwsmeriaid, gwyddom fod Tsieina yn diriogaeth ar gyfer twf.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gronfa £21 miliwn drwy Brosiect Helix i edrych yn fyd-eang ar ble y bydd tueddiadau newydd a newidiol yn arwain at fwy o gyfleoedd ar gyfer y sector bwyd a diod. Mae hyn i’w ganmol. Credaf y bydd yn rhoi cyfle gwych inni dyfu’r sector yn rhyngwladol a chreu mwy o swyddi yma yng Nghymru. Ond o ran Tsieina, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf y bydd y cysylltiadau diwylliannol cryf rydym wedi’u sefydlu dros y degawd diwethaf yn arwain yn awr at fwy o enillion economaidd i Gymru, a dros y blynyddoedd nesaf, byddaf yn canolbwyntio ar hynny. Credaf ein bod wedi gweld cryn dipyn o waith a llawer iawn o lwyddiant o ran datblygu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng rhanbarthau Tsieina a Chymru. Ond yn awr, rwyf am weld y cysylltiadau hynny’n trosi’n rhagor o swyddi, mwy o fuddsoddiad, a mwy o allforion i gwmnïau o Gymru.
Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi sbarduno erthygl 50, byddwn yn dweud, wrth gwrs, fod yn rhaid i Gymru gael strategaeth economaidd ar waith i gefnogi’r hyn sydd yn farchnad economaidd fregus iawn. Felly, beth yw eich cynllun i gefnogi busnesau bach a chanolig, yn benodol, yn ystod y cyfnod hwn? A gaf fi ofyn hefyd pryd y byddwch yn cyhoeddi eich ymateb i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU?
Byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn ystod yr wythnosau nesaf, yn amlinellu fy ymateb i’r cynigion. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Greg Clark yn bersonol a dweud wrtho’r hyn a ddywedais yn gyhoeddus, sef nad oes fawr o ddim i anghytuno yn ei gylch yn y strategaeth. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn rhai meysydd o’r strategaeth, yn enwedig y meysydd lle y gallem weld adnoddau ychwanegol yn dod i Gymru drwy gyllid ymchwil a datblygu ac arloesi, yn ogystal â thrwy gytundebau sector-benodol posibl. Y quid pro quo yw y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu manylion y strategaeth ddiwydiannol, ac ar sail y trafodaethau a gefais gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, rwy’n hyderus y gallwn weithio’n agos gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, nid yn unig er budd economi Cymru, ond economi Prydain gyfan.