– Senedd Cymru am 4:06 pm ar 4 Ebrill 2017.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ‘Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)—Blwyddyn yn Ddiweddarach'. A galwaf ar Rebecca Evans, fel Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca.
Diolch. Bu blwyddyn erbyn hyn ers i’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 nodedig ddod i rym, ac rydym ni’n gweld y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad yn cael ei weddnewid i ddiwallu anghenion yr unigolyn. Mae gan bobl lais cryfach o ran gwella eu llesiant ac o ran penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i fyw’n annibynnol. Mae gofal yn cael ei gydgysylltu gyda'r unigolyn fel canolbwynt, gan gydnabod mai nhw, a'u teuluoedd, sydd â’r ymwybyddiaeth orau o’r sefyllfa; maen nhw’n ei byw bob dydd.
Mae'r Ddeddf wedi cynnig y cyfle i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i bobl ac i drefnu’r cymorth sydd ei angen trwy drafodaethau go iawn sy'n adeiladu ar sgiliau, cryfderau a galluoedd yr unigolyn. Roedd y Ddeddf yn benllanw blynyddoedd lawer o waith caled, ar y cyd ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn 2011, 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu'.
Amlygodd y Papur Gwyn nifer o heriau a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio a mwy o alw am wasanaethau, yn ogystal ag ystyried y realiti economaidd anodd parhaus. Nododd weledigaeth newydd ar gyfer y sector, a oedd yn cynnig y canlyniadau gorau posibl i’r rhai sydd angen gofal a chymorth, gan wneud gwasanaethau cymdeithasol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol hefyd.
O'r cychwyn cyntaf, datblygwyd a chyflwynwyd y Ddeddf mewn gwir bartneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector, darparwyr gofal, a'r gwasanaeth iechyd. Mae ei chyflwyno yn cryfhau’r integreiddio hwn ymhellach.
Mae saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn arwain y newid i wasanaethau erbyn hyn, gan gynnal asesiadau poblogaeth ardaloedd eu hunain er mwyn eu galluogi i gynllunio atebion wedi'u teilwra yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o'r hyn y mae'r bobl yn y rhanbarth hwnnw ei eisiau a'i angen. Yn ogystal â chynrychiolaeth amlasiantaeth, mae llais y dinesydd yn gynyddol bresennol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod atebion yn cael eu cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan bawb dan sylw.
Bydd yr asesiadau poblogaeth yn nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau ataliol sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion gofal a chymorth gwahanol ardaloedd poblogaeth. I gefnogi hyn, dyrannais £15 miliwn o'r gronfa gofal canolraddol fis Medi diwethaf i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol mewn cymunedau, a byddwn yn parhau i ddatblygu'r mathau hyn o wasanaethau, yn ogystal ag eraill sy'n ofynnol yn sgil y newidiadau a wnaed drwy'r ddeddfwriaeth, drwy'r gronfa gofal integredig gwerth £60 miliwn sydd wedi’i hailfrandio.
Yn ddiweddar, ymwelais â thîm adnoddau cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ganolfan, sef cyfleuster gofal preswyl Trem-y-môr ym Metws ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Trwy ddod ag aelodau staff ynghyd o dimau ail-alluogi, ffisiotherapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol, a therapi galwedigaethol, mae gwasanaethau integredig fel yr un yma yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn yr ardal.
Y mathau hyn o wasanaethau ataliol, integredig yn y gymuned sy’n gallu mynd i'r afael ag anghenion pobl ac ymyrryd yn gynharach er mwyn helpu a chynorthwyo unigolion cyn i'w hanghenion ddod yn fwy critigol. Gallant gadw pobl allan o'r ysbyty ac yn eu cartrefi, yn byw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis yn ddiogel ac yn annibynnol am gyfnod hwy.
Byddai'n amhosibl disgrifio’r holl gamau sy'n cael eu cymryd yn y sector o dan bob rhan o'r Ddeddf eang yn y datganiad hwn heddiw, ond i roi blas i’r Siambr o’r manteision gwirioneddol yr ydym ni’n eu gweld yn sgil y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, hoffwn dynnu sylw at lwyddiant Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru, a sefydlwyd o dan y ddeddfwriaeth. Ers ei sefydlu, rydym ni wedi gweld yr amser aros cyn i blant sy’n derbyn gofal gael lleoliad mabwysiadu yn haneru bron, i 13.5 mis o 26 mis.
Rydym hefyd yn falch bod y Ddeddf wedi rhoi mwy o hawliau i ofalwyr. Fel Llywodraeth, rydym ni’n cydnabod y rhan hanfodol y mae gofalwyr yn ei chwarae ledled Cymru. Nawr, am y tro cyntaf, yn sgil y ddeddfwriaeth hon, mae gan ofalwyr yr un hawl i asesiad a chymorth â’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanynt. Rydym wedi ei gwneud yn eglur erioed y byddwn yn monitro cynnydd y Ddeddf a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i helpu pobl sydd angen gofal a chymorth i sicrhau llesiant. Cyhoeddwyd y fframwaith canlyniadau cenedlaethol ym mis Mawrth 2016, gan restru 50 o ddangosyddion cenedlaethol i fesur llesiant pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth.
Byddwn yn pennu llinell sylfaen drwy ein hadroddiad blynyddol cyntaf, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl cyhoeddi data’r arolwg cenedlaethol, yr hydref hwn. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei lunio’n yn nhymor yr hydref bob blwyddyn wedyn o 2017-18 ymlaen. Bydd gwerthusiad annibynnol hirdymor yn dechrau yn nhrydedd flwyddyn gweithrediad y Ddeddf, gyda grŵp gwerthuso rhanddeiliaid i hysbysu’r fanyleb ar gyfer y gwerthusiad a’i llywio.
Ar ddiwedd blwyddyn gyntaf hon y ddeddf, megis dechrau yr ydym ni ar y broses o weddnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ond mae eisoes yn amlwg bod y sector yn ymateb i'r her o gynorthwyo pobl sydd ei angen trwy wneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw. Fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i gynorthwyo ein partneriaid i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon i'w llawn botensial. Mae'r daith hefyd yn parhau trwy weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, y Ddeddf ategol i Ddeddf 2014, sy'n cydsynio rheoleiddio ag egwyddorion ei chwaer ddeddfwriaeth ac yn cryfhau amddiffyniad i’r rhai sydd ei angen. Ddoe, ac o ganlyniad i’r Ddeddf rheoleiddio ac arolygu, daeth Cyngor Gofal Cymru yn Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn adeiladu ar waith y cyngor gofal, gan barhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio a datblygu'r gweithlu, ond hefyd yn arwain y gwaith o wella’r sector gofal, yr ydym yn ei gydnabod fel sector o bwysigrwydd strategol cenedlaethol.
Y gwanwyn hwn, yn dilyn ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid, byddaf hefyd yn cyflwyno ail gam y rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig o dan Ddeddf 2016 ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Bydd yn cynnwys y gofynion ar ddarparwyr ac unigolion cyfrifol mewn gofal cartref a gofal preswyl, a’r gofynion o ran sicrhau llety i blant hefyd nawr. Bydd trydydd cam yn dilyn, a fydd yn canolbwyntio ar wasanaethau maethu, cymorth mabwysiadu, lleoliadau i oedolion, a darparwyr eiriolaeth. Ar ddiwedd y broses hon, bydd gennym system reoleiddio ac arolygu sydd ar flaen y gad o ran sicrhau bod gofal a chymorth yng Nghymru y gorau y gall fod. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'n partneriaid i gyflawni gwahaniaethau gwirioneddol pellach i fywydau rhai o'r bobl yng Nghymru sy'n eu haeddu fwyaf. Diolch.
Oes, mae blwyddyn wedi pasio ers i’r Ddeddf ddod i rym, ond, mewn gwirionedd, roedd cyfran helaeth o’r Ddeddf yn ymwneud â rhoi pwerau i’r Llywodraeth wneud rheoliadau dros amser dros amrywiaeth eang o weithgareddau. Felly, mae yna lai na blwyddyn o weithredu wedi bod mewn nifer o feysydd.
Er mwyn cadw ffocws, rydw i am ganolbwyntio, os caf i, ar ofalwyr, gan fod y Ddeddf, wrth gwrs, wedi cymryd lle’r Mesur gofalwyr. Mi glywsom ni chi yn sôn yn y fan yna bod y Llywodraeth yn cydnabod y rôl allweddol y mae gofalwyr yn ei chwarae ar draws Cymru, a bod yna, drwy’r ddeddfwriaeth, yr hawl i gael asesiad a chefnogaeth i’r gofalwyr hynny. Mae’r Llywodraeth, meddai chi, am fonitro sut mae pethau’n gwella o ganlyniad i’r Ddeddf a’r gwahaniaeth mae hi’n ei wneud i bobl sydd angen gofal. Nid oes yna yn dal ddim sôn yma am y math o ganlyniadau rydych chi wedi eu canfod o unrhyw fonitro. Mae Gofalwyr yng Nghymru—Carers Wales—wedi cyhoeddi eu monitor nhw o berfformiad ers y Bil. Mi wnaf eich atgoffa chi o rai o’r pethau maent wedi canfod: nid yw 17 allan o’r 22 awdurdod lleol yn gallu darparu data ar nifer y gofalwyr sy’n cysylltu â nhw dros y ffôn; nid yw’r rhan fwyaf o gynghorau yn gwybod faint o ofalwyr maent wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill; nid yw 16 o’r 22 awdurdod yn gallu darparu ffigurau ar faint o bobl roedden nhw wedi eu cyfeirio at fudiadau eraill, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Ar yr un pryd hefyd, mi wnaf dynnu sylw at y 24 y cant o ostyngiad sydd wedi bod yn nifer y nosweithiau o ofal seibiant dros y cyfnod yma. Dywedodd 80 y cant o bobl a wnaeth gwblhau arolwg Carers Wales nad oeddent wedi cael cynnig asesiad anghenion. Y cwestiwn sydd yn fy meddwl i rŵan, flwyddyn ymlaen, ydy: a oes yna newid ymarferol gwirioneddol mesuradwy wedi bod, ynteu a ydy’r Llywodraeth yn dal i ddatgan rŵan, flwyddyn ymlaen, beth maen nhw’n ddymuno all ddigwydd o ganlyniad i’r Ddeddf yma, sydd eisoes mewn bodolaeth ers blwyddyn?
Felly, mewn ymateb i’r pryderon a gafodd eu codi gan Carers Wales, a minnau wedi eu codi nhw yn y Siambr yma, mi ddywedasoch chi eich bod chi wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru am y mater, ac wedi gofyn i swyddogion edrych yn fwy trwyadl ar y canfyddiadau. A allwch chi roi diweddariad i ni o ba weithredoedd y bydd awdurdodau lleol yn eu cymryd o ganlyniad i’ch llythyr chi? Hefyd, a allwch chi rannu eich barn am ganfyddiadau Carers Wales, sy’n eithaf trawiadol ynglŷn a beth sydd wedi digwydd flwyddyn ers y Ddeddf?
Mi wnaethoch chi hefyd ddweud eich bod yn trafod model cenedlaethol o ran sut i ddelio â’r cwestiwn o ofal seibiant efo’r trydydd sector. A allwch chi roi manylion i ni am pa bryd allwn ni weld y model cenedlaethol yma yn cael ei ddatblygu, ac os y byddwch chi’n anelu yn benodol at wrthdroi y gostyngiad sydd wedi bod yn y nifer o nosweithiau gofal seibiant sy’n cael eu darparu? Achos mae fy etholwyr i ac, rwy’n gwybod, etholwyr i Aelodau ar draws y Siambr yma, yn clywed digon gan etholwyr ynglŷn ag effaith y golled yna yn y nosweithiau o ofal seibiant sydd ar gael.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Rwy'n gyfarwydd iawn ag ymgyrch Dilyn y Ddeddf Gofalwyr Cymru, ac rwyf wir yn croesawu'r mewnbwn a'r her adeiladol y maen nhw’n eu rhoi i ni, ac ymgysylltiad cadarnhaol y trydydd sector a’r sector gwirfoddol yn y dull cydgynhyrchu sydd gennym ni drwy'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, gan weithio mewn partneriaeth â ni a chydag awdurdodau lleol i wella, yn benodol, canlyniadau i ofalwyr, yn ogystal â’r rhai sy’n derbyn gofal.
Rwy'n credu ei bod yn ddyddiau cynnar eto, ac rwy’n cydnabod bod amrywiadau o ran casglu data ledled Cymru, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod rhywfaint o arfer rhagorol yn datblygu hefyd. Yn rhan o'r fframwaith rheoli perfformiad sy'n datblygu ar gyfer y Ddeddf newydd, mae llawer o ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod dull cyson o ddefnyddio data ar sail genedlaethol wrth i ni symud ymlaen. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi neilltuo ffrwd waith benodol i sicrhau cysondeb cenedlaethol o ran gweithrediad y fframwaith rheoli perfformiad, oherwydd rwy’n cydnabod pwysigrwydd cael data cymharol ledled Cymru gyfan.
Gan gyfeirio’n benodol at yr adroddiad a ddarparwyd gan Gofalwyr Cymru—ac rwy’n cydnabod ei fod wedi bod yn ddefnyddiol—cynhyrchwyd y data trwy gais rhyddid gwybodaeth ynghylch y chwe mis cyntaf o weithredu, felly rydym ni wedi symud ymlaen chwe mis arall ers hynny. Ond mae awdurdodau lleol ac, yn wir, Gofalwyr Cymru eu hunain yn cydnabod yr amrywiadau a’r anghysondeb o ran adrodd yn erbyn y cais rhyddid gwybodaeth penodol hwn, ac mae hynny'n siomedig. Felly, er mwyn cael data cryfach a mwy cymharol yn y dyfodol, rwy'n falch o’ch diweddaru chi bod awdurdodau lleol a Gofalwyr Cymru wedi cytuno i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth i lunio’r cais yn well er mwyn sicrhau gwybodaeth fwy cyson a chadarn, wrth i ni fwrw ymlaen yn y misoedd nesaf. Byddwn yn disgwyl gwelliant o ran cofnodi ac adrodd ac, yn sicr, bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio'r gwaith o weithredu’r Ddeddf.
Felly, o ran fy ymateb i'r adroddiad, rwy’n credu ei bod yn anodd dod i gasgliadau pendant ohono oherwydd ansawdd y data, ac mae’n werth nodi hefyd bod prif weithredwr Gofalwyr Cymru wedi datgan nad yw gofalwyr ac unigolion ehangach dan sylw bob amser yn cydnabod eu bod wedi cymryd rhan mewn asesiad hefyd o reidrwydd, felly mae’n sicr bod gennym ni dipyn o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ac mae gofalwyr yn fwy tebygol o ymateb yn gadarnhaol os ydynt wedi cael neu gymryd rhan mewn sgwrs ynghylch 'yr hyn sy'n bwysig', sef ein ffordd ni o ddatblygu’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant.
Felly, i grynhoi, nid yw'r data yn dangos bod gofalwyr yn cael eu hamddifadu o’u hawl i asesiad, ond yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw nad yw ymgysylltu drwy'r gwasanaeth gwybodaeth a chyngor yn cael ei gofnodi’n effeithiol ac yn gyson ledled Cymru. Felly, mae angen gwneud rhagor o waith yn sicr er mwyn ymgorffori’r cysondeb hwnnw. Rwyf wedi cyflwyno cynigion i werthuso effeithiau tymor byr, canolig a hirdymor y Ddeddf hefyd. Cyflwynodd Mark Drakeford, y Gweinidog blaenorol, y broses ar gyfer gwerthuso a monitro'r Ddeddf mewn datganiad ar 31 Mawrth, yn ôl yn 2016, a bydd yn cael ei chysylltu'n eglur â’r gwaith sydd eisoes wedi ei sefydlu ar y fframwaith canlyniadau cenedlaethol, y cyfeiriais ato yn fy natganiad hefyd, sydd â 50 o wahanol ganlyniadau y byddwn yn mesur yn eu herbyn. Felly, y bwriad yw y bydd gennym ni ddata cadarn iawn i ddangos ble’r ydym ni nawr yn ogystal â dangos gwelliant dros amser mewn ffordd sy’n gyson ledled Cymru gyfan hefyd.
Hoffwn ailadrodd yr ymrwymiad i'r dull cenedlaethol o ran gofal seibiant. Mae gwaith yn parhau ar hynny gyda phartneriaid yn y sector gwirfoddol yn arbennig, gan edrych hefyd ar fodelau sydd ar waith mewn mannau eraill. Wrth gwrs, rwy’n gwbl agored i safbwyntiau a syniadau a mewnbwn gan yr Aelodau yn y Siambr ar y mater hwn hefyd.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Cefnogwyd y ddeddfwriaeth hon gennym ni, wrth gwrs, ac rydym ni eisiau ei gweld yn llwyddo. Roeddwn i’n falch o glywed y newyddion da am fabwysiadu hefyd, oherwydd roeddem hwnnw fodel yr oeddem yn eithaf amheus yn ei gylch, a dweud y gwir, felly rwy'n falch o ddweud efallai ein bod ni wedi cael ein darbwyllo fel arall ynghylch hynny o weld y dystiolaeth.
Rwy'n credu ein bod ni’n cytuno bod poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu’r galw tebygol am wasanaethau cymdeithasol ac felly edrychwn ymlaen at arwydd o’r cerrig milltir y gallai’r adolygiad seneddol ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol fod wedi eu cyrraedd. Tybed a allech chi arfer rhywfaint o ddylanwad yno o ran pryd y gallem ni glywed am rai o'r cerrig milltir hynny.
Rydych chi’n honni yn y datganiad yr ydych chi wedi ei roi heddiw bod gweithrediad y Ddeddf yn cryfhau integreiddio ymhellach. Nawr, o gofio’r pwyntiau a wnaed eisoes ynghylch casglu data, a wnewch chi roi blas o leiaf o'r math o dystiolaeth yr ydych chi wedi ei chael eisoes i gefnogi'r disgwyliad bod asesiadau’r saith bwrdd partneriaeth rhanbarthol wedi dechrau gwella gwaith atal, adsefydlu a gofal yn eu rhanbarthau, a’r dystiolaeth bod y dinesydd yn arwain y ffordd mewn gwirionedd, gan gyfrannu at gynllunio ei ofal? Mae'n debyg, yn gryno, mai’r hyn rwy'n ei ofyn yw: sut mae cydgynhyrchu yn edrych ar hyn o bryd yn eich barn chi, a beth allwch chi ei wneud i roi sicrwydd i mi, os mynnwch, bod y ddyletswydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chydweithredol, a’r ddyletswydd i hyrwyddo cyfranogiad yr unigolyn ar gyfer gwasanaethau gofal neu ataliol, a orfodwyd ar awdurdodau lleol gan y Ddeddf, yn cael eu darparu? Y ddwy ddyletswydd hynny—a ydyn nhw’n cael eu cyflawni mewn gwirionedd?
Rydym ni’n cefnogi eich buddsoddiad yn y gronfa gofal canolraddol—y £60 miliwn hynny, a’r £15 miliwn ychwanegol nawr. Fodd bynnag, rwy’n synnu braidd, yn enwedig gan eich bod wedi nodi eich bod yn gobeithio datblygu’r gwasanaethau hynny ymhellach, o’ch datganiad, nad ydych chi wir yn fodlon cyhoeddi'r adroddiad annibynnol newydd a gomisiynwyd gennych ar sut i nodi arfer da a defnydd effeithiol o gyllid. Nawr, nid yw hynny'n ddefnyddiol ar gyfer y partneriaethau rhanbarthol yn unig. Mae hynny’n ddefnyddiol i ni fel Cynulliad i graffu ac, wrth gwrs, eich cynorthwyo chi i wneud penderfyniadau da. Ond rwy'n credu ei fod yn ddefnyddiol hefyd i’r gweithwyr cymdeithasol hynny a oedd, mewn cynhadledd yn Abertawe fis diwethaf, yn pryderu eu bod yn methu dangosyddion eglur o sut y mae arfer yn edrych mewn gwirionedd. Felly, pe baech yn fodlon ystyried cyhoeddi’r adroddiad hwnnw, rwy’n credu y byddwn i’n ddiolchgar iawn, oherwydd nid wyf wir yn gweld pam y dylwn i aros tair blynedd am adroddiad llawn ar sut y mae’r gronfa gofal canolraddol yn edrych.
Rwy'n hapus i gydnabod potensial y ganolfan ofal amlweddog ac yn rhannu eich diddordeb yn Nhrem-y-môr. Nid wyf yn siŵr pam y byddai ei lwyddiant yn arwain at gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn torri’r gyllideb gofal cymdeithasol £2.2 miliwn o ganlyniad i hynny, ond rwy’n awyddus i glywed mwy am fodelau lleol llwyddiannus, perthnasol eraill. Rwy’n sylweddoli bod hwn yn waith ychwanegol, ond os ydych chi’n fodlon rhoi datganiad ysgrifenedig arall efallai, gydag enghreifftiau da, rwy’n credu y gallai hynny helpu’r rheini ohonom sy'n ceisio craffu arnoch chi.
Gofalwyr—nid oes angen i mi ailadrodd yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth—ond mae’r strategaeth ddiwygiedig honno yn hwyr erbyn hyn, byddwn i’n dweud. Unwaith eto, gan dderbyn y mater hwn o gasglu data, a allwch chi roi syniad i ni nawr am faint o ofalwyr a hysbyswyd eu bod yn gymwys i gael asesiad? Rwyf wedi syfrdanu y gallai rhai fod wedi cael eu hasesu heb yn wybod iddynt. Rwyf i wir yn rhyfeddu sut y caniatawyd i hynny ddigwydd. Ond wedyn yn ogystal â hynny, a oes gennych chi unrhyw syniad o gyfran y rheini sydd wedi cael eu hysbysu y gallent gael eu hasesu sydd wedi arfer yr hawl honno mewn gwirionedd; cyfran fras y rheini sy'n dal i aros i arfer yr hawl honno; ac unwaith eto, cyfran fras y gofalwyr sydd wedi arfer yr hawl honno ac wedi cael eu hasesu a chael datganiad o'u hanghenion a’r anghenion hynny wedi eu diwallu? Er mwyn i hyn weithio, mae'n rhaid iddo ymwneud â mwy na wynebau hapus a wynebau trist. Mae’n rhaid cael rhyw fesur realistig a chadarn o ba un a yw’r anghenion hynny wedi cael eu diwallu.
Ac yna yn olaf, er y gallwn ofyn llawer iawn mwy i chi, yn anffodus, cyflwynodd y Ddeddf rwymedigaeth ar awdurdodau lleol i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Nawr, mae fy mhlaid i’n credu y dylai pob gweithgaredd awdurdod lleol roi ystyriaeth briodol i’r rheini, ond dyma ddechrau. Felly, sut ydych chi’n monitro cyflawniad y rhwymedigaeth sylw dyledus, a sut ydych chi'n bwriadu monitro cydymffurfiaeth â gwahanol godau sy’n cael eu cyhoeddi o dan y Ddeddf, a’u bod yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau sylw dyledus hynny yn arbennig? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i chi am y cwestiynau yna. Dechreuaf trwy gydnabod, fel y gwnaethoch chi, y camau breision, pwysig yr ydym ni wedi eu cymryd o ran gwella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru. Hefyd, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, fel un o'i flaenoriaethau, yn ceisio gwella gwaith hanes bywyd a chymorth mabwysiadu hefyd, gan ein bod ni’n gwybod fod y pethau hynny’n bwysig iawn ac yn cael effaith sylweddol iawn ar blant sydd wedi eu mabwysiadu, a’r teuluoedd sy'n eu mabwysiadu hefyd. Felly, mae wedi cynnal adolygiad trwyadl o waith hanes bywyd, gan arwain at gynllun gweithredu i wella ansawdd a nifer yr hanesion taith bywyd cyflawn sydd gan blant. Hefyd, rydym ni wedi darparu cyllid grant sylweddol i ddatblygu’r fframwaith newydd ar gyfer cymorth mabwysiadu, felly bydd cynllun gweithredu yn nodi sut y bydd y fframwaith hwn yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni hefyd.
Rwyf hefyd yn falch eich bod yn cydnabod y gwahaniaeth y mae'r gronfa gofal canolraddol yn ei wneud. Rhoddais Pen-y-bont ar Ogwr fel enghraifft, ond ceir llawer mwy ac rwy'n fwy na bodlon eu rhannu â’r Aelodau. Efallai y byddai gan Suzy ddiddordeb—yn enwedig yn ardal Bae’r Gorllewin, bod cyllid y gronfa gofal canolraddol yn cefnogi tîm nyrsio arbenigol sydd wedi gwella yn gyson y gallu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty. Felly, eleni, mae'r gwasanaeth wedi arwain at osgoi 70 o dderbyniadau. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys tîm sefydliadau gwirfoddol canolradd Sir Benfro, sy'n gwella cyfleoedd i fyw’n annibynnol yn y gymuned, gan leihau arwahanrwydd cymdeithasol i unigolion. A, hyd yn hyn, mae 1,090 o ddiwrnodau gwely wedi cael eu harbed i'r GIG a 109 o dderbyniadau i'r ysbyty wedi cael eu hosgoi. Dim ond un arall, er bod gen i ragor: mae bwrdd partneriaeth rhanbarthol Caerdydd a'r Fro wedi cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi byw annibynnol, gan gynnwys y bartneriaeth iach ac egnïol a’r cynlluniau gwasanaethau byw’n annibynnol. Hyd yn hyn, mae'r bartneriaeth iach ac egnïol wedi galluogi 365 o bobl i aros yn eu cartrefi ac mae’r gwasanaeth byw’n annibynnol wedi darparu 350 o ymyriadau, gan symud 83 o bobl o fywyd o arwahanrwydd. Felly, llawer o enghreifftiau gwych. Y tu ôl i bob un o'r rhifau hynny, hefyd, mae’n amlwg bod stori i'w hadrodd.
Un o'r pethau sy'n fy nghyffroi fwyaf am y ffigurau yr ydym ni’n eu gweld ar hyn o bryd yw’r oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym ni wedi cael pedwar mis o ffigurau yn gostwng erbyn hyn, ac mae ein ffigurau ar hyn o bryd ymhlith yr isaf erioed yng Nghymru, sydd yn hollol wych, yn enwedig gan ein bod ni yng nghyfnod y gaeaf o hyd ar hyn o bryd. Mae ein ffigurau fwy nag 20 y cant yn is na ble’r oeddent flwyddyn yn ôl erbyn hyn —o ran y ffigurau diweddaraf. Mae'n rhy gynnar, a dweud y gwir, i wneud y cyswllt hwnnw’n gyfan gwbl, ond rwy'n credu ei fod yn sicr yn arwydd cadarnhaol bod y gronfa gofal canolraddol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
O ran cyflwyno, mae'n debyg, dealltwriaeth o ble’r ydym ni—ein man cychwyn—wel, o dan y Ddeddf, bu’n ofynnol i’r holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol gynnal asesiad ar y cyd o anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys anghenion gofalwyr, yn eu hardaloedd poblogaeth, a cheir rheoliadau sy'n darparu ar gyfer llunio adroddiadau cyfunol ar asesu’r boblogaeth ar ôl troed y bwrdd iechyd hwnnw. Felly, cyhoeddwyd y cyntaf o'r adroddiadau hynny ar 1 Ebrill, ac maen nhw’n darparu seiliau tystiolaeth gwirioneddol eglur a phenodol ar gyfer hysbysu amrywiaeth o benderfyniadau cynllunio a gweithredol ar gyfer y dyfodol hefyd. Felly, byddaf yn archwilio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru sut y gallwn ddefnyddio’r asesiadau rhanbarthol hyn o anghenion y boblogaeth i greu asesiad cenedlaethol o anghenion y boblogaeth hefyd. Credaf y bydd hynny’n bwysig iawn o ran ein helpu ni i ddeall ble’r ydym ni’n bwrw ymlaen â'n gwasanaethau ataliol, yn arbennig.
Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i lunio cynlluniau ardal, gan nodi amrywiaeth a lefel y gwasanaethau ataliol a fydd yn cael eu rhoi ar waith mewn ymateb i’r asesiadau hynny o anghenion y boblogaeth. Felly, ym mlwyddyn gyntaf y Ddeddf, gwnaed llawer o waith i geisio deall lefel yr angen, a'r cam nesaf nawr yw cwblhau’r cynlluniau hynny i ddiwallu’r anghenion hynny. Ac fe’i gwnaed yn eglur iawn mewn deddfwriaeth a'r canllawiau hefyd, bod yn rhaid i ni ganolbwyntio ar wasanaethau integredig o ran bodloni lefel yr anghenion hynny.
Mae’r dinesydd bob amser wedi bod wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon, ac mae’r dinesydd yn arwain y ffordd drwyddi draw, mewn gwirionedd, o'r sgyrsiau unigol y bydd yr unigolyn yn eu cael â'r bobl sy'n cynnal yr asesiad, hyd at yr holl waith o gydgynhyrchu pethau ar raddfa fwy. Mewn gwirionedd, caiff egwyddorion cydgynhyrchu eu nodi yn y cod ymarfer sy’n gysylltiedig â'r Bil, a’r rhain yw: ystyried pobl yn asedau, datblygu galluoedd, datblygu cydymddibyniaeth a dwyochredd, buddsoddi mewn rhwydweithiau i rannu gwybodaeth, a chymylu'r gwahaniaethau rhwng darparwyr a phobl sydd angen gofal a chymorth, a hefyd hwyluso’r gwasanaethau yn hytrach na’u cyflwyno. Rydym wedi rhoi ein harian ar ein gair drwy ddarparu cyllid ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru i arwain ar y gwaith hwn, yn arbennig â rhywfaint o waith i helpu awdurdodau lleol â'r ddyletswydd honno i hybu modelau gofal amgen. Rwy'n credu bod yna lawer i fod yn gyffrous yn ei gylch o ran sefydliadau dielw, mentrau cydweithredol ac yn y blaen, a sut y gallan nhw ddechrau diwallu anghenion pobl ledled Cymru hefyd. Oherwydd yr wyf i o’r farn, y mwyaf amrywiol yw’r farchnad sydd gennym o ran darpariaeth, yn ôl pob tebyg y iachaf ydyw, o ystyried ein man cychwyn sef ein sefyllfa ar hyn o bryd, hefyd.
Rwyf wedi ymdrin â chasglu data. Felly, o ran y CCUHP a’r rhwymedigaethau eraill hefyd, mae’r byrddau partneriaeth rhanbarthol yn adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru, ac yn amlwg byddwn yn ystyried yr holl ddyletswyddau sydd gan y byrddau partneriaeth rhanbarthol, o dan y ddeddfwriaeth a'u dyletswyddau ehangach hefyd, yn rhan o’r dull adrodd hwnnw.
A gaf i ddiolch i chi, Weinidog, am eich datganiad heddiw? Mae hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth ac rwy'n credu ei bod hi’n beth da i gael yr adroddiadau hyn, ac rwy’n gobeithio bod hyn yn rhywbeth y byddwch yn ymrwymo i’w wneud yn rheolaidd ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Byddwn i’n cysylltu fy hun â nifer o'r pryderon a gododd Rhun ap Iorwerth ynglŷn â gofalwyr sy'n oedolion, ac rwy’n talu teyrnged i Gofalwyr Cymru am y gwaith y mae’n ei wneud ar Dilyn y Ddeddf, ond rwyf hefyd yn falch iawn o glywed yr hyn yr ydych wedi’i ddweud y prynhawn yma ynglŷn â’r ffaith bod mwy o gydweithio mewn partneriaeth rhwng Gofalwyr Cymru a llywodraeth leol. Felly, rwy’n awyddus i ofyn yn benodol, mewn gwirionedd, am effaith y Ddeddf ar blant.
Fe fyddwch chi’n cofio, gan eich bod chi’n aelod o'r pwyllgor ar y pryd, y codwyd llawer o bryderon ynglŷn â’r ffaith y gallai pwyslais y Ddeddf hon ar bobl, arwain at wanhau cymorth i blant. Roedd hynny mewn termau cyffredinol, ond hefyd mewn cysylltiad â diddymu adran 17 o Ddeddf Plant 1989, a ddaeth yn sgil y ddeddfwriaeth hon, ac mae gennyf i rai pryderon o ran hynny sef ein bod ni eisoes yn gweld rhywfaint o dystiolaeth o lai o gymorth o bosibl yn cael ei ddarparu i blant o ganlyniad i'r Ddeddf. Gwn fod Gofalwyr Cymru, yn rhan o'u gwaith Dilyn y Ddeddf, wedi nodi problem bosibl yn ymwneud â’r ffaith nad yw gofalwyr plant anabl yn cael eu cydnabod gan bob awdurdod lleol yn ofalwyr, a hoffwn ofyn a oes gennych unrhyw dystiolaeth o hynny a beth ydych chi’n ei wneud i hysbysu awdurdodau lleol eu bod nhw’n sicr yn ofalwyr. Gwn eich bod chi’n ymwybodol o’m pryderon ynghylch effaith trosglwyddo arian cronfa’r teulu i'r grant gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. Hefyd mae gostyngiad wedi bod mewn cyllid ar gyfer Cyswllt Teulu. Dyna ddau fecanwaith pwysig i gefnogi plant anabl a'u teuluoedd. Felly, roeddwn i eisiau gofyn: mae gwerthusiad o’r Ddeddf yr ydych chi wedi cyfeirio ato i'w groesawu'n fawr iawn, ond sut yn benodol y byddwch yn sicrhau y caiff anghenion plant anabl a'u teuluoedd eu hystyried yn y gwerthusiad hwnnw?
Yn olaf, roeddwn i eisiau holi am ddiogelu, sy’n rhywbeth yr wyf yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Blant yn gyfrifol amdano, ond daeth y penderfyniad i roi diogelu plant ac oedolion gyda'i gilydd yn ganlyniad uniongyrchol i'r Ddeddf hon, ac rwy’n gwybod bod yna lawer o bryder ynglŷn â’r ffaith ein bod ni’n dal i aros i’r gweithdrefnau amddiffyn plant ac oedolion Cymru gyfan gael eu cyflwyno yng Nghymru. Rwy’n deall y disgwylir datganiad yn fuan iawn, ond tybed a fyddech chi’n gallu rhoi sylwadau ar hynny, ond hefyd a fyddai modd i chi esbonio natur y berthynas rhyngoch chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros blant mewn cysylltiad â’r maes hollbwysig hwn o ddiogelu, gan eich bod chi’n gyfrifol am y Ddeddf, ond bod Gweinidog gwahanol yn gyfrifol am gyflwyno’r polisïau ar ddiogelu mewn gwirionedd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a byddaf yn dechrau wrth sôn am ddiogelu. Mae Carl Sargeant a minnau’n gweithio'n agos iawn ar bob agwedd lle y mae ein portffolios yn gorgyffwrdd, a cheir cryn dipyn, yn enwedig o ran y Ddeddf. Ond ynglŷn â diogelu yn benodol, cyfarfûm yn fwyaf diweddar â Carl Sargeant yr wythnos diwethaf i siarad am ddiogelu, yn enwedig, mewn gwirionedd, yn y maes chwaraeon. Cawsom rai trafodaethau ynglŷn â hynny, a hefyd ynglŷn â diogelu plant yn y cartref. Felly, fe gawsom ni rywfaint o gysylltiad rheolaidd a chynnal trafodaethau rheolaidd ar y materion hynny.
Rwy'n credu bod y Ddeddf wedi datblygu llawer o ran diogelu, yn enwedig â'r ddyletswydd honno i adrodd, felly, fel y gwyddoch, os yw gweithiwr proffesiynol mewn unrhyw faes yn pryderu am blentyn, mae ganddynt ddyletswydd i adrodd i'r awdurdod lleol, ac yna mae gan yr awdurdod lleol hwnnw ddyletswydd i ymchwilio. Rwy’n credu bod hynny’n gam mawr ymlaen o ran yr hyn yr ydym ni’n ei wneud i ddiogelu plant yng Nghymru. Byddwch chi’n gwybod am y bwrdd diogelu annibynnol cenedlaethol hefyd, sy'n ystyried materion diogelu o safbwynt Cymru gyfan ac sy’n cynghori Carl Sargeant a minnau ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu yng Nghymru, a chefais gyfarfod da iawn â nhw yn ddiweddar hefyd.
Mae ein swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â rheolwyr unedau busnes y bwrdd diogelu i adolygu cynnydd hefyd. Mae cyfrolau 1 i 4 o 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Ddiogelu Pobl' wedi’u cyhoeddi, ac maen nhw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Cynhelir ymgynghoriad ar hyn o bryd ar gyfrolau 5 a 6 sy’n manylu ar ymdrin ag achosion unigol, a daw’r ymgynghoriad hwnnw i ben ar 25 Chwefror.
Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod yn nodi pa ddyddiad y cynhyrchir y gweithdrefnau amddiffyn plant, a'r gweithdrefnau amddiffyn oedolion ar gyfer ymarferwyr, oherwydd ni allaf roi’r union ddyddiad ar gyfer hynny ar hyn o bryd.
Gwnaethoch chi sôn am nifer o faterion o ran pa un a yw'r Ddeddf yn gwir gyflawni ar gyfer plant. Roeddwn i’n pryderu pan wnaethoch chi ddweud eich bod chi’n ymwybodol o dystiolaeth o lai o gymorth i blant. Felly, byddwn i'n awyddus iawn pe gallem rannu'r wybodaeth honno, oherwydd rwy’n awyddus iawn, yn ystod y cam cynnar iawn yn natblygiad y Ddeddf, i gael gwybod a oes unrhyw rwystrau neu unrhyw ganlyniadau anfwriadol y gallwn ni mewn gwirionedd fwrw ymlaen a mynd i’r afael â nhw yn awr, yn hytrach na chyrraedd pwynt lle y mae'n dod yn rhywbeth sy'n rhan gynhenid o’r ddeddfwriaeth. Felly, pryd bynnag y caiff materion eu dwyn at fy sylw, byddaf i neu fy swyddogion yn cysylltu â'r awdurdod priodol i geisio chwalu'r rhwystrau yr ydym yn dod o hyd iddyn nhw yn ystod camau cynnar y Ddeddf.
Gwn ein bod ni’n clywed bod y Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai sydd â phlant sy'n derbyn gofal. Cefais wybod bod teuluoedd y buont yn hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol ers peth amser, a hynny o fewn y gwasanaethau cymdeithasol a’r tu allan iddyn nhw, o’r farn bod y sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' yn un gwirioneddol adfywiol ac yn eu grymuso. Am y tro cyntaf ers amser hir, mae'n debyg, mae rhai o'r rhieni wedi siarad yn agored am y sefyllfa deuluol ac wedi bod yn llawer mwy agored i dderbyn cymorth ar gyfer y teulu hefyd. Rwy'n credu ei fod yn sicrhau canlyniadau gwell o lawer i'r teuluoedd hynny, ac yn sicr dyna beth y mae'r Ddeddf wedi’i chynllunio i wneud.
Mae Rhan 6 hefyd yn gosod y fframwaith ar gyfer gwella canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal a phobl ifanc sydd ar ymylon y gwasanaethau gofal, ac mae'n ceisio diogelu a hyrwyddo lles plant sy'n derbyn gofal hefyd, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cyflawni eu canlyniadau personol. Felly, mae’r dyheadau hynny yn debyg iawn i’r dyheadau sydd gennym ar gyfer oedolion o dan y Ddeddf. Hefyd, mae’r Ddeddf wirioneddol yn canolbwyntio ar ddargyfeirio plant i ffwrdd o ofal yn y lle cyntaf a rhoi cymorth ar waith fel y gall teuluoedd aros gyda'i gilydd pan fo hynny er budd pennaf y plentyn.
Nodwedd arall o'r Ddeddf sy’n gyson ar gyfer oedolion a phlant yw’r pwyslais creiddiol ar lais yr unigolyn. Mae hi mor bwysig gwrando ar blant er mwyn cael gwybod pa fath o ganlyniadau o ran lles y maen nhw eisiau eu cyflawni. Mae angen eiriolaeth arnynt, a chawsom ddadl ddoe ar bwysigrwydd eiriolaeth a gweithredu dull cenedlaethol hefyd, felly rwy’n credu ein bod ni’n cymryd camau da o ran eiriolaeth.
Mae'n bwysig i ni fod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd ag unrhyw blant eraill, ac mae’n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i bob un ohonom ar draws y Llywodraeth, a dyna pam yr wyf yn falch iawn fod Carl Sargeant wedi gofyn i David Melding gadeirio’r grŵp cynghori gweinidogol yn ymwneud â gwella canlyniadau ar gyfer plant, a gwn fod y grŵp hwnnw yn bwrw ymlaen â rhaglen eithaf heriol hefyd. Ond byddwn i’n dweud, yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn natblygiad y Ddeddf, os oes yna faterion yr ydych chi neu unrhyw Aelod arall yn ymwybodol ohonyn nhw a allai gyflwyno effeithiau neu rwystrau anfwriadol a fyddai’n golygu na fyddai’r Ddeddf yn cyflawni ei llawn botensial, yna rhowch wybod i ni ac fe weithiwn gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion.
Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant oedd y gwaith ad-drefnu mwyaf ym maes gofal cymdeithasol ers degawdau, â’r bwriad o sicrhau bod y bobl sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr wrth wraidd y system. Roedd y newidiadau hyn yn gwbl angenrheidiol. Bu prinder sylweddol o adnoddau ym maes gofal cymdeithasol ac mae’n debygol y caiff ei roi dan bwysau cynyddol yn y degawdau sydd i ddod wrth i'n poblogaeth heneiddio. Felly, caiff arian ychwanegol ei groesawu.
Rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i wella gwasanaethau cymdeithasol, a gofal yn canolbwyntio’n llwyr ar anghenion yr unigolyn, yn hytrach nag anghenion y darparwyr gwasanaethau. Rwy'n edrych ymlaen at adolygu’r adroddiad blynyddol yn ddiweddarach eleni, fel y gallwn ni sicrhau bod y gwaith cyflawni yn bodloni ei fwriadau. Canfu'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru y llynedd mai ychydig dros hanner y cyhoedd oedd yn credu bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau cymdeithasol da. Felly, hoffwn weld gwelliant sylweddol pan gaiff canlyniadau'r arolwg cenedlaethol eu cyhoeddi eto yn yr hydref.
Dim ond un neu ddau o gwestiynau sydd gennyf i chi, Gweinidog, ac rwy’n cydnabod ein bod ar ddechrau'r daith o drawsnewid darpariaeth gofal cymdeithasol, ond i'r rhai sy'n aros am asesiadau gofal neu addasiadau i'r cartref, ni allwn ddweud wrthyn nhw’n syml fod newid ar y gweill. Felly, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau amseroedd aros ar gyfer addasiadau i’r cartref? A, Gweinidog, rydych chi’n sôn eich bod chi’n falch bod y Ddeddf yn rhoi gwell hawliau i ofalwyr, felly beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod y cyllid a'r cyfleusterau yn eu lle i gyflawni’r hawliau hynny i ofalwyr?
Gweinidog, mae eich datganiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y Ddeddf yn ddull partneriaeth rhwng gofalwyr a darparwyr o bob sector. Ac roedd eich rhagflaenydd yn frwd dros y model cydweithredol o daliadau uniongyrchol, felly pa lwyddiant yr ydych chi wedi’i gael wrth annog pobl ag anghenion gofal i sefydlu a gweithredu mentrau cydweithredol i wneud gwell defnydd o daliadau uniongyrchol?
Ac yn olaf, Gweinidog, bydd y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn gymorth mawr wrth roi terfyn ar gam-drin ofnadwy mewn gofal, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y gyfundrefn gofal cymdeithasol yng Nghymru mor ddiogel ag y gall fod. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni i gyd ar y gwaith a wnaed i sicrhau bod pawb sy'n ymgymryd â gwaith gofal yn cael eu hyfforddi'n addas. Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad ac am y ffordd gadarnhaol yr ydych yn gweithio gyda phob plaid yn y Siambr i wella gofal cymdeithasol yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, a byddaf yn ymdrin â'r materion olaf a godwyd gennych chi yn gyntaf, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ddiogel, ac yn sicr mae’n rhaid i hynny fod y man cychwyn, wrth sicrhau bod gofal yn ddiogel. Mae’r AGGCC yn cynnal cyfres o arolygiadau ac yn cyflawni gwaith ym mhob lleoliad gofal ledled Cymru, ac maen nhw’n gwneud gwaith da iawn wrth sicrhau bod y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn yn ddiogel ac o safon dda, ac maen nhw’n darparu adroddiad blynyddol, y byddwn i’n argymell i’r Aelodau ei ddarllen o ran deall y materion yn y sector. Mae'n bwysig iawn bod gennym weithlu sydd wedi'i hyfforddi'n dda, sy’n cael ei dalu’n dda ac sydd yn llawn cymhelliant, ac un o'r pethau cyffrous yr ydym yn ei wneud drwy'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yw cofrestru'r gweithlu gofal cartref erbyn 2020. Nid yn unig y bydd hynny’n rhoi’r clod a’r gydnabyddiaeth i’r gweithwyr hynny sy’n eu haeddu, ond mewn gwirionedd bydd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gael strwythur gyrfaol hefyd, ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gwneud gwaith rhagorol wrth ystyried gofal cartref yn y dyfodol. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd cynllun pum mlynedd ganddyn nhw, ac rwyf yn argymell i Aelodau sydd â diddordeb gael golwg arno, hefyd. Mae hwnnw’n edrych ar draws y system gofal cartref a'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau gwelliannau, o ran ansawdd, ond hefyd o ran gwneud yn siŵr bod y gweithlu yn llawer mwy sefydlog. Oherwydd, fel y gwyddom, gall trosiant gweithlu rhai darparwyr fod oddeutu traean, sydd yn amlwg yn effeithio’n negyddol ar fusnes, ond yn bwysicach fyth yn effeithio’n negyddol ar yr unigolyn sy'n derbyn y gofal hefyd, oherwydd gwyddom fod pobl yn hoffi cael cysondeb yng nghyd-destun y gweithlu sy'n gofalu amdanyn nhw.
Soniasoch am daliadau uniongyrchol, ac mae taliadau uniongyrchol yn bwysig iawn o ran rhoi ymreolaeth i bobl a rhoi dewis i bobl, ac rwy'n credu bod llawer o botensial yn hynny o beth. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi gweld nifer y taliadau uniongyrchol yn cynyddu, oherwydd gellir eu defnyddio i fodloni unrhyw angen cymwys sy’n angen gofal a chymorth o dan y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi'r llais, y dewis a’r rheolaeth hynny i bobl y mae’r Ddeddf yn ymwneud â nhw. Mae awdurdodau lleol yn croesawu'r cysyniad, ond rwy’n credu ei bod yn deg dweud bod rhywfaint o amrywiaeth ar draws Cymru, ac felly, er mwyn sicrhau ein bod ni’n cynnal y momentwm, rwyf wedi gofyn i swyddogion ffurfio grŵp ar draws y sectorau yn cynnwys ymarferwyr o awdurdodau lleol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau a derbynwyr taliadau uniongyrchol, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i hyrwyddo defnydd ar draws y sector. A cheir modelau cydgynhyrchiol hefyd y gallwn eu defnyddio i annog pobl a allai fod yn nerfus, neu bobl nad ydyn nhw efallai yn dymuno cyflawni swyddogaeth debyg i gyflogwr. Felly, mae rhywfaint o waith yn mynd rhagddo yn y sector hwnnw, neu yn y maes hwnnw. Bydd y grŵp newydd hwnnw hefyd yn codi proffil taliadau uniongyrchol ymhellach ac yn archwilio dewisiadau eraill yn lle’r atebion traddodiadol o ddiwallu anghenion gofal a chefnogaeth pobl.
Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud ein bod wedi cael gwared ar nifer o’r cyfyngiadau hanesyddol sy’n cyfyngu ar y defnydd o daliadau uniongyrchol. Felly, erbyn hyn, rydym yn caniatáu i bobl ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas sy'n byw yn yr un cartref am ddarpariaeth gofal a chymorth, neu er mwyn helpu i reoli'r taliadau, os yw'n briodol, ar gyfer hyrwyddo lles y derbynnydd hefyd. Felly, mae taliadau uniongyrchol yn llawer mwy hyblyg ac ymatebol i anghenion pobl nag y maen nhw wedi bod erioed o'r blaen. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu.
Soniasoch am fentrau cydweithredol. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, rwy’n credu bod hyn yn un o rannau cyffrous y Ddeddf, o ran rhoi hwb newydd i'r sector, gan edrych ar wahanol fodelau, gwahanol—wyddoch chi, fodelau a all fod yn wirioneddol ymatebol i gymdeithas ac i wahanol anghenion gwahanol gymunedau. Mae gennyf rai enghreifftiau da o hynny, ac rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu atoch ynglŷn â—gwahanol bethau sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru o fewn y math hwnnw o waith hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Ac, yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Efallai y byddwch chi’n cofio, yn y Cynulliad diwethaf, i mi gyflwyno Bil preifat, sef Bil gofal yn y gymuned (taliadau uniongyrchol) (Cymru). Dywedodd y Gweinidog ar y pryd, eich rhagflaenydd, Gwenda Thomas, pe byddwn yn ei dynnu'n ôl, y byddai hi’n gweithio gyda mi, oherwydd bod yna lawer o dir cyffredin. A daeth y cyfeiriad, er enghraifft, at y gofal cydweithredol y cyfeiriodd hi ato, o’m Bil i, a luniwyd, yn ei dro, yn dilyn lobïo gan y sector, a hefyd gyfeiriad neu gytundeb y byddai angen cydnabod yr angen i hyrwyddo a chefnogi taliadau uniongyrchol. Nid oedd hynny ar wyneb y Bil, ond dywedwyd wrthyf y byddai'n cael ei gynnwys yn y codau. Sut, felly, y byddech chi’n mynd i'r afael â’r pryder a godwyd â mi mor ddiweddar â dydd Sul, mewn digwyddiad Diwrnod Awtistiaeth y Byd, sef yn ogystal â’r ffaith bod rhai pobl yn dal i beidio â chael y cymorth o ran hyrwyddo, y dywedir o hyd wrth bobl sy’n derbyn gofal, mewn rhai awdurdodau lleol, na chânt daliadau uniongyrchol, hyd yn oed pan fyddan nhw’n gofyn amdanynt? Rheoli disgwyliadau yw hyn, rheoli dealltwriaeth, a sicrhau bod swyddogion awdurdodau lleol ar lefel uwch yn deall nad yw hyn yn ddewis; cyfraith Cymru ydyw.
Yn ail, ac yn olaf, mae’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn gosod dyletswydd benodol ar awdurdodau lleol i hyrwyddo cyfranogiad pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau gofal a chymorth. Mae Cod 2 y Ddeddf yn cydnabod y gall pobl anabl gyflawni eu potensial a chymryd rhan lawn yn aelodau o’r gymdeithas, yn gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol, sy'n mynegi hawliau pobl anabl i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd. Mae eich datganiad yn dweud bod llais y dinesydd yn gynyddol bresennol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod atebion yn cael eu cydgynhyrchu gyda mewnbwn gan bawb.
Fodd bynnag, dim ond yn y gogledd, ers i hyn gael ei weithredu, a thros y misoedd diwethaf, mae aelodau o'r gymuned fyddar wedi rhoi gwybod i mi nad ydyn nhw’n derbyn cefnogaeth Iaith Arwyddion Prydain na chymorth ehangach rhagor; mae awdurdod lleol yn gwrthod cyflogaeth i unigolyn yn dioddef o hemoffilia yn dilyn prawf meddygol; mae unigolyn â syndrom Down nad yw’n cael ei gynnwys yn y penderfyniadau am ei ddarpariaeth byw â chymorth; mae defnyddwyr cadair olwyn yn methu cael mynediad at lwybrau cyhoeddus; a phobl ar y sbectrwm awtistiaeth yn wynebu swyddogion nad oes ganddynt ymwybyddiaeth sylfaenol o awtistiaeth sydd ei hangen i'w deall. Fel cadeirydd grwpiau trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, anabledd, awtistiaeth ac eraill, rwy'n ymwybodol o’r ffaith bod yna broblem ar draws Cymru â rhai awdurdodau lleol ynghylch sut y defnyddir cyflwyno timau mynediad cyffredinol integredig fel esgus i beidio â chynnig y cymorth hwnnw sy’n benodol i’r cyflwr, lle y mae ei angen. Pa mor gyflym—heb aros am yr adolygiad, ond pa mor gyflym y byddwch yn ymyrryd ag awdurdodau lleol yn awr, neu efallai ar ôl yr etholiad, i sicrhau bod swyddogion ac aelodau gweithredol etholedig newydd yn deall mai eich gofyniad chi yw hyn, gofyniad eich Llywodraeth, a gofyniad y Cynulliad cyfan hwn?
Rwy’n diolch i chi am y cwestiynau hynny. Dechreuaf â’r pwynt a wnaethoch am dimau mynediad. Mae timau mynediad yn bwysig iawn o ran rhoi mynediad at bopeth y gall y Ddeddf ei gynnig i unigolion, yn enwedig trwy’r asesiad o’r holl anghenion gofal a chymorth, ac yn y blaen. Rwy'n ymwybodol bod amryw o wahanol sefydliadau wedi mynegi pryder efallai nad yw’r grwpiau mynediad yn gwbl ymwybodol o gyflwr unigol. Er enghraifft, cyfarfûm â sefydliadau sy'n cynrychioli pobl fyddar yn ddiweddar, ac roeddent yn teimlo nad oedd y timau mynediad yn gwbl ymwybodol o'r gwahanol addasiadau a allai fod ar gael i'r unigolion hynny. Felly, gwnes i addewid yn dilyn hynny i wneud yn siŵr bod ein timau mynediad yn ymwybodol. Os oes cyflyrau eraill y mae pobl yn teimlo bod angen mwy o hyfforddiant arnynt ar y timau mynediad ac yn y blaen, yna byddaf yn sicr yn ystyried gwneud hynny.
Gall pobl wneud cais am daliadau uniongyrchol, a dylai awdurdodau lleol wybod hynny. Buom yn trafod yn ddiweddar yng nghyfarfodydd y byrddau partneriaeth cenedlaethol—yr amrywiad o ran y ffordd y mae taliadau uniongyrchol yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru—ac mae’r grŵp taliadau uniongyrchol newydd hwnnw y cyfeiriais ato wedi cael y dasg o sicrhau bod gennym ni gynnig mwy cyson ar draws Cymru a bod pobl yn ymwybodol o'u hawl i gael taliadau uniongyrchol. Pan fydd pobl yn cael taliadau uniongyrchol, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gwerth y taliad yn cyfateb i amcangyfrifiad cost resymol y gofal a'r cymorth sydd ei angen ar yr unigolyn, ac mae'n rhaid iddynt wneud yn siŵr bod y gwerth yn ddigonol i alluogi'r derbynnydd neu eu cynrychiolydd i sicrhau’r gofal a’r gefnogaeth honno hefyd. Felly, ni cheir terfyn ar uchafswm neu isafswm y taliad uniongyrchol, ac mae'n rhaid iddo fod yn ddigonol i fodloni’r canlyniadau. Felly, os ydym yn clywed bod pobl naill ai’n colli’r cyfle i gael mynediad at daliadau uniongyrchol, neu fod taliadau uniongyrchol yn cael eu cynnig ar lefel nad yw'n realistig o ran bodloni yr anghenion gofal a chymorth a nodwyd, yna, eto, rydym ni’n gynnar yn natblygiad y Ddeddf—rhowch wybod i mi, a byddwn yn cymryd camau er mwyn mynd i'r afael â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.