– Senedd Cymru am 4:51 pm ar 4 Ebrill 2017.
Rydym yn symud ymlaen yn awr i eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar 'Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth yng Nghymru—Partneriaeth Strategol Newydd a Dyfodol Cadw'. Rwy'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 2 Chwefror yn rhoi gwybod iddynt fy mod wedi derbyn adroddiad yn nodi map ar gyfer llwyddiant, cadernid a chynaliadwyedd treftadaeth Cymru. Fe wnes i gadarnhau fy mod wedi ystyried yr argymhellion yn fanwl ac y byddwn yn ymateb i bob un maes o law. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Justin Albert, cadeirydd y grŵp llywio, i amlinellu fy ymateb i'r naw argymhelliad a wnaed gan y grŵp, ac roeddwn i eisiau rhannu fy syniadau â chi heddiw.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i gadeirydd y grŵp, ac i bob un o'r sefydliadau, undebau llafur, ac i’m swyddogion, am weithio gyda'i gilydd mewn modd mor adeiladol i gynhyrchu adroddiad mor gyson ac ystyrlon. Rwyf wedi fy nghalonogi i weld bod y gyfres o argymhellion wedi ei chynhyrchu gyda chytundeb a chonsensws yr holl sefydliadau a fu’n rhan o’r gwaith, ac rwy'n llawn cyffro am y cyfleoedd y byddant yn eu creu er budd y sector yn ei gyfanrwydd pan gânt eu cyflawni.
Mae'r naw argymhelliad yn perthyn i ddwy thema eang, sy'n cwmpasu dyfodol Cadw a’r gwaith o sefydlu partneriaeth strategol a'i rhaglen waith yn y dyfodol. Mae'r argymhelliad cyntaf yn cynnig sefydliad cenedlaethol newydd i Gymru, y tu allan i’r Llywodraeth. Swyddogaeth graidd Cadw yw gwarchod ein treftadaeth genedlaethol a sicrhau ei bod ar gael ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ac fe ddylai fod yn falch dros ben o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae Cadw yn perfformio'n eithriadol yn rhan o’r Llywodraeth, ac rwyf eisiau sicrhau bod y llwyddiant hwnnw yn parhau. Fy nod i yw caniatáu cymaint o ryddid a hyblygrwydd ag sy’n bosibl i'r sefydliad i'w alluogi i wireddu ei botensial masnachol yn llawn, yn ogystal ag adeiladu ar ei welliant nodedig i brofiad ymwelwyr a’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac aelodaeth.
Rwy'n arbennig o falch o'r cynnydd y mae Cadw'n ei wneud wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n treftadaeth, gan dargedu teuluoedd a phobl iau drwy ymgyrchoedd marchnata gwych a thrwy gofleidio technoleg newydd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn amser i asesu pa un a yw'r trefniadau llywodraethu presennol yn wirioneddol helpu Cadw i gyflawni ei botensial, gan y gallai fod manteision posibl o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich. Gallai hyn alluogi Cadw i fabwysiadu ymagwedd fwy masnachol fyth i gefnogi’r gwaith hanfodol y mae angen ei wneud er mwyn parhau i gynnal a gwarchod treftadaeth Cymru, yn ogystal â rhoi mwy o gyfle i Cadw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Wedi dweud hynny, ni fyddwn i, ar hyn o bryd, yn dymuno canolbwyntio yn syml ar y ddau opsiwn a nodwyd yn yr adroddiad. Ceir modelau eraill sy'n werth eu hystyried, fel adlinio mewnol neu gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac, fel y cyfryw, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion lunio achos busnes i nodi ac archwilio'r amrywiaeth gyfan o opsiynau cyn penderfynu ar opsiwn a ffefrir. Mae'n hanfodol ein bod yn profi pob opsiwn yn drylwyr yn erbyn y sefyllfa bresennol ac yn sicrhau ein bod yn ystyried cadw Cadw o fewn y Llywodraeth. Bydd angen bod manteision clir ac amlwg yn gysylltiedig â chynnig unrhyw newid. Rwy’n gobeithio bod mewn sefyllfa i nodi’r opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth erbyn 30 Medi eleni.
Yn rhan o'r achos busnes, rwyf hefyd yn gofyn i fy swyddogion ystyried yr ail argymhelliad sy’n ymwneud â dyletswyddau statudol Cadw. Bydd y model a ffefrir ar gyfer dyfodol Cadw yn pennu sut y caiff yr argymhelliad hwn ei ddatblygu. Mae dyletswyddau statudol Cadw yn hanfodol er mwyn gwarchod ein treftadaeth genedlaethol. Ni ddylai pwysigrwydd y swyddogaethau hyn—ynghyd â rhoi cyngor ac arweiniad i berchnogion asedau hanesyddol—gael ei lastwreiddio gan unrhyw newid yn statws y sefydliad.
Gan symud ymlaen at y bartneriaeth strategol, mae’n gyffrous i glywed argymhellion ar gyfer llawer mwy o gydweithio rhwng ein prif sefydliadau treftadaeth a'r weledigaeth ar gyfer partneriaeth strategol yn ateb i ddiogelu treftadaeth Cymru pan fo arian cyhoeddus dan bwysau difrifol. Rwyf eisiau gweld y bartneriaeth hon yn cael ei sefydlu cyn gynted â phosibl.
Mae'r grŵp llywio wedi fy argyhoeddi bod yr argymhellion yn tynnu sylw at gyfle gwirioneddol i ddod â phwyslais cliriach a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol, ond ei bod yn iawn i ni brofi’r cyfleoedd hyn ac arfarnu eu heffaith cyn archwilio a all uno ffurfiol fod yn effeithiol. Ni fydd tynnu swyddogaethau masnachol yn nes at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol. Yn hytrach, bydd yn eu galluogi i adeiladu ar gryfderau pob sefydliad a rhannu arbenigedd o fewn pob un er budd y sector cyfan.
Ceir argymhellion ar ddarparu swyddogaethau masnachol ar y cyd, darparu swyddogaethau swyddfa gefn ar y cyd, twristiaeth ddiwylliannol, a datblygu safle treftadaeth y byd Blaenafon. Mae'r rhain wrth wraidd fy ngweledigaeth i. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau treftadaeth a diwylliant fod yn uchelgeisiol ynghylch y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol, gan weithio gyda'i gilydd i ffurfio gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw.
Mae’n rhaid i ni hefyd gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Drwy weithio'n agosach, a marchnata a hyrwyddo ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn fwy egnïol ac effeithiol, caiff cyfleoedd ehangach eu creu i agor ein holl safleoedd i deuluoedd a phobl ifanc mewn modd nad ydym erioed wedi ei wneud o'r blaen.
Rwyf hefyd yn awyddus i fynd ar drywydd yr argymhelliad i ddatblygu strategaeth sgiliau diwylliannol. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd y bobl sy'n gweithio yn ein sefydliadau yn dod â nhw yn fyw lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ynddynt. Credaf fod angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth iddynt a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Ac mae angen i ni gadw ein staff er mwyn gwarchod, diogelu, a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf yn dymuno gweld y strategaeth hon ar waith erbyn mis Hydref 2018.
Rwyf hefyd eisiau crybwyll yr hyn y mae llawer ohonoch wedi’i godi yn y gorffennol, sef bod Cadw a sefydliadau cenedlaethol eraill yn frandiau tra hysbys ac uchel eu parch, ond bod Cymru Hanesyddol wedi’i roi’n deitl gweithredol ar y fenter bwysig hon. Rwy’n cytuno â'r grŵp llywio y dylid ei brofi ochr yn ochr â dewisiadau eraill cyn gwneud unrhyw newidiadau. Beth bynnag fydd y canlyniad, rwyf eisiau gweld brand cryf sy'n cynrychioli'r sector ac sy’n ei alluogi i farchnata ein hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol, nid yn unig i bobl Cymru, ond i'r byd.
Rwy'n cydnabod bod angen cytundeb ffurfiol ar gyfer partneriaeth strategol, ac rwy’n cefnogi’r ymagwedd hon yn llawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan wrth gefnogi a chyfrannu at y bartneriaeth, ond er mwyn iddi gyrraedd ei photensial llawn, credaf fod angen iddi gael ei harwain a’i hysgogi gan y sefydliadau dan sylw, â'u hadnoddau digonol hwy yn ei chefnogi. Yr wyf fi, felly, yn edrych ymlaen at drafod sefydlu'r bartneriaeth strategol a'i rhaglen waith â'r sefydliadau cenedlaethol, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl. Ac felly, i gloi, rwy’n derbyn holl argymhellion adroddiad y grŵp llywio, gyda'r cafeatau yr wyf wedi’u nodi heddiw. Rwyf wedi ymrwymo i alluogi ein sefydliadau treftadaeth i gynnig y budd economaidd mwyaf posibl i bobl Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at roi diweddariad i’r Siambr ar y cynnydd yn yr hydref.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw, sy’n dilyn datganiadau cynt ar y mater yma, wrth gwrs, fel rydym ni i gyd yn gwybod? Yn dilyn cyhoeddiad argymhellion y grŵp llywio ar ddechrau mis Chwefror, fe ofynnais i’r Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r argymhellion yn weddol gyflym, a’r rheswm am hynny oedd fy mod yn teimlo bod angen sicrwydd ar y sector wrth edrych i’r dyfodol. Wrth ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddod â’r datganiad ger ein bron heddiw, mae yna dal ambell gwestiwn sydd angen eu hateb.
Yn dilyn trafodaethau cynt, mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol fy mod i’n hollol hapus i gefnogi’r syniad o gydweithio rhwng y cyrff yn y sector, ond rwyf i’n bendant yn credu y dylid amddiffyn annibyniaeth y mudiadau yma hefyd. Yn wir, rwyf yn falch i weld bod y grŵp llywio hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y pwynt yma. Mae pwynt 3.1 o adroddiad y grŵp llywio yn dweud, yn Saesneg:
‘Because of charity law, governing charters and other statutory requirements, the recommendations will respect the identity, integrity, independence and core purposes of the national institutions’.
Mae adroddiad PricewaterhouseCoopers hefyd yn sôn am y risgiau sy’n gysylltiedig ag uno’r cyrff cenedlaethol yma i greu un corff ar draws y sector. Felly, siomedig oedd darllen yn llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet at Justin Albert ar 30 Mawrth y sôn am uno unwaith eto. Yn benodol, wrth sôn am argymhellion y grŵp llywio, meddai’r Ysgrifennydd Cabinet,
‘it is right that we test these opportunities and evaluate their impact before exploring whether a formal merger may be effective.’
Pam y sôn yma am uno ffurfiol drwy’r amser? Mae o yn y datganiad heddiw hefyd. O’m safbwynt i, mae neges y grŵp llywio yn glir, sef bod yna botensial i’r cyrff yma i gydweithio mewn partneriaeth strategol, ond y dylid parchu rhyddid ac annibyniaeth y mudiadau yma ar yr un pryd. A yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn deall bod sôn am uno ffurfiol yn creu ansicrwydd ymhlith y staff drwy’r sector a bod angen rhoi'r gorau i ddefnyddio'r term?
Yn nhermau Cadw, mae nifer o adroddiadau wedi sôn am yr angen i symud y corff tu allan i reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth—adroddiad yr Athro Terry Stevens, adroddiad PricewaterhouseCoopers, a nawr adroddiad y grŵp llywio. Felly, mi roeddem ni’n siomedig i weld yr Ysgrifennydd Cabinet yn cynnig yn ei lythyr at Justin Albert y dylid edrych at opsiynau eraill—yn ei eiriau ei hun,
‘an internal realignment or Welsh Government Sponsored Body’.
Mae hyn oll yn creu canfyddiad bod y Llywodraeth am reoli cymaint ag y gallan nhw yn ganolog.
Wrth gwrs, mae’n bwysig bod y Llywodraeth yn monitro effeithiolrwydd unrhyw fuddsoddiad yn y sector. Dyna beth fyddai trethdalwyr yn ei ddisgwyl. Ond mae’n bwysig nad yw’r Llywodraeth yn cyfyngu rhyddid ac annibyniaeth y mudiadau cenedlaethol yma, sy’n chwarae rôl unigryw a phwysig ym mywyd y genedl. Ac wrth sôn am fuddsoddiad, nid yw hi’n glir sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweld y bartneriaeth strategol yma yn gweithio ac os bydd yna adnoddau ariannol ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer delifro’r ystod eang o argymhellion fydd yn rhaid i’r bartneriaeth strategol fynd i’r afael â nhw.
Wrth gloi, a gaf i groesawu argymhelliad 4.8 y grŵp llywio ynghylch creu strategaeth sgiliau ar gyfer y sector diwylliannol, a hefyd gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet beth yw ei weledigaeth ef ynglŷn ag amgueddfeydd lleol fel rhan o’r datganiad yma? Rwyf wedi ymweld â nifer o amgueddfeydd lleol yn ddiweddar, yn cynnwys, yn naturiol, Abertawe, dro ar ôl tro, ond hefyd Dinbych-y-pysgod, ac mae yna gwestiynau yn codi ynglŷn â sut y mae’r sefydliadau hynny yn plethu gyda’r mudiadau cenedlaethol. Byddai diweddariad ar hyn hefyd o fudd. Diolch yn fawr.
Ie, gaf i ddiolch i Dai Lloyd am ei gyfraniad a'i gwestiynau? Rwy’n credu fy mod i wedi dweud ar nifer o achlysuron yn awr y gallai’r fenter Cymru Hanesyddol gynnig manteision enfawr i amgueddfeydd lleol, nid yn unig o ran sgiliau—dof at y pwynt hwnnw mewn eiliad—ond hefyd o ran hyrwyddo’r sector yn fwy eang a denu mwy o bobl sydd â diddordeb mewn treftadaeth i ymweld, nid yn unig â sefydliadau cenedlaethol, ond hefyd ag amgueddfeydd lleol. Ac rwy’n meddwl, yn arbennig, bod yna fanteision posibl o ran datblygu sgiliau o fewn y gweithlu, ac rwy’n credu y gallwn adeiladu ar argymhellion adolygiad Edwards o amgueddfeydd lleol i gysylltu sgiliau proffesiynol rhwng yr amgueddfa genedlaethol ac amgueddfeydd lleol. Rwy’n credu bod hyn yn rhywbeth y byddai'r amgueddfa genedlaethol yn awyddus i’w wneud . Rwy'n credu ei fod yn rhywbeth sydd ei angen yn fawr iawn ar amgueddfeydd lleol.
Gan symud ymlaen at bwyntiau eraill a godwyd gan yr Aelod, rwy’n meddwl yn gyffredinol bod canlyniad yr ymarfer hwn wedi dangos bod llawer o'r ofnau a oedd yn bodoli ar ddechrau'r broses hon yn ddi-sail i raddau helaeth. Mae gan y grŵp llywio aelodau sy'n cynrychioli pob un o'r sefydliadau cenedlaethol ac, yn hollbwysig, mae gan y grŵp llywio aelodau sy'n cynrychioli pob un o'r undebau llafur. Credaf fod y grŵp llywio wedi gwneud gwaith gwych yn ymgysylltu yn ystyrlon ac yn drylwyr â'r gweithlu ym mhob un o'r sefydliadau wrth gyrraedd yr argymhellion hyn. Ac nid oes ofn arnaf gadw meddwl agored o ran yr hyn y gallai'r dyfodol ei gynnig i'r sector, ac eithrio i ddweud bod yn rhaid i’r dyfodol hwnnw fod yn ddisglair ac yn gadarnhaol i bawb. Dyna pam yr wyf yn cadw meddwl agored ynghylch y modd penodol o sicrhau bod Cadw yn cael y rhyddid sydd ei angen arno i weithredu'n fwy hyblyg ac yn fwy rhagweithiol, ac i adeiladu ar lwyddiannau diweddar.
Os edrychwn ni ar sefyllfa Cadw heddiw, mae ganddo’r nifer uchaf erioed o aelodau, y lefel uchaf o incwm a’r nifer uchaf erioed o ymwelwyr, ond mae hynny'n ganlyniad i nifer o ffactorau: un, mae’r bobl gywir yn y sefydliad wedi cael y rhyddid a’r hyblygrwydd i fod mor greadigol ac ysbrydoledig ag y gallant fod. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr bod y sefydliad yn cael ei ddiogelu at y dyfodol, fodd bynnag, er mwyn gwneud yn siŵr nad oes potensial ar gyfer ymyrraeth ar lefel weinidogol a allai niweidio nifer yr ymwelwyr, incwm neu rifau aelodaeth. Am y rheswm hwnnw, hoffwn archwilio pob opsiwn ar gyfer rhoi’r cyfle mwyaf posibl i’r sefydliad fod mor arloesol â phosibl. Am y rheswm hwnnw, rwy'n agored i ystyried nid yn unig yr opsiynau sydd wedi eu cyflwyno yn yr adolygiad, ond hefyd opsiynau eraill y dylid eu hystyried yn rhan o'r broses o archwilio’r hyn yr wyf yn meddwl sydd orau, nid yn unig i Cadw, ond i’r sector cyfan.
O ran y bartneriaeth strategol, rwy’n gwybod bod yr Aelod yn croesawu un o’r argymhellion yn yr adroddiad. Yn seiliedig ar y teimlad yr oedd yn ei gyfleu, fy nghasgliad i oedd ei fod yn croesawu nifer o'r argymhellion, gan gynnwys argymhelliad ar gyfer cydweithio llawer agosach i'r graddau y mae twristiaeth ddiwylliannol yn y cwestiwn, i’r graddau y mae hyrwyddo safleoedd treftadaeth y byd yn y cwestiwn ac, wrth gwrs, i'r graddau y mae rhannu dyletswyddau swyddfa gefn yn y cwestiwn, nid lleiaf oherwydd bod rhywfaint o gydweithio yn digwydd eisoes, ond yn syml, nid yw hynny'n ddigon. Ac rwy’n credu mai’r hyn y dylai’r holl Aelodau gadw mewn cof, yn enwedig y rhai a oedd yn gwrthwynebu’r fenter hon o'r cychwyn, yw na fyddem yma heddiw, gyda chytundeb pob un o'r sefydliadau cenedlaethol a chynrychiolwyr yr undebau llafur, pe na bai'r Llywodraeth hon wedi cynnig camau newydd ond radical i roi'r sector ar sylfaen fwy sefydlog, a dyna yw ein nod—sicrhau bod y sector yn ei gyfanrwydd yn gallu dod trwy'r storm a fydd yn parhau i'r graddau y mae cyllid cyhoeddus yn y cwestiwn.
O ran sôn am uno, rwy'n credu ei fod yr un mor beryglus i Aelodau ddiystyru unrhyw lwybrau posibl ar gyfer ein sefydliadau cenedlaethol yn y dyfodol ag y mae i Aelodau fynnu y dylai un llwybr gael ei ddilyn yn hytrach nag un arall. Bydd yr hyn sydd orau i’r sector yn sicr yn cael ei farnu gan y sector a’r rhai sy’n rhan ohono, nid yn unig gan y rhai sy'n rhedeg sefydliadau, ond gan y gweithlu cyfan. Ond gadewch i ni gytuno ar rywbeth: beth bynnag a fydd yn digwydd yn y dyfodol, rydym ni i gyd yn dymuno i'r sector fod mewn sefyllfa lawer cryfach, fwy cadarn yn y blynyddoedd i ddod nag y bu yn ystod y cyfnod hwn o galedi anodd.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am, fel yr ydych yn ei ddweud, rannu eich meddyliau. Diolch i chi am gadarnhau eich bod yn derbyn argymhellion y grŵp llywio. Roeddwn yn synhwyro o’ch datganiad cynharach nad ydych wedi diystyru’n gyfan gwbl y syniad o Cadw hyd braich, nid lleiaf i gydnabod y rhyddid i wella'r potensial masnachol—rhywbeth sydd wedi ei ailadrodd yn y datganiad yma heddiw. Ac, wrth gwrs, mae'n farn a rennir gan eich grŵp llywio a ddewiswyd â llaw—mae’n grŵp llywio a ddewiswyd â llaw sydd, wrth gwrs, a barnu oddi wrth eich datganiad heddiw, wedi cynnig i chi yr hyn sy'n ymddangos i mi yn ddarn o gyngor braidd yn anghyfleus o gul. Mae'n debyg mai’r hyn yr wyf eisiau ei ofyn i chi yw: onid eu gwaith nhw oedd dod o hyd i'r opsiynau o ba fodelau a ddylai gael eu datblygu drwy achos busnes? Wrth gwrs, maen nhw wedi dod i'r casgliad bod modelau eraill nad oedd yn deilwng o gael eu datblygu yn achosion busnes. Felly, rwy'n eithaf chwilfrydig ynghylch pam yr ydych wedi penderfynu, yn ei hanfod, i beidio â thalu sylw dyledus i'r cyngor hwnnw, ac mae hwn yn un cafeat pwysig yma. I mi, mae'n edrych yn debyg eich bod yn anwybyddu eu cyngor yn hytrach nag yn derbyn eu hargymhelliad.
O ran dyletswyddau statudol Cadw, ar hyn o bryd does gen i ddim byd penodol i’w ychwanegu, ac eithrio i ddweud fy mod yn cytuno â'ch safbwynt na ddylai eu dyletswyddau gael eu gwanhau mewn unrhyw ffordd. Ond, wrth gwrs, byddai'r Cadw fwy rhydd yn fwy rhydd i wneud partneriaethau sydd heb eu cyfyngu gan eu dyletswyddau statudol presennol, ac rwy'n meddwl yn arbennig am bwerau posibl a allai eu helpu i gynnig mwy na chyngor ac arweiniad i berchnogion asedau hanesyddol, y mae llawer ohonynt yn fach ac nad ydynt hyd yn oed yn cael cefnogaeth ariannol gystal â Cadw.
Gan symud ymlaen at y bartneriaeth strategol, nid wyf yn credu bod unrhyw gwestiwn difrifol am fanteision cydweithio yma; mae symudiad pendant tuag at hynny beth bynnag. Cytunaf yn llwyr y dylai pob parti perthnasol gael y cyfle i brofi a, byddwn yn dweud, manteisio ar y cyfleoedd hynny cyn hyd yn oed ystyried y posibilrwydd o uno. Yn bersonol, hoffwn i i’r dewis o uno'n ffurfiol gael ei dynnu oddi ar y bwrdd nawr. Ond os ydych yn mynd i ddefnyddio’r math hwn o gleddyf Damocles, bydd angen i chi fod yn hollol glir—yn hollol, hollol glir—am sut y mae llwyddiant yn edrych a beth fydd yn osgoi'r posibilrwydd o uno. Gyda hynny mewn golwg, tybed a allwch chi ddweud wrthyf eich syniadau cynnar am y math o dargedau sydd yn eich barn chi yn briodol ar gyfer y bartneriaeth strategol. Pa fath o KPIs fyddai'n addas i fesur ei llwyddiant? Pwy fydd yn pennu dangosyddion perfformiad allweddol a thargedau—â phwy y byddwch yn ymgynghori ar hynny? Sut y byddwch yn sicrhau cydbwysedd rhwng swyddogaethau craidd y sefydliad â'i botensial masnachol? Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod Cadw, os yw y tu allan i Lywodraeth, yn dod at y bwrdd fel partner cyfartal ac nid fel rhyw fath o chwaer fawr awdurdodol? Ond, os ydyw’n aros o fewn y Llywodraeth, rwy’n meddwl y bydd gennych swydd anodd iawn i’n perswadio y gall Llywodraeth Cymru wedyn fod yn farnwr diduedd o ran pa un a yw gwaith y bartneriaeth strategol yn llwyddiannus ai peidio, oherwydd bydd yna wrthdaro buddiant amlwg.
Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa gymorth ac arweiniad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r bartneriaeth? Roeddech yn sôn yn gywir yn eich datganiad eich bod yn disgwyl i'r sefydliadau roi, ac rwy'n dyfynnu, eu 'hadnoddau digonol’ tuag at waith y bartneriaeth. Felly, sut ydych chi neu, yn wir, y nhw, yn nodi'r hyn sy’n ddigonol at ddibenion y gwaith pwysig hwn? Rwy'n meddwl tybed a allwch chi nodi unrhyw beth yn eich llinellau cyllideb eich hun a allai gael ei ddyrannu i hyn.
Ar y strategaeth sgiliau diwylliannol, ie, rwy’n credu bod hon yn ffordd wych, mewn gwirionedd, o helpu pobl ifanc i ddeall bod astudio pynciau gwyddonol yn llwybr i yrfa efallai na fyddent wedi’i hystyried—mae diwylliant a threftadaeth yn gyfeillion agos, mewn gwirionedd, i unrhyw beth sy’n ymwneud ag archaeoleg a chadwraeth, ac edrychaf ymlaen at glywed ychydig mwy am hynny.
Ond, yn olaf, ar frandio, pa mor realistig yw hi, yn eich barn chi, i’r brandiau sefydliadol, sy'n dra adnabyddus, fel yr oeddech yn cydnabod, allu gweithredu ochr yn ochr â Chymru Hanesyddol neu beth bynnag fydd yr enw mewn gwirionedd? Rwy’n gobeithio nad ydych chi'n sôn am achos o un o'r rhain yn canslo’r llall. Diolch.
A gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Yn bennaf oll, na, nid yw’r cyngor ar argymhelliad 1 yn cael ei anwybyddu. Rwyf eisoes wedi sicrhau’r Aelodau y bydd cynnwys y ddau opsiwn arall y tynnais sylw atynt yn ffurfio’r gwaith y mae’r swyddogion yn mynd i fod yn ei wneud wrth lunio achos busnes, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig ystyried pob opsiwn. Hefyd, awgrymodd yr Aelod bod aelodau'r grŵp llywio wedi eu dewis â llaw gennyf i. Roedd rhwydd hynt i’r sefydliadau hynny enwebu pwy oedd yn eistedd ar y grŵp llywio, ac, i sicrhau nad yw’r Aelodau mewn unrhyw amheuaeth, fe af i drwy'r aelodaeth: roedd gennym gadeirydd y grŵp llywio, sy'n gyfarwyddwr ar gyfer Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol—mae'n wir y penodwyd ef gennyf i ac fe wnaeth waith gwych; y cyfarwyddwr diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth o fewn Llywodraeth Cymru; prif weithredwr yr amgueddfa genedlaethol; prif weithredwr y llyfrgell genedlaethol; prif weithredwr y comisiwn brenhinol; swyddogion cenedlaethol o Prospect, PCS a FDA; a swyddogion cefnogol o Lywodraeth Cymru a Cadw.
Felly, roedd y grŵp llywio yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o'r sefydliad a hefyd staff ar y lefelau uchaf, ond roedd hefyd yn cynnwys aelodau o'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ar draws y sector cyfan. Credaf fod hynny’n gwneud y grŵp llywio yn gorff cynhwysol a oedd yn gallu ystyried yn fanwl iawn y cyfleoedd i'r sector yn y dyfodol, ac o ganlyniad cynhyrchwyd adroddiad, ac unwaith eto, rwy’n datgan fy nghefnogaeth iddo yn gyfan gwbl—pob un o'r naw argymhelliad.
Gofynnodd yr Aelod sut y byddai llwyddiant yn y dyfodol yn edrych i mi. Wel, gadewch i mi redeg drwy rai o'r ffactorau a allai, yn fy marn i, ddangos llwyddiant yn rhan o'r fenter hon. Yn gyntaf, cynnydd yn y nifer o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n cael eu hysgogi gan dreftadaeth. Yn ail, nifer yr ymwelwyr, nid yn unig â safleoedd Cadw, ond â'r amgueddfa, â'r llyfrgell, â'r comisiwn, ac yn wir yn llawer ehangach—y nifer o bobl sy'n ymweld â lleoliadau treftadaeth nad ydynt wedi eu rheoli gan neu dan ofal y sefydliadau cenedlaethol, gan mai holl bwynt y prosiect hwn yw creu mwy o frwdfrydedd a bywiogi diddordeb y cyhoedd yn y sector treftadaeth. Hefyd, cadernid; byddwn yn ystyried ei bod yn llwyddiant os yw cadernid yn y sector yn cael ei wella o ganlyniad i'r fenter hon, ond hefyd cyrhaeddiad y sefydliadau o ran ehangu mynediad. Ar hyn o bryd, yn anffodus, ceir gormod o bobl o hyd, yn enwedig o fewn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is, sy'n teimlo nad yw sefydliadau treftadaeth ar eu cyfer nhw. Rwy'n credu bod tasg yn parhau i chwalu rhwystrau, seicolegol neu fel arall, wrth ddenu sylfaen cwsmeriaid mwy amrywiol, ac rwy’n meddwl y bydd hynny'n fesur allweddol o lwyddiant.
Hefyd, effaith economaidd y sector. Yn ddiweddar, ymwelais â chwmni bach iawn ger Corwen, Corwen Glassblobbery. Efallai fod fy ffrind a’m cydweithiwr yr Aelod yn ymwybodol o'r cwmni, sy'n gwneud cerfluniau gwydr wedi’i chwythu yr ydym yn ei werthu ar hyn o bryd ar safleoedd Cadw. Pan oeddwn yno, gofynnon nhw a oedd unrhyw siawns y gallem gysylltu â'r amgueddfa genedlaethol a gofyn a allent eu stocio nhw yno. Wrth gwrs, rwy’n meddwl ei fod yn gwneud synnwyr perffaith, oherwydd os gallant ddyblu eu gwerthiant drwy weithredu o ddwywaith cymaint o safleoedd, yna yn sicr mae hynny'n dda i'r economi leol yn ac o amgylch Corwen, mae'n dda i'r busnes hwnnw, mae'n dda ar gyfer y sector, oherwydd mae'n dangos bod—. Ac, wrth gwrs, y broblem ar hyn o bryd yw bod ceisio llywio eich ffordd drwy'r sefydliadau gwahanol, i fusnes bach—fel yr wyf yn siŵr y gall yr Aelod gydymdeimlo, gan fod llawer o berchnogion busnesau bach yn brin o amser—gall fod yn lladdfa. Ond pe baech ond yn gweithredu drwy un swyddogaeth fasnachol, gan ddwyn ynghyd Cadw, yr amgueddfa, y llyfrgell a'r comisiwn, a phe byddech ond yn gorfod delio ag un, ond eich bod yn cael y fantais o werthu drwy bob un, yna yn sicr, mae hynny’n rhywbeth i'w groesawu. Mae hynny'n dda i fusnes, mae hynny'n dda i'r economi, sy'n dda ar gyfer tyfu swyddi ac ar gyfer twf economaidd. Felly, bydd hynny’n nodwedd yn yr hyn y byddwn i’n ei ystyried yn ganlyniad llwyddiannus.
Mae’r ddau Aelod sydd wedi siarad hyd yn hyn wedi gofyn am linellau cyllideb a pha un a ellir dyrannu adnodd ychwanegol i'r fenter hon. Wel, yn gyntaf oll, rydym yn edrych ar gost yr achos busnes sydd wrthi’n cael ei lunio, ac rwy’n credu y bydd yr adnodd ychwanegol yn werth chweil, oherwydd mae angen i ni gael y canlyniadau gorau posibl i Cadw a'r sector, ac felly rwy’n barod i gyfrannu mwy i'r ymarfer hwn. Yn y tymor hwy, holl bwynt tynnu’r sector yn agosach at ei gilydd yw manteisio i’r eithaf ar botensial masnachol y sector, ac felly nid wyf yn gweld rheswm pam y byddai angen adnoddau ychwanegol. Yn wir, byddwn yn gobeithio, o ganlyniad i’r cam mawr hwn ymlaen, y byddwn yn gallu cynyddu elw o fewn y sector, cynyddu incwm, ac felly cryfhau'r sector ac o bosibl, tyfu llawer iawn mwy o swyddi a sicrhau'r sgiliau sydd yn y sector ar hyn o bryd. Unwaith eto, rwy’n gwneud y pwynt bod y weledigaeth sydd gennym ar gyfer y sector treftadaeth yn un sy'n gweld twf ac ehangu mynediad wrth wraidd pob peth a wna.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ystyriol a’ch ymateb i naw argymhelliad y grŵp llywio. Rwyf am ddechrau drwy nodi'r sylwadau a wnewch o ran Cadw a’r hyn a ddywedwch am y gwelliant trawiadol i brofiad ymwelwyr a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ochr yn ochr â chofleidio cynulleidfa a thechnoleg newydd. Rwy'n credu bod hynny’n sefyll allan i mi gan ei fod yn cyd-fynd â fy mhrofiad fy hun yn ddiweddar yn fy etholaeth o ran sut y mae Cadw wedi bod yn gweithio gyda chastell y Fflint a'r gymuned leol, nid yn unig i greu byrddau ymwelwyr rhyngweithiol, ond grisiau newydd yn nhŵr y gogledd-ddwyrain am yr hyn yr wyf yn credu yn ôl pob tebyg yw’r tro cyntaf mewn hanes cyfoes, neu gof cyfoes, beth bynnag. Ond, yr hyn sy’n sefyll allan i ni yn y gymuned yw'r ffordd, mewn gwirionedd, y mae Cadw wedi cymryd ymagwedd sy’n edrych tuag at allan o ran cynnwys y gymuned ac edrych ar ganolfan ymwelwyr newydd, sydd mewn gwirionedd nid yn unig yn mynd i fod yn ganolfan ymwelwyr fel y cyfryw, ond yn ganolfan sy’n dod â sefydliadau cymunedol eraill yn y gymuned at ei gilydd yn rhan ohoni, ac yn rhoi perchnogaeth iddynt, sydd yn ei dro yn cynyddu ymgysylltiad pobl a’u hymweliadau â’r castell a'r ardal gyfagos.
Gan ddychwelyd at ddatganiad heddiw, ar hynny, rwy’n meddwl—a oes gwersi y gallwn eu dysgu ar gyfer Cadw ar draws Cymru hefyd, o ran adeiladu ar y profiad hwnnw o sut y gallant fod yn arloesol ac ymgysylltu â'r gymuned? Ond a dychwelyd i rywle arall yn y datganiad heddiw, byddwn i'n awyddus i wybod sut y mae'r argymhellion ar gyfer mwy o gydweithredu a gweledigaeth ar gyfer partneriaeth strategol fel ateb i ddiogelu ein treftadaeth yn helpu i wella ein harlwy treftadaeth ledled Cymru, yn enwedig yn y gogledd-ddwyrain, sydd ar hyn o bryd wedi’i gynrychioli'n eithaf gwael gan y sefydliadau cenedlaethol. Yn olaf, yn ogystal, rwy'n falch o glywed eich bod wedi crybwyll undebau llafur nifer o weithiau yn eich datganiad cychwynnol ac yn eich ymatebion i gydweithwyr a’r ymrwymiad hwnnw i’r ysbryd o bartneriaeth gymdeithasol yma yng Nghymru. Ond hoffwn i mewn gwirionedd ofyn i chi a allwch chi egluro heddiw: beth fyddai goblygiadau posibl mwy o gydweithio ar gyfer gweithwyr yn y sector?
Wel, a gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau, a hefyd am ei sylwadau? Gwnaeth presenoldeb cynrychiolwyr undebau llafur ar y bwrdd llywio ychwanegu gwerth enfawr, a hefyd sicrhau bod gweithlu pob un o'r sefydliadau, ac yn wir y rhai a oedd wedi eu cyflogi drwy Cadw, yn cael eu cynrychioli'n dda ar bob cam. Rydw i wedi bod yn benderfynol drwy gydol y broses hon i sicrhau y gall gweithwyr ym mhob sefydliad ar draws y sector edrych ymlaen at well yfory, nid dim ond iddyn nhw a'u cydweithwyr, ond hefyd i’r bobl ifanc hynny a fyddai'n dymuno dilyn gyrfa o fewn y sector, ond ar hyn o bryd, o ystyried pa mor fregus yw'r sector, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU, yn amau pa un a fyddai'n werth caffael sgiliau a mynd i'r brifysgol er mwyn cael cymwysterau a fyddai yn y pen draw yn arwain at ddiweithdra wrth geisio dod o hyd i swydd yn y sector penodol hwnnw. Ac felly, yr hyn sydd wedi bod yn bwysig i ni bob amser yw'r canlyniad i weithwyr, lawn cymaint â'r canlyniadau i bobl Cymru—yr ymwelwyr, y cwsmeriaid, y defnyddwyr, y cyfranogwyr. A siarad am ddefnyddwyr, cyfranogwyr a chwsmeriaid, mae’r Aelod yn llygad ei lle; mae’r gogledd-ddwyrain wedi’i gynrychioli yn wael ar hyn o bryd gan sefydliadau cenedlaethol o ran presenoldeb ffisegol gwirioneddol unrhyw sefydliadau. Nid oes yno unrhyw amgueddfa genedlaethol, nid oes yno ddim presenoldeb llyfrgell genedlaethol, fel y cyfryw, neu gomisiwn. Fodd bynnag, mae safleoedd Cadw amlwg iawn, iawn yn y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys, yn etholaeth Delyn, Castell y Fflint. Rwy'n gweld cyfle gwych yn y dyfodol wrth ddod â swyddogaethau masnachol yr holl sefydliadau ynghyd i ddarparu mwy o gyfleoedd, mwy o ddigwyddiadau, mwy o weithgareddau o fewn rhanbarthau sydd yn debyg i Delyn a gweddill y gogledd-ddwyrain sydd wedi’u cynrychioli yn gymharol wael neu nad oes yno gymaint o atyniadau i ymwelwyr ag sydd mewn rhannau eraill o Gymru.
O ran yr hyn y mae Cadw wedi'i wneud a'r hyn y mae Cadw yn parhau i’w wneud, roeddwn yn falch o weld draig Caerffili yn ymweld â chastell y Fflint, ymhlith llawer o rai eraill, yn ystod haf 2016. Mae'n ddiddorol bod y ddraig wedi helpu i ysgogi’r nifer mwyaf o ymwelwyr yn ystod cyfnod yr haf erioed—roedd oddeutu 600,000 o bobl wedi ymweld â safleoedd Cadw lle’r aeth y ddraig. Mae hynny'n gynnydd enfawr ar y flwyddyn flaenorol, ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd gennych y bobl fwyaf creadigol yn gyfrifol am hyrwyddo ein safleoedd treftadaeth. Rwy’n meddwl y bydd y sefydliadau y bydd Cadw yn cydweithio â nhw yn awr yn rhan o bartneriaeth strategol yn elwa yn fawr ar gael y raddfa honno o arloesi a chreadigrwydd yn gweithio ochr yn ochr â'u staff presennol.
Ein nod yw gwneud yn siŵr bod safleoedd Cadw yn apelgar ac yn gyffrous, eu bod yn gynhwysol ac yn groesawgar, ac rwy’n meddwl, yn rhan o waith y bartneriaeth strategol ar dwristiaeth ddiwylliannol, bod potensial, drwy'r bartneriaeth strategol, i gytuno i fenter 'croeso cynnes Cymreig' a allai ddod â safon uchel gyson o groeso ym mhob safle treftadaeth yng Nghymru.
Rwy'n credu ei fod hefyd yn werth nodi bod gan Lywodraeth Cymru, yn ymrwymiad yn ei rhaglen lywodraethu, awydd i weld darpariaeth twristiaeth gymdeithasol gref iawn yn datblygu ledled Cymru. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r sector treftadaeth gydweithio'n agos, gan y bydd twristiaeth gymdeithasol i raddau helaeth yn seiliedig ar ein hasedau treftadaeth gorau. Felly, er mwyn cael y gorau ar gyfer pobl Cymru, a fydd yn elwa ar y fenter dwristiaeth gymdeithasol, rydym angen i'r partneriaid o fewn y sector treftadaeth weithio'n agos gyda'i gilydd.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ac am ei sylwadau cynhwysfawr hyd yn hyn. Ni all fod unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd ein treftadaeth Gymreig i economi ein gwlad, ac, yn wir, ei swyddogaeth ganolog wrth ddenu’r 1 miliwn a mwy o dwristiaid yr ydym yn eu croesawu i Gymru bob blwyddyn. Rwyf wedi nodi eich sylwadau a'ch geiriau yn cydnabod gwaith Cadw a byddwn yn ychwanegu fy ngwerthfawrogiad am y gwaith y maent wedi ei wneud i gynnal a chadw treftadaeth gyfoethog Cymru ar ein rhan, ac, wrth gwrs, cenedlaethau'r dyfodol.
Ond efallai mai nawr yw'r amser am ddull gwahanol a sefydlu corff sy'n cwmpasu pob agwedd ar dreftadaeth Cymru. Fodd bynnag, rwy’n teimlo ei bod yn hanfodol—ac ategaf sylwadau Dai Lloyd yma—bod y sefydliadau hynny o fewn y corff yn cadw’r awdurdod a’r annibyniaeth a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu priod gylchoedd gwaith yn effeithiol. Er gwaethaf y cafeat hwnnw, partneriaeth strategol â chorff sydd â throsolwg yw, yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o fwrw ymlaen. Dylid hefyd cael rhaglen o welliannau parhaus i nodi’r sgiliau a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen ar sefydliad o'r fath, er mwyn cynnal a gwella'r sector hanfodol hwn. Rwy’n deall y pryderon sydd gennych am strwythur y corff llywodraethu hwn a'ch diwydrwydd dyladwy o ran pa un a ddylai fod o fewn y Llywodraeth neu ar hyd braich, ac mae hyn, wrth gwrs, i'w groesawu.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gweld y datganiad hwn yn gam cadarnhaol i gynyddu ymwybyddiaeth a phroffil y dreftadaeth ragorol yr ydym ni yng Nghymru mor falch ohoni. Bydd UKIP yn cefnogi eich uchelgeisiau yn y cyfeiriad hwn.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ddatganiad hael ac am y gefnogaeth y mae ef a'i gydweithwyr yn ei roi i’r fenter hon? Rwy’n ddiolchgar iawn am hynny. Ein nod yw sicrhau bod manteision economaidd net o'r fenter hon, nid yn unig ar gyfer y sector, ond, unwaith eto, ar gyfer economi Cymru gyfan. Rwy’n credu, er y gallwn gadw annibyniaeth y sefydliadau, y dylem hefyd gydnabod cyd-ddibyniaeth y sefydliadau hynny a'r manteision o weithio’n agosach gyda'i gilydd. I gyfeirio at bwynt a godwyd yn gynharach gan Suzy Davies o ran hyrwyddo ein sefydliadau a’n hasedau treftadaeth, os ydym yn rhoi ein hunain yn sefyllfa dinasyddion Cymru sy’n chwilio am wybodaeth am asedau treftadaeth, siawns nad yw’n haws i gael gafael ar wybodaeth am bob un o'r sectorau drwy un porth, yn gyntaf oll—drwy un porth sy'n gallu cynnwys holl gyfoeth ein treftadaeth a hanes, ac yna darganfod ac archwilio amryw gydrannau Cymru Hanesyddol: ein hamgueddfeydd, ein cestyll, ein habatai, ein llyfrgell, ein comisiwn brenhinol. Mae’n rhaid mai dyna'r ffordd orau i ddinasyddion Cymru, ac yn wir ddinesyddion unrhyw wlad, i ddarganfod ac i ddysgu am dreftadaeth wych Cymru.
Wel, rwy’n ffeindio fy hun mewn sefyllfa annisgwyl iawn—rydw i’n cytuno efo pob gair a ddywedodd David Rowlands, ac yn gresynu at yr agwedd negyddol sydd yn dod o gyfeiriadau eraill, ac mae’r Gweinidog yn gwybod hyn. Ond a gaf i jest gofyn dau gwestiwn? Yn gyntaf, mae’r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhellion gan y grŵp llywio, dan gadeiryddiaeth ragorol, rydw i’n siŵr, Justin Albert, o’i adnabod drwy’r ymddiriedolaeth, yn golygu felly fod y Gweinidog yn symud ymlaen, yn gyffredinol, i weithredu i gyfeiriad yr argymhellion yna. Dyna’r cwestiwn cyntaf. A’r ail gwestiwn ydy: beth ydy’r amserlen y mae’r Gweinidog yn gobeithio ei dilyn yn y cyfeiriad yma? Oherwydd mae rhai ohonom ni sydd yn rhannu ei weledigaeth o wedi bod yn deisyfu ers blynyddoedd i weld y sefydliadau mawr cenedlaethol yma yn cael eu hail-eni i’r unfed ganrif ar hugain, fel y ganwyd nhw ar dro’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Ac mae’r gwaith gwych y mae Cadw yn ei wneud—ac rydw i wedi cyfeirio at hyn o’r blaen—yn enwedig yn dehongli safleoedd megis castell Harlech yn ddiweddar, a’r modd y mae hynny wedi effeithio ar economi yr ardal yn uniongyrchol, yn dangos beth sydd yn bosib ei wneud o allu cael mwy o gydweithio. Felly, mwy o wynt yn hwyliau’r Gweinidog a David Rowlands.
Wel, a gaf i ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol a charedig, a dweud bod y buddsoddiad yng nghastell Harlech wedi cyflwyno manteision enfawr i'r gymuned? Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol iawn yn nifer yr ymwelwyr â'r castell, ac mae hefyd wedi ennill—dwi'n falch o ddweud—nifer o wobrau pensaernïol cenedlaethol. Mae wedi helpu i roi Cymru ar y map byd-eang yn ystod y Flwyddyn Antur, ac yn parhau i wneud hynny eleni trwy’r Flwyddyn Chwedlau. Dyma’r union fath o fuddsoddiad y byddwn i'n hoffi ei weld yn cael ei lywio tuag at lawer mwy o'n lleoliadau a’n hasedau yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Hoffwn gadarnhau, ie, y byddaf yn gweithredu pob un o'r argymhellion, ac rwy’n dymuno gwneud hynny mor gyflym ag sy’n bosibl. Mae'r grŵp llywio wedi rhoi awgrym o'r dyddiadau erbyn pryd y dylwn i fod mewn sefyllfa i weithredu'r argymhellion, neu yn wir y dyddiadau erbyn pryd y dylem ddisgwyl i'r bartneriaeth strategol gael ei sefydlu. Hoffwn weld y targedau’n cael eu cyrraedd o ran y dyddiadau hynny. Rwy’n meddwl bod gennym gyfle yn awr i fynd â’n gorffennol i’r dyfodol mewn ffordd sy'n ei gyflwyno i fwy o bobl—pobl nad ydynt, hyd yn hyn, wedi cael y cyfle, efallai y diddordeb na'r awydd, i ymweld â safle treftadaeth, ond rwy’n siŵr y byddent yn gwneud, o gael y cyfle i archwilio mewn ffordd sy'n bodloni eu diddordebau cynhenid. Felly, edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, fel y dywedais, a hynny mor gyflym ag sy’n bosibl.
Rwy'n meddwl bod dechrau gyda'r syniad o bartneriaeth strategol yn bendant yn ddechreuad gwell. Rydym, mewn meysydd eraill o bolisi cyhoeddus, yn edrych ar y manteision o bartneriaeth strategol, ond rwyf eisiau pwysleisio'r angen am annibyniaeth ddeallusol a'r gallu i feddwl yn greadigol. Mae'r rhain yn ganolog i sefydliadau treftadaeth, yn arbennig yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol. Rwy'n credu y bydd unrhyw brawf o'r modd y bydd y partneriaethau strategol hyn yn gweithio yn dod i lawr i hyn gan fod yn rhaid i’r sefydliadau hyn, yn anad dim, archwilio'r byd o syniadau yn llawn a sut y mae’r syniadau hynny yn cael eu cynrychioli. Weithiau, eu cenhadaeth—gadewch i ni wynebu hyn—yw herio barn gyffredin a herio dehongliadau sydd wedi dod yn ddatganiadau o ffydd bron. Gall hynny eu gwneud yn amhoblogaidd iawn gyda gwleidyddion. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud bod ymwneud rhy weithredol gan Weinidogion yn niweidiol, a dyna pam. Nid yw yn ddim byd yn ei erbyn ef neu yn wir unrhyw un o'i gydweithwyr; byddai hyn yn wir am y Llywodraeth Geidwadol gadarnaf y gallwn i ei dychmygu.
Rwyf newydd fod yn edrych ar blog yr amgueddfa genedlaethol am enghraifft o'r hyn yr wyf yn ei olygu, ac mae 'na ddarn rhagorol yno ar 'Cymru Yfory', sef yr arddangosfa y gwnaethant ei chynnal ym 1969 fel y digwyddiad swyddogol a gynhaliwyd ganddynt i ddathlu’r arwisgiad. Roedd yn ymwneud â myfyrdodau ar hynny, ond yn enwedig ar oes y gofod, Apollo 11, a’r holl brofiad gweledol a oedd yn cael ei newid gyda’r dyluniadau cyfoes hyn a beth bynnag. Mae lluniau gwych ar y safle blog hwnnw, yr wyf yn gobeithio y bydd pobl yn edrych arnynt.
Roedd hwn yn ddatblygiad rhyfeddol—y tro cyntaf i rywbeth gwirioneddol gyfoes ymddangos ym mhrif neuadd yr amgueddfa, ac roedd yn pwysleisio nad yw amgueddfeydd yn ymwneud â dehongli'r gorffennol yn unig. Gallaf ddychmygu, pe byddai’r sefydliad hwn wedi bodoli bryd hynny, y byddai rhai ohonom efallai wedi bod yn dweud, 'Beth yn y byd y mae’r amgueddfa yn ei wneud, pan ddylem fod yn marcio rhyfeddodau'r arwisgo mewn ffordd fwy traddodiadol?' Wyddoch chi, dathliadau ceramig, neu beth bynnag, o ddigwyddiadau brenhinol y gorffennol. Byddai gennyf lawer o amser ar gyfer y math hwnnw o arddangosfa os oes unrhyw un yn awyddus i’w chynnal, ond nid yw'n fater i ni i wneud y dewisiadau hynny. Mae angen i ni gael ein profi ac mae angen i ni gael ein herio.
A gaf i orffen drwy ddweud fod gwir angen am ragoriaeth ddeallusol yma, yn ogystal â'r pethau cadarn iawn yr ydych wedi’u dweud am yr angen am hygyrchedd? Oherwydd gall yr holl bobl elwa ar weld digwyddiadau sy'n ddehongliadau gwych a phrofi ein safbwyntiau. Ond mae'r amgueddfa a'r oriel genedlaethol, a’r llyfrgell, wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo enw da David Jones a Thomas Jones, ymysg eraill, yn yr ugeinfed ganrif—dau ffigur rhagorol a oedd wedi eu hanwybyddu ac sydd bellach yn eu cael eu hystyried yn aelodau aruthrol, mewn gwirionedd, o’r pantheon artistig creadigol. Mae 'na gofiant newydd o David Jones newydd ei gyhoeddi, sy'n cael ei adolygu yn 'The Economist ', er enghraifft, ac mae 'In Parenthesis' yn amlwg wedi ei ail-ddehongli gan Owen Sheers. Mae'r rhain yn gyflawniadau gwych, a gallai’r ddau ffigur hynny, heb y gwaith a wnaed gan ein sefydliadau treftadaeth, barhau i gael eu hanwybyddu, a hynny’n anhaeddiannol. Mae hynny ynddo'i hun yn gwneud gwaith gwych dros Gymru ac yn cyflwyno ein neges ac yn ein galluogi i ffynnu a mwynhau ein bywyd cenedlaethol yn llawn.
A gaf i ddiolch i David Melding am ei gyfraniad a dweud fy mod yn cytuno'n llwyr bod yn rhaid cael gonestrwydd deallusol, ac y dylai’r gonestrwydd hwnnw gael ei gynnal a'i ddiogelu? Dylai fod yna ryddid i herio, i fod yn aflonyddgar a hefyd i fod yn arloesol. Rwy’n credu mai’r Athro Dai Smith a ddywedodd mai swyddogaeth diwylliant a sefydliadau diwylliannol yw aflonyddu ar y sefydliad a'r status quo, ond yn yr un modd rwy'n credu weithiau fod angen i lywodraeth fod yn arloesol ac i herio hefyd. Dyna'r union beth yr ydym yn ei wneud. Rydym yn gwneud yn siŵr bod y rhai sydd ar hyn o bryd yn mwynhau'r rhyddid a'r annibyniaeth i weithredu yn greadigol, yn gyflym, yn ddeinamig yn parhau i wneud hynny heb fod yn warchodol.
A dweud y gwir, rwy’n gwneud yr hyn sydd y gwrthwyneb llwyr i'r hyn yr ydych yn ein rhybuddio ni i beidio â’i wneud, a byth i'w wneud, oherwydd rwy’n dweud wrth Cadw: 'Os gwelwch yn dda, byddwch yn rhydd. Byddwch yn rhydd o unrhyw fath o weithredu aneffeithlon sy’n digwydd ar hyn o bryd, neu unrhyw reolaeth gan Weinidog.' Wyddoch chi, mae'n eithaf rhyfeddol bod yn rhaid i drydariad gan Cadw gael ei gymeradwyo gennyf i yn yr oes sydd ohoni o gyfryngau cymdeithasol yn y fan a’r lle. Y cyfan y mae hynny’n ei wneud yw gwneud y system gyfan yn aneffeithlon ac yn aneffeithiol. Nid yw'n caniatáu iddynt ymateb yn gyflym, ac yn sicr nid yw hynny er fy lles i, nid yw hynny er lles y Llywodraeth, ac nid yw hynny er lles Cadw neu les Cymru. Felly, mewn gwirionedd, yr hyn yr wyf i'n ei wneud yw’r gwrthwyneb llwyr i’r hyn yr oedd y rhai oedd yn ofni’r broses hon yn ei awgrymu fy mod yn ei wneud. Yr hyn yr wyf yn ei wneud mewn gwirionedd yw rhoi, nid cymryd mwy o reolaeth, ac rwy'n gwneud hynny er mwyn sicrhau bod y sefydliadau eu hunain gyda’i gilydd yn gryfach.
Gwnaeth David Melding bwynt cryf iawn am weithgareddau presennol yr amgueddfa, a fy nghred i yw nad yw gonestrwydd deallusol ac apêl gynhwysol yn annibynnol oddi ar ei gilydd, a gyda'n gilydd—unwaith eto, gyda’n gilydd—gall y sefydliadau, rwy’n credu, ehangu'r ystod o bobl sy'n cael eu denu at eu gweithrediadau a’u gweithgareddau, er lles Cymru gyfan a phob un o'n cymunedau.
Bydd ein sefydliadau treftadaeth cenedlaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth wella lles Cymru ac rwy’n gobeithio, trwy weithio gyda'n gilydd, y byddant yn elwa ar y gwaith y byddant yn ei wneud ar gyfer y wlad.
Ac yn olaf, Bethan Jenkins.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymateb ac rwyf wedi gwrando ar yr holl ymatebion yma heddiw. Fy ymateb cyntaf fyddai dweud wrthych chi, os ydych yn derbyn argymhellion y grŵp yr ydych wedi ei gomisiynu, pam nad ydych chi wedi diystyru uno? Rydw i'n ei chael hi'n anodd deall, os ydych chi’n derbyn yr argymhellion hynny, pam y mae angen i chi gomisiynu mwy o ymchwil o fewn eich Llywodraeth ynghylch rhagolygon Cadw yn y dyfodol. Does bosib, os ydych yn derbyn yr argymhellion hynny, na allwch yn awr gario’r argymhellion hynny ymlaen fel y maent yn sefyll? Oherwydd ein bod ni i gyd yn deall yma bod gweision sifil ar y gweithgor penodol. Felly, rwy’n ceisio deall pam yr ymddengys bod yr arbenigwyr yn cael llai o lais, o bosibl, na gweision sifil o fewn eich Llywodraeth. Os ydynt yn mynd i gynnig yr argymhellion adeiladol hyn, nid wyf yn teimlo, o'r hyn yr ydych yn ei ddweud heddiw, bod hynny wedi ei gwir adlewyrchu yn eich ymateb.
Fy ail bwynt fyddai, yr wyf wedi clywed o gwestiynau niferus y mae Dai Lloyd ac eraill wedi’u gofyn yn y gorffennol y byddech yn dweud y byddai yna ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn. Nid wyf wedi clywed unrhyw beth heddiw ar y sail honno, felly rwy'n gofyn beth y gallwch ei ddweud wrthym, pan fyddwch yn gwneud penderfyniad o’r diwedd, am sut y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Mae pobl yn mwmian pethau yma—nid wyf wedi eich clywed yn dweud pa bryd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig i ni ei glywed yma heddiw.
Y cwestiwn arall yw, gwn fod y llyfrgell genedlaethol yn croesawu'r adolygiad y maent yn ei gael, ond byddwn yn bersonol yn chwilfrydig i glywed eich barn chi am sut y mae sefydliadau eraill yn cael eu hadolygu, os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw uno neu unrhyw newidiadau, hefyd. Oherwydd, er eich bod chi ac eraill wedi crybwyll llwyddiannau Cadw yn ddiweddar, maent wedi bod yn tanberfformio’n hanesyddol o gymharu â sefydliadau cenedlaethol eraill. Mae'n eithaf anodd i gael yr holl fanylion am incwm a gwariant. Mae fy nghydweithiwr Dai Lloyd wedi cyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth, ac mae wedi ei chael yn anodd cael yr holl wybodaeth honno. Felly, pe gallem gael adolygiad o Cadw a hefyd adolygiad o gyrff eraill, yna rwy’n meddwl y byddai hynny'n deg mewn cysylltiad â'r broses hon.
Fy mhwynt arall fyddai, rwy'n ei chael hi'n anodd hefyd—rwy’n ei chael hi’n anodd iawn heddiw—i ddeall, os ydych chi’n cefnogi neu'n edrych ar y posibilrwydd o uno, sut y byddai hynny’n peidio â golygu y byddai eu hannibyniaeth yn cael ei danseilio. Oherwydd, os ydych yn mynd i fod yn cymryd swyddogaethau masnachol oddi arnynt ac os bydd yna ryw gorff yn gwneud y penderfyniadau hynny, pa ymyriadau a fyddai ganddynt, neu ba lais fyddai ganddynt yn y broses honno? Rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn un o'r pryderon allweddol. Ond yn ymarferol, os yw’r annibyniaeth honno i gael ei gwireddu—rydych yn dweud eich bod yn ei chefnogi—yna beth mae hynny'n ei olygu mewn termau ymarferol iddynt fwrw ymlaen â gallu gwneud y penderfyniadau bob dydd hynny fel y gallant gynnal arddangosfeydd amrywiol? Nid y byddwn i'n dymuno gweld yr un mathau o arddangosfeydd â David Melding, ond byddwn i'n awyddus i weld arddangosfeydd sydd wedi eu cynnal ganddynt yn fewnol fel sefydliadau cenedlaethol.
Felly, rwy’n clywed beth y mae pobl yn ei ddweud ac nid wyf yn credu bod neb yn erbyn newid, ond nid wyf yn deall pam fod uno yn dal i fod ar y bwrdd a sut y byddwch yn cynnal y trafodaethau hyn os ydynt yn teimlo, o bosibl, nad ydych chi wedi gwrando arnynt gystal ag y gallech fod wedi gwneud. Diolch.
A gaf i ddiolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau a’i phwyntiau? Fe fyddwn i mewn gwirionedd yn gwrthwynebu'r honiad nad oes neb yn erbyn newid. Rwy'n credu y bu gwrthwynebiad i'r fenter hon. I'r rhai sydd wedi gwrthwynebu cydweithio agosach, gofynnaf un cwestiwn syml iawn: beth yw eich gweledigaeth amgen? Oherwydd, a dweud y gwir, os nad oes yna weledigaeth, os nad oes yna weithredu, yna bydd y sector treftadaeth yn adfeilio yn y blynyddoedd i ddod. Felly, mae'n weithredu sy’n ofynnol gan y Llywodraeth a dyna yn union beth yr ydym yn ei gyflwyno.
O ran y potensial ar gyfer ymgynghoriad, nid wyf yn credu y byddai partneriaeth strategol rhwng y sefydliadau annibynnol hynny yn gofyn am ymgynghoriad oni bai eu bod nhw yn dymuno cynnal un, a byddai ymgynghoriad ar ffurf Cadw yn y dyfodol yn dibynnu ar yr achos busnes ac, yn y pen draw, y cynnig a wnawn ar gyfer ei ddyfodol y tu mewn neu'r tu allan i’r Llywodraeth. Felly, byddai hynny yn ystyriaeth ar gyfer yr hydref. O ran perfformiad pob un o'r sefydliadau, wrth gwrs, mae Simon Thurley yn cynnal adolygiad o'r amgueddfa ar hyn o bryd. Mae'n gwneud gwaith meincnodi yn rhan o'i adolygiad. Ond holl bwrpas i ni newid y ffordd y mae Cadw yn estyn allan at ddinasyddion Cymru, at gwsmeriaid, ac at ymwelwyr, oedd oherwydd fy mod yn teimlo nad oeddem yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd, er yn seiliedig ar waith eithaf bras a wneuthum yn bersonol wrth feincnodi safleoedd Cadw yn erbyn mathau tebyg o asedau hanesyddol yn Lloegr a'r Alban. Rwy'n meddwl bod y ffaith ein bod ni wedi gweld cynnydd mor sydyn yn nifer yr ymwelwyr yn safleoedd Cadw yn cyfiawnhau'r gred a oedd gennyf, sef y gallem ac y dylem wneud mwy â'n hasedau. Rwy’n credu y dylem ni ac y gallwn ni wneud mwy â phob un o'r sefydliadau yn y blynyddoedd i ddod, a hynny nid yn unig ar ran y bobl sy'n gweithio yn y sefydliadau, ond hefyd y bobl, trethdalwyr, sy'n talu amdanynt, ac ymwelwyr sy'n cerdded trwy eu drysau. Felly, fy marn i yw bod angen gweithredu. Fe fu yna wrthwynebiad i newid. Rwy'n credu yn awr, i raddau helaeth, bod y gwrthwynebiad hwnnw wedi diflannu, ond y prawf fydd i ba raddau y mae pawb yn awr yn cofleidio’r angen am fwy o gydweithio a phartneriaeth.
Yn olaf, y pwynt a wnaed, neu’r awgrym a wnaed, fod swyddogion ar y grŵp llywio rhywsut yn arwain y grŵp llywio at ei gasgliadau, nid wyf yn credu bod hwnnw’n honiad teg ac nid wyf yn credu bod hynny yn cyflwyno mewn modd teg y cryfder barn a’r arbenigedd a gyflwynwyd gan y bobl hynny sy'n cynrychioli'r sefydliadau cenedlaethol.
Thank you to the Cabinet Secretary.