– Senedd Cymru am 2:39 pm ar 2 Mai 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar adroddiad tueddiadau’r dyfodol Llywodraeth Cymru. Ac rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a ddaeth i rym bron i ddwy flynedd union yn ôl, yn ei gwneud yn ofynnol i lunio adroddiad o fewn 12 mis i ethol Cynulliad Cenedlaethol newydd i Gymru, sy’n cynnwys cofnod o dueddiadau tebygol y dyfodol o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac unrhyw ddata dadansoddol a gwybodaeth berthnasol sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru. Yr wythnos hon, am y tro cyntaf erioed, cyhoeddwyd yr adroddiad a elwir yn adroddiad tueddiadau’r dyfodol.
Llywydd, this report is not intended to be some new form of political astrology. It does not aim to predict the future. Rather, it attempts to draw together, in one accessible place, a range of information to assist Welsh citizens and policy makers in understanding trends discernible today that seem most likely to pose risks or create opportunities in the future.
Even that more modest task is one potentially fraught with difficulty. The internet was barely still stirring when this National Assembly was first elected in 1999. The iPhone is less than a decade old. A third of the jobs in today’s economy may be obsolete in less than 15 years.
The pace of change is headlong, although it may always have seemed so at the time. When Cincinnatus retired to his farm in 458 BC, he said that he was doing so to escape the hurly-burly of Roman life and politics. To help avoid mistaking the simply novel for the significant, this report aims to use and interpret the data sources it draws upon to develop a longer and broader view of the decisions that we make today, in the way that the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 requires.
It does so by identifying key future social, economic, environmental and cultural trends for Wales, under six themes that have an impact on all aspects of government and public administration. It deals with population, with health, with the economy and infrastructure; it focuses on climate change, land use and natural resources, and on society and culture. In helping us to explore the longer view, this first report also begins to explore some of the factors that could affect these trends as the future unfolds.
The report also prompts us to think broadly. For many reasons, the business of government, at all levels, tends to focus on individual policy areas when seeking to deliver benefits. This report is an attempt to take a wider, as well as a longer view, bringing together factors that we might previously have considered in isolation and paying particular attention to careful examination of the interactions and interdependencies between them, making connections between different trends in different areas of government.
Llywydd, as I said, the report is not intended to provide a series of predictions, but it does include a set of questions designed to prompt readers to formulate their own responses as they consider the trend data and the possible future scenarios to which that data might point.
This report is the beginning of work to improve our capability in making decisions fit for the long term. I am keen for us to start building it as a live and continuously developing future trends resource, for use by all those with an interest in such matters here in Wales. We have taken the first steps already, with this initial report being produced through a process of collaboration, not only amongst Welsh Government departments, but also with a wide range of public sector organisations. We have sought to use the public service boards, brought into being by the well-being of future generations Act, to understand what kind of report is needed and to bring together some of the future trend data that already exist. We intend to continue to work in this way, fully involving all those with an interest in developing our shared resource and capability, and providing a report that is useful for future policy making here in Wales.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am gyhoeddi, yn wir, adroddiad tueddiadau’r dyfodol—tir newydd arall ar gyfer datganoli, er efallai nad yw mor arloesol â thir newydd arall? Ni fydd, mae'n debyg, mae’n flin gennyf ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, yn destun sgwrs mewn tafarnau a chlybiau ledled y wlad, ond cymeraf eich datganiad yn yr ysbryd yr ydych yn ei ddymuno, ac rwy’n gobeithio y bydd o fudd ym maes gwneud penderfyniadau polisi.
Mae hyn yn amlwg yn rhan o Fil Cenedlaethau’r Dyfodol ac, fel y gwyddom, bu pryderon ar draws y pleidiau yn y Siambr hon ynghylch gweithredu’r Bil hwnnw ac a yw’n cyflawni ei amcanion ar lawr gwlad mewn gwirionedd. Rwy’n credu bod pobl yn dal i ystyried hynny a, gobeithio, os ydych chi'n iawn, y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio’r ffordd ymlaen o ran Bil cenedlaethau’r dyfodol ac y bydd yn egluro rhai o’r agweddau arno sy’n aneglur.
Ysgrifennydd y Cabinet, dywedasoch fod yr adroddiad hwn yn ceisio ymdrin ag ystod enfawr o feysydd mewn cyfnod cymharol fyr, yn amrywio o newid hinsawdd, i’r boblogaeth ac ystadegau iechyd. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y rhagolygon hyn—y gyfres o gwestiynau, fel y gwnaethoch ei galw—yn ddigon cywir mewn unrhyw ffordd i fod o ddefnydd ar gyfer y broses gwneud penderfyniadau? Rwy'n credu mai’r hyn yr wyf i'n ceisio’i ofyn i chi yw hyn: Rwy’n deall eich bod wedi gorfod darparu’r adroddiad hwn oherwydd deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol—a ydym yn gwneud dim mwy na mynd ar drywydd ymarfer ticio blychau? A fydd hyn mewn gwirionedd yn werth yr amser sydd yn amlwg wedi ei dreulio arno?
Dywedasoch yn onest nad bwriad yr adroddiad oedd darparu cyfres o broffwydoliaethau, ond fe’i cynlluniwyd i annog darllenwyr i lunio eu hymateb eu hunain. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, unwaith eto, nad wyf yn hollol siŵr pa mor ddefnyddiol y gall y broses hon fod. Rwy’n gobeithio y gallwch chi fy narbwyllo i. Ac yn benodol ym maes yr amgylchedd, dyfynnaf:
‘mae amrywiaeth eang o senarios a modelau newid hinsawdd.’
Daw hynny o’r adran newid hinsawdd. Wel, oes, yn amlwg. Rwy’n credu ein bod ni’n gwybod hynny. Nid rhagfynegiad yw hynny mewn gwirionedd ac nid yw hyd yn oed yn gwestiwn; mae’n ddatganiad o’n sefyllfa ni. Ni allaf weld sut y bydd yr honiad yn rhoi unrhyw fewnbwn ystyrlon i'r prosesau gwneud penderfyniadau a llunio polisïau yn y tymor byr, ond, unwaith eto, efallai y gallwch chi ddweud wrthyf sut y bydd yn gwneud hyn.
Mae'n amlwg yn ffrwyth llawer o gydweithio —nid wyf yn amau hynny—rhwng adrannau'r Llywodraeth a chyrff allanol; mae llawer o waith wedi'i wneud ar hyn. Dywedasoch tua diwedd eich datganiad mai dechrau’r gwaith yw hyn o wella’r gallu i wneud penderfyniadau. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd y gwaith yn datblygu? Rydych chi wedi sôn am greu cronfa ddata. Pa ffurf bendant fydd i’r gronfa ddata? A fyddwn yn gweld adroddiadau yn y dyfodol? A oes gofyniad i lunio adroddiadau yn y dyfodol? Nid wyf yn siwr. A fydd gwahanol ddulliau o greu’r gronfa ddata honno? Ai dyletswydd adrannau’r Llywodraeth fydd gwneud hynny, neu a fydd yn cael ei chasglu'n ganolog? Ac a fydd gwerthusiad o hyn? Gwn na allwch chi werthuso’r dyfodol nes ei fod wedi digwydd—yn amlwg, nid wyf yn awgrymu y gallech chi—ond, ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd yn eithaf amlwg a oedd y rhagfynegiadau neu’r cwestiynau yn yr adroddiad hwn yn taro'r nod, neu a oeddent ymhell ohono. Mae'n debygol y byddant rywle yn y canol, ond pryd ydych chi’n bwriadu asesu a yw hyn wedi bod yn broses ddefnyddiol mewn gwirionedd ac a yw'n helpu deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol wrth ei gyflwyno?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ymddangos i mi—ac rwy’n credu y gwnewch chi dderbyn hyn—bod yr adroddiad hwn yn gofyn cynifer o gwestiynau ag y mae'n eu hateb. Rwy'n credu y byddai o gymorth pe gallech egluro sut yr ydych yn bwriadu ei ddatblygu, egluro sut yr ydych yn bwriadu ei werthuso a phryd yn union yn y dyfodol y byddwch yn edrych yn ôl a dweud, ‘Roedd hwnnw mewn gwirionedd yn ymarfer gwerth chweil iawn’, neu, ‘Efallai fod ffordd well o fynd ymlaen bryd hynny.’
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau hynny. Byddaf yn dechrau drwy sôn am ei bwynt olaf, sy’n bwysig yn fy marn i. Roeddwn i’n awyddus iawn i drafod natur yr adroddiad hwn gyda fy swyddogion rai misoedd yn ôl, ac na ddylai geisio bod yn adroddiad sy'n honni ei fod yn gyfres o atebion y gallai pobl fynd atynt. Credaf y gallai fod yn gamarweiniol iawn pe bai'n cael ei ddisgrifio yn y modd hwnnw. Felly, y bwriad yw ei bod yn ddogfen adnoddau, dogfen y gall pobl fynd ati i gael gwybodaeth awdurdodol am dueddiadau allweddol yn y dyfodol, a dogfen y gall pobl ei defnyddio i ymgysylltu â'r data hynny. Gan ystyried y mathau o gwestiynau y gallent ddymuno eu holi eu hunain yn eu cylch, gan dynnu ystyr o’r wybodaeth, bydd digon o ysgogiadau ar eu cyfer yno i ganiatáu iddynt wneud hynny.
Nawr, mae ganddo nifer o ddibenion cymhwysol hefyd, yn bwysig iawn o ran helpu ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth gynnal asesiadau lles lleol, sy'n gofyn iddynt edrych ar dueddiadau yn y dyfodol yn eu hardaloedd eu hunain. Rhannwyd y ddogfen hon â byrddau gwasanaethau lleol ym mis Tachwedd yn ei ffurf gynharach i'w cynorthwyo yn y gwaith hwnnw, ac, er bod yr adroddiad hwn yn anochel ar lefel Cymru gyfan, rwy’n credu os ydych yn edrych ar rai o'r asesiadau llesiant lleol sydd ar gael ar-lein erbyn hyn—. Os edrychwch ar Sir Benfro, er enghraifft, byddech yn gweld, rwy’n credu, drafodaeth soffistigedig iawn ar y newid yn yr hinsawdd, y sefyllfaoedd posibl ar gyfer hynny yn y dyfodol a'r ffordd y mae'n effeithio ar economi leol sy’n dibynnu’n benodol ar longau ac ar dwristiaeth. Wrth edrych ar y modd y mae'r wybodaeth hon wedi helpu sefydliadau lleol i gyflawni eu syniadau, rwy’n credu y gallwch chi weld rhywfaint o'r ffordd y mae’r adroddiad hwn yn cael effaith ymarferol.
Holodd Nick Ramsay sut y gallai'r adroddiad ddatblygu yn y dyfodol, a dywedais fy mod i'n awyddus i wneud hynny, os oes modd. Yr hyn nad wyf i’n dymuno ei wneud yw bodloni’r ddeddf drwy gyhoeddi'r adroddiad hwn flwyddyn ar ôl etholiadau diwethaf y Cynulliad ac yna anghofio am hyn, ac yna bydd adroddiad arall ymhen pum mlynedd. Rwy’n credu, er mwyn i’r math hwn o adroddiad fod yn wirioneddol ddefnyddiol, y dylai fod ar-lein cymaint â phosibl ac y gellid ei ddiweddaru ac ychwanegu ato drwy’r amser, wrth i ddata a thueddiadau newydd ddod i'r amlwg.
Cefais gyfarfod yn ddiweddar ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru, a oedd yn dymuno trafod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig mewn sut y gallai eu haelodau sy'n gweithio ar ddatblygu eu hastudiaethau eu hunain ar draws amrywiaeth eang iawn o’r pynciau a adlewyrchir yn yr adroddiad hwn ychwanegu at yr adnodd a ddarperir gan yr adroddiad hwn. Pe baem yn gallu gwneud hynny —cael y math hwnnw o adnodd ailadroddol y gallai pobl gyfrannu ato, casglu ohono a’i ddiweddaru—byddai hynny, yn fy marn i, yn ei gwneud yn fwy tebygol o fod yn rhywbeth a gaiff ei ddefnyddio yn wirioneddol gan lunwyr polisi a dinasyddion Cymru i’w helpu i fyfyrio ar y dyfodol. A fydd yr amser yn dod pan fyddwn yn gwerthuso ei ddefnyddioldeb? Wel, mae'n ofyniad cyfreithiol o dan y Ddeddf i gynhyrchu'r adroddiad hwn bob pum mlynedd, o fewn blwyddyn i etholiad y Cynulliad. Ac rwy’n dychmygu, wrth baratoi’r adroddiad nesaf, mai rhan o’r hyn y byddwn yn dymuno ei wneud fydd edrych yn ôl ar y ddogfen hon i weld a wnaeth gasglu’r math o ddata sy'n wirioneddol ddefnyddiol, gweld a yw'n nodi’r tueddiadau hynny a oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, ac, yn ddiau, adrodd ar y pethau hynny nad yw’r un ohonom yma wedi gallu eu rhagweld hyd yn hyn, ond a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ymhen pum mlynedd.
Mae gen i deimladau cymysg ynglŷn â’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi. Nid wyf i eisiau dadrithio’r Ysgrifennydd Cabinet ei fod e’n dilyn Cincinnatus i ryw fferm oherwydd helbul gwleidyddol. Rwyf yn credu ei fod yn beth da, yn sicr, bod y Llywodraeth yn cynhyrchu adroddiad o’r math yma a’n bod ni’n cynnal disgẃrs ar lefel lywodraethol ynglŷn â’r dyfodol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r holl faes o ragwelediad neu ddyfodoleg—‘futurology’—neu beth bynnag, wedi cael hi’n eithaf gwael a dweud y gwir oherwydd gwaith gan bobl fel Philip Tetlock, Daniel Kahneman a Nassim Taleb, sydd wedi cwestiynu i ba raddau rydym ni’n medru darogan y dyfodol. Rwy’n credu bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn iawn i osgoi cwympo i mewn i’r fagl hynny, ond nid yw’r ffaith ein bod ni’n methu darogan y dyfodol yn golygu na ddylem ni gynnal sgwrs polisi ynglŷn â tueddiadau’r dyfodol. Felly, o ran fframwaith, rwy’n credu bod y fframwaith a’r dynesiad yn gywir.
Y gofid sydd gennyf i yw’r diffyg manyldeb sydd yn y ddogfen ar hyn o bryd, os rŷm ni’n ei chymharu hi, er enghraifft, gyda’r campweithiau sy’n cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth Singapore, er enghraifft, sydd, ers degawdau a dweud y gwir, wedi rhoi cymaint o bwyslais ar y cwestiwn yma o asesu effaith tueddiadau’r dyfodol. Mae’r un peth yn wir yn y Ffindir, er enghraifft. Felly, gwledydd cymharol fychain sydd yn rhoi tipyn o adnoddau i mewn i gynhyrchu adroddiad sydd yn llawer mwy sylweddol na hyn, a dweud y gwir, ac, wrth gwrs, gyda dwsinau a dwsinau o is-adroddiadau ar sail mewnbwn manwl gan arbenigwyr yn y maes.
Felly, gofyn ydw i, a phle gen i i Ysgrifennydd y Cabinet: iawn, dyma’r adroddiad cychwynnol wedi ei gynhyrchu o fewn blwyddyn, ond a allwn ni adeiladu ar y seiliau hyn a sicrhau bod yna adnoddau digonol fel bod adroddiad sy’n cael ei gynhyrchu ac is-adroddiadau ychydig bach yn llai arwynebol, a dweud y gwir? Nid oedd llawer yn yr adroddiad roeddwn i’n gallu’i weld nad oeddwn i’n gwybod yn barod i ryw raddau, ac roedd hynny yn siom. Roedd e yn ddefnyddiol i’r cyfeiriad arall—wrth edrych yn ôl—yn rhyfedd iawn. Roedd yna nifer o bethau yn yr adroddiad yn sôn am y cyfnod ar ôl datganoli, lle mae’n pwyntio mas ble rydym ni wedi methu. Rydym ni wedi methu o ran peidio â gwneud yn well na chadw’n wastad â gweddill y Deyrnas Unedig o ran yr economi. Y nod, wrth gwrs, oedd cau’r bwlch.
Mae’n sôn yn fan hyn fod yna botensial twf gan Gymru o ran ynni sydd heb ei gyffwrdd eto. Mae yna gyfeiriad at ddechrau arafach yng Nghymru o ran band eang o gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol, a chynnydd yn nifer y bobl o dan 18 oed sydd mewn tlodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ac, yn olaf, pwynt polisi arall ble rydym ni wedi methu: nifer yr aelwydydd yn cynyddu yn gyflymach na nifer y tai sydd ar gael. Beth sy’n ddiddorol am y rheini i gyd yw’r ffaith yr oedd y rheini i gyd yn nodau polisi tymor hir nad oeddem ni wedi medru cwrdd â nhw fel cenedl. Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, a fyddai modd gofyn y cwestiwn ‘pam’? Rwy’n gwybod ein bod ni mewn cyfnod etholiad, ac nid wyf yn rhoi’r bai i gyd ar y Llywodraeth yn fan hyn—mae yna glwstwr o resymau pam nad yw nodau polisi yn cael eu cyffwrdd—ond wrth ofyn pam mae methiant wedi bod yn y meysydd hynny dros y 18 mlynedd diwethaf, efallai fyddwn ni mewn sefyllfa well o wneud yn well ar gyfer y dyfodol sy’n dod.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch yn fawr i Adam Price hefyd. Wrth gwrs, rwy’n cytuno—adroddiad cychwynnol yw’r adroddiad sydd o flaen y Cynulliad y prynhawn yma. Aethon ni mas i siarad gyda’r bobl sy’n mynd i ddefnyddio’r adroddiad yn y maes, fel mae’r Ddeddf yn gofyn i ni ei wneud, ac yr un peth roeddynt yn dod yn ôl atom ni i ddweud oedd, ‘Peidiwch â pharatoi adroddiad sy’n rhy hir i’w ddefnyddio. Ceisiwch, os gallwch chi, baratoi adroddiad ble rydym ni’n gallu defnyddio’r wybodaeth sydd y tu fewn iddo.’
That does create a tension, inevitably, between the messages we have back from the field and from potential users that they wanted a report, as they said, that was concise and that allowed them to get to information that they wanted to use quickly. But it’s an important point that Adam Price makes—that, when you’re trying to produce a report of that sort, you inevitably lose some of the richness of the data that are available out there. It’s partly—to answer his second question about how we can develop the report in the future—why I’m keen that it should be an online resource that we can continuously keep up-to-date. Because then, I think, it is possible to provide upfront a relatively brief set of material for people who just want to get to the essence of something, but to be able quickly to direct people who have a deeper interest in any particular aspect of it to data that lie behind the headline, and where, using online material, you can get to those richer data without feeling that you’re being drowned in them at the first sight. So, if we can do it, I think that will help us to answer the point that he raised.
Of course, he is right: if we are going to understand the future better, then the past is often the best guide, both for things that we have succeeded in doing—those things that we were able to spot early and respond to—but those things as well where we have had ambitions that have not been fully realised, to try to see the things that got in the way of us being able to achieve the things we may have set out to achieve and then to draw on that learning in order to make our ability to make better policy decisions in the future, to avoid unintended consequences or poorly directed investments, and to identify opportunities that we would not have identified had we not done what the report tries to do. As I said, it tries to look in depth, but it tries especially to look broadly to see connections between different strands in Government activity, which, despite being a small Government, can be a challenge when you are running a single portfolio where your attention is inevitably focused on the matters in front of you and where it’s not always as easy as you might want it to be to see the way that those decisions connect with other decisions that have been made elsewhere in other parts of Government.
Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a'r adroddiad? Ond rwy’n falch iawn ei fod yn dod gyda rhybudd, i ddyfynnu:
‘nid bwriad yr adroddiad yw bod yn rhyw fath newydd o seryddiaeth wleidyddol. Nid yw’n ceisio proffwydo’r dyfodol.'
Rwyf bob amser yn cael fy atgoffa, ar y diwrnod hwn, o bryderon y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y ceffyl yn brif fath o gludiant, ynghylch sut y byddem yn ymdopi â thail ceffyl yn yr ugeinfed ganrif, y rhagwelwyd y byddai’n llenwi’r stryd i fyny at 3 troedfedd o uchder. Wrth gwrs, daeth y car modur, ac ni chafwyd y broblem honno. Hefyd, rwy’n credu bod pawb yn yr ystafell hon yn ddigon hen i gofio'r ddadl rhwng VHS a Betamax, a gafodd ei hymladd yn hir a chaled—ac a enillwyd gan VHS. A dywedwch chi wrthyf i ble alla i gael gafael ar dâp VHS nawr. Rwy'n meddwl am y tri pheth hynny—rydym yn gweld newidiadau mawr yn ddiweddar ac maent yn cael eu disodli gan ddigwyddiadau yn gyflym iawn.
Yr hyn y mae'n ei roi i ni yw'r cyfle i weld sut y bydd pethau os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio newid y dyfodol. Gwyddom fod crynodrefi yn fagnetau economaidd, ac rydym yn gwybod bod gwella cysylltiadau trafnidiaeth mewnol yn ffactor a allai gryfhau perfformiad economaidd Abertawe a'r fro, fel y gallwn ni ddefnyddio ei photensial economaidd yn fwy effeithiol fel dinas-ranbarth. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried llunio cynllun trafnidiaeth ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe? Rwy'n gwybod nad yw trafnidiaeth yn rhan o'r cais dinas-ranbarth. Ond nid wyf yn credu y gallwn anghofio am drafnidiaeth yn y rhanbarth hwnnw neu wneud penderfyniadau untro am y drafnidiaeth, fel ffordd osgoi Llandeilo. Mae angen cael dull llawer mwy integredig.
Rydym yn gwybod hefyd bod pobl â sgiliau uchel yn ennill mwy yn gyffredinol, ac mae ganddynt well cyfle o gael cyflogaeth yn gyffredinol. Rydym hefyd yn gwybod bod gormod o blant, heb fod unrhyw fai arnyn nhw, yn dechrau addysg ffurfiol, o ran eu datblygiad, hyd at ddwy flynedd ar ôl rhai o'u cyfoedion. Maent yn dechrau addysg yn teimlo methiant ac mae addysg llawer gormod ohonynt yn dod i ben mewn methiant. A wnaiff Llywodraeth Cymru geisio ehangu Dechrau’n Deg ymhellach, gan roi cyfle i bob plentyn ddechrau yn yr ysgol ar yr oedran y maent mewn gwirionedd—eu hoedran cronolegol—fel bod y datblygiad rhwng dwy a thair oed yn digwydd, nad yw’n digwydd i lawer o blant mewn gormod o'n cymunedau?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiynau hynny. Mae'n gwbl gywir i dynnu sylw at y perygl o ddefnyddio adroddiadau tueddiadau’r dyfodol mewn ffordd benderfyniadol, lle rydym yn rhagweld i’r dyfodol y sefyllfa a welwn o'n blaenau. Mae ei esiampl am dail ceffyl yn un adnabyddus. Fy hoff un i, Llywydd, yn ddiweddar, oedd clywed eitem Pathé News o ddiwedd yr 1930au—ni allaf ddynwared llais Pathé News, ond roedd yn y ffordd ddwys honno a ddefnyddir gan y sylwebydd. Roedd y ffilm yn dangos grŵp o deleffonyddion, a'r neges oedd bod y defnydd o’r ffôn yn lledaenu mor gyflym yn y Deyrnas Unedig ac erbyn 1960 y byddai angen i bob menyw—a phob menyw ddywedodd ef—yn y Deyrnas Unedig fod yn deleffonydd. Os ydych chi’n rhagweld y dyfodol yn y ffordd honno, byddwch, fel y dywedais, yn gwneud penderfyniadau gwael iawn.
Ond y cynllun yma yw defnyddio'r adroddiad i’n helpu ni i wneud gwell penderfyniadau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd cynllun trafnidiaeth i ddinas-ranbarth Abertawe. Fe ddylai ddod yn sgil y trefniadau rhanbarthol newydd yr ydym yn eu cynnig yn ein Papur Gwyn llywodraeth leol. Ac, o ran addysg, ail gwestiwn Mike Hedges, yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu, rwy'n credu, yw nad yw’r rhai sydd angen y mynediad cyflymaf at addysg ei angen yn y modd y mae Dechrau'n Deg yn ei ddarparu, ond bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, hyd yn oed cyn bod addysg yn rhan o'r hyn a allai fod yn digwydd iddo, yn cael dylanwad aruthrol ar eu dyfodol. Ac mae'r adroddiad hwn yn helpu i geisio tynnu ynghyd y gwahanol ffactorau, boed hynny ym maes iechyd, boed hynny ym maes tai, boed hynny yn yr amgylchedd mwy cyffredinol y mae plentyn ar y cam hwnnw o'i fywyd yn ei wynebu, i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y 1,000 diwrnod cyntaf yn sylfaen i’r llwyddiant y gallai’r plentyn hwnnw fod ei eisiau yn y dyfodol.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Gwnaeth Nick Ramsay y pwynt ei bod yn debygol na fydd yr adroddiad hwn yn y pen draw yn cael ei drafod mewn tafarndai a chlybiau ledled y de—drwy Gymru gyfan, yn hytrach—ac rwy’n credu y gallai fod yn iawn. Ac rwy’n credu, i ychydig o Aelodau yma yn y Siambr, mae'r cyfan yn parhau i fod yn ddirgelwch, hyd yn oed i ni. Ac mae'r broses lle rydym wedi cael comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol ac adroddiad tueddiadau’r dyfodol: mae'r cyfan yn ymddangos braidd yn gyfrinachol i mi. Rwyf wedi darllen drwy'r adroddiad heddiw. Mae'n adroddiad eithaf swmpus, ond rwy’n cael anhawster dod o hyd i unrhyw ganllawiau ynddo ar gyfer camau gweithredu ystyrlon gan y Llywodraeth, felly mae’r cyfan braidd yn ddryslyd i fi. Cawsom Sophie Howe, y comisiynydd yn ymddangos gerbron y pwyllgor cydraddoldeb, ac roedd yn dyst effeithlon iawn gerbron y pwyllgor. Ymgysylltodd â'r pwyllgor, ond rwy’n teimlo nad oedd hi yno’n ddigon hir mewn gwirionedd i ateb pob un o'r cwestiynau y byddem wedi eisiau gofyn iddi ac i ganfod yn union sut y bydd ei swyddogaeth yn dylanwadu ar gamau gweithredu’r Llywodraeth, gan ei bod yn bwriadu cwmpasu ystod eang o weithgareddau posibl y Llywodraeth. Er enghraifft, caiff 44 o gyrff cyhoeddus eu cwmpasu gan y Ddeddf. Soniodd hi ei hun—Sophie ei hun—am yr anhawster o weithredu deddfwriaeth a'r angen i osgoi ymarferion ticio blychau. Ond sut mae modd osgoi’r rhain pan fo cyrff cyhoeddus, yn ei geiriau hi i hun, eisoes yn teimlo dan warchae oherwydd yr holl ofynion statudol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni, cyn i Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol gael ei chymryd i ystyriaeth hyd yn oed? Yn ychwanegol at hynny, mae'r ffaith bod rhai o'r rheoliadau sy'n deillio o'r gwahanol ofynion statudol yn groes i rai eraill. Dyfynnodd hi ei hunan yr enghraifft o'r angen i fyrddau iechyd fod â chynlluniau tair blynedd, sy'n groes i amcan cenedlaethau'r dyfodol o gynllunio hirdymor. Felly, tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datrys y gwrth-ddweud amlwg hwn.
O edrych ar y materion ymarferol a all godi o'r adroddiad hwn, ceir y mater o newid yn yr hinsawdd, y cyfeirir ato. Nawr, rydym yn gwybod bod yr hinsawdd yn newid. Mae gwahaniaeth barn yn y Siambr ynglŷn â'r hyn a all fod yn achosi'r newidiadau hynny yn yr hinsawdd, ond rwy’n meddwl, ar y cyfan, ein bod yn cytuno bod yr hinsawdd yn newid. Ceir diffeithdiro cynyddol. Mae'r Sahara yn lledaenu. Mae ardaloedd o Sbaen a rhannau eraill o dde Ewrop yn mynd yn rhy sych ar gyfer amaethyddiaeth. O ystyried bod hyn yn digwydd a bod llai o dir yn debygol o fod ar gael i’w ffermio, byddai'n gwneud synnwyr felly, yn y DU, ein bod yn dal gafael ar ein tir amaethyddol. Mae hyn yn gynllunio hirdymor yn ymwneud â diogelu’r cyflenwad bwyd. Pam, felly, yr ydym ni’n caniatáu i gynghorau adeiladu ar dir llain las? Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, bydd tai yn cael eu codi ar dir sydd wedi cael ei ffermio ers cannoedd o flynyddoedd. Siawns y dylai ystyriaethau cynllunio hirdymor atal unrhyw adeiladu ar dir llain las yng Nghymru. Felly, os oes gennych adroddiad ar genedlaethau’r dyfodol sy’n mynd i fod yn ystyrlon mewn unrhyw ffordd, a ydych chi nawr yn mynd i roi cyngor ac arweiniad i gynghorau i'w hatal neu i'w rhybuddio rhag adeiladu ar dir llain las? Byddai hynny'n un peth ymarferol a fyddai’n deillio o'ch syniad honedig o gael cynllunio hirdymor. Materion eraill: awtomeiddio. Rhagwelir bod tri deg pump y cant o swyddi—a dweud y gwir, rwy'n credu ei fod yn 30 y cant—mewn perygl yng Nghymru oherwydd awtomeiddio. Felly, mae angen uwchsgilio’r boblogaeth weithio yng Nghymru os yw’r broffwydoliaeth hon mewn unrhyw ffordd yn gywir. Awgrymaf y byddai mwy o hyfforddiant galwedigaethol yn helpu. Felly, a fyddech chi’n cytuno bod angen inni symud oddi wrth ddull cyffredinol o ddarparu addysg yng Nghymru? A oes angen i ni edrych ar effeithiolrwydd y system ysgolion cyfun, er enghraifft?
Mae ceir heb yrrwr yn cael eu crybwyll. Nawr, mae hyn yn ddirgelwch llwyr i mi. Gwn ein bod i fod cael ceir heb yrrwr. Awgrymodd Sophie Howe, pan ymddangosodd gerbron y pwyllgor, y dylai prosiect ffordd liniaru'r M4 fod wedi ystyried mater y ceir heb yrrwr. Nid wyf yn siŵr pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud o ran tagfeydd ar y ffyrdd. Er ein bod yn mynd i gael ceir heb yrrwr, oni fydd yr un nifer o geir ar y ffordd? Felly, sut y byddai hyn mewn gwirionedd yn effeithio ar unrhyw beth? Mae hyn yn fy nrysu i. Efallai y gallwch chi—[Torri ar draws.] A phellteroedd stopio. Iawn, efallai y bydd agweddau technegol, nad ydwyf i fel rhywun sydd ddim yn gyrru—[Torri ar draws.] Iawn, diolch. Efallai y bydd yna agweddau technegol nad wyf i wedi’u hystyried, felly ymddiheuriadau am fy anwybodaeth, ond byddai cael atebion yn beth da.
Nawr, fe wnaethoch chi hefyd, yn ddoniol iawn, edrych ar broblemau darogan y dyfodol, a nododd Mike Hedges enghraifft hefyd—fe roesoch chi enghreifftiau yn ymwneud â thail ceffyl a theleffonyddion, a oedd yn eithaf doniol yn eu hunain. Roedd yna hefyd ddyn yn yr 1960au cynnar o'r enw Dr Beeching, a oedd yn tybio na fyddai unrhyw angen i deithwyr deithio ar y rheilffyrdd ymhen ychydig o flynyddoedd. Roedd hynny braidd yn anghywir, onid oedd? Beth bynnag, diolch am yr adroddiad. Pe gallech daflu unrhyw oleuni ar y materion yr wyf i wedi eu codi byddwn yn ddiolchgar. Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy'n falch ei fod o’r farn bod y sesiynau y mae’r pwyllgor wedi eu cael gyda'r comisiynydd yn ddefnyddiol. Roedd ei swyddfa hi yn rhan o'r grŵp a helpodd i lunio'r adroddiad hwn. Bydd llawer o gyfleoedd eraill, rwy'n siŵr, i glywed gan y comisiynydd ac i weithio gyda hi i wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ddefnyddiol i lunwyr polisi wrth iddynt geisio asesu'r cyfleoedd y mae’r tueddiadau a welwn heddiw yn eu darparu ar gyfer llunwyr polisi y dyfodol, ac i osgoi y math o beryglon a nododd yr Aelod pan gyfeiriodd at adroddiad Beeching.
A bod yn onest, Llywydd, rwy’n credu ei fod un cam ar y blaen o ble mae’r adroddiad heddiw. Yr adroddiad yw’r ffordd orau sydd gennym o dynnu ynghyd y dystiolaeth, y data, y gwahanol dueddiadau a welwn yn economi Cymru, yn y gymdeithas yng Nghymru, ac yn y pethau amgylcheddol ehangach hynny, ar gyfer yr holl lunwyr polisi—gan gynnwys pleidiau gwleidyddol a gwleidyddion unigol—i ddod i’w casgliadau ynghylch sut y dylai'r polisïau gael eu llunio yn y dyfodol. Nod yr adroddiad yw bod yn niwtral o ran polisi. Nid yw'n ceisio gwthio polisi mewn unrhyw gyfeiriad penodol. Mae yno fel adnodd fel y gall pobl lunio’r atebion y maen nhw’n credu all ddiwallu anghenion Cymru orau. Mae Mr Bennett yn codi nifer o faterion polisi pwysig. Ni fydd yn dod o hyd i'r atebion yn yr adroddiad ei hun. Yr hyn a gaiff yn yr adroddiad yw’r deunydd crai a fydd yn helpu unrhyw un ohonom i geisio dod o hyd i’r atebion ein hunain.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.