5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

– Senedd Cymru am 3:03 pm ar 10 Mai 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:03, 10 Mai 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl gan Aelodau unigol, o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ar ddatganoli plismona. Rydw i’n galw ar Steffan Lewis i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6288 Mike Hedges, Steffan Lewis, Julie Morgan, Sian Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

2. Yn galw am ddatganoli plismona i Gymru.

3. Yn credu ei bod yn well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:03, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy’n falch i gynnig y cynnig heddiw gyda fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Sian Gwenllian a Julie Morgan. Mae ein cynnig mewn tair rhan: yn gyntaf, nodi bod plismona wedi’i ddatganoli i ddwy genedl ddatganoledig arall y DU; yn ail, galw am ddatganoli plismona i Gymru—yr unig genedl lle nad yw wedi cael ei ddatganoli; ac yn drydydd, mynegi’r farn ei bod yn well cydgysylltu meysydd plismona arbenigol penodol ar lefel y DU.

Caiff anomaledd Cymru, wrth gwrs, ei ddrysu ymhellach gan y ffaith fod pwerau dros blismona bellach wedi’u datganoli i Fanceinion, gydag ethol eu maer metropolitanaidd cyntaf, ac eto mae’r broses o ddatganoli plismona i Gymru yn parhau i fod yn rhwystredig o ddisymud. Er gwaethaf consensws pellgyrhaeddol yn y Senedd hon, nid oes gan San Steffan unrhyw gynlluniau i drosglwyddo pwerau dros blismona i Gymru. Roedd yn siomedig na chafodd ei gynnwys yn Neddf Cymru 2014 na Deddf Cymru 2017, er ei fod yn un o argymhellion comisiwn trawsbleidiol Silk yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Cafwyd dau gyfle deddfwriaethol i weithredu ac ni wnaed unrhyw gynnydd.

Fodd bynnag, nid pwynt o egwyddor gyfansoddiadol yn unig yw hwn. Mae’n gwneud synnwyr perffaith i benderfyniadau’n ymwneud â’n holl wasanaethau brys gael eu gwneud ar y lefel genedlaethol. Ar hyn o bryd plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi cael ei ddatganoli, ac eto mae plismona modern yn galw am gryn dipyn o orgyffwrdd rhwng gwasanaethau cyhoeddus a meysydd cyfrifoldeb datganoledig eraill. Wrth gwrs, eisoes mae’n rhaid i’r heddlu weithio’n agos ochr yn ochr â chydweithwyr iechyd ac addysg. Er bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn aml yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd, ceir tystiolaeth y gellid gwella cydweithrediad hyd yn oed ymhellach pe bai’r pwerau i wneud y penderfyniadau strategol i’w cael yma yn y wlad hon.

Mae’r cynnig trawsbleidiol heddiw yn nodi agwedd synhwyrol tuag at ddatganoli plismona. I’r rhan fwyaf o bobl yr hyn sy’n bwysig, wrth gwrs, yw’r gwasanaethau heddlu y maent yn fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â hwy o ddydd i ddydd. Yr hyn y mae pobl ei eisiau yw plismona cymunedol, nid yn unig y syniad traddodiadol o’r plismon ar y stryd, ond gwasanaeth heddlu sy’n meddu ar wybodaeth leol a’r gallu i ymateb i anghenion y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Nid yw’r gyllideb ar gyfer plismona cymunedol wedi’i chlustnodi mwyach ac er bod yn rhaid i heddluoedd warantu isafswm o blismona yn y gymdogaeth, mae’r ffordd y caiff hyn ei gyflawni’n amrywio’n fawr o un gwasanaeth heddlu i’r llall mewn gwirionedd. Ar un adeg roedd gan bob ward swyddog ward a oedd yn gyfrifol am adeiladu perthynas â chymunedau a chynyddu ymddiriedaeth yn yr ardal leol, ond rwy’n credu bod llawer o bobl yn teimlo fel pe bai’r cysylltiad hwnnw’n cael ei golli, a phlismona cymunedol effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth gydag ef.

Mae’r adroddiad ‘Cyflwr Plismona’ diweddaraf gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn amlinellu eu pryder fod plismona yn y gymdogaeth yn cael ei erydu. Ond gyda heddluoedd yn profi toriadau o 22 y cant, ar gyfartaledd, yng nghyllid y Llywodraeth rhwng 2010 a 2015, a llawer yn dal i weld eu cyllidebau gweithredol yn parhau i grebachu, mae heddluoedd wedi gorfod ymateb drwy ddiswyddo gweithwyr. Canfu adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi fod rhai heddluoedd wedi’i chael yn anodd ymateb i’r lleihad yn lefel yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae ymatebion tymor byr, wedi’u cynllunio’n wael, i bwysau uniongyrchol ar y gyllideb yn rhoi pobl sy’n agored i niwed mewn perygl difrifol o gael eu niweidio mewn rhai heddluoedd, a chaiff nifer fawr o droseddau eu diystyru i bob pwrpas yn hytrach na dod o hyd i gasgliad boddhaol i’r dioddefwr a’r gymuned.

O safbwynt polisi, byddai datganoli plismona i Gymru yn rhoi’r gallu i flaenoriaethu plismona cymunedol ac ymgorffori’r egwyddor honno ar draws y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Byddai yna fudd ariannol hefyd i gyd-fynd â’r dyhead polisi hwnnw. Yn ôl cyfrifiadau Plaid Cymru, pe bai Cymru’n cael ei thrin fel endid plismona cydradd â’r gwledydd datganoledig eraill, byddai heddluoedd Cymru dros £25 miliwn y flwyddyn yn well eu byd, gan y byddai Barnett yn gymwys. Pe bai fformiwla Barnett yn cael ei defnyddio i ariannu ein heddluoedd yn unol â’r boblogaeth, byddai’n arwain at gynnydd sylweddol yn eu cyllidebau.

Fel y nodwyd yn y cynnig, ceir elfennau o blismona arbenigol, megis gwrth-frawychiaeth, lle mae cydgysylltu ledled y DU yn gwneud synnwyr perffaith. Gyda’r materion hyn, lle y ceir elfen ryngwladol yn aml, cyrff sy’n gweithredu ar draws y wladwriaeth sydd fel arfer yn arwain ac yn cydgysylltu, yn enwedig pan fo’r rhain yn berthnasol i waith y gwasanaethau diogelwch a chudd-wybodaeth. Gellir meddwl am y Swyddfa Ymchwiliadau Ffederal yn yr Unol Daleithiau, neu’r Bundespolizei yn yr Almaen, er enghraifft. Gydag unrhyw wasanaeth brys, mae angen sicrhau cydweithrediad bob amser ar draws ffiniau cenedlaethol, wrth gwrs. Yn wir, mae hynny eisoes yn wir am y gwasanaeth ambiwlans a’r gwasanaethau tân ac achub rhwng Cymru a Lloegr.

O ran plismona, mae cymorth ar y cyd wedi bodoli ers cryn dipyn o amser a buasai, wrth gwrs, yn berthnasol os a phan fydd plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru. Ar yr ynysoedd hyn, mae cymorth ar y cyd wedi’i ymgorffori yn y berthynas rhwng y gwahanol awdurdodaethau eisoes. Yn Iwerddon, lle y ceir ffin ryngwladol i bob pwrpas, mae Deddf Awdurdodaeth Droseddol 1975 yng Ngogledd Iwerddon a Deddf Cyfraith Trosedd (Awdurdodaeth) 1976 yn y Weriniaeth yn caniatáu i bob awdurdodaeth drin ac ymdrin ag ystod benodol o droseddau a gyflawnwyd yn yr awdurdodaeth arall fel pe bai wedi digwydd yn eu hawdurdodaeth eu hunain.

I gloi, Llywydd, mae datganoli plismona’n ddymunol o safbwynt polisi a chydgysylltu er mwyn adfer plismona cymunedol a sicrhau mwy o gydweithio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus. Byddai datganoli plismona o fudd ariannol i Gymru, lle byddai difidend datganoli yn ein galluogi i fuddsoddi mwy i wneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae datganoli plismona yn gadarn yn weithredol, fel y mae bron unrhyw wladwriaeth arall yn y byd yn ei brofi, ac mae eisoes yn amlwg yn yr awdurdodaethau plismona gwahanol ar yr ynysoedd hyn. Bydd pleidlais gadarnhaol o’r Cynulliad hwn heddiw yn alwad glir ar Lywodraeth nesaf y DU i fynd i’r afael â’r anomaledd diangen hwn.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:09, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Fel y mae’r cynnig hwn yn nodi,

‘[mae’n] well cydgysylltu materion plismona arbenigol, fel polisïau gwrth-frawychiaeth, ar lefel y DU.’

Fodd bynnag, mae ei alwad am ddatganoli plismona i Gymru yn herio realiti. Mae plismona’n fater datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Am resymau daearyddol a hanesyddol, mae’r sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon yn gwbl wahanol. Cyn cyflwyno rheolaeth uniongyrchol yn 1972, hen Senedd Stormont oedd yn gyfrifol am blismona a chyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon, ac ymrwymodd Llywodraethau olynol y DU i ailddatganoli plismona a chyfiawnder pan oedd yr amgylchiadau’n iawn i wneud hynny. Mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i’r ffin â Lloegr, ac mae 90 y cant yn byw o fewn 50 milltir. Ar y llaw arall, 5 y cant yn unig o boblogaeth gyfunol yr Alban a Lloegr sy’n byw o fewn 50 milltir i’r ffin rhwng y gwledydd hynny. Fe gymeraf un ymyriad.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:10, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ildio. Fel y dywedais yn fy nghyfraniad, mae yna ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae’r cytundebau cymorth ar y cyd wedi gweithio yno, hyd yn oed ar adegau pan nad oedd plismona wedi’i ddatganoli i Ogledd Iwerddon. Felly, a fyddai o leiaf yn cydnabod nad yw ffiniau agored, neu unrhyw ffiniau o ran hynny, yn rhwystr i blismona cymunedol datganoledig gwell?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, mae gan Lywodraeth Cymru hanes ers 1999 o adeiladu rhwystrau trawsffiniol yn hytrach na chael gwared arnynt. Mae’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw ar hyd coridorau’r M4 a’r A55, wedi’u gwahanu gan ardal wledig eang, ac mae ganddynt ofynion plismona gwahanol iawn. Dangosir cyd-ddibyniaeth plismona rhwng gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr gan y ffaith mai hon yw’r unig ran o’r DU sydd ag ardal drefol gysylltiedig wedi’i rhannu gan ffin genedlaethol. Mae fy nghysylltiadau fy hun, yn Heddlu Gogledd Cymru a Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro fod ganddynt gysylltiad agosach â gogledd-orllewin Lloegr nag sydd ganddynt â gweddill Cymru, a bod diffyg cymhwysedd yn Llywodraeth Cymru i ymdrin â datganoli plismona.

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:10, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Dim amser. Maent wedi mynegi pryder wrthyf yr wythnos hon y byddai cael Llywodraeth Cymru’n rheoli cyllidebau plismona yn arwain at arian yn trylifo i’r de, a dywedasant y byddent yn hoffi gwybod a oes awydd yn Llywodraeth Cymru i uno’r heddluoedd yng Nghymru—argymhelliad a wrthodwyd nifer o flynyddoedd yn ôl. Fel y dywedasant,  mae daearyddiaeth a chysylltiadau cyfredol gyda gwahanol heddluoedd yn Lloegr yn gwneud y cysyniad o Heddlu Cymru gyfan yn un anodd iawn—

Rhun ap Iorwerth a gododd—

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:10, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

gan ychwanegu, dylid monitro’n ofalus unrhyw gamau i orfodi symudiad o’r fath i fodloni egos gwleidyddion penodol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:11, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw’n ildio—. Nid wyf yn credu bod yr Aelod yn ildio.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:12, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n dyfynnu. Yn eu briff i Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol gogledd Cymru ym mis Ionawr, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrthym fod eu cydweithrediad gweithredol gyda heddluoedd Glannau Mersi a Swydd Gaer yn cynyddu mewn rhai meysydd, gan gynnwys arfau tanio, cudd-wybodaeth, arestio, eiddo a gwasanaethau fforensig. Pan fu Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio y Cynulliad yn adolygu strwythur plismona yn 2005, roedd ein hadroddiad yn nodi nad yw gweithgarwch troseddol yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, ac mae’n rhaid i bartneriaethau trawsffiniol adlewyrchu realiti gweithredol. Arweiniodd gwaith is-bwyllgor y Cynulliad, yr oeddwn yn aelod ohono ac a oedd yn ystyried yr argymhelliad ar y pryd i uno heddluoedd Cymru, at roi’r gorau i’r argymhellion i uno heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn y ddadl ar hyn ym mis Chwefror 2006, dywedodd awdurdodau’r heddlu wrthym y byddai ad-drefnu’n costio hyd at £57 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i Gymru gyfan, gyda’r prif gwnstabl yn datgan y byddai’n fwy na hynny hyd yn oed. Cadarnhaodd ein gwaith dilynol fod y prif gwnstabliaid yn gywir.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:13, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Er bod ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi datgan bod maniffesto 2017 y Blaid Lafur—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

A ydych yn derbyn ymyriad gan Ysgrifennydd y Cabinet?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae’n dibynnu a wnewch chi ganiatáu digon o amser i mi ar y diwedd ai peidio, os derbyniaf ymyriad arall.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Pam ddim? Rwyf mewn hwyliau da.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Mark, am dderbyn yr ymyriad. Mae eich cyfraniad wedi ennyn fy chwilfrydedd, oherwydd cefais lythyr dyddiedig 5 Medi gan bob un o’r cwnstabliaid heddlu yng Nghymru, y grŵp plismona Cymru gyfan, sy’n dweud eu bod, yn wir, wedi cytuno ar ddatganiad ar y cyd sy’n cefnogi datganoli plismona i Gymru. O ble rydych yn cael eich gwybodaeth, Mark?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Nid wyf am enwi unigolion oherwydd gallai’r unigolion hynny gael eu dwyn i gyfrif gan Weinidogion. Mae’r wybodaeth rwyf yn ei derbyn yn gywir. Daw’r wybodaeth yn uniongyrchol gan y bobl berthnasol, ond nid wyf am ddweud pwy yw’r bobl hynny. Mae’r hyn y maent yn ei ddweud yn breifat yn wahanol iawn i’r hyn y maent yn barod i’w ddweud yn gyhoeddus wrth bobl fel chi.

Er bod cadeirydd ymgyrch y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru wedi dweud y bydd maniffesto 2017 y Blaid Lafur yn rhoi rôl fwy i Weinidogion Cymru mewn plismona, roedd hefyd yn gwadu bod Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Diane Abbott, wedi cael ei ffeithiau’n anghywir pan ddywedodd,

Nid ydym yn credu ei bod yn iawn, ar yr adeg hon, i ddatganoli plismona, ond mae hwn yn fater a drafodir yn gyson yn y Blaid Lafur.

Yn 2013, rhybuddiodd Gweinidog yr wrthblaid dros yr heddlu a’r cyn-Weinidog dros yr heddlu, David Hanson, y byddai datganoli rheolaeth i’r heddlu yn gam mawr gyda llawer o heriau, a bod lleihau troseddau’n bwysicach na phenderfynu pa Lywodraeth sy’n rheoli’r heddlu. Mae ffigurau newydd gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod nifer y bobl a anafwyd o ganlyniad i drais difrifol wedi gostwng 10 y cant y llynedd, a 40 y cant ers 2010. Mae plismona eisoes wedi cael ei ddatganoli i gomisiynwyr heddlu a throseddu, gan rymuso cymunedau lleol i roi eu barn ar flaenoriaethau plismona ac i ddwyn cynrychiolydd etholedig i gyfrif. Mae’r alwad am ddatganoli plismona o du’r Blaid Lafur a’r ymwahanwyr yn ymgais amlwg i fachu pwerau, a byddai hynny’n cyflawni’r gwrthwyneb i ddatganoli go iawn. Mae’r Prif Weinidog hwn yn cyfeirio at ddatganoli plismona i Fanceinion fel model ar gyfer Cymru, ond pwerau’r comisiynwyr heddlu a throseddu’n unig yw’r rheini, ac maent eisoes wedi’u datganoli yng Nghymru. Felly, yr hyn y mae’n sôn amdano mewn gwirionedd yw bachu mwy fyth o bwerau o ranbarthau Cymru a’u canoli yng Nghaerdydd, gan roi’r pŵer i’w hunain i gyflogi a diswyddo prif gwnstabliaid. Wel, o ystyried hanes y Blaid Lafur o wleidyddoli gwasanaethau cyhoeddus datganoledig mewn modd cynyddol, a bygythiol yn aml, mae hwn yn gynnig gwirioneddol iasoer.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl drawsbleidiol hon. Rwyf wedi bod yn fodlon iawn i roi fy enw ar y cynnig hwn. Rwy’n credu ei bod yn ddirgelwch llwyr pam na chafodd plismona ei ddatganoli yn y Bil Cymru diweddaraf, ac rwy’n credu mai dyna un o’r prif resymau pam fod datganoli yn dal i fod yn fusnes anorffenedig. Rwy’n siŵr y bydd yna adeg pan gaiff plismona ei ddatganoli, ond yn anffodus, ni ddigwyddodd gyda’r cyfle hynod o dda hwn.

Fel y dywedodd Steffan Lewis yn ei gyflwyniad, mae plismona wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, felly pam nad yw Cymru yn gymwys i gyflawni plismona? Gallaf glywed yng nghyfraniad Mark Isherwood fod ganddo farn mor isel o allu’r Cymry i ddarparu gwasanaethau yn eu gwlad eu hunain fel ei fod yn credu na ellir ymddiried ynom yma gyda phlismona. Rwy’n credu bod dweud y math hwnnw o beth yn gryn feirniadaeth.

Os edrychwch ar rannau eraill o Loegr, rhoddwyd mandad uniongyrchol ar gyfer plismona i faer Llundain yn 2011. Mae gan y maer rôl bwysig, ar y cyd â’r Ysgrifennydd Cartref, yn penodi comisiynydd heddlu’r Met, yn craffu ar blismona, ac ef sy’n llunio’r strategaeth blismona yn Llundain. Mae gan Gynulliad Llundain rôl hefyd yn craffu ar blismona yn Llundain, yn yr un modd ag y gallai’r Cynulliad hwn ei wneud pe bai plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n credu y byddai hynny’n bolisi llawer mwy cydlynol. Ac wrth gwrs, cawsom etholiad y meiri metro yn ddiweddar iawn.

Cafodd Manceinion, sydd bellach â phŵer dros blismona, ei chrybwyll sawl gwaith. Ond mae Llywodraeth y DU wedi cytuno hefyd i roi mwy o bwerau dros gyfiawnder troseddol a rheoli troseddwyr i Fanceinion. Bydd gan Fanceinion fwy o ran mewn cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer llysoedd lleol ac wrth gomisiynu gwasanaethau rheoli troseddwyr ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr. Rwy’n falch fod Manceinion yn cael hyn, ond beth am Gymru? Mae Cymru’n wlad, ac nid oes gennym y pwerau hyn. Felly, rwy’n credu ei fod yn ddirgelwch llwyr. Rydym hefyd yn gwybod bod yna saith—. Rydym hefyd yn gwybod bod yna chwech o etholiadau eraill wedi bod i ethol meiri metro, ac un arall i ddod. Dros amser, bydd pwerau’r meiri metro, rwy’n siŵr, yn cynyddu, fel sydd wedi digwydd yn Llundain. Mewn cyferbyniad â Chymru, mae’r Bil datganoli a sefydlodd y meiri metro yn ddeddfwriaeth fwriadol o amhenodol sy’n caniatáu ar gyfer datganoli unrhyw beth bron—tai, iechyd, lles, plismona, a mwy.

Felly, y cwestiwn mawr yw: beth sydd o’i le ar Gymru? Mae’n ymddangos o ddifrif fod rhyw rwystr yn y canol nad yw’n cydnabod rhesymeg pur datganoli plismona i Gymru. Nid oedd unrhyw broblem wrth drosglwyddo’r pŵer dros y gwasanaeth tân yn ystod sesiwn gyntaf y Cynulliad, pan gafodd ei gynnig i’r Cynulliad, fel rwy’n deall; nid wyf yn credu bod y Llywodraeth hon wedi gorfod gofyn amdano hyd yn oed. Ac yn amlwg, mae’r gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei ddatganoli fel rhan o’r gwasanaeth iechyd. Felly, mae hyn yn golygu bod dau o’r tri gwasanaeth brys eisoes wedi’u datganoli i Gymru, felly nid yw’n gwneud synnwyr peidio â datganoli’r trydydd. Mae’r tri gwasanaeth eisoes yn gweithio gyda’i gilydd i raddau helaeth, ond byddai’n sicr yn gwneud synnwyr gweithredol i gael y tri gwasanaeth dan reolaeth wleidyddol Llywodraeth Cymru.

Felly, un o’r prif resymau y dylem ei gael: mae’r pwerau wedi’u datganoli i leoedd eraill. Ail reswm: mae gennym ddau o’r tri gwasanaeth brys wedi’u datganoli eisoes. Ac wrth gwrs, rheswm pwysig arall yw’r modd y caiff yr heddlu eu hariannu yng Nghymru, oherwydd cânt eu hariannu gan gymysgedd o gyllid y Swyddfa Gartref, cyllid Llywodraeth Cymru, a chyllid y dreth gyngor. Yn ei maniffesto ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad, ymrwymodd y Blaid Lafur i ariannu 500 yn ychwanegol o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Wrth gwrs, mae’r rhain wedi cael eu gwerthfawrogi’n fawr iawn gan y cyhoedd dros y pum mlynedd diwethaf. Hefyd, gyda’n haddewid etholiad cyffredinol yn awr ar gyfer yr etholiad sydd i ddod, bydd 853 o swyddogion yr heddlu ychwanegol yng Nghymru. Mae’r Blaid Lafur wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyhoedd yn teimlo’n ddiogel ar y strydoedd, a bod yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ar lefel leol yn rhannau allweddol o’r gymuned leol.

·         Maent hefyd yn ymwneud llawer yn awr gyda phobl sy’n agored i niwed. Mae’r gwaith o blismona troseddau y mae’r heddlu’n ei wneud yn llawer llai bellach na’r gweithgareddau cymunedol y maent yn ymwneud â hwy—gweithio gyda phobl hŷn, gweithio gyda phobl ifanc. Heddiw, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, cawsom dystiolaeth gan unigolyn a ariannir ar y cyd gan yr heddlu ac iechyd y cyhoedd. Dyma sut y bydd pethau yn y dyfodol—cydweithio gyda’n gilydd. Yn olaf, roeddwn yn awyddus i ddweud, os edrychwch ar enghraifft o ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, er enghraifft, megis y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dull partneriaeth o drechu ac atal cam-drin, sydd—. Yn amlwg, mae trechu cam-drin domestig yn un o’r heriau mwyaf sydd gennym. Mae’n gwbl hanfodol fod hyn yn cael ei wneud drwy ddull partneriaeth, ac nid oes amheuaeth o fath yn y byd yn fy meddwl y byddai hyn yn gwella pe bai’r cyfrifoldeb gwleidyddol dros blismona yn nwylo’r Cynulliad. 

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:21, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelodau unigol am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rwy’n credu bod datganoli plismona yn fater pwysig, a dylwn nodi ei fod yn fater rydym ni yn UKIP heb benderfynu arno hyd yn hyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus, fodd bynnag, cyn i ni ddechrau ar y cam hwn. Os yw’r Cynulliad yn galw am fwy o bwerau, am ddatganoli dros fwy o bethau, yna credaf fod yn rhaid cael rhesymau da dros wneud hynny. Yn fy marn i, ni all fod yn unig am fod rhannau eraill o’r DU wedi cael y pwerau hynny, felly mae’n rhaid i ni eu cael. Pan fuom yn trafod y pwnc hwn yn 2014, gwnaeth Ann Jones y pwynt cymwys hwn, ac rwy’n dyfynnu:

‘Mae dweud yn syml ein bod eisiau pwerau am fod gan yr Alban bwerau yn ddadl wan iawn.’

Diwedd y dyfyniad. Credaf fod hynny’n parhau i fod yn wir heddiw, ac rwy’n credu ei fod yn parhau i fod yn wir hyd yn oed os ydym yn ei ymestyn i gynnwys cyfeiriadau at Fanceinion Fwyaf hefyd, fel y cawsom heddiw. Beth yw manteision ymarferol go iawn datganoli plismona i’r lle hwn? Maent yn aneglur ar y gorau. [Torri ar draws.] Iawn, Steffan, rydym wedi clywed yr hyn a ddywedoch. Roeddwn am godi rhai o’r pwyntiau a wnaethoch. Fe sonioch am y ddadl fod y ddau wasanaeth brys arall eisoes wedi’u datganoli; gwnaeth Julie Morgan y pwynt hwnnw hefyd. Wel, roedd y pwynt hwn wedi’i wneud o’r blaen. Yn y Cynulliad diwethaf—[Torri ar draws.] Iawn, wel, rydych yn dweud ei fod yn gywir. Rwy’n trafod y pwynt; gadewch i mi ei drafod, os gwelwch yn dda. Roedd gennym Aelod o’r enw Byron Davies yn y Cynulliad diwethaf, a chanddo 32 mlynedd o brofiad gweithredol yn yr Heddlu Metropolitanaidd mewn gwirionedd. Nawr, pan godwyd y mater hwn ddiwethaf, yn 2014, dywedodd mai’r unig gysylltiad rhwng y tri gwasanaeth brys oedd eu bod i gyd yn rhannu’r un rhif ffôn, 999. Nid oedd yn argyhoeddedig y byddai datganoli plismona yn effeithiol.

Mae’r ddadl arbed costau y mae Steffan wedi’i chyflwyno yn ddamcaniaethol ar y gorau. A fyddem yn cael y setliad ariannol y mae’n ei awgrymu ar gyfer yr heddlu mewn gwirionedd? Yn wir, gallai’r costau gynyddu.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:23, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu ar hyn o bryd yn golygu nad ydym yn cael ein hariannu fel endid yn ein hawl ein hunain oherwydd ein bod yn dod o dan endid Cymru-a-Lloegr. Ond pe baem yn dod yn endid plismona, gyda phwerau datganoledig dros blismona, yna byddem yn dod yn endid datganoledig o ran plismona, a byddai fformiwla Barnett i’w chymhwyso. Mae hynny’n golygu y byddai ein cyllidebau’n cynyddu, yn seiliedig ar y boblogaeth; byddai mwy o arian, nid llai.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Iawn. Roeddwn yn ymwybodol o’r ddadl y tro cyntaf i chi ei chyflwyno. Diolch i chi am ei chyflwyno eto. Hoffwn glywed beth y byddai’r Gweinidog yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw. Rwy’n siŵr y bydd yn ystyried hynny.

Cafodd rhai anfanteision go gadarn—[Torri ar draws.] Cafodd rhai anfanteision go gadarn eu gwyntyllu yn y gorffennol ynglŷn â datganoli plismona. Nawr, roedd gennyf ddiddordeb yn ymyrraeth y Gweinidog Carl Sargeant yn gynharach ynglŷn â sylwadau gan brif gwnstabliaid. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed mwy am hynny, oherwydd, hyd yn hyn, o’r hyn rwyf wedi’i ddarllen, mae llawer o swyddogion profiadol wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o ddatganoli plismona. Er enghraifft, mae cyn-Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mick Giannasi, wedi datgan y gallai datganoli plismona beri ‘peryglon gweithredol difrifol’ a chyda llai na 7,000 o swyddogion yr heddlu, byddai heddluoedd yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar heddluoedd Lloegr am gefnogaeth mewn sawl maes sy’n ymwneud ag ymladd troseddu.

‘Byddai’r gost o greu cydnerthedd annibynnol yn afresymol ac yn anodd ei chyfiawnhau’ meddai. Adleisiwyd yr ofnau hyn yn 2016 gan gomisiynydd heddlu a throseddu Gwent, Ian Johnston, a rybuddiodd y gallai Cymru ddod yn adain wan plismona yn y DU. Ar y pryd, dywedodd comisiynydd heddlu a throseddu Dyfed-Powys, Chris Salmon, nad oes unrhyw beth y gall y Cynulliad ei wneud—

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:24, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A wnaiff yr Aelod ildio?

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, yn sicr.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Nid oes amheuaeth fod yna faterion ymarferol y mae angen eu datrys, ond fel y mae Carl Sargeant newydd wneud yn glir, mae’r prif gwnstabliaid bellach i gyd o’r farn fod y rhain yn faterion y gellir eu goresgyn a bod datganoli er budd pennaf plismona, fel y gellir ei alinio â gwasanaethau cyhoeddus lleol eraill.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:25, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, ac fel y dywedais, Lee, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae’n ei ddweud am y prif gwnstabliaid er mwyn taflu goleuni ar yr hyn y mae’n ei awgrymu, sef bod y prif gwnstabliaid o blaid hyn. Nid wyf wedi cau fy meddwl yn y mater hwn, ond mae’n rhaid i chi ddeall fod yn rhaid i mi leisio’r pryderon er mwyn inni allu eu trafod yn briodol.

Iawn. Soniais am Byron Davies. Rwyf am ddyfynnu yr hyn a ddywedodd y tro diwethaf—y tro diwethaf o bosibl—i ni drafod hyn, 2014:

‘Yn ystod fy amser fel swyddog yr heddlu, roedd yna bob amser lawer o arbenigwyr yn barod i gyflwyno syniadau a chynlluniau ar gyfer diwygio plismona. Roedd yn achos diflastod i rai ohonom fod yna bob amser bobl a oedd yn gwybod yn well. Roedd yn aml yn wir, os nad bob amser, fod y bobl hyn yn brin o ddealltwriaeth o’r hyn roedd plismona a phlismona gweithredol yn ei olygu mewn gwirionedd ac roeddent yn brin o wybodaeth ymarferol am blismona. Nid wyf yn credu y dylai plismona gael ei ddatganoli i Gymru.... Mae troseddu trawsffiniol, troseddu rhyngwladol a throseddu ar-lein yn gwneud achos Llywodraeth Cymru dros gymryd drosodd gan y Swyddfa Gartref yn wan iawn yn wir.’

Diwedd y dyfyniad. Nid ydym ni yn UKIP Cymru yn credu bod y ddadl dros ddatganoli plismona wedi cael ei gwneud hyd yn hyn. Dyna pam ein bod yn bwriadu ymatal ar y cynnig heddiw.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:26, 10 Mai 2017

Er gwaethaf beth yr ydym ni wedi ei glywed o un cyfeiriad y prynhawn yma, mae yna gonsensws cyffredinol yng Nghymru y dylid datganoli heddlua i Gymru, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion. Rydw i am ganolbwyntio ar ddwy ddadl pam mae’n gwneud synnwyr i ddatganoli i Gymru.

Mae plismona effeithiol yn golygu perthynas effeithiol ac agos efo’r gwasanaethau datganoledig yng Nghymru, ac mi fyddai datganoli’r heddlu yn adlewyrchu yn llawer gwell yr amgylchiadau sydd yn bodoli yng Nghymru, ac mi fyddai fo’n gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr holl wasanaethau brys a’r gwasanaethau cyhoeddus. Ac, yn y pen draw, mi fyddai hynny’n gwella’r gwasanaethau, ac yn y pen draw un, mi fyddai gwella’r gwasanaethau yn gwella ansawdd bywyd pobl Cymru—rhywbeth, gobeithio, y mae pawb yn y Siambr yma yn ei ddeisyfu.

A dyma gyflwyno dadl arall nad ydym ni wedi ei chlywed cyn belled y prynhawn yma. Mi fyddai datganoli’r heddlu hefyd yn gwella atebolrwydd. Roedd comisiwn Silk yn canfod bod y sefyllfa bresennol yn anfoddhaol, gan nodi bod llawer o gyllid yr heddlu’n dod o ffynonellau datganoledig, er gwaethaf y ffaith bod polisi strategol a materion yr heddlu yn cael eu penderfynu yn San Steffan. Mae yna ‘mismatch’ yn y fanna. Mae yna gydnabyddiaeth bod atebolrwydd yn broblem, a dyna oedd y tu ôl i greu’r comisiynwyr heddlu a throsedd. Er, mae modd dadlau y dylid, efallai, gael eu gwared nhw os byddai plismona’n cael ei ddatganoli. Nid wyf yn mynd i fynd i’r fanna y prynhawn yma, ond mi fyddai sut yn union y byddai’r atebolrwydd lleol yn digwydd yn fater ar gyfer trafodaeth bellach. Ond, yn sicr, mae hyn yn rhoi cyfle inni feddwl am ddulliau newydd o gryfhau’r atebolrwydd sydd fawr ei angen.

Felly, o ran gwella’r plethiad angenrheidiol rhwng yr heddlu a’r holl wasanaethau cyhoeddus, ac er mwyn gwella atebolrwydd yr heddlu, mae’n gwneud synnwyr datganoli’r heddlu.

Dwy ddadl yn unig—rydych chi wedi clywed dadleuon eraill hefyd, ac mae yna lawer mwy o resymau a llawer mwy i ddadlau yn ei gylch i greu’r achos dros ddatganoli heddlua i Gymru. Diolch yn fawr iawn i Steffan Lewis, Mike Hedges, a Julie Morgan am ddod â hwn gerbron heddiw, ac rydw i’n mawr obeithio y cawn ni o leiaf fwyafrif teilwng iawn o blaid y cynnig. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:29, 10 Mai 2017

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i drafod y mater pwysig hwn yma heddiw. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y Siambr. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn glir iawn ein bod am weld cyfrifoldeb dros blismona yn cael ei ddatganoli i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig i nodi bod plismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac yn cytuno â’r alwad dros ddatganoli plismona.

O ran materion arbenigol, fel gwrth-frawychiaeth, yn cael eu cydgysylltu ar lefel y DU, rwy’n ymwybodol mai model yr Alban ar gyfer gwrth-frawychiaeth yw bod Police Scotland yn cymryd eu cyfeiriad polisi gan Lywodraeth y DU, a chaiff ei gyflwyno drwy Police Scotland a’i ariannu drwy Lywodraeth yr Alban. Mae hyn yn gwneud synnwyr perffaith, ac fel y mae’r cynnig hwn yn ei awgrymu, mae’n well cydgysylltu gwrth-frawychiaeth ar lefel y DU. Wrth ddatblygu model ar gyfer datganoli, bydd hon yn ystyriaeth allweddol ar gyfer unrhyw waith a wneir yma yng Nghymru.

Plismona yw’r unig wasanaeth brys nad yw wedi’i ddatganoli. Mae’n anochel y byddai unioni hyn yn caniatáu mwy o gydweithio, gan ddatblygu cysylltiadau gwell, i helpu i gryfhau cydweithrediad â gwasanaethau datganoledig eraill. Fel y dywedodd Julie Morgan yn gynharach, cydweithio yw’r allwedd wrth i ni symud ymlaen. Mae rhannu staff ac ymarfer yn rhywbeth y mae’r tri chomisiynydd heddlu a throseddu, a’r prif gwnstabliaid, yn ei gefnogi’n llwyr ar hyn o bryd. 

Mae diogelwch ein cymunedau bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i’w gryfhau ymhellach. Byddai datganoli’n sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar blismona a diogelwch cymunedol yng Nghymru yn y dyfodol wedi’i deilwra’n briodol i amgylchiadau Cymru. Hefyd, rydym eisoes wedi cael perthynas waith agos gyda’r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru a’r comisiynwyr heddlu a throseddu yma yng Nghymru, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ac rwy’n cyfarfod â hwy’n rheolaidd i drafod ffyrdd o weithio gyda’n gilydd i wneud ein cymunedau’n fwy diogel.

Ym mis Medi, cyhoeddodd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ddatganiad ar y cyd yn cefnogi datganoli plismona i Gymru, ac rwy’n falch fod Bob Evans, sef dirprwy brif gwnstabl Cymru gyfan erbyn hyn, wedi cael ei benodi, a bydd yn gweithio gyda ni ar y mater hwn. Ei rôl fydd cynnal y berthynas rhwng yr heddluoedd, swyddfeydd y comisiynwyr, a Llywodraeth Cymru. O ran datganoli, byddwn yn sicrhau ein bod yn gweithio’n effeithiol o fewn y trefniadau presennol, er mwyn ystyried sut y byddai’r trefniadau hyn yn gweithio mewn sefyllfa ddatganoledig. Mae hyn yn allweddol i ddyfodol cynllunio ar gyfer datganoli.

Gwrandewais ar gyfraniadau Mark Isherwood a’r Aelod UKIP. Nawr, roedd y ddau’n ddiddorol iawn, ond a gaf fi, er eglurder, ailgadarnhau ymrwymiad y llythyr a gefais gan y comisiynwyr heddlu a throseddu a chadeirydd y grŵp plismona Cymru gyfan? Mae’r sylw’n dweud: ‘Fel cadeirydd presennol y grŵp plismona Cymru gyfan, amgaeaf gopi o’n datganiad ar y cyd, a gafodd ei ryddhau’n gyhoeddus. Mae’r datganiad hwn wedi cael ei drafod gyda’r pedwar prif gwnstabl, ac er y byddwch yn deall na fyddent yn dymuno rhoi sylwadau ar y mater sy’n galw am benderfyniad gwleidyddol, maent yn fodlon â’r hyn rydym wedi’i ddweud yn y llythyr.’

Felly, mae’r sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood, ynglŷn ag unigolyn yn dweud un peth wrthyf fi ac yn dweud rhywbeth arall wrtho ef, yna’n ysgrifennu ataf i ddweud rhywbeth arall, yn rhywbeth y byddaf yn mynd ar ei ôl gyda’r prif gwnstabliaid ledled Cymru. Nid yw hwnnw’n sylw addas i’w wneud. Fe gymeraf ymyriad gan yr Aelod.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:32, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Rwyf am gadarnhau na ddaeth y sylw rydych yn cyfeirio ato gan brif gwnstabl. Fodd bynnag, rwy’n cael cyfarfodydd preifat gydag aelodau o’r heddlu, ar wahanol lefelau, na allaf rannu’n gyhoeddus heb eu caniatâd. Ond gallaf ddweud wrthych yn gwbl bendant fod pob dyfyniad rwyf wedi’i roi, yn y gorffennol ac yn y presennol, wedi dod yn uniongyrchol o’u cegau, a chyfleu’r rheini, yn syml, a wneuthum.

A gaf fi ofyn hefyd, os caf, a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel yn yr Alban, neu a ydych yn sôn am ddatganoli pwerau fel ym Manceinion—ac os felly, pwerau’r comisiynydd heddlu a throseddu yn unig? Beth fyddai hynny’n ei olygu i’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym ar hyn o bryd?

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:33, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym yn sôn am ddatganoli’r heddlu i Gymru, ac mae llawer o drafodaethau i’w cael am hynny. Mae’r drafodaeth yn ymwneud â’r cysyniad, yr egwyddor o alinio hynny fel gwaith ar y cyd i’r Cynulliad hwn. Mae’r Prif Weinidog wedi bod yn eithaf clir ein bod yn credu, ochr yn ochr â’r comisiynwyr heddlu a throseddu sydd gennym yma yng Nghymru eisoes, mewn darparu gofod yn y cynlluniau er mwyn i ddatganoli ddod ar yr adeg briodol i’r Llywodraeth sy’n dymuno gwneud hynny.

Yr eironi arall oedd bod y Blaid Geidwadol hefyd yn gwrthwynebu’r egwyddor hon, ac eto roedd Nick Bourne, a oedd yn aelod o Gomisiwn Silk, yn cymeradwyo egwyddorion Silk—Aelod Ceidwadol anrhydeddus. Felly, unwaith eto, rwy’n synnu bod yr Aelod yn dymuno siarad yn ei erbyn ef hefyd.

Rwyf am nodi cyfraniad UKIP. Dechreuodd gyda’r sylwadau fod y mater yn un pwysig—yn fater pwysig iawn—’ond nid oes gennym safbwynt cadarn ar hyn’. Yna parhaodd i ddadlau yn erbyn yr achos dros wneud hyn, a pharodd hynny i mi amau cysondeb ei ddadl ar y cysyniad o ddatganoli. Mae’n amau’r fformiwla ariannu a gyflwynodd Steffan Lewis yn gryf iawn. Dyma un o’r Aelodau a ddadleuodd ynglŷn â £340 miliwn i’r GIG ei wario drwy Brexit—ac yna ni all ddeall y cysyniad o ddatganoli a’r fformiwla Barnett ar gyfer gwariant yr heddlu yma yng Nghymru. Byddwn yn annog yr Aelod i wneud ychydig bach mwy o waith ymchwil ar y mater, os gall. Llywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir iawn ar hyn.

I gloi, mae’n rhaid i mi hefyd dalu teyrnged i’r staff gweithredol ar lawr gwlad—yr arwyr ac arwresau di-glod sy’n gweithio y tu ôl i’r llenni. Maent i gyd yn barod i fynd y tu hwnt i’w dyletswyddau i gadw ein cymunedau’n ddiogel, a hoffwn ddiolch iddynt ar ran y Llywodraeth a’r Cynulliad hwn. Ni ddylai unrhyw un anghofio faint ein dyled iddynt am eu hewyllys da a’u hymroddiad. Mae yna lawer o faterion yn ymwneud â chyllid hefyd, y bydd yn rhaid eu hystyried ar gyfer y dyfodol, ond gallaf roi sicrwydd ac eglurder gan y Llywodraeth hon: ein bod yn awyddus i ddatganoli plismona i’r sefydliad hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:35, 10 Mai 2017

Galwaf ar Mike Hedges i ymateb i’r ddadl.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siarad fel cyn aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru, y bûm yn gwasanaethu arno am ychydig o dan bedair blynedd? A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn fod pobl wedi siarad yn erbyn, oherwydd mae’n rhoi cyfle i brofi’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno. Mae angen i bobl brofi’r dadleuon, ac mae’n ddyletswydd arnom wedyn i egluro pam fod yr hyn rydym yn ei ddweud yn gywir. Ond diolch i bawb a gymerodd ran.

Gwnaeth Steffan Lewis dri phwynt allweddol. Yn gyntaf, mae plismona wedi’i ddatganoli, nid yn unig i’r Alban a Gogledd Iwerddon—. Ac roedd Gogledd Iwerddon yn ddiddorol yn y ffordd y cafodd ei ddatganoli, gan ei fod wedi cael ei ddatganoli gan uwchfwyafrif o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Rwy’n siarad, yn ôl pob tebyg, fel yr unig berson yma sy’n credu mewn uwchfwyafrif ar gyfer llawer o bethau, ond rwy’n credu pan fydd pethau’n cael eu datganoli fel hynny, y dylai fod ar gael, ac os cawn uwchfwyafrif o 40 allan o 60 o Aelodau—nid ydym am iddo gael ei wneud drwy 31 i 29—uwchfwyafrif yw’r ffordd ymlaen. Mae ar gael ar gyfer Manceinion Fwyaf, mae ar gael ar gyfer Llundain, ond nid Cymru. Mae’n rhaid bod pawb yng Nghymru yn gofyn yr un cwestiwn: ‘Pam?’

Yn ail, mae angen ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU, ond nid ar lefel y DU yn unig. Rwy’n credu y dylem barhau i fod yn aelod o Europol. Nid wyf yn siŵr fod pawb sydd wedi siarad yn y ddadl yn credu hynny. Rwyf hefyd yn credu y dylem barhau i fod yn aelodau o Interpol, oherwydd nid yn unig yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr sy’n effeithio ar Gymru; mae’r hyn sy’n digwydd yn ne Iwerddon yn effeithio ar Gymru. Ac o ran y cyffuriau’n cael eu cludo i mewn, efallai’n wir mai’r hyn sy’n digwydd yn Amsterdam sy’n effeithio ar Gymru—ac yn sicr mae’r hyn sy’n digwydd yng Ngholombia yn effeithio ar Gymru. Yn sicr, mae angen i’r gwasanaethau brys weithio gyda’i gilydd, ond plismona yw’r unig un nad yw wedi cael ei ddatganoli. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. 

Dywedodd Mark Isherwood fod yn rhaid ymdrin â phlismona arbenigol ar lefel y DU o leiaf. Mae hynny’n hollol gywir—ond fel y dywedais o’r blaen, Europol ac Interpol hefyd. Nid wyf yn gwybod am neb o gwbl sydd eisiau heddlu Cymru gyfan. Pe baem yn trafod hynny heddiw, Mark, byddwn ar eich ochr chi. Byddwn yn dadlau yn erbyn heddlu Cymru gyfan, oherwydd credaf na fyddai o fudd i rannau helaeth o Gymru pe bai gennym heddlu Cymru gyfan, am fod anghenion plismona gwahanol rannau o Gymru yn wahanol. Ond nid yw hon yn ddadl dros gael heddlu Cymru gyfan.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:37, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A ydych felly’n datgan yn bendant na fyddai Llywodraeth gyfredol Cymru yn argymell uno heddluoedd pe bai pwerau’n cael eu datganoli iddi?

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Ni allaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Carl Sargeant yn ymyrryd o bosibl ac yn siarad am hynny, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o heddlu Cymru gyfan gan unrhyw un. Ond os down at hynny, Mark, rydych chi a minnau ar yr un ochr. Ac rwy’n siŵr fod yna bobl eraill yma sy’n dadlau yr un mor rymus dros ddatganoli plismona a fyddai hefyd ar yr un ochr â ni.

Mae gan Fanceinion Fwyaf gysylltiad sylweddol â Swydd Gaer a Glannau Mersi. Yn wir, mae’n llifo i mewn i’r ddwy ardal, yn yr un modd ag y mae gogledd Cymru yn llifo i mewn i Swydd Gaer. Wrth gwrs, mae rhai pethau’n wahanol rhyngom, ond mae’n ymwneud â gweithio gyda’n gilydd. Ac un o’r pethau y mae’r heddlu wedi bod yn ei wneud yn dda iawn ledled Prydain yw gweithio gyda’i gilydd. Nid ydynt wedi rhoi’r gorau i weithio gyda Northumberland neu Cumbria yn yr Alban oherwydd bod plismona wedi’i ddatganoli yno. Mae’n rhaid iddynt weithio gyda’i gilydd.

Dywedodd Julie Morgan ei bod yn ddirgelwch pam nad yw plismona wedi’i ddatganoli. Rwy’n cytuno’n llwyr â hi. Mae’n ddirgelwch. Ac a gaf fi hefyd ychwanegu nad yw datganoli anghymesur yn gweithio? Yr unig wlad sydd wedi dewis datganoli anghymesur hyd y gwn i—er, rwy’n amau y bydd Steffan yn fy nghywiro os wyf yn anghywir—yw Sbaen, ac maent wedi symud fwyfwy at gymesuredd gydag amser. A llefydd fel Unol Daleithiau America, sydd â datganoli sylweddol—mae ganddynt yr un lefel o ddatganoli yng Nghaliffornia, gyda’i phoblogaeth o bron i 30 miliwn, ag sydd ganddynt yn rhai o’r taleithiau llai, sydd ychydig yn llai na dinas-ranbarth Caerdydd.

Pam nad yw Cymru’n ddigon cymwys i reoli plismona? Pam fod gennym y cymhleth israddoldeb hwn? Mae gan rai pobl yng Nghymru y cymhleth israddoldeb hwn: ‘O, ni allwn ei wneud yng Nghymru; iawn, maent yn gallu ei wneud yn yr Alban, iawn, maent yn gallu ei wneud yng Ngogledd Iwerddon, iawn, maent yn gallu ei wneud yn Llundain, ond ni’r Cymry, nid ydym yn barod amdano eto.’ Credaf ein bod ni yng Nghymru cystal ag unrhyw le arall yn y byd, ac yn sicr nid wyf yn ystyried ein bod yn perthyn i’r ail, trydydd neu bedwerydd dosbarth.

Crybwyllodd Julie Morgan bwynt pwysig iawn fod swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol wedi bod yn boblogaidd iawn, ond swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn unig y gallem eu darparu am nad oedd plismona wedi’i ddatganoli. Gallem fod wedi darparu heddlu pe bai wedi cael ei ddatganoli. Mae cymorth ar gyfer heddlu ychwanegol ym maniffesto’r Blaid Lafur, ac rwy’n siŵr y byddai llawer o bobl eisiau i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, oherwydd mae pobl yn hoffi gweld yr heddlu. Rwyf wedi cael gwybod gan yr heddlu ar fwy nag un achlysur mai anaml iawn y byddant yn dal rhywun pan fyddant yn cerdded ar y stryd. Yr hyn rwy’n ei ddweud wrthynt, ac rwyf am ei ddweud wrthych yma yn awr, yw eu bod yn sicr yn atal llawer iawn o droseddau rhag digwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yno.

Mae Gareth Bennett yn dweud bod angen i ni fod yn wyliadwrus. Pam? Pam fod yn rhaid i ni fod yn wyliadwrus yng Nghymru pan nad oes yn rhaid iddynt fod yn wyliadwrus yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban? Nid wyf yn deall y wyliadwriaeth honno. Fel y dywedais, nid yw datganoli anghymesur yn gweithio. Mae Steffan wedi’i esbonio, ond mae fformiwla Barnett, os caiff ei chymhwyso i blismona, yn golygu ein bod yn cael mwy o arian. Mae gan Ogledd Iwerddon boblogaeth lai na Chymru; mae Gogledd Iwerddon gryn dipyn yn llai na Chymru. Mae wedi wynebu anawsterau na chawsom yng Nghymru. Ac er fy mod o bosibl yn anghytuno gyda rhai o’r gwleidyddion ar yr ochr arall i’r Siambr, nid wyf erioed—os af yn ôl 40 mlynedd, nid oeddwn yn ceisio’u lladd.

Crybwyllwyd Byron Davies, ond ni fu erioed ar y lefel reoli—

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:41, 10 Mai 2017

(Cyfieithwyd)

A yw newydd ddweud ei fod eisiau’n lladd ni?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Na, yn sicr, ni ddywedodd hynny. Yn sicr, ni wnaeth. Parhewch, Mike Hedges.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ei ailadrodd eto: yr hyn a ddywedais oedd—. Roeddwn yn cymharu Cymru â Gogledd Iwerddon. Mae yna bobl yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon sy’n eistedd yno heddiw, a oedd, 40 mlynedd yn ôl, ar ddwy ochr wahanol, ac mae’n bosibl bod llawer ohonynt wedi bod yn awyddus i Aelodau eraill yno gael eu lladd. Dywedais fy mod yn anghytuno â’r Blaid Geidwadol ac rwy’n anghytuno ag UKIP, ond nid wyf eisiau eu lladd mewn gwirionedd; rwyf eisiau eu curo mewn dadl. Dyna’r pwynt y ceisiwn ei wneud, ac rwy’n credu ei fod yn bwysig: fod Gogledd Iwerddon, gyda’i holl hanes a’i holl broblemau yn y gorffennol, wedi cael plismona wedi’i ddatganoli iddynt, ond nid ydym ni.

Dywedodd Sian Gwenllian fod yna gonsensws yng Nghymru. Rwy’n credu ein bod wedi gweld hynny. Gwn fod Mark Isherwood wedi crybwyll ei fod wedi siarad â heddweision, ond byddwn yn tybio nad oeddent yn brif gwnstabliaid, ac nad oeddent ar y lefel reoli chwaith. Rwyf wedi siarad â heddlu ar bob math o lefelau is sydd â phob math o safbwyntiau diddorol. Y bobl ar y lefel reoli sy’n gallu gweld sut y mae plismona’n cael ei gyflawni ar draws yr ardal—nid y rhingyll lleol sy’n gweithredu mewn ardal. Er mor bwysig yw ei swydd, mae ei ddealltwriaeth o blismona’r ardal gyfan a pholisi plismona gryn dipyn yn llai na’r rhai ar y lefel reoli.

Mae’n ymwneud yn agos â gwasanaethau datganoledig eraill, ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig, ond pethau sylweddol eraill a reolir gan Lywodraeth Cymru hefyd. Mae’n ymwneud â llywodraeth leol ac mae’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n ymwneud ag ystod eang o gyrff—nid oes gennyf amser i’w rhestru i gyd mae’n siŵr—ac nid gwasanaethau tân ac ambiwlans yn unig.

I gloi, a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae’r Gweinidog wedi’i ddweud? Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn credu yng Nghymru, yn credu ynom ein hunain ac yn cefnogi datganoli plismona i Gymru.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:42, 10 Mai 2017

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.