1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Mehefin 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod wedi gweld y ffigurau gan NUT Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sy’n dangos bod 0.25 miliwn o ddiwrnodau addysgu yn y pedair blynedd ers 2012 wedi’u colli o ganlyniad i salwch sy’n gysylltiedig â straen yng Nghymru. Byddwch hefyd yn ymwybodol, rwy’n siŵr, fod darlithwyr coleg yng Nghymru yn mynd ar streic yfory, gyda’u hundeb yn rhybuddio bod llwyth gwaith trwm yn difetha eu bywydau ac yn eu gwthio i ymyl y dibyn. Wrth gwrs, rydym wedi rhoi llawer o sylw yn y Siambr hon i arolwg gweithlu diweddar Cyngor y Gweithlu Addysg, a oedd yn dangos bod traean o athrawon ysgol a chwarter o ddarlithwyr addysg bellach yn dweud wrthym eu bod yn bwriadu gadael eu proffesiynau uchel eu parch yn y tair blynedd nesaf. Nawr, wrth i chi gytuno ar eich 10 blaenoriaeth addysg gyda’r Prif Weinidog pan aethoch yn rhan o’r Llywodraeth, oni ddylech o leiaf fod wedi cynnwys unfed ar ddeg, sef lles y gweithlu, oherwydd heb hynny, nid ydych yn mynd i gyflawni unrhyw un o’r 10?
Wel, Llyr, fel y clywsom yn y pwyllgor y bore yma, un o fy mlaenoriaethau yw sicrhau bod gennym weithlu ardderchog a rhagorol ym mhob agwedd ar addysg, ac mae pryderon baich gwaith yn real iawn. Maent yn amrywio’n fawr ar draws y gweithlu addysg; nid ydynt wedi’u cyfyngu i athrawon mewn ysgolion yn unig, fel rydych wedi’i gydnabod. Mae materion a blaenoriaethau gwahanol yn codi yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys ym mha gyfnod addysg y mae rhywun yn addysgu; natur wledig lle mae athrawon efallai yn addysgu dosbarth gydag amrywiaeth o grwpiau oedran, sy’n galw am wahaniaethu sylweddol, ac sy’n gallu bod yn anodd ei wneud; amddifadedd; maes pwnc; a’u rôl. Yr hyn sy’n bwysig yw ein bod yn ceisio gwneud rhywbeth am hynny. Mae’r arolwg athrawon cyntaf i ni ei wneud erioed wedi rhoi llawer iawn o gyfle i geisio deall rhai o’r pryderon gwirioneddol hyn o’r ystafell ddosbarth, ac rydym yn parhau i ddadansoddi’r data. Mae trafodaethau manwl ar y gweill gydag undebau’r gweithlu addysg ar gamau cynnar y polisi, ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r undebau hynny i geisio mynd i’r afael â’r pryderon i amrywiaeth o ffrydiau gwaith o fewn y Llywodraeth.
Diolch i chi am eich ateb, ond rwy’n credu ei bod yn amlwg i bawb fod yr ystadegau’n adrodd stori glir fod gennym weithlu sydd ar ei liniau o ran brwydro i ymdopi â’r gwaith sy’n eu hwynebu. Nawr, mae’n amlwg fod colli cymaint o ddyddiau addysgu yn arwain at nifer o effeithiau, nid yn lleiaf ar yr unigolyn sy’n absennol o’r gwaith. Mae’n tarfu ar addysg y plant, cyllid ysgolion, wrth gwrs, pan fo’n rhaid i chi gyflogi athrawon cyflenwi—a gwelais fod Caerdydd yn unig wedi gwario £12 miliwn ar athrawon cyflenwi yn y flwyddyn academaidd hon yn unig—ac wrth gwrs, ar weddill y staff, mae effaith arnynt hwy am eu bod yn gorfod cario baich ychwanegol yn anochel. Nawr, flwyddyn yn ôl i’r mis hwn, fe sefydlwyd tasglu gweinidogol y model cyflenwi gennych. Cyhoeddwyd yr adroddiad yn ôl ym mis Chwefror, ond nid ydym wedi clywed unrhyw beth ers hynny mewn gwirionedd. Nawr, o gofio bod ein system addysg mor ddibynnol ar athrawon cyflenwi, pryd y byddwn yn gweld camau pendant gan eich Llywodraeth yn hyn o beth?
Wel, Llyr, nid wyf yn anghytuno â’ch dadansoddiad o effaith y diwrnodau addysgu a gollwyd. Y cwestiwn yw beth i’w wneud am y peth. Fel y dywedais yn fy ateb cyntaf i chi, mae gennym amrywiaeth o ffrydiau gwaith yn ceisio osgoi’r broblem honno yn y lle cyntaf—h.y. peidio â bod yn ddibynnol ar athrawon cyflenwi mewn gwirionedd, ond cadw athrawon yn iach, yn wydn ac o flaen ein plant yn y dosbarth. Rwyf fi, gyda fy nghyd-Aelod o’r Cabinet dros iechyd, yn edrych ar gynlluniau ar gyfer yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi gwydnwch a chefnogi iechyd meddwl athrawon drwy roi arfau iddynt fynd i’r afael â’u problemau eu hunain o ran rheoli straen a rheoli llwyth gwaith, yn ogystal â gallu dysgu’r rheini i’r plant wedyn.
O ran y grŵp gorchwyl a gorffen ar y gweithlu cyflenwi, rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig braidd â chasgliadau’r adroddiad hwnnw. Pe baem wedi gobeithio y byddai’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi dod o hyd i un ateb i ddatrys y broblem hon, yna mae gennyf ofn nad yw’r adroddiad wedi gallu gwneud hynny. Rydym yn parhau i drafod ffyrdd y gallwn weithio, nid i leihau, ond i gyfyngu ar y ddibyniaeth ar athrawon cyflenwi, ac mae hynny’n cysylltu â’n gwaith ar ddatblygu polisi yn dilyn datganoli cyflogau ac amodau gwaith athrawon.
Ond mae pedwar mis ers i chi ddweud wrthyf eich bod yn ceisio camu ymlaen gyda’r agenda hon, ac o ystyried, unwaith eto, y data a’r ystadegau sydd gennym, yn amlwg, mae amser yn brin. Felly, nid wyf am bwyso arnoch ymhellach ynglŷn â hynny heddiw, ond yn amlwg, mae neges yno y mae angen gwrando arni.
A gaf fi newid cyfeiriad ychydig bach ar gyfer fy nghwestiwn olaf? Bydd yn dod yn glir, Llywydd, pam rwy’n cyfeirio fy nghwestiwn at Ysgrifennydd y Cabinet ac nid at y Gweinidog mewn munud. Mae’n ymwneud â’r Bil anghenion dysgu ychwanegol. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod £10 miliwn o’r gyllideb £20 miliwn sydd ganddo ar gyfer ariannu’r rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn dod o’r £100 miliwn y daethoch i gytundeb â’r Prif Weinidog yn ei gylch ar gyfer codi safonau ysgolion. Dywedodd hynny wrthym yn ystod proses graffu Cyfnod 1 y Bil. Gan ei bod wedi dod yn amlwg yn awr, wrth gwrs, fod cost y ddeddfwriaeth anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol uwch—hyd at £13 miliwn yn fwy drud—nag a ragwelwyd yn wreiddiol yn ystod y cyfnod arfaethedig, a allech ddweud wrthym a ydych yn disgwyl swm pellach i gael ei gyfeirio o’r £100 miliwn ar gyfer safonau ysgolion, ac os yw hynny’n digwydd, pa effaith a gaiff hynny ar y gyllideb benodol honno yn eich barn chi?
Gadewch inni fod yn hollol glir: wrth ddiwygio’n llwyr y ffordd rydym yn cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hynny’n rhan annatod o’n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau mewn ysgolion yng Nghymru a chau’r bwlch cyrhaeddiad. Mae perfformiad y plant hynny’n allweddol os ydym am weld y newidiadau sydd eu hangen arnom mewn addysg yng Nghymru. Nawr, yn ddi-os, ceir goblygiadau o ran adnoddau i sicrhau bod y plant hynny—a bod y ddeddfwriaeth honno’n cael ei gweithredu’n llwyddiannus, a byddwn yn parhau i gael trafodaethau yn yr adran addysg ynglŷn â sut yr ariennir y ddeddfwriaeth, a thrafodaethau ar draws y Llywodraeth. Ond rwy’n hollol bendant na allwn ysgaru addysg ein plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol oddi wrth ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau i bawb.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Gwener, y diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredinol, roedd yna eitem newyddion a oedd yn awgrymu bod eich Llywodraeth yn torri gwerth £28 miliwn oddi ar gyllid Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy’n amlwg yn mynd i effeithio’n sylweddol ar brifysgolion Cymru. Pam y penderfynasoch gladdu newyddion drwg ar y diwrnod hwnnw, a sut y gallwch amddiffyn y toriadau hynny?
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a wnaeth y cyhoeddiad hwnnw. Fel y byddai Darren Millar yn gwybod yn iawn fel llefarydd ar ran ei blaid, mae CCAUC yn gorff hyd braich ac nid oedd gennyf ddim i’w wneud â chyflwyno’r cyhoeddiad penodol hwnnw.
Nid ydych wedi ateb fy nghwestiwn, sef: sut y gallwch amddiffyn—sut y gallwch amddiffyn—y toriadau y mae CCAUC yn awr yn gorfod eu cyflawni i brifysgolion Cymru oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru? Rydym yn gwybod eisoes fod Prifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol De Cymru i gyd wedi rhybuddio eu bod yn mynd i orfod gwneud toriadau sylweddol i’w gweithlu a chyfyngu ar gyrsiau. Sut y gallwch amddiffyn y toriadau rydych yn awr yn eu gorfodi ar ein prifysgolion yng Nghymru?
Darren, gadewch i ni fod yn glir: mae addysg yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn wynebu cyfnod anodd iawn o ystyried y cyfyngiadau ar y gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn. Ond rwy’n siŵr, ar ôl dangos y fath diddordeb yn y datganiad i’r wasg, y byddwch wedi darllen geiriau David Blaney, y prif weithredwr, sydd wedi egluro bod y toriadau hyn yn deillio o’r ffaith na fydd £20 miliwn yn ychwanegol, £20 miliwn roeddwn wedi gallu dod o hyd iddo yn ystod y flwyddyn ar gyfer CCAUC, ar gael y flwyddyn nesaf. Mae rhan o’r arian hwnnw’n cael ei defnyddio i geisio rhoi ein prifysgolion mewn gwell sefyllfa wrth symud ymlaen. Ac mae rhan arall o’r toriad yn ymwneud â’r ffaith ein bod wedi symud yr arian ar gyfer y Coleg Cenedlaethol o CCAUC, ac rydym yn ariannu’r gwaith hwnnw’n uniongyrchol fel Llywodraeth Cymru, ac mae hynny hefyd i’w weld yn y ffaith fod llai o arian ar gael gan CCAUC. Gadewch i ni hefyd fod yn glir: cyfran fach iawn o’r arian sydd ar gael i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yw’r arian sydd ar gael drwy CCAUC i brifysgolion Cymru; rwy’n deall ei fod yn llai na 10 y cant o gyfanswm eu cyllidebau.
Wel, nid wyf yn synnu ei fod yn fach iawn, ac mae’n mynd i fod yn llai byth, onid yw, tra byddwch yn parhau i danariannu ein sector prifysgolion yng Nghymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Y realiti yw bod hyn yn mynd i ledu’r bwlch cyllido rhwng prifysgolion Cymru a phrifysgolion dros y ffin yn Lloegr, sy’n mynd i’w gwneud yn fwy anodd iddynt recriwtio myfyrwyr, gan ledu’r bwlch cyllido ymhellach eto felly, ac effeithio’n helaeth ar ymchwil a hyfforddiant. Ac mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi fy synnu gan eich tro pedol, o ystyried eich bod yn hyrwyddo adnoddau ychwanegol i CCAUC y llynedd pan oeddech yn wrthblaid. Mae eich tiwn wedi newid yn llwyr, rydych yn amlwg wedi mabwysiadu safbwynt Llafur ynglŷn â’n prifysgolion yng Nghymru, a byddwn yn eich annog unwaith eto i edrych ar yr adnoddau yn eich cyllideb adrannol i weld pa adnoddau ychwanegol y gallwch eu darparu i helpu i gau’r bwlch cyllido hwn, sydd wedi lledu o dan weinyddiaethau Llafur Cymru ac sydd i’w weld yn debygol o ledu hyd yn oed ymhellach o ganlyniad i’ch gwneud yn aelod o’r Cabinet.
Darren, gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â’r hyn y llwyddais i’w wneud wrth ddod yn rhan o’r Llywodraeth: daethpwyd o hyd i’r £20 miliwn ychwanegol a dynnwyd o’r gyllideb pan oeddwn yn yr wrthblaid, ac rydym wedi gallu darparu’r arian hwnnw i addysg uwch. Ond o ddifrif, nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan wleidydd Ceidwadol ar gyllido addysg uwch. Yn Lloegr, rydych wedi taflu’r sector hwnnw i’r farchnad, a’r farchnad sy’n gyrru darpariaeth addysg uwch yn Lloegr. Ni fydd hynny’n digwydd yng Nghymru, a byddwn yn manteisio ar gyfle ein diwygiadau radical o dan argymhellion Diamond i roi ein cyllid addysg uwch ar sylfaen fwy cynaliadwy. Mae honno’n system y mae pobl eraill, megis yr Alban, yn edrych arni gydag eiddigedd.
Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch, Llywydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o ysgolion cynradd sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori coch neu oren a faint o ysgolion cynradd yn y categorïau coch ac oren sy’n bwydo i mewn i ysgolion uwchradd yn y categori melyn neu wyrdd?
Llywydd, rwy’n ceisio paratoi ar gyfer y sesiynau hyn, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef, am y tro cyntaf ers imi sefyll yn y fan hon, y bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod gyda’r manylion penodol hynny. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yn hapus yw bod nifer yr ysgolion sy’n cael eu rhoi yn y categori coch, boed yn ysgolion uwchradd neu gynradd, yn disgyn—ac mae hynny’n rhywbeth i’w ddathlu.
Iawn. Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn y categori oren yn cael hyd at 15 diwrnod o gymorth, gyda’r rhai yn y categori coch yn cael hyd at 25 diwrnod o gymorth. Nid oes unrhyw sôn am adnoddau ychwanegol yn y canllawiau a roddir i rieni ac ysgolion—yr adnoddau ychwanegol at ddibenion cyflogi mwy o athrawon a darparu cyfleusterau ychwanegol ac wedi’u huwchraddio. A ydych yn fodlon fod 25 diwrnod o gymorth yn ddigon i dynnu ysgol o’r categori coch, a pha fath o waith sy’n mynd i gael ei wneud gydag ysgolion yn ystod y 25 diwrnod?
Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i helpu ysgolion ar eu taith wella wedi’i deilwra ar gyfer amgylchiadau unigol pob ysgol. Gofynnodd yr Aelod y cwestiwn, ‘A allwn fod yn hyderus fod y lefel o gymorth yn ddigonol i symud ysgol yn ei blaen?’ Yr ateb i hynny yw ‘gallwn’, a’r rheswm y gallaf ddweud hynny yw fy mod wedi ymweld ag ysgolion a oedd, bedair blynedd fer yn ôl, yn y categori coch, a flwyddyn ar ôl blwyddyn, maent wedi codi drwy’r system gategoreiddio a bellach yn ysgolion gwyrdd. Nawr, bydd taith wella rhai ysgolion yn cymryd mwy o amser a bydd angen lefelau mwy parhaus o gefnogaeth. Holl bwynt ein system gategoreiddio yw ein bod, drwy weithio ar y cyd â’r consortia a’r ysgolion unigol, yn gallu nodi diffygion, gallwn nodi’r hyn sydd angen ei wneud, a bydd y gefnogaeth yn cael ei rhoi ar waith i wneud y gwelliannau hynny.
Diolch am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd ysgolion yn amlwg yn elwa o’r math o gyngor a chymorth rydych yn sôn amdanynt, ac rwy’n sylweddoli bod gwella ysgolion yn broses barhaus, a dyna pam fy mod yn pryderu am y diffyg cymorth pendant a adlewyrchir yn y canllawiau ar y system gategoreiddio ysgolion. Fodd bynnag, bydd rhai pobl ifanc wedi treulio eu haddysg naill ai mewn ysgol categori oren neu goch wrth i chi fynd ati i wella ysgolion gan bwyll bach. Beth a wnewch i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc y mae’r system addysg yng Nghymru wedi gwneud cam â hwy?
Yn sicr, nid wyf yn mynd ati gan bwyll bach, ond gallaf ddweud wrthych mai’r hyn na fydd yn gweithio yw i mi stampio’r llawr yma yn y Siambr hon. Mae gwella ysgolion yn ymdrech ar y cyd sy’n gyfrifoldeb i arweinwyr ysgolion unigol, y staff yn yr ysgolion hynny, y cyrff llywodraethu, awdurdodau addysg lleol, y consortia rhanbarthol, ac yn wir, y Llywodraeth hon. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein system addysg. Rwy’n disgwyl llawer iawn gan ein harweinwyr ysgol. Nid oes ganddynt unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ond rwyf hefyd yn gwybod bod angen i mi roi mesurau ar waith i helpu’r ysgolion hynny i wneud y gwelliannau, a dyna rwy’n mynd i barhau i’w wneud.