– Senedd Cymru ar 21 Mehefin 2017.
Y ddadl nesaf yr awn ati yw dadl UKIP ar bolisi mewnfudo, a galwaf ar Neil Hamilton i gynnig y cynnig.
Cynnig NDM6335 Neil Hamilton, David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a’r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy’n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.
2. Yn credu:
a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi’i rheoli, sy’n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi’r DU;
b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o’r tu fewn iddo;
c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;
d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:
a) nad yw’n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o’r tu allan i’r UE;
b) nad yw’n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na’r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac
c) sy’n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae poblogaeth y byd ar y funud oddeutu 7.5 biliwn o bobl, ac mae 7 biliwn ohonynt yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo’r Deyrnas Unedig. Nid oes ganddynt hawl i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig, i fyw, gweithio neu astudio, oni bai eu bod yn gallu cael fisa, ac mewn llawer o achosion—yn y rhan fwyaf o achosion, mewn gwirionedd—maent angen fisa i ymweld yn unig. Eto i gyd, os ydych yn ddinesydd o’r Undeb Ewropeaidd, gallwch ddod yma fel hawl gyfreithiol, i chwilio am waith, i gael gwaith, i fyw, i astudio—i wneud beth bynnag y dymunwch. Mae hynny’n rhan annatod o fod yn aelod o’r farchnad sengl.
A’r hyn nad wyf yn ei ddeall yw pam y mae’r pleidiau sydd â safbwynt gwahanol i’n safbwynt ni ar fewnfudo—y rhai sy’n mynd i wrthwynebu’r cynnig hwn heddiw—eisiau gwahaniaethu yn erbyn gweddill y byd, oherwydd dyna mae ein polisi mewnfudo yn ei wneud. Os yw’n fuddiol i Gymru a’r Deyrnas Unedig gael drws agored i fewnfudo yn yr UE, pam nad yw’n fuddiol i ni gael drws agored yn yr un modd ar gyfer gweddill y byd? Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ateb byth gan y rhai sy’n delfrydu effeithiau aelodaeth o’r UE ar—[Torri ar draws.] Rydym yn siarad am hawl pobl i symud yn rhydd yn y fan hon, sy’n fater hollol wahanol i’r farchnad sengl. Os yw’n fanteisiol inni gymryd unrhyw nifer o unigolion sy’n ddinasyddion yn yr UE i ddod yn rhan o’n heconomi, neu o’n màs tir daearyddol yn yr UE yn unig, a bod hynny’n beth da i Brydain, pam nad yw’n beth da inni wneud yr un peth ar gyfer gweddill y byd? Beth sy’n gwahaniaethu Ewropeaid oddi wrth bobl Affrica neu Asiaid neu Americanwyr? Gadewch i ni gael yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn ystod y ddadl gan mai’r hyn rydym ei eisiau yn UKIP yw polisi mewnfudo anwahaniaethol sy’n—[Torri ar draws.] Ie, dyna rydym ei eisiau. Rydym eisiau cael y dull sy’n seiliedig ar bwyntiau y mae Awstralia yn ei ddefnyddio ar gyfer pob gwlad, ac a fydd yn darparu ar gyfer ein hangen am sgiliau penodol wrth warchod rhag gormod o fewnlif o bobl sydd heb fawr o sgiliau os o gwbl, ac effaith hynny, fel y mae ein cynnig yn dweud—fe ildiaf i Steffan mewn eiliad os yw’n dymuno ymyrryd—sydd mewn gwirionedd yn cywasgu cyflogau’r rhai ar waelod y raddfa incwm. Fe ildiaf.
Diolch i’r Aelod am ildio. Mae newydd ddweud mai polisi UKIP oedd system yn seiliedig ar bwyntiau. Wythnos neu ddwy yn ôl, eu polisi oedd system fewnfudo un i mewn, un allan. Tybed a allai egluro beth fydd y polisi yr wythnos nesaf.
Wel, ein polisi yw’r un yr ymladdwyd yr etholiad cyffredinol arno, yn ein maniffesto, sydd—
Yr un yn San Steffan.
Na. Mae’n bolisi mewnfudo anwahaniaethol sy’n seiliedig ar sgiliau. Y targed cyffredinol, dros gyfnod o bum mlynedd, yw lleihau mewnfudo net i sero.
[Anghlywadwy.]—un i mewn, un allan.
Ie, mewnfudo net yw’r hyn rydym yn sôn amdano. Ar hyn o bryd, rydym yn ychwanegu 0.5 miliwn o bobl at boblogaeth y DU bob blwyddyn drwy gyfuniad o fewnfudo a chynnydd naturiol yn y boblogaeth. Mae hynny’n sylfaenol anghynaliadwy yn y tymor hwy. Roedd poblogaeth y DU yn 2001 yn 59 miliwn. Roedd yn 65 miliwn yn 2015. Bydd yn 73 miliwn yn 2023. Wrth gwrs, nid oes gennym unrhyw syniad, mewn gwirionedd, faint o bobl sydd yn y Deyrnas Unedig, ac yn sicr nid oes gennym unrhyw syniad faint o bobl sy’n aros ar ôl i’w fisâu ddod i ben, ac sy’n fewnfudwyr anghyfreithlon felly, gan fod gwiriadau gadael wedi cael eu dileu gan Lywodraeth Blair yn 1998, ac felly mae’n amhosibl dweud. Felly, mae’r broblem fewnfudo mewn gwirionedd yn llawer gwaeth na’r hyn y mae’r prif ystadegau i’w gweld yn ei ddweud.
Y prif ddioddefwyr yn hyn, wrth gwrs, yw pobl ar incwm isel. Prin y gellid dadlau ynglŷn â hynny. Mae’n broblem syml o gyflenwad a galw—economeg sylfaenol. Ceir digon o astudiaethau academaidd, ar wahân i’r un gan Fanc Lloegr a nodir yn y cynnig hwn, sy’n dangos y pwynt hwnnw.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, fe ildiaf.
Rwy’n deall y pwynt y mae’n ceisio ei wneud, ond a allai egluro, o’i safbwynt ef, pam y mae’r Almaen wedi bod â lefelau uwch o fewnfudo ond wedi llwyddo i gael cyflogau uwch?
Wel, mae gan yr Almaen broblem wahanol. Bydd ganddynt boblogaeth sy’n lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd bod eu cyfraddau adnewyddu hyd yn oed yn is na’n cyfradd ni. Ceir ymchwydd poblogaeth, sydd wedi’i groesi ers amser yn yr Almaen, a bydd poblogaeth yr Almaen mewn gwirionedd yn disgyn dros y 30 mlynedd nesaf. Mae’r sefyllfa’n gwbl fel arall yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn ychwanegu, fel y dywedais ar ddechrau fy araith, 0.5 miliwn o bobl at ein poblogaeth bob blwyddyn. Wrth gwrs, os ceir cydbwysedd bras yn y lefelau mewnfudo, nid yw hynny’n gwthio cyflogau i lawr yn gyffredinol. Ond y broblem gyda’r gwelliant y mae Plaid Cymru wedi’i gyflwyno yw nad yw’r astudiaeth academaidd, y cyfeirir ati yn y fan honno, yn edrych mewn gwirionedd ar y gwahanol segmentau cyflogaeth ac effaith mewnfudo ar lefelau incwm gwahanol o fewn y cyfansymiau cyffredinol. Felly, nid yw’r ffigur cyfartalog yn dweud y stori lawn ac mewn gwirionedd, mae’n cymylu pethau. Mewn gwirionedd mae’n cuddio’r broblem y mae angen i ni wneud rhywbeth yn ei chylch. Oherwydd i lawer iawn o bobl yn awr yr isafswm cyflog yw’r uchafswm cyflog, ac nid yw honno’n sefyllfa dderbyniol yn fy marn i. Dynodwyd bod 80 y cant o’r rhai sydd wedi dod yma o’r UE yn bobl heb lawer o sgiliau neu heb sgiliau o gwbl.
Fe ildiaf, gwnaf.
Onid ydych yn derbyn, fodd bynnag, fod hynny’n ymwneud mwy â chyflogwyr sy’n camfanteisio nag y mae i’w wneud â phobl yn dod yma? Oherwydd mae gweithwyr heb sgiliau yn y wlad hon yn cael eu hecsbloetio gan gyflogwyr a allai dalu cyflogau uwch ac sy’n dewis peidio â gwneud hynny.
Wel, mae’n broblem sy’n ymwneud â chyflenwad a galw. Os ydych yn cynyddu’r cyflenwad o gymharu â’r galw, byddwch yn gostwng y pris. Dyna’r canlyniad anochel, mae arnaf ofn. Wrth gwrs, ceir cyflogwyr sy’n camfanteisio, ac rydym wedi cyfeirio at hyn sawl gwaith. Mae David Rowlands, yn y Siambr hon, wedi sôn sawl gwaith am broblem mannau golchi ceir, er enghraifft, a phobl sy’n cael eu cyflogi am ran fach iawn o’r isafswm cyflog drwy feistri gangiau ac asiantaethau sy’n anodd iawn eu plismona, ac rydym yn gwybod na chafodd neb ei erlyn yng Nghymru am dorri’r ddeddfwriaeth isafswm cyflog sydd bellach wedi bod mewn grym ers blynyddoedd lawer. Felly, mae’n sicr fod cywasgu cyflogau’n digwydd, yn ogystal â chyflogi unigolion yn anghyfreithlon ar gyflogau tlodi. Yr unig ffordd y gallwn ddechrau datrys y broblem yw drwy gyflwyno rhyw fath o system reoli mewnfudo sy’n ystyrlon ac sy’n gysylltiedig â’r cyfleoedd cyflogaeth sy’n bodoli. Ar y funud, mae’r Deyrnas Unedig yn profi gwelliant economaidd cymharol, felly mae llawer o’r anawsterau hyn wedi’u cuddio. Os ydym yn gweld yr economi’n gwaethygu eto, fel sy’n anochel maes o law, yna bydd y broblem yn cael ei hamlygu nid yn unig o ran cyflogau’n cywasgu, ond o ran cynnydd mewn diweithdra mewn gwirionedd. Unwaith eto, y bobl ar waelod y domen yn y gymdeithas yw’r rhai a fydd yn talu’r pris.
Rhaid cyfaddef, yng Nghymru, nid yw mewnfudo wedi creu’r mathau hyn o broblemau ar lefel sy’n unrhyw beth tebyg i’r hyn a welwyd mewn rhannau o Loegr, am fod 90 y cant o’r rhai sydd wedi dod yma o’r UE mewn gwirionedd yn mynd i dde a de-ddwyrain Lloegr. Ond mae’r Deyrnas Unedig yn wlad gymharol fach—yn ddaearyddol—ac mae ganddi farchnad lafur homogenaidd iawn, ac mae’r sgil-effeithiau i’w teimlo ymhellach o’r canol. Felly, mae’n gwthio cyflogau i lawr yng Nghymru, sy’n ddifrifol iawn am mai Cymru yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig, ac yn wir, mae rhannau o Gymru ymhlith y rhannau tlotaf ar gyfandir Ewrop. Mae’n sgandal, mewn gwirionedd, fod incwm cyfartalog yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y wlad wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein gwerth ychwanegol gros oddeutu 75 y cant o weddill y Deyrnas Unedig. Felly, mae unrhyw beth sy’n gwaethygu’r problemau hyn i bobl ar incwm isel i’w anghymeradwyo’n fawr. Fe ildiaf, yn sicr.
Mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn ei ateb. Y bwlch incwm o 30 y cant y pen rhwng Cymru a gweddill y DU—faint ohono y mae’n credu sy’n cael ei achosi gan fewnfudo?
Wel, ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn gwybod yr ystadegau. Ond y pwynt rwy’n ei wneud, beth bynnag yw’r ffigur hwnnw yw—[Torri ar draws.] Gall fod yn fach iawn, ac efallai nad heddiw yw’r diwrnod i ddyfynnu Tesco, o ystyried y cyhoeddiad eu bod yn cau eu canolfan alwadau yng Nghaerdydd, ond yn yr ystyr fod pob tamaid bach yn helpu, mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau’r wasgfa ar gyflogau yn rhywbeth y dylem ei wneud.
Ni allaf ddeall pa ddadl bosibl a allai fod dros gael drws agored i’r wlad hon ar gyfer pobl sy’n gwneud swyddi heb lawer o sgiliau pan fo gennym ddiweithdra i gael gwared arno o hyd a lle mae lefelau cyflogau ar ben isaf y raddfa incwm yn cael eu gwthio i lawr yn barhaus. Wrth gwrs, mae gan hynny oblygiadau o ran y Trysorlys yn ogystal, gan fod y budd-daliadau mewn gwaith yn gwneud iawn felly am y cyflogau isaf sy’n deillio o ganlyniad i’r cyflenwad gormodol o lafur. Cyflymder y mewnlifiad yw’r broblem. Os yw hyn yn digwydd dros gyfnod hir o amser, wrth gwrs, mae’n dod yn gytbwys, ond pan fydd gennym y math o fewnlifau ymfudol a welsom dros y 10 mlynedd diwethaf yn arbennig, yna mae’n broblem ddifrifol.
Cyn 2004, roedd lefelau mewnfudo ac allfudo yn yr UE a’r Deyrnas Unedig yn gytbwys ar y cyfan. Nid oedd yn broblem. Nid tan yr ymunodd hen wledydd lloeren yr Undeb Sofietaidd â’r UE y dechreuasom weld y llifau sylweddol hyn ar draws ffiniau, oherwydd, wrth gwrs, maent yn dechrau o sylfaen isel iawn o ran incwm cyfartalog yn eu heconomïau. Felly, yn anochel, mae’r gwledydd gorllewinol, ac yn enwedig Prydain, am ei bod y tu allan i ardal yr ewro, yn atyniad naturiol, a phwy all eu beio? Wrth gwrs eu bod am wella eu bywydau, ac ar y cyfan mae’r rhain yn bobl dda iawn sy’n meddu ar etheg gwaith gwych. Nid yr ymfudwyr eu hunain yw’r broblem, ond maint y mewnlifau, sef yr hyn sydd wedi cymell ein cynnig heddiw.
Felly, rwy’n erfyn ar Aelodau i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw fath o ddadleuon Mickey Mouse. Rwy’n gwybod nad ydym wedi’u cael hyd yma yn y dadleuon a oedd yn ymyrryd yn fy araith, ond mae’r holl siarad am hyn fel hiliaeth a rhagfarn ac mai’r asgell dde eithafol ac yn y blaen ydyw yn tanseilio’r hyn sy’n ddadl ddifrifol i bobl gyffredin, ac yn arbennig y rhai sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Felly, cyflwynwyd y cynnig hwn gerbron y tŷ heddiw er mwyn tynnu sylw at hyn a’r manteision a gawn o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r farchnad sengl—gan y bydd yn ein galluogi i reoli ein ffiniau ein hunain mewn ffordd ystyrlon, fel y dymunwn, er mwyn gwarchod ein pobl ein hunain.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Andrew R.T. Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.
2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o’r radd flaenaf barhau i recriwtio’r disgleiriaf a’r goreuon o bob cwr o’r byd.
3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo’r wlad.
Diolch i chi, Llywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies yn ffurfiol, ac rwy’n diolch i UKIP am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fe geisiaf beidio â chadw’r Siambr yn rhy hir heddiw, gan eu bod eisoes yn adrodd mai heddiw yw’r dydd poethaf posibl y tu allan. Ar ôl treulio ddoe yn siarad eto am Brexit, ar ddatganiad y Prif Weinidog, lle nad oedd llawer y gallwn ni fel sefydliad ymdrin ag ef ar hynny, mae’n rhaid i mi ddweud, er ei bod yn hollol gyfreithlon inni drafod mewnfudo, ac mae’n bwynt y mae llawer o bobl yn ei grybwyll pan fyddwn ar garreg y drws yn siarad ledled Cymru, fel sefydliad, nid oes llawer y gallwn ei wneud am y peth, a bod yn onest gyda chi, oherwydd yn amlwg, mae’n fater a gadwyd yn ôl.
Ond o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, a fy safbwynt i’n benodol, rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem ei groesawu, gallu pobl i symud o gwmpas, i allu mynd a dod fel y mynnant ac yn benodol, mae mewnfudo, yn fy marn i, wedi ein cyfoethogi fel gwlad—fel Cymru, ond fel y Deyrnas Unedig hefyd. Heb amheuaeth, yn economaidd, rydym yn llawer cyfoethocach fel gwlad oherwydd y gallu i bobl i ddod â’u sgiliau, i ddod â’u doniau, i’n gwlad, boed hynny yn y proffesiwn meddygol, boed hynny mewn gweithgynhyrchu, neu mewn maes rwy’n ei ddeall yn dda, y sector amaethyddol, lle mae llawer o’r gweithgarwch economaidd yn dibynnu yn y bôn ar y gallu i bobl ddod i mewn i’n gwlad ar drwyddedau gwaith byrdymor, fisas, beth bynnag y dymunwch eu galw, neu mewn gwirionedd, o dan hawliau a sicrhawyd dros amser, a helpu gweithgarwch economaidd mewn gwirionedd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru. A dweud y gwir, byddai gweithgarwch economaidd yn dod i ben oni bai bod y gallu i symud o gwmpas wedi’i ddiogelu a rhyw fath o gyfleuster wedi’i alluogi.
Os edrychwch ar y sector addysg uwch yn benodol, mae’n hanfodol fod yr enillion a wnaed gennym dros yr 20 i 30 mlynedd ddiwethaf ym maes ymchwil i fod ar flaen y gad mewn nifer o feysydd ymchwil yn cael eu diogelu wrth i ni gychwyn y trafodaethau Brexit yn arbennig. Mae’r gallu i ddysgu a’r gallu i ddod i mewn i’r wlad a gweithio yn ein canolfannau dysg yn elfen hanfodol o economi ddynamig yn yr unfed ganrif ar hugain sy’n rhaid inni, unwaith eto, fod yn hynod o ymwybodol ohoni yn fy marn i.
Ond i lawer o bobl, mae’n ffaith fod mewnfudo i’w weld yn bryder sydd ganddynt. Rwy’n meddwl yn aml iawn mai pryder canfyddedig yn hytrach na phryder go iawn ydyw—un sy’n aml yn cael ei gyfleu mewn rhaglenni eithafol ar y teledu sydd i’w gweld yn creu delwedd, argraff, o sefyllfa sy’n wahanol iawn i unrhyw gymuned a ddeallaf yma yng Nghymru, neu a welaf yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fel gwleidyddion, rwy’n meddwl mai ein lle ni, ynghyd ag eraill, yw hyrwyddo’r manteision a welwn, i’r economi ac i ni ein hunain fel cymdeithas, ynglŷn â’r gallu i symud o gwmpas ac yn y pendraw, i drwytho ein hunain ac ymgorffori ein hunain yn niwylliant a ffordd o fyw ein gilydd.
Felly, dyna pam rydym wedi cyflwyno’r gwelliant heddiw sy’n galw mewn gwirionedd ar y Cynulliad i fyfyrio ar natur groesawgar Cymru, ar yr economi agored sydd wedi bod gennym ac rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yn parhau i fod gennym wrth i ni symud ymlaen, pan fydd trafodaethau Brexit wedi dod i ben, ond gan fyfyrio ar yr hyn a oedd yn elfen bwysig o’r trafodaethau Brexit ynglŷn ag adfer rheolaeth a dod â gallu i sefydliadau democrataidd y wlad hon osod paramedrau’r hyn rydym ei eisiau fel gwlad mewn gwirionedd.
Efallai y byddech yn sydyn yn cael Llywodraeth a fyddai’n dweud, ‘Fe gymerwn bawb a chael polisi ffiniau agored’, ond byddai hynny’n fater i bobl bleidleisio dros y Llywodraeth honno. Ar y llaw arall, gallwch fflicio darn o arian, gallech gael Llywodraeth a fyddai’n arddel safbwynt gwahanol iawn ac yn dweud, ‘Na, rydym yn codi’r bont godi ac nid oes neb yn dod i mewn’, ond dyna yw democratiaeth yn y pen draw. Dyna beth, yn sicr, y rhown wleidyddion mewn mannau i’w wneud, er mwyn cyflawni ewyllys yr hyn y mae pobl yn ei feddwl yn y wlad honno, a dyna pam y cawn etholiadau.
Felly, dyna pam rwy’n aml iawn yn sefyll yn falch, yn ceisio hyrwyddo rhinweddau cymdeithas amrywiol iawn, fel rwy’n ei gweld, cymdeithas gymysg yn ddiwylliannol, ac economi, fel y dywedais, sy’n ffynnu ar allu pobl i fynd o Brydain i rannau eraill o’r byd, ac o rannau eraill o’r byd i ddod i Brydain, ac yn benodol, i Gymru. Pan edrychwn ar nifer o’n gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn arbennig, byddent yn peidio â gweithredu oni bai ein bod yn amlwg yn gallu denu a sicrhau’r proffesiynoldeb a’r ddynameg y gallant eu cynnig i gynorthwyo twf y GIG a thwf llawer o’n gwasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, gyda’r pwyntiau hynny, dyna pam rwy’n gobeithio y bydd y tŷ y prynhawn yma yn ffafrio gwelliant y Ceidwadwyr sydd ger ein bron ar y papur trefn ac yn pleidleisio dros y gwelliant hwnnw, gan ei fod yn galw ar y Cynulliad i fyfyrio ar yr hyn sydd gennym fel gwlad sy’n groesawgar, yn ddynamig ac yn amrywiol, gan gydnabod pryderon dilys sydd wedi bod gan bobl dros y degawd diwethaf fwy neu lai, lle mae rhai pobl yn canfod bod newid dramatig wedi digwydd yn y diwylliant a’r gymdeithas y maent yn byw ynddi, ac sy’n galw felly ar y Llywodraeth i gyflwyno polisïau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth a rhoi yn ei lle:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i’r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o’r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.
2. Yn credu y dylai’r hawliau a’r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a’r UE sy’n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.
3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fîsau penodol i Gymru er mwyn cau’r bylchau yn economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw Rhun ap Iorwerth yn ffurfiol. O’r cychwyn cyntaf, hoffwn ailddatgan barn Plaid Cymru, a barn, rwy’n meddwl, a rennir ar draws y rhan fwyaf o’r Siambr, fod croeso i’r rhai sy’n dod i’r wlad hon ac yn gwneud eu cartref yn y wlad hon, ein bod yn gwerthfawrogi’r sgiliau sydd ganddynt, y cyfraniad a wnânt i’n heconomi, a’r modd y maent yn cyfoethogi ein cymdeithas. Rydym hefyd yn ailddatgan ein galwad am ateb cyflym i statws dinasyddion yr UE sy’n byw ar hyn o bryd yn y DU, ac yn gobeithio y sicrheir cytundeb sy’n drugarog ac yn deg yn fuan yn y trafodaethau Brexit.
Mae’n drueni yn y blynyddoedd diwethaf fod yr iaith sy’n gysylltiedig â mater mewnfudo wedi bod yn ymrannol ac yn ddiraddiol. Yn wir, mae bob amser wedi fy nharo’n rhyfedd braidd sut y gall rhai ystyried dinesydd tramor sy’n symud i’r DU fel mewnfudwr, ond bod dinesydd Prydeinig sy’n symud dramor yn cael ei labelu’n rhamantaidd fel ‘expat’. Y gwir yw, wrth gwrs, ein bod i gyd, yn rhywle ar hyd y llinell, yn ymfudwyr. Mae honno wedi bod yn nodwedd gyffredin o’n rhywogaeth ers dechrau amser. Beth bynnag, rwyf am gyffwrdd yn fyr ar oblygiadau ymfudo o ran yr economi a pholisi. Mewn perthynas â dinasyddion yr UE yng Nghymru, mae llai na 80,000, a thua 80 y cant ohonynt mewn gwaith, ac mae cyfran uwch o’r 20 y cant sy’n weddill yn fyfyrwyr yn ôl pob tebyg. O’r 80,000 neu lai o ddinasyddion yr UE, mae nifer sylweddol yn ddinasyddion Gwyddelig a fyddai, mae’n debyg, hyd yn oed ymhlith y rhai a fyddai’n dadlau’n fwyaf brwd dros gau’r ffiniau, yn parhau i gael hawl i symud yn rhydd yn y DU ar ôl Brexit. Yn wir, rwy’n deall mai safbwynt presennol Plaid Annibyniaeth y DU yw y dylai Deddf Iwerddon 1949 a’i darpariaethau ynglŷn â hawliau dinasyddion Gwyddelig i deithio’n rhydd i ac o’r DU barhau yn ei lle ar ôl Brexit, sydd, mae’n debyg, yn codi’r cwestiwn pam eich bod yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o wladwriaethau eraill, pan nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon. Mater i chi ei ateb yw hwnnw. Daeth oddeutu 13,000 o staff academaidd ym mhrifysgolion Cymru o wledydd yr UE, ac mae bron i 50 y cant o’r milfeddygon sy’n cofrestru yn y DU wedi cymhwyso mewn mannau eraill yn yr UE. Yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, o fis Medi 2015, roedd tua 1,400 o ddinasyddion yr UE yn cael eu cyflogi gan y GIG yng Nghymru. Yn wir, rydych yn fwy tebygol o gael eich trin gan ymfudwr yn y GIG nag i fod yn ymfudwr yn un o giwiau’r GIG.
Daeth adroddiad a gyhoeddwyd gan Ysgol Economeg Llundain y mis yma ar ymfudo ac economi’r DU i’r casgliad nad oedd mewnfudo yn gyffredinol, na mewnfudo o’r UE yn benodol, wedi cael effeithiau negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb ar sail oedran yn y DU. Mae papur Ysgol Economeg Llundain hefyd yn datgan, ar lefel y DU, fod unrhyw ostyngiad yn y niferoedd sy’n mewnfudo o’r UE yn debygol o arwain at safonau byw is i’r rhai a gafodd eu geni yn y DU.
Yn wir, rydym eisoes yn gweld effaith wirioneddol y nifer ostyngol o ymgeiswyr tramor i’n prifysgolion. Mae’n werth nodi, hefyd, mewn gwledydd sydd â system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau, fod lefelau ymfudo y pen yn uwch. Ac o ran yr hyn a elwir yn bolisi ‘un i mewn, un allan’, byddai hwnnw’n ein harwain at sefyllfa niweidiol lle y gallai meddyg mawr ei angen fod yn cael ei gadw yn Dover hyd nes y byddai preswylydd yn y DU yn penderfynu gadael y wlad, a byddai honno’n sefyllfa afresymol i fod ynddi. Mae hefyd—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn werth nodi bod gan yr Almaen, gyda lefelau ymfudo uwch y pen na’r DU, ffigyrau cynnyrch domestig gros sefydlog, cododd gwariant cyhoeddus 4.2 y cant y llynedd, mae enillion misol gros ar gynnydd, mae diweithdra ar 3.9 y cant a cheir cynhyrchiant uwch na’r cyfartaledd yn y wlad honno nag yn y wladwriaeth hon, a fyddai’n awgrymu bod amodau ar gyfer gweithwyr yn y DU yn deillio o strwythur bwriadol yr economi ar ran llywodraethau olynol yn San Steffan. Yn wir, rwy’n cofio Gordon Brown yn 1998 yn dathlu’r ffaith fod marchnad lafur y DU hyd yn oed gyda chyflwyno mesurau fel yr isafswm cyflog, ymhlith y rhai a reoleiddir leiaf o gwmpas y byd, ac roedd hynny’n achos dathlu.
Nawr, wrth gwrs, rydym yn byw gyda chanlyniadau ymagwedd nad yw’n rhy llawdrwm tuag at ein cyfreithiau llafur yn y DU. Mae cyflogau sy’n lleihau, amodau gwaith ecsbloetiol, rheoleiddio llai manwl a sylfaen ddiwydiannol sy’n crebachu wedi bod yn gonglfaen i bolisi economaidd Prydain ers y 1980au fan lleiaf, a phobl sy’n gweithio, yn enwedig yn hen gymunedau diwydiannol Cymru, sy’n talu’r pris, yn llythrennol. Felly, mae angen newid y patrwm economaidd yn y wlad hon sy’n seiliedig ar le, wedi’i ysgogi gan ddiwydiant ac yn canolbwyntio ar y gweithiwr a’i hawliau, ni waeth ble y cafodd ei eni.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i gynnig yn ffurfiol gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei henw hi.
Gwelliant 3—Jane Hutt
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i’r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy’n cydbwyso swyddi a’r economi â’r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;
2. Yn cefnogi’r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:
a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i’r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a
b) cynyddu’r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.
Yn ffurfiol.
Hoffwn gyfyngu fy sylwadau i welliannau’r Ceidwadwyr. Yn gyntaf, a gaf fi gymryd pwynt 1? Hynny yw, wrth gwrs, ar ôl anwybyddu’r pwynt camarweiniol arferol ynglŷn â ‘dileu popeth’, gambit na ddylid ei ganiatáu. Dylai gwelliannau fod yn offerynnau ar gyfer newid, nid ar gyfer diddymu cynigion, ac rwy’n sylwi bod y ddwy blaid arall yn defnyddio yn union yr un cast heno. Ond byddaf yn fawrfrydig a dweud y byddem yn cytuno â’r pwyntiau a wnaed yng ngwelliannau 2 a 4 gan Blaid Cymru, ac yn 2(b) gan y Blaid Lafur.
Yn gyntaf, a gaf fi gymryd pwynt 1? Mae UKIP yn cydnabod y ffaith fod Prydain a Chymru bob amser wedi bod â chymdeithas groesawgar ac yn deall y rhan a chwaraewyd gan fewnfudwyr yn hanes yr ynysoedd hyn. Fodd bynnag, mae dilyn polisi o fewnfudo agored heb ei reoli pan fo gennym fwy nag 1.5 miliwn yn ddi-waith yn warth ar Lywodraethau Ceidwadol a Llafur.
Er enghraifft, mae oddeutu 80,000 o fyfyrwyr ym Mhrydain bob blwyddyn yn methu dod o hyd i leoedd ar gyrsiau nyrsio, tra bod y GIG yn parhau i gyflogi miloedd o nyrsys o dramor. Ychwanegwch hyn at y ffaith fod miloedd o nyrsys 40 oed a hŷn sydd wedi gadael i gael teuluoedd ac sydd yn awr yn awyddus i ddychwelyd i nyrsio ond yn methu gwneud hynny am eu bod yn gweld bod yn well gan y GIG nyrsys tramor iau. Efallai mai’r ffaith ei bod yn costio £70,000 i’r GIG hyfforddi nyrs—[Torri ar draws.] Rwy’n meddwl, Steffan, ein bod wedi eich clywed y rhan fwyaf o’r nos, felly os caf ganiatâd i gael fy amser wrth y rostrwm. Maent yn cyflogi tri nyrs a hyfforddwyd dramor ar gyflog cyfartalog o £24,000—dyna’u rheswm dros wneud hyn. Gadewch i ni droi cefn ar y nonsens y daw’r GIG i ben os nad ydym yn mewnforio nyrsys. Y gwir syml yw ein bod eisiau nyrsys yn rhad. Mae’r un peth yn wir am feddygon, wrth gwrs, felly rydym yn parhau i ysbeilio gwledydd y trydydd byd i ddiwallu ein hanghenion ein hunain.
Hoffwn droi yn awr at ail bwynt gwelliannau’r Ceidwadwyr. Mae digwyddiadau diweddar yn dangos bod Llywodraeth y DU prin yn rhoi sylw i wasanaethau cyhoeddus—mae toriadau a gafodd sylw yn ddiweddar i’r heddlu a’r gwasanaeth tân yn dyst i hynny. Ac o ran bod ein prifysgolion yn parhau i recriwtio’r mwyaf disglair a’r gorau o bedwar ban byd, mae hyn yn rhywbeth roeddent yn ei wneud ymhell cyn yr Undeb Ewropeaidd a dyfodiad mewnfudo heb ei reoli. Y gwahaniaeth, wrth gwrs, oedd bod y myfyrwyr hynny mewn gwirionedd yn talu eu ffioedd dysgu. Heddiw, y ffaith amdani yw bod llawer yn ei heglu hi heb ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr, gan ein gadael â dyled o £5 biliwn ar ffigurau 2013.
O ran llafur crefftus ar gyfer y sector busnes, mewn gwirionedd rydym yn gwrthod llafur crefftus o bob cwr o’r byd o blaid llafur heb fawr o sgiliau neu heb sgiliau o gwbl, o’r Undeb Ewropeaidd.
Iawn, wrth gwrs.
Dim ond i ddweud bod prifysgolion yng Nghymru yn dioddef oherwydd polisïau mewnfudo’r Llywodraeth Geidwadol, sy’n troi myfyrwyr a allai ddod i’r DU ymaith. Rwy’n gwybod hyn o brofiad. Rhaid i mi ddweud, David Rowlands, nid wyf yn credu eich bod yn gywir yn hynny o beth.
Wel, ar yr amod fod y myfyrwyr hynny’n talu eu ffordd ac yn talu am eu haddysg yma mewn gwirionedd, dylem eu croesawu. Yn bendant.
Rwyf am ymdrin â thrydydd gwelliant y Ceidwadwyr ac atgoffa am addewidion y Ceidwadwyr o dan Cameron cyn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dywedodd hyn:
Bydd ein cynllun i reoli mewnfudo yn eich rhoi chi, eich teulu a phobl Prydain yn gyntaf. Byddwn yn lleihau nifer y bobl sy’n dod i’n gwlad gydag amodau lles newydd llym a gorfodaeth gadarn.
Ond roedd sut oedd hyn yn mynd i leihau mewnfudo, o ystyried y datganiad sy’n cael ei ailadrodd dro ar ôl tro nad yw mewnfudwyr yn dod yma i gael budd-daliadau, i’w weld yn anghyson braidd. Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i ddweud:
Byddwn yn cadw ein huchelgais i gyflawni ymfudo net blynyddol yn y degau ar filoedd, nid y cannoedd ar filoedd ar hyn o bryd. Byddwn yn rheoli ymfudo—[Torri ar draws.] A oeddech am ddweud rhywbeth, Carl? Fe ildiaf os dymunwch. Na. Iawn.
Byddwn yn rheoli ymfudo o’r Undeb Ewropeaidd, drwy ddiwygio rheolau lles.
Unwaith eto’n awgrymu bod rheolau lles y DU yn annog mewnfudo.
Byddwn yn rhoi pen ar fewnfudo anghyfreithlon a chamddefnyddio’r isafswm cyflog.
Wel, rydym yn gweld nad yw hynny’n cael ei wneud.
Byddwn yn gwella diogelwch ein ffiniau ac atgyfnerthu’r gwaith o orfodi rheolau mewnfudo.
Ac yn olaf,
Byddwn yn datblygu cronfa i leddfu’r pwysau ar ardaloedd lleol a gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hyn i gyd yn profi bod y gwelliant a gyflwynwyd gan y grŵp Ceidwadol, a’r pwyntiau o dan y gwelliant hwnnw, yn dangos y cythrwfl sydd bellach yn bodoli o dan y Ceidwadwyr mewn perthynas â mewnfudo, a bod gwelliannau Ceidwadwyr y Cynulliad i’w gweld yn eu gosod benben â’u cymheiriaid yn San Steffan.
Cawn ein gwahodd yn y ddadl hon i drin UKIP fel pe bai ganddynt ddwylo glân ar fater mewnfudo. Cawn ein gwahodd i ystyried y ffaith fod UKIP wedi cael eu hethol i’r lle hwn fel pe bai’n glanhau staen ensyniadau, chwiban ci a rhagfarn—ond nid oes ganddynt ddwylo glân. Nid yw cael eu hethol i’r Cynulliad yn dileu staen cyn-ymgyrchoedd lle roeddent yn dangos posteri o ffoaduriaid yn ffoi rhag erledigaeth fel pe baent yn rhes o ymfudwyr i’r UE, lle roeddent yn defnyddio ymfudwyr fel bychod dihangol ar gyfer ein holl drafferthion: tonnau trosedd Rwmanaidd ac yn chwerthinllyd, tagfeydd ar yr M4. Nid oes yr un ohonoch—Neil Hamilton, Caroline Jones, Gareth Bennett, Michelle Brown, David Rowlands—nid oes yr un ohonoch wedi condemnio’r ymgyrch honno.
Yn lle hynny, mae UKIP wedi chwarae ar ofnau pobl; ofnau yn sgil pwysau yn eu bywydau. Fe guddioch y ffaith—[Torri ar draws.] Fe guddioch y ffaith fod gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu ar fewnfudwyr, gan osod cymuned yn erbyn cymuned. Fe guddioch y ffaith nad yw poblogaethau o oedran gweithio yn ddigon mawr i roi’r cymorth rydym am ei roi i’n pensiynwyr, gan osod cenhedlaeth yn erbyn cenhedlaeth.
Mae gan bobl ofnau ynglŷn â mewnfudo. Mae angen system fewnfudo sy’n adlewyrchu ein diddordeb economaidd cenedlaethol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddangos tosturi. Ond rydych wedi fforffedu unrhyw hawl i gael eich clywed ar y mater hwn gan y gwyriadau a’r rhagfarn rydych wedi bod yn ei ddiferu i glustiau pobl ers blynyddoedd—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen.
Mae pobl yn troi at wleidyddion am arweinyddiaeth a gonestrwydd ac mae canlyniadau ymgyrch yr etholiad cyffredinol yn dangos na ddaethant o hyd i’r naill na’r llall yn UKIP.
A Jeremy, dyna’n union—
Gareth Bennett. Gareth Bennett.
[Yn parhau.]—pam rydym yma, am na wrandawoch chi ar y bobl.
Gareth Bennett.
Rydym yn cael y ddadl hon heddiw oherwydd ein bod yn dod allan o’r UE ac mae angen i ni ddarganfod pa fath o Brexit rydym ei eisiau mewn gwirionedd, yn arbennig, pa fath o bolisi mewnfudo rydym ei eisiau. Mae ein cynnig yn sôn am system fewnfudo gadarn ond teg, mae’n nodi papur Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau ac mae’n edrych ar sicrhau cydbwysedd rhwng mewnfudo ac allfudo fel nod ar gyfer y tymor canolig.
Mae yna nifer o welliannau wedi dod i’n cynnig gan y pleidiau eraill ac mae fy nghyd-Aelod David Rowlands wedi edrych ar rai’r Ceidwadwyr.
Nawr, i ryw raddau, nodwyd safbwyntiau Llafur a Phlaid Cymru ar y pwnc hwn yn eu dogfen ar y cyd, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, a gyhoeddwyd ganddynt yn gynharach eleni. Felly, gallwn edrych ar hwnnw i weld rhai o’r manylion am y polisïau mewnfudo y maent yn eu cynnig, ac a adlewyrchwyd hefyd yn eu gwelliannau heddiw.
Mae rhai o’r pwyntiau yn eu papur ar y cyd yn eithaf diddorol ynddynt eu hunain. Er enghraifft, mae’r ddogfen yn datgan y bydd angen oddeutu 100,000 o weithwyr adeiladu ychwanegol yn y DU erbyn 2020. Nodaf fod yna lawer o bobl ifanc ddi-waith yn hen ardaloedd diwydiannol Cymru. Byddwn yn dweud y gallai prinder sgiliau o’r fath, ynghyd â’n gweithlu cudd, roi cyfle perffaith i ailfywiogi prentisiaethau a lleddfu problem pobl NEET—pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mewn geiriau eraill, gallai fod yn gyfle yn hytrach na phroblem.
Mae rhai o’r sgiliau prin a amlygwyd yn eu papur ar y cyd yn ddiamheuol ryfedd. Er enghraifft, daw 50 y cant o filfeddygon o’r tu allan i’r DU, ac eto rydym yn draddodiadol yn genedl hoff o anifeiliaid, felly pam nad ydym yn gallu hyfforddi ein milfeddygon ein hunain? Mae’r cynsail sylfaenol y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei amlygu—[Torri ar draws.] Wel, pam nad ydym? Un enghraifft yw milfeddygon—mae sawl un arall. Pam na allwn wneud hynny? [Torri ar draws.] Iawn.
Y cynsail sylfaenol y mae’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei amlygu yn eu dogfen yw prinder sgiliau. Y pryder y maent yn ceisio ei barhau yw y byddai’r hyn a elwir yn Brexit caled yn niweidio mynediad busnesau at sgiliau, ac eto mae’r mwyafrif helaeth o ymfudwyr o’r UE sy’n dod i’r DU yn dod i lenwi swyddi heb lawer o sgiliau. Felly, nid mynediad busnesau at sgiliau sy’n debygol o gael eu heffeithio mewn gwirionedd yn gymaint â’u mynediad at lafur rhad. Weithiau mae’n rhyfedd nodi bod y Blaid Lafur yn poeni am fusnesau’n gallu cael mynediad at lafur rhad gan eu bod fel arfer yn portreadu eu hunain fel y blaid sydd am godi cyflogau. Eto i gyd, yn eu safbwynt ar fewnfudo, maent yn arddel safbwyntiau sy’n eu gwneud yn blaid sydd am gadw cyflogau i lawr i bob pwrpas.
Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi cytuno â llawer o’r un safbwyntiau â Llafur. Ceir dadl a hyrwyddir gan Lafur a Phlaid Cymru, yn eu dogfen, na ddylem gael yr un rhyddid i symud ar ôl Brexit ag sydd gennym yn awr, ond dylem gael system wahanol, a bydd y system honno’n gysylltiedig â swyddi neu gynigion o swyddi, fel yr eglurodd y Prif Weinidog wrthym yn y Siambr. Wel, pan edrychwn ar union eiriad y ddogfen Lafur/Plaid Cymru, mae’n sicr yn amwys ar y pwynt sy’n ymwneud â chynnig swydd. Dyfynnaf:
‘Gallai hynny olygu cynnig swydd o flaen llaw neu’r gallu i sicrhau cynnig o fewn cyfnod byr i gyrraedd i’r wlad.’
Diwedd y dyfyniad. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, Simon.
Mae gennych ddigon o amser.
Wel, efallai fod gennyf amser, ond nid oes gennyf awydd.
Dyna ateb gwahanol.
Roedd yn ateb ardderchog.
Rwy’n ofni bod y dull hwn i’w weld yn codi mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb. Beth yw’r dystiolaeth o’r cynnig o swydd? Pa wiriadau a fyddai ar gael i atal—[Torri ar draws.]
A gawn ni ganiatáu i Gareth Bennett barhau, os gwelwch yn dda?
Diolch. Beth yw’r dystiolaeth o’r cynnig o swydd? Pa wiriadau a fyddai ar gael i atal cynigion ffug am swyddi? Beth yn union a olygir wrth amser byr? Sut y gellid olrhain y bobl hyn pe baent yn cael swydd ac yna’n ei gadael?
Yn olaf, mae’r ddogfen ar y cyd rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn dweud ei bod eisiau, ac rwy’n dyfynnu,
‘Diwylliant cryf o orfodi deddfwriaeth i atal cyflogwyr diegwyddor rhag camfanteisio ar weithwyr’.
Diwedd y dyfyniad. Ond rydym yn gwybod, gan ei fod wedi’i gofnodi, mai ychydig iawn o erlyniadau llwyddiannus a welwyd gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am beidio â thalu’r isafswm cyflog. Mae’r ddogfen ar y cyd yn dweud y bydd yn pwyso am ‘orfodaeth llawer cryfach’ mewn perthynas â deddfwriaeth isafswm cyflog. Yr hyn y mae’n amlwg nad yw’r ddogfen yn ei ddweud yw sut y bydd yn gwneud hyn, sy’n creu twll mawr braidd yn eu cynllun i atal camfanteisio ar weithwyr. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth sydd gan Weinidog y Llywodraeth i’w ddweud am hyn heddiw.
Roeddwn i eisiau siarad yn fyr yn y ddadl hon i apelio ar yr holl Aelodau yma ac ar bawb a allai fod ag uchelgais i ddod yn Aelod etholedig yn y dyfodol.
Mae llawer wedi cael ei ddweud am fewnfudo ac mae llawer o bobl yn y ddadl ar fewnfudo yn drysu rhwng ffoaduriaid a hawl pobl i symud yn rhydd mewn ffordd nad yw’n ddefnyddiol. Mae’r modd y digwyddodd y ddadl hon, mewn rhai achosion, wedi gadael blas cas iawn yn y geg, yn enwedig y ffordd y cafodd mewnfudo ei gynrychioli yn ystod y ddadl ar refferendwm yr UE. Cyfeiriaf yma at y poster gwenwynig a oedd yn dwyn i gof un o bosteri gwrth-ffoaduriaid o’r Almaen yn y 1930au. Os gosodwch y ddau boster ochr yn ochr, mae’r tebygrwydd yn hynod. Eto i gyd nid oedd statws ffoaduriaid byth yn destun trafod yn refferendwm yr UE. Ni fydd tynnu allan o’r UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’n rhwymedigaethau rhyngwladol i ddarparu lloches i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel neu erledigaeth, a byddai rhoi’r argraff y byddai yn gamarweiniol ar ei orau, ac yn bropaganda dieflig ar ei waethaf. Ac mae canlyniadau i dôn y ddadl hon. Rwy’n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn teimlo cymaint o siom a ffieidd-dod â minnau o glywed y newyddion am ddyn a oedd wedi symud i Gaerdydd yn gyrru fan wedi’i llogi i mewn i grŵp o bobl y tu allan i fosg yn Llundain. Digwyddiad ofnadwy, rwy’n siŵr y byddai pawb yn cytuno. Ac mae’n rhaid i bawb ohonom ymrwymo i leihau’r tebygolrwydd y bydd rhywbeth felly’n digwydd eto.
A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn y prynhawn yma i ddweud hyn wrth bob un o’n cymdogion Mwslimaidd: gwyddom y byddai’r mwyafrif helaeth ohonoch yn ffieiddio eithafiaeth dreisgar lawn cymaint â ninnau, ac rwy’n siŵr eich bod yn pryderu yn yr hinsawdd bresennol. Cred Plaid Cymru fod yn rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i ddiwreiddio eithafiaeth dreisgar o’n cymunedau ac i greu’r amodau lle y gallwn i gyd fyw gyda’n gilydd fel cymdogion da heb ofn a heb gasineb. Ond ni allwn wneud hynny os yw gwleidyddion a darpar wleidyddion yn rhoi gwybodaeth ffug, yn defnyddio propaganda Natsïaidd ei naws i wneud eu pwyntiau, ac yn siarad mewn tôn yn y ddadl hon sy’n tanio ofnau, casineb a rhagfarn pobl. Un Gymru ydym ni. Mae pawb sy’n byw yma yn haeddu parch ac yn haeddu cael eu cynnwys yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Dylai pob un ohonom deimlo’n ddiogel wrth i ni fyw ein bywydau o ddydd i ddydd. Dylai pobl liw allu byw heb hiliaeth. Dylai Mwslimiaid allu byw heb Islamoffobia.
Nid wyf wedi enwi enwau yma y prynhawn yma. Rydym i gyd yn gwybod pa dôn y cyfeiriaf ati, ac yn anffodus, nid yw wedi’i chyfyngu i un blaid wleidyddol benodol. O ble bynnag y daw, mae rhai pobl yn dilyn arweiniad gwleidyddion. Mae’n rhaid i bawb ohonom fod o ddifrif ynglŷn â’r cyfrifoldeb hwnnw ac rwy’n apelio ar wleidyddion ym mhob man i ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwnnw.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n ymateb i’r ddadl hon y prynhawn yma ac rwyf am ddechrau drwy ddweud pa mor bwysig yw ymfudo wedi bod, fel rhan mor bwysig o hanes Cymru a bydd yn rhan bwysig o’n dyfodol heddiw, a chredaf fod hynny’n sicr wedi ei adlewyrchu yn y cyfraniadau o rannau o’r Siambr hon heddiw. Mae wedi ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y Papur Gwyn a gyflwynwyd gennym ar y cyd â Phlaid Cymru, a bydd llawer o’r hyn rwy’n ei ddweud yn fy ymateb yn seiliedig i raddau helaeth ar y Papur Gwyn. Mae dinasyddion o wledydd eraill sy’n byw yng Nghymru yn gwneud cyfraniadau enfawr i’n heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau, a chlywsom ychydig am hynny, blas o hynny, yn y ddadl ysbrydoledig yn gynharach ar ffoaduriaid yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddweud hefyd—ac rwy’n cefnogi sylwadau agoriadol Steffan ar y pwynt wrth gynnig ei welliant yn fawr iawn—ei bod yn hanfodol fod hawliau dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yn y DU ar hyn o bryd yn cael eu diogelu. Rydym wedi bod yn galw dro ar ôl tro am hynny fel Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag am hawliau dwyochrog i ddinasyddion y DU yng ngwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Rydym yn cydnabod bod angen i ni reoli ymfudo, fel y dywedodd Jeremy Miles, drwy gysylltu ymfudo yn agosach â chyflogaeth, gan gynnig hyblygrwydd, a chefnogi ein huchelgais am fynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl Ewropeaidd. Ac mae camfanteisio ar ein gweithlu, wrth gwrs, yn fater allweddol a phwysig i’w drafod yn y Cynulliad hwn. Mae gormod o weithwyr yn cael eu hecsbloetio gan gyflogwyr diegwyddor, gan danseilio lefelau cyflog a thelerau ac amodau i’r holl weithwyr, ac rydym yn cydnabod y gall mewnfudwyr fod yn arbennig o agored i hyn. Ond nid mewnfudo yw’r mater y mae angen i ni fynd i’r afael ag ef yma ond camfanteisio, ac wrth gwrs, gall Llywodraeth y DU wneud llawer mwy i fynd i’r afael â chamfanteisio gan gyflogwyr nad ydynt yn talu isafswm cyflog neu sy’n amddifadu gweithwyr o’u hawliau statudol, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud yr hyn a all i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau llafur, ac mae’r rhain yn faterion pwysig i’w trafod. Er enghraifft, mae ein cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi yn nodi ein disgwyliadau clir i gyflogwyr ledled Cymru ymgorffori arferion gwaith moesegol yn eu sefydliadau a rhoi’r gorau i gamfanteisio ar lafur. Dylid nodi, wrth gwrs, fod gennym lefelau llawer is o ymfudwyr yng Nghymru na’r rhan fwyaf o rannau eraill y DU, ac mae llawer o bobl sydd wedi dewis byw a gweithio yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn darparu ein gwasanaethau cyhoeddus. Yn y GIG yng Nghymru yn unig, mae dros 1,300 o staff ymroddedig yn dod o’r UE. Yn wir, daw 7 y cant o’r holl feddygon yng Nghymru o’r UE. Ond hefyd ceir llawer o bobl a aned dramor sy’n gweithio yn ein sectorau economaidd allweddol ac sy’n chwarae rôl yn llwyddiant ein sefydliadau academaidd—roedd Andrew R.T. Davies yn cydnabod hyn—o ran ymchwil yn ein prifysgolion. Dyma bobl rydym yr un mor awyddus i’w gweld yn aros yng Nghymru ac yn dod i fyw a gweithio yng Nghymru yn y dyfodol.
Yn amlwg, rydym am sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael mynediad at swyddi o ansawdd uchel ac i wneud hynny, ein bod yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnynt yn yr ysgol neu yn nes ymlaen mewn bywyd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael mynediad at y cyfleoedd hyn. Felly, rydym yn gwneud hynny drwy’r blaenoriaethau sgiliau a nodir yn ‘Symud Cymru Ymlaen’, sy’n cynnwys cynorthwyo pobl sy’n chwilio am sgiliau cyflogadwyedd, creu cyfleoedd prentisiaeth a hyrwyddo arloesedd a chysylltedd. Lle mae prinder sgiliau a bylchau sgiliau, bydd ein gweithredoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r rhain yn y tymor hwy. Ond yn y tymor byr, mae angen i ni allu recriwtio staff o dramor i lenwi swyddi gwag allweddol.
Gofynnodd UKIP i ni nodi papur gwaith Banc Lloegr. Efallai bod ei ganfyddiadau’n berthnasol, ond mae’n rhaid eu hystyried yn y cyd-destun ehangach. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at bapur Ysgol Economeg Llundain, y mae eich gwelliant, Steffan Lewis, yn ymateb iddo, oherwydd mae’n werth ailadrodd yr hyn a ddywedodd Steffan Lewis. Daeth y papur i’r casgliad nad oes unrhyw effeithiau negyddol mawr iawn ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb cyflog i’r boblogaeth a aned yn y DU. Ond byddwn hefyd yn tynnu sylw at yr adroddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, a oedd yn dangos bod mewnfudo yn creu budd net i gyllid cyhoeddus.
Ond byddwn yn hefyd yn hoffi gwneud pwynt am y ffactorau y credaf y dylai UKIP fynd i’r afael â hwy. Tynnaf sylw at y ffactorau sy’n effeithio llawer mwy ar enillion pobl, megis chwyddiant, sydd ar ei bwynt uchaf ers blynyddoedd, a briodolwyd gan Fanc Lloegr i ddibrisio sterling a’r cyfnod cyn y refferendwm y llynedd a’r canlyniad wedyn. Mae caledi ariannol, unwaith eto, yn arwain at wasgfa ddifrifol iawn ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Mae diffyg buddsoddi mewn seilwaith yn nodwedd nodedig arall o bolisïau caledi ariannol Llywodraeth y DU, gan wanhau cynhyrchiant, a hynny, yn ei dro, yn arwain at lai o gynnydd mewn cyflogau. Bydd yr isafswm cyflog y deddfwyd ar ei gyfer a’r ffordd y caiff ei orfodi hefyd yn dylanwadu ar lefelau cyflogau a thwf, ac mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi’i hachredu fel cyflogwr cyflog byw gan y Sefydliad Cyflog Byw. Mae’r GIG yng Nghymru wedi bod yn talu cyflog byw go iawn i’w holl weithwyr ers 2015, ac rydym yn hyrwyddo manteision y cyflog byw go iawn yn fwy eang ar draws y sector cyhoeddus a’r economi. Mae’n rhan o’n cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu dull o weithredu sy’n cynnwys ffocws ar ymfudo sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, gyda chefnogaeth cyfreithiau llafur cryf a mwy o gyfleoedd i bawb. Rydym yn credu mai dyma’r opsiwn gorau ar gyfer ein heconomi ehangach a’n gweithlu, a’i fod yn rhoi’r opsiynau gorau i’r DU wrth iddi gychwyn ar drafodaethau. Mae yna agweddau ar welliannau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru y gallwn gytuno â hwy, sy’n cymeradwyo’r dull hwn o weithredu.
Yn olaf, Llywydd, rwy’n meddwl y byddwn yn dweud y byddai wedi bod yn dderbyniol pe bai UKIP wedi manteisio ar y cyfle nid yn unig i groesawu’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chamfanteisio ein gweithlu o ble bynnag y daw, ond hefyd i ymuno â ni i alw am roi terfyn ar y cyfnod o galedi, cyflogau isel a’r cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus, sydd oll yn dal i gael eu gwthio gan Lywodraeth Geidwadol, sy’n golygu bod ein gweithlu sector cyhoeddus wedi cael eu dal mewn cyfnod o gynnydd cyfyngedig mewn cyflogau ers saith mlynedd. Rwy’n ofni bod y ddadl hon yn datgelu rhaniadau sydyn yn y Senedd hon gyda’r wleidyddiaeth a arddelir gan UKIP, sy’n ffiaidd i’r rhan fwyaf o bobl yn y lle hwn. Rwy’n credu, Llywydd, bod hon yn wythnos pan ydym yn dathlu cyfraniad ffoaduriaid yng Nghymru, ac mae’n berthnasol i’r ddadl hon yn dilyn dadl ysbrydoledig y prynhawn yma ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, dadl am y cyfraniad y mae ffoaduriaid yn ei wneud ac eisiau ei wneud, a’r ffyrdd y ceisiwn eu cynorthwyo i wneud hynny. Mae’n drist iawn fod y ddadl honno, y ddadl ysbrydoledig iawn honno, wedi’i dilyn gan drafodaeth lle y gwelir gwir natur safbwyntiau ymrannol a negyddol UKIP unwaith eto. Roedd Jeremy Miles yn iawn i dynnu sylw at hanes UKIP yn hyn o beth, fel roedd Leanne Wood yn wir.
Byddwn yn dweud, yn olaf, fod y cynnig hwn yn mynd yn groes i raen gwerthoedd a safbwynt gwleidyddol y rhan fwyaf o bobl yn y Cynulliad hwn a’r bobl rydym yn eu cynrychioli yng Nghymru. Fe all Cymru fod yn noddfa. Gall fod yn wlad groesawgar gydag economi sy’n ffynnu. Byddwn yn dadlau gydag UKIP, ond ni fyddwn byth, byth, byth yn cytuno â’r safbwyntiau anwybodus a rhagfarnllyd y mae UKIP yn eu datgan heddiw. Rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliant.
Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Llywydd. Mae’n debyg ei bod yn anochel y byddai cyfraniad y pleidiau eraill yn y ddadl hon yn gwrthod ymgysylltu â byrdwn go iawn ein cynnig, sef cywasgu cyflogau. Nid yw UKIP yn anghydweld â rhinweddau ymfudo. Yn wir, euthum allan o fy ffordd yn fy araith i ddweud nad yw’r problemau go iawn a welwn heddiw ond wedi codi ers 2004 mewn perthynas ag ymfudo o’r UE, oherwydd cyflymder y mewnlifau rydym wedi’u profi, ac mae hynny wedi cael effaith anochel ar gyflogau isel, sy’n rhywbeth nad yw astudiaeth Ysgol Economeg Llundain yn ymdrin ag ef. Mae astudiaeth Banc Lloegr a llawer o rai eraill y gallwn fod wedi’u henwi—a gallwn eu rhestru yn awr, gan fod yr holl adroddiadau gyda mi—wedi dod i’r un casgliad, ac mae’n amlwg beth bynnag: pan fyddwch yn cynyddu’r cyflenwad o gymharu â’r galw, rydych yn tueddu i ostwng prisiau.
Mae’n drueni mawr fod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn arbennig yn gwrthod ymgysylltu â’r hyn y mae’r mwyafrif llethol o bobl Prydain yn ei deimlo: fod mewnfudo wedi bod allan o reolaeth, yn parhau i fod allan o reolaeth a bod yn rhaid ei reoli. Os ydynt ond yn cadw eu pennau o dan y dillad gwely ac yn gwrthod cydnabod y broblem, dyna sy’n cynhyrchu aflonyddwch cymdeithasol. Hynny yw, ar hyn o bryd, yn ffodus, nid dyna yw’r sefyllfa yn y Deyrnas Unedig, ond os ydym yn mynd i gyfnod gwaeth yn economaidd, mae’n ddigon posibl mai dyna a welir maes o law.
Nid oes gan y ddadl hon ddim oll i’w wneud â ffoaduriaid—ysgyfarnog a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Dadl am effeithiau economaidd ymfudo yw hon, ac rwy’n anghymeradwyo cyfraniad Jeremy Miles ac yn wir, ymgais arweinydd Plaid Cymru unwaith yn rhagor i’n pardduo fel pobl hiliol a rhai sy’n casáu tramorwyr, ac yn y blaen. Pe baem yn amlygu hanes nifer o aelodau blaenllaw’r Blaid Lafur, gyda’u rhefru a’u cyfeiriadau gwrth-Semitaidd, yn cynnwys arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, sydd wedi gwrthod ymddiheuro nifer o weithiau am ddisgrifio Hezbollah, y milisia Libanaidd sy’n lladd Iddewon, fel ffrindiau, yna gallaf bardduo’r Blaid Lafur gyda’r un brwsh. Beth am Naz Shah, Aelod Seneddol, sydd wedi trydar y dylai Israeliaid gael eu cludo i’r Unol Daleithiau o’r Dwyrain Canol, er mwyn i’r Dwyrain Canol fod yn heddychlon unwaith eto heb ymyrraeth dramor o’r Unol Daleithiau? A ydynt yn mynd i gondemnio Jeremy Corbyn a Naz Shah? A ydynt yn cynrychioli barn y Blaid Lafur? Maent yn fwy cynrychioliadol o farn y Blaid Lafur, oherwydd, gyda rhai fel Ken Livingstone yn dal yn y Blaid Lafur, sydd wedi bod yn gyfrifol ei hun am wneud sylwadau treisgar gwrth-Semitaidd, maent yn wynebu llawer mwy o risg o gael eu llygru gan hiliaeth nag y bydd UKIP byth.
Roedd y ddadl—[Torri ar draws.] Roedd y ddadl i fod yn drafodaeth ddifrifol am effeithiau economaidd mewnfudo, ac mae’n druenus, mewn gwirionedd, fod Aelodau eraill, fel Jeremy Miles, wedi bod mor fabanaidd â’i gwyrdroi’n gyfle i alw enwau yn y modd y gwelwyd heddiw. Mae’r Ysgrifennydd Addysg yr un mor ddrwg, ar ei heistedd, hefyd. Pe bai yn yr ysgol, byddai’n cael ei hel i gefn y dosbarth neu ei hel allan o’r ystafell am ymddwyn yn afreolus. Felly, UKIP yn unig sy’n mynd i leisio’r materion hyn mewn gwirionedd, a dyna pam y cawsom 12 y cant o’r bleidlais yn yr etholiad fis Mai diwethaf, ac mae gennym hawl democrataidd i fod yma’n siarad ar ran y rhai a bleidleisiodd drosom, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy’n annog pawb i bleidleisio dros ein cynnig heddiw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.