– Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg oedolion ac addysg yn y gymuned, ac rydw i’n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6340 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2. Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.
3. Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Diamond.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu gwasanaeth cynghori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a
b) buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.
Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o arwain y ddadl y prynhawn yma ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cyn i mi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma, a gaf fi ddatgan buddiant fel myfyriwr addysg uwch rhan-amser yma yng Nghymru? Mae addysg bellach ac addysg uwch yn cael effaith eang a buddiol ar ein heconomi a chymdeithas Cymru, ond nid rhai o dan 24 oed yn unig a all gyfrannu at yr effaith gadarnhaol hon. Dyna pam rwy’n falch, yn syth ar ôl Wythnos Addysg Oedolion yr wythnos diwethaf, ein bod yn cael cyfle i drafod y rôl sydd i addysg ran-amser a dysgu gydol oes ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn natur ddatblygol ein gwlad a’i phobl.
Cyn i mi ddatblygu fy nghyfraniad, rwyf eisiau mynd i’r afael â’r gwelliannau a gyflwynwyd. Byddwn yn cefnogi gwelliant 2. Mae Plaid Cymru yn llygad eu lle yn tynnu sylw at y lefel o ansicrwydd y mae ein sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn ei hwynebu oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch ar gyfer 2018-19. Credwn yn gryf fod angen cael pecyn a chynllun ariannol priodol tair blynedd ar waith. Ond o ran gwelliant 1, er fy mod yn clywed yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ceisio ei ddweud am ei chynlluniau ar gyfer y dyfodol, nid wyf yn credu bod Gyrfa Cymru fel y mae yn addas i’r pwrpas. Mae’n hynod o brin o adnoddau ac nid yw’n darparu’r math o gyngor annibynnol a phwrpasol sydd ei angen ar ein dysgwyr ar y funud, felly byddwn yn gwrthwynebu’r gwelliant hwnnw.
Felly, er bod ffocws, yn ddigon teg, ar addysg bellach ac addysg uwch amser llawn, y pris a dalwyd am hynny yw ei fod wedi dod yn ddull diofyn o ddarparu. Pan fydd cymdeithas yn meddwl am fyfyrwyr, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud bod y rhan fwyaf ohonom yn aml yn cysylltu hyn gyda llun o’r rhai sy’n mynd yn syth o’r ysgol i brifysgol neu goleg. Ond mae nifer sylweddol a chynyddol o oedolion yn dymuno dechrau neu barhau ag addysg bellach neu uwch ar gam gwahanol yn eu bywydau, ac mae gennym lawer o bobl sy’n gorfod goresgyn heriau i’w galluogi i astudio. Gall trafod eu trefniadau ariannol, dod o hyd i gwrs hyblyg i weddu i ymrwymiadau gwaith a theulu sydd eisoes yn bodoli, neu orfod cael gafael ar wybodaeth ar gyfer y cwrs lesteirio eu gallu i ymgymryd ag addysg ran-amser yn sylweddol. Erbyn 2022, bydd un rhan o dair o’n gweithlu dros 50 oed, ac eto mae’r rhan fwyaf o wariant Cymru ar addysg wedi’i gyfeirio’n bennaf tuag at blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, bydd y rhai rhwng 18 a 24 oed yn cael bron i 100 gwaith yn fwy wedi’i fuddsoddi ar eu haddysg gan Lywodraeth Cymru na rhywun sydd rhwng 50 a 74 oed. At hynny, pan edrychwn ar nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yng Nghymru o’i gymharu â phobl rhwng 50 oed a’u hoedran pensiwn nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, mae’r ffigurau’n drawiadol—mwy na thair gwaith y gwahaniaeth: 60,000 o’i gymharu â thua 200,000. Wrth gwrs, mae’r anfantais i’w theimlo fwyaf yn y rhannau difreintiedig o’n gwlad.
Felly, os ydym yn dilyn ein tuedd bresennol, y gwir amdani yw ein bod mewn perygl o osod trap ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n llesiant personol yn y dyfodol, gan y byddwn yn methu defnyddio gallu llawn a photensial pawb yn ein gweithlu, a byddwn yn methu datblygu’r potensial hwnnw a’r dalent honno mewn rhannau o Gymru sydd eisoes yn cael eu gadael ar ôl. Felly, yn wyneb y newid demograffig hwn, mae datblygu fframwaith ac adnoddau dysgu oedolion yn y dyfodol yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod gan economi Cymru y sgiliau sydd eu hangen arni.
Mae Wythnos Addysg Oedolion newydd ddod i ben. Dyma’r 26ain mlynedd iddi fod yn dathlu a hyrwyddo’r rhai sydd eisoes wedi mynd ar y daith drwy addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith—menter wych, rwy’n siŵr y byddem i gyd yn cytuno. Ar ben hynny, wrth gwrs, rydym wedi cael y Gwobrau Ysbrydoli! sy’n pwysleisio’r modd y mae addysg yn un o’r arfau mwyaf defnyddiol a phwerus sydd gennym fel cyfrwng galluogi i bawb o unrhyw oedran neu gefndir allu ffurfio a newid eu bywydau mewn modd cadarnhaol.
Felly, ein bwriad, wrth drafod y mater hwn y prynhawn yma, yw gallu symud oddi wrth y pwyslais ar addysg amser llawn i gydnabod yn lle hynny y gwir botensial enfawr y gall dysgu rhan-amser ei gynnig. Fel y mae’r adroddiad a gomisiynwyd ar y cyd yn 2014 gan y Brifysgol Agored ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, ‘Mae’n Hen Bryd’ yn dadlau, mae addysg uwch ran-amser yn ymwneud â llawer o bethau, ond yn y pen draw mae’n dibynnu ar un ffactor allweddol, sef amser. Mae’r rhai sy’n dychwelyd at addysg ran-amser yn aml yn jyglo ymrwymiadau eraill. Maent yn gofalu am eu teuluoedd, maent eisoes yn dilyn gyrfa, neu maent yn ceisio goresgyn brwydrau personol i ailddechrau neu ailgyfeirio eu bywydau. Weithiau, maent yn gwneud yr holl bethau hyn gyda’i gilydd, ar yr un pryd.
Ar hyn o bryd ychydig dros 40,000 o bobl yma yng Nghymru sydd wedi’u cofrestru mewn addysg uwch ran-amser. Maent wedi penderfynu neilltuo dyddiau’r wythnos, gyda’r nos, ar ôl gwaith. Maent wedi gwneud ymrwymiadau personol, ac maent yn dyfalbarhau, yn aml iawn, drwy bwysau ariannol a theuluol i ennill cymhwyster, i ailhyfforddi eu hunain, i wella sgiliau neu ymgymryd â her ddeallusol. Ac rwy’n meddwl bod eu hymrwymiad a’u parodrwydd i fuddsoddi eu hamser, eu hadnoddau a’u hegni’n golygu y dylem ni yma yn y lle hwn hefyd wneud ymrwymiad iddynt hwy a dylem geisio gwneud popeth yn ein gallu i wneud y dewis y maent wedi’i wneud yn haws.
Ond mae’n amlwg o’r tueddiadau cyfredol, yn anffodus, fod oedolion yn ei chael hi’n fwyfwy anodd cofrestru mewn addysg ran-amser, gan fod y niferoedd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn dirywio. Gostyngodd y niferoedd sy’n dysgu’n rhan-amser 21 y cant mewn un flwyddyn rhwng 2015 a 2016 mewn sefydliadau addysg bellach ac roedd gostyngiad o 11 y cant yn y niferoedd sy’n astudio’n rhan-amser mewn addysg uwch yn yr un flwyddyn. Yn ogystal â hynny, cafwyd gostyngiad o chwarter yn nifer y dysgwyr mewn addysg awdurdod lleol i oedolion yn y gymuned yn yr un flwyddyn hefyd. Felly, ers 2011-12, mae 21,000 yn llai o ddysgwyr bob blwyddyn yn narpariaeth addysg awdurdodau lleol i oedolion yn y gymuned, i lawr o 35,000 i ychydig dros 14,000.
Nawr, rwy’n deall bod y Llywodraeth wedi ceisio mynd i’r afael â mynediad at addysg uwch ran-amser yn benodol, a dyna pam y cofnodwyd ein bod wedi croesawu darpariaethau adolygiad Diamond, argymhellion adolygiad Diamond a’r llwybr y mae’r Llywodraeth wedi cychwyn ar hyd-ddo. Rwy’n credu ei bod yn hollol gywir fod hwnnw’n rhoi parch cydradd i fyfyrwyr rhan-amser o ran y cymorth ariannol y gallant ei gael ar gyfer dilyn cyrsiau addysg uwch. Ond wrth gwrs, mae angen hwb ar addysg bellach hefyd o ran cymorth a mynediad ato, ac nid yw Diamond yn mynd i’r afael â hynny yn y ffordd roedd llawer ohonom wedi gobeithio y byddai’n ei wneud mewn gwirionedd.
Gan ddychwelyd at addysg uwch, ar hyn o bryd y ddwy flaenoriaeth i fynd i’r afael â hwy, wrth gwrs, yw cyllid a hyblygrwydd. Fe wyddom fod gwaith ymchwil diweddar gan y Brifysgol Agored yn dangos bod bron i chwarter y rhai mewn addysg uwch ran-amser yn defnyddio’u cynilion i dalu eu ffioedd dysgu, ac roedd chwarter arall yn ariannu eu haddysg drwy waith am dâl tra’u bod yn astudio. Ond mae’n destun pryder fod 17 y cant o ddysgwyr, yn ôl y Brifysgol Agored, wedi defnyddio dyled, gan gynnwys dyledion cardiau credyd, gorddrafftiau a benthyciadau diwrnod cyflog, i gyllido eu ffioedd dysgu. Mae’r ffigurau hyn yn dangos nad yw’r system bresennol yn gweithio i fyfyrwyr rhan-amser.
Nid yw’n hygyrch, yn enwedig i rai sydd mewn gwaith ar gyflogau isel yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru. Rwy’n credu bod ganddynt heriau penodol y mae angen i ni eu helpu i’w goresgyn. Felly, mae gennym amharodrwydd i fynd i ddyled ymhlith myfyrwyr aeddfed, a chredaf fod hynny hefyd o bosibl yn cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y bobl sydd wedi bod yn ymgymryd ag addysg uwch ran-amser, ac addysg bellach yn wir, yn y blynyddoedd diwethaf.
Nawr, fe wyddom fod benthyciadau ôl-raddedig yn mynd i fod ar gael o fis Medi eleni. Credaf fod hynny’n beth i’w groesawu’n fawr, ond wrth gwrs, mae angen i ni wneud yn siŵr fod rhywfaint o sicrwydd y tu hwnt i’r flwyddyn academaidd nesaf ar gyfer y darpariaethau ôl-radd hynny, ac yn wir ar gyfer yr holl fyfyrwyr eraill ar ôl adolygiad Diamond. Yn y system bresennol, mae ceisiadau am fenthyciadau ar gyfer astudio rhan-amser ar agor i’w cyflwyno yn hwyrach na’r rhai ar gyfer astudio amser llawn, a rhaid gwneud y ceisiadau hyn drwy gyfrwng copïau caled yn hytrach nag ar-lein fel y gall myfyrwyr amser llawn ei wneud. Pam? Nid yw hynny’n hygyrch, nid yw’n dderbyniol, ac mae’n creu rhwystrau—rhwystrau ychwanegol—i bobl eu goresgyn.
Ac ar gyfer myfyrwyr dysgu o bell ar hyn o bryd, mae’n arbennig o siomedig am eu bod yn wynebu oedi hir rhwng cofrestru ar gyfer cwrs a gallu gwneud cais am fenthyciad wedyn, a dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaeth cynghori ar yrfaoedd ac addysg i bob oedran, oherwydd ar hyn o bryd, nid yw darpar ddysgwyr sy’n oedolion yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt. Nid ydynt yn cael mynediad at y wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd yn yr un modd â myfyrwyr amser llawn. Mae angen sicrhau hefyd fod yr opsiynau cyllid rhan-amser yn cael eu mynegi’n glir wrth y myfyrwyr hynny, fel y gall pobl fynd ati i ystyried y rheiny pan fyddant yn gwneud eu ceisiadau, er mwyn iddynt allu bod yn hyderus fod ganddynt adnoddau yn eu lle, nid yn unig ar gyfer y flwyddyn gyntaf y maent yn cychwyn ar eu cwrs, ond hyd at ddiwedd eu cyrsiau hefyd.
Yn ogystal â hynny, mae rhywfaint o ragfarn ar sail oed yn y system. Ar hyn o bryd, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gwrthod rhoi arian i rai sy’n 60 oed a throsodd yn y flwyddyn y bydd eu cwrs yn dechrau. Ac eto, gwyddom fod y comisiynydd pobl hŷn ac adolygiad Arad wedi tynnu sylw at fanteision enfawr dysgu gydol oes wrth helpu pobl hŷn i fyw bywydau mwy annibynnol, a bywydau llawnach. Ac felly rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn fod rhagfarn ar sail oed o’r fath yn y system yn cael sylw hefyd, oherwydd os ydym yn helpu i hyrwyddo annibyniaeth, os ydym yn helpu i gefnogi pobl hŷn, gwyddom y gallai oedi pecyn o ofal cymdeithasol, hyd yn oed am fis yn unig, arbed £1.8 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd i’n cyllidebau blynyddol.
O ran hyblygrwydd, yn amlwg mae’n rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy’n dewis astudio’n rhan-amser yn gallu cael mynediad ato mewn ffordd mor hyblyg â phosibl. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn gallu ailhyfforddi, mewn gwaith a heb waith, er mwyn eu harfogi i ddychwelyd i’r gweithlu, ac rydym ni’n awyddus i sicrhau y gellir cael mynediad at gymwysterau lefel gradd ar ddull modiwlaidd, ac wrth gwrs mae llawer o brifysgolion yn sicrhau bod y pethau hyn ar gael.
Felly, yn fyr, rwy’n gobeithio y bydd cefnogaeth drawsbleidiol i’r cynnig a gyflwynwyd gennym. Rydym i gyd yn cytuno, rwy’n siŵr, fod addysg yn weithgaredd gydol oes. Rydym am sicrhau bod yna barch cydradd rhwng darpariaeth ran-amser a darpariaeth amser llawn, ac rydym am sicrhau bod yna gyngor gyrfaoedd annibynnol digonol i helpu pobl i ddychwelyd i’r gweithle. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr Aelodau’n cefnogi’r cynnig.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru eisoes yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi cyngor a chyfarwyddyd ynghylch gwybodaeth am yrfaoedd sy'n annibynnol ac yn ddwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran a hynny drwy Yrfa Cymru.
Yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan allweddol ohoni â'r angen am gyngor effeithiol a chydgysylltiedig am yrfaoedd er mwyn cynorthwyo unigolion i fanteisio ar y cyfleoedd mwyaf priodol o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol dysgu gan oedolion ynghyd â datblygu sgiliau ategol ar gyfer pobl o bob oedran.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllid addysg uwch cyn gynted ag y mae hynny'n rhesymol ymarferol er mwyn galluogi'r sector Addysg Uwch i gynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle, hefyd, i ni gael trafod materion yn ymwneud ag addysg oedolion ac addysg yn y gymuned. Rydym ni wastad yn trafod ysgolion, prifysgolion, colegau, ac rydw i’n meddwl bod yna ddyletswydd arnom ni, efallai, i gywiro'r anghydbwysedd yna ychydig, ac mae’r ddadl yma heddiw yn gyfle i wneud hynny.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl yma, yr un peth a oedd yn fy nharo i oedd y ffaith bod oedolion yng Nghymru yn llai tebygol o gymryd rhan mewn addysg o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae yna nifer o resymau pam y dylem ni fod yn poeni am hynny, ond wrth gwrs rydym ni’n gwybod bod pobl yn byw yn hirach, bod demograffeg yn newid, bod patrymau gwaith yn newid. Rydym ni wedi clywed yn barod: treian o’r gweithlu am fod dros 50 oed ymhen ychydig o flynyddoedd. Mae gyrfa waith yn mynd yn hirach, a hefyd mae yna dueddiad i fwy a mwy o bobl i newid eu swyddi yn ystod eu gyrfa, ac i wneud hynny yn amlach. Ond yn rhy aml o lawer, wrth gwrs, mae dysgu gydol oes yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n eilradd ei ystyriaeth, o’i gymharu, efallai, â strwythurau eraill o fewn y gyfundrefn addysg,
Yn yr oes sydd ohoni gydag ansicrwydd economaidd, wrth gwrs, a newidiadau strwythurol ym myd gwaith—ac mi glywom ni yn gynharach heddiw ynglŷn â’r impact mae awtomatiaeth yn mynd i’w gael ar y byd gwaith hefyd—mae’n gynyddol bwysig bod gan Gymru weithlu hyblyg sy’n gyson yn dysgu sgiliau newydd ar gyfer cyflogaeth, wrth gwrs, ac ar gyfer moderneiddio arferion gweithio. Mae’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn gweithredu ar bolisi o greu miloedd o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oed, ac mae hynny’n bolisi y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi ei gefnogi ac yn ei gefnogi. Ond mae’n rhaid inni, efallai, roi yr un pwyslais hefyd, rydw i’n meddwl, ar sicrhau chwarae teg ar gyfer addysg gydol oes yn ogystal.
Nawr, mae yna lu o fuddiannau. Rydym ni wedi clywed am rai ohonyn nhw, wrth gwrs, yn deillio o addysg gydol oes: buddiannau economaidd, yn amlwg, a rhai cymdeithasol, buddiannau o safbwynt iechyd a lles i unigolion. Ond yr hyn rydw i’n meddwl sydd yn gorwedd o dan hynny i gyd yw’r angen i greu diwylliant o ddysgu parhaus yng Nghymru, cryfhau y diwylliant hwnnw, ac wrth feddwl am addysg, nid jest meddwl am ysgolion, prifysgolion, colegau, ond llawer mwy o bwyslais ar addysg anffurfiol, ac fel yr ydym ni’n ei wneud yn y ddadl yma, ar ddysgu gydol oes, addysg gymunedol ac yn y blaen.
Mae’n drafodaeth, wrth gwrs, rydym ni’n ei chael ar hyn o bryd yng nghyd-destun y sector addysg yng Nghymru, a’r drafodaeth ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu addysg. Mae’r dyddiau pan oeddech yn cael eich cymhwyster dysgu ac wedyn rhyw bedwar neu bum diwrnod y flwyddyn o hyfforddiant i finiogi rhai o’ch sgiliau chi—mae’r dyddiau yna wedi mynd. Ac mae e’r un mor wir, wrth gwrs, ym mhob sector arall. Gyda’r oes yr ydym ni ynddi o newidiadau technolegol, mae’n bwysig bod y gweithlu yn hyblyg ac yn cadw i fyny gyda’r newidiadau hynny.
Felly, os ydym ni am drawsnewid yr economi yng Nghymru, os ydym ni eisiau manteisio yn llawn ar y cyfleoedd hynny, ac os ydym ni am arddangos yr arloesedd a’r hyblygrwydd sy’n nodweddu economïau ffyniannus ar draws y byd yma, yna mae angen gweithlu a phoblogaeth ehangach hefyd sydd yn uwch-sgilio yn barhaus. I wneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid edrych y tu hwnt, efallai, i’r meysydd yna lle’r ydym ni wedi edrych arnyn nhw yn draddodiadol. Ond mae angen newid y diwylliant, fel yr oeddwn i’n ei ddweud, er mwyn sicrhau ein bod ni yn cyrraedd y nod hwnnw.
I bobl hŷn, wrth gwrs, yn enwedig efallai pobl sydd wedi ymddeol, mae cael gafael ar gyfleoedd cyson i ddatblygu a dysgu sgiliau newydd yn elfen hanfodol ar gyfer sicrhau bod eu hiechyd nhw, eu hannibyniaeth nhw a’u llesiant nhw yn parhau. Mae llawer o bobl hŷn yn cymryd rhan mewn addysg i oedolion er mwyn cael cyswllt cymdeithasol, er mwyn gwella gweithgarwch corfforol, ac er mwyn cadw meddyliau yn siarp, ac mae hynny yr un mor bwysig a’r un mor ddilys, wrth gwrs, ag unrhyw reswm arall. Felly, mae buddsoddi mewn addysg i oedolion yn fuddsoddiad sydd nid yn unig yn dwyn buddiannau economaidd, ond hefyd, yn bwysicach, i gymdeithas yn ehangach.
O safbwynt gwelliant Plaid Cymru, wrth gwrs rydym ni yn annog y Llywodraeth i gadarnhau ei chynigion ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a chyllido addysg uwch yn benodol cyn gynted ag y mae hynny yn rhesymol ymarferol, oherwydd mae is-gangellorion yn dweud wrthyf i y bydd yna bobl ifanc a bydd yna bobl angen penderfynu y mis Medi yma beth y byddan nhw’n ei wneud y mis Medi dilynol, ac maen nhw angen gwybod beth fydd natur y gefnogaeth ariannol a fydd ar gael. Mae’r sefydliadau hynny eu hunain hefyd, wrth gwrs, angen gwybod, oherwydd mae yn hinsawdd anodd iddyn nhw weithredu ynddi, yn ariannol, ac mae angen y sicrwydd hirdymor yna. Diolch.
Mae gan Gymru weithlu a chymdeithas sy’n heneiddio. Bydd traean o’r gweithlu dros 55 neu 50 oed yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae’n ffigur trawiadol. Fodd bynnag, mae buddsoddi mewn sgiliau ac addysg i oedolion yn canolbwyntio’n drwm ar oedolion ifanc. Mae hyn wedi bod er anfantais i bobl 25 oed a throsodd. Yn y dyfodol, bydd angen i fusnesau gael gweithlu â sgiliau uwch byth, a bydd technolegau newydd yn cynyddu’r galw hwnnw. Eto i gyd, mae lefelau cyfranogiad mewn dysgu gydol oes yn dirywio. Mae arnom angen system addysg i oedolion sydd o fudd i’n heconomi ac yn hybu ymchwil. Mae arnom angen system sy’n cydnabod anghenion oedolion i astudio’n hyblyg ac sy’n rhoi cyfle i wneud hynny.
Mae’r galw am weithwyr medrus iawn yn economi’r DU yn ei chyfanrwydd yn cynyddu. Yn ôl Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, mae mwy na thri chwarter y busnesau’n disgwyl y bydd ganddynt fwy o swyddi i bobl â lefelau sgiliau uwch dros y blynyddoedd nesaf. Ond unwaith eto, yn ôl y CBI, mae 53 y cant o gwmnïau Cymru yn teimlo na fyddant yn gallu dod o hyd i’r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt i ateb y galw yn y dyfodol. Dengys y dystiolaeth yn glir fod tri chwarter y bobl sydd mewn gwaith ar gyflog isel yn dal i fod mewn gwaith ar gyflog isel 10 mlynedd yn ddiweddarach. Felly, mae’r duedd yn glir: mae busnesau angen gweithlu mwy medrus, ac fe fyddant angen gweithlu mwy medrus yn y dyfodol.
Mae ymddangosiad technolegau newydd eisoes yn cael effaith fawr yn y farchnad swyddi ar y sgiliau sydd eu hangen ar weithlu yfory. Mae angen dull newydd o uwchsgilio er mwyn sicrhau bod y galw yn y dyfodol yn cael ei ddiwallu a bod busnesau ledled Cymru yn gallu manteisio ar y technolegau newydd hyn. Yn anffodus, y duedd ar draws Cymru yw bod llawer llai o bobl yn cymryd rhan mewn rhaglenni a fydd yn eu helpu i ychwanegu at eu sgiliau. Rhwng 2015 a 2016 cafwyd gostyngiad o fwy na 23,000 yn nifer y dysgwyr sy’n oedolion. Mae’r dirywiad hirdymor yn peri mwy o bryder hyd yn oed. Gwelodd Cymru ostyngiad o 25 y cant yn nifer yr oedolion a gymerodd ran mewn rhaglenni dysgu rhwng 2012 a 2016. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol yn cynorthwyo’r sector preifat i roi hwb i uwchraddio sgiliau.
Mae’r strategaeth ddiwydiannol ddiweddar wedi helpu i greu’r fframwaith cywir i gymell busnesau i fuddsoddi yn sylfaen sgiliau eu gweithlu. Mae strategaeth Llywodraeth y DU yn rhoi blaenoriaeth i waith y Llywodraeth gyda darparwyr cymwysterau a sefydliadau dysgu. Mae’r dull hwn o gydweithio yn sicrhau bod cyrsiau newydd yn cael eu datblygu er mwyn galluogi dysgwyr rhan-amser a dysgwyr o bell i gymryd rhan, ac mae’n apelio mwy at y rhai sydd eisoes yn y gweithlu ac yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu wella’u sgiliau. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod sefydliadau gwahanol hyd yma wedi nodi anghenion sgiliau yn eu meysydd eu hunain. Fodd bynnag, nid oes un sefydliad wedi cael cyfrifoldeb dros nodi tueddiadau sgiliau a fydd yn datblygu yn y dyfodol. Felly, mae Llywodraeth y DU yn gweithio tuag at un olwg gydgysylltiedig awdurdodol ar y bwlch sgiliau a wynebir gan y DU yn awr ac yn y dyfodol. Maent yn asesu newidiadau i’r costau y bydd pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddysgu i’w gwneud yn llai brawychus. Ond yn gyntaf ac yn bennaf, mae’r strategaeth yn cydnabod bod sectorau twf uchel yn yr economi yn galw am setiau sgiliau uchel cyfatebol. Mae’n amlinellu camau i sicrhau bod cwmnïau’n gallu cyfrannu mwy tuag at gynyddu lefel sgiliau’r gweithlu drwyddo draw.
Llywydd, mae angen gweledigaeth ddiwydiannol o’r fath ar Gymru er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y technolegau newydd a ffyrdd o weithio a fydd yn trawsnewid y gweithle yng Nghymru. Dylem ddysgu’r byd, nid dysgu gan y byd. Ceir rhai meysydd, cysyniadau megis dysgu oedolion, parodrwydd ar gyfer dysgu, cyfeiriadedd a chymhelliant i ddysgu—mae’r rhain oll yn gymhelliant ar gyfer ein pobl ifanc a’r henoed a dynion a menywod gyda’i gilydd. Rydym yn ddwbl y grym a gallwn yn sicr drawsnewid ein heconomi, ein hiechyd a’n lles, a grybwyllwyd yn gynharach. Yn bendant, gall helpu i sicrhau bod ein pobl hŷn wedi’u haddysgu’n dda a hyrwyddo ailddysgu yn y gweithle yn y wlad hon. Diolch.
Rwy’n datgan buddiant fel darlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar bwysigrwydd addysg ran-amser. Rwy’n siarad ar ôl cael 15 mlynedd o brofiad o addysgu myfyrwyr rhan-amser, ac rwy’n dyfalu bod hynny’n cynnwys oddeutu 1,000 o fyfyrwyr rhan-amser mae’n debyg yn y cyfnod hwnnw, ac un ohonynt—i ddangos pa mor dda y gall myfyrwyr rhan-amser ei wneud—oedd Alun Cairns AC. Aeth ymlaen at bethau mawr, y bachgen hwnnw—rwy’n falch iawn ohono. Efallai y bydd y ffyrdd y mae Cymru wedi elwa yn agored i drafodaeth, ond yn sicr roedd addysg ran-amser o fudd iddo ef, a gallaf weld Andrew R.T. Davies yn edrych braidd yn nerfus yn y fan acw wrth iddo sylweddoli bod Darren Millar yn astudio’n rhan-amser hefyd, ar yr un pryd. Ond rwy’n cydnabod rhai o fy myfyrwyr eraill yn ogystal—Grant Santos, a sefydlodd Educ8, sy’n ddarparwr hyfforddiant ei hun, ac roedd Humie Webbe, sef hyrwyddwr cydraddoldeb ac amrywiaeth dysgu yn y gwaith ar gyfer Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, hefyd yn un o fy myfyrwyr MBA, a myfyriwr MBA gwych. Felly, roeddwn yn dysgu cwrs Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli, Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig, y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi—yr holl gyrsiau rhan-amser hyn sydd o fudd enfawr i’r myfyrwyr sy’n eu hastudio. Un o’r manteision yw y gallwch fwydo’r dysgu rhan-amser yn uniongyrchol yn ôl i mewn i’r gwaith rydych yn ei wneud neu’r gwaith rydych yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Roedd lleiafrif arwyddocaol yn fyfyrwyr israddedig hefyd, a daw hynny â’i heriau ei hun, gan nad oedd gwaith gan y myfyrwyr israddedig hynny’n aml ond roeddent yn astudio’n rhan-amser tra’u bod yn gweithio’n rhan-amser mewn swyddi nad oeddent eisiau eu gwneud ac yn dyheu am fynd i swyddi eraill.
Mae’n alwedigaeth hynod o werthfawr a bydd y lefel y byddwch yn dysgu’n dylanwadu ar eich gyrfa yn y dyfodol. Ond yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrth Darren Millar hefyd, mewn ymateb i rai o’i sylwadau, er mwyn i addysg uwch fod yn drawsffurfiol, mae’n rhaid iddo gael cefnogaeth go iawn gan gyflogwyr. Un o’r manteision a welais dros y 15 mlynedd oedd y ffaith fod cyflogwyr yn barod i dalu rhywfaint o’r ffioedd i’w myfyrwyr allu dysgu. Mae hynny wedi lleihau yn y cyfnod diweddar, yn enwedig o’r sector cyhoeddus. Gwelais niferoedd myfyrwyr cwrs y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn disgyn, a’r rheswm pam y disgynnodd niferoedd myfyrwyr y cwrs hwnnw oedd oherwydd nad oedd cyrff y sector cyhoeddus yn gallu fforddio addysgu eu myfyrwyr, ac roedd yn ganlyniad uniongyrchol i bolisïau caledi. Felly, mae hynny, efallai, wedi arwain at ganlyniad anfwriadol i niferoedd myfyrwyr rhan-amser gan Lywodraeth y DU. David Rees.
Diolch i’r Aelod am ildio. Nid y gostyngiad yn unig ydyw, mae’n ymwneud hefyd â chael yr amser o’r gwaith—ni allent eu rhyddhau am yr amser hwnnw, felly ni allent gael pobl i fynd i mewn.
Ie, roedd yn bendant yn fater a oedd yn ymwneud ag adnoddau—eu bod angen prynhawniau Mercher a boreau Iau i ffwrdd i astudio, ac ni allai sefydliadau fforddio hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod gan gyflogwyr sector preifat a chyflogwyr sector cyhoeddus ddyletswydd i addysgu eu pobl. Mae cyflogwyr yn dweud, ‘Beth sy’n digwydd os byddaf yn addysgu fy mhobl a’u bod yn gadael?’ Wel, beth sy’n digwydd os nad ydych yn addysgu eich pobl a’u bod yn aros? Mae’n bwysig iawn eich bod yn addysgu eich gweithlu.
Un o’r pethau sydd wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar, yw llên-ladrad. Mae llên-ladrad yn broblem, ac yn broblem fawr gyda myfyrwyr amser llawn sy’n ymdrin ag astudiaethau achos. Gwelais y gallwn lunio fy nghyrsiau’n arbennig o hawdd er mwyn i fyfyrwyr rhan-amser ganolbwyntio ar y gwaith roeddent yn ei wneud—felly mae dadansoddiad diwylliannol o’ch amgylchedd sefydliadol, er enghraifft, yn anodd tu hwnt i’w lên-ladrata ac yn datrys y broblem honno i ryw raddau. Yn wir, un o’r cyrsiau y cefais fy myfyrwyr MSc rheoli newid i’w wneud y llynedd—cyn i mi gael fy ethol i’r fan hon—oedd dadansoddiad o adroddiad Williams. Felly, deuthum yma wedi fy arfogi â gwybodaeth dda iawn a gynhyrchwyd—ac rwy’n dweud wrthych, roedd peth o’r dadansoddiad yn stwff lefel uchaf go iawn a byddai’n creu argraff, rwy’n credu ar Weinidog y Llywodraeth.
Felly mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gefnogi ein myfyrwyr rhan-amser. Fel y mae Darren Millar wedi cydnabod, bydd cymorth pro rata ar gyfer costau byw myfyrwyr rhan-amser o gymorth arbennig i fyfyrwyr o ardaloedd mwy difreintiedig yn ein cymunedau, ac yn enwedig y Cymoedd gogleddol. Rwyf wedi cynnal cyfarfodydd gyda Phrifysgol Caerdydd, â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac wedi cael trafodaethau gyda Phrifysgol De Cymru ynglŷn â sut y gallant fynd â’u gwaith allan o’r brifysgol ac i mewn i’r cymunedau hynny. Mae’n rhywbeth y maent yn barod i’w wneud.
Yn ddiweddar, mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi cyflawni’r siarter busnesau bach, a rhoddais dystiolaeth i’r corff dyfarnu am y gwaith a wnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Un o’r rhesymau pam y cawsant y siarter busnesau bach oedd oherwydd eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu, nid eu cyrsiau o fewn y brifysgol, ond allan yn y cymunedau. Ni fydd ond yn ystyrlon os caiff y cyrsiau hynny eu datblygu yn yr ardaloedd y soniais amdanynt fel y Cymoedd gogleddol.
Felly, i mi, mae addysg ran-amser yn allweddol gyda chefnogaeth y cyflogwyr. Rwy’n meddwl, mewn gwirionedd, gydag adolygiad Diamond, fod y Llywodraeth ar y trywydd cywir. Felly, rwy’n berffaith barod i gefnogi cynnig y Llywodraeth heddiw, ac rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn fanteisiol er mwyn dangos pwysigrwydd astudio rhan-amser a’r budd enfawr i fyfyrwyr sy’n gwneud hynny. Mae gwerth enfawr i astudio’n rhan-amser a bydd yn parhau i fod o werth mawr i’n cymdeithas.
Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn, ynghyd â gwelliant Plaid Cymru. Gall astudio rhan-amser fod yn hanfodol i’r rhai nad ydynt yn gallu fforddio rhoi’r gorau i weithio ond sydd angen astudio er mwyn gwella’u dyfodol ar eu cyfer hwy a’u teuluoedd. Gall sector addysg ran-amser iach fod yn atyniad mawr i fusnesau sy’n chwilio am gartref newydd ac sydd am yr opsiwn o allu gwella sgiliau eu gweithlu. Mae’n rhoi rhagor o opsiynau i rai sydd am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod sylweddol i ffwrdd, yn gofalu am blant o bosibl.
Er hynny, y rhai sydd fwyaf tebygol o gael budd o astudio rhan-amser yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth ariannol. Yr ochr gadarnhaol yw mai hwy hefyd yw’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu hysgogi i gwblhau eu cwrs yn llwyddiannus. Mae oedolion yn astudio am resymau a chymhellion gwahanol i rai sy’n gadael yr ysgol, ac yn cynnig adenillion gwych ar fuddsoddiad sy’n cyfiawnhau buddsoddi arian trethdalwyr, ar wahân i’r fantais o wella dewisiadau bywyd pobl. Ond mae’n dal i fod angen i bobl ifanc allu cael mynediad at addysg ran-amser. Bydd rhywun sy’n gadael yr ysgol ac wedi cael cam gan y system addysg, neu wedi gwneud yn wael yn yr ysgol oherwydd profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ond sydd ag awydd angerddol i fod yn nyrs wych, er enghraifft, yn nyrs ragorol, yn ei chael yn anodd iawn dal i fyny yn sgil diffygion eu haddysg yn gynnar yn eu bywydau heb gyngor a chymorth priodol.
Efallai ei bod yn anochel y bydd angen i rai pobl weithio’n llawnamser ac astudio’n rhan-amser. Ond yn ystod y cyfnod hwnnw, maent yn haeddu’r cymorth sydd ei angen arnynt a’r cyllid sydd ei angen i wella sgiliau, fel y gallant helpu Cymru i lenwi’r swyddi sydd ar hyn o bryd yn wag neu swyddi y recriwtir ar eu cyfer o’r tu allan i Gymru. Os na all person gymryd rhan mewn addysg ran-amser, neu os caiff ei wneud yn aneconomaidd neu’n anymarferol, neu os nad ydynt—oherwydd cyngor gyrfaoedd gwael neu ddiffyg cyngor gyrfaoedd—yn gwybod beth yw eu hopsiynau, bydd pobl yn ei chael yn anodd, os nad yn amhosibl, i oresgyn damwain eu geni a olygodd eu bod wedi cael eu geni i deulu incwm isel neu wedi wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu gael eu hanfon i ysgol sy’n methu pryd bynnag neu ble bynnag oedd hynny.
Mae cyngor gyrfaoedd hygyrch a da yn hanfodol i bobl os ydynt yn mynd i fanteisio ar y cyfleoedd astudio rhan-amser sydd ar gael. I unigolyn sydd wedi bod allan o addysg ers nifer o flynyddoedd o bosibl, gallai ymchwilio i gyrsiau a gwneud cais ar eu cyfer fod yn syniad brawychus heb wasanaeth gyrfaoedd da i ddarparu cymorth. Ni fyddaf yn cefnogi’r gwelliant Llafur heddiw, sy’n dangos hunanfodlonrwydd nodweddiadol plaid mewn Llywodraeth sy’n gwrthod cyfaddef hyd yn oed y gallai fod lle i wella o ran darparu cyngor gyrfaoedd yng Nghymru. Os yw Llafur Cymru yn cefnogi’r teimlad sydd wrth wraidd pwynt 4, pam y maent yn ei ddileu a’i ddisodli gyda gwelliant sydd i bob pwrpas yn dweud dim?
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud yn ei gwelliant bod ganddi’r uchelgais i ddatblygu cynllun cyflogadwyedd newydd ar gyfer pob oedran y mae a wnelo rhan ohono â darparu cyngor gyrfaoedd cydgysylltiedig. Ond nid yw uchelgais yn agos at fod yn gyflawniad neu hyd yn oed yn ddechrau gweithredu. Felly, fy nghwestiwn, ar ôl bron i 20 mlynedd yn y lle hwn, yw pam mai yn awr yn unig y mynegwch yr uchelgais i ddarparu cyngor gyrfaoedd cydgysylltiedig yng Nghymru ar gynllun cyflogadwyedd ar gyfer pob oedran? Diolch.
Hoffwn gyfrannu heddiw at y ddadl hon gan ganolbwyntio’n fawr iawn ar addysg uwch a dysgu gydol oes a sut y mae hynny’n cysylltu ag economi Cymru. Ond mae dau beth y byddwn yn awyddus iawn i wybod heddiw, a dyma un: pa gwrs y mae Darren Millar yn ei wneud? Dywedodd wrthym ei fod yn dilyn cwrs addysg bellach rhan-amser; ni ddywedodd wrthym beth oedd yn ei wneud. Ac yn ail, hoffwn wybod gan Hefin David pa farciau a roddodd i Alun Cairns. [Chwerthin.] Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad Hefin; roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad da iawn.
Er mwyn i’r economi dyfu, wrth gwrs, mae angen i ni sicrhau bod gennym y bobl sydd â’r sgiliau cywir a’r hyfforddiant cywir ar gael iddynt. Ac am ddau reswm: un, i’w helpu i gyflawni eu potensial a dau, wrth gwrs, i’n helpu i dyfu economi Cymru. Nawr, yn anffodus, ceir nifer fwy o bobl heb gymwysterau nag o bobl sydd â’r cymwysterau hynny mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Rwy’n credu y dylai hynny fod yn ofid i ni i gyd. Ond sylwais fod comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol wedi rhybuddio bod 70,000 o bobl yn gadael yr ysgol heb bump TGAU da. Mae hyn, wrth gwrs, ar adeg pan fo busnesau’n wynebu prinder sgiliau ac yn profi anawsterau i recriwtio’r staff cywir i ateb eu gofynion. Mae digon o enghreifftiau yn fy etholaeth i lle mae busnesau wedi symud dros y ffin i Swydd Amwythig—neu’n bygwth gwneud hynny—am ddau reswm, weithiau: fel arfer, y rheswm yw diffyg band eang, ond y rheswm arall yw na allant ddenu’r sgiliau cywir. Weithiau, maent yn aros yn yr etholaeth, ond maent yn symud at ymyl yr etholaeth, ar y ffin â Swydd Amwythig, i ddenu’r bobl sydd â’r sgiliau cywir o Swydd Amwythig. Rwy’n credu bod angen inni dorri’r cylch hwn o amddifadedd ac anweithgarwch economaidd gydol oes a achosir gan yr hyn y credaf sy’n gyrhaeddiad addysgol gwael.
Wrth gwrs, mae yna sefyllfa iâr ac ŵy yma hefyd. Daw diwydiannau ataf yn fy etholaeth a dweud, ‘Edrychwch, nid yw’r coleg addysg bellach lleol yn darparu’r sgiliau cywir ar gyfer ein busnes.’ Felly, rwy’n mynd i weld y coleg ac maent yn dweud, ‘Wel, mae’n rhaid i ni ddarparu’r cyrsiau y mae galw amdanynt gan bobl iau. Rydym yn darparu’r cyrsiau trin gwallt, y cyrsiau cyfryngau ac yn y blaen.’ Felly, rwy’n mynd yn ôl at y diwydiant ac rwy’n dweud wrthynt, ‘Mae’n rhaid i chi fynd i ysgolion a gwerthu eich diwydiant. Gwerthwch eich diwydiant fel dewis bywyd cadarnhaol a dweud wrthynt am y cyflog uwch y gallwch ei gynnig os yw’r bobl iau hynny’n mynd i’r meysydd hyn.’ Dônt yn ôl ataf a dweud weithiau, ‘Dyna gyngor da, rydym wedi gwneud hynny’, ac weithiau dônt yn ôl ataf a dweud, ‘Wel, nid oedd yr ysgol yn ein gadael i mewn.’ Felly, rwy’n credu bod hwnnw’n un mater penodol i fynd i’r afael ag ef hefyd. Rwy’n credu bod Darren Millar wedi crybwyll hyn yn ei gyfraniad ar gyngor gyrfaol annibynnol. Nid wyf yn credu bod hynny’n digwydd ar hyn o bryd, ac rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ei fod. Rwy’n gobeithio y gellir rhoi sylw i hynny ac rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet wneud rhai sylwadau ar hynny.
Hefyd, cyfeiriodd Darren Millar, yn ei sylwadau agoriadol, at y bobl dros 60 oed hefyd. Mae’n hollol gywir: dim ond 17 mlynedd sydd gennyf i fynd cyn y byddaf yn 60 fy hun; nid yw 60 yn hen bellach. Peidiwch ag anghofio, yn gynharach y mis hwn, roedd gennym Aelodau Seneddol yn eu 70au a’u 80au yn cael eu hethol. Felly, mae digon—[Torri ar draws.] Yn hollol, rwy’n dweud wrth Dafydd Elis Thomas. [Chwerthin.] Mae gan bobl yn eu 60au 20 mlynedd o fywyd gwaith ar ôl ynddynt os ydynt yn dymuno hynny, ac mae enghraifft yn fy etholaeth i: Dave Fields o Lanfyllin. Mae wedi cael ei dderbyn ar gwrs ôl-radd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n wych ac mae’n llawn cyffro ynglŷn â hynny, ond gwrthododd Cyllid Myfyrwyr Cymru roi arian iddo. Mae wedi colli ei swydd, mae’n awyddus i weithio—mae’n awyddus i weithio am 20 mlynedd arall—ac mae am gael y sgiliau cywir i wneud hynny, ond ni all wneud hynny. Felly, rwy’n gobeithio’n fawr iawn—. Edrychais ar ychydig o waith ymchwil ar hyn a gallwn weld bod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi edrych ar hyn, ond rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ymateb i’r pwynt penodol hwnnw.
Mae’r pwynt olaf yn fy nghyfraniad—rwy’n mynd yn brin o amser—yn ymwneud â thorri’r cylch amddifadedd a dysgu gydol oes ac anweithgarwch economaidd a achosir gan gyrhaeddiad addysgol gwael. Un ffordd o wneud hynny yw drwy fesurau a gynhwysir yn strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, sy’n sicrhau bod mentrau sy’n tyfu yn meddu ar y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i greu swyddi newydd a ffyniant. Byddai’n dda iawn gennyf weld ymateb Llywodraeth Cymru i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Rwy’n edrych ar Ysgrifennydd y Cabinet draw acw, a gofynnais iddo yn y Siambr—nid yw’n gwrando ar hyn o bryd. Dyna chi, mae’n effro nawr. Gofynnais iddo a allwn gael copi o’r strategaeth ddiwydiannol. Fe ddywedoch chi ‘cewch’ yn y Siambr. Gofynnais i’r rheolwr busnes hefyd am gopi. ‘Cewch’. Ond y cyfan y mae’r Aelodau wedi’i gael yw llythyr eglurhaol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes, heb y manylion, ac yn gwrthod rhoi cynnwys hwnnw i ni, gan ddweud mai atodiad yw hwnnw. Os gwelwch yn dda a gawn ni ei weld? Ni allaf weld pam na chawn weld copi o ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU. Felly, rwy’n meddwl bod fy amser yn dod i ben.
Mae eich amser wedi dod i ben. [Chwerthin.] Ie, nid ‘yn dod’. Diolch yn fawr iawn. Rhianon Passmore.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel cyn-ddarlithydd gwadd fy hun a chyn-gyfarwyddwr mewn addysg bellach, ond yn bwysicaf oll fel mam, rwyf finnau hefyd yn croesawu’r ddadl hon. Gall pobl Cymru fod yn sicr y bydd Plaid Lafur Cymru—plaid y lliaws ac nid yr ychydig—yn diogelu, yn hyrwyddo ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol ar gyfer ein cenedl.
Efallai y gallai fod yn werth bwrw golwg ar y cyd dros y ffin ar Loegr i weld sut y mae’r Torïaid yn gwerthfawrogi addysg a hyfforddiant ôl-orfodol ble maent mewn grym mewn gwirionedd. Gadewch i ni beidio ag anghofio, ers 2010, collwyd 1.3 miliwn o oedolion sy’n dysgu yn Lloegr ers i’r Torïaid ddod i rym. Yn Lloegr, cafodd dros £1 biliwn ei dorri o’r gyllideb sgiliau ers 2010 pan ddaeth y Torïaid i rym, sef toriad o 14 y cant mewn termau real. Canfu’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol y bydd gwariant y pen ar addysg bellach yn Lloegr wedi gostwng 13 y cant rhwng 2010-11 a 2019-20. Felly, er fy mod yn croesawu’r ddadl hon yn fawr, nid yw’n syndod, fel gweithiwr addysg proffesiynol, na fyddaf yn cymryd unrhyw bregeth o’r meinciau gyferbyn. Yn wir, byddai’n werth i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ddweud wrth Brif Weinidog y DU, pan fydd hi’n ei ffonio nesaf, am yr arferion da sy’n digwydd yng Nghymru o dan Lafur, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i Loegr. Er, rwy’n ofni na fydd Andrew R.T. Davies ar ddeial cyflym Theresa May a chaf fy atgoffa o eiriau’r gân boblogaidd gan The Feeling,
Rwyf wrth fy modd pan fyddi’n ffonio / Ond dwyt ti byth yn ffonio.
Yng Nghymru, mae adolygiad Diamond yn ddiweddar yn dystiolaeth o ymrwymiad dwfn Llywodraeth Lafur Cymru i’r maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ar waith y pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gyda phwyslais newydd ar gymorth gwell i fyfyrwyr rhan-amser. Rydym yn cydnabod yr angen a’r buddsoddiad. Mae Cymru’n arwain ar symud cyllid addysg uwch yn sylfaenol tuag at system flaengar, sefydlog a chynaliadwy a fydd yn cefnogi myfyrwyr pan fyddant ei angen fwyaf, ac yn galluogi ein prifysgolion i gystadlu’n rhyngwladol.
Un o’r pethau mwyaf pwysig y mae Llafur Cymru wedi’i wneud yn y Llywodraeth, yn fy marn i, yw gwneud yn siŵr nad yw’r toriadau dwfn sy’n cael eu trosglwyddo i lawr gan Lywodraeth Dorïaidd y DU yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd ein pobl ifanc. Cafodd myfyrwyr Cymru mewn addysg uwch eu diogelu rhag y dyledion andwyol a brofir gan fyfyrwyr prifysgol ar draws y DU. Mae lefel bresennol dyledion myfyrwyr o Gymru oddeutu £20,000 yn is na’u cymheiriaid yn Lloegr. Yn eu cynnig, mae’r Torïaid Cymreig yn galw am wasanaeth cynghori ar addysg a gyrfaoedd i bob oedran, ac maent i’w gweld wedi anghofio, yn hytrach, am Gyrfa Cymru. Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, ac yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad annibynnol a dwyieithog ar gyfer pobl o bob oedran ar draws Cymru.
Mae’n iawn fod astudio rhan-amser ôl-raddedig bellach, yn wahanol i Loegr, yn cael ei ariannu yma yng Nghymru, ac rwy’n ddiolchgar—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Fe sonioch am Gyrfa Cymru. Wrth gwrs, yr hyn a welsom—ac rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn â hyn yng ngogledd Cymru—yw haneru’r lefelau staffio yno. Rydym wedi gweld niferoedd yn disgyn. Yn ôl yn 2010, roedd gwasanaethau gyrfaoedd yn arfer gweld pob disgybl ym mlynyddoedd 10 ac 11; nawr, tua chwarter y disgyblion ym mlwyddyn 11 yn unig a welant. A yw hynny’n dderbyniol?
Mae’n iawn ein bod yn buddsoddi yn y cyngor gyrfaoedd cywir ar draws Cymru, ac rwy’n falch ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir hwnnw.
Felly, rwy’n ddiolchgar am welliant Llywodraeth Cymru sy’n cydnabod yn llawn pa mor hanfodol bwysig yw dysgu oedolion a chefnogi datblygu sgiliau i bobl o bob oed. Yn yr un modd, fel oedolyn sy’n dysgu fy hun, i gloi, ni fyddwn yn sefyll yma heddiw yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru pe na bai am y cyfleoedd a’r cymorth cynhwysfawr a roddwyd i mi ymhell ar ôl i fy addysg orfodol ddod i ben. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi, nid yn unig y rhethreg, ond cyflawniad polisïau, y canlyniadau i bobl o bob oed ar draws Cymru. Diolch.
Rwy’n meddwl mai dynwarediad tila a fyddaf o’r cyfrannwr olaf a roddodd ei hangerdd arferol i’w chyfraniad.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon, oherwydd rwy’n credu mai un o’r camgymeriadau rydym yn ei wneud weithiau yw ein bod yn meddwl bod addysg yn llinol: caiff plant eu geni, ânt i’r ysgol gynradd, ânt draw wedyn i’r ysgol uwchradd, ac i addysg bellach, addysg uwch a dod allan yn y pen arall a chael rhyw fath o swydd, ac yna drwy eu swydd gallant wneud faint bynnag o sgiliau. Ond mae’n rhaid i ni wynebu ffeithiau fod llawer iawn o blant yn casáu ysgol. Mae llawer iawn o blant yn cael amser gwirioneddol ddiflas yn yr ysgol. Maent yn cael eu bwlio, nid ydynt yn teimlo bod lle iddynt, ac mae llawer iawn o bwysau arall arnynt, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd pan fo’r hormonau’n chwarae hafoc. Efallai bod ganddynt deuluoedd nad ydynt yn darparu cymorth. Efallai eu bod yn clywed yn gyson eu bod yn dwp neu’n ddiwerth neu dan draed, ac yn syml iawn, nid ydynt yn perfformio’n dda. Hefyd, rhaid i ni wynebu ffeithiau fod gan oddeutu chwarter ein plant ysgol yng Nghymru ryw fath o angen dysgu ychwanegol, a all amrywio o ychydig o ddyslecsia o bosibl, yr holl ffordd i angen cymdeithasol, rheoli dicter neu alluedd meddyliol sylweddol a dwys.
Felly, daw ein plant ar bob ffurf, ac mae angen iddynt i gyd ddod o hyd i’w ffordd yn y byd ar hyd llwybrau gwahanol. Ni all pob un ohonynt ddilyn yr un llwybr. Ac rwyf wedi cyfarfod ag un neu ddau o fy etholwyr sydd wedi fy ysbrydoli’n fawr gyda hanes eu bywydau. Roedd un yn ferch ifanc a oedd wedi cael ei phlentyn cyntaf yn 14, yr ail un yn 16. Yn ei 20au cynnar iawn, sylweddolodd nad oedd am i’w bechgyn gael y math o fywyd roedd hi’n ei fyw, ac felly aeth yn ôl i’r ysgol. Nid oedd ganddi ddim, ac aeth yn ôl i addysg ran-amser a chafodd ei graddau TGAU, ac yna daliodd ati i ymdrechu ac ar ôl ychydig, fe wnaeth lefel A, yna fe wnaeth—ni allaf gofio union enw’r cwrs, ond rhyw fath o gwrs sylfaen gyda’r Brifysgol Agored—ac mae hi bellach yn hyfforddi i fod yn nyrs. Ac mae gennyf barch llwyr tuag at lwybr bywyd y ddynes honno.
Daeth dyn ifanc ataf, yn onest, roedd oddeutu 18 neu 19 oed, a phrin y gallai osod dau air at ei gilydd, roedd wedi gadael ysgol yn 14 oed a’r hyn yr oedd wedi bod eisiau ei wneud erioed oedd gyrru peiriant cloddio. Ac roedd wedi ennill digon o arian mewn gwirionedd i fynd allan i brynu peiriant cloddio pan oedd oddeutu 19 oed, ac roedd ganddo’r holl drwyddedau angenrheidiol neu beth bynnag sydd eu hangen arnoch. Ond ei rwystredigaeth oedd ei fod am geisio tyfu’r peth a’i droi’n fusnes, a rhoesom ychydig o gymorth iddo, ei gyfeirio at un neu ddau o grantiau a phethau felly, a chael nifer o gyrsiau i’w enw. Mae’n rhaid bod hyn tua 2009-10, ac mae bellach wedi cael hyfforddiant busnes, mae ganddo ail beiriant cloddio ac mae’n dechrau cyflogi pobl. Unwaith eto, ni fyddai wedi gwneud hynny, ni allai wneud hynny drwy’r llwybr safonol y mae cymaint o bobl eraill yn ei ddilyn. Y rheswm pam y gallodd ei wneud oedd am ei fod wedi gallu cael mynediad at addysg ran-amser. Gallai fynd allan a pharhau i wneud ei swydd, ennill rhywfaint o arian a mynd i ysgol nos, aeth i Goleg Sir Benfro, ac yna aeth ymlaen o’r fan honno.
Pan fyddwn yn edrych ar addysg i oedolion, rwy’n credu bod gwir angen inni edrych arno mewn ffordd gyfannol iawn a derbyn bod yna lawer iawn o bobl na fyddant yn dilyn y llwybrau safonol. Felly, dyna oedd y darn cyntaf o’r cynnig roeddwn yn awyddus iawn i siarad amdano: cynorthwyo pobl ar draws y sbectrwm i gamu ymlaen.
Roedd ail elfen y cynnig yr hoffwn ei grybwyll yn ymwneud â gwneud i bobl hŷn deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn rhan o’n cymunedau a sicrhau ein bod yn dechrau ymladd unigrwydd ac arwahanrwydd, y siaradwn amdanynt dro ar ôl tro ar ôl tro yn y Siambr hon fel un o’r gofidiau iechyd cyhoeddus mawr sy’n dechrau taro mwy a mwy o bobl, a sut rydym yn cadw pobl rhag ymddieithrio?
Rwyf wedi crybwyll pobl hŷn, ond wrth gwrs, gall unigrwydd ac arwahanrwydd daro pobl ar unrhyw oed, ar unrhyw un o’r pwyntiau pontio yn eich bywyd. Byddwch yn colli swydd, byddwch yn cael ysgariad, byddwch yn cael profedigaeth, mae rhywbeth argyfyngus yn digwydd ac rydych yn ei chael hi’n anodd. Y peth gwych, unwaith eto, ynglŷn â gallu dilyn cwrs rhan-amser—hyd yn oed os yw ar rywbeth sydd ond yn mynd â’ch bryd yn hytrach na dysgu sgìl er mwyn ennill arian—yw eich bod yn adeiladu gwydnwch emosiynol, rydych yn magu hyder a hunan-gred ac rydych yn gwneud ffrindiau. Mae hynny’n bwysig iawn gan fod angen i’r rhan fwyaf o bobl allu gwneud ffrindiau.
Rydym yn byw bywydau ynysig iawn y dyddiau hyn. Mae rhai pobl yn hynod o unig. Ni fu erioed mor wir yn ein cymdeithas fod gennym gymaint o bobl sy’n hollol unig ym mhoblogaeth enfawr ein planed. Rwy’n credu bod addysg i oedolion ac addysg gymunedol, caniatáu i bobl neu alluogi pobl i allu dilyn rhywbeth a theimlo’n rhan o jig-so mawr y bywyd mawr, yn wirioneddol hanfodol. Ni fydd pawb yn awyddus i wneud hynny, ni fydd pawb eisiau dilyn y llwybr hwn, ond bydd rhai sy’n awchu am gael y lefel honno o ymgysylltiad. Os caewn y drysau hyn a’n bod yn mynd ag arian oddi wrth y math hwn o addysg fwy meddal, os hoffwch, a’i ganolbwyntio ar y pethau caled, rydym yn rhoi o leiaf chwarter ein plant dan anfantais, a nifer enfawr o oedolion nad ydynt yn gallu ymuno yn y ffordd y mae llawer iawn o bobl sy’n eistedd yn y Siambr hon wedi mynd drwy eu haddysg.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl bwysig hon a’r holl bobl sydd wedi siarad? Rwy’n credu ei bod yn eglur o’r ddadl ein bod, mewn gwirionedd, yn cytuno’n fras ar yr egwyddorion, sef bod dysgu gydol oes yn eithriadol o bwysig i bobl o bob cefndir ac o bob oed, a bod mynediad at addysg ran-amser ar bob lefel—. Siaradodd Angela yn deimladwy iawn, er enghraifft, am rai o’r enghreifftiau yn ei hetholaeth. Cyfeiriodd Darren at wobrau Ysbrydoli!—mae’n rhoi cyfle i mi ddweud fy mod i yno i gyflwyno’r wobr dysgwr y flwyddyn, ac rwy’n credu y byddai’n esgeulus ohonof—. Dyna’r trydydd tro i mi gyflwyno’r gwobrau hynny, ac o ddifrif, cefais fy nghyffwrdd hyd at ddagrau ar y tri achlysur, ond y peth gorau oll am y gwobrau hynny oedd gwylio beth y mae’r enillwyr wedi’i wneud wedi hynny. Felly, y tro hwn, roedd y prif enillydd o’r tro cyntaf i mi gyflwyno’r gwobrau yno ac mae hi wedi mynd o fod yn fenyw nerfus iawn i fod yn hunanhyderus, ac yn berffaith hapus i siarad ar y llwyfan a chyflwyno’r wobr i’r enillydd eleni. Roedd enillydd eleni yn nerfus iawn ond gallai weld, ymhen blwyddyn neu ddwy, mai hi fydd yr unigolyn hunanhyderus fel yr enillydd o’r flwyddyn gyntaf i mi fynychu’r gwobrau.
Felly, rwy’n credu nad oes unrhyw amheuaeth—. Siaradodd Hefin a Rhianon yn angerddol am yr effaith drawsnewidiol y gall addysg o’r fath ei chael, er bod yn rhaid i mi ddweud fy mod am gael gair bach gyda Hefin ynglŷn â’r bobl y mae’n dewis eu trawsnewid, ond mater arall yw hwnnw.
Felly, rwy’n meddwl ein bod yn cytuno i raddau helaeth ei bod yn hanfodol inni roi’r cyfleoedd hyblyg sydd eu hangen arnynt i bobl o bob cefndir ac o bob cymuned yng Nghymru i wella eu sgiliau a chryfhau eu rhagolygon cyflogaeth. Wrth gwrs, dyna’n union pam rydym yn annog astudio rhan-amser drwy’r cyllid a ddarparwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i roi cymhorthdal tuag at gostau ffioedd.
Tystiolaeth o effaith yr arian hwn yw’r ffi gryn dipyn yn is am gyrsiau rhan-amser yng Nghymru o gymharu â Lloegr, er enghraifft. Roeddem yn falch iawn fel Llywodraeth, yn yr hinsawdd ariannol heriol sydd ohoni, fod CCAUC wedi gallu cynnal lefel eu cefnogaeth ar gyfer darpariaeth ran-amser.
Rydym hefyd wedi bod yn glir iawn, fodd bynnag, fod angen i ni baratoi ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy yn hyn o beth, ac mae pawb ohonoch wedi bod yn ddigon caredig i ddangos bod cefnogaeth gyffredinol i adolygiad Diamond ar draws y Siambr hon. Credaf fod hynny’n siarad cyfrolau am y gefnogaeth yng Nghymru i addysg fel gweithgaredd gydol oes. Felly, rydym yn bwriadu adeiladu model ariannu cynaliadwy a blaengar ar gyfer cymorth i fyfyrwyr, ac wrth wneud hynny, rydym am wneud yn siŵr ein bod yn rhoi help i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Ac rydym hefyd yn awyddus i sicrhau ein bod yn galluogi ein prifysgolion i barhau i gystadlu’n rhyngwladol, gan ganiatáu mynediad i’n myfyrwyr at hynny. Dyna pam ein bod wedi comisiynu adolygiad Diamond yn y lle cyntaf, a pham y rhoesom lawer iawn o ystyriaeth i oblygiadau ymarferol gweithredu’r argymhellion.
Rwy’n siŵr eich bod i gyd yn gwybod bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben ym mis Chwefror. Rhoddodd gyfle i bawb a oedd â diddordeb mewn cymorth i fyfyriwr wneud sylwadau ar y cynigion, a gafodd eu dylanwadu gan ganlyniadau’r panel adolygu. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad, ynghyd â chadarnhad o’r pecyn cymorth i fyfyrwyr addysg uwch ar gyfer 2018-19, yn ddiweddarach eleni, ym mis Gorffennaf. Fel y cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Tachwedd, at ei gilydd roeddem wedi derbyn argymhellion panel adolygu Diamond ar gyfer pecyn gwell o gymorth i fyfyrwyr, ac rwyf am bwysleisio y bydd hyn yn cynnwys cymorth cydradd i fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig, y mynegodd pawb a gyfrannodd at y ddadl hon, rwy’n credu, y farn ei fod yn hanfodol yn y gofod hwn. Pan gaiff ei gyflwyno, rwyf am bwysleisio, fel y dywedodd Rhianon Passmore yn fwy angerddol na minnau ar hyn o bryd, y bydd hwn yn becyn unigryw yn y DU, ac rydym yn hynod o falch ohono. Credaf y bydd y system arfaethedig yn caniatáu mwy o hyblygrwydd yn ein system a fydd yn annog myfyrwyr o bob cefndir i fwrw ati a chael addysg o’r fath.
Soniodd pobl am gyflogadwyedd hefyd. Rwyf wedi siarad yn eithaf aml yn y Siambr hon am yr angen i fabwysiadu ymagwedd drawslywodraethol tuag at fynd i’r afael â rhwystrau niferus sy’n atal pobl rhag cael gwaith ac aros mewn gwaith. Mae sgiliau’n amlwg yn rhan fawr iawn o hynny, ond nid dyna’r unig rwystr, ac rwy’n meddwl bod angen i ni gydnabod hynny. Felly, rydym yn datblygu cynllun cyflawni cyflogadwyedd ar gyfer Cymru, a byddaf yn dweud rhagor am hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i achub y blaen ar fy nghyhoeddiad. Ond byddwn yn dwyn ynghyd y wybodaeth sydd gennym am raglenni cyflogadwyedd presennol a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ystyried beth sydd angen ei newid er mwyn diwallu anghenion pobl sy’n ddi-waith, yn economaidd anweithgar, am gyflogaeth, sgiliau a chymorth—mae llawer o bobl yn y Siambr yn ystod y ddadl hon wedi crybwyll problem anweithgarwch economaidd—neu rai mewn swyddi o ansawdd is sydd angen eu huwchsgilio.
Hoffwn gydnabod cyfraniad Hefin David yma ynglŷn â’r ymgysylltiad â chyflogwyr ar gyfer hyn. Un o’r pethau mawr rwy’n ei ofyn gan bobl yn y Siambr hon yw iddynt fod yn llysgenhadon bob amser er mwyn annog cwmnïau i hyfforddi. Felly, er ein bod yn deall bod llawer o gwmnïau yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r adnodd—ac adnodd ydyw, fel y nododd David Rees mewn ymyriad—i ryddhau eu pobl, oherwydd gallwn ddarparu’r hyfforddiant, ond mae angen iddynt ryddhau’r bobl. Mewn gwirionedd mae perswadio pobl ynglŷn â’r angen busnes i wneud hynny o ran eu cadernid eu hunain, eu gallu i dyfu a’u gallu i barhau i ymateb i’r heriau yn eu hamgylchedd busnes yn bwysig iawn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Byddwch yn cydnabod, fodd bynnag, fod rhai pobl eisiau hyfforddi am eu bod eisiau gadael cyflogwr er mwyn mynd i rywle arall, a bydd rhai pobl, yn syml o ran awydd i wella’n bersonol, am ddilyn cwrs nad oes ganddo ddim oll i’w wneud â’r swydd y maent ynddi ar hyn o bryd. Felly, hoffwn ofyn beth rydych yn mynd i’w wneud i’r bobl hynny i’w helpu gyda’r trawsnewidiadau hynny ac yn arbennig y rhai sydd am astudio cyrsiau addysg bellach rhan-amser, nid addysg uwch yn unig. Rydych wedi canolbwyntio llawer ar addysg uwch hyd yn hyn.
Rwy’n cydnabod y pwynt hwnnw’n llwyr. Mae yna nifer o garfannau o bobl y mae angen i ni allu rhoi sylw iddynt yma. Felly, roeddwn yn gwneud y pwynt, dyna i gyd, fod hynny’n bwysig iawn i’r bobl mewn gwaith, ac efallai mewn cwmni lle mae ganddynt rywfaint o ymrwymiad ond eu bod yn dymuno symud ymlaen ynddo, ac yn enwedig mewn cwmnïau sy’n awyddus i dyfu eu hunain. Rwy’n meddwl mai’r dyfyniad a roddwyd oedd, ‘Beth sy’n digwydd os byddaf yn eu hyfforddi a’u bod yn gadael?’ Wel, yn bwysicach, beth sy’n digwydd os nad ydych yn eu hyfforddi a’u bod yn aros? Dyna neges y mae angen i ni ei chyfleu i lawer o gwmnïau Cymru. Mae gennym oddeutu 40 y cant o gwmnïau nad ydynt yn hyfforddi ar hyn o bryd. Ond rwy’n derbyn y pwynt y mae Darren Millar yn ei wneud ynglŷn â beth sy’n digwydd i bobl sydd ond eisiau gwella’u huchelgais personol penodol eu hunain, os mynnwch, a dyna pam y mae’r gwobrau Ysbrydoli! hynny mor bwysig yn aml. Felly, bydd y cynllun cyflogadwyedd hwn yn ystyried anghenion pobl sy’n dymuno camu ymlaen yn eu gyrfa, mewn man arall o bosibl, yn hytrach na gyda’u cyflogwr presennol.
Ac un o’r materion y bydd yn rhaid inni ymdrin ag ef yw gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth gyrfaoedd a’r holl bartneriaid eraill sydd gennym—oherwydd bydd hon yn bartneriaeth ar draws y gymdeithas i wneud i hyn weithio—yn cyfeirio pobl at y pethau cywir mewn gwirionedd, felly os ydych yn glanio yn y lle anghywir, bydd y bobl hynny’n gallu eich cyfeirio yn ôl i’r lle iawn. Bydd pob un ohonom, fel Aelodau’r Cynulliad, wedi cael y profiad o bobl yn ceisio dod o hyd i’r ffordd honno, ac rwy’n gobeithio y gwelwch, pan fyddwn yn cyhoeddi’r cynllun cyflogadwyedd, mai’r hyn rydym yn chwilio amdano yw llwybr syml a mwy amlwg at y cymorth cywir i bobl, yn dibynnu ar yr hyn y maent ei eisiau neu beth yw eu huchelgais personol penodol. Ac yn fuan, byddaf yn gwneud datganiad llafar yn amlinellu’r ymagwedd honno at gyflogadwyedd.
Mae llawer o bobl wedi sôn am Gyrfa Cymru, ac aeth Gyrfa Cymru ati i ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid y llynedd i nodi gweledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau a datblygu yn y dyfodol, ac maent wedi galw’r weledigaeth yn ‘Newid Bywydau’. Rydym wedi gwrando’n ofalus iawn ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, a bydd ein cylch gwaith i’r cwmni’n datblygu’r weledigaeth honno yn awr. Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol yn helpu cleientiaid i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli eu gyrfaoedd a gwneud penderfyniadau mewn byd cymhleth a newidiol, ond rydym yn cydnabod ein bod yn dymuno gweld yr holl bobl ifanc yn symud yn esmwyth ac yn llwyddiannus drwyddo i mewn i waith, ac i oedolion gael eu hysbrydoli i reoli eu gyrfaoedd. Felly, mae ffocws gwahanol i’r cynllun hwnnw gan Gyrfa Cymru ar sut y byddant yn cyflawni hynny, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddynt, ac rwy’n meddwl eu bod wedi croesawu hynny’n dda, mewn gwirionedd. Rwy’n meddwl, Llyr, eich bod wedi gwneud pwynt da am rai o’r pethau sydd wedi digwydd gyda Gyrfa Cymru, ond maent wedi ymateb i’r her o ailffocysu ar yr hyn sydd angen iddynt ei wneud, a bydd yn rhaid inni fanteisio ar ddulliau digidol a ffyrdd eraill o gyflawni hynny, yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb bob amser—Skype ac yn y blaen. Mae yna lawer o bethau digidol. Nid oes gennyf amser, Dirprwy Lywydd, i fanylu ar hynny.
Felly, yn olaf, hoffwn ddweud wrth y rhai sydd wedi sôn am bwysigrwydd dysgu oedolion yn gyffredinol nad oes unrhyw amheuaeth ein bod, fel Llywodraeth Cymru, yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae dysgu oedolion yn ei wneud i sgiliau, cyflogadwyedd, iechyd a lles ein dinasyddion, a dyna pam ein bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i ddysgu oedolion. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi polisi dysgu oedolion diwygiedig ar gyfer Cymru, sy’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y ddarpariaeth hon yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i bob dysgwr drwy gydol eu hoes. Felly, a gaf fi orffen drwy ddiolch i’r Aelodau am adael i mi glywed eu cyfraniadau gwerthfawr, am adael i mi gyfrannu at y ddadl bwysig hon heddiw, ac i ddweud fy mod yn meddwl, mewn gwirionedd, ein bod yn cytuno i raddau helaeth, gyda rhai gwahaniaethau bach y gellir eu trafod dros y misoedd i ddod? Diolch yn fawr.
Diolch. Galwaf ar Nick Ramsay i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a diolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? Mae hon yn ddadl sydd, fel y dywedodd Russ George, yn ymwneud â thorri’r cylch, ac fel y dywedodd Darren Millar—ein myfyriwr preswyl—wrth agor y ddadl, mae hyn yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn awyddus i gael addysg yn ddiweddarach yn eu bywydau, a gall fod heriau iddynt wneud hynny, felly mae angen i ni wneud y newid o waith i addysg mor ddidrafferth â phosibl, yn enwedig ar gyfer oedolion sy’n ei chael hi’n anodd cofrestru mewn addysg ran-amser, ac mae angen i ni weld chwarae teg.
Gan droi at rai o’r cyfraniadau, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, mae angen i ni newid y diwylliant. Nid mater o arian yn unig ydyw; mae’n ymwneud â ffordd wahanol o wneud pethau. Ac yn wir, dywedodd Oscar, Mohammad Asghar, ei fod yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio hefyd, ac addysgu’r byd, nid cael ein haddysgu gan y byd yn unig.
Hefin, gwnaethoch bwynt da iawn, gan fynd yn ôl at eich profiad eich hun o addysgu. Fe siaradoch ynglŷn â sut y byddech yn mynd i’r afael â llên-ladrad pan oeddech yn addysgu myfyrwyr. Aeth â mi’n ôl i flynyddoedd lawer yn ôl, pan gefais fy ethol gyntaf i’r lle hwn. Roedd Gweinidog y Gymraeg, bellach, a minnau mewn cyfarfod pwyllgor. Mae’n debyg na fydd eisiau cofio hyn. Cododd adroddiad pwyllgor—roedd Angela yno—a’i daflu at Aelod Cynulliad, ac nid wyf am ei enwi, a’i gyhuddo o lên-ladrad enfawr, am mai’r rhan fwyaf o’r hyn roeddech chi wedi’i ysgrifennu ydoedd, Alun, ond roedd yr enw wedi newid ar y diwedd, onid oedd? Oedd. Dyddiau da, onid e?
Fe ddysgasom heddiw fod Russ George o fewn 17 mlynedd i fod yn 60—nid yw’n ben blwydd arno; ond mae o fewn 17 mlynedd i fod yn 60, nad yw, yn ôl yr hyn a ddywedodd wrthym, yn hen y dyddiau hyn. Gallwn glywed Dafydd Elis-Thomas yn rhoi ochenaid enfawr o ryddhad pan wnaeth y sylw hwnnw. Rwy’n credu ei fod ar yr ochr hon—ein hochr ni—i 60, Darren, ac nid ar yr ochr llall, ond fe wnaeth sylw am dorri’r cylch, ac ymwneud â hynny y mae hyn. Ymwneud â hynny y mae’r cynnig hwn. Dyna pam ein bod wedi’i gyflwyno heddiw. Fe ddywedoch ei bod yn sefyllfa iâr ac ŵy. Mae’n bwysig i ddiwydiant fynd i ysgolion a chael eu croesawu i ysgolion er mwyn i bobl ifanc ddysgu o oedran cynnar beth yw eu diddordebau, fel y gallant ganolbwyntio ar y rheiny wedyn.
Rhianon Passmore, ni wnaethoch siomi. Ni wnaethoch siomi, wnaethoch chi? Yn anffodus, roedd yn ymddangos bod gennych fwy o ddiddordeb yn llyfr cyfeiriadau Andrew R.T. Davies nag mewn addysg uwch. Rwy’n siŵr y gallwch gyfnewid rhifau yn nes ymlaen, os ydych yn dymuno gwneud hynny. [Torri ar draws.] Na, jôc oedd honno, gyda llaw; nid oes unrhyw beth yno. [Chwerthin.]
Wyddoch chi, mae’n ddoniol: fe siaradoch lawer am Theresa May a Llywodraeth y DU—nid oes gymaint â hynny o amser ers pan fyddai’r Aelodau gyferbyn yn gwneud popeth yn eu gallu i osgoi siarad am arweinwyr y pleidiau, nac oes? A ydych yn cofio hynny, yn union cyn yr etholiad?
Nid pawb ohonom.
Ar wahân i Mike Hedges. Rwyf hyd yn oed yn cofio un ddadl pan gafodd yr hen Ken Skates druan ei lusgo i mewn i ddadl i amddiffyn Jeremy Corbyn. Roedd yr edrychiad ar ei wyneb yn dweud y cyfan ar y pwynt hwnnw. Hynny yw, mawredd annwyl, mae’n siŵr fy mod i’n nes at Jeremy Corbyn na Ken Skates. [Chwerthin.] Dyddiau da, ond mae pethau wedi symud ymlaen cymaint. Erbyn hyn, maent yn awyddus i siarad am arweinyddiaeth, onid ydynt? Felly, mae hwnnw’n newid i’w groesawu.
A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? Fe ddywedoch fwy neu lai—fe wnaethoch grynhoi safbwyntiau’r Siambr yn dda iawn yn fy marn i. Mae pawb ohonom yn awyddus i gyrraedd yr un lle. Rydym am sicrhau bod trosglwyddiad llyfn o waith i addysg, yn ôl eto, ar wahanol gyfnodau ym mywydau pobl pan fyddant angen hynny. Efallai y byddwn yn anghytuno weithiau, ond rwy’n meddwl bod hynny’n greiddiol i’n holl ffordd o feddwl fel ACau. Dyna y mae’r cynnig hwn yn gobeithio ei gyflawni, ac rwy’n annog yr Aelodau i’w gefnogi.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i’r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y bleidlais.