– Senedd Cymru am 4:43 pm ar 4 Gorffennaf 2017.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan yr un Ysgrifennydd Cabinet—Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd—ar ddiweddariad ar wasanaeth braenaru 111 y gwasanaeth iechyd, ac rydw i’n galw ar Vaughan Gething i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.
Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am wasanaeth braenaru 111 y GIG yng Nghymru. Mae hwn yn profi ymarferoldeb gweithredu gwasanaeth newydd ac integredig i helpu i ddiwallu anghenion gofal brys pobl.
Mae gwasanaeth 111 Cymru yn dod â gwasanaethau ymdrin â galwadau a brysbennu Galw Iechyd Cymru a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau at ei gilydd mewn un gwasanaeth. Mae'n darparu nifer o gyfleoedd i symleiddio mynediad at wasanaethau i gleifion, ac yn cefnogi cyflawniad cynlluniau gofal sylfaenol i Gymru. Mae'r gwasanaeth yn cynorthwyo cleifion i wneud y dewisiadau cywir am ofal, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn.
Mae'r gwasanaeth 111 newydd yn darparu cyngor iechyd a chymorth gofal brys drwy wasanaeth ffôn rhad ac am ddim. Mae hwn yn cyfeirio cleifion i’r gwasanaeth mwyaf priodol yn glinigol ar gyfer eu hanghenion. Dylai hyn ganiatáu i gleifion gael eu trin yn nes at adref, pan fyddai hyn, yn rhy aml yn y gorffennol, wedi bod mewn adran achosion brys, ac nid yw hwnnw bob amser y lle iawn ar gyfer eu gofal.
Lansiwyd model 111 Cymru ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fis Hydref y llynedd, a chafodd ei ehangu i Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2017, eleni. Rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol gan glinigwyr lleol, staff gweithredol ac, yn bwysicach, y cyhoedd sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth.
Mae'r gwasanaeth 111 yng Nghymru yn wahanol i fodelau eraill y DU. Mae gennym gyfran lawer mwy o staff clinigol yn ein gwasanaeth nag mewn ardaloedd sylweddol o Loegr, er enghraifft. Mae’r gwasanaeth braenaru 111 yn ABM a Sir Gaerfyrddin yn dangos y gall y gwasanaeth gefnogi prosesau asesu, cyfeirio a rheoli cleifion yn fwy effeithiol, gan ddefnyddio amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn canolfan cymorth clinigol. Mae’r ganolfan honno yn defnyddio sgiliau meddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr profiadol, sy’n gweithio mewn canolfan gyswllt glinigol, ac mae'r ganolfan yn weithredol yn ystod y cyfnodau prysuraf y tu allan i oriau. Mae gan y meddyg teulu yn y ganolfan swydd glinigol uniongyrchol wrth ymdrin â galwadau cymhleth, ac, yn hollbwysig, mae hefyd yn gweithredu fel goruchwyliwr, gan oruchwylio a rheoli ciwiau. Mae hefyd yn gweithredu fel adnodd ar gyfer y system gofal heb ei drefnu ehangach, er enghraifft, mae gan barafeddygon a chartrefi nyrsio linell uniongyrchol i 111 a gwelwyd manteision pendant i hyn.
Rhwng 4 Hydref y llynedd, pan lansiwyd y gwasanaeth gennym, a 30 Ebrill eleni, mae’r gwasanaeth yn ABM wedi ymdrin â mwy na 73,000 o alwadau. Mae mynediad at y gwasanaeth ers ei lansio wedi bod yn dda ac mae’r adborth gan gleifion, yn arbennig drwy’r cyfryngau cymdeithasol, wedi bod yn gadarnhaol. Rwyf hefyd yn falch o ddweud, yn lleol yn ABM a Sir Gaerfyrddin, bod y gwasanaethau meddygon teulu y tu mewn i oriau a staff yr adran achosion brys yn gadarnhaol am y gwasanaeth, ac yn bwysig nid oes unrhyw faterion o bwys o ran diogelwch cleifion.
Rydym wedi comisiynu gwerthusiad ffurfiol gan yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol ar y cyd â Phrifysgol Sheffield, a disgwylir yr adroddiad hwnnw tua diwedd mis Gorffennaf. Bydd yr adroddiad hwnnw, ynghyd â'r wybodaeth werthfawr a gasglwyd gan y rhai sy'n cyflwyno’r gwasanaeth braenaru 111, yn ein helpu i nodi problemau y mae angen eu datrys cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud am gyflymder ac amseriad cyflwyno hyn i Gymru gyfan. Pan lansiwyd y cynllun braenaru yng Nghymru, roeddem yn awyddus i ddatblygu ymhellach yr arferion da a’r mentrau sydd eisoes ar waith, a dysgu gwersi gan wasanaethau tebyg yn Lloegr ac yn yr Alban. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gennym wasanaeth sy'n glinigol ddiogel a chadarn yng Nghymru. Bydd mabwysiadu'r dull braenaru yn ofalus yn sicrhau y gellir ymgorffori’r gwersi o'r gwerthusiad, ac y gellir rhoi ystyriaeth i gyngor gan glinigwyr a chleifion. Gall y rhain wedyn gael eu cynnwys wrth gynllunio ein model parhaol.
Rwy'n cydnabod bod rhagor eto i'w wneud os ydym am weithredu gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi pobl Cymru gan ddefnyddio egwyddorion gofal iechyd doeth. Rwyf felly wedi gofyn i fwrdd y rhaglen 111 ddarparu cynllun cadarn i mi erbyn hydref eleni i symud y gwasanaeth yn ei flaen. Rwy'n disgwyl i’r cynllun hwnnw amlinellu dewisiadau ar gyfer sut y gallai'r gwasanaeth 111 weithredu ar ôl braenaru fel gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi cleifion a'r GIG i drin cleifion ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol.
Rwy’n awyddus i’r cynllun hwn amlinellu swyddogaeth strategol y gwasanaeth 111 a'i swyddogaeth wrth wraidd ein system gofal heb ei drefnu yma yng Nghymru yn y dyfodol. Byddaf felly yn ystyried nifer o faterion, gan gynnwys: swyddogaeth bosibl y gwasanaeth 111 fel un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai brys, a'r potensial i integreiddio ymholiadau gofal iechyd eraill i 111 yn y tymor hwy; cytuno ar sut y gallai ehangu'r amrywiaeth o arbenigwyr a gyflogir yn y ganolfan cymorth glinigol gefnogi cleifion â chyflyrau cymhleth a phenodol yn well, er enghraifft, diabetes pediatrig ac iechyd meddwl; mesur yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu'r gwasanaeth dros dro ac yn y tymor hir; y cyfleoedd a'r arbedion maint a buddion eraill y gellir eu cyflawni drwy gydleoli canolfannau cymorth clinigol 111 â chanolfannau cyswllt clinigol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; y potensial i ehangu oriau agor y ganolfan er mwyn darparu mwy o gadernid a chefnogaeth i feysydd eraill y GIG; a datblygu cyfeiriadur o wasanaethau y cytunwyd arnynt ac a reolir yn genedlaethol, ynghyd â phlatfform digidol TG sy’n caniatáu ar gyfer galwadau Skype i weddnewid y ffordd y mae cleifion a gweithwyr proffesiynol yn rhyngweithio.
I gloi, fodd bynnag, rwy’n falch iawn o’r cynnydd sydd wedi ei wneud hyd yn hyn, ac yr wyf wedi ei weld drosof fy hunan ar ymweliad yn gynharach eleni, ac rwyf eisiau cydnabod gwaith caled y tîm 111 yn ganolog, ond yn arbennig y clinigwyr a’r staff gweithredol sy'n gwneud y gwaith hwn ac yn ei wneud yn gynllun treialu llwyddiannus hyd yn hyn. Mae'r gwasanaeth braenaru 111 wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn. Mae gwersi eisoes yn cael eu dysgu a'u hystyried wrth i gynlluniau gael eu datblygu ar gyfer eu cyflwyno yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen gwneud nifer o benderfyniadau mawr o hyd, ond yr wyf wedi ei gwneud yn glir bod hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n iawn, nid o reidrwydd eu gwneud yn gyflym. Credaf y bydd 111 yn rhoi cyfleoedd sylweddol i alluogi cleifion i gael y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion gofal, ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw. Mae’r gwasanaeth hwn yn dal i fod yn ei ddyddiau cynnar, ac mae gennyf gwestiynau mewn tri maes penodol. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag adnoddau, rhai dynol ac ariannol. Tybed a allwch chi roi ychydig mwy o drosolwg i ni ynghylch sut yr ydych yn bwriadu tynnu Galw Iechyd Cymru a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau at ei gilydd, ar sail y profiadau yr ydych wedi eu cael yn ABM ac wrth gwrs yr ychydig iawn o fisoedd ers ei gyflwyno yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd â staff yn y meysydd hyn, a hefyd â staff ledled Cymru, ac yn un o'r meysydd sy'n cael ei nodi yn eithaf aml yw pa mor anodd yw hi i gael adnoddau dynol, i gael pobl, i gymryd rhan ar hyn o bryd yn Galw Iechyd Cymru. Mae teimlad ei fod yn brin o staff. Mae'n anodd recriwtio ac felly roeddwn i’n meddwl tybed beth fydd yn digwydd pan fydd y gwasanaeth hwn yn tynnu’r holl bobl hynny ynghyd. Sut ydych chi'n bwriadu gallu eu recriwtio? O ran yr elfen adnoddau ariannol, a allwch chi o bosibl roi trosolwg i ni o'r math o gost yr ydych yn ei rhagweld, oherwydd nid wyf yn glir pa un a ydych chi’n credu y bydd tynnu’r ddau wasanaeth hyn ynghyd yn rhoi cronfa o arian i chi a dyna’r hyn y byddwch yn ei wario? Byddwn i’n amau y gallai fod angen ymarferion ysgogi drwy fuddsoddiant arnoch i symud ymlaen â hyn.
Mae’r ail faes yr hoffwn i gael rhywfaint o eglurder yn ei gylch yn ymwneud â’r cyfeiriadur clinigol. Nodais yma fod posibilrwydd o ddatblygu cyfeiriadur o wasanaethau y cytunwyd arno ac a reolir yn genedlaethol, ynghyd â phlatfform TG digidol. Un o'r pethau yr wyf wir wedi eu nodi o’r prosiectau braenaru yw bod y cyfeiriadur o wasanaethau yn dra gwahanol ar gyfer y gwahanol feysydd, ac rwy’n rhagweld y bydd hynny'n parhau wrth ei gyflwyno ledled Cymru. Rwy’n pryderu os bydd hwn yn dod yn gyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau, pa hyblygrwydd y byddwch chi’n ei sefydlu yn y system i sicrhau ei bod yn adlewyrchu'r ardal leol, fel eich bod yn cael gafael ar gyfeiriaduron tra gwahanol o wasanaethau wrth ffonio yn Angle neu o ganol Caerdydd? Byddwch yn cael gafael ar, neu ddim yn cael gafael ar, nid yn unig yr hyn y byddwn i’n eu galw’n wasanaethau clinigol meddygol, ond cymorth arall hefyd y gallech fod yn cyfeirio pobl iddo, gan fod hyn yn ymwneud â lles cyffredinol hefyd. Felly, rwy'n awyddus iawn i archwilio gyda chi i weld sut yr ydych yn rhagweld y bydd y cyfeiriadur o wasanaethau clinigol hwnnw yn datblygu. Rwy'n hynod bryderus na fydd un cyfeiriadur sydd â’r bwriad o weddu i bawb yng Nghymru mewn gwirionedd yn gwneud yr hyn y gallem ei wneud yn llwyddiannus iawn gyda hyn, sef galluogi pobl i’w ddeall. Rwy’n credu yr hoffwn i ddangos hynny drwy ddweud fy mod i wedi cwrdd â nifer o glinigwyr sydd wedi dweud, ‘Waw, nid oeddem ni’n sylweddoli tan i’r gwasanaethau braenaru hynny ddod at ei gilydd nad oedd rhai ohonom yn sylweddoli ein bod yn gallu cynnig hyn neu’n gwneud y llall.’ Felly, os nad yw’r clinigwyr yn gwybod hyn, sut y mae'r person yn y stryd i wybod?
Yn olaf, rydych chi’n sôn eich bod yn gofyn i ryw sefydliad, yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol, i gael golwg arno a’i werthuso. Roeddwn i’n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw sylwadau yn y cyfamser y gallech eu rhannu ar sut yr ydych chi’n credu y mae pethau wedi mynd a pha adborth yr ydych chi’n ei gael ar hyn o bryd naill ai o ABM neu yn wir o Sir Gaerfyrddin. Mae peth o'r adborth yr wyf i wedi’i gael wedi bod yn gadarnhaol iawn, ond mae rhai tyllau amlwg, a byddai gennyf ddiddordeb mewn cael gwybod beth yw eich adborth chi. Diolch.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau yna. Mi ddof i’n ôl, os mynnwch chi, i’r rhan olaf a’r rhan gyntaf a cheisio eu hateb gyda’i gilydd. Ynglŷn â’r pwynt am adnoddau ariannol, bu angen rhaglenni ysgogi drwy fuddsoddiant i gael y gwasanaeth i weithio, oherwydd mai gwasanaeth ychwanegol yw hwn mewn rhai ffyrdd, ond rydym hefyd yn ceisio dwyn ynghyd y pethau sy'n bodoli eisoes. Felly, mae’n ymwneud â sut y defnyddir cyllidebau cyfredol, ond hefyd â sut yr ydym yn cael pobl i'r lle iawn.
Mae'r pwynt am y cyfeirlyfr o wasanaethau wedi’i wneud yn dda, ac mi wnes i geisio cyfleu yn fy natganiad yr heriau a'r cwestiynau a nodir am ddewisiadau i mi yn ogystal â'r gwasanaeth o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn. Gallwch ddeall yr atyniad o gael cyfeiriadur cenedlaethol o wasanaethau er mwyn eich galluogi i gyflawni cysondeb, wedi ei gydbwyso â’r pwynt a wnewch ar y llaw arall am beth yw hyblygrwydd a’r ddealltwriaeth o hynny. Un o'r pethau yr ydym yn eu gweld yn rheolaidd yw nad yw’r clinigwyr, wrth gwrs, yn gwybod popeth. Sut y gallen nhw wybod am bob rhan unigol o'r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu mewn ardal bwrdd iechyd, heb sôn am ledled y wlad? Rwy'n credu weithiau nad yw’n ymwneud â pha un a yw clinigwyr yn gwybod hynny i gyd; mae'n ymwneud â sut yr ydych yn cael gwybodaeth i'r person sy’n cynghori'r aelod o'r cyhoedd. Yn yr un modd, nid ydym yn disgwyl i'r aelod o'r cyhoedd wybod pob un peth am sut mae'r system gwasanaeth iechyd a gofal yn gweithio. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn helpu'r person hwnnw i ddod o hyd i’w ffordd drwy’r system honno ac i wneud y dewisiadau cywir, oherwydd bod yr aelod hwnnw o'r cyhoedd yn dal i wneud dewis ynglŷn â beth i'w wneud.
Ond rwy'n credu mai’r peth mwyaf calonogol—mae hyn yn dod yn ôl at eich pwynt cyntaf a'ch pwynt olaf—y peth sydd fwyaf calonogol yw bod gennym wasanaeth a gynlluniwyd mewn modd gofalus, a oedd yn deall bod rhywbeth mewn rhannau o Loegr lle yr oedd wedi cael y cyhoeddusrwydd mwyaf negyddol, yn ymwneud â deall y model, bod â digon o glinigwyr i dderbyn yr alwad a chynghori ar y pwynt cyntaf, i sicrhau bod cyngor o ansawdd uchel yn cael ei roi—nid oedd yn ymwneud â dim ond ailgyfeirio pobl i adran achosion brys. Byddwch chi wedi gweld, rwy'n siŵr, adroddiadau diweddar yn ystod yr wythnosau diwethaf, fod pryder o hyd, mewn rhai rhannau o Loegr, mai dyna beth sy'n digwydd. Ond rydym wedi dysgu yn uniongyrchol gan gydweithwyr yn Lloegr, ond o'r Alban hefyd, lle maen nhw’n defnyddio dull ychydig yn fwy gofalus.
Ond, yng Nghymru, rydym ni wedi dwyn ynghyd pobl sy'n rhedeg gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae Steve Bassett, yn arbennig, wedi bod yn bwysig iawn, ac oherwydd bod clinigwyr yn gweld arweinwyr clinigol eraill yn dwyn pethau at ei gilydd ac yn cael y sgyrsiau hynny, mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lefel y gefnogaeth a gawsom ar y cychwyn. Yn sgil amheuaeth, nid mor bell yn ôl a hynny, am ba un a fyddai hyn yn gweithio mewn gwirionedd, nid ymhlith y cyhoedd yn unig, ond o fewn y gymuned glinigol hefyd. Felly, cynhaliwyd gwiriad synnwyr gan Steve Bassett, a gan Linda Dykes, sy’n feddyg ymgynghorol yn yr adran achosion brys yn y gogledd, ond sydd hefyd yn gweithio fel meddyg teulu—mae hi’n gallu gweld dwy ochr, os mynnwch chi, y rhaniad rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hi’n dal i weithio ar sut i ddod ag elfennau o'r gofal hwnnw at ei gilydd yn y gogledd hefyd. Felly, roedd hynny yn bwysig, unwaith eto, gyda'r gefnogaeth a'r hygrededd sydd ganddi.
Ond yr hyn sydd fwyaf calonogol yn hyn i gyd yw, oes, mae angen i chi ddod â’r bobl hynny at ei gilydd i sicrhau bod y ganolfan cymorth glinigol ac ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu o bell yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd, ond hefyd, rydym wedi cael sylwadau cadarnhaol iawn gan adrannau achosion brys am y ffaith bod hyn wedi bod yn rhywbeth da. Mae Andy MacNab, ymgynghorydd arweiniol ar gyfer meddygaeth frys yn Abertawe, wedi dweud ei fod yn credu ei fod yn rhywbeth da ac nad ydyn nhw wedi gweld adwaith amhriodol mewn niferoedd o ran y bobl sy'n cael eu hanfon yn amhriodol atyn nhw, neu ddim yn cael eu hanfon atyn nhw hefyd.
Felly, wrth i ni fynd drwy'r gwerthusiad, dyna’r hyn yr wyf yn disgwyl ei ddeall—i weld beth sydd wedi dod ohono—gan fod fy adborth anecdotaidd wedi bod yn gadarnhaol hyd yn hyn gan staff unigol, gan dîm y prosiect a’r niferoedd maen nhw’n eu gweld. Mae'n gadarnhaol iawn. Y grŵp Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol yw’r un bobl a werthusodd y model ambiwlans newydd, hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd hynny yn rhoi rhywfaint o ffydd i’r Aelodau. Mae hyn yn rhywbeth pan eich bod yn gweld gwerthusiad gwahanol sydd wedi edrych yn feirniadol ar yr hyn sydd wedi ei wneud, wedi siarad am y pethau hynny sydd wedi eu gwneud yn dda, ond, ar yr un pryd, wedi rhoi sylw i’r meysydd i'w gwella. Dyna'n union yr hyn yr ydym yn dymuno ei gael o’r gwerthusiad, ac fe helpodd hynny i fy arwain i a'r gwasanaeth ehangach wrth wneud dewisiadau a darparu cyngor, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Aelodau maes o law.
Rydych wedi disgrifio sut y mae'r gwasanaeth 111 yn gweithio, ac, ar gyfer y cofnod, rwy'n credu ei fod yn syniad da, ac edrychaf ymlaen at fesur ei lwyddiant yn y dyfodol. Rydych yn dweud y bu’r gwasanaeth braenaru yn llwyddiant hyd yn hyn, ond bydd ei lwyddiant, wrth gwrs, yn cael ei fesur yn ôl ei ganlyniadau. Rydych yn dweud wrthym y gwnaed 73,000 o alwadau i'r gwasanaeth yn ABM rhwng mis Hydref 2016 a mis Ebrill 2017, ond, unwaith eto, y canlyniadau sy'n bwysig. Pa effaith y mae hynny wedi ei chael, er enghraifft, ar nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau achosion brys? Fe wnaethom ddamcaniaethu, wrth lansio hyn, a dymuno pob llwyddiant iddo, pe byddai wedi bod yn fethiant llwyr, y byddai mwy na thebyg yn arwain at gynnydd yn nifer y cleifion sy'n mynd i adrannau achosion brys. Rwy'n cymryd yn ganiataol o'r hyn yr ydym yn ei glywed yn y diweddariad hwn, nad yw hynny yn bendant wedi digwydd, ond mae angen i ni wybod beth yw'r dystiolaeth. Mae angen i ni allu mesur effaith 111, nid dim ond mesur yr adborth cadarnhaol, er mor bwysig yw hynny, ar gleifion yn y rhan honno o Gymru.
Rydych chi’n dweud wrthym fod gwersi wedi eu dysgu. Efallai y gallech chi roi blas o ba wersi a ddysgwyd, ac, er cymaint yw’r pleser o’ch cael chi yn gwneud datganiad arall i ni y prynhawn yma—yr ail mewn byr amser—rydych yn dweud wrthym fod gwerthusiad ffurfiol wedi ei gomisiynu gan yr uned Ymgynghorwyr Economaidd Cyhoeddus a Chorfforaethol ar y cyd â Phrifysgol Sheffield ac y disgwylir hyn tua diwedd mis Gorffennaf. Pam gwneud datganiad nawr?
O ran gwneud datganiad nawr, ymrwymais i wneud datganiad cyn diwedd toriad yr haf, felly rwy'n cyflawni'r ymrwymiadau yr oeddwn wedi’u gwneud yn flaenorol. Byddwn i wedi meddwl bod hynny yn beth da i Weinidog ei wneud.
Nawr, edrychwch, o ran y gwerthusiad—y pwynt ehangach—rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol iawn. O ran yr arolygon cychwynnol sydd wedi eu cynnal, mae dros 90 y cant o gleifion yn dweud eu bod yn hapus gyda'r gwasanaeth maen nhw wedi'i gael. Felly, mae hwnnw'n fan cychwyn da, ond mae’r gwerthusiad ffurfiol yn bwysig iawn i fynd yn ddyfnach i’r mater, a byddwn i’n disgwyl y bydd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld y gwerthusiad pan gaiff ei gyhoeddi. Bydd rhagor o gwestiynau i ni edrych arnynt, boed hynny yn y fforwm hwn neu mewn pwyllgor, oherwydd bod angen i mi ddeall, cyn i mi wneud dewisiadau yn yr hydref ynghylch dyfodol y gwasanaeth, yr effeithiau gwahanol o ran y broses o gyflwyno a sut y gallai rhaglen weithio, ond hefyd y dewisiadau a wnawn, i gyfeirio yn ôl at sylwadau Angela Burns ynghylch cyfeirlyfr o wasanaethau, ond hefyd i fod â dealltwriaeth fanylach o’r effaith ar draws y system gyfan. Fel y dywedais, mae'n dda iawn cael adborth uniongyrchol gan rywun fel Andy MacNab, sy’n gweithio mewn adran achosion brys brysur iawn, a deall nad yw hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y niferoedd sy'n dod i mewn—yn sicr y nifer sy'n dod i mewn yn amhriodol. Bydd rhagor o’r manylion hynny yn y gwerthusiad.
Er fy mod i'n siŵr eich bod yn falch iawn o gael datganiad arall gennyf, rwy’n gobeithio, yn y dyfodol, pan fyddaf yn gwneud rhagor o ddewisiadau yn yr hydref, y byddaf yn sôn am y rhesymau dros wneud y dewisiadau ar yr adeg benodol honno i gael yr hyn rwy’n credu y bydd yn cael effaith barhaus ar draws ein system gofal heb ei drefnu. Gan ein bod ni yn gwybod y bydd gadael pethau yn union fel y maen nhw—eu gadael gyda Galw Iechyd Cymru, a’u gadael gyda’r gofal sylfaenol y tu allan i oriau ac adrannau achosion brys—nid yw hynny’n diwallu anghenion y bobl sydd ag anghenion gofal gwirioneddol. Mae'n ymwneud â sut yr ydym yn rheoli’r anghenion hynny, sut yr ydym yn ymdrin â nhw yn gywir ac yn briodol, yn y ffordd orau, i wneud defnydd o'r adnoddau sydd gennym eisoes. Rwy'n credu mai un o'r gwersi allweddol yw bod ein dull cyffredinol o gael rhagor o glinigwyr yn y tîm hwnnw yn y ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a’i fod, mewn gwirionedd, wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn i bobl mewn gofal sylfaenol hefyd, sy'n teimlo eu bod wedi’u cefnogi yn llawer gwell, a bod ein gallu i staffio’r grŵp penodol hwnnw wedi gwella. Felly, ceir manteision gwirioneddol. Nid oes angen i chi dderbyn fy ngair i am hynny; bydd clinigwyr yn dweud hynny hefyd, a chawn weld beth y bydd y gwerthusiad yn ei ddweud maes o law.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gwasanaeth 111 wedi cael derbyniad da gan lawer o fy etholwyr i sydd wedi elwa ar y gwasanaeth braenaru. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o etholwyr yn dal heb fod yn ymwybodol o'r gwasanaeth, ac er fy mod i’n sylweddoli mai megis dechrau y mae’r cynllun, mae’n rhaid i ni sicrhau bod etholwyr anodd eu cyrraedd yn ymwybodol o'r gwasanaeth. Rwy’n falch o weld eich bod yn ystyried cyflwyno’r gwasanaeth yn ehangach, ac edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwerthusiad ffurfiol.
Fel y mae Arolwg Cenedlaethol diweddar Cymru yn dangos i ni, mae un o bob pedwar o'r cyhoedd yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd trefnu apwyntiad gyda meddyg teulu, sy'n rhoi pwysau ar wasanaethau y tu allan i oriau. Mae'r gwasanaeth 111 yn mynd i'r afael â’r broblem hon, a gorau po gyntaf y gallwn ei gyflwyno i weddill Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r prif rwystrau sy'n atal cyflwyniad ehangach y gwasanaeth ar hyn o bryd?
Rydych chi’n sôn am y gwaith o ddatblygu platfform digidol i ganiatáu sgyrsiau ar ddull Skype. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi’n gweld fideo-gynadledda yn chwarae mwy o ran mewn gofal sylfaenol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig? A sut y gallwn ni wella ein seilwaith i wneud mwy o ddefnydd o’r gwasanaethau protocol llais dros y rhyngrwyd yn y dyfodol?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi gofyn i fwrdd y rhaglen am gynllun cadarn ar gyfer ei gyflwyno’n ehangach erbyn yr hydref. Beth ydych chi'n rhagweld fydd yr amserlen ar gyfer cyflwyniad cyflawn o’r gwasanaeth ym mhob ardal bwrdd iechyd lleol? Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau bod y gwasanaeth hwn, sy’n ategu yn fawr iawn ein gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal brys, ar gael i bob unigolyn yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o wasanaeth arloesol y mae’r Aelod yn cydnabod bod ei hetholwyr wedi gwneud sylwadau cadarnhaol amdano. Mae, wrth gwrs, yn wasanaeth arloesol sydd wedi’i leoli yn ardal ABM, a Sir Gaerfyrddin yn dechrau’n ddiweddarach, felly arloesi gwirioneddol sy’n dechrau yn y de-orllewin a chanol gorllewin Cymru. Yr her bob tro yw deall yr hyn y mae angen ei wneud cyn dechrau’r broses o gyflwyno mewn gwirionedd, ac roedd yn rhaid i ni wneud newidiadau. Os byddem yn syml wedi ceisio gweithredu'r system gyda'r hen system gofal sylfaenol y tu allan i oriau, Galw Iechyd Cymru, ni fyddai wedi gweithio. Mae angen i ni gael cefnogaeth clinigwyr, felly mewn gwirionedd mae’n rhaid i ryw ymdrech fynd i mewn i hynny. Dylai fod yn hawdd, os ydym am gyflwyno'r gwasanaeth yn ehangach, cael y math yna o gefnogaeth yn sgil gwasanaeth braenaru llwyddiannus, ond mae heriau eithaf sylweddol cyn hynny. Mae angen i ni ddeall, o safbwynt ariannu a recriwtio, sut i roi rhagor o bobl yn y canolfannau cyswllt clinigol, i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r sgriptiau a roddir i bobl eu defnyddio ac arwain pobl wrth ddefnyddio'r gwasanaeth, a sicrhau ein bod yn deall bod gennym gefnogaeth wirioneddol gan bobl o bob rhan o’r system iechyd a gofal, os ydym am gyflwyno hyn yn genedlaethol.
Ni fyddai'r cyflwyno yn digwydd ar un adeg benodol drwy wthio swîts, rwy’n credu, i fynd ledled y wlad wedyn ar un pwynt mewn amser. Rwy'n credu y byddai hynny’n ffôl, a byddem mewn perygl o geisio cyflawni'r hyn sy’n edrych fel arloesedd a gwelliant i’r gwasanaeth a’i danseilio trwy fynd ar y trywydd hwnnw. Felly, mae’n rhaid cael cyflwyniad priodol a threfnus. Dyna pam y nodais yn fy natganiad fy mod i wedi gofyn i fwrdd y rhaglen ddod yn ôl ataf gyda chynllun cadarn ar sail gwerthusiad i ddeall y dewisiadau sydd ar gael i ni. Bydd angen i mi roi gwybod i'r Aelodau yn yr hydref ar ôl i mi gael y cyngor hwnnw pan fyddaf yn gallu dangos y llwybr a fydd yn cael ei gymryd i gyflwyno'r gwasanaeth hwn yn ehangach.
Y pwynt arall nad wyf wedi ei ateb yw eich pwynt ynglŷn â thelefeddygaeth. Credaf fod gan bob rhan o delefeddygaeth botensial enfawr ledled Cymru, nid fideo-gynadledda yn unig, ac nid dim ond i Gymru wledig, mewn gwirionedd, i wella ansawdd y gofal, ac yn enwedig ansawdd y profiad i gleifion unigol. Rydym yn gweld hyn mewn rhai rhannau o'n system eisoes—yng ngofal y llygad, er enghraifft, gan drosglwyddo delweddau mewn ffordd sy’n wirioneddol gadarnhaol i gleifion ac yn dda i’r gwasanaeth, ond gan hefyd gyflawni gwell effeithlonrwydd i ddinasyddion sy’n defnyddio’r gwasanaeth, yn ogystal â'r staff oddi mewn iddo. Felly, mae potensial gwirioneddol, nid yn y maes hwn yn unig, ond ar draws ein system iechyd a gofal gyfan ac mae angen gwneud hynny ar sail fwy cyson a thaer.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet.