– Senedd Cymru am 6:09 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Datganiad yw hwn gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar gyflogadwyedd. Rwy'n galw ar y Gweinidog, Julie James, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy’n dymuno amlinellu fy agenda i ar gyfer cyflogadwyedd. Rwy'n hynod falch fod hyn yn dilyn ein trafodaeth ni ar y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de gan y bydd cefnogi pobl wrth iddyn nhw geisio gwaith yn nodwedd allweddol o waith y tasglu yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Bydd ymgysylltu â chymunedau, y mae tasglu’r Cymoedd eisoes wedi dechrau ei wneud, yn parhau. Rydym hefyd yn cydnabod bod ymdeimlad o frys wrth gael swyddi a thwf i gymunedau ledled Cymru sydd mewn angen o’r ddeubeth. Mae’r cyfle i ennill sgiliau cyflogaeth a chyflogadwyedd o ansawdd da yn hanfodol ac rwy'n falch o allu symud ymlaen i fynd i’r afael â hyn ar unwaith. Rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae dros 1.4 miliwn o bobl mewn gwaith yng Nghymru, sef cynnydd o 19.1 y cant ers datganoli. Ond gwyddom hefyd fod y gyfradd diweithdra yn parhau i fod yn uchel mewn rhai cymunedau ledled Cymru. Er na ddylid tanamcangyfrif cyfraniad Llywodraeth Cymru i’r gyfradd gadarnhaol o gyflogaeth yn gyffredinol, gyda chefnogaeth cyllid yr UE, rydym yn gwybod nad yw’r stori hon yn un gwbl gadarnhaol ac mae'n rhaid i ni wneud mwy i gefnogi pobl sy’n anweithgar yn economaidd, y rheini a hoffai weithio oriau ychwanegol a'r rheini mewn cyflogaeth ansicr.
Mae thema cyflogadwyedd yn llifo drwy bob un o’r pedair strategaeth drawsbynciol sy’n datblygu. Yn syml, nid mater o swyddi a sgiliau yn unig yw cyflogadwyedd; mae'n ymwneud â chael pob agwedd ar Lywodraeth—addysg, iechyd, tai, cymunedau, trafnidiaeth, natur wledig, gofal plant, datblygu rhanbarthol—i weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl i gael gwaith cynaliadwy. Ym mis Ebrill, cymeradwyodd y Cabinet fy null i ar draws Llywodraeth Cymru o ymdrin â chyflogadwyedd, sy’n nodi ein nod cyffredin o gynnal cyfradd uchel o gyflogaeth yng Nghymru, lleihau anweithgarwch economaidd a chynyddu nifer y bobl sydd mewn gwaith o ansawdd da. Yr her y mae’r Cabinet wedi ei rhoi i mi, ac y bydd yn fy nghefnogi i’w chyflawni, yw gyrru ymlaen â'r gwaith hwn, gan gydweithio, i gyflawni newid sylweddol yn ein dull ni o weithredu.
Ers mis Ebrill rwyf wedi sefydlu strwythur llywodraethu i gyfarwyddo'r gwaith hwn. Rwyf wedi ymestyn y gweithgor cyflogadwyedd gweinidogol, er mwyn sicrhau ymateb integredig drwy’r Cabinet. Rwy’n ddiolchgar i fy nghydweinidogion ar y gweithgor—Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes—am eu cyfraniad i'r datganiad hwn heddiw. Byddaf yn defnyddio'r Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar ei newydd wedd, sydd eisoes wedi cymeradwyo ein hagenda cyflogadwyedd, i roi cyfeiriad strategol a her o du cyflogwyr a phartneriaethau sgiliau rhanbarthol ac undebau llafur. Er mwyn sicrhau dull llawer mwy integredig, rwyf wedi sefydlu bwrdd cyflogadwyedd yn ymestyn dros Lywodraeth Cymru, sy'n cynnwys uwch swyddogion drwy holl adrannau’r Llywodraeth. Mae'r bwrdd wedi cael y dasg o lunio cynllun cyflenwi cyflogadwyedd i'w gyhoeddi cyn y Nadolig. Bydd y cynllun yn edrych yn fanwl ar wasanaethau a’r seilwaith sy’n bodoli eisoes, asesu eu gwerth wrth helpu pobl i ddod o hyd i waith a'i gadw, ac ystyried a ydynt yn rhoi gwerth am arian. Fel yr ydym yn ymwybodol i gyd, daw hyn yn bwysicach eto yn y blynyddoedd yn dilyn ein hymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd. Byddaf yn sicrhau ein bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn llunio cynllun cyfathrebu manwl â rhanddeiliaid allanol a fydd yn llywio cyfnod o ymgysylltu allanol i gyfarwyddo'r cynllun cyflenwi cyflogadwyedd.
Yn y cyfamser, nid ydym yn sefyll yn yr unfan. Disgwylir y bydd ein cynnig cyflogadwyedd newydd yn dechrau cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2019. Bydd hyn yn sefyll fel cynnig unigol dan yr enw, 'Cymru ar Waith', a bydd rhaglen newydd i oedolion yn sylfaen iddo, ynghyd â dwy raglen newydd a fydd yn rhoi cefnogaeth cyflogadwyedd i bobl ifanc. Rhwng nawr a’r pryd hwnnw, byddwn yn ad-drefnu ein rhaglenni presennol i ganiatáu trawsnewidiad llyfn, gan ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i drwytho'r dull cyflenwi newydd. Byddwn yn gwneud newidiadau i rai o'n rhaglenni cyflogadwyedd presennol, gan gynnwys ReAct a ariennir gan yr UE, Twf Swyddi Cymru a’r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, a sicrhau bod y rhain yn cydsefyll yn effeithiol i wella cymorth i bobl ddi-waith a'r rhai sydd byth a hefyd mewn cyflogaeth dros dro, sy’n talu’n wael.
Rydym yn cydnabod na all hyn fod yn fater yn unig o gymorth i unigolion. Rydym am gefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu talent o fewn eu busnes, i roi hwb i gynhyrchiant a chyfle i bobl leol gael swyddi gwell ac agosach at eu cartref. Byddwn yn darparu cymorth busnes a chefnogi sgiliau integredig trwy Fusnes Cymru wrth wella ein rhagleni sgiliau hyblyg a chyflogadwyedd. Ein nod yw cefnogi 100 o fusnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial mwyaf ar gyfer twf, drwy gyfrwng yr hyn yr ydym yn ei obeithio fydd yn gymorth unigol i greu swyddi, cymorth ar gyfer recriwtio, cyflwyno hyfforddiant arbennig rhag-waith ac mewn gwaith, ac uwchsgilio a datblygu’r staff presennol. Rydym yn awyddus i hyrwyddo ffyniant i bawb fel bod manteision twf economaidd yn cael eu rhannu gan bawb sydd â gwaith. Rydym yn cefnogi gwelliannau i dâl ac amodau ar gyfer y rhai mewn cyflogaeth tâl isel ac ansicr. I'r diben hwn, mae gwaith wedi dechrau ar Gomisiwn Gwaith Teg, yr wyf i’n ei gadeirio. Adroddir am ganfyddiadau rhagarweiniol yn yr hydref.
Mae'n rhaid i ni roi cyngor ac arweiniad clir i unigolion. I gyflawni hyn, rydym yn awyddus i ddatblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion, a chefnogi proses atgyfeirio a chymorth ddi-dor. Rydym yn awyddus i weithio ledled y Llywodraeth i ddylunio a threialu'r defnydd o adnodd proffilio a system wybodaeth rheoli, fel y bydd cynghorwyr ledled Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yn defnyddio'r un system yn y dyfodol. Ein huchelgais yw sicrhau ein bod yn cyrraedd y rheini sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur ac yn rhoi iddyn nhw becyn cyfannol o gymorth a mentora personol, pwrpasol a dwys. Rydym hefyd yn dymuno lleihau’r rhwystrau cymhleth ar gyflogaeth, mynd i'r afael â lefelau anweithgarwch economaidd, a chyflawni ein huchelgais o ddatblygu ffyniant i bawb. Ni allwn gyflawni hyn mewn gwirionedd ond drwy gymorth sy’n fwy cydnaws, a ddaw yn sgil gweithio'n effeithiol ledled y Llywodraeth. Felly, carwn gydnabod yr ymrwymiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu allgymorth yn y gymuned, fel yr amlinellwyd yn ei ddatganiad ar ddatblygu dull newydd o ymdrin â chymunedau cydnerth. Rwyf hefyd yn cydnabod y gwaith sy'n cael ei wneud gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu cymorth cyflogaeth arbenigol i bobl sy'n gwella yn dilyn camddefnyddio sylweddau a chyflyrau o afiechyd meddwl.
Mae'n rhaid i'n gwaith ar gyflogadwyedd roi ystyriaeth lawn i’r cydbwysedd sy'n bodoli rhwng cyfrifoldebau ar gyfer cyflogadwyedd sydd wedi’u datganoli a’r rhai heb eu datganoli. Rydym yn dymuno gweithio mewn partneriaeth â'r Adran Gwaith a Phensiynau i ddylanwadu ar raglenni’r DWP yn y dyfodol a sut mae’r DWP yn gweithio yng Nghymru o ran cynllunio gwasanaethau cyflogaeth ar y cyd ac integreiddio o fewn ein cynllun cyflawni cyflogadwyedd arfaethedig. Os ydym eisiau llunio agenda gyflogadwyedd newydd, mae angen i ni ysgogi dull cydlynol ar draws Llywodraeth Cymru ac â'n partneriaid o fynd i'r afael â'r aml rwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar waith teg o ansawdd da a gwneud cynnydd ynddo. Bydd y dull hwn o fudd i unigolion ledled Cymru ac yn sicrhau'r dyfodol llewyrchus a diogel sydd ei angen i ni symud Cymru ymlaen. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dywed y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu doniau o fewn eu busnesau, rhoi hwb i gynhyrchiant, a rhoi cyfle am swyddi gwell i bobl leol yn agosach i’w cartrefi. Yn ôl adroddiad gan Fanc Lloyds ym mis Rhagfyr y llynedd, mae 28 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi cael anawsterau wrth gyflogi staff medrus newydd yn ystod y chwe mis diwethaf. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sut y mae'n bwriadu cryfhau’r cysylltiadau â chymunedau busnes i sicrhau bod y sgiliau cywir sy'n ofynnol gan y cyflogwyr yn cael eu darparu yng Nghymru? A fyddai modd iddi hefyd gadarnhau y bydd Cymru ar Waith yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein gweithlu lle mae llawer o anghydbwysedd yn bodoli’n barod?
Dywedodd y Gweinidog ei bod yn dymuno datblygu dull cyffredin o nodi anghenion cyflogaeth unigolion. Dywedodd Estyn yn ddiweddar fod angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr anabledd dysgu gan golegau i nodi eu hanghenion ar gyfer cyflogadwyedd. Roedden nhw’n argymell bod colegau yn pennu cynlluniau dysgu unigol ac yn dylunio rhaglenni sy'n fwy heriol i ddisgyblion. Sut fydd ei strategaeth hi yn mynd i'r afael â’r anghenion ac yn gwella’r rhagolygon ar gyfer myfyrwyr ag anableddau a galluoedd o ran dysgu?
Roedd y datganiad yn crybwyll Gyrfa Cymru. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod disgyblion ysgolion uwchradd mewn rhannau o Gymru yn cael gwybod na fydd yna unrhyw brofiad gwaith ar eu cyfer, gan fod Gyrfa Cymru yn methu â chynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar gyfer lleoliadau gwaith. Sut y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â'r mater hwn o leoliadau gwaith, sy'n hanfodol wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith? Dywedodd Ysgol Addysg Caerdydd yn ddiweddar ei bod yn warth cenedlaethol nad yw plant yn cael y cyfle i oresgyn tlodi oherwydd diffyg cyngor gyrfaoedd. Sut wnaiff y cynigion hyn gynyddu capasiti’r cyngor gyrfaoedd sydd ar gael yng Nghymru?
Ers Brexit, mae'n hanfodol i bob plentyn yng Nghymru feddu ar fwy nag un sgìl i wasanaethu, ffynnu, a chyfrannu at ein cenedl, a dim ond y Ceidwadwyr—edrychwch ar eu syniadau nhw a sut y byddan nhw’n gwneud hynny. Dirprwy Lywydd, rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog ac yn edrych ymlaen at ei hateb yn awr.
Wel, diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. O ran datblygu sgiliau priodol ar gyfer busnes a chyflenwi busnes, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi sefydlu tair partneriaeth sgiliau ranbarthol ledled Cymru. Maen nhw ar eu trydedd flwyddyn erbyn hyn. Eleni, byddant yn cynhyrchu eu hadroddiadau blynyddol yn manylu ar wybodaeth a deallusrwydd am y farchnad lafur yn eu hardal, ac yn amlinellu'r sgiliau y mae eu hangen ar y cyflogwyr yn yr ardal honno. Ac, eleni, byddwn yn ariannu datblygiad sgiliau yn yr ardaloedd hynny yn ôl y cynlluniau datblygu rhanbarthol. Felly, caiff ei arwain i raddau helaeth gan fusnesau yn yr ardaloedd hynny, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifrif calon. Rydym wedi mynd i'r afael â hynny drwy sefydlu a chryfhau partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Ac, fel y crybwyllais yn y datganiad, rydym wedi ailgyflunio bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru er mwyn cael cynrychiolaeth well o’r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny ar gyfer cael golwg dros Gymru gyfan, ac mae hynny'n cael ei yrru i raddau helaeth gan y cyflogwyr a’r undebau llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn y bwrdd hwnnw gydag asiant cyflwyno. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i fynd i'r afael â’r agenda honno, ac rydym yn cydnabod hynny’n sicr.
Yn yr un modd, ar faterion yn ymwneud â rhyw, bydd yr Aelod yn gwybod bod hynny wedi bod yn destun pregeth gennyf i ers cryn amser. Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r wybodaeth gywir i ferched ifanc a dynion ifanc ynglŷn â diwydiannau nad ydynt wedi eu hystyried yn addas ar eu cyfer yn draddodiadol—felly, yn benodol, meysydd fel gofal i ddynion ifanc, a meysydd fel peirianneg a Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i ferched ifanc, oherwydd, os edrychwch ar y dosbarthiad rhyw, fel arall y maen nhw. Ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r cyngor gyrfaoedd cywir allan yno er mwyn y bobl ifanc eu hunain a hefyd er mwyn y rhieni a’r neiniau a’r teidiau—y rhai sy’n ffurfio barn, mewn geiriau eraill—y plant ifanc hynny. A byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda phobl sydd eisoes yn y diwydiant fel eu bod yn esiampl ac yn rhoi arweiniad yn hynny o beth.
O ran anabledd ac amrywiaeth, byddwn yn gweithio'n galed iawn gyda'n cyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn gyflogwyr hyderus wrth ymdrin ag anabledd, a’u bod mewn gwirionedd yn deall nad yw mor anodd â hynny gyflogi rhywun sy’n anabl, ac yn y blaen. Byddwn yn gwthio’r agenda hon fel rhan o'r hyn yr oeddwn yn sôn amdano o ran paratoi busnesau at dwf a chyfle, a bydd hynny'n rhan fawr o'r hyn yr ydym yn eu helpu i’w ystyried.
O ran Gyrfa Cymru, os oes gan yr Aelod ysgol benodol sydd â phroblem gyda materion sy’n ymwneud â phrofiad gwaith, byddwn yn ddiolchgar iawn iddo pe byddai’n ysgrifennu ataf i ynglŷn â hynny. Mae 'na lawer iawn o wybodaeth anghywir yn bodoli ynghylch pa wiriadau iechyd a diogelwch sy’n angenrheidiol mewn gwirionedd i roi pobl ifanc yn y gweithle. Mae gan y rhan fwyaf o weithleoedd sy’n cymryd plant ar brofiad gwaith y gwiriadau iechyd a diogelwch yn eu lle yn barod, felly, os oes gan yr Aelod fater penodol ynglŷn â hynny, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai’n ysgrifennu ataf.
O ran capasiti, cafodd Gyrfa Cymru ei drosglwyddo yn ddiweddar o bortffolio addysg fy nghydweithiwr Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i fy mhortffolio i. Y rheswm am hynny yw ei fod yn cydfynd yn well â chymorth busnes ac anghenion yr economi. Felly, gwneir cyhoeddiadau eto am sut yr ydym yn cynyddu’r capasiti ar gyfer twf yn y sector hwnnw.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma? Yn sicr, rydym yn croesawu'r symudiad tuag at gefnogaeth lawer symlach, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei nodi yn flaenorol i chi yn dilyn datganiadau blaenorol. A gaf i hefyd groesawu'r pwyslais parhaus ar ddull gwirioneddol draws-lywodraethol, yr wyf i yn ei ystyried yn hanfodol? Clywsom y geiriau hyn yn cael eu dweud yn y gorffennol, ond rwy’n gobeithio—ac rwy'n siŵr y daw hyn yn amlwg—y byddwn yn gweld y newid diwylliannol hwnnw’n digwydd yn awr yn ei hanfod wrth i’r cynigion newydd gael eu cyflwyno.
Nawr, mae croeso wrth gwrs i’r ffaith fod lefelau cyflogaeth wedi codi yng Nghymru, fel y dywedwch chi. Ond, fel yr ydych hefyd yn ei gydnabod, mae tlodi mewn gwaith, tangyflogaeth, contractau dim oriau a ffactorau eraill, wrth gwrs, yn parhau i fod yn achos pryder sylweddol. Rydym wedi egluro ein bod yn awyddus i weld sgiliau yn cael eu halinio â’r prinder sgiliau yn yr economi a bod y ddarpariaeth ohonynt ar gael i bobl o bob oed ledled Cymru fel bod yr un cyfle ar gael i bawb wella eu sgiliau a dysgu sgiliau newydd wrth i fywydau gwaith pobl ymestyn, wrth gwrs, a bod yn fwy ansicr yn y cyfnod ansicr hwn.
Ac wrth siarad am hynny, mae cyllid yn allweddol. Rydych chi’n dweud wrthym yn eich datganiad am y pecyn cyfannol personol, pwrpasol, a chymorth dwys a mentora. Nid yw’r rhain yn bethau rhad, a chafodd llawer o’r rhain eu hariannu drwy gyllid Ewropeaidd yn y gorffennol. Pan godais i hynny gyda chi rai misoedd yn ôl roeddech chi’n eithaf hyderus wrth i chi ddweud bod addewidion wedi eu rhoi a byddai’r arian yn dod. Nid wyf yn gweld yr un hyder ar hyn o bryd yn gyffredinol, yn ogystal ag yn y datganiad hwn. Tybed a allech ddweud ychydig wrthym am sut yr ydych yn bwriadu ariannu'r ddarpariaeth newydd? A fydd hynny’n adlewyrchu lefelau presennol, neu a ydych yn rhagweld y daw mwy o fuddsoddiad o rywle, o ystyried efallai, byddai rhai yn dweud, yr uchelgais cynyddol sy'n cael ei adlewyrchu yn eich datganiad? Neu sut ydych chi'n gweld y bydd hynny’n cael ei gyflawni?
Nawr, mae disgwyl y bydd y cynnig newydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019 yn hytrach na mis Ebrill 2018. Mae'n amlwg y bydd rhai yn siomedig oherwydd nad ydym efallai yn cyrraedd y fan yr hoffem fod ynddi mor gyflym ag y byddem ni’n ei hoffi. Rwy'n siŵr eich bod o’r un farn â hynny i raddau, ond efallai y gallech egluro inni pam eich bod yn credu bod angen i ni aros tan hynny, mewn gwirionedd, cyn y gallwn weld gwaith yn cael ei gyflwyno’n fwy eang yng Nghymru.
Rydych yn sôn eich bod yn awyddus i ddefnyddio'r Cymoedd yn ardal brawf i lywio'r dull cyflenwi newydd, ac mae hynny'n gwneud synnwyr perffaith. Peth da bob amser yw treialu ac arbrofi, er y byddwn i’n dweud bod, mewn cyferbyniad, y cynnig gofal plant yn cael ei dreialu a'i roi ar brawf mewn llawer man mewn llawer o wahanol gyd-destunau. Tybed a ydych chi’n ystyried neu'n edrych ar gynlluniau peilot posibl neu bethau tebyg mewn, ddywedwn ni, ardaloedd gwledig o’u cymharu ag ardaloedd y Cymoedd, fel y gellir dysgu nifer ehangach o wersi o ran deddfu ar lawer o hyn.
Rydych chi’n dweud wrthym y bydd bwrdd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn llunio’r cynllun, ac y bydd bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru yn rhoi cyfeiriad strategol. A wnewch chi ddweud wrthym pwy sy'n gyfrifol am gyflawni hyn, felly, ar ddiwedd y dydd, a hefyd sut y byddwch yn eu dal yn atebol am gyflawni? Rhaid i mi ddweud eich bod yn cyfeirio yn eich datganiad at nifer o fyrddau, tasgluoedd, gweithgorau, comisiynau, ac, ynglŷn â sector sy'n cael ei hystyried yn eithaf cymhleth ac aml haenog, rwy’n amau a yw hynny efallai yn dweud rhywbeth wrthym ni hefyd. Ond, yn gyffredinol, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad? Byddwn yn parhau, rwy'n siŵr, i gefnogi'r cyfeiriad yr ydych yn symud iddo, ond mae’n rhaid inni fod yn siŵr y caiff hynny ei wneud yn iawn, mewn modd amserol, ac mewn ffordd gynaliadwy, yn yr ystyr ariannol yn benodol.
Diolch yn fawr iawn am hynny, Llyr. O ran y materion llywodraethu, cyfeiriaf at hynny yn gyntaf. Rwy’n sylweddoli fy mod wedi crybwyll nifer fawr o fyrddau ac ati, ond byddwn yn rhoi rhyw fath o ddarlun i’r Aelodau o'r hyn yr ydym yn ei siarad amdano, ac fe welwch ei bod mewn gwirionedd yn llawer symlach. Oherwydd yr hyn yr ydym yn siarad amdano mewn gwirionedd yw bwrdd unigol ar draws y Llywodraeth ar gyfer y rhaglenni cyflogadwyedd, gyda bwrdd gweinidogol i gyd-fynd â hynny, a’r bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru allanol yn gyfeirnod allanol, ac yna bydd gennym gynllun ymgysylltu ar gyfer y rhanddeiliaid. Felly, mewn gwirionedd, mae hwn yn fframwaith symlach, a dweud y gwir, er y ceir nifer dirifedi o fyrddau ac yn y blaen, rwy’n cytuno’n hollol. Felly, byddwn yn mynegi hynny. Nid yw'r datganiad yn dweud hyn, ond byddaf i, er eglurder, yn dweud y bydd bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru yn adrodd i Gyngor Datblygu'r Economi, er mwyn i chi gwblhau’r cylch cyfrifoldeb.
O ran y cyflwyno, felly, hwnnw yw’r strwythur llywodraethu. Dyna sut y byddwn yn ei ddal i gyfrif. Rydym wedi gwneud hynny ar draws y Llywodraeth yn fwriadol. Caiff ei gyflwyno fel y mae’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd, ond gyda phobl yn adrodd trwy strwythur ar draws y Llywodraeth. Pwrpas y grŵp swyddogion yw edrych ar effaith, cyllideb, strwythur, pa raglenni sy’n gweithio a’r rhai nad ydynt yn gweithio, ac yn y blaen, a gwneud argymhellion yn unol â hynny i’r bwrdd gweinidogol ar draws y Llywodraeth ac i'r partneriaid allanol fel y bo hynny'n briodol.
Y syniad ynglŷn â hynny, mae’n amlwg, yw, os ydych chi’n ystyried y peth fel jig-so, rydym yn ystyried bod rhai o'r darnau yn gorgyffwrdd fwy na thebyg. Rydym o’r farn fod bylchau fwy na thebyg. Nid yw'r darlun mor glir ag yr hoffem iddo fod—os ydych yn dilyn fy nghyffelybiaeth hyd yn hyn. Y syniad mewn gwirionedd yw rhoi’r jig-so at ei gilydd mewn ffordd sy’n cydlynu’n well. Yna, ddim ond i gymysgu fy nhrosiadau, i unigolyn, yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw llwybr clir a chyson drwy’r daith. Felly, ni waeth o ble yr ydych yn cychwyn ar y llwybr, a bydd pobl yn amlwg yn cychwyn o fannau gwahanol iawn—felly, os ydych chi'n ifanc, byddwch yn cychwyn ar ddiwedd addysg orfodol; os ydych yn hŷn ac yn ailhyfforddi neu os ydych wedi bod allan o waith am beth amser, byddwch yn cychwyn mewn mannau gwahanol, ond, mewn gwirionedd, mae'r rhaglenni yn ffurfio llwybr cydlynol. Felly, er enghraifft, os bydd cydweithwyr yn adran Rebecca Evans fy nghydweithwraig yn ceisio rhoi cymorth i rywun sy'n camddefnyddio sylweddau neu rywun â phroblemau afiechyd sy'n atal eu cyflogaeth, pan gaiff y problemau hynny eu datrys neu ar y ffordd i’w datrys, byddant yn cael eu trosglwyddo’n briodol i'r rhan nesaf o’u taith, yn hytrach na chwblhau hynny ac yna chwilio ar eu liwt eu hunain am rywbeth arall i fynd ymlaen ato.
Felly dyna—. Felly, rwy'n arwain yn raddol at y rheswm pam ei bod yn cymryd cymaint o amser, gan fod y pethau hyn yn hawdd eu dweud ond mewn gwirionedd yn gymhleth iawn eu cyflawni. Rydym hefyd yn darparu’r rhaglenni hyn drwy nifer o bartneriaid eraill fel awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ac yn y blaen, a'r syniad yw eu corlannu’n sefydliad di-dor. Rydym yn dechrau gyda rhaglenni Llywodraeth Cymru a gaiff eu hariannu’n uniongyrchol yn gyntaf, a symud ymlaen wedi hynny. Mae cydweithwyr wedi bod o gymorth mawr o gwmpas bwrdd y Cabinet yn helpu gyda hynny.
Yna, yr hyn yr ydym yn ei ystyried hefyd yw rhedeg y rhaglenni a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a’r rhai a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol hyd eu cyflawni. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru i ehangu ymylon y rhaglenni hynny. Serch hynny mae llinellau llym y mae'n rhaid i chi weithredu oddi mewn iddyn nhw. Felly, y weledigaeth derfynol, os mynnwch chi, yw y bydd gan unigolyn sy’n gofyn am gymorth neu fusnes sy'n gofyn am gymorth yr un porth i fynd ato—y porth sgiliau ar gyfer unigolion neu fusnesau—ac ni fydd gwifrau’r system y tu ôl i hynny’n weledig i'r rhai hynny. Yn syml, byddant yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Eto i gyd, rydym yn awyddus i wneud y gorau o'n cyllid Ewropeaidd, felly rydym am redeg y rhaglenni hynny hyd y byddant wedi’u cyflawni. Ym mis Ebrill 2019 y daw’r cyllid hwnnw i ben. Nid yw hynny'n golygu na fyddwn yn dechrau integreiddio rhaglenni ar hyd y daith, ond bydd y cyflawniad terfynol i’w weld yn lansiad llawn y rhaglen newydd. Er hynny, bydd cyllid pontio rhwng nawr a hynny er mwyn sicrhau nad yw pobl yn syrthio trwy’r bylchau. Felly, mae’n rhyw fath o gychwyn tameidiog, a dyna pam yr wyf i’n dweud y byddwn ni yn dod â chynllun cyflenwi gwirioneddol yn ei ôl yn yr hydref fel y gall yr Aelodau weld y llinell amser sy'n gysylltiedig â hynny, gan fy mod yn sylweddoli mai peth eithaf cymhleth yw hynny.
Rwy'n credu mai’r peth olaf y gwnaethoch chi ei drafod oedd yr union fater hwn ynglŷn ag alinio’r sgiliau. Fel y dywedais wrth Mohammad Asghar, mae hynny’n canolbwyntio i raddau helaeth ar ein strategaeth ar gyfer sgiliau ranbarthol—sef cymorth rhanbarthol i fusnesau a chymorth rhanbarthol i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Felly, rydym yn disgwyl i gyflogwyr gyfrannu at hynny a gwneud yr anghenion hynny yn dryloyw. Ac eto, os ydych yn ymwybodol o enghreifftiau penodol lle y credwch chi nad yw hynny'n digwydd, byddwn yn ddiolchgar iawn i gael gwybod am y peth.
Dau gwestiwn byr, Gweinidog. Yn gyntaf, yn amlwg, pwyslais y rhaglen yw cael pobl mewn gwaith. Un o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yw gwella telerau ac amodau a dyrchafiad a datblygu drwy'r gweithlu pan fyddwch mewn gwaith. Faint o bwyslais all y rhaglen ei roi ar gefnogi datblygu yn yr ystyr hwnnw?
Yn ail, rydych yn mynegi y byddwch yn darparu cyngor i gyflogwyr ar recriwtio a sgiliau drwy Busnes Cymru. Yn amlwg, busnesau bach yw’r rhan fwyaf o'n cwmnïau, a byddwch yn ymwybodol o’r amheuon sydd gan fusnesau bach o ran y graddau y mae Busnes Cymru yn diwallu eu hanghenion nhw, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithio ar hynny eisoes. Pa sicrwydd y gallwch ei roi y bydd y lefel honno o gefnogaeth yn diwallu anghenion penodol y sector bach a chanolig?
O ran y rhaglen gwaith teg a datblygiad, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i mi gadeirio cam 1 o'r darn gwaith teg ac mae hynny’n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn manteisio i’r eithaf o gyllid Llywodraeth Cymru. Felly, yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud yw sefydlu diffiniad unfarn o 'waith teg', yn cynnwys yr elfennau datblygu sydd yn hynny, ac yna gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio hynny gyda phawb yr ydym yn eu cefnogi. Felly, mae fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi dweud heddiw mai’r ad-daliad cymwys am y cynnig ffioedd dysgu yw bod prifysgolion yn dod yn gyflogwyr cyflog teg. Mae hynny'n sicr yn damaid o'r un darn, mewn gwirionedd—ein bod yn dechrau defnyddio'r fantais a ddaw o gyllid Llywodraeth Cymru i ysgogi rhai o’r amodau gwaith gwell hynny. Ond y darn cyntaf o waith fydd sefydlu cytundeb cyffredin ymysg cyflogwyr, undebau llafur, partneriaid cyflenwi a Llywodraeth yn y Comisiwn Gwaith Teg i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn cytuno ar hynny, ac yna symud ymlaen â'r cyflenwi. Felly, dyna yw’r darn cyntaf o hynny.
O ran y gefnogaeth—ac mewn gwirionedd rwyf yn sylweddoli na wnes i lwyr ateb cwestiwn Llyr Gruffydd chwaith am rai o'r cynlluniau arweiniol—rydym yn golygu cefnogi busnesau bach a chanolig, rydym yn ceisio gweithredu cynlluniau arweiniol y tu allan i ardal y Cymoedd, lle ceir amodau penodol yr ydym yn awyddus i weld sut mae'n gweithio. Felly yr ateb yw 'byddwn'; byddwn yn gwneud hynny. A’r hyn y byddwn yn bwriadu ei wneud yw hyn: cyfeiriais yn fy natganiad y byddwn yn chwilio am y 100 busnes sy'n dangos y twf dichonadwy mwyaf, a gallai’r rheini fod o unrhyw faint. Yn wir, rydym yn rhagweld y bydd llawer ohonynt yn fach iawn—llai na phump o weithwyr. Ac, yn amlwg, yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw ysgogi’r swyddi y mae mawr angen amdanynt, ond drwy ddefnyddio cwmnïau cynhenid a'u cynorthwyo gyda’r cymorth busnes sydd ei angen arnynt er mwyn tyfu. Bydd llawer ohonyn nhw’n gwmnïau economi sylfaenol a bydd rhai ohonyn nhw fel arall. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw cael cymysgedd dda o’r cwmnïau hynny sydd â photensial twf uchel.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy’n cytuno â chi bod yna frys i ddod â swyddi a thwf i gymunedau ledled Cymru. Fodd bynnag, rwy’n nodi bod y Gweinidog yn amlinellu'r gefnogaeth y mae hi'n ei rhoi i fusnesau yn y Cymoedd, ond mae rhanbarthau eraill o Gymru, fel y gogledd, yn amlwg yn unig oherwydd eu habsenoldeb o ddatganiad y Gweinidog. Ydy, mae’n wir bod angen cymorth ar y Cymoedd, ond nid y nhw yw’r unig gymuned yng Nghymru sydd mewn angen. Rwyf wedi fy siomi nad yw’r gefnogaeth wedi ei chanolbwyntio ar ranbarthau eraill o Gymru fel fy un i, sydd wedi eu hesgeuluso hyd yma, ac nad ydynt wedi eu crybwyll yn natganiad y Gweinidog.
Rwy'n croesawu'r cynnydd mewn cyflogaeth yng Nghymru. Serch hynny, mae'n rhaid i ni drin yr ystadegau hyn yn ofalus. Nid yw’r ffaith bod mwy o bobl yn cael eu cyflogi yn golygu eu bod yn sylweddol well eu byd nag yr oeddent. Mae contractau dim oriau a chyflogau isel yn frith ledled Cymru, wedi ei ddwysáu gan natur dymhorol llawer o'r economïau ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth i fy hun. Os nad yw gweithwyr ar ddim oriau, gallen nhw fod ar oriau bach iawn yn unig. Mae'n hanfodol fod busnesau yn cael eu hannog i ddod â gwaith sy’n talu’n well a gwaith diogel i Gymru. Yn ofer yr ymdrecha’r Gweinidog i gefnogi pobl i gael gwaith os nad oes gwaith i’w gael i bobl fynd iddo.
Mae eich datganiad yn cynnwys nifer o amcanion ac uchelgeisiau, ond nid oes unrhyw wybodaeth ynglŷn â sut, mewn cyd-destun ymarferol, y byddwch yn dod â hyn i gyd i ddwyn ffrwyth. Esboniwch sut, os gwelwch chi’n dda, mewn termau gwirioneddol, y byddwch yn defnyddio Bwrdd cyflogaeth a sgiliau Cymru, y gweithgor gweinidogol ac adrannau llywodraethol i wella cyflogadwyedd yng Nghymru. Mewn gwirionedd, yr unig ffordd y gallai Llywodraeth Cymru greu swyddi yn wir yw creu rhai yn y sector cyhoeddus, rhywbeth y mae Llywodraethau Llafur yng Nghaerdydd a Llundain wedi ei feistroli dros y blynyddoedd er mwyn cuddio eu methiannau eu hunain. Ond y sector preifat sy'n darparu ac yn creu swyddi. Gall Llywodraeth Cymru annog creu’r swyddi hynny drwy ddarparu amgylchedd dreth, rheoleiddio ac economaidd a fydd yn galluogi busnesau, yn ddelfrydol y busnesau cynhenid, i ffynnu mewn cymuned sy’n gallu darparu’r gweithwyr sydd eu hangen arnynt i wneud fel hynny. Felly, rwy’n holi a fydd y cynllun cyflenwi cyflogadwyedd a grëwyd gan fwrdd cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynlluniau i gymell ac annog buddsoddiad gan fusnesau i Gymru. Rydych yn datgan y byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol. A wnewch chi nodi pwy yw’r rhanddeiliaid hyn, ac a fyddwch yn gweithio gyda rhai o'r busnesau bach a chanolig sy'n ffurfio asgwrn cefn y busnesau sy'n darparu swyddi yng Nghymru?
Gan droi at gynnig cyflogadwyedd Cymru ar Waith, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym pa fathau o gymorth fydd yn cael eu cynnig yn y cynnig newydd nad ydynt yn cael eu cynnig yn barod? Nodaf fod nifer o wahanol raglenni cyflogadwyedd, gan gynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru ac ati. A yw'r Gweinidog wedi ystyried a ddylid cyfuno'r rhaglenni hyn i ddarparu rhaglen awdurdodol a chyfunol ar gyfer Cymru a gaiff ei deall yn iawn gan ddefnyddwyr? I ba raddau yr ydych yn gweithio gyda sefydliadau fel y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu a'u haelodau i nodi materion cyflogadwyedd yng Nghymru ac i ymchwilio i weithio mewn partneriaeth â nhw i gael mwy o bobl yng Nghymru mewn gwaith?
Rydych chi’n nodi eich bod yn awyddus i weithio ar draws y Llywodraeth i ddylunio a threialu adnodd proffilio a system wybodaeth rheoli i ymgynghorwyr ledled Cymru. Felly, a wnewch chi roi syniad i ni o gost prosiect o'r fath, beth fydd ei manylion a beth fydd ei chwmpas a pha fanteision a welwch chi yn y system honno a fyddai’n cyfiawnhau gwario cost fawr ddichonol y system newydd ? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwy'n credu fy mod wedi mynd i'r afael â bron pob un ohonyn nhw yn barod, ond soniaf amdanynt eto. Mae tasglu’r Cymoedd yn cael ei grybwyll yn unig fel ardal brawf arweiniol ar gyfer rhai o'r darnau o waith yr ydym yn eu gwneud. Fel y dywedais eisoes wrth yr Aelodau eraill, nid dyma'r unig le y byddwn yn gwneud hyn ac mae’n rhaid i ni ddechrau yn rhywle. Yn amlwg, mae gan gymunedau’r gogledd broblemau tebyg, a byddwn wrth gwrs yn mynd i'r afael â chyflogadwyedd ledled Cymru gyfan.
O ran dim oriau ac yn y blaen, rwyf wedi mynd i'r afael â hynny i raddau helaeth iawn, o ran yr hyn yr ydym yn ei wneud ar y Comisiwn Gwaith Teg. Mae gan hwnnw gynrychiolaeth o Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, undebau llafur a chyfres lawn o bobl eraill a’r Llywodraeth arno, ac mae Bwrdd Cyflogaeth Sgiliau Cymru, er enghraifft, yn cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Scott Waddington, sef cadeirydd Brains. Felly, nid wyf yn credu y gallwn dderbyn unrhyw feirniadaeth am ein bod yn edrych ar y sector cyhoeddus yn unig—dim o’r fath beth. Yn wir, mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol i gyd yn cael eu cadeirio gan gyflogwyr hefyd, ac maen nhw i gyd yn eistedd arno, ac mae ganddyn nhw dair sedd bob un—cadeirydd y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol a dau o'r cyflogwyr sylfaenol sydd yn dod gyda nhw. Felly, nid dyna’r sefyllfa o gwbl. Ac, mewn gwirionedd, nid oeddwn yn siarad am greu swyddi yn y sector cyhoeddus. Bydd yr Aelod yn sylweddoli ein bod, yn fy natganiad, yn sôn am gefnogi'r cwmnïau, er enghraifft, sydd â’r potensial twf gorau a hefyd, wrth gwrs, rydym yn ymestyn ein cynnig busnes o ran cwmnïau cynhenid er mwyn eu helpu gyda'u cadwyni cyflenwi yng Nghymru ac yn y blaen. Felly, nid wyf i’n rhy siŵr ymhle y crëwyd yr argraff honno.
O ran y grŵp ehangach o randdeiliaid, wrth gwrs, mae gennym ni gyfres lawn o randdeiliaid. Mae gennym ni sefydliadau busnes a busnesau bach a chanolig o bob rhan o Gymru, mae gennym ni fusnesau mawr o bob rhan o Gymru, mae gennym ni hefyd nifer o bartneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid o ran partneriaid y trydydd sector sy'n cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd ar ein rhan ac yn cefnogi busnesau bach ar ein rhan , ac mae gennym ni amrywiaeth o gynghorwyr o ran busnesau ledled Cymru.
Rwy’n credu bod y pwynt olaf yn ymwneud ag a yw'r rhaglen yn newydd ai peidio. Mae nifer o raglenni newydd, ond yr hyn yr ydym yn sôn amdano mewn gwirionedd yw sicrhau, fel yr eglurais i Llyr Gruffydd yn gynharach, fod y jig-so hwn yn ffitio gyda'i gilydd, nad oes gennym ni ddarnau sy'n gorgyffwrdd, nad oes unrhyw fylchau, a’i fod yn gwneud darlun cydlynol y gall pawb ei ddeall.
Yn olaf, Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad hwn heddiw ar yr hyn nad yw’n unig yn agwedd allweddol o bolisi Llywodraeth Cymru, ond hefyd yn rhywbeth sy'n gwbl allweddol os ydym yn mynd i wireddu ffyniant a diogelwch ein pobl, ein cymunedau ac, yn y pen draw, ein heconomi. Rwy'n croesawu'r dull gweithredu ledled Llywodraeth yr ydych chi’n ei amlinellu yn eich datganiad a'r gydnabyddiaeth fod angen i'r strategaeth cyflogadwyedd fod yn drawsbynciol gan y gwyddom nad yw gwaith a mynediad at waith yn gweithredu ar eu pennau eu hunain, fod yna nifer o ffactorau eraill y mae angen iddynt fod ar waith, fel ysgolion addas, tai a thrafnidiaeth a rhwydweithiau cefnogaeth, sydd hefyd yn chwarae rhan allweddol. Mae cydweithwyr eraill wedi crybwyll y cynllun arweiniol Swyddi Gwell, yn nes Adref. Felly, a gaf i ofyn, yn yr un cywair, a wyf i'n iawn i dybio y bydd yn cydsefyll â'r strategaeth economaidd newydd a dull rhanbarthol hynny? Mae’n flaenoriaeth wleidyddol a phersonol i mi y dylai pobl ifanc, yn enwedig yn fy rhanbarth i, os nad ydynt yn dymuno symud i ffwrdd, fod â’r hawl i gael cyfle ar garreg eu drws. Yn unol â hynny, un o'r pethau sydd wedi ei godi gyda mi yn rheolaidd ar lefel leol yw nifer y bobl ifanc, efallai’r rhai sy'n gadael yr ysgol a'r rhai sy'n gadael y coleg, nad ydynt efallai wedi eu paratoi yn dda ar gyfer y byd gwaith, nad oes ganddyn nhw’r wybodaeth o’r hyn yw eu cyfrifoldebau, na beth yw eu hawliau. Felly, efallai, os ydym yn edrych ar ddull o weithredu ar draws y Llywodraeth, a oes cyfle i weld sut y gellir trefnu hynny yn unol â'r cwricwlwm newydd i sicrhau ein bod yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i’n pobl ifanc lwyddo?
Un pwynt olaf cyflym iawn, gan fy mod yn gwybod mai prin yw ein hamser: rwyf o’r farn fod trafnidiaeth yn gwbl allweddol wrth edrych ar wasanaethau a seilwaith, fel y dywedwch yn y cynllun darparu cyflogadwyedd. Oherwydd mewn digwyddiad diweddar a gynhaliwyd gennyf yn gynharach eleni oedd yn ar edrych ar yr heriau economaidd i’r rhanbarth, cododd cludiant ei ben dro ar ôl tro. Dim ond i ddyfynnu, ‘Mae'n anodd iawn i bobl ifanc nad ydynt yn gallu fforddio gyrru fynd i'r gwaith.’ A hefyd, ‘Mae angen cael system drafnidiaeth integredig.’ Felly, byddwn i'n gobeithio efallai y gallai hynny fod yn rhywbeth y gellid ei ystyried fel rhan o edrych ar bethau fel prosiectau mawr sydd ar y gweill, fel metro’r gogledd-ddwyrain.
Diolch i chi am hynny. Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud llawer iawn o bwyntiau da yn y fan honno. Un o'r pethau y byddwn yn gobeithio eu gwneud yw sicrhau ein bod yn ymdrin â gofynion unigol am gymorth penodol a sicrhau ei bod yn bosibl i bobl ennill y swyddi a’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw yn y fro y maen nhw’n dymuno gwneud hynny. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yn ei hanfod yn cael rhaglen sy'n gydlynol drwyddi draw. Felly, gan siarad am y bartneriaeth sgiliau rhanbarthol a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn y gogledd, er enghraifft—mae’r dasg ganddyn nhw o roi trefn ar yr hyn y mae'r wybodaeth am y farchnad lafur yn ei ddweud wrthyn nhw am y cwmnïau yn y rhanbarth hwnnw, a beth yw eu gofynion o ran sgiliau. Byddwn yn ariannu’r gofynion sgiliau hynny yn ôl yr wybodaeth honno. Mae'r cynlluniau i’w cyhoeddi yn yr hydref. Yn wir, rwy’n credu y byddaf yn dod i fyny yn ystod ail wythnos mis Medi i lansio hwnnw iddyn nhw. Bydd hynny’n gyrru peth o'r buddsoddiad yr ydym yn ei wneud, gyda’n hymarferwyr dysgu wrth y gwaith ac yn ein colegau addysg bellach o ran y sgiliau y maen nhw’n eu meithrin ar gyfer yr ecosystem honno.
Ochr arall y geiniog honno yw sicrhau bod y busnesau sydd â photensial twf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y gallwn ninnau wneud yn siŵr fod ymgynghorwyr gyrfaoedd mewn ysgolion—ac, mewn gwirionedd, oedolion o’r tu allan yno yn y gymuned hefyd, mewn gwirionedd—yn deall y sgiliau sy’n angenrheidiol i ddiwallu anghenion y cyflogwyr hynny sydd â’r potensial i dyfu. Felly, mae honno'n rhan fawr o’r agenda ranbartholi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a minnau wedi bod yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siwr eu bod yn gydnaws, ac yn wir y byddant yn gydnaws â'r trefniadau i ad-drefnu llywodraeth leol hefyd, fel na fydd yna unrhyw orgyffwrdd nad ydyw’n gydlyniad synhwyrol ac yn y blaen. Felly, dyna’r cynllun.
Yna, o ran y gweddill, rydych yn llygad eich lle; rydym am fynd i'r afael â hynny mewn nifer o ffyrdd, weithiau gyda phrosiect trafnidiaeth mawr, weithiau wrth wneud dim mwy na gweithio'n galed gyda chwmnïau bysiau ac yn y blaen i ddyfeisio amserlenni sy’n cydweddu. Mae fy nghydweithiwr David Rees yn y fan hon yn aml yn sôn am y bysiau cynharaf a’r hwyraf sydd i gymunedau a'r hyn y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny. Ac weithiau, mewn gwirionedd, gyda rhaglenni wedi eu targedu. Felly, er enghraifft, yn rhai o'r ardaloedd yr wyf i wedi mynd i ymgynghoriad cyhoeddus ynddyn nhw, mae yna drafferth enfawr wrth i bobl gael trwydded yrru. Yn syml ni allant fforddio talu am wersi gyrru ac yn y blaen. Wel, mae'n ddigon posibl y byddwn yn penderfynu bod hynny'n un o'r pethau sydd angen i ni fynd i'r afael ag ef, naill ai ar sail unigolion, os oes rhywun â sgiliau uchel ond mae problemau trafnidiaeth ganddo, neu mewn gwirionedd ar sail gymunedol, os byddwn yn nodi nifer o bobl sydd â’r un broblem ganddyn nhw. Mae'n rhywbeth a wnaethom ni y llynedd, er enghraifft, pan ddaeth y gymdeithas cludo atom a dweud bod prinder mawr o yrwyr cerbydau nwyddau trwm ganddyn nhw. Felly, trefnwyd cwrs arbennig, a chredaf fod rhywbeth fel 140 o bobl, o ganlyniad i hynny, wedi ennill cyflogaeth sy’n talu’n dda.
Felly, mae'n ymwneud â’r pethau hollgwmpasog hyn a chael y wybodaeth iawn i'r bobl iawn, naill ai ar yr ochr fusnes neu ar yr ochr unigol a’u priodi â’i gilydd, a hefyd â thargedu cymorth busnes at y cwmnïau twf uchel hynny fel y gallwn gael y twf cyfatebol.
Yna, weithiau mae'n ymwneud ag ysgogi twf mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dwf wedi bod neu mewn man lle ceir prinder swyddi o bosib, a dyna pam mae'r Cymoedd yn un o'r ardaloedd targed. Ond fel y dywedais wrth ymateb i nifer o’r Aelodau eraill, nid hwn yn sicr yw'r unig faes, a byddaf yn ddiolchgar iawn pe byddai unrhyw Aelodau yn awyddus i dynnu sylw at unrhyw faterion yn eu bro neu ranbarth penodol hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Cyn i ni symud at y ddadl Cyfnod 3 ar y Mesur Undebau Llafur (Cymru) byddaf yn atal y cyfarfod am 10 munud. Bydd y gloch yn cael ei chanu bum munud cyn i ni ailymgynnull, ond byddwn yn cymell yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr yn brydlon os gwelwch yn dda. Mae gohiriad o 10 munud.