9. 8. Cyfnod 3 Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Senedd Cymru am 7:52 pm ar 11 Gorffennaf 2017.
Felly, y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4. Mae’r grŵp yma’n ymwneud â’r gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Gwelliant 6 yw’r prif welliant yn y grŵp yma ac rwy’n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma ac am y gwelliannau eraill yn y grŵp—Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwy’n cynnig gwelliant 6. Bwriad y gwelliant hwn yw rhoi’r rhyddid i gyflogwyr gyflogi gweithwyr asiantaeth yn ystod streic. Rwyf eisoes wedi trafod yr effaith sylweddol ar fywyd bob dydd i lawer o aelodau o'r cyhoedd y gall streiciau ei hachosi: gorfod cymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am blant os bydd ysgol yn cau, er enghraifft.
I ddilyn gwelliant 3, yn amlwg, nid ydym am weld streiciau’n digwydd heb benderfyniadau democrataidd clir ac rydym am ymdrin â’r effaith anghymesur y gallai unrhyw streic ei chael. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dileu rheoliad 7 o'r rheoliadau ymddygiad i sicrhau, er bod streic yn parhau i fod yn opsiwn ymarferol ac effeithiol mewn sefyllfa o'r fath os caiff y gefnogaeth briodol, na fydd yn cael effaith negyddol ar yr economi a bywydau dyddiol ein haelodau gweithgar o'r cyhoedd.
Bwriad y gwelliant hwn yw rhoi cyfle i’r sector recriwtio i helpu sefydliadau cyhoeddus a chyflogwyr i leihau effaith streic ar yr economi a chymdeithas ehangach drwy sicrhau y gall gwasanaethau barhau i weithredu i ryw raddau. Rwy’n cynnig.
Felly, unwaith eto, rydym yn wynebu gwelliant arfaethedig sydd tua’r un mor rhagweladwy ag y mae’n annoeth, yn debyg iawn i'r tri gwelliant blaenorol. Fel yr wyf wedi’i ddweud o'r blaen, Llywydd, does dim undeb llafur na’i aelodau’n cofleidio'n ysgafn nac yn frwdfrydig yr angen i weithredu'n ddiwydiannol, ond gallwch fod yr un mor sicr nad yw unrhyw swyddog nac aelod o undeb llafur am i unrhyw anghydfod lusgo ymlaen yn ddiangen, ac nid yw unrhyw gyflogwr yn dymuno hynny ychwaith, wrth gwrs.
Llywydd, i undebau llafur, streic, fel yr wyf wedi’i dweud, yw’r dewis olaf bob amser. Mae'n fecanwaith a fydd, yn amlach na pheidio, yn rhoi’r neges i gyflogwr ei fod yn wynebu mater o bwys y mae angen iddo weithio gyda'r undebau llafur i’w unioni. Bydd anghydfod maith, wrth gwrs, yn cael effaith andwyol ar fusnes y cyflogwr, ond mae hefyd er budd yr undebau llafur i ddatrys mater yr anghydfod cyn gynted ag y bo modd. Nid yw er lles yr undeb na’i aelodau bod yr aelodau'n wynebu caledi ariannol, sydd yn anochel yn digwydd drwy golli enillion tra ar streic. Y buddiant cyfartal hwn i'r ddau barti sy'n eu gyrru i symud tuag at setliad cyn gynted ag y bo modd.
Byddai ystumio’r cydbwysedd hwn, fel y byddai’n digwydd pe câi’r gwelliant hwn ei basio, yn dileu’r cymhelliad i ddatrys yr anghydfod yn gynnar, h.y. nid yw’r anghydfod yn effeithio ar y cyflogwr, felly mae'r cyflogwr yn llai tebygol o ymgysylltu’n adeiladol â’r undeb i ddatrys yr anghydfod, sydd yna’n troi’n rhyfel athreuliol maith.
Yr hyn y mae pob gweithiwr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyflogaeth yn ei ddeall, a'r hyn y mae'n amlwg nad yw’r Torïaid, yw, bron ym mhob achos, bod rhaid datrys yr anghydfod yn y pen draw ac mai rhan allweddol o unrhyw setliad bob amser fyddai sut y mae’r partïon yn bwriadu gweithio gyda'i gilydd yn y dyfodol. Mae hyn, wrth gwrs, yn dod yn llawer mwy o her os yw’r anghydfod wedi bod yn un hir, fel y byddai’n digwydd yn anochel o ganlyniad i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth i dorri streic. Felly, o safbwynt cysylltiadau diwydiannol sylfaenol, mae'r gwelliant yn gwbl hurt, ond mae rhesymau pellach pam y byddaf yn ei wrthwynebu heddiw.
Mae Cydffederasiwn Cyflogaeth Byd wedi argymell na ddylid defnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle gweithwyr sydd ar streic ac yn y DU, dywedodd y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogi, sy'n cynrychioli cyflogwyr asiantaeth, ynglŷn â chynigion Llywodraeth y DU yn y maes hwn,
‘nid ydym yn argyhoeddedig bod rhoi asiantaethau a gweithwyr dros dro yng nghanol sefyllfaoedd cysylltiadau diwydiannol anodd yn syniad da i asiantaethau, gweithwyr na’u cleientiaid’.
Yn olaf, ceir pryderon gwirioneddol y gallai rhoi gweithwyr asiantaeth amhrofiadol, a llawer mwy ohonynt, mewn swyddi a gyflawnir fel arfer gan weithlu profiadol, proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n dda fod yn berygl difrifol i iechyd a diogelwch ac i safonau gwasanaeth. Felly, am y tro olaf heddiw, Llywydd, byddaf yn nodi bod gennym blaid Dorïaidd, wedi’i gyrru gan ragfarn gwrth-undebau-llafur, yn cynnig deddfwriaeth sy'n mynd yn groes i farn gweithwyr proffesiynol ym maes cysylltiadau cyflogaeth, ac felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau hyn, ynghyd â'r rhai eraill a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders.
Gair cyffredinol cyn manylu ar grŵp 4: mae Plaid Cymru yn cefnogi’r Bil yma a gyflwynwyd gan Lafur, ond rydym yn dymuno nodi na wnaeth Llywodraethau Blair na Brown gymryd y cyfle i ddileu nifer o fesurau Thatcher—mesurau sy’n parhau i danseilio hawliau gweithwyr hyd heddiw. Mae’n bwysig cofio hynna rwy’n meddwl.
I symud at grŵp 4, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y gwelliannau yma sydd wedi cael eu cyflwyno yn enw Janet Finch-Saunders. Roeddwn yn falch o gefnogi gwelliant gan y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 y Bil yma a oedd yn sicrhau y byddai gwaharddiad ar ddefnyddio gweithwyr dros dro i gymryd lle staff yn ystod gweithredu diwydiannol. Yn aml, bydd gweithwyr asiantaeth ddim yn gyfarwydd â’r gweithdrefnau a ddefnyddir mewn gweithleoedd, sydd felly yn codi pryderon ynghylch diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’r cyhoedd. Mi all defnyddio gweithwyr asiantaeth i gymryd lle gweithwyr ar streic niweidio’r berthynas rhwng y streicwyr a’r cyflogwyr, a rhwng y streicwyr a’r gweithwyr asiantaeth hefyd.
Mae cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi denu beirniadaeth gref o fewn y sector asiantaethau ei hun, fel y clywsom ni gan Dawn Bowden, efo pennaeth polisi y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth yn amheus iawn o osod gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro yng nghanol sefyllfaoedd diwydiannol anodd, ac yn cynghori, yn wir, nad oedd hynny’n fanteisiol i aelodau’r gynghrair ei hun. Un ddadl yn unig ydy honno dros wrthod y gwelliannau yma.
Hoffwn ddefnyddio rhai dyfyniadau yma gan undeb Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr. Hoffwn eu defnyddio yn arbennig am nad ydynt yn gysylltiedig â phlaid, fel na all yr amlwg ddod yn ôl o'r ochr arall. Ac maent yn dweud yn eu tystiolaeth bod defnyddio gweithwyr asiantaeth yn y sector cyhoeddus yn achosi risg uchel iawn, a'i fod yn tanseilio hawl gweithwyr gweithgar sy’n talu trethi i arfer eu hawl i dynnu eu llafur yn ôl ar ôl cyflawni’r holl rwymedigaethau sydd eisoes yn eu lle, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth sydd ddim wir wedi cael ei egluro’n iawn yma heddiw. Mae'n ymddangos bron bod y Ceidwadwyr yn ceisio rhoi'r argraff ei bod yn hawdd i bobl fynd ar streic, a bod pobl yn mynd ar streic yn hawdd. Mae'n ymddangos eu bod hefyd wedi anghofio pwynt y mae fy nghydweithiwr Dawn Bowden newydd ei wneud: bod y streic yn gostus i’r bobl hynny sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny, eu bod yn colli eu cyflogau, ac nad yw pobl yn dymuno dod at y bwrdd, a thynnu eu llafur yn ôl—rhywbeth y mae ganddynt bob hawl i’w wneud, ar ôl mynd drwy weithdrefn briodol—ar fympwy.
Mae hefyd yn werth nodi mai menywod yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n darparu gwasanaethau ardderchog yng ngweithle’r sector cyhoeddus, ac mai menywod a fydd yn teimlo effaith anghymesur gan y newidiadau a gynigir yn y Bil undebau llafur hwn. Mae hefyd yn werth nodi bod Pwyllgor Polisi Rheoleiddio y Llywodraeth ei hun wedi barnu nad oedd y mesurau’n addas i'w diben, ac nad oedd asesiad effaith llawn o'r Bil undebau llafur wedi ei gynnal. Rwy'n credu ei bod hi’n werth nodi’r pethau hynny.
Ac rwyf yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet, gan y bu rhywfaint o ddryswch o ran deall y geiriau ‘gweithwyr asiantaeth’, egluro er mwyn y cofnod nad ydym yn sôn am beidio â chaniatáu i weithwyr asiantaeth presennol sydd eisoes yn cael eu defnyddio o fewn y sector cyhoeddus—yn bennaf, mae'n rhaid dweud, o fewn y sector iechyd—rhag dod i mewn i’r gwaith fel y byddent wedi ei wneud o dan amgylchiadau arferol, ond rydym yn sôn, yn y fan yma, am ddod â gweithwyr asiantaeth i mewn at y diben penodol o dorri streic.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol.
Diolch, Llywydd. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ganiatáu i'r pwyllgor, wrth iddynt gasglu tystiolaeth yn ystod Cyfnod 1, gymryd safbwyntiau gan gyfranwyr ar yr ymgynghoriad yr oedd y Llywodraeth wedi’i gynnal ar y pryd ar ddefnyddio gweithwyr asiantaeth, ac am y gefnogaeth glir iawn a roddodd y pwyllgor yn eu hadroddiad Cyfnod 1 i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i’w gwneud yn glir, yma yng Nghymru, y byddai’r amgylchiadau sy'n bodoli heddiw lle nad yw'n bosibl defnyddio gweithwyr asiantaeth i dorri streic—y byddai’r sefyllfa honno'n parhau yma yng Nghymru.
Gadewch imi, ar gyfer y cofnod, glirio’r pwynt a gododd Joyce Watson: ni fydd darpariaethau'r Bil hwn yn effeithio ar drefniadau fel trefniadau banc nyrsio, lle mae nyrsys a gweithwyr cymorth gofal iechyd yn darparu gwasanaeth dros dro o ganlyniad i absenoldebau staff, prinder staff neu swyddi gwag tymor byr. Nid gweithwyr asiantaeth yw’r bobl hynny, ac ni fyddai’r ddarpariaeth hon yn effeithio arnynt.
Gadewch imi fod yn glir hefyd, Llywydd, nad wyf yn cytuno â'r gosodiad a roddodd cynigydd y gwelliant hwn i'r Cynulliad wrth agor y grŵp hwn o welliannau. Rwy’n credu mai’r hyn a glywais Janet Finch-Saunders yn ei ddweud oedd y byddai’r Cynulliad, drwy basio’r grŵp hwn o welliannau, yn cynnig rhyddid i gyflogwyr i ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic. Nawr, gadewch imi fod yn glir, pe byddai’r gwelliannau hyn yn cael eu pasio, byddai'n dileu adran 2, rhan allweddol o'r Bil. Byddai'n mynd yn groes i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd. Byddai'n gwrthdroi barn glir y pwyllgor yng Nghyfnod 2, ond ni fyddai'n caniatáu i awdurdodau Cymru ddefnyddio gweithwyr asiantaeth o ganlyniad i weithredu diwydiannol. Ac mae hynny oherwydd, er bod Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ar gael gwared ar reoliad 7 Rheoliadau Ymddygiad Busnesau Cyflogaeth ac Asiantaethau Cyflogaeth 2003, nid ydynt wedi gweithredu ar yr ymgynghoriad hwnnw. Felly, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cynigydd yn egluro’r mater hwn er budd y Cynulliad y prynhawn yma.
Pe câi’r newidiadau hyn eu pasio, byddai safbwynt y gyfraith yn aros fel y mae wedi bod ers nifer o ddegawdau, gan fod rheoliad 7 yn dal i fod ar waith. Felly, ni fyddai pasio’r gwelliannau hyn, yn fy marn i, yn rhoi’r rhyddid i gyflogwyr ddefnyddio gweithwyr asiantaeth yn ystod streic yma yng Nghymru. Byddai'r sefyllfa bresennol yn parhau—y sefyllfa bresennol sydd wedi bod yn ddigon da i Lywodraethau Ceidwadol olynol yn San Steffan, a'r sefyllfa bresennol y dangosodd ein hymgynghoriad yma yng Nghymru bod undebau llafur a chyflogwyr yn awyddus i’w weld yn cael ei chadw.
Ac i ymateb i’r ddadl, Janet Finch-Saunders.
Diolch. Wrth gwrs, mae'n dal i fod yn wir bod gweithredu diwydiannol mewn rhai sectorau yn cael effaith ehangach ar aelodau o'r cyhoedd sydd yn anghymesur ac yn annheg. Gall streiciau atal pobl rhag cyrraedd y gwaith ac ennill eu bywoliaeth eu hunain ac atal busnesau rhag rheoli eu gweithluoedd yn effeithiol. Er enghraifft, bydd streiciau mewn gwasanaethau cyhoeddus pwysig fel addysg yn golygu bod angen i rieni rhai plant oedran ysgol ofalu am eu plant yn hytrach na mynd i'r gwaith oherwydd y byddai’n amhosibl i rai ysgolion gyflawni eu dyletswydd gofal tuag at eu disgyblion yn ystod y streic. Byddai hyn hefyd yn cael effaith negyddol ar rai o gyflogwyr y rhieni yr effeithir arnynt, effaith ar eu gweithlu a’u cynhyrchiant. Yn yr un modd, pe byddai gweithwyr post yn mynd ar streic, byddai unigolion a chyflogwyr sy'n dibynnu ar wasanaethau post yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd yr ôl-groniad mawr o ddanfoniadau a fyddai’n digwydd. Bydd y Bil hwn, heb ei ddiwygio, yn gwrthod y cyfle i’r sector recriwtio i helpu cyflogwyr i gyfyngu ar effaith streic ar yr economi a’r gymdeithas ehangach drwy sicrhau y gall busnesau barhau i weithredu i ryw raddau.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys asiantaethau cyflogaeth, busnesau cyflogaeth, cyflogwyr, darparwyr llafur, cyrff masnach, gweithwyr, unigolion sy'n defnyddio'r sector recriwtio i ddod o hyd i waith, a'r cyhoedd; mae gweithredu diwydiannol yn effeithio ar y rhain i gyd. Mae'r adborth hwn yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a chaiff ei ystyried yng nghyd-destun deddfwriaeth a buddiannau ehangach cysylltiadau diwydiannol. Rhywbeth modern, dynamig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Mae'n ddrwg gennyf, Dawn—ie, pwy bynnag. Mae angen hyblygrwydd ar weithlu modern, dynamig i sbarduno newid economaidd. Mae Deddf y DU yn ystyried hyn. Mae fersiwn Cymru’n symud y pwyslais oddi wrth werth am arian ac yn ôl i mewn i'r undebau llafur. Rwy’n cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 12, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7, Janet Finch-Saunders.
Heb ei gynnig.