1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 26 Medi 2017.
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau i holi’r Prif Weinidog. Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei ffigurau rhestr aros ar gyfer GIG Cymru, ac roedd y ffigurau’n dangos bod un o bob saith o bobl, neu 450,000 o bobl, ar restr aros yng Nghymru. Un o bob 14 yw’r ffigur hwnnw yn Lloegr. Ceir pwysau ar draws y Deyrnas Unedig pan ddaw i wasanaethau'r GIG, ac mae pawb yn cydnabod hynny. Wrth i ni gyrraedd misoedd prysur y gaeaf, a chyda'r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru, gyda phedwar o'r saith bwrdd iechyd yn rhagweld diffyg o fwy na £30 miliwn, pa gymorth mae eich Llywodraeth yn ei roi i fyrddau iechyd i fynd i'r afael â'r niferoedd sy’n cynyddu’n gyflym sy'n aros ar restrau aros yma yng Nghymru ac, yn anad dim, y benbleth ariannol y mae llawer o BILlau yn ei hwynebu?
Wel, yn gyntaf oll, nid wyf yn derbyn y rhagdybiaeth y mae'r cwestiwn yn seiliedig arni. Os edrychwn ni, er enghraifft, ar amseroedd atgyfeirio-i-driniaeth dros 36 wythnos, mae hynny wedi gwella 35 y cant rhwng Mawrth 2015 a Mawrth 2017. Mawrth 2017 oedd y perfformiad uchaf hefyd o ran canran y cleifion a oedd yn aros dros 26 wythnos ers Mawrth 2014. Gwyddom fod amseroedd aros diagnostig wedi gwella 58 y cant erbyn mis Mawrth eleni. Nid wyf yn derbyn bod y sefyllfa rywsut yn waeth ym mhob achos o ran Cymru o'i chymharu â Lloegr. Mae’n iawn i ddweud bod yr holl wasanaethau iechyd yn wynebu pwysau.
Mae'n gofyn cwestiwn teg, sef: pa baratoadau sydd wedi eu gwneud ar gyfer y gaeaf? Bob blwyddyn, rydym ni’n gwneud paratoadau ar gyfer y gaeaf. Mae'r pwysau'n digwydd. Nid ydym yn ddiogel rhag yr un pwysau, fel gwledydd eraill yn y DU, ond gwyddom, dros y blynyddoedd diwethaf, fod y cynlluniau yr ydym ni wedi eu gwneud wedi bod yn ddigon cadarn i ymdrin â’r pwysau a ddaw yn ystod y gaeaf, ac rwy'n hyderus ein bod ni yn yr un sefyllfa honno eto.
Rydych chi'n gwbl gywir, Prif Weinidog; gallech chi a minnau gyfnewid ystadegau, a byddai'r oriel i fyny'r grisiau a’r rheini sy'n gwylio ar y teledu yn cael eu drysu’n llwyr gan yr ystadegau hynny, ond mae'r ffigurau'n dangos, yng Nghymru, er enghraifft, y bu cynnydd o 400 y cant i nifer y bobl sy'n aros 12 mis neu fwy am driniaeth lawfeddygol. Yn y bwrdd iechyd gorau, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, nid oes neb yn aros 12 mis neu fwy. Yn y gwaethaf, neu un o'r gwaethaf, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth chi, bu cynnydd o 1,250 y cant i’r bobl sy'n aros 12 mis neu fwy. Felly, cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod arferion da yn cael eu lledaenu yn y GIG yma yng Nghymru. Felly, pam mae rhywun yn Betsi yn aros cymaint yn hwy am lawdriniaeth na rhywun yng Nghwm Taf? Dim ond saith bwrdd iechyd sydd gennym ni; does bosib na ddylai'r arfer da hwnnw fod yn lledaenu i bob bwrdd iechyd fel nad yw pobl yn gweld yr amseroedd aros cynyddol hyn yng Nghymru.
Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni wedi cyhoeddi £50 miliwn o arian perfformiad yn ddiweddar er mwyn parhau—rydym ni’n cyfnewid ystadegau eto nawr, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni—er mwyn parhau'r duedd hon o wella o ran amseroedd aros. Mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd a minnau wedi bod yn eglur iawn ynghylch yr angen am welliant pellach i’r amseroedd aros, ac mae'r holl fyrddau iechyd wedi ymrwymo i welliannau pellach erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Mae cynlluniau wedi’u sefydlu i’r holl sefydliadau a threfniadau monitro fod ar waith i sicrhau y darperir y gwelliant, gan adeiladu ar y cynnydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Oes, mae anghysondebau. Ydym, rydym ni eisiau sicrhau bod yr anghysondebau hynny yn cael sylw, a dyna pam yr ydym ni wedi dyrannu'r arian hwn a pham, wrth gwrs, y mae’r byrddau iechyd wedi gwneud yr ymrwymiad y maen nhw wedi ei wneud.
Rwy’n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae'r GIG yn ymwneud ag acronymau ac, yn amlwg, ystadegau. Ond, yn aml iawn, rydym ni’n methu’r cleifion gwirioneddol sy'n aros am y clinigwyr sydd dan bwysau, a’r cwbl maen nhw ei eisiau yw ateb plaen. Pan fo gennych chi gymaint o fyrddau iechyd yng Nghymru, fel y dywedais, mae pedwar ohonynt—. Ac mae'n werth ailadrodd y diffygion neu'r diffygion rhagamcanol sydd ganddyn nhw, fel Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, £49 miliwn, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, £35 miliwn, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, £31 miliwn. Bydd llawer o bobl yn dweud, 'Sut gallwch chi reoli'r diffygion hynny tra eich bod yn rheoli a lleihau'r amseroedd aros?' A ydych chi’n hyderus, erbyn i ni gyrraedd mis Mawrth, y bydd amseroedd aros yn lleihau ac y bydd y diffygion dan reolaeth ac yn cael eu dileu, fel y mae'r Ysgrifennydd dros Iechyd wedi ei nodi? Neu a fydd yn rhaid i chi roi arian cynorthwyol i’r byrddau iechyd sydd â'r diffygion rhagamcanol hyn?
Na, rydym ni’n disgwyl i fyrddau iechyd allu ymdopi â'r adnoddau sydd ganddynt. Yn amlwg, ni allem fod mewn sefyllfa lle’r oedd byrddau iechyd yn gwybod y byddent yn cael arian cynorthwyol faint bynnag y maen nhw’n ei wario. Mae hynny'n gymhelliant iddyn nhw beidio â bod mor drylwyr yn eu rheolaeth ariannol a'u gofal am gleifion ag y dylent fod fel arall. Felly, dywedwyd wrthynt, erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ein bod ni’n disgwyl gweld y gwelliannau hyn. Os na fyddwn yn eu gweld, wrth gwrs, bydd angen iddyn nhw esbonio pam mae hynny’n bod ac esbonio pam maen nhw wedi methu â chyflawni'r addewidion y maen nhw wedi eu gwneud i’r Llywodraeth ac i bobl Cymru.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cyn i ni godi ar gyfer toriad yr haf, tynnodd y Llywodraeth ei chefnogaeth i brosiect Cylchffordd Cymru yn ôl, a fyddai wedi dod â channoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat y mae wir ei angen i’r Cymoedd gogleddol. I geisio gwneud iawn am hyn, cynigiodd y Prif Weinidog a'i Lywodraeth wedyn y dylent fuddsoddi £100 miliwn o arian cyhoeddus mewn cynllun hapfasnachol i greu parc diwydiannol newydd yn ardal Glynebwy. O gofio bod ardal fenter Glynebwy wedi bod yn weithredol nawr ers cryn dipyn o flynyddoedd, a bod degau o filiynau o bunnoedd eisoes wedi eu buddsoddi mewn swyddi yn yr ardal honno, ond dim ond 320 o swyddi newydd wedi eu creu a 70 wedi eu diogelu, pam mae'r Prif Weinidog yn meddwl bod ei gynnig hapfasnachol yn mynd i fod yn fwy llwyddiannus?
Rwy'n siarad â busnesau, ac un o'r materion yn benodol y mae busnesau wedi tynnu ein sylw ato yw’r diffyg adeiladau addas lle y gallant fynd er mwyn dechrau gweithgynhyrchu. Un o'r materion yr ydym ni’n eu hystyried yw gallu darparu'r safle sydd ei angen arnynt, o'r maint cywir. Nid ydym yn gwneud hynny o ran adeiladu adeiladau gwag am ddim rheswm. Rydym ni wedi gwneud hynny drwy ymgynghori â busnesau, a gofyn i fusnesau beth maen nhw ei eisiau. Mae hynny mewn gwirionedd yn ffordd gadarn iawn o fuddsoddi ar gyfer y dyfodol, yn hytrach na’r hyn y mae e’n ei alw’n hapfasnachol. Mae'n bell o fod yn hapfasnachol. Mae hyn yn seiliedig ar yr adborth yr ydym ni’n ei gael gan fusnesau.
Wel, wrth gwrs, nid oes unrhyw gynigion cadarn i gymryd lle yn yr ardal y mae'r Prif Weinidog yn sôn amdani. Cefais i a’m cydweithwyr y fantais ddydd Gwener o ymweld â Sain Tathan a gweld yr hyn sy'n digwydd yn yr adeilad Aston Martin sy'n digwydd yno, sy’n un o lwyddiannau Llywodraeth Cymru—rwy'n llwyr gydnabod hynny ac yn llongyfarch y Prif Weinidog. Ond, wrth gwrs, mae Sain Tathan yn sefyllfa gwbl wahanol i Lynebwy o ran pa mor ddeniadol y gallai fod i fuddsoddwyr, heb wella'r seilwaith ymhellach fyth yn y Cymoedd gogleddol. Holl bwynt prosiect Cylchffordd Cymru a'r swyddi a fyddai wedi deillio o hynny oedd nid gymaint y gylchffordd ei hun, ond y ffordd y byddai'r gylchffordd wedi ei roi ar y map, mewn ffordd, ac y byddai wedi denu busnesau modurol pellach o'i hamgylch. O gofio, o ganlyniad i fethiant y cynnig hwnnw, bod Llywodraeth Cymru yn ceisio llenwi bwlch erbyn hyn, ni allaf wir weld pam mae wedi gwrthod y cynnig o gannoedd o filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad preifat pan oedd unig rwymedigaeth y Llywodraeth yn hynod ddibynnol ar fethiant llwyr y prosiect, a'r asedau a fyddai wedi cael eu creu yn werth dim arian.
Na, rydym ni wedi archwilio hyn o'r blaen. Rwyf wedi esbonio iddo’r mater o’r hyn sy’n cyfrif fel bod ar y llyfrau ac oddi ar y llyfrau. Hapfasnachu yw’r hyn y mae e'n ei ddisgrifio. Mae pob menter fusnes yn hapfasnachol i ryw raddau. Ond mewn rhai ffyrdd, yn y cwestiynau y mae'n eu gofyn, atebodd ei gwestiwn cyntaf, sef: un o'r rhesymau pam yr oedd Sain Tathan yn ddeniadol i Aston Martin yw oherwydd bod adeilad yno a oedd yn addas i'w manyleb. Dyna’r oedden nhw ei eisiau. Roedd y safle'n iawn. Mae llawer o fusnesau wedi dweud wrthym mewn sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael, 'Edrychwch, un o'r problemau yr ydym ni’n eu hwynebu yng Nghymru yw ein bod ni eisiau mynd i rywle fel Glynebwy, ond i ble byddwn ni'n mynd? Nid yw'r adeiladau yno. Nid yw'r safleoedd sydd eu hangen arnom ni yno.’ Dyna pam mae rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni’n ei roi i Lynebwy, i Flaenau'r Cymoedd, i wneud yn siŵr bod y safleoedd iawn yno i fusnesau allu symud i mewn, yn hytrach na chael rhwystr na fydd yn cael ei symud heb fuddsoddiad gan y Llywodraeth. A yw hynny'n hapfasnachol? Wel, yn yr ystyr bod pob busnes yn hapfasnachol, ond mae'n seiliedig, yn fy marn i, ar dir llawer mwy cadarn na'r gylchffordd.
Ond wrth gwrs roedd Cylchffordd Cymru yn fwy na hapfasnachol gan fod achos busnes wedi ei gwblhau'n llawn, yr wyf yn deall na chafodd ei danseilio gan Lywodraeth Cymru. Roedd gwrthwynebiad cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r prosiect yn seiliedig ar gonfensiynau cyfrifyddu mewnol, yn ei barn nhw, beth bynnag, a bennwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Felly, bydd prosiect Cylchffordd Cymru ei hun yn llwyddo neu’n methu ar sail ei rinweddau economaidd ei hun. Rwy’n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi gweld ar WalesOnline heddiw bod hyrwyddwyr y prosiect wedi cyflwyno cynnig arall erbyn hyn efallai y gallen nhw gael gafael ar gyllid ar ei gyfer o dan y fargen dinas. Felly, rwy’n awyddus i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw gecru rhyngbleidiol heddiw a allai rwystro Llywodraeth Cymru rhag helpu'r prosiect, hyd yn oed ar y cam diweddar hwn, i fod yn hyfyw. Tybed a all y Prif Weinidog, yn y termau mwyaf cyffredinol, roi ei gefnogaeth i wneud ymdrechion pellach i ystyried pa un a all Cylchffordd Cymru gael ei throi’n realiti.
Nid ydym erioed wedi gwrthod y gylchffordd fel syniad. Dim ond y trefniadau ariannol o'i hamgylch. Os gall y gylchffordd gyflwyno cynnig gwahanol, yna, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth y byddem ni’n ei ystyried. Nid oes gennym ni wrthwynebiad mewn egwyddor, ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod unrhyw brosiect yn ystyried buddiannau trethdalwyr Cymru ac yn gallu dangos yn gadarn iawn ei bod yn bosibl darparu’r swyddi a addewir. Os bydd rhywbeth arall yn cael ei gynnig, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried hynny i weld a yw'r amgylchiadau wedi newid.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddychmygu gwlad lle mae mega-garchardai yn cael eu lleoli yng nghanol ardaloedd menter, fel y’u gelwir? Neu a allwch chi ddychmygu gwlad sy'n cael ei disgrifio yn y pen draw fel Botany Bay yr unfed ganrif ar hugain ac fel gwladfa gosb? Wel, dyna eiriau Frances Crook, prif weithredwr uchel ei pharch yr Howard League.
Prif Weinidog, mae'n rhaid mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd lle mae carchardai yn cael eu hamlygu fel offerynnau ar gyfer datblygu economaidd, yn hytrach nag fel rhan o system cyfiawnder troseddol gwlad. A ydych chi'n disgwyl i garchardai eraill gau os bydd carchar Port Talbot yn mynd rhagddo? Ac a allwch chi gadarnhau pa un a fydd yna gynnydd net mewn swyddi neu a ydych chi'n meddwl y bydd colled?
Materion i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder eu hateb yw’r rhain. Nid ydym yn gyfrifol am bolisi carchardai. Ond gofynnodd gwestiwn am garchardai. Mae gen i garchar yn fy etholaeth i. Roedd yn ddadleuol iawn pan gafodd ei adeiladu. Fi oedd y cynghorydd ward pan gafodd ei adeiladu ar y pryd. Nawr, nid oes neb yn cymryd unrhyw sylw ohono. Mae'n cyflogi llawer o bobl, mae ystâd o dai yn cael ei hadeiladu nid nepell o furiau’r carchar. Ond, serch hynny, mae'n bwysig bod pryderon pobl yn cael sylw, gan fy mod i’n cofio pryderon pobl ar y pryd. Mae'n bwysig bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda phobl yn yr ardal. Eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Ein cyfrifoldeb ni yw mater y tir. A dweud yn blaen, byddwn yn ceisio cael y cytundeb gorau bosibl i drethdalwyr Cymru am y tir, ni waeth sut y caiff y tir hwnnw ei ddefnyddio, wrth gwrs. Nid ydym ni, o ran mater y carchar, yn hyrwyddo carchar yn weithredol. Rydym ni eisiau cael y canlyniad ariannol gorau i drethdalwyr Cymru.
Rwy'n falch eich bod chi wedi codi cwestiwn y tir, Prif Weinidog, gan fod gweledigaeth ar gyfer metro Abertawe sydd â'r potensial i weddnewid y ddinas a'i chefnwlad, a dyma'r weledigaeth fwyaf deniadol ar gyfer ein hail ddinas yr ydym ni wedi ei gweld ers blynyddoedd. Ond mae'n ymddangos bod y tir a glustnodwyd ar gyfer carchar Baglan ar y glasbrint. Mae safbwynt Plaid Cymru ar y carchar hwnnw yn hysbys, a cheir Aelodau o'ch plaid eich hun sy'n cytuno â ni nad dyma'r safle cywir. Onid yw'n wir y byddwch chi’n gwerthu tir a fyddai fel arall yn rhan o fetro Abertawe yn y dyfodol? A wnewch chi gydnabod eich bod chi mewn sefyllfa i roi terfyn ar y prosiect hwn trwy wrthod gwerthu’r tir hwn? Ac os ydych chi'n derbyn hynny, a wnewch chi wrthod gwerthu’r tir hwnnw nawr?
Wel, ni fyddem yn gwneud unrhyw beth a fyddai'n peryglu dyfodol metro Abertawe, mae hynny'n wir, ond ceir materion ehangach yma y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Mae'r carchardai yn syrthio’n ddarnau, nid oes amheuaeth am hynny. Fel rhywun a oedd yn gyfarwydd â'r system ar un adeg gyda'm swydd, mae wedi bod yn amser disodli ein carchardai ers amser maith—rydym ni’n gwybod bod rhai ohonyn nhw yn dod o oes Fictoria. Rydym ni’n allforio carcharorion. Ni all carcharorion benywaidd gyflawni eu dedfrydau yng Nghymru. Nid oes carchar categori A yng Nghymru. Mae gennym ni ormod o garcharorion nad ydynt yn gallu treulio eu hamser carchar yn agos at eu cymunedau, ac mae hynny'n bwysig o'u safbwynt nhw o ran eu hailsefydliad. Yr hyn nad wyf yn ei wybod yw pa un a yw hi'n credu na ddylai fod carchar o gwbl, neu pa un a ddylai symud i safle arall. Os yw'n wir y byddai hi eisiau iddo gael ei symud i safle arall, byddem yn agored i awgrymiadau o ble y dylai hynny fod.
Gallech ddadlau y dylai fod sawl safle, Prif Weinidog. Ni fydd yr holl broblemau yr ydych chi newydd eu hamlinellu yn cael eu datrys trwy adeiladu'r mega-garchar hwn mor agos at garchar newydd arall. Mae eich polisi economaidd yn ein harwain at sefyllfa lle nad yw ein buddiannau cenedlaethol yn cael eu sicrhau. Mae datganoli a hunanlywodraeth i fod i’n galluogi i ofalu am ein hanghenion ein hunain, i fod yn bartner cyfartal gyda'n cymdogion ac nid yn was. Nid yw’r uwch-garchardai hyn wedi eu cynllunio ar gyfer anghenion cyfiawnder troseddol ein gwlad ni, ond ar gyfer y wlad drws nesaf. Ac nid fi sy’n dweud hynny, mae'n dod oddi wrth leisiau mwyaf blaenllaw Lloegr a'r DU ar ddiwygio carchardai. Pam ydych chi'n sefydlu comisiwn ar gyfiawnder os nad i ymdrin â chwestiynau fel hyn?
Ac nid yw’n ymwneud â charchardai’n unig, Prif Weinidog, y mantra hwn o swyddi am unrhyw bris sydd wedi arwain at i chi dderbyn gwarediad mwd o safle niwclear yn nyfroedd Cymru. Beth ar y ddaear mae Cymru'n ei wneud yn cymryd gwastraff gan wlad arall a allai fod yn ymbelydrol? Nid wyf yn gwybod pam y gwnaethoch chi ganiatáu’r drwydded honno yn y lle cyntaf. Hoffwn wybod a ydych chi’n edifar am ganiatáu’r drwydded honno. A wnewch chi gytuno i'w diddymu os daw i’r amlwg bod hyd yn oed y perygl lleiaf i iechyd pobl?
Wel, mae hi'n dweud hanner y stori. Yn gyntaf oll, mae hi'n gwybod yn iawn nad Gweinidogion sy’n gyfrifol am drwyddedu; corff allanol sy’n gyfrifol— dyna'r holl bwynt—fel bod y wleidyddiaeth yn cael ei chymryd allan ohoni. Yr hyn yr wyf i wedi ei weld hyd yn hyn yw bod un person wedi dweud y gallai fod problem yma. Wel, wrth gwrs, mae angen rhoi sylw i’r mater hwnnw, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus yn y fan yma gan fod y gwastraff o Wylfa yn mynd i Loegr, a byddai’n cau ar unwaith pe na byddai am waith ailbrosesu Sellafield.
Mae ganddi safbwyntiau ar ynni niwclear na fyddwn i’n eu rhannu efallai, ond mae'n rhy syml i ddim ond dweud, 'Wel, gwastraff niwclear sy'n cael ei allforio o Loegr i Gymru yw hwn.' Rydym ni’n allforio llawer mwy allan i Sellafield. Felly, nid wyf yn derbyn bod hwn yn fater mewnforio ac allforio. Lle mae gennym ni ynni niwclear, mae'n bwysig bod cyfleusterau gwaredu digonol, ond mae cyflwyno hyn fel brwydr syml rhwng Cymru a Lloegr yn anwybyddu'r ffaith bod gennym ni ein gorsaf bŵer niwclear ein hunain, ac nad oes gennym ni ein cyfleusterau gwaredu ein hunain; rydym ni’n dibynnu ar Loegr i ymdrin â'r gwastraff sy'n dod o Wylfa.