– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 26 Medi 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl—Cynllun Gweithredu 2017-21’. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch heddiw o gyhoeddi cynllun gweithredu'r Llywodraeth ar gyfer addysg yng Nghymru: ein cenhadaeth genedlaethol. Mae'r arbenigwyr byd-eang ar berfformiad addysg, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, wedi cydnabod yn gynharach eleni bod y Llywodraeth a'r sector yn cydweithio'n agos ag ymrwymiad i welliant
‘gweladwy ar bob lefel o'r system addysg’.
Mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi'r cam nesaf ar ein taith ddiwygio, sy’n cynnwys datblygu a chyflwyno cwricwlwm newydd trawsnewidiol. Wrth ei wraidd mae pwyslais ar godi safonau i bawb, gan leihau'r bwlch cyrhaeddiad, a system addysg sy'n destun balchder i’n cenedl a hyder i’r cyhoedd. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i Gymru lle gall pob plentyn wneud y gorau o'i botensial ac ymdopi yn y byd sy'n newid. Yr wythnos diwethaf, nododd y Prif Weinidog flaenoriaethau'r Llywodraeth hon yn ein strategaeth genedlaethol ‘Ffyniant i Bawb’ a'r pwyslais ar ddatblygu Cymru sy'n uchelgeisiol ac sy’n dysgu. Rydym ar bwynt hollbwysig o ran cyflawni'r uchelgeisiau hynny. Roedd cyngor yr OECD inni yn ddiamwys: dylem gadw’r ffydd, dal ati, ond gwneud mwy i gyfathrebu, egluro a sicrhau cydlyniad yn ein rhaglen, rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth a chyflwyno cwricwlwm newydd mawr ei angen mewn modd amserol. Mae'r cynllun gweithredu hwn yn ymateb i'r argymhellion hynny. Mae hefyd yn adeiladu ar sgyrsiau a chyfarfodydd yr wyf i a swyddogion wedi'u cael ledled ein cenedl.
Rydym yn adeiladu ar sylfeini cadarn a nodwyd mewn cynlluniau a rhaglenni blaenorol. Ond gallwn fod yn well fyth, a phennu disgwyliadau uchel o'n pobl ifanc a’n hathrawon. Rydym yn glir ynghylch y ffordd ymlaen. Ers adroddiad yr OECD, rwyf wedi ystyried ei argymhellion. Rwyf wedi siarad â channoedd o fewn y gweithlu addysg ac wedi gwrando ar yr her a’r cyngor gan y pwyllgorau craffu yma yn y Cynulliad. Dywedodd yr OECD,
‘I helpu i wireddu eu hamcanion o ran addysg ac, yn y pen draw, eu gweledigaeth o ddysgwyr Cymru, dylai Cymru barhau i ddiwygio eu cwricwlwm...i sicrhau bod eu taith ddiwygio'n gynhwysfawr ac yn effeithiol.’
Mae’r llinell amser ar gyfer cyflwyno ein cwricwlwm newydd, sydd wrth wraidd system addysg wedi'i thrawsnewid, wedi’i nodi’n glir o fewn y cynllun gweithredu. Yn hytrach na chyflwyniad mawr dros nos un mis Medi, caiff ei chyflwyno gan ddechrau gydag ysgolion cynradd a blwyddyn 7. Mae tystiolaeth ryngwladol yn glir ar hyn. Byddwn hefyd yn darparu'r amser paratoi cywir i ysgolion ac athrawon—nid amser i sefyll yn llonydd, ond amser i roi adborth, ymgysylltu ymhellach â'r cwricwlwm newydd a bod yn gwbl barod am y dull newydd.
Mae gwaith ar y cynnwys a'r meysydd dysgu a phrofiad yn parhau yn gyflym. Bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd ar gael i ysgolion i roi adborth amdanynt, eu profi a’u mireinio erbyn Pasg 2019. Ar ôl y cyfnod hwnnw, bydd y cwricwlwm terfynol ar gael i bob ysgol o 2020 ymlaen, fel y gallant fod yn gwbl barod am ei gyflwyno'n statudol ym mis Medi 2022. Fe'i cyflwynir wedyn o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 7 yn 2022, gan dreiglo i flwyddyn 8 ar gyfer 2023, blwyddyn 9 yn 2024, ac yn y blaen wrth i'r garfan symud drwodd. Gyda'n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cwricwlwm newydd, gan gymryd yr amser i'w wneud yn hollol gywir, ond nid yw cymryd yr amser ychwanegol hwnnw i’w gyflwyno a blwyddyn ychwanegol yn golygu arafu. Mae'n golygu y byddwn yn cyflawni'r blaenoriaethau cysylltiedig hynny o fewn y cynllun gweithredu sy'n hanfodol i gynnal safonau uchel a gosod uchelgeisiau uwch fyth.
Yn gyntaf: sicrhau proffesiwn addysg o safon uchel—cefnogi athrawon i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes â safonau newydd, agwedd genedlaethol tuag at ddatblygiad proffesiynol ac addysg gychwynnol athrawon wedi’i diwygio.
Yn ail: canfod arweinwyr a’u hysbrydoli i godi safonau—ymdrin â diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth drwy sefydlu academi arweinyddiaeth genedlaethol, datblygu arweinyddiaeth yn well, lleihau biwrocratiaeth drwy reolwyr busnes, gwell cyfathrebu o bob lefel, a safonau newydd a chymhwyster pennaeth diwygiedig.
Yn drydydd: ysgolion cynhwysol sy'n ymroddedig i ragoriaeth, cydraddoldeb a lles—diwylliant o barch a her, gan sicrhau bod pawb yn barod i ddysgu drwy ehangu'r Grant Amddifadedd Disgyblion, rhaglenni dysgu haf gwell, darpariaeth benodol ‘mwy abl’, a ffyrdd arloesol o gofnodi a mesur lles ochr yn ochr â chyrhaeddiad.
Ac yn bedwerydd: gwell asesiad, gwerthusiad ac atebolrwydd cadarn o fewn system hunanwella—bod yn gyson ac yn glir ynghylch y pethau yr ydym yn dymuno eu prisio a'u mesur drwy adroddiad a cherdyn adroddiad cenedlaethol blynyddol ar gyfer addysg, drwy asesiad ffurfiannol a fframwaith asesu a gwerthuso newydd sy'n canolbwyntio ar welliant ar bob lefel. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi llinellau amser, polisïau a chamau gweithredu clir ar draws pob un o'r meysydd hyn.
I gloi, Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i ysgolion baratoi ein pobl ifanc am swyddi nad ydynt wedi'u creu eto a heriau nad ydym wedi’u hwynebu eto. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad newydd i wella sgiliau a gwybodaeth ein pobl ifanc wrth inni godi safonau mewn cwricwlwm trawsnewidiol. Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn hyderus wrth inni weithio i gyflwyno system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus. Gyda'i gilydd, bydd ein diwygiadau’n ateb yr heriau hyn ac yn cyflawni'r disgwyliadau uchel yr wyf yn siŵr ein bod i gyd yn eu rhannu yn y Siambr hon ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad yr ydych wedi'i gyflwyno y prynhawn yma. Rwy’n meddwl fy mod wedi dweud ar adeg eich penodi’n Ysgrifennydd y Cabinet fy mod yn dymuno'n dda ichi. Mae gennych swydd bwysig iawn. Un waith y mae plant yn mynd drwy ein system addysg, neu y mae myfyrwyr yn mynd drwy ein system addysg. Un cyfle maen nhw’n ei gael ac mae'n hanfodol bod ganddynt yr amgylchedd gorau posibl i ddysgu a ffynnu yn yr amgylchedd hwnnw. Ond mae'r datganiad heddiw’n achosi rhywfaint o bryder, ac os caf ddechrau â’r datganiad a roddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’, yn adran addysg y strategaeth honno, yr wyf yn tybio sy'n sail i hyn, mae'n cydnabod bod yna o hyd
‘gormod o amrywiad yng nghyrhaeddiad ymadawyr ysgol, sy'n golygu, heb y sgiliau cywir, bod rhai mewn perygl o gael eu gadael ar ôl a gwastraffu eu potensial.’
Byddwn yn ddiolchgar iawn i gael deall beth yn union yr ydych wedi'i nodi sydd ar fai, o ran pam mae cymaint o amrywiaeth yn y system addysg yng Nghymru a pham, yn anffodus, mae cynifer o bobl yn cael eu gadael ar ôl, a sut y bydd eich strategaeth yn newid cyfeiriad addysg fel bod Llywodraeth Cymru’n gwneud mwy na rhoi strategaeth addysg arall ar waith a’n bod, mewn tair, pedair, pum mlynedd, yn cael yr un sgwrs, oherwydd rwy'n meddwl ei bod yn bwysig deall y cyfeiriad allweddol y mae'r system addysg yma yng Nghymru’n symud iddo.
Rydych hefyd yn dechrau drwy nodi'r OECD a’r targedau PISA ac mae'n amlwg ar gofnod nad dyna yw eich targed: y 500 ar gyfer darllen, ysgrifennu a'r gwyddorau—a rhifyddeg yn amlwg hefyd. Mae hyn nawr yn rhan o'r papur polisi yr ydych wedi'i lansio, sy’n dweud mai targed Llywodraeth Cymru yw taro'r marc 500 pan ddaw'r ffigurau OECD nesaf yn 2021. Felly, byddwn yn ddiolchgar am gael gwybod pam nad ydych chi'n ystyried y ffigurau hynny fel eich targed, er bod y ddogfen yn nodi'n eithaf clir eu bod yn biler canolog o ran codi safonau yma yng Nghymru. Hoffwn hefyd gael deall gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn enwedig o ran y diwygiadau a gyflwynwyd o dan Cymwys am Oes, sef dogfen bolisi'r Llywodraeth 2014 i 2020, sut, eto, y mae'r ddogfen hon yn wahanol i'r ddogfen honno, oherwydd os wyf i’n gywir, rydym yn dal i fod yn 2017, ac roedd y ddogfen honno'n ein harwain hyd at 2020? Yn amlwg, un o brif bileri’r ddogfen honno oedd rhaglen Her Ysgolion Cymru, a oedd yn ceisio codi safonau mewn llawer o'n hysgolion, ac o'r asesiadau a wnaethpwyd—yn sicr yn ei dwy flynedd gyntaf—roeddent yn cael canlyniadau a llwyddiannau addawol iawn gyda'r cynllun hwn, ac, yn amlwg, fe'i terfynwyd y llynedd gennych chi eich hunan. Unwaith eto, fel y dywedais, byddwn i, ac, rwy'n siŵr, y proffesiwn addysgu a rhieni yn hoffi gwybod yn union faint o fynd sydd yn eich dogfen bolisi, os hoffech—yr un yr ydych chi wedi’i chyflwyno heddiw. A fyddant yn gweld tymor llawn yr agenda rydych chi'n ei nodi, ynteu a fydd yna ddiwygiad arall ymhen dwy neu dair blynedd?
Mae croeso i’r cwricwlwm yr ydych chi wedi'i nodi a'r newidiadau i'r cwricwlwm, ac mae’n rhywbeth yr ydyn ni ar yr ochr hon i'r tŷ wedi bod yn galw amdano, o ystyried y corff cynyddol o dystiolaeth sy'n dangos yn glir bod angen oedi a myfyrio, bron, o ran ei roi ar waith, ac rwy’n eich cymeradwyo am wneud hynny. Ond byddwn yn gofyn ichi: pa asesiad ydych chi wedi'i wneud o allu ysgolion i ymdrin, o bosib, â chyflwyno dau gwricwlwm o fewn lleoliad yr ysgol? Rydym yn cael dadleuon yn gyson, rydym yn cael trafodaethau, am allu athrawon ac ysgolion i ddatblygu amgylchedd a strategaeth gydlynol ar gyfer dysgu, ac ar ddiwedd y broses hon, byddant, ar ryw adeg, yn cyflwyno dau gwricwlwm o fewn amgylchedd yr ysgol.
Mae recriwtio athrawon yn faes hanfodol, ac rydym yn deall y problemau hynny, ond yn eich datganiad roeddech yn sôn am y diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth. Unwaith eto, byddwn yn wirioneddol awyddus i ddeall beth sy'n ategu’r dadansoddiad hwnnw o'r diffyg pwyslais hanesyddol ar arweinyddiaeth, o ystyried, yn amlwg, ein bod wedi cael plaid yn y Siambr hon sydd wedi cynnal addysg am 17 i 18 mlynedd nawr, ac rwy’n tybio mai arsylwad yw hwnnw gennych ynglŷn â gwahanol bolisïau sydd wedi’u cyflwyno cyn hyn i ymdrin â'r argyfwng arweinyddiaeth—sydd, yn fy marn i, yn sylw teg i'w wneud—pan fyddwn yn gwybod nad yw llawer o ddirprwy benaethiaid yn camu ymlaen ac yn cymryd prifathrawiaeth oherwydd nad ydynt yn teimlo bod ganddynt gefnogaeth i wneud hynny, ac mae yna lawer iawn o ddirprwy benaethiaid da a fyddai'n gwneud penaethiaid rhagorol, ond, heb y dilyniant hwnnw o fewn y system addysg a heb y gefnogaeth honno, bydd yr argyfwng arweinyddiaeth hwnnw’n parhau.
Ac un pwynt olaf, os caf, Dirprwy Lywydd gyda'ch caniatâd, ar AU yn arbennig: mae'n hollbwysig bod myfyrwyr o'n hysgolion yn symud ymlaen i amgylchedd AU. Mae rhai o'r niferoedd sydd wedi dod allan ynglŷn ag AU yn ddiweddar yn dangos yn glir, yn anffodus, nad yw'r niferoedd yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac yn wir, eu bod yn gostwng o ran cyfranogiad mewn AU o rai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Sefydlwyd rhwydwaith Seren a chrëwyd canolfannau rhanbarthol er mwyn cynorthwyo disgyblion mwyaf disglair Cymru i allu cael addysg uwch. Byddwn yn ddiolchgar am gael deall sut, gyda'r diwygiadau yr ydych wedi eu lansio heddiw yn ein system addysg, y byddwn yn adfywio'r uchelgais i fynd ymlaen i AU, ac yn y pen draw i brofi byd addysg ehangach, boed hynny yma yng Nghymru neu yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.
Diolch yn fawr iawn, Andrew, am y rhestr gynhwysfawr o gwestiynau. Y strategaeth a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yw cynllun cyffredinol y Llywodraeth. Mae'r ddogfen hon, a lansiwyd heddiw, yn ychwanegu'r cig ar yr esgyrn yr oeddech yn gofyn amdanynt yr wythnos ddiwethaf, o ran sut i gyflawni’r uchelgeisiau sydd yn ‘Ffyniant i Bawb’ mewn gwirionedd. Ac i fod yn ddi-lol: mae gormod o amrywiad yn ein system addysg. Mae gormod o amrywiad mewn ysgolion. Rydym yn gweld hynny fel rhywbeth y mae angen ei unioni. Rydym yn gweld o fewn un ysgol, adran sy'n perfformio'n dda iawn ac adran sydd ddim yn perfformio cystal. Rydym hefyd yn gweld amrywiadau rhwng ysgolion unigol yn yr un awdurdod addysg lleol; weithiau rai milltiroedd yn unig ar wahân, gall y canlyniadau fod yn wahanol iawn, ac mae'n rhaid inni unioni hynny.
Nawr, mae'r strategaeth hon yn ceisio codi safonau ar draws ein system gyfan mewn nifer o ffyrdd. Wrth gwrs, y ffactor pwysicaf yw ansawdd yr addysgu. Dyna'r peth mwyaf y gallwn ei wneud i wella cyrhaeddiad addysgol ein plant, sef sicrhau bod ansawdd yr addysgu ar draws pob un o'n hysgolion yn gyson uchel. Dyna pam mae cymaint o bwyslais yn y ddogfen hon ynghylch sut y gallwn godi safon yr addysgu, boed hynny drwy ddiwygio ein system addysg gychwynnol i athrawon, boed hynny drwy ddull cenedlaethol newydd o ddysgu proffesiynol parhaus, neu fabwysiadu safonau addysgu newydd ar hyn o bryd i athrawon dosbarth a phenaethiaid. Ni all ein system fod yn well na'r athrawon sy'n ei chyflwyno, a dyna pam mae hyn wrth wraidd ein rhaglen.
Rydych wedi sôn am y mater sy'n ymwneud â’r her ysgolion. Fe wyddoch mai rhaglen am amser cyfyngedig oedd honno, wedi'i chyfyngu i ddim ond 40 o ysgolion. Mae llawer o ysgolion ar draws Cymru sydd angen cymorth a chefnogaeth i'w datblygu. Gwnaeth rhai o'r ysgolion hynny’n dda iawn o dan Her Ysgolion Cymru, ond rwy'n ofni dweud, mewn rhai achosion, er gwaethaf yr adnoddau ychwanegol, nad oedd hynny'n cyfateb i well canlyniadau i fyfyrwyr ac, yn wir, cafodd un o ysgolion yr her ysgolion ei rhoi dan fesurau arbennig gan Estyn ychydig cyn gwyliau’r haf. Felly, mae angen ffordd o wella ysgolion, wedi’i chyflwyno gan ein consortia rhanbarthol, ar gyfer pob ysgol yng Nghymru—yr holl ffordd ar draws ein gwlad, yn hytrach na bod yn gyfyngedig i 40 o sefydliadau dethol.
Rydych yn sôn am PISA. Nid oes dim byd anghyson yn y ddogfen hon a'r datganiadau a wnes i a'r Prif Weinidog wrth ateb cwestiynau ar 20 a 21 Mehefin yn gynharach eleni. Yr hyn sy'n hollol glir yw, ar gyfer asesiad PISA yn 2021 a gaiff ei weinyddu gan weinyddiaeth wahanol mewn Llywodraeth newydd, y caiff ei ganlyniadau eu cyhoeddi gan weinyddiaeth wahanol, mai dyna yw’r nod hirdymor o hyd. Yr hyn yr wyf i’n canolbwyntio arno yw gwelliant yn y profion a gaiff eu sefyll y flwyddyn nesaf, gan nad wyf wedi newid fy meddwl: nid yw ein perfformiad yn PISA cystal ag yr hoffem ac mae angen inni weld gwelliant, nid yn 2021—mae angen inni weld gwelliant cyn hynny.
Nawr, Andrew, rydych yn codi pwynt dilys iawn ynghylch cyflwyno hyn yn y sector uwchradd, ac a fydd gorfod addysgu dau gwricwlwm yn yr ysgol yn heriol. Mae'n arferol i athrawon drosi gofynion cwricwlwm yn gynlluniau gwaith i bob grŵp blwyddyn yn eu hysgol; nid oes dim athro’n addysgu'r un wers i bob grŵp blwyddyn. Felly, mae'r cyflwyniad graddol hwn mewn ysgolion uwchradd yn rhoi’r amser i'r proffesiwn addysgu i ddatblygu eu cynlluniau gwaith newydd o flwyddyn i flwyddyn. Nawr, mae ein hathrawon a'r bobl sy'n eu cynrychioli’n deall hyn, ac maent yn gefnogol iawn i'r ymagwedd hon. A byddai arfer gorau rhyngwladol yn dweud wrthych mai cyflwyno'n raddol sy’n rhoi'r cyfle gorau inni i lwyddo. Y tro diwethaf y cawsom newid mawr i'r cwricwlwm, wrth gwrs, oedd yn ôl yn 1988, a gwnaethpwyd hynny’n sicr o’r brig i lawr ac fe'i gwnaethpwyd dros nos. Ac rwy'n ofni pe baech yn siarad â phobl a fu’n ymwneud â chyflawni'r diwygiad hwnnw, byddent yn dweud ei fod wedi achosi anhrefn sylweddol. Ond rwy'n falch iawn y caf y cyfle yn nes ymlaen yr wythnos hon i siarad â'r Arglwydd Baker, a byddaf yn myfyrio ar ei brofiad o sut yr oedd yn teimlo bod y newid mawr hwnnw o’r brig i lawr, dros nos, wedi gweithio.
Mae arweinyddiaeth, rwy'n meddwl, wedi bod yn faes lle nad ydym wedi canolbwyntio'n ddigonol. Nid wyf yn deall y rhesymau dros hynny, wyddoch chi, nid wyf yn eu gweld, ond yr hyn yr wyf yn ei ddeall yw, os ydym ni i weld y gwelliannau sydd eu hangen arnom, bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar arweinyddiaeth, a dyna pam yr ydym yn cyflwyno ein hacademi arweinyddiaeth newydd. Byddwn yn diwygio'r cymhwyster ar gyfer ein penaethiaid, gan gynnwys safonau arweinyddiaeth newydd a mwy o gefnogaeth i benaethiaid presennol a'r rhai sy'n dymuno bod yn benaethiaid, ac wrth inni weld yr academi arweinyddiaeth yn datblygu ac yn ei sefydlu ei hun, byddwn yn gobeithio gweld y pwyslais hwnnw ar arweinyddiaeth yn mynd i lawr y system ysgolion gyfan i ganolbwyntio ar arweinwyr pynciau unigol neu grwpiau blwyddyn unigol—arweinyddiaeth yn ein consortia rhanbarthol, arweinyddiaeth mewn awdurdodau addysg lleol. Mae hon yn genhadaeth genedlaethol. Mae’n rhaid i bob un ohonom ein herio ein hunain a gofyn: ‘Beth ydym ni'n mynd i’w gynnig i weld y genhadaeth genedlaethol hon yn cael ei gwireddu?’ Ac mae lle i bob un ohonom yn hynny, gan gynnwys Aelodau yma yn y Siambr y mae eu craffu a'u herio yn y pwyllgor wedi bod yn rhan bwysig iawn o'm hystyriaethau wrth geisio sefydlu'r amserlen ar gyfer y cwricwlwm.
O ran AU, a gaf i ddweud nad AU yw popeth? Mae’n iawn i rai pobl, ond mae’r syniad hwn bod yn rhaid i bawb wneud AU ac, os nad ydych, eich bod rywsut yn fethiant—rwy'n meddwl bod angen inni symud oddi wrth hynny. Mae'n rhaid inni edrych ar addysg yn y lleoliad cywir, i'r bobl gywir ar yr adeg gywir yn eu bywydau, a gallai hynny olygu mynd ymlaen i hyfforddiant pan fyddwch chi yn y byd gwaith 10 mlynedd ar ôl ichi adael yr ysgol. Gall fod yn brentisiaeth lefel uwch. Gall fod yn brentisiaeth sy'n gysylltiedig â gradd. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gyflawni'ch potensial. Mae AU yn rhan bwysig o hynny, ydy, i garfan benodol o'n poblogaeth.
A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a chroesawu rhan helaeth o gynnwys y datganiad ac, yn wir, y cynllun gweithredu. Nid wyf yn meddwl y byddai neb yn anghytuno ag uchelgais hirdymor y Llywodraeth yma—yn syml iawn, sicrhau bod pob plentyn ifanc yn cyflawni ei botensial. Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn gwybod y byddai pawb yn awyddus i’w weld. Ond yr hyn sydd gennym ni yn y cynllun gweithredu yma yw lot o stwff lefel uchel. Mae’n debyg y bydd y manylion ynglŷn â sut yn union y bydd rhai o’r agweddau hyn yn cael eu gweithredu yn dod yn gliriach, a dyna lle, efallai, y bydd llawer o’r glo mân.
Nawr, un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol, rwy’n credu, yn y datganiad yma yw'r newid yn yr amseru o safbwynt cyflwyno’r cwricwlwm. Mae’n amlwg bod nifer wedi nodi hynny. Rydw i, fel y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gwybod, wedi bod yn codi hyn yn gyson gyda hi—yn ôl ym mis Tachwedd y llynedd, yn ôl ym mis Mawrth a mis Mai yn y pwyllgor, a fan hyn yn y Siambr. Bob tro, rydych chi wedi dweud eich bod yn hyderus bod yr amserlen wreiddiol yn addas, ar y pryd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith ei bod wedi newid, a byddwn yn lico gofyn—flwyddyn ar ôl i fi a nifer yn y sector fod yn gofyn am hyn i ddigwydd—pam eich bod chi’n teimlo mai nawr yw’r amser i wneud hynny, ac efallai ddim wedi gwneud hynny yn gynt yn ystod y broses.
Liciwn i wybod hefyd beth fyddwch chi’n ei ddefnyddio i fesur llwyddiant rhai o’r diwygiadau a fydd yn cael eu cyflwyno. Mae yna gyfeiriad wedi bod at ddefnyddio targedau PISA fel un ffon fesur. Pan waredodd y Llywodraeth flaenorol, wrth gwrs, eu targedau PISA, fe ddisgrifioch chi hynny fel tlodi uchelgais llwyr. Ond y targedau is yna a fabwysiadwyd sydd yn ymddangos yn y cynllun gweithredu yma.
And, of course, when I pressed you in the committee on the PISA targets, you made it perfectly clear that the PISA target isn’t your target. Well, it’s in the action plan, so do we therefore conclude that it isn’t your action plan? I think we need clarity as to whether the First Minister has overruled you on PISA or whether you’ve actually changed your mind and are now happy to accept the targets that you previously described as demonstrating an absolute poverty of ambition.
Now, the reference to an overarching workforce development plan from autumn 2018 of course is welcome. You mentioned, in that context, work to improve the quality of the supply workforce. Maybe you could elaborate a little bit on what you have in mind there, and does that include changing the model of supply delivery in Wales, which I know many have raised with you concerns about and worries that there are many flaws in the way that that is currently operating. You say that you’ll agree a long-term model of assessment and evaluation of schools—where does that, potentially, leave school categorisation? Will you be moving away from what some people see as contentious traffic light systems? I think there’s been a suggestion that that might happen and it would be good to have clarity as to whether those are here to stay, or whether you see those as being potentially under review in the medium term.
There’s not much reference to resources and resourcing some of these proposed actions in the plan, so I think it would be true to say that schools will be looking for assurance from you that they will have the tools and the resources required to achieve and deliver the proposed curriculum changes and, of course, the broader changes that are being mooted.
Mae yna gyfeiriad hefyd yn y cynllun gweithredu ac yn eich datganiad chi at ddefnyddio’r pwerau newydd sydd yn dod i’r lle hwn, wrth gwrs, ar dâl ac amodau gwaith i athrawon. Efallai y gallwch chi roi ychydig o awgrym i ni ac ymhelaethu, efallai, ar y math o newidiadau y byddwch chi’n eu hystyried. Rŷch chi eisoes wedi awgrymu y byddwch chi’n barod i edrych ar yr amodau gwaith fel rhywbeth sydd angen, efallai, ei adolygu.
Ac wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd, wrth gwrs, mae angen inni wneud yn siŵr y bydd yna adnoddau dysgu addas ar gael ar gyfer darparu’r cwricwlwm newydd. Rŷm ni’n gwybod am y trafferthion sydd wedi bod o safbwynt adnoddau cyfrwng Cymraeg yn y gorffennol, a byddwn yn hoffi clywed sicrwydd gennych chi heddiw na fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno oni bai fod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael yn y Gymraeg ac yn y Saesneg, lle bo hynny’n angenrheidiol.
Yn olaf, a gaf i groesawu hefyd y cyfeiriadau at waith ieuenctid o fewn y cynllun gweithredu? Mae’n bwysig ein bod ni’n gweld gwaith ieuenctid fel rhan o’r cynnig addysg sydd gennym ni yng Nghymru. Mae cydnabyddiaeth bod darparu gwasanaeth ieuenctid cryf yn ganolog wrth inni ystyried dyfodol y sector addysg yn un sy’n galonogol iawn i fi, a’r gydnabyddiaeth, wrth gwrs, fod addysg anffurfiol â rôl gwbl, gwbl greiddiol wrth gefnogi addysg ffurfiol hefyd.
Diolch, Llyr, am y gyfres honno o gwestiynau. A gaf i ddweud mai’r hyn sydd gennym yn y ddogfen, yn fy marn i, yw cyfres glir iawn o gamau gweithredu sy'n gysylltiedig â phwy yr ydym yn disgwyl iddynt eu cyflawni, boed hynny’n Llywodraeth ganolog, boed hynny'n haen 2 ein system, y consortia rhanbarthol, yr AALlau a phartneriaid eraill fel Estyn a'r Cyngor Gweithlu Addysg ac ysgolion eu hunain? Ac mae’r rheini wedi’u hamlinellu mewn llinellau amser, sy'n gysylltiedig â phob un o'r pedwar amcan galluogi sydd gennym yn y ddogfen.
O ran y mater o gyflwyno'r cwricwlwm, yr hyn a ddywedais, bob tro y gofynnwyd imi am hyn, yw, ydw, rwy'n credu y gallwn gyflawni'r amserlen wreiddiol a awgrymwyd yng ngwaith Graham Donaldson, ond rwyf hefyd wedi mynd ymlaen i ddweud y byddaf bob amser yn adolygu hynny, ac os wyf yn teimlo bod angen diwygio'r amserlen a awgrymwyd ar gyfer cyflwyno i sicrhau ein bod yn trawsnewid y cwricwlwm yn llwyddiannus, y byddwn yn fodlon gwneud hynny. Yn syml, roedd diffyg eglurder ynghylch sut y byddai'r broses gyflwyno'n digwydd. Y ddogfen—. A chyn hynny, nid oedd cynllun ar gyfer cyflwyno. A dyma un o'r pethau y mae ysgolion wedi gofyn amdano: ‘A allwn ni gael eglurder ynglŷn â sut y caiff hyn ei gyflwyno?’ Ac rwy'n darparu'r eglurder hwnnw nad ydym wedi'i gael o'r blaen ac rwyf hefyd wedi gwrando'n ofalus iawn ar waith y pwyllgor ac ar weithwyr proffesiynol ledled Cymru ynglŷn â faint o amser sydd ei angen arnom i sicrhau y bydd ein proffesiwn yn barod i ymgymryd â'r newidiadau hyn. Ac, unwaith eto, mae hynny'n hollbwysig ac mae'n iawn ein bod yn nodi'r newid hwn ac yn darparu'r eglurder hwnnw nawr, wrth inni lansio ein strategaeth genedlaethol newydd, ac, fel y dywedais, i roi eglurder i'r proffesiwn sydd wedi bod yn gofyn sut y bydd yn digwydd mewn gwirionedd.
Rydych wedi codi mater pwysig iawn addysgu llanw. Mae'n bwysig nad dim ond y bobl unigol sy'n gweithio yn y sector llanw—. Nid wyf yn dymuno bychanu eu cyfraniad, ond, y gwir yw ein bod yn gwybod bod dibynnu’n ormodol ar athrawon llanw’n effeithio ar safonau. Mae'n anochel. Felly, mae hyn yn destun pryder i mi. Byddwch yn gwybod bod y Gweinidog blaenorol wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i roi gwybod sut y gallem fwrw ymlaen â hyn, ac na ddaeth o hyd i unrhyw ateb cyffredinol o ran sut i ymdrin â'r agenda hon, ond roedd yn awgrymu pethau pwysig ac, er enghraifft, rydym wedi gwneud y pethau hyn. Felly, sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon llanw: roedd yr union weithwyr proffesiynol sydd ag angen defnyddio’r adnodd hwnnw’n fwy nag unrhyw weithwyr proffesiynol eraill yn cael eu gwrthod rhag cael hynny oherwydd nad oeddem yn rhoi enw mewngofnodi a chyfrinair iddynt allu defnyddio’r system honno. Mae hynny bellach wedi cael ei unioni.
Ond wrth edrych yn fwy hirdymor ar wahanol ffyrdd y gallem drefnu'r sector llanw, rwyf i, fel chi, yn ymwybodol iawn y bu llawer o ddiddordeb ym model Gogledd Iwerddon. Nawr, mae yna fanteision ac anfanteision i fodel Gogledd Iwerddon, ond mae gennyf swyddogion yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos hon—yr wythnos hon—yn edrych i weld a yw model Gogledd Iwerddon yn un y gellid ei drosglwyddo’n hawdd i Gymru, ond mae'n rhaid inni gydnabod na ellir gwneud rhywfaint o hyn nes bod pwerau cyflog ac amodau athrawon wedi'u datganoli inni. Felly, mae rhywfaint o gyfyngiadau o gwmpas hynny, ond rydym wrthi'n edrych ar wahanol fodelau i allu datrys rhai o'r problemau strwythurol hirdymor o ran sut mae addysgu llanw wedi’i drefnu ar hyn o bryd.
Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn rhai o'r awdurdodau lleol sy'n bwriadu gweithio gyda'i gilydd i gael model canolbwynt athrawon llanw, lle bydd athro llanw ar gael i glwstwr o ysgolion ac yn gweithio i'r clwstwr penodol hwnnw o ysgolion. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi dod ymlaen ac wedi dangos diddordeb go iawn mewn bod yn rhan o'r cynllun peilot hwnnw. Felly, mae llawer yn digwydd ym maes addysgu llanw.
O ran telerau ac amodau, mae'n bwysig iawn tawelu meddyliau pobl, oherwydd bod rhai undebau wedi bod yn fwy brwdfrydig nag eraill ynghylch datganoli cyflog ac amodau, i ailadrodd yr addewid na fydd unrhyw athro mewn sefyllfa waeth o ganlyniad i'r system hon, ac rydym am iddi gyd-fynd â'n huchelgeisiau o fewn y ddogfen hon, sy'n ymwneud â chodi safonau a chau'r bwlch cyrhaeddiad hwnnw.
Wrth gwrs, mae’r adnoddau ar gyfer hyn oll yn cyd-fynd â'r prosesau cyllidebol arferol sydd gennym yn y Llywodraeth, ar adeg pan fo cyni y DU yn parhau i fod yn heriol iawn, a gwnawn ein gorau glas i sicrhau bod gan ein hysgolion yr adnoddau sydd eu hangen arnynt, gan gydnabod, wrth gwrs, bod arian i ysgolion yn dod mewn dwy gyfran—ie, drwy'r adran addysg ar gyfer pethau fel y grant datblygu disgyblion, ond hefyd drwy lywodraeth leol, drwy'r grant cefnogi refeniw—a rhaid inni fod yn ymwybodol o'r dull hwnnw o ran sut y mae arian yn cyrraedd ein hysgolion mewn gwirionedd.
Fel y gwyddoch, mae gen i angerdd arbennig dros sicrhau bod gennym degwch yn ein system. Mae yn y ddogfen hon: tegwch i'n holl fyfyrwyr, ac mae hynny'n cynnwys y myfyrwyr hynny sy'n dilyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw'n deg nad oes adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael i fyfyrwyr yn amserol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod wedi cynnal uwchgynhadledd ar hyn yn gynharach yn y flwyddyn—mae'n ddrwg gennyf nad oeddech yn gallu dod i’r uwchgynhadledd honno—ac rwy'n dal i gael trafodaethau gyda Chyngor Llyfrau Cymru, gyda gwasg y brifysgol, cyhoeddwyr a CBAC ynghylch sut y gallwn wella’r sefyllfa hon. Bydd yn hollbwysig wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, oherwydd os nad oes gan dai cyhoeddi mawr ddiddordeb mewn gweithio gyda ni nawr, yn sicr, nid ydynt yn mynd i ddeffro'n sydyn a phenderfynu eu bod am ddarparu adnoddau ar gyfer cwricwlwm newydd sbon. Felly, mae'n rhaid inni ddod o hyd i atebion creadigol i'r broblem honno ein hunain, nid disgwyl i bobl eraill wneud hynny. Ond mae'n rhaid i ni gael system sy’n deg i’n holl blant.
Gwaith ieuenctid: hollbwysig. Mae'r ddogfen hon yn ceisio gwneud y cysylltiadau hynny rhwng yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion, yr hyn sy'n digwydd mewn cymunedau, yr hyn sy'n digwydd yn y cartref a’r berthynas rhwng hynny a chyrhaeddiad, a chael cyfle i wneud gweithgareddau addysg anffurfiol, yn eich clwb ieuenctid lleol, yn eich clwb ffermwyr ifanc lleol—beth bynnag sydd yn eich ardal chi. Mae sicrhau bod hynny ar gael i bobl ifanc yn hanfodol, hanfodol bwysig os ydym am ymdrin nid yn unig â chyrhaeddiad, ond hefyd i ymdrin â materion sy'n ymwneud â lles, oherwydd dyna'r gwasanaeth, mewn sawl ffordd, y gallwn ei ddefnyddio i ymdrin â materion sy'n ymwneud â lles.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a chroesawu'r cynllun y mae hi wedi'i gyhoeddi heddiw? Rydym yn gwybod, wrth gwrs, fod yna heriau, ond rwy’n meddwl bod croeso mawr i’r cynllun a’i bod yn ddefnyddiol iawn cael popeth mewn un ddogfen, mewn un lle, gyda'r amserlenni ynghlwm. Rwyf hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad yr ydych wedi'i wneud am y cwricwlwm a'r ymagwedd fesul cam. Rwy'n meddwl mai'r peth pwysicaf wrth wneud rhywbeth mor uchelgeisiol â hyn yw ein bod yn ei wneud yn iawn ar gyfer dysgwyr, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi gwrando ac wedi ymateb yn y modd hwnnw. Fel y gwyddoch, mae'n faes y mae'r pwyllgor wedi edrych arno ac y mae'n parhau i edrych arno. Un o'r materion a godwyd yw nad oedd yr ysgolion nad ydynt yn ysgolion arloesol yn teimlo eu bod wedi eu cynnwys yn ddigonol na’u bod wedi cymryd rhan ddigonol yn y broses. Felly, hoffwn ofyn beth yw eich cynlluniau, ar gyfer y dyfodol, i sicrhau bod hynny'n newid a'n bod ni i gyd ar yr un daith yng Nghymru.
Roeddwn hefyd yn falch iawn o weld y pwyslais cryf iawn yn y ddogfen hon ar yr angen i wella addysg a datblygiad proffesiynol i athrawon. Fel y gwyddoch, mae hynny hefyd yn fater y mae'r pwyllgor yn ei ystyried. Un o'r pryderon a fu gennyf i yw y gall cychwyn ar rywbeth mor uchelgeisiol â diwygio'r cwricwlwm dynnu sylw rhai pobl oddi wrth yr angen hollbwysig i sicrhau bod gennym addysgu o’r safon orau bosibl. Fel y gwyddoch, mae hwn yn fater y mae Estyn wedi'i godi'n rheolaidd fel un o feysydd gwannaf ein system. Felly, hoffwn ofyn sut ydych chi’n bwriadu sicrhau, ar gyfer y dyfodol, ein bod i gyd yn canolbwyntio'n llawn ar hynny yn benodol yn y proffesiwn.
Ond rwyf am roi croeso cynnes iawn heddiw i’r pwyslais yn y cynllun ar lesiant. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn teimlo'n gryf iawn amdano. Mae'r pwyllgor yn cychwyn ar ymchwiliad newydd i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac rydym yn credu bod gan yr ysgolion ran gwbl sylfaenol i’w chwarae yn hynny o beth. Fel y gwyddoch, mae llawer iawn o arfer da yno mewn ysgolion unigol. Rydych wedi cyhoeddi'r cynllun treialu ddoe gyda'r Ysgrifennydd iechyd. Ond hoffwn ofyn, o ran ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth gyffredinol honno i blant a phobl ifanc, sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod yr arfer da hwnnw’n cael ei gyflwyno cyn belled ag y bo modd ledled Cymru, ond yn bwysicach sut yr ydych yn bwriadu sicrhau bod ysgolion yn atebol am gyflawni’r agenda lles.
Dim ond i gau drwy ddweud fy mod, fel Llyr, yn croesawu'r pwyslais ar waith ieuenctid yn fawr. Mae'n wych ei weld yn cael ei brif ffrydio mewn dogfen fel hyn a gweld cydnabyddiaeth lawn i’r rhan y mae'n ei chwarae. Diolch.
Diolch, Lynne. Holl ddiben y ddogfen yw ymateb i feirniadaeth yr OECD am ddiffyg cyfathrebu blaenorol gan y ganolfan, a rhaid inni wrando ar hynny a’n dal ein hunain yn atebol am eglurder o ran y cyfathrebu hwnnw a chydlyniad ynghylch yr holl feysydd diwygio sy’n digwydd ar hyn o bryd. Mae llawer o ddiwygio, ac weithiau mae pobl yn gofyn y cwestiwn, ‘Wel, pam ac i ba ddiben?’ Os ydym ni’n dymuno i'r proffesiwn ymgysylltu â hyn, mae'n rhaid inni fod yn glir iawn ein hunain, a dyna beth mae'r cynllun yn ymroddedig i'w wneud.
Mae addysgu o safon yn gwbl ganolog i’r cynllun, ac rydym yn cychwyn, fel y gwyddoch, ar ystod o raglenni, ond dim ond i dynnu sylw at yr agwedd genedlaethol tuag at ddysgu proffesiynol a beth mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd. Felly, rydym yn gweithio gyda'r consortia addysg rhanbarthol ar hyn, ac mae tri phrif faes yr ydym yn canolbwyntio arnynt yn fras. Y cyntaf yw helpu pob athro i ddeall y cwricwlwm newydd a’r ymagweddau addysgu newydd yn llawn, a pharatoi amdanynt. Mae hynny pa un a ydych mewn ysgol arloesi ai peidio, oherwydd mae angen i’n holl athrawon ddeall nodweddion sylfaenol yr ymagwedd newydd hon at y cwricwlwm. Mae hynny eisoes ar y gweill, ac mae ein safonau addysgu proffesiynol newydd yn allweddol i gyflawni hyn, oherwydd maen nhw'n creu'r hawl honno i athrawon ddweud, ‘Mae gen i hawl i'r dysgu proffesiynol parhaus hwn drwy gydol fy ngyrfa.’
Mae yna sgiliau mwy penodol y bydd eu hangen ar bob athro, unwaith eto, ac mae'r rheini'n ymwneud ag asesu, dylunio’r cwricwlwm a'r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd y bydd ganddynt i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn. Mae rhywfaint o'r gwaith hwnnw ar y gweill ar hyn o bryd, ond mae angen inni ddatblygu hynny ymhellach wrth inni symud ymlaen. Dyna un o'r rhesymau pam y mae angen inni addasu'r amserlen ar gyfer y cwricwlwm: i sicrhau bod y math hwnnw o gynnig dysgu proffesiynol ar gael yn gyson, ledled Cymru gyfan. Wrth gwrs, yna, bydd anghenion cymorth penodol yn codi o'r meysydd dysgu unigol a phrofiad sy'n benodol i bwnc neu’n benodol i faes dysgu a phrofiad. Felly, mae tair elfen i'r cynnig dysgu proffesiynol a fydd ar gael gennym.
Fel chi, Lynne, mae gen i ymrwymiad personol i les. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw na allwn ddisgwyl i blant wneud y gorau o'u cyfleoedd addysgol os ydynt yn ymdopi â phethau eraill yn eu bywyd. Ni allaf atal profedigaeth. Ni allaf atal rhieni rhai plant rhag gwahanu. Ni allaf atal trawma arall ym mywyd y plentyn hwnnw. Ond yr hyn y gallwn ei wneud yw helpu i sicrhau bod gan y plant hynny y gwydnwch sydd ei angen arnynt, felly pan fydd bywyd yn anochel yn rhoi amser anodd iddynt, a bydd amser anodd iddynt, bydd ganddynt adnoddau y gallant eu defnyddio i reoli'r sefyllfaoedd hynny’n briodol ac ymateb iddynt heb iddynt fod yn draul arnynt. Mae hynny i’n holl blant. Ni ddylem ddisgyn i mewn i'r trap o ddweud mai dim ond un math penodol o blentyn sy'n dioddef o hynny, oherwydd mae’r rhain yn wirioneddau cyffredinol. Dyna pam yr ydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth. Bydd y prosiect newydd a gyhoeddwyd ddoe yn digwydd yn eich etholaeth yn Nhorfaen, ac ym Mlaenau Gwent ac yn ne Powys. Bydd Wrecsam a Sir Ddinbych a Cheredigion oll yn cymryd rhan yn y prosiect hwnnw, ac rydym yn gobeithio gweld y dysgu hwnnw—. Rydym yn ceisio dysgu oddi wrth hynny fel y gallwn sicrhau y caiff ei gyflwyno’n gyson ledled y wlad. Yn hollbwysig, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm newydd yn cynnwys maes dysgu a phrofiad iechyd a lles, felly bydd hyn yn rhan annatod o'r hyn a wnawn yn ein hysgolion a bydd ganddo statws cyfartal i'r meysydd dysgu a phrofiad eraill o fewn y cwricwlwm. Dyna un o'r pethau cyffrous, rwy’n meddwl, o ran pam yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn.
Estyn. Wel, wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi—. Rwy'n gefnogol iawn o'r adolygiad y maen nhw eu hunain wedi ei gyhoeddi, oherwydd oni bai bod Estyn ac arolygwyr yn cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, eto, bydd ysgolion yn dilyn yr hen arfer ac yn gwneud yr hyn y maent yn meddwl sydd ei angen gan Estyn. Felly, mae angen inni sicrhau bod ein trefn arolygu Estyn yn cyd-fynd â'n cwricwlwm newydd, fel nad oes anghysondeb a dryswch i ysgolion, a chawn adroddiad yr adolygiad y flwyddyn nesaf.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu eich cyhoeddiad y caiff y cwricwlwm newydd ei gyflwyno fesul cam, ond gwnaf hynny gydag ychydig o rybudd. Ar y naill law, mae cyflwyniad graddol yn gwneud synnwyr; er enghraifft, mae'n galluogi datrys problemau am ei fod yn newydd ac mae'n rhoi mwy o amser i athrawon, fel y gwnaethoch ddweud, i addasu; fodd bynnag, mae'n sicr y bydd yn golygu y bydd rhaid i o leiaf rai staff addysgu dau gwricwlwm gwahanol, ac mae'r potensial am straen a dryswch ychwanegol i athrawon, disgyblion a rhieni yn peri pryder imi. Ydych chi wedi ymgynghori ag athrawon ynghylch yr her bosibl hon a sut i roi sylw iddi? Pa gefnogaeth, cymorth a chyngor ydych chi'n mynd i’w cynnig i athrawon ac arweinwyr ysgolion i hwyluso'r cyfnod pontio?
Ni waeth pa mor dda fydd y cwricwlwm newydd, mae safon yr addysgu’n allweddol. Mae hynny’n rhywbeth yr ydych eisoes wedi'i grybwyll heddiw: safon yr addysgu. Felly, hoffwn ichi esbonio sut y bydd y drefn safonau athrawon newydd yn sicrhau y caiff y cwricwlwm newydd ei addysgu mor effeithiol a chystal â phosibl. Sut y bydd y safonau newydd yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r cwricwlwm newydd ac yn sicrhau bod unrhyw staff addysgu nad ydynt yn perfformio i'r safon gywir yn cael eu helpu i gyflawni hynny, ac os na allant, yn cael eu helpu at lwybr arall?
Mae undebau addysgu wedi dweud na fydd athrawon yn barod i addysgu'r cwricwlwm newydd, ac rwy’n meddwl bod y ffordd yr ydych yn bwriadu ei gyflwyno o leiaf yn rhannol yn ymateb i hynny. Ond sut ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, hyd yn oed gyda'r amser ychwanegol, y bydd yr athrawon hynny’n barod ac yn hyderus i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn unol â'ch amserlen?
Yn olaf, rydych yn cyfeirio at yr adroddiad addysg a'r cerdyn adrodd. Hoffwn ichi roi ychydig mwy o fanylion am hyn. A fyddech chi'n esbonio sut y bydd yn gweithio a beth fydd yr amcanion? Rydych hefyd wedi dweud eich bod am gael asesiadau ac atebolrwydd cadarn a gwell. Rwy’n gofyn: asesiadau ac atebolrwydd i bwy, a sut ydych chi'n rhagweld y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol? Diolch.
A gaf i ddiolch i Michelle am ei chwestiynau? Y mater allweddol i'r gyfres gyntaf o gwestiynau yw dysgu proffesiynol ac, fel yr wyf wedi'i amlinellu wrth siaradwyr blaenorol, mae llinell amser gynhwysfawr yn gysylltiedig â'r hyn yr ydym yn disgwyl ei gyflawni ar gyfer model dysgu proffesiynol cenedlaethol, yn ogystal â gwell addysg gychwynnol i athrawon. Mae'r safonau addysgu ac arweinyddiaeth newydd yn rhan bwysig o hyn, gan eu bod yn nodi'n glir y disgwyliad ein bod yn disgwyl i athrawon fod yn ddysgwyr gydol oes eu hunain. Nhw ddylai fod y myfyriwr gorau yn yr ystafell ddosbarth. Nid oes gen i amser i rywun sy'n honni eu bod nhw wedi meistroli’r grefft. Mae cyfle bob amser i barhau i ddysgu mwy ac i adlewyrchu hynny yn eich ymarfer yn yr ystafell ddosbarth.
Ond dewch inni beidio—. Dewch inni beidio â chymysgu safonau addysgu â materion sy'n ymwneud â chymhwysedd proffesiynol. Maent yn ddau beth gwahanol iawn, iawn, ac mae dwy broses wahanol iawn ar gyfer ymdrin â hynny. Rhaid inni beidio â meddwl bod y safonau proffesiynol hyn yn fater o ymdrin â materion sy'n ymwneud â chymhwysedd proffesiynol. Mae angen inni wneud mwy. Mae angen inni wneud mwy i gefnogi staff sy'n cael trafferth ac i sicrhau bod ganddynt y cyfle i ymdrin ag anawsterau yn eu perfformiad, ac mae angen inni wneud mwy i gefnogi ysgolion fel cyflogwyr ac AALlau os ydynt yn eu canfod eu hunain mewn sefyllfa lle, er gwaethaf yr holl ymdrechion gorau, na ddylai rhywun aros yn yr ystafell ddosbarth, ond mae hynny'n wahanol i'r safonau addysgu proffesiynol a'r disgwyliadau a nodir.
Rwy'n falch bod Michelle wedi sôn am fater y cerdyn adrodd a'r adroddiad blynyddol cenedlaethol, gan nad oes neb arall wedi sôn am hynny, ac mae'n fenter newydd pwysig. Rydym wedi edrych ar arfer gorau rhyngwladol, ac mae'n hawdd iawn dal ysgolion unigol i gyfrif drwy fodel categoreiddio ysgolion; mae hyn yn fater o ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif. Mae hyn yn fater o eistedd yn flynyddol i farnu ble yr ydym fel cenedl o ran ein system addysg—ie, o ran cyrhaeddiad, ond edrych hefyd ar y penderfynyddion ehangach yr ydym yn sôn amdanynt yn y ddogfen hon. Ac mae'n fater o hunan-fyfyrio fel Llywodraeth ar ble yr ydym. Os hoffai Michelle edrych ar enghreifftiau rhyngwladol o arfer gorau, byddwn yn tynnu ei sylw at y system yn Ontario, er enghraifft, yr ydym wedi bod yn dysgu llawer amdani. Felly, mae’n fater o’n dwyn ni i gyfrif, nid dim ond dwyn athrawon i gyfrif, neu ysgolion i gyfrif, neu’r consortia i gyfrif, ond dwyn y Llywodraeth hon i gyfrif am ei pherfformiad yn genedlaethol, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am hynny.
Diolch. Mae gen i bum siaradwr arall. Rydym wedi cael un o bob un o'r pedair plaid, felly, os gall y pum siaradwr ofyn cwestiwn, rwy'n barod i ymestyn y sesiwn. Os byddaf yn gweld na allwch, byddaf yn torri'r sesiwn i lawr. Jenny Rathbone.
Diolch am eich datganiad a'ch agwedd fwriadol at gyflwyno hyn a gwneud llwyddiant ohono. Mae fy nghwestiwn am amcan 3. Ni all rhai pethau aros, felly a wnewch chi edrych ar yr ymchwil a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal gan yr Athro Allyson Pollock am bwysigrwydd peidio â gadael i blant gael gwrthdrawiadau mewn chwaraeon cyswllt, a gwahardd taclo rygbi mewn ysgolion? Roedd hi'n iawn am Fenter Cyllid Preifat, felly mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd sylw o'r ymchwil hwn, gan ei fod yn cyfrannu'n fawr at gyfergyd mewn pobl ifanc.
Diolch, Jenny, am hynny. Rwy'n gwybod bod fy rhagflaenydd, Huw Lewis, wedi cwrdd ag ymgyrchwyr ar y mater penodol hwn a bod datganiadau wedi’u cyhoeddi bryd hynny. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn mynd ati i ymdrin â'r achos hwn a byddwn yn gweithio ar draws y Llywodraeth i edrych ar dystiolaeth ac i edrych ar ffyrdd ymlaen.
Cymerodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth gan Mick Waters yr wythnos diwethaf, ac rwy’n croesawu’r hyn a ddywedasoch am wahanu cymhwysedd a'r safonau newydd. Ond mae gen i rywfaint o bryder am yr iaith a ddefnyddir mewn rhai o'r safonau. Mae'n eithaf cymhleth ac mae'n cymryd peth amser i’w dehongli. Dywedodd Mick Waters eu bod wedi cael sgyrsiau hir pan oedd y gweithgor yn datblygu eu disgrifyddion a bod angen iddynt fod—a allent fod mor fanwl nes na ellir eu camddehongli, sy’n golygu eu bod mewn perygl o ddod yn ystrydebol, neu a ydynt yn mynd yn gymhleth ac weithiau'n anodd gwneud synnwyr ohonynt i ddechrau. A’r adborth gan athrawon oedd eu bod yn gwerthfawrogi'r disgrifyddion cymhleth. Nawr, rwy’n pryderu am hynny oherwydd cefais drafferth i ddehongli rhai o'r disgrifyddion fy hun, o ystyried y cymhlethdod a'r iaith. Pa ran y bydd y Cyngor Gweithlu Addysg yn ei chwarae, lle gallai’r anawsterau hynny fodoli, i helpu i’w mireinio?
Rwyf hefyd wedi nodi bod y pasbort dysgu proffesiynol yn cael ei grybwyll sawl gwaith yn y disgrifyddion, yn y safonau. Er enghraifft, mae'n nodi bod y pasbort dysgu proffesiynol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ymarfer myfyriol a chofnodi ymrwymiad gweithgar i ddysgu proffesiynol parhaus. Gwyddom nad yw'r pasbort dysgu proffesiynol wedi cael ei ddefnyddio gan lawer o bobl, er gwaethaf y gwerth £300,000 o arian gan Lywodraeth Cymru. Felly, sut y caiff y pasbort dysgu proffesiynol ei fewnosod ymhellach i alluogi'r disgrifyddion a'r safonau newydd i gael eu defnyddio'n effeithiol? Rwyf i o’r farn bod gan y Cyngor Gweithlu Addysg ran bwysig i'w chwarae yma a hoffwn weld swyddogaeth fyfyriol well i'r Cyngor Gweithlu Addysg wrth ddatblygu'r safonau proffesiynol.
Diolch yn fawr iawn, Hefin. Hoffwn eich sicrhau bod y safonau addysgu wedi cael eu datblygu gan y gweithwyr proffesiynol ar gyfer y gweithwyr proffesiynol, ac, yn wir, eu bod hefyd wedi cael eu treialu mewn ysgolion cyn iddynt gael eu mabwysiadu'n ffurfiol. Mae'n destun pryder imi nad yw'r pasbort dysgu proffesiynol wedi cael ei ddefnyddio fel yr hoffwn. Rwy’n meddwl bod ganddo botensial go iawn, ac mae angen inni fyfyrio ar sut y gallwn ei wneud mor hawdd i weithwyr proffesiynol ei ddefnyddio â phosib ac mor berthnasol i'w ddefnyddio â phosib—heb orfod mynd adref a threulio oriau ac oriau’n gwneud gwaith ychwanegol, ond, mewn gwirionedd, sut y gallant ddefnyddio hynny’n rhyngweithiol wrth iddynt wneud eu gwaith bob dydd, gan rannu hynny â gweithwyr proffesiynol eraill yn eu hysgolion, ac wrth gwrs, mae technoleg gwybodaeth yn ffordd wych y gallwn ymdrin â rhywfaint o hynny. I ddechrau roedd gan y Cyngor Gweithlu Addysg ran i'w chwarae yn y gwaith cychwynnol ar safonau addysgu a gynhaliwyd gan y weinyddiaeth flaenorol. Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg yn sefydliad newydd. Maent wedi gwneud gwaith aruthrol o dda wrth gofrestru'r holl wahanol broffesiynau yr ydym nawr yn gofyn iddynt eu cofrestru. Mae ganddynt swyddogaeth newydd bwysig o ddilysu cyrsiau addysg cychwynnol i athrawon a byddwn yn myfyrio’n gyson am swyddogaethau eraill y gallai'r Cyngor Gweithlu Addysg eu cyflawni ar ein rhan.
Rwy’n datgan buddiant fel cyn athro. Rwy'n gwybod beth a ddywedasoch am safonau proffesiynol, ac mae llawer o sôn am safonau generig a chodi safonau, a llawer o sloganau, llawer o eiriau. Ond rwy'n poeni am y manylion, a dweud y gwir. Felly, tybed a wnewch chi ganiatáu imi roi prawf bach ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. A allwch amlinellu cynnwys y cymhwyster addysgu newydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu—beth mae'n ei olygu a faint o oriau y mae'n ei gymryd mewn gwirionedd, gan nad yw wedi gwneud argraff dda iawn ar y cynorthwywyr addysgu yr wyf i yn siarad â nhw?
Wel, mae'n ddrwg gennyf glywed hynny. Yng Nghymru, rydym yn draddodiadol wedi defnyddio cynorthwywyr addysgu’n effeithiol iawn. Mae'n ddiddorol iawn, pan fyddaf yn ymweld â gwledydd eraill, fel y Ffindir, ac, yn fwyaf diweddar, ysgolion de Iwerddon, nad yw cynorthwywyr addysgu yn chwarae rhan yn y system addysg o gwbl, neu maent yn gwneud hynny i raddau bach iawn, iawn, iawn. Fel arfer, yr unig oedolyn yn yr ystafell yw'r athro cymwysedig. Nawr, rwy'n meddwl bod gan gynorthwywyr addysgu ran bwysig i'w chwarae, yn enwedig yn ein cyfnod sylfaen, ac os oes cwestiynau am ansawdd y cyfleoedd dysgu proffesiynol sydd gan ein cynorthwywyr addysgu, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag Unison i siarad am y rhain ac rwy’n hapus i sôn amdanynt.
Ond beth ydyw?
Roedd yn gwestiwn. Rhianon Passmore.
Diolch. Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu'r cynllun gweithredu fel cam cadarnhaol a thrawsnewidiol ymlaen i Gymru, ac mae fy nghwestiwn mewn gwirionedd yn seiliedig ar y ffaith bod gennym y canlyniadau TGAU gorau erioed i Gymru. A ydym ni’n hunanfodlon ar y daith honno wrth symud ymlaen? Ydych chi'n teimlo bod y bwlch cyrhaeddiad yr ydym bellach yn ei gau yn cau'n ddigon cyflym? Ydych chi'n hyderus iawn mai'r ffordd ymlaen inni yw parhau â sylwadau’r OECD ynghylch y ffaith mai'r cwricwlwm trawsffurfiol hwn yw'r ffordd gywir ymlaen i Gymru? Diolch.
A gaf i ddweud nad wyf yn hunanfodlon o gwbl? A yw'r bwlch cyrhaeddiad yn cau'n ddigon cyflym? Nac ydy. Rydw i'n pryderu'n arbennig am y ffaith bod ein plant sy’n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i fethu â chyrraedd yr un lefelau cyrhaeddiad â'u cyfoedion cyfoethocach. Ond rydw i hefyd yr un mor bryderus ynglŷn â chyn lleied o blant mewn rhai awdurdodau lleol sydd ar Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy sy’n cyrraedd y trothwy lefel 2+. Mewn rhai awdurdodau lleol mae'n destun pryder go iawn. Rwyf hefyd yn pryderu, er enghraifft, am blant nad ydynt yn cael eu haddysg mewn ysgol draddodiadol, boed hynny mewn uned cyfeirio disgyblion neu mewn addysg heblaw yn yr ysgol. Felly, mae llawer iawn o lefelau i'r mater hwn o gwmpas y bwlch cyrhaeddiad. Nid dim ond mater o brydau ysgol am ddim yw hwn. Mae'n ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae'n ymwneud ag addysg heblaw yn yr ysgol, ac mae'r cynllun gweithredu hwn yn nodi'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud gyda phob agwedd ar hynny.
Diolch. Ac, yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf y datganiad heddiw, ond a allaf ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet esbonio sut y bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu addysg yn yr iaith Gymraeg yn enwedig? Rwy’n falch o gael dwy ysgol Gymraeg ardderchog yn fy etholaeth i. Mae ysgol Llangynwyd yn gwasanaethu’r gorllewin, ac mae Llanhari yn gwasanaethu’r dwyrain, ond bydd y ddwy yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i ddigon o athrawon ffiseg a chemeg a mathemateg ac ati. Gyda’r galw cynyddol am addysg i’r lefel uchaf yn y Gymraeg ym mhob pwnc, sut ydym ni yn sicrhau ein bod yn gwella safonau addysgol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig ym mamiaith Cymru?
Mae'n ddrwg gennyf, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn siŵr a ddeallais i hynny i gyd. Ond yr hyn y gwnaf ei ddweud yw: Huw, rydych chi'n hollol gywir. Os ydym ni am gael system addysg deg, mae angen inni sicrhau bod gan blant gyfle cyfartal, boed hynny mewn darpariaeth cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. A, dyna, unwaith eto, un o'r rhesymau dros wneud penderfyniad ynghylch arafu cyflwyniad y cwricwlwm ychydig, fel y gallwn ymdrin â'r anghenion yn benodol yn y sector cyfrwng Cymraeg. Mae yna nifer o raglenni y gallwn eu defnyddio i wneud hynny. Felly, dyna ffyrdd eraill i mewn i addysgu i fyfyrwyr mwy aeddfed. Mae'n fater o ddatblygu efallai pobl sy'n gweithio mewn swydd cymorth dysgu ar hyn o bryd. Mae'n fater o gynyddu ein cynlluniau secondiad, fel y gall pobl sydd â gallu iaith gael seibiant o'r ysgol i fynd i'w ddatblygu ymhellach.
Mae hyd yn oed yn ymwneud â datblygiadau technolegol arloesol. Felly, mae swyddogion wedi bod yn ddiweddar i edrych ar ddarpariaeth addysg Gaeleg yn yr Hebrides Allanol. Bobol bach, os ydym ni’n meddwl bod gennym heriau yng Nghymru wledig, ewch i'r Hebrides Allanol ac edrychwch i weld sut ydych chi’n darparu system addysg ddwyieithog yn yr Hebrides Allanol. Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi Gaeleg—[Torri ar draws.] Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi Gaeleg—[Torri ar draws.] Fel yr oeddwn yn ei ddweud, roedd fy swyddogion yno dros yr haf. Un o'r ffyrdd y maent wedi cefnogi hynny yw â’r e-ysgol, ac mae hynny wedi bod yn hollol wych o ran cyrhaeddiad y plant hynny. Felly, mae ganddynt athrawon prifysgol yn addysgu gwyddoniaeth drwy'r Gaeleg dros gyswllt rhyngrwyd. Mae ganddynt athro athroniaeth mewn prifysgol yn addysgu athroniaeth drwy'r Gaeleg dros gyswllt. Mewn gwirionedd, beth mae hyn yn ei wneud yw galluogi mwy o blant a rhieni i wneud y dewis cadarnhaol hwnnw ynglŷn â dysgu drwy'r Gaeleg, ac yna mae hynny, ynddo'i hun, yn sbarduno mwy o alw i allu dangos i bobl, ‘Mae gennych chi gyfle proffesiynol go iawn a gyrfa gydol oes pe byddech chi'n symud i'r sector hwn’. Felly, rydym wrthi'n edrych i weld a yw'r atebion technolegol hynny sy'n cael eu defnyddio’n arloesol mewn rhannau eraill o'r byd—a allwn ni fabwysiadu rhywfaint o'r arfer gorau hwnnw yma yng Nghymru i ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet.