– Senedd Cymru ar 26 Medi 2017.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar ddata a bod yn fwy agored a hygyrch, ac rwy’n galw ar y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i wneud y cynnig—Julie James.
Cynnig NDM6507 Jane Hutt
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.
2. Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn agor y ddadl hon heddiw i ganolbwyntio ar sut a pham y dylem ni fod yn gwneud data yn fwy agored a hygyrch. Dechreuaf drwy egluro mai yr hyn yr wyf yn sôn amdano yma yw data sy'n ymwneud â materion nad ydynt yn bersonol nac yn sensitif.
Mae ein hymwneud â menter y Bartneriaeth Llywodraeth Agored yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fod yn Llywodraeth fwy agored, atebol a chyfrifol i ddinasyddion. Fel gyda meysydd eraill o'r DU, mae data agored yn chwarae rhan allweddol yng ngallu ein Llywodraeth i fod yn Llywodraeth fwy agored ac ymatebol.
Mae pob un ohonom yn gwybod bod data yn adnodd hynod werthfawr yn y byd sydd ohoni, ac, o’i wneud yn haws cael gafael arno, gall gynnig nifer o fanteision a chyfleoedd i’r ddwy Lywodraeth ac i'n dinasyddion. Mae'n dod yn rhan hollbwysig o'r seilwaith cenedlaethol, ac mae manteision ecosystem data agored, gadarn, yn cynnwys bod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol, gan ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth o sut y mae Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn perfformio, a sut y mae eu cyllidebau yn cael eu defnyddio. Gall alluogi gwell cynllunio a thargedu gwasanaethau, sydd yn ei dro yn arwain at fwy o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd ac arbedion. Gall ysgogi arloesedd a thwf economaidd wrth i’r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio ddatblygu, a gwella bywydau bob dydd pobl, ac o ganlyniad, eu gallu economaidd i ymuno yn ein cymdeithas. Mae'n fodd o ymrymuso’r cyhoedd ymhellach a rhoi mwy o gyfleoedd iddynt gymryd rhan. Mae'n helpu pobl i fod â’r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau ac yn eu galluogi i gymryd rhan lawer mwy gweithredol yn ein cymdeithas. Gall hefyd leihau baich ceisiadau rhyddid gwybodaeth ar y Llywodraeth, a helpu i leihau'r data a'r gofynion adrodd yr ydym ni wedi'u gosod ar awdurdodau cyhoeddus trwy sicrhau bod yr wybodaeth ar gael yn gyhoeddus ac yn rhwydd i'n holl ddinasyddion.
Rydym ni wedi gwneud cynnydd da hyd yn hyn. Gwnaethom gyhoeddi ein cynllun data agored cyntaf erioed ym mis Mawrth 2016, ac rydym ni’n gwella ein llwyfannau data agored ystadegol a gofodol, StatsCymru a Lle. Yn wir, gwnaeth ein hadroddiad ar les Cymru, a gyhoeddwyd ddoe, ddefnydd uniongyrchol o ddata agored StatsCymru, gan arwain at effeithlonrwydd sylweddol o ran datblygiad a chynnal a chadw'r safle hwnnw yn y dyfodol. Ac yn fwy diweddar, rydym ni wedi bod yn canolbwyntio ar gyhoeddi gwybodaeth reoli yn agored.
Fodd bynnag, er ein bod wedi gwneud cynnydd da, mae mwy y gellir ei wneud o hyd, nid yn unig wrth wneud data Llywodraeth Cymru yn fwy agored, ond wrth annog eraill i wneud eu data yn fwy agored hefyd. Er enghraifft, mae mwy i ni ei wneud wrth wneud gwybodaeth reoli yn fwy agored. Un maes yr ydym yn ei archwilio ar hyn o bryd yw cyhoeddi data gweithlu'r sector cyhoeddus yn agored o ran faint o bobl sy'n cael eu cyflogi, ar ba lefel ac yn y blaen. Rydym ni hefyd yn parhau i weithredu ein hymrwymiadau yn y cynllun data agored.
Un ffactor allweddol wrth wireddu buddion cysylltiedig yr holl ddata hwn yw sicrhau bod ein data mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio a'i ailddefnyddio’n gyson, a dyna pam ei bod yn bwysig i ni ddarganfod ffyrdd y gallwn ni annog arloesi o ran ei ddefnyddio. Rydym ni’n dechrau ailddefnyddio peth o’n data. Yn fwy diweddar, defnyddiodd Swyddfa Archwilio Cymru ein data agored mewn prosiect i roi gwybodaeth i'w harchwilwyr, er enghraifft. Fe hoffem ni yn fawr iawn weld mwy o hyn ac fe hoffem ni annog y rhai hynny sydd â'r gallu a'r sgiliau i ddefnyddio ein setiau data agored yn llawn.
Fe hoffwn i roi enghraifft i Aelodau o'r hyn yr wyf yn ei olygu gan hyn. Rydym ni, er enghraifft, yn cyhoeddi sgoriau hylendid bwyd ar gyfer yr holl fwytai mewn ardal benodol. Ar hyn o bryd, fe allech chi grwydro o gwmpas ac efallai y gwelwch chi’r sgoriau hylendid bwyd hynny a ddefnyddiwyd wedi’u harddangos ar y drysau neu mewn man amlwg yn y bwytai. Ond os oeddech chi’n ddieithr i'r ardal, efallai na fyddwch chi eisiau crwydro’r holl strydoedd yn chwilio am wahanol sgoriau hylendid. Oherwydd ein bod yn cyhoeddi'r wybodaeth mewn diwyg agored a hygyrch, os edrychwch am 'apiau sgôr hylendid bwyd' mewn siop app, fe allwch chi ddod o hyd i lawer o apiau erbyn hyn—mae rhestr eithaf hir ohonynt—a fydd yn dweud wrthych chi ble mae'r bwytai sydd â’r sgorau hylendid bwyd uchaf ac isaf yn yr ardal yr ydych chi'n sefyll ynddi. Ac mae hynny'n ddefnydd—defnydd masnachol, arloesol—sy'n ddefnyddiol i'r dinesydd, o ddata agored a gyhoeddir gan y Llywodraeth. Mae’n ddefnydd da iawn o'n data sy'n ddefnyddiol i ddinasyddion. Nid yw o fudd penodol i ni, ond mae'n dangos sut y gallwch chi ysgogi gwelliant mewn gwasanaethau dinasyddion trwy rywbeth mor syml â bod rhywun yn ei ad-drefnu. Nawr, byddai'r data hwnnw wedi bod ar gael o'r blaen, ond byddai wedi bod yn orchwyl anodd iawn i rywun alinio'r cyfan, ond gallwch weld bod nifer o bobl eisoes wedi nodi hynny. Felly, dyna'r math o beth yr ydym ni’n ceisio ei annog. Rydym ni’n awyddus iawn i weld mwy o hyn, ac rydym ni eisiau annog y rhai hynny sydd â'r gallu a'r sgiliau i ddefnyddio ein setiau data agored yn llawn i wneud defnydd llawn ohonynt.
Rydym ni’n awyddus iawn ein bod ni'n gweithio gydag eraill i drefnu digwyddiadau i herio data agored, gan ddod â phobl o gefndiroedd amrywiol at ei gilydd, i dynnu eu sylw at ba mor llwyddiannus y gallan nhw fod mewn gwirionedd wrth fynd ati i ddefnyddio ein setiau data i ddatblygu'r math hwn o wasanaeth i ddinasyddion.
Rydym ni hefyd yn datblygu enghreifftiau eraill o sut y gall data agored yng Nghymru gael effaith gadarnhaol a sut y bydd yn helpu i argyhoeddi eraill o'r manteision o wneud data yn fwy agored a hygyrch. Felly, ynghyd â chyflwyno canllawiau ac addasu ein prosesau ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau, fe ddylem ni gael effaith wirioneddol ar yr agenda data agored yng Nghymru trwy gyhoeddi'r holl wybodaeth honno.
Felly, byddaf i’n cefnogi'r gwelliant cyntaf. Rydym ni wedi ymrwymo i leihau'r baich sy'n gysylltiedig â chasglu data a, pan fo hynny’n bosibl, yn cefnogi hyn trwy annog mwy o gyhoeddi data agored. Rydym ni’n awyddus iawn i wella’r broses o rannu data yng Nghymru, ac rydym ni’n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio'r darpariaethau rhannu data sydd yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017. Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r ail welliant. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y data a gasglwn yn bodloni anghenion ein defnyddwyr. Rydym ni eisoes yn adolygu ein casgliadau data ystadegol yn rheolaidd, gan ymgynghori ag ystod lawn o randdeiliaid. Dylem ni hefyd sicrhau bod yr wybodaeth a gawn ni gan awdurdodau cyhoeddus at ddibenion eraill yn gymesur ac yn cael ei gadw i’r lefel isaf posibl.
Yn anffodus, ni fyddwn yn cefnogi'r trydydd gwelliant. Er ein bod yn ceisio annog awdurdodau lleol i gynyddu faint o ddata maen nhw’n ei gyhoeddi yn agored, mae angen i ni gadw mewn cof y goblygiadau y byddai hyn yn eu rhoi arnynt o ran adnoddau. Rydym ni, fodd bynnag, yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i benderfynu pa ddata y dylid ei gyhoeddi yn agored, gan gynnwys ystyried, er enghraifft, pa mor ymarferol yw cyhoeddi gwariant sy’n fwy na throthwy isaf.
Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r pedwerydd gwelliant. Rydym ni’n cytuno mewn egwyddor y dylem ni geisio gallu cymharu ein perfformiad â gweddill y DU ac, yn wir, â gwledydd eraill hefyd. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl ar hyn o bryd oherwydd gwahaniaethau polisi. Ac, yn gyntaf ac yn bennaf, mae'n rhaid i ni roi blaenoriaeth i fonitro data sy'n berthnasol i gyd-destun polisi Cymru.
Felly, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu cefnogaeth yr Aelodau i egwyddorion data agored yn ystod y ddadl hon, ac at weithredu hynny ym mhob rhan o fywyd cyhoeddus Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen hefyd at wrando ar eich barn ar sut y gallwn ni annog a hybu yr agenda ddata agored i wella darpariaeth ein gwasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, yn y pen draw, bywydau ein dinasyddion. Diolch.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Galwaf ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1, 2 a 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet Finch-Saunders.
Diolch. A chynigiaf i’r gwelliannau hynny, fel y crybwyllwyd. Wrth gwrs, mae bod yn agored a thryloyw yn bethau allweddol, ac rwyf i a fy nghyd-Ceidwadwyr Cymreig wedi esbonio eu rhinweddau ers tro yn y Siambr hon. Mae hi’n hen bryd cael dadl ar gynyddu natur agored a hygyrchedd data. Mae ein gwelliant cyntaf yn ceisio hwyluso gwaith rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau dyblygu o ran casglu data ledled Cymru. Dro ar ôl tro, fel ACau, rydym ni’n cwrdd â sefydliadau, yn arbennig yn y sector iechyd a'r trydydd sector, ac maen nhw’n codi materion sy’n ymwneud â dyblygu data neu ddiffyg casglu data gyda ni. Enghraifft glasurol o hyn yw ein bod ar ein hail ymholiad tlodi ac, ym mhob un o'r gweithdai, pan rydym ni wedi cyfarfod â thystion, maen nhw wedi pryderu’n fawr ynghylch sut y caiff data ei gasglu mewn amryw sefydliadau, sut y caiff ei rannu a sut y mae Llywodraeth Cymru ei hun yn casglu ac yn storio data.
Ar gyfer sefydliadau o'r fath, yn ogystal â ni fel gwleidyddion, mae data agored, wrth gwrs, yn offeryn gwerthfawr ar gyfer datblygu polisïau, craffu a chystadlu. Er enghraifft, canfu'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ym mis Gorffennaf eleni fod rhai o wendidau allweddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn deillio mewn gwirionedd o’r ffaith y cafodd polisïau eu datblygu a pherfformiad ei fonitro heb fod unrhyw ddata priodol ar gael mewn gwirionedd. Yn ychwanegol at hyn, mae ein hail welliant yn ceisio sicrhau bod casglu data yn canolbwyntio ar gael yr wybodaeth gywir i ddylanwadu a chyflwyno newidiadau polisi cadarnhaol. Fel y nodwyd yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a drafodwyd yn y Siambr yr wythnos diwethaf, mae angen cyhoeddi data ar gyfer y cyhoedd i wella tryloywder, dealltwriaeth a ffydd yn y system. Mae ein trydydd gwelliant, felly, yn galw ar awdurdodau lleol i ddilyn yr esiampl dda a osodwyd gan Gyngor Sir Fynwy ble mae’r Ceidwadwyr wrth y llyw. Maen nhw'n cyhoeddi pob gwariant—rhywbeth y byddwn ni’n gofyn am ragor ohono yn y ddeddfwriaeth llywodraeth leol sydd ar ddod.
Llywydd, mae data agored yn hanfodol er mwyn datblygu polisïau, datblygu gwasanaethau ac atebolrwydd cyhoeddus, ond, yn anffodus, mae meysydd sylfaenol eraill lle y mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn methu. Ac, onid yw'n ddiddorol—ni chefais i fy nghyfle i ofyn y cwestiwn i'r Prif Weinidog yn gynharach—ond mewn ceisiadau rhyddid gwybodaeth a gaiff eu defnyddio oherwydd diffyg data agored, ymatebodd Llywodraeth Lafur Cymru yn llawn i 46 y cant o'r ceisiadau hynny yn unig. Nid yw hynny'n ddigon da i Lywodraeth agored a thryloyw ar unrhyw lefel.
Yn ystod yr haf hwn, canfu Sefydliad Data Agored Caerdydd fethiannau o du Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â’r gwasanaeth caffael cenedlaethol, gan nodi nad oes ganddo gynllun data agored. Nid yw'r gwaith ar y fframwaith digidol yn ystyried cynllun data agored y Llywodraeth o gwbl, ac mae hyn yn drueni oherwydd bod data agored a chaffael yn bartneriaid perffaith. Ac wrth gwrs, mae Leighton Andrews, cyn AC yma, wedi llunio'r adroddiad hwn mewn gwirionedd ac nid wyf i’n siŵr bod yr Aelodau, efallai, hyd yn oed yn ymwybodol o'r adroddiad hwn. Mae hwn wedi ei gyhoeddi ac wedi bod ar gael ers mis Mawrth eleni. Sut mae hyn yn ymwneud ag awdurdodau lleol, neu i'r bobl y tu allan—ein hetholwyr a'n trethdalwyr—nid oes syniad gen i.
Un nod y cynllun yw cynyddu sgôr bod yn agored Cymru i bedair seren erbyn mis Mai eleni. Eto i gyd, ni nodir y sgôr hon unrhyw le ar y wefan hyd yn oed, ac mae cynllun gweithredu cenedlaethol partneriaeth llywodraeth agored y DU 2016-18 yn nodi bod angen i'r gwaith yn y maes hwn barhau tan ddiwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod i gyhoeddi gwybodaeth am werthu tir gan gronfa buddsoddi Cymru mewn adfywio, na gwybodaeth am benderfyniadau gweinidogol a’r Cabinet ar Gylchffordd Cymru.
Yn olaf, mae'r cynllun data agored yn ceisio lleihau'r angen am geisiadau rhyddid gwybodaeth a lleihau'r angen i gasglu data ynghyd i ymateb i geisiadau casglu data. Eto i gyd, dim ond rai misoedd yn ôl, mynnodd Llywodraeth Cymru ddatgymhwyso mesurau deddfu oedd yn rhoi rheidrwydd ar gyrff cyhoeddus i gyhoeddi amser cyfleusterau yn rhagweithiol trwy eu Deddf Undeb Llafur (Cymru) 2017. Ac rwyf i wedi sôn am ba mor wael y mae’n ymateb i geisiadau rhyddid gwybodaeth eu hunain.
Llywydd, rydym yn cefnogi amcanion y ddadl hon a'r cynllun hwn, ond rwy’n poeni mai dim mwy na geiriau gwag a meddylfryd disylwedd yw'r ddogfen hon. Felly, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau y bydd yr adroddiad cynnydd blynyddol ar y cynllun hwn gan swyddfa'r prif swyddog digidol yn cael ei drafod yn y Siambr hon bob blwyddyn er mwyn sicrhau y gall pob plaid yma graffu yn effeithiol ar y strategaeth hon mewn gwirionedd.
Galwaf ar Sian Gwenllian i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth—Sian Gwenllian.
Diolch, Llywydd. Rydw i yn cynnig gwelliant 4. Mi fyddaf i’n defnyddio fy nghyfraniad i i’r ddadl yma heddiw er mwyn trafod pam mae casglu data perfformiad a’i gyhoeddi mewn modd sy’n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill ym Mhrydain yn bwysig. Nid yn unig er mwyn ein galluogi ni, fel gwrthbleidiau, i allu dal y Llywodraeth i gyfrif, ond mae o hefyd yn hanfodol bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddysgu a rhannu unrhyw arfer dda sydd yn bodoli yng ngwledydd eraill Prydain, a hynny er mwyn sicrhau’r gwasanaethau gorau posib i bobl Cymru.
Mi fyddaf i hefyd yn amlygu pam mae mynediad i ddata yn hanfodol bwysig yn y maes economaidd er mwyn sicrhau bod polisi’n cael ei ddatblygu ar sail y wybodaeth orau posib. Ym maes iechyd, mae prinder a safon y data sydd ar gael yn gwneud cynllunio gwasanaethau, gwerthuso mentrau a pholisïau penodol a chreu darlun llawn o berfformiad y gwasanaethau ym maes iechyd yn gynyddol anodd. Mae diffyg data a thryloywder yn y gwasanaeth iechyd yn destun pryder, gan rwystro’n gallu ni fel Aelodau’r gwrthbleidiau i graffu ar y Llywodraeth a datblygu polisïau amgen, gwell.
Yn anffodus, dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad Economaidd a Datblygiad ac adroddiadau gan y Nuffield Trust, mae llai a llai o ddata ar gael er mwyn gwneud y gymhariaeth rhwng Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae newidiadau i dargedau’r gwasanaeth ambiwlans a’r ffordd mae data’n cael ei gasglu yn golygu nad ydy hi bellach yn bosib cymharu lle rydym ni arni yng Nghymru. Nid yw hon yn ddadl dros gwtogi ar ryddid Llywodraethau i ddilyn llwybrau a pholisïau gwahanol. Mae yna ffordd o’i chwmpas hi. Fodd bynnag, mae’n iawn inni fynnu bod angen casglu data er mwyn cymharu effaith gwahanol bolisïau, yn enwedig pan fod y polisïau hynny’n datblygu ar hyd llwybrau gwahanol. Rydym ni angen Llywodraeth sy’n gweld bod gwybodaeth o fath penodol i ateb gofynion penodol o werth iddi lunio polisïau, ac mae hyn yn wir ar gyfer pob maes o lywodraethiant.
Ar hyn o bryd mae diffyg gwybodaeth economaidd sy’n benodol i Gymru, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd i lunwyr polisi ffurfio strategaeth sydd wedi ei theilwra i ofynion penodol yr economi Gymreig. Mae ffigurau Government Expenditure and Revenue Scotland yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn gan Lywodraeth yr Alban, sef data sy’n darparu dadansoddiad manwl o gyfrifon y sector gyhoeddus. Ym mis Ebrill y flwyddyn diwethaf, fe gyhoeddwyd fersiwn Cymreig gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a tra’r oeddwn i’n falch o weld Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi dadansoddiad manwl o gyflwr yr economi Gymreig, mae’n hanfodol nad rhywbeth unigryw oedd hyn a bod y Llywodraeth yn comisiynu gwaith o’r fath ar sail blynyddol a swyddogol. Mi ddylai hyn gynnwys tabl mewnbwn/allbwn manwl a set lawn o gyfrifon sector gyhoeddus, yn debyg i’r cyhoeddiad Albanaidd, achos mi fyddai hynny yn arwain at bolisïau gwell a fyddai, yn eu tro, yn rhoi hwb i dwf, i gynhyrchiant—. Cyn imi gario ymlaen, mi gymeraf i ymyriad.
Rydw i’n ddiolchgar i’r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, yw mai pwrpas cael polisi data agored yw bod y data yn ddefnyddiol, yn arbennig i ddinasyddion. Un o’r enghreifftiau sy’n cael ei ddyfynnu gan y Llywodraeth ar ei gwefan ynglŷn â’r cynllun data agored ydy’r daflen yna sydd yn crynhoi grantiau dros £25,000 y flwyddyn. Y broblem yw nad ydyn nhw ond ar gael fesul mis. Felly maen nhw ar gael am flynyddoedd, ond mae’n rhaid ichi chwilio yn ôl y mis. Allwch chi ddim gwneud rhywbeth mor syml â jest roi enw un cwmni i mewn i ffeindio faint mae’r cwmni yna wedi ei gael. Mae’n rhaid ichi fynd trwy pob un o’r ‘Excel files’ misol. Felly a gaf i apelio i’r Llywodraeth y byddai rhywbeth mor syml â chrynhoi’r data i gyd mewn un ffeil yn helpu pobl i ddefnyddio’r wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi?
Diolch yn fawr iawn am yr enghraifft benodol yna sydd yn darlunio’r broblem yn reit fanwl ac yn dangos yn glir pam mae angen inni fod yn llawer iawn mwy trefnus ac effeithiol yn y ffordd yr ydym ni’n casglu data a hefyd yn eu defnyddio nhw er budd y wlad yma. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nawr, mae cynnig y Llywodraeth heddiw yn ymddangos yn oleuedig iawn gan nad oes neb yn mynd i ddechrau dadlau bod angen i ni fod yn llai agored wrth ddarparu data'r Llywodraeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wybod, fodd bynnag, yw goblygiadau ymarferol y cynnig hwn o fod yn fwy agored. Mae bwriadau Llywodraeth Cymru i fod yn fwy agored fyth yn y dyfodol yn ddigon hawdd dweud, ond pa mor effeithiol yw hi ar hyn o bryd am ddarparu data a gwybodaeth y Llywodraeth yn gyffredinol?
Nawr, cododd Adam Price enghraifft benodol iawn yn awr yn ymwneud â'r anawsterau wrth gael ystadegau'r Llywodraeth ar grantiau, ond os edrychwn ni ar y modd y mae’n rhannu gwybodaeth yn gyffredinol—yn arbennig, wrth feddwl am sut y gall y dinesydd gael gafael ar yr wybodaeth hon—mae yn peri llawer o anawsterau. O ran gwariant y Llywodraeth, cododd y Ceidwadwyr hyn yn un o'u gwelliannau; maen nhw’n sôn am gyhoeddi gwariant gan gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol. Drwy gyd-ddigwyddiad, ddoe, cyfarfûm â chynrychiolwyr o'r Gymdeithas Cadwraeth Forol ac fe wnaethon nhw sylw na allwch chi, mewn gwirionedd, olrhain lefel gwariant Llywodraeth Cymru ar gadwraeth forol oherwydd ei fod wedi'i becynnu yn rhan o wariant cyffredinol ym maes yr amgylchedd. Felly, ni allan nhw eu hunain, mewn gwirionedd, ddarganfod faint o arian o’r gronfa honno sy'n cael ei wario ar gadwraeth forol. Felly, dyna un enghraifft o le mae angen i ddata Llywodraeth Cymru fod yn fwy agored.
Ond os ydym ni’n meddwl am sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin mewn gwirionedd â gwybodaeth yn gyffredinol, nid ydynt, efallai, mor oleuedig ag y byddai'r cynnig heddiw yn ymddangos nac â sut maen nhw’n ymddangos neu'n dymuno bod yn eu hamcanion. Er enghraifft, gadewch i ni edrych ar ddatganiadau'r Llywodraeth a gawn cyn y Cyfarfodydd Llawn unwaith yr wythnos. Nawr, mae'n dda ein bod ni'n cael y rhain, nid wyf i’n cwyno yn gyffredinol, ond rydym ni'n eu cael oddeutu awr cyn—[Torri ar draws.] Cwrteisi yw hynny, iawn. Diolch am estyn y cwrteisi, ond y pwynt yw y gŵyr pob un ohonom ni yn y Siambr hon y gallem ni gael yr wybodaeth hon yn llawer cynharach. Gallem ni, fwy na thebyg, fod wedi cael yr wybodaeth hon, yn ôl pob tebyg ddiwedd yr wythnos diwethaf. Felly, pe baech chi wirioneddol eisiau gweithredu’r polisi hwn o fod yn fwy agored, efallai y gallech chi ymestyn hynny i faes sut y byddwch chi’n rhannu datganiadau'r Llywodraeth. Rydym ni yn croesawu’r cwrteisi, ond pe gallech chi ymestyn y cwrteisi, byddai'n dda.
Nawr, os edrychwn ni ar wefan Llywodraeth Cymru, sef un lle y gall y dinesydd ddod o hyd i wybodaeth y Llywodraeth yn gyntaf, pan grybwyllais i wefan Llywodraeth Cymru i aelod o staff heddiw, fe ymatebodd hi’n uniongyrchol i hynny. Dywedodd: O’r nefoedd yna'r wefan honno lle na allwch chi ddod o hyd i unrhyw beth. Pan ofynnais iddi ymhelaethu ar y sylw hwn, dywedodd nad oedd y swyddogaeth chwilio i’w gweld yn gweithio'n iawn: Fedra i byth ddod o hyd i'r hyn rwy’n i’n chwilio amdano ac rwy’n gwglo’r wybodaeth yn y pen draw.
Nododd aelod arall o staff nad yw’n cael ei ddiweddaru. Mae’n ddigon hawdd dweud ei bod yn llais ar gyfer beth bynnag y mae'r Llywodraeth yn dymuno ei bwysleisio, ond os ydych chi eisiau cael gwybod am bolisiau'r Llywodraeth, dyma'r lle diwethaf y byddech chi'n mynd, oherwydd nad yw wedi’i diweddaru. Byddan nhw’n gwneud cyhoeddiad, ac wedyn ni fyddan nhw’n diweddaru'r dudalen. Dyma rai enghreifftiau diweddar o fy mhrofiadau fy hun: y tasglu cyflenwi tai, a sefydlwyd yn 2013—diweddarwyd y dudalen ddiwethaf ar 4 Mawrth 2014. Ymddengys fod y corff hwnnw wedi dod i ben bellach, ond y pwynt yw nad ydym ni mewn gwirionedd yn gwybod hynny o wefan Llywodraeth Cymru, oherwydd nad yw'n dweud hynny wrthym. Ymddengys ei fod yn gadael pethau fel hyn, i bob pwrpas, ar ei hanner. Nid yw'n egluro pa un a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw beth yn y maes gweithgarwch hwn ai peidio. Felly, er mwyn i’r math hwn o wybodaeth gael unrhyw werth, mae angen diweddaru'r tudalennau yn rheolaidd. Dylai rhywun fod â’r dasg benodol o wneud hyn, hefyd, mae angen dileu sefydliadau, grantiau a chynlluniau sydd wedi dod i ben o'r wefan yn llwyr. Gallem ni sôn am ragor ac edrych ar wefannau eraill sy'n ymwneud â'r Llywodraeth, ond mae'n debyg bod y pwynt wedi’i wneud.
Felly, yn gyffredinol, rydym ni yn cytuno â'r hyn yr ydych yn ei ddweud yn eich cynnig heddiw, ac yn gobeithio y caiff ei roi ar waith mewn modd ystyrlon. Rydym ni hefyd yn cytuno â gwelliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos yn synhwyrol ar y cyfan. Nawr, cododd y Gweinidog y mater bod goblygiadau adnoddau os ydych chi'n cyhoeddi llawer o wybodaeth, a chytunaf y bydd cydbwysedd a bod yn rhaid i chi ystyried hynny. Ond, yn gyffredinol, rydym ni yn cytuno â gwelliannau'r Ceidwadwyr. Mae gwelliant Plaid hefyd yn ymddangos yn synhwyrol. Yn wir, dylem ni integreiddio ein data fel bod cymharu perfformiad Llywodraeth Cymru, cyn belled ag y bo'n bosibl, gyda pherfformiad cyrff cyhoeddus tebyg. Ond efallai mai pwynt pwysig arall ar gyfer y dyfodol yw pa mor hawdd fydd hi i’r unigolyn lleyg neu'r dinesydd ddod o hyd i wybodaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd fe gyfeiriodd y Gweinidog at y person, yn ogystal â'r arbenigwr. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i’r ddadl—Julie James.
Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r agenda data agored, sy'n amlwg ar draws y Siambr. Rwy'n credu o bosibl bod ychydig o ddryswch o ran yr hyn yr ydym yn ei olygu wrth sôn am ddata agored a Llywodraeth agored yn y cyd-destun hwn a chyhoeddi yn gyffredinol. Rwy'n derbyn y pwynt ynglŷn â chyhoeddiadau y mae pobl wedi'i wneud. Rwy'n teimlo dyletswydd—rwy'n siŵr na fydd ots gan y Llywydd fy mod i’n dweud hyn—i ddweud bod y syniad o gyhoeddi datganiad llafar cyn ei wneud ar lafar, yn amlwg, yn broblem ar lawer ystyr, a holl bwynt datganiad llafar yw ei wneud ar lafar yn y Siambr. Roeddwn i eisiau pwysleisio’r pwynt hwnnw, ac nid yw hynny'n ymwneud â data o gwbl.
Roeddwn i’n meddwl bod Adam Price wedi gwneud pwynt da iawn yn ei esiampl. Syniad data agored yw bod gennych chi fynediad at y data sylfaenol mewn ffordd agored a hygyrch sy'n eich galluogi i’w gasglu mewn gwahanol ffyrdd i gyrraedd casgliadau gwahanol. Felly, mae'r enghraifft yn un dda. Nid wyf i’n awgrymu am funud bod y Llywodraeth yn gwneud hyn yn hollol gywir, ac un o'r rhesymau yr oeddwn i’n dymuno cyflwyno’r ddadl hon heddiw oedd er mwyn trafod yn agored â’r Aelodau yr hyn yr ydym ni’n ei olygu gan hynny ac i ganfod, fel yr ydym ni wedi ei weld yn glir, bod pawb, mewn gwirionedd, yn cytuno â'r agenda. Mae modd dehongli’r peth ychydig yn wahanol, ond rydym ni i gyd yn cytuno y dylid gwneud y data sylfaenol mor hygyrch â phosibl er mwyn i bobl allu dod i amrywiaeth o gasgliadau ohono. Mae'n rhaid i ni wneud hynny mewn modd cymesur, wrth gwrs. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus, drwy gyfranogi, er enghraifft, yng ngrŵp data agored rhanbarth dinas Caerdydd, a chyfarfod ag awdurdodau lleol a Swyddfa Archwilio Cymru ledled Cymru.
Rydym ni eisiau annog eraill o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a'r sector cyhoeddus ehangach, i wneud data yn fwy agored ac i ailddefnyddio ein data, ond i sicrhau hefyd bod eu data nhw ar gael yn rhwyddach. Byddwn ni’n ystyried priodoldeb cod ymarfer anstatudol ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru, i'n galluogi ni i gydweithio â chyrff y sector cyhoeddus. Gallai arbrofi’n llwyddiannus gyda’r canllawiau hynny arwain at god ymarfer statudol, ond mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n dymuno ei gynhyrchu ar y cyd â'n partneriaid llywodraeth leol er mwyn cydgynhyrchu fel ein bod ni'n deall a’u bod nhw'n deall ble yr ydym ni nawr, a lle y gallwn ni fynd yn rhwydd ac yn esmwyth yn y dyfodol heb gost enfawr i hynny—nid mewn termau ariannol, ond o ran faint o adnoddau dynol sydd eu hangen i wneud hynny.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at y prosesau caffael. Rwy'n cytuno'n llwyr â hi y bydd addasu ein prosesau caffael yn annog ein cyflenwyr i gyhoeddi eu data yn agored a defnyddio ein ffynonellau data agored i wneud y broses honno yn fwy tryloyw. [Torri ar draws.]
Ar yr union bwynt hwnnw, tybed a fyddai'n bosibl i'r Gweinidog ateb yn awr neu drafod gyda'i chydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, ynghylch a fydd data agored, neu ymrwymiad i ddata agored, yn rhan o'r ymrwymiad o dan y fasnachfraint rheilffyrdd, oherwydd mae budd sylweddol iawn i’w gael o ran integreiddio gwasanaethau bws a thrên, os caiff hynny ei ddylunio mewn modd sy’n cynnwys rhannu data yn awtomatig rhwng gwahanol ddarparwyr trafnidiaeth yn y dyfodol.
Ie, yn hollol. Rwy'n credu mai pwynt y ddadl, mewn gwirionedd, yw bod angen i ni edrych yn ôl rhywfaint ar ein systemau, ond wrth i ni ddatblygu systemau newydd, mae angen i ni eu datblygu yng nghyd-destun data agored i'r graddau y mae hynny'n bosibl ac y mae caniatâd i wneud hynny ac nad yw’n datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu sensitif. Felly, rwy'n gwbl grediniol y gallaf i ddweud hynny, ac mae angen i ni ddylunio'r systemau hynny yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, rydym ni mewn cyfnod o newid yn ein diwylliant a’n harferion yn ein cymdeithas ynglŷn â sut yr ydym ni’n defnyddio data a sut yr ydym ni’n synio amdano, ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn llwyr wireddu manteision y setiau data sydd ar gael i ni wrth gynllunio gwasanaethau ac adolygu ein heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, ac wedyn gwobrwyo ein hunain, os mynnwch chi, â’r gwelliannau sy'n deillio o'r defnydd newydd hwnnw o ddata. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn arall.
Ond fel yr oeddwn i’n ei ddweud, o ran y broses gaffael, er enghraifft, un o’r pethau yr ydym ni’n dymuno’i annog yw nid dim ond cyflenwad agored o ddata gan y Llywodraeth ynglŷn â’r hyn y mae’n ei gaffael, ond data agored gan ein cyflenwyr, o ran o ble maen nhw’n caffael ac ynglŷn â’u prosesau, fel y gall pobl roi dau a dau at ei gilydd heb gael pump o ran yr hyn a all godi o hynny.
Roeddwn i’n awyddus iawn i orffen ar y pwynt hwnnw, i ddweud y gwir. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â’n dwyn i gyfrif a’n gwneud ni’n atebol am y data yr ydym yn ei gynhyrchu. Nid yw yr un fath â chyhoeddi polisïau ac yn y blaen. Mae hyn yn ymwneud â'r data sy’n sail i hynny, fel y gwelwch chi—. Pan fyddwn yn cyflwyno polisi ar ddata agored, er enghraifft, gallwch chi fynd yn ôl ac edrych ar y data sydd gennym ni ar hyn o bryd a gweld a ydym ni’n driw i hynny. Nid ydych chi’n edrych ar y data dim ond ar ôl i ni gyhoeddi’r polisi ei hun.
Mae gennym ni hinsawdd economaidd heriol; mae angen i ni wneud yn fawr o'r adnoddau sydd ar gael i ni i gyd. Mae data yn wir yn un o'r adnoddau newydd yn yr unfed ganrif ar hugain, ac mae angen i'r Llywodraeth sicrhau, wrth i ni greu mwy o ddata nag erioed o'r blaen, ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n sicrhau bod y data hwnnw yn hygyrch, yn arloesol, a bodd ei ddefnyddio a’i ailddefnyddio. Felly, rwy'n hynod, hynod ddiolchgar bod yr Aelodau yn croesawu'r agenda, ein bod ni wedi dechrau’r trosglwyddo, os mynnwch chi, o ddeall y data sylfaenol yr ydym ni’n sôn amdano yma, sut y mae'n cyfateb i'n hagenda ar bolisi, sut yr ydym ni’n gallu cyhoeddi hynny mewn ffurf y gellir ei hailddefnyddio ac a fydd yn ysgogi busnesau arloesol yng Nghymru y mae arnom eu hangen ar gyfer y dyfodol, a hefyd yn arwain at y gwelliant yr hoffem ni i gyd ei weld yn y gwasanaethau cyhoeddus. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 2.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.