2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Hydref 2017.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? (OAQ51114)
Mae datganoli cyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn parhau gyda Llywodraeth y DU. Maen nhw wedi gwrthod datganoli hynny. Er gwaethaf y sefyllfa hon, ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi oddeutu £200 miliwn mewn rhaglen o welliannau i’r seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau rheilffordd ychwanegol a gwell yn y canolbarth a’r gorllewin.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Rydym ni’n croesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer astudiaeth o ddichonoldeb i ailagor rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o adfywio rheilffyrdd a gaewyd yn bennaf yn y 1960au o dan gynllun Beeching fyddai creu cyfleoedd cost isel ar gyfer y trenau a'r cerbydau a fyddai'n gweithio ar y rheilffordd. Oherwydd y costau gweithredu fydd y rhwystr mawr. Cafwyd amcangyfrif o gyfanswm cost o £700 miliwn i ailagor y rheilffordd benodol hon. Ond bu rhai astudiaethau calonogol iawn a gynhaliwyd o drenau sylfaenol yn cael eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio deunyddiau ysgafn ac yn rhedeg ar gyflymder isel, y gellid eu cyflwyno yn y ddwy flynedd nesaf o ganlyniad i dreial gwerth £4 miliwn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog bopeth o fewn ei allu i annog cyflwyniad y dechnoleg newydd hon a fydd yn cynnig y cyfle i efallai agor llawer mwy o reilffyrdd yng Nghymru wledig a gafodd eu cau flynyddoedd yn ôl?
Na. Yr hyn y mae'n sôn amdano yw rheilffyrdd ysgafn. Mae'n fodel a ddefnyddir ar gyfer rheilffyrdd maestrefol ac ar gyfer teithiau byr. Nid wyf yn credu y bydd taith o 50 milltir rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth yn cael ei gwasanaethu orau gan gerbyd rheilffordd ysgafn â seddi caled, er enghraifft, heb y math o gyfleusterau y byddech chi'n eu disgwyl mewn trên pellter hwy. Ac, wrth gwrs, gyda rheilffyrdd ysgafn, rydych chi'n canfod eich hun mewn sefyllfa lle mae’n rhatach, mae’n wir, gan nad yw’r gofynion o ran signalau yr un fath, er enghraifft, ond mae'r lefelau cysur yn llawer iawn is ac nid wyf yn meddwl y dylai pobl yng ngorllewin ein gwlad gael gwasanaeth trên sy'n llawer llai cyfforddus na fyddai’n cael ei ddisgwyl ar hyd llwybr cyfatebol yn Lloegr. Os ydym ni’n mynd i symud ymlaen—. Mae'n her sylweddol—nid wyf yn credu y gallwn ni ei thanbwysleisio—her sylweddol a chost sylweddol i ailgyflwyno rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin, ond os yw’n mynd i gael ei wneud, mae'n rhaid ei wneud yn iawn.
Prif Weinidog, roeddwn i’n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd gorsaf Carno yn cael ei chynnwys yn y broses asesu cam 2 bresennol ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru. Bydd deiseb hefyd yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad yfory gan grŵp gweithredu gorsaf Carno, 10 mlynedd ar ôl y ddeiseb gyntaf, yn annog y Llywodraeth i ailagor gorsaf Carno o fewn cyfnod o bum mlynedd. Nawr bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y bydd Carno yn cael ei ystyried, a wnewch chi amlinellu beth yw'r camau nesaf yn ystod y broses hon, ac a ydych chi'n teimlo bod pum mlynedd yn amserlen realistig ar gyfer ailagor gorsaf Carno?
Dim ond i hysbysu'r Aelod, y cam nesaf, fel y mae’n gwybod, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu cynnwys Carno yn y rownd bresennol o asesiadau cam 2. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae'n golygu cael gwybodaeth gan Network Rail ar y modd y gellir ei gyflawni ac ystyriaethau gweithredol ar y gorsafoedd a flaenoriaethwyd. Hefyd, rhedwyd model asesu safonol i asesu'r galw a ragwelir yn y gorsafoedd arfaethedig hefyd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ymgysylltu â'r grŵp gweithredu yn rhan o’r broses cam 2. Felly, dyna lle’r ydym ni ar hyn o bryd, bydd yn gwybod, wrth gwrs, beth yw ein bwriad ni. Ceir llawer o ffactorau anhysbys. Pan fyddwch chi'n ymdrin â Network Rail, nid yw bob amser yn eglur beth yw'r heriau. Rydym ni wedi darganfod hynny yn y gorffennol, pan nodwyd problemau nad oeddent yn hysbys ar yr adeg y gwnaed cyhoeddiad. Ond ein bwriad, bydd yn gwybod, yw ailagor Carno, yn amodol, wrth gwrs, ar yr asesiad.
Yn ôl beth rwy’n ei ddeall o beth mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog dros yr economi wedi ei ddweud yn y gorffennol, y sefyllfa bresennol yw bod y fasnachfraint yn mynd i gychwyn heb fod y pwerau llawn na’r arian llawn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, ac felly mae Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas, yn mynd i fod yn asiant dros Lywodraeth San Steffan. Os dyna’r sefyllfa, a gaf i ofyn i chi’n blwmp ac yn blaen, yng ngoleuni beth ddigwyddodd i drydaneiddio i Abertawe, a ydych chi’n ymddiried yn Llywodraeth San Steffan i drosglwyddo pwerau llawn mewn pryd ac, yn bwysig, i drosglwyddo’r arian llawn mewn pryd yn ogystal?
Os nad ydyn nhw’n gwneud hynny, ni allwn ni ddim symud ymlaen, yn blwmp ac yn blaen. Rŷm ni wedi gwneud popeth sydd eisiau arnom ni, ac felly mae’n rhaid iddyn nhw nawr weithredu. Nid oes dim arwydd nawr y bydd yna broblem yn y pen draw. Rŷm ni’n moyn sicrhau bod y ‘franchise’ yn symud ymlaen ym mis Ebrill fel y dylai fe. Rŷm ni’n siarad, wrth gwrs, gyda’r undebau hefyd, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n deall beth rŷm ni’n ceisio ei wneud. Byddai wedi bod yn llawer yn rhwyddach—llawer yn rhwyddach—petaen nhw wedi datganoli’r gyllideb a’r pwerau i ni y tro cyntaf, yn enwedig y pŵer i gyfeirio Network Rail. Nid yw hynny ddim gyda ni ar hyn o bryd, felly mae’n rhaid inni ystyried ffyrdd newydd o wneud pethau, ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n gallu gweithredu nawr dros bobl Cymru mewn ffordd nad oedd yn bosib o’r blaen.
Prif Weinidog, roedd llawer iawn i'w groesawu yn natganiad diweddaraf y Gweinidog trafnidiaeth ar y fasnachfraint nesaf, a'r hyn a groesawyd yn arbennig oedd yr ymrwymiad i gadw gardiaid ar bob gwasanaeth, rhywbeth y mae pobl wedi ymgyrchu'n weddol ddwys i'w weld, ac maen nhw’n ei groesawu. Yr ymrwymiad arall oedd y dylai’r cerbydau newydd gael eu cynnal a’u cadw, yn ddelfrydol, gan weithwyr yma yng Nghymru. Yn ddiweddar iawn, cefais daith o gwmpas y buddsoddiad a wnaed yn nepo Machynlleth, a chyfarfûm â rhai o'r 33 o weithwyr hynod fedrus sy'n byw yno ac yn gweithio yno. Felly, yn y dyfodol, Prif Weinidog, a gaf i ofyn y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau dyfodol cadarnhaol i'r hyn yr ydym eisoes wedi buddsoddi ynddo, yng ngorsaf Machynlleth ac yn y bobl sy'n gweithio yno?
Yn sicr. Os cofiaf yn iawn, roedd gan Fachynlleth ddepo yn y 1980au, yna fe gaeodd, yna fe’i hailagrowyd, gan fod ei angen, yn amlwg, i wasanaethu trenau ar reilffyrdd canol Cymru ac Arfordir Cambria. Felly, ydym, rydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw ein rhwydwaith o ddepos, ond hefyd yn cynyddu'r nifer yn y dyfodol, gan ein bod ni’n gwybod y bydd cerbydau newydd, y bydd moddau trafnidiaeth newydd y byddwn ni’n eu hystyried, ac mae'n bwysig, wedyn, bod yr offer yn cael eu cynnal a’u cadw yng Nghymru cyn belled ag y mae hynny’n bosibl.