7. 6. Cynnig i Dderbyn y Penderfyniad Ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

– Senedd Cymru am 6:00 pm ar 3 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:00, 3 Hydref 2017

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol mewn cysylltiad â'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru), ac rydw i’n galw ar y Gweinidog i wneud y cynnig—Alun Davies.

Cynnig NDM6517 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:00, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ar y penderfyniad ariannol hwn. Wrth wneud hynny, rwy’n awyddus i ddiolch yn gyntaf i bob un o'r Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y broses graffu ar y Bil hwn. Byddwn ni, os gwnaiff yr Aelodau gytuno ar y penderfyniad ariannol y prynhawn yma, yn dechrau craffu ar Gam 2 yfory. I’r Aelodau hynny sydd ar y pwyllgor, byddan nhw’n gweld bod llawer o'r gwelliannau y byddwn yn eu trafod yfory yn deillio o’r craffu ar y Bil hwn yn ystod Cam 1 gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, yn ogystal â’r Pwyllgor Cyllid. Ac rwy'n ddiolchgar am yr archwiliad cynhwysfawr o'r polisi a goblygiadau cyfreithiol ac ariannol y Bil. Rwy'n sicr fy marn fod y Bil a'r system yn well o ganlyniad i'r gwaith craffu hwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:00, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Cyn troi at yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r goblygiadau ariannol, rwy’n dymuno rhoi ystyriaeth yn fyr iawn i’n rhesymau ni dros wneud hyn a pham yr ydym yn bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth hon. Mae'r Bil yn un o gonglfeini ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r gwelliant hwn yn hanfodol a bu hir aros amdano, ac mae'r gallu ganddo i gefnogi degau o filoedd o blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol i wireddu eu potensial yn llawn.

Yr wythnos ddiwethaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y ddogfen 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl', sef cynlluniau'r Llywodraeth i barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. Mae ein rhaglen i drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol yn agwedd allweddol ar y genhadaeth hon, a chredaf fod cefnogaeth eang i'r rhaglen drawsnewid, yn y lle hwn a thu allan ymhlith ymarferwyr ac ymhlith y plant a’r bobl ifanc eu hunain.

Cytunwyd ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 6 Mehefin. Penderfynais beidio â chynnig y penderfyniad ariannol yr adeg honno er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymgymryd â phroses o ddiwygio ac adolygu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Roeddwn yn awyddus i Aelodau gael y cyfle i weld a holi a chraffu’r fersiwn ddiwygiedig honno cyn gofyn iddyn nhw bleidleisio ar y cynnig.

Dirprwy Lywydd, ers mis Mehefin, rydym wedi ymgymryd eto â phrosesau sicrwydd ansawdd trylwyr ac rwy'n hyderus fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gywir ac yn gadarn. Dywedais i hyn pan oeddwn i yn y Pwyllgor Cyllid ar 21 Medi ac rwy’n ailadrodd y sicrwydd hwnnw heddiw. Gadewch imi amlinellu tair rhan y broses yr ydym wedi ymgymryd â nhw ers hynny. Rydym wedi ymgysylltu yn helaeth â SNAP Cymru er mwyn llwyr ddeall natur eu pryderon ynglŷn â'r wybodaeth ariannol wreiddiol a sicrhau eu bod yn gyffyrddus â'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig. Rydym wedi derbyn sicrwydd eu bod yn fodlon â'r ffigurau a'r testun erbyn hyn. Mae cynrychiolwyr SNAP Cymru wedi cadarnhau hynny i'r Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud gyda fy swyddogion i gyrraedd y man hwn.

Yn ail, cynhaliwyd adolygiad mewnol cynhwysfawr o'r ffigurau a'r cyfrifiadau, a chafwyd tystysgrif iechyd yn sgil hynny. Ni welwyd unrhyw wallau yn y cyfrifiadau. Nodwyd gwahaniaeth o £20 a gwnaed rhai newidiadau i'r testun i wella eglurder a deallusrwydd. Mae'r ddwy elfen hynny yn achos calondid ynddyn nhw eu hunain. Ond, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i gael yr hyder mwyaf posibl o ran cywirdeb a chadernid yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Cyn dod â'r cynnig i'r Siambr, roeddwn yn awyddus i sicrhau y gallem ni, ac y gallwn innau, roi i’r Aelodau y sicrwydd cyflawn o gywirdeb, ac felly comisiynais adolygiad allanol. Canfyddiad yr adolygiad allanol hwn oedd bod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn gynhwysfawr ac yn fanwl gydag amcangyfrifon dibynadwy a phwyllog sydd wedi eu seilio ar y dystiolaeth sydd ar gael. Rydym wedi ystyried yr holl argymhellion sy'n benodol i Asesiad Effaith Rheoleiddiol y Bil hwn.

Edrychodd yr adolygiad yn ehangach hefyd ar y ffordd yr ydym yn cynhyrchu Asesiadau Effaith Rheoleiddiol, gan gymharu’r ffordd hon â ffyrdd eraill o baratoi asesiad effaith rheoleiddiol. Dirprwy Lywydd, mae’r ffordd yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cydymffurfio â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol a'r arweiniad a nodir gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Mae'r adolygiad allanol wedi rhoi set o argymhellion ehangach i'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i’w hystyried i’r dyfodol. Rhannwyd y rhain gyda'r Pwyllgor Cyllid ac o fewn Llywodraeth Cymru i'w hystyried ymhellach. Gyda'i gilydd, mae tair elfen y broses adolygu yn cyfeirio at ddogfen sy'n gywir ac yn gadarn, ac yn sail ddidwyll ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Gan droi at y goblygiadau ariannol a amlinellir yn y ddogfen hon, rwy’n awyddus i ddweud, yn ddiffuant ac yn blwmp ac yn blaen, nad bwriad y rhaglen drawsnewid yw arbed arian, ac nid dyna fu ei bwriad hi erioed. Mae hi'n ymwneud â symud adnoddau o'r swyddfa gefn i flaen y gad, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial a mwynhau taith eu gyrfa addysgol. Rydym yn gweithredu mewn hinsawdd economaidd heriol iawn o ganlyniad i agenda llymder Llywodraeth y DU. Rydym eisoes wedi trafod effaith hynny ar wasanaethau yn gynharach y prynhawn yma. Rwy'n ymwybodol iawn fod gwasanaethau cyhoeddus yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol anodd nawr yn aml iawn, ond ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud yr hyn sy'n iawn a’r hyn y mae'r sector hwn yn ei ddyheu.

Mae'r ffaith yn aros fod yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn dal i ragweld y bydd arbediad cyffredinol pan fydd y system newydd ar waith. Mae hyn yn galonogol, a dyna beth yr ydym yn ei brofi ar lawr gwlad. Rydym yn dymuno gweld yr arian sydd eisoes yn y system yn cael ei ddefnyddio’n fwy effeithiol, a llai ohono wedi ei gyfeirio at fiwrocratiaeth a mwy ohono at gefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr. Gwyddom fod enillion i’w gwneud trwy arbedion effeithlonrwydd. Mae Gwynedd, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Gwent i gyd yn gweithredu agweddau ar y system newydd, ac rydym i gyd yn gweld yr ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, y cynlluniau datblygu i unigolion ac osgoi anghydfodau a chael datrysiad cynharach yn ennill arbedion gyda gwasanaethau’r swyddfa gefn, sydd wedyn i’w hail-fuddsoddi yn y gwasanaethau rheng flaen. Ac mae hyn yn beth allweddol i mi ac, yn fy marn i, i bawb ohonom ni gyda'n gilydd ar bob ochr y Siambr. Bydd y system newydd yn sicrhau bod adnoddau yn cael eu defnyddio lle byddan nhw’n cael yr effaith fwyaf.

Wrth gwrs, bydd yna gost ymlaen llaw o ran trosglwyddo o'r systemau presennol i'r systemau newydd. Rydym wedi bod yn glir o’r dechrau y bydd angen buddsoddiad yn y cyfnod pontio hwn. Bydd y pecyn cyllid gwerth £20 miliwn yr wyf wedi ei gyhoeddi eisoes yn ymdrin â hyn yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn gofyn i bartneriaid cyflawni ariannu’r gwaith o weithredu hyn; bydd y Llywodraeth yn talu'r holl gostau hyn. Bydd ein pecyn cyllid trawsnewid, sy’n werth £20 miliwn , yn mynd y tu hwnt i'r gost o symud o un system statudol i un arall. Bydd yn buddsoddi mewn newidiadau i ddiwylliant ac ymarfer, ac yng ngwella sgiliau'r gweithlu. I gael diwygiad o’r iawn ryw, mae’n rhaid inni wella arbenigedd a hyder ein gweithwyr proffesiynol. Mae hyn yn flaenoriaeth i bob un ohonom ni. Bydd angen inni barhau i gydweithio yn agos â phartneriaid cyflwyno i weithredu’r diwygiadau, ond hefyd o ran y goblygiadau ariannol. Rwyf wedi ymrwymo yn llwyr i wneud hynny a rhoi'r strwythurau priodol ar waith i hwyluso hynny. Rwy'n hyderus ein bod mewn safle da o ran hyn i gyd. Gobeithio fy mod wedi gallu rhoi'r sicrwydd angenrheidiol i aelodau'r Pwyllgor Cyllid eisoes, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am ei adroddiad. Gobeithio y bydd gan bob Aelod hyder yn y broses a'r sefyllfa gyfredol, yn dilyn y ddadl hon.

Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus nawr ein bod yn gallu symud ymlaen gyda'r ddadl. Fel y dywedais yn gynharach, yn amodol ar gymeradwyaeth yr Aelodau heddiw i'r penderfyniad ariannol, byddwn yn symud yn syth i drafodion Cam 2 yfory. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil hwn a datblygu'r Bil i sicrhau bod ein prosesau ni yn y senedd yma yn cynhyrchu'r Bil gorau posibl, y ddeddfwriaeth orau bosibl a fydd yn gynsail i'r rhaglen drawsnewid orau bosibl i'n pobl ifanc. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:08, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwy’n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd yr Aelodau yn dymuno pleidleisio ar y penderfyniad ariannol a phleidleisio ar y Bil hefyd ar sail polisi a'r gefnogaeth eang sydd i amcanion y Bil. Ond rwy’n credu ei bod yn briodol fy mod yn siarad am yr adroddiad y mae’r Pwyllgor Cyllid wedi ei gynhyrchu ar y Bil, ac er mwyn i rai Aelodau nad ydyn nhw’n rhan o'r broses hon ddeall sut y cafwyd sefyllfa lle mae Bil y gellid neu y dylid fod wedi ei gyflwyno cyn toriad yr haf bellach yn cael ei drafod nawr. Ac rydym mewn sefyllfa ryfedd, yn yr ystyr pe na fyddai'r penderfyniad ariannol yn cael ei gymeradwyo heno, yna ni fyddem yn gallu ei drafod yn y pwyllgor yfory. Rwy'n amau ​​na fydd hynny'n digwydd, ond dyna'r fath o sefyllfa athronyddol yr ydym ni ynddi.

Pan gyflwynwyd y Bil gyntaf, a phan edrychodd y Pwyllgor Cyllid gyntaf, ar 7 Chwefror rwy’n credu, ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol gyda'r Bil, rhagwelwyd y byddai arbedion o ryw £4.8 miliwn yn cael eu gwneud, ac yng nghyd-destun cyhoeddiad y Gweinidog bryd hynny o gronfa £20 miliwn i ariannu'r Bil, a'r gweithredu a’r rhaglen sy'n deillio o'r Bil hwnnw, yna roedd honno'n sicr yn edrych yn debyg i sefyllfa ariannol ddeniadol dros ben. Fodd bynnag, mae nifer o welliannau i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, y mae rhai ohonyn nhw, y cyfeiriodd y Gweinidog atyn nhw yn ei sylwadau agoriadol, wedi arwain at yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol presennol gerbron y Cynulliad hwn, yn sôn nid am arbedion o £4.8 miliwn, ond am gostau o £7.9 miliwn. Mae hynny'n golygu bod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger ein bron sydd â chynilion parhaus o ryw £3.7 miliwn, ond sydd â chostau pontio o £11.5 miliwn. Nawr, mae’n amlwg y telir am y costau hyn gan y cyhoeddiad o £20 miliwn a wnaeth y Gweinidog, er fy mod i o’r farn y dylid ei rhoi ar gofnod bod y £20 miliwn hynny, o safbwynt y Pwyllgor Cyllid, yn ymrwymiad o £10 miliwn mewn gwirionedd ac yn arwydd o £10 miliwn o ymrwymiad parhaus mewn penderfyniadau ariannol a chyllideb sydd eto i ddod.

Nawr, byddech yn credu fel arfer mai’r rheswm dros sefyllfa lle mae Gweinidog wedi cyflwyno Bil oedd yn cynrychioli arbedion yn y lle cyntaf, ac yna’n dangos bod costau sylweddol yn ei sgil, fyddai nad oedd y Gweinidog wedi ystyried costau gwirioneddol y Bil. Mewn gwirionedd, digwyddodd rhywbeth llawer mwy rhyfedd yn yr achos hwn. Y mater gwirioneddol yma oedd nad oedd yr arbedion cychwynnol a ragwelwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cymryd i ystyriaeth na fyddai'r arbedion yn cael eu dyrannu yn y gost. Roedden nhw’n codi o'r arbedion y byddai sefydliad yn eu gwneud trwy beidio â chynnwys ei wirfoddolwyr wrth weithio gyda theuluoedd a oedd yn wynebu tribiwnlysoedd ac anghydfodau anghenion dysgu ychwanegol. Mewn gwirionedd, ni allai Llywodraeth Cymru ddyrannu'r arbedion hynny fel arbedion ariannol gwirioneddol. Cododd hyn, fel y dywedodd y Pwyllgor Cyllid wrthym yr wythnos ddiwethaf, oherwydd camddealltwriaeth neu ddiffyg dealltwriaeth rhwng y sefydliad dan sylw a Llywodraeth Cymru—SNAP Cymru, y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdano. Gallaf gadarnhau y gwnaeth SNAP Cymru gadarnhau i'r Pwyllgor Cyllid yn ein sesiwn gyhoeddus, lle’r oedd y Gweinidog hefyd yn bresennol, bod ganddyn nhw nawr y ddealltwriaeth honno a’u bod yn rhannu gwybodaeth ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Felly, maen nhw'n siarad am yr un ffigurau; dyna'r peth pwysig i'w ddweud yma. Felly, yr hyn a welwch yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ger eich bron chi heddiw yn sicr yw'r ffigurau y cytunwyd arnyn nhw rhwng y Llywodraeth a'r prif sefydliad sy'n ymgymryd â'r gwaith hwn gyda theuluoedd.

I raddau helaeth, mater i’r Cynulliad ac i’r ochr bolisi nawr yw ystyried a yw hwn yn Fil sydd, ar sail cyhoeddi'r gronfa weithredu gwerth £20 miliwn ac ar sail y costau sydd bellach wedi eu nodi yn y Bil, yn un y mae'r Cynulliad yn dymuno ei ddwyn ymlaen. Er hynny, fel y dywedodd y Gweinidog hefyd, mae gwersi ehangach yma o ran sut yr ydym yn paratoi Asesiadau Effaith Rheoleiddiol. Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cwblhau ei adroddiad ar Asesiadau Effaith Rheoleiddiol o'r fath, ac rwy’n gobeithio y bydd cyfle gennym yn y dyfodol i drafod. Pan wnawn ni hynny, efallai y byddwn am fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses hon hefyd.

Y peth olaf i'w ddweud yw bod yna gyfeiriad wedi ei wneud, ac mae yna gyfeiriad yn ein hadroddiad ni, at y gwerthusiad allanol a gomisiynwyd gan y Gweinidog. Rwy’n croesawu’r ffaith ei fod wedi comisiynu gwerthusiad allanol o'i Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Ar y cam hwnnw, dywedodd y gwerthusiad hwnnw, a gynhaliwyd gan Aldaba Limited, nad oedd y fersiwn o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ddibynadwy i’r diben o wneud penderfyniadau ar y Bil. Mae hwnnw'n gasgliad damniol iawn i werthuswr allanol ddod iddo. Eto i gyd, rwy’n awyddus i sicrhau'r Cyfarfod Llawn nad y fersiwn honno yw’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yr ydych yn ei drafod yma heno. Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn nodi, mewn dull ffeithiol, sut yr ydym wedi cyrraedd y sefyllfa hon, ac wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau am fyfyrio ar hynny pan fyddan nhw’n pwyso a mesur gweithrediadau'r polisi hwn yn erbyn y dyraniad o adnoddau fydd ar gael iddo.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:13, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl cawl potsh yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol cyntaf, lle'r oeddem ni’n gweld ffigyrau a oedd yn gwbl anghywir mewn rhannau o’r papur hwnnw, mae’n syndod i mi fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cael siâp mor dda ar y peth. Ymddengys bod trafodaeth well wedi bod, ddywedwn ni, gyda rhanddeiliaid, a bod gennym ni nawr set o ffigurau cywir a chadarn iawn, ac yn sicr, mae'r papurau bach ugain punt yma a thraw wedi cael eu didol.

Rwy'n credu ei bod yn werth dweud, serch hynny, fod yna rai pryderon a godwyd gan rai rhanddeiliaid yn parhau o ran costau posibl datrys anghydfodau, er gwaethaf y ffaith fod gennym Asesiad Effaith Rheoleiddiol newydd. Ond, wrth gwrs, maen nhw’n seilio eu pryderon ar y dystiolaeth sydd wedi ei rhoi iddyn nhw gan SNAP Cymru. Rwy'n credu ei bod yn werth i ni gyd ystyried nad yw’n angenrheidiol mai SNAP Cymru fydd yn cynnig gwasanaethau datrys anghydfod yn y dyfodol. Efallai y bydd ffyrdd newydd ac arloesol o wneud hynny yn costio llai mewn gwirionedd i'r trethdalwr yn y dyfodol. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o hynny—fod yna wasanaethau posibl i ddatrys anghydfodau y gellid eu cynnwys a'u comisiynu gan awdurdodau lleol a chan eraill. Er enghraifft, mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hun, o'r enw Createasmile, sy'n cynnig gwasanaethau eirioli yn rhad ac am ddim i bobl lle maen nhw'n trafod materion sy'n ymwneud ag awtistiaeth gydag awdurdodau lleol, ac nid oes unrhyw dâl o gwbl o bwrs y wlad am hynny. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rwy'n credu bod gennym benderfyniad ariannol erbyn hyn y gallwn ni ei gefnogi ar y sail fod gennym ffigurau cadarnach, ond mae'n achos siom ei bod wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y cam hwn.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:15, 3 Hydref 2017

Rydw i hefyd eisiau ategu'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud, a dweud y gwir, a chofnodi anfodlonrwydd ar y modd y mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yma wedi dod i fod. Yn sicr, rŷm ni’n derbyn nawr ei fod e wedi cyrraedd pwynt lle gallwn ni ei gefnogi fe, ond mae’r newidiadau yma a’r ffaith bod angen mynd yn ôl a gweithio eto ar y ffigurau wedi tarfu rhywfaint ar broses craffu'r pwyllgor o fethu gallu craffu'r asesiad effaith rheoleiddiol terfynol ochr yn ochr â’r Bil.

Mae e hefyd, wrth gwrs, wedi tanseilio hyder nifer yn y sector, ac efallai yn ehangach, yng ngallu’r lle yma i fod yn datblygu'r ddogfennaeth berthnasol o gwmpas y ddeddfwriaeth, fel sydd angen ei wneud mewn modd cyhyrog efallai, mewn modd addas, ac mae hynny yn resyn o beth hefyd. Mae’r gwahaniaethau sylweddol yn y costau gwreiddiol a’r costau terfynol yn tanlinellu, rydw i’n meddwl, y blerwch sydd wedi bod.

Jest i ddweud, i gloi, hefyd, mae’r ffaith ein bod ni fan hyn oriau yn unig cyn bod yn trafod gwelliannau yng Nghyfnod 2, ar y funud olaf i bob pwrpas—nid yw hynny chwaith yn adlewyrchu’n dda iawn ar Lywodraeth Cymru nac ychwaith ar y lle yma. Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydw i’n meddwl bod yna wersi sydd angen eu dysgu, ac rydw i’n gobeithio’n wir y bydd y Llywodraeth yn eu dysgu nhw.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:17, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Pedwar pwynt cyflym iawn. Y pwynt cyntaf: mae hyn wedi profi bod manteision o gael y Pwyllgor Cyllid yn adolygu cost deddfwriaeth.

Yn ail: mae’r gost yn bwysig, a'r allwedd mewn gwirionedd yw gwahaniaethu rhwng costau arian parod a chostau ansylweddol. Rwy'n credu mai dyna ble’r aeth y Bil ar gyfeiliorn. Nid oedd y rhifau’n anghywir, ond ni fyddech mewn gwirionedd wedi gallu gwneud rhai o'r arbedion a oedd yn cael eu dangos yn y Bil gan nad oeddent yn gostau mewn arian parod. Mae'r gost yn hynod bwysig. A yw'r Bil hwn yn werth £20 miliwn? Rwy'n credu hynny yn bendant. A yw'n werth £200 miliwn? Rwy'n credu y byddai’n rhaid inni ddechrau dadl fawr. Pe byddai'n codi hyd at £2 biliwn, ni fyddai'n werth yr ymdrech nac yn fforddiadwy. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cael y costau'n gywir, oherwydd bydd yna orgyffwrdd rywbryd gyda’r costau pan ddaw’r Bil yn llai o werth na’r costau a ddaw yn ei sgil.

Yn drydydd: byddai o gymorth mawr pe byddai'r Rheolau Sefydlog yn caniatáu i'r Llywodraeth gynhyrchu ystod o gostau ac arbedion posibl a'r rhagdybiaethau y tu ôl i’r rheini, yn hytrach na cheisio dod o hyd i ryw fan canol ymysg eu cyfrifiadau. Byddai hynny mewn gwirionedd yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r Pwyllgor Cyllid, wrth edrych arno, a byddai mewn gwirionedd yn deall nad gwyddor fanwl yw hon. Nid yw'r niferoedd hyn yn union gywir ac rwy'n eithaf sicr na fydd y canlyniad yr hyn y mae'r Gweinidog wedi ei gyflwyno i’r ddimai. Rwy'n siŵr nad yw'r Gweinidog yn disgwyl iddo fod, i'r ddimai, yr hyn y bydd yn ei gyflwyno. Bydd yn agos i’r rhif hwnnw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fod gennym rywfaint o ddealltwriaeth o hynny.

Y pedwerydd pwynt—ac mae angen inni feddwl am hyn bob amser ynglŷn â deddfwriaeth—yw’r galw cudd. Rydych chi'n cyflwyno deddfwriaeth, rydych chi'n taflu goleuni ar bwnc—a fydd hynny'n achos unrhyw alw cudd yn y system o ran pobl nad oedden nhw’n gwybod amdano neu nad oedden nhw’n rhan ohono, sydd bellach yn ei weld ac yna am gymryd yr hyn sydd ar gael?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:19, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a'r Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Gymraeg i ymateb i'r ddadl.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy’n diolch i'r Aelodau am eu sylwadau adeiladol yn gyffredinol a’u geiriau haelfrydig yn ystod y ddadl hon. A gaf i ddweud hyn? Rwy'n poeni weithiau pan fydd Mike yn codi ar ei draed yn ystod dadl yr wyf yn ei hateb, oherwydd nid wyf byth yn hollol siŵr sut i ateb rhai o'i bwyntiau. Ond mae'n gwneud sylwadau teg a deallus iawn ynglŷn â’r gost. Ac ni fydd pris methiant, wrth gwrs, yn cael ei dalu gan yr Aelodau yma, ond gan y bobl y byddwn ni’n eu siomi, a'r plant a’r bobl ifanc sy'n methu â chyflawni eu potensial addysgol gan nad ydym ni, yma, yn cynnig y system i’w galluogi nhw i lwyddo. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaed gan Llŷr. Ond byddwn i’n dweud wrth Llŷr mai cadernid y craffu seneddol i’r fath raddau sydd wedi taflu goleuni ar y pethau hyn a gorfodi Gweinidogion i ddod i'r lle hwn a phledio achos eu deddfwriaeth, a phledio achos yr hyn y maen nhw'n ceisio ei wneud, yn hytrach na gosod y bar yn llawer is. Felly, rwyf i o’r farn fod bar uwch yn ffordd well o fesur y materion hyn. Rwy'n credu mai’r hyn a ddangoswyd dros y misoedd diwethaf oedd cadernid y broses seneddol yn y lle hwn, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cydnabod y byddwn bob amser yn ildio i'r prosesau a'r pwyllgorau sydd gennym ni yma, ac i’r argymhellion y mae'r pwyllgorau yn eu gwneud wrth sicrhau nad dim Bil yn unig sydd gennym, ond y Bil gorau posibl a fydd yn cyflawni ar gyfer y bobl yr ydym ni i gyd yn ceisio eu cynrychioli.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:20, 3 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.