– Senedd Cymru ar 18 Hydref 2017.
We now move on to the next item on the agenda, which is the Welsh Conservative debate on concessionary bus and rail travel for young people, and I call on Russell George to move the motion.
Cynnig NDM6534 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a
b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn enw Paul Davies sy’n galw ar y Cynulliad i ymestyn y cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim a breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu ei bod yn addas iawn fod ein dadl y prynhawn yma’n dilyn ymlaen o’r ddadl flaenorol.
Fel y bydd yr Aelodau’n derbyn, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru sy’n ceisio dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Rhaid i mi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru i’w gweld yn dilyn yr ôl troed wrth ymgynghori ar gynllun newydd i gefnogi pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a diwygio’r cynllun fyngherdynteithio—cynllun nad yw wedi cyrraedd ei botensial cychwynnol mewn gwirionedd er bod miliynau wedi ei fuddsoddi ynddo, a chafodd ei ddisgrifio fel un siomedig o ran y niferoedd a fanteisiodd arno.
Nod y cynnig hwn, Dirprwy Lywydd, yw helpu i ryddhau pobl ifanc o’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni trwy gyflwyno cynllun a luniwyd i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a sicrhau mwy o chwarae teg i bobl iau. Oedolion ifanc sy’n tueddu i fod â’r cyflogau isaf, y premiymau yswiriant car uchaf, hwy sy’n dioddef fwyaf o argyfwng tai Cymru, a hwy hefyd sydd wedi dioddef yr ansicrwydd o beidio â gwybod a fydd eu ffioedd dysgu’n codi unwaith eto—ac mae hyn, wrth gwrs, wedi gwaethygu pryderon pobl ifanc ynglŷn â chostau addysg uwch. Felly, gallai’r cynllun cerdyn gwyrdd a gynigiwn gael gwared ar y rhwystr i gael mynediad at addysg a hyfforddiant ar gyfer swyddi i lawer o bobl yng Nghymru.
Yn wir, mae hon yn broblem sy’n wynebu llawer o bobl ifanc yn fy etholaeth i, lle y mae cost defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr mawr i lawer o oedolion ifanc wrth iddynt geisio cael mynediad at addysg bellach ac uwch. Yn sgil y ffaith bod ysgolion a cholegau mewn rhai rhannau o ganolbarth Cymru yn darparu cyrsiau mwyfwy cyfyngedig, mae’r cyfyngiadau ariannol a’r anhawster mawr i gael mynediad at addysg bellach mewn mannau eraill yn golygu bod pobl ifanc naill ai’n dewis peidio â dilyn eu dewis cyntaf o bwnc, neu’n peidio â chamu ymlaen i addysg bellach o gwbl. Felly, buaswn yn awgrymu bod yn rhaid i ni weithredu. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld sut y gall strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru gael ei gwireddu heb roi mesurau digonol ar waith i leihau cost trafnidiaeth gyhoeddus i bobl iau.
Deillia’r cyfiawnhad dros y cynnig hwn o’r rhwystrau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yng Nghymru heddiw. Bellach, gweithwyr Cymru sy’n cael y cyflogau wythnosol isaf yn y DU. Mae’n arswydus fod pecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £43 yr wythnos yn fwy na gweithwyr Cymru. O ganlyniad i hyn, mae pobl iau yn wynebu rhagolygon llwm o ran eu gallu i ennill arian. Credaf y bydd darparu gwasanaeth bws am ddim a cherdyn rheilffordd yn chwarae rhan yn galluogi pobl iau i fynd ar drywydd cyflogaeth neu addysg bellach, yn enwedig gan fod pobl ifanc rhwng 18 a 21 oed yn fwy tebygol o ddefnyddio bws nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae ein pobl ifanc yn dibynnu’n drwm ar y rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd i fanteisio ar gyfleoedd gwaith ac addysg, felly rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylent gael eu cefnogi yn hynny.
Hoffwn nodi bod ein cynnig wedi denu adborth cadarnhaol iawn gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, a oedd yn hynod falch o ymdrechion y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi’r defnydd o fysiau gan bobl iau. Rydym wedi argymell dwy fenter wedi eu costio’n llawn y credwn y byddent yn lleihau’r baich ariannol sy’n wynebu pobl iau yng Nghymru. Felly, er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial, rwy’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i grŵp oedran sy’n ei chael yn anodd, a bydd ein cynllun teithiau bws am ddim hefyd yn creu manteision amgylcheddol sylweddol sy’n mynd y tu hwnt i’r manteision uniongyrchol i bobl ifanc eu hunain, gan annog pobl i newid o foduro preifat i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn, wrth gwrs, yn gyson ag amcanion Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau cerbydau, a bydd hefyd yn adfywio’r diwydiant bysiau.
Fel y dywedais mewn cyfraniad yr wythnos diwethaf, os yw pobl ifanc yn cael eu cyflwyno i drafnidiaeth gyhoeddus yn gynnar, mae’n amlwg eu bod yn dal ati ac yn parhau i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiweddarach mewn bywyd. Felly, rwy’n credu bod ein cynigion ar gyfer trafnidiaeth am ddim yn ddigyfyngiad i bobl rhwng 16 a 24 oed yn gam hanfodol i sicrhau bod pobl ifanc yn gwneud y gorau o’u potensial, gan adeiladu uchelgais ac annog dysgu, fel y mae strategaeth Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ceisio ei gyflawni. Felly, cymeradwyaf ein cynnig y prynhawn yma i’r Cynulliad, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau’r Aelodau i’r ddadl y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliant i’r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.
2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.
3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.
4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.
5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.
Gwelliant 1.
Diolch yn fawr iawn. Paul Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma. Fel y mae Russell George wedi dweud, mae trafnidiaeth gyhoeddus dda yn hanfodol ar gyfer pobl iau yng Nghymru sy’n dibynnu ar fysiau a threnau i gael mynediad at ddosbarthiadau addysg, swyddi penwythnos, clybiau ar ôl ysgol a chwaraeon—mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mae mynediad at y cyfleoedd a’r gweithgareddau hyn yn rhan annatod o ddatblygiad y genhedlaeth nesaf, sy’n parhau i’w gwneud yn glir eu bod am weld gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Efallai fod yr Aelodau’n cofio bod Senedd Ieuenctid y DU wedi pleidleisio dros wneud trafnidiaeth gyhoeddus ratach, well a mwy hygyrch yn brif ymgyrch ar gyfer 2012. Deilliodd yr ymgyrch hon yn y DU o arolwg barn cenedlaethol o 65,000 o bobl ifanc, a nodai’r pum prif fater sy’n peri pryder i bobl ifanc, ac roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg iawn ar frig yr agenda honno. Felly, mae’n bwysig fod Llywodraethau ar bob lefel yn dangos eu bod yn gwrando ar farn pobl ifanc wrth ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth.
Wrth gwrs, mae’n bwysig hefyd fod y diwydiant rheilffyrdd a bysiau’n gwrando ac yn ymgysylltu â phobl ifanc, gan fod pobl ifanc yn farchnad bwysig ar gyfer teithio cyhoeddus. Yn wir, yn aml iawn, ni fydd gan bobl ifanc unrhyw ddewis ond defnyddio gwasanaethau bws a thrên cyn iddynt ddysgu gyrru. Felly, rhaid i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus sicrhau bod pobl ifanc yn cael profiad cadarnhaol o deithio’n gyhoeddus er mwyn eu hannog i barhau i ddefnyddio bysiau a threnau pan fyddant yn oedolion, hyd yn oed os ydynt yn dysgu gyrru neu’n prynu car.
Rydym yn byw mewn oes lle y mae’n cymryd eiliadau i anfon trydariad neu ddiweddaru statws ar Facebook, ac felly mae’n amlwg y gall pobl ifanc fod yn ddylanwad mawr ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n feirniadol iawn ohoni, ac mae hynny’n rhywbeth nad yw’r diwydiant bysiau a threnau wedi bod o ddifrif yn ei gylch yn y gorffennol. Felly, efallai fod yna gyfle yn y fan hon i weithredwyr gwasanaethau bws a thrên ymgysylltu mwy â phobl iau wrth ddatblygu gwasanaethau a hyd yn oed ymgyrchoedd yn y dyfodol, drwy ddefnyddio’r llwyfannau digidol hyn lawer mwy nag y maent wedi ei wneud yn y gorffennol i gyfathrebu â phobl ifanc.
Felly, o ystyried pwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc, mae’r cynnig hwn heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi camau i gyflwyno cynllun cerdyn gwyrdd newydd i ddarparu mynediad at deithiau bws am ddim yn ddigyfyngiad a theithio ar y trên am bris gostyngol i’r holl bobl rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Rwy’n credu bod y cynllun hwn yn anfon neges glir i bobl ifanc ledled Cymru ein bod yn cydnabod y pryderon sydd ganddynt mewn perthynas â thrafnidiaeth gyhoeddus, a’n bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn eu cefnogi’n well.
Bydd y polisi hwn hefyd yn helpu i gryfhau a chefnogi’r diwydiant bysiau yng Nghymru drwy annog mwy a mwy o bobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny ddiogelu’r gwasanaethau bws hynny ar gyfer y dyfodol, sy’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd gwledig a’r etholaeth a gynrychiolaf. Bydd cynllun fel hwn yn ddi-os yn gwneud rhai gwasanaethau bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn llawer mwy cynaliadwy.
Wrth gwrs, gall y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod hyd yn oed yn fwy o rwystr i bobl ifanc ag anawsterau dysgu sy’n eithaf aml yn teimlo bod y system drafnidiaeth gyhoeddus yn gymhleth a bygythiol. Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol y gall Llywodraeth Cymru gefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu i ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn syml iawn yw cynyddu dealltwriaeth a goddefgarwch o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc ag anawsterau dysgu. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan grwpiau megis Pembrokeshire People First, a dylwn ddatgan buddiant fel eu llywydd. Mae grwpiau fel Pembrokeshire People First yn parhau i ddadlau dros bolisïau i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl ag anawsterau dysgu, ac un o’u galwadau yw hawl i deithio ar fysiau’n rhad ac am ddim. Y gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn helpu mewn rhyw ffordd drwy annog mwy o bobl ifanc ag anawsterau dysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a thrwy hynny feithrin eu hyder a’u hannog i fyw’n fwy annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned ehangach.
Yn sicr, mae pwysigrwydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus dda yn sicr i’w deimlo mewn ardaloedd gwledig, lle y ceir llai o wasanaethau a chostau uwch. Ar gyfer pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd gwledig fel Sir Benfro, nid yw’r ddaearyddiaeth mor gydgysylltiedig â rhannau eraill o Gymru. Felly, credaf fod achos yma dros wneud gwell defnydd o’r fflyd drafnidiaeth bresennol yn ardaloedd gwledig yr awdurdodau lleol trwy ddatblygu mwy o ddull partneriaeth gyda’r rhai sy’n darparu gwasanaethau trafnidiaeth mewn cymunedau lleol. Byddai hyn yn golygu dwyn ystod o asiantaethau a rhanddeiliaid ynghyd, yn ogystal ag adrannau awdurdodau lleol, i gydlynu’n ganolog a threfnu trafnidiaeth gyhoeddus, trwy ystyried cynhwysedd y rhwydwaith prif ffrwd a dod o hyd i fylchau, gobeithio, yn y ddarpariaeth drafnidiaeth lle y gellir darganfod atebion ar y cyd. Gyda chyllid yn dynn i lawer o awdurdodau lleol mewn ardaloedd gwledig, mae angen dewisiadau amgen i gefnogi argaeledd trafnidiaeth ar gyfer pobl ifanc, ac efallai fod ymagwedd gydweithredol a all gydlynu trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd effeithiol ymlaen.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, wrth galon y ddadl hon mae’r awydd i ddarparu mwy o gymorth ac annibyniaeth i bobl iau. I wneud hyn, credaf fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus a phobl ifanc eu hunain weithio gyda’i gilydd i wneud gwasanaethau’n fwy fforddiadwy, hygyrch a derbyniol. Nod ein cynigion yw rhoi annibyniaeth i bobl ifanc deithio’n fwy rhydd o amgylch Cymru trwy gynnig teithiau bws am ddim a theithiau ar y trên am bris gostyngol i bobl ifanc, ac rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Heddiw, pan fyddwch yn siarad ag unrhyw berson ifanc am y math o bethau y maent am eu gweld o wleidyddiaeth, mae trafnidiaeth gyhoeddus, o ran ei argaeledd a’i gost, bob amser yn eithaf agos at frig y rhestr. Drwy fforwm economaidd ardal Castell-nedd, clywsom stori am ddyn ifanc a oedd wedi colli hyder am fod cyfle lleoliad gwaith wedi methu, a hynny am ei fod yn gorfod dibynnu ar gludiant bws o ben cwm Nedd i mewn i Gastell-nedd ac ymlaen i Gaerdydd. Roedd yr anhawster o wneud i’r daith honno weithio iddo ef wedi arwain at golli ei swydd a’i adael ar ôl, mewn gwirionedd, ar y ffordd i gyflogaeth gynaliadwy. Felly, yn bendant mae angen i bobl ifanc gael bargen newydd ar gyfer defnyddwyr bysiau ac un sy’n caniatáu iddynt deithio am ddim neu’n rhad, ond sydd hefyd yn gwella amseroedd teithio a phrofiad. Ac mae hynny’n ymwneud â blaenoriaethu bysiau, materion cynllunio a thechnoleg, fel sydd wedi ei drafod gennym sawl gwaith o’r blaen yn y Siambr hon.
Ar gost teithio, croesawaf ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ymestyn oedran teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed, a buaswn yn annog pobl ifanc ledled Cymru i ymateb i’r ymgynghoriad gyda’u safbwyntiau fel y gallwn glywed beth sy’n bwysig iddynt hwy. Rwyf hefyd yn meddwl ei bod yn iawn y dylai Llywodraeth Cymru gadw’r opsiwn, os oes angen, o gynllun gorfodol i adeiladu ar y trefniadau gwirfoddol os gwelir bod angen gwneud hynny. Ond nid yw’r ddadl heddiw ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ymwneud â’r pethau hynny; mae’r cynnig yn ailadrodd y polisi y mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn pwyso amdano yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n gyson os nad yw’n fawr ddim arall.
Maent yn honni bod cynnig teithiau bws am ddim a thraean oddi ar docynnau trên yn costio £25 miliwn. Gadewch inni edrych ar hynny. Ar hyn o bryd ceir oddeutu 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud tua 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hynny, gallwch gymryd yn ganiataol y buasai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl ifanc. Gan gymryd bod tocyn bws i oedolion yn costio tua £2 ac y byddai oddeutu 350,000 o bobl yn gymwys o bosibl, byddai’r pris am gynnig y Ceidwadwyr yn agosach at £70 miliwn na £25 miliwn mae’n debyg—ac ar gyfer yr elfen bws yn unig y mae hynny, heb sôn am y gostyngiad trên. Nawr, mae gennyf gyfrifiannell os oes unrhyw un am ei benthyg.
Ond maent yn dweud wrthym eu bod am gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg er mwyn talu am ran ohono, yn union fel y gwnaeth eu cymheiriaid Torïaidd yn San Steffan—y lwfans cynhaliaeth addysg, sydd, gyda llaw, yn cynorthwyo 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg. Nawr, os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny—ac rydym wedi clywed llawer am gyfleoedd addysg o’r fainc gyferbyn heddiw—os ydych chi’n un o’r myfyrwyr hynny byddai cynllun y Ceidwadwyr yn mynd â mwy na £1,500 y flwyddyn oddi wrthych. Mae Russell George wedi dweud bod costau trafnidiaeth yn rhwystr mawr i addysg ac rwy’n cytuno, ond beth ar y ddaear ydych chi’n galw colli £1,500? Rwy’n galw hynny’n rhwystr enfawr hefyd.
Ac os nad yw polisi bws y Torïaid yn ddigon o benbleth, mae eu polisi o draean oddi ar docynnau trên eisoes yn bolisi rheilffyrdd cenedlaethol. Felly, ni fyddaf yn cefnogi cynnig y Torïaid heddiw gan nad yw’n helpu pobl ifanc ac nid yw’n gwneud synnwyr. Rwy’n annog pobl ifanc i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ac i ddweud wrthym beth y maent ei eisiau o ran teithiau bws am ddim er mwyn iddynt gael polisi sy’n gweithio iddynt.
Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma’r prynhawn yma. Nawr, mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw, oherwydd, mewn egwyddor, mi ydym ni’n gefnogol o’r syniad o ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws a rheilffordd am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru. Os ydych chi’n gofyn i bobl ifanc os ydyn nhw eisiau talu i fynd ar y bws, neu fynd am ddim, mynd am ddim sy’n ei chael hi bob tro. Ond mae’n rhaid i’r gyllideb fod ar gael er mwyn gwireddu hynny. Felly, mi fuasem yn galw ar y Llywodraeth i edrych ar gynigion y Ceidwadwyr am hyn, ac i beidio â diystyru a phardduo unrhyw gynigion polisi gan wrthbleidiau heb hyd yn oed eu hystyried nhw’n gyntaf. Mi fuasai gwneud unrhyw beth i’r gwrthwyneb i hynny yn sicr yn anaeddfed ar ran y Llywodraeth ac yn or-blwyfol heb reswm. Oherwydd, o edrych ar welliannau’r Llywodraeth, yn ogystal â dogfen ymgynghori’r Llywodraeth, mae’n edrych yn debyg y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno rhywbeth tebyg dros y blynyddoedd nesaf, ta beth. Felly, mi oedd ymateb y Llywodraeth i’r cyhoeddiad yma gan y Ceidwadwyr yn hollol ddiangen.
Ond mae’n rhaid cofio, wrth gwrs, pam yr ydym yn ystyried ehangu’r manteision hyn i fwy o bobl ifanc. Yn amlwg, mi fuasai sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn dod â nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, fel rydym ni wedi clywed eisoes yn y drafodaeth yma. Ond, mewn rhannau helaeth o Gymru ble mae dreifio yn fwy cyfleus, mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn brin. Mae angen ehangu darpariaeth gwasanaethau bysys, ac yn y pen draw i’w ddod ag ef nôl i fod yn wasanaeth cyhoeddus.
Ond, mewn sefyllfaoedd a lleoliadau ble mae darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, yna mae’n angenrheidiol i ni ddarganfod ffyrdd arloesol er mwyn newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen cael bysys a threnau sydd yn ddibynadwy, sydd yn cyrraedd ar amser bob tro, sydd yn lân, sydd yn cydlynu efo gwasanaethau eraill, ac yn cydgysylltu efo'i gilydd, a hynny’n digwydd yn rheolaidd, fel nad oes angen treulio rhan sylweddol o bob dydd yn teithio.
Mae’r cynigion yr ydym yn eu dadlau heddiw’n werth eu hystyried fel un ffordd amlwg o gyrraedd at y nod o newid ymddygiad o blaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, o blaid rhyddhau a’i gwneud hi’n haws i’n pobl ifanc gael swydd yn y lle cyntaf a chadw’r swydd honno pan fyddan nhw wedi ei chael hi. Felly, edrychaf ymlaen at dderbyn rhagor o wybodaeth am y posibiliadau hyn gan y Llywodraeth ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben. Diolch yn fawr.
Rhaid i annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn agos at frig agenda unrhyw Lywodraeth. Mae’r manteision i’r amgylchedd, yr economi, iechyd y cyhoedd, yn ddiymwad. Yn ogystal, mae cynorthwyo ein pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth ac addysg yn hanfodol i dwf a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol. Mae ein dadl heddiw—
Nid wyf ond newydd ddechrau, mae’n ddrwg gennyf. Mae ein dadl heddiw yn amlinellu polisi realistig, cadarnhaol wedi’i gostio. Yn wir, efallai y byddai disgwyl yn realistig i Lywodraeth Cymru gefnogi hyn, o ystyried ei bod yn mynd mor bell tuag at fodloni amcanion pobl ifanc, fel sydd wedi ei amlinellu yn eu dogfen, ‘Ffyniant i Bawb’, ac mae’n ddewis amgen credadwy yn lle’r system bresennol.
Nid oes ond 15,000 o bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed wedi gwneud cais am fyngherdynteithio Llywodraeth Cymru, o gyfanswm o 113,000. Nawr, maddeuwch i mi am feddwl bod rhywbeth o’i le ar hynny. Mae’r ystadegyn hwnnw ar ei ben ei hun yn dweud nad yw eu neges yn cael ei chlywed. Dyma gyfradd defnydd o 13 y cant yn unig, ac eto mae ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru yn methu gofyn y cwestiwn hyd yn oed ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o bobl ifanc i ymuno â’r cynllun. Mae’n bryder go iawn, oherwydd gwyddom fod 23 y cant o yrwyr sy’n cael damweiniau mewn cerbyd modur a 21 y cant o’r rhai sy’n cael damweiniau difrifol neu angheuol yn 24 oed neu’n iau. Felly, mae angen inni fynd ati i annog opsiynau trafnidiaeth amgen a mwy gwyrdd lle y bo’n bosibl.
Ein cynigion i ymestyn hawl i deithio am ddim ar fysiau i bawb sydd rhwng 16 a 24 oed yw’r opsiwn symlaf, mwyaf agored a hygyrch. Dylai cymhwysedd cyffredinol annog pobl i fanteisio ar y cynnig, ac yn yr ardaloedd lle y ceir ein ffyrdd prysuraf, dylai weithio i leihau tagfeydd a damweiniau. Yn ogystal, bydd lleddfu baich costau trafnidiaeth yn lleihau’r heriau economaidd mwy cyffredinol sy’n wynebu ein pobl ifanc yma yng Nghymru heddiw. Arbedion o ran petrol, yswiriant, prynu car yn y lle cyntaf: mewn gwirionedd maent yn ffigur tebyg i flaendal am dŷ o fewn ychydig flynyddoedd i rai pobl ifanc. Mae cost yswiriant car ar gyfartaledd i rywun 17 oed, er enghraifft, yn swm anhygoel o £2,272 y flwyddyn bellach. Yn ogystal â hyn, gweithwyr Cymru sydd â’r cyflog mynd adref isaf o holl wledydd y DU, gyda chyflogau canolrifol wythnosol i rai rhwng 18 a 21 oed yn 40 y cant yn unig o gyflogau rhai rhwng 40 a 49 oed. Ymhellach, mae’r gyfradd gyflogaeth ymhlith rhai rhwng 16 a 24 oed gryn dipyn yn is yma nag yn Lloegr a’r Alban, a chaiff 57,400 o bobl rhwng 16 a 24 oed eu categoreiddio fel NEET—rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
Nawr, o ystyried bod bron 40 y cant o’r rhai sy’n chwilio am waith yn dweud bod eu hymdrech i ddod o hyd i waith wedi ei chyfyngu oherwydd y costau sy’n gysylltiedig â hynny, mae’n amlwg fod mynediad drwy gyfrwng teithiau bysiau am ddim yn gallu gwneud gwahaniaeth hynod o gadarnhaol yn hyn o beth. Ddeunaw mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad hwn, mae Llafur Cymru, gyda chymorth achlysurol gan Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi methu mynd i’r afael ag anghenion ein pobl ifanc, sy’n wynebu rhai o’r cyfleoedd cyflogaeth gwaethaf yn y DU. Mae’r polisi hwn yn glir a gellid ei roi ar waith ar unwaith, ac rwy’n annog y pleidiau o bob rhan o’r Siambr hon i gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Dychmygwch fy syndod o weld bod y ddadl hon gan y Torïaid gerbron y Senedd yn cynnig haelfrydedd tybiedig—yr un grŵp o Aelodau gyferbyn sy’n cefnogi’r polisi cyni ideolegol, obsesiynol y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU yn ei orfodi ar ddioddefwyr yn ddidrugaredd: er enghraifft, diddymu budd-dal tai ar gyfer rhai 16 a 17 oed, a lle y maent mewn grym, fel yn Lloegr, cael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i’r bobl ifanc hyn yn yr un modd ag y maent yn argymell yn awr y dylid cael gwared arno i bobl ifanc yng Nghymru.
Mae cyfleoedd bywyd—mae rhai rhwng 16 a 24 oed yn genhedlaeth sy’n dioddef yn enbyd. O’r cyni parhaus i gontractau dim oriau yn y sector preifat ac i Lywodraeth Dorïaidd yn Lloegr sy’n methu darparu tai mwy fforddiadwy, mae pobl ifanc ar draws y DU yn parhau i dalu’r pris am esgeulustod a methiant y Torïaid. Dychmygwch fy syndod pan glywaf eich bod yn dymuno helpu’r genhedlaeth iau i gyrraedd eu potensial trwy ddiddymu eu lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw’n syndod bod gweld rhywun ifanc sy’n pleidleisio dros y Torïaid bron mor anodd â dod o hyd i Aelod Cynulliad o blith y Ceidwadwyr Cymreig sy’n credu y bydd Theresa May yn eu harwain i mewn i’r etholiad nesaf.
Ond gadewch i ni edrych yn fanylach ar y cynigion hyn. Beth ydynt? Wel, mae’r athrawon economaidd gyferbyn sy’n pregethu wrthym ynglŷn â drygau gwariant yn honni eu bod yn cynnig teithiau bws am ddim a gostyngiad o draean ar docynnau trên, fel y mae Jeremy Miles eisoes wedi dweud, ar gyfer yr holl bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar gost o £25 miliwn. Rwy’n siŵr eu bod yn credu y bydd hyn yn gwneud deunydd darllen hyfryd a chreadigol fel datganiad i’r wasg, ond buaswn yn dweud hefyd fod yn rhaid inni edrych ar y print mân, gan fod y diafol bob amser yn y manylion. Daw’r cyllid arfaethedig hwn, fel y dywedais, o gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg—sy’n helpu mwy na 26,000 o fyfyrwyr i aros mewn addysg amser llawn yng Nghymru ac sydd, peidiwch ag anghofio, yn achubiaeth i’n pobl ifanc fwyaf agored i niwed sydd mewn perygl o adael addysg yn gyfan gwbl. Mae’n help enfawr i’w cyfleoedd mewn bywyd a byddai cael ei wared yn cael effaith ddinistriol yng Nghymru pe bai’n cael ei ganiatáu, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr.
Yn wir, a ydynt wedi ymgysylltu â myfyrwyr a phobl ifanc mewn gwirionedd? Pe bawn yn dweud wrthych, ‘jam am ddim yfory,’ rwy’n credu y buasem ei eisiau, ond pe bawn i’n dweud, ‘jam am ddim yfory, ond fe fyddwch yn colli eich mynediad at addysg,’ mae’r ymateb yn wahanol. Yr wythnos diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y posibilrwydd o ymestyn yr oedran ar gyfer teithio am bris gostyngol i gynnwys rhai 24 oed. Mae’n ymarfer ymgynghori eang, fel y dywedwyd, a’i nod yw ymgysylltu â phobl ifanc, ysgolion, colegau, sefydliadau a chwmnïau bysiau er mwyn datblygu cynllun sy’n ddeniadol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan 4 Ionawr, 2018 ac yn edrych ar amrywiaeth o agweddau, gan gynnwys pa gategorïau o deithiau, lle y mae oedran cymhwysedd a maint y gostyngiad, a dulliau talu amgen yn cynnwys cyfraniadau sefydlog fesul taith neu docyn misol/blynyddol ar gyfer teithio am ddim adeg ei ddefnyddio. Felly, mae gennym Lywodraeth Lafur Cymru gydag ymgynghoriad pwrpasol ar y gweill nad yw i gael ei gwblhau tan fis Ionawr, ac eto, am ryw reswm, dyma gyflwyno’r hyn na ellir ond ei weld fel ymgais sinigaidd gan y blaid gyferbyn i achub y blaen arno neu i ddilyn yn ei sgil.
Felly, gadewch inni edrych ar y ffigurau hynny: ar hyn o bryd, 15,000 o ddeiliaid tocynnau a fydd yn gwneud oddeutu 1.5 miliwn o deithiau ar fysiau erbyn mis Mawrth 2018. Ar sail y ffigurau hyn, gellir cymryd yn ganiataol yn rhesymol y byddai tocyn teithio rhad ac am ddim yn cael ei ddefnyddio gan lawer mwy o bobl. Gan ragdybio bod pris tocyn bws i oedolion yn £2 ac y gallai oddeutu 350,000 o bobl fod yn gymwys, gallai cynnig y Torïaid gostio tua £70 miliwn o ran ad-dalu teithiau bws yn unig. Mae hynny bron dair gwaith y gost a gyhoeddwyd gan y Torïaid—tair gwaith £25 miliwn. Nid yw’r ffigur hwn ond yn cynnwys y rhan o’r cynllun sy’n ymwneud â theithiau bws am ddim ac nid yw’n ystyried y gost ychwanegol sylweddol o ad-dalu cwmnïau trenau am ddarparu gostyngiad o draean oddi ar gostau teithio ar y trên i rai rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.
Felly, sut y byddai’r Torïaid Cymreig yn pontio’r bwlch ariannu enfawr hwn rhwng y £25 miliwn a gyhoeddwyd ganddynt a’r £70 miliwn a mwy y byddai’r cynllun hwn yn ei gostio mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried yr effaith ddinistriol y mae cyni parhaus eu plaid yn parhau i’w gael ar gyllidebau? Mae’r Torïaid Cymreig yn dadlau dros gynllun gydag anghydlynedd economaidd damniol a fyddai’n peri i ‘spreadsheet Phil’ gochi. Eto maent yn parhau i bregethu i’r gweddill ohonom eu bod yn feistri o ran eu cymhwyster economaidd. Ni fyddai Alec Douglas-Home hyd yn oed, gyda’i goesau matsis, yn gallu cynhyrchu’r ffigurau hyn gan y Torïaid Cymreig. Felly, fel y cyfryw, byddaf yn cefnogi’r gwelliannau i’r cynnig a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn hytrach nag economeg anhygoel a ffantasïol y Torïaid Cymreig. Diolch.
A wnewch chi faddau i mi am ddechrau trwy ddweud bod ‘ymgynghori pwrpasol’ ychydig bach yn hwyr efallai i Lywodraeth y methodd ei chynllun diwethaf mor drawiadol ac sydd, wrth gwrs, wedi effeithio ar fy etholaeth i? Y peth cyntaf yr hoffwn siarad yn ei gylch yw’r etholwyr hynny. Mae fy rhanbarth yn dilyn ffiniau hen awdurdod Gorllewin Morgannwg i bob pwrpas, a gyflwynodd, yn ôl yn niwloedd amser ac mewn tystiolaeth a dogfennau sydd yn ôl pob golwg yn llawer rhy ddrud i’r awdurdod lleol eu datgelu y dyddiau hyn, bolisi addysg coleg trydyddol sy’n parhau i fod yn ddylanwadol hyd heddiw. Mae cyngor bwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn parhau i ddilyn y polisi hwnnw. Gyda dau eithriad, yn seiliedig ar iaith a chrefydd, darparir addysg ôl-16 gan lond llaw o golegau addysg bellach, ac mae uno gydag addysg bellach Powys heb fod mor bell â hynny’n ôl yn golygu bod peth o’r cynnig hwnnw bellach yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffin yr awdurdod lleol. Gallai hynny olygu bod gan bobl ifanc ddewis da o addysg ôl-16 o bosibl, ond mae’n cael ei ddarparu mewn nifer fach o gampysau canolog, sy’n ymestyn i mewn i ganolbarth Cymru ac sydd wedi eu gwahanu gan bellter sylweddol. Felly, trwy ddiffiniad, nid yw’r rhain yn lleol i’r rhan fwyaf o bobl, ac yn fy mhrofiad i, mae codi’n gynnar i deithio cryn bellter yn gynnig go anneniadol i rai pobl ifanc, os yw fy nhŷ i’n llinyn mesur o fath yn y byd, ac mae hyd yn oed yn fwy anneniadol os nad cost y bws i’r coleg yw’r gwariant blaenoriaethol o’r lwfans cynhaliaeth addysg os ydynt yn ei gael, neu arian arall yn wir os nad ydynt yn ei gael. Roedd colegau’n dweud wrthym, heb fod mor bell â hynny’n ôl, fod eu cronfeydd caledi’n cael eu llyncu—a hyn yn ystod cyfnod y lwfans cynhaliaeth addysg—gan gostau gofal plant a theithio, gan adael dim ar ôl ar gyfer ateb gofynion eraill, ac os mai’r cyfeiriad y mae Cymru’n mynd iddo yw canoli darpariaeth colegau addysg bellach, yna byddai ein polisi cerdyn gwyrdd yn lliniaru’r ddwy elfen gysylltiedig honno sy’n creu pwysau.
Mae fy ail bwynt yn ymwneud â darpariaeth iaith Gymraeg ôl-16 yng Nghymru, ac eto rwy’n edrych ar Gastell-nedd Port Talbot: un chweched dosbarth iaith Gymraeg, a leolir ar ben uchaf cwm Tawe, filltiroedd o’r prif ardaloedd poblogaeth. Rwy’n credu y buasai’n rhaid i chi fod yn ymroddedig iawn i gyrraedd yno os ydych yn byw yn rhywle fel Port Talbot, ac nid yw cymorth ar gyfer teithio wedi ei warantu’n arbennig o dda. Nid yw’r colegau trydyddol yn agos at fod yn barod eto ar gyfer darparu amgylchedd ymdrwythol ar gyfer y Gymraeg. Rwy’n credu y gallai ein cerdyn gwyrdd helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau o filiwn o siaradwyr Cymraeg drwy beidio â thagu’r cyflenwad i’r chweched dosbarth hwnnw, drwy beidio â gwneud cost yn rheswm i berson ifanc ddewis coleg a all fod yn agosach, a thrwy beidio â’i gwneud yn haws i adael eich Cymraeg ar ôl.
Mae fy nhrydydd pwynt yn ymwneud â’r modd y mae pobl ifanc yn edrych arnynt eu hunain, ac rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn. Dechreuodd David Melding siarad am y peth yn y ddadl ddiwethaf, mewn gwirionedd. Afraid dweud, rwy’n credu, y bydd defnydd y boblogaeth o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig lleihau diesel, yn arwain at lai o lygredd aer a sŵn, yn ogystal â chreu llai o dagfeydd ar y ffyrdd. Er y byddai llawer o’n pobl ifanc, yn enwedig y rhai 16 oed, yn cael budd o’n cerdyn gwyrdd—. Wel, nid ydynt yn gyrru eto. Felly, mae eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o fysiau a threnau yn helpu i ymgorffori’r syniad nad oes angen iddynt ddibynnu ar geir drud yn y dyfodol. Mae tagfeydd yn mynd i arafu eu teithiau ar y ffordd os ydynt yn estyn am allweddi eu ceir beth bynnag, felly mae annog poblogaeth sy’n hoff o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy ddefnydd o’r cerdyn gwyrdd yn gweithio ar ddwy lefel o iechyd, gyda’r cyntaf yn ymwneud ag ansawdd aer gyda llai o geir, neu lai o geir yn segura—yr un peth ydyw mewn gwirionedd.
Ond yr ail bwynt, a’r un llai amlwg efallai yw eich bod, trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn cerdded ac yn beicio mwy. Hyd yn oed os oes rhaid i chi gerdded at ben draw eich stryd i ddal bws, mae hynny’n bellach na cherdded at y car sydd wedi’i barcio tu allan i’ch tŷ. Yn 2009, canfu Sefydliad Iechyd y Byd mai un o’r ffyrdd gorau o annog mwy o weithgarwch corfforol yn gyffredinol oedd trwy bolisi trafnidiaeth, ac mae cerdyn gwyrdd y Ceidwadwyr Cymreig yn bwydo i mewn i hynny mewn ffordd amlwg iawn, gan y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn galw am rywfaint o deithio ar droed neu feicio, ar un pen i’r daith o leiaf. Mewn gwledydd lle y mae’r boblogaeth yn gwneud cyfran uwch o deithiau trwy gerdded, seiclo neu drafnidiaeth gyhoeddus—rwy’n siŵr ein bod wedi clywed hyn o’r blaen—ceir cyfraddau is o ordewdra. A hefyd—er nad dyma fydd y ddadl gryfaf yng Nghymru, rwy’n tybio—mae golau’r haul yn rhoi fitamin D i ni, sydd, yn ei dro, yn arwain at risg is o glefyd cardiofasgwlaidd, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.
Wedyn, i orffen, ym maes iechyd, ond yn bwysicach, llesiant ehangach, mae sut y mae pobl ifanc yn dod yn hyderus a sut nad ydynt yn cyfyngu eu gorwelion eu hunain yn bwysig. Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobl ifanc brynu cerdyn trên i deithio’n rhatach, neu efallai eu bod yn cael bargen pan fyddant yn mynd i brifysgol wrth agor cyfrif banc i fyfyrwyr. Bûm yn holi o gwmpas yn gyflym yn lleol yr wythnos diwethaf cyn y ddadl hon, a gwelais nad ar gyfer mynd adref yn unig y mae myfyrwyr Abertawe’n defnyddio’u cardiau. Maent yn manteisio ar y cyfle i fynd i lefydd a gwneud cysylltiadau, sy’n arwain at gyfleoedd gwaith, rhwydweithiau newydd, teithiau na fyddai rhai ohonynt wedi eu hystyried heb y gostyngiad. Gwelodd Coleg Prifysgol Llundain hefyd nad oedd pobl bob amser yn defnyddio cardiau teithio am bris gostyngol gan fod un taliad hyd yn oed yn gallu bod yn anfforddiadwy ar y pryd. Felly, dyna un rhwystr bach sy’n cau’r holl gyfle hwnnw i’r rhai sydd eisoes yn y sefyllfa orau i fanteisio arno. Rwy’n credu bod pawb o’n pobl angen y cyfle hwnnw—nid myfyrwyr yn unig—ac mae ein cerdyn gwyrdd rhad ac am ddim yn ei gwneud ychydig bach yn haws manteisio ar y cyfle hwnnw.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau yn y Siambr am eu cyfraniadau heddiw yn yr hyn sy’n dod yn gyfres o ddadleuon sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Cyn i mi ymateb i sylwadau penodol am wasanaethau bws, hoffwn ychwanegu fy enw at y rhestr o rai sydd â diddordeb mewn ceir a dweud bod Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar dechnolegau newydd, yn enwedig ym maes pwerwaith trydan a hydrogen. Yn wir, mae gennyf ddiddordeb mewn ceir clasurol, ac rwy’n falch o ddweud ei bod hi bellach yn bosibl troi eich car clasurol sy’n cael ei yrru ar betrol yn un â phwerwaith trydan, diolch i wasanaeth sy’n bodoli yma yng Nghymru mewn gwirionedd, Dragon Electric Vehicles, ac sydd ar flaen y gad ym maes datblygu injans trydan ar gyfer cerbydau sy’n bodoli eisoes. Rydym ar y blaen o ran ymchwil a datblygu a gweithredu ffyrdd newydd o bweru cerbydau.
Gan symud yn ôl at wasanaethau bws, a gwasanaethau bws i bobl ifanc yn enwedig, rwy’n credu ei bod yn gwbl eglur o’r ddadl hon ein bod i gyd am weld mwy o bobl ifanc yn defnyddio gwasanaethau bws lleol. Rydym am i bobl eu defnyddio’n fwy rheolaidd, nid yn unig o ran manteision amgylcheddol, ond hefyd, fel y nododd Suzy Davies, er budd cymdeithasol a llesiant ehangach, er mwyn cysylltu cymunedau’n well ac yn hollbwysig, er mwyn galluogi pobl i gysylltu’n well â bodau dynol eraill. Ac felly, mae’n nod i’r Llywodraeth hon, ac mae’n rhywbeth yr ydym yn awyddus i’w annog er lles cenedlaethau’r presennol, a’r dyfodol yn wir.
Ers mis Ebrill eleni, mae pobl ifanc wedi gwneud dros 0.5 miliwn o deithiau gan ddefnyddio fyngherdynteithio a heddiw, mae yna dros 17,000 o ddeiliaid tocynnau. Rwy’n derbyn nad yw’r gyfran honno, y nifer sy’n eu defnyddio, mor uchel ag y byddem yn dymuno iddi fod, ac felly, yr her yw annog mwy byth o bobl ifanc i wneud yr un peth, er mwyn gwella ein cynllun teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl iau, a’i gwneud yn haws i genhedlaeth gyfan deithio ar y bws. Yr wythnos diwethaf, roeddwn wrth fy modd yn gwireddu ein haddewid i ymgynghori ar y ffordd orau i gynllun newydd Llywodraeth Cymru sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf annog mwy o bobl ifanc i ddod ar ein bysiau. A hoffwn bwysleisio’r pwynt a nododd Jeremy Miles, ei bod yn gwbl hanfodol fod y rhai sydd â fwyaf i’w ennill o unrhyw gynllun teithio am bris gostyngol yn ganolog i unrhyw benderfyniad a wnawn. Mae’r ymgynghoriad ar deithio ar fysiau am bris gostyngol ar gyfer pobl iau yng Nghymru yn anelu i gasglu safbwyntiau pobl ifanc, ysgolion, grwpiau cymunedol, colegau, a chwmnïau bysiau ar gynllun sy’n ddeniadol ac yn fforddiadwy—un a all gynnal pobl yn ymarferol yn eu bywydau, yn eu gwaith ac wrth iddynt astudio.
Mae’r ddogfen ymgynghori yn gwahodd sylwadau ar gynnal y ddarpariaeth bresennol neu ymestyn cwmpas y cynllun presennol i gynnwys, o bosibl, codi’r terfyn oedran uchaf, cynyddu lefel y gostyngiad, disodli’r trefniant ad-dalu presennol gan dâl am bob taith, sef rhywbeth a welwn mewn sawl rhan o Ewrop, yn ogystal â chyflwyno ffi fisol neu flynyddol er mwyn cadw teithiau am ddim adeg eu defnyddio. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried ymestyn y cynllun i gynnwys prentisiaid, nad oes ond rhai ohonynt yn gymwys o dan y trefniadau presennol. Mae hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn y cynllun i gynnwys gwirfoddolwyr, gofalwyr, pobl sy’n cael lwfans cynhaliaeth addysg, a’r holl bobl ifanc mewn addysg bellach. Ac rwy’n cydnabod manteision cynllun o’r fath i lawer o bobl eraill sy’n cyfrannu’n weithredol yn y gymdeithas neu sydd angen cymorth wrth gychwyn ar yrfa newydd ond sydd heb eu cynnwys o fewn yr oedran cymhwysedd. Dyna pam rwy’n arbennig o awyddus i archwilio faint o archwaeth sydd yna i ymestyn yr oedran teithio am bris gostyngol i 24 oed, gan ein galluogi o bosibl i helpu mwy o bobl ifanc i wneud y gorau o deithio ar fws ledled Cymru. Bydd y cynllun, sydd i’w gyflwyno ym mis Ebrill 2018, yn un sy’n adlewyrchu orau beth yw anghenion a dewisiadau ein pobl ifanc ac yn helpu i roi hwb pellach i deithio ar fws fel opsiwn. Mae hynny’n hanfodol os ydym i greu rhwydwaith bysiau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Yn y flwyddyn ariannol gyfredol, rydym wedi neilltuo hyd at £1 filiwn i gefnogi’r cynllun gostyngiad o draean. Gellir disgwyl i unrhyw welliant ar y cynllun arwain at fwy o gostau ar gyfer digolledu gweithredwyr bysiau dan yr hyn a fyddai’n parhau i fod yn drefniant gwirfoddol. Fodd bynnag, rhaid i weithredwyr sydd am fod yn gymwys i gael arian grant cynnal gwasanaethau bws gynnig y gostyngiad. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol, wrth gwrs, yn golygu na allwn wneud cynllun teithio ar fws am bris gostyngol i bobl ifanc yn orfodol, ac eithrio ar gyfer rhai rhwng 16 a 18 oed mewn addysg amser llawn, ac rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â’r pwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Jeremy Miles mewn perthynas â’r mater hwn.
Rwyf hefyd yn croesawu cynnig Jeremy Miles o gyfrifiannell i’r Aelodau sy’n meddu ar abacws toredig. Rwy’n credu bod ei ddadansoddiad fforensig ef a Rhiannon Passmore o gynigion y Ceidwadwyr yn dangos bod twll anferthol yn y ffigurau. Fe amlinellaf eto y rhesymau pam nad yw’r ffigurau hynny’n dal dŵr. Ar sail 50 y cant o ddefnydd ar draws y cohort 16 i 24 oed, byddai’r gost yn fwy tebygol o fod yn £78 miliwn neu fwy. Mae hynny’n seiliedig ar 50 y cant o ddefnydd. Nawr, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr yn cefnogi ein barn y dylai fod mwy o bobl ifanc ar y bysiau, felly gan dybio defnydd, efallai, o 100 y cant, yr hoffai pawb ohonom ei weld, rwy’n siŵr, byddai’r ffigur hwnnw’n codi i dros £150 miliwn. Eto byddai eu cyllideb o £25 miliwn yn caniatáu ar gyfer defnydd o 16 y cant yn unig o bobl rhwng 16 a 24 oed. Yn ei dro, byddai hynny’n cyfateb i oddeutu 17,700 o rai rhwng 16 a 18 oed; yn eironig, yr union ffigur defnydd ag yr oedd y Ceidwadwyr mor feirniadol ohono.
Fodd bynnag, rwy’n llongyfarch y Ceidwadwyr am ymroi i’r ddadl hon mewn modd hynod o gydweithredol. Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn eu bod wedi cyflwyno’r ddadl hon heddiw i dynnu sylw at faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ac yn bwriadu ei wneud i gefnogi pobl ifanc ar draws ein holl gymunedau. Fodd bynnag, rwy’n credu y buasai pawb yn y Siambr hon yn derbyn bod disgwyl i bob person ifanc gael ei amddifadu o fanteision car ar gyfer ei holl deithiau yn afrealistig yn ôl pob tebyg. Ond mae’n gwbl realistig, Llywydd, i lawer o bobl ifanc ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau, ac rwy’n gobeithio y bydd nifer o bobl ifanc y mae eu profiad o deithio ar fysiau wedi ei gyfyngu i’r daith ddyddiol i’r ysgol ac oddi yno yn manteisio ar y cynllun newydd i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws am resymau eraill, ac ar ôl gwneud hynny, y byddant yn gweld bod bysiau heddiw’n gynnig deniadol mewn gwirionedd.
Tra bo lleihau cost teithio ar gyfer pobl ifanc yn flaenoriaeth i annog defnydd, rwy’n derbyn mai rhan o’r ateb yn unig ydyw. Mae darparu cynnyrch bws sy’n ddeniadol a hefyd yn effeithlon yr un mor hanfodol, a bydd unrhyw un sydd wedi defnyddio bws yn ddiweddar, rwy’n credu, yn cydnabod bod y mwyafrif helaeth o gerbydau ar ein ffyrdd yn cynnig amgylchedd glân, cyfforddus ac wedi ei gyfarparu’n dda. Eto i gyd, yn anffodus, ceir argraff anghywir o hyd fod bysiau rywsut yn berthynas dlawd i’r car modur preifat. Os bu hyn erioed yn wir, yn bendant iawn, nid yw’n wir mwyach.
Rwyf wedi gofyn i’r Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau, ddatblygu cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata i hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i rwydwaith bysiau heddiw, ac yn amodol ar eu cynigion, buaswn yn gobeithio rhoi arian cyfatebol tuag at eu cyfraniad ariannol i unrhyw ymgyrch o’r fath er mwyn rhoi hwb i nawdd. Bydd y cynllun newydd y bwriadaf ei gyflwyno ym mis Ebrill yn ffordd well a mwy deniadol o annog pobl ifanc i ddefnyddio’r bws ar gyfer mwy o’u teithiau. Mae’r cynllun presennol wedi dechrau’n dda, ond mae angen inni wneud rhagor os ydym am newid agweddau.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o’r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais ym mis Ionawr, ac rwy’n falch o ddweud bod nifer o weithdai’n digwydd yn yr hydref i ystyried y ffordd orau o wella profiad teithwyr mewn arosfannau bws trwy ddarparu gwell cyfleusterau a gwybodaeth gyson i deithwyr; sut y gallwn hefyd ddatblygu atebion ariannu sy’n cynnig mwy o sefydlogrwydd i’r diwydiant bysiau yng Nghymru; a sut y gallwn ddarparu system drafnidiaeth integredig sy’n darparu gwell hygyrchedd ac atebion tocynnau sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma ein huchelgais, a dyma y dymunwn ei gyflawni. Diolch.
Galwaf ar Darren Millar i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu, ar y cyfan, yn ddadl dda a gweddus iawn ar bob ochr i’r Siambr. Rydym yn cyflwyno’r cynigion hyn heddiw am ein bod yn credu eu bod yn cynnig cyfle cyffrous i wneud rhywbeth gwahanol yng Nghymru na chafodd ei wneud mewn unrhyw ran arall o’r DU, sef cynnig cyfle i’n pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed deithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim, ar ein rhwydwaith bysiau. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, rydym yn cynnig y breintiau hynny i rai dros 60 oed ac i grwpiau sy’n agored i niwed a grwpiau arbennig eraill fel aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi cael anaf, a gwyddom fod hynny wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae wedi bod yn rhywbeth a gafodd ei gefnogi gan bob plaid wleidyddol. Rwyf am estyn breintiau tebyg i’n pobl ifanc, oherwydd credaf eu bod hwy hefyd yn haeddu bargen deg. Mae ein cynigion cerdyn gwyrdd yn dda i bobl ifanc. Fel y clywsoch eisoes gan y siaradwyr yn y ddadl hon, maent yn dda i’r amgylchedd, maent yn dda i drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle y gwelsom wasanaethau bysiau yn cael eu torri oherwydd diffyg hyfywedd masnachol; maent yn dda ar gyfer iechyd y cyhoedd, ac maent yn dda i les cymdeithasol pobl.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe egluraf ble rwyf fi gyda chostio mewn eiliad, os gwnewch chi eistedd os gwelwch yn dda, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn mai’r un gwrthwynebiad arwyddocaol a oedd gan rai o’r Aelodau, mae’n ymddangos, oedd ynglŷn â’r cyllid. Felly, gadewch i mi fanylu ychydig ar ein cyllid a sut yr ydym wedi costio’r cynigion hyn. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud bod eich awgrym chi, Rhianon Passmore, am y ffaith y byddai inni gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg yn cynyddu nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn anghywir, oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan Gymru gyfradd uwch o bobl ifanc NEET na Lloegr, nad oes ganddi lwfans cynhaliaeth addysg o gwbl? Fe sonioch chi, Jeremy Miles, am y ffaith bod 26,000 o bobl yn elwa o’r lwfans cynhaliaeth addysg ar hyn o bryd, ac rydych yn hollol gywir, ond byddai ein cynigion o fudd i 360,000, nid i 26,000 yn unig, ac fel y gwyddoch o siarad ag unigolion yn eich etholaeth eich hun, gall dyfarniadau’r lwfans cynhaliaeth addysg fod yn hynod o gynhennus ymhlith pobl ifanc mewn sefydliadau addysgol, ac mae yna raniad rhwng y rhai sy’n ei gael a’r rhai nad ydynt yn ei gael.
Felly, gadewch i mi egluro pam y credaf fod hwn yn bolisi fforddiadwy. Mae eich costau, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi eu seilio ar y cynllun fyngherdynteithio sy’n gweithredu ar hyn o bryd, ac sydd, a dweud y gwir, yn gynllun hynod o ddrud. Ni allaf weld sut y mae’n costio cymaint o arian i drethdalwyr Cymru. O ran y ffigurau ar gyfer y flwyddyn ariannol hyd at 2017, roedd 15,000—. Roedd 9,000—gadewch i mi gael y ffigyrau fan hyn—roedd 9,250 yn elwa ar y cynllun hwnnw ar gost o £9.743 miliwn. Golyga hynny fod cost fyngherdynteithio fesul buddiolwr yn £1,053 y flwyddyn. Nawr, ym meddwl unrhyw un, mae hynny’n hynod o ddrud. £1,053 y flwyddyn i gael traean oddi ar eich tocynnau bws pan allwch brynu tocyn bws am flwyddyn gyfan yn fy ardal i mewn gwirionedd am £490 y flwyddyn am bris masnachol. Rwy’n credu bod hwnnw’n gynllun hynod o ddrud ac rwyf eto i weld unrhyw esboniad ynglŷn â pham y mae’n costio cymaint â hynny i drethdalwyr Cymru. [Torri ar draws.] Rwy’n hapus iawn i dderbyn ymyriad.
Fel y bydd yr Aelod yn gwybod, mae’n seiliedig ar senario ‘dim gwell, dim gwaeth’, ac felly mae’r ad-daliad yn seiliedig ar faint o deithiau y bydd person ifanc yn eu gwneud. Nawr, mae’n debyg na fyddai eich cynllun fel rydych wedi ei argymell ond yn costio £25 miliwn, ac eto byddai’n gymwys ar gyfer 350,000 o bobl. Hynny yw, ni fyddai cost y pen am y flwyddyn ond yn £71. Nid wyf yn siŵr faint o deithiau y byddai hynny’n eu prynu ar gyfradd ddydd i oedolion, ond nid wyf yn credu ei fod yn llawer, ac mae’n sicr yn llai na’r 200 o deithiau y disgwylir iddynt gael eu gwneud yn sgil cyflwyno cynllun o’r fath.
Rwy’n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am egluro pam y mae ei gynllun mor ddrud, oherwydd yr hyn y bydd hefyd yn ei wybod yw bod y cynllun arall sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, y cynllun tocyn teithio rhatach, yn llawer llai costus—yn llawer iawn llai drud yn wir. Mewn gwirionedd, mae’n llai na £100 y buddiolwr ar gyfer pobl hŷn sy’n cael eu tocynnau bws am ddim. Ac rwy’n deall yr anhawster y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael i geisio cyfiawnhau gwario £1,000 y buddiolwr ar draean oddi ar docyn bws, pan allwch eu prynu dros y cownter mewn gwirionedd am £490—a byddech yn well eich byd yn rhoi grant yn uniongyrchol i’r unigolion dan sylw, a dweud y gwir, gan y byddai’n costio llawer iawn llai i chi—ond y gwir yw, os gallwn fforddio hyn ar gyfer pobl hŷn, gallwn ei fforddio ar gyfer ein pobl ifanc hefyd. Yn sicr, maent yr un mor werthfawr i gymdeithas â phobl hŷn.
Nawr, rydym wedi seilio ein ffigurau ar gostau’r cynllun tocyn teithio rhatach presennol, a’r gwariant presennol o fewn y cynllun hwnnw. Mae cost y pen buddiolwyr, fel y dywedais eisoes, gryn dipyn yn is na £100 y flwyddyn, ac os ydym yn ymestyn y cynllun i gynnwys pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, gwyddom nad yw pob un o’r rheini sydd rhwng 16 a 24 oed yn mynd i fanteisio ar y cyfle, fel sy’n wir gyda phobl hŷn. Felly, ar hyn o bryd, mae pawb sydd dros 60 yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun tocyn teithio rhatach, ond nid oes ond oddeutu 70 y cant o bobl yn manteisio ar y cyfle i fod yn rhan o’r cynllun hwnnw mewn gwirionedd. Rydym yn credu y buasai pobl iau’n dewis: buasai rhai pobl yn dymuno manteisio ar y cyfle i gael eu tocynnau bws am ddim, ni fuasai pobl eraill yn gwneud hynny. Ac mewn gwirionedd rydym yn disgwyl oddeutu dwy ran o dair o’r gyfradd o bobl hŷn sy’n manteisio ar y cynnig, felly byddai ychydig dros hanner y bobl ifanc yn gymwys. Felly, dyna sut yr ydym wedi costio’r cynllun. Rydym hefyd yn gwybod y gallwch brynu cardiau rheilffordd cenedlaethol am bris masnachol ar gyfer pobl ifanc, cerdyn rheilffordd person ifanc am lai na £15 ar sail reolaidd: gwelais hwy’n cael eu hysbysebu am £14.99—£15—yr wythnos diwethaf. Y pris arferol yw £30, ond mae gostyngiad arnynt yn rheolaidd. Nawr, buaswn yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei grym gwario i 360,000 o rai rhwng 16 a 24 oed gael rhyw fath o ostyngiad ychwanegol ar y pris hwnnw er mwyn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd am bris gostyngol. Felly dyna ble y cawsom ein ffigurau, ac rwy’n hapus i’w rhannu gyda chi yn yr un ffordd ag y gwneuthum yn awr. Rydym wedi taflu ychydig i mewn hyd yn oed—ar ben ariannu’r tocynnau bws ac ar ben cyllid y gostyngiad cerdyn rheilffordd, rydym wedi taflu ychydig i mewn ar gyfer hyrwyddo, am nad ydych wedi gwneud digon i hyrwyddo eich cynllun presennol yn awr, a dyna pam nad oes gennym fwy na 15 y cant pitw—15 y cant—o rai rhwng 16 a 18 oed yn derbyn ac yn cymryd rhan yn y cynllun fyngherdynteithio mewn gwirionedd.
Nawr, rydych eisoes wedi clywed bod hwn yn fater pwysig i bobl ifanc. Mae’n un o’r prif flaenoriaethau, fel y cydnabu Paul Davies a Jeremy Miles. Mae cost trafnidiaeth yn rhwystr i bobl rhag gallu mynd i’w lleoliad addysg, mae’n rhwystr iddynt rhag cyrraedd cyfweliad am swydd, heb sôn am gyrraedd y gwaith a dod adref. Felly mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hyn. Rydym wedi dod o hyd i ateb, rydym wedi cyflwyno’r ateb hwnnw, rydym yn ceisio ei wneud mewn ffordd amhleidiol, ac mae’n drueni fod rhai pobl sydd wedi siarad yn y ddadl hon wedi ceisio ei gwneud yn ddadl bleidiol iawn a hynny’n gwbl ddiangen. Felly, mae gennym ateb realistig, wedi ei gostio’n llawn i drafferthion teithio pobl ifanc ar draws Cymru, ac rydym am eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi ystyriaeth ddifrifol i ddatblygu’r cynlluniau hyn, oherwydd rwy’n dweud wrthych, byddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae fy merch wedi pasio ei phrawf gyrru—rwy’n falch iawn ohoni. Mae hi wedi pasio ei phrawf gyrru y tro cyntaf, yn wahanol i’w thad, ac mae cost ei hyswiriant yn gwbl afresymol—dros £1,600 y flwyddyn. A gadewch i mi ddweud wrthych, nid yw’n gyrru car swanc; car bach cyfyng ydyw. Felly pan fyddwch yn ystyried y gost i bobl ifanc o allu bod yn fodurwyr ar hyn o bryd, gallwch weld pam y byddai ein cynnig yn rhoi dewis arall iddynt. Byddai’n eu hannog i fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn helpu’r llwybrau bysiau i aros yn gynaliadwy, yn eu hannog i fynd allan a gweld eu ffrindiau ac i weld peth o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, a byddai’n eu galluogi i fynd yn ôl ac ymlaen i’w lleoliad addysg neu waith.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Fe gymeraf ymyriad gennych chi.
Diolch. Fel y nodwyd, o ran gwella cyfleoedd bywyd, lles a photensial pobl ifanc, sut rydych yn gweld ffactoreiddio’r ochr i’r geiniog lle’r ydych yn mynd i gael gwared ar y lwfans cynhaliaeth addysg i dalu am y polisi arfaethedig bendigedig hwn?
Wel, rwy’n meddwl fy mod wedi nodi’n hynny, ond i ailadrodd fy hun, gan ei bod yn amlwg nad oeddech yn gwrando: nid yw’r lwfans cynhaliaeth addysg yn cyflawni ei nodau datganedig. Cafodd y lwfans cynhaliaeth addysg ei ddiddymu yn Lloegr ac mae ganddynt lefelau is o rai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant—lefelau is nag erioed o’r blaen o rai NEET mewn gwirionedd—yn Lloegr, tra bo cyfradd Cymru lawer yn uwch, yn gyfrannol, o rai rhwng 16 a 18 oed. Fel y dywedais, rwy’n credu bod defnyddio’r arian hwnnw—mae’n ymrannol iawn hefyd. Mae defnyddio’r arian a rhoi cyfle i 360,000 o bobl ifanc, yn hytrach na 26,000, gael budd yn ddefnydd llawer gwell o arian trethdalwyr, a dyna pam rwy’n gobeithio, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn bwrw ymlaen â’n cynigion.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.