– Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Hydref 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt, arweinydd y tŷ. Jane Hutt.
Llywydd, mae gen i dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ymestyn datganiad y prynhawn yma ar recriwtio athrawon, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad i 15 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r adolygiad o Flaenau'r Cymoedd a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—y cam ar ran ddwyreiniol y ffordd honno yw hwn. Ymddengys bod goblygiadau sylweddol o ran cost ac amser, ac mae busnesau yn fy rhanbarth i eisoes wedi gwneud sylwadau ar y sefyllfa drafnidiaeth ofnadwy y maent yn ei hwynebu, gyda lorïau, ceir, faniau, ddim yn symud mewn oedi traffig sylweddol ar y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd. Mae'n siomedig, o gofio mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf gan Lywodraeth Cymru ar ffyrdd, nad oes datganiad ar gael gan y Llywodraeth ynghylch math a maint yr adolygiad ac, yn wir, rhai o'r problemau cychwynnol y maen nhw wedi eu nodi. Nid wyf yn credu ein bod wedi cael yr amser na'r cyfle i holi'r Gweinidog—nac Ysgrifennydd y Cabinet, ddylwn i ddweud—ar yr adolygiad hwn. Ac, fel y dywedais, nid rhyw welliant i gilfan yw hwn ond buddsoddiad o £220 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan derfynol cyswllt dwyreiniol ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwyf i o’r farn y byddai wedi haeddu bod ar y papur gorchmynion y prynhawn yma, ond, gan nad yw ar y papur gorchymyn y prynhawn yma, a allwn ni gael y cyfle i gael datganiad cyflawn a chynhwysfawr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn?
Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn bendant iawn yn ei anerchiad wrthyf y prynhawn yma na fyddai diffyg ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, pryd y dangosir diffyg rhagamcanol o £50 miliwn gan y bwrdd ei hun yn ei bapurau bwrdd ei hun, pan fo amseroedd aros yn dyblu yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Gall rhywun weld sut y gall trigolion yn y gogledd yn arbennig, ond yn enwedig gwleidyddion o’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon sydd yma i graffu ar y Llywodraeth, godi eu hysgwyddau mewn anghrediniaeth pan fyddwch chi'n ystyried, bum mis yn ôl, bod y bwrdd iechyd yn y fan honno i fod i wneud arbedion o £10 miliwn y mis. Ac mae peidio â chael unrhyw effaith ar amseroedd aros nac unrhyw effaith ar gadw staff, rwy'n credu, yn afrealistig a dweud y lleiaf. Os yw’n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn chwistrellu cronfeydd newydd i'r bwrdd iechyd, ac, yn wir, byrddau iechyd eraill a oedd â diffygion rhagamcanol, yna credaf fod angen gwneud hynny'n gwbl glir a byddwn, felly, yn galw ar yr Ysgrifennydd iechyd i wneud datganiad i egluro'r safbwynt a gymerwyd gan y Prif Weinidog fel y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y camau sy'n cael eu cymryd yn (a) lleihau amseroedd aros a (b) yn sicrhau bod y diffygion yn y byrddau iechyd yn dod yn ôl o dan reolaeth.
Diolch, Andrew R.T. Davies. I ateb eich cwestiwn cyntaf, dim ond i egluro a diweddaru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran 2 deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn gynnar yn 2015. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae natur heriol y cynllun wedi golygu bod y rhaglen gwblhau wedi ei heffeithio, ac o ystyried hyn—ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hyn—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen a’r gost ar gyfer y prosiect. Disgwylir i'r broses hon gael ei chwblhau yn fuan, ond mae e'n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau i roi rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a’r rhaglen gynhwysfawr honno. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, bod y deuoli hwn yn brosiect mor fawr a pharhaus, mae’n rhaid ei gyflawni mewn rhannau; mae'n cefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd; mae'r ffordd yn cysylltu’r M4 yng Nghastell-nedd i'r Fenni a Henffordd ac mae'n darparu cysylltiadau rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr—hanfodol. Ond bydd yn ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion am ei raglen gynhwysfawr a'i adolygiad cost.
Ar eich ail bwynt, atebais gwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf. Mewn gwirionedd, credaf mai cwestiwn gan Angela Burns oedd hwnnw, a chredaf ei bod hi'n bwysig ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf o ran Betsi Cadwaladr i egluro'n iawn nad yw’n debygol o orwario gan £50 miliwn eleni. Mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fydd yn gallu cyflawni ei ddiffyg o £26 miliwn a gynlluniwyd, ond mae yn defnyddio ei drefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y risg, mae'n cwblhau cynllun adennill ariannol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn, sy'n cyflwyno cyfanswm rheoledig, a bydd y camau hyn yn gwella eu rhagolygon yn sylweddol. Ond rwy'n credu hefyd, dim ond o ran materion sy'n ymwneud â threfniadau mesurau arbennig, ers mis Awst, mynegodd swyddogion bryderon am y perfformiad ariannol hyd yn hyn a'r effaith bosibl ar y diffyg a ragwelwyd. Maen nhw wedi ychwanegu cyfarfodydd uwchgyfeirio ychwanegol gyda swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd ar berfformiad a chyllid. Comisiynwyd adolygiad llywodraethu ariannol annibynnol, a bydd hwnnw'n cwmpasu datblygu, mabwysiadu a pherfformiad cynllun ariannol eleni. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, wedi cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr. Felly, credaf fod hwnnw'n ymateb eithaf cadarn i'ch cwestiynau.
A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth ar anallu ymddangosiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella cylchfan heb achosi anhrefn llwyr? Mae pobl oriau'n hwyr yn cyrraedd y gwaith, plant yn hwyr yn yr ysgol, ac mae tystiolaeth bod busnesau bellach yn cael eu heffeithio gan y gwaith o wella cylchfan Pwll-y-Pant. Bwriedir i'r gwaith barhau am hyd at flwyddyn, ac rwy’n ofni, os bydd yn parhau am hyd at flwyddyn ar ei ffurf bresennol, y bydd yn cael effaith economaidd niweidiol hirdymor ac na fydd tref Caerffili yn gallu ailgodi ar ei thraed am beth amser. Dyma un o'r ffyrdd prysuraf yn y wlad. A wnaiff y Llywodraeth ymyrryd er mwyn gwrthdroi’r llanast hwn os gwelwch yn dda?
Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, trwy ei swyddogion, yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n ymwneud ag adeiladu'r gylchfan hon. Ond wrth gwrs, mae'n debyg bod enghreifftiau ledled Cymru lle ceir tarfu o ganlyniad i fuddsoddi mewn seilwaith, a fydd, yn y pen draw, yn golygu gwelliant enfawr, rwy'n siŵr, o ran cysylltedd a mynediad, nid yn unig ar gyfer busnes ond i gymudwyr hefyd. Ond rydych chi wedi gwneud eich pwynt heddiw, Steffan Lewis, felly rydym ni’n cydnabod hynny.
Arweinydd y tŷ, a gaf i achub ar y cyfle i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Y cyntaf yw diweddariad i'r lle hwn o ran Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru a’n sefyllfa ni o ran gweithredu'r Gorchymyn cyntaf. Llwyddais i, mewn bywyd blaenorol, i chwarae rhan wrth sicrhau ein bod ni'n sefydlu'r panel yma yng Nghymru i ddisodli'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol ar gyfer Cymru a Lloegr a oedd wedi ei ddiddymu. Rwy'n ymwybodol bod Gorchymyn i fod i gael ei wneud ym mis Ebrill 2017 ac rydym yn dal i ddisgwyl hwnnw, felly rwy'n meddwl bod angen diweddariad arnom yn y lle hwn ynghylch y camau nesaf yn y broses ac a fyddai hynny, cyn y trafodaethau ffurfiol, mewn gwirionedd yn cynnwys cynnal trafodaethau cyflog arferol a thaliadau ôl-ddyddiedig hefyd.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ofyn amdano heddiw yw diweddariad ar ein sefyllfa o ran sicrhau bargen twf gogledd Cymru. Rwy'n deall y bu trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi ac yn croesawu diweddariad ar hynny. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gydag arweinwyr yn y rhanbarth, a byddwn yn annog, wrth fwrw ymlaen, bod unrhyw drafodaeth yn cynnwys y rhanddeiliaid a'r arweinwyr busnes yn yr ardal i sicrhau ein bod yn cael bargen sy’n gweithio er lles gorau'r ardal.
Diolch i Hannah Blythyn am y ddau gwestiwn yna. Mewn ymateb i'ch cwestiwn cyntaf ar y panel cynghori amaethyddol a gweithrediad Gorchymyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyfeirio’r Gorchymyn drafft Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017 yn ôl i’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Mae hynny'n unol ag adran 4(1)(b) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014. Mae hi'n aros am eu hymateb. Mae'r ymgynghoriad ar y Gorchymyn arfaethedig yn agored ar hyn o bryd. Mae i fod i gau ar 3 Tachwedd, a deallaf y bydd y panel yn trafod canlyniadau'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod nesaf.
O ran eich ail gwestiwn ar y fargen twf ar gyfer gogledd Cymru, rydym ni’n gweithio'n agos iawn â thîm cynnig twf gogledd Cymru ac yn darparu cymorth ac arweiniad, ond unwaith eto, mae'n bwysig bod partneriaid yn nodi pecyn realistig a chymesur o fesurau i gyfiawnhau datgloi cymorth ariannol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O ran ymgysylltiad Ysgrifennydd y Cabinet yn hyn o beth, rhoddwyd cefnogaeth anffurfiol i gysyniad strategaeth dwf ar gyfer gogledd Cymru, wedi'i integreiddio â macro gynllunio ar gyfer gogledd-orllewin Lloegr a chysylltedd ag economi ehangach y DU. Mae hyn yn amlwg yn bwysig yng nghyd-destun twf y sectorau ynni a gweithgynhyrchu uwch, sy'n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth Cymru fel y ddau sector arweiniol ar gyfer y rhanbarth. Ond mae'r Gweinidog dros Bwerdy Gogledd Lloegr a thwf lleol, Swyddfa Cymru, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol a thîm cynnig twf gogledd Cymru, gyda'n Hysgrifennydd Cabinet ni—mae’r cyfarfodydd hynny wedi digwydd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch y problemau sy'n wynebu athrawon cyflenwi yng Nghymru? Yr wythnos diwethaf, siaradais ag etholwr yng Nghasnewydd a gododd bryderon bod cyflogi athrawon cyflenwi trwy asiantaethau wedi arwain at dâl is a thelerau ac amodau gwaeth yn y sector. Yn hytrach na chael £140 y dydd, maen nhw'n cael £95, oherwydd bod gweddill yr arian yn mynd i'r asiantaeth sy'n cyflenwi'r athro. Ac rwy’n siŵr nad dyna’r ffordd gywir o roi arian cyhoeddus—i gyfeiriad gwahanol, yn hytrach nag i'r system addysg. Hefyd, dywedodd fy etholwr wrthyf fod llawer o'i chydweithwyr yn ystyried gadael y proffesiwn, ac mae hi eisiau gwybod pam nad yw Cymru yn mabwysiadu system gofrestru ganolog fel y maen nhw’n ei wneud yn y cenhedloedd datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. A gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig hwn os gwelwch yn dda?
Wel, Mohammad Asghar, byddwch chi, rwy'n siŵr, yn aros drwy gydol y prynhawn i glywed y datganiad ar recriwtio athrawon gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddatganiad ar y defnydd o rwyll pelfis yn GIG Cymru. Mae un o'm hetholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â'i phrofiad torcalonus ar ôl ei llawdriniaeth i fewnblannu rhwyll pelfis. Dywedodd fy etholwr wrthyf fod y llawdriniaeth wedi effeithio ar ei theulu cyfan a’i bod yn teimlo bod hyn wedi dinistrio ei bywyd a hithau ond yn 46 mlwydd oed. Nid yw hi wedi gallu gadael y tŷ, mae’n methu â mynd i'r gwaith, ac o ganlyniad, mae hi ar hanner cyflog, gyda phryderon difrifol ynghylch ei dyfodol. Mae hi’n un enghraifft o filoedd o ferched eraill ar draws y DU sy'n wynebu'r un broblem ofidus. Rwy'n deall bod gan Lywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen ar y mater hwn, ond byddwn yn croesawu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda.
Mae hwn yn fater pwysig sy'n effeithio ar etholwyr, gan gynnwys rhai o'm hetholwyr fy hun, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gwneud datganiad ar y mater hwn.
Arweinydd y tŷ, hoffwn alw am ddatganiad ar gaffael cyhoeddus. Yn ôl adroddiad diweddar Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf cefnogaeth eang i egwyddor Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, roedd llai na thraean o'r awdurdodau lleol yn fodlon ag ef, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y ffaith mai hi oedd y sefydliad cynnal. Dim ond £149 miliwn o amcangyfrif o uchafswm gwariant posibl o £1.1 biliwn a wariwyd drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn 2015-16. Dim ond 13.5 y cant yw hynny. Rwy'n credu y byddwch chi'n cytuno â mi nad yw'r adroddiad mewn gwirionedd yn rhoi darlun rhy dda o Lywodraeth Cymru. O ran cyfanswm yr arbedion sydd i’w cynhyrchu gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y'i cyflwynwyd yn yr achos busnes cychwynnol—tua £98 miliwn dros bum mlynedd—nodwyd ei bod yn glir bod y rhain, a rhai amcangyfrifon dilynol eraill, wedi eu profi'n rhy uchelgeisiol. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol bellach yn cyflwyno datganiad manylach ar sut y mae'n bwriadu i’r addasiad i’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn?
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn mynd i'r afael â'r mater hwn a bydd yn diweddaru'r Aelodau yn unol â hynny.
Yr wythnos hon, cawsom wybod bod Llundain bron wedi dyblu'r taliadau ar gyfer y cerbydau sy’n llygru fwyaf sy'n mynd i ganol Llundain, ac mae Rhydychen newydd gyhoeddi mai hi fydd y ddinas gyntaf yn y DU i wahardd ceir petrol a diesel o ganol y ddinas o 2030. Yn y cyfamser, mae Paris yn cael diwrnodau dim ceir yn rheolaidd ym mhrifddinas Ffrainc i fynd i'r afael â'r aer gwenwynig y maen nhw’n ei ddioddef. A wnaiff yr Ysgrifennydd dros yr amgylchedd neu’r Ysgrifennydd dros drafnidiaeth wneud datganiad ar ba ysgogiadau a chosbau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i lanhau'r aer gwenwynig yn ein dinasoedd, sy'n ‘gyrru’ gormod o bobl i farwolaeth gynnar?
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Rydym yn datblygu cynllun aer glân newydd i Gymru, sy’n cynnwys fframwaith parth aer glân, y byddwn yn ymgynghori arno. Bydd yr holl ddewisiadau'n cael eu hystyried, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad llawn i'r Cyfarfod Llawn ynghylch y rhaglen waith barhaus ar ansawdd yr aer cyn diwedd y flwyddyn. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i drafod heriau ansawdd yr aer sy'n benodol i'w hardaloedd nhw a sut y bydd cydymffurfio â chyfyngiadau'r UE ar gyfer nitrogen deuocsid yn cael ei gyflymu.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, deallaf fod y cydgysylltydd anhwylder ar y sbectrwm awtistig cenedlaethol—er bod yn well gennyf y term 'cyflwr'—; rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau defnyddio hwnnw—yn gadael ei swydd. A gaf i felly alw am ddatganiad? Mae hyn oherwydd bod ansicrwydd yn y gymuned ynghylch y bwriad o ran cael rhywun yn ei lle, neu sut y gallai hyn effeithio ar gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gaethwasiaeth a masnachu pobl trwy Gymru? Yr wythnos diwethaf, holais yr Ysgrifennydd dros gymunedau am fasnachu pobl trwy borthladd Caergybi, gan gyfeirio at ganfyddiadau adroddiad caethwasiaeth fodern proffil lleol troseddau difrifol a threfnedig Heddlu Gogledd Cymru. Yn ei ymateb, dywedodd mai ni yw'r unig ran o'r wlad—credaf mai’r DU yr oedd yn ei olygu—sydd â chydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl, er bod gan y DU mewn gwirionedd gomisiynydd gwrth-gaethwasiaeth annibynnol ers 2015, a chollwyd cydgysylltydd gwrth-gaethwasiaeth gogledd Cymru ar ôl i'r cyllid tair blynedd ddod i ben, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy asiantaethau statudol lleol.
Dywedir wrthyf fod y llwybr masnachu o Rwmania i Ffrainc ac i Ddulyn, trwy borthladd Caergybi, yn broblem enfawr. Nid yw’r niferoedd ar y fferi yn gywir, ac mae enwau ffug yn cael eu rhoi. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, ond nid oes digon o ddioddefwyr, sy’n daer o fod eisiau cael eu canfod, yn cael eu canfod. Nid oes tŷ diogel, canolfan dderbyn na chyfleusterau yn y gogledd , ac fel y dywedais, fe wnaethom ni golli'r cydgysylltydd rhanbarthol. O gofio, dydd Sadwrn nesaf, bod sefydliad dielw o'r enw Haven of Light, gan weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru, cyngor y sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol a ffydd, yn cynnal digwyddiad mawr yn eglwys gadeiriol Llanelwy i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymuned y gogledd am y problemau gwirioneddol o fasnachu a chamfanteisio, rwy'n gobeithio y gallwn gael ymateb mwy trylwyr gan Lywodraeth Cymru sy'n nodi pa gamau yr ydych yn eu cymryd yn unigol, a hefyd ar y cyd â Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill. Diolch.
Wel, wrth gwrs, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i hyn yr wythnos diwethaf, ac yn wir, gwneuthum innau hefyd yn y cwestiynau ar y datganiad busnes, o ran y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd. Mae ganddi'r cydgysylltydd gwrth-fasnachu pobl—y cyntaf yn y DU—ond mae'n gweithio'n agos iawn â Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, cyfrifoldeb y Swyddfa Gartref yw llawer o'r materion yr ydych yn eu codi. Mae hyn yn ymwneud â gweithio ar y cyd a grŵp arweinyddiaeth ar y cyd, yr ydym wrth gwrs yn ymwneud yn llawn ag ef, fel yr ydym gyda’r comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd.
A gaf i godi pryder gyda'r Gweinidog a gofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig ar effaith incwm sŵau yng Nghymru o ganlyniad i dreth twristiaeth bosibl? Un o'r pethau a drafodwyd yn y Cynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon diweddar oedd gwerth mawr sŵau ledled y Deyrnas Unedig, ac yng Ngweriniaeth Iwerddon, i'r economi leol. Ac wrth gwrs, maen nhw'n gwneud llawer iawn o waith o ran addysg a chadwraeth hefyd.
Codwyd pryderon gan Dr Pullen, sef prif weithredwr y British and Irish Association of Zoos and Aquariums, ynglŷn ag effaith bosibl cynlluniau Llywodraeth Cymru i ystyried cyflwyno treth twristiaeth yma yng Nghymru. Roedd wedi achosi peth braw iddi, oherwydd, wrth gwrs, byddai'n golygu gostyngiadau sylweddol yn y ffioedd wrth giât sŵau pe byddai’n effeithio ar nifer yr ymwelwyr, a gallai hynny amharu ar eu cyfleoedd i addysgu a chynnal gweithgareddau cadwraeth. Felly, tybed a gawn ni ymateb gan Lywodraeth Cymru ar y pryderon y mae British and Irish Association of Zoos and Aquariums wedi eu codi, ac a fu unrhyw drafodaeth â sŵau. Fy nealltwriaeth i yw na fu unrhyw drafodaeth â sŵau yng Nghymru ynglŷn â hyn, gan gynnwys Sŵ Mynydd Cymru, sef, wrth gwrs, sŵ genedlaethol Cymru yn fy etholaeth i fy hun. Maen nhw’n bryderus iawn am effaith bosibl treth twristiaeth a hoffwn weld y Llywodraeth yn ymateb i'w pryderon.
Rydych chi’n amlwg, mae’n glir, yn paratoi ar gyfer dadl yr wrthblaid yfory, mae'n ymddangos i mi. Ni chredaf fod llawer mwy—heblaw bod gwybodaeth ffug neu ddi-sail bosibl yn cael ei chyflwyno. Ond edrychwn ymlaen at gael eich clywed chi eto brynhawn yfory, rwy'n siŵr, Darren Millar.
Arweinydd y tŷ, byddwn i'n ddiolchgar pe caf ailadrodd fy nghais o bedair wythnos yn ôl am ddatganiad ynglŷn â chyhoeddi rheoliadau ar gyfer safonau’r Gymraeg yn y sector iechyd. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich ateb i mi, ar y pryd, y byddai rhywbeth yn y ddadl y diwrnod canlynol, ond rwy'n ofni nad oedd. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe gallech chi efallai bwyso am i hynny gael ei gyflwyno, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad o bryd y bydd yr amserlen yn cael ei chyhoeddi.
Diolch i chi, Suzy Davies. Byddaf yn sicr yn holi ynghylch y cynnydd a'r amserlenni.
A gaf i gytuno â sylwadau cynharach Janet Finch-Saunders wrth gyfeirio at adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gaffael? Edrychaf ymlaen, gyda gweddill aelodau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, at roi mwy o ystyriaeth i hynny. Mae'n amlwg yn fater pwysig iawn i'r Cynulliad ei ystyried.
Yn ail, o fewn y bythefnos ddiwethaf, mae cais ar gyfer gwesty a sba newydd yn Nhrefynwy, ger porth Cymru, wedi'i wrthod ar ôl cael ei alw i mewn gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y penderfyniad i gyflwyno'r cais hwnnw ei groesawu’n bendant gan y bobl yn nhref Trefynwy ac roedd manteision economaidd mawr posibl o gael y datblygiad hwnnw. Fe'i gwrthodwyd ar sail nodyn cyngor technegol 15. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar weithrediad TAN 15 ledled Cymru, oherwydd gwn mai dim ond un o nifer yw’r datblygiad penodol hwn dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf sydd wedi cael eu gwrthod fel hyn. Rwyf yn sicr yn cefnogi mesurau i warchod rhag llifogydd ledled Cymru, a llifogydd mewn datblygiadau newydd, ond mewn achos o hwb economaidd mawr fel hwn, rwy'n credu bod yna gwestiynau difrifol y mae angen eu hateb, a chredaf fod angen i Lywodraeth Cymru ystyried diwygio TAN 15 fel nad yw deddfwriaeth o’r fath yn effeithio'n negyddol ar economi Cymru.
I ateb eich cwestiwn cyntaf, Nick Ramsay, wrth gwrs, rydym ni’n croesawu canfyddiadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Cododd Janet Finch-Saunders hyn yn gynharach, fel y dywedasoch chi. Rydym yn falch ei fod yn nodi'r arweinyddiaeth a ddangoswyd gennym wrth ddarparu cyfeiriad ar gaffael cyhoeddus a chefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael, ond rydym yn gweld hwn fel cyfle arall i adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd, a dyna pam y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei fwriad i ailbwysleisio'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, gan ystyried, wrth gwrs, yr holl argymhellion yn yr adroddiad wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith mewn cydweithrediad â'r sector cyhoeddus.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, rwy'n siŵr, yn nodi'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod y prynhawn yma, ac mae cyfle bob amser i ofyn y cwestiwn hwnnw a gwneud y pwyntiau hynny iddi: amser cwestiynau ac yn briodol fel Aelod mewn pwyllgor.
Diolch i arweinydd y tŷ.