– Senedd Cymru am 3:46 pm ar 24 Hydref 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar recriwtio athrawon, ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd, Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Un o amcanion allweddol ein cynllun gweithredu addysg a gyhoeddwyd yn ddiweddar yw datblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel. Mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd swyddogaeth ein hathrawon i’n helpu i lwyddo yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder a hyder cenedlaethol. Heddiw, rwy'n amlinellu cynlluniau'r Llywodraeth i sicrhau ein bod ni’n hyrwyddo addysgu yng Nghymru fel proffesiwn gwerthfawr a hyblyg sydd â statws iddo. Ochr yn ochr â hynny, yn ein hymdrechion parhaus i godi safonau yn yr ystafell ddosbarth, byddaf hefyd yn rhoi manylion ynglŷn â sut yr ydym ni’n datblygu cynnig amgen i gefnogi trefniadau rheoli absenoldebau mewn ysgolion.
Yn syml, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon. Os ydym ni am lwyddo gyda’n diwygiadau uchelgeisiol mae angen athrawon uchelgeisiol o safon uchel sy’n cael eu cefnogi’n dda arnom ni. Felly, mae’n rhaid inni ddenu a chefnogi'r graddedigion gorau gyda'r cymwysterau gorau i addysgu. Rwy’n pryderu y gall problemau recriwtio sylweddol ar draws y ffin roi camargraff o’r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru. Er hynny, rwy'n derbyn yn llwyr ein bod ni, er hynny, yn wynebu heriau wrth recriwtio i rai pynciau ac mewn rhai lleoliadau daearyddol. Mae hon yn her y mae'n rhaid i ni, ac y byddwn ni, yn ymgyrraedd ati.
Felly, rwyf wedi penderfynu cyhoeddi ein cymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19 yn gynnar. Rydym ni’n cynnig eglurder a sicrwydd yn ein hymrwymiad i'n hathrawon mwyaf newydd. Mae'r cymhellion hyn yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern. Rydym ni hefyd erbyn hyn yn cynnwys gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel pwnc blaenoriaeth sy'n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymhelliant. Os ydym ni, fel Llywodraeth, eisiau cyflawni ein huchelgeisiau yn strategaeth 'Cymraeg 2050', yna mae angen inni gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'n ddwyieithog, trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
Er bod ein cyfradd recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg cynradd yn cyfateb ar y cyfan i’r hyn y dylai fod, os ydym ni eisiau cyflawni ein targedau ar gyfer addysg uwchradd, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl yr ydym ni’n eu recriwtio bob blwyddyn i leoedd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd erbyn 2021. Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi cymhelliant cyfrwng Cymraeg newydd heddiw a fydd yn targedu myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer tystysgrif addysg i raddedigion mewn addysg uwchradd ac sy’n hyfforddi i addysgu pob arbenigrwydd pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Wrth gwrs, mae ein gweithlu addysgu yn cynnwys nifer o swyddogaethau gwahanol, ac mae gan bob un ohonyn nhw swyddogaeth hanfodol wrth godi safonau. Mae athrawon cyflenwi yn rhan arwyddocaol a phwysig o'n gweithlu addysgu. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hathrawon cyflenwi yn rhan wybodus o weithlu ehangach yr ysgol a’u bod yn barod ac yn alluog i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod lle i wella yn y modd y mae ein system ar hyn o bryd yn cyflogi, rheoli a chefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan athrawon sy'n gweithio'n hyblyg yn y modd hwn ddigon o adnoddau, y cânt eu gwobrwyo'n briodol, a’u cefnogi a'u hintegreiddio i'r proffesiwn addysgu. Felly, rwy'n cydnabod bod angen i'n system fod yn fwy hyblyg, arloesol a chynhwysol yn ein dull o ymdrin ag absenoldeb athrawon a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y modd hwn yn cael eu cefnogi yn yr un modd ag athrawon parhaol.
Rwyf heddiw yn cyhoeddi cefnogaeth o £2.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a’r blynyddoedd academaidd nesaf er mwyn ariannu 15 awdurdod lleol i gefnogi trefniadau clystyrau cyflenwi yn yr ysgol mewn 86 o ysgolion. Bydd y trefniant clwstwr hwn yn cefnogi penodi oddeutu 50 o athrawon cymwysedig ychwanegol i weithio gyda chlystyrau ysgol, gan lenwi swyddi athrawon sy’n absennol, meithrin gallu a chefnogi gwelliannau ysgol ehangach a deilliannau dysgwyr. Mae'r dull hwn yn buddsoddi mewn, yn datblygu ac yn meithrin athrawon sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar, a hefyd yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth mewn ysgolion i ddiwallu’r galw am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon arbenigol eraill, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.
Drwy'r dull arloesol hwn, rydym ni’n rhagweld y gellir defnyddio arbedion a wneir yng nghyllidebau cyflenwi ysgolion i ailfuddsoddi yn y dyfodol er mwyn creu newid a gwella ysgolion mewn modd mesuradwy. Rwyf o’r farn y bydd y dull hwn yn meithrin gallu yn y system i gefnogi ein hysgolion i reoli eu hanghenion cyflenwi mewn modd mwy cydlynol, cydweithredol a chynaliadwy. Rwy'n falch ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen ag adroddiad tasglu y model cyflenwi yn y ffordd arloesol hon a chydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi cysondeb, llwybrau gyrfa a bodloni anghenion cymhleth mewn gwahanol ranbarthau.
Dirprwy Lywydd, mae gan systemau addysgol gorau’r byd addysgwyr egnïol a brwdfrydig sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Rydym ni wedi hen ddechrau ar y daith yng Nghymru drwy ddatblygu a chynnig proffesiwn o ansawdd uchel sy’n barod i godi safonau yn gyffredinol. Rwy'n ffyddiog bod y cynigion a gyhoeddir heddiw yn dangos ymrwymiad eglur a chlir i'n gweithlu, yn y presennol a’r dyfodol, wrth iddyn nhw gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Diolch yn fawr.
A gaf i groesawu'r datganiad? Rydym ni mewn difrif calon yn rhannu nod Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir hyrwyddo addysgu fel proffesiwn boddhaus a gwerthfawr gyda statws iddo, ac mae'n yrfa yr ydym ni am annog mwy o bobl i’w dilyn. Mae'n arbennig o bwysig, y datganiad hwn, o gofio'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ac eraill eleni, sydd wedi awgrymu bod recriwtio athrawon yn ymylu ar fod yn argyfwng. Dyna oedd eu geiriau yn ôl ym mis Mehefin. Fe wyddom ni ein bod ni wedi cael nifer o flynyddoedd bellach lle yr ydym ni, fel cenedl, wedi methu’r targedau recriwtio athrawon a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem ni draean islaw'r targed am yr ail flwyddyn yn olynol o ran athrawon uwchradd, a chredaf fod hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu braidd nad oedd cyfeiriad at faich gwaith athrawon yn eich datganiad. Fe wyddom ni o'r arolwg gweithlu addysg genedlaethol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, fod 78 y cant o'r rheini a ymatebodd i’r arolwg hwnnw'n dweud mai'r baich gwaith oedd yr agwedd leiaf boddhaus o'u gwaith. Rydym ni hefyd yn gwybod o'r arolwg hwnnw bod traean o athrawon yng Nghymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf. Maen nhw’n ystadegau hynod frawychus.
Nawr, rwy’n gwybod, i fod yn deg â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cyhoeddi yn gynharach eleni eich bod yn bwriadu treialu rhai o gynigion rheolwyr busnes ledled Cymru er mwyn lleihau'r baich gwaith diangen, a'ch bod wedi cyhoeddi rhai canllawiau arfer da, fel petai, i’w gwneud hi’n glir i bobl beth mae angen ac nad oes angen iddyn nhw ei wneud. Credaf fod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen, ond rwyf yn credu bod yn rhaid cydnabod bod y llwyth gwaith yn rhywbeth sy’n rhwystro rhai pobl rhag mentro i’r proffesiwn hwn yn llwyr, ac, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy, er gwaetha’r ffaith bod y llwyth gwaith yn cyfrannu at yr angen am fwy o athrawon cyflenwi, oherwydd absenoldebau heb eu cynllunio yn y gweithlu addysgu. Felly, byddai'n dda pe gallech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud ynghylch hynny.
Sylwaf eich bod wedi sôn y bydd y cymhellion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19 yn cael eu cyhoeddi'n gynnar. Dyna rywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried ychwanegu gwyddoniaeth gyfrifiadurol at y rhestr o bynciau blaenoriaeth. Credaf fod hynny'n hollol hanfodol hefyd, yn enwedig os ydym ni eisiau gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac fe wyddoch chi fod hynny’n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano y tu mewn a’r tu allan i’r Siambr hon yn y gorffennol—yr angen i arfogi pobl ifanc i wneud codio a phethau felly, fel y gallwn ni sicrhau bod gan fusnesau y bobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n falch iawn hefyd o weld y bydd cymhellion newydd er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gweithlu. Rydych chi yn llygad eich lle, os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhaid i ni gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni'r pethau hyn yn ein hysgolion ac annog y defnydd o’r iaith o fewn ac y tu allan i furiau’r ysgol.
Sylwaf fod Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ei chymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19. Ni allaf weld eich bod chi wedi cyhoeddi dogfen heddiw ynglŷn â'r cymhellion, ac ni allaf weld unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, byddai'n ddefnyddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud wrthym ni’n union beth yw'r cymhellion hynny, oherwydd rwyf am ohirio rhoi barn ar ba un a ydyn nhw’n ddigon deniadol i ddenu pobl i'r proffesiwn, oherwydd mae'n amlwg mai’r maen prawf fydd sut maen nhw’n cymharu â chymhellion mewn mannau eraill yn y DU. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gweld y cymhellion hynny.
At hyn, a wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n adolygu'r targedau ar gyfer recriwtio i'r proffesiwn? Rydym ni’n gwybod inni fethu â chyrraedd targedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n amlwg bod angen targedau arnom ni sy'n mynd i’n herio ond sydd hefyd yn realistig a bydd hynny'n sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n bodloni gofynion system addysg Cymru.
A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n derbyn cyngor Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill ynglŷn â’u galwadau am ryw fath o ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon? Nawr, fe wn i fod peth gwaith yn cael ei wneud rhwng y consortia ar hyn o bryd. Ceir rhywfaint o gydweithio, ceir rhywfaint o weithgarwch, ond nid oes ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon. Pan fydda i’n mynd i'r sinema, hyd yn oed, y dyddiau hyn, yn aml iawn fe welwch chi hysbysebion cyn i'r ffilmiau ddechrau yn annog pobl i fynd i'r proffesiwn addysgu, ac maen nhw’n hysbysebion sy'n ceisio denu pobl i system addysgu Lloegr, nid i un Cymru—hyd yn oed mewn sinemâu yng Nghymru, ac rwy’n gweld hynny braidd yn rhyfedd. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n gwneud unrhyw beth ynglŷn â’r agwedd honno.
Un o'r pethau yr wyf i hefyd wedi sôn wrthych chi amdano yn y gorffennol ac sydd wedi bod yn destun trafodaeth ymhlith y pleidiau yn hanesyddol yw potensial athrawon wedi eu hyfforddi dramor a dod â'r rheini i'r proffesiwn yma yng Nghymru. Fe wyddoch chi nad oes ganddyn nhw statws athro cymwysedig awtomatig ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw o systemau addysg cymharol o ran safonau'r systemau addysg hynny. Mae hynny’n rhywbeth sy'n berthnasol yn unig yng Nghymru—nid yn unrhyw ran arall o'r DU—ac mae'n rhwystr i gannoedd o bobl a allai fod eisiau gweithio yn y proffesiwn yma yng Nghymru nad ydyn nhw’n cael y cyfle i wneud hynny ar hyn o bryd heb oresgyn rhwystrau ychwanegol er mwyn gallu gwneud hynny.
Gan droi at y £2.7 miliwn yr ydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw—cyhoeddiad calonogol—i gefnogi'r trefniadau clwstwr, rwy'n synnu y bydd cyn lleied o ysgolion yn cymryd rhan yn y trefniadau clwstwr hynny. Mae gennym ni dros 1,500 o ysgolion yma yng Nghymru, ac mae'r arian hwnnw'n targedu dim ond 86, i’w hannog i gydweithio. Fe wnaethoch chi ddweud y bydd hynny ar waith mewn 15 awdurdod lleol. Beth am y saith awdurdod lleol arall? Pa awdurdodau lleol nad ydynt yn cael eu cynnwys? Pam cyn lleied o ysgolion? Fe wyddom ni fod gan y trefniadau clwstwr hyn botensial enfawr. Byddwn wedi gobeithio y byddai’r rhaglen yn un fwy o ran ceisio manteisio ar y cyfle sy’n dod yn sgîl y trefniadau hynny, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni ynglŷn â hynny.
Ac yn olaf, ynglŷn ag athrawon cyflenwi—
Y pwynt olaf un, nawr.
Un o'r rhwystrau mawr, fel y gwyddoch chi, yw’r cyfleoedd i athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol. Rydych chi wedi dweud eich bod eisiau gweld hynny’n cael sylw. Nid ydych chi wedi dweud sut y disgwyliwch y dylid mynd i'r afael â hynny, ond mae'n amlwg bod angen inni sicrhau bod consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn gwahodd athrawon cyflenwi ac yn caniatáu iddyn nhw gymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu proffesiynol yn rhad ac am ddim, heb unrhyw gost iddyn nhw. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a ydych chi’n bwriadu bwrw ymlaen â'r argymhelliad a wnaeth y tasglu ichi ynglŷn â chyflwyno rhywfaint o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael â pheth o’r camddefnydd y mae asiantaethau athrawon yn gyfrifol amdano o ran safonau'r asiantaethau hynny a hefyd y cyflog a'r gwobrau maen nhw’n eu talu i'n gweithlu addysgu sy'n gweithio fel athrawon cyflenwi? Diolch.
Diolch i Darren Millar am yr hyn a gredaf oedd yn groeso eangfrydig i'r datganiad heddiw a rhestr hir o gwestiynau, y byddaf yn ceisio eu hateb mor gyflym ag y gallaf.
Ni chredaf fod gennym ni argyfwng. Caiff naw deg y cant o leoedd dysgu mewn ysgolion cynradd eu llenwi yn unol â’r targedau. Ond rydych chi'n iawn, gydag addysg uwchradd mae gennym ni heriau penodol, ac yna mae gennym ni heriau penodol mewn rhai pynciau addysg uwchradd—gyda rhai cyrsiau. Rydym ni’n recriwtio'n llawn mewn pynciau eraill. A dyna yw pwrpas y cymhellion.
Fodd bynnag, mae Darren hefyd yn iawn; nid yw dysgu yn ymwneud â’r cyflog yn unig, ac mewn gwirionedd mae'r holl arolygon yn dangos, pan fo’r rhan fwyaf o athrawon yn mynd i'r proffesiwn, nad yr unig gymhelliant yw ennill arian mawr. Yr hyn sy’n eu cymell nhw yw bod arnyn nhw eisiau gweithio gyda phlant, eisiau rhannu’r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw am eu pynciau, a gwneud y gorau y gallan nhw dros y system addysg. Felly, mae materion yn ymwneud â llwyth gwaith yn bwysig. Cyfeiriodd Darren at ein rheolwyr busnes a'n canllaw arfer da. Rwyf ar fin ysgrifennu at bob pennaeth eto i sicrhau bod y canllaw arfer da yn cael ei ddefnyddio yn eu hysgolion, ac rydym ni’n gobeithio cyhoeddi prosiectau ychwanegol ynglŷn â llwyth gwaith wrth i ni symud ymlaen. Ond mae a wnelo hyn hefyd â chefnogi'r proffesiwn a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy'n eu galluogi i fod y gorau y gallan nhw fod. Fe wyddoch chi ein bod ni’n datblygu ffordd genedlaethol o fynd i’r afael â DPP, fel bod athrawon yn cael hynny ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Fe wyddom ni hefyd, weithiau, nad yw ein harweinyddiaeth efallai mor dda ag y gallai fod. Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth reoli llwyth gwaith a sicrhau bod ysgolion a cholegau yn lleoedd deniadol i weithio ynddynt. Dyna pam yr ydym ni’n datblygu ein hacademi arweinyddiaeth i sicrhau bod gan ein harweinwyr ysgol y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn rheolwyr effeithiol ar eu sefydliadau.
Y prif newidiadau i'r cymhellion, o’u cymharu â’r llynedd—. Mae'r ffigurau yr un fath, sef £20,000 ar gyfer gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg, ond y pwnc ychwanegol ymhlith y rhain yw gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Hefyd, rydym ni’n newid—. Roedd rhywfaint o gyfyngiadau gwrthnysig, afresymegol ar y bobl hynny oedd â Doethuriaeth a graddau Meistr. Felly, pe byddai gennych chi radd 2:1 ond bod gennych chi Ddoethuriaeth, neu pe byddai gennych chi radd 2:1 a bod gennych chi radd Meistr, dim ond y gyfradd 2:1 fyddech chi’n ei chael, sy'n is na'r gyfradd dosbarth cyntaf, nad oedd mewn gwirionedd, yn rhesymegol, yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, rydym ni yn mynd i'r afael â hynny y tro hwn. Felly, os oes gennych chi radd dosbarth cyntaf neu Ddoethuriaeth neu radd Meistr, byddwch yn derbyn y swm mwyaf ar gyfer y pynciau hynny. Ar gyfer pynciau blaenoriaeth ganolig bydd cymhelliant o £15,000. Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio, Darren, yw mai pedwar cymhelliant yw’r rhain ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, 2018-19, lle bydd y myfyrwyr hyn hefyd yn gallu ymgeisio am ein pecyn Diamond cyflawn. Mae myfyrwyr TAR yn eithriad i astudiaethau ôl-raddedig, felly mae'n bosib y bydd y myfyrwyr hyn yn gallu ymgeisio am becyn cymorth Diamond llawn ochr yn ochr â'r cymhellion yr ydym ni yn eu cyflwyno heddiw.
Rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd ar—. Fe wnaethoch chi ofyn a fydd targedau yn aros yr un fath. Rydym ni’n ceisio creu sefydlogrwydd i'n sefydliadau sy'n cynnig y cyrsiau hyn ar hyn o bryd, ond rydym ni’n gweithio ar offeryn cynllunio gweithle newydd i gael data gwell a gallu dadansoddi anghenion ein gweithlu yn well yn y dyfodol, ac rwyf yn disgwyl y byddwn ni’n newid ein targedau o ran pryd y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, ac rwy'n gobeithio y gwneir hynny yn 2019— y bydd yr offeryn newydd hwnnw ar gael ac yn cyd-fynd â datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon. Mae yna gyfres gyfan o bethau y mae angen cyswllt rhyngddynt.
Mae ymgyrch genedlaethol ar droed. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan yr holl gonsortia rhanbarthol. Ei henw yw Darganfod Addysgu. Rydym ni’n trafod yn gyson a yw’r amgylchiadau a’r adnoddau ar gael ar gyfer ymgyrch fwy. Rwyf hefyd yn edrych yn barhaus ar ba un a ydym ni’n creu rhwystrau artiffisial i athrawon o wledydd eraill i ddod i ddysgu yn y wlad hon. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar hyn, barn gref iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y dylai'r cyfyngiadau hynny fod yn berthnasol. Ond, yn amlwg, nid ydym ni eisiau rhwystro pobl a all wneud cyfraniad i'n hystafelloedd dosbarth, a byddwn ni’n adolygu hynny. Hynny yw, wrth gwrs, os gallan nhw fynd drwy system fewnfudo Llywodraeth y DU a dod i fyw yma a gweithio yma yn y dyfodol.
Rydych chi’n hollol gywir ynghylch yr angen i'r consortia gynnig datblygiad proffesiynol parhaus i'n hathrawon cyflenwi. Cyhoeddwyd adroddiad y tasglu athrawon cyflenwi ym mis Chwefror. Rydym ni wedi sefydlu grŵp annibynnol i oruchwylio’r modd y caiff yr argymhellion hynny eu gweithredu. Mae'r grŵp wedi cyfarfod dair gwaith, ac rydym ni’n gwneud cynnydd. Mae'r model cyflenwi yr ydym ni’n sôn amdano heddiw yn argymhelliad sy'n cael ei weithredu. Rydym ni wedi sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon cyflenwi, nad oedd yn bosib o’r blaen, ac rydym ni’n gweithio gyda'r consortia i sicrhau bod modd i’r athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus.
O ran y cynllun arbrofol, gadewch i mi ddweud: mae hyn yn arwydd o'm bwriad. Roedd y cynllun arbrofol yn argymhelliad uniongyrchol gan y grŵp gorchwyl a gorffen, ond mae'n rhoi cyfle inni ymchwilio i hyn fel model amgen i recriwtio a chyflogi athrawon cyflenwi, wrth symud ymlaen. Y 15 awdurdod lleol a ddewiswyd yw 15 o'r 16 a fynegodd ddiddordeb. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae’n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac ysgolion, oherwydd bod ysgolion yn cael eu rheoli’n lleol. Ni allwn ni orfodi hyn arnyn nhw. Felly, fe dderbyniwyd cais 15 o'r 16 awdurdod a fynegodd diddordeb, a dyma nhw, os yw pobl eisiau gwybod, ac os yw'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu imi eu rhestru: Sir Benfro, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Powys , Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr, Conwy, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Felly, mae gennym ni drawstoriad mawr o awdurdodau trefol a gwledig, gogledd a de, dwyrain a gorllewin, a chymysgedd o ysgolion. Felly, mae gennym ni glystyrau cynradd, mae gennym ni rai uwchradd, ond mae gennym ni ysgolion 3-19 oed hefyd. Ni allwn ni orfodi hyn ar bobl; mae'n rhaid inni ei wneud drwy gydweithio â’r rheini sy’n barod i wneud hynny. Mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd, ac mae'r awdurdodau lleol hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi camu i’r adwy ac yn dangos gweledigaeth wirioneddol ac wedi archwilio'r posibilrwydd y gall hyn ddod â manteision yn ei sgîl. Ac mae’r manteision hynny nid yn unig i'r athro cyflenwi. Yr hyn sy'n hollbwysig ynglŷn â hyn yw bod manteision i'r plant, oherwydd bydd ganddyn nhw wynebau cyfarwydd. Felly, pan fo’u hathro dosbarth yn absennol neu'n mynd ar gwrs hyfforddi, byddan nhw’n gweld wyneb cyfarwydd yn eu hysgol, a bydd hynny'n cael effaith ar addysgu a dysgu'r plant hynny.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rwyf innau hefyd yn teimlo ei bod hi braidd yn od nad oedd yna ddim manylion ynglŷn â’r cymhellion a oedd yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond diolch i chi am roi amlinelliad i ni yn eich ymateb. Byddai diddordeb gyda fi wybod sut mae’r cymhellion newydd yma yn mynd i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi roi rhyw amlinelliad i ni, ond mi fyddai hynny’n ddifyr oherwydd ein bod ni mewn sefyllfa gystadleuol yn aml iawn pan mae’n dod i rai o’r pethau yma. Rwyf innau hefyd eisiau croesawu’r cymhelliad ychwanegol yr ŷch chi’n ei gynnig o safbwynt athrawon sy’n medru dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mae lefel recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn y flwyddyn 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gyda ni ffigurau ar ei chyfer, ar ei hisaf ers 2008-09. Felly, rhowch chi hynny ochr yn ochr ag uchelgais y Llywodraeth o safbwynt ble yr ŷm ni’n mynd ar nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae’n amlwg bod angen bod yn rhagweithiol ar y ffrynt yna, ac rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn.
Mi oedd eich datganiad chi’n sôn bod angen edrych hefyd ar ardaloedd gwledig yn benodol, ond nid wyf i’n gweld cyfeiriad at gymhellion yn y cyd-destun hynny. Efallai y gallech chi roi ychydig o sylwadau i ni ynglŷn â sut yr ŷch chi’n gweld modd o gymell pobl i edrych i’r cyfeiriad penodol yna. Rŷch chi hefyd wedi dweud yn y gorffennol fod yna ddiffyg amrywiaeth ar draws y gweithlu dysgu, ac mi ddywedoch chi wrth y pwyllgor ychydig yn ôl fod yna job o waith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â hynny gan y Llywodraeth. Nid oes dim byd yn eich datganiad chi ynglŷn â hynny, ac efallai y byddwch chi’n gallu rhoi diweddariad i ni o’r hyn yr ŷch chi wedi bod yn ei wneud i geisio cyflwyno mwy o amrywiaeth yn y gweithlu dysgu yng Nghymru.
Mae’r grŵp arbenigol, yr ‘ITE expert forum’, hefyd wedi bod yn edrych ar adolygu tystiolaeth o’r arfer gorau am lwybrau amgen i mewn i ddysgu. Rŷch chi wedi cyffwrdd â hyn unwaith neu ddwy yn y gorffennol, ond byddai’n dda cael diweddariad ac efallai cael gwybod pryd y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth mwy cynhwysfawr o gwmpas y maes yna.
Mae yna nifer o rwystrau, wrth gwrs, i recriwtio athrawon newydd. Nid oes neb yn honni bod yn un ateb—mae angen cyfres o atebion, mewn gwirionedd. Ond un sy’n codi ei ben yn gyson yw’r gofyniad i gael gradd B mewn TGAU mathemateg. Nawr, rwy’n gwybod ein bod ni’n annog ac yn awyddus i godi safon yr addysgwyr sydd gennym ni yng Nghymru, ond pan mae rhywun fel John Furlong ei hunan yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth hynny yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae yn bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni jest yn stopio i edrych ar hynny. A byddwn i jest yn gofyn i chi ddweud: a ydych chi yn credu bod newid hwnnw yn y ‘mix’ o gwbl, neu a ydych chi’n gwbl hapus bod hynny’n mynd i aros yn yr hirdymor?
Rŷm ni wedi cyffwrdd â biwrocratiaeth, felly af i ddim ar ôl hynny.
O safbwynt yr athrawon cyflenwi, yn sicr rwy’n croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â’r trefniadau cyflenwi mewn clwstwr fel cam i’r cyfeiriad iawn. Fel yr ŷch chi’n dweud eich hunan, peilot yn amlwg fydd llawer o’r gwaith yma. Roeddwn innau hefyd yn rhannu rhai o’r cwestiynau ynglŷn â’r niferoedd isel o athrawon a’r niferoedd isel o ysgolion a oedd yn cael eu cynnwys yn hyn. Ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn fan hyn am 50 o athrawon newydd gymhwyso, tra bo gennym 4,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru, a nifer o’r rheini yn sicr yn teimlo nad ydyn nhw, efallai, wedi cael y gefnogaeth a’r statws y bydden nhw yn eu dymuno. Ac rydw i wedi codi gyda chi ar nifer o achlysuron yn ddiweddar y problemau o gwmpas tâl ac amodau, ac af i ddim nôl dros y tir yna, ond yn sicr mae rôl yr asiantaethau preifat yma, sydd wedi cynyddu yn sylweddol o ryw ddwsin rai blynyddoedd yn ôl i bron i 50 erbyn hyn, wedi peri tipyn o gonsérn i nifer sy’n gweithio yn y sector.
Felly, yr hyn y liciwn i ofyn yw: yn amlwg, peilot yw hwn—mae’n rhoi rhyw flas ar y cyfeiriad, efallai, mae’r Llywodraeth yn symud tuag ato fe—ond ble ŷch chi’n gweld y ddarpariaeth, a pha fath o fodel ŷch chi’n gweld yn y tymor hir? A ydy hyn yn gnewyllyn o’r model y byddech chi’n hoffi ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru yn y pen draw, neu a ydych chi’n dal i fod yn edrych ar fodelau amgen yn ogystal â’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi hefyd?
Rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, fod yn rhaid datganoli tâl ac amodau i athrawon cyn bo modd, efallai, mynd i’r afael i’r graddau y byddem ni i gyd yn hoffi mynd i’r afael â rhai o’r materion yma. Ond byddwn i’n falch petasai chi’n cadarnhau mai’ch bwriad chi yn y pen draw fydd mynd i’r afael, unwaith ac am byth, â’r mater o dâl ac amodau i athrawon cyflenwi a rôl y sector breifat pan fyddwch chi’n teimlo bod gennych chi’r pwerau i wneud hynny.
A jest i gloi, rŷch chi’n dweud yn eich datganiad bod y gweithlu dysgu yn cynnwys pobl mewn nifer o rolau gwahanol, oll yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau, ond nid oes yna ddim sôn am gynorthwywyr dosbarth wedi bod cymaint ag y byddwn i’n licio yn y drafodaeth gyffredinol yma am recriwtio athrawon, a recriwtio a chadw cynorthwywyr dosbarth, a dweud y gwir, oherwydd maen nhw yn elfen bwysig o’r glud sy’n dal y gyfundrefn addysg at ei gilydd yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae llawer o bwysau ar y system. Mae yna lawer yn teimlo nad yw’r grŵp yma chwaith wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw yn ei haeddu, ac yn sicr y tâl a’r amodau y maen nhw yn eu haeddu. Byddwn i’n falch o glywed beth yw’ch neges chi iddyn nhw hefyd, oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n cofio, am bob un athro, mae yna un cynorthwyydd dosbarth yng Nghymru, a byddwn i’n licio gwybod pa waith ŷch chi a’r Llywodraeth yn ei wneud o ran recriwtio a chadw'r gweithlu yn y sector benodol honno.
Diolch yn fawr iawn, Llŷr, am y gyfres yna o gwestiynau. O ran cael eich derbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac a wyf i'n bwriadu dileu’r gofyniad am radd B mewn Saesneg a mathemateg, nid oes gennyf unrhyw fwriad i wneud hynny ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol fod y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn berthnasol i’n holl gwricwlwm ar gyfer hyd gyrfa ysgol plant, ac felly byddai angen i'n holl ymarferwyr gael sylfaen gadarn yn Saesneg ac mewn mathemateg. I'r bobl hynny sydd efallai yn edrych—. A dyna pam mae hi mor bwysig nad yw athrawon yn bancio graddau pan eu bod nhw’n paratoi disgyblion i wneud eu harholiadau yn gynnar, oherwydd bod goblygiadau i'r bobl ifanc hynny yn y dyfodol—. Dim ond y penwythnos hwn, cwrddais â mam nad oedd ag unrhyw syniad, wrth dderbyn gradd C, y byddai hynny'n atal ei mab rhag dilyn gyrfa mewn addysgu. Felly, mae angen inni fod yn glir bod gennym ni’r safonau hyn.
Yn achos y bobl hynny sydd o bosib yn dychwelyd i addysgu, efallai yn newid gyrfa neu bobl sy'n dymuno mynd i mewn i'r proffesiwn lle mae ganddyn nhw radd C, yna mae dewisiadau ar gael i wneud prawf cywerthedd drwy'r prifysgolion ar adeg y cais. Felly, nid yw hynny’n golygu nad oes gan bobl gyfle i sicrhau neu ddangos eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ffordd wahanol, oherwydd mae recriwtio graddedigion, newid gyrfa a llwybrau amgen i'r proffesiwn yn bethau yr ydym ni’n edrych yn ofalus arnyn nhw ar hyn o bryd.
Y llynedd, fe welsom ni 20 o bobl yn cael eu cyflogi gan ysgolion ac yn mynd drwy broses hyfforddi. Fe hoffwn i weld mwy o hynny, ac, fel y dywedais i, rydym ni’n edrych o ddifrif ar ffyrdd y gallwn ni gael llwybrau amgen i'r proffesiwn addysgu, yn enwedig i'r rheini sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth a diwydiant, ac sydd nawr yn awyddus i symud i'r byd addysg er mwyn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth am y pwnc hwnnw gyda phobl ifanc. Mae hynny'n rhan o’r amrywiaeth eang o ffyrdd yr ydym ni’n edrych arnynt i roi gwybod i bobl am bosibiliadau addysgu. Pam y byddech chi’n ystyried bod yn athro a beth wyddoch chi am hynny? Dyna pam mae cynlluniau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor modern mor bwysig yn ein prifysgolion, oherwydd eu bod nhw’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr ieithoedd tramor modern gael cyfnodau o weithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol a chyflwyno iddyn nhw’r posibilrwydd, efallai, o fod yn athro. Mae un o'r graddau ffiseg gorau ym Mhrifysgol Llundain yn gwneud i’w holl israddedigion ffiseg wneud uned ynglŷn â dysgu ffiseg. Rydym ni wedi bod yn siarad â'n sector prifysgol am gynnwys hynny yn ein cyrsiau gwyddoniaeth israddedig ni, fel bod pob myfyriwr israddedig yn cael y cyfle hwnnw i fod yn agored i'r posibilrwydd o addysgu fel gyrfa, fel y gallwn ni gael ystod eang o bobl sydd â diddordeb yn y proffesiwn.
Fe wnaethoch chi ofyn am y sefyllfa barhaus ynglŷn ag athrawon cyflenwi a dyfynu’r ffigur o ychydig dros 4,000 o athrawon sydd wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon cyflenwi—hynny yw, mae 4,200 o athrawon sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel athrawon cyflenwi. Mae'n bwysig dweud, Llyr, y caiff hanner y rheini eu cyflogi drwy gyfrwng ysgolion ac awdurdodau lleol ac maen nhw ar ddogfen tâl ac amodau athrawon yr ysgol. Felly, maen nhw’n cael eu talu yn y modd hwnnw. Felly, mae'n bwysig cydnabod, pan fyddwn ni’n sôn am y system gyflenwi, bod 50 y cant o'r rheini yn gweithio ac yn cael eu talu ar delerau dogfennau tâl ac amodau athrawon ysgol. Mae hynny'n ein gadael ni gydag oddeutu 2,100 o athrawon sydd wedi'u cofrestru gydag asiantaethau masnachol—sef tua 6 y cant o'n holl athrawon cofrestredig sy'n cael eu cyflogi ar y sail honno. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n hollol glir, nid wyf i’n cymeradwyo arfer ysgolion ac asiantaethau o gynnig cyfraddau tâl isel i athrawon cyflenwi. Fe ddywedais i heddiw yn fy natganiad, fy mod yn disgwyl i athrawon dros dro gael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol ar gyfer y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Felly, gallai'r dull yr wyf i wedi'i amlinellu heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso gynnig model amgen dichonol i ni yn hytrach na defnyddio asiantaethau cyflenwi wrth i ni gamu i’r dyfodol. Ac, ar hyn o bryd, rwyf wrthi’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno system baru ganolog i gyd-fynd â blwyddyn gyntaf datganoli tâl ac amodau athrawon, gyda’r cyfrifoldebau hynny’n cael eu trosglwyddo yn nhymor yr hydref 2018. Felly, 2019 fydd ein blwyddyn gyflog gyntaf y bydd y system honno’n weithredol. Mae’n rhaid i’r system hon fod yn un sy'n ateb gofynion Cymru. Ni all fod yn system lle nad ydym ni wedi gwneud dim amgenach na’i thrawsblannu o rywle arall.
Gadewch i mi ei gwneud hi’n gwbl glir eto: mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli i benaethiaid. Mater i benaethiaid yn eu hysgolion yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes dim yn eu gorfodi i ddefnyddio asiantaeth; nhw sy’n penderfynu. Fe allwn ni ddadlau ynghylch pa un a ydym ni eisiau rheoli ysgolion yn lleol, neu a ydym ni eisiau tynnu’r pwerau hynny oddi ar benaethiaid a gorfodi system genedlaethol arnyn nhw. Fe allwn ni gael dadl ynghylch hynny, ond mae'n dangos bod hwn yn fater eithaf cymhleth ac oherwydd y cymhlethdodau hynny, cofiwch, dyna pam na allai'r grŵp gorchwyl a gorffen argymell un system ar gyfer Cymru y gellid ei gweithredu'n gyflym. Ond, rydym ni’n parhau i edrych ar hyn, ac mae'r cynllun arbrofol hwn, fel y dywedais i, yn rhoi’r posibilrwydd o fodel amgen inni.
Mae hwnna'n ateb trylwyr iawn. Rwy’n croesawu’n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y ffaith y bydd y system ganolog yn cyd-fynd â datganoli cyflogau ac amodau athrawon. Roeddwn yn synnu na chafodd ei grybwyll yn natganiad i'r wasg Lywodraeth Cymru, oherwydd credaf fod hynny'n fater sylfaenol a fydd o fantais i athrawon cyflenwi yn yr amgylchiadau hyn. Felly, rydych chi yn cydnabod, yr hyn oedd wrth wraidd fy nghwestiwn, y bydd datganoli cyflogau ac amodau yn eich galluogi i gymryd camau pellach. Felly, a yw'r wybodaeth a fydd yn arwain at sefydlu'r system baru yn deillio o sefydlu'r system glwstwr yr ydych chi'n arbrofi gyda hi? Ai o’r fan yna y mae hi’n deillio?
Y mater arall yr hoffwn i gyfeirio ato, y mae etholwyr wedi dwyn fy sylw ato, yw eu bod nhw'n bryderus iawn am ‘New Directions’, sef y corff a ddewisiwyd i ddarparu athrawon cyflenwi. A fydd y fframwaith cyfredol hwnnw yn cael ei adnewyddu pan ddaw’r contract i ben? A pha gynlluniau yn y dyfodol sydd gan y Llywodraeth ynglŷn â chynnwys asiantaethau wrth ddarparu athrawon cyflenwi?
Diolch, Hefin. Fel y dywedais i, rydym ni ar hyn o bryd wrthi’n ystyried pa mor ddichonadwy fyddai system baru genedlaethol i gyd-fynd â datganoli telerau ac amodau. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni’n gwneud hyn mewn trafodaeth gyda'r undebau eu hunain, fel eu bod nhw’n rhan annatod o'r broses hon wrth symud ymlaen. Mae gennym ni fodel partneriaeth gymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, lle yr ydym ni’n gweithio yn yr ysbryd cydweithredol hwnnw sy’n bodoli rhyngom ni fel Llywodraeth, llywodraeth leol fel y cyflogwyr ac ysgolion fel y cyflogwyr, yn ogystal â'r undebau.
Unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud: Nid wyf i’n cyflogi athrawon ac, felly, nid fy nghontract i yw contract ‘New Directions’, nid contract Llywodraeth Cymru mohono, ac nid oes dim sy'n gorfodi penaethiaid i ddefnyddio'r asiantaeth honno, neu, yn wir, unrhyw un o'r asiantaethau eraill sydd ar gael. Pa un a fydd y model hwnnw'n parhau i fodoli ar ôl i ni orffen ein hastudiaeth o ddichonoldeb ac ystyried dewisiadau polisi, wel, byddai hynny'n fater iddyn nhw; penderfyniad masnachol iddyn nhw yw hwnnw. Ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod gennym ni ddewis arall ar gael i athrawon, penaethiaid, ysgolion ac awdurdodau lleol wrth symud ymlaen, a bod y gwaith hwnnw'n digwydd yn ymarferol ar hyn o bryd, oherwydd rwy’n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac mae’r datganiad heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso yn ddatganiad o'm bwriad.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n sicr yn cynrychioli cam i'r cyfeiriad cywir. Mae'r datganiad yn dwyn yr enw 'recriwtio athrawon', ond ni allaf wir weld ble yr ydych chi'n siarad am recriwtio athrawon yn gyffredinol wrth fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol a nodwyd ynglŷn â recriwtio athrawon yng Nghymru. Rwy’n gweld tri chyhoeddiad pendant yn y datganiad, a’r cyntaf o’r rhain yw’r cymhelliant cyfrwng Cymraeg, sy’n syniad gwych yn fy nhyb i. Nid yw hi ond yn iawn a phriodol y dylai Llywodraeth Cymru annog addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym ni’n hen gyfarwydd yn y Siambr hon â phrinder yr athrawon hynny. Yn amlwg, rwy’n cefnogi'ch amcan yn llwyr yn hyn o beth, ac felly hefyd eich mesur i gyfrif gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel cymhwyster i gael cymhelliant uwch.
Gan droi at y cyllid ar gyfer trefniadau clwstwr mewn ysgolion, mae hwn yn ymddangos yn syniad da iawn, ond nid oes unrhyw fanylion—. Rwy'n gwybod eich bod wedi rhoi rhywfaint o fanylion heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ychydig iawn—nid oes unrhyw fanylion yn eich datganiad ei hun. Felly, wyddoch chi, os yw disgyblion ac ysgolion yn gallu meithrin perthynas waith gyda chriw rheolaidd o athrawon cyflenwi, yn hytrach na bod yr athro cyflenwi yn aml yn ddieithryn llwyr, mae hynny'n llawer gwell i'r athro cyflenwi, yr ysgol a'r disgyblion. Felly, sut ydych chi'n rhagweld y bydd y clystyrau'n gweithio'n ymarferol? Ydych chi'n gweld yr awdurdod lleol—? A fydd yn golygu clwstwr fesul awdurdod lleol neu a fydd yr awdurdodau lleol yn clystyru gyda'i gilydd? Sut mae'n mynd i weithio ar lawr gwlad yn eich tyb chi?
Sylwaf yr hoffech chi gyflogi cronfa o athrawon cyflenwi, sydd, rwy’n credu, eto, fel y dywedais i, yn syniad da. Ond nid oes arnom ni eisiau i athrawon newydd gymhwyso droi yn athrawon cyflenwi hirdymor, felly fe hoffwn i weld rhyw fath o gynnig neu glywed pa waith yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Yr hyn rwy’n ei olygu yw, yn amlwg, mae gweithio fel athro cyflenwi yn mynd i fod yn ffordd ddefnyddiol iawn i athro newydd gymhwyso fagu profiad, felly nid wyf am ddifrïo’r llwybr athrawon cyflenwi o gwbl.
Rydych chi wedi dweud, a bu peth sôn amdano eisoes, mai dim ond 15 awdurdod lleol yn cynnwys 86 o ysgolion sy'n cael eu hariannu i redeg y trefniant clwstwr hwn. Rwyf wedi dod i ryw fath o gasgliad o'r sgyrsiau heddiw mai cynllun arbrofol yw hwn, ond, wyddoch chi, beth fydd eich meini prawf o ran dyfarnu'r arian? Rydych chi wedi neilltuo £2.7 miliwn. Sut gaiff hwnnw ei ddosrannu rhwng y clystyrau? Pwy sy'n mynd i wneud y penderfyniad ynghylch faint y mae pob clwstwr yn ei gael? A sut mae'n mynd i weithio mewn gwirionedd? A fydd yn rhaid i'r awdurdodau lleol hyn wneud cais am yr arian neu a ydych chi am benderfynu yn seiliedig ar feini prawf penodol, ac, os felly, beth yw'r meini prawf yn debygol o fod? Ydych chi'n meddwl hefyd eich bod yn debygol o ehangu’r system hon i'r awdurdodau lleol nad ydyn nhw wedi eu cynnwys ar hyn o bryd?
Iawn. Mae'n peri pryder imi fod, yn ôl ffigurau Cyngor y Gweithlu Addysg, dros 80 y cant o athrawon sydd newydd eu cofrestru yng Nghymru yn gweithio ar sail tymor penodol neu gyflenwol. Nid wyf i’n gweld unrhyw fesurau i fynd i'r afael â hyn yn eich datganiad, felly efallai y gallech chi ddweud ychydig mewn ymateb i hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw gynigion i fynd i'r afael â'r cyhoeddusrwydd negyddol am ansawdd yr hyfforddiant yng Nghymru na chanfyddiad myfyrwyr bod y proffesiwn yn mynd yn anoddach a bod y proffesiwn yn anneniadol. Nid fy ngeiriau i yw'r rhain; dyna eiriau Cyngor y Gweithlu Addysg, gyda llaw. Mae nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer athrawon ysgol yn is eleni nag y bu ers 2004. Ac, er bod y datganiad yn honni ei fod yn cynnig atebion arloesol i'r broblem, heblaw am y tri mesur a drafodwyd eisoes, nid oes fawr mwy na hynny. Felly, fe hoffwn i glywed pa waith arall yr ydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol a'r rhwystrau i hyfforddi athrawon yng Nghymru sydd wedi'u nodi gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac eraill. Diolch.
Diolch am y gyfres yna o gwestiynau. Mae'n bwysig ein bod ni’n blaenoriaethu'r rhai a fydd yn mynd ymlaen i fod yn athrawon yn ein hysgolion dwyieithog a’n hysgolion cyfrwng Cymraeg. Dyna pam mae’r Gymraeg yn bwnc blaenoriaeth ar gyfer cymhellion, ac y priodolir iddo’r cymhellion uchaf i astudio ar gyfer TAR. Rydym ni hefyd yn cyhoeddi cynllun newydd heddiw, fel yr ydych wedi cyfeirio ato, a fydd yn daliad ar ôl llwyddo i ennill statws athro cymwysedig, gydag ail daliad i'r graddedigion hynny ar ôl cwblhau eu blwyddyn sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol Gymraeg. Felly, nid arian ymlaen llaw yw hwn. Mae hyn yn ymwneud mewn gwirionedd â chymell pobl i orffen eu cwrs a mynd ymlaen i ddysgu mewn ysgol. Felly, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â thalu drwy gyfrwng cwrs; mae hyn yn ymwneud â chymell pobl mewn difrif i fentro i'n hystafelloedd dosbarth.
Fe wnaethoch chi bwynt pwysig iawn ynghylch sut y gallwn ni symud pobl o'r cynllun SAC i swyddi parhaol. Yr hyn yr ydym yn ei wybod yw bod SAC, athrawon newydd gymhwyso, yn ffurfio rhan sylweddol o'n hathrawon cyflenwi, ac felly mae'n wirioneddol bwysig eu rhoi ar lwybr llwyddiannus ar gyfer dechrau eu gyrfa addysgu, a gobeithio y bydd y profiad hwnnw o fynd i ysgolion yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw sicrhau gwaith parhaol yn yr ysgol, os mai dyna yw eu dymuniad. Mae'r syniad hwn o ddilyniant, mewn gwirionedd, yn bwysig iawn. Dyna un o ddiffygion model Gogledd Iwerddon. Mae llawer o bobl yn y Siambr hon wedi sôn am fodel Gogledd Iwerddon. Un o ddiffygion y model hwnnw yw nad oes ffordd glir i bobl adael y gofrestr gyflenwi a symud i swyddi addysgu parhaol. Does arnom ni ddim eisiau i athrawon sydd eisiau swydd barhaol fod yn gaeth i un system.
Mae awdurdodau lleol wedi gwneud cais am yr arian. Mae’r arian wedi ei ddyrannu yn seiliedig ar gryfder eu ceisiadau o ran effaith, cynaliadwyedd ac ansawdd yr hyn a gynigiwyd ganddynt. Derbyniwyd un ar bymtheg o geisiadau gan awdurdodau lleol, ac ystyriwyd bod 15 yn llwyddiannus, ac mae'r holl awdurdodau lleol hynny wedi cael gwybod am fwriad Llywodraeth Cymru i roi grant iddynt.
Mae Michelle yn gofyn am amgyffred pobl o addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ac nid ydych chi'n anghywir. Efallai nad yw ein darpariaeth yn y gorffennol wedi bod cystal ag y buasem yn dymuno iddo fod, ac fe gafodd hynny ei amlinellu yn adroddiad yr Athro John Furlong, a dyna pam yr ydym ni’n diwygio'r ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru ar hyn o bryd. Rwyf eisiau i bobl ddod i Gymru, nid dim ond oherwydd ein bod ni’n cynnig cymhellion ariannol, ond byddant yn dod i'n prifysgolion i hyfforddi i fod yn athrawon oherwydd eu bod yn gwybod beth fydd ar gael iddyn nhw mewn system addysg o'r radd flaenaf ac y bydd ganddyn nhw’r sylfaen academaidd gorau posib i'w cychwyn ar yrfa lwyddiannus. A dyna pam yr ydym ni’n diwygio'r ffordd yr ydym ni’n cyflwyno addysg gychwynnol athrawon wrth i ni symud ymlaen. Mae amrywiaeth eang o sefydliadau wedi mynegi diddordeb mawr yn hyn—nid dim ond y sefydliadau arferol hynny sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol—ac rydym ni wrthi ar hyn o bryd yn bwrw golwg beirniadol iawn dros y datganiadau hynny o ddiddordeb a’r cynigion. Nid proses ar fy nghyfer i fydd dyrannu ac achredu'r cyrsiau hynny, ac mae fy neges yn hollol, hollol glir: oni bai eu bod o ansawdd uchel, ni chânt eu comisiynu, oherwydd ein bod eisiau i athrawon y dyfodol fod wedi eu haddysgu i'r safonau uchaf posib.
Mae gennym ni ein hymgyrch Darganfod Addysgu; rydym ni’n gweithio gyda'n prifysgolion, fel y dywedais i, i wneud eu myfyrwyr israddedig yn ymwybodol o’r posibilrwydd o addysgu; mae gennym ni ein cymhellion; rydym ni’r mynd i’r afael â’r llwyth gwaith; ac rydym ni’n mynd i’r afael ag arweinyddiaeth. Rwyf eisiau i Gymru fod y lle gorau i fod yn athro. Nid oes unrhyw ffordd hud unigol o wneud hynny. Cyfanrwydd ein diwygiadau fydd yn gwneud i hynny ddigwydd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.