– Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf ar yr agenda felly—fe awn ni'n ôl at y drefn arferol—yw'r ddadl ar entrepreneuriaeth a'r anghenraid cenedlaethol.
Allaf i ddim eich ddeall chi nawr. [Chwerthin.]
Wel, mae'n ddrwg gen i, ond—
Rwy'n credu bod angen inni adael y maes busnes, byddwn ni yma drwy'r dydd pe byddwn i'n gwneud hyn i gyd yn Gymraeg. Gwnaf ymarfer dros egwyl y Nadolig, rwy'n addo.
Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig. Ken Skates.
Cynnig NDM6578 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod entrepreneuriaeth a mentrau bach a chanolig yn allweddol i Gymru o safbwynt creu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad a bod gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, swyddogaeth allweddol o safbwynt creu’r amgylchedd cywir a chefnogi’r seilwaith.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch ichi am ganiatáu imi gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a dechrau drwy ofyn cwestiwn: beth yn wir, beth yw'r cysylltiad rhwng rhanbarthau economaidd mwyaf llwyddiannus ac amrywiol y byd, o Boston i Utah, o Israel i Mittelstand yn yr Almaen? Yn fy marn i, yr ateb yw sylfaen busnes llewyrchus; sail busnes gyda dwy agwedd iddi sef entrepreneuriaeth ac arloesedd. Entrepreneuriaeth ac arloesedd wedi ei wneud yn bosib oherwydd bod cyllid ar gael; ymchwil a datblygu; sgiliau; seilwaith ac, wrth gwrs, cyfle.
Mae gennym ni, Lywodraeth Cymru, weledigaeth glir iawn o'r hyn yr ydym ni eisiau ei gyflawni yma yng Nghymru. Rydym ni eisiau gweld ein heconomi yn tyfu, ac mae hynny'n golygu meithrin entrepreneuriaeth a helpu busnesau o bob maint i ddod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy llwyddiannus. Ond mae'n rhaid i'r twf hwnnw fod â diben: twf sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a'r heriau cynhyrchiant sy'n dal ein heconomi yn ôl; twf cynhwysol sy'n cynnig cyfleoedd eang fel y gallwn ni i gyd chwarae rhan a chyflawni i'n llawn botensial. Dyna pam mae'n bwysig hyrwyddo a meithrin ein hentrepreneuriaid a manteision sgiliau entrepreneuraidd fel bod modd i fusnesau dyfu. Rwy'n cydnabod y llwyddiant yr ydym ni eisoes wedi ei gyflawni yn hyn o beth.
Ers ei lansio yn 2012, mae Busnes Cymru—gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig—wedi ymdrin â dros 150,000 o ymholiadau; mae wedi rhoi cyngor i dros 77,000 o unigolion a busnesau; mae wedi annog bron chwarter miliwn o bobl ifanc i fentro i fyd entrepreneuriaeth; cyfeirio a darparu gwybodaeth i 92,000 o fusnesau ychwanegol; wedi creu dros 25,000 o swyddi a diogelu 5,000 arall; ac mae wedi cefnogi creu 12,000 o fentrau newydd yma yng Nghymru.
Cyhoeddais yn ddiweddar bod rhaglen cyflymu twf Busnes Cymru ers mis Ebrill 2015 wedi creu dros 2,300 o swyddi hyd yn hyn, ac mae'r rhaglen hefyd wedi helpu cwmnïau sy'n cymryd rhan i ddenu £80 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat a chynhyrchu £38 miliwn o allforion. Mae hyn yn amlygu'r potensial sy'n bodoli yng Nghymru a hefyd pwysigrwydd ecosystemau cefnogol sy'n helpu entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig mewn modd rhagweithiol i gyfrannu i'r eithaf at economi Cymru.
Mae meithrin gallu wedi bod yn amcan allweddol. Yn fy marn i, mae Syniadau Mawr Cymru, sy'n annog entrepreneuriaeth o gyfnod cynnar ac yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc, wedi esgor ar ganlyniadau rhagorol, gyda 70 y cant o bobl ifanc o dan 25 oed yn dymuno gweithio iddyn nhw eu hunain. Ac mae 375 o bobl ysbrydoledig wedi siarad â mwy na 56,000 o bobl ifanc mewn 86 y cant o ysgolion, colegau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch.
Rwy'n credu bod angen inni ddathlu llwyddiannau pobl ifanc mewn busnes. Mae gennym ni enghreifftiau ardderchog o'r ffyrdd ymarferol yr ydym ni'n gwneud hyn, drwy gystadlaethau a hefyd drwy gyfrwng gwersylloedd dwys. Mae meithrin gallu o'r math hwn yn ategu ein hymgyrch i annog graddedigion i ddechrau busnesau newydd. Yn fwy cyffredinol, roedd enillwyr diweddar cystadleuaeth Fast Growth 50 yn arddangos y doniau a'r cyfleoedd sydd gennym ni yn ein gwlad.
Mae'n galonogol gweld bod gennym ni bellach y nifer mwyaf erioed o fusnesau gweithredol yng Nghymru, ac mae nifer y busnes newydd sy'n cael eu sefydlu ar ei uchaf ers dros ddegawd. Mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cyfrif am 99.3 y cant o fentrau yn ein gwlad, 62 y cant o gyflogaeth a 39.7 y cant o'r trosiant. Er mwyn tyfu, mae'n rhaid i fusnesau Cymru ddatblygu ac esblygu, mae'n rhaid iddyn nhw arloesi. Mae llywodraeth, y byd academaidd a darparwyr cyllid i gyd yn rhan o'r ecosystem honno. Dyna pam yr wyf i wedi cefnogi Creu Sbarc, menter genedlaethol newydd i hyrwyddo arloesi ac entrepreneuriaeth yma yng Nghymru. Cafodd y dull ei ddatblygu gan banel o safon uchel, dan gadeiryddiaeth Simon Gibson, ac mae'n deillio o gyfranogiad Cymru yn y rhaglen sbarduno entrepreneuriaeth ranbarthol a gynhaliwyd yn Sefydliad Technoleg Massachusetts. Amcangyfrifir y byddai cynfyfyrwyr Sefydliad Technoleg Massachusetts ac ecosystem Boston gyda'i gilydd yn gyfwerth â deuddegfed economi mwyaf y blaned. Mae Creu Sbarc yn strategaeth benodol ar gyfer Cymru sy'n gwneud entrepreneuriaeth ac arloesedd yn gyfrifoldeb pob rhanddeiliad, nid dim ond y Llywodraeth, ond hefyd arianwyr, corfforaethau mwy, y byd academaidd ac entrepreneuriaid, ac mae Creu Sbarc wedi edrych ar ffigyrau allweddol er mwyn amlinellu'r heriau sy'n wynebu Cymru.
Er y bydd rhai o'r rhain yn ddi-os yn heriol, hoffwn achub ar y cyfle cyfatebol a gosod uchelgais ar gyfer lle mae angen inni fod, a dyma yw hynny. Mae'n rhaid inni ymdrin â chyfraddau dechrau busnes llai na gweddill y DU, o'r 60 presennol fesul 10,000 i 120 fesul 10,000. Cyfradd y DU ar hyn o bryd yw 93 fesul 10,000. Mae angen inni hefyd weld cynnydd cymesur mewn ceisiadau patent o 3.3 y cant i 5 y cant. Mae angen inni annog datblygiad cymuned amrywiol o fuddsoddwyr 'angel'. Mae'n ffaith bod Cymru ar hyn o bryd yn cael llai nac 1.1 y cant o fuddsoddiad drwy'r rhwydwaith 'UK angel investment'. Mae angen inni hefyd gynyddu cyfraddau cychwyn busnesau ymhlith graddedigion Addysg Uwch o 0.3 y cant o boblogaeth y myfyrwyr i 1 y cant. Byddai hynny'n arwain at sefydlu 1,000 ychwanegol o fusnesau newydd bob blwyddyn. Byddai ymestyn y targed hwn hyd yn oed ymhellach i'r myfyrwyr hynny sydd ar hyn o bryd mewn addysg uwch, ac fe allem ni greu 1,000 o fusnesau newydd ychwanegol. Mae hynny'n agos at gynnydd o 1 y cant yn y stoc busnes yn ein gwlad. Mae angen hefyd inni gynyddu cyfran y cwmnïau twf yng Nghymru, y rhai hynny sydd wedi eu dosbarthu fel rhai sy'n tyfu, o 19 y cant i 30 y cant. Ac, yn olaf, mae angen inni gynyddu faint sy'n cael ei wario ar ymchwil a datblygu diwydiant, a gwneud hyn mewn cydweithrediad ag addysg uwch ac addysg bellach.
Dirprwy Lywydd, bydd angen inni fanteisio ar rym a dylanwad pob grŵp rhanddeiliaid a symud ymlaen gydag amcan ar y cyd. Dylai hwn fod yn amcan ar y cyd rhwng y Llywodraeth, addysg a busnesau, ac rwyf yn credu mai enghraifft wych o hyn ar waith oedd buddsoddiad £20 miliwn Llywodraeth Cymru yn yr Athrofa Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n canolbwyntio ar yr angen i edrych yn fanwl ar fasnacheiddio, gyda'r holl randdeiliaid yn cydweithio. Ond fel Llywodraeth, does gennym ni mo'r atebion i gyd ein hunain. Mae angen i entrepreneuriaid ac arweinwyr corfforaethol, y rhai sy'n gweithio mewn cyfalaf risg, yn ogystal â phobl allweddol o'r byd academaidd a'r Llywodraeth, gydweithio i wneud i hyn ddigwydd, ac mae'n rhaid i Creu Sbarc fod yn sbardun allweddol ar gyfer hyrwyddo entrepreneuriaeth arloesol yma yng Nghymru.
Fel rhan o'r cydweithio hwn, rwy'n falch iawn o nodi bod NatWest wedi cytuno i roi dwy flynedd o gyllid er mwyn ariannu Prif Swyddog Gweithredol Creu Sbarc, Caroline Thompson. Mae entrepreneuriaid yn hanfodol er mwyn datblygu economi gref a chreu gwell swyddi a chefnogi buddsoddiad. Mae angen inni annog entrepreneuriaeth o oedran cynnar, drwy ennyn dyheadau a dealltwriaeth o entrepreneuriaeth. Mae gan feddylfryd entrepreneuraidd fanteision ar gyfer y rhai sydd nid yn unig yn cychwyn busnes ond hefyd y rhai hynny sy'n dechrau gweithio. Mae her allweddol amlwg ar gyfer ein busnesau mwy o faint ble mae mentergarwch mewnol yn elfen hanfodol er mwyn gwella cynhyrchiant drwy arloesi.
Busnes Cymru yw'r gwasanaeth cydnabyddedig ar gyfer entrepreneuriaid yma yng Nghymru. Mae'n cynnig cymorth ar gyfer darpar entrepreneuriaid, busnesau newydd a microfusnesau sydd eisoes yn bodoli a mentrau bach a chanolig drwy gyfrwng sawl ffynhonnell, gan gynnwys ar-lein, dros y ffôn a thrwy gyfrwng cynghorwyr busnes ymroddgar sy'n gweithio ar hyd a lled ein gwlad. Cyfeiriais gynnau at bwysigrwydd gwasanaeth Busnes Cymru yma yng Nghymru.
Ildiaf i'r Aelod.
Cefais y pleser o fynd i'r digwyddiad Creu Sbarc ddydd Mercher diwethaf. Roedden nhw'n croesawu'r ffaith eich bod wedi'i gynnal. Fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn siomedig nad oedd neb o Lywodraeth Cymru yn gallu bod yno, ond roedd hi'n wych clywed cyfraniadau nid yn unig gan fusnesau, gan gynnwys rhywun o Wrecsam oedd yn eistedd wrth fy ymyl, ond hefyd gan awdurdodau lleol, gyda Phrif Weithredwr Sir Fynwy yn siarad, ac, wrth gwrs, y byd academaidd hefyd. Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau, o ystyried yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, fod a wnelo hyn â chydweithio mewn modd entrepreneuraidd ac arloesol, sy'n cynnwys entrepreneuriaeth gymdeithasol, arloesi wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ac, wrth gwrs, datblygu economi Cymru drwy y sector busnes hefyd?
Rwy'n falch iawn o glywed bod Ceidwadwyr Cymru wedi newid eu meddwl ynglŷn â'r fenter Creu Sbarc. Maen nhw wedi newid o fod yn wrthwynebus yn ystod yr haf i fod bellach yn canmol gwaith holl randdeiliaid Creu Sbarc, ac rwy'n falch bod un o'm swyddogion uchaf yn wir yn un o'r aelodau a sefydlodd y tîm Creu Sbarc yma yng Nghymru.
Mae'n ddrwg gennyf na allwn fod yn y digwyddiad penodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato. Fe wnes i, gyda fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths, deithio'n ôl i'r Gogledd oherwydd yr amgylchiadau trasig oedd yn ein hwynebu ni, ond rwyf wedi ymrwymo'n llwyr, fel y mae fy swyddogion, i chwarae rhan weithredol iawn yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at yr hyn sy'n gorfod bod yn newid diwylliannol yn y ffordd yr awn i'r afael ag entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaeth arloesol. Yn wir, rwyf wedi bod yn benderfynol o gynnal y fenter Creu Sbarc ar draws yr holl grwpiau rhanddeiliaid, gyda Llywodraeth Cymru wrth y llyw. Rydym ni wedi wynebu, yn y gorffennol, rhywfaint o feirniadaeth am ddatblygu'r fenter hon, ond rwy'n credu bod y digwyddiad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn enghraifft arall o lwyddiant y rhaglen benodol hon.
Byddwn yn gweld yn y misoedd i ddod nifer y mentoriaid a nifer y bobl sy'n addo cefnogi'r fenter Creu Sbarc yn cynyddu mwy eto, a chyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr yn codi. Rwy'n falch heddiw o ddweud, i ategu gwasanaeth Busnes Cymru ac i ategu'r digwyddiad Creu Sbarc a gynhaliwyd yn ddiweddar iawn, fy mod i wedi cyhoeddi mwy na £5 miliwn ar gyfer gweithgaredd newydd i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys £1 miliwn o gyllid i sefydlu prosiect braenaru i annog entrepreneuriaeth ranbarthol a chymunedol. Bydd y fenter yn canolbwyntio ar weithio gydag unigolion dan anfantais mewn cymunedau penodol ledled Cymru, gan weithio mewn modd hyblyg sy'n ymateb i anghenion lleol, rhanbarthol a gofodol gan gynnwys Tasglu'r Cymoedd a rhanbarthau economaidd newydd.
Gan gydnabod pwysigrwydd gofod a chefnogi ein hymrwymiad i ddatblygu Cymru drwy gaffael, dyrannwyd £4 miliwn ychwanegol i gefnogi sefydlu pedair canolfan fenter arall yng Nghymru. Bydd y canolfannau hyn yn llenwi'r meysydd methiant yn y farchnad, yn gweithio law yn llaw â mentrau sefydlu busnes o'r sectorau preifat ac academaidd er mwyn sicrhau, ble bynnag yr ydych chi'n byw, y bod modd ichi fanteisio ar gyfleusterau sefydlu busnes. Mae hyn yn ychwanegol at y £1 miliwn o gyllid a gyhoeddais yn flaenorol i sefydlu canolfan fusnes newydd yn Wrecsam.
Dirprwy Lywydd, mae angen i fusnesau sy'n tyfu, wrth gwrs, gael gafael ar gyfalaf twf, ac mae lansiad diweddar Banc Datblygu Cymru yn gydran greiddiol bwysig o bolisi economaidd a darpariaethau'r Llywodraeth. Mae'r banc datblygu yn offeryn allweddol i fynd i'r afael a'r mater hwn. Mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cytuno ar gynllun gweithredu er mwyn cael cyfatebiaeth well yn y gwasanaethau a gynigir, gyda'r nod clir o roi budd i'r cwsmer. Bydd hyn yn fodd inni ddarparu cyfuniad o gyngor a chymorth arbenigol cyson ochr yn ochr â chyllid fforddiadwy ar yr union bryd y mae angen hynny.
Rwyf am barhau i ddatblygu'r cwmpas a swyddogaeth ar gyfer y banc datblygu gan gefnogi busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaid, gan gynnwys ystyried posibiliadau cyllido arloesol. Yn ogystal â hyn, mae fy swyddogion yn ystyried dewisiadau o ran cydweithio agosach rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru. Drwy sicrhau gwell cydweithio rhwng y ddau wasanaeth, efallai y bydd hi'n bosib cael cyswllt gwell rhwng cynnig cefnogaeth fusnes a brwdfrydedd cyflogwyr gyda'r system addysg, economi a sgiliau, a ffordd fwy effeithlon o gynnig gwasanaethau i'n cwsmeriaid.
Mae arnom ni eisiau sicrhau bod entrepreneuriaeth yn rhan o gyfres o ddewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc. Bydd hyn yn adeiladu ar ein huchelgais yn y cwricwlwm newydd i feithrin pobl fentrus, greadigol ac uchelgeisiol. Mae angen inni wneud y cysylltiadau cywir i feithrin doniau ein disgyblion a myfyrwyr ac i gefnogi eu diddordeb ym myd busnes drwy gyfrwng Syniadau Mawr Cymru.
Yn olaf, mae angen inni sicrhau ein bod ni'n parhau i ddarparu'r amgylchiadau priodol a'r gefnogaeth briodol ar yr adeg iawn i entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig yng Nghymru i'w galluogi i greu gwell swyddi a chefnogi buddsoddi yn economi Cymru. Dirprwy Lywydd, rwy'n awyddus i glywed barn yr Aelodau ynghylch sut y gallwn ni gefnogi'r agenda hwn gyda'n gilydd yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. Bydd hi'n ddiddorol clywed eich ymateb, o gofio bod honno'n araith agoriadol 14 munud o hyd. Dim ots. Rwyf wedi dewis y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw ef—Rhun.
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn rhwydwaith o ganolbwyntiau entrepreneuraidd ym mhob rhan o Gymru.
Yn cynnig defnyddio’r cronfeydd trafodiadau ariannol newydd a ddyrannwyd i Gymru gan Lywodraeth y DU i greu cronfa fuddsoddi busnesau bach a chanolig newydd ar gyfer Banc Datblygu Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff arloesi cenedlaethol penodedig, fel partneriaeth rhwng busnes, llywodraeth a’r byd academaidd i gynyddu lefelau datblygu o ran cynhyrchion newydd.
Bydd. Bydd ymateb 50 eiliad i ddadl Ysgrifennydd y Cabinet yn ddiddorol gwrando arno.
Rydw i yn falch, yn absenoldeb yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin heddiw, i gael cymryd rhan yn y ddadl yma ar ran Plaid Cymru ac i droedio hen lwybrau'n siarad ar faterion datblygu economaidd.
Mae yn ddadl ar faes allweddol pwysig, rydw i'n meddwl, i ddyfodol Cymru. Mae ein dyfodol economaidd ni'n seiliedig ar bobl dalentog yn datblygu syniadau ac yn datblygu'r syniadau hynny yng Nghymru, ac mae'n rhaid inni greu'r awyrgylch busnes cywir i alluogi entrepreneuriaeth i lwyddo, ac mae ein gwelliant ni'n taflu rhyw faint o oleuni ar beth y byddwn ni, ym Mhlaid Cymru, yn hoffi ei weld o ran ymyrraeth y Llywodraeth er mwyn cyflawni'r amcan yma.
Mi ganolbwyntiaf i ar arloesedd, sy'n golygu gwneud pethau cwbl newydd neu, o bosib, gwneud hen bethau mewn ffyrdd newydd, ond nid yw arloesedd, yn angenrheidiol, yn digwydd mewn vacuum, ac mae angen hybu ac annog arloesedd. Dyna pam rydym ni'n galw am sefydlu corff arloesi cenedlaethol i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygiad, er enghraifft, i adeiladu enw da i Gymru yn rhyngwladol fel cenedl o ragoriaeth ar gyfer ymchwil ac arloesedd.
Ac mae yna berthynas agos iawn, onid oes, rhwng arloesedd ac entrepreneuriaeth. Pan fo entrepreneuriaid yn trosi gwybodaeth newydd yn arfer newydd, dyna pryd mae arloesi'n digwydd. Mae arloesedd a chreu dyfeisiadau a datblygu syniadau newydd yn creu entrepreneuriaid, ond beth sydd angen i ni ei wneud ydy bod yn genedl sydd yn gallu cyflymu'r raddfa y mae'n entrepreneuriaid ni'n gallu gwneud defnydd ymarferol newydd o syniadau a dyfeisiadau newydd. A dyna le mae rôl y Llywodraeth yn gwbl allweddol.
Mi fyddai'n dda meddwl y byddai'r farchnad ynddi'i hun yn sicrhau bod yna ddigonedd o ymchwil mewn datblygiad cynnyrch, mewn R&D, yma yng Nghymru, ond nid yw pob amser yn wir. Ni allwn ddibynnu ar y farchnad, ac mae enghreifftiau rhyngwladol, wrth gwrs, yn dangos bod rôl cyrff arloesi yn arbennig o werthfawr i fynd i'r afael ar dangyllido, o bosib, mewn cronfeydd R&D, oherwydd methiant y farchnad. Mae yna amrywiaeth fawr o ran maint, o ran strwythur y mathau o gyrff sy'n bodoli mewn llefydd ar draws y byd, ond mae rhesymeg—raison d’être—i'r cyrff hynny'n gyson iawn, mewn difrif. Mae'n bosib mai Innovate UK ac Enterprise Ireland ydy rhai o'r cyrff arloesedd mwyaf adnabyddus yn y byd. Maen nhw'n fawr: £600 miliwn yn achos Innovate UK; €300 miliwn i Enterprise Ireland. Ond mae yna gyrff llawer llai o gwmpas y byd sy'n gweithio mewn cyd-destun rhanbarthol, sub-state, felly, ac sy'n gallu dysgu gwersi gwerthfawr iawn i Gymru.
Soniaf i am barc arloesedd JIC De Morafia yn y Weriniaeth Tsiecaidd, rhanbarth efo dim ond 1.1 miliwn o bobl—diweithdra wedi syrthio o 12 y cant yn 2002 i 4.7 y cant erbyn hyn. Dim ond £0.5 miliwn yn flynyddol oedd cronfa'r parc arloesi pan sefydlwyd hwnnw, ond, erbyn hyn, mae'r ffigwr wedi cynyddu i £1.5 miliwn—swm cymharol fach, ond mae effaith arwyddocaol i'r arian hwnnw. Mae De Morafia wedi cael strategaeth arloesedd rhanbarthol ers 2002 ac mae'r parc arloesedd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithredu strategaeth mewn partneriaeth â phrifysgolion, siambr fasnach a mudiadau eraill nid er elw. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar yr agenda ymchwil ac wedi sicrhau ymchwil fel bod De Morafia yn gwario 3.4 y cant rŵan o'u cynnyrch domestig gros rhanbarthol ar ymchwil a datblygiad. Mae hynny'n deirgwaith y ganran o werth ychwanegol gros Cymru sy'n mynd i'r maes yma. Felly, dyma'n cystadleuwyr ni yr ydym ni angen bod yn cystadlu â nhw o ran ein gwariant ar arloesedd. Mae Gwlad y Basg hefyd yn enghraifft lle mae yna gorff arloesedd rhagorol.
Rydw i'n gwybod nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r syniad o gyrff arbenigol hyd braich yn cefnogi'r Llywodraeth yn ei hagenda datblygu economaidd. Rydw i'n cofio pan oeddwn i'n llefarydd economi imi gyflwyno'r syniad o gael Awdurdod Datblygu Cymru newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. 'Nid ydy o'n ddemocrataidd; cwango ydy o'—dyna oedd y gri oeddwn i'n ei chlywed gan rai, ond, wrth gwrs, yn yr oes ddatganoledig yma, mae'r atebolrwydd yma gennym ni yn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn achos Gwlad y Basg, hefyd, mae cyfarwyddwr cyffredinol y corff arloesedd yno yn wleidydd, ac mae o'n newid bob pedair blynedd, felly mae'n bosib gweithredu hyd braich heb golli'r atebolrwydd.
Mae amser yn drech na fi. Mae angen arloesedd mewn polisi hefyd. Mae angen arloesedd yn agwedd Llywodraeth tuag at ddatblygu economaidd. Rydw i'n apelio ar ran busnes, ar ran economi Cymru, am greadigrwydd gan y Llywodraeth a gan yr Ysgrifennydd Cabinet.
Diolch. Hefin David.
Diolch. Nid wyf i erioed wedi deall y cysyniad hwn o entrepreneuriaeth yn iawn, er gwaethaf ceisio'i addysgu am ryw gyfnod yn fy mywyd proffesiynol. Y pryder sydd gennyf i yw pan fo entrepreneuriaeth yn rhan o'r cysyniad o fentrau bach a chanolig, ac, wrth gwrs, pan eich bod chi'n sôn am entrepreneuriaeth arloesol, sef yr hyn y mae Ysgrifennydd Cabinet wedi ei godi heddiw, fe allwch chi ddechrau deall yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano. Rydym ni'n sôn o bosib am dwf cyflym uwch-dechnoleg.
Ond, serch hynny, ni chaiff pob busnes bach a chanolig ei ystyried yn entrepreneuraidd yn y termau hynny, ac mae llawer iawn ohonyn nhw yn gwmnïau bychain iawn, dydyn nhw byth yn mynd i dyfu y tu hwnt i 10 o weithwyr ac fe allech chi hyd yn oed ddweud mai dyna'r rhan fwyaf o gwmnïau yn y sector. Felly, fe ddylem ni fod yn ofalus pan rydym ni'n defnyddio ymadroddion fel 'busnesau bach yw anadl einioes yr economi'. Mae angen inni wybod yn union beth yr ydym ni'n siarad amdano, ac rwy'n ofalus wrth ddefnyddio iaith o'r fath.
Mae hunangyflogaeth yn beth ar wahân, hefyd, i'r cysyniad o entrepreneuriaeth, a gwelwn fod cynnig y Llywodraeth yn sôn am swyddi gwell ochr yn ochr â'r cysyniad o entrepreneuriaeth. Wel, nid yw pob swydd mewn cwmnïau bach yn swyddi gwell. Mae rhai swyddi eithaf erchyll mewn cwmnïau bach, lle mae gennych chi bobl, pobl ifanc efallai, ar gyflogau bychain iawn y math o swyddi y gallai peiriannau ei wneud ar gost uwch i berchennog y busnes. Felly, gall fod yr hyn y mae academyddion yn ei alw yn adnoddau dynol 'bleak house' mewn cwmnïau bach, felly ni ddylem ni dybio bod entrepreneuriaeth yn golygu busnesau bach a chanolig yn unig a bod hynny'n mynd i ddatrys yr holl broblemau economaidd.
Wedi dweud hynny, yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn amdano, yn arbennig yn y cysyniad o ganolfannau busnes, yw gweithio gyda'r byd academaidd, gweithio gyda diwydiant a phartneriaid i ddatblygu entrepreneuriaeth arloesol, sef y peth hwnnw y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth ato hefyd, fydd yn sbarduno twf. Dychwelaf at hunangyflogaeth mewn munud, ond fe soniodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am brosiectau entrepreneuriaeth gymunedol, ac, yn hynny o beth, rwy'n tybio bod Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cyfeirio at fentrau cymdeithasol, ac fe hoffwn i, ar yr adeg yma, felly, fanteisio ar y cyfle i sôn am fenter gymdeithasol yn fy etholaeth i, sef Clwb Golff Ridgeway. Mae'r holl elw'n mynd yn ôl i Glwb Golff Ridgeway; mae gan y Clwb naw o weithwyr llawn amser, pedwar rhan-amser—dyma'r mathau o bethau y dylem ni fod yn eu hannog o ran entrepreneuriaeth gymunedol—ac maen nhw hefyd yn cynnal priodasau am bris rhesymol iawn, rhag ofn bod rhai o'r teulu brenhinol yn gwylio'r ddadl hon, fel rwy'n siŵr y gallan nhw fod.
Mae'n rhaid inni ystyried hunangyflogaeth, er hynny, fel rhan o'r cysyniad hwn o entrepreneuriaeth. Mae 237,200 o fentrau bach yng Nghymru, ac maen nhw'n cyflogi 389,600 o bobl. Dyna 1.6 gweithiwr i bob cwmni. Felly, ni fydd y rhan fwyaf o gwmnïau bach yn tyfu y tu hwnt i'r cam hwnnw o fod yn gwmni bychan iawn, ac nid yw'r perchnogion busnes sy'n eu rhedeg eisiau hynny. Felly, mae angen inni fod yn glir iawn ynghylch y mathau o fusnesau sydd wedi'u targedu pan rydym ni'n cyfeirio at entrepreneuriaeth.
Yn y Cymoedd gogleddol, sef awdurdodau lleol Caerffili, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful, er enghraifft, y mae'r lefelau isaf o hunan-gyflogaeth yng Nghymru. Yn ardal y Cymoedd hefyd mae'r lefel isaf o fenywod hunangyflogedig yng Nghymru, ond nid y lefel isaf o ddynion hunangyflogedig. Gallai hynny fod oherwydd y niferoedd mawr o fusnesau adeiladu yn yr ardal honno. Yn ddiweddar fe wnaeth y Ffederasiwn Busnesau Bach gynhyrchu, a lansio yn fy ngrŵp trawsbleidiol—y grŵp trawsbleidiol rwy'n ei gadeirio ar fentrau bach a chanolig—adroddiad ar hunangyflogaeth, sy'n rhoi'r darlun hwnnw inni.
Mae pobl hunan-gyflogedig yn y Cymoedd hefyd yn tueddu i fod â llai o gymwysterau addysgol na'r rheini yn nhrefi neu yng nghefn gwlad Cymru, a'r hyn fyddai'n peri pryder i mi yw petai'r Llywodraeth yn canolbwyntio'n llwyr ar gwmnïau uwch-dechnoleg sy'n tyfu'n gyflym gan anghofio am y bobl hunangyflogedig hynny sy'n sylfaen—yr economi bob dydd sy'n darparu cymaint i'n heconomi. Gallai entrepreneuriaeth—rwy'n pryderu—hepgor y bobl hynny.
Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru annog a meithrin hunangyflogaeth gynaliadwy a mynd y tu hwnt i'r sector adeiladu, gan arallgyfeirio i sectorau o'r economi bob dydd, a sicrhau bod menywod sy'n berchen busnesau yn cael cymaint o gyfle â phobl eraill.
Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod hefyd nad yw rhyngweithio rhwng pobl hunangyflogedig yn gystadleuol yn unig, ac yn aml iawn, o ran busnesau bychain iawn, mae'n gydweithredol. Cwmnïau bach yn gweithio gyda'i gilydd i greu cyfalaf cymdeithasol. Felly, yn hytrach na chwilio am weithwyr, mae cwmnïau bach iawn yn aml yn gweithio gyda'u cysylltiadau i gyflawni prosiectau penodol. Felly, mae gennych chi glystyrau o gwmnïau sy'n gweithio gyda'i gilydd, sy'n—. Fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn. Wel, 10 cwmni bach yn cyflogi 50 o bobl: Ydy hynny mor werthfawr ag un cwmni bach yn cyflogi 50 o bobl? Mi fuaswn i'n dweud, 'Ydy, mae o'. Felly, peidiwch â gadael i ganolbwyntio ar entrepreneuriaeth siomi'r bobl hynny. Os ydym ni'n mynd i hybu entrepreneuriaeth—a gadewch inni ddefnyddio'r gair—a gwneud hunangyflogaeth yn llwyddiant, mae angen inni werthfawrogi y ffyrdd amryfal y mae'n gweithio mewn gwahanol rannau o Gymru, a chysylltu hynny â strategaethau a mentrau eraill y mae gan Lywodraeth Cymru i'w cynnig.
Wrth i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bychain agosáu, rwyf i a'm cyd-Aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ddadl ar entrepreneuriaeth yng Nghymru, ac yn rhoi croeso gwresog iawn i'r egwyddorion sy'n sail i gynnig y Llywodraeth. Rwy'n cytuno bod rhyddhau entrepreneuriaeth yn hanfodol er mwyn creu economi gref a llewyrchus. Cytunaf hefyd bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth allweddol o ran creu'r amgylchedd cywir er mwyn i'r doniau entrepreneuraidd sylfaenol hyn ffynnu. Hefyd, yn ei sylwadau agoriadol, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet siarad am adeiladu'r sylfaen busnes cywir hefyd, yr wyf i hefyd yn cytuno ag ef. Rwyf i hefyd yn cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig iawn i annog a dathlu llwyddiant pobl ifanc pan fyddant yn sefydlu eu busnes eu hunain. Rwyf yn sicr yn gefnogwr brwd o bobl ysbrydoledig yn mynd i ysgolion i ddweud wrth bobl iau am y dewis bywyd cadarnhaol sydd ar gael iddyn nhw drwy fod yn hunangyflogedig a rhedeg eu busnes eu hunain.
O ran gwelliant Plaid Cymru, roeddwn i braidd yn amheus ar y dechrau oherwydd fy mhryder i yw nad ydym ni eisiau gweld llawer o adeiladau gwag wrth greu mwy o ganolfannau. Ond rwyf wedi clywed yr esboniad ehangach gan Plaid Cymru o ran eu gwelliant, ac rwy'n hapus i ddangos ein cefnogaeth i'r gwelliant hwnnw y prynhawn yma.
Mae'r Anghenraid Cenedlaethol am Entrepreneuriaeth yn bodoli heddiw, fel yr oedd 18 mlynedd yn ôl, pan sefydlwyd y Cynulliad gyntaf. Nid wyf yn credu, mewn 18 mlynedd, ein bod ni wedi dod yn agos at harneisio potensial entrepreneuraidd, fel y dylem ni, efallai, fod wedi gwneud. Mae'n rhaid imi ddweud, yn anffodus, fy mod i'n credu bod y data yn siarad drosto'i hun. Rwy'n gwybod y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet am gynnydd yn nifer y mentrau newydd, ond, o'r ymchwil yr wyf i wedi ei wneud, mae llai o fentrau newydd cofrestredig yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd, ac mae sefydlu busnesau yng Nghymru yn cynrychioli cyfran lai o fusnesau nag unrhyw ranbarth arall yn y DU.
Mae'n amlwg bod economi gref, hunangynhaliol a diwylliant o entrepreneuriaeth yn seiliedig ar gymorth busnes priodol. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn draddodiadol wedi ffafrio benthyciadau nad oes angen eu talu'n ôl, sy'n dal yn cyfrif am dros ddwy ran o dair o'r holl fenthyca cyfalaf cyfan i gwmnïau Cymru, ac mae hyn er gwaethaf, wrth gwrs, nod datganedig Llywodraeth Cymru i drosglwyddo i ddiwylliant ble mae pwyslais mwy ar fuddsoddi o ran arferion benthyca busnesau. O'm safbwynt i, mae cwmnïau Cymru'n llawn haeddu cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, ond hefyd mae trethdalwyr Cymru yn haeddu ymrwymiadau cryf gan Lywodraeth Cymru y caiff yr arian a roddwyd i gwmnïau preifat ei ad-dalu yn y pen draw a'i ailgylchu er budd busnesau newydd eraill a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill. Felly, yn hyn o beth, rwyf yn credu bod Llywodraeth Cymru yn methu â chreu'r amgylchiadau busnes cywir a phriodol. Wedi dweud hynny, credaf mai'r banc datblygu yw'r sefydliad cywir i gefnogi busnesau bach a chanolig dros y tymor hir. Bydd hi'n hanfodol, wrth gwrs, y caiff y banc y lefel gywir o gyllid i ddarparu cymorth ariannol doeth a mwy penodol i hybu twf ymhlith busnesau bach a chanolig.
Mewn amgylchedd lle'r ydym ni wedi gweld 25% yn llai o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu, rwyf yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddangos bod Cymru'n rhoi croeso mawr i fusnesau, a chael gwared ar rai o'r rhwystrau a'r llyffetheiriau sy'n wynebu entrepreneuriaid, drwy gynllun parhaol ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a ffordd newydd o ymdrin â'r ardaloedd menter, y credaf y buont, mae'n drist gen i ddweud, yn fethiant, o ystyried y data a gawsom ni hyd yma. Nid yw'r ffigurau yn rhai cadarnhaol. Mae pob swydd newydd a grëwyd o ganlyniad i'r polisi blaenllaw hwn wedi dod ar gost o £74,000, gyda £221 miliwn wedi'i fuddsoddi ers 2012. Nawr, sefydlwyd ardaloedd menter gan Lywodraeth Cymru i hybu'r economi leol ac i ddarparu swyddi newydd, ond ychydig o dystiolaeth sydd o hynny hyd yn hyn. Rwy'n sylweddoli y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud, yn ei 40 eiliad, bod yn rhaid iddo gael dull tymor hwy yn y fan yma. Ie, gadewch i ni weld hynny'n digwydd. Gobeithio'n wir mai dyna sut y bydd hi.
Rwy'n awgrymu bod angen ffordd newydd o weithio a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU ar y strategaeth ddiwydiannol i helpu busnesau Cymru i greu swyddi gwell sy'n talu'n well. Yn hynny o beth, mae'r strategaeth yn gwneud ymrwymiadau clir iawn i hyrwyddo bargeinion dinesig Cymru a bargeinion twf Cymru. Fe'm calonogwyd yr wythnos diwethaf pan gyfeiriodd y Canghellor at fargen twf Canolbarth Cymru. Fe'm calonogwyd yn fawr gan hynny, ac mae hynny, wrth gwrs, yn argymhelliad a wnaeth y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ddiweddar hefyd. Rwy'n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth yn ymateb yn gadarnhaol i hynny. Rwy'n edrych ar y cloc ac mae fy amser ar ben, ond rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn llwyddo i fynd i'r afael â llawer o'm mhwyntiau i yn y 40 eiliad sydd ganddo.
Mae ganddo ychydig yn fwy na 40 eiliad, oherwydd iddo gymryd ymyriad gweddol hir gan un o'ch cyd-Aelodau, felly rwy'n mynd i ystyried hynny. David Rowlands.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon ar agwedd hollbwysig ar ddatblygu busnes yng Nghymru. Hoffwn ddweud ar y dechrau y byddwn yn cefnogi gwelliannau Plaid Cymru i'r ddadl hon.
Entrepreneuriaeth sy'n sbarduno pob menter ddiwydiannol. Hebddo, ni fyddem ni'n gallu mwynhau'r manteision cymdeithasol yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol. Wrth i economi Cymru esblygu, gan gefnu ar y diwydiannau trwm traddodiadol o lo a dur, felly hefyd bydd swyddogaeth busnesau bach a chanolig yn parhau i fod yn elfen hanfodol o ddatblygiad economi Cymru.
Eisoes, mae busnesau bach a chanolig yn chwarae rhan fwy blaenllaw yn economi Cymru nag yn unrhyw ran arall o'r DU. Mae hi felly'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r strategaethau a'r polisïau cywir ar waith nid yn unig i gefnogi busnesau bach a chanolig sy'n bodoli eisoes, ond hefyd i ddatblygu ymhellach y rhan hanfodol hon o dwf economaidd Cymru. Mae'n wir dweud bod busnesau bach a chanolig yn ymgorffori llawer o amcanion Llywodraeth Cymru, oherwydd maen nhw'n aml ar flaen y gad o ran arloesi, yn enwedig yn y sector amgylcheddol sensitif. Mae llawer o'r mentrau llai yn cyflogi dim ond ychydig o bobl, felly dylid eu hannog i ymsefydlu mewn mannau lle y gallan nhw gyfrannu at yr economi sylfaenol. Byddai hyn yn cael yr effaith ychwanegol o gefnogi agenda 'swyddi yn nes at y cartref' Llywodraeth Cymru.
Siaradais yn gynharach am greu'r amgylchedd iawn i fusnesau bach a chanolig dyfu a ffynnu. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pob dyfais sydd ganddi i wireddu hyn. Rydym ni'n cydnabod cyflwyno band eang cyflym iawn a'r swyddogaeth hanfodol y mae mynediad i'r rhyngrwyd yn ei chwarae mewn datblygu busnesau, ond unwaith eto byddem yn ailadrodd yr angen i hysbysu a chynghori, yn enwedig busnesau newydd, ynglŷn â'r manteision y gall band eang cyflym iawn ei gynnig i helpu eu menter i ffynnu.
Byddem yn gobeithio y bydd y banc newydd, Banc Datblygu Cymru, gan adeiladu ar fentrau Cyllid Cymru, yn chwarae rhan hollbwysig wrth sefydlu sylfaen gref o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod y banc datblygu yn gweithio'n agos gyda Busnes Cymru er mwyn hwyluso ffordd cydgysylltiedig o weithio i helpu'r sector i ddatblygu. Yn anad dim, rhaid i gyfalaf fod ar gael mor rhwydd a di-straen â phosib. Rhaid i gronfeydd rhanddeiliaid fod y dewis ariannu hanfodol, oherwydd ni fydd cwmnïau newydd, yn enwedig cwmnïau arbennig o arloesol, yn gweld elw ar eu henillion efallai am nifer o flynyddoedd. Nid yw benthyciadau y mae angen eu had-dalu felly yn drefniant ariannu addas i'r cwmnïau hyn. Felly mae swyddogaeth y banc datblygu yn dyngedfennol er mwyn datblygu’r rhan hanfodol hon o economi Cymru.
Mae gan Busnes Cymru hefyd swyddogaeth hanfodol i'w chwarae, yn enwedig gyda busnesau newydd yn y sector arloesol. Yn aml, mae'r entrepreneuriaid hyn yn canolbwyntio'n benodol ar wyddoniaeth, a does ganddyn nhw fawr o synnwyr busnes na phrofiad chwaith. Gall y cyngor a'r cymorth y gall Busnes Cymru ei roi yn y maes hwn olygu'n aml y gwahaniaeth rhwng methu a llwyddo i'r cwmnïau hyn. Gwelaf hefyd mai cylch gwaith Busnes Cymru ddylai fod i arwain cwmnïau ar hyd y llwybrau gorau i gael buddsoddiad priodol gan y banc datblygu.
Mae'r cysylltedd rhwng ein sefydliadau academaidd a'n busnesau hefyd yn hynod o bwysig o ran twf entrepreneuriaeth a datblygu'r economi breifat yng Nghymru.
I grynhoi, cylch gwaith Llywodraeth Cymru yw darparu'r amgylchedd gorau posibl er mwyn i fusnesau bach a chanolig ffynnu a thyfu. Mae hyn yn cynnwys unedau busnes addas mewn lleoliadau priodol, seilwaith teithio da, gallu cael cyfalaf a chyngor busnes, ond hefyd cyfundrefn sydd mor rhydd â phosib o reolaethau a biwrocratiaeth. Dim ond drwy fynd ati fel hyn y byddwn yn gweld sector preifat cryf, llewyrchus yn datblygu a thyfu yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf, gan ddarparu swyddi da sy'n talu'n dda, ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Rwy'n bwriadu edrych ar sut mae dwy ddinas Ewropeaidd, Aarhus yn Denmarc a Mannheim yn yr Almaen, yn hyrwyddo entrepreneuriaeth. Mae pobl yn aml yn sôn am rai o ddinasoedd mawr y byd—ac weithiau am Gaergrawnt ac weithiau am ardaloedd yng nghyffiniau Harvard—ond dwy ddinas Ewropeaidd canolig ei maint yw'r rhain. Rwy'n mynd i sôn am rwystrau sy'n atal busnesau canolig rhag tyfu, gan fod Cymru yn wael iawn am ddatblygu cwmnïau canolig eu maint i fod yn gwmnïau mawrion—rydym ni wedi gwneud hynny unwaith, i ddweud y gwir, yn do—a'r rhwystrau sy'n atal microfusnesau rhag tyfu i fod yn fusnesau mwy o faint, gan ddechrau gydag Aarhus.
Ail ddinas fwyaf poblog Denmarc yw Aarhus. Cymharwch hi ag Abertawe, sef yr ail ddinas yng Nghymru. Mae cynnyrch domestig gros yn Abertawe yn 75 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd; yn Aarhus, mae'n 107 y cant. Felly, yn amlwg, mae Aarhus gwneud rhywbeth yn iawn. Mae gan Aarhus brifysgol a sefydlwyd ym 1928—felly, o'i chymharu â'n prifysgol ni, mae hi'n hollol fodern—a hi yw'r brifysgol fwyaf yn Denmarc, gyda 44,500 o fyfyrwyr ym mis Ionawr 2013. Mae'n siŵr ei fod wedi cynyddu ers hynny. Yn rhestrau graddio prifysgolion gorau'r byd, mae hi'n rheolaidd ymysg y 100 uchaf.
Ond beth arall mae hi'n ei wneud? Yr ardal ymchwil mwyaf yw Parc Gwyddoniaeth INCUBA, sy'n canolbwyntio ar TGCh ac ymchwil biofeddygol. Mae'r brifysgol a buddsoddwyr preifat yn rhanberchnogion ar y sefydliad ac mae'n ceisio meithrin perthynas agos rhwng sefydliadau cyhoeddus a chwmnïau newydd. Fel y gwyddom ni i gyd, TGCh ac ymchwil biofeddygol yw dau o'r diwydiannau twf presennol ar draws y byd.
Mae Mannheim wedi ei gefeillio ag Abertawe, ond dyna ble mae'r tebygrwydd yn dod i ben. Mae edrych ar y data economaidd ar gyfer y ddwy ardal yn ddiddorol—ac o'm rhan i sy'n byw yn Abertawe, yn ddigalon. Mae gan ranbarth metropolitan Mannheim werth ychwanegol gros sy'n 147 y cant o'r cyfartaledd Ewropeaidd, ond yn y ddinas ei hun mae'n cynyddu i 210 y cant, o'i gymharu ag Abertawe sydd ar 75 y cant. Felly, i unrhywun sy'n ennill £20,000, byddai rhywun sy'n gwneud swydd debyg yn Mannheim yn ennill ychydig o dan £60,000.
Sefydliad sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yw canolfan entrepreneuriaeth ac arloesi Mannheim, sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr, entrepreneuriaid ifanc a buddsoddwyr sefydlu a meithrin busnesau. Cefnogir y sefydliad gan y sefydliad mittelstand ac ymchwil busnesau bach a chanolig Mannheim, a chadeirydd ymchwil busnesau bach a chanolig ac entrepreneuriaeth ym Mhrifysgol Mannheim.
Busnesau newydd llwyddiannus: yn ôl ffynonellau o'r cyfryngau lleol, gwerthwyd Payback i American Express am €500 miliwn. Cododd Delivery Hero $1.4 biliwn o gyllid. Cododd Auto1 $200 miliwn mewn cyllid. Mae cwmnïau eraill yn bod hefyd, fel Goodgame, sy'n dechrau ar y broses o gyflwyno cynigion cyhoeddus cychwynnol, gan godi £32 miliwn mewn cyllid. Ac wedyn dyna i chi Movilizer, a werthwyd i Honeywell. Nid yw pob un ohonyn nhw yn aros mewn perchnogaeth leol, ond maen nhw i gyd wedi tyfu. Mae hynny'n esbonio pam y cafodd Mannheim ei gosod yn unfed ar ddeg yn y 15 uchaf o'r dinasoedd mwyaf dyfeisgar ledled y byd. Allwn ni gael tîm o Gymru, dinas o Gymru, yno os gwelwch yn dda?
Gan droi at Gymru, yr hyn y mae cwmnïau canolig yn ei ddweud wrthyf yw eu problemau: anallu i sicrhau cyllid ar asedau sydd ganddyn nhw dramor; nid yw terfyn o £5 miliwn ar fenthyciadau gan fanc masnachol Cymru yn diwallu anghenion busnesau canolig eu maint; maint contractau Llywodraeth Cymru—caiff rhai eu llunio yn y fath fodd fel na all fentrau canolig dendro amdanynt. Mewn gwirionedd, caiff llawer eu rhoi at ei gilydd fel na all unrhyw gwmni yng Nghymru dendro ar eu cyfer. Anhawster cael cyfalaf gweithio gan fanciau masnachol, a'r perygl y byddant yn ei alw'n ôl unrhyw bryd.
Roedd un cwmni micro a oedd wedi tyfu yn gwmni bach yn dweud wrthyf i mai dyma oedd eu problemau: dod o hyd i safle yr oedd posib ei ehangu; angen symud yn barhaus wrth iddyn nhw dyfu; diffyg adeiladau ar gael yn rhwydd; taliadau hwyr; yn y diwydiant adeiladu, twf parhaus gweithwyr asiantaeth wedi eu his-gontractio sy'n llesteirio cystadleuaeth; ac anhawster cael mynediad i farchnadoedd. A yw hi'n syndod bod y bragdai bach wedi bod ymhlith y mwyaf llwyddiannus? Oherwydd rydym ni'n gwybod y bu archfarchnadoedd mawr a Wetherspoon yn awyddus i werthu eu cynnyrch. Rydym ni'n gwybod—rydym ni wastad yn sôn am ein hetholaethau ein hunain— am fragdy Boss yn Abertawe. Fe allwch chi brynu eu cwrw yn nhafarndai Wetherspoon a'i gael yn y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd mawr. Ond mae hynny oherwydd bod y cwmnïau mawr yn helpu. Ac mae bragdai bychain yn tyfu ar hyd a lled Cymru oherwydd bod ganddyn nhw hynny.
Felly, beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru? Gweithio'n agosach gyda phrifysgolion, naill ai ar fodel busnes Aarhus neu fel canolfan arloesi ac entrepreneuriaeth Mannheim. Ond mae angen inni ddefnyddio prifysgolion. Rydym ni hefyd yn gwybod bod y term 'technium' wedi dod yn gyfystyr â methiant, ond roedd y syniad cychwynnol o'i ddefnyddio yn Abertawe i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau newydd oedd yn deillio o'r brifysgol yn un da. Roedd galw pob uwch ffatri yn ganolfannau technium yn siŵr o fethu. Mae angen inni ddarparu benthyciadau mwy gan fanciau masnachol i gwmnïau canolig; darparu cynlluniau benthyciadau yn erbyn asedion tramor; llunio contractau'r Llywodraeth mewn maint o'r fath y gall cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru ymgeisio; a'i gwneud hi'n haws i microgwmnïau ehangu. Nid ydym ni'n ddim llai medrus, entrepreneuraidd a galluog nag unrhyw le arall. Mae angen polisi sy'n gweithio arnom ni i gefnogi twf cwmnïau Cymreig ac i gychwyn rhai newydd.
Mae adroddiad diweddar Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru ynglŷn â hunangyflogaeth yng Nghymru yn rhoi cipolwg defnyddiol o gyflwr presennol entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn ein hatgoffa bod nifer y bobl hunangyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 15,000 rhwng 2007 a 2016. Felly, mae bron dau o bob pump o swyddi newydd wedi'u creu yng Nghymru yn hunangyflogedig mewn gwirionedd. A ledled y DU, mae cyfraddau hunangyflogaeth yn awr ar eu huchaf mewn 40 mlynedd. Mae braslun yr adroddiad o'r rhesymau cadarnhaol sy'n sail i'r newidiadau hyn hefyd i'w groesawu.
Ond mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu rhai o'r heriau sy'n llesteirio twf hunangyflogaeth ac ysbryd entrepreneuraidd. I ddechrau, mae'n amlinellu'r gwahaniaeth trawiadol rhwng gwahanol rannau o Gymru. Mae'n dweud bod cyfraddau hunangyflogaeth ar eu hisaf yng Nghymoedd y De. Mae'r gyfradd isaf yng Nghymru, 8.6 y cant, yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae hyn oddeutu chwarter y gyfradd ym Mhowys gyfagos. Yn fy awdurdod fy hun, Rhondda Cynon Taf, mae'r gyfradd hunangyflogaeth yn ddim ond 9.8 y cant.
Rwy'n sylwi bod y cynllun cyflenwi tasglu'r Cymoedd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i amrywiaeth o gamau i helpu mynd i'r afael â hyn—er enghraifft, y gwaith ynglŷn â thargedu cymorth busnes i hybu busnesau newydd ac annog entrepreneuriaid. Rwyf hefyd yn croesawu'r gwaith o ran cynyddu'r nifer cynyddol o unedau busnes, a chyngor busnes pwrpasol i'r 100 o fusnesau yn y Cymoedd sydd â'r potensial mwyaf i dyfu. Ac eto, mae ardal yn dal i fod lle mae'n rhaid parhau i ganolbwyntio arni er mwyn hybu ffyniant economaidd rhai o'r cymunedau sydd, wedi cyfan, gyda'r mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Am y rheswm hwnnw, rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw i greu dwy ganolfan newydd yn y Cymoedd i hybu entrepreneuriaeth, ac £1 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau entrepreneuriaeth cymunedol sy'n benodol yn targedu pobl mewn cymunedau llai breintiedig ledled Cymru.
Fodd bynnag, mae'n syfrdanol sylwi ar y gwahaniaeth mawr rhwng y rhywiau o ran cyfraddau hunangyflogaeth, a dyna'r hyn yr hoffwn i ganolbwyntio arno yng ngweddill fy nghyfraniad heddiw. Ar gyfer pob menyw sy'n hunangyflogedig, mae 2.3 dyn. Unwaith eto, mae'r gwahaniaeth hwn yn waeth yn ardal y Cymoedd. Mae'n druenus dweud bod y gagendor fwyaf llydan yn y gymuned lle rwy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Yn fy awdurdod i, mae tri dyn hunangyflogedig am bob menyw hunangyflogedig. Wrth gwrs, wrth inni edrych ar y data crai, fe allwn ni esgeuluso llawer enghraifft ragorol o entrepreneuriaid benywaidd. Yn fy etholaeth fy hun, gallaf feddwl am Helen Walbey, y byddwn yn ei disgrifio fel un o wir fenywod y dadeni. Mae Helen yn gadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, yn ddarlithydd rhan-amser a mentor busnes. Ond gwelwyd hi'n chwalu'r rhwyg rhwng y rhywiau mewn difrif pan sefydlodd hi gwmni o'r enw Recycle Scooters, cwmni arbenigol sy'n gwerthu, gwasanaethu a thrwsio beiciau modur, sgwteri ac ategolion.
A dyna ichi Rachel Bedgood wedyn, a sefydlodd un o'r cwmnïau darparu gwasanaeth sgrinio, datgelu a gwahardd cyn-cyflogaeth mwyaf yn y DU. Mae Rachel a'i chwmni wedi ennill nifer o wobrau ac yn feistri yn eu maes. Bu Mandy St John Davey yn gwneud gwaith ymgynghorol hunangyflogedig ym maes technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gyda chwmnïau mawr a'r Swyddfa Gymreig. Trodd Mandy wedyn at eiddo a lansio gyrfa entrepreneuraidd anhygoel o lwyddiannus yn y maes hwn.
Dyna ichi Sian Davies wedyn sydd wedi ymsefydlu'n gadarn yn yr economi sylfaenol gyda'i busnes Garnish Cymru, a Janette Leonard gyda'i menter arloesol Dial-a-Dinner, sydd wedi ehangu i ddarparu dewisiadau bwyd iach hefyd.
Ond, wrth gwrs, nid yw rhestru rhai enghreifftiau o Gwm Cynon yn mynd i ddatrys pob rhwystr i weithgarwch entrepreneuraidd, a gweithgarwch entrepreneuraidd ymysg menywod yn arbennig, ond mae yn chwarae rhan bwysig mewn un agwedd, gan dynnu sylw at nifer o esiamplau da adnabyddus y mae modd uniaethu gyda nhw, sydd nid yn unig yn annog menywod i feddwl 'fe allwn i wneud hynny' ond yn fodd, gobeithio, o ddarparu rhwydweithiau a mentoriaid sy'n gallu darparu cymorth ymarferol.
Nawr, dyma oedd un o'r argymhellion a wnaeth y grŵp trawsbleidiol ar fenywod yn yr economi yn y Cynulliad diwethaf ynglŷn â hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg menywod. Rwy'n gwybod bod perygl y gall y gwaith da a wneir gan grwpiau trawsbleidiol gael ei wthio o'r neilltu weithiau. Fodd bynnag, roedd gwaith y grŵp hwn yn hanfodol o ran deall y rhwystrau i ymgysylltiad economaidd menywod. Fe hoffwn i dalu teyrnged i Christine Chapman a'm rhagflaenodd fel AC Cwm Cynon ac a gadeiriodd y grŵp hwn. Mae Christine, gyda'i busnes newydd hyfforddiant bywyd, bellach yn un o'r menywod entrepreneuraidd hynny y mae eu dirfawr angen arnom ni yng Nghymru, ac yn y Cymoedd yn benodol.
Argymhellodd y grŵp trawsbleidiol hefyd ein bod yn ymgorffori ymwybyddiaeth o'r bwlch rhwng y rhywiau mewn addysg menter a chymorth busnes. Roedd y grŵp yn cydnabod bod angen gweithredu'n benodol i helpu menywod i ddechrau a datblygu eu busnesau eu hunain. Rhaid i Busnes Cymru a darparwyr cymorth eraill ymgysylltu ag entrepreneuriaid benywaidd, ac mae'n rhaid casglu ac adolygu data ar sail rhyw i sicrhau y caiff y bylchau eu cydnabod a'u trafod. Mae adroddiad Ffederasiwn Busnesau Bach y cyfeiriwyd ato'n gynharach yn nodi bod angen mynd i'r afael yn benodol â'r bwlch rhwng y rhywiau. Gobeithio bod hyn yn her yr ydym ni'n barod i'w chymryd heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb—Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ymwybodol o'r amser, ac felly fe wna i gyfyngu fy sylwadau i Aelodau unigol i gyn lleied o amser â phosibl. Credaf ei bod hi'n amlwg, serch hynny mai'r hyn sy'n gwbl hanfodol o ran meithrin mwy o ymdeimlad o entrepreneuriaeth, yn ychwanegol at ecosystem neu gymuned o hwyluswyr, yw newid diwylliannol yng Nghymru, newid arferion, newid agwedd. Defnyddiodd llawer o Aelodau enghreifftiau o leoedd o amgylch y byd lle mae entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaeth arloesol yn arbennig o lwyddiannus wrth gyfrannu at lefel cynhyrchiant uwch. Aarhus, Mannheim, rhannau eraill o'r byd—yr hyn sy'n gwbl glir o'r holl leoedd hynny yw bod ganddyn nhw'r ecosystem briodol, y rhwydweithiau cymorth priodol, ond mae ganddyn nhw hefyd ymagwedd diwylliannol wahanol iawn at entrepreneuriaeth—ymagwedd ddiwylliannol y mae angen inni roi ein bryd a'n hymdrech ar ei mabwysiadu a'i chroesawu, nid yn unig er mwyn buddsoddi yn y strwythurau sydd eu hangen er mwyn feithrin busnesau newydd, ond hefyd i annog newid ymddygiad. Ni fydd yr un corff cenedlaethol ar ei ben ei hun yn galluogi cynnydd sylweddol mewn busnesau newydd. Mae angen dwyn ynghyd diddordebau unigol a chydfuddiannau cymunedol. Byddwn yn awyddus iawn i ddysgu mwy am yr enghraifft o Glwb Golff Ridgeway. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Hefin David ac a ddywedodd Vikki Howells ynglŷn â'r angen i fynd i'r afael â heriau hunangyflogaeth bobl yr hoffen nhw weithio, os mynnwch chi, mewn swyddi bob dydd, a bod angen ystyried yr heriau hynny—dyna pam ein bod ni'n awyddus mewn ysgolion i sicrhau bod criwiau mentrus ac esiamplau da nid yn unig yn annog pobl ifanc i ymhél â gweithgareddau entrepreneuriaeth technolegol, arloesol, ond yn meithrin ymdeimlad o falchder mewn pobl ifanc o ran bod yn hunangyflogedig mewn unrhyw faes y mae pobl ifanc yn dymuno gweithio ynddo.
Credaf hefyd ei bod hi'n gwbl hanfodol bod y bwrdd gwaith teg yn ystyried yr hyn yr oedd Vikki Howells yn ei ddweud am yr anfanteision oedd yn wynebu pobl wrth geisio bod yn hunangyflogedig. Rwyf yn credu bod hynny'n un o fanteision mawr Creu Sbarc: bod menyw yn gyfrifol am y fenter benodol honno.
Dof i ben gyda'r angen i bawb gydweithio. Dof i ben gyda sylw gan Clint Betts, Prif Swyddog Gweithredol Silicon Slopes, sefydliad di-elw ar gyfer entrepreneuriaid yn Utah. Pan ymwelodd â Chymru'n ddiweddar, dywedodd Clint ei fod yn credu mai'r elfen hollbwysig wrth greu'r ecosystem briodol yw fod pawb yn cydnabod nad oes cystadleuaeth mewn meithrin cymunedau. Dyna'r ysbryd yr hoffwn i ei feithrin, ac rwyf i eisiau gweithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr hon i gyflawni'r potensial rwy'n gwybod sy'n bodoli.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] Oes, bydd angen ichi fod yn fwy o gwmpas eich pethau yn y flwyddyn newydd, rwy'n credu. [Chwerthin.] Felly, rwy'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.