2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflawni Ein Cymoedd, Ein dyfodol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51349
Mae cynllun cyflawni’r Cymoedd yn cynnwys y Cymoedd yn etholaeth Gorllewin De Cymru, fel cwm Dulais a chwm Llynfi. Mae’n dangos sut bydd blaenoriaethau’r tasglu’n cael eu cyflawni, pwy fydd yn cymryd rhan, y manteision rydym ni’n disgwyl eu gweld a’r amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, rydym ni i gyd eisiau gweld y broses o adfywio'r Cymoedd yn llwyddo, ond prin fod cynigion datblygu eiddo preswyl yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, yn weledigaethau arloesol ar gyfer y dyfodol, ac yna ceir ardaloedd, megis cwm Tawe, nad ydynt yn debygol o elwa llawer iawn o gwbl, fel y mae'r cynllun ar hyn o bryd. Yn ei hanfod, mae llawer yn credu, fel y clywsom, fod y cynllun cyflawni angen mwy o waith a chraffu. Felly, pryd y bydd y Cynulliad cyfan yn cael cyfle i graffu'n fanwl ar y cynllun cyflawni?
Rwy'n synnu braidd at y cwestiwn gan yr Aelod dros Orllewin De Cymru. Mae wedi bod yn Aelod hirdymor yn y lle hwn, a gŵyr mai gwaith craffu yw'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Rwy'n synnu nad yw'n cydnabod hynny. Gall graffu arnaf yn ystod y cwestiynau ac mewn pwyllgorau, pan fo'n dewis gwneud hynny. Rwy'n mynychu pob pwyllgor pan gaf wahoddiad i wneud hynny. Rwyf am ddweud wrtho fod angen iddo edrych yn fanylach efallai ar y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli. Roeddwn ym Manwen ychydig wythnosau'n ôl, yn siarad ag aelodau o'r gymuned yno, ac roeddent yn cymryd rhan lawn yn y broses o lunio'r math o welliannau y maent eisiau eu gweld yn eu cymuned. Buaswn yn awgrymu bod yr Aelod yn treulio rhywfaint o amser gyda hwy.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich dyrchafiad o'r meinciau canol i'r fainc flaen unwaith eto? Ond hefyd, roeddech yn sôn am dasglu'r Cymoedd, ac rydych wedi tynnu sylw at ddau hyb, mewn gwirionedd. Rydych wedi cynnwys hyb Castell-nedd ac rydych newydd gynnwys un cwm Llynfi yn awr. Wrth gwrs, mae cwm Afan rhwng y ddau—
A'r Rhondda.
A'r Rhondda. Diolch.
Mae llawer ohonom ei eisiau yn ein Cymoedd ein hunain mewn gwirionedd, ond y cwestiwn sy'n codi yw sut rydych yn sicrhau eich bod yn ymgysylltu â'r Cymoedd hynny nad ydych wedi'u nodi fel rhai a fydd yn cynnwys hybiau ac nad ydynt yn yr ardaloedd penodol hynny, er mwyn sicrhau bod y cymunedau difreintiedig hynny—ac maent yn gymunedau difreintiedig—yn gallu elwa o'r hybiau hyn ac y gallwn weld cynnydd ar draws y Cymoedd ac nid yn y rhai lle mae'r hybiau wedi'u lleoli yn unig. Ac mae croeso i chi ddod i Gymer unrhyw bryd, a Chroeserw, i weld â'ch llygaid eich hun.
Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd yn yr ardal honno, rwy'n credu, yn gyfarfod bywiog lle y mynegwyd llawer o'r safbwyntiau hynny. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus ledled rhanbarth y Cymoedd, i sicrhau ein bod yn gallu gwrando a bwrw ymlaen ar sail yr hyn rydym yn ei glywed. Un o'r pethau rydym wedi'i ganfod yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf o ymgysylltu cyhoeddus, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yw bod hwn yn gynllun sy'n deillio o'r Cymoedd ac nid yn unig ar gyfer y Cymoedd. Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei gynllunio ar gyfer pobl yn y Cymoedd, ar hyd a lled y Cymoedd.
Ond ar yr un pryd, mae angen i ni wneud penderfyniadau strategol, ac nid yw'n bosibl cael hyb strategol ym mhob cwm, ym mhob etholaeth, ym mhob tref a phentref ar draws rhanbarth y Cymoedd. Dyna'r peth diwethaf rydym ei angen ar hyn o bryd. Rydym angen gweledigaethau strategol a beiddgar. Rydym angen cyflawni, rydym angen buddsoddiadau ac rydym angen dod â phobl at ei gilydd. Mae'r Llywodraeth hon angen gweithredu fel arweinydd ac fel catalydd, a bydd y Llywodraeth hon yn sicr o wneud hynny.
A gaf fi eich llongyfarch hefyd, Ysgrifennydd y Cabinet?
Roeddwn ychydig yn fwy cynhyrfus o weld bod cwm Llynfi yn cael ei gynnwys yn eich cynlluniau. Ond rwy'n tybio eich bod eisoes wedi siarad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynglŷn â pha ddisgwyliadau fydd gennych ohonynt, nid yn unig o ran yr hyn y byddant yn ei wneud, ond beth fydd canlyniadau hyn. Clywais yr hyn a ddywedasoch wrth Dai Lloyd ynglŷn â'r ffaith bod elfen o gydgynhyrchu yn y broses o gynllunio hyn, ond nid wyf yn credu ein bod wedi gweld hynny eto. Rwy'n meddwl tybed a allech ddweud wrthym pwy fydd yn bennaf gyfrifol am ddarparu cynlluniau gweithredu lleol fel ein bod yn gwybod lle i gyfeirio ein gwaith craffu y tu allan i'r Siambr hon?
Wel, gadewch i mi ddweud mai fi sy'n gyfrifol am gyflawni'r cynllun yn ei gyfanrwydd, a gallwch graffu ar fy ngwaith ar hynny. Ond gadewch i mi ddweud bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gyflym iawn i ddweud wrthyf beth y maent yn ei ddisgwyl gennyf hefyd. Nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud yn gymaint â fi'n dweud beth roeddwn ei eisiau ganddynt hwy; roeddent yn sicr yn awyddus iawn i ddweud wrthyf beth roeddent yn ei ddisgwyl gennyf fi, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogwr, a hwylusodd lawer o'r sgyrsiau hynny ac a hwylusodd y cyfarfodydd a gawsom i drafod y materion hynny. Cawsom gyfarfod cyhoeddus llwyddiannus iawn ym Maesteg, lle cawsom sgwrs hir â phobl o'r cymoedd hynny ynglŷn â sut rydym eisiau gweld yr hyb strategol yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu yn y dyfodol. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau'n parhau i graffu ar y modd rwy'n cyflawni prosiect a chynllun tasglu'r Cymoedd. Gallaf weld bod diddordeb mawr yn y mater hwnnw y prynhawn yma. Roeddem wedi gobeithio cynnal dadl ar y mater hwn yn amser y Llywodraeth yn gynharach yn y mis, wrth gwrs, ac efallai y bydd hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei aildrefnu ar gyfer y flwyddyn newydd.