– Senedd Cymru am 2:20 pm ar 5 Rhagfyr 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at y cwestiynau busnes. Arweinydd y Tŷ — Julie James.
Diolch, Llywydd. Yr unig newid i fusnes yr wythnos hon, yw'r amseroedd ar gyfer cwestiynau llafar y Cynulliad yfory. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd y mis diwethaf? Mae'r strategaeth yn ymrwymo Llywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth ledled y pedair gwlad i greu'r amodau sy'n golygu y gall busnesau llwyddiannus ddatblygu a thyfu i helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni swyddi â chyflog uchel a medrus iawn y dyfodol. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn fodlon ymgysylltu mewn modd adeiladol â San Steffan i fodloni nodau'r strategaeth ddiwydiannol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Roeddwn i'n falch iawn o weld y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd. Roedd yn cynnwys nifer o bethau sydd o ddiddordeb mawr i Lywodraeth Cymru, yn enwedig y pwyslais ar y maes digidol a data, a chroesewir hynny'n fawr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a'r seilwaith, nad yw'n bresennol heddiw i glywed eich cwestiwn, yn cyflwyno ei gynllun gweithredu economaidd ei hun, a fydd wrth gwrs yn cynnwys y manylion ynghylch sut y mae'n cydweddu â strategaeth ddiwydiannol y DU, ymhlith nifer o bethau eraill.
Rwyf wedi clywed llawer iawn o sylwadau gan rieni yn ardal Port Talbot, lle y maen nhw'n datgan bod darpariaeth arbenigol o gylch chwarae ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Gweithredu dros Blant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, o dan fygythiad, ac efallai y bydd yn cael ei gau. Maen nhw hefyd wedi dweud wrthyf fod y gweithiwr cymorth i deuluoedd awtistiaeth o dan fygythiad o golli ei swydd. Mae'r cynllun hwn yn amlwg yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Teuluoedd yn Gyntaf, ac fe ddaeth hyn i'r amlwg o'r blaen ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae un rhiant wedi dweud wrthyf, a dyfynnaf: ' Roedd gwasanaethau Gweithredu dros Blant yn elfen bwysig iawn i ni ar adeg pan gawsom ni ein taflu i fyd anghyfarwydd, gan wynebu ansicrwydd o ran y broses diagnosis a'r dasg o ddysgu cyfres newydd o sgiliau. Roedd y gwahaniaeth a wnaeth y darpariaeth hon i ni yn sylweddol ac yn angenrheidiol i ni.'
A fyddai modd i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y maes hwn roi datganiad i Aelodau'r Cynulliad fel mater o frys, i ni ddeall pa un a yw'n cau, a dyna ben arni, neu a fydd darparwr arall yn dod yn ei le? Yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, yw bod y meini prawf ar gyfer y broses ymgeisio wedi newid, felly mae'n bosibl na fydd yn diflannu yn gyfan gwbl, ond yn hytrach bod rhywun arall yn dod yn ei le i'w ddarparu. Beth bynnag sy'n digwydd, mae angen inni wybod, oherwydd mae pobl yn yr ardal yn pryderu ynghylch pa ddarpariaeth a gaiff ei darparu ar gyfer eu plant yn yr ysbyty. Byddai unrhyw gyngor neu unrhyw gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi yn ddefnyddiol iawn.
Rwyf yn gyfarwydd iawn â'r cynllun, fel y mae'n digwydd, ac mae'n gynllun da iawn yn wir. Gwn fod nifer fawr o rieni sydd wedi dibynnu'n helaeth iawn ar y cynllun yn y gorffennol, ac rwyf innau wedi cael sylwadau tebyg i'r Aelod gan bobl am fudd y cynllun i deuluoedd. Mae'r Gweinidog â chyfrifoldeb yn bresennol ac mae wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich sylwadau. Rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu cyflwyno rhywbeth maes o law a bydd yn tawelu ofnau pobl.
Arweinydd y Tŷ, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd ynghylch cymhlethdod y broses ymgeisio ar gyfer grantiau datblygu gwledig drwy gyfrwng gwefan WEFO ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector y mae cyllid wedi ei neilltuo iddynt yn y rownd bresennol. A all Llywodraeth Cymru roi sicrwydd imi bod y pryderon hyn yn cael sylw er mwyn hwyluso cael gafael ar grantiau datblygu gwledig ar gyfer prosiectau lleol megis Cymdeithas Neuadd Bentref Aberogwr?
Diolch yn fawr iawn ichi am y cwestiwn yna. Nid yw'r system bresennol yn newydd; defnyddiwyd WEFO Ar-lein i reoli prosiectau a ariennir gan yr UE yn llwyddiannus, ers 2008. Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi cwblhau'r broses hawliadau ar-lein yn llwyddiannus gyda'r arweiniad a'r cymorth presennol. Fodd bynnag, rydym ni'n ymwybodol bod rhai ymgeiswyr yn cael trafferth wrth gyflwyno eu hawliadau ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda hwy fesul achos. Mae'r canllawiau yn esbonio bod y broses hawliadau yn cael ei hadolygu gan swyddogion mewn ymateb i adborth gan ymgeiswyr i'r perwyl hwnnw. Nid ydym yn ymwybodol bod unrhyw ymgeiswyr mewn gwirionedd wedi rhoi'r ffidil yn y to oherwydd y broses honno, ond o ran Aberogwr, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â'r ymddiriedolwyr ddydd Iau diwethaf i'w cynorthwyo i gyflwyno eu cais.
Saib dramatig. Suzy Davies.
Cwestiynau dramatig. Diolch, Llywydd. Tybed a allwn ni gael diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda, ar y strategaeth dementia drafft, gan ei fod bellach wedi cael amser i glywed pryderon a godwyd yn y grŵp trawsbleidiol gan gynrychiolwyr dementia. Nid yw wedi'i chyhoeddi eto, wrth gwrs, ond codwyd rhai pryderon nad oedd efallai mor arloesol ag yr oedden nhw'n ei ddisgwyl neu ei bod yn rhy glinigol o ran ei model. Roeddwn i'n meddwl tybed—rwy'n gweld eich bod yn bresennol—a allech chi gytuno i wneud hynny yn weddol fuan.
Yn ail, ym mis Medi, yn dilyn rhywfaint o bwysau gan fy mhlaid, ymrwymodd y Llywodraeth i adolygu'r ffordd y cafodd gwrthdaro buddiannau posibl ei reoli yn achos cyn was sifil gyda chysylltiadau â chwmni cynhyrchu ffilmiau, a gafodd wedyn fenthyciadau gan Lywodraeth Cymru. Ar 1 Tachwedd, sef dau fis yn ddiweddarach, dywedwyd wrthyf fod yr adolygiad yn cael ei gwblhau, ac, hyd yn oed heddiw, nid wyf yn siŵr o hyd beth oedd canlyniad hynny ac os yw wedi ei gwblhau. Credaf mai adolygiad syml iawn oedd hwn fwy na thebyg, ond mae o hyd—. Rwy'n credu y byddai'n rhaid ichi gytuno ei bod yn annerbyniol, nid yn unig o ran tryloywder, ond o ran ansicrwydd ar gyfer yr unigolyn a oedd yn destun yr adolygiad hwnnw, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi drefnu diweddariad brys i'r Cynulliad ynghylch hynny, os gwelwch yn dda.
Yn olaf, tybed a gaf i ofyn am eich cymorth fel rheolwr busnes, mewn gwirionedd. Ar 29 Medi a 4 Hydref , fe wnes i gyflwyno cyfanswm o 16 o gwestiynau ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch polisi ffilm a'r broses o'i gyflawni, ac o'r cwestiynau hynny, atebwyd dau ohonynt. Rwyf wedi clywed mwy nag unwaith y byddaf yn cael cyfres gyfan o atebion i'r cwestiynau eraill, ond nid wyf wedi cael hynny. Gwrthodwyd yr ymgais i ailgyflwyno rhai o'r cwestiynau hynny drwy gais rhyddid gwybodaeth, ar y sail bod arnynt angen esboniadau nad ydynt ar gael ar ffurf cofnod, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol pan eu bod yn ymwneud, ymhlith pethau eraill, â gwrthdaro buddiannau a rheoli hynny, y dylid, wrth gwrs, ei gofnodi. Tybed a allech chi ymchwilio, os gwelwch yn dda, pam nad wyf i wedi cael ateb i'r cwestiynau hynny.
O ran y strategaeth dementia, rwyf i fy hun wedi cael sawl cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Iechyd ynghylch y strategaeth dementia, ac rwy'n ymwybodol iawn ei fod ef wedi rhoi sylw i nifer fawr o'r materion a godwyd gydag ef gan y gwahanol grwpiau, gan gynnwys grwpiau o bobl sydd â dementia eu hunain, a'i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi strategaeth newydd, gan gymryd i ystyriaeth yr holl sylwadau hynny, yn y flwyddyn newydd. Gwelaf ei fod yn siglo'i ben i gytuno â mi, felly dyna'r sefyllfa o hyd.
O ran gwrthdaro buddiannau, nid wyf yn gwybod pa un a yw hynny'n gysylltiedig â'r ail un ai peidio, ond mae'n amlwg mai'r un pwnc ydyw—[Torri ar draws.] Pynciau gwahanol, yr un testun. Rwy'n credu mai'r peth gorau i ni ei wneud yw ei drafod y tu allan mewn gwirionedd ac rwy'n addo y byddaf yn trefnu i'r aelod i gael cyfarfodydd gyda'r gwahanol bobl y mae hi wedi sôn amdanynt, i weld os gallwn ni gael ateb boddhaol.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y newyddion ddoe bod Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, AGGCC, wedi disgrifio 14 o gartrefi gofal yng Nghymru fel gwasanaethau sy'n peri pryder, sy'n golygu ei bod yn bosibl y bydd gwasanaeth yn cael ei atal dros dro neu, yn wir, gellid dileu'r cofrestriad? Rwyf yn arbennig o bryderus ynghylch natur anghymesur neu wasgariad y cartrefi hynny, gan fod 10 o'r 14 o'r cartrefi hynny wedi eu lleoli yn y gogledd, sef, wrth gwrs, ardal yr wyf i yn ei chynrychioli. Fe wnes i alw yn flaenorol am ehangu cylch gwaith Cynghorau Iechyd Cymuned, i gynnwys gofal cymdeithasol, yn hytrach na chael gwared arnynt, sef cynnig y Llywodraeth ar hyn o bryd. Bwriad y Llywodraeth yw, wrth gwrs, creu yr hyn a allai fod yn gorff cenedlaethol o bell, a fydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd yn ôl pob tebyg. Fy nghwestiwn i yw: pam na allan nhw ddefnyddio y bobl hynny y mae Cynghorau Iechyd Cymuned eisoes yn eu defnyddio ar lawr gwlad, ac yn eu defnyddio, yn sicr yn y gogledd, yn effeithiol iawn, iawn i graffu ar y gwasanaeth? Beth am i ni ymestyn hynny i gynnwys craffu ar gartrefi gofal, fel y gallwn godi eu safonau yn y pen draw.
Papurau Newydd Gogledd Cymru oedd un o'r cwmnïau papur newydd annibynnol mwyaf a oedd yn dal yn bodoli, cyn i Newsquest, sy'n cyflogi tua 250 o weithwyr, ac yn cyhoeddi 13 o bapurau newydd, gan gynnwys y Leader dyddiol yn y gogledd-ddwyrain, gymryd drosodd yn ddiweddar. Mae Newsquest wedi cyhoeddi erbyn hyn y bydd 20 o swyddi yn cael eu colli, a bod yr adran gynhyrchu gyfan yn cael ei lleoli'n allanol yn Rhydychen. Mae nifer yn ofni, wrth gwrs, y bydd adrannau eraill yn dilyn, yn debyg i'r hyn yr ydym eisoes wedi'i weld pan fo Newsquest wedi cymryd papurau newydd eraill drosodd. Mae Newsquest a Trinity Mirror gyda'i gilydd, bellach â rheolaeth lwyr o bob un o'r chwe phapur newydd dyddiol sydd gennym ni yma yng Nghymru ac oddeutu 60 y cant o'n papurau newydd lleol. Rydym wedi bod yn dadlau yma i gael mwy o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru i adlewyrchu ein bywydau yn well mewn cyd-destun datganoledig, felly sut y gall hynny ddigwydd, pan fo swyddi yn cael eu rhoi ar gontract yn allanol i Rydychen gan Newsquest, a gallai'r gadwyn papurau newydd fwyaf yn y gogledd gael ei gadael â nifer fach iawn o staff mewn gwirionedd? Felly, hoffwn glywed gan y Gweinidog perthnasol, beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu'r swyddi hyn sydd yn amlwg mewn perygl erbyn hyn, i sicrhau ein bod yn amddiffyn y sylw newyddion lleol sydd gennym ledled Cymru, a hefyd i sicrhau nad yw'r luosogrwydd cyfyngedig sydd gennym o hyd yng Nghymru, yn dirywio ymhellach.
Diolch i chi am y ddau gwestiwn pwysig iawn yna. O ran y cynghorau iechyd cymuned a'u swyddogaeth mewn gofal cymdeithasol, roedd y Gweinidog yn gwrando'n astud drwy gydol yr amser. Fe wnaeth yr Aelod nodweddu'r ymgynghoriad nid yn union yn yr un modd ag yr wyf i yn ei ddeall, a chredaf bod angen i ni adael i'r ymgynghoriad fynd rhagddo a gweld beth fydd ein cam nesaf ar ôl hynny. Mae'n ymgynghoriad sy'n ymwneud â dyfodol cynghorau iechyd cymuned, ac rwyf yn siŵr bod yr Aelod, fel finnau, wedi cwrdd â'r cyngor iechyd cymuned yn ei ardal, ac wedi cael nifer o sylwadau. Mae angen inni adael yr ymgynghoriad hwnnw fynd rhagddo.
O ran y manylion am gartrefi gofal, mae arnaf ofn nad wyf i'n gwybod llawer iawn am hynny o gwbl, ond roedd yr Ysgrifennydd iechyd yma yn gwrando arnoch, fel yr oedd y Gweinidog, ac rwyf yn siŵr, rhyngddynt, y byddan nhw'n gallu mynd i'r afael â rhai o'r pryderon yr ydych chi'n eu codi.
O ran problem y newyddion, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch y diffyg amrywiaeth o ran newyddion lleol, ac mae rhywbeth tebyg wedi digwydd gyda fy mhapur newydd lleol i, a'r orsaf radio, fel mae'n digwydd. Credaf y byddai'n briodol iawn i'r Gweinidog dan sylw ystyried hyn ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad maes o law, pan fydd ganddi rywbeth defnyddiol i'w ddweud wrthym ni ar y pwnc hwnnw.
Mae gennyf i ddwy eitem yr wyf eisiau eu codi gydag arweinydd y tŷ. Yn ystod y penwythnos, fe wnaethom ni i gyd glywed y newyddion gan y Royal Bank of Scotland y bydd llawer mwy o fanciau yn cael eu cau, ac rwy'n credi mai 20 fydd yn cau yng Nghymru. Mae dau ohonyn nhw yn fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd, yn yr Eglwys Newydd ac yn Ysbyty Mynydd Bychan, ac mae pobl eisoes wedi cysylltu â mi, ac rwyf yn siŵr bod pobl wedi cysylltu ag aelodau eraill hefyd, ynghylch cymaint o golled yw hyn i'r gymuned. Gwn fod RBS yn dweud bod llai o bobl yn defnyddio canghennau banc, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir, ond, ar gyfer yr henoed a phobl anabl, mae'n bwysig iawn bod ganddyn nhw fanc i fynd iddo. Ac wrth gwrs, mae'r hyn y mae'n ei gyfrannu at y stryd fawr yn fater i'w ystyried, a pha mor bwysig yr ydyw i fusnesau lleol. Felly, tybed allwn ni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ynghylch y cam niweidiol arall hwn, gan ein bod wedi trafod hyn yn y Cynulliad sawl gwaith o'r blaen, ond mae'n ymddangos nad yw gwerth y banciau hyn i'r gymuned yn cael ei gydnabod o gwbl. Felly, dyna oedd un datganiad yr oeddwn i ei eisiau.
Ac yna, y mater arall yw, ddydd Sadwrn, ymwelais ag Organicafé, yn rhan o Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach. Mae'n gaffi arloesol, organig iawn yn Llwyn Bedw yn fy etholaeth i, sydd newydd ennill gwobr y Caffi Gorau yng Ngwobrau Eidalaidd Cymru. Yn wir, dim ond dwy flynedd yn ôl y daeth y perchnogion o'r Eidal, ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn yno, felly roeddwn i'n falch iawn o ymweld â'r caffi ac i dynnu sylw at eu cyflawniadau. Ond gwnaeth imi feddwl ein bod wedi gweld twf mawr mewn diwylliant caffi, a tybed a fyddai'n werth ystyried gwerth diwylliant caffi i'n heconomi hefyd.
Ni allaf beidio ag ateb y cwestiwn yna yn gyntaf, gan fy mod i'n gyfarwydd â'r caffi, a hoffwn eu llongyfarch ar eu gwobr—mae'n gwbl haeddiannol. Fy mab ddywedodd wrthyf am y caffi, ac yn wir mae'n lle bach gwych, i'r rhai hynny nad ydynt wedi ymweld ag ef hyd yma. Mae caffis Eidalaidd wedi chwarae rhan enfawr yn nhwf diwylliant caffi yng Nghymru am gyfnod hir iawn, mewn gwirionedd, ac yn sicr yn y pentref lle cefais i fy magu, yng ngogledd Abertawe, roedd y Moruzzis yn rhan allweddol o feithrin fy hoffter o hufen iâ, nad yw o bosibl mor dda i mi ag y gallai fod wedi bod, ac rwyf yn parhau i'w gael, a hefyd, mewn gwirionedd, yn rhan o hyrwyddo diwylliant caffi yn gyffredinol fel lle i gyfarfod ac yn aml i drafod gwleidyddiaeth flaengar iawn. Felly, rwyf yn ddiolchgar iddyn nhw am hynny hefyd. A chredaf eu bod nhw'n gwneud cyfraniad mawr i'n heconomi, ac rwyf yn siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn ystyried hynny pan fydd yn llunio ei gynllun gweithredu yn y dyfodol.
O ran bancio, rwy'n rhannu pryder yr Aelod ynghylch cau canghennau banc. Rwyf i wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda nifer o'r banciau mawr ynghylch eu polisi cau. Maen nhw yn cynhyrchu ystadegau am y defnydd o fancio cangen ac ati, ac mae gan nifer ohonynt bolisïau da o ran cysylltu â phobl hŷn a phobl sydd â phroblemau penodol gyda symudedd ac ati, am eu bancio. Mae trefniant ar waith gyda gwasanaeth cownteri Swyddfa'r Post, mewn gwirionedd, i wneud peth bancio, ac rydym wedi gwneud sylwadau iddyn nhw, mi wn, yn fy swydd flaenorol, ynghylch sicrhau bod staff cownteri Swyddfa'r Post yn cael yr hyfforddiant cywir a bod yna safle priodol ar gyfer cynnal yr hyn a allai fod yn drafodiad eithaf personol mewn rhai achosion ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud trosglwyddiadau banc yn y fan honno. Ond nid wyf yn gweld unrhyw reswm o gwbl pam na allwn ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi fynegi pryderon y Cynulliad hwn unwaith eto.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y sefyllfa a wynebir gan adrannau achosion brys yn y gogledd? Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol y bu adroddiadau yn y cyfryngau yn ystod y penwythnos am negeseuon trydar gan yr adran achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, a oedd yn honni bod rhai pobl yn treulio hyd at ddau ddiwrnod neu fwy yn yr adran achosion brys, wrth aros am welyau meddygol. Nawr, gwyddom fod problem mewn ysbytai eraill yn y gogledd. Yr ysbyty sy'n perfformio waethaf o ran y targed pedair awr yn yr adrannau achosion brys yng Nghymru gyfan, yw Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Ymddengys bod hyn yn broblem sylweddol yn y gogledd, sydd, yn amlwg, yn broblem y bydd pobl eisiau iddi gael ei ddatrys, cyn i'r tywydd oer iawn y gallwn ni ei gael yn ystod y gaeaf gyrraedd. Nawr, clywsom ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, a rhoddodd yr argraff fod popeth yn iawn. Wel, yn amlwg nid yw popeth yn iawn yn y gogledd. Mae angen inni wybod yn union pa gymorth ychwanegol sydd am gael ei roi ar waith i sicrhau bod cleifion, mewn argyfwng, yn gallu cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae hwnna'n bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei godi, yn amlwg. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi gwneud nifer o gyfraniadau yn y lle hwn o ran parodrwydd ar gyfer y gaeaf, ac yn wir o ran oedi wrth drosglwyddo gofal, a nifer o broblemau eraill sy'n effeithio ar restrau aros, ac ati, yn y gogledd. Roedd ef yma yn gwrando ar eich pwynt ac rwy'n siŵr y bydd ef yn ystyried hynny y tro nesaf y bydd ef yn ein hannerch ar y pwnc.
Rwyf yn edrych ar ddau ddatganiad gan arweinydd y Siambr. Mae'r Llywodraeth yn ddigon teg wedi cyhoeddi datganiadau am erchyllterau terfysgol yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae gennym ni gymuned o bobl o'r Yemen yng Nghaerdydd, ac yng Nghymru, ac mae dinasyddion yn yr Yemen yn cael eu bomio ac yn cael eu llwgu i farwolaeth bob un dydd. Roeddwn i'n meddwl tybed beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn, a'r terfysg dyddiol—terfysg a gefnogir gan Saudi Arabia—y mae poblogaeth sifil yr Yemen yn gorfod ei wynebu bob dydd.
Mae'r ail un yn ymwneud â mewnblaniadau rhwyll. Rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau rhwyll hyn yng Nghymru yn ystod y saith mlynedd diwethaf, a hefyd nifer y bobl sydd wedi cael y mewnblaniadau hynny heb roi eu cydsyniad mewn gwirionedd, ac sydd yn dioddef llawer o boen erbyn hyn. Ys gwn i hefyd pa gymorth sydd ar gael i'r bobl hynny a pha driniaeth y gellir ei gynnig iddynt i'w helpu â'u symptomau cronig.
Wel, o ran y ail un, mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno datganiad ar fewnblaniadau rhwyll, y bydd —mae'n siglo'i ben i gytuno â mi—rwy'n siŵr, yn ei wneud yn fuan iawn.
O ran gwahanol sefyllfaoedd rhyfel ac erchyllterau eraill, ledled y byd, yn amlwg mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich pryder bod pobl yn gorfod byw mewn sefyllfaoedd mor ofnadwy. Nid oes gennym, yn amlwg, bwerau polisi tramor yn y fan yma. Yr hyn sydd gennym, er hynny, yw polisi sy'n croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches o bedwar ban byd, lle gallwn ddarparu lloches iddyn nhw. Ac rwyf yn falch iawn ein bod ni'n genedl sy'n gallu gwneud hynny.
Diolch i arweinydd y tŷ.