– Senedd Cymru ar 6 Rhagfyr 2017.
Y ddadl nesaf yw dadl Plaid Cymru ar gredyd cynhwysol. Galwaf ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6606 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.
2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr Alban.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i gyflwyno dadl Plaid Cymru heddiw ar gredyd cynhwysol. Dyma'r ail ddadl mewn chwe wythnos i ni ei chyflwyno ar y mater yma, oherwydd ein bod ni yn pryderu yn fawr am yr effaith gaiff y polisi dinistriol hwn ar ein dinasyddion ni yng Nghymru. Fel nifer ohonoch chi yn y Siambr heddiw yma, rydym ni yn pryderu, ond yn ogystal â hynny, ac yn ogystal â phwyntio bys at y Torïaid, rydym ni hefyd ym Mhlaid Cymru yn cynnig ateb heddiw, ateb a fyddai'n dechrau rhoi grym yn ein dwylo ni yng Nghymru er mwyn, yn y pen draw, dyfeisio system llawer tecach.
Ddoe, fe glywsom ni fod 300 o denantiaid mewn dyled yn Nhorfaen, lle mae credyd cynhwysol ar waith ers mis Gorffennaf eleni. Mae adroddiad ar yr oblygiadau yn Nhorfaen yn dweud hyn:
Mae adborth cynnar yn dangos amgylchiadau eithriadol o niweidiol i lawer o aelwydydd.
Mae safbwynt Plaid Cymru ar y mater yma yn glir: er mwyn amddiffyn ein dinasyddion rhag gweithredoedd y Ceidwadwyr ar eu gwaethaf, mae'n rhaid dechrau datganoli gweinyddiaeth y system les i Gymru. Mi fedrwn ni wedyn roi terfyn ar y diwylliant o oedi a chosbi, a hefyd sicrhau mai unigolion nid cartrefi sydd yn derbyn taliadau, er mwyn sicrhau na fydd y system newydd yn cael effaith anghymesur ar ferched.
Rydym yn awgrymu dechrau drwy ddatganoli'r gweinyddu a fyddai'n ein galluogi ni yng Nghymru i fod yn fwy hyblyg efo taliadau ac i amrywio'r dull o dalu'r elfen dai. Mae hyn eisoes yn digwydd yn yr Alban. Yno, mae Llywodraeth yr SNP wedi newid amlder y taliadau o rai misol i rai bob pythefnos. Ac yn yr Alban mae'r elfennau tai yn cael eu talu'n uniongyrchol i landlordiaid yn ôl dymuniad y tenant.
Gadewch inni droi at fater y gost. Mae'r Alban wedi negodi fframwaith cyllidol efo San Steffan, sy'n golygu bod yr arian ar gyfer gweinyddu rhai elfennau o gredyd cynhwysol yn cael ei drosglwyddo i'r Alban fel rhan o'r grant bloc. Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r gost fel esgus i beidio â gweithredu ar y mater yma. Fe wnaf i ei egluro fo mewn ffordd arall, jest i wneud yn hollol glir bod pawb yn deall: nid yw gweinyddu lles yn costio dim byd i Lywodraeth yr Alban oherwydd fe addaswyd y grant bloc yn yr Alban fel bod swm ychwanegol ar gael i'r Alban ar gyfer y costau gweinyddol, gan gynnwys unrhyw gostau cychwynnol hefyd, gyda llaw. Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i drefnu fframwaith tebyg i'r hynny a negodwyd yn yr Alban, ac rydw i'n methu â deall pam na fyddai'r Llywodraeth yn dymuno rhoi cychwyn ar y negodi hynny. Mae'r Blaid Lafur Brydeinig wedi bod yn galw ar y Llywodraeth i wneud newidiadau i'r polisi credyd cynhwysol; mae Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur yn aml yn sefyll yn y Siambr yma yn condemnio’r polisi.
Felly, rydw i'n cynnig i chi ffordd bragmataidd hollol o fynd i'r afael â'r broblem yma, ac rydw i'n estyn cynnig i chi fel Llywodraeth i wneud rhywbeth i newid rhai o agweddau gwaethaf credyd cynhwysol. Mi fyddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl sydd yn cael eu heffeithio ganddo fo, ac mi fyddai hynny hefyd yn dangos gwerth datganoli ac yn dangos gwerth ein Senedd genedlaethol ni o fedru cyflwyno syniadau amgen a ffordd decach o wneud pethau er budd ein dinasyddion ni a'n cymunedau.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark.
Gwelliant 1. Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cefnogir yr egwyddor tu ôl i gredyd cynhwysol yn eang, gan ddarparu'r cymorth cywir i geiswyr gwaith, ac wrth gwrs gan roi gofal priodol yn ei le ar gyfer pobl na allant weithio.
2. Yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y newid i gredyd cynhwysol.
Diolch. Lluniwyd credyd cynhwysol i helpu pobl i gael gwaith a chefnogi pobl sydd angen help neu bobl na all weithio. Mae'n disodli system a oedd yn anghymell pobl rhag gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos, a gwelodd bron 1.5 miliwn o bobl wedi'u caethiwo ar fudd-daliadau i'r di-waith am bron i ddegawd. Yn wahanol i'r modd trychinebus y cyflwynwyd credydau treth, a olygodd fod miliynau o bobl wedi wynebu adfachiadau yn sgil gordaliadau o £7.3 biliwn, mae credyd cynhwysol yn cael ei gyflwyno'n raddol. Mae pobl yn cael gwaith yn gyflymach ac yn aros mewn gwaith yn hwy. Nid oes ond chwe wythnos yn unig, fel y clywsom, ers dadl ddiwethaf Plaid Cymru ar y credyd cynhwysol lle y nodais fy mod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch taliadau llinell gymorth y credyd cynhwysol cyn ei gyhoeddiad eu bod yn cael eu dileu, a bod ASau ar y meinciau cefn Ceidwadol yn gwneud eu gwaith democrataidd drwy alw am ostyngiad yn yr amser aros o chwe wythnos am daliadau credyd cynhwysol.
Pan ymwelais â rheolwr ardal newydd y Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru a staff eu swyddfa yn yr Wyddgrug yn ddiweddar, roeddent yn dweud wrthyf y gallant bellach ganolbwyntio ar anghenion yr hawlydd, ac yn lle treulio eu dyddiau'n helpu pobl i lenwi ffurflenni hir wrth iddynt ddod oddi ar, ac yna'n ôl ar lwfans ceisio gwaith, ac ymdrin ag ymholiadau ynglŷn ag oedi taliadau, bellach gallant ganolbwyntio ar hyfforddi pobl ynglŷn â sut i ddod o hyd i waith ychwanegol a dod yn annibynnol yn ariannol. Hefyd roeddent yn dweud wrthyf am y cymorth cyllidebu personol y maent yn ei ddarparu ac am y taliadau ymlaen llaw sydd ar gael, er nad oedd llawer wedi manteisio ar y rhain hyd yma yn ôl yr hyn roeddent yn ei ddweud wrthyf.
Rwy'n annog pob aelod i ymweld â swyddfa Canolfan Byd Gwaith yn eu hardal eu hunain. Nododd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Waith a Phensiynau yn 2012:
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol yn cael eu cefnogi'n eang, ac rydym yn rhannu'r gefnogaeth honno.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r wrthblaid Lafur dair blynedd yn ôl:
Mae Llafur yn cefnogi'r egwyddor o gredyd cynhwysol.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr i'r papur ymgynghorol ar lesiant yn yr unfed ganrif ar hugain yn cytuno â'r angen i ddiwygio'n sylfaenol a'r egwyddorion sy'n sail i'r credyd cynhwysol. Felly, rwy'n cynnig gwelliant 1, gan nodi bod cefnogaeth eang i'r egwyddor sy'n sail i'r credyd cynhwysol.
Yn hytrach na'i ddileu, roedd maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer y DU yn 2017 yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Bydd Llafur yn diwygio ac yn ailgynllunio'r credyd cynhwysol, gan roi diwedd ar y cyfnodau o chwe wythnos o oedi cyn talu.
Ac yn y cyd-destun hwn, mae gwelliant 1 hefyd yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y pontio i gredyd cynhwysol. Mae'r pecyn hwn sy'n werth £1.5 biliwn, ac sy'n lleihau'r amser y bydd yn rhaid i hawlydd aros am eu taliad cyntaf i bum wythnos, gryn dipyn yn fwy hael mewn gwirionedd na lleihau'r taliad i un mis, a byddaf yn datblygu hynny.
Ar wahân i'r ffaith fy mod yn amau a oes unrhyw un ohonom, o bosibl, yn yr ystafell hon erioed wedi mynd heb unrhyw incwm o gwbl am bum wythnos, a fyddech yn cydnabod bod ôl-ddyledion sylweddol wedi bod o ganlyniad i hyn ymron pob peilot a wnaed, yn enwedig yng Nghymru?
Lle nad yw ymgysylltu priodol rhwng y gwahanol asiantaethau sy'n rhan o hyn wedi gweithio—yn enwedig awdurdodau lleol a swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith—sydd wedi codi—a chymdeithasau tai hefyd—ond lle mae wedi gweithio'n dda, mae wedi gweithio'n dda.
Ac mae'n ymwneud â mwy nag arian yn unig: mae'n ymwneud â helpu pobl i gael gwaith, i aros mewn gwaith a byw'n annibynnol. O'r mis nesaf ymlaen, bydd hawlwyr yn cael cynnig rhagdaliad 100 y cant. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall hawlwyr newydd eisoes ym mis Rhagfyr dderbyn rhagdaliad hyd at 50 y cant, a bellach gallant dderbyn ail ragdaliad hyd at 100 y cant yn y flwyddyn newydd. Bydd rhagdaliadau i'w had-dalu bellach dros 12 mis yn hytrach na chwe mis; bydd hawlwyr a oedd wedi derbyn budd-dal tai yn flaenorol yn cael pythefnos ychwanegol o gymorth, gwerth £233 ar gyfartaledd na fydd yn ad-daladwy, a bydd yn awtomatig ac yn cael ei roi'n gynnar yn ystod y cyfnod asesu cyntaf.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dyrannu—. Mae'r amser yn brin bellach, mae arnaf ofn, Mick. Rwyf braidd yn bryderus y daw i ben, ond os oes amser ar y diwedd, fe wnaf. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dyrannu £8 miliwn dros bedair blynedd i ddatblygu tystiolaeth ynglŷn â beth sy'n gweithio i helpu pobl i gamu ymlaen yn eu gwaith.
Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi bod yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ers mis Mawrth 2012 ar gynlluniau ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol, a chyhoeddodd Llywodraeth y DU y fframwaith gwasanaethau cymorth credyd cynhwysol lleol ym mis Chwefror 2013, a ddatblygwyd rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a phartneriaid, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i helpu hawlwyr nad ydynt yn barod eto i gyllidebu drostynt eu hunain a'r rhai y mae angen trefniadau talu amgen arnynt, gan gynnwys dioddefwyr cam-drin domestig.
Pan fyddwn yn clywed, er enghraifft, fod gwerth cyfartalog ôl-ddyledion rhent o dan y credyd cynhwysol yng Nghymru yn £450, mwy na theirgwaith cyfartaledd y DU, rhaid i ni ofyn i Lywodraeth Cymru beth a aeth o'i le yma. Cred Tai Cymunedol Cymru y gellid targedu rhai o'r materion yn ymwneud â chredyd cynhwysol drwy wella cyfathrebu rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau, tenantiaid a landlordiaid. Hefyd, mae angen i ni ystyried atebion megis cynllun Ark Passport ar gyfer newid cymdeithasol, sy'n caniatáu i denantiaid wahanu a blaenoriaethu rhent a thaliadau eraill, a rhoi mwy o sicrwydd i landlordiaid. Ac mae angen inni ymgysylltu â strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth y DU i drawsnewid cyflogaeth i'r anabl a helpu dros 1 filiwn yn fwy o bobl anabl i gael gwaith. Diolch.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 2. Julie James
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.
Yn ffurfiol.
Dros y penwythnos, gwnes sifft yn casglu bwyd yn Tesco ym Merthyr Tudful gyda Banc Bwyd Merthyr Cynon. Awr neu ddwy yn unig o fy amser ydoedd i gynorthwyo gwirfoddolwyr banciau bwyd—gwirfoddolwyr sy'n rhoi oriau lawer o'u hamser, o un wythnos i'r llall, er mwyn darparu cymorth gwerthfawr i bobl pan fo fwyaf o'i angen arnynt. Er fy mod yn barod i wneud popeth a allaf i gynorthwyo gwaith y banc bwyd, a gaf fi ddweud nad wyf yn ei ystyried yn brofiad dyrchafol iawn, fel y disgrifiodd Mr Rees-Mogg AS waith y banciau bwyd? Yn wir, rwy'n ei ystyried yn adlewyrchiad trist iawn ar ein dyddiau ni. Mae'n drist fod cynifer o bobl—4,191 yn fy ardal i yn unig—angen help gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf. Wrth i ni nesáu at y Nadolig, dylai hynny roi rhywbeth i bawb feddwl amdano.
O dystiolaeth yr etholwyr a ddaw ataf am gyngor—gwn nad wyf ar fy mhen fy hun yn hyn—mae'n amlwg fod nifer o'r bobl sydd angen cymorth gan y banciau bwyd wedi wynebu anawsterau gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae fy swyddfa etholaeth wedi cael ei hawdurdodi i ddosbarthu talebau banciau bwyd. Yn y sgyrsiau gydag etholwyr, yn rhy aml mae'n argyfwng a achosir gan hawliad budd-dal neu oedi cyn talu sy'n arwain yn uniongyrchol at eu hangen am gymorth brys.
Mae pobl yn fy etholaeth yn wynebu'r anawsterau hynny yn awr, a hynny cyn y bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn cyrraedd Merthyr Tudful a Rhymni. Mae gennyf ofnau gwirioneddol dros rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn fy nghymuned pan fydd y newidiadau hyn yn digwydd yn y pen draw—ofnau a atgyfnerthir gan y dystiolaeth o'r ardaloedd hynny lle y cafodd y credyd cynhwysol ei roi ar waith eisoes, fel yr enghraifft o Dorfaen y clywsom amdani eisoes.
Ni allaf ymatal rhag cyferbynnu effaith y credyd cynhwysol, sydd nid yn unig yn rhan allweddol o ddiwygio lles y Torïaid, cofiwch, ond sydd hefyd yn rhan o ddarlun ehangach o bolisïau cyni aflwyddiannus y Torïaid—cyferbynnu hynny â'r cynnydd a wnaed yn y frwydr yn erbyn tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr o dan Lywodraethau Llafur blaenorol. Dengys ystadegau o ddiwedd y 1990au hyd at ddyfodiad Llywodraeth glymblaid y DU yn 2010, fod Llafur wedi defnyddio dulliau Llywodraeth i helpu i godi 500,000 o blant a 900,000 o bensiynwyr allan o dlodi cymharol. Fel rwyf wedi sôn droeon, mae pla tlodi mewn gwaith yn ein cymunedau yn dal i dyfu gan fod diddymu credydau treth fwy neu lai wedi cael gwared ar y budd posibl o gyflwyno cyflog byw cenedlaethol ffug George Osborne yn 2015.
Fel y gallai llawer ohonom ei nodi, mae Sefydliad Joseph Rowntree newydd ddweud bod tlodi plant, teuluoedd a phensiynwyr bellach yn ôl ar yr un lefelau â chyn 1997 fwy neu lai. Felly, o ganlyniad uniongyrchol i gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi mynd tuag yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf wrth ymdrin â thlodi, a bydd cyflwyno'r credyd cynhwysol yn mynd â ni'n ôl hyd yn oed ymhellach. Rwy'n aml yn meddwl tybed i ba raddau y gall Cabinet Llywodraeth y DU sy'n llawn o filiwnyddion Torïaidd wir ddeall y materion hyn. A ydynt erioed wedi bod allan i weld drostynt eu hunain beth yw effaith eu polisïau ar aelodau gwanaf ein cymunedau? Os ydynt, a'u bod yn parhau gyda'r newidiadau hyn, nid oes ganddynt galon na chydwybod nac unrhyw dosturi.
Felly, rwy'n falch fod Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn gan ein bod yn amlwg yn rhannu pryderon ynglŷn â'r diffygion yn y credyd cynhwysol, a heb newid sylfaenol ym mholisi Llywodraeth y DU ar hyn, ofnaf y byddwn yn dychwelyd at y ddadl sawl gwaith eto yn y flwyddyn sydd i ddod.
Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd Siân Gwenllian yn ei sylwadau agoriadol, cyflwynodd Plaid Cymru ddadl ar y pwnc hwn chwe wythnos yn ôl, a rhoddais safbwynt UKIP bryd hynny. Mewn gwirionedd nid yw ein safbwynt wedi newid ers hynny, felly fe fyddaf yn eithaf cryno, yn enwedig o gofio mai dadl hanner awr yn unig yw hon.
Rydym ni yn UKIP yn rhannu pryderon y pleidiau eraill yma ynglŷn â'r credyd cynhwysol. Fel plaid, nid ydym wedi cefnogi llawer o ddiwygiadau lles y Ceidwadwyr. Roeddem yn erbyn y dreth ystafell wely, er enghraifft. Felly, yn y materion penodol hyn, yn sicr nid ydym i'r dde i'r Ceidwadwyr, fel y mae llawer o bobl yn hoffi ein portreadu; rydym yn agosach at y pleidiau i'r chwith o'r canol mewn gwirionedd. Rhyfedd ond gwir.
Rydym yn rhannu pryderon ynglŷn â'r cyfnod o amser—[Torri ar draws.]—rwy'n siŵr eu bod wrth eu boddau—y cyfnod o amser y mae'n ei gymryd i wneud y taliadau, y ffaith y gall taliadau ar y cyd adael pobl yn amddifad, a'r ffaith y bydd talu credyd cynhwysol yn uniongyrchol i denantiaid yn hytrach na landlordiaid yn ddi-os yn cynyddu ôl-ddyledion rhent. Rydym hefyd yn poeni ynglŷn â'r modd ar hap braidd o osod cosbau sy'n debygol o ddigwydd, a chan y ffaith y gellid cosbi pobl sydd eisoes mewn gwaith ac sydd eisoes â dwy neu dair swydd efallai. Mae'r math hwn o beth yn gwneud y cynllun credyd cynhwysol yn ei gyfanrwydd yn nonsens braidd, beth bynnag fo'r bwriadau da ar ei gyfer yn wreiddiol.
Nid wyf fel arfer yn treulio llawer o amser yma yn lladd ar y Ceidwadwyr, gan fod digon o hynny'n digwydd o feinciau Llafur a Phlaid Cymru, felly mae'n mynd yn ailadroddus braidd. Nid wyf eisiau cweryla gyda'r Aelodau Ceidwadol yma, sy'n bobl gwbl resymol—[Torri ar draws.]—na, nid wyf yn mynd i unman; diolch am yr awgrym—ac wrth gwrs, mae ganddynt nifer o'n hen ffrindiau bellach, fel Mark Reckless, er ei fod yn absennol ar hyn o bryd. [Torri ar draws.] Nid yw yno.
Nid wyf yn siŵr y byddai'n cytuno â chi.
Nid yw yntau yma ychwaith, Mike.
I fod o ddifrif, nid wyf yn siŵr fod rhoi cyfrifoldeb am y system les i Iain Duncan Smith yn 2010 byth yn mynd i fod yn syniad da mewn gwirionedd. Dyma'r dyn a ddaeth i Ferthyr heb fod yn hir ar ôl ei benodi ac a ddywedodd, yn fyrfyfyr yn ôl pob golwg, y gallai fod yn syniad da pe bai rhai o'r bobl leol yn ystyried taro lawr i Gaerdydd i chwilio am waith, a'r gwir amdani wrth gwrs oedd bod miloedd o bobl Merthyr a threfi eraill yn y Cymoedd yn eisoes gwneud hynny ac wedi bod yn gwneud hynny ers rhai blynyddoedd. Felly, nid oedd y cynllun credyd cynhwysol dan oruchwyliaeth bwnglerwr naïf fel IDS byth yn debygol o fod yn llwyddiant mewn gwirionedd.
Fodd bynnag, hoffwn ailadrodd nad ydym yn cefnogi amcan Plaid Cymru o gael y system les wedi'i datganoli i Gymru. Rydym yn cydnabod beth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddatgan ar hyn: na fyddai hyn ond yn gosod baich gwariant ychwanegol enfawr ar y cyhoedd yng Nghymru. Felly, er ein bod yn rhannu pryderon Plaid Cymru ynglŷn â'r credyd cynhwysol, nid ydym yn rhannu'r ateb y maent yn ei argymell.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. Hoffwn fod yn glir ein bod yn cytuno â llawer o gynnig Plaid Cymru, gan wahaniaethu'n unig, fel y mae ein gwelliant yn ei ddangos, ynglŷn â pha mor ymarferol a dymunol fyddai cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol. Fel y byddai'r Aelodau yn ei ddisgwyl, rydym yn gwrthod y gwelliant hunanfodlon gan y Ceidwadwyr, sy'n anwybyddu'r gwir ddioddefaint a achosir gan ymdrechion carbwl a dideimlad eu plaid i ddiwygio lles.
Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi terfyn ar eu polisi cyni diffygiol a diangen; polisi a atgyfnerthwyd gan gyllideb yr hydref. Rydym yn parhau'n bryderus ynglŷn ag effaith toriadau lles a gyhoeddwyd yn flaenorol, yn enwedig o ystyried ein bod yn gwybod y bydd y rhain yn ergyd caled i aelwydydd incwm isel ac aelwydydd â phlant yn enwedig.
Mae dadansoddiad diweddar gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn rhagweld y bydd tlodi plant absoliwt yng Nghymru yn cynyddu bron 7 pwynt canran rhwng 2013-15 a 2019-21. Caiff hyn ei yrru gan newidiadau i fudd-daliadau lles Llywodraeth y DU, gan gynnwys cyfyngu'r credyd treth a'r credyd cynhwysol i ddau o blant a rhewi'r rhan fwyaf o fudd-daliadau i rai oedran gweithio. Treth arfaethedig Llywodraeth y DU a'r diwygiadau i fudd-daliadau sydd i gyfrif am bron bedwar o'r saith pwynt canran yn y cynnydd mewn tlodi plant absoliwt dros y cyfnod hwn, a deillia gweddill y 7 y cant o dwf enillion a ragwelir a newidiadau eraill yn yr economi.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Mae gennyf gydymdeimlad mawr â rhai o'r dadleuon rydych yn eu disgrifio, ond sut y gallwch ddweud hynny pan nad ydych eisiau pwerau i allu gwneud rhywbeth yn ei gylch eich hun?
Credaf fod hanes wedi dangos i ni beth sy'n digwydd pan fo Llywodraeth y DU yn datganoli budd-daliadau i ni, er enghraifft gyda budd-dal y dreth gyngor, pan frigdorrwyd y gyllideb ganddynt. Felly, cas gan gath y ci a'i bratho o ran hynny. Ac a dweud y gwir, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hyn, ac mae angen i Lywodraeth y DU ei ddatrys.
Waeth i bawb ohonom fynd adre felly.
Dadansoddiad—. Wel, mae gennym ein cyfrifoldebau ein hunain yma sydd wedi'u datganoli i ni yn Llywodraeth Cymru. Hefyd dengys dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli 1.6 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd, neu oddeutu £460 y flwyddyn, o ganlyniad i ddiwygiadau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU a gyflwynir rhwng 2015-16 a 2019-20. Mae hyn yn cyfateb i tua £600 miliwn y flwyddyn i Gymru gyfan.
Gwyddom y bydd aelwydydd incwm is ac yn arbennig y rhai â phlant yn colli cryn dipyn yn fwy ar gyfartaledd—tua 12 y cant o incwm net. Caiff teuluoedd mawr eu taro'n arbennig o galed, gan golli oddeutu £7,750 flwyddyn neu 20 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd. Felly, rwy'n pryderu'n fawr am yr effaith ddinistriol y mae credyd cynhwysol yn ei chael ar ein pobl fwyaf agored i niwed.
Er y gallai cyplau â phlant lle mae un o'r ddau'n ennill cyflog fod ar eu hennill, dengys y dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod rhieni sengl a chyplau lle mae'r ddau'n ennill cyflog yn debygol o fod ar eu colled. Felly, nid yw honiad Llywodraeth y DU y bydd credyd cynhwysol yn annog pobl i gael gwaith ac yn gwneud i waith dalu yn gwneud synnwyr, oherwydd mae'n gwanhau'r cymhelliad i'r ddau riant weithio ac mae'n gwanhau'r cymhelliad i rieni sengl gael gwaith. Yn anffodus, fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU i'w gweld yn benderfynol o anwybyddu'r ffeithiau hyn ac yn parhau i ddadlau bod credyd cynhwysol yn sicrhau bod gwaith yn talu bob amser.
Yn syth ar ôl dod i'r swydd hon, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, i nodi ein pryderon a barn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gafodd ei mynegi yn ystod y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn. Gelwais arno i wrthdroi toriadau niweidiol Llywodraeth y DU i'r system les, i roi terfyn ar gyflwyno credyd cynhwysol a mynd i'r afael â'r pryderon sylfaenol sy'n cael eu gwyntyllu mewn perthynas ag ef. Fel rhan o'i ymateb i mi yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod tua 80 y cant o hawlwyr y credyd cynhwysol newydd yn cael eu talu'n llawn ac ar amser, ond hyd yn oed os yw hynny'n wir, rhaid i mi ofyn: beth am yr 20 y cant arall? Mae methiant ar y raddfa hon yn golygu bod hawlwyr yn gorfod chwilio am gymorth brys o fanciau bwyd, gyda llawer yn ei chael hi'n anodd ymdopi gyda chymhlethdodau'r budd-dal newydd hwn.
O blith yr hawlwyr credyd cynhwysol newydd sy'n chwilio am gymorth hanfodol gyda'u costau tai, yr hyn sy'n peri pryder enfawr i mi yw na fydd llawer ohonynt yn gallu talu eu rhent cyntaf i'w landlord hyd nes y byddant yn derbyn eu taliad cyntaf. Ac mae awdurdodau lleol lle mae gwasanaeth llawn y credyd cynhwysol eisoes ar waith yn dweud wrthym eu bod yn gweld cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent i nifer o denantiaid. Mae hyn yn achosi neu'n gwaethygu problemau dyled i'r rhai sydd fwyaf o angen cymorth, ac mae iddo ganlyniadau difrifol i'r bobl a allai wynebu cael eu troi allan o ganlyniad i beidio â bod ag arian i dalu eu rhent.
Siaradais â'r Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth ar ddiwrnod datganiad yr hydref. Dywedodd wrthyf fod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cyflwyno rhagdaliadau ar gyfer hawlwyr newydd y credyd cynhwysol sy'n aros am eu taliad cyntaf. Dywed yr Adran Gwaith a Phensiynau y gwneir y taliad hwn o fewn pum diwrnod gwaith i wneud y cais ac ar yr un diwrnod i unrhyw un sydd mewn angen brys. Fel y dywedais wrth y Gweinidog, rwy'n dweud bod angen iddynt fynd ymhellach o lawer i fynd i'r afael â'r problemau. Nid wyf yn ystyried bod ateb yr Adran Gwaith a Phensiynau o gynnig benthyciad yn gynaliadwy fel ateb parhaol i hawlwyr a fydd yn aml mewn dyled eisoes. Nid oes neb yn honni bod cyfraddau budd-daliadau yn hael, felly dywedwch wrthyf: sut y disgwylir i hawliwr fyw ar un rhan ar ddeg o ddeuddeg o'r budd-dal hwnnw am flwyddyn gyfan tra bo'r rhagdal gwreiddiol yn cael ei ad-dalu?
Ysgrifennais at y Gweinidog Cyflogaeth yr wythnos diwethaf i ofyn am sicrwydd y byddai hawlwyr y credyd cynhwysol yn gallu derbyn taliadau dros gyfnod y Nadolig. Mae swyddogion yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi dweud wrth fy swyddogion fod gweithdrefnau cadarn ar waith i sicrhau bod pob taliad i hawlwyr sy'n ddyledus erbyn 21 a 22 Rhagfyr yn cael ei dalu, ac rwy'n mawr obeithio y caiff y sicrwydd hwn ei wireddu'n ymarferol, ond rhaid i mi ddweud nad yw ein profiad hyd yn hyn o'r modd y mae Llywodraeth y DU yn darparu credyd cynhwysol a budd-daliadau lles eraill yn rhoi llawer iawn o hyder i mi.
Mae'r rhwydwaith cyngor cenedlaethol ar gyfer Cymru'n gweithio'n agos gyda ni a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau y gall gwasanaethau cynghori helpu hawlwyr drwy gymhlethdodau'r credyd cynhwysol. Rhaid i'r Adran Gwaith a Phensiynau gydnabod bod llawer o'r hawlwyr eisiau ac angen dewis pa mor aml y cânt eu taliadau. Byddaf yn pwysleisio wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau y dylai'r dewis fod ar gael yn gyffredinol i holl hawlwyr y credyd cynhwysol drwy drefniadau talu amgen yr Adran Gwaith a Phensiynau. Nid wyf yn credu y byddai angen yr un trefniadau gweinyddol â'r Alban er mwyn cyflawni hyn.
Mae tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i'r pwyllgor gwaith a phensiynau'n dynodi bod anfanteision gwirioneddol o ran yr hyblygrwydd a gynigir i hawlwyr yn yr Alban, gyda thaliadau'n cael eu gohirio o ganlyniad i hynny. Nid yw'r trefniadau hyblyg yn yr Alban ond yn dechrau ar ôl derbyn y taliad credyd cynhwysol cyntaf. Felly, mae rhai hawlwyr yn yr Alban wedi bod yn aros chwe wythnos neu fwy am eu taliad cyntaf.
A ydych yn dirwyn i ben os gwelwch yn dda?
Rwy'n dirwyn i ben. Nid wyf yn cefnogi datganoli lles neu weinyddu lles i Gymru. Mae datganoli budd-daliadau lles i Lywodraeth yr Alban wedi trosglwyddo'r risg ariannol sy'n gysylltiedig, gyda'r galw am fudd-daliadau lles yn tyfu'n gyflymach fesul y pen yn yr Alban nag yn Lloegr o'r pwynt datganoli. I Gymru, byddai hyn yn creu risg ariannol sylweddol ac annerbyniol, a byddai'r costau sy'n gysylltiedig â gweinyddu'r system les yn mynd ag adnoddau oddi wrth wasanaethau'r rheng flaen.
Felly, i gloi, fel y dywedais eisoes, byddwn yn gwrthwynebu gwelliant y Ceidwadwyr, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw cyfraniad y Ceidwadwyr wedi cydnabod maint y problemau a nodwyd eisoes. Ac fel y nodir yn ein gwelliant, pe baem yn cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y DU, credwn na fyddai ond yn trosglwyddo beichiau ariannol ychwanegol i Lywodraeth Cymru ac yn creu disgwyliad na ellir ei gyflawni y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.
Diolch. A gaf fi alw ar Steffan Lewis i ymateb i'r ddadl? Steffan Lewis.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Nododd Dawn Bowden y pwynt pwysig fod diwygio lles, wrth gwrs, yn rhan o agenda gymdeithasol ehangach Llywodraeth Geidwadol y DU, a'i fod yn thema ganolog yn y polisi cyni.
Yng nghyfraniad Gareth Bennett—gwrandewais arno'n ofalus—erbyn y diwedd nid oeddwn yn siŵr a oedd yn mynd i symud at y Blaid Geidwadol neu at y blaid gomiwnyddol [Chwerthin.] Ond diolch iddo am ei gyfraniad y prynhawn yma.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn gydag ymateb y Gweinidog i'r ddadl heddiw. Mae'n ffaith bod Llywodraeth yr Alban wedi negodi, drwy eu fframwaith cyllidol, â Llywodraeth y DU, am gynnydd yn y grant bloc er mwyn talu am gostau gweinyddu lles. Rwy'n meddwl ei bod yn ddiddorol nodi yn ogystal, yn gynharach yn y ddadl yn y Siambr hon, fod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol wedi ailadrodd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli cyfiawnder i'r lle hwn. Nid oes neb wedi awgrymu y byddai cost weinyddol enfawr a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid gwneud toriadau i wasanaethau cyhoeddus er mwyn ei thalu. Mewn gwirionedd, mae'r Prif Weinidog ei hun wedi dweud dro ar ôl tro ei fod yn hyderus y gall Llywodraeth Cymru ddod i gytundeb gyda Llywodraeth y DU er mwyn cael swm canlyniadol Barnett, a symiau canlyniadol eraill yn ogystal, fel y gall Cymru dalu costau pwerau pellach. Nid oes rheswm pam na ellir negodi hynny rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer gweinyddu lles, a'r credyd cynhwysol yn benodol.
Gadewch i ni beidio â thwyllo ein hunain hefyd: credaf fod awgrymu nad yw gwasanaethau datganoledig a Llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth leol eisoes yn talu pris trwm am y diwygiadau lles niweidiol sy'n cael eu gwthio drwodd yn gwadu'r gwirionedd yn llwyr. Rhan o bwynt datganoli'r cyfrifoldeb am weinyddu lles fyddai ein bod yn rhedeg system fwy effeithlon ac effeithiol a llai creulon yn y wlad hon a fyddai yn y pen draw yn arbed arian i wasanaethau cyhoeddus. Pam y ceir rhaglenni y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweinyddu ar hyn o bryd, megis Cefnogi Pobl? Mae'r rhain yn rhaglenni da iawn yn wir, ond rhan o'r rheswm am y cynnydd yn y galw ar y gwasanaethau hynny yw bod lles yn cael ei weinyddu gan y Ceidwadwyr yn San Steffan heddiw. A rhaid i mi ddweud, rwy'n ei chael yn gwbl anhygoel y byddai'n well gan Weinidog Llafur weld Ceidwadwr yn Llundain yn gweinyddu lles a diogelwch cymdeithasol i ddinasyddion Cymru na'u bod yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain.
Gadewch inni hefyd gadw mewn cof fod gweinyddu lles, wrth gwrs, bob amser wedi ei ddatganoli a'i gyfyngu i ardaloedd lleol. Yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel y digwyddodd y canoli—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs y gwnaf.
Diolch. A fyddech yn cydnabod mai'r rheswm pam y cafodd y credyd cynhwysol ei dreialu ledled y DU yw oherwydd maint y problemau sydd ynghlwm wrtho? A fyddech yn cydnabod hefyd y byddai'n ergyd ddwbl i hawlwyr yng Nghymru pe na baem yn cael y swm o arian y byddai ei angen i ariannu hyn yn briodol? Dyna'r pryder; yr hawlwyr sy'n ganolog i hyn.
Wel, rwy'n siŵr y bydd gan yr Aelod gymaint o ffydd ag sydd gennyf fi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid iddo deithio i Lundain a negodi bargen i Gymru ar gyfer gweinyddu lles a fyddai'n dod â'r symiau canlyniadol sydd eu hangen arnom. Mae gennyf bob hyder y byddem yn gwneud gwaith gwell o lawer o weinyddu lles yn y wlad hon ein hunain na'r giwed honno yn Llundain. Yn bendant.
Roeddwn yn gwneud y pwynt, Ddirprwy Lywydd, fod gweinyddu lles a'i ganoli yn bethau cymharol newydd yn yr ynysoedd hyn. Y rheswm pam fod gennym ddyfarniad Merthyr Tudful yn 1900 yw oherwydd safiad a gymerwyd gan warcheidwaid deddf y tlodion ym Merthyr Tudful i geisio cynorthwyo glowyr ar streic, ac wrth gwrs, mae gennym gylchlythyr 703 a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Iechyd yn ôl yn y dyddiau cyn y rhyfel er mwyn ceisio cyfyngu ar gymorth lleol i bobl a oedd yn byw mewn tlodi. Gwelodd y cyfnod rhwng y ddau ryfel ymddangosiad gwladwriaeth hyperganoledig, ac yn wreiddiol, ar ôl yr ail ryfel byd, bu hynny o fantais i lawer o bobl, ond y realiti gwleidyddol heddiw yw mai dinasyddion Cymru fydd yn talu'r pris mawr cyhyd ag y bydd popeth yn nwylo'r Gweinidogion yn Llundain, a'r dinasyddion mwyaf agored i niwed yng Nghymru fydd yn talu'r pris mwyaf.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, soniais am y cyfnod hwnnw o hyperganoli yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel, a disgrifiodd yr Athro Norman Ginsburg, sy'n arbenigwr ar bolisi cymdeithasol, y canoli a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw fel rhywbeth a helpodd i ffrwyno potensial chwyldroadol y dosbarth gweithiol. Pam na wnawn ni ei ddatganoli, ac efallai y gall Llywodraeth Cymru ddod o hyd i'w photensial chwyldroadol ei hun i amddiffyn pobl y wlad hon?
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.