– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 16 Ionawr 2018.
Sy'n dod â ni at eitem 6, sef y ddadl ar setliad llywodraeth leol 2018-19, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros lywodraeth leol i wneud y cynnig—Alun Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fe hoffwn i barhau yn yr un cywair ac yn yr un modd ag yr oedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn ymdrin â'r dadleuon y prynhawn yma wrth wreiddio ein cyllideb ar gyfer llywodraeth leol yn ein gwerthoedd, ein hegwyddorion, y sefyllfa yr ydym ni ynddi a'r ffordd yr ydym ni'n bwriadu mynd ati. Llywydd, mae hon yn gyllideb sy'n seiliedig ar ffydd mewn llywodraeth leol. Mae'n seiliedig ar y gred bod llywodraeth leol yn cael ei gwerthfawrogi gan y Llywodraeth hon a phobl ledled Cymru. Rydym ni eisiau gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol er mwyn diogelu a gwella gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn gwerthfawrogi gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, ac i sicrhau bod lle llywodraeth leol yn ein cyllidebau yn adlewyrchu'r gwerthoedd a'r egwyddorion hyn. Amlinellodd yr Ysgrifennydd Cyllid, wrth gyflwyno cyllideb y Llywodraeth yn gynharach y prynhawn yma, sut mae cyni wedi tanseilio ein gallu i amddiffyn y gwasanaethau hyn, ond yn y cyd-destun hwn byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn llywodraeth leol ac mewn gwasanaethau lleol.
Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael dros £4.2 biliwn mewn cyllid refeniw cyffredinol. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol bresennol, a dyma'r ail gynnydd yn y setliad i Lywodraeth Leol mewn tair blynedd. Llywydd, rydym ni'n credu bod hwn yn setliad realistig a fydd yn parhau i ddiogelu gwasanaethau lleol rhag toriadau sylweddol mewn sefyllfa pan geir llai o arian. Mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid ar gyfer llywodraeth leol yn y blynyddoedd diwethaf, ac nid yw'r setliad hwn yn wahanol. O ganlyniad, mae'r gwariant cyfredol ar wasanaethau lleol yng Nghymru wedi cynyddu dros 4 y cant rhwng 2010-11 a 2017-18, o ran arian parod. Yn Lloegr, mae wedi gostwng 12 y cant, ac mae hynny'n enghraifft wirioneddol o sut mae'r Llywodraeth hon yn ceisio gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus, gwerthfawrogi gweision cyhoeddus a gwerthfawrogi llywodraeth leol.
Mae'r dosbarthiad yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol, ar sail toreth o wybodaeth ynglŷn â nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a ddaeth i law ynglŷn â'r ymgynghoriad ynghylch y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 21 Tachwedd. Mae'r setliad hwn yn rhoi sail gadarn i gynghorau ar gyfer cynllunio ariannol y flwyddyn ariannol nesaf. O'i gymharu â'r cyhoeddiad ynglŷn â'r setliad dros dro, mae'r setliad terfynol yn cynnwys £20 miliwn ychwanegol o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb terfynol Llywodraeth Cymru. Hefyd, mae'r setliad terfynol yn cynnwys £7 miliwn ychwanegol i gefnogi'r cynnydd yn y terfyn cyfalaf o ran codi tâl am ofal preswyl, a fydd yn codi i £40,000 ym mis Ebrill 2018. Yn ogystal â hyn, mae'r setliad terfynol yn darparu £1.3 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn ôl eu doethineb er mwyn rhoi cymorth penodol i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf o gymorth ychwanegol.
Yn y setliad, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol megis addysg a gofal cymdeithasol. Er nad yw unrhyw elfen benodol o'r setliad wedi ei glustnodi, rwyf yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion, drwy roi £62 miliwn yn 2018-19 a £46 miliwn pellach yn 2019-20 yn y setliad er mwyn darparu a chynnal cyfraniad Llywodraeth Cymru a galluogi awdurdodau i gynnal gwariant craidd ar ysgolion ar y lefelau presennol yn y ddwy flynedd hynny. Felly hefyd ofal cymdeithasol, lle'r wyf yn blaenoriaethu cyllid, drwy roi £42 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf a £31 miliwn pellach yn 2019-20 yn y setliad, i gynnal cyfraniad Llywodraeth Cymru ac er mwyn galluogi awdurdodau lleol i gadw gwariant craidd ar ofal cymdeithasol ar y lefelau presennol yn y ddwy flynedd hynny. Mae hyn yn adlewyrchu ein cydnabyddiaeth o'r angen i fuddsoddi ac i barhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.
Yn ogystal â'r cyllid y cyfeiriais ato eisoes, mae'r setliad hwn yn rhoi £6 miliwn ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol er mwyn bodloni dyletswyddau atal digartrefedd, yn ychwanegol at y £6 miliwn a ymgorfforwyd yn y setliad yn y flwyddyn ariannol sydd ohoni. Ochr yn ochr â'r setliad, rydym ni'n darparu £600,000 i gefnogi llywodraeth leol i roi'r gorau i godi tâl am gladdu plant. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar y camau cadarnhaol y mae llawer o gynghorau yng Nghymru eisoes wedi eu cymryd ac yn sefydlu trefn deg a chyson ledled Cymru. Yn olaf, mae mwy nag £800,000 o arian yn ychwanegol at y setliad wedi'i gynnwys er mwyn sicrhau nad yw unrhyw awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 0.5 y cant o'i gymharu â'r dyraniad cyllid refeniw cyffredinol presennol. Mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn yn barhaus am glustnodi grantiau penodol ac, yn unol â meddylfryd Gweinidogion blaenorol, rwyf wedi ceisio parhau â'r duedd hon a byddaf yn ystyried trosglwyddo mwy o arian i'r setliad yn y dyfodol.
Mae'r setliad yn adlewyrchu gwerth dros £92 miliwn o drosglwyddiadau i'r llinell sylfaen a dalwyd yn flaenorol i awdurdodau lleol drwy grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys £35 miliwn o elfen wastraff y grant refeniw sengl, £27 miliwn o gyllid a ddarperid gynt drwy Grant Byw'n Annibynnol Cymru, £19 miliwn i gefnogi'r grant gweithlu gofal cymdeithasol, £8 miliwn i gyflawni'r rhaglen plant sy'n derbyn gofal, £3 miliwn ar gyfer grant gofal seibiant i ofalwyr, a £391,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol i garcharorion mewn sefydliadau diogel.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar. Fe wnaethoch chi sôn am y grant trosglwyddo gwastraff. Wrth gwrs, fe'i tynnwyd o bortffolio ei gyd-Ysgrifennydd Cabinet a'i roi yn uniongyrchol i awdurdodau lleol. Gellid dweud y bu hynny yn un o grantiau uniongyrchol mwyaf llwyddiannus Llywodraeth Cymru o ran gosod targedau ailgylchu uchel iawn, ac fe'i canmolwyd yn gwbl briodol gan y Llywodraeth ei hun fel un o'r llwyddiannau mawr yn y maes hwn. Beth y mae'n bwriadu ei wneud i sicrhau, er y cefnir ar yr egwyddor o glustnodi cyllid, bod y llwyddiannau hyn yn parhau? Oherwydd ymddengys fod rhywfaint o waith i'w wneud gyda rhai cynghorau.
Rwy'n gyfarwydd â'r pwynt hwnnw. Gadewch imi ddweud hyn: bu'n llwyddiant oherwydd mae llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd. Credaf, mewn sawl ffordd, bod hyn wedi dangos grym partneriaeth sy'n bartneriaeth gydweithredol yng ngwir ystyr y gair - o ran cyllid, ond hefyd o ran gweithio gyda'n gilydd i edrych am atebion gwahanol i sicrhau ein bod ni'n parhau i gyrraedd y targedau ailgylchu yr ydym ni wedi eu gosod i'n hunain. Ni welaf unrhyw reswm dros beidio â pharhau â'r bartneriaeth honno. Ni ddylai'r ffaith ein bod ni'n darparu cyllid mewn ffordd wahanol effeithio ar ganlyniadau'r bartneriaeth honno, a dylai alluogi inni barhau i weithio, ond i wneud hynny mewn ffordd sydd hefyd yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar lywodraeth leol. Bydd yr Aelod yn gwybod am fy ymrwymiad personol i ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i'r materion hyn, a byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i sicrhau y cyrhaeddir y targedau hynny yn y dyfodol. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw ichi heddiw. Ond byddwn hefyd yn sicrhau bod y cyfanswm cyllid blynyddol o dros £285 miliwn wedi'i drosglwyddo i'r setliad ers 2011-12.
Ochr yn ochr â'r setliad, Llywydd, rwyf wedi cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi eu cynllunio ar gyfer 2018-19. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rhyddhawyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid cyfalaf awdurdodau lleol hefyd. Yn gyffredinol ar gyfer y flwyddyn nesaf, bu gostyngiad unwaith eto i'r cyllid cyfalaf cyffredinol, sy'n parhau i fod yn £143 miliwn. Er mai'r setliad heb ei glustnodi yw'r ffynhonnell unigol fwyaf o gyllid sydd ar gael i awdurdodau, nid dyma'r unig un. Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau cyllido sydd ar gael, ac ystyried sut i sicrhau'r gwerth gorau i drethdalwyr Cymru drwy ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.
Rydym yn cynnig hyblygrwydd sylweddol i awdurdodau arfer annibyniaeth a chyfrifoldeb wrth reoli eu materion ariannol. Mae hwn yn setliad teg i Lywodraeth Leol mewn amgylchiadau heriol iawn, ac mewn cyd-destun sydd weithiau'n anodd. Mae'r Ysgrifennydd Cyllid y prynhawn yma, rwy'n credu, wedi mynegi ei rwystredigaeth ei hun gyda'r sefyllfa y cawn ein hunain ynddi, ac nid yw'r Llywodraeth yn rhannu'r safbwyntiau a fynegwyd gan arweinydd UKIP y prynhawn yma nad yw cyni wedi mynd yn ddigon pell na chyflawni ei holl uchelgeisiau. I ni, mae gwerth yn yr ystad gyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr cyhoeddus. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol i bobl ledled Cymru, lle bynnag y maen nhw'n byw. Byddwn yn parhau i weithio gyda gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, gyda llywodraeth leol a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn gallu gwneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny drwy barchu ein gilydd, ac mewn ffordd sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd heddiw ac yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, wrth eu boddau yn ddiweddar yn croesawu'r cyhoeddiad y bydd £31.5 miliwn ychwanegol ar gyfer cyllid refeniw llywodraeth leol Cymru yn 2018-19, a £61.7 miliwn yn 2019-20 yn rhan o gyhoeddiad Llywodraeth Geidwadol y DU o £1.2 biliwn yn ychwanegol i Gymru dros y pedair blynedd nesaf. Mae Cymru hefyd yn elwa, wrth gwrs, o newidiadau i'r fframwaith cyllidol, sy'n golygu am bob £1 a werir yn Lloegr, y caiff o leiaf £1.20 bellach ei wario yng Nghymru, rhywbeth nad yw 13 blynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan erioed wedi ei gyflawni.
Fodd bynnag, rydym wedi gweld yr un pwysau ar dalwyr y dreth gyngor ac ar gyllidebau cyfyngedig llywodraeth leol, sydd bellach yn wynebu pryderon gwirioneddol am y diffyg eglurder ynglŷn â nifer o ffrydiau ariannu. Mae adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y gyllideb ddrafft wedi galw am fwy o dryloywder wrth gyflwyno cyllid. Mae honiadau Llywodraeth Cymru o gynyddu'r gyllideb gofal cymdeithasol i £42 miliwn yn 2018-19, gan godi i £73 miliwn yn 2019-20, ac, yn ôl y sôn, £62 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau ysgolion, yn cynyddu i £108 miliwn, wedi cael eu herio gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n dweud bod hyn yn bodoli eisoes yn y setliad, er bod yr asesiadau o wariant safonol wedi codi £35 miliwn yn unig—rhethreg a gorliwio pur gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Ymhellach, datgelodd y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl Ifanc fod y £62 miliwn honedig ychwanegol mewn gwirionedd yn cyfateb i ddim ond £1.5 miliwn wrth ystyried y cyfrifiad cychwynnol ar gyfer 2018-19, a'r ffigur terfynol a neilltuwyd.
Mae ein Pwyllgor ni, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y mae'n bwriadu monitro'r gwariant a'r canlyniadau mewn meysydd oedd yn arfer cael cyllid grant, ond sydd bellach wedi'i ymgorffori yn y grant cymorth refeniw. Mae gostyngiadau o tua £70 miliwn yn y gost o weinyddu grantiau damcaniaethol i'w groesawu ac, i fod yn deg, ar y meinciau hyn, buom yn galw am ddull llai cymhleth a llai biwrocrataidd o ariannu llywodraeth leol. Fodd bynnag, mae Cymorth Cymru wedi lleisio pryderon nad oes modd, heb linell gyllideb benodol, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif dros faint mewn gwirionedd a gaiff ei wario ar y rhaglen Cefnogi Pobl. Yn yr un modd, mae Cymorth i Ferched Bangor a'r Cylch wedi dweud, heb gyllid wedi ei glustnodi, na fyddant yn gwybod faint a werir ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn amlwg, mae angen cael cydbwysedd rhwng faint o gyllid a glustnodir a chael trywydd archwilio tryloyw. Felly, o ganlyniad, mae gennyf ddiddordeb i glywed syniadau Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y gellir cyflawni hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y caiff gwybodaeth ei chasglu drwy gyfrwng cyfres o ffurflenni gwariant at ddibenion tryloywder, craffu ac atebolrwydd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud pryd a ble y cyhoeddir y data hyn a sut y byddwch yn adrodd yn ôl i'r Cynulliad ar hyn—.
Ers 2013-14, mae awdurdodau lleol wedi gweld toriadau o bron £0.5 biliwn mewn termau real. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi dweud o'r blaen na welsoch chi erioed fformiwla ariannu amgen, ac eto i gyd buom yn galw ers blynyddoedd am adolygiad sylfaenol ac am roi gwell ystyriaeth i nifer o feysydd penodol. Demograffeg: yn enwedig anghenion pobl hŷn, o ystyried y pryderon a godwyd gan y Sefydliad Iechyd o ran pwysau ar y gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol, a'r angen am gynnydd o 4 y cant mewn termau real bob blwyddyn yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion i ymdrin â hyn. Awdurdodau gwledig: eto, siomwyd ein hawdurdodau gwledig. Pam nad yw'r Llywodraeth Lafur yn barod i helpu ein hawdurdodau gwledig? Y nhw, unwaith eto, sydd wedi profi'r gwaethaf o'ch toriadau, gyda cholledion mewn termau real o 14.5 y cant i Gyngor Powys hyd yn oed cyn setliad arfaethedig heddiw. Dim ond yn rhannol y mae'r ffactor presennol o deneurwydd poblogaeth yn mynd i'r afael ag arwahanrwydd gwledig a hwylustra gwasanaethau. Felly, rydym ni, unwaith eto, yn galw am roi mwy o sylw i'r elfen hon yn y fformiwla hefyd.
Yn olaf, mae angen inni edrych ar sut mae awdurdodau lleol mewn gwirionedd yn rheoli eu cyllid. Ni allwn ddweud wrthyn nhw sut i gyllidebu, ond mae modd inni alluogi gwell craffu cyhoeddus a democrataidd ar wariant awdurdodau lleol ac ar y defnydd o gronfeydd wrth gefn. Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi galw am adolygiad ynghylch sut y gweithredir y canllawiau ar y cronfeydd sydd gan awdurdodau lleol wrth gefn. Yn siomedig iawn, gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Cymru. Mae ein trigolion yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda hynny o bosib yn 12.5 y cant yn Sir Benfro, a chynnydd mawr ledled Cymru, ac mae'r cronfeydd wrth gefn wedi codi 7 y cant ers 2012 ac yn cynrychioli 86 y cant o gyfanswm y cronfeydd wrth gefn sydd gyda'i gilydd yn fwy nag 1.4 biliwn. Ond mae anghysondeb amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, ac mewn gwirionedd rwy'n credu bod gennych chi rywfaint o gydymdeimlad â'm barn i ynglŷn â hynny.
Yn amlwg, Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gobeithio y byddwch chi nawr yn dod â rhywfaint o synnwyr i'r sefyllfa hurt hon. Mae gan Rondda Cynon Taf ar ei phen ei hun gronfeydd wrth gefn o bron £150 miliwn y gellid eu defnyddio. Mae cynnydd yn y dreth gyngor ar gyfer ein trigolion o 187 y cant ers i Lafur ddod i rym yng Nghymru yn dangos bod Llafur Cymru yn fwy na pharod i roi beichiau ar ysgwyddau ein deiliaid tai, lawer ohonynt ar incwm sefydlog, yn hytrach na chydbwyso eu cyllidebau eu hunain yma ym Mae Caerdydd.
Ers 2010 mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi bod yn gweithio mewn hinsawdd ariannol hynod o anodd o ganlyniad i bolisi dinistriol llymder y Torïaid. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau lleol wedi cael eu colli, a'r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymunedau sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Yn dilyn blynyddoedd o doriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yng Nghymru—toriad o 1.4 y cant yn 2016-17 a 3.4 y cant yn 2015-16—fel rhan o'r cytundeb ar gyfer y gyllideb flwyddyn ddiwethaf, mi wnaeth Plaid Cymru sicrhau £25 miliwn ychwanegol ar gyfer ariannu awdurdodau lleol. O ganlyniad i'r cytundeb yma, yn 2017-18, mi wnaeth nifer o awdurdodau lleol Cymru weld cynnydd ariannol yn eu cyllidebau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd. Ond er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol hynny, yn dilyn ffactorau eraill fel chwyddiant a phwysau sylweddol am fwy o wasanaethau ym maes gofal cymdeithasol, er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol, mi oedd y setliad hwnnw yn doriad mewn termau real i rai awdurdodau lleol.
A dyna'r gwirionedd ar gyfer y flwyddyn yma hefyd. Mae'r setliad terfynol yn cynnwys cynnydd a gostyngiadau yn y cyllid ar gyfer awdurdodau lleol gwahanol, gyda naw awdurdod yn wynebu toriad, ac 13 o awdurdodau yn gweld cynnydd o ryw fath mewn termau ariannol. Mae awdurdodau lleol wedi arbed dros £700 miliwn ers dechrau llymder yn 2010. Ond, mewn gwirionedd, nid ydy'r setliad yma dal ddim yn rhoi arian digonol i gynghorau ar gyfer nifer o flaenoriaethau'r Llywodraeth, gan gynnwys codiad cyflog i weithwyr cyhoeddus o fewn awdurdodau lleol, ac mae hyn yn golygu y bydd hi'n anoddach i gyflogi yn y sector gofal ac mewn gwasanaethau ar draws y bwrdd.
Felly, er bod y setliad yma yn llai niweidiol i awdurdodau na rhai blynyddoedd yn ôl, mae'n rhaid i'r Llywodraeth edrych i'r dyfodol a meddwl am adeiladu dycnwch, gwydnwch a system fwy cynaliadwy yn y ffordd y maen nhw’n ariannu llywodraeth leol. Er enghraifft, fe gyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf reoliadau cynlluniau gostyngiadau treth gyngor, sydd yn werth £244 miliwn bob blwyddyn. Mae cynlluniau gostyngiadau y dreth gyngor yn hanfodol bwysig i bobl fregus Cymru, wrth gwrs, ond drwy gyflwyno system decach o drethiant yn y lle cyntaf, hynny yw, gallwn fod mewn sefyllfa lle na fyddai angen cynllun gostyngiadau y dreth gyngor mor eang a phellgyrhaeddol ag sydd gennym ni ar hyn o bryd. Petasem ni'n gallu cyflwyno system decach o drethiant, byddem ni’n gallu bod yn arbed arian yn y maes yma. Gall hyn ryddhau mwy o arian a all gael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau rheng flaen o fewn ein cynghorau lleol ni.
Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi yn fan hyn bod y rhain yn wasanaethau hollbwysig ac rydym ni hefyd yn cydnabod y gwaith diflino sydd yn digwydd gan staff y cynghorau lleol. Rydym ni yn aml yn fan hyn yn brolio staff yr NHS, ac yn amlwg mae eisiau gwneud hynny, ond mae'n rhaid cydnabod hefyd fod gweithwyr yn y sector gofal ac mewn sectorau eraill hefyd o fewn ein cynghorau lleol ni hefyd yn gweithio dan gyfyngiadau parhaus, ac mae’r gwaith diflino maen nhw’n ei wneud i’w ganmol. Mae eu hymrwymiad nhw i’r gwasanaethau maen nhw’n ceisio eu cyflenwi i bobl Cymru yn cael ei werthfawrogi gennym ni i gyd. Mae gweld y pwysau cynyddol yma sydd ar y staff yn dorcalonnus, ond mae hefyd yn dorcalonnus o ystyried mai’r bobl fwyaf bregus o fewn ein cymdeithas ni sy’n ddibynnol ar y gwasanaethau yma, a nhw, yn y pen draw, sy’n cael eu heffeithio waethaf gan hyn i gyd.
Oes, mae eisiau rhoi terfyn ar lymder—wrth gwrs bod eisiau cael terfyn ar lymder erbyn hyn. Mae’n hollol amlwg nad ydy o’n gweithio, yn un peth, heblaw am yr holl effaith mae o’n ei gael ar ein cymunedau ni. Ond hefyd, mae angen i’r Llywodraeth yma gymryd cyfrifoldeb a derbyn cyfrifoldeb ar weithio ar ffyrdd newydd o greu systemau sydd yn gytbwys ac yn gynaliadwy i’r dyfodol. Diolch.
Rwy'n cytuno â Siân Gwenllian bod angen inni edrych ar ffyrdd newydd o ymdrin â'r gyllideb gyni y mae Llywodraeth y DU yn ei chyflwyno i ni, ond hoffwn i ganolbwyntio ar y problemau penodol y mae Caerdydd yn eu hwynebu o ganlyniad i'r ffordd y mae'r grant gwella addysg wedi'i lyncu i'r grant cynnal ardrethi cyffredinol.
Mae ein hawdurdodau lleol yn gorfod ymdopi â gostyngiad o 11 y cant yn y grant gwella addysg, ond yn fwy na hynny, mae'n destun pryder mawr i mi fod yr arian yr arferai'r awdurdod lleol hwn ac awdurdodau lleol eraill ei gael, er enghraifft, Abertawe a Chasnewydd, ar gyfer disgyblion teithwyr a lleiafrifoedd ethnig, wedi diflannu ar amrantiad. Mae hynny'n peri pryder mawr, oherwydd mae Caerdydd yn ganolfan wasgaru i ffoaduriaid. Felly yn amlwg, rydym yn falch iawn o dderbyn nifer sylweddol o blant sydd â dim Saesneg o gwbl pan maen nhw'n cyrraedd, ond yn amlwg mae angen inni sefydlu gwasanaethau i'w hintegreiddio i'n hysgolion prif ffrwd.
Felly, mae'r hyn oedd yn gynnydd bychan o 0.9 y cant yn y grant gwella addysg, o gofio bod gennym boblogaeth gynyddol o bobl ifanc yng Nghaerdydd, wedi troi yn ostyngiad bach yn y grant gwella addysg yn ei gyfanrwydd, o ystyried y cynnydd sydd gennym yn niferoedd y plant ysgol. Mae hynny'n gyfystyr â bwlch enfawr o £4 miliwn yng nghyllideb addysg Caerdydd, ac mewn un ysgol arbennig, yn Fitzalan yn etholaeth Mark Drakeford, collir £400,000. Mewn ysgolion eraill, bydd yn 6 y cant neu'n 7 y cant o gyfanswm eu grantiau ysgol. Felly, rwy'n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol roi rhywfaint o sicrwydd inni y bydd yr arian hwn ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny sydd mewn gwirionedd yn addysgu plant o leiafrifoedd ethnig, nid ar gyfer awdurdodau lleol lle ceir bron dim plant o leiafrifoedd ethnig a phlant teithwyr. Felly, byddwn yn falch o gael eglurhad am hynny.
Mike Hedges.
O, diolch, Llywydd. [Chwerthin.] Roedd hynny'n dipyn o syndod.
Dau o brif feysydd gwariant Llywodraeth Cymru yw iechyd a llywodraeth leol. Yr anfantais o roi arian ychwanegol ar gyfer iechyd, mae'n amlwg, yw llai o arian ar gyfer llywodraeth leol. Mae cyllid llywodraeth leol o dan bwysau. Mae cynghorau lleol wedi bod yn flaengar ac yn arloesol wrth ymdrin â thoriadau mewn termau real i'w cyllidebau, a chynghorau o dan arweiniad pob plaid wahanol yn hynny o beth: maen nhw wedi gorfod gweithio'n galed i ymdrin â sefyllfaoedd ariannol enbyd.
Er bod gostyngiadau mewn termau real yng Nghymru wedi bod yn sylweddol llai nag yn yr Alban a Lloegr, maen nhw wedi creu penderfyniadau anodd ar gyfer y cynghorau. Fel y dywedais dro ar ôl tro, mae gofal cymdeithasol dan fwy o bwysau nag iechyd o ran cyllid. Heb ofal cymdeithasol digonol, bydd gennym gleifion na ellir eu rhyddhau o ysbytai. Gwelwn hynny yn Lloegr, lle nodwyd, ar un adeg, fod gan un ysbyty fwy o gleifion yn aros i gael eu rhyddhau na Chymru gyfan. Hefyd, yn Lloegr, rydym wedi gweld cau llyfrgelloedd rif y gwlith. Mae'r system addysg yn Lloegr bellach yn dameidiog ac anhrefnus.
Rydym ni yng Nghymru wedi osgoi hyn. Yn y setliad dros dro, roedd Llywodraeth Cymru yn gwarantu na fyddai unrhyw awdurdod lleol yn gorfod ymdopi â gostyngiad o fwy nag 1 y cant. Mae'r setliad terfynol yn well ac yn sicrhau na fydd unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn gweld toriad o fwy na 0.5 y cant mewn termau arian parod, er, wrth gwrs, os yw hynny'n 0.5 y cant yn nhermau arian parod, bydd yn doriad mwy o lawer mewn termau real.
Mae'r setliad terfynol yn cynrychioli £28.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru o'i gymharu â'r setliad llywodraeth leol dros dro. Mae'n rhaid inni fod yn fodlon â hynny. Rydym yn symud i'r cyfeiriad cywir: mae £20 miliwn ohono ar gyfer defnydd cyffredinol a £7 miliwn yn ymrwymiad maniffesto i gynyddu'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl a chynyddu hynny i £40,000, gan ddechrau ym mis Ebrill 2018. Tybed faint o bobl fydd yn pleidleisio yn erbyn cynyddu'r terfyn ar gyfer codi tâl i £40,000. Trwy bleidleisio yn erbyn hyn, dyna fyddwch chi'n ei wneud mewn gwirionedd. Yna, byd £1.3 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol ei ddefnyddio yn ôl eu doethineb i roi cymorth penodol i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa o gael cefnogaeth ychwanegol.
Mater y bu fy AS lleol Carolyn Harris yn ymgyrchu yn ei gylch dros y rhan fwyaf o'r ddwy flynedd diwethaf yw claddu plant am ddim, ac mae £600,000 ar gael ar gyfer hynny, sydd wedi galluogi cynghorau i wneud hynny. Nid yw'n swm enfawr o arian, ond bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, ac ni fydd y bobl hynny sydd wedi cael y trallod ofnadwy o golli plentyn yn wynebu'r gost ariannol enfawr a ddaw law yn llaw â'r dagrau a'r loes o golli plentyn. Mae marwolaeth plentyn yn ddigon difrifol i deulu, ac yn rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn gobeithio, neu efallai hyd yn oed bob un ohonom yn gobeithio, na fydd byth yn digwydd i unrhyw un yr ydym ni'n eu hadnabod nac i unrhyw aelod o'n teulu. Pan fydd hynny wedi digwydd i rywun, mae'n rhoi pwysau ariannol arnyn nhw hefyd, rwy'n credu, yn—. Mae rhoi terfyn ar hynny yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn haeddu canmoliaeth yn ei gylch.
Gellir newid y fformiwla llywodraeth leol yn hawdd. Y cwbl sydd angen ichi ei wneud yw newid y ffigyrau canran. Ond heb arian ychwanegol, bydd pob awdurdod lleol sy'n cael mwy o arian yn golygu y bydd rhai awdurdodau lleol eraill yn cael llai o arian. Ac er bod angen o bosib i'r fformiwla—
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Sut allwch chi gyfiawnhau sefyllfa, er enghraifft, lle mae Sir y Fflint, yn y bedwaredd safle ar bymtheg, yn cael £368 yn llai y pen mewn refeniw llywodraeth leol na'r awdurdod sy'n cael ei gyllido orau? Mae Wrecsam yn y ddeunawfed safle. Mae Conwy yn bymthegfed, er mai ganddi hi y mae'r boblogaeth fwyaf o bobl hŷn yng Nghymru. Mae hyd yn oed Ynys Môn, y rhan dlotaf neu leiaf poblog o Gymru, yn unfed ar ddeg ar y rhestr. Mae hynny'n fformiwla anghynaladwy, onid yw?
Os yw Mark Isherwood yn gofyn, 'Allwn ni roi'r un faint yn union o gyllid y pen i bob awdurdod lleol?', ar ran Abertawe, rwy'n dweud, 'Gallwch, os gwelwch yn dda.' Ac rwy'n credu y byddai pobl yng Nghaerdydd yn gorfoleddu yn ei gylch, ond byddai problemau mewn rhannau eraill o Gymru lle byddai pobl yn llai hapus.
Mae'r fformiwla yn golygu ei fod yn seiliedig ar boblogaeth a demograffeg poblogaeth, gydag arian ychwanegol i ardaloedd gwasgaredig eu poblogaeth ac ardaloedd o amddifadedd. Un o'r problemau gyda rhai o'r awdurdodau lleol sydd wedi bod yn colli arian yw bod gostyngiad wedi bod yn eu poblogaeth, o'u cymharu â gweddill Cymru. Mae Caerdydd yn gwneud yn dda eleni gan fod ei phoblogaeth yn cynyddu o'i chymharu â gweddill Cymru. A'r holl bobl hynny sy'n dweud, 'Dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw adeiladu yn ein hardal ni; dydyn ni ddim eisiau gweld unrhyw ddatblygu', wel, rydych chi yn mynd i weld canlyniad hynny, sef na chewch chi gymaint o arian mewn dyraniadau llywodraeth leol.
A gaf i ddweud nad yw Caerdydd ac Abertawe yn cael ceiniog am y gwasanaethau rhanbarthol y maen nhw'n eu darparu? Bydd y setliad yn gadael awdurdodau lleol gyda phenderfyniadau anodd. A gaf i—? Terfynaf gyda dau gais. Mae un cais i Lywodraeth Cymru, sef: a all roi rhyddid i awdurdodau lleol bennu ffioedd eu hunain ar gyfer ceisiadau cynllunio? Mae hyn yn rhywbeth y penderfynir arno yn ganolog. Byddai rhai awdurdodau lleol yn awyddus i godi mwy, byddai rhai eisiau codi llai a rhai eisiau gwneud cynllunio yn faes lle mae cydbwysedd rhwng incwm a gwariant. Y cais arall yw hyn: a wnaiff pobl yn y Siambr roi'r gorau i gwyno pan fydd awdurdodau lleol yn gwneud y toriadau yr ydym ni'n eu gorfodi arnyn nhw wrth inni dorri ar eu gwariant mewn termau real, pan mae ganddyn nhw'r pwysau enfawr sydd ganddyn nhw ar eu cyllidebau, yn enwedig gofal cymdeithasol? Mae pobl yn mynd i bleidleisio yn erbyn y gyllideb heddiw, ond faint fydd yn pleidleisio yn erbyn y gyllideb oherwydd eu bod yn credu y dylai llywodraeth leol gael mwy o arian ac y dylai iechyd gael llai?
Yn lled ddiweddar, cafodd fy nghanolfan ieuenctid leol ei chau gan Gyngor Llafur Caerdydd. Felly, yn awr, os cerddwch o gwmpas fy ardal i, byddwch yn gweld —[Torri ar draws.] Mae rhai pobl ar fy llaw dde yn y grŵp Llafur mewn gwirionedd yn chwerthin ar y datganiad hwnnw, ac mae hynny'n gywilyddus. Os ydych yn dod —. Gwnaf ddatgan buddiant; rwy'n gynghorydd yng Nghyngor Caerdydd. Os cerddwch o amgylch fy nghymuned i, erbyn hyn byddwch yn gweld pobl ifanc ar y strydoedd. Ar adegau eraill, yn y gorffennol, byddent yn y ganolfan ieuenctid, a gafodd ei chau gan y Blaid Lafur.
Os cerddwch o amgylch canol y ddinas, byddwch yn gweld mwy a mwy o bobl ddigartref—mwy a mwy. Cyflwynodd y weinyddiaeth yr oeddwn yn ddirprwy arweinydd arni farsialiaid tacsis oherwydd y nifer o sefyllfaoedd ymfflamychol ac o wrthdaro treisgar sy'n deillio o anghydfodau dros safleoedd tacsis. Rydym yn clywed, yr wythnos hon, yn y ddinas hon yn awr, fod marsialiaid tacsi yn cael eu diddymu. Felly bydd canol y ddinas yn lle llai diogel, a bydd yn arbennig o anodd i bobl o wahanol alluoedd corfforol gael tacsi, ac maen nhw eisoes yn cael amser anodd iawn, iawn.
Caiff gwasanaethau eu gwasgu fwy a mwy, a beth sydd ar gael? Mwy o'r un peth. Mwy o'r un peth— flwyddyn ar ôl blwyddyn. Nid yw llywodraeth leol yn cael digon o barch, ac yn sicr nid yw'n cael digon o gyllid. Rwy'n gwrando ar y dadleuon hyn yn y Siambr hon. Rwy'n edrych ar sut y mae'r Llywodraeth yn gwario ei harian. Y llwybrau du, gwneud ymgynghorwyr yn gyfoethog, bron, gyda'r nifer a gyflogir. Mae, a bu, gwastraff y Llywodraeth hon yn enfawr. Ac eto, bydd y cynghorau'n dioddef.
Nid ydym yn dweud bod cynghorau yn gwbl ddi-fai chwaith. Os edrychwch ar nifer o'r cynghorau yng Nghymru, maen nhw'n talu cyflogau enfawr o dros £100,000 i swyddogion. Edrychwch ar gomisiynwyr yng Nghymru. Llesiant cenedlaethau'r dyfodol, er enghraifft. Mae'r adran gyfan honno yn gwario miliynau. Ar beth? Nid wyf yn credu bod unrhyw un yn gwybod mewn gwirionedd. Ac mae gan y Blaid Lafur ymgyrch fawr i drefnu contractau allanol—yn enwedig i elusennau preifat—a hithau'n gwrthod ariannu llywodraeth leol, gyda chynghorwyr sy'n atebol yn ddemocrataidd. Bob blwyddyn. Bob blwyddyn, mae'r Llywodraeth hon yn condemnio'r cynghorau ar hyd a lled Cymru, ac nid yw hynny'n iawn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi rhoi o'u hamser i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae bob amser yn bwysig ystyried sut yr ydym yn strwythuro cyllid ac yn ariannu llywodraeth leol, a hefyd y flaenoriaeth gymharol a roddir i lywodraeth leol yng nghyllideb Cymru yn ei chyfanrwydd.
A gaf i ddweud hyn yn unig? Mae mwy na dim ond parch a chyd-barch at lywodraeth leol yn Llywodraeth Cymru—ac, rwy'n credu, ar draws y Siambr, mewn gwirionedd—mae dymuniad ac awydd hefyd i gydweithio, i gyd-dynnu, i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth wirioneddol, nid un ffuantus. Roedd a wnelo cwestiwn Simon Thomas yn ystod fy sylwadau agoriadol i â maes y cawsom lwyddiant wrth gyflawni ein dyheadau. Buom yn llwyddiannus, nid oherwydd bod llywodraeth leol wedi llwyddo neu oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo, ond gan ein bod ni wedi llwyddo gyda'n gilydd ac wedi cydweithio. Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld heddiw ac yn y dyfodol.
A gaf i ddweud, Llywydd, rwyf yn gwrando, yn enwedig, ar lefarwyr Ceidwadol yn sôn am y fformiwla, ac yn sôn am ei gwendidau cymharol. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae Mike Hedges yn hollol gywir yn ei ddadansoddiad; gellir newid y fformiwla. Mae modd ei newid. Rwyf wedi clywed llawer o Aelodau Ceidwadol yma yn dadlau dros newid y fformiwla. Yr hyn na chlywais yw cynghorwyr Ceidwadol yn dadlau dros newid y fformiwla yn y fath fodd. Wyddoch chi, dywedaf wrth lefarydd y Ceidwadwyr, cawsom gyfarfod o'r is-grŵp cyllid ar 14 Rhagfyr, lle cawsom gyfarfod â llywodraeth leol i drafod y setliad hwn a'r fformiwla honno, ac nid oedden nhw'n cynnig newidiadau iddo. Rhof gyfle i'r Aelod nawr. Mae gennym gyfarfod yr wythnos nesaf. Os yw hi'n dymuno i'r Blaid Geidwadol gynnig newidiadau i'r fformiwla, mae gennych chi gyfarfod yr wythnos nesaf —dydd Mercher neu ddydd Iau rwy'n credu: cynigiwch chi'r newidiadau hynny. Gadewch inni weld beth fydd y newidiadau. Gadewch i ni weld beth ydych chi eisiau ei weld. Gadewch i ni weld sut y credwch chi y dylid dosbarthu'r cyllid. Ac yna gadewch i ni weld a allwch chi ganfod cynghorydd Ceidwadol i'w gynnig. Oherwydd pan rwy'n siarad â chynghorwyr Ceidwadol, yr hyn nad ydyn nhw'n sôn amdano yw newid y fformiwla. Maen nhw'n dweud eu bod nhw'n ddiolchgar iawn nad yw eu cynghorwyr yng Nghymru yn gynghorwyr yn Lloegr, lle maen nhw wedi gweld eu Llywodraeth eu hunain nid yn unig yn diystyru llywodraeth leol yn ddirmygus, ond yn mynd ati i ddatgymalu llywodraeth leol yn llwyr. [Torri ar draws.] Ildiaf i arweinydd yr wrthblaid os yw'n dymuno imi wneud hynny. Ildiaf i arweinydd yr wrthblaid.
A ydych chi'n sefyll yn y fan yna ac yn teimlo cywilydd am y cynnydd mwyaf erioed yn y dreth gyngor a fu ers dechrau datganoli yma yng Nghymru, a'r cymorth pitw yr ydych chi wedi ei roi, i awdurdodau gwledig yn enwedig, i fodloni'r gofynion yr ydych chi wedi eu rhoi arnyn nhw o ran gwasanaethau ychwanegol?
Edrychaf ymlaen at dderbyn llythyr arweinydd yr wrthblaid yr wythnos hon neu'r wythnos nesaf gyda'r newidiadau y mae'n eu cynnig i'r fformiwla. [Torri ar draws.] Fe'i rhoddaf yn y llyfrgell, gyda'i ganiatâd. Ond rhoddais gyfle iddo i amddiffyn llywodraeth leol ac i ddweud pa mor bwysig yw llywodraeth leol. Yr hyn a wnaeth oedd ymosod ar benderfyniadau llywodraeth leol ac ymosod ar benderfyniadau cynghorwyr etholedig lleol.
Roedd un o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges yn ei gyfraniad ynglŷn â'r anawsterau sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth geisio cydbwyso'r gyllideb a darparu gwasanaethau a rhagoriaeth. Gadewch imi ddweud hyn: Cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau a wnaeth yn y cyfraniad hwnnw. Mae bod yn gynghorydd lleol ac yn arweinydd awdurdod lleol heddiw yw un o'r swyddi caletaf ac anoddaf o ran llywodraethu yng Nghymru, a dylem fod yn ddiolchgar i arweinwyr llywodraeth leol am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ac nid yn eu collfarnu, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, am y penderfyniadau a wnânt.
Mae gennym ni hanes rhagorol o gefnogi llywodraeth leol yng Nghymru a, Llywydd, rwy'n gobeithio, ac yn ffyddiog, y bydd hynny'n parhau. Rydym yn gwybod, ers 2010-11, yn Lloegr, mewn termau real, torrwyd ar lywodraeth leol 22 y cant. Yn nhermau arian parod, mae llywodraeth leol yn Lloegr wedi gweld toriadau o 12 y cant. Yn nhermau arian parod, dros yr un cyfnod, rydym ni wedi gweld cynnydd o 4.4 y cant yng Nghymru. Gwyddom fod gwariant y pen yng Nghymru £527 y pen yn fwy nag yn Lloegr. Gwyddom ein bod yn buddsoddi mewn llywodraeth leol, a gwyddom ein bod yn ceisio amddiffyn llywodraeth leol.
Ond mae'r pwyntiau a wnaeth Siân Gwenllian yn hollol gywir. Mae'n argyfwng o ran cyllid cyhoeddus yn y wlad hon. Caiff ei achosi gan brosiect cyni methedig a sefydlwyd er mwyn talu'r diffyg, ond mae wedi dyblu'r diffyg. Fe'i sefydlwyd er mwyn talu'r ddyled. Ni lwyddodd i wneud hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw arwain at chwalu llywodraeth leol yn Lloegr ac at leihau'r gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddwn i byth yn falch ohono.
Gadewch imi ddweud hyn wrth yr Aelodau eraill a gymerodd ran yn y ddadl: roedd yn briodol iawn i Jenny Rathbone, rwy'n credu, wneud y sylwadau a wnaeth. Rwy'n dweud wrth Jenny: soniodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, am y materion hyn wrthyf i yr wythnos diwethaf, ac rwyf hefyd yn ymwybodol bod arweinydd Abertawe wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymateb i arweinydd Abertawe, ac rydym ni wedi gofyn i'n swyddogion weithio gydag arweinwyr y cynghorau yr ydych chi wedi eu henwi, ond hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i geisio datrys y materion y soniasoch chi amdanynt. Mae'n hollol deg ac yn gywir ac yn briodol ein bod ni'n crybwyll y materion hynny.
Ond a gaf i ddweud hyn wrth gloi, Llywydd: y peth hawsaf yn y byd yw dod i'r Siambr hon a thraddodi araith. Gallwch gollfarnu penderfyniadau'r Llywodraeth hon neu gollfarnu penderfyniadau llywodraeth leol, ac mae amryw o bobl wedi achub ar y cyfle i wneud hynny y prynhawn yma. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae hon yn Llywodraeth sy'n parchu llywodraeth leol. Mae'n Llywodraeth sy'n awyddus i weithio gyda llywodraeth leol. Mae'n Llywodraeth a fydd yn ceisio amddiffyn llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus. Dyna beth yr ydym ni'n ei wneud y prynhawn yma, a gofynnaf i'r Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon gefnogi'r Llywodraeth i wneud hynny heddiw. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.