3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 31 Ionawr 2018.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd ddydd Llun? 123
Diolch, Llywydd. Rydym wedi cyhoeddi dadansoddiadau ar effaith gyffredinol gadael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd mewn meysydd megis buddsoddi ranbarthol a mudo. Bydd ein papur masnach yn cael ei gyhoeddi yn fuan, wedi ei seilio gan ddadansoddiadau annibynnol. Nid ydym wedi gweld dogfen Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi ei ddatgelu'n answyddogol. Rydym yn galw ar yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd i gyhoeddi ei dadansoddiad.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e'n ymwybodol, o leiaf, o adroddiadau'r wasg, bod y dadansoddiad yma yn edrych ar dair sefyllfa: sefyllfa aros yn y farchnad sengl i bob pwrpas, sefyllfa o adael o dan reolau'r World Trade Organization, a sefyllfa o ryw fath o gytundeb masnach rydd o'r fath y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn sôn amdano.
Mae'r dair sefyllfa yn edrych dros 15 mlynedd, ac, ym mhob un sefyllfa, mae yna ddirywiad a gostyngiad yn y twf dros y 15 mlynedd, yn amrywio o 2 y cant o dan y farchnad sengl i 8 y cant o dan WTO. Mae'r effaith yn ei dro ar Gymru yn mynd i fod yn andwyol iawn, gan ein bod ni yn fwy exposed o lawer i rai agweddau, yn enwedig o dan reolau WTO, er enghraifft, y sector cig coch, gweithgynhyrchu, ceir ac ati, Airbus—jest fel enghraifft o beth all ddigwydd fan hyn. Felly, a gaf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet beth mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud nawr i gael gafael ar y dadansoddiad yma?
Rwy'n deall bod San Steffan heddiw wedi cytuno ryw ffordd i rannu'r papurau yma gyda Aelodau Seneddol mewn ystafell gaeedig. Nid ydw i'n meddwl bod hynny'n hen ddigon da o gwbl. Mae angen i ni hefyd fan hyn weld y dadansoddiad yma. Rŷm ni yn cynrychioli buddiannau Cymru gymaint ag os nad yn fwy nag Aelodau Seneddol o Gymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru weld y dadansoddiad yma; rydw i am i Lywodraeth Cymru ofyn yn benodol am hynny. Ac, wrth gwrs, gan fod Llywodraeth yr Alban, a Maer Llundain ei hunan, wedi comisiynu'n annibynnol adroddiadau ac asesiadau ar effaith economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd, pam na wnewch chi ddim gwneud hynny, a chyhoeddi hynny yn ogystal?
Mae'n hen bryd i ni sylweddoli beth yw gwir gost gadael yr Undeb Ewropeaidd. Oes, mae yna benderfyniad i adael y sefyllfa wleidyddol, ond mae gadael y farchnad sengl a'r undeb dollau yn mynd i dalu yn ddrud iawn i economi Cymru.
Wel, cytunaf yn llwyr gyda'r Aelod y dylai'r wybodaeth sydd yn nwylo Llywodraeth y DU fod ar gael i'r cyhoedd, dylid sicrhau ei bod ar gael yn rhwydd i'r cyhoedd, nid fel y dywedodd Anna Soubry, AS Ceidwadol, yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, yn y ffordd chwerthinllyd y mae Llywodraeth y DU bellach i'w gweld yn barod i ryddhau'r wybodaeth hon i Aelodau Tŷ'r Cyffredin mewn ystafell wedi'i chloi, er y gall aelodau o'r cyhoedd ddarllen y rhan fwyaf ohoni ar y rhyngrwyd unrhyw bryd y byddant yn mynd i edrych. Fe'i disgrifiodd fel achos o ryw fath o wallgofrwydd cyfunol yn y Llywodraeth. A dyna'n union yw ein galwad ar Lywodraeth y DU, sef lle y ceir gwybodaeth a fydd yn helpu i alluogi pobl i benderfynu drostynt eu hunain ynglŷn â'r mater pwysig hwn, fod rhwymedigaeth arnynt—y wybodaeth hon y maent wedi'i chomisiynu—i sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i eraill. O ran Llywodraeth Cymru, fel mater o drefn rydym yn cyhoeddi'r wybodaeth a gomisiynwn. Yn y papur ar y cyd a gyhoeddwyd gennym ni a Phlaid Cymru flwyddyn yn ôl, gwnaethom gynnwys yn y ddogfen honno ddadansoddiad gan y prif economegydd ac eraill o gyflwr y wybodaeth ar y pryd. O fewn yr ychydig ddyddiau nesaf, bwriadwn gyhoeddi'r dadansoddiad a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd o effaith Brexit ar gwmnïau mawr yma yng Nghymru, fel rydym eisoes wedi addo i wahanol bwyllgorau Cynulliad. Wrth inni gael gwybodaeth, ac wrth inni gyhoeddi dogfennau, rydym bob amser yn cyhoeddi'r dadansoddiad annibynnol a ddefnyddiwn i ddod i'r casgliadau a wnawn, fel bod y wybodaeth honno ar gael i bobl a fyddai'n dymuno dod i gasgliadau gwahanol.
Ysgrifennydd y Cabinet, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddigwyddiad ymgynghori adeiladol iawn a llawn gwybodaeth gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid yma yn Nhŷ Hywel ar berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol. Fel pwyllgor, mae angen inni fod yn gwbl ymwybodol o'r holl gynllunio senarios a dadansoddiadau ar gyfer y dyfodol i ymateb i randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chawsant eu cynrychioli'n llawn ddydd Llun. Felly, buaswn hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi'n llawn y ddogfen a ddatgelwyd yn answyddogol ar effaith Prydain yn gadael yr UE, sy'n rhagweld y byddai twf economaidd yn llai o dan amrywiaeth o senarios posibl. Felly, hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am egluro, mewn ymateb i Simon Thomas, ei ddull o gynllunio senarios a'r papurau rydych wedi'u cyhoeddi eisoes a'r ffaith eich bod yn cyhoeddi—mae hyn ar y gweill—y papur masnach a phapurau eraill, ac yn cytuno, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, ei bod hi'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn yn cael y wybodaeth lawn ar gyfer craffu ar ddull Llywodraeth y DU o weithredu ar Brexit. Ddydd Llun, bydd aelodau ein pwyllgor yn ymweld â Toyota yng ngogledd Cymru ac Aston Martin yn fy etholaeth. Onid ydych yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol cael y dadansoddiad hwn i'n cynorthwyo yn ein hymweliadau?
Wel, rwy'n sicr yn cytuno. Wrth gwrs y byddai'n ddefnyddiol i'r pwyllgor gael y wybodaeth honno. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o ddarllen adroddiadau papur newydd am y gwaith a gomisiynodd Llywodraeth y DU, mae'n cynnwys rhyw elfen o ddadansoddiad rhanbarthol. Felly, byddai hynny'n ddefnyddiol dros ben i'r pwyllgor o ran gwybod lle mae'r senarios gwahanol a gwmpesir yn y gwaith hwnnw yn rhagweld effaith y tri llwybr gwahanol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Gymru yn benodol. Ac mae'n synhwyrol i Lywodraeth y DU gynllunio senarios yn y modd hwn, ond nid yw cynllunio senarios yn y dirgel yn help o gwbl i'r gweddill ohonom, a bydd darparu gwybodaeth yn y ffordd y mae Jane Hutt wedi awgrymu yn ddefnyddiol i bwyllgorau yma ac i fusnesau ac i ddinasyddion cyffredin sydd eisiau deall effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu bywydau eu hunain.
Fe fyddwch yn gwybod, fel Gweinidog y Llywodraeth, fod yn rhaid i chi gael rhyddid i ofyn i'ch swyddogion wneud gwaith cynllunio heb orwelion, gan gynnwys yr holl opsiynau, ynghyd â rhai a fydd yn eich brawychu efallai, fel y gall y Llywodraeth benderfynu yn breifat beth i'w flaenoriaethu, ei gyflwyno, ei gynnig a'i wneud yn gyhoeddus. Edrychodd drafft cynnar o ddadansoddiad parhaus i gefnogi paratoadau a negodiadau Brexit Llywodraeth y DU ar drefniadau parod gwahanol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ogystal ag amcangyfrifon allanol eraill. Ni wnaeth nodi na mesur manylion y canlyniadau a ddymunir, sef partneriaeth newydd ddofn ac arbennig gyda'r UE yn ôl yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud, na rhagweld casgliadau'r negodiadau. Roedd hefyd yn cynnwys nifer o gafeatau ac roedd yn hynod ddibynnol ar nifer o ragdybiaethau lle roedd angen llawer mwy o waith er mwyn gwneud defnydd o'r dadansoddiad hwn a llunio casgliadau. Mewn gwirionedd felly, roedd y dadansoddiad hwn a ddatgelwyd yn answyddogol o dair senario yn anghyflawn. Fel Gweinidog yn y Llywodraeth, felly, sut rydych yn ymateb i'r ddyletswydd glir sydd gan Weinidogion y Llywodraeth i beidio â chyhoeddi unrhyw beth a allai greu risg o amlygu safbwyntiau negodi hyd nes y byddant wedi penderfynu beth yw eu safbwyntiau negodi ac wedi cyrraedd y cam lle na fyddai gwybodaeth o'r fath yn eu rhoi dan anfantais pan fyddant yn dod o amgylch y bwrdd gyda phartïon eraill?
Nid oes gennyf wrthwynebiad o gwbl i Weinidogion y DU gomisiynu dadansoddiad sy'n edrych ar amrywiaeth o senarios, pa un bynnag o'r senarios hynny y maent yn credu y gallai fod yn ddefnyddiol. Mae'n beth synhwyrol iddynt ei wneud. Ond mae arnaf ofn fod Mr Isherwood yn darllen cylchlythyr ddoe o'r swyddfa ganolog ac nid un heddiw, oherwydd heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i wneud hyn i gyd yn gyhoeddus. Felly, mae arnaf ofn fod yr holl bethau yr oedd yn bryderus amdanynt, a'r pethau roedd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn bryderus amdanynt ddoe, wedi diflannu heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin.
Os oes gan Lywodraethau bryderon fod dogfennau y maent yn eu rhyddhau'n gyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth a allai fod yn niweidiol i les y cyhoedd, yna gallant olygu'r rhannau o'r wybodaeth a fyddai'n cael yr effaith honno wrth gwrs. Nid yw'n esgus dros fethu sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd sy'n caniatáu i ddadl gyhoeddus briodol am y mater pwysicaf a wynebwn yn ystod oes y Cynulliad hwn a thu hwnt gael ei chynnal ar sail y dadansoddiad a'r wybodaeth ehangaf posibl.
Rwy'n cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod tryloywder yn beth da ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid cyhoeddi astudiaethau o'r fath, oherwydd wedyn gallwn ddod i'n casgliadau ein hunain, fel y mae'n dweud. Ond a fyddai'n cytuno â mi fod ymgais i ragweld sut olwg fydd ar y byd ymhen 15 mlynedd, yn enwedig pan ddaw'r rhagfynegiadau hynny gan economegwyr, yn debygol o fod o fawr mwy o werth na dyn hysbys yn archwilio ymysgaroedd iâr? Pe bai astudiaeth o'r fath wedi'i chynnal yn 1990, ni fyddai neb wedi nodi bodolaeth Google, Amazon neu Facebook. Dyna dri o'r cwmnïau mwyaf yn y byd bellach.
Yr hyn y dylem ei wneud, efallai, yw edrych ar ragolygon y bobl sydd wrth wraidd hyn. Roedd rhagolygwyr y Trysorlys, yn union ar ôl y refferendwm, yn rhagweld y byddai'r economi, dros y tri mis canlynol, yn crebachu 1 y cant; yn wir, fe dyfodd 0.5 y cant. Roeddent hefyd yn rhagweld y byddai twf negyddol yn y pedwar chwarter canlynol. Yn wir, rydym wedi cael twf ym mhob chwarter ers mis Mehefin 2016. Roeddent hefyd yn rhagweld, ddwy flynedd ar ôl y refferendwm, y byddai cynnyrch domestig gros yn gostwng -3 y cant i -6 y cant. Mewn gwirionedd, yn 2016, tyfodd yr economi 1.9 y cant, ac yn 2017, tyfodd 1.8 y cant. Roedd hefyd yn rhagweld y byddai diweithdra'n cynyddu rhwng 500,000 a 800,000. Mewn gwirionedd, mae diweithdra bellach ar ei isaf ers dechrau'r 1970au. Rhagwelai hefyd y byddai benthyca'n cynyddu bron £40 biliwn; mewn gwirionedd, mae lefelau benthyca'r Llywodraeth wedi gostwng 12 y cant ac mae bellach yn is nag y bu ers 2007. Felly, buaswn yn cynghori Ysgrifennydd y Cabinet i beidio â threulio gormod o amser yn archwilio'r darn penodol hwn o nonsens.
Wrth gwrs, po bellaf yr awn mewn amser oddi wrth heddiw, y mwyaf anfanwl fydd ymdrechion o'r fath i ragweld y dyfodol. Fodd bynnag, pe bai'r iâr benodol hon wedi bod yn awgrymu y byddai economi'r DU yn tyfu 8 y cant o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n siŵr y byddai'r Aelod wedi bod yn llawer mwy caredig ei agwedd tuag ati.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.