– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 7 Mawrth 2018.
Datganiad nawr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ac rydw i yn galw ar y Cadeirydd i wneud ei datganiad—Jayne Bryant.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gwybod, ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd y Llywydd, arweinwyr grwpiau'r pleidiau a minnau, fel Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, ddatganiad ar y cyd. Rydym wedi nodi ymrwymiad i sicrhau nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac awydd i roi sicrwydd i bawb sy'n gweithio yma, a'r rhai sy'n ymweld â ni, y byddant yn rhydd rhag unrhyw fath o aflonyddu. Boed yma yn y Senedd, mewn swyddfa etholaeth, neu allan yn y gymuned, dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu trin â pharch wrth iddynt ddod i gysylltiad â chynrychiolwyr y sefydliad hwn.
Roedd y datganiad ar y cyd yn nodi nifer o gamau gweithredu a fwriadwyd i sicrhau bod y Cynulliad yn sefydliad cynhwysol, sy'n rhydd rhag bygythiadau ac aflonyddu. Roedd y camau hyn yn cynnwys datblygu polisi urddas a pharch, sefydlu gwasanaeth atgyfeirio cwynion cyfrinachol, a sicrhau bod y weithdrefn gwyno'n glir ac yn gyson. Mae gwaith yn mynd rhagddo, a disgwylir y bydd polisi urddas a pharch yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad fis nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i gynnal ymchwiliad mwy eang i'r broses o sicrhau'r diwylliant cywir yn y Cynulliad. Rydym yn credu bod yn rhaid i'r Cynulliad osod esiampl a darparu arweinyddiaeth gref a chlir ar y math o ddiwylliant yr hoffem ei weld yn y gweithle yng Nghymru. Rydym yn ystyried gweithdrefnau cyfredol mewn perthynas â chwynion sy'n ymwneud ag Aelodau Cynulliad i sicrhau eu bod yn briodol ac yn glir. Mae'n rhaid i unigolion deimlo eu bod yn gallu siarad yn hyderus am unrhyw bryder mewn perthynas ag ymddygiad amhriodol.
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad agored, gyda'r nod o ddarganfod a yw'r weithdrefn gwyno gyfredol yn hawdd ei deall ac yn hygyrch, ac a oes unrhyw rwystrau sy'n atal pobl rhag mynegi pryderon am ymddygiad unrhyw un sy'n gysylltiedig â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod yr ymgynghoriad bellach wedi dod i ben yn ffurfiol, rydym bob amser yn annog pobl i gynnig awgrymiadau mewn perthynas â sut y gellir gwella'r broses neu i fynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Ar hyn o bryd, rydym yn cymryd tystiolaeth gan grwpiau ac unigolion sydd wedi cytuno i siarad â'r pwyllgor am eu profiadau. A hoffwn gofnodi fy niolch i'r rhai sydd wedi cynnig eu safbwyntiau i'r pwyllgor dros y misoedd diwethaf. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r rheini sydd wedi cytuno i siarad â ni. Heb ddeall profiadau pobl eraill, mae'n anodd iawn adnabod yr heriau o fewn y Cynulliad a chanfod sut yn union y gellir gwella'r diwylliant. Fel pwyllgor, rydym yn benderfynol o weld y safbwyntiau hyn yn cael eu parchu ac yn cael eu hadlewyrchu yn y cyfnod adrodd.
Wrth inni barhau i gynnal ein hymchwiliad, un o'r negeseuon rydym wedi eu clywed hyd yn hyn yw y byddai gwell cyfathrebu ac eglurder ynghylch y weithdrefn gwyno yn helpu i gynyddu hyder yn y system. Gan adeiladu ar y darpariaethau sydd eisoes yn bodoli yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad, bydd y polisi urddas a pharch newydd yn helpu i'w gwneud yn gwbl glir nad oes lle i unrhyw ymddygiad amhriodol yn y Cynulliad hwn. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at ymddygiad amhriodol. Mae sicrhau nad ydym yn sefyll o'r neilltu ac yn gadael i bethau ddigwydd yn gyfrifoldeb i bawb ohonom.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ailbwysleisio bod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gomisiynydd safonau cwbl annibynnol, sy'n archwilio unrhyw bryder neu gŵyn a gaiff eu dwyn i'w sylw yn gwbl ddiduedd. Gellir cysylltu ag ef dros y ffôn, neu drwy anfon e-bost neu lythyr a bydd bob amser yn ceisio helpu, naill ai drwy ymdrin yn uniongyrchol â phryderon neu gyfeirio pobl i'r cyfeiriad cywir. Sefydlwyd llinell gymorth i rai sy'n ansicr ai'r comisiynydd yw'r llwybr mwyaf priodol ar gyfer cwyno. Mae'r rhif ffôn ar wefan y Cynulliad ac ar bosteri o amgylch yr ystâd. Os bydd Aelodau a staff eisiau trafod unrhyw fater yn ymwneud â'r weithdrefn gwyno gyda'r comisiynydd, bydd ar gael yn y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf. Yn ychwanegol at y comisiynydd, mae aelodau o'r pwyllgor safonau hefyd ar gael i drafod unrhyw bryderon a allai fod gennych mewn perthynas â'r weithdrefn gwyno, a bydd aelod o'r pwyllgor hefyd ar gael yn ystod y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf.
Mae angen llawer iawn o ymrwymiad, amser a dyfalbarhad i sicrhau newid diwylliannol ystyrlon. Heddiw, rwyf wedi nodi camau cyntaf y broses, gan sicrhau bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflawni ei nod o fod yn sefydliad sy'n galluogi ac yn grymuso pobl. Rwy'n hyderus fod pawb ohonom yma yn Siambr yn rhannu'r nod hwn ac y bydd pawb yn barod i chwarae eu rhan i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni. Diolch.
Fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae'n gwbl hanfodol fod y Cynulliad yn hyrwyddo diwylliant o urddas a pharch ar gyfer ei holl Aelodau a'i staff fel bod unrhyw un sydd eisiau gwneud cwyn yn erbyn person arall yn cael cyfle i'w ddatgan mewn amgylchedd saff a diogel. Felly, rwy'n falch o fod yn aelod o'r pwyllgor safonau ar gyfer yr ymchwiliad hwn ac o gael gweithio gydag Aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol i weithredu system sy'n gweithio i bawb sy'n gysylltiedig â'r Cynulliad.
Mae'n eithaf amlwg o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymgynghoriad fod pobl yn teimlo bod angen gwella'r system gyfredol a bod angen i'r Cynulliad newid y ffordd y mae'n ymdrin â chwynion a honiadau yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'r pwyllgor yn ymwybodol o'r gwaith sy'n cael ei wneud gan weithgor seneddol y DU ar y mater hwn, ac felly fy nghwestiwn cyntaf i'r Cadeirydd yw a yw hi'n cytuno â mi, er y gallwn edrych ar waith Seneddau eraill, ei bod yn hanfodol ein bod yn datblygu system bwrpasol ar gyfer y Cynulliad ac sy'n ymateb i'w anghenion yn hytrach na'i fod yn gopi carbon o'r camau a gymerwyd gan ddeddfwrfeydd eraill.
Wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw system newydd hefyd sefyll ochr yn ochr â phrosesau pleidiau gwleidyddol ac mae'n rhaid i'r systemau hynny ategu ei gilydd heb wrthdaro, ac mae'n amlwg yn y dystiolaeth rydym eisoes wedi'i chlywed fod hwn yn destun pryder penodol i rai rhanddeiliaid. Felly, efallai y gall y Cadeirydd ddweud wrthym a yw'n bwriadu i ni, fel pwyllgor, ymgysylltu â chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol, naill ai drwy sesiynau tystiolaeth neu drwy ohebiaeth ysgrifenedig, er mwyn canfod eu barn ar sut y gall unrhyw system newydd weithio gyda'u prosesau cwyno cyfredol yn y pleidiau.
Mae'r dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi'i chael yn dangos bod angen gweithredu newid diwylliannol llwyr yn y Cynulliad. Efallai fod lle yma i ymestyn y meddylfryd hwn drwy ddarparu hyfforddiant i aelodau o staff i'w helpu i ddeall yn well ac atal aflonyddu rhag digwydd yn y gweithle. Roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn iawn i ddweud bod trafodaeth barhaus yn y gweithle yn un o'r camau y gellir eu cymryd i atal aflonyddu ac felly mae'n rhaid i unrhyw system newydd fod yn hyblyg a chael ei monitro'n gyson i sicrhau ei heffeithiolrwydd parhaus. Felly, credaf fod cyfle yma i'r Cynulliad edrych ar fodiwlau hyfforddiant ar gyfer aelodau a staff yn y maes hwn, ac rwy'n meddwl tybed a fyddai'r Cadeirydd yn cytuno â mi fod hyn yn rhywbeth y gellid ei weithredu hefyd yn ogystal â'i gyflwyno yn rhan o unrhyw brosesau ymsefydlu ar gyfer aelodau a staff, yn ogystal â darparu cyfathrebiad parhaus mewn perthynas ag unrhyw bolisïau aflonyddu newydd.
Yn naturiol, mae'n rhaid i anhysbysrwydd fod yn ganolog i unrhyw system newydd er mwyn diogelu pob unigolyn ac felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Cadeirydd rannu ei syniadau cychwynnol ar y ffordd y gellir diogelu'r anhysbysrwydd hwnnw mewn gwirionedd.
Yn anffodus, rydym bellach yn byw mewn byd sy'n cael ei ddylanwadu gan y cyfryngau cymdeithasol. Mae'r Aelodau'n ymwybodol iawn o achosion o unigolion yn cael eu cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn wir, mae'r pwyllgor eisoes wedi clywed sut y mae aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol yn prysur ddatblygu i fod yn norm, ac felly mae'n rhaid i unrhyw ddull newydd neu system newydd gynnwys ymdrin ag ymddygiad amhriodol ar-lein hefyd. Rwy'n siŵr y byddai'r Cadeirydd yn cytuno bod maint y broblem yn frawychus ac felly buaswn yn ddiolchgar pe gallai rannu ei syniadau cychwynnol ar sut y gallwn ni, fel pwyllgor, ddechrau mynd i'r afael ag ymddygiad amhriodol ar-lein.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn grybwyll yn fyr y modd y caiff polisïau a gweithdrefnau newydd eu monitro ac annog y Cadeirydd i sicrhau bod hyn yn cael ei ystyried yn llawn drwy gydol yr ymchwiliad. Yn fy marn i, nid yw unrhyw system newydd ond cystal â'r modd y'i gorfodir, ac felly mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau cadernid polisïau newydd drwy eu monitro'n effeithiol, ac felly efallai y gallai'r Cadeirydd hefyd rannu ei barn ar sut y gellid monitro unrhyw system newydd yn dyfodol. Felly, i gloi, Lywydd, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei datganiad y prynhawn yma? Ac rwy'n cytuno â hi fod angen ymrwymiad, amser a dyfalbarhad i sicrhau newid diwylliannol ystyrlon. Ni allaf danbrisio pwysigrwydd yr ymchwiliad hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Cadeirydd ac aelodau eraill yr ymchwiliad er mwyn helpu i ddarparu system sy'n meithrin gweithle llawer mwy cynhwysol, lle nad yw pobl yn gyndyn i adrodd cwynion a lle y caiff yr holl unigolion sydd ynghlwm wrthi eu diogelu drwy gydol y broses ymchwilio. Diolch.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am y sylwadau rydych wedi'u gwneud. Gwn fy mod yn lwcus i fod yn Gadeirydd ar bwyllgor sydd wedi ymgymryd â darn o waith ac sydd yr un mor awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud rhywbeth i sicrhau bod gennym y diwylliant cywir, nid ar hyn o bryd yn unig, ond yn y dyfodol. Rydych wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn, Paul.
Mewn perthynas â'ch pwynt cyntaf ynglŷn ag edrych ar sefydliadau eraill, credaf ein bod yn ymwybodol iawn o'r hyn sydd wedi digwydd yn Llywodraeth San Steffan a'u cynlluniau newydd. Credaf ei bod yn bwysig edrych ar bethau sy'n debyg a dysgu gan sefydliadau eraill yn ogystal â mudiadau, ond rwy'n cytuno ei bod yn bwysig inni gael system bwrpasol. Mae pob un ohonom yn dod o adegau gwahanol, ac yn meddu ar safbwyntiau gwahanol a materion gwahanol, ond lle y ceir pethau sy'n debyg, credaf ei bod yn bwysig edrych ar y rheini; ond dylem fod yn edrych i weld beth sydd gennym yma yng Nghymru a sut y gallwn ddatblygu o ddifrif i fod yn arweinwyr a goleuo'r llwybr i'r dyfodol, er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y diwylliant cywir a bod pobl nid yn unig eisiau gweithio yma, ond eu bod eisiau bod yn Aelodau yma hefyd.
Mae'r comisiynydd hefyd yn bwriadu gwneud gwaith gyda'r pleidiau gwleidyddol, felly gwaith y tu allan i'r pwyllgor safonau fydd hwnnw. Gwn fod y comisiynydd wedi bod yn siarad â phleidiau eraill. Nid wyf yn siŵr a yw pob un wedi'i gwblhau eto. Credaf fod ganddo un neu ddwy blaid ar ôl i ymdrin â hwy efallai, ond gwn fod y gwaith hwnnw ar y gweill. Oherwydd mae'n bwysig ein bod yn edrych ar yr holl brosesau a gweithdrefnau sydd ar y gweill fel nad ydym yn dyblygu. Gwn fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ei wneud.
Nid oes unrhyw aelod o staff yn disgwyl y byddant yn gwneud cwyn am Aelod Cynulliad pan fyddant yn cychwyn y swydd. Nid oes neb mewn unrhyw swydd yn disgwyl gwneud cwyn o'r fath. Mewn gwirionedd, gofynnais i fy staff a oeddynt yn gwybod sut i wneud cwyn yn fy erbyn yn y dyfodol, a dywedasant wrthyf pa liw oedd y daflen a gawsant ar eu diwrnod ymsefydlu ond nid oeddynt yn gallu cael gafael arni. Felly, rwy'n credu bod cael proses ymsefydlu yn bwysig iawn ynghyd â gwneud yn siŵr bod y staff yn ymwybodol ac yn deall sut y gallant wneud cwyn yn y dyfodol, ond credaf fod angen i hynny fod yn barhaus yn ogystal. Mae angen iddo fod yn glir iawn ar y wefan. Mae gennym y posteri i fyny bellach gyda'r rhif ffôn a cheir cyfeiriad e-bost penodol yn ogystal. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwybod i bobl drwy'r amser sut y gallant wneud cwyn os ydynt angen gwneud hynny, yn hytrach nag ar y dechrau'n unig. Ond rydych yn llygad eich lle; dylem fod yn edrych ar atal, mewn gwirionedd. Fel y dywedwch, mae hyn yn rhywbeth a oedd i'w weld yn amlwg yn ein tystiolaeth yr wythnos diwethaf. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych i weld sut y gallwn wneud yn siŵr nad oes unrhyw ymddygiad amhriodol yn digwydd. Mae angen i ni weithio tuag at y nod hwnnw, yn hytrach na sut yr awn i'r afael ag ymddygiad o'r fath.
Fe sonioch chi am gam-drin ar-lein. Rwyf wedi bod yn bryderus iawn am hynny fy hun. Rwy'n ei weld yn rheolaidd ar Twitter ac ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook a'r holl bethau eraill hyn. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono, ac edrych arno, a sut y mae pawb ohonom yn trin eraill, oherwydd mae rhywfaint o'r cam-drin ar-lein—os ydym yn ceisio gwneud yn siŵr fod pobl yn cael eu grymuso ac yn teimlo'n ddigon hyderus i roi gwybod amdano, nid wyf yn siŵr sut y mae cyfryngau cymdeithasol yn helpu unrhyw un i roi gwybod amdano ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Felly, mae hynny'n destun gofid.
Fel y dywedwch, mewn perthynas â monitro, nid y gwaith hwn rydym yn ei wneud, y gwaith y mae'r pwyllgor yn ei wneud, yw pen draw hyn. Y gwaith hwn, yr ymchwiliad, pan fyddwn yn adrodd—mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hyn. Oherwydd ni fydd dim yn cael ei ddatrys gan un ymchwiliad. Mae angen i ni gymryd y camau hyn, a rhoi gweithdrefnau ar waith, ond mewn gwirionedd mae'n rhaid i ni gadw golwg ar hynny, ac efallai cael sgwrs ehangach gyda'n partneriaid hefyd. Rydych wedi sôn fod rhai pobl yn gwneud gwaith gwych ar hyn o bryd a chredaf fod angen i ni edrych arnynt hwy hefyd.
A gaf innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad? Wrth wrando ar y datganiad, rwy'n meddwl ei bod yn dod yn glir bod yna dair tasg ymhlith y nifer fawr o dasgau sydd angen i ni eu cyflawni fan hyn y dylem ni fod yn ffocysu arnyn nhw. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen creu gwell dealltwriaeth o fewn y sefydliad yma o ddisgwyliadau y sefydliad o safbwynt ymddygiad ymhlith Aelodau a staff, a theulu ehangach y Cynulliad yma. Mae angen creu gwell eglurder hefyd, rwy'n meddwl, ymhlith y cyhoedd yn enwedig o beth rŷm ni'n credu sy'n dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol o safbwynt ymddygiad. Ac, wrth gwrs, mae angen job cwbl ymarferol o waith: mae angen codi llawer mwy o ymwybyddiaeth ynglŷn â'r prosesau sy'n bodoli i fedru gwneud cwyn, i fedru sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, ac i fedru dal y rhai sy'n tramgwyddo i gyfrif.
Ond mae yna un gwendid yn cael ei amlygu yn y ffaith fy mod i'n defnyddio'r gair 'prosesau'—yn y lluosog, wrth gwrs—ac mae hyn, yn amlwg, eisoes wedi codi ei ben yn yr un sesiwn dystiolaeth mae'r pwyllgor wedi ei chael yn yr ymchwiliad yma, sef bod gennym ni god ymddygiad i Aelodau Cynulliad, ond hefyd mae gennym ni god ymddygiad gwahanol ar gyfer Gweinidogion. Mae yna gwestiynau pwysig i'w gofyn yn hynny o beth. A ydy disgwyliadau y ddau god yna yn gyson â'i gilydd? A oes yna gysondeb o ran beth sydd yn dderbyniol a beth sydd ddim yn dderbyniol yng nghod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad a'r cod ymddygiad gweinidogol? Ac, wrth gwrs, mae yna ddwy broses wahanol o fynd ati i wneud cwyn.
Nawr, efallai bod llawer o hyn yn weddol glir i ni oherwydd rŷm ni yn byw a bod yn y lle yma, ond rhowch eich hunain yn esgidiau aelod o'r cyhoedd ac nid wyf yn meddwl ei bod hi cweit mor glir ag efallai y byddem ni'n dymuno. Mi allai rhywun fynd at y comisiynydd safonau, a'r comisiynydd safonau yn esbonio, 'Na, mae'n rhaid i chi fynd â'ch cŵyn i swyddfa'r Prif Weinidog', ac mae gen i bob ffydd y byddai swyddfa'r comisiynydd yn gwneud hynny mewn modd sensitif ac addas. Ond, wrth gwrs, mae'n gam arall. Mae e yn hŵp arall i'r unigolyn yna orfod neidio drwyddo. Ffactorau fel hyn, wrth gwrs, sydd wedi ei gwneud hi yn anoddach i'r unigolion yma, ac yn llai tebygol y bydd yr unigolion yma yn mynd ymlaen â'u cwynion, ar adeg, wrth gwrs, pan maen nhw'n fregus, pan maen nhw'n ddihyder. Dyna pam fod rhaid i ni wneud y prosesau yma mor hygyrch ac mor syml ag sy'n bosibl.
Cofiwch, wrth gwrs, fod cod ymddygiad Aelodau'r Cynulliad yn berthnasol i Aelodau Cynulliad nid yn unig yn ein bywyd proffesiynol, ond yn ein bywyd preifat hefyd. Felly, pam ddim, yn fy marn i, cwmpasu rôl gweinidogol hefyd o fewn yr un cod, a rhoi'r cyfrifoldeb i'r comisiynydd safonau annibynnol i graffu ar hynny, ond wedyn dod ag argymhellion yng nghyd-destun Aelodau Cynulliad i'r pwyllgor safonau, ond yng nghyd-destun y Gweinidogion wedyn i'r Prif Weinidog? Felly, a gaf i ofyn: oni fyddai'n well o ran cwrdd â'r nodau teilwng iawn rydych chi'n eu rhestru yn eich datganiad—o ran cael proses glir a chyson, ei fod yn hawdd i'w deall, ei fod yn hygyrch i bawb—oni fyddai cael un proses i bob Aelod Cynulliad ym mhob capasiti yn fwy triw i'r egwyddorion hynny, yn hytrach na chael dwy gyfundrefn fel sydd nawr, heb sôn, wrth gwrs, am gyfundrefnau y pleidiau gwleidyddol fel rydym ni eisoes wedi clywed cyfeiriad atyn nhw?
Nawr, mae yna sawl cwestiwn arall wedi codi eu pennau yn barod. Mae yna nifer yn teimlo bod yna anghysondeb yn yr hawl i apelio o fewn y gyfundrefn bresennol, lle mae Aelod Cynulliad yn medru apelio yn erbyn dyfarniad, ond nid yw achwynydd. Mae'r terfyn o 12 mis i ddod â chŵyn gerbron hefyd yn rhywbeth rwy'n meddwl sydd angen ei gwestiynu, oherwydd nid yw nifer o bobl sydd yn dod â chŵyn yn teimlo eu bod nhw'n gallu gwneud hynny—ddim yn barod i wneud hynny am gyfnod hirach, o bosib, na 12 mis. Mae angen bod yn sensitif i hynny hefyd.
Felly, mae yna lawer o ffactorau yn y pair sydd angen eu hystyried, ac rwy'n gwybod y bydd y pwyllgor safonau yn edrych ar y rhain. Ond, wrth gwrs, mae hi i gyd yn dod at bwynt canolog y datganiad, sef bod angen newid diwylliant ehangach, fel rŷch chi'n ei ddweud. Daw hynny ddim o ganlyniad i un ymchwiliad, ac mae pawb yn cydnabod nad oes dim jest un ateb i hyn. Mae yna lawer iawn sy'n gorfod digwydd er mwyn mynd i'r afael â'r holl faterion yma. Ac, wrth gwrs, mae angen sgyrsiau ehangach am rai o'r meysydd pwysig yma sydd dan sylw—sgyrsiau o fewn y sefydliad yma, ie, ond sgyrsiau ehangach drwy gymdeithas hefyd. Mi fyddwn i'n licio cloi drwy ofyn i'r Cadeirydd pa rôl mae hi yn teimlo sydd gennym ni fel Aelodau Cynulliad, a'r pwyllgor safonau yn benodol, efallai, i arwain y broses yna i sicrhau fod y sgyrsiau pwysig yma yn digwydd.
Diolch, Llyr. Unwaith eto, rydych wedi gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, a chafodd rhai o'r pwyntiau eu crybwyll yng nghyfarfod y pwyllgor yr wythnos diwethaf, felly rwy'n falch eich bod yn gallu gwneud hynny heddiw.
O ran eich sylwadau ar god y Gweinidogion, yn amlwg, mae pobl yn deall nad yw cod y Gweinidogion yn rhan o'n cylch gwaith ni nac yn rhywbeth y mae gennym bŵer i'w newid, ond mae'r sylwadau rydych wedi'u gwneud heddiw wedi cael eu gwneud yn ein cyfarfod ac rwy'n siŵr y byddant yn codi mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
O ran y pwyntiau a wnaethoch am faterion cymdeithasol ehangach, mae hynny'n hollol wir. Rydym hefyd wedi gweld nad yw hwn yn fater sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn unig. Mae'n bwysig, fodd bynnag, ein bod yn dangos arweiniad yma ac rwy'n awyddus iawn i'r Cynulliad—ac rwy'n siŵr fod yr holl Aelodau yma yn awyddus—ein bod yn ysgogi cynnydd go iawn ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn sefydliad sy'n dangos y ffordd ac y gellir ein defnyddio fel esiampl. Dyma ein cyfle i wneud ein gorau a chael y prosesau hyn yn iawn. Dyna pam ei bod yn hollbwysig ein bod yn gwneud hynny, ond ni all hynny fod yn ddiwedd ar y sgwrs, fel y dywedwch. Mae'n bwysig iawn ein bod yn ailasesu ac yn gofyn i bobl am eu barn drwy'r amser. A yw'r broses yn gywir? A yw pobl yn teimlo eu bod yn gallu rhoi gwybod? Dylem geisio gwneud yn siŵr, fel y dywedodd Paul yn gynharach, ein bod yn chwarae'r rôl ataliol honno yn ogystal â cheisio sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei weld fel sefydliad sy'n dangos y ffordd, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n awyddus iawn inni wneud hynny. Ond mae'r pwyntiau rydych yn eu nodi yn rhai i'w croesawu'n fawr, a diolch am wneud hynny, Llyr.
Diolch i'r Cadeirydd am ei datganiad y prynhawn yma. Hoffwn hefyd ddiolch i staff y pwyllgor am helpu i drefnu'r ymchwiliad a'r tystion sydd wedi ymddangos ger ein bron hyd yn hyn. Credaf ein bod i gyd yn weddol gytûn ein bod eisiau i'r Cynulliad fod yn amgylchedd croesawgar i bawb sydd eisiau gweithio yma. Mae hynny'n cynnwys pobl o wahanol rywiau, gwahanol gefndiroedd ethnig a gwahanol gyfeiriadedd rhywiol. Yng ngrŵp UKIP, mae gennym amrywiaeth eang o bobl yn gweithio i ni a gobeithio bod ein hystafell grŵp a swyddfeydd yr Aelodau wedi bod, ac yn parhau i fod, yn amgylchedd gwaith croesawgar iddynt.
Wrth gwrs, rydym yn cydnabod y gall problemau godi. Gall problemau godi yn y berthynas rhwng pobl sy'n gweithio yn y Cynulliad ac mae'n hanfodol fod llwybr clir i bobl sy'n teimlo eu bod yn dioddef aflonyddu, gormesu, erlid, bwlio neu fygythiad. Mae'n rhaid cael canllawiau clir ar sut i fwrw ymlaen â chwyn. Ac mae'n rhaid i'r sawl sy'n cwyno fod yn sicr yr eir i'r afael â'r gŵyn yn drylwyr ac na fydd y gŵyn yn effeithio'n andwyol ar eu gyrfa.
Hefyd, mae angen eglurder ynghylch y prosesau ac rwy'n credu bod y ddau siaradwr blaenorol wedi crybwyll nifer o faterion mewn perthynas â hynny. Dywedodd Paul Davies fod y rhan fwyaf o ACau hefyd yn aelodau o bleidiau gwleidyddol, felly i ryw raddau mae'n rhaid i chi gynnwys y pleidiau gwleidyddol ac mae'n rhaid i'w prosesau asio gydag unrhyw broses yn y Cynulliad. Felly, roeddwn yn falch o glywed bod y comisiynydd yn gweithio gyda'r gwahanol bleidiau. Gobeithio y byddwn yn clywed canlyniad hynny cyn hir.
Nododd Llyr y pwynt hynod berthnasol arall sef bod perygl y bydd gwahanol brosesau cyfochrog yn creu dryswch. Er enghraifft, mae gennych y pleidiau gwleidyddol, sy'n gallu cynnal eu hymchwiliad eu hunain, mae gennych ymchwiliad y Cynulliad, ac yna, wrth gwrs, y pwynt a grybwyllodd Llyr: os yw'r AC hefyd yn Weinidog, mae gennych god y Gweinidogion hefyd. Credaf y gall fod yn ddryslyd gyda'r holl brosesau gwahanol hyn. Nawr, gwn eich bod newydd ddweud nad yw cod y Gweinidogion o fewn ein cylch gwaith ni fel y pwyllgor safonau, felly tybed a ydych yn credu bod hynny'n peri problem yn ein hymdrechion i gael un cod clir a thryloyw ar gyfer y Cynulliad. A oes achos dros ddweud y bydd yn rhaid i'n polisi gwmpasu cod y Gweinidogion i ryw raddau, ac asio gyda hwnnw?
Diolch i chi am eich pwyntiau, Gareth. Rwy'n derbyn eich bod yn dilyn pwyntiau Paul a Llyr. Rwy'n credu bod y mater a godoch chi ynglŷn â chod y Gweinidogion eto yn rhywbeth a godwyd gennych yr wythnos diwethaf hefyd, felly rwy'n siŵr y bydd hwnnw'n codi, ond fel y dywedais, mae'n rhaid i ni gofio ei fod y tu hwnt i'n cylch gwaith ni o ran beth y gallwn ei newid, ond yn amlwg mae'n rhaid i ni edrych ar yr holl faterion hyn pan fo pobl fel chi yn eu dwyn i'n sylw.
Mae'n bwysig cael llwybr clir, fel y dywedwch. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yw bod gan y person sy'n cwyno reolaeth dros y prosesau hynny yn ogystal, oherwydd mae'n bwysig eu bod yn gwybod pa mor bell y maent eisiau mynd â'r gŵyn, yn hytrach na bod y penderfyniad yn cael ei wneud drostynt. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn cael eu cyfeirio i'r cyfeiriad cywir, a gobeithio, os yw pobl yn teimlo'n ansicr ynglŷn â rhoi gwybod, mae'r rhif ffôn hwn ar gael ar hyn o bryd. Yn amlwg, mesur dros dro yw hwn—mae'r pwyllgor eto i ddweud a fyddwn yn ymestyn hwnnw ai peidio. Yn amlwg, rydym yn dal i fod yng nghanol ein hymchwiliad felly mae yna lawer o bethau y gallwn edrych arnynt, ond gallwn gael dadl am hynny pan fydd ein hymchwiliad yn cyflwyno'i adroddiad.
A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor safonau am ei datganiad a diolch i'r Llywydd yn wir, a phob un o'r pedwar arweinydd am eu datganiad diweddaru ar urddas a pharch a gyhoeddwyd ar 16 Chwefror. Rwyf hefyd yn croesawu'n fawr y ffaith bod hyn yn cael ei gyflwyno ar sail drawsbleidiol. Fel y dywedodd Paul Davies, mae'n hollbwysig ei fod yn cael ei wneud felly os ydym i wneud cynnydd. Rwy'n croesawu'r holl ddatganiadau a wnaed, a'r cwestiynau gan aelodau'r pwyllgor safonau y prynhawn yma. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ffurfiol ar y polisi urddas a pharch. A allwch roi rhagor o wybodaeth i ni ynglŷn â phryd y mae hynny'n debygol o ddigwydd? Bydd hon, wrth gwrs, yn ddadl ar eich datganiad urddas a pharch, a gobeithiaf y bydd pawb ohonom, fel y dywedwyd yn y datganiad diweddaru—mae hwnnw'n gyfle i bawb ohonom yn y Siambr bleidleisio ar hynny.
Hefyd, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn gweld yr ymchwiliad hwn fel ymchwiliad parhaus, er bod gennych ddyddiad cau. A wnewch chi gadarnhau y bydd yn agored—yr ymchwiliad hwn—ymchwiliad parhaus, hyd yn oed ar ôl y ddadl, fel y gall pobl deimlo'n hyderus i ddod ymlaen ar unrhyw adeg? Credaf eich bod wedi sôn eich bod wedi cymryd tystiolaeth gan sefydliadau allweddol, amrywiaeth o sefydliadau. A yw hynny'n cynnwys sefydliadau cydraddoldeb allweddol, ac a ydych yn debygol o gymryd unrhyw dystiolaeth bellach o'r math hwnnw? Credaf fod y mater o reoli cyfrinachedd, fel y crybwyllwyd, yn gwbl hanfodol. Mae'n rhaid i bobl allu ymddiried yn y cyfrinachedd hwnnw—gan ymateb hyd yn oed i'r pwyntiau a wnaethoch ynglŷn â rôl a mynediad at linellau cymorth cyfrinachol y Comisiynydd Safonau. Mae'r rheini'n brosesau y mae'n rhaid i bobl fod â hyder ynddynt. Credaf fod sylw Paul Davies ynghylch monitro hyn i gyd yn hollbwysig.
I gloi, a gaf fi hefyd groesawu rhywbeth a ddywedwyd ddoe gan Siân Gwenllian mewn ymateb i ddatganiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, lle roedd hi—rwy'n meddwl fy mod wedi cael hyn yn iawn, Siân—yn galw am drafodaeth genedlaethol ar aflonyddu rhywiol? A chredaf fod angen inni fod yn agored i ystyried y mathau hynny o gynigion. A ydych yn cytuno bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ymateb i'ch datganiad heddiw ac i'r polisi urddas a pharch fel y caiff ei ddatblygu?
Mae'n fy nharo y gall datganiadau a digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—ac rydym wedi cael eithaf tipyn ohonynt yr wythnos hon—helpu i greu'r diwylliant cywir a diwylliant yn y Cynulliad hwn, ond ni ellir eu cadw ar gyfer wythnosau a dyddiau fel hyn. Rhaid iddo ddigwydd bob dydd a phob wythnos o'r flwyddyn yn y Cynulliad er mwyn sicrhau'r newid hwn.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eu cofnodi heddiw. Mae'r polisi urddas a pharch i fod i gael ei drafod, fel y dywedais, yn yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl toriad y Pasg, felly bydd hwnnw'n gyfle i bawb ohonom bleidleisio ar y polisi hwnnw. Felly, mae'n dal i fod yn y cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd, ond rydym yn gobeithio y bydd yn digwydd yn yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl y toriad.
Mae pob un o aelodau'r pwyllgor yn barod i siarad ag unrhyw un. Wyddoch chi, rydym yma; rydym yn mynd i fod yn gwneud hynny ddydd Mawrth nesaf, a gallwn wneud hynny ar sail reolaidd. Felly, os oes gan bobl unrhyw gwestiynau neu sylwadau, ac y byddent yn hoffi rhannu hynny gyda ni—a staff yn ogystal wrth gwrs—i ofyn inni am y broses, mae croeso mawr iddynt ddod atom, ddydd Mawrth nesaf yn benodol neu pan fyddwn yn ei wneud eto yn y dyfodol neu unrhyw bryd. Credaf y bydd y Comisiynydd Safonau hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio rheolaidd ar gyfer aelodau a staff. Felly, gobeithio y bydd hynny'n helpu i wneud yn siŵr fod pobl yn deall y broses.
Cawsom dystiolaeth ffurfiol yn y pwyllgor yr wythnos diwethaf, fel y dywedoch chi, gan sefydliadau cydraddoldeb penodol, fel y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Stonewall, Chwarae Teg, Cymorth i Fenywod Cymru, ac fe ysgrifennwyd at gymaint â phosibl o'r sefydliadau hynny i ofyn iddynt gymryd rhan. Roedd hi'n bwysig iawn clywed ganddynt a chlywed am y gwaith gwych y maent yn ei wneud. Dylem rannu'r gwaith hwnnw a dylem wneud hynny'n llawer gwell weithiau.
Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn mewn gwirionedd, ac os gwelwch yn dda—er bod yr ymgynghoriad ffurfiol hwn wedi dod i ben, rwy'n gwneud apêl mewn gwirionedd, oherwydd rydym yn dal yn fodlon ac yn barod i glywed unrhyw dystiolaeth gan unrhyw un. Wyddoch chi, yr holl sylwadau a wnaethoch heddiw—mae hyn bellach wedi'i gofnodi a gallwn symud ymlaen ar hynny fel rhan o'n hymchwiliad. Felly, rydym yn falch iawn i unrhyw un gysylltu â ni ynglŷn â sut y gwelant y gellid gwella'r broses neu sut y bydd yn gweithio yn y dyfodol.
Mae eich pwynt am ddadl gyhoeddus ehangach—mae hynny'n hollbwysig. Nid yn y fan hon yn unig y mae gwneud hynny. Rhaid inni siarad yn fwy eang, a rhaid i ni wneud yn siŵr nad un diwrnod, neu unwaith y flwyddyn yn unig yw hyn—. Wyddoch chi, mae angen inni fod yn siarad amdano mor aml â phosibl a sicrhau bod y sgwrs honno'n digwydd, a buaswn yn falch iawn o gefnogi awgrym Siân Gwenllian ynglŷn â sgwrs genedlaethol ar hyn, oherwydd gorau po fwyaf y siaradwn amdano, po fwyaf o weithiau y caiff ei drafod. Felly, unrhyw beth y gallwn ei wneud fel pwyllgor, rwy'n siŵr y byddem yn awyddus iawn i helpu ar hynny, a sut y gallwn symud hynny yn ei flaen—gallem gael y trafodaethau hynny yn ogystal.
Diolch yn fawr iawn, Jayne, am eich datganiad heddiw, ac edrychaf ymlaen at y ddadl ar ôl toriad y Pasg. Mae hwn wedi bod yn bwnc mor bwysig, nid yn unig o ran hygrededd a dilysrwydd y lle hwn, ond Seneddau eraill a sefydliadau cyhoeddus eraill yn ogystal, oherwydd os na allwn fod yn esiampl dda yn hyn o beth, hynny yw, rhaid i chi ofyn pam rydym ni yma, mewn ffordd.
Roeddwn am ofyn un neu ddau o gwestiynau. Y cyntaf yw: ni chredaf y dylem ochel rhag y gwahaniaeth hwn rhwng cod y Gweinidogion a chod Aelodau'r Cynulliad. Nid wyf eisiau ailadrodd yr hyn a ddywedodd Llyr, ond wrth gwrs, mae pob aelod o'r Llywodraeth hefyd yn Aelod o'r Cynulliad, a gall fod yn ddryslyd i'r unigolyn wybod pa un o'r ddau lwybr hwnnw y dylent fod yn ei ddilyn. Felly, er nad wyf yn awgrymu am eiliad ein bod yn ymyrryd yng nghod y Gweinidogion, a oes unrhyw le yn ein cod sy'n dweud, 'Os yw eich cwyn yn codi yn yr amgylchiadau hyn'—fel nad yw'n diffinio'r gŵyn ei hun—'yna, mewn gwirionedd, dylech fod yn edrych ar god y Gweinidogion'? Rwy'n sylweddoli y gall unrhyw un gyfeirio rhywun i unrhyw le, ond yn yr amgylchiadau penodol hyn, lle y gall fod yn un unigolyn yn gwisgo dwy het, rwy'n credu bod lle, o bosibl, yn ein cod, ar gyfer dweud mewn gwirionedd, 'Ewch yno os mai dyma'r amgylchiadau a arweiniodd at eich cwyn.'
Yn ail, ac rydych wedi ei grybwyll yn eich datganiad: mae'r polisi hwn ar gyfer atal bygythiadau ac aflonyddu, ac er y bydd gan lawer ohonom syniad eithaf cadarn o beth fyddai hynny, er y byddem yn teimlo'n anghyfforddus ynglŷn â rhoi gwybod amdano, rwy'n gobeithio y gallwch roi rhywfaint o sicrwydd i mi heddiw y byddwch hefyd yn cynnwys yn y diffiniad y math hwn o ymddygiad sy'n ailadrodd gweithredoedd bach, a fyddai, ynddynt eu hunain, yn ei gwneud hi'n anodd iawn i rywun gwyno. Maent yn credu o bosibl eu bod yn wirion, ond dros gyfnod o amser, gall arwain at unigolyn yn mynd yn anhapus yn y gwaith, yn teimlo'n anghysurus neu'n ansicr efallai ynglŷn â'u sefyllfa. Rwy'n credu eich bod yn gwybod am y math o beth rwy'n sôn—mae'n anodd iawn ei ddiffinio, a dyma'n union y math o beth y byddech yn teimlo'n wirion yn mynd at eich bos i sôn amdano am na fyddai gennych dystiolaeth i'w gefnogi. Nid wyf yn gwybod a ydych yn dymuno ei alw'n batrwm ymddygiad, ond os gellir ymgorffori hynny rywsut neu'i gilydd, credaf y byddai'n cwmpasu llawer o sefyllfaoedd, nad oes modd eu gwyntyllu ar hyn o bryd am ei bod hi'n anodd iawn i unigolyn ddod o hyd i bwynt ar yr ysgol, os mynnwch, ar gyfer cymryd eu cam cyntaf. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn i chi am eich sylwadau, Suzy. Y pwynt ar god y Gweinidogion: rwy'n falch eich bod wedi ei ddweud eto. Wyddoch chi, fe'i codwyd yn ein pwyllgor, ac rwy'n siŵr y byddwn yn edrych ar hynny gyda gweddill y dystiolaeth pan fyddwn wedi'i chael—wyddoch chi, y pwyntiau a godwyd ynghylch hynny. Rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi crybwyll ymddygiad ailadroddus, oherwydd mae hynny'n rhywbeth sydd wedi'i godi eisoes, unwaith eto, gyda phobl yr wythnos diwethaf, a chredaf ei fod yn rhywbeth, fel y dywedwch—. Wyddoch chi, sut y gallwch fynd i'r afael â phethau a allai fod yn weddol fach ac yn anodd rhoi gwybod amdanynt a gallech feddwl, efallai, 'A yw'n iawn i mi wneud hyn?' Ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen inni edrych arno oherwydd gall patrymau ymddygiad wedi'u hailadrodd dros y blynyddoedd gael effaith sylweddol—nid i un person yn unig, ond i lawer o bobl eraill. Ond fel y dywedais, rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu siarad heddiw, ac am eich sylwadau, byddwn yn eu hystyried yn ymchwiliad ein pwyllgor yn ogystal. Diolch.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor, a diolch i holl aelodau'r pwyllgor am y gwaith rydych yn ei wneud ar ein rhan yma fel Aelodau. Diolch yn fawr.