9. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

– Senedd Cymru am 3:52 pm ar 14 Mawrth 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:52, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon. Galwaf ar Lynne Neagle fel Cadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Lynne.

Cynnig NDM6688 Lynne Neagle

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. 

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:52, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon.

Rwy'n credu mai ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion yw elfen bwysicaf addysg ein plant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Estyn wedi sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynglŷn â pha mor bwysig yw addysgu o ansawdd da ar gyfer darparu system addysg o ansawdd da. Mae gweithlu hyfforddedig a brwdfrydig iawn hefyd yn hanfodol i gefnogi'r broses o gyflwyno a chyflawni cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm ysgol newydd. Dyna pam roedd y pwyllgor yn teimlo bod angen cynnal ymchwiliad i'r modd y mae ein hathrawon yn cael eu hyfforddi i ddechrau ac yna'n cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfa. Rydym yn cydnabod y byddant angen ymateb i newidiadau systemig ac arferion gorau sy'n dod i'r amlwg. Yn rhan o hyn hefyd, archwiliodd y pwyllgor y safonau proffesiynol newydd sy'n sail i'r system hyfforddi athrawon newydd, ac y bwriedir iddynt ddarparu'r uchelgais i gyflawni ymysg athrawon.

Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig a llafar amrywiol. Roeddwn yn falch iawn o weld 837 o gyflwyniadau mewn ymateb i'n harolwg allgymorth ar-lein, a gynhaliwyd ar y cyd â'n cydweithwyr yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a oedd wedi'i anelu at addysgwyr. Mae'r hyn a welsom wedi codi pryderon mewn nifer o feysydd pwysig. Clywsom fod y nifer sy'n cael eu recriwtio ar gyfer cyrsiau hyfforddi athrawon wedi gostwng yn is na'r targed bob blwyddyn yn y pedair blynedd diwethaf. Mae'r prinder i'w weld yn arbennig o amlwg mewn meysydd allweddol megis gwyddoniaeth a mathemateg, ac mewn perthynas ag athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a'r rhai sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg fod angen trefniadau recriwtio wedi'u targedu a bod angen dealltwriaeth ehangach o'r buddion o fod yn athro yng nghymdeithas heddiw. Mae cynlluniau yn Lloegr i gyflwyno addysgu i israddedigion yn ystod eu cwrs gradd wedi gwneud argraff arnom, ac edrychwn ymlaen at gyflwyno prosiectau tebyg yma yng Nghymru.

Roedd nifer yr athrawon a oedd i'w gweld yn gadael y proffesiwn o fewn ychydig flynyddoedd ar ôl cymhwyso yn destun pryder pellach. Rydym wedi clywed mai'r rheswm am hyn o bosibl yw'r pwysau y mae system atebolrwydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar athrawon, neu oherwydd bod llwythi gwaith trwm yn arwain at gydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn sylweddoli bod hwn yn fater cymhleth gyda nifer o ffactorau ynghlwm wrtho. O ganlyniad, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r meysydd hyn ymhellach ac i sicrhau bod y camau y mae'n eu cymryd yn ddigonol.

Arweiniodd tystiolaeth arall at ein casgliad nad yw'r gweithlu addysg wedi'i baratoi'n ddigonol i weithredu'r cwricwlwm newydd ar hyn o bryd. Ymddengys mai'r rheswm am y diffyg parodrwydd hwn yw'r cyfuniad o ddiffyg hyfforddiant a'r amser cyfyngedig ar gyfer paratoi. Roeddem yn argymell y dylai dysgu gan ysgolion sydd eisoes yn rhan o ddiwygio'r cwricwlwm gael ei rannu'n ehangach, ac y dylid defnyddio rhaglenni datblygiad proffesiynol cyfredol yn fwy effeithiol er mwyn paratoi ein hathrawon.

Yn fwy cyffredinol, daethom i'r casgliad fod y rhaglenni datblygiad proffesiynol sydd ar gael i athrawon yng Nghymru yn anghyson o ran ansawdd ac argaeledd. Ceir gormod o athrawon nad ydynt yn manteisio ar yr hyfforddiant a'r rhaglenni datblygiad proffesiynol y maent eu hangen, yn eu haeddu, ac y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn yn peri pryder arbennig o ystyried maint a phwysigrwydd y newidiadau sy'n digwydd yng Nghymru. Mae gweithlu nad yw'n barod yn peryglu'r dyheadau ar gyfer system addysg o'r radd flaenaf yma yng Nghymru.

Roeddem yn siomedig i glywed mai'r rheswm am hyn yn aml oedd oherwydd nad oedd eu llwyth gwaith yn caniatáu iddynt ymgymryd â hyfforddiant a oedd ar gael, neu oherwydd bod yr hyfforddiant yn ormod o faich ar gyllideb yr ysgol. Mae'n rhaid gwneud mwy i helpu athrawon i gael mynediad at yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt y tu mewn a'r tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae ansawdd datblygiad proffesiynol yng Nghymru yn cael ei gwestiynu hefyd. Clywsom ddadleuon dros gael system o ddysgu proffesiynol achrededig ar gyfer athrawon. Roeddem yn cytuno, ac rydym wedi argymell hyn i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd Estyn yn edrych ar rai o'r materion hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld canfyddiadau'r arolygiaeth.

Nid yw'r datblygiad proffesiynol sy'n digwydd i'w weld yn gyson ar draws Cymru, gyda gwahanol gyrsiau ar gael mewn gwahanol ranbarthau. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddarparu model cyflawni mwy cenedlaethol. Rydym yn credu bod yn rhaid i hyn ddigwydd er mwyn sicrhau bod yr holl athrawon yr un mor barod am yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau.

Rydym hefyd yn credu'n gryf y dylai athrawon cyflenwi gael mynediad llawn at raglenni dysgu proffesiynol fel rhan o ffordd genedlaethol newydd o weithio. Mae athrawon cyflenwi yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'n hysgolion, ac rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw eu hawl i gyfleoedd datblygu yn cael ei diystyru.

Yn olaf, mae'r pwyllgor yn awyddus i weld lefelau uwch o waith ymchwil ar themâu addysg yng Nghymru. Mae cymaint o ddiwygiadau addysg ar y gweill sy'n benodol i Gymru, yn cynnwys cyflwyno fframweithiau trawsddisgyblaethol, hyrwyddo dwyieithrwydd, creu cwricwlwm newydd o'r gwaelod i fyny, a mwy. Byddai'r diwygiadau a'r prosesau hyn yn elwa o lefelau uwch o graffu a dadansoddi academaidd. Bydd goruchwyliaeth academaidd yn ein helpu i sefydlu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a dysgu gwersi o'r gorffennol. Nid yn unig hynny, ond credwn y byddai rhannau eraill o'r byd yn elwa o gael cipolwg gwell ar y gwaith y mae'r rhai ar draws y sector addysg yn ei wneud yng Nghymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, roeddem yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau mewn nifer o feysydd a oedd yn peri pryder i ni, yn enwedig mewn perthynas â recriwtio athrawon a llwyth gwaith. Rydym hefyd yn deall y bydd oedi cyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd yn helpu mwy o athrawon i baratoi. Rydym hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gosod systemau ar waith ar gyfer newidiadau yn y dyfodol mewn llawer o'r meysydd hyn sy'n peri pryder.

Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd. Rydym yn gobeithio bod ein hargymhellion a'n casgliadau yn helpu i ddangos y ffordd i sicrhau'r amgylchedd gorau posibl ar gyfer ein hathrawon ac o ganlyniad, ein dysgwyr yng Nghymru. Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, bob un ond dau o'r 25 argymhelliad a wnaethom. Fel pwyllgor, byddwn yn cadw llygad barcud er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni'r ymrwymiadau hyn. Diolch.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:58, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am agor y ddadl ac am roi crynodeb da o bob un o'r themâu sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn ar bwnc mor bwysig? Mae'r Cadeirydd yn llygad ei le: mae llwyddiant ein system addysg yn dibynnu ar ansawdd yr athrawon sydd ynddi, a gwn fod hyn yn rhywbeth y mae pawb ohonom, ar draws y Siambr hon, yn teimlo'n angerddol yn ei gylch.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn siomedig pan ddarllenais fod cynifer o'n hargymhellion ond wedi'u derbyn mewn egwyddor, yn hytrach na'u derbyn yn llawn. Credaf fod rhywfaint o amwysedd ynghylch llawer o'r ymatebion a roddwyd, sydd i'w gweld yn osgoi'r argymhellion a wnaed gennym mewn llawer o ffyrdd, er ei fod yn dweud 'derbyn mewn egwyddor'.

Ond mae hwn yn fater pwysig. Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r broses o sicrhau bod gennym athrawon o ansawdd da, ac mae'n rhaid i ni sicrhau hefyd, wrth gwrs, ein bod yn dod ag athrawon newydd i mewn i'r proffesiwn sy'n barod i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid ein system addysg yma yng Nghymru.

Y bore yma, gwelsom adroddiadau yn y cyfryngau ynglŷn â'r argyfwng ariannu parhaus yn ein hysgolion. Rydym yn gwybod bod Cymru'n cael £1.20 am bob £1 a werir ar ysgolion yn Lloegr. I mi, mae'n ymddangos yn anghredadwy fod gennym y bwlch sylweddol hwn yn y gwariant—tua £700 y dysgwr bob blwyddyn, yn ôl yr undebau. Mae'n fwlch enfawr yn y gwariant, ac wrth gwrs, rwy'n credu mai dyna'n rhannol sy'n arwain at ddigalondid y gweithlu addysgu. Felly, nid yw'n syndod i mi, pan edrychwn ar y ffigurau diweddaraf, nad yw Cymru'n recriwtio agos digon o bobl i leoedd hyfforddi athrawon, ac rwy'n credu mai'r bwlch yn y gwariant yw un o'r rhesymau dros hynny.

Rydym hefyd yn gwybod nad yw'n ymwneud yn unig â recriwtio pobl newydd sy'n meddu ar y sgiliau cywir, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni hyfforddi'r bobl sydd eisoes yn y gweithlu, a rhoi cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus iddynt, a chadw'r athrawon da iawn sy'n ystyried gadael. Cawsom ein brawychu yn ystod yr ymchwiliad wrth weld canlyniadau'r arolwg gweithlu addysg cenedlaethol, sy'n awgrymu bod traean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn yn y tair blynedd nesaf. Felly, os oes gennych brinder athrawon newydd yn dod i mewn i'r proffesiwn, ynghyd â thraean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn, gallwch weld sut y mae argyfwng yn dechrau dod i'r amlwg—

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i wneud hynny.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative

(Cyfieithwyd)

A fyddai'n gallu fy helpu i ddeall pam fod y gwariant £700 yn llai y disgybl yng Nghymru, er mai gwariant iechyd sydd wedi wynebu toriadau go iawn yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr? Ac roeddwn wedi deall bod llywodraeth leol wedi cael ei thrin yn gymharol hael yng Nghymru o'i chymharu â Lloegr. Pam nad yw'r arian hwnnw wedi llifo o lywodraeth leol i'r ysgolion?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu—. Mae'n amlwg fod gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau lleol ran i'w chwarae yn hyn, ond ar ben hynny gwnaed rhai penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru i dynnu rhai grantiau penodol o'r tirlun cyllido addysg. Rydym wedi gweld hyn gyda'r toriadau i'r grantiau lleiafrifoedd ethnig a'r grantiau Sipsiwn a Theithwyr, er enghraifft, sy'n cael effaith enfawr yn awr ledled y wlad. Ond wrth gwrs, mae'r arian yno, mae ar gael i'w wario, ac mae'n siomedig gweld bod y bwlch cyllido hwn wedi agor.

Buom yn edrych ar y broses o recriwtio athrawon o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac rwy'n credu ei fod yn destun pryder mawr, mewn gwirionedd, mai 69 yn unig o'r 36,000 o athrawon a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n nodi eu bod yn ddu, yn enwedig â ninnau'n gwybod bod bechgyn ifanc, yn enwedig o gefndiroedd Affro-Caribïaidd, yn tangyflawni mor sylweddol. Yn ogystal â hynny, mewn perthynas â chymunedau Sipsiwn a Theithwyr—nid oes digon o bobl o'r cymunedau hynny'n hyfforddi i fod yn athrawon chwaith. Felly, mae'n rhaid i ni roi camau pendant ar waith, ac nid wyf yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru i'r pethau hynny yn enwedig wedi bod yn ddigonol. Hoffwn glywed mwy ynglŷn â'r ymchwil rydych yn ei gynnal i'r pethau hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich ymateb i'r ddadl.

Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau i leihau pwysau gwaith ar athrawon, a gwn fod canllaw arfer da wedi'i gyhoeddi. Hoffwn weld canlyniadau hynny i weld a yw dull Llywodraeth Cymru yn gweithio. Cafwyd datblygiad cadarnhaol yn ogystal, wrth gwrs, gyda phenodi rheolwyr busnes i weithio, nid yn unig o fewn ysgolion unigol, ond ar draws nifer o safleoedd ysgol hefyd. Yn amlwg, mae rhai o'r argymhellion yn ein hadroddiad, sy'n edrych am werthusiad o'r prosiectau hynny, yn bwysig tu hwnt.

Os caf drafod safonau proffesiynol yn fyr, rwyf wedi fy syfrdanu mewn gwirionedd fod y Llywodraeth wedi gwrthod dau argymhelliad pwysig iawn mewn perthynas ag ehangu cylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg i ganiatáu iddynt fod yn warcheidwaid safonau proffesiynol yn y dyfodol. Cawsom ein dychryn gan gymhlethdod y safonau proffesiynol newydd a'r ffordd y ceir mynediad atynt. Dros 100 sleidiau PowerPoint ydynt i bob pwrpas ac mae'n rhaid i bobl eu deall a'u dehongli er mwyn penderfynu a ydynt yn bodloni'r safonau proffesiynol hynny, ac mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi dweud wrthym y bydd y safonau newydd a'r dull a fabwysiadwyd yn mynd i'w gwneud yn anos ei orfodi yn erbyn pobl sy'n cyrraedd y safonau hynny. Felly, rwy'n bryderus iawn am hynny, fel rwyf—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:04, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A ydych yn dirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Ydw—mae'n bwynt pwysig iawn, ac mae hyn yn ymwneud â derbyn yr angen i ymestyn pwerau i wahardd pobl dros dro mewn egwyddor yn unig. O safbwynt diogelu, credaf ei bod yn warthus nad ydych wedi'i dderbyn yn llawn ac nad ydych yn bwrw ymlaen â hynny. Rydym yn gwybod pan fydd pobl yn cael eu cyhuddo o dreisio neu ymyrryd yn rhywiol â phlentyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n bum munud. Dewch. Ac rwyf wedi caniatáu i chi gael yr ymyriad, felly—.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n gwerthfawrogi hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn, a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr mewn un frawddeg felly, os gwelwch yn dda?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Y ffaith yw bod yna broblem ddiogelu. Gyda phobl sy'n cael eu cyhuddo o dreisio neu ymyrryd yn rhywiol â phlentyn, hyd yn oed os ydynt yn ddieuog, dylai fod cyfnod lle maent yn cael eu gwahardd dros dro o'r gofrestr addysgu. Ni fydd hynny'n wir yng Nghymru ar hyn o bryd gan nad oes ganddynt bwerau i wneud hynny. Mae angen i hynny newid.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:05, 14 Mawrth 2018

Gwnaf i gychwyn drwy ganolbwyntio ychydig ar y pwynt yma ynglŷn â'r rhwystrau sydd yna i’r gweithlu addysg i beidio â manteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol. Rŷm ni’n gwybod ac rŷm ni wedi’i glywed dro ar ôl tro yn y pwyllgor yn y dystiolaeth a dderbyniom ni bod angen creu’r amser, bod angen creu mwy o wagle o fewn amserlen athrawon i allu hyfforddi, i allu dysgu, i allu rhannu profiadau, i gael cyfle i edrych yn fwy gwrthrychol ar eu gwaith eu hunain drwy fynd i wrando ar wersi mewn ysgolion eraill.

Mi wnaeth yr ATL ar y pryd—yr NEU erbyn hyn, wrth gwrs, yr undeb—yn ei thystiolaeth gyfeirio at y creisis llwyth gwaith. Fel rŷm ni wedi clywed gan y Cadeirydd, roedd hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr holiadur a gafodd ei wneud gan y pwyllgor ar y mater yma. Roedd nifer ohonyn nhw yn dweud y prif reswm—78 y cant yn dweud mai’r prif reswm nid oedden nhw yn manteisio ar gyfleoedd hyfforddi oedd oherwydd y baich gwaith. Nid yw hynny, wrth gwrs, yn syndod pan ŷm ni’n gweld bod bron i 90 y cant o’r gweithlu mewn arolwg arall yn dweud nad ydyn nhw'n llwyddo i reoli eu baich gwaith oddi mewn i oriau gwaith. 

Ar gyfartaledd, mae athrawon yn gweithio 50.7 awr yr wythnos, ac athrawon rhan amser yn gweithio 35.8 awr yr wythnos. Roedd Estyn yn dweud wrthym ni fod athrawon yng Nghymru’n gweithio llawer caletach ac oriau hirach nag unrhyw athrawon mewn cenhedloedd eraill, a hynny yn ei dro, wedyn, yn cyfrannu, wrth gwrs, at drafferthion, gyda 52,000 o ddyddiau dysgu yn cael eu colli oherwydd salwch yn sgil stres yn 2015, o’i gymharu â dim ond 21,000 o ddyddiau nôl yn 2009. Felly, mae’r neges yn gwbl glir yn hynny o beth. Roedd Estyn hefyd yn dweud, wrth gwrs, os ydym ni am roi fwy o ffocws ar ddysgu ac ar hyfforddi yna mae hynny’n golygu bod yn rhaid rhoi llai o ffocws ar bethau eraill, megis gweinyddu a biwrocratiaeth.

Nawr, gyda capasiti yn contractio, a hynny’n cael ei yrru, wrth gwrs, gan gyllidebau yn lleihau, diffygion recriwtio a chadw athrawon hefyd, yna mae ffeindio'r gwagle a’r amser yna i adael yr ystafell ddosbarth ar gyfer datblygu proffesiynol a hyfforddi yn llawer mwy heriol ac yn dipyn llai tebygol o ddigwydd. Ac fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, roedd sylwadau yn y wasg heddiw ynglŷn â chyflwr ariannu ysgolion—wel, yn y dystiolaeth, roeddem ni'n clywed hefyd bod cael y pres i dalu am gyfr yn yr ystafell ddosbarth i ryddhau athrawon i fynd i gael hyfforddiant, bod hynny hefyd yn her.

Mae’r methiannau hefyd i gwrdd â thargedau ymarfer dysgu yn faes mae’r adroddiad yn ffocysu arno fe, ac yn faes rydw i’n gwybod bod y Llywodraeth yn ymwybodol ohono fe. Ond, wrth gwrs, tra bod pobl yn gweld sector a gweithlu dan straen fel ag y mae hi ar hyn o bryd, yna pa ryfedd sydd yna fod yna drafferth recriwtio? Gallwn, gallwn ni gynnig gwell incentives ariannol, ac rydw i’n gwybod bydd y Llywodraeth yn cydnabod ei hunan nad dyna'r ateb o’i hunan. Mi allwn ni ddelio, efallai, â’r amod yma o orfod cael gradd benodol mewn TGAU mathemateg cyn mynd i ddysgu, ac mae yna ddilema fanna. Rwyf hefyd yn anghyfforddus gyda hi; gallwn edrych ar hynny, ond ni fydd hwnnw yn ei hun hefyd yn ateb, achos mi fydd y broblem sylfaenol yn aros. Tan inni weld lleihau'r baich gwaith yma—yr oriau hir, y pwysau, a llawer o hyn yn cael ei yrru, wrth gwrs, gan y gyfundrefn asesu, arolygu a mesur perfformiad—yna tan inni daclo'r hanfodion yna, fydd y genhedlaeth nesaf yn pleidleisio gyda’u traed ac mi fydd targedau recriwtio yn dal i gael eu methu, byddwn ni yn dal ysywaeth i golli athrawon da fydd yn gadael y proffesiwn cyn amser.

Ond mae yna gyfle, wrth gwrs, gyda datganoli tâl ac amodau athrawon, inni wneud mwy i daclo rhai o’r materion yma, yn enwedig yr elfen amodau gwaith, yn fy marn i. Rydw i’n deall ac yn sensitif i’r nerfusrwydd yma sydd gan rai o ran amrywio cyflogau, ac rwy’n deall y nerfusrwydd o gwmpas hynny, ac rydw i a Phlaid Cymru hefyd yn dal i ddweud, wrth gwrs, bod angen cynnig premiwm i athrawon a chynorthwyon dosbarth sydd â sgiliau a chymwysterau uchel. Rydw i’n meddwl gallwn ni wneud hynny beth bynnag er mwyn helpu denu a chadw'r goreuon. Ond, o ran yr amodau, rydw i yn teimlo bod yna gyfle’n dod nawr inni edrych ar faint o amser sydd ar gael i athrawon i fedru hyfforddi ac ailedrych ar y cydbwysedd yma rhwng amser dysgu, amser paratoi, amser datblygu proffesiynol ac yn y blaen.

Nid oes dianc o’r ffaith os oes angen creu'r gwagle ychwanegol yma, y space ychwanegol yma, i wneud yr hyfforddi yna mi fydd angen capasiti ychwanegol ac mi fydd angen adnoddau ychwanegol i fynd gydag e. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod neu dderbyn mewn egwyddor y rhan fwyaf o'r argymhellion. Os nad ydych chi'n cyd-fynd â'r argymhellion yna gwrandewch ar y neges ganolog yn yr adroddiad, sef gofidiau ynglŷn â chapasiti'r system yn ei chyfanrwydd, llwyth gwaith yr athrawon, ac, wrth gwrs, y ffaith bod torri cyllidebau'n gwneud hynny'n lawer gwaeth.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:10, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Mae addysgu'n broffesiwn pwysig iawn sy'n haeddu llawer iawn o ddatblygiad proffesiynol parhaus, ac eto canfu'r pwyllgor mai ychydig iawn o gyfleoedd hyfforddiant parhaus sydd ar gael ac mai ychydig iawn sy'n manteisio arno, ac mae nifer o siaradwyr heddiw wedi egluro'r rhesymau am hynny. Mae'n rhaid bod hynny'n destun pryder, y gallai fod yn bosibl i rywun, i bob pwrpas, gael swydd fel athro yn 23 oed a bod yn athro am 40 mlynedd gydag ychydig iawn o hyfforddiant ychwanegol dros y cyfnod hwnnw.

Wrth i'n gwybodaeth am arferion gorau wella ac wrth i addysg newid ochr yn ochr â chymdeithas newidiol, mae'n annirnadwy y bydd cwrs tair neu bedair blynedd cyn mynd yn athro yn ddigon i gynnal gyrfa gydol oes fuddiol i'r athro a'r myfyrwyr. Felly, mae'n hanfodol fod athrawon yn cael amser ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Diben datblygiad proffesiynol parhaus yw codi a chynnal safonau addysgu. Felly, er ein bod yn croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, mewn egwyddor o leiaf, bron bob un o argymhellion yr adroddiad, mae'n siomedig iawn ei bod wedi gwrthod argymhellion 19 a 20, sydd, yn eu hanfod, yn ymwneud â diffinio ac egluro safonau addysgu derbyniol.

Sut y gallwn dawelu meddyliau rhieni fod anghenion addysgol eu plant yn ganolog i'n gwaith pan fo'r pennaeth addysg yng Nghymru yn gwrthod argymhellion y pwyllgor i helpu i ddiffinio'r hyn a ddisgwyliwn gan ein hathrawon? Gofyn iddi ystyried y syniad yn unig a wnaeth y pwyllgor—syniad a fyddai'n sicrhau llinell sylfaen o safonau derbyniol—ond fe wrthododd; gwrthododd ei ystyried hyd yn oed. Beth sy'n peri'r fath bryder iddi ynglŷn â gweithredu safonau gofynnol ar gyfer athrawon? Ceir safonau gofynnol mewn llawer o broffesiynau, ac o ystyried nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn blino dweud wrthym pa mor bwysig yw'r proffesiwn addysgu yn ei barn hi, mae'n ymddangos yn rhyfedd iawn nad yw'n barod i gyflwyno safonau gofynnol swyddogol mesuradwy y gellir eu gwirio er mwyn inni allu bod yn sicr fod plant Cymru yn cael addysg dda.

Felly, i gloi, rwy'n cefnogi'r adroddiad a'r argymhellion gant y cant. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn, o leiaf mewn egwyddor, bron bob un o'r argymhellion. Ac yn hytrach na'u derbyn mewn egwyddor yn unig, buaswn yn gofyn iddi ddangos y penderfyniad y mae'n honni sydd ganddi a'u gweithredu i gyd cyn gynted â phosibl. Ac rwy'n ei hannog i dderbyn argymhellion 19 a 20. Mae'n amlwg ei bod yn credu bod rhinweddau'n perthyn i'r adroddiad ym mhob ffordd arall, ond mae'r ffaith ei bod yn gwrthod y cynnig i sefydlu safonau gofynnol go iawn drwy gydol gyrfa athro yn peri pryder ac ni fydd yn gwneud dim i dawelu meddyliau rhieni Cymru ei bod hi'n poeni go iawn am safonau addysgu yn ysgolion Cymru. Diolch.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:13, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddwn eisiau mynd i'r afael â phwynt penodol mewn gwirionedd, ac mae'n ymwneud â phwysigrwydd arweinyddiaeth yn ein hysgolion, rhywbeth y clywn yn rheolaidd ei fod yn hollbwysig, ac rwy'n credu'n bendant ei fod. Mae'n rhaid i ni gael y sgiliau arweinyddiaeth cywir a'r timau arweinyddiaeth cywir ar waith os ydym am sicrhau'r math o gynnydd rydym yn dymuno ei weld yn ein hysgolion. Rwyf eisiau cysylltu hynny â'r heriau penodol yn ein hysgolion mwyaf difreintiedig, lle rwy'n credu bod angen nodweddion arweinyddiaeth penodol.

Felly, tybed a oes gan yr academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth, ac yn wir y safonau arweinyddiaeth proffesiynol newydd, elfen bwrpasol sy'n edrych ar y galluoedd penodol y profwyd eu bod yn weithio yn ein hysgolion mwyaf difreintiedig, lle mae'r timau arweinyddiaeth yn meddu ar y setiau sgiliau angenrheidiol, y nodweddion a'r galluoedd angenrheidiol, i ddatblygu'r ysgolion hynny go iawn, ac a allem adnabod a nodi'r sgiliau penodol sy'n gweithio yn yr ysgolion sy'n gwneud cynnydd go iawn yn ein cymunedau mwy difreintiedig, a cheisio sicrhau bod gan ein staff a'n timau arweinyddiaeth ledled Cymru ddigon o'r sgiliau hynny i sicrhau bod yr holl ysgolion sy'n gwasanaethu cymunedau mwy difreintiedig yn llwyddo yn y ffordd y mae rhai'n llwyddo—y rheini sy'n arddangos arferion gorau ar hyn o bryd.

Felly, rwy'n credu efallai bod angen penodol o fewn y galluoedd a'r sgiliau arweinyddiaeth mwy cyffredinol rydym eu heisiau yng Nghymru a fyddai'n mynd i'r afael â'r heriau yn yr ysgolion hynny'n fwy effeithiol. Mae'r rhain yn faterion sydd wedi cael eu trafod, Ddirprwy Lywydd, a tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet, a'n Cadeirydd o bosibl, yn mynd i'r afael â'r cynnydd y gellid ei wneud mewn perthynas â'r materion penodol hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:15, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, Hefin David.

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n dod o deulu o athrawon—fy mam, fy nhad, fy chwaer—fi oedd yr unig un i beidio â mynd yn athro, ond roeddwn yn athro prifysgol yn lle hynny, felly mae'r pethau hyn yn agos iawn at fy nghalon. Roeddwn eisiau nodi ychydig o'r argymhellion roeddwn yn cytuno â hwy o'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ac o'r profiadau rwyf wedi'u cael fy hun.

Rwy'n credu bod argymhelliad 1, mewn perthynas â chynnal

'gwaith ar fyrder i sicrhau y paratoir y gweithlu cyfan', yn gysylltiedig ag argymhelliad 4, sef

'ystyried hybu rhagor o ddysgu arferion ymhlith cydweithwyr, ac annog mwy o gyfleoedd datblygu a hyfforddi o fewn yr ystafell ddosbarth'.

Credaf fod y ddau argymhelliad yn cyd-fynd yn dda iawn, ac rwy'n credu, os ydych am gyflawni'r gwaith paratoi, fod yn rhaid iddo fod yn seiliedig ar yr ystafell ddosbarth. Rwy'n teimlo, fy hun, os yw dysgu'n digwydd, ei fod yn digwydd drwy brofiad, ac mae eistedd mewn darlithfa fawr a chlywed, 'Dyma sut rydych yn ei wneud', yn llai defnyddiol na'i wneud go iawn.

Mae argymhelliad 2 yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i

'sicrhau bod cyfleoedd dysgu gan ysgolion arloesi yn cael eu rhannu’n ehangach ar draws y proffesiwn addysg yn gyffredinol, i helpu i sicrhau bod y gweithlu addysg yn gwbl ymwybodol o ddatblygiadau ac yn barod ar gyfer y diwygiadau sydd i ddod.'

Mae hwnnw wedi cael ei 'dderbyn mewn egwyddor'. Un peth y buaswn yn ei ddweud: rwyf wedi yn cael sgwrs â'r penaethiaid ym mwrdeistref Caerffili. Maent yn cyfarfod yn gyson, a chyfarfûm â hwy i siarad am yr ysgolion arloesi a'r rhai nad ydynt yn ysgolion arloesi, ac roeddwn ychydig yn bryderus bod rhannu gwybodaeth pan siaradais â hwy y llynedd—rwy'n cyfaddef bod hyn flwyddyn yn ôl—nid oeddent wedi cyrraedd y pwynt lle roeddent yn rhannu gwybodaeth mor eang ac mor gyflym ag y buaswn wedi hoffi ei weld. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi sicrwydd i'r pwyllgor ers hynny fod hynny wedi gwella a bod pethau'n newid, a chredaf ei fod yn rhywbeth lle mae'r consortia rhanbarthol yn hanfodol i sicrhau bod y pethau hyn yn digwydd yn effeithiol, yn gysylltiedig unwaith eto ag argymhelliad 4 ar ddysgu arferion ymhlith cydweithwyr.

Hoffwn sôn am argymhelliad 18, sy'n dweud y

'dylai Ysgrifennydd y Cabinet roi ystyriaeth bellach i gymhlethdod a hygyrchedd y safonau i sicrhau bod pawb ar draws y proffesiwn yn gallu cael mynediad at y safonau yn y fformat gorau iddyn nhw, ac mewn modd sy’n ei gwneud yn hawdd ymgorffori’r safonau yn eu harferion gwaith'.

Unwaith eto, cafodd hwnnw ei dderbyn—rwy'n credu ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor. Os gallaf ddod o hyd i'r dudalen gywir—

Photo of Hefin David Hefin David Labour

(Cyfieithwyd)

Ie, do; diolch, Gadeirydd. Cafodd ei dderbyn mewn egwyddor.

Un o'r problemau gyda'r safonau: rwyf eisiau iddynt fod yn rhan allweddol o'r tirlun addysgol llwyddiannus, ond mae'n ddogfen eithaf swmpus, yn 106 o dudalennau o hyd. Nawr, gwn yn union beth fydd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet—maent i fod i gael eu defnyddio'n rhyngweithiol. Nid wyf eto wedi gweld y ddogfen hon yn cael ei defnyddio'n rhyngweithiol, ar-lein. Ni fuaswn yn hoffi meddwl y byddai'n rhaid i athrawon argraffu'r safonau hyn a'u dysgu. Hefyd, rwy'n credu o hyd fod rhywfaint o'r iaith a ddefnyddir yn y safonau braidd yn aneglur, yn enwedig i athro sydd, ar ddiwedd diwrnod gwaith, yn brysur iawn, ychydig yn flinedig, a heb fawr o amser i eistedd a meddwl. Nid wyf eto wedi cael fy argyhoeddi gan yr iaith a ddefnyddiwyd yn y safonau, ac roeddwn yn teimlo, pan roddodd yr Athro Mick Waters dystiolaeth i'r pwyllgor, ei fod wedi mabwysiadu ymagwedd braidd yn orobeithiol at y defnydd o'r safonau. Rhoddodd dystiolaeth dda iawn ac fe'i cyflwynwyd yn dda iawn, ond roeddwn yn teimlo ei fod braidd yn amharod weithiau i wynebu her o ran sut y gallai'r safonau hynny fod yn anodd i athro eu defnyddio pe bai'n ceisio eu defnyddio'n gyflym.

Yn olaf, dywed argymhelliad 23 y dylai

'Ysgrifennydd y Cabinet sicrhau bod mwy o gefnogaeth i’r defnydd o’r Pasbort Dysgu Proffesiynol, o ystyried ei botensial, a’r arian sydd eisoes wedi’i wario arno.'

Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â Chyngor y Gweithlu Addysg ac wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol. Mae'n amlwg fod gwerth iddo. Yn ei hymateb, dywedodd fod angen i ddefnyddwyr fod yn hyderus fod y pasbort dysgu proffesiynol yn bodloni anghenion ymarferwyr fel bod niferoedd cynyddol yn argyhoeddedig ynglŷn â gwerth canfyddedig defnyddio'r pasbort dysgu proffesiynol. 

Mae gwerth iddo yn bendant, yn enwedig, rwy'n tybio, os caiff ei ddefnyddio ar y cyd â Hwb. Felly, fel adnodd ar-lein, os oes gennych athro yng Nghonwy ac athro yng Nghaerffili yn gwneud yr un math o gynlluniau gwersi, mae'n adnodd ardderchog i rannu'r rheini ac i atal dyblygu, a rhannu arferion da. Yr hyn nad wyf yn argyhoeddedig yn ei gylch yw ei fod wedi cael ei gyflwyno mor eang ac mor gyffredinol â phosibl. Nid wyf yn credu bod addysgwyr wedi'u hargyhoeddi yn ei gylch ar hyn o bryd, ond gallent fod, oherwydd mae'n offeryn da. Rwyf wedi'i weld, a buaswn yn ei groesawu pe bawn yn athro fy hun. Felly, rwy'n credu y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ganmol rhinweddau'r pasbort dysgu proffesiynol ac annog ei ddefnydd.

Felly, ar y cyfan, cafwyd ymateb da iawn gan y Llywodraeth i'r adroddiad, ar wahân i 'mewn egwyddor' i raddau bach. Hoffwn weld rhai pethau eraill yn cael eu derbyn. [Torri ar draws.] Mae Michelle Brown yn hwyr iawn—[Torri ar draws.] A chyda hynny, rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:20, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Lynne a chyd-Aelodau ar y pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn? Croesawaf eu ffocws a'u gwaith craffu ychwanegol ar y maes hynod bwysig hwn. Rwy'n cydnabod bod sefydlu cwricwlwm newydd trawsnewidiol yn iawn, ond wrth gwrs, yn anad dim arall, ansawdd y ffordd y bydd y cwricwlwm hwnnw'n cael ei addysgu sy'n mynd i wneud gwahaniaeth go iawn i'r plant. Dyna sy'n trawsnewid bywydau pobl ifanc mewn gwirionedd, ac felly mae'n hanfodol fod ein proffesiwn addysgu wedi eu paratoi a'u harfogi'n llawn pan fyddant yn dechrau addysgu'r cwricwlwm newydd hwn.

Credaf ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol mewn perthynas â chefnogi addysgwyr i wireddu'r cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Cadeirydd, rwyf hefyd yn cydnabod bod yna ffordd bell i fynd. O ganlyniad, rwyf wedi gallu derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion sy'n deillio o'r ymchwiliad. Rwyf hefyd yn cydnabod na allwn ddisgwyl i unrhyw athro fod wedi paratoi'n llawn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai datganiad o ffaith yn unig yw casgliad agoriadol y pwyllgor yn hyn o beth. Wrth gwrs, rydym ar ganol dull cydweithredol o sefydlu a datblygu'r cwricwlwm hwnnw, felly ni allwn fod mewn sefyllfa eto i gael pawb yn barod, oherwydd nid yw'r cwricwlwm ei hun yn hollol barod ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n cydnabod nifer o'r pwyntiau a wnaeth y pwyllgor, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i grynhoi rhai o'r camau sylweddol a gymerwyd yn ystod yr ymchwiliad i fynd i'r afael â'r pryderon craidd mewn perthynas â pharodrwydd y proffesiwn i weithredu'r cwricwlwm newydd.

Rwy'n hyderus y bydd ein pwyslais ar arweinyddiaeth, dysgu proffesiynol a rhagoriaeth yn ein galluogi i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg yn llwyddiannus. Bydd dull gweithredu graddol o ddysgu proffesiynol yn sicrhau ein bod yn gallu ymateb i unrhyw anghenion datblygu sy'n dod i'r amlwg, wrth i arloeswyr ddechrau profi'r cwricwlwm newydd yr hydref hwn. Bydd profion ehangach yn sicrhau bod ymarferwyr ar bob lefel yn ymwneud yn uniongyrchol â'r broses o wneud synnwyr o'r cwricwlwm, er mwyn cynyddu hyder proffesiynol. Ac wrth gwrs, mae un o'r rhesymau pam y penderfynais newid y ffordd yr oeddem am gyflwyno'r cwricwlwm wedi rhoi amser hanfodol i ni allu meithrin yr hyder hwnnw yn y proffesiwn, yn enwedig yn y sector uwchradd, lle mae'r her fwyaf, rwy'n credu.

Bydd ein gwaith parhaus gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar wella gallu'r system yn cefnogi pob ysgol drwy'r broses o newid i'r cwricwlwm newydd, ac mae ein dull arloesol yn haeddu cydnabyddiaeth ryngwladol. Nid oes unrhyw wlad arall wedi manteisio'n llawn ar ysgolion fel sefydliadau dysgu i gefnogi eu taith ddiwygio, a bydd y newid i ddull cenedlaethol 'ysgolion fel sefydliadau dysgu' yn sicrhau bod yr holl haenau cyflawni yn defnyddio'r un iaith ac yn modelu'r un ymddygiadau, gan gyflymu'r broses o newid i system addysg hunanwella. Byddwn ni, a'r pwyllgor, yn gallu darganfod mwy am hyn pan fydd adroddiad astudiaeth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o Gymru yn y maes hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni. Bydd yr adroddiad hwnnw'n rhoi syniad o allu cyfredol ein holl ysgolion i wella ac i addasu i'r cwricwlwm newydd, a meysydd a fydd angen camau gweithredu pellach, gennyf fi fel Ysgrifennydd y Cabinet, o'n haen ganol, ac ysgolion unigol. Mae canfyddiadau cynnar yr astudiaeth eisoes wedi datgelu cydberthyniad uniongyrchol rhwng yr ysgolion sy'n gryf mewn perthynas ag ysgolion fel sefydliadau dysgu, a lefel uchel o foddhad swydd ymhlith y staff sy'n gweithio yn y sefydliadau hynny. A phan fyddwn yn sôn am gadw athrawon, mae datblygu'r gallu hwn yn ein system i fod yn sefydliadau dysgu hefyd yn argoeli'n dda ar gyfer materion sy'n ymwneud â rhai o'r problemau cadw staff a godwyd gan Aelodau yn y ddadl y prynhawn yma.

Wrth gwrs, mae ein diwygiadau i addysg gychwynnol athrawon yn hollbwysig yn hyn o beth, a byddant yn galluogi gweithwyr addysg proffesiynol i chwarae rôl sy'n llawer mwy canolog wrth lunio, cyflawni ac arwain newid yn y proffesiwn. Ac rwyf hefyd yn credu y bydd hynny'n helpu i greu system fwy sefydlog, o ansawdd uwch, er mwyn galluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu.

O ran rhai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u gwneud yn fyr iawn, bydd Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi sefydlu bwrdd cynghori ar recriwtio a chadw athrawon i edrych ar faterion sy'n ymwneud â recriwtio athrawon i gynlluniau addysg gychwynnol athrawon, er mwyn edrych ar gwestiynau'n ymwneud ag amrywiaeth a godwyd yn yr adroddiad ac yn hollbwysig, yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gadw athrawon yn y system.

Argymhelliad 14: soniodd Lynne am gyflwyno israddedigion i botensial addysgu fel gyrfa. Rydym eisoes wedi gweld rhywfaint o adborth cadarnhaol iawn o'n cynllun ieithoedd tramor modern, ac rwy'n falch o ddweud y byddwn yn ymestyn hwn i gynnwys ffiseg yn y flwyddyn academaidd newydd. Rwy'n gobeithio adeiladu ar hynny, fesul pwnc, fel y gall yr israddedigion disglair hynny ennyn brwdfrydedd pobl ifanc yn eu pynciau a dangos i rai o'r israddedigion ifanc hynny o bosibl pa mor foddhaus yw gyrfa fel athro. Ychydig iawn o swyddi a gewch yn y byd lle bydd unigolion rydych wedi gweithio gyda hwy yn eich cofio ar ôl eich amser. Gyda phob parch i bawb yma, rwy'n amau na fydd hynny'n wir yn ein hachos ni, ond rwy'n siŵr y gall pob un ohonom enwi athro sydd wedi cael effaith sylfaenol ar ein bywydau. I mi, Mr Burree ydoedd, ond mae gan bob un ohonom Mr Burree yn ein bywydau. Nid oes llawer o broffesiynau eraill lle y gallwch gael yr effaith hirdymor honno ar unigolyn.

Darren, rwyf wedi dweud hyn o'r blaen: nid yw gwneud y cymariaethau uniongyrchol hynny'n gredadwy o gwbl. Oherwydd ymddadfeiliad y system addysg yn Lloegr, ni allwch wneud cymariaethau uniongyrchol o'r fath rhwng y cyllid. Ond mae'n gywir i ddweud bod yna rôl i awdurdodau lleol, a dyna pam roeddwn yn siomedig o weld cynghorwyr Ceidwadol yn fy awdurdod fy hun, gwta bythefnos yn ôl, yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau a fyddai wedi sicrhau £1 miliwn yn ychwanegol i gyllidebau dirprwyedig.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Nid oes gennyf amser. Mae angen i mi symud ymlaen, Darren.

O ran safonau proffesiynol, mae safonau proffesiynol wedi cael eu symleiddio, a byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i archwilio materion yn ymwneud â hygyrchedd ac ymarferoldeb y safonau hynny, ac yn eu cysylltu â'r pasbort dysgu proffesiynol, sydd â chyfle, rwy'n credu, Hefin—fel y dywedoch—i fod yn offeryn pwerus iawn mewn perthynas â dysgu proffesiynol a rhannu arferion da.

Mewn perthynas â diogelu, sy'n bwynt pwysig iawn—ac os caf fi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn edrych ar y mater hwn ychydig yn fanylach—yn gyntaf, hoffwn weld Cyngor y Gweithlu Addysg, fel corff annibynnol, yn cynnal ymgynghoriad eu hunain gyda'r 80,000 o unigolion cofrestredig sydd ganddynt, a'r sector addysg ehangach. Yna buaswn yn hoffi defnyddio'r dystiolaeth honno i edrych ar y cyfle i ddiwygio Deddf Addysg (Cymru) 2014. Felly, rwyf eisiau gweld y dystiolaeth honno'n dod, nid mewn ymgynghoriad a gynhelir gennyf fi, ond mewn ymgynghoriad a gynhelir ar ran y proffesiwn gan y corff proffesiynol hwnnw i edrych ar y dystiolaeth a ddaw'n ôl. Ond nid wyf yn diystyru—nid wyf yn diystyru—y posibilrwydd o wneud newidiadau, fel y nodwyd gan y pwyllgor.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:27, 14 Mawrth 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud, Michelle, fy mod yn gwbl fodlon ac yn hyderus fod y safonau sydd gennym yn darparu llinell sylfaen glir iawn ar gyfer perfformiad athro? Ni all athrawon sydd newydd gymhwyso basio'r cyfnod ymsefydlu heb ddangos eu bod yn bodloni'r holl ddisgrifyddion perthnasol, ac mae'r disgrifyddion hynny'n parhau i weithredu fel llinell sylfaen drwy gydol gyrfa athro drwy nodi'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i gyflawni eu rôl yn effeithiol. Mewn gwirionedd, dylem wahaniaethu rhwng y safonau addysgu proffesiynol hyn a materion sy'n ymwneud â chymhwysedd a sut y mae rhywun yn ymdrin â chymhwysedd mewn ystafell ddosbarth. Bydd y rhan fwyaf o athrawon ac arweinwyr yn myfyrio ar eu hymarfer mewn perthynas â'r pum safon, ac i addysgwyr sy'n dymuno gwella eu hymarfer, mae'r disgrifyddion lefel uwch yn darparu ffocws uchelgeisiol ar gyfer datblygiad proffesiynol yn y dyfodol. 

Rydym angen dull cenedlaethol o weithredu er mwyn sicrhau bod yna gysondeb ar draws ein cenedl, a gobeithio, erbyn mis Medi eleni, y byddwn yn gallu dweud yn glir wrth y Siambr hon, a'r proffesiwn, sut beth fydd dull cenedlaethol o'r fath. Bydd angen elfen o hyfforddiant cyffredinol mewn perthynas â'r cwricwlwm, ond bydd angen i ni dreiddio'n ddyfnach ar gyfer arbenigwyr pwnc ac arbenigwyr cyfnodau, ac rwy'n credu y byddwn mewn sefyllfa i wneud hynny erbyn mis Medi.

John, mae arweinyddiaeth yn gwbl allweddol i hynny. Nid oes unrhyw beth sy'n fwy torcalonnus i athro na gweithio mewn sefydliad ag arweinyddiaeth wael. Mae hynny'n ychwanegu at eich llwyth gwaith ac yn ychwanegu at y straen a allai fod arnoch yn eich sefydliad. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gyfarfod â'r set gyntaf o swyddogion cyswllt ar gyfer ein hacademi arweinyddiaeth newydd. Maent hwy, a'r cyfraniad rwy'n credu y byddant yn ei wneud, yn fy ysbrydoli'n fawr. Ond mae achredu hyfforddiant a chymorth ar gyfer yr athrawon sydd eisiau gweithio yn ein cymunedau mwyaf anodd yn rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'r academi newydd ei archwilio. Ceir nifer o feysydd lle rydym angen y sgiliau penodol hynny, pa un ai gweithio yn rhai o'n cymunedau mwyaf anodd, yr her o redeg ysgol bob oedran, neu'r her o fod yn bennaeth gweithredol, lle rydych, efallai, yn bennaeth ar dair neu bedair o ysgolion. Felly, mae yna set gyfan o bethau y mae angen i ni edrych arnynt yn hynny o beth.

Lywydd, yng ngeiriau'r ysgolhaig cwricwlwm Lawrence Stenhouse, ni ellir datblygu cwricwlwm heb ddatblygu athrawon.

Rwy'n glir iawn ynglŷn â hynny. O'm rhan i, mae'r ddau yn mynd law yn llaw â'i gilydd, a dyna pam y mae adroddiad y pwyllgor yn ddefnyddiol iawn wrth i ni ddatblygu polisi yn y maes hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:30, 14 Mawrth 2018

Galwaf ar Lynne Neagle i ymateb i'r ddadl.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Fe geisiaf ymdrin â rhai o'r prif bwyntiau a wnaed gan yr Aelodau.

Rwy'n croesawu atgyfnerthiad Darren Millar o'r neges fod rôl athrawon ac ansawdd addysgu yn hanfodol os ydym yn mynd i wella safonau yn ein hysgolion. Mae honno'n gydnabyddiaeth i'w chroesawu'n fawr. Darren, fe nodoch rai o'r materion sydd wedi dod yn amlwg o'r ymchwiliad ynghylch cyllido. Mae'r materion hynny hefyd yn dod i'r amlwg yn ein hymchwiliad presennol ynghylch cyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol, a gwn y byddwch am gadw'r materion hynny dan arolwg, gan gynnwys y materion sy'n ymwneud â phlant Sipsiwn a Theithwyr a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig.

Rydych wedi mynegi eich siom am rai o'r argymhellion ynghylch Cyngor y Gweithlu Addysg. Gwrthodwyd un argymhelliad, ond rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am y sicrwydd y mae wedi'i roi y prynhawn yma, ac unwaith eto, rwy'n meddwl y byddwn am gadw hynny dan arolwg. Gwn eich bod yn teimlo'n gryf iawn ynglŷn â'r pŵer i wahardd dros dro, ond cafodd hynny ei dderbyn mewn egwyddor, a gwn fod deialog yn mynd rhagddi ar hynny. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet am roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni amdano.

Llyr Gruffydd, diolch i chi am eich cyfraniad. Yn anffodus, ni chlywais y funud gyntaf ohono, oherwydd bod problem gyda'r cyfieithiad, ond rwy'n siŵr ei fod yn wych. [Chwerthin.] Os caf ddweud hynny ac fe af ar ei ôl yn nes ymlaen. Fe gyfeirioch chi'n huawdl iawn at beth o'r pwysau y clywsom amdano gan ein proffesiwn addysgu a'r effaith y mae hynny'n ei chael o ran absenoldeb a straen. Credaf y byddem oll yn cytuno ei bod yn gwbl allweddol ein bod yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Un o'r pethau rwy'n falch iawn o wybod yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi comisiynu ymchwil gan Beaufort Research a'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg yng Nghymru, sy'n mynd i edrych yn fanylach ar y materion hynny. Credaf y bydd hynny'n werthfawr iawn.

Mynegodd Michelle Brown bryder hefyd am rai o'r argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, a 19 a 20 yn arbennig. Credaf fy mod wedi trafod hynny, ond rwy'n croesawu pwyslais Michelle Brown ar yr angen i wella datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon yn gyffredinol.

Mae John Griffiths wedi dadlau'n llafar iawn am yr angen i wella arweinyddiaeth mewn ysgolion drwy gydol yr ymchwiliad, ac yn benodol i ganolbwyntio ar anghenion ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac rwy'n siŵr ei fod, fel fi, yn falch iawn o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at hynny yn ei hymateb.

Mae Hefin David hefyd wedi dadlau'n angerddol iawn dros yr angen am ddysgu gan gymheiriaid a'r angen am ymarfer mwy myfyriol yn ein hysgolion. Felly, roedd yn dda gweld hynny'n cael sylw yn y ddadl heddiw. Mae hefyd wedi dadlau'n gryf iawn dros y pasbort dysgu proffesiynol y gwnaethom argymhellion yn ei gylch. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych yn ofalus ar y mater hwnnw wrth iddi ystyried y maes hwn yn ei gyfanrwydd.

Roedd gan y pwyllgor rai pryderon ynghylch cymhlethdod y safonau proffesiynol, ac mae Hefin wedi cyfeirio at hynny. Credaf ein bod yn cydnabod mai gwaith ar y gweill ydyw, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn dymuno dychwelyd ato wrth symud ymlaen.

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet eto am ei hymateb ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mentrau sydd ar y gweill? Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm clercio, sydd fel arfer wedi bod yn hollol wych gyda'r ymchwiliad hwn. Rwy'n credu bod pob un ohonom yn cydnabod, os ydym yn mynd i gael y system ysgol rydym ei heisiau ac y mae ein plant yn ei haeddu, mae ansawdd addysgu a chefnogi athrawon yn gwbl hanfodol, a bydd hon yn parhau i fod yn thema bwysig yng ngwaith y pwyllgor wrth symud ymlaen. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:34, 14 Mawrth 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.