1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 20 Mawrth 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac rydw i'n galw ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, nid yw eich Llywodraeth wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon o hyd, a phan fo fy nghyd-Aelodau o Blaid Cymru wedi gofyn i chi am hyn yn y gorffennol, dywedodd eich Ysgrifennydd iechyd y byddai'n cyhoeddi lleoedd hyfforddi i feddygon ar wahân i'r rheini ar gyfer nyrsys, bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. A allwch chi ddweud wrthym pryd y gallwn ni ddisgwyl y cyhoeddiad hwn a ddylai fod wedi ei wneud ers talwm?
Mae hynny'n rhywbeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn gallu ei gyhoeddi maes o law. Rydym ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n darparu cymaint o leoedd hyfforddi ag y gallwn ni a lleoedd mewn meysydd lle y gall pobl gael y profiad mwyaf posibl, gan, wrth gwrs, adeiladu ar yr ymgyrch recriwtio sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran dod â meddygon i Gymru.
Prif Weinidog, mae angen y cyhoeddiad hwnnw arnom ni cyn gynted â phosibl. Mae ein sefydliadau academaidd a'n byrddau iechyd angen sicrwydd nad ydych chi wedi anghofio am feddygon. Heddiw, rydym ni wedi gweld cynlluniau i agor pum ysgol feddygol newydd yn Lloegr yn Sunderland, swydd Gaerhirfryn, Lincoln, Caergaint a Chelmsford dros y tair blynedd nesaf—pump o ysgolion meddygol newydd. Mae'n berthnasol i Gymru bod yr ysgolion meddygol hyn wedi eu targedu at yr hyn a gydnabyddir fel ardaloedd â phrinder doctoriaid.
Yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r cynnydd o ran coleg meddygol Bangor wedi bod yn boenus o araf ac rydym ni'n dal i fod ar y cam lle mai eich Llywodraeth ddim ond wedi derbyn myfyrwyr o fannau eraill yn cael cyfleoedd i dreulio mwy o amser ym Mangor, yn hytrach na myfyrwyr meddygol yn cael eu lleoli yno yn barhaol. A gyda llaw, mae'r prifysgolion hynny sy'n gweithio mewn partneriaeth ar hyn yn dweud pethau cadarnhaol iawn, sy'n newyddion gwych. O gofio bod hyd yn oed y Torïaid yn agor ysgolion meddygol newydd yn Lloegr, a ydych chi'n derbyn eich bod chi wedi bod yn boenus o araf yn ehangu addysg feddygol yn y gogledd?
Mae'n hynod bwysig bod addysg feddygol, pan gaiff ei hehangu, yn gallu cynnig y profiad eang i fyfyrwyr sydd ei angen arnynt i gymhwyso, a chymerwyd y ffactor hwnnw i ystyried erioed. Mae'r mater o ran Bangor, wrth gwrs, wedi ei archwilio'n drylwyr. Rydym ni'n awyddus i wneud yn siŵr bod cymaint o leoedd â phosibl ar gael ledled Cymru, gan sicrhau wrth gwrs bod gan bobl fynediad at gymaint o arbenigeddau ag y gallant i gynyddu eu profiad.
Prif Weinidog, mae cyfraddau hyfforddi meddygon yn is yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'r holl sefydliadau—Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Ffisigwyr—i gyd wedi bod yn cefnogi galwadau i gynyddu niferoedd y meddygon yng Nghymru. Nawr, ni allwn ddibynnu ar wledydd eraill i hyfforddi ein meddygon. Rydym ni'n colli digon o dalent fel y mae hi, a thrwy gynyddu capasiti yn Lloegr, bydd Llywodraeth y DU a GIG Lloegr yn denu mwy fyth o'n meddygon o Gymru yn y dyfodol. Mae gennym ni lai o feddygon teulu nawr nag yn 2013. Mae gennym ni lai o feddygon ysbyty nawr nag yn 2014. Felly, mae'r honiad yr ydych chi'n ei wneud weithiau am y nifer uchaf erioed o staff iechyd yn cynnwys cynorthwywyr nyrsio, mae'n cynnwys staff gweinyddol ac yn cuddio'r ffaith bod nifer y meddygon yn is. Nawr, byddai Plaid Cymru yn ymrwymo i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon newydd i GIG Cymru. Mae gwledydd eraill yn bwrw ymlaen gyda chynlluniau i ehangu lleoedd hyfforddi. Mae hyd yn oed Jeremy Hunt yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod y prifysgolion yn awyddus. Pam mae Cymru, o dan y Llywodraeth Lafur hon, mor bell ar ei hôl hi?
Ar 8 Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet becyn buddsoddi gwerth £107 miliwn i gefnogi rhaglenni addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru. Mae hynny'n gynnydd o £12 miliwn o'i gymharu â 2017-18. Mae hynny'n golygu y bydd mwy na 3,500 o fyfyrwyr newydd yn ymuno â'r rheini sydd eisoes yn astudio rhaglenni addysg gofal iechyd ledled Cymru, a bydd cyfanswm o 9,490 o bobl mewn lleoedd addysg a hyfforddiant yn 2018-19, o'i gymharu â 8,573. Bydd cynnydd o 10 y cant i leoedd hyfforddi i nyrsys ar draws pob un o'r pedwar maes nyrsio, a 161 o leoedd hyfforddi nyrsys yn 2018-19. Nawr, y camgymeriad a wnaed, yn fy marn i, gan Blaid Cymru yw edrych ar feddygon yn annibynnol. Ni allwch edrych ar feddygon yn annibynnol; mae'n rhaid i chi edrych ar yr ystod gyfan o staff gofal iechyd, ac mae hynny'n golygu, wrth gwrs, nyrsys, mae'n golygu edrych ar y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, mae'n golygu gwneud yn siŵr bod digon o bobl i wneud yn siŵr bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn parhau i ostwng ac, wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod gennych chi staff fel ffisiotherapyddion, sy'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl.
Os edrychwn ni ar ein hymgyrch recriwtio, mae wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran denu meddygon i Gymru. Ni fydd byth yn wir, mewn unrhyw wasanaeth iechyd datblygedig yn Ewrop, bod yr holl feddygon yn y gwasanaeth iechyd hwnnw wedi eu hyfforddi o fewn y gwasanaeth iechyd hwnnw yn unig. Rydym ni eisiau denu'r bobl orau o bedwar ban byd, a dyna pam, wrth gwrs, mae ein hymgyrch recriwtio wedi bod mor llwyddiannus.
Arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Os caf innau hefyd, gyda'ch caniatâd, Llywydd, dalu teyrnged i Arglwydd Nick Edwards ac Arglwydd Richard, a oedd yn bileri pwysig o ran gwella ansawdd bywyd i bobl yma yng Nghymru, ac a drosglwyddodd y brwdfrydedd hwnnw i'r ail siambr hefyd, gan sefyll yn eu pleidiau unigol fel prif esiamplau ardderchog i wleidyddion cenedlaethau'r dyfodol eu dilyn. Bydd eu colli yn cael ei deimlo'n fawr gan eu teuluoedd, ond hefyd gan eu cydweithwyr gwleidyddol, a thalwn deyrnged i'w hymdrechion ar ran Cymru ac, yn wir, gweddill y Deyrnas Unedig, heddiw.
Prif Weinidog, amlygwyd yn y wasg ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried codi tollau ar ffordd liniaru'r M4. Yn sicr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod cynigion Gerry Holtham yn 'ddiddorol'. Os bydd ffordd liniaru'r M4 yn cael ei hadeiladu, a yw Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth wirioneddol i godi tollau ar y darn hwnnw o ffordd?
Nac ydy.
Felly, ni fu unrhyw ystyriaeth o gwbl ynghylch codi tollau ar ffordd liniaru'r M4. Amlygodd eich cyd-Aelod ar y meinciau cefn yn y fan yna, Mick Antoniw o Bontypridd, dim ond pythefnos yn ôl bod y system fetro yn debyg iawn i anghenfil Loch Ness yn y fan yma nawr i lawer o bobl. Ond y pwynt yr oedd e'n ei wneud oedd bod llwybrau yn cael eu colli oherwydd cost ffordd liniaru'r M4, a hefyd costau cynyddol y system fetro. Os nad yw codi tollau yn cael ei ystyried ar gyfer ffordd liniaru'r M4, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mantoli'r gyllideb ar gyfer y ddau brosiect seilwaith hanfodol hyn yma yn y de-ddwyrain ac, yn wir, prosiectau seilwaith eraill ledled Cymru, oherwydd nid yw'n ymddangos bod y ddau ohonynt, ar y fantolen, yn gwneud synnwyr?
Maen nhw'n dod o ddau wahanol bot. Yn gyntaf oll, o ran ffordd liniaru'r M4, roedd hwnnw'n arian yr ydym ni'n bwriadu ei fenthyg. Pan ddaw i'r Metro, mae hwnnw'n dod o ffynonellau eraill o ran ein cyllidebau ein hunain, o ran edrych ar y fargen ddinesig ar gyfer cyllid. Nid ydyn nhw'n cystadlu am yr un adnoddau, a dim ond i ail-bwysleisio, nid ydym yn bwriadu codi tollau ar yr M4.
Rwy'n ddiolchgar am yr eglurder ynghylch y tollau, ond, unwaith eto, nid yw'n ymddangos y gallwch chi gael y ddau brosiect yma ar wahân, gan fod y ddau brosiect mor anferth o ran eu gwariant cyfalaf. Rydym ni'n gwybod y bydd ffordd liniaru'r M4, ar hyn o bryd, yn ôl eich amcangyfrifon eich hun i'r ymchwiliad cyhoeddus, yn costio £1.4 biliwn, ac mae'n codi, dylwn ychwanegu. Mae'r system fetro yn £700 miliwn yn ôl yr amcangyfrifon cyfredol. Fel y dywedais, ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn gallu gwneud synnwyr o'r symiau hynny. Felly, a allwch chi roi rhywfaint o eglurder a sicrwydd i ni fod gennych yr arian hwnnw ar gael i chi adeiladu'r ddau brosiect ac na fydd yn rhaid cwtogi ar brosiectau eraill mewn rhannau eraill o Gymru oherwydd bod eich cyllideb cyfalaf wedi ei gwario neu ei gwacáu ar y ddau brosiect hynny?
Un o'r rhesymau na allem ni fwrw ymlaen, neu'r prif reswm pam na allem ni fwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4 yn y gorffennol oedd oherwydd na allem ni dalu amdani o'n cyllideb ffyrdd bresennol. Roedd angen i ni gael pwerau benthyg er mwyn talu am brosiect ffordd o'r maint hwnnw. Felly, telir am hwnnw o bot ar wahân i'r gyllideb ffyrdd, felly nid yw'n cystadlu ag unrhyw brosiect ffyrdd eraill o ran cyllid. Pan ddaw i'r metro, mae hwnnw'n cael ei ariannu mewn ffordd wahanol, gan edrych ar ein cyllidebau ein hunain, gan edrych ar y cyllidebau bargen ddinesig, i fwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw. Yr hyn y gallaf ei sicrhau i'r Aelodau yw nad yw'r metro a'r M4 yn cystadlu am yr un cyllid; maen nhw'n dod o ddau wahanol bot.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Llywydd. Pan oeddwn i ar fy ffordd i Gaerdydd ddoe, roeddwn i'n gwrando ar y radio yn y car, ar raglen World at One, a, chyda chryn anghrediniaeth, clywais fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â phlant ysgol rhwng saith ac 11 oed am eu safbwyntiau ar Brexit—efallai ei fod yn dangos lefel aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn—ac yn mynd i gymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth wrth lunio polisi. Ni allaf gredu bod hyn yn wir, er i mi ei ddarllen yn ddiweddarach ar wefan y BBC. Ymhlith y rhai a glywais ar y rhaglen honno roedd plentyn naw mlwydd oed a ddywedodd ei bod hi'n meddwl bod gadael yr UE yn syniad gwael, oherwydd, 'Mae un o fy ffrindiau yn dweud ei bod hi eisiau bod yn gantores, ac os wyf i eisiau mynd o gwmpas y byd i weld gwahanol gerddoriaeth, fel, ni fydd hi'n gallu gan ein bod ni wedi gadael brecwast'—mae'n rhaid ei bod hi'n hoff o araith arweinydd yr wrthblaid yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol y llynedd. Does bosib nad yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod hon yn weithred o oferedd llwyr.
Oes rhaid iddo fe ddefnyddio plentyn naw mlwydd oed i ymladd ei frwydrau? A yw pethau cynddrwg â hynny yn UKIP bellach fel bod rhaid iddo feirniadu safbwynt plentyn naw mlwydd oed? Gallaf ddweud wrthych fod y safbwynt hwnnw yn gwneud mwy o synnwyr na llawer o'r safbwyntiau a glywais gan bobl yn ei blaid ef ei hun yn ystod y refferendwm. Roedd yn ymddangos ei fod yn cwyno fod yr eitem newyddion yn 'llenwad gordeimladol', yn chwarae ar—. A dyfynnaf:
chwarae ar yr emosiynau'r gwrandäwr er mwyn cefnogi naratif y rheini sy'n dymuno aros yn yr UE bod y bobl gas sy'n dymuno gadael yn atal ein plant rhag gallu chwarae â'u ffrindiau o dramor.
Nawr, os mai dyna lefel y drafodaeth wleidyddol y gall arweinydd UKIP ei chyrraedd, yna rhowch y plentyn naw mlwydd oed i mi unrhyw ddydd.
Wel, mewn gwirionedd, roedd y cyfeiriad penodol hwnnw—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. Mewn gwirionedd, roedd y cyfeiriad penodol hwnnw'n cyfeirio at sylw plentyn 11 mlwydd oed, a ddarlledwyd ddoe hefyd, pryd y dywedodd hi, pe byddem ni'n gadael, efallai na fyddai llawer o bobl sydd â ffrindiau yn Ewrop yn gallu dod i mewn. 'Rwy'n ymwybodol y gall pobl ddod i mewn i'r wlad efallai na fyddant bob amser yn gwneud pethau da, a gallant wneud pethau drwg, ond ar y llaw arall, mae ganddyn nhw berthnasau a ffrindiau. Mae'n well eu gweld nhw mewn bywyd go iawn yn hytrach na siarad ar Skype drwy'r amser a stwff.'
Wel, mae'r rhain—[Torri ar draws.] Mae'r rhain—[Torri ar draws.] Nid fi sy'n dod â phlant ifanc i mewn i'r ddadl wleidyddol. Gwleidyddoli plant yw'r arfer y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddilyn. Onid yw'n amhriodol gwleidyddoli plant yn y modd hwn er mwyn mynd ar drywydd agendâu gwleidyddol y Llywodraeth ei hun?
Beth mae arweinydd UKIP yn feddwl yw barn rhieni'r plant hynny ohono nawr? Yr hyn y byddan nhw'n ei weld yw gwleidydd yn y Siambr hon yn bychanu safbwyntiau eu plant at ei ddibenion gwleidyddol ei hun. Nawr, nid wyf i'n gwybod pa un a yw e'n ceisio gelyniaethu rhieni yn fwriadol i'w hatal rhag pleidleisio dros ei blaid, ond mae wedi gwneud gwaith rhagorol hyd yma.
Nid yw'n bychanu safbwyntiau plant o gwbl, ond mae lefel yr aeddfedrwydd a ddangosir yn y sylwadau hynny yn adlewyrchu eu hoedran wrth gwrs. Efallai fod y Prif Weinidog hyd yn oed yr un mor anaeddfed yn yr oedran hwnnw; wn i ddim. Ond nid yw plant saith i 11, wrth gwrs, yn aeddfed eto, ac mae eu safbwyntiau yn adlewyrchu hynny—er ein bod ni i gyd yn aeddfedu ac yna mae'n werth gwrando ar ein safbwyntiau, fel sylwadau o ddifrif mewn dadl wleidyddol, mae'n gwbl ryfeddol i mi fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd o ddifrif nawr. Rydym ni'n gwybod bod athrawon—[Torri ar draws.] Rydym ni'n gwybod bod addysg wleidyddol mewn ysgolion yn bwysig, ond mae hefyd yn bwysig y dylai fod cydbwysedd, ac y dylai plant gael eu haddysgu i fod yn feirniadol. O gofio bod y Times Educational Supplement, yn 2016, wedi cynnal arolwg barn ymhlith athrawon a oedd yn dangos bod 88 y cant ohonynt o blaid aros yn yr UE—75 y cant o athrawon; mae 88 y cant o ddarlithwyr Prifysgol o blaid aros yn yr UE—onid oes perygl, hyd yn oed yn isymwybodol, os bydd pynciau gwleidyddol o natur ddadleuol yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth bod y cydbwysedd hwnnw'n debygol o gael ei golli?
Gadewch i ni weld faint o bleidleisiau y mae arweinydd UKIP wedi llwyddo i'w colli—pleidleisiau athrawon, pleidleisiau rhieni, pleidleisiau llywodraethwyr, pleidleisiau neiniau a theidiau, y cwbl oherwydd ei fod wedi dewis, am resymau sydd y tu hwnt i mi, beirniadu aeddfedrwydd plant naw ac 11 mlwydd oed. Rydym ni wedi treulio ein hamser yn y Siambr hon, ym mhob plaid a bod yn deg, yn sôn am roi llais i blant. Nawr, mae e'n dweud—a, David Melding, fe'i clywais e'n ei ddweud, a chredaf fod y sylw yn briodol—y dylai plant gael eu gweld ac nid eu clywed, a dyna'n union y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud. Efallai yr hoffai fyfyrio ar y ffaith, wrth lwyddo i godi gwrychyn miloedd lawer o bobl ledled Cymru, bod plant, mewn gwirionedd, yn haeddu llais.