– Senedd Cymru ar 18 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig, ar y cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Rydw i'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig—Darren Millar.
Cynnig NDM6703 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:
a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;
b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac
c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. A gaf fi wneud y cynnig ar y papur trefn heddiw yn enw Paul Davies mewn perthynas â'r argyfwng cynyddol sydd gennym yma yng Nghymru o ran recriwtio athrawon? Os yw uchelgais Llywodraeth Cymru i bob dysgwr gyrraedd ei botensial llawn yn mynd i gael ei wireddu byth, rhaid i ni gael gweithlu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac yn barod i gyflawni'r nod hwnnw. Ond gwyddom fod arwyddion o argyfwng cynyddol yn ein hysgolion, ac ni fu digon o weithredu hyd yma i fynd i'r afael ag ef.
Mae gan Gymru y nifer isaf o athrawon a fu ganddi erioed ers y flwyddyn 2000. Mae nifer yr athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru drwy addysg a hyfforddiant cychwynnol i athrawon wedi gostwng o bron 2,000 yn 2003 i 1,060 ym mis Awst 2017. Nawr, yn dilyn adolygiad yn 2006, aeth Llywodraeth Cymru ati, yn gibddall braidd, i dorri niferoedd myfyrwyr hyfforddiant i athrawon, ac yn ychwanegol at y toriadau hyn, mae darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon wedi methu cyrraedd targedau recriwtio Llywodraeth Cymru ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae tua un o bob tair swydd uwchradd ôl-raddedig a thua 8 y cant o'r swyddi cynradd heb eu llenwi.
Gwyddom fod ffactorau penodol sy'n effeithio ar nifer yr ymgeiswyr newydd, gan gynnwys gofynion mynediad at gymwysterau, gwell cymhellion i hyfforddi mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, anawsterau i athrawon newydd allu sicrhau swyddi parhaol ar ôl cymhwyso, pryderon ynghylch ansawdd addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, ac wrth gwrs, pryderon ynghylch llwyth gwaith, gydag 88 y cant o'r athrawon a ymatebodd i arolwg gweithlu cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn dweud nad ydynt yn gallu rheoli eu baich gwaith, ac ar gyfartaledd, athrawon yn gweithio dros 50 awr yr wythnos. Nawr, o ganlyniad i hyn, bu newidiadau yn y cymysgedd staffio yn ein hysgolion. Mae'r gymhareb athrawon cofrestredig i weithwyr cymorth dysgu bron yn 1:1 bellach. Mae gofyn i'r holl athrawon ysgol newydd gwblhau cyfnod sefydlu statudol cyn cael eu cofrestru'n llawn gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, ac ers y gofyniad hwn, o safbwynt ansawdd, mae llai nag 1 y cant o'r 16,000 o athrawon newydd wedi methu cyrraedd y safonau hynny. Rwy'n tybio bod hynny'n codi cwestiynau ym meddyliau pawb ynglŷn ag a ydynt yn ddigon trylwyr.
Ac wrth gwrs mae'n ymwneud â mwy na staff addysgu'n unig. Mae penaethiaid hefyd dan bwysau. Yn ôl Cyngor y Gweithlu Addysg, o 1 Mawrth roedd ychydig o dan 1,500 o benaethiaid cofrestredig, sy'n ostyngiad o bron i chwarter ers 2003. Nawr, mae rhywfaint ohono wrth gwrs yn deillio o ganlyniad i gau ysgolion yng Nghymru. Gwyddom fod gan Lywodraeth Cymru a'i rhagflaenwyr record dda o gau ysgolion—ceir dros 160 yn llai, yn ôl Estyn, rhwng 2011 a 2017. Ond mae'n bryderus nodi hefyd fod nifer y ceisiadau am swyddi penaethiaid yng Nghymru wedi gostwng i lai na chwech ar gyfartaledd. Mae hyn o'i gymharu â dros 20 ar gyfartaledd yn ôl yn 2012, ac mae llawer o ysgolion yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd recriwtio penaethiaid. Unwaith eto, gwyddom fod yna bryderon ynghylch llwyth gwaith, ceir pryder ynghylch diffyg cyllid yng Nghymru, pryder am gyflymder y newid yng Nghymru, yn y maes addysg yng Nghymru, a'r baich sy'n gysylltiedig â thasgau rheoli a gweinyddu pan fo'r penaethiaid hyn eisiau cymorth. Ac wrth gwrs maent yn nodi pryderon am yr haenau lluosog o atebolrwydd sydd gennym yma yng Nghymru—awdurdodau addysg lleol, y consortia, Llywodraeth Cymru, y corff llywodraethu, disgwyliadau rhieni. Mae hyn i gyd yn ychwanegu pwysau ar benaethiaid ac yn arwain at wneud iddynt beidio â bod eisiau ymgeisio am swyddi newydd.
Yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae gennym bwysau mawr o ran recriwtio athrawon addysg cyfrwng Cymraeg. Mae data Llywodraeth Cymru yn dangos yn gyson fod nifer gyfartalog y ceisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg wedi bod yn is. Yn 2015 roedd y nifer gyfartalog o geisiadau am swyddi cyfrwng Cymraeg o dan bump o'i gymharu â thua 10 ar gyfer pob swydd yn hanesyddol, a gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer swyddi uwchradd yn ogystal. Chwarter yr holl athrawon a gofrestrwyd gyda Chyngor y Gweithlu Addysg sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym i fod i gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni, neu helpu i gyflawni'r nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad oes digon o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y cymysgedd yn iawn.
Hefyd mae gennym brinder mawr yn ein pynciau uwchradd, yn enwedig mewn rhai pynciau fel Saesneg, mathemateg, addysg grefyddol a Chymraeg, yn ogystal â'r pynciau STEM. Mae hynny'n arwain at nifer o ddosbarthiadau'n cael eu haddysgu gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc, ac o ganlyniad i hynny, mae'r safonau'n dechrau llithro. Nid oes ond raid ichi edrych ar y canlyniadau PISA i weld ein bod yn llithro ymhellach ac ymhellach i lawr y raddfa. Felly, rhaid inni roi trefn ar y llanastr hwn, a dyna pam y gwnaethom yr awgrym fod angen inni gael cynllun gweithlu addysg cenedlaethol sy'n gynhwysfawr, sy'n edrych ar recriwtio, sy'n edrych ar gadw athrawon ac sy'n creu ac yn sefydlu llwybrau newydd i addysgu ar gyfer categorïau sydd ar hyn o bryd wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Felly, am ryw reswm rhyfedd ni ystyrir bod darlithwyr addysg bellach, sydd wedi meithrin enw da am ddarparu canlyniadau TGAU a safon uwch rhagorol mewn addysg bellach, yn gymwys i addysgu yn ein hysgolion. Pam hynny? Mae'n gwbl wallgof.
Yn ogystal, mae gennym athrawon a hyfforddwyd dramor yma yng Nghymru a gellid eu hychwanegu hwy at rengoedd athrawon hefyd. Mewn rhannau eraill o'r DU cânt eu hystyried yn addas i allu addysgu, ond yng Nghymru, am ryw reswm, rydym wedi codi rhwystrau i'w hatal rhag addysgu yn ein hysgolion. Gwn am bennaeth o ysgol yn Awstralia, ysgol gyhoeddus yn Awstralia, na châi ei ystyried yn addas i allu addysgu yng Nghymru ac mae'n golled i'r gweithlu addysg yma. Nid yw'n dderbyniol. Wedyn wrth gwrs mae gennym gyfoeth o dalent yn ein hysgolion a'n colegau annibynnol a ddylai gael eu hystyried yn addas i allu addysgu yn ein hysgolion heb rwystrau diangen neu raglenni sefydlu sy'n cael eu gosod yn eu ffordd.
Gallwn barhau, Lywydd, ond mae amser yn brin. Hyderaf y bydd pobl yn cefnogi ein cynnig y prynhawn yma fel y gallwn gael y cynllun cynhwysfawr hwn ar waith a chefnogi'r diwygiadau addysg y mae pawb ohonom am eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru.
Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol?
Gwelliant 1. Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:
a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;
b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;
c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;
d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a
e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth?
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:
Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Rydw i'n falch iawn o fedru cynnig gwelliant 2 yn enw Plaid Cymru.
Mi gychwynnaf i drwy gyfeirio at adroddiad gan y BBC yn ôl ym mis Rhagfyr a oedd yn dangos bod cyllidebau ysgolion wedi disgyn tua £370 y pen am bob disgybl mewn termau real dros gyfnod o chwe blynedd. Nawr, nid oes rhyfedd, felly, fod rhai o'r undebau athrawon yn rhybuddio, fel gwnaeth yr NEU yn ddiweddar, fod yna crisis ariannu cudd yn ein hysgolion ni, er efallai y byddai rhai'n dadlau nad yw e mor gudd â hynny erbyn hyn. Mae Estyn hefyd, yn ei hadroddiad blynyddol cyfredol diweddaraf, a gyhoeddwyd rhyw fis yn ôl, yn pwyntio at effaith uniongyrchol y toriadau yna, drwy amlygu bod yna lai o athrawon cymwysedig yn ymwneud â'r cyfnod sylfaen yn ysgolion Cymru erbyn hyn. Ond rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, mai beth y mae toriadau i gyllidebau ysgolion yn golygu yw diswyddo athrawon, ac wedyn, fel rŷm ni'n ei ffeindio mewn peth o'r gwaith rŷm ni'n ei wneud fel pwyllgor, mae yna orfod defnyddio potiau eraill, fel y grant datblygu disgyblion ac yn y blaen, i drio cau ychydig ar y bwlch yna.
Ond yr hyn sy'n digwydd, wrth gwrs, oherwydd y toriadau yma, yw bod yna golli capasiti yn digwydd yn ein hysgolion ni—colli athrawon a cholli cymorthyddion dosbarth, sy'n gorfod cael eu diswyddo oherwydd y wasgfa ariannol. Wedyn, mae hynny, wrth gwrs, yn naturiol yn gadael mwy o bwysau ar y rheini sydd yn weddill. Nid yw hi felly ddim yn syndod bod yr undebau yn dweud wrthym ni hefyd fod yna grisis llwyth gwaith ymhlith athrawon yng Nghymru, ac rŷm ni eisoes wedi clywed cyfeiriad at rai ffigurau. Sut allwch chi anghytuno bod y sefyllfa'n annerbyniol pan fo'r Cyngor Gweithlu Addysg yn dweud bod 90 y cant o athrawon yn dweud nad ydyn nhw'n gallu rheoli llwyth gwaith o fewn eu horiau gwaith presennol, neu'r oriau gwaith sydd wedi'u cytuno? Fel y crybwyllwyd hefyd, ar gyfartaledd mae athrawon llawn-amser yng Nghymru yn gweithio 50 awr yr wythnos, ac athrawon rhan-amser yn gweithio 35 awr. Felly, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym ni? Pa syndod, felly—fel rŷm ni'n cyfeirio ato fe yn ein gwelliant ni—fod yr 21,000 o ddyddiau dysgu a gollwyd drwy absenoldebau yn sgil stres yn 2009 wedi mwy na dyblu i 52,000 yn 2015, gyda hefyd, wrth gwrs, niferoedd cynyddol o athrawon yn gadael y proffesiwn cyn amser? Gyda'r cyfrifoldeb, wrth gwrs, am dâl ac amodau athrawon yn cael ei ddatganoli i Gymru yn nes ymlaen eleni, mae'r amser wedi dod i edrych eto ar faint o amser sydd gan athrawon i wneud eu gwaith—ailedrych ar y cydbwysedd yna rhwng amser dysgu, amser paratoi ac amser hyfforddi a datblygu proffesiynol. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn cychwyn ar y broses o edrych ar rai o'r meysydd yma, a byddwn i'n pwyso'n drwm arni i ddefnyddio'r cyfle i fynd i'r afael â nifer o'r ffactorau yma.
Felly, pa ryfedd, o dan yr amgylchiadau presennol yma, ei bod hi'n anodd denu pobl i ddod i ddysgu, pan eu bod nhw'n gweld sefyllfa'r proffesiwn fel y mae hi. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod y targedau denu myfyrwyr i wneud ymarfer dysgu yn cael eu methu'n sylweddol. Dwy ran o dair o'r athrawon uwchradd sydd angen inni eu hyfforddi sydd yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd, felly mae hynny'n golygu y bydd yna broblemau dybryd ymhellach i lawr y lein, o safbwynt digonolrwydd y proffesiwn dysgu. Dyna pam y byddwn ni'n cefnogi galwad canolog y cynnig yma am gynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol. Mathemateg, cemeg, ffiseg, bioleg, ieithoedd modern, technoleg gwybodaeth, technoleg dylunio, cerddoriaeth—oll o dan eu targed recriwtio ar gyfer ymarfer dysgu. Gyda nifer yr athrawon Cymraeg newydd ar ei isaf ers degawd, gyda llaw, pa obaith, fel y clywsom ni, sydd yna i ni gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg os nad oes gennym ni'r athrawon i'w dysgu nhw?
Mae'n werth, fel y mae'r cynnig yn ei nodi, cydnabod y ddibyniaeth gynyddol sydd yn ein hysgolion ni ar gymorthyddion dysgu, ac mae yna gymaint ohonyn nhw, fel y clywsom ni, bron iawn yn awr ag sydd yna o athrawon cofrestredig erbyn hyn. Maen nhw'n rhan allweddol o'r gyfundrefn addysg, ond yn gweithio'n aml, wrth gwrs, am gyflogau pitw a ddim bob tro'n cael y gydnabyddiaeth y maen nhw'n ei haeddu. Ond rŷm ni yn gwybod bod 10 y cant ohonyn nhw—rhyw 3,000 o gymorthyddion dysgu cofrestredig yng Nghymru—yn raddedigion, ac mae angen, fel yr ymrwymon ni, fel plaid, rai wythnosau yn ôl yn ein cynhadledd flynyddol, i edrych ar y cyfleoedd sydd yna i greu cyfleoedd i'w hyfforddi nhw. Maen nhw eisoes wedi dewis yr ystafell ddosbarth fel eu gweithle, felly byddai rhywun yn tybio bod yna gynsail cryf yn fanna i gyfrannu tuag at gryfhau y gweithlu a sicrhau digonolrwydd y gweithlu i'r blynyddoedd i ddod. Ond, wrth gwrs, ar ben ei hunan nid yw hynny'n ddigon, ac mae'n rhaid taclo'r sefyllfa ariannu a llwyth gwaith neu, wrth gwrs, yn anffodus, fyddwn ni ddim nes i'r lan.
Hoffwn wneud ymyriad byr i dynnu sylw at y rôl a allai fod gan dechnoleg i'n helpu i ddatblygu cynllun gweithlu cadarn ar gyfer y dyfodol. Heddiw ddiwethaf, daeth y newyddion y bydd un o bob tair swydd yng Nghymru mewn perygl yn sgil awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar, a dengys y dadansoddiad hwnnw fod swyddi gyda thasgau cyffredinol ac ailadroddus—bydd modd i algorithmau a deallusrwydd artiffisial gymryd lle llawer ohonynt o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Ac mae Bill Gates wedi gwneud sylwadau ein bod yn aml yn gorbwysleisio cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld dros y ddwy flynedd nesaf, ond yn synied yn rhy isel ynghylch cyflymder y newid rydym yn debygol o'i weld dros y 10 mlynedd nesaf. Yn sicr, yn y degawd neu fwy nesaf, effeithir ar bob agwedd ar gymdeithas gan botensial deallusrwydd artiffisial, ac mae addysg yn sicr yn ganolog i hynny.
Mae'r gwelliant a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn dyfynnu ffigurau gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon sy'n dangos bod 50,000 o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â straen ac yn eu barn hwy, mae'r sefyllfa'n gwaethygu gyda thraean yn ystyried gadael y proffesiwn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ond mewn gwirionedd, gall harneisio technoleg helpu i leddfu'r straen ar athrawon a bod o gymorth mawr iddynt yn eu tasgau yn yr ystafell ddosbarth—tasgau cyffredinol—gan eu rhyddhau i wneud yr hyn y daethant i'r byd addysg i'w wneud—sef addysgu, meithrin, hyfforddi, arwain, ac mae gwir angen i ni fod yn meddwl, pan fyddwn yn trafod cynlluniau ar gyfer y gweithlu addysg yn y dyfodol, am y lle canolog sydd i dechnoleg ar gyfer rhyddhau potensial athrawon.
Fe soniaf am ychydig o enghreifftiau sy'n defnyddio'r dechnoleg sydd ar gael ar hyn o bryd. Un yw rhywbeth o'r enw Zzish, sef cynorthwyydd addysgu rhithiol sy'n helpu athrawon ar amrantiad i weld pa rai o'u myfyrwyr sydd angen help mewn amser real, beth sy'n peri anhawster iddynt drwy gymhwysiad asesu, sy'n caniatáu wedyn i'r athrawon olrhain perfformiad unigolion, y dosbarth cyfan, a gweld gwelliant amlwg dros amser. Dyna un enghraifft yn unig o'r technolegau sydd ar gael ar hyn o bryd, ac fel rwy'n dweud, gyda chyflymder y datblygiadau rydym yn debygol o'u gweld drwy ddatblygiadau artiffisial dros y 10 mlynedd nesaf, bydd y potensial hyd yn oed yn fwy.
Felly, fy apêl i'r holl Aelodau ac i'r Llywodraeth yw rhoi technoleg wrth wraidd eu syniadau ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'r sector addysgu fel nad ydynt yn teimlo eu bod wedi eu gorlwytho gan dasgau diflas, ailadroddus, sy'n peri straen, a bod modd eu rhyddhau mewn gwirionedd i wneud yr hyn y daethant i'r proffesiwn i'w wneud. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cytuno bod yna broblem gyda recriwtio a chadw athrawon. I ryw raddau, mae'r materion sy'n ymwneud â'r broblem hon yn gyffredin i Gymru a Lloegr, ond ceir rhai materion penodol yng Nghymru hefyd.
Mewn rhai ffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud bywyd yn anos iddi ei hun o ran recriwtio athrawon oherwydd gorddibyniaeth ar gymwysterau penodol. Oes, mae angen inni sicrhau bod gennym y bobl iawn yn mynd i'r proffesiwn addysgu, ond rydym hefyd yn gwybod na allwch fesur pethau, ac yn sicr ni allwch fesur pobl, drwy gymwysterau yn unig. Nawr mae gennym Weinidog addysg sy'n aml wedi gwneud y pwynt synhwyrol na allwn edrych ar ystadegau drwy'r amser; rhaid inni edrych ar bopeth yn ei gyd-destun. Rhaid inni weld y darlun ehangach. A chredaf y gallwn gymhwyso peth o'r meddylfryd hwnnw i recriwtio athrawon mewn gwirionedd. Felly, bydd y Gweinidog yn dilyn ei gwireb ei hun yn y mater hwn, gobeithio.
Yn ein barn ni, mae gorddibyniaeth ar gymwysterau'n golygu na all llawer o bobl brofiadol mewn bywyd, y byddai rhai ohonynt o leiaf yn addas ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu oherwydd nad oes ganddynt y cymwysterau perthnasol, a byddai'n costio gormod mewn arian ac amser iddynt ailhyfforddi. Gallem lacio'r rheolau ychydig mewn gwirionedd i'w gwneud yn haws i bobl ailhyfforddi.
Wrth edrych ychydig yn fwy manwl ar y cynnig heddiw, rydym yn cefnogi'r syniad o Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion ar gyfer Cymru. Byddem yn ychwanegu'r cafeat fod angen mewnbwn gan bobl sydd wedi cael trafferth mynd yn rhan o'r byd addysg, neu sydd wedi cychwyn yn y proffesiwn ac wedi ei adael wedyn yn gynnar, fel bod unrhyw gynllun o'r fath wedi'i deilwra i anghenion darpar athrawon addas sydd wedi methu mynd yn athrawon neu aros yn y byd addysg. Rydym am ei gwneud yn haws i ysgolion recriwtio athrawon, ac rydym yn credu bod llawer o alluoedd cyffredin amlwg yn mynd i fod gan diwtoriaid coleg ac athrawon mewn ysgolion annibynnol. Felly, dylid ei gwneud yn haws i'r grŵp hwn o bobl gael yr achrediad sy'n ofynnol fel y gallant ddod â'u set sgiliau i mewn i'r ystafelloedd dosbarth.
Mae'r Ceidwadwyr yn sôn hefyd am lwybr i addysgu ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Rydym wedi crybwyll mater cynorthwywyr addysgu mewn cwestiynau blaenorol i'r Gweinidog addysg. Credaf fod problem weithiau gyda chynorthwywyr addysgu yn yr ystyr eu bod yn canfod, ar ôl bod ar y cyrsiau perthnasol a chael eu cymwysterau, eu bod yn ddamcaniaethol yn cael eu symud i lefel uwch ond nid ydynt yn cael eu huwchraddio'n awtomatig i'r statws hwnnw o ran eu cyflogau, ac felly mae gennym gynorthwywyr addysgu ar lefel benodol nad ydynt yn gallu cael swyddi ar y lefel honno, ac mae hynny'n arwain at wneud rhai ohonynt yn sinigaidd ac i feddwl tybed ai'r unig reswm y cawsant eu hanfon ar y cyrsiau hyn yw er mwyn i'r cwmnïau neu'r cyrff sy'n cynnal y cyrsiau gael rhywbeth ohonynt yn hytrach na'r bobl sy'n cael eu hyfforddi. Gall cynorthwywyr addysgu fod yn ased gwerthfawr i ysgol. Weithiau, gallant fod mor effeithiol â rhai o'r athrawon sydd eisoes yn gymwysedig, ond nid oes ganddynt y peth sylfaenol hwnnw: y darn o bapur sy'n dweud bod ganddynt gymhwyster penodol. Felly, credaf y byddai llwybr gyrfa ar gyfer cynorthwywyr addysgu sy'n caniatáu iddynt fynd yn rhan o'r proffesiwn addysgu yn fwy hwylus yn syniad da iawn.
Felly, rydym yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw. Rydym hefyd yn cytuno â gwelliant Plaid Cymru, oherwydd fel y mae Plaid Cymru yn ei ddatgan yn eu gwelliant, rhaid inni edrych hefyd ar y gyfradd drosiant yn y proffesiwn addysgu, ac rwy'n siŵr eu bod yn gywir i gysylltu problemau cadw staff â phwysau gwaith. Yn ein barn ni, gallai nifer o ffactorau achosi'r pwysau hwn, ond ceir rhai sy'n eithaf cyffredin, gan gynnwys maint dosbarthiadau, ac rydym yn cytuno gyda'r hyn a ddywedodd y Gweinidog addysg yn y gorffennol—mae angen i ni gael dosbarthiadau llai o faint. Hefyd, mae angen inni symud oddi wrth y ffocws gormodol ar dargedau ac asesiadau. Yn y pen draw, pan fydd gennych ormod o'r rhain, byddant yn dod yn nod ynddynt eu hunain. Mewn geiriau eraill, yr hyn a fydd gennym fydd athrawon yn hyfforddi disgyblion i basio profion ac arholiadau yn hytrach na dysgu rhywbeth defnyddiol iddynt. Felly, un pwynt terfynol yw y byddai'n helpu pethau'n fawr pe bai addysgwyr bellach yn treulio amser yn meddwl am ysgrifennu cwricwla sydd, yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar gael disgyblion i basio arholiadau, yn ceisio dysgu rhywbeth defnyddiol i'r bobl hynny mewn gwirionedd. Diolch yn fawr iawn.
Hyd yn hyn, mae'n deg i Lywodraeth Cymru ddweud nad ydynt wedi meddu ar yr holl ddulliau sydd eu hangen arnynt i fynd i'r afael â phrinder athrawon, ond o'r flwyddyn nesaf, Llywodraeth Cymru fydd yn pennu cyflog ac amodau athrawon. O hynny ymlaen, ni all fod unrhyw esgus os na welwn welliant o ran recriwtio athrawon.
Yn ogystal â gwella telerau ac amodau, mae angen inni gynyddu nifer y llwybrau i mewn i'r byd addysg. Soniodd Darren am athrawon addysg bellach, athrawon o wledydd tramor, athrawon o ysgolion annibynnol. Soniodd Llyr am gynorthwywyr addysgu. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymuno â mi i ganmol Teach First, a fu'n gwneud gwaith ardderchog yn ddiweddar gyda Chonsortiwm Canolbarth y De. Maent wedi cynnig ffordd newydd i mewn i'r byd addysg, ac yn fwy diweddar maent wedi ei gymhwyso hefyd i'r rhai sy'n dod i mewn drwy newid gyrfa na fyddent fel arall o bosibl wedi gallu ymrwymo amser i dystysgrif addysg i raddedigion. Dylem geisio lledaenu'r model hwnnw ymhellach ar draws Cymru, a hyderaf y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gweithredu i wneud hynny yn awr.
Mae angen inni hefyd edrych ar gadw athrawon. Mae llawer gormod o athrawon yn gadael y proffesiwn yn gynnar yn eu gyrfa a byth yn dychwelyd, ac fel y mae Plaid Cymru yn nodi yn eu gwelliant, mae traean yr athrawon yn ystyried gadael y proffesiwn yn y dyfodol agos. Adroddodd arolwg ComRes diweddar fod bron dri chwarter yr athrawon sy'n dweud eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn yn gwneud hynny oherwydd llwyth gwaith gormodol.
Nawr, mae gan Ysgrifennydd y Cabinet uchelgais, rwy'n deall, i leihau maint dosbarthiadau i 25 ar gyfer dosbarthiadau babanod, ond sut ar y ddaear y gellir gwneud hynny mewn amgylchedd lle mae gennym y pwysau a'r methiant i recriwtio'r nifer o athrawon o ansawdd sydd eu hangen arnom? A fydd yr athrawon hyn yn dysgu mwy o ddosbarthiadau am fod llai o ddisgyblion mewn dosbarthiadau ar gyfartaledd, neu o ble y daw'r arian? Efallai y gallem weld cyfran uwch o'r hyn a gedwir yn Llywodraeth Cymru neu yn yr awdurdodau addysg lleol yn mynd i'r ysgolion i gefnogi addysgu'n uniongyrchol.
Tybed hefyd i ble'r ydym yn mynd o ran y cynorthwyydd addysgu a'r model cymorth. Mae gennym y gymhareb un i un y cyfeiriodd Darren ati yn awr, ac eto cawn lawer mwy o gwynion ynghylch llwyth gwaith gormodol nag a gawsom erioed o'r blaen, ac ymddengys ei fod yn gwaethygu o un flwyddyn i'r llall. Sut y mae denu rhagor o athrawon at y proffesiwn o gofio hynny? A yw'r cynorthwywyr addysgu hyn a'r addysgu mewn grwpiau bach yn hytrach na dosbarth cyfan am fwy o amser—a ydynt yn ychwanegu at y beichiau y mae athrawon yn eu hwynebu y tu allan i'r amser addysgu dosbarth uniongyrchol? Ac yn y pen draw, ai'r ffordd o ddenu mwy o bobl i addysgu yw rhoi codiad cyflog sylweddol i athrawon? Ond sut y gallem fforddio hynny, a beth a welwn o fodelau tramor, lle nad yw'r dystiolaeth a'r astudiaethau academaidd yn cefnogi uchelgais yr Ysgrifennydd Addysg yn arbennig o ran maint dosbarthiadau fel ffactor allweddol sy'n sbarduno perfformiad.
Ceir systemau addysg—mae Singapôr yn un a ddaw i'r meddwl yn glir—lle y gallai maint dosbarthiadau fod yn fwy ond lle mae gennych athrawon o ansawdd uchel iawn o'r sefydliadau uchaf, yn cael y graddau gorau, ac yn cael eu denu i addysgu, yn aml drwy gyflogau uwch, ac mewn rhai systemau mae ganddynt ddosbarthiadau mwy o faint nag sydd gennym ni yma. Nid wyf yn cyflwyno hwnnw fel y model y buaswn yn ei roi ar gyfer y dyfodol, ond rwy'n gofyn y cwestiwn: ai drwy ffocws yr Ysgrifennydd Addysg ar leihau maint dosbarthiadau babanod i 25 y mae denu mwy o bobl at y byd addysg, neu drwy dalu cymaint ag sydd angen i ni ei wneud i athrawon o ansawdd uwch er mwyn eu denu at y proffesiwn, hyd yn oed os golyga hynny nad oes gennym gymaint o'r cymorth a'r gefnogaeth addysgu rydym wedi'i weld yn datblygu ond nad yw'n ymddangos ei fod wedi lleihau'r cwynion gan athrawon ynghylch llwyth gwaith gormodol sy'n parhau i gynyddu?
Mae arolwg ComRes hefyd yn awgrymu mai un o'r camau cadarnhaol y gellid eu cymryd i gadw mwy o athrawon yn y proffesiwn yw mwy o ddatblygiad proffesiynol a mwy o gyfleoedd i ymgymryd â rolau arwain. Pe baem yn cyfeirio mwy o arian tuag at wella safonau addysgu a gwella datblygiad proffesiynol, efallai y gallem gadw mwy o athrawon, yn ogystal â'i wneud yn broffesiwn mwy deniadol i bobl fod yn rhan ohono. Yn hynny o beth, rwy'n croesawu academi newydd yr Ysgrifennydd Addysg a'i hangerdd amlwg yn ei chylch, a'r ymateb cadarnhaol a glywais gan addysgwyr. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau newydd dros delerau ac amodau ac yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i atal yr argyfwng mewn addysg yng Nghymru.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf mewn gwirionedd mai dadl hanner awr yn unig yw hon, sy'n golygu mai cwta bedair munud sydd gennyf i grynhoi, oherwydd mae yna rai pethau rwy'n cytuno'n angerddol â'r hyn y mae Aelodau wedi'i ddweud yn eu cylch y prynhawn yma, ac mae yna rai pethau rwy'n anghytuno'n chwyrn â hwy y prynhawn yma.
Gareth, a gaf fi fod yn gwbl glir, mae yna werth cynhenid mewn plant yn gadael ein hysgolion ag arholiadau a chymwysterau sy'n caniatáu iddynt symud ymlaen at rywbeth arall? Gall ein system addysg ymwneud â mwy na hynny, ond nid yw dweud nad ydym yn gwneud rhywbeth defnyddiol i'n plant drwy eu cael i basio profion, arholiadau ac i ennill cymwysterau yn un ohonynt. A rhaid i mi ddweud bod yn rhaid inni, Mr Reckless, weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol y caiff ei ddarparu ynddo. Ac nid wyf yn meddwl y byddai llawer o rieni yng Nghymru eisiau gweld yr effeithiau ar les plant mewn llawer o'r gwledydd, gan gynnwys Singapôr, y sonioch chi amdanynt yn y system addysgol yma. Yn wir, aeth grŵp o rieni i'r dwyrain pell yn ddiweddar i edrych ar ddulliau addysg yno, a dywedodd un rhiant wrthyf, 'Beth bynnag a wnewch i wella'r sefyllfa yng Nghymru, os gwelwch yn dda, peidiwch â gwneud i fy mhlentyn wneud yr hyn a welsom pan ymwelsom â'r gwledydd hynny.' Felly, rhaid inni weld addysg yn y cyd-destun diwylliannol, ond a yw hynny'n golygu y gallwn wneud yn well? Wrth gwrs ei fod, ac fe wyddoch fy mod yn benderfynol o wneud yn well gan mai dyna yw fy nghenhadaeth i, dyna yw cenhadaeth genedlaethol y Llywodraeth hon, sef darparu system addysg ddiwygiedig a llwyddiannus yng Nghymru ar gyfer ei phobl ifanc. System addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac rwy'n cydnabod, yn anad dim arall, mai ansawdd yr addysgu sy'n trawsnewid bywydau pobl ifanc, ac felly mae'n hanfodol fod ein diwygiadau'n cynnal cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da yn sail i'n taith ddiwygio genedlaethol.
Mae athrawon yfory yn gwbl ganolog i'n cenhadaeth genedlaethol, ac rwyf wedi datgan yn glir iawn fy ymrwymiad i ddenu a chadw mwy o raddedigion â chymwysterau da yn y byd addysg gan nad yw ein pobl ifanc—eich plant, fy mhlant i, ein plant i gyd—yn ei haeddu dim llai. Dyna pam y mae angen i bob athro yng Nghymru fod yn gymwysedig, yn wahanol i wledydd eraill fel Lloegr, lle mae'r defnydd o bobl heb gymhwyso yn yr ysgolion yn tyfu'n gyflym. Mae'r gyfradd o swyddi athrawon gwag yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i fod yn gymharol isel, er mai fi fyddai'r gyntaf i gyfaddef y gall fod anawsterau lleol weithiau wrth recriwtio i rai pynciau a rhai cyfnodau penodol.
Nawr, mae gwelliant Plaid Cymru yn datgan bod arolwg diweddar y gweithlu cenedlaethol yn dangos bod 34 y cant o athrawon wedi dweud eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn. Mater o ffaith yw hynny. Eto i gyd, o roi hyn mewn persbectif, o gyfanswm o 30,610 o addysgwyr, dywedodd ychydig dros 1,600 eu bod yn ystyried gadael y proffesiwn, ac yn achos rhai ohonynt gallai fod o ganlyniad i ymddeol. Ar y llaw arall, rwy'n falch fod 47 y cant o athrawon yn datgan eu bod yn ystyried parhau i ddatblygu a chryfhau eu gwaith, gydag eraill yn awyddus i symud ymlaen i rolau arwain. Buaswn yn cytuno â chi, Mark, fod sicrhau bod gennym ymagwedd genedlaethol gyson tuag at ddysgu proffesiynol a datblygu gyrfa yn wirioneddol bwysig, ac rydym yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod hefyd fod mater llwyth gwaith yn bwysig iawn hefyd, ac rydym parhau i weithio gyda'r undebau ac arbenigwyr mewn perthynas â llwyth gwaith, yn enwedig drwy brism datganoli cyflog ac amodau athrawon.
O ran recriwtio, Ddirprwy Lywydd, ym mis Hydref cyhoeddais gynllun cymhelliant gwell ar gyfer pynciau â blaenoriaeth, a chynllun cymhelliant newydd yn targedu myfyrwyr ôl-raddedig cyfrwng Cymraeg i fynd i'r afael â rhai o'r cymhlethdodau sy'n ein hwynebu. Mae llawer o'r pwyntiau a godwyd y prynhawn yma eisoes ar y gweill. Mae'r bwrdd cynghori ar recriwtio a chadw athrawon a sefydlwyd gennyf yn adolygu tystiolaeth ryngwladol i ystyried sut y gallwn gynorthwyo pobl i ddod yn rhan o'r proffesiwn—pawb sy'n dymuno dod yn rhan o'r proffesiwn drwy lwybrau amgen. Mae hynny'n golygu pobl sy'n dymuno newid gyrfa. Mae'n golygu athrawon tramor. Yn wir mae'n golygu cynyddu sgiliau pobl sydd eisoes yn y gweithlu addysg ond am gael statws athro cymwysedig. Ond wrth wneud hynny, ni fydd ar draul gostwng safonau. Rwy'n benderfynol o gynnal safon sy'n ofynnol gan bobl sy'n mynd yn rhan o'r proffesiwn. Ni fyddem yn dweud rhai o'r pethau hyn am y proffesiwn meddygol, fyddem ni? Ni fyddem yn ei dderbyn ar gyfer y proffesiwn hwnnw, a pham y byddem yn ei dderbyn yn yr achos hwn?
Ond mae yna ffyrdd y gallwn ganfod ffyrdd newydd i bobl gyrraedd yr ystafelloedd dosbarth os mai dyna yw'r alwedigaeth a ddymunant, oherwydd rwyf am i addysgu yng Nghymru fod yn broffesiwn dewis cyntaf, fel y gallwn ddenu'r goreuon, a bydd ein cynnig addysg gychwynnol athrawon diwygiedig yn sicrhau y bydd mwy o bobl eisiau hyfforddi yng Nghymru a bydd yn rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt yn eu gyrfaoedd. Mae'r diwygiadau hyn yn galluogi'r proffesiwn i chwarae rôl ganolog yn cyflawni ac yn arwain newid, yn ogystal â chreu system sefydlog o ansawdd uchel sy'n galluogi sefydliadau ac unigolion i ffynnu. A bydd yn gwneud yn union hynny, Gareth: bydd ein hathrawon yn rhan hanfodol o ddatblygu ein cwricwlwm newydd. Byddant ar y blaen yn hynny.
Rwyf wedi sefydlu'r academi arweinyddiaeth a fydd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, fel bod arweinwyr ac arweinyddiaeth yn cael eu cynorthwyo i wireddu amcanion ein cenhadaeth genedlaethol—cefnogi penaethiaid presennol a meithrin rhai sydd am fynd ymlaen i arwain ysgolion Cymru. Bydd yr academi yn ymgysylltu ag arweinwyr, yn nodi tystiolaeth ryngwladol ac yn creu rhwydwaith ar gyfer cydweithio i helpu i lywio'r proffesiwn a gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc.
Ddirprwy Lywydd, mae amcan cyffredinol ein cenhadaeth genedlaethol yn syml, yn glir ac yn uchelgeisiol. Gan weithio gyda'n holl bartneriaid, byddwn yn codi safonau, byddwn yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac fel y dywedais, byddwn yn darparu system addysg sy'n ffynhonnell balchder cenedlaethol ac yn mwynhau hyder y cyhoedd. Ac er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn helpu pawb, gan gynnwys pawb sy'n addysgu yn ein hysgolion, i fod y gorau y gallant fod, fel y gallant hwy, a'r plant y maent yn eu haddysgu, gyrraedd eu potensial llawn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Gwn nad oes gennyf lawer o amser, felly hoffwn gyfeirio'n unig, os caf, at sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet. Clywais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud, ac rwy'n cydnabod bod rhywfaint o waith yn digwydd yn Llywodraeth Cymru ar geisio mynd i'r afael â'r broblem hon. Rwy'n falch eich bod o leiaf yn cydnabod bod gennym broblem, hyd yn oed os nad ydych yn cydnabod ei fod yn argyfwng. Yr hyn sy'n peri penbleth i mi yw pan oeddech yn yr wrthblaid, fe wnaethoch ddatblygu darn cynhwysfawr o ddeddfwriaeth ar lefelau staff nyrsio, gwaith a alwai am gynllun gweithlu ac ymdrech genedlaethol. Pam y gwrthodwch gynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer ein system addysg, ar gyfer ein hysgolion? Pam y dywedwch nad ydych eisiau gweithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar ddatblygu un? Oherwydd dyna a wnewch drwy wrthod ein cynnig heddiw. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Rydych yn dweud mai ansawdd yr addysgu yw'r hyn sy'n bwysig, ac nad ydych yn barod i ostwng yr ansawdd a chael athrawon heb gymhwyso yn ein hystafelloedd dosbarth, ac eto dyna'n union sydd gennym. Mae gennym bobl nad ydynt yn gymwys i gyflwyno gwersi Saesneg, ac eto mae 20 y cant o'n gwersi Saesneg yn cael eu dysgu gan bobl sydd heb gymhwyster i ddysgu Saesneg fel eu pwnc penodol. Mae'n 17 y cant mewn mathemateg; mae'n 27 y cant mewn addysg grefyddol; ac nid yw 23 y cant o'r athrawon sydd mewn gwersi Cymraeg yn gymwys i ddarparu gwersi Cymraeg.
Felly, y realiti yw bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn cefnogi system sy'n parhau i fod â phobl nad ydynt yn gymwys i gyflwyno'r pynciau penodol hynny yn y meysydd hynny. Felly, gwrandewch ar synnwyr cyffredin, gadewch inni gael cynllun gweithlu addysg cenedlaethol, gadewch inni wneud yn siŵr eich bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid i'w ddatblygu, gadewch inni edrych ar y llwybrau newydd hyn i mewn i'r proffesiwn addysgu ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu, i bobl mewn addysg bellach a phobl sy'n gymwys drwy brofiad. Gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau rhyngwladol da, gwael a chymedrol yn rhan o'r broses ddysgu honno, a gwneud yn siŵr fod gennym weithlu addysg sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.