– Senedd Cymru am 7:01 pm ar 18 Ebrill 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl frys ar gyrchoedd awyr y DU ar Syria, a galwaf ar Leanne Wood i agor y ddadl frys. Leanne Wood.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. 'Gwaith ar ben'—dyna oedd geiriau'r Arlywydd Trump yn dilyn yr ymosodiadau awyr gan yr UDA, Ffrainc a Phrydain ar y cyd ar Syria y penwythnos diwethaf. Lladdwyd 400,000 amcangyfrifedig o Syriaid ers dechrau'r rhyfel yn 2011. Mae dros 5.6 miliwn o Syriaid wedi ffoi o'r wlad yn ôl y Cenhedloedd Unedig, a chafodd 6.1 miliwn o bobl eu dadleoli o fewn y wlad. Mae cyfundrefn Assad yn parhau i fod mewn grym, ac mae uwch-gadfridogion, gan gynnwys y Cyd-bennaeth Staff yn y Pentagon, wedi dweud bod Assad yn dal i allu defnyddio arfau cemegol ar ôl yr ymosodiad. Nid yw hynny'n swnio fel 'gwaith ar ben' mewn unrhyw fodd.
Hoffwn ymdrin â thri mater canolog yng Nghynulliad Cymru a'n rôl yn cefnogi ac yn rheoli canlyniadau ofnadwy rhyfel Syria. Yn gyntaf hoffwn geisio eglurhad gan y Prif Weinidog ynglŷn â'i safbwynt ynghylch yr ymosodiadau awyr ar y penwythnos. Yn ail, hoffwn drafod cost ariannol a pherthnasol yr ymosodiad, cyn symud ymlaen i drafod sut y gallwn ddyblu ein hymdrechion i gynnig hafan ddiogel i'r rhai sy'n ymdopi â chanlyniadau rhyfel cartref Syria.
Cyn imi symud ymlaen at fy araith go iawn, hoffwn ailadrodd fy siom fod Aelodau o fainc flaen Llafur yn teimlo nad oedd hwn yn fater digon arwyddocaol i gyfiawnhau dadl. Mae methu cefnogi galwadau Plaid Cymru am ddadl ar y mater hwn nid yn unig yn siomedig ond yn rhyfedd, o ystyried galwadau eu cydweithwyr am fwy o graffu seneddol ar y mater yn San Steffan.
Ddoe, mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, holais gwestiwn syml i'r Prif Weinidog: a yw'n ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i'r ymyrraeth filwrol yn Syria? Roedd ei ateb yn ochelgar fel arfer. Heb i unrhyw bleidlais gael ei gwneud yn unrhyw un o Seneddau'r DU, fore Sadwrn rhoddodd y Prif Weinidog ei gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i phenderfyniad i ymuno yn y bomio a arweiniwyd gan America. Roeddwn am roi cyfle arall, heddiw, i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn hwnnw. Heb unrhyw gymeradwyaeth seneddol, a yw'r Prif Weinidog yn ategu ei ddatganiad o gefnogaeth i Brif Weinidog y DU a'i hymosodiad awyr, gan iddi honni ei fod er budd cenedlaethol Prydain? Ac o wybod yn awr nad yw'r ymosodiad awyr wedi lliniaru gallu cyfundrefn Syria i ddefnyddio arfau cemegol na newid cwrs y gwrthdaro, a yw'n dal i gefnogi'r ymosodiad? Ond nid yw yma ar gyfer y ddadl hon. Rwy'n mawr obeithio y caiff hyn ei ddwyn i'w sylw, a'i fod yn gallu ateb y cwestiynau pwysig hyn maes o law.
Nid yw ymosodiadau symbolaidd yn gwneud llawer i helpu pobl druenus Syria sydd angen ateb i'r hyn sy'n argyfwng gwleidyddol a thrychineb ddynol yn hytrach na rhagor o fomiau.
Mae rhyfel yn weithgarwch drud. Wrth gwrs, i rai, mae'n broffidiol. Mae gweld cyfrannau cwmnïau fel BAE Systems yn codi gyda'r posibilrwydd o ragor o wrthdaro yn dangos y strwythurau corfforaethol ffiaidd sy'n sail i'r sefydliad amddiffyn.
Lansiodd awyrennau Typhoon a Tornado Prydain wyth o daflegrau Storm Shadow. Yn ôl cwestiwn seneddol yn 2011, mae pob un o'r taflegrau hyn yn costio £790,000. Dengys cyfrifiad bras ein bod yn edrych ar gost o fwy na £6.3 miliwn ar gyfer yr un ymosodiad a gyflawnwyd ar y penwythnos. Nid yw hyn yn cynnwys costau'r awyrennau a ddefnyddiwyd i danio pob un o'r bomiau gwerth £0.75 miliwn hyn. Pan fo angen arian i dalu pensiwn teg i'n menywod WASPI, mae'r coffrau'n wag. Pan fo diwygiadau lles crintachlyd a chreulon yn peri i bobl gyflawni hunanladdiad oherwydd anobaith, dywedir wrthym nad oes arian ar ôl. Mae pob un ohonom yma wedi colli asedau a gwasanaethau gwerthfawr yn y cymunedau a gynrychiolwn oherwydd cyni, ond yn achos arfau rhyfel, ymddengys bod gan y wladwriaeth Brydeinig bocedi dwfn iawn. Mae'n warthus fod San Steffan yn gallu honni bod gwario miliynau ar fomio gwledydd tramor o fudd yn genedlaethol tra bo menywod a dynion digartref yn cael clywed nad oes arian ar gael i roi llety iddynt.
Mae gennyf gywilydd dweud bod record Cymru ar ffoaduriaid o Syria yn parhau i fod yn siomedig. Wrth ollwng bomiau ar y genedl hon sydd wedi ei rhwygo gan ryfel, mae'n bosibl iawn fod y wladwriaeth Brydeinig yn creu mwy o ffoaduriaid ar yr un pryd ag y mae'n gwrthod cyflawni ei rhwymedigaethau presennol. Cymerodd Cymru ychydig dros 300 o ffoaduriaid y llynedd, ac rwy'n falch o ddweud mai cyngor dan arweiniad Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin a roddodd gartref i'r rhan fwyaf—51—pob un ohonynt o Syria. Eto i gyd nid oedd rhai cynghorau—gweinyddiaethau Llafur ym Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot—wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid hyd at ddiwedd y llynedd. Cywilydd. Rwy'n erfyn ar y Prif Weinidog i siarad â'i gyd-Aelodau yn y blaid a'u cael i symud ar y mater hwn. Yma, yn ein Senedd genedlaethol, yn ein cynghorau ac yn ein cymunedau, gallwn achub bywydau. Gallwn gynnig hafan ddiogel i'r bobl druenus hyn. Mae gennym ddyletswydd foesol i weithredu, ac rwy'n dweud eto wrth y Prif Weinidog fod yn rhaid iddo weithredu yn awr i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth a all i helpu pobl sy'n ffoi rhag y rhyfel erchyll hwn.
I gloi, fe ellid ac fe ddylid dweud llawer mwy am y mater hynod o gymhleth a phwysig hwn. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, hoffwn gloi gyda'r un safbwynt ag a roddais ar y cychwyn: nid yw Plaid Cymru yn cefnogi'r ymosodiad awyr symbolaidd hwn dan arweiniad America ar Syria, ac unwaith eto rwy'n atgoffa'r Aelodau nad yw'r llwybr i heddwch byth wedi ei balmantu ag arfau rhyfel.
A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod wedi pleidleisio o blaid cael y ddadl hon? Yr ail beth yw hyn: rwy'n falch iawn o weld bod Theresa May wedi dod o hyd i'r goeden arian ddrwgenwog hon er mwyn gallu ariannu bomio Syria. Rwy'n credu hefyd, os ydym yn byw mewn democratiaeth seneddol, y dylai Senedd San Steffan fod wedi cael cyfle i bleidleisio ar y penderfyniad i fynd i ryfel ac ymosod ar wlad arall neu beidio, ac nid oedd yn rhaid inni weithio yn ôl amserlen Donald Trump. Os edrychwch ar yr hyn a wnaethom hyd yn hyn, roeddem eisiau bomio Syria, a fyddai ond wedi helpu Assad, a fyddai ond wedi helpu Isis. Yna, fe fomion ni Isis i helpu Assad. Nawr, rydym yn ôl yn bomio Assad, a fyddai ond yn helpu Isis. Mae bron fel pe bai gennym bolisi , 'A allwn gadw'r rhyfel cartref hwn i fynd cyhyd ag y bo modd?'
Ni wnaethom fomio safle arfau cemegol, diolch byth. Sut y gwn i hynny? Oherwydd na fu farw miloedd a miliynau o bobl. Oherwydd pe baech yn bomio ffatrïoedd arfau cemegol, mae'r cemegau'n cael eu gollwng i'r atmosffer. Gallai''r dwyrain canol i gyd fod wedi cael ei orchuddio gan ba arfau cemegol bynnag oedd i fod yno. 'A', rydych yn dweud, 'nid ydynt wedi cael eu cymysgu eto'. Wel, gadewch i ni ddweud nad ydynt wedi cael eu cymysgu—pan fyddwch yn eu bomio, beth rydych chi'n ei wneud gyda'r cemegau ond eu cymysgu? Pe baech wedi bomio ffatri glorin byddem wedi creu hafoc llwyr. Ond mae'n ymddangos bod gennym bolisi o fomio dros heddwch. Mae'n fy atgoffa o'r syniad canoloesol o waedu bobl er mwyn eu gwella. Nid oes yr un ohonynt yn gweithio.
Mae gwir angen inni ymyrryd yn Syria. Gweithiodd yn dda iawn yn Irac ac fe weithiodd mor dda yn Libya. Ar ôl cymaint o lwyddiant—. Dywedodd rhywun unwaith, pan oeddem yn arfer rhannu gwledydd, 'Nid oedd wedi gweithio hyd hynny, ond roeddem yn gobeithio y byddai'n gweithio'r tro nesaf.' Nid oedd y tro nesaf byth yn gweithio. Nid yw bomio gwledydd byth yn gweithio. Yr unig ffordd o ddatrys hyn yw drwy negodi, a rhaid i ni gael heddwch yn y dwyrain canol ac mae angen inni gael heddwch yn Syria. A'r peth arall yw hyn: mae achos gwaeth yn digwydd yn y byd heddiw, sef Yemen: yr ardal na feddylir amdani, na siaradir amdani, lle mae plant yn marw bob dydd, ond oherwydd bod Saudi Arabia ynghlwm wrth hynny, mae'r gorllewin ofn mynd i'r afael â hynny.
Rwy'n falch o ddweud bod grŵp y Ceidwadwyr wedi pleidleisio dros ganiatáu i'r ddadl fynd rhagddi y prynhawn yma. Credaf ei bod yn bwysig pan ddaw cynigion mor ddifrifol â hyn gerbron—neu mor bwysig â hyn yn hytrach na difrifol—fod y Cynulliad yn cael cyfle i fynegi ei farn. Rwy'n anghytuno â barn arweinydd Plaid Cymru. Rwy'n anghytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Ddwyrain Abertawe y prynhawn yma. Ond yn y pen draw, democratiaeth ydym ni, Siambr drafod yw hon, dyna yw ein rôl.
Rwy'n cefnogi'r pwynt a wna arweinydd Plaid Cymru ei bod hi'n anffodus nad yw Prif Weinidog Cymru wedi dod yma ar gyfer dadl bwysig arall heddiw. Ac mae hon yn ddadl bwysig, oherwydd dros y penwythnos, fel yr amlinellwyd yn y sylwadau agoriadol, fe wnaeth y Prif Weinidog—. Ac ni ffoniodd Theresa May Carwyn Jones oherwydd mai Mr Jones o Ben-y-bont ar Ogwr ydoedd. Fe ffoniodd hi Carwyn Jones oherwydd mai ef oedd Prif Weinidog Cymru ac oherwydd hynny, siaradai ar ran y Llywodraeth. Rwy'n tybio bod y gymeradwyaeth a roddodd y Prif Weinidog, sydd i'w chroesawu am fy mod yn credu bod y camau a gymerwyd gan y Prif Weinidog yn gywir, yn briodol ac yn gymesur—. Ond rwy'n mynd yn ôl at y pwynt am y Prif Weinidog yn rhoi'r gymeradwyaeth honno, a'i gymeradwyaeth oedd, 'Fe gynigiais fy nghefnogaeth i unrhyw ymyrraeth', a dyna oedd y geiriau a ddywedodd, felly roedd yn amlwg yn siarad ar ran y Llywodraeth, a phleidlais y Llywodraeth yma heddiw, rwy'n tybio. Ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth honno, ydw, ond byddai wedi bod yn dda clywed ganddo yma heddiw ynghylch ei ddadleuon a'i bwyntiau ynglŷn â pham y gallodd roi'r gefnogaeth honno, oherwydd mae yna gyd-Aelodau yn y Blaid Lafur—Jo Stevens, er enghraifft, ac Arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan—sydd wedi gwneud pwynt teg nad ydynt yn credu bod yr ymosodiadau'n gyfreithlon. Nawr, rwy'n anghytuno â hynny, ond fel y dywedais, rydym yn byw mewn democratiaeth ac mae'n rhaid i bwyntiau gael eu gwneud, a phan fyddwch yn gwneud y pwynt rhaid i chi esbonio wedyn pam yr ydych yn arddel y pwynt a wnaethoch a'r ymrwymiad a wnaethoch.
Fel y dywedais, o feinciau'r Ceidwadwyr, fe bleidleision ni dros gael y ddadl y prynhawn yma. Fel grŵp, rydym yn cefnogi'r modd cymesur a phendant y mae Prif Weinidog y DU wedi gweithredu ar fater penodol. Nid yw'n ymwneud â newid y gyfundrefn, ond â'r defnydd erchyll o arfau cemegol a'r lluniau a welsom yn dod o Syria dros y penwythnos—y penwythnos yn syth ar ôl y Pasg—lle'r oedd plant yn sgrechian mewn poen, lle'r oedd oedolion yn sgrechian mewn poen, a gwyddom fod o leiaf 70 a mwy o bobl wedi marw oherwydd yr ymosodiad cemegol hwnnw.
Gwyddom fod Senedd y DU wedi pleidleisio yn 2013 dros beidio ag ymyrryd yn filwrol i atal rhyfela pellach neu ryfel cemegol yn Syria. Yn anffodus, ataliodd y bleidlais honno, yn fy meddwl i a meddyliau llawer o bobl eraill, ledaeniad rhagor o ymosodiadau cemegol yn y cyfamser hyd at y penwythnos diwethaf.
Ie, Mike.
Buaswn yn dweud—[Anghlywadwy.]—bod gwneud yr ymyrraeth honno wedi atal Isis rhag cael rheolaeth ar y wlad.
Wel, dyna farn y gallech ei chyflwyno, ond rwyf wedi sylwi yr wythnos hon fod llawer o bobl a bleidleisiodd i atal y cyrchoedd awyr hynny—cyrchoedd awyr penodol, gallwn ychwanegu, oherwydd nid oedd yn fandad penagored—cyrchoedd awyr penodol, bellach yn difaru eu bod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw. Ond bydd hanes yn dangos inni beth a gyflawnwyd, a'r hyn a wyddom yw bod Assad wedi parhau i ddefnyddio arfau cemegol yn ddiwahân yn erbyn y boblogaeth sifil i hyrwyddo ei amcanion, ei amcanion barbaraidd.
Nid wyf yn gwybod a oedd yr Aelod yn mynd i roi sylw i'r pwynt hwn, sef—. Cyfeiriodd yn awr at y bleidlais yn 2013, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, ac rwy'n cymeradwyo David Cameron am alw'r bleidlais honno, ac am alluogi'r Senedd i benderfynu hyn. A yw'n teimlo bod Prif Weinidog y DU yn iawn i roi'r camau hyn ar waith? Mae'n cytuno gyda'r ymosodiadau—rwy'n derbyn ei bwynt ar hynny—ond a yw'n teimlo bod y Prif Weinidog yn gywir i weithredu heb ailymgynnull y Senedd a chael pleidlais yn y Senedd, fel y cafodd gyfle i'w wneud ddydd Gwener?
Rwy'n credu, yn y sefyllfa hon, ei bod yn gywir i weithredu fel y gwnaeth, oherwydd roedd yn gynghrair rhwng Ffrainc, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Nid oedd yn weithredu unochrog. Pe bai'n weithredu unochrog, rwy'n credu y byddai'n fater cwbl ar wahân a byddai angen cymeradwyaeth seneddol yn fy marn i. Yr wythnos hon, cawsom bleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin a enillwyd gan y Llywodraeth. Yn wir, trodd yr wrthblaid swyddogol ei chefn ar y pleidleisiau hynny, sy'n rhyfeddol o ystyried y gwres a fynegwyd dros y penwythnos ynglŷn â beth oedd arweinydd yr wrthblaid yn mynd i'w wneud pan fyddai'r Senedd yn ailymgynnull ar ôl y Pasg.
Felly, rwy'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wneuthum: o'r meinciau hyn, rydym yn ddiamwys ein cefnogaeth i gymesuredd a nodau'r cyrch awyr a gyflawnodd Llywodraeth y DU gyda Ffrainc ac America. Rydym yn cefnogi gallu'r sefydliad hwn i drafod y pwynt pwysig hwn, ac mae'n werth pwysleisio eto fy mod yn gresynu'n fawr nad yw Prif Weinidog Cymru yma i gymryd rhan yn y ddadl hon ac esbonio'n llawn—roedd yn gefnogaeth i'w chroesawu yn ein barn ni—pam y gallodd roi cymaint o gefnogaeth ddiamod i'r ymosodiad, o gofio bod ffigurau blaenllaw o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan wedi mynegi amheuon difrifol. Credaf fod y cwestiynau hynny'n haeddu atebion, a dyma'r fforwm ar gyfer cael yr atebion hynny.
Diolch. Bethan Sayed.
Diolch. Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod wedi fy siomi gan agwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr alwad am y ddadl frys hon yn enw Leanne Wood. Mae llawer o fy etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru eisiau gwybod beth yw barn ACau ar hyn, a hefyd cafwyd deiseb mewn perthynas ag ymateb y Prif Weinidog yn datgan y byddai'n cefnogi 'unrhyw ymyrraeth'—ei eiriau ef, nid fy rhai i: 'unrhyw ymyrraeth'. Pan fydd Prif Weinidog gwlad, neu genedl, yn gwneud sylwadau o'r fath heb ymgynghori â ni fel Senedd, credaf ei bod yn agwedd beryglus iawn i'w chael. Ond nid wyf yn synnu, yn y dyddiau diwethaf, ei fod wedi gweithredu yn y fath fodd.
Rwyf hefyd yn synnu oherwydd gofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet heddiw beth oedd hi'n ei wneud mewn perthynas â ffoaduriaid o Syria, ac mae hynny'n rhan bwysig o sut yr ydym yn ymdrin â'r argyfwng hwn. Er enghraifft, ceir 5.64 miliwn o ffoaduriaid y tu allan i Syria ar hyn o bryd. O'r rhain, 500,000 yn unig sy'n byw mewn gwersylloedd i ffoaduriaid. Ceir bwlch cyllido rhwng rhoddion a dderbyniwyd a rhoddion sydd eu hangen o dros £2.1 biliwn ar gyfer darparu gofal dyngarol priodol. Mae 6.1 miliwn o bobl wedi'u dadleoli o fewn Syria, ddwywaith maint poblogaeth Cymru, ac mae 13.1 miliwn o bobl o fewn y wlad angen cymorth dyngarol. Roeddwn am ailadrodd y ffigurau hyn oherwydd maent yn anhygoel, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried fod y boblogaeth cyn y rhyfel yn 22 miliwn. Mae Syria wedi'i distrywio'n llwyr. Mae ei heconomi bron iawn wedi'i dinistrio'n llwyr, fel y mae rhannau sylweddol o'i seilwaith. Mae'n wlad sydd mewn sawl ffordd bellach yn hunllef o ddinistr a marwolaeth.
Rwy'n deall y rhwystredigaeth a'r gwrthdaro rhwng safbwyntiau pobl ar Syria. Yn foesol, gwn fod pobl yn teimlo y dylid ymateb i'r defnydd o arfau cemegol gan gyfundrefn Assad, ond dylid ei wneud â diplomyddiaeth yn ganolog iddo. Teimlaf y dylem ganolbwyntio ar ganlyniadau gweithredu milwrol hefyd i bobl Syria a beth y mae'n ei olygu i'r bobl sy'n byw yno a'r rhai sy'n cael eu gwneud yn amddifad o ganlyniad i'r rhyfel. O ystyried bod y wlad wedi'i dinistrio i'r fath raddau, rwy'n methu gweld manteision dyngarol hirdymor ymosodiadau milwrol. Ni welsom unrhyw gynllun strategol gan y Prif Weinidog hyd yn hyn ac nid cheir unrhyw strategaeth ymadael. Hyd yn oed pe bai'r ymosodiadau milwrol wedi eu targedu'n ofalus, po fwyaf o daflegrau sy'n hedfan dros bennau pobl Syria, po fwyaf o ffrwydradau, y mwyaf yw'r perygl o ddial, a'r mwyaf y cânt eu hunain ynghanol tensiynau'r byd rhwng pwerau niwclear awdurdodaidd byd-eang.
Dylem fod yn ymwybodol hefyd, gyda Ffederasiwn Rwsia bellach yn gadarn o fewn Syria, nad yw'r bygythiad o ymosodiadau milwrol gan wledydd NATO yn ffactor ataliol hirdymor realistig bellach yn fy marn i. Felly, mae angen inni gynllunio a hwyluso trafodaethau heddwch a diwallu anghenion dyngarol pobl Syria. Rhaid inni roi cynllun priodol ar waith drwy gyfrwng yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a chynnig cymorth o Gymru lle bo'n bosibl, fel y gwnaethom mewn amgylchiadau blaenorol—Palesteina, er enghraifft—i helpu i dalu am y bwlch cyllido rhwng rhoddion sydd eu hangen a rhoddion a dderbyniwyd. Rhaid inni baratoi i gymryd rhagor o ffoaduriaid o Syria er mwyn cyflawni a chydnabod ein rôl briodol yn yr argyfwng hwn ac fel y gallwn wneud rhywbeth gwirioneddol fuddiol i bobl Syria. A phan fyddwn yn cymryd ffoaduriaid, rhaid inni ddarparu ar eu cyfer yn briodol fel nad ydynt yn dod i wlad elyniaethus heb ffordd o gael cymorth neu gyllid cyhoeddus.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid oes gennyf lawer o amser, mae arnaf ofn.
Mae'n rhywbeth rwyf bob amser wedi'i nodi, mai'r rhai mwyaf awyddus i orymdeithio i ryfel am wahanol resymau, yn enwedig y rhai sydd dan ddylanwad jingoistiaeth Brydeinig, yw'r rhai lleiaf awyddus i helpu'r rhai sydd ar y pen arall i ymosodiadau milwrol. Y rhai mwyaf gwrthwynebus i ffoaduriaid Irac ar ôl y rhyfel yn Irac a oedd fwyaf o blaid rhyfel yn y lle cyntaf. Felly, buaswn yn annog y rhai sydd fwyaf o blaid ymyrraeth yn Syria i arddel safbwynt gonest a chydnabod bod ymosodiadau milwrol, hyd yn oed ymosodiadau wedi'u targedu, yn gwaethygu'r sefyllfa yn Syria.
Credaf ei fod yn destun cywilydd yn y wlad hon fod y DU wedi gwrthod cymryd cyfran briodol o ffoaduriaid o Syria. Gwn fod Castell-nedd Port Talbot wedi gwneud hynny; y llynedd oedd yr unig adeg na wnaethant hynny, felly fe gywiraf hynny i chi, David, hyd yn oed ar sail dros dro. Mae'r ffaith ein bod wedi gadael i rai o'n cynghreiriaid Ewropeaidd weithredu'n gadarnhaol mewn perthynas â ffoaduriaid o Syria a'u hintegreiddio'n greiddiol i'n cymdeithas yn gyfystyr ag amddifadu ein rôl ryngwladol. Felly, buaswn yn annog y Cynulliad hwn o leiaf i arddel safbwynt gwahanol, safbwynt sy'n cydnabod ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn annog symud tuag at bolisïau adeiladol wedi'u gyrru gan ystyriaethau dyngarol, a helpu i sicrhau cadoediad o'r diwedd.
Credaf y dylwn adleisio'r sylwadau a wnaed gan lawer yn y Siambr, hyd yn oed os ydym yn anghytuno ar y mater hwn. Buaswn wedi hoffi pe bai'r Prif Weinidog yma, o ystyried iddo wneud y penderfyniad hwnnw. Nid wyf yn siŵr a ymgynghorodd â'r Cabinet, a ymgynghorodd â'r grŵp Llafur yn y Cynulliad hwn, ond fe wnaeth y penderfyniad hwnnw drosom yn ein henw ni, ond hoffwn ddweud yma heddiw: ni wnaeth hynny yn fy enw i.
Yn gyntaf, hoffwn nodi mai UKIP yw'r unig blaid DU gyfan i wrthwynebu unrhyw weithredu milwrol yn y dwyrain canol, gan gynnwys ymosod ar Affganistan ac Irac. Rydym ni yn UKIP yn cydnabod bod y senarios gwleidyddol ym mhob un o wledydd yr ardal bron yn llawer rhy gymhleth i wledydd y gorllewin fynd yn rhan o bethau. Hyd yn oed lle y cafwyd rhywfaint o lwyddiant, er enghraifft yn Affganistan, mae'r hyn a enillwyd yn llawer rhy ansicr i ni ei alw'n llwyddiant pur.
Er na fyddem yn gwneud dim i gynorthwyo Assad, gallwn lwyr gondemnio'r ymosodiadau a gyflawnwyd yr wythnos hon gan lywodraethau'r UDA a'r DU. Rydym yn derbyn efallai nad yw cyfundrefn Assad yn dderbyniol i wledydd democrataidd y gorllewin, ond rhaid inni gydnabod ei fod yn arweinydd a etholwyd yn ddemocrataidd sydd, mae'n ymddangos, yn cael cefnogaeth helaeth yn ei wlad. Beth bynnag yw ei ddrygau wrth reoli Syria, nid yw wedi arwain at unrhyw beth tebyg i effaith ddinistriol y rhyfel ar ei bobl a'i seilwaith, rhyfel a gafodd ei chynorthwyo a'i hannog yn rhannol gan y gorllewin: dros chwe miliwn o bobl wedi'u dadleoli a channoedd o filoedd o sifiliaid a milwyr wedi'u lladd.
Mae cyfryngau'r DU wedi canolbwyntio'n helaeth ar gondemnio gweithgareddau Assad yn ystod y rhyfel hwn, gan anwybyddu'n llwyr y ffaith bod y gwrthryfelwyr, er eu bod yn gwybod eu bod wedi colli'r rhyfel mewn rhannau penodol o faes y frwydr, wedi parhau i ymladd er gwaethaf y fath golli bywyd erchyll a'r difrod i'r seilwaith, gan arwain yn aml at y dinistr llwyr y mae'r gwrthsafiad parhaus hwn wedi'i achosi. Rhaid i arweinwyr y gorllewin dderbyn llawer iawn o gyfrifoldeb am y marwolaethau a'r distryw yn Syria. Dylai'r Cynulliad hwn gondemnio'r holl weithredu milwrol yn y dwyrain canol.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddweud pa mor falch yr wyf ein bod yn trafod y cyrchoedd ar Syria yma yn y Siambr hon. Mae'n ymddangos yn hynod bwysig i mi ein bod yma wrth galon democratiaeth Cymru a'n bod yn trafod y mater pwysig iawn hwn. Yn amlwg, nid yw materion rhyfel a heddwch wedi eu datganoli, fel y nododd arweinydd y tŷ yn glir yn gynharach yn y dydd. Gwneir y penderfyniadau hynny, yn amlwg, yn San Steffan. Fodd bynnag, credaf fod pobl Cymru am inni drafod y materion hyn sydd o bwys enfawr yma yn y Siambr hon. Maent am glywed beth yw ein barn. Ac wrth gwrs, mae gennym Syriaid yn byw yma gyda ni yng Nghymru, ac mae hi mor bwysig, rwy'n meddwl, ein bod yn rhoi ein safbwyntiau yma.
Hoffwn ailadrodd y pwynt ynglŷn â'r modd y mae'r ymosodiadau hyn yn digwydd heb un bleidlais yn y Senedd. Galwyd y Cabinet ynghyd. Pam na chafodd y Senedd ei galw? Gellid bod wedi galw'r Senedd yn hawdd, ac mae'n gwneud ichi deimlo na chafodd y Senedd ei galw yn fwriadol; fod yr amseru wedi digwydd yn y fath fodd fel bod y Senedd wedi cael ei hanwybyddu. Oherwydd datblygwyd confensiwn gyda'r Llywodraeth yn San Steffan yn ymgynghori â'r Senedd ar faterion yn ymwneud â rhyfel a heddwch. Digwyddodd hyn pan oeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin a chafwyd dadl a phleidlais ar ryfel Irac yn 2003, a dyna un o'r pleidleisiau mwyaf arwyddocaol i mi gymryd rhan ynddi erioed. Cafwyd pleidlais o blaid safbwynt y Llywodraeth Lafur ar y pryd, er bod llawer o bobl yn edifar ynglŷn â sut y gwnaethant bleidleisio yn ddiweddarach. Ond o leiaf cafwyd dadl, ac rwy'n siŵr fod llawer ohonoch yn gwybod beth a ysgrifennwyd ar garreg fedd Robin Cook:
Efallai na lwyddais i atal y rhyfel, ond fe sicrheais hawl y Senedd i benderfynu ar y rhyfel.
Ond fel y digwyddodd, ni chafwyd dadl y tro hwn. Ni phenderfynwyd yn gadarn o blaid yr hawl honno. Ond ers hynny, bu nifer o achlysuron pan gafodd y Senedd ei hailymgynnull, a chyfeiriwyd eisoes heddiw at 2013.
Ar ôl i'r ymosodiadau awyr ddigwydd yr wythnos diwethaf, ddydd Sadwrn, euthum at gerflun Aneurin Bevan yng nghanol Caerdydd lle'r oedd llawer o bobl wedi ymgynnull yn teimlo braidd yn ddiobaith ac yn bryderus ynglŷn â'r hyn a oedd wedi digwydd, a rhoddodd llawer o bobl eu barn ar yr hyn a deimlent ynglŷn â'r cyrchoedd awyr. Clywyd amryw o safbwyntiau, ac un o'r prif resymau oedd ofn y byddai'r sefyllfa'n dwysáu'n gynyddol—yr ofn y byddai hyn yn arwain at rywbeth mwy. Pryder arall oedd natur anrhagweladwy Trump, a'r ffaith ein bod yn y sefyllfa hon gyda Trump, a'r pryder mawr ynghylch ei arfer o lunio polisi drwy drydar. Cefais fy syfrdanu heddiw—rydym wedi siarad heddiw am y cymorth dyngarol a roddir gan wahanol wledydd—wrth ddarllen mai 11 yn unig o ffoaduriaid o Syria a gafodd eu derbyn i'r Unol Daleithiau ers mis Tachwedd diwethaf, a dim ond 44 yn y chwe mis diwethaf. Mae hynny'n cymharu â 6,000 yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Felly, ble mae'r teimladau dyngarol gan Trump o ran peidio â chroesawu neb i mewn, ond mae wedi cymryd rhan yn yr ymosodiad hwn.
Heddiw, mae llawer o bobl wedi sôn am y ffoaduriaid o Syria yn dod i Gymru. Yn sicr, o ran yr hyn a wnaeth Llywodraeth y DU, teimlaf y gallem fod wedi cymryd llawer iawn mwy o ffoaduriaid o Syria, a chredaf hefyd fod y diffyg gweithredu ynghylch plant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid ar ôl pasio gwelliant Dubs yn destun cywilydd enfawr—ein bod yn anffodus wedi gwneud cam â'r holl blant ar eu pen eu hunain sy'n ffoaduriaid.
Felly, rwy'n credu mai ofn dwysáu cynyddol yw un o'r pryderon mawr ynghylch yr ymosodiadau hyn, ac mae'n bwysig nodi'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, oherwydd, wrth gwrs, fe ddywedodd fod y defnydd o arfau cemegol yn gwbl wrthun ac erchyll. Gwn fod pawb ohonom yn cytuno'n llwyr â hynny. Ond fe ddywedodd,
Rwy'n annog yr holl aelod-wladwriaethau i ymatal yn yr amgylchiadau peryglus hyn, ac i osgoi unrhyw weithredoedd a allai ddwysáu'r sefyllfa a gwaethygu dioddefaint pobl Syria.
Nid wyf yn meddwl y gellir cael ateb milwrol i'r broblem hon byth. Mae ateb diplomyddol yn anodd, a gwyddom ei fod wedi cael ei geisio, ac mae'n anodd tu hwnt ond rhaid inni barhau i fynd ar drywydd sefyllfa ddiplomyddol, waeth pa mor anodd yw hynny. Mae hon yn sefyllfa mor gymhleth fel na fydd ymosodiadau awyr ar eu pen eu hunain yn y ffordd hon byth yn arwain at heddwch.
Rydw i'n falch iawn o allu cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma, ac yn diolch am y cyfle, yn wir, i mi allu datgan fy anfodlonrwydd efo penderfyniad Theresa May, y gwnaeth hi ei gymryd heb ymgynghori efo Aelodau Seneddol San Steffan.
A gaf i dalu teyrnged, yn y lle cyntaf, i arweiniad grymus Leanne Wood yn y drafodaeth yma, a hefyd llongyfarch Mike Hedges a Julie Morgan ar eu cyfraniadau bendigedig y prynhawn yma? Fel mae nifer wedi dweud, mae'n sefyllfa gymhleth iawn yn Syria. Rydym ni i gyd wedi gweld y lluniau erchyll o ddioddefaint yn y wlad a’r dioddefaint diweddaraf yma, wrth gwrs, wedi ei bentyrru ar erchyllterau blynyddoedd o ryfel mileinig tu hwnt yn Syria.
Yn fy amser sbâr, rydw i’n ymddiriedolwr elusen o’r enw Christian Rebuild, sydd yn ariannu ac yn cefnogi ymdrechion dyngarol drwy law eglwysi yn Syria a gwledydd cyfagos yn y dwyrain canol. Mae gwaith arwrol yn cael ei wneud gan nifer fawr o fudiadau o dan amgylchiadau hollol, hollol dorcalonnus yn y wlad, gyda dioddefaint ar bob llaw. Mae’r peth yn ddiddiwedd ac eglwysi’n ymdrechu’n arwrol i leddfu’r dioddefaint drwy ddarparu gwasanaethau ar y llawr.
Yn aml iawn, mae’r Senedd yma’n cael ei alw’n talking shop, yn cynnal nifer fawr o drafodaethau—wel, yn union fel pob Senedd arall, yn amlwg—ond yn Senedd San Steffan, ni chafwyd y cyfle i fod yn talking shop yr wythnos diwethaf wrth i Theresa May gymryd y penderfyniad i fomio targedau yn Syria heb drafod efo Aelodau Seneddol San Steffan. Dyna un o brif bwyntiau’r drafodaeth y prynhawn yma, a hefyd ymyrraeth ein Prif Weinidog ni yn y penderfyniad yna—neu’r diffyg ymyrraeth, efallai, yn y penderfyniad yna—achos mae yn sefyllfa gymhleth ar y llawr yn Syria, yn union fel y sefyllfa gymhleth yn Yemen, lle mae Saudi Arabia yn hyrwyddo dinistr yno, heb ddim beirniadaeth o San Steffan.
Felly, i gloi, yn wir, mae angen pwyllo a meddwl am gynllun tymor hir i ddyfodol Syria, fel y mae eraill wedi’i ddweud, drwy ddefnyddio dulliau diplomyddol. Diolch yn fawr.
Mae'n syndod i mi, ond rwy'n falch o allu trafod y mater hwn, oherwydd rwyf wedi bod yn codi materion yn ymwneud ag Yemen ac â Kurdistan yn gyson yn y Siambr hon. Gwelsom eto heddiw mai'r ateb gan arweinydd y Siambr oedd nad ydym yn siarad am bolisi tramor. Mae'n amlwg ein bod, oherwydd rydym yn gwneud hynny yn awr a chredaf fod hynny'n beth gwych.
Nid wyf yn meddwl bod gan y Prif Weinidog unrhyw hawl i ddweud yr hyn a ddywedodd, a siarad ar ran pobl Cymru, heb droi at y Siambr hon, ac mae cadair wag yno. Prif Weinidog Cymru—rydym yn trafod y mater pwysig hwn i Gymru ac nid yw yma.
Ble mae Carwyn?
Syfrdanol. Syfrdanol. A gafodd gyngor cyfreithiol? Hoffwn glywed ganddo.
Mae yna ateb hawdd iawn, yn fy marn i, i ymosodiadau tramor treisgar a rhyfygus. Dyma fe—croeso, Brif Weinidog. Fe ddywedaf hynny eto. Mae yna ateb hawdd iawn i ymosodiadau tramor treisgar a rhyfygus sy'n lladd pobl. Yr hyn sydd arnom ei angen, cyn cyflawni unrhyw weithredoedd milwrol ar ran pobl yr ynysoedd hyn, yw penderfyniad gan Senedd sofran yng Nghymru, penderfyniad gan Senedd sofran yn yr Alban a phenderfyniad gan Senedd sofran yn Lloegr. Pe bai gennym Seneddau sofran ar yr ynysoedd hyn, yn cydweithredu ac yn rhannu sofraniaeth ar amddiffyn, yna rwy'n siŵr na fyddai'r penderfyniadau ofnadwy hyn sy'n arwain at farwolaeth a dinistr tramor yn cael eu gwneud.
Ac fe ddywedaf i gloi, y tro nesaf y gofynnaf yn y Siambr hon am farn gan y Llywodraeth ar yr Yemen, wrth siarad ar ran fy etholwyr yn y ganolfan Yemeni lle'r oeddwn ddydd Sadwrn, hoffwn i'r Llywodraeth hon ddangos digon o gwrteisi i ateb.
O bryd i'w gilydd, rydym wedi trafod materion rhyngwladol. Yn y gorffennol, gwn ein bod wedi edrych ar fater apartheid yn Ne Affrica a Nelson Mandela. Trafodasom Gatalonia yn ddiweddar ac yn sicr, rwyf wedi crybwyll materion yn ymwneud â'r Ukrain, ac yn ystod y sesiwn ddiwethaf, cawsom drafodaethau ar faterion yn ymwneud ag arfau niwclear. Rwy'n cytuno, er hynny, fod yn rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â thrafod materion rhyngwladol yma. Nid oes gennym bwerau i wneud penderfyniadau uniongyrchol na chyfrifoldebau datganoledig mewn rhai meysydd, ond rwy'n credu, fel Senedd, na allwn anwybyddu'r effaith a gaiff rhai digwyddiadau rhyngwladol a'r effaith ar ein hetholwyr, yn enwedig yn y meysydd lle mae pobl eisiau gwybod beth yw ein barn, yn enwedig lle y ceir cwestiynau moesol a gwleidyddol pwysig iawn. Credaf fod hyn yn un o'r rheini.
A gaf fi ddweud nad wyf yn beirniadu Prif Weinidog Cymru ynglŷn â hyn? Mae wedi mynegi barn sy'n un a goleddir gan lawer o bobl. Nid yw'n farn neu'n ymagwedd y cytunaf â hi, ond credaf fod hwn yn faes lle mae'n rhaid i ni barchu safbwyntiau a barn wahanol. Y cwestiwn i mi—y cwestiwn sylfaenol i mi yw hyn: y methiant i ymgysylltu â'r Senedd a sicrhau cefnogaeth. Ac mae'n duedd—mae'n duedd anffodus sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan o symudiadau i fynd heibio i'r Senedd. Roedd holl fater erthygl 50 yn ymwneud â mynd heibio i'r Senedd. Mae materion ynghylch y Bil ymadael yn ymwneud â mynd heibio i'r Senedd. Mater o dristwch mawr oedd bpd y mater hwn, pan gododd, unwaith eto yn ymwneud ag osgoi a pheidio ag ymddiried yn y Senedd; peidio ag ymddiried yn y bobl a etholwyd gan bobl y DU i wneud y penderfyniadau hyn mewn gwirionedd.
Gallaf ddweud o ran yr hyn rwy'n ei wybod am y cyrchoedd taflegrau a ddigwyddodd, targedu tomenni cemegol penodol a gallu cemegol, pe bawn i'n AS yn San Steffan ac wedi cael manylion ymosodiad a ganolbwyntiai'n benodol ar ddinistrio'r rheini, buaswn wedi cymeradwyo hynny mewn gwirionedd. Ond y pwynt sylfaenol yw eu bod wedi mynd heibio i'r Senedd ac ni chafodd ran yn hyn. Mae'n gynsail gwleidyddol mor beryglus, yn ffordd beryglus i ni fynd ar hyd-ddi, yn enwedig yn yr hinsawdd ryngwladol bresennol.
Euthum yn ôl i edrych ar y datganiad a wnaeth Robin Cook, a sefydlodd y confensiwn y dylid gofyn i'r Senedd gymeradwyo ymosodiad, ac rwy'n credu ei bod hi'n werth myfyrio ar hynny. Dyma'r hyn a ddywedodd: '
O ddechrau'r argyfwng presennol— mae hyn yn 2003,
—fel arweinydd y tŷ, rwyf wedi pwysleisio hawl y lle hwn i bleidleisio ar ba un a ddylai Prydain fynd i ryfel. Bu'n hoff thema sylwebwyr nad oes gan y Tŷ hwn rôl ganolog mwyach yng ngwleidyddiaeth Prydain. Ni allai dim ddangos yn well eu bod yn anghywir nag i'r Tŷ hwn ymatal rhag anfon milwyr i ryfel nad oes cytundeb rhyngwladol iddo na chefnogaeth yn y wlad hon. Rwy'n bwriadu ymuno â'r rheini nos yfory a fydd yn pleidleisio yn erbyn ymosodiadau milwrol yn awr. Am y rheswm hwnnw, ac am y rheswm hwnnw'n unig, a chyda chalon drom, rwy'n ymddiswyddo o'r Llywodraeth.
Roedd y pwynt a sefydlodd Robin Cook yn un o egwyddor sylfaenol, sef mai sefydliadau democrataidd yn y pen draw, yn y byd modern hwn, y byd peryglus hwn rydym yn byw ynddo, ddylai fod y cyrff sy'n cymeradwyo mynd i ryfel, sy'n cymeradwyo ymosodiadau milwrol. Os trown ein cefnau ar hynny, rydym yn dilyn llwybr peryglus iawn. Beth y mae'n ei ddweud am ddemocratiaeth os yw gweithredoedd Prif Weinidog yn seiliedig ar, 'Ni allaf ymddiried yn y bobl a etholwyd i wneud y penderfyniadau hyn gan bobl y Deyrnas Unedig, felly, fe ddefnyddiaf fraint hen ffasiwn er mwyn gweithredu.' Mae'n tanseilio ac yn difrïo ein sefydliadau democrataidd. Gweithred o lwfrdra ar ran y Prif Weinidog ydoedd a dyna pam yr oedd hi'n sylfaenol anghywir a dyna pam y mae cymaint o ddicter, nid ynglŷn â'r penderfyniad—nid ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd—ond y penderfyniad a'r ffordd y cafodd ei wneud a'r ffaith ei bod wedi osgoi gwrando ar lais pobl y wlad hon.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Diolch, Lywydd. Rwyf am fod yn gwbl glir fod y Llywodraeth wedi ymatal yn y bleidlais i fwrw ymlaen â'r ddadl frys hon, nid oherwydd nad ydym yn credu bod hwn yn fater pwysig iawn—oherwydd mae'n amlwg yn bwnc pwysig dros ben o'r arwyddocâd dyfnaf a mwyaf dwys—ond oherwydd ein bod yn credu bod materion rhyngwladol a phenderfyniadau ynglŷn ag a ddylid lansio ymosodiadau milwrol yn erbyn cenedl sofran arall yn faterion heb eu datganoli ac fel y cyfryw, dylid eu trafod yn y nau Dŷ'r Senedd yn hytrach nag yma yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Fel y mae'r ddadl hon wedi dangos, ceir nifer fawr o safbwyntiau angerddol, cryf a moesol ar y sail hon. Fe'u coleddir ar draws y Siambr a dangoswyd eu hamrywiaeth yn y ddadl hon heddiw. Rydym yn falch fod yr Aelodau wedi cael cyfle i wneud hynny a dyna pam yr ymataliodd y Llywodraeth yn y Cynulliad rhag gwneud y penderfyniad. Rwy'n falch iawn o fod wedi clywed barn pawb ar y mater, ond mae ein sefyllfa ffurfiol yr un fath, nad mater i'r Llywodraeth hon yw gwneud sylwadau ar weithredoedd Senedd arall ac mai'r lle priodol i drafod y materion hyn yw dau Dŷ'r Senedd. Diolch.
Galwaf ar Simon Thomas i gloi'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ddwys, a chredaf fod naws y ddadl, o ran y rhai a gefnogodd yr ymosodiadau a'r rhai nad ydynt yn cefnogi'r ymosodiadau, wedi adlewyrchu'n dda ar y Cynulliad a'r angen i drafod y materion sydd ger ein bron.
A gaf fi ddechrau gyda barn y Llywodraeth, er mwyn cael yr ysgyfarnog honno o'r ffordd ar un ystyr? Ni allaf gredu eu bod yn dweud wrthym, yn syth ar ôl i ni drafod WASPI, nad ydym yma i ddadlau am bethau sy'n faterion ar gyfer San Steffan. Ni allaf dderbyn hynny o gwbl. Wrth glywed yr areithiau angerddol—nid oeddwn yn y Siambr, ond roeddwn y tu allan yn gwylio—gan rai o'r Aelodau Llafur o blaid hawliau pensiwn menywod, a dweud wedyn nad ydym yma i drafod materion San Steffan, mae'n gwbl amhosibl derbyn hynny. Ac mae'r Llywodraeth dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi diflannu i fyny ei chynffon ei hun yn ei dadleuon cyfreithyddol ynglŷn â'r materion hyn. Mae'n bwynt difrifol, hyd yn oed os na ddefnyddiais yr iaith hollol gywir i'w fynegi. Mae'n bwynt difrifol.
Mae gan y Prif Weinidog ei hun ychydig o hanes yma. Mae yma ar gyfer y bleidlais, rwy'n nodi. Nid oedd yma ar gyfer y ddadl. Ond mae gennym Brif Weinidog sy'n barod, benwythnos ar ôl penwythnos, i ymddangos ar y cyfryngau i wneud pwyntiau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru, boed yn ddiswyddo Gweinidog Cabinet i ymateb i ymosodiad ar Syria, ac yna mae'n ceisio osgoi unrhyw graffu yn y Siambr hon ynglŷn â pham y gwnaeth y penderfyniadau hynny, sut y cafodd y penderfyniadau hynny eu gwneud, ac nid yw'n bresennol ei hun i ateb cwestiynau am hynny. [Torri ar draws.] Mae croeso iddo ymyrryd yn awr. Croeso iddo wneud hynny.
Rwyf yma bob dydd Mawrth.
Rydych yma bob dydd Mawrth. Rydym i gyd yma bob dydd Mawrth. Ond wrth gwrs, rydym hefyd yn gwneud y pwynt mwy cyffredinol eich bod chi yma, ac fe siaradoch o blaid ymosodiadau'r Prif Weinidog Ceidwadol yn Syria, a byddem yn disgwyl ichi fod yma i ddweud wrthym pam y gwnaethoch hynny. A chredaf y byddai llawer o'ch Aelodau Llafur yn disgwyl i chi ddweud wrthym pam y gwnaethoch hynny hefyd.
Nid ni yw'r bobl sy'n eich dwyn i gyfrif am hyn. Rydym yma ar ran pobl Cymru, a phan fo Llywodraeth y DU yn ymrwymo cyllid, fel y nododd Leanne Wood ar ddechrau'r ddadl hon, yn ymrwymo ein milwyr a'n dynion a'n menywod yn y lluoedd arfog, o Gymru o bosibl, ac yn peryglu diogelwch y wlad hon drwy gyflawni ymosodiadau dramor, sy'n bwynt y mae Jeremy Corbyn wedi ei wneud dro ar ôl tro, yna does bosibl nad yw hynny'n effeithio arnom yma yng Nghymru, a'n bod ni'n iawn i drafod hynny. Nid ni sy'n penderfynu'r pethau hyn, ond rydym yn iawn i'w trafod oherwydd rydym yn anfon neges yn ôl at ein hetholwyr sydd, fel y nododd nifer o'r Aelodau—fe wnaeth Bethan Sayed, a Mick Antoniw hefyd, y pwynt hwn rwy'n credu—fod nifer o etholwyr wedi cysylltu â ni i ddweud , 'Ble mae eich moesoldeb? Beth yw eich safbwynt ar y materion hyn?' Efallai na fyddwch bob amser yn plesio eich etholwyr pan fyddwch yn Aelod Cynulliad yn ymdrin â materion San Steffan, ond maent eisiau clywed gennych. Felly, o'r Siambr hon rydym yn anfon y negeseuon hynny'n ôl, a byddwn yn anfon yn ôl naill ai ein cefnogaeth neu beidio fel y bo'n berthnasol.
Credaf fod dwy thema wedi dod i'r amlwg o'r ddadl hon. Yn gyntaf oll, mae'r mater ynglŷn ag a ddylai'r Senedd fod wedi'i galw'n ôl i benderfynu hyn, a'r confensiwn a wnaed mor rymus gan Robin Cook—ac roeddwn gyda Julie Morgan, fel yr oedd Adam Price hefyd, yn San Steffan pan wnaeth ei araith ymddiswyddo, a phan wnaeth y confensiwn enwog hwnnw. Ond fel y mae Mick Antoniw wedi nodi, wedi ein hatgoffa mewn gwirionedd, mae confensiynau'n bethau rhyfedd iawn yn y cyfansoddiad Prydeinig. Gellir eu torri yn ogystal â'u gosod, a'r hyn rydym yn pryderu amdano yma yw bod confensiwn Cook wedi'i dorri gan y penderfyniad hwn i gyflawni ymosodiad—nid gweithred amddiffynnol, ond ymosodiad—mewn gwlad dramor fel rhan o gynghrair heb droi at y Senedd. Pan fyddwch yn gweld confensiynau'n cael eu torri yn y fath fodd, beth yw gwerth confensiwn Sewel? Pa werth sydd i'n dadleuon ynghylch fframweithiau a Brexit a phopeth a ddaw o hynny, pan welwn fod Llywodraeth San Steffan yn gweithredu mewn ffordd benodol? Felly, rwy'n credu bod y mater hwnnw wedi ei roi gerbron yn gryf iawn.
Yna mae'r ymosodiad ei hun. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Mike Hedges a Julie Morgan am eu cyfraniadau ar hyn. Caiff ei grisialu mewn cwestiwn syml: a ydym yn teimlo heddiw fod y bobl yn Syria yn cael eu diogelu'n well, yn cael gofal gwell, yn edrych ymlaen at ddyfodol mwy diogel yn dilyn yr ymosodiad? [Torri ar draws.] Mae ymyriad ar eich eistedd yn nodi efallai eu bod. Nid wyf yn derbyn hynny, ond mae'n ddadl i'w gwneud. Ond credaf mai barn y mwyafrif yma, rwy'n synhwyro, fyddai nad ydym yn derbyn hynny mewn gwirionedd. Felly mae angen inni ofyn: pam y cyflawnwyd yr ymosodiad hwn? Wel, mewn gwirionedd fe'i cyflawnwyd am resymau geowleidyddol. Fe'i cyflawnwyd i gefnogi Trump, i edrych fel pe baem wedi ein cysylltu â Trump. Pan aeth llaw farw Trump i law Theresa May i'w thywys ar gyfeiliorn—dyna lle y dechreuodd y syniad hwn fod yn rhaid inni fod wedi ein cysylltu â pholisi tramor Americanaidd anwadal iawn. Nawr, beth bynnag yr oeddech yn ei feddwl o'r neoconiaid yn Irac ac Affganistan, ac nid oeddwn yn meddwl llawer ohonynt—. [Torri ar draws.] Mewn eiliad, os caf. Nid oeddwn i'n meddwl llawer ohonynt. Roedd hi'n glir beth oedd y polisi tramor hwnnw. Yr anhawster, wrth gwrs, oedd nad oedd ganddynt unrhyw bolisi ar gyfer yr hyn a ddigwyddai i'r gwledydd ar ôl ymyrraeth filwrol, ond roedd hi'n glir beth oedd llwybr ymyrraeth filwrol. Nid wyf yn meddwl y gwelwn hynny gan yr Arlywydd Trump ac felly, nid wyf yn credu y dylai Prif Weinidog y Deyrnas Unedig gysylltu'n rhy agos â pholisi tramor afreolus o'r fath. Fe ildiaf i David Melding.
Rhaid imi ddweud, o'r hyn a welaf o'r digwyddiadau diweddar, Llywodraeth Ffrainc a oedd yn mynnu bod angen ymateb i'r defnydd o arfau cemegol ac roeddent yn barod i roi camau unochrog ar waith. O'r fan honno y daeth y pwysau o blaid yr ymyrraeth.
Clywais rywbeth tebyg, ac rwy'n meddwl bod gennym broblem wahanol gyda'r Arlywydd Macron a'r hyn y mae'n ceisio ei gyfleu o ran statws Ffrainc. Ac nid wyf am fynd ar hyd y llwybr a awgrymwyd i mi sotto voce yno. Ond os yw hynny'n wir, dylai pennau doethach fod wedi dylanwadu ar yr Arlywydd Macron. Ni allai fod wedi cyflawni ymyrraeth unochrog yn Syria mewn gwirionedd. Gwn fod ganddynt hanes yno, gwn fod ganddynt safbwynt ymosodol yno, ond mewn gwirionedd, byddai hynny wedi bod yn hynod o beryglus, fel y mae David Melding yn sylweddoli, rwy'n credu, a byddai'r Rwsiaid wedi teimlo'n wahanol iawn ynglŷn ag ymateb i ymyrraeth unochrog gan Ffrainc, yn hytrach na'r hyn a ddarbwyllodd yn y pen draw—. Roedd y ffaith bod pedair gwlad wedi dod at ei gilydd yn galluogi hyn i ddigwydd ar un ystyr, ac ni ddylem fod wedi ei gefnogi; ni ddylem fod wedi caniatáu i hynny ddigwydd.
Mae hi wedi bod yn ddadl ddifrifol. Credaf fod y pwyntiau cyffredinol ynglŷn ag a ydym yn trafod digon ar bolisi tramor sy'n effeithio ar ein dinasyddion—crybwyllwyd Yemen; hoffwn ychwanegu Afrin ac ymosodiadau Twrci yn Irac at hyn hefyd, oherwydd mae hynny hefyd yn rhywbeth sy'n amharu'n uniongyrchol ar deuluoedd a ffoaduriaid sydd yma yng Nghymru. Ni allwn eu trafod bob tro. Ie, San Steffan sy'n penderfynu ar y materion hyn. Ond o bryd i'w gilydd, rhaid inni wneud rhywbeth syml iawn. Rhaid i ni fod y Senedd i Gymru, rhaid i ni fod y Senedd sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n cael ei drafod ar y strydoedd a'r hyn sy'n peri pryder i bobl. Weithiau nid ydym yn gallu ateb yr holl gwestiynau hynny ac weithiau rydym yn teimlo'n rhwystredig efallai ynghylch yr hyn y mae Prif Weinidog Cymru yn ei wneud neu'r hyn y mae aelodau eraill o'r Llywodraeth yn ei wneud ar ein rhan. Ond y quid pro quo yn hynny o beth yw bod yn rhaid i ni gael ein caniatáu i drafod hyn a rhaid i ni gael ein caniatáu o leiaf i fynegi ein pryderon a'u gwneud yn glir iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi siarad—roeddwn yn credu ei bod yn ddadl weddus ac yn ddadl dda a chredaf o leiaf y bydd modd i'r rhai sydd wedi cymryd rhan ynddi ddweud wrth eu hetholwyr a'r rhai sy'n pryderu ynghylch ymosodiadau milwrol, ac unrhyw weithredu milwrol posibl yn y dyfodol—. Oherwydd, ar ôl gosod cynsail, rhaid inni ofyn i ni ein hunain beth sy'n digwydd yn awr os rhyddheir mesur cyfyngedig o nwy clorin mewn un rhan o Syria neu ddefnydd arall o arf arbennig o ymosodol. Ar ôl cael hynny, o leiaf rydym bellach mewn sefyllfa well ac yn deall safbwyntiau ein cyd-Aelodau'n well, ond hefyd, efallai ein bod yn gofyn i ni ein hunain beth yn union yw ein safbwynt ar y materion hyn.
Daw hynny â'r ddadl frys i ben.