1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
5. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynghylch bargen ddinesig rhanbarth Bae Abertawe? OAQ52069
Rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi parhau i gynnal trafodaethau cadarnhaol â'r rhanbarth i ddatblygu'r fargen tuag at y cam cyflawni nesaf.
Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag a fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i orchymyn cyfalafu a geisiwyd gan rai o'r cynghorau ar y bwrdd cysgodol. Rwy'n ceisio deall, pe bai'n mynd yn ei flaen, a fyddai unrhyw effaith andwyol ar y cynlluniau gwariant cyfalaf cyfredol y bydd busnesau wedi bod yn seilio eu cyfranogiad yn y fargen arnynt fel partneriaid uniongyrchol neu fel busnesau arfaethedig. Mae yna rywfaint o nerfusrwydd mewn rhai cylchoedd, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch dawelu'r nerfusrwydd hwnnw heddiw. Yn amlwg, nid wyf yn dadlau yn erbyn y gorchymyn, ond efallai y gallwch ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn amrywiaeth o sylwadau ar y mater hwn gan fusnesau yn arbennig, yn amlwg, gan mai eich portffolio chi yw hwn. Ac a wnewch chi geisio sicrwydd y bydd unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol wedi cael eu hystyried?
Yn sicr. Byddaf yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ysgrifennu at Suzy Davies ynglŷn â'r gorchymyn cyfalafu. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod rhai pryderon wedi cael eu lleddfu'n ddiweddar gyda'r cytundeb ar gadw ardrethi annomestig ar gyfer y fargen ddinesig. Credaf fod hyn wedi gwella cysylltiadau ac y bydd yn codi'r fargen ddinesig i lefel arall, ond fe ofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid roi'r sefyllfa ddiweddaraf i chi mewn perthynas â'r gorchymyn cyfalafu.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r fargen honno, yn amlwg mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am rai o'r prosiectau hynny, ac mae'r ganolfan arloesi dur yn un ohonynt. Nawr, rwy'n deall bod cwestiynau'n codi ynglŷn â lle y caiff ei leoli ac mae yna bryderon fod Llywodraeth Cymru yn eu gwthio tuag at Felindre, sy'n bellach o gampws y brifysgol a Tata mewn gwirionedd, dau o bartneriaid pwysig y ganolfan arloesi. Nawr, mae'r sefydliad dur a metelau cyfredol wedi'i leoli ar gampws y brifysgol yn Singleton. Maent eisiau ei symud yn agosach. Mae tir ar gael, ac rwy'n deall mai tir Llywodraeth Cymru ydyw, ac rydym yn cael trafferth rhyddhau'r tir hwnnw. A wnewch chi edrych ar yr elfen hon i sicrhau, os yw'r tir hwnnw ar gael, eich bod yn gallu ei ryddhau i'r sefydliadau er mwyn sicrhau bod y ganolfan ymchwil dur wedi'i lleoli'n agos at y brifysgol ac yn agos at Tata, lle bydd o fudd mewn gwirionedd?
A gaf fi ddiolch i David Rees am ei gwestiwn? Mae'r prosiect £80 miliwn hwn yn hanfodol bwysig i'r sector ac i Bort Talbot yn enwedig. Rwy'n falch o allu dweud fy mod newydd siarad â'r is-ganghellor ynglŷn â materion tir yr wythnos diwethaf, ac rydym yn gobeithio gwneud cynnydd cadarnhaol iawn yn y dyfodol agos.
Yn amlwg, gyda newyddion heddiw mai Port Talbot yw'r lle mwyaf llygredig yng Nghymru, rydym yn credu bod cael ffocws carbon isel yn y fargen ddinesig yn hollbwysig. Os nad yw'n wir heddiw, roedd yn wir pan sefydlwyd y fargen hon, ac un o'r rhaglenni, fel rhan o'r fargen, yw cartrefi fel gorsafoedd pŵer, sy'n fuddsoddiad mawr. Felly, sut rydych yn bwriadu darparu arweinyddiaeth ryngwladol er mwyn sicrhau y gallwn ddangos bod bae Abertawe yn datblygu i fod yn ardal ynni adnewyddadwy yng ngoleuni'r newyddion hwn, a sut y byddwch yn gweithio gyda'r fargen i hyrwyddo'r elfen hon o'r fargen?
Wel, rwy'n credu bod bargen sector yn gwbl hanfodol—bargen sector dur. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu corlannu holl fuddiannau'r sector dur yng Nghymru tuag at fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae strategaeth ddiwydiannol y DU yn eu cynnig, rydym wedi dynodi un o'r pum galwad i weithredu—os hoffech, y prismau y byddwn yn ariannu busnesau drwyddynt yn y dyfodol—yn agenda ddatgarboneiddio. Rydym hefyd yn gwahodd busnesau i ddefnyddio cyfleuster her i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar fargeinion sector yn ogystal â herio cyfleoedd cyllid o fewn strategaeth ddiwydiannol y DU. Ond rydym wedi bod yn glir iawn drwy'r cynllun gweithredu economaidd, yn y dyfodol, gyda'r contract economaidd, er mwyn croesi trothwy Llywodraeth Cymru, a chyda'r cyfleuster rydych yn ei ddefnyddio er mwyn cael cymorth ariannol, bydd yn rhaid i chi allu dangos eich bod yn cyfrannu tuag at ddatgarboneiddio. Credaf fod y sector dur, i raddau mwy nag unrhyw sector arall mae'n debyg, yn deall pwysigrwydd yr angen i ddatgarboneiddio, oherwydd ei fod yn cyfrannu tuag at effeithlonrwydd ynni. Costau ynni yw un o'r problemau mawr sy'n amharu ar waith dur yn y DU, gyda gwahaniaethau mawr iawn rhwng y costau ynni yma a chostau ynni cyfandir Ewrop. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny; mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fynd i'r afael â hynny, ond mae gan Llywodraeth Cymru ran i'w chwarae hefyd yn sicrhau bod y sector yn datblygu i fod yn fwy modern ac yn croesawu datgarboneiddio.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llwyddiant y fargen ddinesig yn ddibynnol ar seilwaith o'r radd flaenaf, boed hynny'n gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol neu, yn bwysicach, rhwydweithiau telathrebu cyflym iawn sydd wedi'u diogelu ar gyfer y dyfodol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyflwyno band eang gigabit a chyfathrebu symudol 5G ledled rhanbarth bae Abertawe?
Wel, mae hwn yn fater sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Aelod, arweinydd y tŷ, i raddau helaeth ond mae cysylltedd digidol wedi bod wrth wraidd y weledigaeth ar gyfer y fargen ddinesig ym mae Abertawe ers blynyddoedd lawer. Rwy'n arbennig o falch fod Ed Tomp wedi'i enwi fel yr ymgeisydd a ffafrir i fod yn gadeirydd ar y bwrdd strategol ar gyfer y fargen ddinesig. Mae Ed yn ymwybodol o werth cysylltedd digidol, ac rwy'n siŵr, gyda'i arweinyddiaeth, y gwelwn fwy o ffocws, a ffocws gwell, ar yr angen i wella cysylltedd digidol yn ardal y fargen ddinesig.
O ran ymgysylltiad â Llywodraeth y DU, mae'n gwbl hanfodol fod ein gweithredoedd ni a gweithredoedd Llywodraeth y DU yn rhyngwynebu'n dda, ac nad ydym yn dyblygu gwariant nac yn dyblygu neu'n drysu rhaglenni y gallai'r ddwy Lywodraeth fod yn arwain arnynt. Am y rheswm hwnnw, rwyf fi ac arweinydd y tŷ yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'n swyddogion cyfatebol yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i sicrhau ein bod yn gweithio i'r un diben, sef sicrhau bod Cymru, sicrhau bod y Deyrnas Unedig, yn un o'r gwledydd sydd â'r cysylltedd digidol gorau ar y blaned.