– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 8 Mai 2018.
Eitem 4 yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu'r defnydd o rwyll synthetig y wain. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener, cyhoeddais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlais i adolygu'r defnydd o dâp a llieiniau rhwyll synthetig y wain i drin anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen a phrolaps organau'r pelfis. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfrif cynhwysfawr o'r defnydd o rwyll yng Nghymru a'r problemau sy'n gysylltiedig ag ef. Yn bwysig, mae'n gwneud argymhellion ar y camau y dylem ni yn awr eu cymryd i wneud gwelliannau angenrheidiol a chyflym. Diolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith. Hoffwn gydnabod dewrder ac ymrwymiad y menywod hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at y mater hwn. Er iddynt ddewis peidio, yn ddealladwy, â chymryd rhan uniongyrchol yng ngwaith y grŵp, mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i darparu wedi hysbysu'r canfyddiadau a'r argymhellion—ac, wrth gwrs, rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod wedi cyfarfod â grŵp o oroeswyr rhwyll.
Mae pob adolygiad hyd yn hyn wedi dangos pa mor anodd fu cael asesiad dibynadwy o faint y broblem a all fod yn gysylltiedig â defnyddio rhwyll y wain. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir, er y gallai fod llawer o fenywod wedi elwa o driniaeth o'r fath, yw bod rhai menywod wedi dioddef cymhlethdodau difrifol sydd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i hyn. Mae'r adroddiad hwn yn ailddatgan hyn ac yn darparu cyngor clir ar beth sydd angen ei wneud i gefnogi'r rhai hynny sy'n byw gydag effeithiau gwanychol cymhlethdodau rhwyll. Mae hefyd yn glir bod angen gwella ein dull o reoli problemau iechyd y pelfis wrth symud ymlaen.
Ceir cyfyngiadau clir o ran digonolrwydd ein data er mwyn deall lefel y cymhlethdodau. Mae'r adroddiad yn egluro pam mae hyn yn wir ac yn cynnig rhai atebion tymor byr a thymor hwy i fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg o'r data a gyflwynwyd yw'r gostyngiad sydyn yn nifer y cleifion sydd wedi cael triniaethau rhwyll yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn ystod yr adolygiad hwn, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ganllawiau newydd, ym mis Rhagfyr 2017, yn datgan yn glir iawn na ddylid atgyweirio prolaps wal y wain â rhwyll drwy'r wain ond yng nghyd-destun ymchwil. Rwy'n nodi bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi croesawu'r penderfyniad hwn gan NICE a'u bod wedi dod i'r un farn. Rwyf i, wrth gwrs, yn disgwyl i'r cyngor hwnnw gael ei ddilyn yng Nghymru.
Mae canfyddiadau cyffredinol ac argymhellion yr adroddiad yn dod o fewn pum maes allweddol: y llwybr gofal cychwynnol gofynnol i gefnogi menywod o ran iechyd a lles y pelfis, sy'n cynnwys mynediad at dimau amlddisgyblaethol o glinigwyr sy'n ymgorffori gofal ymataliaeth, ffisiotherapi, rheoli poen a, phan fo'n briodol, sgiliau seicoleg; rhoi gwybodaeth well i gleifion er mwyn sicrhau y gallan nhw wneud penderfyniad cytbwys a rennir am opsiynau triniaeth; sicrhau bod gan feddygon teulu y gallu uniongyrchol i gael cyngor arbenigol, fel y gallan nhw gefnogi eu cleifion yn well; gwneud gwelliannau sylweddol yn y prosesau sy'n gysylltiedig â chasglu data o'r triniaethau a roddir ac unrhyw fewnblaniadau a ddefnyddir; a sicrhau mynediad at gymorth arbenigol ar gyfer tynnu rhwyll drwy ddatblygu un neu fwy o ganolfannau amlddisgyblaethol arbenigol wedi'u hachredu'n llawn. Rwyf nawr eisiau sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad yn gyflym.
Yr hyn sy'n arbennig o glîr i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, yw bod angen inni gael newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r GIG yn cefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd y pelfis, gan symud ymlaen i ganolbwyntio ar atal a therapïau ceidwadol, gydag ymyrraeth lawfeddygol fel dewis olaf. Ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael yn gynnar i'r rhai hynny â chymhlethdodau triniaeth er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf. Rwyf felly yn sefydlu grŵp gweithredu dan gyfarwyddyd gweinidogol i oruchwylio'r meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar frys. Yn y lle cyntaf, ei flaenoriaeth fydd goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion o'r adolygiad o dâp a rhwyll y wain. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd eisiau i'r grŵp ystyried unrhyw argymhellion sy'n codi o'r adolygiadau endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol sydd ar y gweill. Mae'r adolygiad tâp a rhwyll yn amlygu y gallwn ni ddisgwyl y bydd nifer o feysydd sy'n gorgyffwrdd y mae angen eu dwyn ynghyd.
Yn dilyn y pwyslais cychwynnol hwn, byddaf yn cymryd cyngor gan y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wrth benderfynu beth ddylai fod yn flaenoriaethau nesaf i'r grŵp. Bydd angen i aelodaeth y grŵp hwn fod yn hyblyg oherwydd, er y bydd y pwyslais cychwynnol ar rwyll a thâp, bydd angen cynrychiolaeth briodol ar y grŵp—cynrychiolaeth broffesiynol a lleyg—ar draws meysydd eraill iechyd menywod. Rwy'n falch bod Tracy Myhill, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wedi cytuno'n garedig i gadeirio'r grŵp.
Rwyf wedi sicrhau bod hyd at £1 miliwn y flwyddyn o gyllid ar gael i gefnogi'r gwelliannau sydd eu hangen. Wrth gwrs, bydd llawer y gallwn ni ei wneud o fewn yr adnoddau presennol, drwy ailgynllunio gwasanaethau ac o bosib symud gwasanaethau o ysbytai i gymunedau, i sicrhau bod llwybr iechyd a lles y pelfis yn y gymuned yn cael ei roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Dylai'r adnodd hwn helpu'r llwybrau hyn i fod y drefn arferol ledled Cymru ar sail gyson. Yn y cyfamser, rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad i ystyried pa welliannau lleol y gellir eu gwneud ar unwaith. Yn sicr, ein nod yw sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r driniaeth orau bosib pan fyddan nhw'n dod atom yn dioddef o anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis, neu unrhyw gymhlethdodau eraill o ganlyniad i driniaeth bresennol.
Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu grŵp gweithredu yn ddi-oed, a byddaf yn disgwyl diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd. Wrth gwrs, bydd yn bwysig i'r gwaith gael ei ategu gan amrywiaeth o fesurau er mwyn gallu dangos gwelliannau yng nghanlyniadau a phrofiad cleifion. Bydd angen i'r grŵp hefyd barhau i adolygu ei waith yn rheolaidd yn unol ag unrhyw dystiolaeth newydd a ddaw i'r amlwg. Rwyf hefyd wedi rhannu adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen gyda chadeiryddion yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a NICE, ac wedi gofyn iddo lywio'r gwaith parhaus yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y camau hyn yn gyfle i roi pwyslais mawr ei angen ar iechyd menywod a galluogi'r GIG i fynd i'r afael â meysydd allweddol yr oedd angen eu gwella ers amser.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am fwrw ymlaen â llawer o'r pryderon drwy gomisiynu'r gwaith hwn yn y lle cyntaf ac yna, unwaith eto, drwy eich datganiad chi yma heddiw. Mae'n rhaid i mi fod yn onest, doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r mater hwn o gwbl, fy hun, hyd nes y dechreuodd pobl ddod ataf yn fy swyddfa etholaeth. Mae rhai o'r niferoedd yr wyf i wedi'u cael, a'r profiadau dirdynnol gan fenywod yn bennaf, mae'n rhaid i fi ddweud, wedi bod yn bur frawychus. Ac yna, wrth gwrs, rwyf wedi bod yn ymwybodol iawn bod llawer o gleifion sydd wedi dioddef yn awr yn mynd at y cyfryngau cymdeithasol, ac yn ceisio—wyddoch chi, rydym ni i gyd wedi cael ein cynnwys. Rwy'n edmygu'r bobl hyn oherwydd mae llawer ohonyn nhw'n gleifion sydd wedi dioddef, ac nid ydyn nhw'n dioddef yn dawel. Maen nhw'n mynd allan yno ac yn ceisio rhybuddio pa mor annymunol—os bydd pethau'n mynd o'i le—yw'r rhwyll hwn.
Wrth gwrs, mae angen imi atgoffa'r Siambr nad yw'r mater rhwyll synthetig y wain, neu'r tâp, yn un sy'n effeithio ar fenywod yn unig, oherwydd rwy'n credu y bu tuedd iddo ymddangos yn fater sy'n effeithio ar fenywod yn unig. Rwy'n deall nad yw'r meysydd lle y gallai fod yn berthnasol i effeithio ar ddynion wedi bod yn rhan o'r adolygiad. Ond, wrth gwrs, gellir ei ddefnyddio fel rhwyll torgest ar gyfer cleifion gwrywaidd a benywaidd. Mae sgîl-effeithiau problemau a achosir gan rwyll yn eang. Nid ydym yn sôn yn unig am y boen gorfforol y mae cleifion ynddo'n gyson, ond hefyd y problemau iechyd meddwl cysylltiedig o ganlyniad i hynny. Mae'n fater o golli hyder ac mae llawer o bobl yn dioddef iselder wrth ei chael yn anodd ymdopi, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod y niferoedd yn cynyddu wrth i'r blynyddoedd fynd yn eu blaen, oherwydd gall y problemau ddechrau, mewn gwirionedd, nifer o flynyddoedd ar ôl y llawdriniaeth. Mae llawer o gleifion yn galw am waharddiad cyffredinol ar y driniaeth hon, ac rwy'n poeni bod hyn yn rhywbeth na fyddwch chi'n ei gadarnhau o'ch datganiad heddiw. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn Lloegr wedi galw am wahardd y defnydd o rwyll y wain, cam a gymerwyd yn Seland Newydd ac Awstralia, a lle y cyfeiriwyd ato fel y sgandal iechyd fwyaf ers thalidomid. Ledled y DU, mae tua un ym mhob 11 o fenywod wedi cael problemau. Yn yr Alban, gofynnodd cyn Ysgrifennydd iechyd yr Alban, Alex Neil, am atal dros dro fewnblaniadau rhwyll gan y GIG yn 2014. Ond dangosodd ffigurau a gafwyd gan y BBC ym mis Rhagfyr 2016 bod cannoedd o lawdriniaethau wedi'u cynnal ers hynny. Ac mae'n werth nodi bod nifer o fyrddau iechyd yr Alban wedi stopio defnyddio mewnblaniadau rhwyll yn gyfan gwbl.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym ni'n ddiolchgar am y datganiad hwn, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae'n amlwg bod tystiolaeth, cefnogaeth y cyhoedd, ac enghreifftiau o'r driniaeth rhwyll hon yn achosi problemau erchyll, sy'n newid bywydau. Felly, pam na wnewch chi ymrwymo i ddilyn esiampl Awstralia a Seland Newydd a chyflwyno gwaharddiad llwyr ar y cyfle cynharaf posibl? Nawr, y cyfyng-gyngor i mi yma heddiw yw bod gennyf nifer o gleifion sydd wedi cysylltu â mi yn fy etholaeth i fy hun, sydd, fel y maen nhw'n ei ddisgrifio, yn byw mewn poen, ac rwy'n ymdrin â'u gwaith achos. Ond ar yr un pryd, mae gen i achosion syn golygu bod y driniaeth rhwyll i'w gweithredu yn fuan iawn ar gleifion sy'n dioddef. Nawr, maen nhw wedi codi pryderon, neu wedi ceisio codi pryderon, gyda'r meddygon ymgynghorol, ac mae'n rhaid dweud eu bod wed cael eu troi ymaith. Maen nhw wedi codi eu pryderon gyda meddygon teulu, a does dim barn glir ar hyn, a chredaf fod angen rhywbeth mwy pendant arnom gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd sy'n gyfrifol am iechyd ein menywod a'n dynion ledled Cymru.
Felly, a wnewch chi egluro pam mae'r adroddiad wedi seilio ei ffigurau ar fewnblaniadau rhwyll, tynnu rhwyll a gor-wnïo. Pam mae apwyntiadau cleifion allanol, sy'n cwmpasu'r holl sgil-effeithiau a gofnodwyd, wedi'u hepgor? Yn argymhelliad 3.2, rydych chi'n nodi y byddai angen archwiliad ôl-weithredol ar amcangyfrifon ystyrlon o gyfraddau cymhlethdod sy'n gysylltiedig â thriniaethau rhwyll.
A yw hyn yn golygu y byddwch chi'n gofyn i archwiliad gael ei gynnal? Os na, pam ddim? Byddwn i yn sicr yn gwneud hynny pe byddwn i yn eich sefyllfa chi.
Yn argymhelliad 3.21, a ydych chi'n cytuno y gallai'r niferoedd isel yr adroddwyd arnynt yng Nghymru fod oherwydd nad yw'n orfodol i glinigwyr adrodd am ddigwyddiadau andwyol i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, a hefyd natur anodd y pwnc a allai olygu bod y niferoedd sydd gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn anghywir? Dylech mewn gwirionedd fod yn gwneud popeth posib nawr i sefydlu beth yw'r union sefyllfa absoliwt yn y fan yma.
Beth y gellir ei wneud i unioni hyn? Mae argymhelliad 5(c) yn dweud mai dim ond un bwrdd iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd sydd â chlinig poen y pelfis aml-ddisgyblaethol.
Felly, fe wyddoch chi mai'r dilyniant naturiol yw gwneud yn siŵr bod hynny ar gael eto ar gyfer pawb yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn ymateb a roddwyd i Neil McEvoy yn y cyfarfod llawn ar 13 Rhagfyr y llynedd, dywedasoch hyn:
'Fy nealltwriaeth i yw, oes, mae gennym ni dimau amlddisgyblaethol i bob triniaeth lawfeddygol.'
A allwch chi egluro nawr pa un sy'n gywir—eich adroddiad neu eich ymateb i Neil chwe mis yn ôl yn y cyfarfod llawn?
Dywed argymhelliad 6(a) y dylid sefydlu ffyrdd y gallai meddygon teulu gael mynediad uniongyrchol at gyngor arbenigol.
Sut bydd hyn yn cael ei fonitro a pha mor fuan y caiff ei gyflwyno?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, pam, pan fo Llywodraeth y DU wedi cynnal archwiliad i effeithiau mewnblaniadau rhwyll y wain, fod eich Llywodraeth chi yn dal i fod yn ystyfnig ac yn gwrthod gwneud hynny? Beth sy'n eich poeni? Pam nad ydych chi'n blaenoriaethu buddiannau cleifion Cymru? Ac rwy'n ymateb i chi heddiw o'm rhan fy hun, ond hefyd ar ran Angela Burns, Aelod Cynulliad, na all yn anffodus fod gyda ni heddiw. Mae hi'n bryderus iawn am hyn. Mae hi'n siarad gyda phobl, fel yr wyf i, am hyn. Mae'r mater hwn yn dod atom ni fel Aelodau Cynulliad yn rheolaidd iawn. Eich cyfrifoldeb chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw gwneud yn siŵr bod gennych chi ddull cadarn iawn o ymdrin â'r pryderon hyn. Diolch i chi.
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ddweud bod y materion torgest yn faterion ar wahân, gyda grŵp gwahanol o lawfeddygon a phroses wahanol ar waith i ddeall lefel y cymhlethdodau sy'n bodoli. Mae hwn wedi canolbwyntio yn ddiedifar ar faterion iechyd menywod, ac, yn blwmp ac yn blaen, pe byddai'r lefel hon o gymhlethdodau wedi effeithio ar faterion iechyd dynion, rwy'n tybio y byddem wedi clywed amdanyn nhw'n gynt o lawer.
Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf am y timau amlddisgyblaethol. Wrth gwrs, mae argymhelliad 5 yn ymdrin â thimau amlddisgyblaethol ar gyfer clinigau poen y pelfis, yn hytrach na thimau amlddisgyblaethol ehangach sydd ar waith mewn llawdriniaeth. Mae her yma i wneud yn siŵr fod gennym y nifer gywir o dimau amlddisgyblaethol ar waith, gan gynnwys, wrth gwrs, ganolfan arbenigol ar gyfer tynnu rhwyllau, ac i ystyried un neu fwy o'r rheini, ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y de a chael canolfan lawfeddygol amlddisgyblaethol achrededig, ond hefyd am barhau i ddefnyddio Manceinion ar gyfer cleifion yn y gogledd.
O ran eich pwyntiau ynghylch gwahardd—. Na, fe wnaf ymdrin â'ch pwynt am archwilio yn gyntaf, cyn imi ddod yn ôl at y pwynt am wahardd rhwyll, sydd wedi ymddangos yn amlwg iawn yn yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud dros gyfnod o amser. Os edrychwn ni ar yr archwilio hynny sydd wedi digwydd yn Lloegr, maen nhw'n ei ystyried ar sail arbrofol yn Lloegr i geisio archwilio'n ôl-weithredol yr hyn sydd wedi digwydd. Yr hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol yw, rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac Adran Iechyd Llywodraeth y DU, sy'n gweithredu ar ran Lloegr, y cafwyd trosglwyddiad adeiladol iawn o wybodaeth am yr archwiliad sy'n digwydd, ac mae tebygrwydd yn yr ystod o heriau yr ydym yn disgwyl i'r archwiliad yn Lloegr eu datgelu. Cyn i mi ystyried cymryd camau ôl-weithredol, lle na allwn ni fod yn siŵr o union werth hynny, mae gennyf ddiddordeb, er hynny, mewn deall beth sy'n digwydd yn Lloegr a pha wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny, yn ogystal ag edrych yn fwy rhagweithiol ar y materion ar gyfer mewnblaniadau newydd o ddyfeisiau meddygol.
Mae yna gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2020 neu 2021. Wrth gwrs, bydd hwnnw'n dal i fod yn fater i ni, ni waeth pa fargen drosiannol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno arni neu ddim yn cytuno arni a'n perthynas ni gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n ystyried gallu deall a bod â chofrestr briodol o ba ddyfeisiau sydd wedi'u mewnblannu mewn pobl yn fwy cyffredinol. Nawr, mae yna her yn y fan honno ynghylch deall a ydyn nhw'n gallu sganio hynny a deall sut y gwneir hynny, a chaiff hynny ei gynnwys yn yr argymhellion yn yr adroddiad. Wrth ddatblygu'r argymhellion hyn, bydd angen inni benderfynu beth fydd ein dull o wneud hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth a gaiff ei guddio neu sydd ar fin cael ei anghofio. A bydd hynny'n ein helpu ni i ymdrin â rhai o'r ceisiadau gan y menywod dan sylw. Yn y ceisiadau a roddwyd i ni, rwy'n credu y byddwn yn gallu dangos cynnydd ym mhob maes fwy neu lai, ar wahân i fater y gwaharddiad.
Soniasoch am yr Alban, a'r cais i atal dros dro a wnaed gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban. Wel, mater i Ysgrifennydd Iechyd yr Alban yw ateb drosto ei hun am ei ddull gweithredu, ond, fel y dywedwch chi, mae amrywiaeth o bobl yn dal wedi cael mewnblaniadau rhwyll ers yr amser hwnnw. Mae hynny oherwydd nad oes gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, fel fi, y grym i wahardd mewnblaniadau rhwyll. Yr her yw, er bod y rhain yn ddyfeisiau a reoleiddir sydd ar gael, ac maen nhw ar gael i'w defnyddio, ei bod yn fater o ganiatâd rhwng y darparwr iechyd a'r dinesydd unigol ynghylch a yw'n dymuno cael y llawdriniaeth.
Nawr, fel y dywedaf, mae yna nifer o fenywod sydd wedi cael y llawdriniaeth heb gymhlethdod. Rhan o'r hyn y gofynnodd y menywod inni ei ystyried, a rhan o gylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen, oedd cael cydsyniad gwybodus priodol i wneud yn siŵr bod pobl mewn gwirionedd yn cael eglurhad o'r heriau a'r risgiau, i wneud yn siŵr mai hwn yw'r dewis olaf un. A hyd yn oed wedyn, bydd rhai menywod yn dewis peidio â chael y llawdriniaeth, a dylai hwnnw fod yn ddewis gwybodus i'w wneud, yn yr un modd ag y mae menywod sy'n dewis cael llawdriniaeth, os dyna yw eu dewis—mae'n rhaid iddyn nhw ddewis hynny ar sail gwybodaeth briodol.
Er hynny, rwyf wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn gofyn iddyn nhw ystyried y penderfyniadau a reoleiddiwyd yn Awstralia a Seland Newydd yn benodol i wahardd rhwyll. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi ymateb ac wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny. Fodd bynnag, ers hynny, mae arolwg Cumberlege yn mynd i edrych eto ar nifer o'r materion hyn, a bydd ymgysylltiad gan y GIG a'r Llywodraeth yn yr adolygiad hwnnw, ac rwy'n disgwyl y bydd menywod ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater sy'n mynd i ddiflannu. Er nad oes gennyf i'r grym—a byddwch chi'n deall pam nad oes gan wleidyddion y grym i wahardd yn benodol ddyfeisiau neu gyfarpar llawfeddygol sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd—mae gennym ni sefyllfa sydd â rhaniad priodol rhwng grym y rheoleiddiwr a grym y gwleidydd. Ond fel rwy'n dweud, rwyf wedi rhoi copi o'r adolygiad hwn iddyn nhw, ac edrychaf ymlaen at adolygiad Cumberlege a'r hyn y bydd ganddo i'w ddweud, ac am barhau i adolygu'r penderfyniad hwn yn briodol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.
A gaf i ddiolch am y datganiad? A diolch hefyd, wrth gwrs, i'r merched hynny a wnaeth ddangos y dewrder a'r ymroddiad i weithio'n ddiflino, fel y dywedasoch chi, i danlinellu’r mater hwn. A, do, mae merched wedi dioddef cymhlethdodau sydd wedi eu bywydau nhw. Rydw i'n croesawu’r elfennau yn yr adroddiad sy’n ymwneud â sawl elfen o hyn: yr angen i weithio’n rhagweithiol ar yr elfen ymataliol i atal merched rhag bod angen triniaeth a llawdriniaeth yn y lle cyntaf; yr angen i gadw at ganllawiau NICE a chynyddu ymwybyddiaeth o’r canllawiau hynny—fel efo cymaint o bethau, mae o’n wendid mawr yn y ffordd y mae’r Llywodraeth yma’n gweithio yn gyffredinol, y methiant i gadw’r math o ddata sydd yn caniatáu inni gynllunio gwasanaeth iechyd gwell; a hefyd y ganolfan ar gyfer cael gwared ar y mesh—canolfan arbenigol, felly—a’r arian a fydd yn mynd ar hynny, wrth gwrs, ac mae hynny i’w groesawu. Mae gen i nifer o gwestiynau, serch hynny.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith y diystyriwyd rhai menywod, ar ôl iddyn nhw ddisgrifio eu symptomau, gan weithwyr meddygol proffesiynol a oedd wedi priodoli yn anghywir y symptomau i boen ar ôl llawdriniaeth arferol, o bosib. Roedd llawer o fenywod o'r farn eu bod wedi'u trin yn nawddoglyd o ganlyniad i hynny, wrth ddisgrifio eu brwydrau, a dweud y gwir, i gael eu cymryd o ddifrif. Ac nid dyma'r tro cyntaf yr ydym ni wedi gweld y math hyn o beth; rydym ni'n cofio, yn ôl yn yr 1990au, syndrom blinder cronig. A allwch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod ychydig yn fwy penodol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r mater penodol hwnnw, sut, er enghraifft, y gellir codi ymwybyddiaeth, a sut y gellir newid agweddau, fel bod pobl sydd â symptomau anesboniadwy yn cael eu hystyried yn gleifion yn gyntaf ac yn bennaf oll, â symptomau y mae angen ymchwilio iddynt, yn hytrach na fel pobl a ddylai, a dweud y gwir, fod yn fodlon derbyn ychydig o boen? Oherwydd rydym yn gwybod yn awr, drwy waith caled pobl a fu'n ymgyrchu dros newid yma, fod angen ystyried yn ddifrifol iawn, iawn bellach, yn gwbl briodol, yr hyn a ddiystyriwyd.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at wendidau yn y system adrodd am adwaith andwyol ar gyfer cyfarpar meddygol, ar gyfer yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd. Nid yw'n rhywbeth sydd wedi'i ddatganoli, ond a allwch chi ddisgrifio sut y mae eich adran yn mynd i geisio gwella'r system honno fel ein bod yn cael rhybuddion cynharach?
Yn olaf, ynghylch y ganolfan arbenigol ar gyfer tynnu rhwyllau, er bod croeso iddi, gallem wneud â rhywbeth ychydig yn fwy pendant o ran amserlenni, felly byddwn yn ddiolchgar am amserlen briodol ar gyfer y datblygiad hwnnw, fel y gall pobl weld y bydd geiriau yn awr yn troi'n weithred yn y dyfodol agos.
Diolch ichi am y sylwadau hynny. Yn fras mae yma dri chwestiwn. Ar y pwynt ynghylch menywod na chawsant eu credu, a'r frwydr i gael eu credu, a sut y bydd hynny'n cael ei oresgyn, wel, mae'r cyhoeddusrwydd sylweddol i hyn—eto a gynhyrchwyd gan, fel y dywedais yn fy natganiad cychwynnol, y menywod dewr a phenderfynol a gododd y mater—yn rhan o hynny. Mae'r rhybudd diogelwch cleifion a gyhoeddwyd gan y prif swyddog meddygol yn 2014 yn rhan o hynny. Mae'r holl waith a wnaed gan NICE yn rhan o hynny. Mae ystod o wahanol gamau gwahanol yn cael eu cymryd i geisio gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu credu.
Ac mae hefyd her ehangach yn y fan yma am y modd y darperir iechyd a gofal, ac mae'n mynd yn ôl i ofal iechyd darbodus, cysyniad a ddechreuodd yng nghanol tymor diwethaf y Cynulliad yma yng Nghymru. Mae'n ymwneud â deall yr hyn sy'n bwysig i'r claf, ac am gael perthynas llawer mwy cyfartal gyda'r person hwnnw a'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. A phan fo'r person hwnnw yn codi pryderon, yn hytrach na dim ond ei ddiystyru a chymryd agwedd nawddoglyd, mewn gwirionedd mae'n ymwneud â gwrando ar y person hwnnw i ddeall beth sy'n digwydd ac i gydnabod bod angen iechyd a gofal parhaus arno.
Yn ychwanegol at eich pwynt am feddygon teulu, rwy'n credu ei bod yn werth cyfeirio at argymhelliad 6 a sut yr ydym yn bwrw ymlaen ag ef wrth sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i feddygon teulu. Roedd yn rhan o'r pryder gan gynrychiolydd y meddygon teulu yn y grŵp gorchwyl a gorffen i wneud yn siŵr bod gan feddygon teulu eu hunain y gallu i ddeall, nid dim ond y symptomau posib, ond yna ble y gallent fynd i gael y cyngor, cymorth a chefnogaeth arbenigol hwnnw. Daw hynny'n ôl eto at sylwadau agoriadol hyn nad oedd lefel uchel o ymwybyddiaeth o'r problemau wrth iddyn nhw gael eu hadrodd, ac rwy'n credu, yn blwmp ac yn blaen, pe byddai mater iechyd dynion wedi bod, byddai lefel uwch o ymwybyddiaeth a mwy o dderbyn ar unwaith bod pobl yn wynebu heriau mewn gwirionedd.
O ran eich pwynt ynghylch pryd a sut y byddwn ni'n gallu bwrw ymlaen â'r argymhellion, gan gynnwys y canolfannau arbenigol, wel dyna pam yr wyf i wedi cyhoeddi y bydd yna grŵp gweithredu i fwrw ymlaen â hynny, gyda'r lefel ofynnol o bwysoli yn y gwasanaeth iechyd. Felly, dyna pam y bydd prif weithredwr un o'n byrddau iechyd mwyaf yn bwrw ymlaen ac yn cadeirio'r grŵp hwnnw, ac yn deall y nifer cywir o bobl y bydd angen iddynt fod yn rhan o hwnnw i ddeall sut yr ydym ni'n cynllunio'r gwasanaeth hynny ac yna gwneud yn siŵr bod cyllid ar gael i geisio datblygu hynny hefyd, yn hytrach na dim ond gofyn i bobl ddefnyddio'r adnoddau presennol. Byddwch chi'n deall, yn y sefyllfa ariannol sydd ohoni, fod ychwanegu cyllid newydd i'r maes hwn yn ymrwymiad sylweddol pan rydym yn ceisio gwneud arbedion mewn meysydd darparu eraill.
Felly, mae hyn yn flaenoriaeth wirioneddol, ac rwy'n cydnabod y bydd angen inni wneud mwy. Soniais am yr adolygiad endometriosis sy'n digwydd a'r adolygiad anymataliaeth ysgarthol sydd hefyd yn digwydd. Bydd yn rhain yn gwneud yn siŵr nad ydym yn gweld y materion hyn fel materion ar wahân yn unig, ond yn eu deall gyda'i gilydd, ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweld gwelliant gwirioneddol. Pan fydd gennyf amserlenni mwy pendant, fe wnaf wrth gwrs adrodd yn ôl i chi ac Aelodau eraill y Cynulliad.
Diolch i chi am hwn ac am eich datganiad cynharach, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cymhlethdodau sy'n ymwneud â mewnblaniadau rhwyll y wain wedi gadael miloedd o fenywod, ledled y byd, yn byw mewn poen cyson, gwanychol a chronig. Felly mae croeso i'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o'r defnydd o fewnblaniadau o'r fath. Hoffwn ddiolch i'r Athro Emery a'i dîm am eu hadroddiad.
Er bod grwpiau goroeswyr yn dymuno cael gwaharddiad ar unwaith ar bob defnydd o fewnblaniadau rhwyll a thâp o'r fath, rwy'n derbyn bod y mewnblaniadau hyn o fudd i rai menywod. Serch hynny, ni ddylai eu defnydd fod yn eang a dylid ei reoli. Felly rwy'n croesawu argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen i wella'r llwybr, i annog mwy o ddewis gwybodus ac i gadarnhau y dylai llawdriniaeth rhwyll fod yn ddewis olaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaed nifer o argymhellion gan y grŵp gorchwyl a gorffen ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi dweud eich bod yn cefnogi eu rhoi ar waith. Pryd ydych chi'n disgwyl i'r grŵp gweithredu gwblhau ei waith a sicrhau bod yr holl argymhellion yn cael eu rhoi ar waith?
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi'n ymwybodol o'r ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Sheffield, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn 'Neurourology and Urodynamics', sy'n cefnogi'r defnydd o ddeunydd meddalach a mwy elastig, sy'n fwy addas i'w defnyddio yn llawr y pelfis, ac un sy'n rhyddhau oestrogen i'r meinweoedd pelfis cyfagos i ffurfio pibelli gwaed newydd a chyflymu'r broses o wella yn y pen draw? Daethant i'r casgliad y byddai deunydd gwahanol, sef polywrethan, yn ddeunydd gwell i'w ddefnyddio fel rhwyll y wain oherwydd ei hyblygrwydd a'i debygrwydd i feinwe dynol. Y cam nesaf yw treialon clinigol. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn cael mynediad at y treialon hyn?
Rwy'n edrych ymlaen at weld manylion y llwybr gofal newydd, a'r cymorth sydd ar gael i fenywod sydd ag anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis. Diolch yn fawr, diolch yn fawr iawn.
Fe wnaf geisio ymdrin â phwynt y cwestiwn cyntaf a godwyd am y grŵp gweithredu a'r amserlen i gwblhau eu gwaith. Byddaf wrth gwrs yn adrodd yn ôl i'r Aelodau, ond gan nad yw'r grŵp wedi cyfarfod eto, ac nad ydynt wedi ystyried sut i ddatblygu'r argymhellion hynny, nid wyf mewn sefyllfa i roi sylwadau nac ymrwymiad ar hynny heddiw, a gobeithio y bydd yr Aelodau yn deall. Ond byddaf yn adrodd yn ôl ar hynny.
Ar eich ail bwynt am yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Sheffield, mae yna amrywiaeth o waith ymchwil sy'n cael ei wneud ar opsiynau llawfeddygol amgen, boed hynny'n ddeunydd biolegol neu artiffisial i'w fewnblannu. Ond ni allaf wneud sylwadau ar y cynllun treialu clinigol y maen nhw'n gobeithio eu cynnal. Byddaf, er hyn, yn ceisio trafod gyda'm swyddogion i weld a oes rhywbeth defnyddiol y gallwn ni roi gwybod i'r Aelodau amdano. Ond wrth gwrs nid yw'r Llywodraeth yn rheoli'r treialon clinigol hynny a mynediad i gleifion.
Yr hyn sy'n ddiddorol yn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen yw bod rhai pobl y gallan nhw eu nodi sydd yn fwy tebygol o fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau neu o gael poen sylweddol ar ôl y llawdriniaeth. Mae rhywbeth ynghylch deall, a'r menywod sy'n cymryd rhan fydd yn cael y sgwrs honno ynghylch cydsyniad deallus cyffredinol. Oherwydd, fel y dywedaf, er na chafodd rhwyll ei wahardd, ac er nad oes gennyf y pŵer i wahardd rhwyll—hyd yn oed pe byddai gennyf fwriad i wneud hynny, nid oes gennyf y pŵer i wneud hynny—mae angen i ni wneud yn siŵr bod cydsyniad yn seiliedig yn gyffredinol ar ddealltwriaeth a bod pobl yn deall natur y broblem bresennol a'r driniaeth sydd ar gael ar gyfer hynny, ond hefyd y risgiau a manteision posibl unrhyw fath o lawdriniaeth, boed hynny'n cynnwys rhwyll ai peidio. Ac roedd hynny'n rhan amlwg iawn o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, ond hefyd dywedodd yr Aelodau sy'n dymuno gweld newid mewn arfer, 'Os nad oedd gwaharddiad gennym, mae angen i ni sicrhau bod newid gwirioneddol mewn cydsyniad.' Un o'r pethau tristaf a glywais am y mater penodol hwn oedd pan ddywedodd pobl nad oedden nhw wedi cael gwybod yn iawn beth oedd y risgiau, ac nad oedd unrhyw broblem gydag ef. Ni all hynny fod yn ffordd o arfer gofal iechyd ar hyn o bryd, heb sôn am yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad heddiw ac a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth, o'r diwedd, o effaith andwyol defnyddio tâp synthetig a llieiniau rhwyll y wain llawfeddygol i drin prolaps organau’r pelfis ac anymataliath wrinol sy'n gysylltiedig â straen, gan arwain at ganlyniadau ofnadwy a hirdymor i iechyd menywod, sy'n newid bywydau? Rwy'n croesawu'r argymhellion yn eich adroddiad sy'n ymwneud â mesurau ataliol a rheoli ceidwadol o'r cyflyrau hyn, ac â llawdriniaeth fel dewis olaf. Croesawaf hefyd, er enghraifft, yr argymhelliad ar gyfer llwybr iechyd a lles pelfis newydd. Ac a gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyfarfod â'm hetholwyr, Jemima Williams a Nicola Hobbs, yr effeithiwyd ar eu bywydau mewn modd andwyol gan fewnblaniadau rhwyll y wain? Hoffwn i eu canmol am eu dewrder a'u harweinyddiaeth yn Grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru. Ond a gaf i egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, y sefyllfa o ran fy etholwyr, Jemima a Nicola, a'r grŵp gorchwyl a gorffen? Oherwydd yn eich datganiad ysgrifenedig, dywedasoch eu bod wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y grŵp, ond a gaf i dynnu sylw at gyd-destun eu penderfyniad i beidio â chymryd rhan? Roedden nhw'n pryderu'n fawr am aelodaeth y grŵp, y papurau a gyflwynwyd i'r grŵp a'r diffyg rhybudd a chylch gorchwyl drafft, oherwydd mae'r ddwy hefyd yn dioddef o boen cyson a salwch difrifol.
Ond roedd yn ddefnyddiol iawn eich bod wedi cytuno i gyfarfod â nhw, gyda fi. A allwch chi gadarnhau ichi roi ystyriaeth lawn i'w tystiolaeth lawn a dirdynnol nhw yn y cyfarfod hwnnw? Roeddent wedi darparu ffolder helaeth o brofiad cleifion o effeithiau andwyol. A hefyd, a allwch chi gadarnhau ac egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, pa ymgysylltu trawsffiniol sy'n digwydd i rannu arbenigedd clinigol, tystiolaeth gan gleifion, dioddefwyr rhwyll a'r arian hefyd a allai fod ar gael ar gyfer atgyfeirio i arbenigwyr tynnu rhwyll?
Yn olaf, fel y byddwch yn gwybod, mae Grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru yn galw am atal dros dro y defnydd o rwyll hyd nes y cynhelir archwiliad llawn. Anodd yw credu y gall y driniaeth hon ddigwydd yng Nghymru o hyd, er gwaethaf y pwynt a wnaed gennych heddiw yn eich datganiad, fod yr holl adolygiadau hyd yn hyn wedi dangos pa mor anodd oedd cael asesiad dibynadwy o faint y broblem sy'n gysylltiedig â'r defnydd o rwyll y wain. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae heddiw. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ystyried cynnal archwiliad ôl-weithredol o'r defnydd o rwyll yng Nghymru ac ystyried atal dros dro y defnydd o rwyll y wain hyd nes y bydd hyn yn digwydd? Diolch.
Diolch. Gallaf gadarnhau o ran eich pwynt olaf, a byddaf yn cysylltu hwnnw â'r gwaith trawsffiniol ar dystiolaeth a chynnydd, fel y nodais mewn ymateb i'r gyfres gyntaf o gwestiynau, fod yr archwiliad a gynhelir yn Lloegr ar sail arbrofol ac ni chafodd ei gynnal yn y ffordd honno o'r blaen. Wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb yn y dystiolaeth a ddarperir ac mae swyddogion yn cymryd rhan yn yr adolygiad a gynhelir gan yr Adran Iechyd. Ni fyddwn yn disgwyl y byddai gwahaniaeth sylweddol yn nifer y problemau sy'n deillio o'r triniaethau hyn. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau drwy gydnabod bod yna broblem yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod hynny oherwydd bod gennym ni bobl sydd wedi goroesi cymhlethdodau ac sy'n byw gyda nhw yn awr. A rhan o'r her i ni yw deall nifer y bobl a deall amharodrwydd rhai pobl i ddod ymlaen. Mae'n ddigon hawdd deall pam nad yw rhai pobl am dynnu sylw at y problemau sydd ganddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu credu ar gam cynnar pan oedd cymhlethdodau'n codi. A gall tynnu rhwyll fod yn llawdriniaeth gymhleth ac anodd nad yw bob amser yn gwbl lwyddiannus. Mae yna risgiau yn hynny hefyd.
Fel yr wyf wedi dweud mewn ymateb i nifer o bobl eisoes a cheisiais ddweud ar y dechrau, nid wyf mewn sefyllfa i wahardd rhwyll. Nid wyf mewn sefyllfa i atal ei ddefnydd dros dro ychwaith. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro yw y dylai fod yn ddewis olaf. Fel y dywedais, mae pobl yn dweud wedyn, 'Wel, beth yw dewis olaf?' Wel, mae'n ymwneud â sicrhau y rhoddir cynnig ar bob un o'r opsiynau triniaeth ceidwadol hynny nad ydynt yn llawfeddygol yn gyntaf, a dyna pam y mae'n rhaid rhoi pwyslais priodol ar sicrhau bod gennym drefniant mwy cyson â'r timau amlddisgyblaethol i wneud yn siŵr y darperir yr opsiynau hynny yn gynnar, ac yna, wrth fynd trwy unrhyw opsiynau triniaeth, y tynnir sylw'r menywod hynny at ganlyniadau posibl pob un opsiwn. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod mai rhai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni wedi'u deall yw nid fod y risgiau wedi'u hegluro a bod pobl wedi bwrw ymlaen yn gwbl ymwybodol o'r risgiau hynny, ond bod llawer o fenywod wedi dweud na roddwyd sail wirioneddol ddeallus iddyn nhw er mwyn gwneud y dewis hwnnw ynghylch rhoi caniatâd i lawdriniaeth neu beidio.
O ran yr ymgais a wnaed i geisio cael pobl a oedd yn byw gyda chymhlethdodau rhwyll i gymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, ar ôl penderfynu sefydlu'r grŵp hwnnw, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda rhai o'r cymhlethdodau hynny a allai gyfrannu at y gwaith hwnnw. Roedd hynny'n golygu bod y gwahoddiad wedi bod yn fyr rybudd, gyda'r cylch gorchwyl, y bobl dan sylw ac yn wir y dystiolaeth y byddent yn ei hystyried. Nid dim ond yn y cyfnod cynnar hwnnw yn unig, er hynny, y gwnaed ymgais i gynnwys menywod yn y gwaith hwnnw. Trwy gydol oes y grŵp gorchwyl a gorffen, am nifer o fisoedd, ceisiwyd dod o hyd i ffordd y gallen nhw gael mewnbwn gwirioneddol, naill ai i'r grŵp cyfan neu i aelodau ohono. Nid oedd hynny'n bosibl. Yn sicr, nid wyf yn dymuno gweld unrhyw fath o feirniadaeth o gwbl ynghylch penderfyniad y menywod hynny i beidio ag ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Rwy'n credu ei bod hi'n hawdd deall pam y gwnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Ond fe wnaethon nhw, er hynny, barhau i gyfrannu.
Fel y gwyddoch chi, cawsom gyfarfod â'ch etholwyr i gael y sgwrs honno a chymerwyd i ystyriaeth eu straeon a'r dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd ganddyn nhw a'u rhoi i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac mae'n rhan o'r rheswm pam yr estynnwyd gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Oherwydd fe wnaethon nhw ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan Jemima Williams a Nicola Hobbs, a chyfeirir ati yn yr adroddiad. Gobeithio felly bod hynny yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd bod eu tystiolaeth yn cael ei ystyried o ddifrif. Ac wrth ddatblygu gwaith y grŵp gweithredu, mae angen inni ddod o hyd i ffordd y gall y menywod eu hunain sy'n byw gyda'r cymhlethdodau gyfrannu mewn gwirionedd i waith y grŵp gweithredu, yn ogystal â'r bobl hynny sydd ar y llwybr eisoes ac sy'n ymgymryd ag opsiynau triniaeth geidwadol ar hyn o bryd. Felly, mae llawer mwy i ni ei wneud ac, fel y dywedais mewn ateb cynharach, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y gwaith a wneir a'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n falch bod grŵp gorchwyl a gorffen Llywodraeth Cymru bellach wedi cwblhau ei adroddiad. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fy mod i, fel llawer o'r Aelodau eraill yn y fan yma, wedi clywed am brofiadau torcalonnus etholwyr yn dioddef o effaith mewnblaniadau llawfeddygol rhwyll y pelfis—profiadau menywod yn cael eu gadael mewn poen arteithiol ac yn gofidio'n fawr iawn am y dyfodol. I fenywod fel un o fy etholwyr a ddaeth â hyn at fy sylw i am y tro cyntaf, mae gofid ariannol a phroffesiynol yn dal i ddod gyda'r poen corfforol ac emosiynol hirdymor. Yn wir, mae fy etholwraig wedi dweud bod hyn wedi cael effaith ddinistriol arni hi a'i theulu. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'm hetholwyr a'r holl fenywod eraill sydd wedi dod ymlaen i rannu eu profiadau dirdynnol yn ddewr. Felly, er fy mod yn croesawu adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, a all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd y bydd unrhyw lwybr newydd o ran iechyd a lles y pelfis yn cynnwys gwrando ar bryderon parhaus cleifion?
Ydw, rwy'n sicr yn cydnabod y canlyniadau y mae cymhlethdodau rhwyll wedi eu hachosi i nifer o fenywod, gan newid eu bywydau. Rwy'n cydnabod hefyd yr ohebiaeth a'ch cwestiynau yn y Siambr hon a'r sgyrsiau yr ydym ni wedi'u cael y tu allan iddo, am y canlyniadau corfforol, cymdeithasol ac ariannol, ond hefyd yr effaith wirioneddol ar berthynas pobl, nid yn unig gyda'u phartneriaid, ond gyda llu o bobl eraill y mae'r poen a'r anghysur wedi'i achosi, a hefyd y diffyg ymddiriedaeth mewn pobl yr oeddent yn ymddiried ynddynt ar y cychwyn am y cyngor a roddwyd, ac yn wir ymddiriedaeth rhwng gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ogystal ag opsiynau triniaeth a ddarparwyd.
Mae eich pwynt ynghylch gwrando ar bobl sy'n cymryd rhan ac sydd wedi'u cynnwys yn uniongyrchol yn hanfodol, nid yn unig fel rhan o'n gwelliant parhaus a gofal iechyd darbodus a'r hyn a ddywedodd yr arolwg seneddol wrthym y byddwn yn ei ddatblygu yn benodol; mae hyn mewn gwirionedd yn amlygu, os nad ydych chi'n deall yr hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a pha risgiau y mae'n barod i'w derbyn, sut mae ganddyn nhw gydsyniad deallus, pan fo gwybodaeth ar gael iddyn nhw ac nid yw'n cael ei chuddio rhagddynt fel y gallant wneud dewisiadau ynghylch eu triniaeth, yna byddwch yn deall pam mae pobl yn canfod eu hunain yn y sefyllfa hon yn y pen draw pan nad ydyn nhw'n ymddiried ym mhopeth sy'n cael ei wneud o'u cwmpas.
Mae'n hanfodol, felly, bod llais y claf, wrth ddatblygu gwaith y grŵp gweithredu ac yn bwrw ymlaen â'r adroddiad hwn, yn gwbl ganolog i'r hyn a wneir a sut y caiff hyn ei esbonio wedyn. Mae llawer o adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen yn canolbwyntio ar sut y darperir gwybodaeth i bobl i wneud dewisiadau ac iddyn nhw ddweud beth sy'n bwysig iddyn nhw. Felly, rwy'n derbyn y pwynt, a gallaf roi'r sicrwydd hwnnw y bydd hynny yn rhan hanfodol o'n gwaith wrth symud ymlaen.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar 13 Rhagfyr, gofynnais i i chi:
'O ystyried nifer cynyddol goroeswyr mewnblaniad rhwyll, mae Lloegr wedi mabwysiadu timau amlddisgyblaethol o arbenigwyr sy'n cefnogi cleifion sydd wedi cael problemau â rhwyll a rhoi cyngor iddynt ar driniaethau. A yw'r timau amlddisgyblaethol hyn yn bodoli yng Nghymru ac, os felly, ble maen nhw?'
Eich sylw chi, fel y soniwyd yn gynharach, oedd bod gennym dimau amlddisgyblaethol ar gyfer pob triniaeth lawfeddygol.
Nawr, nid yw hynny'n wir, a hoffwn ichi gywiro'r cofnod heddiw.
Gan symud ymlaen, os edrychwn ni ar dudalennau 6 a 7 o'r adroddiad, rhoddwyd gwybodaeth anghywir i bobl ynghylch y risgiau posibl ac effeithiau sy'n newid bywydau. Ni rybuddiwyd pobl am y cymhlethdodau trychinebus posibl sy'n gallu newid bywydau. Roedd yn broses ganiatâd annigonol. Diystyrwyd problemau pobl ar ôl y llawdriniaethau a'u priodoli i symptomau ôl-driniaethol. Cafodd pobl eu troi ymaith a'u gwneud i deimlo eu bod yn gwneud ffwdan, a darllenais yma fod meddygon ymgynghorol wedi gwneud i rai pobl grio, a bod yna atgyfeiriadau amhriodol i feysydd arbenigol eraill, ac ati. Mae'n adroddiad eithaf digalon, ac mae rhai pobl bellach yn anabl yn barhaol. Felly, cwestiwn arall sydd gennyf i yw: beth fydd yn cael ei wneud i ddigolledu'r bobl hyn?
Yn drydydd, cafodd panel arbenigol ei sefydlu yn yr Alban ar y mater hwn yn 2013, ac yn Lloegr yn 2014. Gwahoddwyd GIG Cymru i gymryd rhan wedyn. Ym mis Rhagfyr 2014, sefydlwyd grŵp goruchwylio yn Lloegr heb unrhyw gyfraniad gan GIG Cymru. Cymerwyd camau yn yr Unol Daleithiau yn 2014. Felly, pam y bu'n rhaid i bobl Cymru aros tan fis Hydref 2017 i'r grŵp gorchwyl a gorffen gael ei sefydlu? Ai eich esgeulustod chi neu esgeulustod eich rhagflaenydd oedd hynny? Nid wyf yn deall pam nad yw'n orfodol adrodd am y problemau y soniwyd amdanynt wrth feddygon ar ôl y llawdriniaeth.
Rwyf eisiau symud ymlaen yn awr at eich—
Na, mae'n ddrwg gen i. Allwch chi ddim symud ymlaen—
Mae'n gwestiwn.
Cwestiwn felly, os gwelwch yn dda, oherwydd rydym ni'n brin o amser hefyd. Diolch.
Felly, cwestiwn oedd hwnnw. Fy nghwestiwn nesaf yw: beth am ddynion? Mae'n ymddangos eich bod yn diystyru llawdriniaeth torgest. Mae pobl yn dioddef yr un problemau gan ddefnyddio'r rhwyllau hyn. Bûm i'n siarad ag etholwr ychydig cyn cerdded i mewn i'r Siambr hon yn gynharach, a dydy e'n dal ddim yn gwybod pa ddeunydd a roddwyd y tu mewn i'w gorff. Mae hynny'n gwbl warthus. A wnewch chi ymrwymo i wneud yn siŵr bod fy etholwr yn cael gwybod yn union beth a roddwyd yn ei gorff heb ei ganiatâd? A wnewch chi ymrwymo i wneud hynny?
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn amlwg, ni allaf wneud sylw ar faterion unigol nad wyf yn ymwybodol ohonyn nhw, ond dylai eich etholwr gysylltu â'r bwrdd iechyd lle cynhaliwyd y llawdriniaeth. Byddwn i'n disgwyl i'r wybodaeth honno fod ar gael yn rhwydd iddo.
Mae angen imi hefyd ymdrin â'r pwynt am dorgest a grybwyllais wrth ymateb i Janet Finch-Saunders ar y cychwyn. Wrth gwrs, cynhelir llawdriniaeth torgest ar ddynion a menywod, ac rwyf eisoes wedi dweud wrth ateb, rwy'n credu, gwestiynau gan Jenny Rathbone y byddem ni'n gobeithio cynnal, ac rydym ni yn gobeithio cynnal, adolygiad o lawdriniaeth torgest er mwyn deall a yw'r un lefel o gymhlethdodau yn bodoli. Ond mae'n wir fod pobl yn ymateb mewn ffordd wahanol. Mae'n wir, rhwng dynion a menywod, bod yna lawdriniaethau nad ydynt yn effeithio ar ddynion. Ac, fel y dywedaf—nid wyf yn ymddiheuro am ei ddweud eto—pe byddai mater tebyg wedi effeithio ar ddynion yn unig, yna nid wyf yn credu y byddai wedi cymryd cymaint â hyn o amser i'r broblem honno gael sylw ac i gamau pellach gael eu cymryd. Sefydlais y grŵp gweithredu i ystyried y mater hwn a'r materion sy'n codi ar y cofnod i'w gwella a'r amrywiaeth o faterion iechyd menywod cysylltiedig y soniais amdanyn nhw, endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol.
Wrth gwrs, mae angen inni wneud mwy, a'i wneud yn gyson ac yn gyflym. Dyna pam yr wyf wedi gofyn i'r grŵp gweithredu gael ei greu. Ac yn sicr dydw i ddim yn amddiffyn methiant i roi cydsyniad deallus gwirioneddol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, cyn heddiw ac ar nifer o achlysuron heddiw hefyd. Af yn ôl at y timau amlddisgyblaethol. Mae timau amlddisgyblaethol yn bodoli fel mater o drefn ar gyfer triniaethau llawfeddygol. Yr her yn yr adroddiad hwn i ni yw a oes gennym ddigon o'r arbenigedd angenrheidiol yn y timau hynny, a ydyn nhw mor gyson ag y mae angen iddyn nhw fod, a sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn ailymrwymo i sicrhau gwelliant. Nid yw hynny'n golygu bod methiant cyffredinol i wneud yr hyn sy'n iawn. Mae'n golygu bod angen ichi achub ar y cyfle i wella, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid ichi dderbyn bod yna her i'w datrys yn y lle cyntaf er mwyn gallu rhoi eich hunain ar lwybr i wella'r broses bresennol a'r camau gweithredu presennol. Felly, ni welaf unrhyw reswm i gywiro'r cofnod. Rwy'n derbyn yr argymhellion sydd gennym, ac edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl i'r Aelodau yn y dyfodol ar y camau y bydd y GIG yn ymgymryd â nhw i gyflawni'r gwelliant gofynnol hwnnw.
Diolch. Yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn atal ac achosion, oherwydd, yn amlwg, mae atal yn well o lawer na thriniaeth, ac, yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod y driniaeth yn briodol. Mae'n rhaid inni gofio bod thalidomid yn cael ei ragnodi ar un adeg fel modd o drin salwch bore yn ystod beichiogrwydd. Felly, yn amlwg, mae hyn wedi'i ddefnyddio fel rhywbeth ar gyfer trin anymataliaeth a phrolaps. Y mater mewn gwirionedd yw'r hyn y gallwn ni ei wneud i gefnogi pobl rhag cael anymataliaeth a phrolaps—pethau fel atal rhwygiadau trydydd a phedwerydd gradd a, phan fo hynny'n bosibl, sicrhau eu bod nhw'n cael pwythau gan feddyg sydd â'r cymwysterau a'r sgiliau priodol.
Mae'n ddiddorol bod gwledydd eraill yn Ewrop yn atgyfeirio pob menyw sydd wedi cael baban, fel mater o drefn, at ffisiotherapydd mewn modd proffylactig oherwydd, yn aml, nid yw'r problemau a gaiff menywod yn ddiweddarach yn amlwg ar unwaith ond gallai ffisiotherapydd eu canfod. Felly, rhywbeth i'w gadw mewn cof wrth inni ystyried triniaeth yn y dyfodol. Wrth gwrs, faint o hyn sy'n rhywbeth yr oedd menywod yn dygymod ag ef yn y gorffennol oherwydd, cyn y GIG, roedd yn rhaid i fenywod ddioddef anymataliaeth a phrolaps gan nad oedd ganddyn nhw yr arian i'w gywiro—.
Un o'r materion sy'n peri pryder i mi ynghylch yr adroddiad yw pan ddywedir wrthym bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cysylltu â'r British Society of Urogynaecology a'r British Association of Urological Surgeons i gael data am y niferoedd sydd wedi cael y driniaeth hon a, hyd yma, dydyn nhw heb gael ateb nac, yn wir, yr eglurhad nad yw pob llawfeddyg yng Nghymru, o reidrwydd, wedi'i gofrestru ag un o'r mudiadau hyn ac, felly, ni fyddent wedi gallu cofnodi eu data beth bynnag. Felly, mae arwydd clir yn y fan yna bod angen inni ddefnyddio technoleg ddigidol i sicrhau bod gennym y data y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt bellach yn galw amdano'n ôl-weithredol.
Rwy'n falch iawn eich bod chi'n bwrw ymlaen â'r grŵp gorchwyl ar y cyd â'r grŵp gorchwyl anafiadau sphincter yr anws a'r grŵp gorchwyl endometriosis, oherwydd, yn amlwg, mae'r rhain yn faterion cysylltiedig, ac edrychaf ymlaen at yr adroddiadau cysylltiedig pan fyddan nhw'n barod i'w cyhoeddi. Diolch.
Byddaf yn ymdrin â—rwy'n credu bod tri phwynt penodol yn codi o hynny. Y cyntaf ar bwynt yr ydych chi wedi'i wneud o'r blaen am ffisiotherapi, a'r hyn yr wyf yn mynd i'w wneud yw sicrhau bod rhywun o swyddfa'r prif nyrs yn gallu rhoi nodyn inni ar y gofal i fenywod ar ôl beichiogrwydd a deall swyddogaeth ffisiotherapi. Gwn eich bod wedi gwneud y pwynt yn benodol am Ffrainc, er enghraifft, lle cynigir ffisiotherapi fel mater o drefn ar ôl y geni.
Rwy'n cydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud am gofrestru gwirfoddol gan y ddau gorff proffesiynol perthnasol, ac mae'n siomedig na wnaeth y ddau gorff hwnnw ddarparu gwybodaeth pan ofynnwyd amdani yn y modd y gofynnwyd amdani.
Mae hynny'n arwain at y pwynt ynghylch codio meddygol ac argymhelliad 7. Mae'r pwynt hwn yn edrych ar y codio a ddylai fod ar gael i ni, y gwelliannau y gallem ni ac y dylem ni eu gwneud nawr, yn ogystal â'r dewisiadau tymor hwy y mae'n rhaid inni eu gwneud ynghylch deall pa fewnblaniadau sy'n cael eu gosod mewn pobl—o ba bynnag ffurf, nid dim ond yn y maes hwn—a deall ymhle y sicrheir bod hwnnw ar gael. Ond, yn hollbwysig, mae'n ofynnol bod yr wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd. Ac felly rwy'n credu y bydd yn darparu tryloywder gwirioneddol am yr hyn sydd wedi'i fewnblannu ac ymhle, ac yn caniatáu mwy o dryloywder ac archwilio i effeithiolrwydd y llawdriniaethau hynny ac unrhyw gymhlethdodau ôl-driniaethol. Felly, mae mwy o waith inni ei wneud, ac mae hynny yn bendant wedi'i gwmpasu gan yr argymhellion yn yr adroddiad, ac, fel y dywedais, rwy'n edrych ymlaen at adrodd yn ôl i'r lle hwn ar y cynnydd a wnaed rywbryd yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.