2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau dialysis arennol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ52229
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a rhwydwaith clinigol arennol Cymru wrthi'n trafod gyda darparwyr gwasanaeth ar gyfer gwasanaeth hemodialysis cronig ar hyn o bryd. Cydnabyddir bod Cymru yn arwain y DU o ran mynediad at ddialysis arennol drwy sicrhau bod dros 90 y cant o'r boblogaeth yn gallu cael mynediad at ddialysis o fewn amser teithio o 30 munud. Yng ngogledd Cymru, rydym eisiau ehangu'r gwasanaeth er mwyn rhoi cymorth pellach i'r dull hwn a pharhau i wella mynediad a chanlyniadau ar gyfer cleifion.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond deallaf fod y gwasanaethau arennol ar hyn o bryd yn cael eu darparu naill ai gan y GIG, gan ddarparwr annibynnol neu gyfuniad o'r ddau. Ym mis Chwefror, dywedodd y bwrdd iechyd y bydd y darparwr annibynnol cyfredol yn cael ei ailgomisiynu yn uned Bangor a'r uned ategol yn Alltwen. Yn dilyn hyn, mynegwyd pryderon am newidiadau posibl i'r telerau ac amodau ar gyfer staff a gyflogir gan bwy bynnag a fydd yn ennill y contract nesaf. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn wybod a fydd y gweithlu presennol yn sicr o gael yr un telerau ac amodau ag y maent wedi'u mwynhau yn y gorffennol ac y bydd cleifion yn parhau i gael gofal o'r un safon uchel ag y maent yn ei haeddu mor agos at adref ag y bo modd.
Diolch i chi am y cwestiwn. Gwn fod cwestiynau wedi bod am y maes eang hwn o'r blaen. Hoffwn ailadrodd y cymerwyd y cyfle i edrych ar y gwasanaeth cyfan i ehangu a gwella gwasanaethau ymhellach er mwyn gwneud yn siŵr fod gofal yn nes at adref i nifer fwy o bobl. Felly, mae cynrychiolwyr cleifion, undebau llafur a chynrychiolwyr adnoddau dynol wedi'u gwahodd i mewn i'r broses er mwyn datblygu gwasanaethau arennol, ynghyd â chlinigwyr wrth gwrs. Rwy'n hapus i nodi unwaith eto y bydd yr holl wasanaethau arennol arbenigol a gofal ymgynghorol yn parhau i gael eu darparu gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar y model terfynol, ond rwyf eisiau ailadrodd hyn yn glir iawn: ni fydd y Llywodraeth hon yn cymeradwyo camau i drosglwyddo staff y GIG i'r sector preifat. Rwyf am fod yn wirioneddol glir ac agored ynglŷn â hynny, oherwydd gwn fod rhai aelodau o staff yn pryderu am eu dyfodol yn y gwasanaeth iechyd gwladol.
Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan y trefniadau newydd, rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau na fydd unrhyw staff y GIG yn symud i'r sector preifat, ond os oes unrhyw newid o gwbl mewn perthynas â staff yn symud o unrhyw gorff GIG i drydydd parti arall, a allwch gadarnhau na fydd hawliau pensiwn staff yn cael eu heffeithio yn hynny o beth? Hefyd, mae yna rai pryderon ynglŷn â newid a fydd yn arwain at gleifion yn talu am wasanaethau ychwanegol yn y Trallwng, a tybed a allech chi roi sylw ar hynny. Mae rhywfaint o'r offer hamdden a meddygol a brynwyd ar gyfer yr uned arennol wedi'u cyflenwi gan Gymdeithas Cleifion Arennol Gogledd Powys. Felly, yn sgil unrhyw newid, a gaf fi ofyn beth fyddai'r sefyllfa mewn perthynas â pherchnogaeth ar yr eitemau penodol hyn? A gaf fi ofyn hefyd a fydd cludiant cleifion yn cael ei effeithio mewn unrhyw ffordd yn sgil unrhyw newid?
Rwy'n fodlon ailadrodd yr atebion rwyf wedi'u rhoi i Joyce Watson i geisio ymdrin â'r pwyntiau rydych yn eu codi. O ran hawliau pensiwn, o ystyried na fydd y Llywodraeth hon yn cymeradwyo camau i drosglwyddo staff o'r gwasanaeth iechyd gwladol, nid yw'r mater yn codi. Os yw pobl yn dewis trosglwyddo a symud eu cyflogaeth, mater iddynt hwy yw hwnnw. Ni allwn orfodi pobl i aros o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol; mae pobl yn newid swyddi o bryd i'w gilydd fel y gwyddom, ond ni fydd gwasanaeth newydd yn cael ei ddarparu sy'n ei gwneud yn ofynnol i bobl symud o'r gwasanaeth iechyd gwladol.
O ran y Trallwng, bydd gwasanaethau'r GIG yn parhau i gael eu comisiynu a'u darparu gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Hyd yn oed lle y ceir partneriaethau gyda'r sector annibynnol, nid yw hynny'n golygu y byddai'n rhaid i bobl dalu am eu triniaeth yn y pen draw; gwasanaeth GIG ydyw. Felly, gobeithiaf yn wir y bydd hynny'n helpu i dawelu rhai o'r sïon a rhywfaint o'r ffordd y mae'r sgwrs hon wedi lledaenu mewn ardaloedd—nid yw'n bosibl ac nid oes unrhyw reswm dichonol dros gredu y byddai hynny'n digwydd mewn gwirionedd. I roi'r sicrwydd hwnnw i staff ac i gleifion, ni fydd yn effeithio ar gludiant cleifion, ni fydd yn effeithio ar orfod talu am wasanaethau—mae'n wasanaeth iechyd gwladol—ac ni fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff symud o'r gwasanaeth iechyd gwladol. Nid wyf yn credu y gallaf fod yn gliriach na hynny.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd ddweud wrthym fod staff ac undebau'n rhan o'r trafodaethau ynglŷn â dyfodol y gwasanaeth, ond ddoe dyfynnais lythyr i'r Prif Weinidog gan staff sy'n dweud,
'mae'n ffordd warthus i gyflogwr cyfrifol ymddwyn mewn proses o'r fath'.
Oherwydd maent yn ddig nad ydynt wedi cael yr ymgysylltiad rydych yn dweud eu bod yn gael. Maent yn dweud
'Mae'r staff yn teimlo bod y cyfathrebu wedi bod yn wael trwy gydol y broses hon ac nad yw wedi digwydd yn brydlon, gan atal cynrychiolaeth undebau i bob pwrpas ac achosi trallod a gofid difrifol i'r holl staff dan sylw'.
Nawr, gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe a fyddai'n edrych ar hyn i roi sicrwydd i ni nad yw hynny'n wir, neu o leiaf, os yw'n wir, y bydd yn newid. A allwch chi hefyd roi'r sicrwydd hwnnw i ni, os gwelwch yn dda?
Rwy'n hapus i wneud hynny, oherwydd os oes problem wedi bod gyda'r ffordd yr ymgysylltwyd â staff rwy'n disgwyl iddi gael ei chywiro. Ond gwn fod undebau llafur y gwasanaeth iechyd wedi cymryd rhan yn y sgwrs gyda'r gwasanaeth hwn. Unwaith eto, rwy'n dweud na fydd gofyn i staff y gwasanaeth iechyd gwladol drosglwyddo eu cyflogaeth; rwy'n disgwyl i staff gyfranogi'n llawn, a'u cynrychiolwyr, mewn sgyrsiau ynglŷn â'u dyfodol. Os oes problem go iawn—ac rwyf wedi darllen y llythyr gan staff y Trallwng—byddwn yn sicrhau bod cyflogwr y gwasanaeth iechyd gwladol yn unioni'r broses i wneud yn siŵr fod pobl yn cymryd rhan briodol yn y sgwrs am eu dyfodol.
Rwy'n credu bod y mater hwn yn tynnu oddi ar lwyddiant y gwasanaethau dialysis arennol yng Nghymru. Ni sydd â'r stori orau i'w hadrodd am ansawdd y gofal, y canlyniadau a'r amser teithio, yn y DU gyfan. Rydym mewn gwell sefyllfa o lawer na'r Alban a Lloegr, ac mae hynny oherwydd gwaith caled rhwydwaith clinigol arennol Cymru, y staff nyrsio a'r staff gofal ychwanegol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd, sy'n darparu'r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol. Rwy'n falch o'r buddsoddiad ychwanegol rydym yn ei wneud ac wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn ers 2009. Mae'n rhaglen a fydd yn parhau a bydd cleifion yng Nghymru yn cael gofal gwell o ganlyniad.