– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 23 Mai 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Dechrau'n Deg: Allgymorth'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Lynne Neagle.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar elfennau allgymorth y rhaglen Dechrau'n Deg.
Cyflwynwyd Dechrau'n Deg 11 mlynedd yn ôl ac fe'i hystyrir yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig ac fe'i hystyrir yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi. Mae'r rhaglen yn cynnwys pedair elfen allweddol: gofal plant rhan-amser yn rhad ac am ddim i blant dwy i dair blwydd oed, gwasanaeth ymwelwyr iechyd gwell, mynediad at gymorth rhianta a mynediad at gymorth datblygiad iaith cynnar. Mae'r rhaglen yn targedu ardaloedd yn ôl mesurau o anfantais gymharol, gan gynnwys mynegai amddifadedd lluosog Cymru, prydau ysgol am ddim a'r gyfran o blant o dan bedair oed ar aelwydydd sy'n cael budd-daliadau cysylltiedig ag incwm. Felly mae Dechrau'n Deg yn ceisio cynorthwyo'r teuluoedd, y cymunedau a'r plant ifanc mwyaf difreintiedig. Mae gwasanaethau'r rhaglen ar gael yn gyffredinol i'r holl blant o dan bedair oed yn yr ardaloedd lle mae'n cael ei chynnig.
Yn 2014, cyflwynwyd trefniadau allgymorth mewn ymateb i bryderon fod seilio hawl i wasanaeth ar god post teulu yn arwain at allgáu llawer o'r plant a oedd fwyaf o angen cymorth. Crëwyd elfen allgymorth y rhaglen i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu pedair elfen graidd Dechrau'n Deg i ganran fach o'u poblogaeth sy'n byw y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg.
Dewisom gynnal ymchwiliad yn canolbwyntio ar elfen allgymorth Dechrau'n Deg y llynedd oherwydd bod ymatebwyr i'n hymgynghoriad 2016 ar 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd plentyn wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch cyrhaeddiad y rhaglen. Er eu bod yn cefnogi nodau Dechrau'n Deg, roeddent yn pryderu bod targedu'r rhaglen yn ddaearyddol mewn perygl o greu rhagor o anghydraddoldeb, drwy eithrio nifer sylweddol o blant a oedd yn byw mewn tlodi. O ystyried hyn, cytunwyd y dylem glywed tystiolaeth ynghylch pa mor effeithiol yw'r gwaith allgymorth presennol ac a ddylid datblygu'r rhaglen i ymestyn ei chyrhaeddiad. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch i bawb a gyfrannodd dystiolaeth yn ysgrifenedig ac ar lafar i'r gwaith pwysig hwn, a chydnabod gwaith caled yr holl staff ymroddedig sy'n darparu gwasanaethau Dechrau'n Deg ar draws Cymru.
Felly, i droi at fanylion ein hadroddiad, roeddem am sefydlu i ba raddau roedd awdurdodau lleol yn defnyddio'r opsiwn allgymorth i gefnogi plant y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg a fyddai'n elwa ar ei wasanaethau. Er inni ganfod bod awdurdodau lleol yn gwneud defnydd o'r hyblygrwydd hwn i gyrraedd plant y tu allan i'r ardaloedd, siom oedd darganfod pa mor gyfyngedig oedd y capasiti. Dywedodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fod cyn lleied â phump o blant yn cael y gwasanaethau allgymorth hyn mewn rhai siroedd oherwydd cyfyngiadau ariannol.
Roeddem yn falch fod y sylw a roesom i gapasiti allgymorth cyfyngedig wedi arwain at gynnydd yn yr hyblygrwydd i ddyrannu cyllid i wasanaethau allgymorth. Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Leol yn cael gwario hyd at £2.84 miliwn yn ychwanegol ar allgymorth ar unwaith, sy'n cyfateb i 5 y cant o gyllideb flynyddol Dechrau'n Deg. Serch hynny, fel pwyllgor, rydym yn dal i fod heb ein hargyhoeddi bod hyblygrwydd o 5 y cant yn ddigon. Gyda mwyafrif y plant sy'n byw mewn tlodi y tu allan i ardaloedd diffinedig Dechrau'n Deg, argymhellwyd y dylai'r Gweinidog ystyried ymestyn hyblygrwydd ariannu allgymorth y tu hwnt i 5 y cant i ganiatáu i'r rhaglen gyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i hangen.
Rydym yn croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i'n hadroddiad y bydd yn archwilio goblygiadau llawn hyblygrwydd cyllido pellach gydag awdurdodau lleol. Rydym hefyd yn cydnabod y manteision sy'n gysylltiedig â rhaglenni daearyddol, yn enwedig llai o stigma, mwy o gymdeithasoli a chreu ymdeimlad o gymuned ymhlith cyfranogwyr. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn fater o bryder i ni fod bron i ddwy ran o dair o'r bobl sy'n ddifreintiedig o ran incwm, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn byw y tu allan i ardaloedd daearyddol a ddiffinnir fel rhai difreintiedig. Fel y cyfryw, buaswn yn croesawu rhagor o fanylion gan y Gweinidog ar natur y gwaith a wneir i asesu addasrwydd y cap o 5 y cant cyn y gyllideb ddrafft nesaf. Buaswn hefyd yn croesawu mwy o wybodaeth am yr ystyriaeth y mae'n ei rhoi i hawliau'r plant nad ydynt yn gallu manteisio ar Dechrau'n Deg na'r cynnig gofal plant os ydynt yn byw y tu allan i'r ardal cod post berthnasol a chanddynt rieni nad ydynt yn gweithio.
Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod craffu da yn golygu nid yn unig ystyried faint o adnoddau sydd ar gael ar gyfer darn o waith, ond pa effaith a gaiff yr adnodd hwnnw pan fydd yn weithredol. I'r perwyl hwnnw, buom yn ystyried y gwaith a wnaed i asesu effaith y £600 miliwn a fuddsoddwyd yn Dechrau'n Deg ers 2007. Gellir crynhoi'r hyn a welsom mewn tri phwynt allweddol. Yn gyntaf, cafodd Dechrau'n Deg ei werthuso'n helaeth, ond nid yn benodol yng nghyswllt yr elfen allgymorth. Yn ail, ceir diffyg data ynglŷn â niferoedd y rhai sy'n manteisio ar bob un o'r gwasanaethau o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Yn drydydd, nid yw'n hawdd mesur natur y canlyniadau a ddisgwylir o raglen fel Dechrau'n Deg. Wrth eu natur, maent yn ymwneud â'r tymor hwy ac yn anodd eu gwahanu oddi wrth y gwasanaethau a'r cymorth arall a ddarperir.
Mae'r dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod angen gwneud rhagor i ddangos manteision y rhaglen. Er ein bod yn cydnabod gwybodaeth a ddarparwyd gan randdeiliaid am y cynnydd a wnaed gan blant sydd wedi cael cymorth Dechrau'n Deg, a'r ffaith bod y rhaglen yn cael ei gwerthfawrogi gan y rhai sy'n gallu cael mynediad ati, mae llawer o werthusiadau a gomisiynwyd gan y Llywodraeth yn ei chael hi'n anodd darparu tystiolaeth empirig o effaith. Gyda chymaint o fuddsoddiad wedi'i wneud yn Dechrau'n Deg, rydym yn awyddus i weld tystiolaeth glir o'i effaith. Er ein bod yn croesawu sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn edrych ar wahanol ffyrdd o ddangos y gwelliannau uniongyrchol y mae Dechrau'n Deg yn eu gwneud, rydym yn awyddus i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei fonitro'n agos. Credwn fod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y swm mawr o arian a fuddsoddir yn hyn bob blwyddyn, gydag ychydig o dan £80 miliwn wedi'i ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon yn unig.
Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru bellach wedi gofyn i awdurdodau lleol ddatblygu a chasglu set gyson o ddata ynglŷn â phlant Dechrau'n Deg fel rhan o gynllun peilot. At hynny, rydym yn falch y bydd y cynllun peilot hwn yn cynnwys casglu data ynglŷn ag a yw plant yn cael cymorth drwy wasanaethau allgymorth Dechrau'n Deg neu o fewn ardal cod post. Rydym hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn ein cais am ddiweddariadau rheolaidd ar y data a'r gwaith ar gryfhau gwerthusiadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn gresynu at y ffaith bod argymhelliad 6 wedi'i wrthod, ac yn dal i bryderu na chesglir data ar allgymorth ar lefel Cymru gyfan. Rydym yn credu bod angen rhoi sylw i hyn os yw gwerth am arian ac effaith i gael eu hasesu'n gynhwysfawr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried hyn.
Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddarparu'r diweddariad y gofynnwyd amdano yn argymhelliad 7. Credwn ei fod yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru ddangos sut y mae wedi monitro ac adolygu effeithiolrwydd gwasanaethau rheng flaen Dechrau'n Deg, cyrhaeddiad elfen allgymorth y gwasanaethau hynny, ac argaeledd staff i gynnal y rhaglen. Mae'r olaf o'r pwyntiau hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y dystiolaeth a gawsom am anawsterau recriwtio ymwelwyr iechyd i'r cynllun Dechrau'n Deg. Dywedwyd wrthym fod hyn yn arbennig o ddifrifol oherwydd bod contractau Dechrau'n Deg sy'n seiliedig ar grantiau—a byrdymor o'r herwydd—yn ei chael hi'n anodd cystadlu â'r contractau mwy sefydlog a gynigir gan raglenni megis Cychwyn Iach Cymru.
Fel gyda nifer o ymchwiliadau eraill a gynhaliwyd gennym yn ystod y Cynulliad hwn, rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd at ein canfyddiadau cyn yr etholiad nesaf. Yn ein hadroddiad, rydym yn ymrwymo i ailystyried ein hymchwiliad ymhen y flwyddyn. Ein nod wrth wneud y gwaith dilynol hwn yw: ystyried y prosesau gwerthuso a chasglu data sy'n deillio o waith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn; asesu a yw'r diwygiadau diweddar i ddyraniad cyllid allgymorth yn cael eu defnyddio, lle maent yn cael eu defnyddio, ac a ydynt yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau rheng flaen a'u cyrhaeddiad; ystyried a yw'r rhaglen fel y'i strwythurwyd ar hyn o bryd yn dal yn briodol o ran y dyraniad cyllid cyffredinol, y gwasanaethau a ddarperir a'r meini prawf ar gyfer hawliau; ac ystyried y rhagolygon ar gyfer recriwtio ymwelwyr iechyd, o gofio'r pryderon ynglŷn â chapasiti.
Edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog a'r Aelodau eraill ar y pwnc pwysig hwn, a hoffwn gloi fy sylwadau agoriadol drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu cyfraniad i'r ymchwiliad hwn a'u hymrwymiad i wneud gwaith dilynol ar weithrediad ein hargymhellion. Diolch.
Rwy'n llongyfarch y Cadeirydd ar ei chyflwyniad rhagorol i'r adroddiad yn egluro'r cefndir polisi i'r maes cyn symud yn rhy gyflym at feysydd dadleuol a'r argymhellion. Diolch.
Hoffwn ddweud i ddechrau fod y cyfaddawd rhwng rhaglen gyffredinol a rhaglen wedi'i thargedu yn un y mae'r Cynulliad wedi'i drafod mewn llawer o feysydd eraill—yn eithaf diweddar, yn ein pwyllgor, ar brydau ysgol am ddim a grantiau wedi'u targedu. Rwy'n deall safbwynt Llywodraeth Cymru ei bod yn haws cyflwyno rhaglen mewn ardal ddaearyddol wedi'i thargedu lle y gall y derbynwyr gyrraedd lle y darperir y gwasanaeth yn hawdd, a lle mae natur gyffredinol y gwasanaeth yn lleihau'r stigma ac yn annog mwy o bobl i ymuno ac elwa heb deimlo eu bod yn cael eu neilltuo.
Mae'r 2.5 y cant ar gyfer allgymorth bellach wedi cynyddu i 5 y cant. Credaf fod hynny'n synhwyrol ac rwy'n cytuno â chasgliadau'r pwyllgor. Rwy'n credu ein bod yn unfrydol y dylai Llywodraeth Cymru ystyried ehangu hynny ymhellach, ond mae rhywfaint o'r arian hwnnw'n cael ei wario ar blant sydd wedi bod yn yr ardal, sydd hanner ffordd drwy'r rhaglen, yn elwa ohoni, a bod eu rhieni'n symud y tu allan i'r ardal. Byddai'n ymddangos yn rhyfeddol pe baem yn rhoi diwedd ar y rhaglen ar yr adeg y byddai'r plant yn newid cyfeiriad pan allent fod yn elwa ohoni.
Buaswn yn gofyn i'r Gweinidog edrych ar un maes arall, efallai, i'w argymell i awdurdodau lleol, ond hefyd er mwyn hwyluso: caniatáu i wariant ar raglenni allgymorth y tu allan i'r ardal gael ei wneud ar sail a fyddai'n ein galluogi i farnu a yw'r rhaglen yn gweithio. Ac mae'n wir, gallwch edrych ar ardaloedd lle mae ar gael o gymharu ag ardaloedd lle nad yw ar gael, gallwch edrych ar blant sy'n rhan o'r rhaglen o gymharu â rhai nad ydynt, ond yn aml fe welwch fod nodweddion teuluoedd sy'n cymryd rhan yn wahanol i'r rhai nad ydynt, felly ni fydd o reidrwydd yn ddibynadwy.
O fewn yr ardal, mae gan bobl hawl i gael budd o'r rhaglen. Y tu allan, mae'n swm llawer llai; gall llawer mwy o bobl sydd eisiau'r rhaglen elwa ohoni. A wnaiff y Gweinidog edrych ar hwyluso hap-dreialon rheoledig a fydd yn rhoi tystiolaeth dda i ni weld a yw'r ymyriadau'n gweithio mewn gwirionedd? Er enghraifft, ceir nifer o bobl a fyddai'n hoffi elwa os gallant, a gellir dyrannu'r swm sydd ar gael yn y gyllideb newydd, os yw'n codi—. A ydych yn ceisio ymyrryd, Weinidog? Gwych.
Diolch i chi am ildio. O fewn yr hyblygrwydd sydd yno ar hyn o bryd, mae'n ddiddorol nodi bod lleoedd fel Abertawe yn ei dargedu at grwpiau penodol y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, megis cymuned y Teithwyr ac ati. Yr anhawster gyda monitro'r effeithiolrwydd yw bod y data hydredol yr edrychwch amdano i weld y canlyniadau gydol oes—sut y gwnewch hynny? Sut y gallwn ddychwelyd ymhen chwe mis neu 12 mis? Ond mae'n faes diddorol, oherwydd efallai na fydd rhai o fanteision yr ymyriadau cynnar hyn, ymyriadau cofleidiol gyda'r teuluoedd sydd fwyaf o'u hangen, i'w gweld hyd nes y byddant yn eu harddegau, yn eu 20au a bydd eu cyfleoedd mewn bywyd wedi'u hagor yno. Dyna'r her, a gwn ei fod yn deall hynny.
Ond mae rhai o'r manteision yn debygol o gael eu gweld yn y blynyddoedd cynnar yn yr ysgol os ceir manteision dibynadwy, a chredaf y bydd ei gynnwys yn y system Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) yn gwella'r cyfleoedd i ymchwilwyr yn amlwg iawn. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £600 miliwn ar hyn yn yr 11 mlynedd diwethaf ac yn ei disgrifio fel rhaglen flaenllaw. O gofio maint y buddsoddiad, nid yw lefel yr asesiad a dealltwriaeth ynglŷn â sut y mae unrhyw beth yn gweithio yn ddigon da os caf ddweud. Mae'r dystiolaeth gan y Llywodraeth yn disgrifio'r gwerthuso 'cryf', ond rwy'n credu ei fod yn cael ei ddisgrifio'n fwy cywir ar dudalen 6 fel 'Mae tystiolaeth o'r gwerthusiad yn awgrymu' yn hytrach na 'dangos'. Mae'n derbyn bod y dystiolaeth yn ansoddol. Ac mewn gwirionedd, oni allwn wneud yn well na thystiolaeth ansoddol yn unig a ninnau wedi gwario £600 miliwn? Y ffaith bod plant yn gwella o ran eu cyfathrebu, darllen a rhifo—wel, byddech yn disgwyl hynny ar yr oedran hwnnw beth bynnag. Y cwestiwn yw: a yw'n gyflymach nag ymhlith plant nad ydynt yn rhan o'r rhaglen? Nid yw'r ffaith bod bron bob rhiant a gyfwelwyd yn 'teimlo' ei fod wedi effeithio'n gadarnhaol yn sylfaen dystiolaeth ddigonol os ydych yn gwario swm o arian felly.
Hoffwn edrych yn benodol ar yr agwedd rianta, oherwydd mae gan Lywodraeth Cymru 100 o dudalennau o ganllawiau i awdurdodau lleol ar hynny, ac mae'n cynnwys atodiad B: rhestr a gymeradwywyd o raglenni grwpiau rhianta strwythuredig yn seiliedig ar dystiolaeth. Ceir tystiolaeth ar gyfer rhai rhaglenni rhianta eu bod yn gweithio, tystiolaeth academaidd gadarn dda iawn, ond o'r rhestr hon o 20 rhaglen wahanol: ni chafodd tair ohonynt eu gwerthuso o gwbl; mae tair ohonynt wedi cael y sgôr uchaf o bedair seren gan yr Academi Genedlaethol o Ymarferwyr Rhianta, sef yr Academi Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Rhianta bellach, ac maent yn dda iawn, ond sgôr o ddwy seren yn unig sydd gan bump ohonynt, ac mae hynny'n golygu nad yw'r rhaglen yn arbennig o dda. Ac os yw Llywodraeth Cymru yn rhoi arian fel hyn i mewn i raglen fel hon, does bosibl nad ydym eisiau ei roi tuag at feysydd sydd wedi'u gwerthuso ac y dangoswyd eu bod yn gweithio.
Rwy'n gofyn i'r Gweinidog edrych yn agosach ar y rhestr hon o raglenni rhianta yn benodol, ond hefyd i weithio gyda'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar a sefydlwyd gan Graham Allen AS ac edrych ar eu mis Chwefror eleni 'Evaluating early intervention programmes—Six common pitfalls, and how to avoid them'. Ceir cyngor da iawn yno ynglŷn â sut y gallai Llywodraeth Cymru wella'r hyn y mae'n ei wario yn y maes hwn a gwneud yn siŵr y caiff ei wario gystal ag y gellid.
Rydw i'n mynd ar ôl trywydd nid anhebyg, o safbwynt y dynfa sydd yma, ac rydw i'n meddwl yn ei hanfod dyna roeddwn i'n ymrafael â hi yn yr adroddiad yma, sef y dynfa yma rhwng sut rydych chi'n ffocysu adnoddau er mwyn cael yr impact gorau. Rŷm ni'n gweld hyn nid dim ond o ran Dechrau'n Deg ond mewn rhaglenni eraill. A ydych chi'n cyfyngu'r gefnogaeth i ardaloedd daearyddol penodol neu a ydych chi'n targedu demograffig neu grŵp penodol o bobl lle bynnag maen nhw'n byw? Yn ei hanfod—ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y ddadl, rwy'n credu—dyna oedd yr hyn yr oeddwn i'n trio ymrafael ag ef. Ac mae'n rhaid i fi ddweud, a chytuno â'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd ar y dechrau—y siom fwyaf ges i oedd cyn lleied oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth mewn rhai awdurdodau lleol. Hynny yw, mi gyfeiriwyd at un awdurdod lleol lle dim ond pump o blant a oedd yn cael budd o'r elfen allgymorth. Os ydych hi'n mynd i drio gwneud hyn ddwy ffordd, a chael rhyw fath o gydbwysedd, yna byddwn i'n disgwyl gwell cydbwysedd yn dod yn sgil hynny, oherwydd mae'r elfen allgymorth yma i fod yn ffordd i newid y cydbwysedd yna, i fynd i'r afael â'r diffyg cydbwysedd, ac, yn amlwg, mewn rhai ardaloedd nid yw hynny, efallai, ddim yn digwydd fel y byddwn i'n dymuno. Ac fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mae dwy ran o dair o bobl sydd ag anawsterau incwm yn byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg, felly mae yna wendid clir yn hynny o beth.
Mae'n ffaith bod y Llywodraeth, wrth gwrs, wedi cynyddu'r cap ar wariant allgymorth, lan i 5 y cant o'r gyllideb, yn ystod yr ymchwiliad, ac mae hynny yn ei hun, rydw i'n meddwl, wedi bod yn gyfaddefiad ar ran y Gweinidog a'r Llywodraeth nad oedd y cydbwysedd, efallai, fel y dylai fod, ac nad oedd e'n iawn, nad oedd e'n addas, ac efallai nad oedd e'n ddigonol. Ac mae argymhelliad cyntaf y pwyllgor yn holi'r cwestiwn ynglŷn â'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Iawn, os ydych chi'n derbyn efallai bod eisie newid y cydbwysedd, pam 5 y cant? Pam ddim 7 y cant neu 10 y cant? Ac rydw i'n gwybod eich bod wedi cyfeirio, os ydw i'n cofio'n iawn, at y ffaith mai dyna'r ffigur sy'n gallu cael ei 'vire-o' o un rhaglen i'r llall, ond rydw i'n meddwl bod angen inni gael gwell rationale sy'n seiliedig, efallai, ar yr awgrym o beilota neu dreialu neu drio gwahanol fodelau mewn ardaloedd gwahanol, fel ein bod ni â'r hyder bod y model yna neu'r ffigur yna yn addas.
Weithiau, mae'n rhaid inni dderbyn, er mor crude yw ffiniau daearyddol, gydag ychydig o dechnegau, efallai, i drio meddalu ychydig ar y ffiniau yna, efallai bod yn rhaid inni jest derbyn nad yw e'n berffaith ond efallai taw dyna'r gorau sydd gennym ni. Yn sicr, rydw i'n teimlo taw dyna'r consensws gyda rhywbeth fel y grant datblygu disgyblion, y PDG. Mae ambell un wedi dweud bod seilio hwnnw ar bwy sy'n gymwys, (a), i gael cinio am ddim yn rhy crude, a ddim yn ddigon clyfar, efallai, ond pan ŷch chi'n gofyn beth a ddaw yn ei le—wel, mae pawb yn edrych ar ei gilydd ac yn dweud, 'Wel, ie, efallai taw hynny yw'r gorau sydd gyda ni', ac weithiau, efallai, mae'n rhaid inni dderbyn hynny. Ond heb y rationale yna y tu ôl i'r 5 y cant, rydw i'n dal yn stryglo i deimlo ei fod e ddim yn ffigur sydd jest wedi cael ei bigo mas o'r awyr. Ac rydw i'n sicr eisie gweld mwy o impact na'r hyn rŷm ni wedi'i weld yn y gorffennol.
Nawr, rydw i yn cael fy nghalonogi gan rai agweddau ar ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion, yn enwedig y sôn am yr ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol i greu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol, a fydd yn rhoi lle canolog i anghenion unigryw pob plentyn. Felly, mae rhywbeth yn fanna, rydw i'n meddwl. A byddwn i'n licio clywed y Gweinidog yn ymhelaethu, efallai, ar yr hyn y mae e'n ei olygu pan mae e'n sôn am greu un system ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy'n lleol ac yn genedlaethol, ond hefyd fod pob gwasanaeth yn cydweithio, yn tynnu i'r un cyfeiriad. Byddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ac mae'n bosib, o gael hynny'n iawn, fod hynny yn ei hun yn rhoi ychydig mwy o hyblygrwydd o safbwynt y modd mae'r gwasanaethau yma'n cael eu gwasgaru dros ardaloedd ehangach. Os ydy pawb yn tynnu i'r cyfeiriad, yna efallai bod gan bawb bach mwy o hyder i wthio'r ffiniau yna, yn hytrach na jest dibynnu ar y ffiniau daearyddol.
Rŷch chi hefyd yn sôn am broject cydadeiladu dwys gyda dau fwrdd gwasanaethau cyhoeddus sydd yn mynd i edrych ar yr opsiynau. Wel, mae hynny'n swnio tamaid bach fel cyfle i beilota gwahanol approaches. Felly, fe wnaf i gyfyngu fe sylwadau i hynny, rydw i'n meddwl, oherwydd mae'r cloc yn fy nghuro i. Ond rydw i'n dod nôl at y pwynt yma: yng nghalon yr adroddiad yma mae'r ddadl yma ynglŷn â ble rŷm ni'n taro'r cydbwysedd. Nid oedd yna dynfa yn ôl at lynu'n dynnach at ffiniau daearyddol yn y dystiolaeth. Nid oedd yna dynfa, a bod yn onest, oherwydd mae yna faterion yn ymwneud â stigma ac yn y blaen, i fynd yn llwyr i'r cyfeiriad arall. Y cwestiwn i fi yw: ble mae'r cydbwysedd yna yn cael ei daro?
Rwyf am godi mater penodol, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wedi ei godi cyn hyn fel rhan o'r gwaith hwn, mater sy'n ymwneud â fy etholaeth, sef Dwyrain Casnewydd, lle mae'r elfen god post o gymhwysedd ar gyfer y ddarpariaeth, er gwaethaf yr elfen allgymorth sy'n ymdrin yn rhannol â'r cyfyngiad hwnnw, yn dal i fod wedi arwain at ddwy gymuned sy'n debyg iawn—tai cymdeithasol ym Mharc Moorland a Pharc Broadmead yng Nghasnewydd—lle mae eu mynediad at y rhaglen Dechrau'n Deg yn wahanol iawn.
Felly, mae yna sylfaen Dechrau'n Deg ym Mharc Moorland—yng nghanolfan gymunedol Parc Moorland, yn Nwyrain Casnewydd—ac mae gan ardal tai cymdeithasol Parc Moorland fynediad at y ddarpariaeth. Ond nid oes gan Barc Broadmead gerllaw fynediad o'r fath oherwydd y maen prawf cymhwysedd cod post. Er bod yna elfen allgymorth, nid yw'n ddigon i unioni'r gwahaniaeth yn ddigonol. Felly, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru edrych eto ar yr elfen honno o'r rhaglen oherwydd yr hyn a ganfuom oedd bod capasiti sbâr yn y cyfleuster yng nghanolfan gymunedol Parc Moorland, felly roedd y staff yn eu lle, roedd y cyfleusterau yno, a fyddai'n eu galluogi i helpu rhagor o blant a rhagor o deuluoedd, ond ni allent wneud hynny oherwydd y cyfyngiad cod post. Felly, credaf ei fod yn ddarlun clir o fethiant i wneud y defnydd gorau o gapasiti ac adnoddau, ac mae angen mynd i'r afael â hynny.
Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl bobl a'r sefydliadau a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor yn rhan o'n hymchwiliad, a hefyd i glercod y pwyllgor sy'n gwneud gwaith mor rhagorol yn cefnogi gwaith y pwyllgor.
Wrth agor ei hymateb, mae'r Llywodraeth yn dweud:
'Rydym eisiau sicrhau bod plant o bob cefndir yn cael y dechrau gorau posibl i’w bywydau.'
Mae pawb ohonom eisiau hynny, ond y cwestiwn yw ai Dechrau'n Deg, er gwaethaf yr hyblygrwydd y mae'r Gweinidog wedi ceisio ei gyflwyno, yw'r ffordd orau o ddarparu'r cymorth hwnnw. Mae rhai plant mewn ardaloedd heb raglen Dechrau'n Deg angen y cymorth hwn, ond nid ydynt yn ei gael oherwydd eu bod yn digwydd byw yn y cod post anghywir. Mae gan yr ardaloedd mwyaf cefnog bocedi o dlodi, ac mae anghenion y plant sy'n byw ynddynt yn cael eu hanwybyddu. Felly, ymddengys i mi fod defnyddio daearyddiaeth fel y maen prawf ar gyfer cynnig y cymorth hwn i'w weld yn offeryn braidd yn amrwd i'w ddefnyddio.
Wrth ymateb i argymhelliad 2, dywed y Gweinidog fod hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer allgymorth a roddir i awdurdodau lleol dan ystyriaeth ar hyn o bryd, a hoffwn yn fawr iawn pe bai'r Gweinidog yn dod yn ôl a chyflwyno adroddiad ar yr ymchwiliad hwnnw i'r Cynulliad. Credaf y byddai ei ganfyddiadau'n ddiddorol iawn. Byddai hefyd yn ddiddorol iawn clywed barn y Gweinidog ar fanteision ac anfanteision cymharol targedu daearyddol o gymharu â ffyrdd eraill o dargedu'r cyllid i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir o Dechrau'n Deg.
Wrth gwrs, mae'n bosibl iawn fod Dechrau'n Deg yn effeithiol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau rhai pobl, ond heb werthusiad priodol o'r angen am y cynllun, lefel yr allgymorth a'i ganlyniadau, ni allwn fod yn sicr a ydym yn cyrraedd pawb sydd angen y cymorth, ac os ydym, pa mor effeithiol yw'r cymorth hwnnw mewn gwirionedd.
Rwy'n deall y pwynt ynglŷn â lleihau'r gwaith adrodd sydd gan awdurdodau lleol i'w wneud, ond os yw Llywodraeth Cymru yn rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol, pam na ellir casglu'r data i asesu a yw'r strategaeth o gynnig hyblygrwydd yn hytrach na diwygio Dechrau'n Deg yn un effeithiol? Yn ei ymateb i argymhelliad 1, ymddengys bod y Gweinidog wedi cyflawni'r argymhellion drwy roi esboniad o'r broses, ond mae'r prosesau a ddisgrifir i'w gweld yn hanner dyfalu hanner amcangyfrif y ganran angenrheidiol o hyblygrwydd, yn dilyn trafodaethau gyda rhai, ond nid pob un, o'r awdurdodau lleol.
Rwy'n bryderus nad yw'n ymddangos bod y broses honno wedi'i seilio ar sylfaen dystiolaeth gadarn, ac felly ceir pryder na fydd y ganran a ddewiswyd yn ddigon o hyd. Mae'r Gweinidog yn dweud yn yr ymateb y bydd trafodaethau pellach gydag awdurdodau lleol, ond pa awdurdodau lleol fydd y rheini, os nad pob un ohonynt, a beth fydd y broses ar gyfer addasu'r ganran? Buaswn yn gobeithio y byddai'n broses eithaf rhesymegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Hoffwn glywed beth y mae'r Gweinidog yn ei ystyried yw manteision ac anfanteision y dull y mae'n ei ddefnyddio ar gyfer asesu a yw canran yr hyblygrwydd a'r cyllid ar gyfer allgymorth yn ddigonol.
Mae'n ddigon hawdd gofyn am adborth gan y bobl sy'n cymryd rhan—mae'n ymarfer teilwng iawn ac rydych yn mynd i gael gwybodaeth dda o hynny—ond mae gwir angen inni gael gwerthusiad priodol o anghenion y rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan, i weld a ddylent allu cymryd rhan yn Dechrau'n Deg, a beth fydd y costau a'r goblygiadau logistaidd. Ac i'r perwyl hwnnw, mae'n drueni fod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 6. Mewn gwirionedd nid yw casglu data ar gyfer Cymru gyfan yn esgus dros beidio â monitro a oes gormod o amrywio rhanbarthol. Does bosibl nad rôl Llywodraeth Cymru yw goruchwylio'r system a lleihau gwahaniaethau diangen rhwng rhanbarthau. Sut arall y gallwch fonitro gwahaniaethau rhanbarthol a sicrhau bod pawb sydd angen Dechrau'n Deg yn gallu cael mynediad at y rhaglen, ac nad oes unrhyw deulu yn syrthio drwy'r rhwyd, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd mwy na thebyg?
Bydd llawer o bobl yn pryderu bod awdurdodau lleol sy'n brin o arian yn annhebygol o gyflawni nifer o swyddogaethau neu gynnig gwasanaethau nad ydynt yn cael eu mesur yn eu herbyn na'u monitro arnynt hyd yn oed. Felly, yn sicr, gallai gwrthod y syniad y dylai awdurdodau lleol roi gwybod am unrhyw newidiadau i'r modd y darperir gwasanaethau fod yn arwydd iddynt nad yw Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i Dechrau'n Deg a'i bod hi'n iawn i awdurdodau lleol lacio'u hymroddiad i'r cynllun. Rwy'n berffaith siŵr nad dyna eich bwriad, Weinidog, ond sut rydych yn mynd i atal awdurdodau lleol rhag bachu ar yr esgus i roi ychydig o hyblygrwydd iddynt eu hunain? Rydym yn haeddu cael gwybod bod y prosiect yn effeithiol, ond yn fwy pwysig, mae teuluoedd Cymru sydd angen cymorth, ym mha ardal ddaearyddol bynnag y maent yn byw ynddi, yn haeddu'r gorau y gallwch ei wneud drostynt.
Felly, yn olaf, heb fonitro a gwerthuso priodol, ni allwn fod yn sicr fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, a hoffwn annog y Gweinidog i dderbyn yr argymhellion y mae wedi'u gwrthod a derbyn yn llawn, nid mewn egwyddor yn unig, holl argymhellion eraill yr adroddiad. Diolch.
Darllenais eich adroddiad gyda diddordeb, gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond roeddwn yn arfer rheoli rhaglen Cychwyn Cadarn, felly mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhwysigrwydd allgymorth. Roeddwn braidd yn siomedig, felly, pan ddarllenais yno na wnaethoch ganolbwyntio ar effeithiolrwydd allgymorth o fewn ffiniau daearyddol Dechrau'n Deg, gan mai dyna yw un o'r materion pwysicaf i mi wrth asesu a yw Dechrau'n Deg yn cyrraedd y rhai sydd fwyaf o'i angen.
Rwy'n sylweddoli bod gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd ddyletswyddau statudol a phwerau i ymgysylltu â menywod beichiog a babanod a phlant bach yn wir, ac felly mae'n rhaid cymryd bod peth cyswllt cyffredinol yn digwydd gyda'r holl famau a babanod yn yr ardal; fodd bynnag, bydd y teuluoedd mwyaf ymylol yn annhebygol o ymgysylltu ag Aros a Chwarae, gweithdai sgiliau rhianta a phethau cyffelyb os nad oes ymdrech fwriadol i'w cynnwys. Ac nid wyf yn gwybod, o ddarllen yr adroddiad hwn, a yw hyn yn digwydd.
Ond rydym yn gwybod bod yna gyfoeth o ymchwil sy'n dangos bod teuluoedd sy'n dioddef o iselder cyn geni ac ôl-enedigol, mamau sydd wedi cael profiadau niweidiol blaenorol yn ystod plentyndod a'r rhai sydd mewn perthynas gamdriniol yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn gwasanaethau a gynlluniwyd i chwalu'r unigedd a'r unigrwydd sy'n gallu mynd law yn llaw â bod yn rhiant. Mae'n llawer haws i rai sydd heb heriau ychwanegol ac maent yn fwy tebygol o ymgysylltu. Felly, mae hwn yn dal i fod yn gwestiwn yn fy meddwl a hoffwn glywed gan y Cadeirydd, wrth iddynt grynhoi, pa bwyslais a roddir ar hyn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn parhau i fod yn farc cwestiwn mawr yn fy meddwl.
Er bod y pwyslais a rowch ar allgymorth i'r rhai sydd y tu allan i ardal Dechrau'n Deg yn ganmoladwy mewn rhai ffyrdd, mae perygl o wanhau'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu i bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a dargedir gan Dechrau'n Deg. Ydy, mae ardaloedd cynnyrch ehangach is yn ffordd amrwd iawn o wneud pethau; mae'n bleser i gynllunwyr oherwydd mae'n rhoi cyfrannau cyfartal i chi, ond nid yw'n parchu natur wahanol ystadau unigol. Yn fy ardaloedd Dechrau'n Deg fy hun, mae gennyf hanner ystâd, ystâd eithaf tlawd, nad yw yn Dechrau'n Deg ac mae'r hanner arall o fewn ardal Dechrau'n Deg. Mae gennyf ddatblygiad newydd o dai preifat yn bennaf o fewn yr ardal Dechrau'n Deg a chymunedau difreintiedig iawn y tu allan iddi. Felly, nid yw'n ffordd berffaith o ddyfeisio pethau. Serch hynny, dyma sydd gennym ac rwy'n cefnogi'n gryf y modd y mae'r Llywodraeth yn targedu cymorth i'r cymunedau mwyaf difreintiedig.
Credaf fod darparu parhad yn y gefnogaeth i blant sy'n gorfod symud allan o ardaloedd Dechrau'n Deg yn gwneud synnwyr perffaith, oherwydd un o agweddau bod yn ddifreintiedig yw eich bod yn symud yn amlach; rydych yn fwy symudol; rydych yn debygol o fod yn mynd i nifer o ysgolion yn hytrach nag un yn unig. A buaswn yn disgwyl i blentyn gydag anghenion parhaus, mewn ardal Dechrau'n Deg neu beidio, gael ei atgyfeirio os yw'n symud o dde Cymru i ogledd Cymru, at y gweithwyr proffesiynol perthnasol sy'n mynd i ddeall y cymorth sydd ei angen ar y teulu os oes rhaid iddynt symud.
Credaf hefyd y byddai galluogi timau Dechrau'n Deg i dargedu cymunedau o ddiddordeb arbennig, megis llochesi, hostelau i'r digartref, cymunedau Teithwyr, plant sy'n geiswyr lloches—yn fy ardal i—yn sicrhau bod pawb yn elwa o gymorth Dechrau'n Deg, a chredaf fod hynny'n gwneud synnwyr—cael y lefel honno o hyblygrwydd yn y rhaglen. Ac yn fy marn i, yn amlwg, mae'r pwyntiau a wnaed gan John Griffiths am Barc Moorland a'r ardal gerllaw, os yw o fewn pellter cerdded i'r teuluoedd eraill hyn fynd i ardal Parc Moorland, nid wyf yn deall pam nad yw hynny'n digwydd yn awr, o ystyried bod hyblygrwydd cynyddol wedi bod ar waith ers y llynedd. Ond i mi, rhaid i egwyddor Peckham barhau i fod yn gymwys, sef nad oes unrhyw bwynt cael gwasanaeth nad yw o fewn pellter gwthio pram i deulu heb gar at eu defnydd, ac yn aml heb arian ar gyfer tocyn bws i deithio y tu hwnt i hynny.
Edrychaf ymlaen yn arbennig at argymhelliad 7, i ganiatáu inni gael mwy o wybodaeth am y manteision a gafwyd o'r buddsoddiad o £600 miliwn. Oherwydd rydym yn dal i aros am ateb. Rwy'n cytuno â Mark fod y gwaith gwerthuso addysgol a wnaed yn ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod eto a oes canlyniad mesuradwy a buddiol o ran cyrhaeddiad addysgol, ac mae angen inni wybod. A yw Dechrau'n Deg yn herio tystiolaeth y Sefydliad Polisi Addysg sy'n dweud bod plant peniog tlawd yn gwneud yn waeth na phlant cefnog gwan oni bai bod gennym ymyriadau priodol—yn ymwneud yn bennaf ag addysg gynnar integredig o safon? Felly, edrychaf ymlaen at ganlyniad yr adolygiad cyflym a byddaf yn cadw llygad ar hyn yn y dyfodol.
Mae gennyf ardaloedd Dechrau'n Deg yn fy etholaeth, ardaloedd megis Parc Churchill, Graig-y-Rhaca, Parc Lansbury, ystâd Parc ym Margoed, Senghennydd ac ystâd Trecenydd, ac rwyf wedi y gweld manteision—fel y byddai'r Siambr wedi'i ddisgrifio heddiw yn 'anecdotaidd'. Rwyf wedi gweld manteision Dechrau'n Deg.
Fy unig gyfraniad i'r ddadl dros argymhelliad 6 fyddai bod deall effaith rhaglen yn ei gwneud hi'n haws yn y tymor hir i'w hamddiffyn, ac felly mae cael y ddealltwriaeth honno a meithrin y ddealltwriaeth honno yn ei gwneud yn haws i'r rhai sy'n credu yn y rhaglen allu ei hamddiffyn yn nes ymlaen. Yng nghefn fy meddwl mae Cymunedau yn Gyntaf, rwy'n credu, a pheth o'r dadlau a ddigwyddodd ynglŷn â'r rhaglen honno. Felly, credaf ei bod yn bwysig fod y Gweinidog yn gallu rhoi cymaint o dystiolaeth â phosibl, boed yn ddata hydredol neu'n adborth ar gyfer Cymru gyfan. Hoffwn gael mwy o drafodaeth, rwy'n credu, yn ymateb y Gweinidog, ar argymhelliad 6, a chredaf fod Aelodau o gwmpas y Siambr wedi ategu hynny heddiw.
Hefyd, mewn ymateb i argymhelliad 7, mae'r Gweinidog wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diweddariad i'r pwyllgor ym mis Hydref gydag amodau, ond credaf fod hynny eto yn dangos awydd y pwyllgor i barhau'r ymgyrch am wybodaeth am y rhaglen hon, ac mae'r rhai ohonom sy'n credu'n gryf ynddi yn teimlo y bydd yn weithredol yn diogelu'r rhaglen.
Mae gan allgymorth Dechrau'n Deg rôl arbennig o bwysig i'w chwarae wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno ei haddewid maniffesto i roi gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed rhieni sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru. Nodaf fod y comisiynydd plant wedi galw am ymestyn y cynnig gofal plant i rieni nad ydynt yn gweithio, ac os trowch hynny ar ei ben, byddai'n golygu ymestyn Dechrau'n Deg i gynnwys rhieni sy'n gweithio yn ogystal i bob pwrpas, ac ymestyn Dechrau'n Deg yn gyffredinol, a fyddai, unwaith eto, beth bynnag am y mater sy'n codi ynglŷn â'r wybodaeth, yn beth gwych i'w wneud yn fy marn i, ond roedd yn addewid penodol iawn yn y maniffesto, ac mae'r cyfyngiadau ariannol yn llawer rhy ddifrifol i wneud hyn, ac felly credaf fod yr adroddiad yn gweithio o fewn y cyfyngiadau allgymorth. Pe bai gennym fwy o arian, ni fyddem yn gwneud hyn, ond mae'r cyfyngiadau allgymorth yn golygu bod yn rhaid inni ei wneud yn y ffordd hon.
Bydd yn hollbwysig ein bod yn sicrhau bod Dechrau'n Deg yn cael ei ddarparu i bawb sy'n gymwys a bod pawb sydd angen cymorth yn ei gael ac nad ydynt ar eu colled.
Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, Lynne Neagle, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am gyflawni gwaith gwerthfawr a thaflu goleuni ar yr agwedd hon ar raglen Dechrau'n Deg. Nodaf hefyd â diddordeb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Un o'r grymoedd ysgogol ar gyfer mynd i fyd gwleidyddiaeth, buaswn yn gobeithio, i bawb yn yr ystafell hon, yw helpu ym mha bynnag ffordd i ddileu tlodi yn ein cymunedau, ni waeth faint yn waeth y bu yn sgil agenda gyni parhaus y DU. Rydym yn gwybod bod Dechrau'n Deg a'i raglen allgymorth arloesol yn gwneud cyfraniad hollbwysig i strategaeth genedlaethol Lywodraeth Lafur Cymru 'Ffyniant i Bawb', sy'n nodi'n gryf fod y blynyddoedd cynnar yn faes blaenoriaeth. Rwy'n croesawu ymarfer da rhyngwladol cydnabyddedig Dechrau'n Deg, yn Islwyn, lle rwyf wedi gweld y gwahaniaeth ar lawr gwlad yn yr ystâd dai cyngor rwy'n byw ynddi, a ledled Cymru, ac rwy'n croesawu gwaith penodol y pwyllgor ar yr agwedd hon ar y rhaglen.
Fel y gwyddom, mae Dechrau'n Deg ar hyn o bryd yn cael ei darparu i dros 37,000 o blant dan bedair oed sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru drwy ddull sy'n seiliedig ar le. Mae hynny'n cyfateb i tua 25 y cant o'r holl blant o dan bedair oed yng Nghymru. Mae'n iawn fod dull yn seiliedig ar le, gyda hyblygrwydd ynghylch ardaloedd cynnyrch ehangach is, sy'n ystyried data ar lefel is-ward, yn cael ei ddefnyddio gyda data'r Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymhelaethu ar sut y gall Llywodraeth Cymru gynnig lefel synhwyrol o fonitro effeithiol ar y rhaglen, heb ychwanegu biwrocratiaeth feichus? Oherwydd mae'r rhaglen hon wedi sicrhau canlyniadau amlwg i deuluoedd mewn tlodi, ac mae tueddiad yn aml i geisio canlyniadau caled ar unwaith gyda rhaglenni o'r fath, ac mae bob amser yn anodd mesur canlyniadau mwy meddal fel hunan-barch a hyder—nad ydynt yn eu lle am flynyddoedd lawer i ddod.
Felly, rwy'n credu, a siarad ar draws y Siambr os caf, ei bod hi'n iawn i ofyn i'r rhieni, a hefyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am leihau'r baich adrodd ar awdurdodau lleol, a bod Llywodraeth Cymru wedi lleihau a symleiddio, fel y gofynnwyd iddi wneud sawl tro gyda'r rhaglen hon, a bod—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, yn anffodus. Cafodd hyn groeso eang a galwyd amdano yn ystod y broses o gyflwyno'r rhaglen. Felly, yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y gallwn weithio'n ddoethach i gyflawni mwy eto gyda'r mesur arloesol hwn, ochr yn ochr â'n partneriaid mewn llywodraeth Leol, heb ychwanegu at eu llwyth gwaith sydd eisoes yn drwm ar ddata, ond gan dargedu pawb sydd mewn angen ar draws Cymru yn well?
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn yn wir. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, y rhai ar y pwyllgor a'r rhai nad oeddent ar y pwyllgor, a hefyd i aelodau'r pwyllgor a'r Cadeirydd hefyd am daflu golau fforensig ar hyn? Mae hon yn rhaglen flaenllaw. Fel sydd newydd gael ei nodi, rwy'n credu, mae hi wedi cael sylw fel tystiolaeth o ymarfer da mewn ymyrraeth i deuluoedd a blynyddoedd cynnar, a rhaid dweud bod y Llywodraeth yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddi. Ond mae'r pwyllgor wedi caniatáu cyfle inni, rhaid imi ddweud, i edrych arni, yn enwedig yr elfen allgymorth, a gweld, 'Wel, a allem wneud pethau'n wahanol? A allem ei gwerthuso mewn ffordd wahanol? A allem wneud pethau'n well?' Ond gadewch i mi roi'r cyd-destun—trodd Llyr ac eraill at hyn—cyd-destun yr hyn rydym yn ei wneud yng Nghymru, o'i gymharu â beth sy'n digwydd dros y ffin—. Na, nid wyf yn gwneud hyn am reswm gwleidyddol, ond sylwaf fod y Pre-school Learning Alliance, Ymddiriedolaeth Sutton a Gweithredu dros Blant wedi edrych ar beth sydd wedi digwydd gyda chau tua 1,000 o ganolfannau Cychwyn Cadarn, sy'n fodel tebyg yno, ac a oedd ar un adeg yn torri tir newydd eu hunain. Dywedodd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Sutton, Syr Peter Lampl:
Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i ddatblygiad plant yn enwedig plant o'r cartrefi tlotaf. Mae'n fater difrifol fod y gwasanaethau y mae canolfannau Cychwyn Cadarn yn eu cynnig yn llawer prinach nag yr oeddent.
Felly, daw at y cwestiwn hwn ynghylch y cydbwysedd rhwng canolbwyntio ar grwpiau wedi'u targedu, gan gydnabod y bydd rhai y tu allan, ac yna: a allwch wneud i'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd—oherwydd nid oes coeden arian hud—ymestyn ychydig pellach, ynghyd â'r rhaglenni eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn eu darparu hefyd, gan gynnwys Teuluoedd yn Gyntaf, tîm o amgylch y teulu, ac ati, ac ati? A allwn dynnu'r rheini i mewn i'r cymorth yn ogystal?
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn sy'n dangos y bydd buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar plant o ardaloedd difreintiedig yn gwella'r effaith ar eu hiechyd a'u canlyniadau addysgol, ac yn y tymor hwy, mae'r buddsoddiad hwn yn gwella sgiliau bywyd ac yn y pen draw yn lleihau'r bwlch yn y canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw mewn tlodi. Hefin, roeddech yn llygad eich lle yn dweud, lle mae'r rhain wedi'u sefydlu ers amser maith—nid anecdotaidd yn unig ydyw; mae gennyf un yn fy ardal i sydd wedi bod yn weithredol ers 13 mlynedd—gwyddom fod gennym ganlyniadau gweladwy i'r plant a'r teuluoedd sy'n elwa o Dechrau'n Deg, megis lleihau'r bwlch cyrhaeddiad addysgol rhwng y plant hynny a'r teuluoedd mwy cefnog sy'n byw y tu allan. Felly, nid anecdotaidd yn unig ydyw, ond mae angen inni wneud rhagor, ac fe drof at hynny mewn eiliad.
Mae gwerthuso'r dystiolaeth eisoes yn awgrymu bod y rhaglen yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Yn y gwerthusiad ansoddol diweddar—ac mae ansoddol yn dda, gyda llaw; nid yw'n wan, mae'n ymchwil da—nododd rhieni amrywiaeth o welliannau yn natblygiad y plant, a oedd yn cynnwys siarad, darllen, cyfrif, yn ogystal â gwella ymddygiad ac agweddau. Roedd Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yng Nghymru yn cytuno â fy safbwynt, ac yn dweud, wrth ystyried effaith Dechrau'n Deg ar ganlyniadau addysgol, fod y plant a gefnogwyd gan y rhaglen yn gallu sicrhau'r un canlyniadau â phlant y tu allan i ardaloedd o amddifadedd uchel a gellir ystyried hynny ynddo'i hun yn fesur o lwyddiant. Ac rwy'n cytuno â hynny.
Er mai Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw Llywodraeth Cymru yn wir, nid dyma'r unig ymyrraeth. Daw'r cymorth a dargedwyd at wella canlyniadau blynyddoedd cynnar plant o ymyriadau eraill yn ogystal—felly, y dull gweithredu teulu cyfan drwy Teuluoedd yn Gyntaf, sy'n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal, darparu cymorth amlasiantaethol wedi'i deilwra i deuluoedd â phlant o bob oed. Mae'r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn ei hun, yn gwella'r cyfleoedd bywyd hynny, a helpu teuluoedd i ddod yn fwy hyderus, yn fwy gwydn, yn fwy annibynnol.
Bydd cysylltiadau cyffredinol wedi'u trefnu gan ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol Plant Iach Cymru ar gyfer pob plentyn rhwng dim a saith oed ar gael ym mhob bwrdd iechyd erbyn mis Hydref, gyda gwell ymyriadau dwys yn cael eu darparu i'r teuluoedd a'r plant sydd â lefelau uwch o angen. Ac wrth gwrs, fel y gwyddom, mae pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at y cyfnod sylfaen, ac mae ein cynnig gofal plant i rieni sy'n gweithio i blant tair a phedair oed yn cael ei gyflwyno ar hyn o bryd. Nod pob un—pob un—o'n rhaglenni blynyddoedd cynnar yw cefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hirdymor gorau, ond rydym am fynd ymhellach.
Nawr, gan adlewyrchu'r ymrwymiad yn y strategaeth genedlaethol, mae rhaglen eang o waith yn mynd rhagddi i archwilio sut y gallwn greu'r un system blynyddoedd cynnar gydlynol honno ar y lefel genedlaethol a lleol. Felly, rydym yn gweithio drwy brosiect dwys a luniwyd ar y cyd gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf i archwilio'r opsiynau ar gyfer ad-drefnu'r system ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Byddwn yn dysgu ohono, a byddwn yn datblygu ac yn rhannu'r syniadau ynglŷn â hyn yn ehangach maes o law.
Fel y dywedais, mae Dechrau'n Deg yn elfen allweddol o'r gwaith o gyflawni'r weledigaeth hon. Felly rwy'n croesawu'n gynnes iawn y penderfyniad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnal yr ymchwiliad i allgymorth Dechrau'n Deg. Ni allaf fynd drwy fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn yr amser sydd ar gael, ond mae'n nodi fy ymateb manwl i saith argymhelliad yr adroddiad, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi derbyn pob un ond un ohonynt yn llawn neu yn rhannol.
Gadewch imi droi at hynny, oherwydd mae ychydig o bobl wedi sôn amdano, ac mewn gwirionedd, roedd ganddynt wahanol safbwyntiau arno, yn rhyfedd iawn. Oherwydd roedd argymhelliad 6 yn gofyn am fonitro ychwanegol—adroddiadau monitro rheolaidd—yn rhoi manylion unrhyw ddiwygiadau i'r gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol. Ni allem gytuno i hyn—fe wnaethom ei ystyried, ond ni allem gytuno iddo—mwy o adroddiadau monitro ar ddargyfeirio rhanbarthol posibl mewn dulliau ymyrryd yn sgil yr hyblygrwydd ychwanegol rydym yn ei roi yn awr am fod awdurdodau lleol wedi gofyn am yr hyblygrwydd ychwanegol hwnnw. Roeddent hefyd yn gofyn ar yr un pryd, 'A wnewch chi beidio â chynyddu'r baich arno tra byddwch wrthi? A allwn gael yr hyblygrwydd a gadewch inni fwrw ymlaen â hynny?' Felly, ein hymrwymiad yw lleihau yn hytrach na chynyddu'r baich adrodd ar awdurdodau lleol. Dros y 12 i 18 mis diwethaf, buom yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny i leihau a symleiddio'r data er mwyn lleihau'r baich, gan ganolbwyntio ar y data yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gynhyrchu bwletin ystadegol blynyddol Dechrau'n Deg. Ond yn lle hynny, rwyf wedi cytuno i ymdrin â hyn fel rhan o'n diweddariad gwerthuso nesaf i'r pwyllgor, iawn, felly byddwn yn dychwelyd at hynny.
Nawr, mae Dechrau'n Deg dros ddeng mlwydd oed. Mewn rhai mannau, fel fy ardal i, ceir enghreifftiau o fannau lle mae'n 13 oed, bron yn 14 oed. Felly, mae'n amser da i fyfyrio ar ei lwyddiannau niferus yn ogystal ag adolygu'r dirwedd blynyddoedd cynnar bresennol, lle mae'r rhaglen yn chwaraewr allweddol. Yn wir, ar ddiwedd 2017, cytunais y dylai fy swyddogion gynnal adolygiad o Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas at y diben wrth inni symud ymlaen at ei ail ddegawd.
Rydym am adeiladu ar lwyddiannau sylweddol y rhaglen a dysgu o'r hyn sy'n gweithio, nid yn lleiaf sut y gallwn ddyfnhau'r bartneriaeth, cydweithio a'r gwaith amlasiantaethol ar draws sectorau i gefnogi plant ifanc a'u teuluoedd. Rhan sylfaenol o hyn yw'r angen i weithio gyda'r rhai ar lawr gwlad sy'n darparu Dechrau'n Deg er mwyn sicrhau bod eu harbenigedd, eu profiad, yn rhan o'r adolygiad hwn. Mae'n hanfodol fod unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried yn llawn ac yn drwyadl a'u rheoli'n dda, er mwyn inni ddysgu o'r mannau lle mae'n gweithio'n dda a datblygu modelau o arferion da i'w rhannu'n ehangach. Mae gwaith yn mynd rhagddo'n dda ar hyn, ac rwy'n rhagweld y byddaf yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau ar gynnydd yr adolygiad hwn yn ddiweddarach eleni.
Mae ymchwiliad ac adroddiad y pwyllgor, felly, yn amserol iawn ac yn gwneud cyfraniad defnyddiol i'r adolygiad ehangach hwn. Mae eich canfyddiadau wedi darparu cipolwg defnyddiol ar elfen benodol allgymorth, sy'n rhan bwysig o'r hyn sy'n gwneud Dechrau'n Deg yn rhaglen hanfodol. Ar yr elfen allgymorth honno, er bod yr uwchraddio—yr estyniad—i 5 y cant wedi digwydd yn ystod proses y pwyllgor, credaf y bydd yn rhaid inni edrych ar ba mor dda y mae gwahanol ardaloedd yn ei ddefnyddio, ac a ydynt yn ei ddefnyddio'n llawn yn ogystal. John, mae eich pwynt yn ddiddorol—credaf ei bod hi'n werth mynd yn ôl, ac edrych ar ardaloedd unigol, a dylai Aelodau fynd yn ôl a dweud, 'Sut rydym yn defnyddio hyn yn lleol? Sut rydym yn cyflawni'r hyblygrwydd a roddwyd gan y Gweinidog?'
Ond mae'r elfen allgymorth yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd i awdurdodau lleol allu darparu cefnogaeth i blant a'u teuluoedd a grwpiau a dargedwyd gydag angen a nodwyd sy'n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau'n Deg dynodedig. Ac mae hefyd yn darparu parhad yn y cymorth i blant a theuluoedd sy'n symud allan o'r ardaloedd hynny, neu i bontio'r bwlch i dderbyn gwasanaethau eraill a ddarperir.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd—diolch yn fawr—byddwn yn defnyddio'r adolygiad o Dechrau'n Deg a'r gwaith i ad-drefnu'r system blynyddoedd cynnar i archwilio'r opsiynau sydd ar gael mewn perthynas ag allgymorth. Bydd argymhellion y pwyllgor yn ffurfio rhan o'r gwaith hwn, a rhaid i'n hadolygiad, gan gynnwys unrhyw hyblygrwydd pellach yn ymwneud ag allgymorth, fod yn seiliedig ar y cydweithio dwfn hwn gydag awdurdodau lleol, gan ddysgu o ymarfer da a sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol mewn perthynas ag uniondeb cyffredinol y rhaglen nodedig hon sydd ag enw mor dda yn rhyngwladol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor, Lynne Neagle, i ymateb i'r ddadl?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ardderchog a defnyddiol iawn, a llawer ohoni wedi adlewyrchu rhai o'r tensiynau sy'n amlwg yn yr adroddiad, mewn gwirionedd. Dechreuodd Mark Reckless drwy sôn am y cyfaddawd rhwng darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi'i thargedu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ganolog iawn i'r adroddiad hwn.
Mynegodd Mark, ynghyd â nifer o'r Aelodau eraill, bryder ynglŷn â gwrthod argymhelliad 6, fel y gwnaeth Michelle Brown a Hefin David. Credaf y bydd y Gweinidog wedi clywed heddiw fod yna farn eglur, er nad ydym eisiau cynyddu'r baich ar awdurdodau lleol, fod angen inni gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gwerir yr arian hwn.
Tynnodd Llyr Gruffydd sylw at y gwrthdaro hwnnw, unwaith eto, ond hefyd at y ffaith bod y pwyllgor yn awyddus i wybod mwy, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y digwyddodd y 5 y cant, a dyna un o'r materion sydd wrth wraidd hyn mewn gwirionedd—ynglŷn â sut rydym yn gwerthuso beth yw'r angen mewn gwirionedd a beth a wnawn gyda'r gwariant sylweddol iawn sydd ynghlwm wrth hyn.
Cyfeiriodd John Griffiths at enghraifft a ddefnyddiodd yn ystod yr ymchwiliad ynglŷn â'r ffaith bod teuluoedd Parc Moorland yn elwa o Dechrau'n Deg ond na all teuluoedd Parc Broadmead, ar draws y ffordd, wneud hynny. Roedd Jenny'n teimlo'n rhwystredig ynglŷn â pham na allent gerdded ar draws y ffordd i'w defnyddio, ond y ffaith amdani yw nad ydynt wedi'u cyllido i gael y ddarpariaeth honno, felly dyna pam na allant. Ond mae'n enghraifft graffig iawn o ble mae'r system yn methu a beth y mae angen inni geisio mynd i'r afael ag ef.
Siaradodd Michelle Brown am y tensiynau daearyddol eto, ond hefyd am werthuso, sydd wedi bod yn wirioneddol allweddol i'n hystyriaeth o'r adroddiad hwn. Yn ddi-os cafwyd llawer o werthusiadau, ond nid ydym yn gwybod cymaint ag y mae angen inni ei wybod o hyd, a dyna pam y bydd y mentrau a gyhoeddwyd gan y Gweinidog a fydd, gobeithio, yn mireinio peth o'r wybodaeth honno, yn wirioneddol werthfawr.
Soniodd Jenny Rathbone am bwysigrwydd elfen allgymorth Dechrau'n Deg yn ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg. Wel, ni fwriadwyd i ymchwiliad y pwyllgor edrych ar hynny. Roedd yn ymchwiliad a ganolbwyntiai'n fanwl ar yr hyn a wnawn y tu allan i'r ardaloedd daearyddol, ond hoffwn ddweud bod yr hyn rydych wedi tynnu sylw ato ynglŷn â bydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn bwysig iawn oherwydd am nad yw'r rhaglen ond yn mesur nifer y bobl sy'n dod i gysylltiad ag ymwelwyr iechyd, ac mae gan bawb ymwelydd iechyd eisoes os oes gennych blentyn, nid ydym yn cyrraedd calon y data, felly nid ydym yn gwybod faint o deuluoedd eraill sydd wedi manteisio ar y cymorth iaith a lleferydd, faint sydd wedi cael cymorth rhianta, a dyna'r math o wybodaeth y mae angen inni ei chael i ddarganfod faint o deuluoedd i gyd sy'n elwa o'r rhaglen hon.
Diolch i chi, Hefin, am ychwanegu at y pryderon ynghylch argymhelliad 6, ac mae'r pwyllgor wedi dweud yn glir y byddem yn hoffi gweld y Gweinidog yn edrych arno unwaith eto.
Siaradodd Rhianon Passmore yn gadarnhaol iawn ynglŷn â'i phrofiad o Dechrau'n Deg yn ei hardal, ac rwyf wedi gweld hynny yn fy ardal i hefyd, ac rwy'n teimlo fy mod yn cael fy nhynnu i'r ddau gyfeiriad fel llawer o bobl eraill mewn gwirionedd, am eich bod yn gwybod bod cyn lleied o'n harian wedi'i dargedu'n ddaearyddol yng Nghymru, ac mae hynny'n bwysig, ond rydych hefyd yn cydnabod bod angen inni wneud yn siŵr fod y teuluoedd sydd ei angen o ddifrif yn gallu elwa hefyd.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb ac am ei ymgysylltiad â'r pwyllgor a'i ymrwymiad parhaus i wneud hynny? Byddwn yn dychwelyd at hyn, ac rydym yn obeithiol y bydd rhai o'r mesurau y mae wedi'u cyhoeddi, gobeithio, yn rhoi'r wybodaeth rydym yn chwilio amdani, o gofio nad yw'r rhain yn bethau hawdd i'w gwerthuso mewn gwirionedd. Sut y gallwch werthuso hefyd sut fyddai pethau pe na bai Dechrau'n Deg yno? Felly, mae gennym deuluoedd yn gwneud cystal ag y mae teuluoedd mewn ardaloedd mwy cefnog ac mae'r diolch am hynny, yn rhannol yn sicr, i Dechrau'n Deg.
A gaf fi orffen, felly, drwy ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor am eu cymorth a'u hymgysylltiad parhaus ar hyn a hefyd drwy ddiolch i'n tîm clercio ac ymchwil rhagorol, sydd, fel bob amser, wedi bod yn hollol wych? Mae wedi bod yn ddadl ardderchog, ac rwy'n siŵr fod y pwyllgor cyfan yn edrych ymlaen at ddychwelyd at hyn a sicrhau bod y gwariant sylweddol hwn yn cyflawni ar gyfer ein holl blant yng Nghymru. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.