– Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2018.
Eitem 7 yw dadl UKIP ar gyllid prifysgolion, a galwaf ar Michelle Brown i wneud y cynnig. Michelle.
Cynnig NDM6731 Caroline Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adolygiad arfaethedig Llywodraeth y DU o gyllid prifysgolion a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror 2018.
2. Yn nodi'r adroddiadau gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu: 'Over-qualification and skills mismatch in the graduate labour market' a 'The graduate employment gap: expectations versus reality'.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer cyllid myfyrwyr yn y dyfodol;
b) diddymu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr STEM, meddygol a nyrsio; ac
c) ehangu cwmpas Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i adolygu cyrsiau gradd ar gyfer enillion disgwyliedig, a chyhoeddi'r adolygiadau hyn i bob darpar fyfyriwr.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ar ran UKIP.
Mae llawer o fyfyrwyr yng Nghymru yn cael eu twyllo. Gall fod yn annymunol i'w ddweud, ond mae'n ffaith, ac mae digon o ymchwil annibynnol i'w brofi. Bwydir ffigurau sydd wedi dyddio i fyfyrwyr chweched dosbarth am yr enillion uwch a gaiff graddedigion i'w hannog i ddilyn cyrsiau gradd. Yn aml, nid oes ffigurau manwl gywir ar gael ynglŷn â faint yn rhagor y gallent ei ennill yn eu dewis yrfa os ydynt yn graddio, dim ond cyfartaledd diystyr ar draws y sbectrwm cyfan o alwedigaethau a phroffesiynau. Mae'r system benthyciadau myfyrwyr yn costio llawer mwy na'r disgwyl i'r trethdalwr am nad yw enillion graddedigion yn agos at fod lle yr awgrymai'r cyfrif y byddent. Mae hyn oherwydd y dirywiad economaidd, ond hefyd oherwydd bod llawer o alwedigaethau gyda chyflogau dechrau is a arferai fod yn seiliedig yn berffaith briodol ar ddiplomâu, bellach yn ddibynnol ar gymwysterau angenrheidiol sydd wedi'u troi'n gyrsiau gradd.
Mae Llafur, yn eu gwelliant, yn ceisio troi hon yn ddadl ynglŷn â mynediad at gyrsiau prifysgol. Mae honno'n sgwarnog lwyr. Nid ymwneud â chynwysoldeb, amrywiaeth neu fynediad y mae hyn. Mae'n ymwneud â'r hyn sy'n digwydd i'r rhai sy'n dilyn cyrsiau gradd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn trin yr israddedigion a'r graddedigion hyn yn deg, ac nid yn eu camarwain drwy roi gobaith di-sail iddynt.
Y llynedd, cododd dyled benthyciadau myfyrwyr i fwy na £100 biliwn am y tro cyntaf, ac mae'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn dweud na fydd y rhan fwyaf o raddedigion byth yn talu eu dyled benthyciad myfyrwyr gyfan cyn iddi gael ei diystyru 30 mlynedd ar ôl iddynt raddio. Mae hwnnw'n ffigur mawr iawn, £100 biliwn. Dywedodd uwch economegydd gyda NatWest fod dyledion myfyrwyr yn cynyddu'n gyflymach nag unrhyw fath arall o ddyled, ac yn bwrw dyledion cardiau credyd o £68 biliwn i'r cysgod. Dywedodd yr uwch economegydd gyda NatWest,
Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod dyled myfyrwyr yn dod yn fwy o flaenoriaeth bob blwyddyn. Dyled myfyrwyr yw'r math o fenthyciad sy'n tyfu gyflymaf ac mae'n prysur ddod yn bwysig yn economaidd.
Mae'n rhagweld, dros y tymor hwy, fod dyled benthyciadau myfyrwyr yn debygol o ddyblu i £200 biliwn o fewn chwe blynedd.
Rydym yn aml yn cymharu ein hunain â gwledydd yr ystyriwn eu bod yn llai hael na ni. Gwelwn fod pobl yn aml yn cymharu ein GIG â chost gofal iechyd yn UDA ac rydym yn tybio bod gan y gwledydd hynny system addysg uwch lai cynhwysol na ni, ac eto y ddyled gyfartalog ymysg myfyrwyr yn yr Unol Daleithiau yw £27,000, o'i gymharu â chyfartaledd dyled myfyriwr yn y DU, sy'n fwy na £32,000. Felly, hyd yn oed os yw'r ddadl yn ymwneud â hygyrchedd, mae'n methu o'r cychwyn pan fydd gennym system addysg uwch sy'n llai hygyrch nag un America oherwydd y ddyled uwch a fydd gan y myfyrwyr hynny. Yn amlwg, mae gorfodi graddedigion i ysgwyddo dyled na fydd y mwyafrif ohonynt byth yn gallu ei thalu'n ôl yn mynd i niweidio eu pŵer prynu a'r penderfyniadau y byddant yn eu gwneud ynghylch pensiynau, buddsoddiadau a phrynu tŷ.
Mae'r system bresennol, lle mae bron bawb yn cael eu hannog ar lwybr prifysgol llawn dyledion, hyd yn oed ar gyfer galwedigaethau gydag incwm is na'r hyn a gysylltir yn draddodiadol â graddedigion, yn fom sy'n tician i'r economi, heb sôn am yr unigolyn sydd â chyllideb bersonol wedi'i niweidio am ei oes. Mae gwelliant y Torïaid yn sôn am fynd i'r afael â draen dawn o Gymru, ac nid wyf yn amau bod problem gyda'r draen dawn, ond y prif achos drosto yw prinder swyddi priodol yng Nghymru. Felly, mae'n gwyro oddi ar y pwynt, yn sgwarnog braidd, os caf ddweud. Er fy mod yn cytuno mewn egwyddor ag argymhelliad Diamond, mae cymell graddedigion i aros yng Nghymru yn ddiwerth i raddau helaeth os na allant ddod o hyd i swydd addas yng Nghymru, felly mae gwelliant Plaid Cymru yn dipyn o sgwarnog hefyd.
Mae Alistair Jarvis, prif weithredwr Universities UK, wedi honni, ac rwy'n dyfynnu, y bydd rhywun sy'n mynd i brifysgol yn ennill ar gyfartaledd tua £10,000 y flwyddyn yn fwy na rhywun sydd heb gael gradd.
Diwedd y dyfyniad. Ond lai na blwyddyn yn ôl, nododd y BBC ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu bod y bwlch cyflogau o ran graddedigion rhwng 21 a 30 oed ychydig yn llai, ar £6,000. A dangosodd arolwg yn 2014 nad oedd un o bob pedwar o raddedigion ond yn ennill £20,000 ddegawd ar ôl graddio, pan oedd y cyflog cyfartalog ar gyfer pob gweithiwr, yn raddedigion a rhai heb radd, yn £26,500. Mae'n amlwg yn annerbyniol hefyd nad oedd chwarter y graddedigion ond wedi ennill £11,500 yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cwblhau eu gradd a £16,500 yn unig ar ôl tair blynedd. Felly, mae'r honiadau hyn sy'n cael eu gwneud am gyrsiau gradd, ac rwyf wedi gofyn cwestiynau am hyn yn y lle hwn o'r blaen—wyddoch chi, lle mae'r dadansoddiad o ba mor ddefnyddiol y bydd y cyrsiau gradd hyn? Faint o arian y mae pob cwrs gradd yn mynd i'w greu i'r unigolyn graddedig sy'n graddio o'r cwrs hwnnw? Oni bai bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhoi i fyfyrwyr chweched dosbarth ynglŷn â pha fath o fuddsoddiad y maent yn mynd i orfod ei wneud a'r enillion a gânt ohono ar ffurf cyflog, maent yn gweithredu ar ddyfalu pur, ac maent yn cael cam.
Mae'r syniad fod cynnydd yn nifer y graddedigion yn brawf ein bod yn fwy cynhwysol ac wedi cynyddu symudedd cymdeithasol yn nonsens llwyr. Mae angen archwiliad trylwyr o gyllid prifysgolion fel y gallwn gadw pobl ddisgleiriaf Cymru yng Nghymru ac fel nad ydym yn llethu miloedd ar filoedd o'n pobl ifanc â dyledion a fydd yn effeithio ar eu bywydau cyfan. Bydd cynigion UKIP yn sicrhau'r canlyniadau y mae ein myfyrwyr yn eu haeddu, ac rwy'n annog yr Aelodau i'w cefnogi. Diolch.
Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James.
Gwelliant 1—Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid addysg uwch a gafodd ei arwain gan yr Athro Syr Ian Diamond a’i gyhoeddi ar 27 Medi 2016.
2. Yn nodi i Adolygiad Diamond ganfu mai costau byw oedd y prif rwystr i’r rhai hynny a oedd yn gwneud penderfyniad ynghylch mynd i’r brifysgol.
3. Yn croesawu’r pecyn newydd ar gyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2018/19 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n golygu:
a) y bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth cynhaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol—y cymorth mwyaf hael yn y DU;
b) y gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid iddynt ei dalu yn ôl; ac
c) mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno cymorth cynaliaeth sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol i israddedigion amser llawn a rhan-amser. Caiff ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig yn 2019.
Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Galwaf ar Darren Millar nawr i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Darren Millar.
Gwelliant 2—Paul Davies
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu bod Cymru yn profi draen dawn, gyda mwy o raddedigion prifysgol yn gadael Cymru nag yn ymgartrefu yn y wlad.
Yn cydnabod llwyddiant sefydliadau addysg bellach Cymru o ran cefnogi cadw talent yn economi Cymru.
Yn gresynu at y diffyg rhaglenni prentisiaethau lefel 6+ sydd ar gael yng Nghymru i wella sgiliau'r gweithlu.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) darparu mwy o gymhellion i raddedigion prifysgol ymgartrefu yng Nghymru unwaith y byddant wedi gorffen eu graddau;
b) annog mwy o ymgysylltu rhwng sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i hyrwyddo cadw talent; ac
c) hyrwyddo argaeledd mwy o raglenni prentisiaethau lefel 6+ yng Nghymru.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Paul Davies ar y papur trefn.
Gwrandewais yn ofalus iawn ar yr hyn a ddywedodd Michelle Brown, a rhaid imi ddweud, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch o ran yr angen i wneud yn siŵr fod gennym y swyddi hynny yma yng Nghymru i bobl sy'n gorffen eu cyrsiau prifysgol allu mynd iddynt. Oherwydd mae gennym ystadegau brawychus iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r draen dawn, gyda degau o filoedd yn fwy o raddedigion yn gadael Cymru nag sy'n aros yng Nghymru mewn gwirionedd—colled net, rhwng 2013 a 2016 yn unig, o dros 20,000 o fyfyrwyr, sy'n nifer enfawr, ac rydym am gadw'r dalent honno. Yn ogystal, mae 40 y cant o'r graddedigion sy'n aros yng Nghymru i weithio mewn swyddi nad ydynt yn swyddi ar gyfer graddedigion, a chredaf fod hynny hefyd yn drychineb, oherwydd, wrth gwrs, nid ydynt yn defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth y maent yn eu dysgu pan fyddant yn y prifysgolion hynny.
Felly, yn sicr mae angen inni wneud mwy, ond nid yw'n ymwneud yn unig â chreu swyddi, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr fod gennym gyrsiau sydd hefyd yn ddeniadol i gyflogwyr, sy'n rhoi'r sylfaen wybodaeth iawn i bobl ac yn rhoi'r sgiliau y mae'r cyflogwyr eu heisiau i bobl. Oherwydd, wrth gwrs, rydym yn derbyn pobl o brifysgolion eraill o'r tu allan i Gymru sy'n dod i weithio yma, ac er bod croeso mawr iddynt, byddai'n wych cael ein doniau ein hunain yn mynd i mewn i'r swyddi hynny. Felly, gwyddom fod yn rhaid inni wneud rhagor. Roedd 72 y cant o'r busnesau a arolygwyd yn ôl yn 2015 yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd iawn dod o hyd i bobl gyda'r sgiliau cywir pan oeddent yn chwilio am unigolion yn y farchnad. Felly, yn amlwg, mae bwlch rhwng yr hyn a gaiff ei ddarparu gan ein system addysg yn ehangach a'r sgiliau sydd eu hangen ar ein busnesau mewn gwirionedd.
Ymddengys bod colegau addysg bellach yn gwneud gwaith gwell o sicrhau'r cydbwysedd hwnnw, ac efallai mai'r rheswm am hynny yw'r cysylltiadau cryfach sydd ganddynt o fewn eu heconomïau lleol a rhanbarthol gyda busnesau. Credaf efallai fod angen mwy o dystiolaeth o'r mathau hynny o gryfderau a geir o fewn y sector addysg bellach yn y sector prifysgolion, o ran y ffordd y maent yn ymgysylltu â busnesau. I fod yn deg â Prifysgolion Cymru a'r prifysgolion sydd gennym yma, gwn fod gwaith da yn mynd rhagddo gyda'r sector preifat o ran ceisio sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl, ond yn amlwg, mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'r gwaith hwnnw'n dwyn ffrwyth fel sydd angen iddo wneud.
Felly, o ran y pynciau STEM, roeddwn yn falch iawn o nodi'r cyfeiriad yng nghynnig UKIP at yr angen i ddarparu cyrsiau am ddim ar gyfer myfyrwyr meddygaeth a nyrsio. Un o'r pethau a gyflwynodd fy mhlaid yn ein maniffesto diwethaf ar gyfer y Cynulliad, mewn gwirionedd, oedd y dylai fod rhyw fath o gynllun bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr meddygol. Wrth gwrs, roeddem yn cefnogi parhad y cynllun bwrsariaeth nyrsio yma yng Nghymru, ond rhaid ichi wneud yn siŵr fod yna elw ar y buddsoddiad hwnnw i drethdalwyr Cymru. Felly, un peth na fyddem yn hoffi ei wneud yw rhoi'r arian hwnnw a chaniatáu iddynt wneud y cyrsiau a mynd i weithio mewn mannau eraill wedyn. Felly, rhaid cael cyfle i'w cadw unwaith eto o fewn GIG Cymru fel y gallwn gael elw i'r trethdalwr, a dyna pam y cyflwynasom y gwelliannau yn y ffordd y gwnaethom heddiw.
O ran prentisiaethau, rydym wedi cyfeirio at brentisiaethau lefel 6 yn ein cynnig. Un o'r pethau y credaf ei fod yn dangos gwahaniaeth cynyddol rhwng Cymru a Lloegr yw bod nifer enfawr o gyrsiau prentisiaeth lefel 6 ar gael dros y ffin y gall pobl gael mynediad atynt. Am ryw reswm, rydym wedi bod yn araf iawn yn darparu'r cyfleoedd hynny i bobl yma yng Nghymru, ac rydym yn gwybod bod cyflogwyr yn chwilio am brentisiaethau lefel uwch o'r fath. Felly, buaswn yn ddiolchgar, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech ddweud wrthym yn eich ymateb i'r ddadl hon beth yn benodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ehangu'r ddarpariaeth o brentisiaethau lefel 6. Rydym wedi gwneud gwaith da iawn yng Nghymru, a bod yn deg, o ran creu'r prentisiaethau eraill ar lefel 4, ond o ran codi'r rheini i lefel 6 a 7, mae gennym lawer iawn o waith i'w wneud eto, rwy'n credu.
Felly, wrth gloi, buaswn yn annog pobl yn y Siambr hon i gydnabod y pethau da sy'n digwydd, ond i fod yn fwy gofalus ynglŷn â'r diffyg ymgysylltiad rhwng y sector preifat a sector y prifysgolion, a'r ffaith y gallai gwaith ganolbwyntio llawer mwy ar hynny er mwyn gwneud yn siŵr fod ein prifysgolion yn cynhyrchu'r graddedigion a all fynd yn eu blaenau wedyn i weithio mewn busnesau yng Nghymru er mwyn inni allu cadw'r dalent honno a pheidio â dioddef yn sgil y draen dawn y buom yn dioddef ohono yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma ac i gynnig y gwelliant yn enw Plaid Cymru? Ni fydd testun y gwelliant yn syndod, rydw i'n siŵr, i nifer. Mae'n bwnc rŷm ni'n ei godi yn gyson fel plaid yn y cyd-destun yma. Mae e yn bwnc pwysig iawn, ac mae hynny wedi cael ei adlewyrchu yn y sylwadau rŷm ni wedi clywed yn y ddadl hyd yma, sef yr angen i sicrhau, ie, bod myfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle gorau posib i fynd i brifysgolion gorau'r byd ac i gael y profiadau pwysig yna, ond y pwysigrwydd hefyd, wedyn, ein bod ni'n gwneud pob peth posib i sicrhau bod y buddsoddiad yna yn eu dyfodol nhw yn dod â rhyw fath o fudd i ni yma yng Nghymru.
Nawr, mae angen inni fynd i'r afael â'r broblem sydd gennym ar hyn o bryd—y golled net o raddedigion y clywsom amdani, a hefyd y bwlch sgiliau sydd gennym mewn sectorau hanfodol megis meddygaeth a'r pynciau STEM. Mae data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a'r Colegau wedi dangos gostyngiad o tua 14 y cant rhwng 2015 a 2017 yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais i astudio meddygaeth ar gyfer pob cwrs meddygaeth yn y DU, felly mae'n amlwg fod angen mynd i'r afael â'r broblem. Ac yn fwy cyffredinol, clywsom gyfeirio'n gynharach at yr adroddiad gan felin drafod Resolution Foundation ym mis Awst y llynedd yn dweud wrthym fod Cymru wedi denu bron 24,000 o raddedigion rhwng 2013 a 2016, ond bod dros 44,000 wedi gadael, sef y gwahaniaeth net y cyfeiriodd Darren Millar ato—dros 20,000 o fyfyrwyr. Yn wir, dwy ran arall yn unig o'r DU a oedd â ffigur gwaeth na Chymru, sef Swydd Efrog a Humber a gogledd-ddwyrain Lloegr. Nid yw hyn wedi'i gydnabod fel problem, rwy'n gwybod, ac yn sicr roedd yr Athro Diamond yn ei adolygiad yn cydnabod yr angen i ddenu graddedigion i fyw a gweithio yng Nghymru. Yn wir, fel rhan o'i waith, argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gymell myfyrwyr i ddod â'u sgiliau i Gymru neu eu cadw yng Nghymru er budd Cymru, ac amlinellodd sut y dylai Llywodraeth Cymru ystyried caniatáu i fenthyciad gael ei ddileu yn rhannol ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn swyddi yng Nghymru ac sydd angen talu benthyciad. Ond wrth gwrs, rydym yn dal i aros am weithredu pendant gan y Llywodraeth yn hynny o beth.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi cefnogi'r newid yn y ffordd y caiff cyllid ei roi, wrth gwrs, o'r grant ffioedd dysgu i grant cynhaliaeth, ac rydym yn ymwybodol iawn fod y costau ymlaen llaw hynny'n rhwystr, neu fod y costau byw yn rhwystr i lawer rhag cael yr addysg brifysgol y maent ei heisiau. Ond rhaid inni fynd i'r afael â cholli sgiliau a gwybodaeth hanfodol o fewn economi Cymru, wrth inni weld pobl ifanc yn gadael i astudio mewn mannau eraill ac yn aml yn peidio â dychwelyd i Gymru.
Nawr, rydw i eisiau cydnabod bod y Llywodraeth, i raddau, wedi derbyn yr egwyddor fod angen gweithredu yn y maes yma, oherwydd fe allwn ni weld beth sy'n digwydd yng nghyd-destun cyllido graddau Meistr yn y flwyddyn nesaf. O beth rydw i'n ei ddeall, bydd y Llywodraeth yn darparu £3,000 i fyfyrwyr o Gymru i astudio yng Nghymru, a bydd hynny yn cael ei weithredu mewn gwahanol ddulliau mewn gwahanol brifysgolion yn y flwyddyn i ddod, ac wedyn, wrth gwrs, mi fydd yna ryw broses fwy unffurf ar draws Cymru, os ydw i wedi deall yn iawn, yn cael ei darparu o hynny ymlaen.
Ond mae eisiau i ni weld, felly—os ydym yn derbyn yr egwyddor yna, mae angen sicrhau ein bod ni'n dysgu'r gwersi wedyn ac yn gweld o safbwynt y data pa effaith mae y math yna o incentive yn ei gael ar benderfyniadau y cohort penodol yma. Fe fyddwn i'n licio clywed sut fydd Llywodraeth Cymru yn mesur effaith yr incentive yma ar y penderfyniadau mae'r myfyrwyr yma yn eu gwneud o safbwynt ble maen nhw yn gwneud eu Meistri. Wedyn, efallai, wrth gwrs, y byddai hynny yn cryfhau'r ddadl ynglŷn ag efallai estyn rhywbeth ar gyfer y cohort ehangach israddedig hefyd. Ond yn sicr, mae hynny hefyd yn rhywbeth roedd Diamond yn sôn amdano fe, fel roeddwn yn ei ddweud.
Ond wrth gwrs, nid Diamond yn unig sydd wedi wedi bod yn tynnu sylw at rai o'r materion hyn. O ran targedu bylchau sgiliau penodol, awgrymodd y gwerthusiad o rwydwaith Seren, a dyfynnaf,
'mae'r duedd at i lawr yn nifer yr ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio ar gyfer Meddygaeth yn awgrymu bod angen ymyrraeth wedi'i thargedu i gefnogi myfyrwyr sy'n ymgeisio am leoedd penodol, cystadleuol mewn prifysgolion.'
Ac argymhellodd y gwerthusiad hwnnw y dylid rhoi ystyriaeth i gytuno ar restr gyflawn flynyddol o adrannau a chyrsiau prifysgolion i'w cynnwys yn rhwydwaith Seren, a allai gynnwys yr holl gyrsiau meddygaeth a deintyddiaeth a chyrsiau milfeddygol.
Nawr, mae targedu pobl ifanc ar gyfer y cyrsiau penodol hyn yn bwysig wrth gwrs, ond mae gwneud hynny ar y cyd â'r mathau o gymhellion y mae Diamond ac eraill wedi bod yn siarad amdanynt yn rhywbeth y credaf fod angen inni fynd ar ei drywydd. Byddai hynny hefyd yn cryfhau ein sefydliadau addysg uwch, wrth gwrs, yn yr ystyr y byddai'n sicrhau bod nifer fwy o fyfyrwyr yn eu sefydliadau. A pho fwyaf o fyfyrwyr y gallwn eu hannog i aros yng Nghymru, yn amlwg, nid yn unig y bydd hynny o fudd i'r sector addysg uwch, ond mae o fudd i economi Cymru yn ogystal.
Yn ôl y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae bron draean o'r holl raddedigion, a dwy ran o dair o'r rhai sy'n astudio'r gyfraith, yn mynd i swyddi sy'n talu llai nag £20,000 y flwyddyn, ac er bod graddedigion yn llai tebygol o fod yn ddi-waith, mae llawer ohonynt yn y pen draw yn gweithio mewn sectorau lle mae eu gradd yn amherthnasol. Rhaid inni sicrhau nad yw'r costau sy'n gysylltiedig â chael gradd yn fwy na'r manteision o astudio am flwyddyn neu fwy yn ychwanegol. Rhaid inni hefyd sicrhau bod y cyflenwad o gyrsiau prifysgol yn cyfateb i'r galw yn y farchnad swyddi. Wrth gwrs, dylai pobl ifanc fod yn rhydd i astudio beth bynnag y dymunant, ond dylent gael y ffeithiau i gyd, a dyna pam y galwn ar CCAUC i adolygu cyrsiau gradd o safbwynt enillion disgwyliedig a chyhoeddi'r canlyniadau. Dylai darpar fyfyrwyr feddu ar yr holl ffeithiau i'w galluogi i wneud dewisiadau gwybodus.
Hefyd, dylem ddefnyddio cyllid myfyrwyr i gymell pobl ifanc i astudio am raddau mewn pynciau lle y ceir prinder. Mae prinder enfawr yng Nghymru o feddygon teulu, nyrsys, radiograffyddion ac endosgopegwyr, ac eto nid ydym yn gwneud digon i annog mwy o bobl ifanc i mewn i'r meysydd hyn. Pe baem yn dileu ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr meddygol, ar gyfer myfyrwyr nyrsio a rhai sy'n astudio pynciau STEM, byddem yn cymell mwy o bobl i ddod yn radiograffyddion neu endosgopegwyr. Byddai mwy o bobl ifanc yn ystyried dod yn feddygon neu nyrsys pe baent yn cael eu rhyddhau o ddyled myfyrwyr. Mae prinder mewn sawl maes yn ein GIG, a thrwy gael gwared ar ffioedd dysgu, gallem annog pobl ifanc i astudio ar gyfer gradd briodol, yn hytrach na wynebu'r risg o faich dyled a swydd ar gyflog isel ar ddiwedd blynyddoedd o waith caled ac astudio.
Hefyd mae gennym brinder gofalwyr ac amrywiaeth o alwedigaethau o fewn ein sector iechyd a gofal lle nad oes angen gradd. Rhaid inni estyn allan at bobl ifanc a thynnu sylw at y ffaith nad oes angen gradd i gael swydd dda bob amser. Rhaid inni roi cymaint o bwyslais ar hyfforddiant galwedigaethol ag a wnawn ar addysg uwch. Mae ein system addysg i fod i arfogi pobl ifanc â'r sgiliau i gael mynediad at y farchnad lafur. Rydym yn gwneud cam â llawer o bobl ifanc drwy ganolbwyntio ar addysg uwch yn unig. Rhaid inni arfogi pobl ifanc â'r sgiliau cywir a'r darlun cyfan o ran y farchnad lafur. Rydym angen mwy o feddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, rhaglenwyr cyfrifiadur a dadansoddwyr data, nid rhagor o bobl ifanc gyda gradd yn y gyfraith, miloedd o bunnoedd o ddyled ac sy'n ennill llai na'r cyfartaledd cenedlaethol o ran enillion graddedigion.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ger eich bron heddiw, fel y gallwn roi camau ar waith i sicrhau ein bod yn cymell pobl ifanc i astudio pynciau lle bydd galw am eu sgiliau ac y cânt eu gwobrwyo'n unol â hynny. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Roeddwn yn synnu rhywfaint, ond wrth fy modd serch hynny, yn cael testun y cynnig a gyflwynwyd gan UKIP ar gyfer y ddadl y prynhawn yma oherwydd mae'n rhoi cyfle i mi hyrwyddo ymagwedd arloesol Llywodraeth Cymru tuag at addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru, ac i dynnu sylw at ddiffygion ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at gymorth i fyfyrwyr yn Lloegr. Mae hefyd yn dangos sut y byddai UKIP yn hoffi troi Cymru'n genedl sydd ond yn darparu cyfleoedd ar gyfer y rhai sydd â'r mwyaf o adnoddau, a phan agorodd Michelle Brown y ddadl hon drwy ddweud nad oedd yn ymwneud â mynediad neu degwch, wrth gwrs nad ydyw: nid yw byth yn ymwneud â mynediad neu degwch i UKIP. Yn wir, rwy'n amau a ydynt yn gwybod ystyr y geiriau.
Rwy'n falch felly, Lywydd, o ddechrau gyda chrynodeb o'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ym mis Medi eleni. Roedd hyn mewn ymateb uniongyrchol i adolygiad annibynnol o gymorth i fyfyrwyr ac addysg uwch, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Ian Diamond, a groesawyd gan brifysgolion, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a llawer o randdeiliaid ar draws y genedl.
Bydd y system newydd yn darparu'r canlynol: system deg a blaengar o gymorth sy'n sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad at gymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio—o dan y system hon, bydd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael y cymorth mwyaf gan y Llywodraeth hon; hawl gyffredinol i grant o £1,000 y flwyddyn ar gyfer pob myfyriwr, yn ogystal â hawl i ddiddymiad rhannol o hyd at £1,500 oddi ar fenthyciadau cynhaliaeth pan fydd myfyrwyr yn dechrau ad-dalu eu benthyciad; model ariannu cynaliadwy ar gyfer addysg uwch a chyllid myfyrwyr; ac ateb synhwyrol a chynaliadwy i gynyddu'r cyllid a ddarperir ar gyfer pynciau STEM. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cymorth cyfartal i israddedigion a myfyrwyr ôl-raddedig rhan-amser ac amser llawn—y cyntaf o'i fath yn y DU; yn wir, y cyntaf o'i fath yn Ewrop—a mwy o arian i'r sector addysg uwch, fel y gall weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru megis ehangu pynciau drud, ehangu darpariaeth ran-amser, buddsoddi mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag ansawdd, ehangu trosglwyddo gwybodaeth ac ehangu mynediad at addysg uwch.
Yn ddiweddar hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau ar y trefniadau cymorth i fyfyrwyr meddygol a gofal iechyd, ac rwyf wedi dychryn braidd fod Aelodau UKIP i'w gweld yn gwbl anymwybodol o'r cynllun bwrsariaeth GIG presennol sy'n cefnogi nid yn unig ein nyrsys, ond amrywiaeth eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ac efallai yr hoffai UKIP edrych ar ymgynghoriad presennol y Llywodraeth ar ddyfodol y trefniadau hyn. [Torri ar draws.] Darren.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ac rwy'n cydnabod bod cynllun bwrsariaeth ar gael, ond wrth gwrs, nid yw'r cynllun presennol yn ad-dalu costau pobl ifanc sy'n mynd i brifysgol yn llawn. Credaf mai dyna'r gwahaniaeth yma, a buaswn yn eich annog, fel Llywodraeth, i edrych ar y cyfle ar gyfer ad-daliad llawn o gostau dysgu ac unrhyw gostau ychwanegol sy'n wynebu pobl ifanc sy'n mynd i brifysgol yn gyfnewid am gontract hyfforddi. A dyna'r peth rwy'n credu: rhaid i chi gael yr ailfuddsoddi hwn yn ôl yn y gwasanaeth iechyd yn gyfnewid.
Wel, wrth gwrs, mae'r rhai sy'n derbyn bwrsariaeth GIG Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i weithio yn GIG Cymru, ac rwy'n ystyried ehangu hynny, er enghraifft, o ran lleoedd hyfforddi ar gyfer seicolegwyr addysg, a ariannir gennym. A hoffwn nodi, Darren, nad wyf am gymryd pregeth gan wleidydd Ceidwadol am fwrsariaethau nyrsio a ninnau wedi gweld dinistrio addysg nyrsys dros y ffin oherwydd bod eich Llywodraeth wedi diddymu'r cynllun bwrsariaeth nyrsio. [Torri ar draws.]
Nawr, os caf fwrw ymlaen, Lywydd. Os caf wneud rhywfaint o gynnydd.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi 'Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus—y camau nesaf,' sy'n amlinellu'n fwy manwl ein cynigion ar gyfer strwythur a gweithrediad y comisiwn addysg ac ymchwil trydyddol newydd ar gyfer Cymru. Mae'r dull hwn o weithredu gryn dipyn yn wahanol i'r dull a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr Lloegr. Yn Lloegr, ni cheir unrhyw grantiau cynhaliaeth, mae llai o gymorth cyffredinol ar gael, a myfyrwyr o'r cefndiroedd tlotaf sydd â'r lefel uchaf o ddyled. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru.
Fodd bynnag, un rhan yn unig o'n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio er mwyn priodi tegwch a rhagoriaeth yn ein system addysg yw sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd ar gyfer myfyrwyr a sefydliadau addysg uwch. Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn rhoi camau ar waith mewn pedair thema wahanol, gan ddarparu cymorth cyflogaeth ar gyfer yr unigolyn, pwysleisio cyfrifoldeb cyflogwyr i gefnogi staff, cau'r bwlch sgiliau a pharatoi ar gyfer marchnad lafur sy'n newid yn sylfaenol.
Mae cymorth unigol yn rhoi annibyniaeth i gynghorwyr a hyblygrwydd i fynd i'r afael ag anghenion, cryfderau a dyheadau unigolion i baratoi ar gyfer cyflogaeth. Byddwn yn gweithio gyda phrifysgolion, colegau, ysgolion a Gyrfa Cymru i nodi sut y gallant annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau a fyddai o fudd iddynt ac o fudd i economi Cymru. A byddwn hefyd yn archwilio sut y gallwn gadw myfyrwyr a hyfforddwyd yng Nghymru i aros yng Nghymru, neu annog y rhai sy'n hyfforddi mewn mannau eraill i ddychwelyd.
Cyn dilyn cyrsiau academaidd neu alwedigaethol, mae'n bwysig fod myfyrwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith a'r potensial ennill cyflog ar ddiwedd eu cwrs. Ac unwaith eto, rwy'n synnu braidd nad yw llefarydd UKIP i'w gweld yn gwybod am y data canlyniadau addysg hydredol. A dweud y gwir, Lywydd, fe anfonaf y ddolen ati fel y gall weld y data drosti ei hun.
Mae gan addysg bellach ac uwch yng Nghymru lawer iawn i fod yn falch ohono a dylem fachu ar bob cyfle i gydnabod a dathlu llwyddiant pan fyddwn yn ei weld. Mae'r heriau sydd bellach yn wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru, a gweddill y DU yn wir, yn fwy sylweddol nag y buont erioed o bosibl. Credwn fod ymagwedd gydweithredol wedi'i chynllunio tuag at addysg uwch yn fwy priodol i fynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol ac economaidd a wynebwn yng Nghymru; mae'n fwy effeithiol ar gyfer adeiladu ar gryfderau sefydliadol presennol ac yn decach wrth gyflawni canlyniadau i fyfyrwyr a'r gymdeithas yng Nghymru.
Darren, gallaf gadarnhau ein bod wedi sicrhau adnoddau ychwanegol i CCAUC ar gyfer buddsoddi a datblygu prentisiaethau lefel uwch, yn enwedig ym maes TGCh, cyfrifiadureg a pheirianneg.
I gloi, Lywydd, fel Llywodraeth, mae gennym weledigaeth gynhwysfawr, gynhwysol ac arloesol ar gyfer dyfodol addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru sy'n cynnwys cryfhau strwythur, cyflwyniad ac ansawdd y ddarpariaeth addysg uwch ac addysg bellach; gwella ein sylfaen ymchwil a'n gallu ymchwil; gwella arweinyddiaeth a llywodraethu ar lefel sefydliadol a chenedlaethol; trefniant newydd ar gyfer cyllid a chymorth i fyfyrwyr sy'n gyson â'n darpariaeth wedi'i chynllunio; a chreu sector addysg uwch ac addysg bellach sy'n canolbwyntio mwy ar y dysgwr ac yn diwallu anghenion a disgwyliadau myfyrwyr ac yn gwella eu cyflogadwyedd yn y dyfodol. Hoffwn orffen drwy groesawu adolygiad Llywodraeth y DU o addysg ôl-18, a hoffwn wahodd y panel adolygu i ystyried y dull blaengar, teg a chynaliadwy a fabwysiadwyd gennym yma yng Nghymru.
Galawf ar Gareth Bennett i ymateb i'r ddadl. Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at ddadl go fywiog. Fe gynhesodd rywfaint ar y diwedd, ond roedd yn ddiddorol ar ei hyd, rhaid imi bwysleisio hynny.
Michelle Brown a agorodd y ddadl. Soniodd am y diffyg gwybodaeth berthnasol i ddarpar fyfyrwyr pan fyddant yn mynd drwy'r system ysgolion a diffyg gwybodaeth ynghylch pethau fel cymharu cyrsiau a manylion cyflogau tebygol—y math o wybodaeth y byddwch eisiau i ddarpar fyfyrwyr allu ei chael fel y gallant gymharu prifysgolion gwahanol, a gwahanol gyrsiau. Mae hyn yn sicr yn beth da. Yn amlwg, nododd y Gweinidog y pwynt hwn yn ei chyfraniad ar y diwedd, felly fe af ar ôl yr hyn a ddywedodd pan fyddaf yn crynhoi ei sylwadau. Felly, nodwyd y pwynt hwnnw gan Michelle, sy'n dweud nad oes digon o wybodaeth ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd drwy'r system—darpar fyfyrwyr prifysgol. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth y DU yn dechrau mynd i'r afael â hyn, felly arhoswn i weld y datblygiadau yn y cyfeiriad hwnnw.
Pwyntiau eraill a wnaeth Michelle: nid yw'r system benthyciadau myfyrwyr yn gynaliadwy yn ariannol gan nad yw'r enillion y mae graddedigion yn eu cael yn awr fel y rhagwelwyd pan fodelwyd y cynlluniau hyn yn ôl yn y 1980au, felly, i bob pwrpas, bydd yn rhaid dileu llawer o fenthyciadau yn y tymor hir. Pwynt arall a wnaed oedd bod dyledion myfyrwyr yn cynyddu'n gyflym, ac mae'n bosibl mai dyma'r ffurf fwyaf ar ddyled sydd gennym yn y DU, neu o leiaf mae'n fwy na llawer o fathau o ddyled yr arferid eu hystyried o'r blaen yn beryglus, megis dyledion cardiau credyd ac ati. Rydym bellach yn cyrraedd y lefelau peryglus hynny gyda dyled benthyciadau myfyrwyr. A'r pwynt arall a wnaed oedd nad oes digon o swyddi graddedigion i'w cael, felly mae gennym ormod o fyfyrwyr yn graddio bellach ac nid oes swyddi graddedig sy'n talu'n dda ar eu cyfer. Buaswn yn ychwanegu ei bod yn broblem yn y DU yn gyffredinol ac nid yng Nghymru'n unig.
Darren Millar: credaf ei fod yn cytuno'n fras â llawer o'r pwyntiau a wnaed gennym ni. Canolbwyntiodd hefyd ar fater y draen dawn—gormod o raddedigion yn gadael Cymru. Ond wrth gwrs, mae hynny hefyd yn gysylltiedig, ac rwy'n siŵr ei fod wedi gwneud y cysylltiad hwn yn fwriadol, â'r prinder swyddi graddedig da yng Nghymru, oherwydd soniodd am yr ystadegau fod 40 y cant o raddedigion o Gymru sy'n aros yma yn mynd i swyddi nad ydynt yn swyddi ar gyfer graddedigion, gan arwain at y term anffodus sydd gennym heddiw—ni chrybwyllodd y term—sef GINGO: pobl raddedig mewn galwedigaethau nad oes angen gradd i'w gwneud. Gwnaeth Darren bwynt da arall: pwysleisiodd rôl colegau addysg bellach o ran y modd y maent yn rhyngweithio â busnesau, gan fod ganddynt gysylltiadau gwell, yn draddodiadol, gyda'r sector preifat. Felly, mae hwnnw'n bwynt pwysig. Cyfeiriwyd at fwrsariaethau ar gyfer nyrsys fel ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Ceidwadwyr yn y gorffennol, a hefyd nodwyd yr angen am brentisiaethau lefel uchel yng Nghymru, ac roedd pawb yn cytuno â hynny. Nid yw hynny yn ein pwyntiau, ond rydym yn cytuno.
Roedd Llyr Gruffydd dros Blaid Cymru yn cydnabod bod y mater yn bwysig iawn wir. Nododd ystadegau sy'n dangos bod y bwlch sgiliau mewn meddygaeth yng Nghymru yn tyfu a bod angen i Lywodraeth Cymru wneud asesiad o ystadegau myfyrwyr ar ymyrraeth wedi'i thargedu i weld pa mor dda y mae hynny'n gweithio. Gallai hynny gynnwys pethau fel deintyddiaeth a chyrsiau milfeddygol ar gyfer cyllid ychwanegol i fyfyrwyr, ac rydym yn cytuno â'r syniadau hynny. Byddem yn cefnogi'r mentrau hynny'n fras, fel yn wir y byddem yn cefnogi galwad Plaid Cymru yn y gorffennol am goleg meddygol yng ngogledd Cymru—pethau felly. Mae'r rhain yn bethau pwysig y dylai Llywodraeth Cymru feddwl amdanynt.
Soniodd Caroline ein bod angen i CCAUC adolygu'r holl wybodaeth sy'n ymwneud â graddedigion a chyhoeddi'r canlyniadau fel bod gennym drosolwg tryloyw o ganlyniadau graddedigion sy'n gadael cyrsiau a beth fydd eu henillion tebygol. Hefyd, nododd Caroline y prinder arbenigwyr GIG mewn amryw o ddisgyblaethau yng Nghymru, nid meddygon a nyrsys yn unig, a gellir mynd i'r afael â hyn drwy ddiddymu ffioedd dysgu yn y meysydd penodol hyn. Mae angen annog pobl ifanc, unwaith eto, i addysg alwedigaethol hefyd, a dau fater a ddaeth i'r meddwl o gyfraniad Caroline—yr ymadrodd 'parch cydradd', y gwn fod y Gweinidog wedi'i ddefnyddio, ac mae Gweinidogion eraill wedi'i ddefnyddio yn ddiweddar, felly mae angen i hynny fod yn rhywbeth ystyrlon, nid geiriau'n unig; ac rwy'n credu bod angen inni adolygu'r cyngor gyrfaoedd a roddir i ddisgyblion ysgol wrth iddynt fynd drwy'r system, ac efallai fod angen i swyddogion gyrfaoedd ryngweithio mwy â cholegau addysg bellach a'r ochr alwedigaethol, fel bod myfyrwyr ysgol yn cael eu cyfeirio i'r sianeli hynny, yn hytrach na chael eu cyfeirio tuag at brifysgolion bob amser.
Nawr, bwriodd Gweinidog y Llywodraeth, Kirsty Williams, ati i wrthod ein cynigion a dywedodd fod polisau'r Llywodraeth yn gweithio. Nododd adroddiad Diamond a'r croeso iddo gan y gwahanol randdeiliaid yn y sefydliad addysg, ond wrth gwrs, mae llawer o'r bobl yn y sefydliad addysg yn hoffi'r syniad o sianelu mwy a mwy o fyfyrwyr i addysg uwch, felly efallai fod honno'n elfen a fethwyd gennych. Pwysleisiodd y ffaith hefyd mai'r myfyrwyr lleiaf cefnog fydd yn cael y cymorth mwyaf, ond mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio mwy ar gael mwy o fyfyrwyr i mewn i addysg uwch. Holl bwynt ein dadl heddiw yw nad yw ehangu addysg uwch yn gweithio.
Hefyd cawsom ychydig—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig o—[Torri ar draws.] Cawsom ychydig o anghydweld—. Cawsom ychydig o anghydweld ynglŷn â thryloywder gwybodaeth. Mae'r Gweinidog wedi gwneud achos nad oes digon o wybodaeth ar gyfer darpar fyfyrwyr. Heriodd Darren Millar hynny yn ei ymyriad, felly mae hynny'n rhywbeth y gallwn edrych arno'n fanylach mewn fforwm arall. Diolch ichi eto, bawb, am gyfrannu at y ddadl, a diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.